llais y sir

Storm Babet

Yn ystod mis Hydref cyrhaeddodd Storm Babet yn Sir Ddinbych. Y rhagolygon ar gyfer ein hardal ni oedd glaw mawr ac roedd ein swyddogion yn barod am y tywydd drwg, ond o bosibl ddim mor ddrwg ag a gawsom. Roedd yn sicr yn llawer iawn gwlypach nac a ddisgwyliwyd.

Cyn gynted ag yr agorodd y Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid roeddem dan ein sang ag ymholiadau am lifogydd a gylïau, yn ne’r sir i ddechrau ac yna’n raddol wrth i’r dydd fynd yn ei flaen yng ngweddill y sir hefyd. Gweithiodd ein swyddogion yn ddiflino yn ystod y cyfnod 24 awr hwnnw i sicrhau diogelwch ein trigolion a’n ffyrdd gan weithio gydag amrywiaeth o gontractwyr i gwblhau’r gwaith. Y dydd Gwener hwnnw’n unig, cofnodwyd dros 250 o alwadau am lifogydd a gylïau, mwy nag yr ydym fel arfer yn eu cael mewn blwyddyn. Cafodd ardaloedd y Rhyl, Prestatyn, Dyserth a Llanelwy eu heffeithio’n arbennig o ddrwg.

Yr wythnos wedyn dechreuodd y gwaith clirio. Dioddefodd llawer o dai lifogydd ac wrth archwilio’n fwy manwl darganfuwyd bod dŵr wedi llifo i 60 eiddo i gyd, a bron wedi llifo i mewn i nifer fawr o rai eraill. Mae llawer o ddifrod wedi digwydd i’n ffyrdd a’n strwythurau (22 cwlfer a waliau cynnal wedi’u difrodi gyda chostau trwsio o o leiaf £300,000) a malurion y storm wedi’u golchi gan y dŵr i lawer o ardaloedd ac mae’r gwaith glanhau a thrwsio’n dal i fynd yn ei flaen. Mewn rhai ardaloedd rydym wedi gallu cwblhau’r gwaith trwsio/clirio yn barod ond mewn eraill bydd yn cymryd yn hirach yn dibynnu ar gyllid a chynlluniau gwaith eraill sy’n effeithio ar yr ardal.

Mae ar Sir Ddinbych ddyletswydd statudol i ymchwilio i achos yr holl lifogydd mewnol ac mae’r gwaith hwn wedi dechrau mewn cydweithrediad â Chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. Bydd argymhellion ynghylch sut y gellir osgoi pethau fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol yn cael eu gwneud maes o law.

Mae Newid Hinsawdd yn effeithio arnom ac rydym yn profi llawer mwy o stormydd yn yr hydref a’r gaeaf. Mae ein timau’n gweithio’n ddiflino pan fydd hyn yn digwydd a gall fod llawer o alw ar ein hadnoddau felly gofynnwn am eich amynedd yn ystod y cyfnodau hyn.

Os oes gennych bryderon am lifogydd yn eich ardal chi, mae ein manylion cyswllt i’w gweld ar y we-dudalen llifogydd.

Rhaeadr Dyserth
Ffordd y Rhaeadr, Dyserth
Graianrhyd
Llanynys
Y Green, Dinbych
Hen Ffordd Rhyl, Y Rhyl
Llys Ashley, Llanelwy

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid