llais y sir

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Diddordeb yn y grefft o osod gwrychoedd?

Os felly, gwyliwch y clip hwn sy’n cymryd cipolwg ar staff a gwirfoddolwyr yn gosod gwrychoedd yng Ngwarchodfa Natur Rhuddlan yn ddiweddar.

Disgyblion Dinbych yn camu ymlaen i helpu bioamrywiaeth leol i ffynnu

Mae disgyblion cynradd Dinbych wedi rhoi hwb i fioamrywiaeth dôl blodau gwyllt lleol i’r dyfodol.

Bu disgyblion Ysgol y Parc yn brysur yn plannu blodau gwyllt yn nôl Parc Alafowlia.

Treuliodd bron i 50 o ddisgyblion blwyddyn 2 fore gyda thîm Bioamrywiaeth y Cyngor a gwirfoddolwyr eraill, gan helpu i wella’r safle presennol drwy dyfu bron i 1,700 o blanhigion ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy.

Bu disgyblion Ysgol y Parc yn brysur yn plannu blodau gwyllt yn nôl Parc Alafowli.

Dechreuodd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn 2019 ac mae dros 10,000 o blanhigion unigol wedi’u cofnodi yn y safleoedd cysylltiedig i gyd hyd yma.

Mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ledled y sir i blannu plygiau blodau mewn dolydd.

Bydd plannu mwy o flodau’n helpu i greu dolydd mwy lliwgar ac amrywiol a chefnogi mwy ar fioamrywiaeth ein natur a’n cymunedau lleol.

Mae dôl Dinbych eisoes wedi cymryd rhan mewn cynllun llwyddiannus i gyflwyno cribell felen sydd wedi lleihau hyd y glaswellt ar y safle gan alluogi’r planhigion presennol i ffynnu’n gryfach.

Bydd y blodau gwyllt ychwanegol a blannwyd gan y disgyblion yn golygu y bydd mwy o fwyd ar gael yn y ddôl i wenyn a pheillwyr eraill sy’n cefnogi ein cadwyn fwyd. Bydd rhagor o flodau gwyllt hefyd yn cefnogi natur leol drwy ddarparu rhagor o bryfaid i fwydo anifeiliaid megis adar, gan ddarparu bywyd gwyllt i’w fwynhau gan y gymuned ehangach.

Meddai Evie Challinor, Swyddog Bioamrywiaeth: “Roedd yn wych gweithio gyda disgyblion i blannu blodau gwyllt yn y ddôl. Roedd y plant yn hynod frwdfrydig i’n helpu ni i gefnogi natur leol a gobeithiaf y byddant yn dychwelyd i’r safle'r flwyddyn nesaf i weld y twf.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Rwy’n hynod o falch o sut mae disgyblion Ysgol y Parc wedi camu ymlaen i roi cymorth gwerthfawr i’r natur leol sydd ar eu carreg drws.

“Mae ein hecosystemau ar draws Cymru a’r ardal ehangach yn dirywio yn anffodus, ac felly mae’n bwysig ein bod yn ceisio atal hyn a rhoi cyfle i’n plant a’n hwyrion a’n hwyresau i brofi a chefnogi bywyd gwyllt a natur i’r dyfodol… ni ddylen nhw orfod colli allan ar yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd.

“Mae’n braf iawn gweld y disgyblion hyn yn gweithio’n galed i ddysgu am y gefnogaeth sydd ei hangen ar ein natur a gobeithiaf y byddan nhw eu hunain yn falch o’r gwaith y maent wedi’i wneud pan fyddant yn ymweld â’r safle yn y dyfodol.”

Dywedodd Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth gyda'r Cyngor: “Roedd yn bleser cael gweithio gydag Ysgol y Parc ar y prosiect yma. Roedd y plant mor frwdfrydig ac rwy’n gobeithio eu bod yn teimlo perchnogaeth dros y ddôl brydferth hon sydd mor agos i’w hysgol.”

Gwella briddwf coed y sir

Mae gwaith ar y gweill y tu ôl i’r llenni i ymdrin â her yr hinsawdd o wella brigdwf coed y sir.

Disgyblion yn y Rhyl yn creu cynefin i helpu dyfodol natur

Mae ysgol yn y Rhyl wedi helpu i greu ardal newydd i ddiogelu a chefnogi natur leol.

Yn ddiweddar torchodd disgyblion Ysgol Tir Morfa eu llewys i helpu i greu dôl flodau gwyllt newydd ar dir yr ysgol.

Yn ddiweddar torchodd disgyblion Ysgol Tir Morfa eu llewys i helpu i greu dôl flodau gwyllt newydd ar dir yr ysgol.

Mae’r ardal newydd yn rhan o wobr yr ysgol ar ôl iddi ennill cystadleuaeth Cardiau Post o’r Dyfodol y Cyngor lle roedd gofyn i ddisgyblion anfon neges yn ôl drwy amser i’n helpu i ddeall sut i greu gwell dyfodol i ni ein hunain yn ein sir ac ar draws y byd.

Apeliodd Macey, un o ddisgyblion Ysgol Tir Morfa, yn ôl o’r dyfodol i bobl amddiffyn cartrefi anifeiliaid a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Gwobr yr enillwyr oedd detholiad o lyfrau amgylcheddol i’w hysgol, sgwrs gan Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor Sir a chasgliad o blanhigion i’w plannu er mwyn creu neu wella ardal blodau gwyllt.

Ymunodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Ellie Wainwright a’r Ceidwad Cefn Gwlad Cynorthwyol, Amy Baker â myfyrwyr Ysgol Tir Morfa i blannu’r blodau. Tyfwyd y blodau gwyllt ym mhlanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy o hadau a gynaeafwyd o ddolydd y sir, a chanolfan Sgiliau Coetir ym Modfari.

Ers y 1950 mae dros 95 y cant o’n dolydd blodau wedi diflannu. Bydd yr ardal flodau gwyllt sy’n cael ei chreu drwy’r prosiect hwn yn darparu cynefin ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt uwchben ac o dan y ddaear, a bydd y blodau’n ffynhonnell o neithdar ar gyfer peillwyr sy’n dibynnu arnynt am fwyd a datblygiad eu larfâu.

Bydd cyflwyno’r disgyblion i ardaloedd blodau gwyllt yn eu helpu nhw i ddysgu am gylch bywyd planhigion a chynefinoedd pryfed, yn eu cyflwyno i gyfleoedd synhwyraidd a chreadigol ac yn gwneud chwarae allan ym myd natur yn rhywbeth naturiol.

Fel rhan o ymateb y cyngor i ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol, bydd y myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn rhagor o blannu coed a blodau gwyllt ar dir yr ysgol dros y misoedd i ddod fel rhan o’r ymgyrch i hybu bioamrywiaeth a lleihau newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae natur yn dirywio ar draws Cymru felly mae’n bwysig ein bod yn gweithio i stopio hyn gan y bydd yn effeithio arnom ni heddiw ac ar genedlaethau’r dyfodol.

"Mae’n wych gweld y myfyrwyr yn dal i gymryd cymaint o ran mewn helpu natur leol yn y Rhyl, mae’r ffaith eu bod yn cymryd amser i wneud hyn yn ysbrydoliaeth ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut y bydd yr ardal newydd nid yn unig yn helpu rhywogaethau i ffynnu ond hefyd yn hybu lles y disgyblion eu hunain wrth iddyn nhw fwynhau canlyniadau eu gwaith”.

Digwyddiad yn helpu i annog mwy o gydweithio i ymdrin â newid hinsawdd

Bu i dros 50 o bobl ddod i’r digwyddiad Adolygu Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol Cyngor Sir Ddinbych yn Neuadd y Dref Dinbych.

Mae digwyddiad cyhoeddus yn Ninbych wedi helpu i greu syniadau newydd i fynd i’r afael â materion newid hinsawdd sirol.

Bu i dros 50 o bobl ddod i’r digwyddiad Adolygu Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol Cyngor Sir Ddinbych yn Neuadd y Dref Dinbych.

Mae’r Cyngor yn diweddaru eu cynlluniau ar hyn o bryd i ymdrin â’r argyfwng hinsawdd a natur a gyhoeddwyd yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon ei hun.

Bu budd-ddeiliad o’r Sir yn rhannu eu barn ar sut y gall y Cyngor weithio gyda a hefyd cefnogi cymunedau i ostwng carbon, storio carbon, gwytnwch hinsawdd ac adferiad natur leded Sir Ddinbych.

