llais y sir

Newyddion

Gwybodaeth dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Mae gwybodaeth am amser agor a chau ar gyfer ein gwasanaethau a'n hadeiladau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ynghyd â gwybodaeth am ein casgliadau gwastraff a gardd ar ein gwefan.

Gyda’r Nadolig yn agosau, fe fydd nifer o aelwydydd yn Sir Ddinbych yn brysur yn lapio anrhegion ac yn dechrau rhoi’r addurniadau Nadolig i fyny.

Wrth gynllunio i brynu eich nwyddau hanfodol y Nadolig hwn, mae hi’n bwysig ystyried a oes modd eu hailgylchu neu beidio. Dyma restr o eitemau allweddol a’u cyfarwyddiadau ailgylchu:

Papur swigod plastig

Nid oes posib’ ailgylchu papur swigod. Rhowch o yn eich bin gwastraff cyffredinol du neu sachau pinc neu ei ailddefnyddio i lapio pethau gwerthfawr sy’n cael eu storio neu bostio.

Selotep

Nid oes modd ailgylchu tap du/llwyd, tap trydanol, selotep, tap masgio na thâp parseli. Rhowch nhw yn eich bin gwastraff cyffredinol du neu sach binc.

Addurniadau Nadolig

Gall addurniadau Nadolig gael eu defnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn neu eu rhoi i siopau elusen lleol neu ysgolion ar gyfer sesiynau crefft. Dylai addurniadau sy’n anaddas i’w hailddefnyddio gael eu rhoi yn eich bin gwastraff cyffredinol du neu sach binc.

Papur lapio

Nid oes posib’ ailgylchu papur lapio sydd â glityr a phlastig arno – mae’n rhaid i hwnnw fynd i’ch bin gwastraff cyffredinol du neu sachau pinc.

Ailgylchwch bapur lapio plaen yn eich bin ailgylchu cymysg glas neu sachau ailgylchu clir ar ôl tynnu’r selotep.

Pecynnau Plastig

Gallwch roi pecynnau plastig yn eich bin ailgylchu cymysg glas neu sachau ailgylchu clir.

Caniau Alwminiwm

Ailgylchwch eich caniau alwminiwm gwag yn eich bin ailgylchu cymysg glas neu sachau ailgylchu clir gartref neu yn eich Parc Ailgylchu a Gwastraff agosaf.

Poteli

Gwydr - Gallwch ailgylchu unrhyw boteli a photiau gwydr diangen yn eich bin ailgylchu cymysg glas neu sachau ailgylchu clir.

Plastig - Ailddefnyddiwch eich poteli plastig. Gallwch ailgylchu poteli plastig yn eich bin ailgylchu cymysg neu sachau clir.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae llawer o bethau y gellir eu hailgylchu a gaiff eu taflu yn y bin. Gall amser y Nadolig fod yn amser prysur iawn i’n timau gwastraff, felly mae dewis yr opsiynau gwastraff cywir yn ystod cyfnod yr Ŵyl yn bwysig iawn.” 

Teyrngedau i’r cyn Gadeirydd wrth benodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd

Mae'r Cyngor wedi ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd newydd am weddill tymor 2023/2024.

Mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor yn Rhuthun, etholwyd y Cynghorydd Peter Scott (Gorllewin Llanelwy) yn Gadeirydd a'r Cynghorydd Diane King (De Orllewin y Rhyl) yn Is-Gadeirydd ar yr awdurdod.

Mae’r penodiadau hyn yn dilyn marwolaeth drist Cadeirydd blaenorol y Cyngor, y Cynghorydd Pete Prendergast ar 22 Medi.

Gwasanaethodd y Cynghorydd Prendergast fel Cadeirydd y Cyngor ym mlwyddyn ddinesig 2017 – 2018 a chafodd ei ail-ethol yn Gadeirydd fis Mai eleni. Yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth yr Arweinydd newydd, y Cynghorydd Peter Scott, estyn gwahoddiad i Aelodau Arweiniol y Grwpiau i dalu teyrnged i Pete Prendergast.

Agorwyd y rhain gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jason McLellan a ddywedodd, “Roeddwn wedi adnabod Pete ers nifer o flynyddoedd a phan gafodd ei ethol roedd ei ymroddiad i’w rôl fel Cynghorydd yn gwbl amlwg wrth iddo gynrychioli ei gymuned a siarad ar ran trigolion ei ward. Bu Pete yn gweithio’n ddiflino gyda grwpiau cymunedol yn y Rhyl ac ar ei ward.”

Dywedodd yr Is-Gadeirydd sydd newydd ei phenodi, a chymar y Cynghorydd Prendergast yn ystod ei gyfnod yn y rôl, y Cynghorydd Diane King: “Roedd yn un o’r bobl hynny yr oeddech yn teimlo’n anrhydedd ei gael yn eich bywyd. Roedd ei barodrwydd i helpu eraill yn ei ddiffinio fel person. Mae'r ffaith bod gan Pete gymaint o ffrindiau agos yn dyst i'r person caredig, dilys yr oedd. Roedd mor falch pan gafodd ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, nid unwaith, ond ddwywaith.

“Daeth Pete o gefndir cyffredin, ac roedd ganddo rinwedd gynhenid ​​y gallai uniaethu â phobl ar bob lefel ac mewn unrhyw sefyllfa. Roedd hyn yn ei alluogi i weithio'n ddiflino dros ei gymuned, yn gyntaf fel Cynghorydd Tref, ac yna fel Cynghorydd Sir. Ar lefel bersonol rydw i wedi elwa’n aruthrol o gefnogaeth, ymrwymiad a chyfeillgarwch Pete dros y chwe blynedd diwethaf. Roeddwn i mor falch o’i gael fel fy ffrind.”

Daeth y Cynghorydd Peter Scott â’r teyrngedau i ben gan ddweud, “Bydd gennych chi gyd eich atgofion personol o Pete, ond o’m safbwynt i, roedd yn ŵr bonheddig a roddodd bawb o’i flaen ei hun. Roedd yn ddyn bendigedig ac rwy’n sicr y bydd pawb oedd yn ei adnabod yn gweld colled fawr ar ei ôl.”

Talwyd teyrngedau hefyd gan y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts, Hugh Irving, Delyth Jones, a Martyn Hogg.

Gofynnodd y Cynghorydd Peter Scott i Siambr y Cyngor sefyll am gyfnod i fyfyrio’n dawel er mwyn diolch ac er cof am Pete Prendergast. Cyflawnwyd hyn gan bawb oedd yn bresenol gyda'r parch mwyaf.

Ydych chi'n gwybod beth yw Cofferdam?

Dyma Is-Asiant Balfour Beatty Aled Hughes sy'n gweithio ar Gynllun Amddiffyn Arfordir Canol Y Rhyl i egluro.

Sir Ddinbych yn ennill yng Ngwobrau Arlwyo Cenedlaethol

Mae aelodau staff y Cyngor wedi cael eu cyhoeddi fel enillwyr yng ngwobrau CAAL Cymru (Cymdeithas Arlwyo Awdurdodau Lleol) eleni, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.

Bu i Oruchwyliwr Arlwyo y Cyngor, Claire Stott, ennill ‘Gwobr Talent Newydd’ am ei gwaith a’i chynnydd ardderchog. Dechreuodd Claire fel Cynorthwy-ydd Arlwyo 7 mlynedd yn ôl ac mae wedi dangos angerdd, penderfyniad a chymhelliant i fanteisio ar yr holl gyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael iddi, yn fewnol a thrwy bartneriaethau allanol i gael y cymwysterau, sgiliau a’r profiad i’w galluogi i gael sawl dyrchafiad.

Bu iddi ddatblygu i fod yn Gogydd Ardal, Cogydd Ysgol Uwchradd ac mae bellach yn Oruchwyliwr Arlwyo Ardal. Mae Claire yn cefnogi’r tîm rheoli arlwyo gyda gweithrediad gwasanaethau arlwyo yng ngogledd Sir Ddinbych o ddydd i ddydd, ac mae’n helpu gyda chyflwyno’r cynllun Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.

Cafodd Shelley Houston, Cogyddes yn Ysgol Emmanuel hefyd ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer ‘Gwobr Seren Ddisglair’ am ei hymrwymiad i’r gwasanaeth prydau ysgol yn Sir Ddinbych. Mae Shelley wedi gweithio fel cogyddes yn y gwasanaeth am 30 mlynedd.

Cafodd Hayley Jones, Prif Reolwr Arlwyo a Glanhau, ei galw i’r llwyfan i dderbyn ‘Gwobr Bwyd mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru’. Cafodd y wobr hon ei chyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych, yn ogystal â nifer o awdurdodau lleol eraill, fel Cydnabyddiaeth am Ragoriaeth am ddarparu’r prosiect Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.

Hayley Jones

Cafodd y wobr hon ei derbyn ar ran pawb yn Sir Ddinbych sydd wedi bod yn rhan o, ac wedi cefnogi’r gwasanaeth Arlwyo.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Hayley: “Roedd yn fraint enfawr cael derbyn y wobr ar ran pawb yn Sir Ddinbych sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod y prosiect a’r gwaith yn cael ei gwblhau ar amser.

"Mae cyflwyno’r prosiect Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd wedi bod yn ymdrech tîm, gyda nifer o adrannau yn rhan ohono i sicrhau bod gan y gwasanaeth y gallu i goginio’r prydau ychwanegol.”

Dywedodd Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol: “Rwy’n falch iawn o weld bod ein staff gweithgar wedi cael eu hanrhydeddu am eu gwaith caled a’u syniadau arloesol, mae’n gwbl haeddiannol.

"Mae’r staff yn gweithio’n ddiflino, llawer y tu ôl i’r llenni, i sicrhau bod ein hadran arlwyo yn rhedeg mor esmwyth â phosibl, a gallaf ond eu canmol am eu gwaith caled. Da iawn i’r rheiny a gyrhaeddodd y rhestr fer ac wrth gwrs i’r enillwyr.”

Mae CAAL - Cymru (Cymdeithas Arlwyo Awdurdodau Lleol) yn gorff proffesiynol a sefydlwyd i gefnogi Arlwywyr Ysgol ar draws y DU.

Cynllun parcio Am Ddim ar ôl Tri

Bydd y Cyngor unwaith eto yn cynnal y cynllun parcio 'Am Ddim ar ôl Tri' yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Bydd meysydd parcio canol trefi sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor yn rhad ac am ddim ar draws y sir bob dydd o 3pm ymlaen tan 31 Rhagfyr i annog mwy o bobl i ddefnyddio eu stryd fawr leol ar gyfer siopa yn y cyfnod cyn y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Mae mwy o wybodaeth ar ba feysydd parcio sydd yn y cynllun 'Am Ddim ar ôl Tri' ar ein gwefan.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: "Mae parcio yn rhad ac am ddim ar ôl tri wedi bod yn boblogaidd yn y blynyddoedd blaenorol oherwydd ei fod yn gynllun gwych sy'n galluogi trigolion i gefnogi eu cymunedau lleol.

"Rydyn ni'n gobeithio bydd pawb yn siopa ar eu stryd fawr er mwyn cefnogi ein busnesau, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac yn manteisio'n llawn ar y cynllun drwy ddefnyddio meysydd parcio canol trefi'r sir yn rhad ac am ddim."

Y wybodaeth ddiweddaraf am Farchnad y Frenhines

Yn dilyn ystyriaeth ofalus a thrafodaeth fanwl, mae'r Cyngor a Mikhail Hotel & Leisure Group wedi cytuno i beidio â bwrw ymlaen â’u partneriaeth arfaethedig ym Marchnad y Frenhines y Rhyl.

Yn dilyn trafodaethau manwl, mae’r ddau barti wedi cytuno na fyddai modd cyflawni cydweledigaeth ar gyfer Marchnad y Frenhines. 

Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn rhoi cynllun newydd ar waith i benodi gweithredwr ar gyfer y cyfleuster, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael am hyn maes o law.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae prosiect Marchnad y Frenhines yn rhan hollbwysig o’r gwaith datblygu parhaus sy’n mynd rhagddo yn y Rhyl, ac mae’r gwaith strwythurol ar yr adeilad yn tynnu tua’r terfyn.

"Bydd Marchnad y Frenhines yn darparu cynnig masnachol unigryw i bobl Sir Ddinbych a thu hwnt ac rydym yn ymrwymo i sicrhau y bydd y prosiect hwn yn darparu’r cynnig a’r canlyniad gorau posibl i bobl y Rhyl. 

