Newyddion
Gwybodaeth dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Mae gwybodaeth am amser agor a chau ar gyfer ein gwasanaethau a'n hadeiladau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ynghyd â gwybodaeth am ein casgliadau gwastraff a gardd ar ein gwefan.
Gyda’r Nadolig yn agosau, fe fydd nifer o aelwydydd yn Sir Ddinbych yn brysur yn lapio anrhegion ac yn dechrau rhoi’r addurniadau Nadolig i fyny.
Wrth gynllunio i brynu eich nwyddau hanfodol y Nadolig hwn, mae hi’n bwysig ystyried a oes modd eu hailgylchu neu beidio. Dyma restr o eitemau allweddol a’u cyfarwyddiadau ailgylchu:
Papur swigod plastig
Nid oes posib’ ailgylchu papur swigod. Rhowch o yn eich bin gwastraff cyffredinol du neu sachau pinc neu ei ailddefnyddio i lapio pethau gwerthfawr sy’n cael eu storio neu bostio.
Selotep
Nid oes modd ailgylchu tap du/llwyd, tap trydanol, selotep, tap masgio na thâp parseli. Rhowch nhw yn eich bin gwastraff cyffredinol du neu sach binc.
Addurniadau Nadolig
Gall addurniadau Nadolig gael eu defnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn neu eu rhoi i siopau elusen lleol neu ysgolion ar gyfer sesiynau crefft. Dylai addurniadau sy’n anaddas i’w hailddefnyddio gael eu rhoi yn eich bin gwastraff cyffredinol du neu sach binc.
Papur lapio
Nid oes posib’ ailgylchu papur lapio sydd â glityr a phlastig arno – mae’n rhaid i hwnnw fynd i’ch bin gwastraff cyffredinol du neu sachau pinc.
Ailgylchwch bapur lapio plaen yn eich bin ailgylchu cymysg glas neu sachau ailgylchu clir ar ôl tynnu’r selotep.
Pecynnau Plastig
Gallwch roi pecynnau plastig yn eich bin ailgylchu cymysg glas neu sachau ailgylchu clir.
Caniau Alwminiwm
Ailgylchwch eich caniau alwminiwm gwag yn eich bin ailgylchu cymysg glas neu sachau ailgylchu clir gartref neu yn eich Parc Ailgylchu a Gwastraff agosaf.
Poteli
Gwydr - Gallwch ailgylchu unrhyw boteli a photiau gwydr diangen yn eich bin ailgylchu cymysg glas neu sachau ailgylchu clir.
Plastig - Ailddefnyddiwch eich poteli plastig. Gallwch ailgylchu poteli plastig yn eich bin ailgylchu cymysg neu sachau clir.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae llawer o bethau y gellir eu hailgylchu a gaiff eu taflu yn y bin. Gall amser y Nadolig fod yn amser prysur iawn i’n timau gwastraff, felly mae dewis yr opsiynau gwastraff cywir yn ystod cyfnod yr Ŵyl yn bwysig iawn.”
Teyrngedau i’r cyn Gadeirydd wrth benodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd
Mae'r Cyngor wedi ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd newydd am weddill tymor 2023/2024.
Mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor yn Rhuthun, etholwyd y Cynghorydd Peter Scott (Gorllewin Llanelwy) yn Gadeirydd a'r Cynghorydd Diane King (De Orllewin y Rhyl) yn Is-Gadeirydd ar yr awdurdod.

Mae’r penodiadau hyn yn dilyn marwolaeth drist Cadeirydd blaenorol y Cyngor, y Cynghorydd Pete Prendergast ar 22 Medi.
Gwasanaethodd y Cynghorydd Prendergast fel Cadeirydd y Cyngor ym mlwyddyn ddinesig 2017 – 2018 a chafodd ei ail-ethol yn Gadeirydd fis Mai eleni. Yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth yr Arweinydd newydd, y Cynghorydd Peter Scott, estyn gwahoddiad i Aelodau Arweiniol y Grwpiau i dalu teyrnged i Pete Prendergast.
Agorwyd y rhain gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jason McLellan a ddywedodd, “Roeddwn wedi adnabod Pete ers nifer o flynyddoedd a phan gafodd ei ethol roedd ei ymroddiad i’w rôl fel Cynghorydd yn gwbl amlwg wrth iddo gynrychioli ei gymuned a siarad ar ran trigolion ei ward. Bu Pete yn gweithio’n ddiflino gyda grwpiau cymunedol yn y Rhyl ac ar ei ward.”
Dywedodd yr Is-Gadeirydd sydd newydd ei phenodi, a chymar y Cynghorydd Prendergast yn ystod ei gyfnod yn y rôl, y Cynghorydd Diane King: “Roedd yn un o’r bobl hynny yr oeddech yn teimlo’n anrhydedd ei gael yn eich bywyd. Roedd ei barodrwydd i helpu eraill yn ei ddiffinio fel person. Mae'r ffaith bod gan Pete gymaint o ffrindiau agos yn dyst i'r person caredig, dilys yr oedd. Roedd mor falch pan gafodd ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, nid unwaith, ond ddwywaith.
“Daeth Pete o gefndir cyffredin, ac roedd ganddo rinwedd gynhenid y gallai uniaethu â phobl ar bob lefel ac mewn unrhyw sefyllfa. Roedd hyn yn ei alluogi i weithio'n ddiflino dros ei gymuned, yn gyntaf fel Cynghorydd Tref, ac yna fel Cynghorydd Sir. Ar lefel bersonol rydw i wedi elwa’n aruthrol o gefnogaeth, ymrwymiad a chyfeillgarwch Pete dros y chwe blynedd diwethaf. Roeddwn i mor falch o’i gael fel fy ffrind.”
Daeth y Cynghorydd Peter Scott â’r teyrngedau i ben gan ddweud, “Bydd gennych chi gyd eich atgofion personol o Pete, ond o’m safbwynt i, roedd yn ŵr bonheddig a roddodd bawb o’i flaen ei hun. Roedd yn ddyn bendigedig ac rwy’n sicr y bydd pawb oedd yn ei adnabod yn gweld colled fawr ar ei ôl.”
Talwyd teyrngedau hefyd gan y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts, Hugh Irving, Delyth Jones, a Martyn Hogg.
Gofynnodd y Cynghorydd Peter Scott i Siambr y Cyngor sefyll am gyfnod i fyfyrio’n dawel er mwyn diolch ac er cof am Pete Prendergast. Cyflawnwyd hyn gan bawb oedd yn bresenol gyda'r parch mwyaf.
Ydych chi'n gwybod beth yw Cofferdam?
Dyma Is-Asiant Balfour Beatty Aled Hughes sy'n gweithio ar Gynllun Amddiffyn Arfordir Canol Y Rhyl i egluro.
Sir Ddinbych yn ennill yng Ngwobrau Arlwyo Cenedlaethol
Mae aelodau staff y Cyngor wedi cael eu cyhoeddi fel enillwyr yng ngwobrau CAAL Cymru (Cymdeithas Arlwyo Awdurdodau Lleol) eleni, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.
Bu i Oruchwyliwr Arlwyo y Cyngor, Claire Stott, ennill ‘Gwobr Talent Newydd’ am ei gwaith a’i chynnydd ardderchog. Dechreuodd Claire fel Cynorthwy-ydd Arlwyo 7 mlynedd yn ôl ac mae wedi dangos angerdd, penderfyniad a chymhelliant i fanteisio ar yr holl gyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael iddi, yn fewnol a thrwy bartneriaethau allanol i gael y cymwysterau, sgiliau a’r profiad i’w galluogi i gael sawl dyrchafiad.
Bu iddi ddatblygu i fod yn Gogydd Ardal, Cogydd Ysgol Uwchradd ac mae bellach yn Oruchwyliwr Arlwyo Ardal. Mae Claire yn cefnogi’r tîm rheoli arlwyo gyda gweithrediad gwasanaethau arlwyo yng ngogledd Sir Ddinbych o ddydd i ddydd, ac mae’n helpu gyda chyflwyno’r cynllun Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.
Cafodd Shelley Houston, Cogyddes yn Ysgol Emmanuel hefyd ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer ‘Gwobr Seren Ddisglair’ am ei hymrwymiad i’r gwasanaeth prydau ysgol yn Sir Ddinbych. Mae Shelley wedi gweithio fel cogyddes yn y gwasanaeth am 30 mlynedd.
Cafodd Hayley Jones, Prif Reolwr Arlwyo a Glanhau, ei galw i’r llwyfan i dderbyn ‘Gwobr Bwyd mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru’. Cafodd y wobr hon ei chyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych, yn ogystal â nifer o awdurdodau lleol eraill, fel Cydnabyddiaeth am Ragoriaeth am ddarparu’r prosiect Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.
Hayley Jones
Cafodd y wobr hon ei derbyn ar ran pawb yn Sir Ddinbych sydd wedi bod yn rhan o, ac wedi cefnogi’r gwasanaeth Arlwyo.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Hayley: “Roedd yn fraint enfawr cael derbyn y wobr ar ran pawb yn Sir Ddinbych sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod y prosiect a’r gwaith yn cael ei gwblhau ar amser.
"Mae cyflwyno’r prosiect Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd wedi bod yn ymdrech tîm, gyda nifer o adrannau yn rhan ohono i sicrhau bod gan y gwasanaeth y gallu i goginio’r prydau ychwanegol.”
Dywedodd Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol: “Rwy’n falch iawn o weld bod ein staff gweithgar wedi cael eu hanrhydeddu am eu gwaith caled a’u syniadau arloesol, mae’n gwbl haeddiannol.
"Mae’r staff yn gweithio’n ddiflino, llawer y tu ôl i’r llenni, i sicrhau bod ein hadran arlwyo yn rhedeg mor esmwyth â phosibl, a gallaf ond eu canmol am eu gwaith caled. Da iawn i’r rheiny a gyrhaeddodd y rhestr fer ac wrth gwrs i’r enillwyr.”
Mae CAAL - Cymru (Cymdeithas Arlwyo Awdurdodau Lleol) yn gorff proffesiynol a sefydlwyd i gefnogi Arlwywyr Ysgol ar draws y DU.
Cynllun parcio Am Ddim ar ôl Tri
Bydd y Cyngor unwaith eto yn cynnal y cynllun parcio 'Am Ddim ar ôl Tri' yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Bydd meysydd parcio canol trefi sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor yn rhad ac am ddim ar draws y sir bob dydd o 3pm ymlaen tan 31 Rhagfyr i annog mwy o bobl i ddefnyddio eu stryd fawr leol ar gyfer siopa yn y cyfnod cyn y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Mae mwy o wybodaeth ar ba feysydd parcio sydd yn y cynllun 'Am Ddim ar ôl Tri' ar ein gwefan.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: "Mae parcio yn rhad ac am ddim ar ôl tri wedi bod yn boblogaidd yn y blynyddoedd blaenorol oherwydd ei fod yn gynllun gwych sy'n galluogi trigolion i gefnogi eu cymunedau lleol.
"Rydyn ni'n gobeithio bydd pawb yn siopa ar eu stryd fawr er mwyn cefnogi ein busnesau, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac yn manteisio'n llawn ar y cynllun drwy ddefnyddio meysydd parcio canol trefi'r sir yn rhad ac am ddim."
Y wybodaeth ddiweddaraf am Farchnad y Frenhines
Yn dilyn ystyriaeth ofalus a thrafodaeth fanwl, mae'r Cyngor a Mikhail Hotel & Leisure Group wedi cytuno i beidio â bwrw ymlaen â’u partneriaeth arfaethedig ym Marchnad y Frenhines y Rhyl.
Yn dilyn trafodaethau manwl, mae’r ddau barti wedi cytuno na fyddai modd cyflawni cydweledigaeth ar gyfer Marchnad y Frenhines.
Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn rhoi cynllun newydd ar waith i benodi gweithredwr ar gyfer y cyfleuster, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael am hyn maes o law.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae prosiect Marchnad y Frenhines yn rhan hollbwysig o’r gwaith datblygu parhaus sy’n mynd rhagddo yn y Rhyl, ac mae’r gwaith strwythurol ar yr adeilad yn tynnu tua’r terfyn.
"Bydd Marchnad y Frenhines yn darparu cynnig masnachol unigryw i bobl Sir Ddinbych a thu hwnt ac rydym yn ymrwymo i sicrhau y bydd y prosiect hwn yn darparu’r cynnig a’r canlyniad gorau posibl i bobl y Rhyl.
"Bydd gwaith yn parhau i gwblhau’r cyfleuster fel y bwriadwyd, ac edrychwn ymlaen at agor Marchnad y Frenhines ar gyfer busnes yn 2024.
"Hoffem ddiolch i Mikhail Hotel & Leisure Group am eu cydweithrediad ar y prosiect hwn a dymunwn yn dda iddynt i’r dyfodol.”
Dywedodd Andrew Mikhail, Cadeirydd Grŵp Mikhail: “Hoffem ddiolch i’r tîm yng Nghyngor Sir Ddinbych am eu cefnogaeth dros y misoedd diwethaf, gan ein bod wedi mwynhau gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb sydd o fudd i’r ddwy ochr ar gyfer y lleoliad gwych hwn.
"Yn y pen draw, roeddem yn teimlo nad oedd Marchnad y Frenhines yn cyd-fynd â’n model gweithredu. Dymunwn bob llwyddiant i dîm y Cyngor ar gyfer dyfodol prosiect Marchnad y Frenhines.”

Dweud eich dweud ar gyllid ar gyfer plismona yng Ngogledd Cymru
Arolwg praesept: mae eich barn yn bwysig i gynorthwyo Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i bennu’r gyllid plismona ar gyfer 2024/25.
Y praesept yw’r rhan o Dreth y Cyngor sy’n talu am blismona yn eich ardal.
Cliciwch ar y ddolen i gwblhau yr arolwg: https://orlo.uk/Tq3GT
Cyflwynwch eich ymateb erbyn hanner nos ar 7 Ionawr 2024.

Prosiect Ffyniant Bro Rhaeadr y Bedol yn penodi contractwr

Mae'r Cyngor wedi penodi contractwr i ymgymryd â’r gwaith i wella Rhaeadr y Bedol a ariennir gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Yn ystod rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro, bu’r Cyngor yn llwyddiannus yn ei gais ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd – cais a gefnogwyd gan Simon Baynes AS. Sicrhaodd Sir Ddinbych £3.8 miliwn i’w fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llandysilio, Corwen a’r cyffiniau.
Gall preswylwyr disgwyl y gwelliannau canlynol i Faes Parcio Llandysilio yn agos i Raeadr y Bedol:
- Ailosod wyneb y maes parcio presennol i greu mannau parcio dynodedig.
- Cloddiad ar gyfer ceubwll newydd i adnewyddu’r hen danc septig presennol.
- Adnewyddu draeniad budr allanol rhwng tanc newydd a bloc toiledau presennol.
- Wal gerrig newydd a gwelliannau i gerrig palmant o amgylch y bloc toiledau.
Roedd KM Construction yn llwyddiannus gyda’i gyflwyniad tendr, a bydd gwaith yn cychwyn o 8 Ionawr, 2024 am gyfnod o 8 wythnos (yn dibynnu ar y tywydd).
Bydd y gwaith yn cynnwys rhywfaint o darfu ar y maes parcio, a bydd y bloc toiledau yn cau dros dro i adnewyddu'r draeniad budr a darparu'r palmant newydd o amgylch yr adeilad. Ond, bydd mynediad i gerddwyr at Raeadr y Bedol yn cael ei gynnal drwy gydol y broses adeiladu.
Mae’r ardal wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr dros y blynyddoedd diwethaf, a nod y prosiect hwn yw gwella’r profiad i bawb sy’n ymweld â’r safle.
Darganfyddwch mwy am ein prosiect Cronfa Ffyniant Bro yn Rhaeadr y Bedol ar ein gwefan.

Ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yng nghanol tref y Rhyl.
Mae'r Cyngor a Heddlu Gogledd Cymru yn bwriadu cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) yng Nghanol Dref Y Rhyl ac yn ceisio barn y cyhoedd ar y mater.
Bydd y PSPO hwn yn rhwystro ac yn mynd i’r afael â’r broblem o unigolion a grwpiau yn yfed alcohol ac/neu yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol yng nghanol tref y Rhyl. Hwn fyddai’r trydydd PSPO sydd wedi’i weithredu yn yr ardal ers 2016.
Tra bo nifer o fesurau yn eu lle i helpu i rwystro ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref y Rhyl, er enghraifft cyfarfodydd rheolaidd rhwng sefydliadau partner i drafod sut i fynd i’r afael â phroblemau ar y cyd, darpariaeth gwasanaeth ar gyfer y rhai hynny sydd â phroblemau alcohol a Chanolfan Ieuenctid y Rhyl, mae cyfraddau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal dal i fod yn uchel.
Tra byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i atal y materion hyn yn y dyfodol, byddai PSPO yn cynnig teclyn ychwanegol i Heddlu Gogledd Cymru i fynd i’r afael â’r materion hyn.
Agorodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar borth Sgwrs y Sir y Cyngor o 13 Tachwedd a bydd yn derbyn ymatebion tan 21 Ionawr.
Dywedodd Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas: ”Rydym yn annog unrhyw un sy’n byw yn y Rhyl neu sydd wedi byw yn yr ardal o’r blaen i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i rannu eu barn ar y mater.
"Rydym eisiau clywed barn pobl ar effeithlonrwydd PSPO a hefyd os ydynt yn credu bod yr ardaloedd sydd wedi’u henwi yn y gorchymyn arfaethedig yn targedu’r ardaloedd y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio fwyaf arnynt
“Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fater pwysig y mae angen mynd i’r afael ag o yn yr ardal ac rydym yn awyddus i glywed barn pobl ar y mater er mwyn sicrhau bod ein mesurau gwarchod y cyhoedd yn y Rhyl yn addas ar gyfer yr ardal.”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i wefan Sgwrs y Sir
Fforwm Tenantiaid Preifat Gogledd Cymru Ionawr 2024
Dydd Iau 11 Ionawr 2024, 12pm – 12:30pm
Ydych chi'n rhentu gan landlord preifat neu asiant gosod tai yng Ngogledd Cymru?
Hoffech chi weithio gyda'ch gilydd gyda llunwyr polisi a phenderfyniadau lleol i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed?
Mae 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru yn dod at ei gilydd i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed ar draws y sector rhentu preifat. Rydym yn cynnal fforwm tenantiaid hanner awr amser cinio i glywed eich barn ar yr hyn rydych chi'n meddwl yw'r wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnoch chi fel tenant.
Yr awdurdodau lleol dan sylw yw - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd dros y flwyddyn ddiwethaf, a byddem wrth ein bodd yn clywed sut y gallwn eich cefnogi chi fel tenantiaid a sicrhau bod gennych y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Sut mae’r Cyngor yn perfformio?
Mae hi’n amser i chi ddweud eich dweud!
Mae Arolwg Budd-ddeiliad y Cyngor ar gyfer 2023 - 2034 wedi cael ei lansio.
Rydym eisiau gwybod beth mae preswylwyr, busnesau, staff, aelodau etholedig a phartneriaid Sir Ddinbych yn ei feddwl am y gwaith rydym ni’n ei wneud yma yn y Cyngor.

Mae’r arolwg yn gyfle gwych i’r Cyngor ddeall a dysgu gan farn pobl eraill, felly gobeithio y gallwch chi ein helpu ni drwy ateb ychydig o gwestiynau.
Mae hefyd yn ffordd wych i chi ddysgu mwy am y themâu sydd yn rhan o Gynllun Corfforaethol presennol y Cyngor.
I gymryd rhan ac i ddweud eich dweud, llenwch yr arolwg drwy fynd i sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk.
Dyddiad cau: 29 Chwefror 2024