Cafodd y digwyddiad rhyngweithiol ei arwain gan Dr Alan Netherwood o Netherwood Sustainable Futures a Dafydd Thomas o The Wellbeing Planner.

Roedd cynrychiolwyr o Gyfeillion y Ddaear Sir Ddinbych, Caffi Trwsio Rhuthun, Cyngor Tref Dinbych, Cyngor Tref Prestatyn, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Extinction Rebellion, Cyfoeth Naturiol Cymru, Elwy Working Wood, Cyngor Cymuned Nercwys, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru ymysg y rhai oedd yn bresennol.

Roedd themâu a drafodwyd, ar gyfer symud mentrau ymlaen yn y sir i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac amddiffyn natur, yn cynnwys mwy o gydweithio rhwng y Cyngor a budd-ddeiliad eraill i rannu sgiliau i gefnogi mentrau lleol i ddatblygu a chymunedau a chyrff sector cyhoeddus i gydweithio i fynd i’r afael â materion hinsawdd a natur sy’n bresennol ar hyn o bryd ac i addasu i broblemau’r dyfodol sy’n debygol o godi.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roeddwn yn bresennol yn y digwyddiad ac roedd yn braf iawn clywed sgwrs mor fanwl ynglŷn â sut gallwn symud ymlaen trwy weithio gyda chymunedau ledled Sir Ddinbych i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am yr adborth a gawsom yn ystod y sesiwn trwy sianeli eraill i ymdrin â’r materion pwysig hyn gan fod y Cyngor yn awyddus i wrando ar drigolion, grwpiau a chymunedau ledled y sir er mwyn i ni fynd i’r afael â newid hinsawdd gyda’n gilydd i roi gwell cefnogaeth i genedlaethau'r dyfodol yn Sir Ddinbych.”

Bydd gwybodaeth o’r digwyddiad yn ffurfio rhan o Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol y Cyngor a fydd yn arwain gwaith y Cyngor ar weithredu ar hinsawdd ac adferiad natur hyd at 2030. Gallwch glywed y diweddaraf am ein gwaith hinsawdd a natur trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio trwy https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/kms/news.aspx?strTab=PublicEntry

Canolbwynt Cymunedol yn cael help gydag effeithlonrwydd ynni

Ysgol Dyffryn Iâl

Mae Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych wedi helpu canolbwynt cymunedol i fod yn fwy effeithlon o ran ei ddefnydd o ynni.

Gyda chymorth staff y Cyngor mae gwaith wedi’i wneud yn Ysgol Dyffryn Iâl i leihau’r defnydd o ynni a chostau ynni i’r disgyblion ac aelodau'r gymuned sy’n defnyddio’r ysgol a’r neuadd goffa.

Mae Tîm Ynni’r Cyngor yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau a chefnogi gostyngiad mewn costau yn yr hirdymor. Mae’r gwaith hwn yn digwydd yn ystâd adeiladau annomestig y Cyngor sy’n cyfrif am dros 60 y cant o allyriadau carbon y Cyngor.

Mae staff y tîm ynni ar hyn o bryd yn gweithio i wella effeithlonrwydd ac amgylchedd adeiladau’r ysgol drwy orffen y gwaith o osod y panel solar PV 4kw ar y to i ddarparu trydan adnewyddadwy. Bydd goleuadau LED a gwresogydd dŵr pwmp gwres ffynhonnell aer yn cael eu cyflwyno i’r safle yn y flwyddyn newydd er mwyn lleihau defnydd a chostau ynni.

Yn ogystal llwyddodd y gymuned leol i gael cyllid grant ar gyfer y Neuadd Goffa ar safle’r ysgol er mwyn gwneud gwaith effeithlonrwydd ynni ar yr adeilad a ddefnyddir gan drigolion o bob oed.

Wedi clywed bod y gymuned yn buddsoddi mewn gwella’r ganolfan bentref bwysig, helpodd Tîm Ynni’r Cyngor nhw i ddod o hyd i’r system orau iddyn nhw er mwyn sicrhau gostyngiad yn nefnydd a chostau ynni’r adeiladau.

Meddai Robert Jones, y Prif Reolwr Ynni: “Wrth i ni weithio ar Ysgol Dyffryn Iâl, cawsom wybod gan y gymuned am y cynlluniau ar gyfer y Neuadd Goffa sydd ar yr un safle. Cawsom olwg ar y cynlluniau gan eu cynghori i addasu’r manylebau i osod system PV 18kw gyda batri 18kw a fydd yn eu helpu i storio’r ynni ychwanegol a gynhyrchir gan yr haul i helpu i redeg yr adeilad yn fwy effeithlon a lleihau allyriadau carbon.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon a’r defnydd o ynni ar draws ein holl adeiladau drwy ymgymryd â phrosiectau a fydd yn arwain at leihad mewn costau yn yr hirdymor.

“Mae in tîm ynni yn gwneud llawer o waith ar draws cymunedau ac rwy’n hynod o ddiolchgar iddyn nhw am helpu’r canolbwynt cymunedol pwysig hwn i sicrhau fod y gwaith effeithlonrwydd ynni yno o’r math mwyaf priodol."

Dymuniad ar gyfer y Nadolig ..........

Mae’r Nadolig yn amser ar gyfer teulu, ffrindiau a hwyl, ond gall roi straen ar yr amgylchedd hefyd. Wrth i ni i gyd ddechrau cynllunio ar gyfer y diwrnod mawr a dewis anrhegion ar gyfer ein hanwyliaid, mae’n amser da i gadw’r amgylchedd mewn cof.

Mae llawer o fuddion i fod yn gynaliadwy, ac fe allai’r newidiadau syml yma dros gyfnod y Nadolig wneud gwahaniaeth mawr i fynd i'r afael â'r newid hinsawdd a sicrhau ein bod yn amddiffyn ein planed ar gyfer cenedlaethau i ddod. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau mai hwn yw’r Nadolig mwyaf eco-gyfeillgar eto!

Mae’r Tîm Newid Hinsawdd yn barod i’ch helpu i gael Nadolig Eco-gyfeillar! Dyma ein hawgrymiadau gwych:

“O Goeden Hardd a Chynaliadwy .......…”

  • Os nad oes gennych chi goeden artiffisial yn barod, ceisiwch osgoi plastig. Mae coed Nadolig go iawn yn llawer mwy cynaliadwy na rhai artiffisial.  Daeth un astudiaeth i’r casgliad y byddai angen i chi ddefnyddio coeden ffug am 20 mlynedd iddi fod yn fwy “gwyrdd”.
  • Wedi dweud hynny, cofiwch ailgylchu eich coeden go iawn ar ôl cyfnod y Nadolig. Mae tua saith miliwn o goed go iawn yn debygol o gael eu taflu ym mis Ionawr!  Os oes gennych chi gasgliad gwastraff gwyrdd, fe fydd y Cyngor yn casglu eich coeden ac yn ei hailgylchu i chi, ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi. Fe allwch chi drefnu i fynd â’ch coeden i’r gwastraff gwyrdd yn eich depo gwastraff, neu fel arall, gallwch ei thorri i fyny a phentyrru’r coed yn eich gardd er mwyn i’r adar a’r trychfilod eu mwynhau.  
  • Sicrhewch fod eich coeden go iawn yn dod gan werthwr cynaliadwy lleol sy’n cyfrannu at eich ardal leol.

“O Deuwch, Ailgylchwch”

  • Credir fod tua 1.5 biliwn o gardiau Nadolig yn cael eu taflu gan aelwydydd y DU bob blwyddyn (sydd tua 33 miliwn o goed). Beth am anfon e-gerdyn at ffrindiau a theulu eleni? Neu fel arall gallech anfon cardiau Nadolig y gellir eu plannu y gall eich anwyliaid sy’n eu derbyn eu hau yn y gwanwyn a mwynhau llysiau neu flodau gwyllt yn eu gardd y flwyddyn nesaf.
  • Mae calendrau Adfent tafladwy yn cynnwys llawer iawn o blastig ac ychydig iawn o siocled. Mae calendr y mae modd ei ailddefnyddio yn gyfle i chi roi danteithion eich hunain ynddynt a’u defnyddio eto bob blwyddyn.

