Edrych yn ôl ar chwe mis cyntaf y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd
Mae Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaeth: Priffyrdd ac Amgylcheddol, yn edrych nôl ar y chwe mis diwethaf ers cyflwyno’r gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd. Mae hefyd yn asesu’r sefyllfa bresennol ac yn egluro sut mae’r gwasanaeth yn ymdrechu i wneud gwelliannau wrth symud ymlaen.
Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth berthnasol am y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu ar wefan y Cyngor ar www.sirddinbych.gov.uk/ailgylchu.
Dyddiadau Casglu Gwastraff dros y Nadolig
Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd eleni gwneir y newidiadau canlynol i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu:
Casgliadau gwastraff cartref (ailgylchu, bwyd, NHA, gwastraff na ellir ei ailgylchu, gwastraff gardd)
- Caiff casgliadau gwastraff cartref dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024 eu casglu ddydd Sadwrn 28 Rhagfyr 2024
- Caiff casgliadau gwastraff cartref dydd Mercher 1 Ionawr 2025 eu casglu ddydd Sadwrn 4 Ionawr 2025
- Byddwn yn parhau i gasglu ar ddydd Iau, 26 Rhagfyr, a bydd yr holl gasgliadau gwastraff cartref eraill yn digwydd fel arfer. Gofynnir yn garedig i drigolion sicrhau bod cynwysyddion allan erbyn 6.30am ar y diwrnod casglu.
Casgliadau gwastraff ac ailgylchu masnachol
- Bydd casgliadau gwastraff masnachol ar gyfer dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024 yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 28 Rhagfyr 2024
- Bydd casgliadau gwastraff masnachol ar gyfer dydd Mercher 1 Ionawr 2025 yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 4 Ionawr 2025
- Bydd pob casgliad gwastraff masnachol arall yn dilyn y patrwm arferol
Casgliadau eitemau swmpus
Gan fod CAD, y cwmni sy’n gweithredu’r gwasanaeth casgliadau eitemau swmpus ar ran y Cyngor, yn cau dros gyfnod y Nadolig, ni fydd unrhyw gasgliadau eitemau swmpus rhwng dydd Gwener 20 Rhagfyr a dydd Llun 6 Ionawr. Bydd trigolion yn dal i allu neilltuo slot casglu yn ystod yr amser hwn a bydd casgliadau yn ailddechrau o 6 Ionawr.
Yn ystod y cyfnod hwn, gall trigolion neilltuo lle i ymweld â’n parciau gwastraff ac ailgylchu. Mae manylion am yr hyn a dderbynnir yn ein parciau gwastraff ac ailgylchu ar gael ar ein gwefan.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant: “Gall cyfnod y Nadolig olygu llawer o wastraff ac ailgylchu gan ei fod yn amser i ni i gyd ddathlu. O bapur lapio i boteli, mae llawer o eitemau ychwanegol y mae ein timau gwastraff ardderchog yn eu casglu dros gyfnod y Nadolig. Rydym yn ddiolchgar i breswylwyr am ddeall y newidiadau hyn, a diolch am eu cydweithrediad.”
Mae gwybodaeth fanwl am drefniadau dros y Nadolig a’r Flwyddyn newydd ar wefan y Cyngor ar ein gwefan.
Hefyd, gall drigolion wirio sut i ailgylchu ystod eang o eitemau ar y canllaw ailgylchu A-Y arlein ar ein gwefan.
Sut i ailgylchu dros y Nadolig
Gyda’r Nadolig yn agosáu, fe fydd nifer o aelwydydd yn Sir Ddinbych yn brysur yn lapio anrhegion ac yn addurno’r tŷ.
Wrth gynllunio i brynu nwyddau hanfodol y Nadolig hwn, mae’n bwysig ystyried a oes modd eu hailgylchu neu beidio. Dyma restr o eitemau allweddol a’r cyfarwyddiadau ar sut i’w ailgylchu:
Papur swigod plastig
- Nid oes posib’ ailgylchu papur swigod plastig. Rhowch o yn y bin gwastraff cyffredinol neu ei ailddefnyddio i lapio pethau gwerthfawr sy’n cael eu storio neu eu postio.
Tâp
- Nid oes modd ailgylchu tap du/llwyd, tap trydanol, selotep, tap masgio na thâp parseli. Rhowch nhw yn y bin gwastraff cyffredinol.
Addurniadau Nadolig
- Gall addurniadau Nadolig gael eu defnyddio droeon neu eu rhoi i siopau elusen lleol neu ysgolion ar gyfer sesiynau crefft. Dylai unrhyw addurniadau sy’n anaddas i’w hailddefnyddio gael eu rhoi yn y bin gwastraff cyffredinol.
Papur lapio
- Nid oes posib’ ailgylchu papur lapio sydd â gliter a phlastig arno. Mae’n rhaid iddo fynd i’r bin gwastraff cyffredinol.
- Ailgylchwch bapur lapio plaen ym mlwch uchaf eich Trolibocs neu’r bag ailgylchu ar gyfer papur, unwaith y bydd y tâp wedi'i dynnu.
Deunydd Pecynnu Plastig
- Gellir ailgylchu deunydd pecynnu plastig gan ddefnyddio blwch canol y Trolibocs neu'r bag ailgylchu coch.
Caniau Alwminiwm
- Ailgylchwch ganiau alwminiwm gwag yn adran ym mlwch canol y Trolibocs, yn y bag ailgylchu coch neu yn y Ganolfan Ailgylchu a Gwastraff agosaf.
Poteli
- Gellir ailgylchu unrhyw boteli a jariau gwydr diangen ym mlwch gwaelod y Trolibocs neu yn y bag ailgylchu gwyrddlas ar gyfer gwydr. Cofiwch dynnu unrhyw gaeadau plastig neu fetel oddi ar boteli gwydr a'u rhoi yn y blwch canol neu'r bag coch.
- Gellir ailgylchu poteli plastig gan ddefnyddio blwch canol y Trolibocs neu'r bag ailgylchu gwyrddlas ar gyfer plastig.
Bwyd
- Rhaid rhoi’r holl wastraff bwyd yn y cadi bwyd oren ac nid yn y cynwysyddion gwastraff cyffredinol.
Tecstiliau
Mae gan pob Siop Un Alwad yn y sir bellach fagiau ar gyfer ailgylchu tecstiliau sy’n barod i drigolion eu casglu. O ganlyniad i amgylchiadau tu hwnt i’n rheolaeth, doedd y bagiau ddim ar gael i’w dosbarthu gyda’r Trolibocs neu’r bagiau ailgylchu, ac ymddiheurwn am hyn.
Gellir ailgylchu dillad ac esgidiau diangen gyda’r gwasanaeth casglu yma sy’n rhad ac am ddim. Mae rhestr lawn o’r hyn a dderbynir arlein ar y canllaw A-Y ar y ddolen islaw.
Dylid trefnu casgliadau’n uniongyrchol gyda Co-Options (mae’r manylion cyswllt ar y bagiau), neu gellir eu cymryd i un o’u banciau dillad yn y lleoliadau canlynol:
- Mae parcio Tŷ Nant, Prestatyn, LL19 7LE
- Maes parcio Stryd Fawr Isaf, Prestatyn, LL19 8RP
- Ysgol y Llys, Prestatyn, LL19 9LG
- Llyfrgell Rhuddlan, LL18 2UE
- Llyfrgell Llanelwy, LL17 0LU
- Neuadd Pentref Trefnant, LL16 5UG
- Maes parcio Ffordd y Parc, Rhuthun, LL15 1NB
- Maes parcio Corwen, LL21 0DN
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Gall amser y Nadolig fod yn amser prysur iawn i’n timau gwastraff, felly mae gwneud y dewis gwastraff cywir dros gyfnod yr Ŵyl fod yn gymorth mawr iddynt wrth iddynt wneud eu gwaith.
Hoffem ddiolch i drigolion am ddefnyddio’r dulliau cywir o ailgylchu a gwaredu yn ystod cyfnod yr ŵyl.”
I gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cysylltu-a-ni/gwybodaeth-am-y-nadolig-ar-flwyddyn-newydd.aspx
Os nad ydych yn siŵr beth sy’n mynd ble, gallwch wirio’r canllawiau ailgylchu o A i Y ar y wefan - https://www.denbighshire.gov.uk/cy/biniau-ac-ailgylchu/a-i-y/batris-cartref.aspx