"Bydd gwaith yn parhau i gwblhau’r cyfleuster fel y bwriadwyd, ac edrychwn ymlaen at agor Marchnad y Frenhines ar gyfer busnes yn 2024.  

"Hoffem ddiolch i Mikhail Hotel & Leisure Group am eu cydweithrediad ar y prosiect hwn a dymunwn yn dda iddynt i’r dyfodol.”

Dywedodd Andrew Mikhail, Cadeirydd Grŵp Mikhail: “Hoffem ddiolch i’r tîm yng Nghyngor Sir Ddinbych am eu cefnogaeth dros y misoedd diwethaf, gan ein bod wedi mwynhau gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb sydd o fudd i’r ddwy ochr ar gyfer y lleoliad gwych hwn.

"Yn y pen draw, roeddem yn teimlo nad oedd Marchnad y Frenhines yn cyd-fynd â’n model gweithredu. Dymunwn bob llwyddiant i dîm y Cyngor ar gyfer dyfodol prosiect Marchnad y Frenhines.”

 

Dweud eich dweud ar gyllid ar gyfer plismona yng Ngogledd Cymru

Arolwg praesept: mae eich barn yn bwysig i gynorthwyo Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i bennu’r gyllid plismona ar gyfer 2024/25.

Y praesept yw’r rhan o Dreth y Cyngor sy’n talu am blismona yn eich ardal.

Cliciwch ar y ddolen i gwblhau yr arolwg: orlo.uk/Tq3GT

Cyflwynwch eich ymateb erbyn hanner nos ar 7 Ionawr 2024.

Prosiect Ffyniant Bro Rhaeadr y Bedol yn penodi contractwr

Mae'r Cyngor wedi penodi contractwr i ymgymryd â’r gwaith i wella Rhaeadr y Bedol a ariennir gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Yn ystod rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro, bu’r Cyngor yn llwyddiannus yn ei gais ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd – cais a gefnogwyd gan Simon Baynes AS. Sicrhaodd Sir Ddinbych £3.8 miliwn i’w fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llandysilio, Corwen a’r cyffiniau.

Gall preswylwyr disgwyl y gwelliannau canlynol i Faes Parcio Llandysilio yn agos i Raeadr y Bedol:

  • Ailosod wyneb y maes parcio presennol i greu mannau parcio dynodedig.
  • Cloddiad ar gyfer ceubwll newydd i adnewyddu’r hen danc septig presennol.
  • Adnewyddu draeniad budr allanol rhwng tanc newydd a bloc toiledau presennol.
  • Wal gerrig newydd a gwelliannau i gerrig palmant o amgylch y bloc toiledau.

Roedd KM Construction yn llwyddiannus gyda’i gyflwyniad tendr, a bydd gwaith yn cychwyn o 8 Ionawr, 2024 am gyfnod o 8 wythnos (yn dibynnu ar y tywydd).

Bydd y gwaith yn cynnwys rhywfaint o darfu ar y maes parcio, a bydd y bloc toiledau yn cau dros dro i adnewyddu'r draeniad budr a darparu'r palmant newydd o amgylch yr adeilad. Ond, bydd mynediad i gerddwyr at Raeadr y Bedol yn cael ei gynnal drwy gydol y broses adeiladu.

Mae’r ardal wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr dros y blynyddoedd diwethaf, a nod y prosiect hwn yw gwella’r profiad i bawb sy’n ymweld â’r safle.

Darganfyddwch mwy am ein prosiect Cronfa Ffyniant Bro yn Rhaeadr y Bedol ar ein gwefan.

Ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yng nghanol tref y Rhyl.

Mae'r Cyngor a Heddlu Gogledd Cymru yn bwriadu cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) yng Nghanol Dref Y Rhyl ac yn ceisio barn y cyhoedd ar y mater.

Bydd y PSPO hwn yn rhwystro ac yn mynd i’r afael â’r broblem o unigolion a grwpiau yn yfed alcohol ac/neu yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol yng nghanol tref y Rhyl.  Hwn fyddai’r trydydd PSPO sydd wedi’i weithredu yn yr ardal ers 2016.

Tra bo nifer o fesurau yn eu lle i helpu i rwystro ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref y Rhyl,  er enghraifft cyfarfodydd rheolaidd rhwng sefydliadau partner i drafod sut i fynd i’r afael â phroblemau ar y cyd, darpariaeth gwasanaeth ar gyfer y rhai hynny sydd â phroblemau alcohol a Chanolfan Ieuenctid y Rhyl, mae cyfraddau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal dal i fod yn uchel.

Tra byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i atal y materion hyn yn y dyfodol, byddai PSPO yn cynnig teclyn ychwanegol i Heddlu Gogledd Cymru i fynd i’r afael â’r  materion hyn.

Agorodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar borth Sgwrs y Sir y Cyngor o 13 Tachwedd a bydd yn derbyn ymatebion tan 21 Ionawr.

Dywedodd Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas:  ”Rydym yn annog unrhyw un sy’n byw yn y Rhyl neu sydd wedi byw yn yr ardal o’r blaen i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i rannu eu barn ar y mater. 

"Rydym eisiau clywed barn pobl ar effeithlonrwydd PSPO a hefyd os ydynt yn credu bod yr ardaloedd sydd wedi’u henwi yn y gorchymyn arfaethedig yn targedu’r ardaloedd y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio fwyaf arnynt

“Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fater pwysig y mae angen mynd i’r afael ag o yn yr ardal ac rydym yn awyddus i glywed barn pobl ar y mater er mwyn sicrhau bod ein mesurau gwarchod y cyhoedd yn y Rhyl yn addas ar gyfer yr ardal.”

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i wefan Sgwrs y Sir

Fforwm Tenantiaid Preifat Gogledd Cymru Ionawr 2024

Dydd Iau 11 Ionawr 2024, 12pm – 12:30pm

Ydych chi'n rhentu gan landlord preifat neu asiant gosod tai yng Ngogledd Cymru?

Hoffech chi weithio gyda'ch gilydd gyda llunwyr polisi a phenderfyniadau lleol i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed?

Mae 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru yn dod at ei gilydd i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed ar draws y sector rhentu preifat. Rydym yn cynnal fforwm tenantiaid hanner awr amser cinio i glywed eich barn ar yr hyn rydych chi'n meddwl yw'r wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnoch chi fel tenant.

Yr awdurdodau lleol dan sylw yw - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  

Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd dros y flwyddyn ddiwethaf, a byddem wrth ein bodd yn clywed sut y gallwn eich cefnogi chi fel tenantiaid a sicrhau bod gennych y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Mae mwy o wybodaeth ar gwefan TPAS Cymru.
 

Sut mae’r Cyngor yn perfformio?

Mae hi’n amser i chi ddweud eich dweud!

Mae Arolwg Budd-ddeiliad y Cyngor ar gyfer 2023 - 2034 wedi cael ei lansio. 

Rydym eisiau gwybod beth mae preswylwyr, busnesau, staff, aelodau etholedig a phartneriaid Sir Ddinbych yn ei feddwl am y gwaith rydym ni’n ei wneud yma yn y Cyngor.

 Mae’r arolwg yn gyfle gwych i’r Cyngor ddeall a dysgu gan farn pobl eraill, felly gobeithio y gallwch chi ein helpu ni drwy ateb ychydig o gwestiynau.

Mae hefyd yn ffordd wych i chi ddysgu mwy am y themâu sydd yn rhan o Gynllun Corfforaethol presennol y Cyngor. 

I gymryd rhan ac i ddweud eich dweud, llenwch yr arolwg drwy fynd i sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk.

Dyddiad cau: 29 Chwefror 2024

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Borrowbox

Ydych chi wedi darganfod ein gwasanaeth Borrowbox eto?

Cewch fynediad am ddim i filoedd o eLyfrau a llyfrau sain a nawr rydym hefyd yn cynnig detholiad o bapurau newydd. Mae'r papurau newydd ar gael ar y diwrnod cyhoeddi ac yn edrych yn union fel y rhifyn printiedig.

Ymhlith y teitlau mae'r Daily Post, Y Cymro, y Daily Mail, yr Independent a'r Guardian. Lawrlwythwch ap Borrowbox i'ch ffôn neu ddyfais a mewngofnodwch gyda'ch cerdyn llyfrgell a'ch PIN.

Os nad ydych yn aelod o’r llyfrgell gallwch ymuno ar-lein a dechrau darllen ar unwaith. https://denbighshire.borrowbox.com/

Blychau Hel Atgofion

Wyddoch chi y gallwch fenthyg Blychau Hel Atgofion o'ch llyfrgell leol?

Mae’r Blychau Hel Atgofion wedi’u creu gan Making Sense CIO, gyda chyllid Dementia Aware Sir Ddinbych, ac maent yn cynnwys amrywiaeth o wrthrychau sydd wedi’u cynllunio i ddeffro’r synhwyrau, tanio sgyrsiau ac ailgynnau atgofion, ac maent yn ddelfrydol ar gyfer lleoliadau cartref gofal neu grŵp. Mae 5 blwch gwahanol i ddewis ohonynt.

Ail-fyw noson yn y sinema gyda'n hambwrdd tywysydd ym mlwch Sinema'r 1950au. Ail-ymwelwch â meysydd chwarae a dosbarthiadau ysgol y gorffennol gyda blwch Dyddiau Ysgol y 1950au, neu beth am drip i Lan Môr y 1950au. Bydd Sied y 1950au yn mynd â chi’n ôl i dincian yn y sied ac anturiaethau DIY, a bydd Gweithle’r 1950au yn mynd â chi yn ôl i weithleoedd y gorffennol.

Gellir archebu’r blychau a'u danfon i'ch llyfrgell leol i'w casglu, am ddim, a’u benthyg yn union fel llyfr.

Cyllideb

Ein Cyllideb

Y Cyngor Sir yw un o gyflogwyr mwyaf y sir sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r gymuned ac yn cefnogi 95,000 o drigolion. Ei nod yw gweithredu mewn ffordd gynaliadwy er budd hirdymor cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.

Fel pob Awdurdod Lleol ar draws Cymru, mae sefyllfa ariannol y Cyngor yn hynod heriol ar hyn o bryd, ac mae angen am arbedion cyllideb sylweddol yn ddigynsail.

I gael mwy o wybodaeth am pam fod y Cyngor yn gwynebu bwlch ariannu ac hefyd sut yr ydym yn bwriadu cau'r bwlch, ewch i'n gwefan. 

Cefnogaeth i drigolion

Yma i helpu gyda chostau byw

Gall Llywodraeth Cymru ac Advicelink Cymru eich helpu i hawlio eich arian.

Mae angen ychydig o gymorth a chefnogaeth ar bob un ohonom o bryd i’w gilydd, a gyda chostau byw yn cynyddu mae angen cymorth ar lawer o bobl yng Nghymru nawr.

Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth o fewn ei gallu i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

Os nad ydych chi’n siŵr pa gymorth sydd ar gael, gall Advicelink Cymru eich helpu i hawlio eich arian.

Ffoniwch y llinell gymorth ‘Hawlio eich arian’ am gyngor cyfrinachol am ddim ar eich hawl i arian ychwanegol o:

  • Fudd-daliadau llesiant, fel Taliad Annibyniaeth Bersonol, Lwfans Gofalwyr a Chredyd Pensiwn.
  • Cymorth Llywodraeth Cymru.

Gall cynghorydd hefyd drefnu i chi gael cymorth â dyledion a materion ariannol personol.

Pan fyddwch yn cysylltu ag Advicelink Cymru, bydd ymgynghorydd hyfforddedig yn siarad â chi am eich amgylchiadau ac yn eich helpu i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael.

Bydd yr ymgynghorydd yn eich cefnogi drwy gydol y broses hawlio ac yn eich helpu i lenwi unrhyw ffurflenni hawlio.

Gallant hefyd gynghori ar ba dystiolaeth y mae angen i chi ei rhoi i gefnogi’ch cais.

Cysylltwch ag ymgynghorydd heddiw drwy ffonio’r llinell gymorth am ddim ar 0808 250 5700 o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm neu ewch i'w gwefan.

Sir Ddinbych yn Gweithio

Llwyddiant i ddigwyddiad Lles Cyflogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio!