“Pwy sy’n Dŵad Dros y Bryn”

  • Mae prynu anrhegion rydych chi’n gwybod y bydd pobl yn eu mwynhau a’u defnyddio am gyfnod hir yn ymddangos yn amlwg, ond trwy beidio â phrynu’r anrhegion gwirion nad ydynt yn para ar ôl wythnos y Nadolig, rydych yn arbed gwastraff.
  • Cadwch lygad am siopau a chwmnïau sy’n gwerthu anrhegion ecogyfeillgar. Efallai y gallech chi brynu potel y gellir ei hailddefnyddio, mabwysiadu anifail, prynu aelodaeth ar gyfer yr RSPB neu’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt neu ddod o hyd i anrhegion mwy gwyrdd megis dillad, esgidiau, pethau ymolchi moesegol a llawer o bethau eraill.
  • Siopwch yn lleol! Cefnogwch y siopau annibynnol yn eich ardal leol a lleihau eich ôl troed carbon ar yr un pryd.
  • Beth am gael Nadolig crefftus. Mae anrhegion cartref bob amser yn cael eu croesawu a’u trysori.  Mae torch Nadolig naturiol, danteithion i’w bwyta neu galendr Adfent cartref i’w mwynhau dros y Nadolig yn syniadau carbon isel.  
  • Ceisiwch lapio’r anrhegion gyda phapur wedi’i ailgylchu neu mewn ffabrig lliwgar y gellir ei ailddefnyddio – fe allai hyn fod yn anrheg yn ei hun, yn ogystal ag edrych yn hardd!

“Mae’r Twrci ‘Leni Werth Ei Weld…”

  • Ceisiwch brynu yr hyn rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n eu bwyta’n unig a dewiswch eitemau sydd heb lawer o ddeunydd pacio. Os bydd gennych chi fwyd dros ben, fe ellir eu defnyddio i greu prydau bwyd ar gyfer rhywbryd eto er mwyn arbed arian a lleihau gwastraff.  Mae awgrymiadau sut i siopa a choginio’n gynaliadwy i’w gweld yma https://food-drink.wales/cy/home/.
  • Oes gennych chi westai fegan yn galw? Peidiwch â phoeni, mae llawer o ryseitiau fegan blasus ar gael ar-lein. Beth am roi cynnig ar un fel newid bach?
  • Ceisiwch brynu cynnyrch cig gan siopau cigydd lleol neu’n uniongyrchol gan eich ffermwr lleol er mwyn lleihau nifer y milltiroedd mae eich cig yn teithio a chefnogi busnesau lleol.
    • Y tractor coch – mae’n ardystio Safonau Cynhyrchu Bwyd Prydeinig.
    • Nod LEAF – mae’n dangos bod cynnyrch wedi dod gan ffermwyr sy’n canolbwyntio ar ddulliau ffermio cynaliadwy.
    • Masnach Deg – mae’n mynd i’r afael ag anghyfiawnder trwy sicrhau bod ffermwyr dan anfantais yn ne’r byd yn cael prisiau teg am eu cynnyrch.
    • Organig – gallwch fod yn ffyddiog bod y ffermwr yn dilyn set gaeth o reolau a chanllawiau wrth gynhyrchu bwyd.Mae rhai labeli’n dangos safonau a chynaliadwyedd eich bwyd.

Amser Parti

  • Efallai bod dillad newydd ar gyfer parti Nadolig yn swnio’n gyffrous, ond mae ffasiwn yn cyfrannu at 8-10% o allyriadau carbon byd-eang. Beth am drefnu i gyfnewid dillad gyda ffrindiau neu brynu dillad ail-law, er enghraifft o siopau elusen lleol neu wefannau dillad ail-law fel Vinted? Os byddwch chi’n penderfynu prynu dillad newydd, defnyddiwch siopau sy’n agored o ran sut a lle caiff eu heitemau eu cynhyrchu.

Nadolig Llawen Eco a Blwyddyn Newydd Dda Gynaliadwy i chi i gyd!

Dôl Rhuthun yn gorffen y tymor gyda gwestai newydd

ffwng capiau

Mae rheolwyr dôl Blodau Gwyllt Rhuthun wedi creu'r amgylchedd perffaith ar gyfer preswylydd newydd.

Mae tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych wedi darganfod ychwanegiadau newydd ar ddiwedd tymor 2023 i ddôl blodau gwyllt yn Stryd y Brython.

