Cefnogi preswylwyr i gael mynediad at £712,000 mewn ymgyrch fudd-daliadau benodol
Mae pensiynwyr ar draws Sir Ddinbych wedi ennill dros £712,000 mewn budd-daliadau heb eu hawlio yn ystod 2024. Mae'r Cyngor wedi bod yn cynnal ymgyrch i annog pensiynwyr i gael gwybod am y Credyd Pensiwn y gallent fod yn colli allan arno, gyda phreswylwyr yn cael eu cefnogi gan Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i helpu gyda cheisiadau a chynnal gwiriadau uchafu incwm.
Hyd yn hyn, mae 98 o drigolion wedi elwa, gyda £152,741 o hawliadau Credyd Pensiwn, fodd bynnag, mae budd-daliadau eraill gan gynnwys Lwfans Gweini, Gostyngiad Treth y Cyngor, Pensiwn y Wladwriaeth, Budd-dal Tai, Cyngor Ynni, a Taliad Annibyniaeth Bersonol, hefyd wedi'u nodi o ganlyniad i wiriadau budd-daliadau llawn.
Mae pensiynwyr ar incwm isel yn cael eu hannog i wneud cais am Gredyd Pensiwn cyn y dyddiad cau ar 21 Rhagfyr i dderbyn y Taliad Tanwydd y Gaeaf. Gwerth y Taliad Tanwydd Gaeaf yw £200 ar gyfer pobl a anwyd rhwng 23 Medi 1944 a 22 Medi 1958, a £300 ar gyfer y rhai a anwyd cyn 23 Medi 1944 yn ogystal ag unrhyw ôl-ddyledion Credyd Pensiwn sydd wedi'u hôl-ddyddio lle bo'n berthnasol.
Mae Credyd Pensiwn yn darparu cymorth hanfodol i bobl hŷn ar incwm isel, gan ychwanegu at eu hincwm i isafswm o £218.15 yr wythnos i bobl sengl neu £332.95 i gyplau. Mae mwy o bobl yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y budd-dal, sy’n werth ar gyfartaledd, £3,900 y flwyddyn ac yn datgloi cymorth ychwanegol gan gynnwys Treth y Cyngor, gofal iechyd ac os ydych yn 75 oed neu’n hŷn, trwydded deledu am ddim. Amcangyfrifir bod tua £117m mewn Credyd Pensiwn yn unig yn mynd heb ei hawlio bob blwyddyn yng Nghymru.
Mae dau lythyr eisoes wedi’u hanfon at bensiynwyr lleol gan Gyngor Sir Ddinbych i amlygu’r cymorth sydd ar gael ac annog ceisiadau yn ogystal â galwadau ffôn dilynol ac ymgysylltu â phartneriaethau.
Dywedodd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y Cyngor:
“Rwy’n falch iawn bod yr ymgyrch wedi arwain at nodi miloedd o bunnoedd o fudd-daliadau heb eu hawlio i helpu pensiynwyr yn Sir Ddinbych. Trwy ddata rhagweithiol ac ymgyrchoedd, rydym yn helpu mwy o bobl i gael mynediad at yr arian y mae ganddynt hawl iddo, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i aelwydydd.
Mae hawlio Credyd Pensiwn yn bwysig oherwydd ei fod yn gweithredu fel porth i hawliau eraill. Efallai mai ychydig o bunnoedd yn unig y gall rhai pobl ei hawlio mewn Credyd Pensiwn, felly gall deimlo nad yw’n werth ei hawlio, ond dylent ystyried y darlun ehangach gan ei fod yn agor y drws i lawer mwy o gymorth gan gynnwys y Taliad Tanwydd y Gaeaf.
Dywedodd Julie Pierce, Prif Swyddog Dros Dro Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych:
“Rydym yn falch iawn bod yr ymgyrch wedi helpu cymaint o bensiynwyr ar draws y sir. Mae llawer o bobl yn poeni’n fawr am eu biliau gwresogi yr adeg hon o’r flwyddyn, felly byddwn yn annog pensiynwyr i gysylltu â Chyngor ar Bopeth i ofyn am gymorth cyn 21 Rhagfyr.
Mae’r ymgyrch wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sefydlogrwydd ariannol pobl, gan arwain at welliannau mewn iechyd a lles meddwl. Ymwelodd un preswylydd â'n swyddfa i weld a allai fod yn gymwys i gael unrhyw gymorth ychwanegol. Dangosodd gwiriad budd-daliadau y gallai fod â hawl i Gredyd Pensiwn, Budd-dal Tai, a Gostyngiad Treth y Cyngor. Galwodd Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych linell hawlio Credyd Pensiwn a helpu gyda'i gais. Fodd bynnag, yn ystod y gwiriad cymhwyster, darganfuwyd bod ganddo bensiwn preifat heb ei hawlio nad oedd yn ymwybodol ohono. Darganfu fod ganddo gyfandaliad pensiwn preifat o ychydig o dan £60k a phensiwn blynyddol o £11k. Yn amlwg roedd hyn yn golygu nad oedd bellach yn gymwys ar gyfer unrhyw fudd-daliadau prawf modd, ond roedd wrth ei fodd gyda’r canlyniad.”
Gallwch ddarganfod a ydych yn gymwys am Gredyd Pensiwn a’r swm y gallech ei hawlio gan ddefnyddio’r cyfrifiannell pensiwn - www.gov.uk/cyfrifiannell-credyd-pensiwn. Os ydych yn ansicr o ran eich cymhwysedd, neu os hoffech help a chymorth gyda’ch cais, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar 01745 346 775 neu www.cadenbighshire.co.uk/hafan. Fel arall, gellir gwneud hawliadau ar-lein ar www.gov.uk/credyd-pensiwn neu drwy ffonio llinell hawlio Rhadffôn Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234.