Gwnaeth Sir Ddinbych yn Gweithio gynnal digwyddiad yn Llyfrgell y Rhyl ym mis Tachwedd i arddangos y cymorth lles a chyflogadwyedd sydd ar gael i bobl mewn gwaith, pobl sydd am newid gyrfa neu bobl y mae angen swydd arnynt. 

Roedd ugain o sefydliadau’n bresennol, yn cynnwys Gofalwn Cymru, PSS y DU a Chyngor ar Bopeth, a oedd yn cynnig cyngor yn rhad ac am ddim, ac yn cofrestru preswylwyr ar gyfer y cymorth sydd ar gael iddynt yn rhad ac am ddim.

Gwnaeth Sir Ddinbych yn Gweithio gynllunio’r digwyddiad ar y cyd â Chymru’n Gweithio, a drefnodd hyn yn rhan o gyfres. Gan iddo fod yn llwyddiant ysgubol, mae’r tîm yn edrych ar gynllunio digwyddiad tebyg yn y flwyddyn newydd.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau, cymerwch olwg ar ein calendr - https://www.denjobs.org/cy/

Mentor Sir Ddinbych yn Gweithio

  

Cefnogaeth un-i-un Mentor llawn amser

Beth ydi mentor llawn amser a sut gall fy helpu?

Gall ein mentoriaid profiadol eich helpu chi i oresgyn rhwystrau sydd yn eich atal rhag cyflawni eich dyheadau drwy ddatblygu cynllun gweithredu pwrpasol. Byddan nhw’n cynnig arweiniad a chefnogaeth ar hyd y daith, gan ddal i fyny efo chi’n aml drwy gyfarfodydd un-i-un i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau.

Fel rhan o’ch cynllun gweithredu pwrpasol, bydd ein mentoriaid yn darparu:

  • Mynediad i sesiynau hyfforddiant
  • Cyfleoedd profiad gwaith
  • Cyfleoedd i wirfoddoli
  • Gweithgaredd lles
  • Mynediad at offer TG
  • Dealltwriaeth o’ch hawl i fudd-daliadau a chefnogaeth i wneud cais amdanyn nhw
  • Treuliau teithio *os yw hynny’n rhwystr*

*Os ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol, bydd y gweithgareddau hyn yn eich helpu i gwrdd â’ch Ymrwymiad Hawliwr*

Un-i-Un: Cefnogaeth ‘Untro’

Be’ ydi cefnogaeth ‘untro’?

Pa un ai ydych chi mewn addysg, yn ddi-waith neu’n chwilio am swydd newydd, mae ein sesiynau cefnogaeth ‘untro’ yn gallu’ch helpu chi i oresgyn rhwystr penodol, yn cynnwys:

  • Chwilio am swydd
  • Creu neu ddiweddaru CV
  • Datblygu sgiliau a thechnegau cyfweliad
  • Llenwi ffurflenni cais a chefnogaeth gyffredinol gyda chyflogaeth

Rydym ni’n cynnig y gefnogaeth hon yn rhad ac am ddim bob wythnos yn ein sesiynau galw heibio a gynhelir ar hyd a lled y sir.

Cysylltwch â sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk i ddod o hyd i ddigwyddiad lleol.

Hefyd, mae mwy o wybodaeth yn y fideo byr yma sydd ar Youtube.

Amserlen Gweithdy Recriwtio a Sgiliau

Ffair Swyddi: 24 Ionawr 2024

Dyma i chi ddolen i'r ffurflen archebu ar gyfer y Ffair Swyddi.

Archifdy

Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn lansio podlediad newydd

Logo y podlediad newydd

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn edrych ar adrodd straeon yn ddigidol gyda lansiad ‘Acid Free’ – podlediad newydd sbon, a chyfres o straeon digidol sy’n edrych ar brofiadau bywyd go iawn a themâu o’r casgliadau yn yr archifau.

Bydd y podlediad yn cynnwys archifwyr a gwesteion arbennig, a fydd yn edrych yn fanylach ar y bobl a’r straeon a geir yng nghasgliadau archif lleol Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Cafodd y podlediad a’r cynnwys digidol eu lansio’n swyddogol gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yng nghangen Penarlâg ddydd Gwener 24 Tachwedd.

Enw pennod gyntaf y podlediad ydi 'Oriel y Dihirod: Troseddwyr Oes Fictoria yng Ngogledd Ddwyrain Cymru' ac mae’n cynnwys Richard Ireland (awdur a darlithydd sy’n arbenigo mewn hanes trosedd a chosb). Mae’r bennod hon yn edrych ar fywydau troseddwyr yn Oes Fictoria ac yn trafod y ffotograffau a ddefnyddiwyd gan yr heddlu, y mathau o gosbau a roddwyd a charchardai ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’r gyfres newydd o gynnwys digidol hefyd yn cynnwys straeon digidol sydd wedi’u creu ar y cyd ag ymchwilwyr gwirfoddol o Brifysgol Glyndŵr. Mae’r straeon yn edrych ar fywydau a throseddau David Francis a George Walters, y mae eu lluniau ar gael a chadw mewn cyfrolau rhwymiad lledr yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn Rhuthun.

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae lansiad y podlediad newydd yma gan y Gwasanaeth Archifau a’r cynnwys digidol newydd am ein sir a thu hwnt yn newyddion da.

"Mae gan yr archifau wybodaeth ddiddorol iawn ac mae rhoi bywyd newydd i’r straeon yma yn ffordd wych i drigolion ddysgu am hanes cyfoethog eu hardal.”

Gallwch wrando ar y podlediad ar Spotify.

Gallwch weld y straeon digidol newydd ar dudalennau YouTube y gwasanaeth. 

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Diddordeb yn y grefft o osod gwrychoedd?

Os felly, gwyliwch y clip hwn sy’n cymryd cipolwg ar staff a gwirfoddolwyr yn gosod gwrychoedd yng Ngwarchodfa Natur Rhuddlan yn ddiweddar.

Disgyblion Dinbych yn camu ymlaen i helpu bioamrywiaeth leol i ffynnu

Mae disgyblion cynradd Dinbych wedi rhoi hwb i fioamrywiaeth dôl blodau gwyllt lleol i’r dyfodol.

Bu disgyblion Ysgol y Parc yn brysur yn plannu blodau gwyllt yn nôl Parc Alafowlia.

Treuliodd bron i 50 o ddisgyblion blwyddyn 2 fore gyda thîm Bioamrywiaeth y Cyngor a gwirfoddolwyr eraill, gan helpu i wella’r safle presennol drwy dyfu bron i 1,700 o blanhigion ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy.

Bu disgyblion Ysgol y Parc yn brysur yn plannu blodau gwyllt yn nôl Parc Alafowli.

Dechreuodd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn 2019 ac mae dros 10,000 o blanhigion unigol wedi’u cofnodi yn y safleoedd cysylltiedig i gyd hyd yma.

Mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ledled y sir i blannu plygiau blodau mewn dolydd.

Bydd plannu mwy o flodau’n helpu i greu dolydd mwy lliwgar ac amrywiol a chefnogi mwy ar fioamrywiaeth ein natur a’n cymunedau lleol.

Mae dôl Dinbych eisoes wedi cymryd rhan mewn cynllun llwyddiannus i gyflwyno cribell felen sydd wedi lleihau hyd y glaswellt ar y safle gan alluogi’r planhigion presennol i ffynnu’n gryfach.

Bydd y blodau gwyllt ychwanegol a blannwyd gan y disgyblion yn golygu y bydd mwy o fwyd ar gael yn y ddôl i wenyn a pheillwyr eraill sy’n cefnogi ein cadwyn fwyd. Bydd rhagor o flodau gwyllt hefyd yn cefnogi natur leol drwy ddarparu rhagor o bryfaid i fwydo anifeiliaid megis adar, gan ddarparu bywyd gwyllt i’w fwynhau gan y gymuned ehangach.

Meddai Evie Challinor, Swyddog Bioamrywiaeth: “Roedd yn wych gweithio gyda disgyblion i blannu blodau gwyllt yn y ddôl. Roedd y plant yn hynod frwdfrydig i’n helpu ni i gefnogi natur leol a gobeithiaf y byddant yn dychwelyd i’r safle'r flwyddyn nesaf i weld y twf.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Rwy’n hynod o falch o sut mae disgyblion Ysgol y Parc wedi camu ymlaen i roi cymorth gwerthfawr i’r natur leol sydd ar eu carreg drws.

“Mae ein hecosystemau ar draws Cymru a’r ardal ehangach yn dirywio yn anffodus, ac felly mae’n bwysig ein bod yn ceisio atal hyn a rhoi cyfle i’n plant a’n hwyrion a’n hwyresau i brofi a chefnogi bywyd gwyllt a natur i’r dyfodol… ni ddylen nhw orfod colli allan ar yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd.

“Mae’n braf iawn gweld y disgyblion hyn yn gweithio’n galed i ddysgu am y gefnogaeth sydd ei hangen ar ein natur a gobeithiaf y byddan nhw eu hunain yn falch o’r gwaith y maent wedi’i wneud pan fyddant yn ymweld â’r safle yn y dyfodol.”

Dywedodd Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth gyda'r Cyngor: “Roedd yn bleser cael gweithio gydag Ysgol y Parc ar y prosiect yma. Roedd y plant mor frwdfrydig ac rwy’n gobeithio eu bod yn teimlo perchnogaeth dros y ddôl brydferth hon sydd mor agos i’w hysgol.”

Gwella briddwf coed y sir

Mae gwaith ar y gweill y tu ôl i’r llenni i ymdrin â her yr hinsawdd o wella brigdwf coed y sir.

Disgyblion yn y Rhyl yn creu cynefin i helpu dyfodol natur

Mae ysgol yn y Rhyl wedi helpu i greu ardal newydd i ddiogelu a chefnogi natur leol.

Yn ddiweddar torchodd disgyblion Ysgol Tir Morfa eu llewys i helpu i greu dôl flodau gwyllt newydd ar dir yr ysgol.

Yn ddiweddar torchodd disgyblion Ysgol Tir Morfa eu llewys i helpu i greu dôl flodau gwyllt newydd ar dir yr ysgol.

Mae’r ardal newydd yn rhan o wobr yr ysgol ar ôl iddi ennill cystadleuaeth Cardiau Post o’r Dyfodol y Cyngor lle roedd gofyn i ddisgyblion anfon neges yn ôl drwy amser i’n helpu i ddeall sut i greu gwell dyfodol i ni ein hunain yn ein sir ac ar draws y byd.

Apeliodd Macey, un o ddisgyblion Ysgol Tir Morfa, yn ôl o’r dyfodol i bobl amddiffyn cartrefi anifeiliaid a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Gwobr yr enillwyr oedd detholiad o lyfrau amgylcheddol i’w hysgol, sgwrs gan Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor Sir a chasgliad o blanhigion i’w plannu er mwyn creu neu wella ardal blodau gwyllt.

Ymunodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Ellie Wainwright a’r Ceidwad Cefn Gwlad Cynorthwyol, Amy Baker â myfyrwyr Ysgol Tir Morfa i blannu’r blodau. Tyfwyd y blodau gwyllt ym mhlanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy o hadau a gynaeafwyd o ddolydd y sir, a chanolfan Sgiliau Coetir ym Modfari.

Ers y 1950 mae dros 95 y cant o’n dolydd blodau wedi diflannu. Bydd yr ardal flodau gwyllt sy’n cael ei chreu drwy’r prosiect hwn yn darparu cynefin ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt uwchben ac o dan y ddaear, a bydd y blodau’n ffynhonnell o neithdar ar gyfer peillwyr sy’n dibynnu arnynt am fwyd a datblygiad eu larfâu.

Bydd cyflwyno’r disgyblion i ardaloedd blodau gwyllt yn eu helpu nhw i ddysgu am gylch bywyd planhigion a chynefinoedd pryfed, yn eu cyflwyno i gyfleoedd synhwyraidd a chreadigol ac yn gwneud chwarae allan ym myd natur yn rhywbeth naturiol.

Fel rhan o ymateb y cyngor i ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol, bydd y myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn rhagor o blannu coed a blodau gwyllt ar dir yr ysgol dros y misoedd i ddod fel rhan o’r ymgyrch i hybu bioamrywiaeth a lleihau newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae natur yn dirywio ar draws Cymru felly mae’n bwysig ein bod yn gweithio i stopio hyn gan y bydd yn effeithio arnom ni heddiw ac ar genedlaethau’r dyfodol.