Dechreuodd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn 2019 ac mae dros 10,000 o blanhigion unigol wedi’u cofnodi ar draws y holl safleoedd cysylltiedig hyd yma.

Mae Stryd y Brython yn un o safleoedd hŷn y prosiect sydd wedi rhoi amser i’r planhigion aeddfedu a thyfu gyda rheolaeth a monitro gan y swyddogion sydd ynghlwm â’r prosiect.

Yn gynharach eleni, yn y cynefin a grëwyd yn y ddôl, darganfuwyd gwenyn turio llwydfelyn yn nythu ar y safle.

Bellach mae nifer o wahanol fathau o ffwng capiau cwyr yn ymddangos.

Mae’r capiau cwyr yn rhywogaethau sy’n dirywio yn sgil eu hoffter am dyfu ar laswelltir heb ei wella a glaswelltiroedd heb ei wella gan amaeth. Mae capiau cwyr yn ffwng siâp cyfarwydd sy’n aml iawn yn lliwgar a gyda chap sy’n edrych yn gwyraidd neu’n llithrig.

Nod rheoli dolydd y Cyngor yw dod a thir cynefin addas yn ôl a gollwyd dros y blynyddoedd, er mwyn cefnogi natur leol a lles y cymunedau amgylchynol trwy roi mwy o gymorth i rywogaethau sydd o dan bwysau i oroesi yn y dyfodol.

Meddai Liam Blazey, Swyddog Bioamrywiaeth: “Mae wedi bod yn wych gweld hyn gan ei fod yn dangos fod y gwaith rheoli rydym yn ei gyflawni yn gwella amrywiaeth y blodau a bioamrywiaeth pridd hefyd. Mae capiau cwyr yn ffwng arbennig iawn, ac rydym yn gyffrous i’w gweld yn ymddangos yn un o’n safleoedd.”

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae’r dolydd y mae ein timoedd Gwasanaethau Stryd a Bioamrywiaeth yn eu creu yn cymryd amser i dyfu ac aeddfedu i gynefin a fydd yn darparu cefnogaeth gref ar gyfer natur leol. Mae Stryd y Brython yn enghraifft gadarnhaol iawn o’r hyn rydym yn ceisio ei wneud a’i roi i’r gymuned yn ein holl safleoedd.

“Mae’r darganfyddiad diweddaraf ar y safle, ynghyd â thyfiant y blodau gwyllt a’r gwenyn turio llwydfelyn, yn awgrym cryf fod rheolaeth y tîm o’r ddôl yn rhoi ail gyfle i rywogaethau sydd o dan fygythiad i ffynnu ymysg ein cymunedau yn y sir.”

Gall drigolion helpu i gefnogi rhywogaethau Capiau Cwyr drwy gymryd rhan yn arolwg Capiau Cwyr Plantlife yma - https://www.plantlife.org.uk/waxcapwatch/

Disgyblion Prestatyn yn plannu blodau gwyllt mewn dôl gymunedol

Ymunodd disgyblion Ysgol Bodnant â thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych i helpu i wella’r ddôl wrth ymyl Gerddi Bastion drwy blannu bron i 4000 o flodau gwyllt ar y safle.

Mae disgyblion ym Mhrestatyn wedi plannu dyfodol gwell ar gyfer cynefin blodau gwyllt cymunedol.

Ymunodd disgyblion Ysgol Bodnant â thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych i helpu i wella’r ddôl wrth ymyl Gerddi Bastion drwy blannu bron i 4000 o flodau gwyllt ar y safle.

Gwnaeth dros 30 o ddisgyblion Blwyddyn 2 dreulio’r prynhawn gyda staff y Cyngor yn ychwanegu’r planhigion ychwanegol i’r safle ac yn dysgu am bwysigrwydd diogelu natur leol ar gyfer y dyfodol.

Dechreuodd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn 2019 ac mae dros 10,000 o blanhigion unigol wedi’u cofnodi yn y safleoedd cysylltiedig i gyd hyd yma.

Mae rhaglen wella ar draws dolydd blodau gwyllt y sir wedi’i chynnal i gefnogi’r gwaith o greu ardaloedd mwy lliwgar a bioamrywiol i natur a chymunedau lleol eu mwynhau.

