Gan ychwanegu dau ddiwrnod arall at y cynllun eleni, bydd meysydd parcio canol tref a gaiff eu rhedeg gan y Cyngor am ddim i’w defnyddio ar draws Sir Ddinbych bob dydd o 3pm than 31 Rhagfyr. Cynhelir y cynllun hwn ochr yn ochr â’r 5 diwrnod parcio am ddim a gyflwynir i Gynghorau Tref a Dinas bob blwyddyn.
Mae’r cynllun parcio ‘Am Ddim Ar Ôl Tri’ yn agor dros 25 o feysydd parcio canol tref i breswylwyr gael eu defnyddio am ddim ar ôl 3pm. Mae’r fenter hon yn gwneud y prif strydoedd yn fwy hygyrch yn ystod un o’r cyfnodau masnachu prysuraf, gan helpu preswylwyr i gael mynediad at eu prif strydoedd lleol i siopa cyn y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Bydd y fenter ‘Am Ddim Ar Ôl Tri’ ar gael yn y meysydd parcio canlynol:
Tref/Dinas
|
Maes Parcio
|
Corwen
|
Lôn Las
|
Dinbych
|
Lôn Ffynnon Barcer
|
|
Lôn Crown
|
|
Ward y Ffatri
|
|
Lôn y Post
|
|
Stryd y Dyffryn
|
Llangollen
|
Stryd y Dwyrain
|
|
Stryd y Neuadd
|
|
Stryd y Farchnad
|
|
Heol y Felin
|
Prestatyn
|
Fern Avenue
|
|
Rhodfa Brenin
|
|
Stryd Fawr Isaf
|
|
Ffordd Llys Nant
|
|
Yr Orsaf Reilffordd
|
Rhuddlan
|
Stryd y Senedd
|
Y Rhyl
|
Y Llyfrgell (Nid yw maes parcio preifat Neuadd Y Morfa, Y Rhyl yn gynwysedig yn y fenter)
|
|
Ffordd Morley
|
|
Yr Orsaf Reilffordd
|
|
Y Tŵr Awyr
|
|
Neuadd y Dref
|
|
Gorllewin Stryd Cinmel
|
Rhuthun
|
Iard Crispin
|
|
Lôn Dogfael
|
|
Stryd y Farchnad
|
|
Heol y Parc
|
|
Stryd Rhos
|
|
Sgwâr Sant Pedr
|
|
Troed y Rhiw
|
Llanelwy
|
Lawnt Fowlio
|
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r fenter hon wedi bod yn boblogaidd bob blwyddyn oherwydd ei bod yn galluogi ein preswylwyr i gefnogi eu cymunedau lleol, a chael mynediad at siopau lleol yn ystod oriau siopa ar ôl gwaith neu ysgol.
“Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn cefnogi ein prif strydoedd lleol wrth i’r Nadolig agosáu, a gobeithio y bydd y fenter hon yn annog mwy o bobl i ddefnyddio eu prif strydoedd lleol wrth siopa Nadolig.”