"Mae’n wych gweld y myfyrwyr yn dal i gymryd cymaint o ran mewn helpu natur leol yn y Rhyl, mae’r ffaith eu bod yn cymryd amser i wneud hyn yn ysbrydoliaeth ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut y bydd yr ardal newydd nid yn unig yn helpu rhywogaethau i ffynnu ond hefyd yn hybu lles y disgyblion eu hunain wrth iddyn nhw fwynhau canlyniadau eu gwaith”.

Digwyddiad yn helpu i annog mwy o gydweithio i ymdrin â newid hinsawdd

Bu i dros 50 o bobl ddod i’r digwyddiad Adolygu Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol Cyngor Sir Ddinbych yn Neuadd y Dref Dinbych.

Mae digwyddiad cyhoeddus yn Ninbych wedi helpu i greu syniadau newydd i fynd i’r afael â materion newid hinsawdd sirol.

Bu i dros 50 o bobl ddod i’r digwyddiad Adolygu Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol Cyngor Sir Ddinbych yn Neuadd y Dref Dinbych.

Mae’r Cyngor yn diweddaru eu cynlluniau ar hyn o bryd i ymdrin â’r argyfwng hinsawdd a natur a gyhoeddwyd yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon ei hun.

Bu budd-ddeiliad o’r Sir yn rhannu eu barn ar sut y gall y Cyngor weithio gyda a hefyd cefnogi cymunedau i ostwng carbon, storio carbon, gwytnwch hinsawdd ac adferiad natur leded Sir Ddinbych.

Cafodd y digwyddiad rhyngweithiol ei arwain gan Dr Alan Netherwood o Netherwood Sustainable Futures a Dafydd Thomas o The Wellbeing Planner.

Roedd cynrychiolwyr o Gyfeillion y Ddaear Sir Ddinbych, Caffi Trwsio Rhuthun, Cyngor Tref Dinbych, Cyngor Tref Prestatyn, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Extinction Rebellion, Cyfoeth Naturiol Cymru, Elwy Working Wood, Cyngor Cymuned Nercwys, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru ymysg y rhai oedd yn bresennol.

Roedd themâu a drafodwyd, ar gyfer symud mentrau ymlaen yn y sir i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac amddiffyn natur, yn cynnwys mwy o gydweithio rhwng y Cyngor a budd-ddeiliad eraill i rannu sgiliau i gefnogi mentrau lleol i ddatblygu a chymunedau a chyrff sector cyhoeddus i gydweithio i fynd i’r afael â materion hinsawdd a natur sy’n bresennol ar hyn o bryd ac i addasu i broblemau’r dyfodol sy’n debygol o godi.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roeddwn yn bresennol yn y digwyddiad ac roedd yn braf iawn clywed sgwrs mor fanwl ynglŷn â sut gallwn symud ymlaen trwy weithio gyda chymunedau ledled Sir Ddinbych i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am yr adborth a gawsom yn ystod y sesiwn trwy sianeli eraill i ymdrin â’r materion pwysig hyn gan fod y Cyngor yn awyddus i wrando ar drigolion, grwpiau a chymunedau ledled y sir er mwyn i ni fynd i’r afael â newid hinsawdd gyda’n gilydd i roi gwell cefnogaeth i genedlaethau'r dyfodol yn Sir Ddinbych.”

Bydd gwybodaeth o’r digwyddiad yn ffurfio rhan o Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol y Cyngor a fydd yn arwain gwaith y Cyngor ar weithredu ar hinsawdd ac adferiad natur hyd at 2030. Gallwch glywed y diweddaraf am ein gwaith hinsawdd a natur trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio trwy https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/kms/news.aspx?strTab=PublicEntry

Canolbwynt Cymunedol yn cael help gydag effeithlonrwydd ynni

Ysgol Dyffryn Iâl

Mae Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych wedi helpu canolbwynt cymunedol i fod yn fwy effeithlon o ran ei ddefnydd o ynni.

Gyda chymorth staff y Cyngor mae gwaith wedi’i wneud yn Ysgol Dyffryn Iâl i leihau’r defnydd o ynni a chostau ynni i’r disgyblion ac aelodau'r gymuned sy’n defnyddio’r ysgol a’r neuadd goffa.

Mae Tîm Ynni’r Cyngor yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau a chefnogi gostyngiad mewn costau yn yr hirdymor. Mae’r gwaith hwn yn digwydd yn ystâd adeiladau annomestig y Cyngor sy’n cyfrif am dros 60 y cant o allyriadau carbon y Cyngor.

Mae staff y tîm ynni ar hyn o bryd yn gweithio i wella effeithlonrwydd ac amgylchedd adeiladau’r ysgol drwy orffen y gwaith o osod y panel solar PV 4kw ar y to i ddarparu trydan adnewyddadwy. Bydd goleuadau LED a gwresogydd dŵr pwmp gwres ffynhonnell aer yn cael eu cyflwyno i’r safle yn y flwyddyn newydd er mwyn lleihau defnydd a chostau ynni.

Yn ogystal llwyddodd y gymuned leol i gael cyllid grant ar gyfer y Neuadd Goffa ar safle’r ysgol er mwyn gwneud gwaith effeithlonrwydd ynni ar yr adeilad a ddefnyddir gan drigolion o bob oed.

Wedi clywed bod y gymuned yn buddsoddi mewn gwella’r ganolfan bentref bwysig, helpodd Tîm Ynni’r Cyngor nhw i ddod o hyd i’r system orau iddyn nhw er mwyn sicrhau gostyngiad yn nefnydd a chostau ynni’r adeiladau.

Meddai Robert Jones, y Prif Reolwr Ynni: “Wrth i ni weithio ar Ysgol Dyffryn Iâl, cawsom wybod gan y gymuned am y cynlluniau ar gyfer y Neuadd Goffa sydd ar yr un safle. Cawsom olwg ar y cynlluniau gan eu cynghori i addasu’r manylebau i osod system PV 18kw gyda batri 18kw a fydd yn eu helpu i storio’r ynni ychwanegol a gynhyrchir gan yr haul i helpu i redeg yr adeilad yn fwy effeithlon a lleihau allyriadau carbon.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon a’r defnydd o ynni ar draws ein holl adeiladau drwy ymgymryd â phrosiectau a fydd yn arwain at leihad mewn costau yn yr hirdymor.

“Mae in tîm ynni yn gwneud llawer o waith ar draws cymunedau ac rwy’n hynod o ddiolchgar iddyn nhw am helpu’r canolbwynt cymunedol pwysig hwn i sicrhau fod y gwaith effeithlonrwydd ynni yno o’r math mwyaf priodol."

Dymuniad ar gyfer y Nadolig ..........

Mae’r Nadolig yn amser ar gyfer teulu, ffrindiau a hwyl, ond gall roi straen ar yr amgylchedd hefyd. Wrth i ni i gyd ddechrau cynllunio ar gyfer y diwrnod mawr a dewis anrhegion ar gyfer ein hanwyliaid, mae’n amser da i gadw’r amgylchedd mewn cof.

Mae llawer o fuddion i fod yn gynaliadwy, ac fe allai’r newidiadau syml yma dros gyfnod y Nadolig wneud gwahaniaeth mawr i fynd i'r afael â'r newid hinsawdd a sicrhau ein bod yn amddiffyn ein planed ar gyfer cenedlaethau i ddod. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau mai hwn yw’r Nadolig mwyaf eco-gyfeillgar eto!

Mae’r Tîm Newid Hinsawdd yn barod i’ch helpu i gael Nadolig Eco-gyfeillar! Dyma ein hawgrymiadau gwych:

“O Goeden Hardd a Chynaliadwy .......…”

  • Os nad oes gennych chi goeden artiffisial yn barod, ceisiwch osgoi plastig. Mae coed Nadolig go iawn yn llawer mwy cynaliadwy na rhai artiffisial.  Daeth un astudiaeth i’r casgliad y byddai angen i chi ddefnyddio coeden ffug am 20 mlynedd iddi fod yn fwy “gwyrdd”.
  • Wedi dweud hynny, cofiwch ailgylchu eich coeden go iawn ar ôl cyfnod y Nadolig. Mae tua saith miliwn o goed go iawn yn debygol o gael eu taflu ym mis Ionawr!  Os oes gennych chi gasgliad gwastraff gwyrdd, fe fydd y Cyngor yn casglu eich coeden ac yn ei hailgylchu i chi, ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi. Fe allwch chi drefnu i fynd â’ch coeden i’r gwastraff gwyrdd yn eich depo gwastraff, neu fel arall, gallwch ei thorri i fyny a phentyrru’r coed yn eich gardd er mwyn i’r adar a’r trychfilod eu mwynhau.  
  • Sicrhewch fod eich coeden go iawn yn dod gan werthwr cynaliadwy lleol sy’n cyfrannu at eich ardal leol.

“O Deuwch, Ailgylchwch”

  • Credir fod tua 1.5 biliwn o gardiau Nadolig yn cael eu taflu gan aelwydydd y DU bob blwyddyn (sydd tua 33 miliwn o goed). Beth am anfon e-gerdyn at ffrindiau a theulu eleni? Neu fel arall gallech anfon cardiau Nadolig y gellir eu plannu y gall eich anwyliaid sy’n eu derbyn eu hau yn y gwanwyn a mwynhau llysiau neu flodau gwyllt yn eu gardd y flwyddyn nesaf.
  • Mae calendrau Adfent tafladwy yn cynnwys llawer iawn o blastig ac ychydig iawn o siocled. Mae calendr y mae modd ei ailddefnyddio yn gyfle i chi roi danteithion eich hunain ynddynt a’u defnyddio eto bob blwyddyn.

“Pwy sy’n Dŵad Dros y Bryn”

  • Mae prynu anrhegion rydych chi’n gwybod y bydd pobl yn eu mwynhau a’u defnyddio am gyfnod hir yn ymddangos yn amlwg, ond trwy beidio â phrynu’r anrhegion gwirion nad ydynt yn para ar ôl wythnos y Nadolig, rydych yn arbed gwastraff.
  • Cadwch lygad am siopau a chwmnïau sy’n gwerthu anrhegion ecogyfeillgar. Efallai y gallech chi brynu potel y gellir ei hailddefnyddio, mabwysiadu anifail, prynu aelodaeth ar gyfer yr RSPB neu’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt neu ddod o hyd i anrhegion mwy gwyrdd megis dillad, esgidiau, pethau ymolchi moesegol a llawer o bethau eraill.
  • Siopwch yn lleol! Cefnogwch y siopau annibynnol yn eich ardal leol a lleihau eich ôl troed carbon ar yr un pryd.
  • Beth am gael Nadolig crefftus. Mae anrhegion cartref bob amser yn cael eu croesawu a’u trysori.  Mae torch Nadolig naturiol, danteithion i’w bwyta neu galendr Adfent cartref i’w mwynhau dros y Nadolig yn syniadau carbon isel.  
  • Ceisiwch lapio’r anrhegion gyda phapur wedi’i ailgylchu neu mewn ffabrig lliwgar y gellir ei ailddefnyddio – fe allai hyn fod yn anrheg yn ei hun, yn ogystal ag edrych yn hardd!

“Mae’r Twrci ‘Leni Werth Ei Weld…”

  • Ceisiwch brynu yr hyn rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n eu bwyta’n unig a dewiswch eitemau sydd heb lawer o ddeunydd pacio. Os bydd gennych chi fwyd dros ben, fe ellir eu defnyddio i greu prydau bwyd ar gyfer rhywbryd eto er mwyn arbed arian a lleihau gwastraff.  Mae awgrymiadau sut i siopa a choginio’n gynaliadwy i’w gweld yma https://food-drink.wales/cy/home/.
  • Oes gennych chi westai fegan yn galw? Peidiwch â phoeni, mae llawer o ryseitiau fegan blasus ar gael ar-lein. Beth am roi cynnig ar un fel newid bach?
  • Ceisiwch brynu cynnyrch cig gan siopau cigydd lleol neu’n uniongyrchol gan eich ffermwr lleol er mwyn lleihau nifer y milltiroedd mae eich cig yn teithio a chefnogi busnesau lleol.
    • Y tractor coch – mae’n ardystio Safonau Cynhyrchu Bwyd Prydeinig.
    • Nod LEAF – mae’n dangos bod cynnyrch wedi dod gan ffermwyr sy’n canolbwyntio ar ddulliau ffermio cynaliadwy.
    • Masnach Deg – mae’n mynd i’r afael ag anghyfiawnder trwy sicrhau bod ffermwyr dan anfantais yn ne’r byd yn cael prisiau teg am eu cynnyrch.
    • Organig – gallwch fod yn ffyddiog bod y ffermwr yn dilyn set gaeth o reolau a chanllawiau wrth gynhyrchu bwyd.Mae rhai labeli’n dangos safonau a chynaliadwyedd eich bwyd.

Amser Parti

  • Efallai bod dillad newydd ar gyfer parti Nadolig yn swnio’n gyffrous, ond mae ffasiwn yn cyfrannu at 8-10% o allyriadau carbon byd-eang. Beth am drefnu i gyfnewid dillad gyda ffrindiau neu brynu dillad ail-law, er enghraifft o siopau elusen lleol neu wefannau dillad ail-law fel Vinted? Os byddwch chi’n penderfynu prynu dillad newydd, defnyddiwch siopau sy’n agored o ran sut a lle caiff eu heitemau eu cynhyrchu.

Nadolig Llawen Eco a Blwyddyn Newydd Dda Gynaliadwy i chi i gyd!

Dôl Rhuthun yn gorffen y tymor gyda gwestai newydd

ffwng capiau

Mae rheolwyr dôl Blodau Gwyllt Rhuthun wedi creu'r amgylchedd perffaith ar gyfer preswylydd newydd.

Mae tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych wedi darganfod ychwanegiadau newydd ar ddiwedd tymor 2023 i ddôl blodau gwyllt yn Stryd y Brython.

Dechreuodd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn 2019 ac mae dros 10,000 o blanhigion unigol wedi’u cofnodi ar draws y holl safleoedd cysylltiedig hyd yma.

Mae Stryd y Brython yn un o safleoedd hŷn y prosiect sydd wedi rhoi amser i’r planhigion aeddfedu a thyfu gyda rheolaeth a monitro gan y swyddogion sydd ynghlwm â’r prosiect.

Yn gynharach eleni, yn y cynefin a grëwyd yn y ddôl, darganfuwyd gwenyn turio llwydfelyn yn nythu ar y safle.

Bellach mae nifer o wahanol fathau o ffwng capiau cwyr yn ymddangos.

Mae’r capiau cwyr yn rhywogaethau sy’n dirywio yn sgil eu hoffter am dyfu ar laswelltir heb ei wella a glaswelltiroedd heb ei wella gan amaeth. Mae capiau cwyr yn ffwng siâp cyfarwydd sy’n aml iawn yn lliwgar a gyda chap sy’n edrych yn gwyraidd neu’n llithrig.

Nod rheoli dolydd y Cyngor yw dod a thir cynefin addas yn ôl a gollwyd dros y blynyddoedd, er mwyn cefnogi natur leol a lles y cymunedau amgylchynol trwy roi mwy o gymorth i rywogaethau sydd o dan bwysau i oroesi yn y dyfodol.

Meddai Liam Blazey, Swyddog Bioamrywiaeth: “Mae wedi bod yn wych gweld hyn gan ei fod yn dangos fod y gwaith rheoli rydym yn ei gyflawni yn gwella amrywiaeth y blodau a bioamrywiaeth pridd hefyd. Mae capiau cwyr yn ffwng arbennig iawn, ac rydym yn gyffrous i’w gweld yn ymddangos yn un o’n safleoedd.”

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae’r dolydd y mae ein timoedd Gwasanaethau Stryd a Bioamrywiaeth yn eu creu yn cymryd amser i dyfu ac aeddfedu i gynefin a fydd yn darparu cefnogaeth gref ar gyfer natur leol. Mae Stryd y Brython yn enghraifft gadarnhaol iawn o’r hyn rydym yn ceisio ei wneud a’i roi i’r gymuned yn ein holl safleoedd.

“Mae’r darganfyddiad diweddaraf ar y safle, ynghyd â thyfiant y blodau gwyllt a’r gwenyn turio llwydfelyn, yn awgrym cryf fod rheolaeth y tîm o’r ddôl yn rhoi ail gyfle i rywogaethau sydd o dan fygythiad i ffynnu ymysg ein cymunedau yn y sir.”

Gall drigolion helpu i gefnogi rhywogaethau Capiau Cwyr drwy gymryd rhan yn arolwg Capiau Cwyr Plantlife yma - https://www.plantlife.org.uk/waxcapwatch/

Disgyblion Prestatyn yn plannu blodau gwyllt mewn dôl gymunedol

Ymunodd disgyblion Ysgol Bodnant â thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych i helpu i wella’r ddôl wrth ymyl Gerddi Bastion drwy blannu bron i 4000 o flodau gwyllt ar y safle.

Mae disgyblion ym Mhrestatyn wedi plannu dyfodol gwell ar gyfer cynefin blodau gwyllt cymunedol.

Ymunodd disgyblion Ysgol Bodnant â thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych i helpu i wella’r ddôl wrth ymyl Gerddi Bastion drwy blannu bron i 4000 o flodau gwyllt ar y safle.

Gwnaeth dros 30 o ddisgyblion Blwyddyn 2 dreulio’r prynhawn gyda staff y Cyngor yn ychwanegu’r planhigion ychwanegol i’r safle ac yn dysgu am bwysigrwydd diogelu natur leol ar gyfer y dyfodol.

Dechreuodd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn 2019 ac mae dros 10,000 o blanhigion unigol wedi’u cofnodi yn y safleoedd cysylltiedig i gyd hyd yma.

Mae rhaglen wella ar draws dolydd blodau gwyllt y sir wedi’i chynnal i gefnogi’r gwaith o greu ardaloedd mwy lliwgar a bioamrywiol i natur a chymunedau lleol eu mwynhau.

Mae’r prosiect hwn yn gweithio i helpu i fynd i’r afael â’r ffaith bod y DU wedi colli 97 y cant o’i dolydd blodau gwyllt, sy’n golygu bod bron i 7.5 miliwn o erwau o gynefinoedd wedi’u colli ar gyfer peillwyr pwysig fel gwenyn a glöynnod byw.

Heb y cynefin hwn, byddai cefnogaeth i bryfed, peillwyr byd natur yn llai, a byddai hynny’n effeithio ar ein cadwyn fwyd ni ein hunain.

Gall pridd dolydd blodau gwyllt hefyd atafaelu cymaint o garbon â choetiroedd, gan leihau nwyon tŷ gwydr er mwyn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae’r dolydd blodau gwyllt yn cynnig buddion i bawb, nid byd natur yn unig. Mae’r buddion cymunedol eraill yn cynnwys gwella ansawdd aer, helpu i leihau llifogydd mewn ardaloedd trefol, oeri gwres trefol, helpu lles corfforol a meddyliol a meysydd amrywiol o ddiddordeb o ran addysg a chwarae.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae’n bwysig nodi bod y dolydd blodau gwyllt hyn i bawb eu mwynhau a’u bod nhw’n helpu i greu coridorau sydd wedi’u cysylltu ar gyfer byd natur yn ein hardaloedd trefol fel y lleoliad gwych hwn ym Mhrestatyn.

“Rydym ni’n gwybod bod llawer o'n hysgolion ni’n dilyn y prosiect hwn ac yn cymryd rhan ar eu safleoedd nhw eu hunain i greu ardaloedd gwyrdd bendigedig. Rwy’n ddiolchgar iawn i ddisgyblion Ysgol Bodnant am roi eu cefnogaeth ragorol i helpu i dyfu’r ddôl hon yn ardal wych ar gyfer lles cymunedol a thwf natur lleol.

Mae’r dolydd hyn er lles trigolion a bywyd gwyllt fel ei gilydd i’w mwynhau nawr, ac yn bwysicaf oll, ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o ddisgyblion ein sir sy’n helpu i’w tyfu nhw.”

Myfyrwyr yn Y Rhyl yn helpu i greu cymorth cyfeillgar i wenyn newydd

Yn ddiweddar fe ymunodd tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych â myfyrwyr ôl-16 Ysgol Tir Morfa, i’w helpu i greu ardal newydd o flodau gwyllt a fydd yn addas i wenyn, ar eu safle ar Grange Road.

Mae myfyrwyr yn Y Rhyl wedi torchi’u llawes i roi help llaw i natur yn lleol.

Yn ddiweddar fe ymunodd tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych â myfyrwyr ôl-16 Ysgol Tir Morfa, i’w helpu i greu ardal newydd o flodau gwyllt a fydd yn addas i wenyn, ar eu safle ar Grange Road.

Gyda chefnogaeth eu hathrawon, mae’r myfyrwyr eisoes wedi creu ardal amaethyddol brysur y tu allan i’w hysgol, drwy dyfu llysiau, blodau lluosflwydd a choed ffrwythau.

Bellach, maent wedi ennill statws Cyfeillgar i Wenyn ar y safle drwy ddatblygu ardal blodau gwyllt gyda chymorth tîm Bioamrywiaeth y Cyngor.

Nod cynllun Cyfeillgar i Wenyn Llywodraeth Cymru yw cefnogi adferiad gwenyn a pheillwyr eraill.

Bydd yr holl flodau gwyllt a blannwyd gan y myfyrwyr yn helpu i greu bioamrywiaeth sydd yn fwy lliwgar, yn amrywiol a chryfach o amgylch y safle er mwyn i natur lleol, myfyrwyr a staff ei fwynhau.

Dywedodd Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Rydw i’n falch ein bod wedi gallu ymgysylltu â’r myfyrwyr i greu’r ardal Cyfeillgar i Wenyn yma ar safle’r ysgol, mae’n ymddangos eu bod wedi mwynhau’r diwrnod yn plannu, ac fe fyddant yn gweld yr ardal yn newid ac yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Dwi’n credu ei bod hi’n bwysig iawn creu’r cynefinoedd yma o fewn ysgolion, er mwyn cefnogi poblogaethau o beillwyr a bywyd gwyllt eraill ar draws ein hardaloedd trefol, ac ar gyfer y manteision iechyd meddwl y bydd hyn yn ei gynnig i fyfyrwyr - mae wedi cael ei brofi bod cyn lleied â 5 munud o gyswllt gyda natur yn gwella lles meddyliol. Fe hoffwn i annog ysgolion eraill i gysylltu â ni os hoffen nhw ymgeisio am statws Cyfeillgar i Wenyn, neu gael cyngor o ran sut i gynyddu bioamrywiaeth ar safle eu hysgol.”

Dywedodd disgyblion o’r grŵp a fu’n gweithio ar yr ardal blodau gwyllt: “Fe weithion ni’n galed heddiw ond fe aeth yr amser yn gyflym iawn oherwydd ei bod hi’n hwyl bod yn yr awyr agored a dysgu am yr ardd. Fe wnaethom ddysgu nad ydi blodau gwyllt yn hoffi cael maeth yn y pridd a gobeithio y bydd y blodau yn gwahodd gwenyn a gloÿnnod byw i’r ardd. Rydym ni’n falch iawn o’r gwaith rydym ni wedi’i wneud ac rydym yn mwynhau treulio amser yn yr ardd gan wybod ei fod yn dda i’r amgylchedd.

Dywedodd yr Athrawes, Sara Griffiths: “Mae cael y gefnogaeth yma i blannu gardd blodau gwyllt wedi bod yn gyfle gwych i’n disgyblion ddysgu am fioamrywiaeth, peillwyr a chreu man digynnwrf. Fe wnaethom ni fwynhau creu gardd blodau gwyllt ac rydym ni rŵan yn edrych ymlaen at weld y blodau’n tyfu, gweld y peillwyr a rheoli’r ardal.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Dyma waith gwych gan y myfyrwyr, bydd eu hymdrechion yn wirioneddol helpu natur i dyfu o amgylch safle’r ysgol. Maent wedi creu ardal bioamrywiaeth gwych a fydd yn cefnogi natur i ddod yn ôl i’r ardal leol, a rhoi rhywbeth iddynt fod yn falch ohono pan fyddant yn ei weld yn tyfu ac yn ffynnu.”

Pŵer trydan yn helpu i gefnogi ansawdd bywyd

Mae cerbydau trydan yn rhoi hwb i wasanaeth sy’n helpu pobl o bob oed i fyw eu bywydau i'r eithaf.

Mae Gwasanaeth Offer Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn dwy fan drydan Fiat e-Doblo.

Cynigir offer i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i bobl yn Sir Ddinbych i'w helpu i gynnal eu hiechyd a'u hannibyniaeth.

Gall yr eitemau amrywio o gymhorthion syml ar gyfer bywyd bob dydd i offer mwy cymhleth sy'n cefnogi pobl i aros yn eu cartrefi am gyfnod hwy.

Ymhlith yr eitemau gellir eu darparu mae seddi toiled uchel, fframiau toiledau, cadeiriau cawod, stôl clwydo, trolïau cegin, comodau a chawodydd.

Bydd y cerbydau trydan newydd yn cael eu defnyddio i gludo'r offer ar draws Sir Ddinbych er mwyn cefnogi trigolion y sir i barhau â'u bywydau bob dydd.

Mae’r cerbydau yma wedi cael eu cyflwyno gan adran Fflyd y Cyngor i gymryd lle cerbydau diesel hŷn sydd wedi dod i ddiwedd eu hoes.

Bydd y ddwy fan yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd gyda dim allyriadau o bibellau mwg y ceir, ac yn y tymor hir byddant yn fwy cost effeithiol i'w cynnal a'u cadw na cherbydau tanwydd ffosil.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae’r Cyngor yn gweithio’n galed iawn i leihau ôl troed carbon ein fflyd drwy newid cerbydau tanwydd ffosil gyda cherbydau amgen gwyrddach, os yw’n briodol ar gyfer anghenion cludiant y gwasanaeth.

"Mae'n wych bod y gwasanaeth yn rhedeg y cerbydau hyn nawr gan y bydd eu hallyriadau carbon yn lleihau yn y pen draw wrth iddyn nhw symud yr offer hanfodol hwn o amgylch y sir."

Gofal Cymdeithasol

Sesiynau Realiti Rhithwir yn cael eu cynnig i staff Gofal Cymdeithasol

Fel rhan o wythnos diogelu, roedd aelodau o staff Cyngor Sir Ddinbych yn y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd wedi cymryd rhan mewn sesiynau Realiti Rhithwir unigryw er mwyn trochi eu hunain mewn meysydd fel trawma a diogelu.

Trwy ddechrau ar daith trwy Realiti Rhithwir, bydd ymarferwyr yn profi cyfres o ffilmiau Realiti Rhithwir gan ddilyn bywydau plant a phobl ifanc yn agos o’r cyfnod cyn geni at y glasoed, gan eu helpu i gael dealltwriaeth well o feysydd fel trawma ac esgeulustod a sut gallai hyn gael effaith ar eu bywyd yn nes ymlaen.

clustffonau VR

Mae’r dechnoleg hon yn caniatáu amgylchedd dysgu sy’n trochi a helpu i hyrwyddo dysgu a datblygu, gan gryfhau empathi a chanolbwyntio ar ganlyniadau unigol.

Defnyddir yr hyfforddiant Realiti Rhithwir fel adnodd ymyrraeth hefyd mewn unrhyw gyd-destun diogelu er mwyn gwella bywydau plant a phobl ifanc ac mae’n rhoi safbwynt unigryw i weithwyr proffesiynol, rhieni, gwarcheidwaid neu ddarparwyr gofal o brofiad go iawn rhywun sy’n gweithio i reoli trawma.

Dywedodd Kevin Jarvis, Rheolwr Tîm, Cymorth i Fusnesau: “Mae’r dull unigryw hwn o ddysgu yn seiliedig ar brofiad uniongyrchol o ofal cymdeithasol a’r materion allweddol sy’n wynebu unigolion sydd wedi profi digwyddiadau bywyd trawmatig, ac mae’n boblogaidd gan ymgysylltu pobl a sefydlu fforwm cryf ar gyfer trafodaeth a myfyrdod ar wraidd trawma.

"Yn Sir Ddinbych, rydym yn ystyried defnyddio Realiti Rhithwir fel dull blaengar o ddysgu a datblygu a fydd yn ategu ein modelau darparu presennol a hyrwyddo trafodaeth am sut gallwn ni i gyd fod yn fwy ymwybodol o drawma wrth i ni weithio.”

Dywedodd Laurel Morgan, Rheolwr y Tîm Therapiwtig: “Mae wedi bod yn ddefnyddiol defnyddio Realiti Rhithwir i wella arfer myfyriol, creu rhagor o fewnwelediad a datblygu ein ffordd o feddwl o ran arfer a gaiff ei lywio gan drawma.

"Rydym wedi defnyddio Realiti Rhithwir yn y Gwasanaethau Plant, gydag asiantaethau partner a gyda’r teuluoedd yn Sir Ddinbych.

"Mae wedi bod yn adnodd defnyddiol i hyrwyddo ymgysylltiad a dealltwriaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’n bwysig bod gan ein staff y ddealltwriaeth orau o’u meysydd arbenigol.

"Bydd yr hyfforddiant Realiti Rhithwir hwn yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth staff ymhellach wrth weithio gydag unigolion mwy diamddiffyn, gan helpu i feithrin ymatebion gwell a mwy deallus.”

Cerbydau trydan ar gyfer staff gofal cymdeithasol

Mae'r Cyngor wedi bod yn helpu’r sector gofal cymdeithasol a lleihau ei ôl-troed carbon drwy hwyluso’r defnydd o gerbydau trydan yn ogystal â darparu mynediad at wersi gyrru i staff sy’n darparu gofal yn y cartref.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor erbyn hyn wedi caffael 10 cerbyd trydan sydd ar gael i staff sy’n darparu gofal ac wedi dyfarnu grantiau i ddarparwyr ar gyfer gwersi gyrru.

Yn dilyn proses ymgeisio, mae dau ddarparwr gofal yn y cartref, Co-options a Thŷ Alexandra, wedi cael dau gerbyd trydan ar brydles bum mlynedd heb unrhyw gost. Mae’r Cyngor hefyd wedi rhoi beic trydan i Co-options at ddefnydd staff gofal nad ydyn nhw’n gyrru.

Mae’r cerbydau eraill yn cael eu defnyddio gan staff gofal yn y cartref y Cyngor.

Mae’r cerbydau trydan, yn ogystal â’r grantiau gwersi gyrru sydd wedi’u dyfarnu i staff gofal, yn cefnogi gweithwyr gofal yn y cartref i ddarparu gofal sydd wir ei angen i ddinasyddion y sir.

Cerbydau gofal cymdeithasol

Mae cerbydau fflyd y Cyngor yn cael eu newid am gerbydau trydan wrth iddyn nhw ddod i ddiwedd eu hoes. Maen nhw’n cael eu disodli gan gerbydau sy’n allyrru llai o garbon.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y cerbydau hyn yn helpu’r amgylchedd yn ogystal â helpu’r staff sydd yn eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau pwysig a gofal i bobl Sir Ddinbych.

"Mae’n wych bod darparwyr gofal yn y cartref annibynnol yn cael mynediad at y cerbydau hyn, gan fod defnyddio cerbydau trydan yn helpu i leihau’r carbon sy’n cael ei gynhyrchu.”

Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid hwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru gan fod cludiant dibynadwy ar gyfer ein timau gofal cymdeithasol yn hanfodol.

"Maent yn chwarae rhan enfawr wrth gefnogi a gofalu am y bobl yn ein sir.

"Nid yn unig y mae’r fenter hon yn cefnogi ein cenhadaeth i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i’n cymuned, mae o hefyd yn cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar i’n gwlad sy’n hanfodol.”

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Lansiad llyfr 'Coed yn Ein Tirwedd'

Fe gawsom ni lansiad llwyddiannus iawn o’n llyfr ‘Coed yn Ein Tirwedd’ ym Mhlas Newydd Llangollen diwedd mis Tachwedd.

Yn y digwyddiad fe wnaeth Imogen Hammond drafod yr hyn a wnaeth ei hysbrydoli hi i ysgrifennu’r llyfr a sut wnaeth y tîm gydweithio i ddylunio llyfr sy’n arddangos 20 o goed amlycaf yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

I ddilyn hyn fe gawsom ni daith gerdded o amgylch yr ardd, gan chwilio am goed diddorol ar hyd y daith gyda Lisette Davies, garddwr Plas Newydd.

Cyfarfod y Gaeaf Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Cyfarfod y Gaeaf Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Cefnogwyr, Aelodau Lleol, Cynghorau Tref a Chymuned wedi’i gynnal yn ddiweddar yng Ngholeg Cambria, Llysfasi.  Y tro hwn roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar Goed o fewn tirlun AHNE a Sir Ddinbych.  

Aeth Rheolwr Ardal yr AHNE, David Shiel, ymlaen i egluro bod y Tîm AHNE yn cynnal y cyfarfodydd er mwyn annog a hyrwyddo cyfathrebu ac ymgysylltu â’r Cynghorau Tref a Chymuned o fewn yr AHNE ac amlygu rhywfaint o’r gwaith a oedd yn mynd rhagddo o fewn yr AHNE.

Roedd y noson wedi amlygu rhywfaint o’r gwaith oedd yn cael ei wneud o fewn coetir Loggerheads a Sir Ddinbych a chafodd cyflwyniadau eu  cwblhau ar:

Dywedodd Cadeirydd Partneriaeth yr AHNE, Andrew Worthington MB: "Roedd wedi bod yn noson llawn gwybodaeth ac roedd yn wych gweld coed yr AHNE a Sir Ddinbych yn cael ei drafod a’i ddathlu."  

Cynhelir y cyfarfod nesaf fin nos ar 16 Mai 2024.

 

Cyfarfod Partneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Cynhaliwyd cyfarfod o Bartneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ym mis Hydref yng Goleg Cambria Llysfasi.

Mae’r cyfarfodydd yn dod â phrif fuddiannau ynghyd yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ystyried a chynghori ar gadwraeth a gwella harddwch naturiol a chymeriad nodedig lleol y dirwedd, gan gynnwys ei agweddau ffisegol, ecolegol a diwylliannol.  Mae Partneriaeth AHNE yn adrodd i, ac yn cynghori’r Cyd-bwyllgor o ran datblygu a darparu Cynllun Rheoli AHNE.  

Yn y cyfarfod, cafwyd cyflwyniadau ar:

  • Prosiect Cymunedol Pentre Dŵr - Diwrnod ym Mywyd Ffermwr
  • Dŵr Cymru - • Proseswyr trin dŵr gwastraff a rheoleiddwyr
  • Prosiect Parc Cenedlaethol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru

Dywedodd Cadeirydd y Bartneriaeth, Andrew Worthington OBE bod Partneriaeth yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn bwysig iawn wrth gefnogi gwaith yr AHNE gan eu bod nhw’n darparu arweiniad gan grŵp ymroddgar o aelodau gwirfoddol sy’n cynrychioli amrywiaeth o elfennau o reolaeth cefn gwlad, maen nhw hefyd yn ystyried y ‘Camau Gweithredu' o Gynllun Rheoli’r AHNE.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod o Gydbwyllgor yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth y Cabinet: “Mae hwn yn gyfarfod pwysig a buddiol iawn ar gyfer datblygu’r gwaith o amddiffyn a gwella tirwedd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, diolch i gyfraniad gwych yr aelodau gwirfoddol sy’n ffurfio’r bartneriaeth.”

Dywedodd Swyddog AHNE, Howard Sutcliffe bod gan Bartneriaeth AHNE bob amser awydd clywed gan unrhyw un sydd â diddordeb yn yr AHNE, ac a hoffai ymuno â’r Bartneriaeth.  Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at Karen.Weaver@sirddinbych.gov.uk 

 

O’r chwith Swyddog AHNE, Howard Sutcliffe, Cadeirydd Cydbwyllgor AHNE, y Cynghorydd Dave Hughes (CSFf), Aelod o Gydbwyllgor AHNE y Cynghorydd Emrys Wynne, Cadeirydd Partneriaeth AHNE, Andrew Worthington MBE.

 

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Newyddlen Gwirfoddolwyr y Gogledd

Pwll Brickfields

Mae gwirfoddolwyr wedi clirio’r drain duon a’r mieri ar hyd rhan ddeheuol y llwybr ac wedi agor golygfeydd newydd o’r pwll. Defnyddiwyd y torbrennau i greu tomenni o gynefinoedd newydd i helpu twf bioamrywiaeth. Mae’r gwirfoddolwyr hefyd wedi dechrau clirio ardal newydd ar ochr ogleddol y warchodfa, lle’r oeddem yn arfer gweld llygod pengrwn y dŵr. Maen nhw wedi creu tomenni newydd o gynefinoedd ac yn bwriadu plannu mwy o lystyfiant i helpu’r anifeiliaid bach yma.

Coed y Morfa Iasol

Ddydd Mawrth 31 Hydref, bu’r gwirfoddolwyr yn brysur iawn yng Nghoed y Morfa yn gwneud pryfaid cop dychrynllyd yn defnyddio coed cyll wedi’u bôn-docio. Defnyddiwyd amrywiaeth o offer i siapio’r corff, a defnyddiwyd rhywogaethau eraill i wneud y coesau a’r dannedd. Dull traddodiadol o reoli coetir yw bôn-docio, sef torri coed drosodd a throsodd yn y bôn i greu stôl. Mae’r goeden sy’n tyfu’n ôl yn sythach na’r un wreiddiol a gellir ei chynhaeafu mewn cylch yn dibynnu ar ddefnydd arfaethedig y pren wedyn, gan ddarparu ffynhonnell gynaliadwy o bren. Wedi’u rheoli yn defnyddio’r dull yma, mae coed wedi’u bôn-docio yn gallu byw am gannoedd o flynyddoedd. Credir bod y bisgwydden deilen fach yng Ngardd Goed Genedlaethol y Comisiwn Coedwigaeth yn Westonbirt yn oddeutu 2000 o flynyddoedd oed!

Wrth gwrs, dydi pryfaid cop ddim ar gyfer Calan Gaeaf yn unig. Ceir dros 660 o wahanol fathau o bryfaid cop yn y DU. Mae ganddyn nhw ran bwysig iawn yn yr ecosystem – maen nhw’n bwyta amrywiaeth o bryfed ac yn bryd bwyd i sawl anifail arall. Maen nhw’n bwysig ar gyfer rheoli rhywogaethau pla a chadw’r rhan fwyaf o glefydau dan reolaeth. Bydd gennym ni ychydig o sesiynau crefft / gwaith coed wedi’u hariannu gan Natur Er Budd Iechyd gyda hyn, felly cofiwch wirio’r amserlen a’r calendr gwirfoddoli.

Dulliau cynaliadwy ar Safleoedd Newid Hinsawdd

Fel rhan o’n cynllun i greu coetir byddwn yn plannu coed ar sawl safle newydd yng ngogledd y sir. Wrth blannu coed, yn draddodiadol rydym yn ychwanegu haen o domwellt i ddarparu maetholion ac i ddal lleithder ar gyfer y glasbren. Yn ein hymdrechion parhaus i ganfod ffyrdd mwy eco-gyfeillgar a charbon niwtral o wneud ein gwaith, rydym ni wedi penderfynu defnyddio cnu defaid yn lle tomwellt. Gellir cael gafael ar gnu yn hawdd ac mae’n ddefnydd lleol sy’n rhyddhau nitrogen i’r pridd wrth iddo bydru, a bydd yn ddeunydd da i ddal lleithder yn y pridd o amgylch ein coed. I osod y cnu yn ei le byddwn yn creu pegiau pren syml. Fel y gallwch ddychmygu, bydd arnom ni angen llawer o bobl i’n helpu yn y Willow Collective yn y Rhyl ar 8 Rhagfyr i hogi a chreu’r pegiau.

Y wybodaeth ddiweddaraf am wirfoddoli ar yr arfordir

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn helpu i wella’r arwyddion ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, drwy osod polion a disgiau arwyddion newydd. Ym mis Tachwedd gosodwyd stribedi gwrthlithro ar y llwybr newydd yn Barkby. Rydym ni hefyd wedi bod yn clirio prysg ar dwyni tywod Traeth y Tŵr, Barkby ac ar badog merlod Gronant.

Mae mwy o gyfleoedd arfordirol ar yr amserlen isod.

Amserlen Gwirfoddolwyr y Gogledd - Rhagfyr / Ionawr

MAN CYFARFOD TASG DYDDIAD / AMSER STAFF ARWEINIOL

Pwll Brickfields, Y Rhyl

Gwaith ar y Llwybr Pren Dydd Iau 21 Rhagfyr

Vitor Evora  Vitor.evora@sirddinbych.gov.uk

Maes Parcio Traeth Barkby, Prestatyn Clirio Prysg Dydd Llun, 8 Ionawr              10am - 3pm

Claudia Smith claudia.smith@sirddinbych.gov.uk

Maes Parcio Isaf, Castell Bodelwyddan Creu Blychau Adar Dydd Mercher, 10 Ionawr          10am

Rich Masson richard.masson@sirddinbych.gov.uk

Coed y Morfa, Prestatyn Ffensys Plethwaith Dydd Mawrth, 16 Ionawr        10am - 1pm

Sasha Taylor sasha.taylor@sirddinbych.gov.uk

Pwll Brickfields, Y Rhyl Gwaith ar gynefin - Llygoden bengron y dwr Dydd Iau, 18 Ionawr              10am - 3pm

Vitor Evora vitor.evora@sirddinbych.gov.uk

Maes Parcio Gwarchodfa Natur Rhuddlan Plygu gwrychoedd Dydd Gwener, 19 Ionawr        10am - 3pm

Jim Kilpatrick jim.kilpatrick@sirddinbych.gov.uk

Parc Bruton, Porth Maes Menlli Gosod rheiliau coed llwyf Dydd Mawrth, 23 Ionawr        10am - 3pm

Sasha Taylor sasha.taylor@sirddinbych.gov.uk

Pwll Brickfields, Y Rhyl Plygu gwrychoedd Dydd Iau, 25 Ionawr              10am - 3pm

Vitor Evora vitor.evora@denbighshire.gov.uk

Gât mynediad Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd Plannu gwrych Dydd Gwener, 26 Ionawr        10am - 3pm

Matt Winstanley matt.winstanley@sirddinbych.gov.uk

Priffyrdd

Storm Babet

Yn ystod mis Hydref cyrhaeddodd Storm Babet yn Sir Ddinbych. Y rhagolygon ar gyfer ein hardal ni oedd glaw mawr ac roedd ein swyddogion yn barod am y tywydd drwg, ond o bosibl ddim mor ddrwg ag a gawsom. Roedd yn sicr yn llawer iawn gwlypach nac a ddisgwyliwyd.

Cyn gynted ag yr agorodd y Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid roeddem dan ein sang ag ymholiadau am lifogydd a gylïau, yn ne’r sir i ddechrau ac yna’n raddol wrth i’r dydd fynd yn ei flaen yng ngweddill y sir hefyd. Gweithiodd ein swyddogion yn ddiflino yn ystod y cyfnod 24 awr hwnnw i sicrhau diogelwch ein trigolion a’n ffyrdd gan weithio gydag amrywiaeth o gontractwyr i gwblhau’r gwaith. Y dydd Gwener hwnnw’n unig, cofnodwyd dros 250 o alwadau am lifogydd a gylïau, mwy nag yr ydym fel arfer yn eu cael mewn blwyddyn. Cafodd ardaloedd y Rhyl, Prestatyn, Dyserth a Llanelwy eu heffeithio’n arbennig o ddrwg.

Yr wythnos wedyn dechreuodd y gwaith clirio. Dioddefodd llawer o dai lifogydd ac wrth archwilio’n fwy manwl darganfuwyd bod dŵr wedi llifo i 60 eiddo i gyd, a bron wedi llifo i mewn i nifer fawr o rai eraill. Mae llawer o ddifrod wedi digwydd i’n ffyrdd a’n strwythurau (22 cwlfer a waliau cynnal wedi’u difrodi gyda chostau trwsio o o leiaf £300,000) a malurion y storm wedi’u golchi gan y dŵr i lawer o ardaloedd ac mae’r gwaith glanhau a thrwsio’n dal i fynd yn ei flaen. Mewn rhai ardaloedd rydym wedi gallu cwblhau’r gwaith trwsio/clirio yn barod ond mewn eraill bydd yn cymryd yn hirach yn dibynnu ar gyllid a chynlluniau gwaith eraill sy’n effeithio ar yr ardal.

Mae ar Sir Ddinbych ddyletswydd statudol i ymchwilio i achos yr holl lifogydd mewnol ac mae’r gwaith hwn wedi dechrau mewn cydweithrediad â Chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. Bydd argymhellion ynghylch sut y gellir osgoi pethau fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol yn cael eu gwneud maes o law.

Mae Newid Hinsawdd yn effeithio arnom ac rydym yn profi llawer mwy o stormydd yn yr hydref a’r gaeaf. Mae ein timau’n gweithio’n ddiflino pan fydd hyn yn digwydd a gall fod llawer o alw ar ein hadnoddau felly gofynnwn am eich amynedd yn ystod y cyfnodau hyn.

Os oes gennych bryderon am lifogydd yn eich ardal chi, mae ein manylion cyswllt i’w gweld ar y we-dudalen llifogydd.

Rhaeadr Dyserth
Ffordd y Rhaeadr, Dyserth
Graianrhyd
Llanynys
Y Green, Dinbych
Hen Ffordd Rhyl, Y Rhyl
Llys Ashley, Llanelwy

Pa ffyrdd sy'n cael eu graeanu yn y Sir

Mae'r Cyngor yn graeanu rhai ffyrdd rhag ofn rhew. Mae hyn yn golygu ein bod yn halltu’r ffyrdd naill ai am 6am neu 6pm, fel ein bod yn osgoi amseroedd brig traffig.

Rydym yn rhoi blaenoriaeth i’r mathau hyn o ffyrdd:

  • Prif lwybrau dosbarthedig (ffyrdd A a B)
  • Prif lwybrau bysiau
  • Llwybrau mynediad i ysbytai, ysgolion a mynwentydd
  • Mynediad i wasanaethau’r heddlu, tân, ambiwlans ac achub
  • Prif lwybrau sy'n gwasanaethu pentrefi / cymunedau mawr
  • Prif lwybrau diwydiannol sy'n bwysig i'r economi leol
  • Prif lwybrau mynediad i ardaloedd siopa
  • Ardaloedd lle mae problemau hysbys yn bodoli, fel ardaloedd agored, llethrau serth a ffyrdd eraill sy'n dueddol o rewi.

I fod yn effeithiol, rhaid i’r halen gael ei wasgu gan draffig.

Yn anffodus, mae rhai adegau pan na allwn halltu’r ffyrdd cyn iddi ddechrau rhewi, er enghraifft:

  • Pan fo awyr las yn syth ar ôl glaw, caiff yr halen ei daenu fel arfer ar ôl i’r glaw stopio i’w atal rhag cael ei olchi i ymaith.
  • Mae 'rhew ben bore' yn digwydd ar ffyrdd sych wrth i wlith ben bore syrthio ar ffordd oer a rhewi'n syth. Mae'n amhosibl gwybod yn iawn lle a phryd y bydd hyn yn digwydd.
  • Eira'n syrthio yn ystod oriau brig. Pan fo glaw'n troi'n eira, sy'n gallu digwydd yn ystod oriau brig weithiau, ni all graeanu ddigwydd ben bore, gan y byddai'r glaw yn ei olchi i ffwrdd, a gall fod yn anodd i gerbydau graeanu wneud eu gwaith oherwydd traffig.

Dyma'r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yn siarad am graeanu yn Sir Ddinbych.

Addysg

Darpariaeth Dillad Isaf Mislif ar gyfer Ymarfer Corff am ddim

Mae'r Cyngor, drwy grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, wedi sicrhau cyllid i ddarparu dillad isaf mislif ar gyfer ymarfer corff i’w defnyddio gan breswylwyr yn rhad ac am ddim.

Gan weithio gyda’r darparwr Hey Girls, mae 100 o dalebau ar gael i’w hawlio ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o gyhoeddi mwy yn ddibynnol ar y galw.

Mae’r Cyngor hefyd yn cydweithio gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf (HSDd) gan y bydd y cynnig yn cael ei hyrwyddo i bob aelod a defnyddiwr gwasanaeth HSDd.

Gellir gwisgo’r dillad isaf mislif ar gyfer ymarfer corff am hyd at 12 awr ac mae ganddynt nodweddion amsugno lleithder er mwyn sicrhau eu bod yn gyfforddus i’r sawl sy’n eu gwisgo.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol: “Bydd y cynnig hwn yn sicrhau fod y cynnyrch hanfodol hwn ar gael am ddim i’r rheiny sydd eu hangen yn ystod gweithgareddau chwaraeon.