Mae’r prosiect hwn yn gweithio i helpu i fynd i’r afael â’r ffaith bod y DU wedi colli 97 y cant o’i dolydd blodau gwyllt, sy’n golygu bod bron i 7.5 miliwn o erwau o gynefinoedd wedi’u colli ar gyfer peillwyr pwysig fel gwenyn a glöynnod byw.

Heb y cynefin hwn, byddai cefnogaeth i bryfed, peillwyr byd natur yn llai, a byddai hynny’n effeithio ar ein cadwyn fwyd ni ein hunain.

Gall pridd dolydd blodau gwyllt hefyd atafaelu cymaint o garbon â choetiroedd, gan leihau nwyon tŷ gwydr er mwyn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae’r dolydd blodau gwyllt yn cynnig buddion i bawb, nid byd natur yn unig. Mae’r buddion cymunedol eraill yn cynnwys gwella ansawdd aer, helpu i leihau llifogydd mewn ardaloedd trefol, oeri gwres trefol, helpu lles corfforol a meddyliol a meysydd amrywiol o ddiddordeb o ran addysg a chwarae.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae’n bwysig nodi bod y dolydd blodau gwyllt hyn i bawb eu mwynhau a’u bod nhw’n helpu i greu coridorau sydd wedi’u cysylltu ar gyfer byd natur yn ein hardaloedd trefol fel y lleoliad gwych hwn ym Mhrestatyn.

“Rydym ni’n gwybod bod llawer o'n hysgolion ni’n dilyn y prosiect hwn ac yn cymryd rhan ar eu safleoedd nhw eu hunain i greu ardaloedd gwyrdd bendigedig. Rwy’n ddiolchgar iawn i ddisgyblion Ysgol Bodnant am roi eu cefnogaeth ragorol i helpu i dyfu’r ddôl hon yn ardal wych ar gyfer lles cymunedol a thwf natur lleol.

Mae’r dolydd hyn er lles trigolion a bywyd gwyllt fel ei gilydd i’w mwynhau nawr, ac yn bwysicaf oll, ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o ddisgyblion ein sir sy’n helpu i’w tyfu nhw.”

Myfyrwyr yn Y Rhyl yn helpu i greu cymorth cyfeillgar i wenyn newydd

Yn ddiweddar fe ymunodd tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych â myfyrwyr ôl-16 Ysgol Tir Morfa, i’w helpu i greu ardal newydd o flodau gwyllt a fydd yn addas i wenyn, ar eu safle ar Grange Road.

Mae myfyrwyr yn Y Rhyl wedi torchi’u llawes i roi help llaw i natur yn lleol.

Yn ddiweddar fe ymunodd tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych â myfyrwyr ôl-16 Ysgol Tir Morfa, i’w helpu i greu ardal newydd o flodau gwyllt a fydd yn addas i wenyn, ar eu safle ar Grange Road.

Gyda chefnogaeth eu hathrawon, mae’r myfyrwyr eisoes wedi creu ardal amaethyddol brysur y tu allan i’w hysgol, drwy dyfu llysiau, blodau lluosflwydd a choed ffrwythau.

Bellach, maent wedi ennill statws Cyfeillgar i Wenyn ar y safle drwy ddatblygu ardal blodau gwyllt gyda chymorth tîm Bioamrywiaeth y Cyngor.

Nod cynllun Cyfeillgar i Wenyn Llywodraeth Cymru yw cefnogi adferiad gwenyn a pheillwyr eraill.

Bydd yr holl flodau gwyllt a blannwyd gan y myfyrwyr yn helpu i greu bioamrywiaeth sydd yn fwy lliwgar, yn amrywiol a chryfach o amgylch y safle er mwyn i natur lleol, myfyrwyr a staff ei fwynhau.

Dywedodd Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Rydw i’n falch ein bod wedi gallu ymgysylltu â’r myfyrwyr i greu’r ardal Cyfeillgar i Wenyn yma ar safle’r ysgol, mae’n ymddangos eu bod wedi mwynhau’r diwrnod yn plannu, ac fe fyddant yn gweld yr ardal yn newid ac yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Dwi’n credu ei bod hi’n bwysig iawn creu’r cynefinoedd yma o fewn ysgolion, er mwyn cefnogi poblogaethau o beillwyr a bywyd gwyllt eraill ar draws ein hardaloedd trefol, ac ar gyfer y manteision iechyd meddwl y bydd hyn yn ei gynnig i fyfyrwyr - mae wedi cael ei brofi bod cyn lleied â 5 munud o gyswllt gyda natur yn gwella lles meddyliol. Fe hoffwn i annog ysgolion eraill i gysylltu â ni os hoffen nhw ymgeisio am statws Cyfeillgar i Wenyn, neu gael cyngor o ran sut i gynyddu bioamrywiaeth ar safle eu hysgol.”

Dywedodd disgyblion o’r grŵp a fu’n gweithio ar yr ardal blodau gwyllt: “Fe weithion ni’n galed heddiw ond fe aeth yr amser yn gyflym iawn oherwydd ei bod hi’n hwyl bod yn yr awyr agored a dysgu am yr ardd. Fe wnaethom ddysgu nad ydi blodau gwyllt yn hoffi cael maeth yn y pridd a gobeithio y bydd y blodau yn gwahodd gwenyn a gloÿnnod byw i’r ardd. Rydym ni’n falch iawn o’r gwaith rydym ni wedi’i wneud ac rydym yn mwynhau treulio amser yn yr ardd gan wybod ei fod yn dda i’r amgylchedd.

Dywedodd yr Athrawes, Sara Griffiths: “Mae cael y gefnogaeth yma i blannu gardd blodau gwyllt wedi bod yn gyfle gwych i’n disgyblion ddysgu am fioamrywiaeth, peillwyr a chreu man digynnwrf. Fe wnaethom ni fwynhau creu gardd blodau gwyllt ac rydym ni rŵan yn edrych ymlaen at weld y blodau’n tyfu, gweld y peillwyr a rheoli’r ardal.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Dyma waith gwych gan y myfyrwyr, bydd eu hymdrechion yn wirioneddol helpu natur i dyfu o amgylch safle’r ysgol. Maent wedi creu ardal bioamrywiaeth gwych a fydd yn cefnogi natur i ddod yn ôl i’r ardal leol, a rhoi rhywbeth iddynt fod yn falch ohono pan fyddant yn ei weld yn tyfu ac yn ffynnu.”

Pŵer trydan yn helpu i gefnogi ansawdd bywyd

Mae cerbydau trydan yn rhoi hwb i wasanaeth sy’n helpu pobl o bob oed i fyw eu bywydau i'r eithaf.

Mae Gwasanaeth Offer Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn dwy fan drydan Fiat e-Doblo.

Cynigir offer i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i bobl yn Sir Ddinbych i'w helpu i gynnal eu hiechyd a'u hannibyniaeth.

Gall yr eitemau amrywio o gymhorthion syml ar gyfer bywyd bob dydd i offer mwy cymhleth sy'n cefnogi pobl i aros yn eu cartrefi am gyfnod hwy.

Ymhlith yr eitemau gellir eu darparu mae seddi toiled uchel, fframiau toiledau, cadeiriau cawod, stôl clwydo, trolïau cegin, comodau a chawodydd.

Bydd y cerbydau trydan newydd yn cael eu defnyddio i gludo'r offer ar draws Sir Ddinbych er mwyn cefnogi trigolion y sir i barhau â'u bywydau bob dydd.

Mae’r cerbydau yma wedi cael eu cyflwyno gan adran Fflyd y Cyngor i gymryd lle cerbydau diesel hŷn sydd wedi dod i ddiwedd eu hoes.

Bydd y ddwy fan yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd gyda dim allyriadau o bibellau mwg y ceir, ac yn y tymor hir byddant yn fwy cost effeithiol i'w cynnal a'u cadw na cherbydau tanwydd ffosil.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae’r Cyngor yn gweithio’n galed iawn i leihau ôl troed carbon ein fflyd drwy newid cerbydau tanwydd ffosil gyda cherbydau amgen gwyrddach, os yw’n briodol ar gyfer anghenion cludiant y gwasanaeth.

"Mae'n wych bod y gwasanaeth yn rhedeg y cerbydau hyn nawr gan y bydd eu hallyriadau carbon yn lleihau yn y pen draw wrth iddyn nhw symud yr offer hanfodol hwn o amgylch y sir."

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid