Storm Babet
Yn ystod mis Hydref cyrhaeddodd Storm Babet yn Sir Ddinbych. Y rhagolygon ar gyfer ein hardal ni oedd glaw mawr ac roedd ein swyddogion yn barod am y tywydd drwg, ond o bosibl ddim mor ddrwg ag a gawsom. Roedd yn sicr yn llawer iawn gwlypach nac a ddisgwyliwyd.
Cyn gynted ag yr agorodd y Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid roeddem dan ein sang ag ymholiadau am lifogydd a gylïau, yn ne’r sir i ddechrau ac yna’n raddol wrth i’r dydd fynd yn ei flaen yng ngweddill y sir hefyd. Gweithiodd ein swyddogion yn ddiflino yn ystod y cyfnod 24 awr hwnnw i sicrhau diogelwch ein trigolion a’n ffyrdd gan weithio gydag amrywiaeth o gontractwyr i gwblhau’r gwaith. Y dydd Gwener hwnnw’n unig, cofnodwyd dros 250 o alwadau am lifogydd a gylïau, mwy nag yr ydym fel arfer yn eu cael mewn blwyddyn. Cafodd ardaloedd y Rhyl, Prestatyn, Dyserth a Llanelwy eu heffeithio’n arbennig o ddrwg.
Yr wythnos wedyn dechreuodd y gwaith clirio. Dioddefodd llawer o dai lifogydd ac wrth archwilio’n fwy manwl darganfuwyd bod dŵr wedi llifo i 60 eiddo i gyd, a bron wedi llifo i mewn i nifer fawr o rai eraill. Mae llawer o ddifrod wedi digwydd i’n ffyrdd a’n strwythurau (22 cwlfer a waliau cynnal wedi’u difrodi gyda chostau trwsio o o leiaf £300,000) a malurion y storm wedi’u golchi gan y dŵr i lawer o ardaloedd ac mae’r gwaith glanhau a thrwsio’n dal i fynd yn ei flaen. Mewn rhai ardaloedd rydym wedi gallu cwblhau’r gwaith trwsio/clirio yn barod ond mewn eraill bydd yn cymryd yn hirach yn dibynnu ar gyllid a chynlluniau gwaith eraill sy’n effeithio ar yr ardal.
Mae ar Sir Ddinbych ddyletswydd statudol i ymchwilio i achos yr holl lifogydd mewnol ac mae’r gwaith hwn wedi dechrau mewn cydweithrediad â Chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. Bydd argymhellion ynghylch sut y gellir osgoi pethau fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol yn cael eu gwneud maes o law.
Mae Newid Hinsawdd yn effeithio arnom ac rydym yn profi llawer mwy o stormydd yn yr hydref a’r gaeaf. Mae ein timau’n gweithio’n ddiflino pan fydd hyn yn digwydd a gall fod llawer o alw ar ein hadnoddau felly gofynnwn am eich amynedd yn ystod y cyfnodau hyn.
Os oes gennych bryderon am lifogydd yn eich ardal chi, mae ein manylion cyswllt i’w gweld ar y we-dudalen llifogydd.
Rhaeadr Dyserth
Ffordd y Rhaeadr, Dyserth
Graianrhyd
Llanynys
Y Green, Dinbych
Hen Ffordd Rhyl, Y Rhyl
Llys Ashley, Llanelwy
Pa ffyrdd sy'n cael eu graeanu yn y Sir
Mae'r Cyngor yn graeanu rhai ffyrdd rhag ofn rhew. Mae hyn yn golygu ein bod yn halltu’r ffyrdd naill ai am 6am neu 6pm, fel ein bod yn osgoi amseroedd brig traffig.
Rydym yn rhoi blaenoriaeth i’r mathau hyn o ffyrdd:
- Prif lwybrau dosbarthedig (ffyrdd A a B)
- Prif lwybrau bysiau
- Llwybrau mynediad i ysbytai, ysgolion a mynwentydd
- Mynediad i wasanaethau’r heddlu, tân, ambiwlans ac achub
- Prif lwybrau sy'n gwasanaethu pentrefi / cymunedau mawr
- Prif lwybrau diwydiannol sy'n bwysig i'r economi leol
- Prif lwybrau mynediad i ardaloedd siopa
- Ardaloedd lle mae problemau hysbys yn bodoli, fel ardaloedd agored, llethrau serth a ffyrdd eraill sy'n dueddol o rewi.
I fod yn effeithiol, rhaid i’r halen gael ei wasgu gan draffig.
Yn anffodus, mae rhai adegau pan na allwn halltu’r ffyrdd cyn iddi ddechrau rhewi, er enghraifft:
- Pan fo awyr las yn syth ar ôl glaw, caiff yr halen ei daenu fel arfer ar ôl i’r glaw stopio i’w atal rhag cael ei olchi i ymaith.
- Mae 'rhew ben bore' yn digwydd ar ffyrdd sych wrth i wlith ben bore syrthio ar ffordd oer a rhewi'n syth. Mae'n amhosibl gwybod yn iawn lle a phryd y bydd hyn yn digwydd.
- Eira'n syrthio yn ystod oriau brig. Pan fo glaw'n troi'n eira, sy'n gallu digwydd yn ystod oriau brig weithiau, ni all graeanu ddigwydd ben bore, gan y byddai'r glaw yn ei olchi i ffwrdd, a gall fod yn anodd i gerbydau graeanu wneud eu gwaith oherwydd traffig.
Dyma'r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yn siarad am graeanu yn Sir Ddinbych.