"Bydd hyn yn lleddfu pryderon ac yn rhoi hwb i hyder y rheiny sydd eu hangen, ac mae’n bleser gweld eu bod ar gael ac yn hygyrch.”

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd: “Bydd HSDd yn cefnogi Cyngor Sir Ddinbych â’r prosiect pwysig hwn, nid yn unig drwy hyrwyddo’r talebau i’n haelodau a’n cwsmeriaid, ond hefyd drwy rannu’r neges â chlybiau a phartneriaid lleol drwy ein tîm Cymunedau Bywiog.

"Mae trechu tlodi mislif drwy godi ymwybyddiaeth a darparu mynediad at gynnyrch o ansawdd uchel yn nod gwerthfawr, ac mae’n bleser gennym fod ynghlwm â’r fenter hon.”

Gall cyfranogwyr gofrestru ar gyfer taleb drwy mynd i'r ddolen urddas mislif.

Ydych chi erioed wedi meddwl am fod yn llywodraethwr ysgol?

Mae llywodraethwyr ysgolion yn gweithio i gynllunio cyfeiriad strategol yr ysgol, goruchwylio cyllidebau, a chefnogi a herio'r pennaeth. Fel rhan o'r bwrdd llywodraethu, mae llywodraethwyr yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu ysgolion i redeg yn effeithlon ac yn effeithiol er mwyn rhoi'r addysg orau bosibl i blant.

Mae ysgolion sydd â byrddau llywodraethu cryf mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar yr addysg maen nhw'n ei darparu ar gyfer eu disgyblion.

Os ydych yn meddwl bod gennych yr ymrwymiad a'r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth, yna cofrestrwch eich diddordeb ar ein gwefan.  

Siopa'n Lleol: #CaruBusnesauLleol

Mae ymgyrch #CaruBusnesauLleol yn ôl ar gyfer 2023!

Rydym ni’n annog preswylwyr Sir Ddinbych i gefnogi ein busnesau lleol a’n masnachwyr unwaith eto’r gaeaf hwn. Yn hytrach na gofyn i breselwyr ‘gefnogi’n lleol’, nod yr ymgyrch ‘Caru Busnesau Lleol’ yw amlygu a chyflwyno’r cyfoeth o fusnesau, nwyddau a gwasanaethau sydd gan Sir Ddinbych i’w cynnig.

Picture of Prestatyn high street.

Nid yw gofyn i bobl siopa a chefnogi eu busnesau lleol yn rhywbeth newydd. Mae’r ymgyrch #carubusnesaulleol bob amser yn gyfle gwych i’n hatgoffa ni o’r cynigion ardderchog sydd gennym ni’n lleol, ond mae’r ymgyrch yn arbennig o berthnasol eleni.

Gall siopa’n lleol fod o fudd i ni i gyd trwy leihau faint o danwydd sydd ei angen arnom i bwmpio i mewn i’n ceir ar gyfer teithiau hirach. Nid yn unig y gall hyn arbed ychydig bunnoedd gwerthfawr i siopwyr, mae hefyd yn siopa mwy cynaliadwy, gyda phobl leol yn siopa'n lleol gan fusnesau lleol. Gall y rhai sy’n dewis siopa’n lleol hefyd elwa ar y cynllun parcio ‘Am Ddim ar ôl Tri’ a fydd yn rhedeg tan 31 Rhagfyr.

Nod yr ymgyrch yw annog pobl i wario eu harian yn Sir Ddinbych, wrth annog siopwyr a busnesau i ddefnyddio eu sianeli cyfryngau cymdeithasol i rannu eu profiadau cadarnhaol gan ddefnyddio’r hashnod #carubusnesaulleol.

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd asedau cyfryngau cymdeithasol ar gael i fasnachwyr i helpu i hyrwyddo eu busnesau ar-lein – po fwyaf o bobl sydd allan yn gwneud eu siopa, ac yn dweud wrth bawb amdano, gorau oll fydd yr awyrgylch i bawb wrth i’r Nadolig agosáu.

Caiff preswylwyr hefyd eu hannog i ymweld â digwyddiadau Nadoligaidd eraill yng nghanol eu trefi lleol, fel troi goleuadau Nadolig ymlaen, gwasanaethau carolau cymunedol a marchnadoedd artisan.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Pwrpas yr ymgyrch ydi atgoffa pobl am yr holl fusnesau gwych sydd gennym ni yn Sir Ddinbych, a’u hannog nhw i siopa a defnyddio gwasanaethau’n lleol lle bo modd er mwyn sicrhau bod economi Sir Ddinbych yn ffynnu ac ein bod ni’n lleihau ein hôl-troed carbon.

“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i fusnesau ac mae amseroedd heriol i ddod, ond mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan i gefnogi ein heconomi leol.

“Rydym ni’n credu ei bod hi’n bwysicach nag erioed hybu neges #carubusnesaulleol i’n trigolion ac atgoffa pawb bod llawer o siopau yn ein trefi a’n pentrefi sy’n cynnig ystod eang o gynnyrch, o fwyd a diod i harddwch a ffasiwn, o gelf a chrefft i wasanaethau proffesiynol.

“Bydd mynd am dro i’n trefi a’n pentrefi’n datgelu trysorau cudd ac yn aml iawn byddwch chi’n dod o hyd i roddion anhygoel i’ch anwyliaid. Rydym ni eisiau helpu busnesau i ddangos eu cynnyrch, annog pobl i fynd atynt a chyffroi a syfrdanu cwsmeriaid ynglŷn â’r hyn sydd ar gael”.

Pan fydd y Nadolig a’r sêls wedi bod, beth am wneud addewid blwyddyn newydd i barhau i ymweld â’r stryd fawr leol yn 2023 a thu hwnt?

Gallwch gymryd rhan drwy fynd i'r dudalen Caru Busnesau Lleol ar ein gwefan.

Tai Sir Ddinbych

Gwaith wedi’i gwblhau ar effeithlonrwydd ynni cartrefi yn y Rhyl

Mae gwaith effeithlonrwydd ynni wedi cael ei gwblhau ar 41 o gartrefi Cyngor yn Y Rhyl.

Mae gwaith wedi dod i ben ar gymal dau o welliannau ynni sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ar eiddo Tai Sir Ddinbych yn Rhydwen Drive, Y Rhyl.

Mae paneli solar wedi cael eu gosod i gynhyrchu trydan sydd yn cael ei storio mewn batris sydd wedi’u gosod yn y cartrefi er mwyn gallu defnyddio ynni min nos.

Yn ogystal, mae gwaith insiwleiddiad i waliau allanol wedi cael ei gynnal i gefnogi’r gwaith o leihau drafft a’r ynni sydd ei angen i gynhesu cartrefi, yn enwedig yn ystod y gaeaf.

Ar ôl cwblhau cymal dau, mae cyfanswm o 96 eiddo Tai Sir Ddinbych ar Rhydwen Drive wedi cael gwelliannau effeithlonrwydd ynni.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Rydym ni’n falch o weld bod cam dau y prosiect i wella effeithlonrwydd ynni i 41 o gartrefi ar Rhydwen Drive wedi cael ei gwblhau.

“Roeddwn i’n falch o ymweld â Rhydwen Drive yn ddiweddar a chyfarfod rhai o’r tenantiaid sydd yn byw yn rhai o’r cartrefi lle bu’r gwaith.

"Roeddwn nhw’n falch iawn gydag ymddangosiad eu cartrefi a gyda’r effaith roedd y paneli solar ac insiwleiddiad ychwanegol yn ei gael i leihau eu biliau tanwydd mewn cyfnod o gostau ynni uchel.”

Treftadaeth

Podlediad newydd yn archwilio hanes Castell Dinas Brân wedi'i lansio

Mae cyfres newydd o straeon wedi’u creu gan Sarah Baylis a’u cynhyrchu gan Sally Harrison dan y teitl - ‘Capturing the Castle: A Journey Through Time.’

Mae’r podlediad yn mynd â gwrandawyr am dro gyda Sarah, o Bont Llangollen at gopa Castell Dinas Brân, gan gerdded gyda’r nifer o ‘ysbrydion’ sydd wedi bod ar yr un daith dros y 200 mlynedd diwethaf.

Cerdyn post sy’n dangos Castell Dinas Brân, Llangollen, gan gynnwys y camera obscura a’r ystafell de.

Llun drwy garedigrwydd Amgueddfa Llangollen

Mae eu geiriau - dyfyniadau o lythyrau, teithlyfrau, papurau newydd, barddoniaeth a chân - wedi’u lleisio gan bobl leol a ymatebodd i alwad am gyfranwyr i ddarllen straeon y cymeriadau hanesyddol. Mae aelodau’r gymuned yn cymryd rhan hefyd, gan roi safbwynt modern o’r Castell gan bobl leol ac ymwelwyr. Mae’r recordiad yn cynnwys perfformiad o gerddoriaeth draddodiadol ar y delyn gan Tom Parry, a’r faled werin Fictoraidd, ‘Jenny Jones’, wedi’i chanu gan Jennie Coates.

Wedi’i osod dros amser, mae’r lleisiau amrywiol hyn yn cofnodi hanes y Castell - yn adrodd ei hanes o wahanol safbwyntiau, ac yn darparu sylwebaeth sy’n newid ar y tirlun darluniadwy a thwf twristiaeth hyd heddiw yn Nyffryn Dyfrdwy.

Yn ddiweddar, cafodd y recordiad 48 munud ei gynnwys yn arddangosfa gyffrous Dyffryn Dyfrdwy | Dee Valley yn Oriel Dory yn Llangollen, lle cafodd ei ail-chwarae mewn cornel fechan o’r oriel, ynghyd â chardiau post hanesyddol o’r ardal. Ar ôl yr arddangosfa, mae wedi bod ar gael fel podlediad ar Soundcloud ac ar wefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Gallwch wrando ar y podlediad 'Capturing the Castle' (gwefan allanol). Mae hefyd wedi’i gynnwys mewn arddangosfa barhaus yn Amgueddfa Llangollen.

Mae’r prosiect hanes clywedol wedi’i gomisiynu gan brosiect Ein Tirlun Darluniadwy, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dywedodd Hannah Marubbi, Swyddog Partneriaeth ar gyfer prosiect Ein Tirlun Darluniadwy: “Rydym yn falch iawn o rannu’r podlediad newydd rhyfeddol hwn, sy’n adrodd hanes un o’r strwythurau mwyaf eiconig yn Nyffryn Dyfrdwy mewn modd creadigol, sydd wedi bod yn denu ac ysbrydoli pobl leol ac ymwelwyr ers canrifoedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth y Cyngor: “Mae’n wych gweld hanes Castell Dinas Brân yn cael ei rannu mewn ffordd mor wych; mae’n ddull arloesol iawn o rannu stori’r castell.

"Rydym hefyd wrth ein boddau bod aelodau’r gymuned leol wedi gallu bod yn rhan o’r prosiect hwn, gan roi cyfle iddynt hyrwyddo eu hardal leol a dathlu eu treftadaeth.”

Nodweddion Nadolig

Asiantaeth Safonau Bwyd: Awgrymiadau Bwyd Nadoligaidd

Chwilio am rywle i gael pryd o fwyd dros y Nadolig gyda’r teulu neu ffrindiau? Cofiwch wirio’r sgôr hylendid bwyd cyn neilltuo bwrdd:


5 = mae’r safonau hylendid yn dda iawn
4 = mae’r safonau hylendid yn dda
3 = mae’r safonau hylendid yn foddhaol ar y cyfan
2 = mae angen gwella
1 = mae angen gwella’n sylweddol
0️ = mae angen gwella ar frys

Chwiliwch am Sgoriau Hylendid Bwyd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd https://ratings.food.gov.uk/cy

Mae llawer o wybodaeth ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar yr holl bynciau isod:

Dadmer eich twrci
Gair i gall ar goginio eich twrci
Rheoli eich oergell
Coginio eich prydau ochr yn y ffrïwr aer
Coginio ar gyfer gwesteion sydd ag alergeddau
Cynnal Parti Nadolig – Neges Listeria
Bwyd dros ben a Listeria
Bwyd dros ben
Cynnal parti ar gyfer Nos Galan

#DoligDiogel

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid