Teyrngedau i’r cyn Gadeirydd wrth benodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd
Mae'r Cyngor wedi ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd newydd am weddill tymor 2023/2024.
Mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor yn Rhuthun, etholwyd y Cynghorydd Peter Scott (Gorllewin Llanelwy) yn Gadeirydd a'r Cynghorydd Diane King (De Orllewin y Rhyl) yn Is-Gadeirydd ar yr awdurdod.

Mae’r penodiadau hyn yn dilyn marwolaeth drist Cadeirydd blaenorol y Cyngor, y Cynghorydd Pete Prendergast ar 22 Medi.
Gwasanaethodd y Cynghorydd Prendergast fel Cadeirydd y Cyngor ym mlwyddyn ddinesig 2017 – 2018 a chafodd ei ail-ethol yn Gadeirydd fis Mai eleni. Yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth yr Arweinydd newydd, y Cynghorydd Peter Scott, estyn gwahoddiad i Aelodau Arweiniol y Grwpiau i dalu teyrnged i Pete Prendergast.
Agorwyd y rhain gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jason McLellan a ddywedodd, “Roeddwn wedi adnabod Pete ers nifer o flynyddoedd a phan gafodd ei ethol roedd ei ymroddiad i’w rôl fel Cynghorydd yn gwbl amlwg wrth iddo gynrychioli ei gymuned a siarad ar ran trigolion ei ward. Bu Pete yn gweithio’n ddiflino gyda grwpiau cymunedol yn y Rhyl ac ar ei ward.”
Dywedodd yr Is-Gadeirydd sydd newydd ei phenodi, a chymar y Cynghorydd Prendergast yn ystod ei gyfnod yn y rôl, y Cynghorydd Diane King: “Roedd yn un o’r bobl hynny yr oeddech yn teimlo’n anrhydedd ei gael yn eich bywyd. Roedd ei barodrwydd i helpu eraill yn ei ddiffinio fel person. Mae'r ffaith bod gan Pete gymaint o ffrindiau agos yn dyst i'r person caredig, dilys yr oedd. Roedd mor falch pan gafodd ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, nid unwaith, ond ddwywaith.
“Daeth Pete o gefndir cyffredin, ac roedd ganddo rinwedd gynhenid y gallai uniaethu â phobl ar bob lefel ac mewn unrhyw sefyllfa. Roedd hyn yn ei alluogi i weithio'n ddiflino dros ei gymuned, yn gyntaf fel Cynghorydd Tref, ac yna fel Cynghorydd Sir. Ar lefel bersonol rydw i wedi elwa’n aruthrol o gefnogaeth, ymrwymiad a chyfeillgarwch Pete dros y chwe blynedd diwethaf. Roeddwn i mor falch o’i gael fel fy ffrind.”
Daeth y Cynghorydd Peter Scott â’r teyrngedau i ben gan ddweud, “Bydd gennych chi gyd eich atgofion personol o Pete, ond o’m safbwynt i, roedd yn ŵr bonheddig a roddodd bawb o’i flaen ei hun. Roedd yn ddyn bendigedig ac rwy’n sicr y bydd pawb oedd yn ei adnabod yn gweld colled fawr ar ei ôl.”
Talwyd teyrngedau hefyd gan y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts, Hugh Irving, Delyth Jones, a Martyn Hogg.
Gofynnodd y Cynghorydd Peter Scott i Siambr y Cyngor sefyll am gyfnod i fyfyrio’n dawel er mwyn diolch ac er cof am Pete Prendergast. Cyflawnwyd hyn gan bawb oedd yn bresenol gyda'r parch mwyaf.