Arweinydd y Cyngor yn talu teyrnged i ysbryd cymunedol yn ystod Storm Darragh
Mae Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Jason McLellan, wedi diolch a chanmol trigolion, staff, contractwyr a gwirfoddolwyr yn dilyn y tywydd eithafol a darodd y Sir dros y penwythnos.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan:
“Mae llawer o drigolion Sir Ddinbych wedi wynebu cyfnod anodd iawn dros y penwythnos hwn, gyda Storm Darragh yn dod â gwyntoedd cryf a glaw trwm ledled y sir.
O ganlyniad i'r tywydd hwn, gwelodd rhai pobl doriadau pŵer a difrod strwythurol i'w heiddo.
Er gwaethaf effaith y storm ddiweddaraf hon, unwaith eto, mae ysbryd cymunedol trigolion Sir Ddinbych wedi disgleirio trwy’r tywydd garw, gyda llawer o drigolion yn mynd yr ail filltir i helpu ei gilydd.
Hoffwn ddiolch iddynt am eu cydweithrediad y penwythnos hwn, yn ogystal â’r holl wirfoddolwyr, staff a chontractwyr a weithiodd yn galed i gynorthwyo yn ystod y tywydd eithafol.”
Yn ystod Storm Darragh cafwyd cynnydd mawr yn y galw am gymorth, a rhwng 10:30pm ddydd Gwener 6ed ac 8am ddydd Sul 8fed, cofnodwyd dros 150 o adroddiadau. Roedd rhai o'r adroddiadau hyn yn ymdrin ag ystod eang o faterion, gan gynnwys, 59 adroddiad o goed wedi cwympo a 30 adroddiad o lifogydd. Roedd 23 o adroddiadau pellach yn cynnwys difrod i adeiladau a llinellau cyfleustodau.
Oherwydd rhagolygon tywydd defnyddiwyd timau ychwanegol y tu allan i oriau arferol dros y penwythnos, a chawsant eu cefnogi gan gontractwyr allanol ar gyfer gwaith arbenigol megis clirio coed, rheoli traffig a chau ffyrdd, yn nol yr angen.
Roedd y timau y tu allan i oriau arferol hefyd yn cael eu cefnogi gan gydweithwyr yn y gwasanaeth cymorth, a roddodd gymorth i gydlynu a chynllunio adnoddau â chyhoeddi diweddariadau rheolaidd.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, ac Aelod Arweiniol Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldeb:
“Hoffwn ddiolch i waith diflino Swyddogion y Cyngor dros y penwythnos diwethaf, roedd rhai ohonynt wedi gweithio oriau hir iawn, yn helpu trigolion yn ystod cyfnod gwaethaf Storm Darragh.
Nawr bod y storm hon wedi mynd heibio, rydym bellach yn y cyfnod adfer, a bydd Swyddogion yn parhau i weithio’n galed i helpu’r trigolion hynny sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Effeithiwyd ar lawer o’n ffyrdd ar hyd ein rhwydwaith yn ystod Storm Darragh dros y penwythnos diwethaf. Gwelsom broblemau gyda choed wedi cwympo, malurion a cheblau pŵer.
Diolch i weithredu cyflym ein timau y tu allan i oriau arferol, ynghyd â dull amlasiantaethol, deliwyd â llawer o’r materion hyn yn gyflym, a gwelsom nifer o’n ffyrdd yn cael eu hailagor a’u clirio.”