Llwyddiant i ddigwyddiad Lles Cyflogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio!

Gwnaeth Sir Ddinbych yn Gweithio gynnal digwyddiad yn Llyfrgell y Rhyl ym mis Tachwedd i arddangos y cymorth lles a chyflogadwyedd sydd ar gael i bobl mewn gwaith, pobl sydd am newid gyrfa neu bobl y mae angen swydd arnynt.

Roedd ugain o sefydliadau’n bresennol, yn cynnwys Gofalwn Cymru, PSS y DU a Chyngor ar Bopeth, a oedd yn cynnig cyngor yn rhad ac am ddim, ac yn cofrestru preswylwyr ar gyfer y cymorth sydd ar gael iddynt yn rhad ac am ddim.
Gwnaeth Sir Ddinbych yn Gweithio gynllunio’r digwyddiad ar y cyd â Chymru’n Gweithio, a drefnodd hyn yn rhan o gyfres. Gan iddo fod yn llwyddiant ysgubol, mae’r tîm yn edrych ar gynllunio digwyddiad tebyg yn y flwyddyn newydd.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau, cymerwch olwg ar ein calendr - https://www.denjobs.org/cy/

Mentor Sir Ddinbych yn Gweithio
Cefnogaeth un-i-un Mentor llawn amser
Beth ydi mentor llawn amser a sut gall fy helpu?
Gall ein mentoriaid profiadol eich helpu chi i oresgyn rhwystrau sydd yn eich atal rhag cyflawni eich dyheadau drwy ddatblygu cynllun gweithredu pwrpasol. Byddan nhw’n cynnig arweiniad a chefnogaeth ar hyd y daith, gan ddal i fyny efo chi’n aml drwy gyfarfodydd un-i-un i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau.
Fel rhan o’ch cynllun gweithredu pwrpasol, bydd ein mentoriaid yn darparu:
- Mynediad i sesiynau hyfforddiant
- Cyfleoedd profiad gwaith
- Cyfleoedd i wirfoddoli
- Gweithgaredd lles
- Mynediad at offer TG
- Dealltwriaeth o’ch hawl i fudd-daliadau a chefnogaeth i wneud cais amdanyn nhw
- Treuliau teithio *os yw hynny’n rhwystr*
*Os ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol, bydd y gweithgareddau hyn yn eich helpu i gwrdd â’ch Ymrwymiad Hawliwr*
Un-i-Un: Cefnogaeth ‘Untro’
Be’ ydi cefnogaeth ‘untro’?
Pa un ai ydych chi mewn addysg, yn ddi-waith neu’n chwilio am swydd newydd, mae ein sesiynau cefnogaeth ‘untro’ yn gallu’ch helpu chi i oresgyn rhwystr penodol, yn cynnwys:
- Chwilio am swydd
- Creu neu ddiweddaru CV
- Datblygu sgiliau a thechnegau cyfweliad
- Llenwi ffurflenni cais a chefnogaeth gyffredinol gyda chyflogaeth
Rydym ni’n cynnig y gefnogaeth hon yn rhad ac am ddim bob wythnos yn ein sesiynau galw heibio a gynhelir ar hyd a lled y sir.
Cysylltwch â sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk i ddod o hyd i ddigwyddiad lleol.
Hefyd, mae mwy o wybodaeth yn y fideo byr yma sydd ar Youtube.

Ffair Swyddi: 24 Ionawr 2024

Dyma i chi ddolen i'r ffurflen archebu ar gyfer y Ffair Swyddi.