llais y sir

Newyddion

Neges gan y Cadeirydd

Neges gan yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr

Gan fod tymor ewyllys da arnom, ac wrth i ni baratoi i ddathlu'r adeg arbennig hon o'r flwyddyn gyda'n ffrindiau a'n teulu, hoffem ddymuno Nadolig Llawen iawn i chi i gyd.

Mae ein cyllidebau'n parhau i fod yn heriol iawn i'r Cyngor, fel y mae ar gyfer pob Cyngor. Er mwyn ymateb i'r pwysau cyllidebol hynny, bu'n rhaid i ni ddod o hyd i arbedion mewn rhai gwasanaethau yr ydym yn sylweddoli nad yw wedi bod yn hawdd i unrhyw un. Rydym yn gweithio'n galed iawn i leihau effaith yr arbedion hynny ar ein trigolion a'n cymunedau. Ar yr ochr gadarnhaol, mae gennym gymunedau gwych ledled Sir Ddinbych a hoffem ddiolch i chi am y gefnogaeth rydych chi'n ei darparu i'n trigolion bregus ac am wneud ein cymunedau arbennig yr hyn ydyn nhw.

Hoffem hefyd gydnabod na aeth y gwasanaeth gwastraff/ailgylchu newydd eleni yn unol â'r cynllun a achosodd gofid i nifer o'n preswylwyr. Hoffem cymeryd y cyfle hwn i ymddiheuro'n ddiffuant am unrhyw anghyfleustra y mae hyn wedi'i achosi. Rydym wedi gwneud y gwelliannau angenrheidiol ac mae'r gwasanaeth bellach yn gweithio'n bennaf fel y dymunwn. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r system newydd gan ei bod yn gwella ein cyfraddau ailgylchu ac ansawdd y deunyddiau ailgylchu a hoffem ddiolch i'n trigolion am weithio gyda ni i wella'r ffordd yr ydym yn delio â'r symiau sylweddol o wastraff yr ydym i gyd yn eu cynhyrchu.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn gallu dod o hyd i amser i ymlacio dros yr ŵyl, a mwynhau popeth sydd gan ein Sir i gynnig. Gyda phopeth yn digwydd yn y byd gwyddom pa mor lwcus ydym ni i fyw mewn rhan mor brydferth, heddychlon o'r byd.

Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'n cymunedau yn y flwyddyn newydd ac ar ran ein holl Gynghorwyr a staff y Cyngor, gobeithiwn y cewch flwyddyn newydd lewyrchus, heddychlon a hapus.

Gwybodaeth am ein gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

There is information about our services over the Christmas and New Year period on our website:

  • Dyddiadau casglu sbwriel ac ailgylchu
  • Canfod gwybodaeth am gael gwared â choed Nadolig neu eu hailgylchu
  • Parcio am ddim ar ôl 3pm
  • Oriau agor Llyfrgelloedd a sut y gallwch ymuno â'r llyfrgell ar-lein
  • Gwybodaeth o pryd fydd ysgolion yn torri i fyny ar gyfer y Nadolig a phryd y byddant yn ôl yn y Flwyddyn Newydd
  • Oriau agor a chau ar gyfer ein gwasanaethau a'n hadeiladau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, i gynnwys: 
    • Archifau
    • Ardrethi Busnes
    • Budd-daliadau
    • Canolfan Gyswllt a Gwasanaeth Argyfwng y tu allan i oriau swyddfa
    • Cludiant Teithwyr
    • Cydnerthedd Cymunedol
    • Cysylltiadau cyhoeddus
    • Gwasanaethau Addysg
    • Gwasanaethau cymorth Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd i Oedolion
    • Gwasanaeth Ieuenctid
    • Harbwr y Rhyl
    • Llyfrgelloedd a Siopau Un Alwad
    • Nantclwyd y Dre
    • Parciau gwastraff ac ailgylchu
    • Plas Newydd, Llangollen
    • Sir Ddinbych Yn Gweithio
    • Swyddfeydd Cofrestru Rhuthun
    • Swyddfeydd Cofrestru y Rhyl
    • Tai Sir Ddinbych
    • Treth y cyngor
    • Toiledau cyhoeddus
    • Twristiaeth

    Arweinydd y Cyngor yn talu teyrnged i ysbryd cymunedol yn ystod Storm Darragh

    Mae Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Jason McLellan, wedi diolch a chanmol trigolion, staff, contractwyr a gwirfoddolwyr yn dilyn y tywydd eithafol a darodd y Sir dros y penwythnos.

    Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan:

    “Mae llawer o drigolion Sir Ddinbych wedi wynebu cyfnod anodd iawn dros y penwythnos hwn, gyda Storm Darragh yn dod â gwyntoedd cryf a glaw trwm ledled y sir.

    O ganlyniad i'r tywydd hwn, gwelodd rhai pobl doriadau pŵer a difrod strwythurol i'w heiddo.

    Er gwaethaf effaith y storm ddiweddaraf hon, unwaith eto, mae ysbryd cymunedol trigolion Sir Ddinbych wedi disgleirio trwy’r tywydd garw, gyda llawer o drigolion yn mynd yr ail filltir i helpu ei gilydd.

    Hoffwn ddiolch iddynt am eu cydweithrediad y penwythnos hwn, yn ogystal â’r holl wirfoddolwyr, staff a chontractwyr a weithiodd yn galed i gynorthwyo yn ystod y tywydd eithafol.”

    Yn ystod Storm Darragh cafwyd cynnydd mawr yn y galw am gymorth, a rhwng 10:30pm ddydd Gwener 6ed ac 8am ddydd Sul 8fed, cofnodwyd dros 150 o adroddiadau. Roedd rhai o'r adroddiadau hyn yn ymdrin ag ystod eang o faterion, gan gynnwys, 59 adroddiad o goed wedi cwympo a 30 adroddiad o lifogydd. Roedd 23 o adroddiadau pellach yn cynnwys difrod i adeiladau a llinellau cyfleustodau.

    Oherwydd rhagolygon tywydd defnyddiwyd timau ychwanegol y tu allan i oriau arferol dros y penwythnos, a chawsant eu cefnogi gan gontractwyr allanol ar gyfer gwaith arbenigol megis clirio coed, rheoli traffig a chau ffyrdd, yn nol yr angen.

    Roedd y timau y tu allan i oriau arferol hefyd yn cael eu cefnogi gan gydweithwyr yn y gwasanaeth cymorth, a roddodd gymorth i gydlynu a chynllunio adnoddau â chyhoeddi diweddariadau rheolaidd.

    Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, ac Aelod Arweiniol Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldeb:

    “Hoffwn ddiolch i waith diflino Swyddogion y Cyngor dros y penwythnos diwethaf, roedd rhai ohonynt wedi gweithio oriau hir iawn, yn helpu trigolion yn ystod cyfnod gwaethaf Storm Darragh.

    Nawr bod y storm hon wedi mynd heibio, rydym bellach yn y cyfnod adfer, a bydd Swyddogion yn parhau i weithio’n galed i helpu’r trigolion hynny sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf.”

    Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

    “Effeithiwyd ar lawer o’n ffyrdd ar hyd ein rhwydwaith yn ystod Storm Darragh dros y penwythnos diwethaf. Gwelsom broblemau gyda choed wedi cwympo, malurion a cheblau pŵer.

    Diolch i weithredu cyflym ein timau y tu allan i oriau arferol, ynghyd â dull amlasiantaethol, deliwyd â llawer o’r materion hyn yn gyflym, a gwelsom nifer o’n ffyrdd yn cael eu hailagor a’u clirio.”

    Yr Hafod yn dathlu 10 mlynedd o gefnogaeth gymunedol ac atal digartrefedd yn Sir Ddinbych 

    Mae canolfan fywiog sy'n darparu gwasanaethau pwysig ac atal digartrefedd yn Sir Ddinbych, yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed.

    Mae HWB Dinbych yn ganolfan gymunedol yn Ninbych sy'n cynnwys gwasanaeth tai â chymorth Yr Hafod. Grŵp Cynefin sy’n eu rhedeg, a lansiwyd hwy pan sefydlwyd y gymdeithas dai, 10 mlynedd yn ôl.

    I nodi'r garreg filltir, mae Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, wedi ymweld â'r canolfannau ddydd Iau 28 Tachwedd. Fe wnaeth hi gwrdd â staff Grŵp Cynefin, yn clywed am yr ystod o wasanaethau hanfodol a ddarperir ac yn cwrdd â'r rhai sydd wedi elwa o'r gwasanaethau sydd ar gael.

    Maen nhw'n cynnwys rhai o gyn-drigolion cyfleuster digartrefedd Yr Hafod y cafodd eu bywydau eu trawsnewid gan y gefnogaeth oedd ar gael yno.

    Mae Yr Hafod yn brosiect tai â chymorth i bobl ifanc, sydd wedi'i leoli yn adeilad HWB Dinbych. Mae'r gwasanaethau atal digartrefedd yn dod o dan Gorwel, uned o fewn Grŵp Cynefin sy'n ymroddedig i gefnogi'r rhai sy'n wynebu digartrefedd yng Ngogledd Cymru. 

    Mae Yr Hafod wedi bod yn cynnig cymorth i bobl ifanc 16-25 oed sy'n wynebu digartrefedd yn Sir Ddinbych dros y degawd diwethaf. Mae'n cynnig chwe fflat hunangynhwysol o ansawdd uchel a chefnogaeth 24 awr, gan helpu preswylwyr i ddatblygu sgiliau rheoli tenantiaeth a chael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth.

    Mae HWB Dinbych yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin, Prosiect Ieuenctid Dinbych, Coleg Llandrillo a Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych.

    Cyngor Sir Ddinbych a sefydliadau lleol eraill. Mae'n cynnig ystod eang o wasanaethau sydd â'r nod o gefnogi'r gymuned leol.

    Mae'n darparu cyfleoedd addysgol, cyflogaeth a llesiant, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi, gweithdai, a chefnogaeth ar gyfer mentrau hunangyflogaeth. Mae hefyd yn cynnal gweithgareddau cymunedol amrywiol, fel dosbarthiadau ffitrwydd, clybiau ieuenctid, a sesiynau celf a chrefft.

    Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:

    "Mae HWB Dinbych ac Yr Hafod eu dau wedi cael effaith wirioneddol yn y gymuned leol. Mae HWB Dinbych yn ganolfan ddeinamig, fywiog sy'n darparu cefnogaeth, adnoddau ac addysg i bobl o bob oedran a chefndir. Mae'n cynnig croeso, gobaith a gweithredu cadarnhaol mewn ffordd ystyrlon, hirdymor.

    "Mae'r timau ymroddedig a gweithgar yn Yr Hafod a HWB Dinbych yn dyst i ymrwymiad Grŵp Cynefin i greu amgylcheddau diogel a chefnogol i'n tenantiaid a'n cwsmeriaid. Mae eu llwyddiant dros y degawd diwethaf yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol sylweddol y gallwn ei chael yn ein cymunedau."

    Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: “Rwy'n edrych ymlaen at nodi gwaith caled ac ymroddiad pawb sy'n ymwneud â'r ddau wasanaeth pwysig hyn a gweld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn cefnogi pobl ifanc yn Sir Ddinbych i fyw'n annibynnol.” 

    Mae hi'n amser i chi ddweud eich dweud!!

    Mae Arolwg Budd-ddeiliad y Cyngor ar gyfer 2024-2025 wedi cael ei lansio.

    Rydym eisiau gwybod beth mae preswylwyr, busnesau, staff, aelodau etholedig a phartneriaid Sir Ddinbych yn ei feddwl am y gwaith rydym ni’n ei wneud yma yn y Cyngor. Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn cymryd ychydig o amser i gwblhau’r arolwg.

    Mae’r arolwg yn gyfle gwych i’r Cyngor ddeall a dysgu gan farn pobl eraill, felly gobeithio y gallwch chi ein helpu ni drwy ateb ychydig o gwestiynau. Mae hefyd yn ffordd wych i chi ddysgu mwy am y themâu sydd yn rhan o Gynllun Corfforaethol presennol y Cyngor.

    Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan.

    Cynllun Parcio ‘Am Ddim Ar Ôl Tri’ Cyngor Sir Ddinbych yn Dychwelyd

    Mae'r Cyngor unwaith eto’n cynnal y cynllun parcio ‘Am Ddim Ar Ôl Tri’ dros gyfnod y Nadolig.

    Gan ychwanegu dau ddiwrnod arall at y cynllun eleni, bydd meysydd parcio canol tref a gaiff eu rhedeg gan y Cyngor am ddim i’w defnyddio ar draws Sir Ddinbych bob dydd o 3pm than 31 Rhagfyr. Cynhelir y cynllun hwn ochr yn ochr â’r 5 diwrnod parcio am ddim a gyflwynir i Gynghorau Tref a Dinas bob blwyddyn.

    Mae’r cynllun parcio ‘Am Ddim Ar Ôl Tri’ yn agor dros 25 o feysydd parcio canol tref i breswylwyr gael eu defnyddio am ddim ar ôl 3pm. Mae’r fenter hon yn gwneud y prif strydoedd yn fwy hygyrch yn ystod un o’r cyfnodau masnachu prysuraf, gan helpu preswylwyr i gael mynediad at eu prif strydoedd lleol i siopa cyn y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

    Bydd y fenter ‘Am Ddim Ar Ôl Tri’ ar gael yn y meysydd parcio canlynol:

    Tref/Dinas

    Maes Parcio

    Corwen

    Lôn Las

    Dinbych

    Lôn Ffynnon Barcer

     

    Lôn Crown

     

    Ward y Ffatri

     

    Lôn y Post

     

    Stryd y Dyffryn

    Llangollen

    Stryd y Dwyrain

     

    Stryd y Neuadd

     

    Stryd y Farchnad

     

    Heol y Felin

    Prestatyn

    Fern Avenue

     

    Rhodfa Brenin

     

    Stryd Fawr Isaf

     

    Ffordd Llys Nant

     

    Yr Orsaf Reilffordd

    Rhuddlan

    Stryd y Senedd

    Y Rhyl

    Y Llyfrgell (Nid yw maes parcio preifat Neuadd Y Morfa, Y Rhyl yn gynwysedig yn y fenter)

     

    Ffordd Morley

     

    Yr Orsaf Reilffordd

     

    Y Tŵr Awyr

     

    Neuadd y Dref

     

    Gorllewin Stryd Cinmel

    Rhuthun

    Iard Crispin

     

    Lôn Dogfael

     

    Stryd y Farchnad

     

    Heol y Parc

     

    Stryd Rhos

     

    Sgwâr Sant Pedr

     

    Troed y Rhiw

    Llanelwy

    Lawnt Fowlio

    Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r fenter hon wedi bod yn boblogaidd bob blwyddyn oherwydd ei bod yn galluogi ein preswylwyr i gefnogi eu cymunedau lleol, a chael mynediad at siopau lleol yn ystod oriau siopa ar ôl gwaith neu ysgol.

    “Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn cefnogi ein prif strydoedd lleol wrth i’r Nadolig agosáu, a gobeithio y bydd y fenter hon yn annog mwy o bobl i ddefnyddio eu prif strydoedd lleol wrth siopa Nadolig.”

    Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

    Datblygiad Bryniau Clwyd i gefnogi natur yn lleol

    Moel y Plas

    Mae gwaith wedi dechrau gan dîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych, i greu hafan gefnogol ar gyfer natur a chymunedau ar Fryniau Clwyd.

    Mae bron i 18,000 o goed collddail wedi cael eu plannu ym Moel y Plâs, ger Llanarmon yn Iâl, gan geidwaid a gwirfoddolwyr o’r cymunedau cyfagos i helpu i greu cynefinoedd amrywiol newydd sydd yn frith o rywogaethau, ac mae gwaith wedi dechrau i adfer rhostir, gwella ffridd, creu cynefinoedd gwlypdir a chynnal coetiroedd (yn cynnwys coetir o goed collddail, a derw brodorol a choedlan wlyb).

    Mae’r datblygiad yma’n rhan o waith y Cyngor i fynd i’r afael â’r Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol a ddatganwyd yn 2019 a’i fwriad i fod yn Ddi-garbon Net ac yn awdurdod lleol Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

    Mae colli a darnio cynefinoedd yn fygythiadau mawr i fioamrywiaeth, ac mae newid hinsawdd yn gwaethygu hyn drwy gyfyngu ar allu rhywogaethau i gael mynediad at gynefinoedd mwy ffafriol.

    Ar gyfer y prosiect yma, fe grëwyd coetir a gwrychoedd i wella cysylltedd rhwng cynefinoedd cyfagos sydd eisoes yn bodoli fel coridorau bywyd gwyllt.

    Mae’r prosiect creu coetir wedi cael cyllid allan o grant o £800,000 a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU.

    Ynghyd â’r sefyllfa bresennol ac arwain digwyddiadau gwirfoddoli, fe fydd tîm ceidwaid Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn parhau i reoli’r safle yn yr hirdymor yn rhan o’i rôl yn sicrhau bod amgylchedd yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn cael ei wella a’i amddiffyn a bod y tir yn cael ei wneud yn fwy hygyrch.

    Er mwyn cefnogi manteision lles i ymwelwyr, bydd ceidwaid yn cynnal hygyrchedd ar hyd Hawliau Tramwy i gynorthwyo cerddwyr sy’n defnyddio Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a llwybrau troed lleol sydd yn mynd drwy’r safle.

    Mae camfeydd yn cael eu huwchraddio i giatiau mochyn gyda chlicedi mynediad hawdd a bocsys mwy yn unol ag amcanion Tirwedd Cenedlaethol i wneud yr awyr agored yn fwy cynhwysol a hygyrch i wella lles cymunedol a phrofiad ymwelwyr.

    Mae ffensys ffiniol wedi cael eu hailosod er mwyn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer tymor pori da byw ar y safle.

    Fe fydd arwyddion newydd yn sicrhau bod llwybrau yn hawdd i’w dilyn a bydd paneli gwybodaeth yn helpu ymwelwyr i ddeall gwerth y dirwedd o’u hamgylch.

    Lle y bo’n bosibl, mae contractwyr a deunyddiau wedi cael eu canfod yn lleol i gefnogi busnesau lleol a lleihau ôl-troed carbon y prosiect.

    Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Fe fydd y gwaith o amgylch Moel y Plâs yn helpu ein Sir i adeiladu gwytnwch cryfach yn erbyn effeithiau newid hinsawdd yn erbyn ein natur wrth i ni symud tua’r dyfodol. Mae hi’n bwysig ein bod ni’n manteisio ar yr hyn sydd gennym ni i geisio gwrthdroi colli cynefinoedd naturiol dros y blynyddoedd i sicrhau bod gan ein natur lleol gyfle hollbwysig i oroesi a ffynnu yn y pendraw wrth symud ymlaen.

    Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Dyma ardal ffantastig ar Fryniau Clwyd sydd yn llawn hanes ac a fydd yn darparu cartref gwell i’r byd natur sydd i’w ganfod ar y bryniau.

    “Mae’r ceidwaid a gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith gwych yn gwneud y safle’n hygyrch i gerddwyr sydd yn ymweld â’r ardal leol i’w helpu i fwynhau manteision y tir ac rydw i’n edrych ymlaen at weld y canlyniadau gorffenedig.”

    Prosiect yn rhoi bywyd newydd i ardaloedd a effeithiwyd Glefyd Coed Ynn

    prosiect After Ash.

    Mae prosiect sirol yn rhoi bywyd newydd i ardaloedd sydd wedi'u taro gan glefyd coed dinistriol.

    Mae Tîm Coed y Cyngor yn helpu i reoli ased coed y Cyngor ac yn arwain yr ymateb i Glefyd Coed Ynn, gan arolygu coed yr effeithir arnynt a chomisiynu gwaith lle bo angen.

    Mae clefyd coed ynn (Hymenoscyphus fraxineus) yn glefyd hynod ddinistriol. Fel y mae’r enw cyffredin ar glefyd yr ynn (ash dieback yn Saesneg) yn ei awgrymu, mae coed heintiedig fel arfer yn marw ac yn gorfod cael eu torri i lawr lle mae pryderon iechyd a diogelwch.

    Nid oes dull hysbys o atal trosglwyddiad y ffwng hwn sy’n lledaenu drwy’r awyr, felly mae angen dulliau amgen o reoli ei effaith.

    Yn enwedig gan fod y goeden frodorol hon yn gyffredin ar draws Sir Ddinbych a bod ei cholled graddol yn cael effaith sylweddol ar y dirwedd a'i bioamrywiaeth cysylltiedig.

    Fodd bynnag, mae Tîm Coed y Cyngor yn dod â bywyd newydd i rai o’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan glefyd coed ynn drwy’r prosiect After Ash.

    Mae'r prosiect wedi darparu coed newydd ar gyfer coed Ynn arbennig o amlwg y bu'n rhaid eu torri yn anffodus o fewn Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

    Diolch i'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy, mae'r tîm wedi gallu cyflenwi coed mawr (safonol) a fydd yn cael effaith weladwy ar unwaith.

    Yn y misoedd nesaf bydd y tîm yn edrych i ddosbarthu eu dosbarthiad diweddaraf o wahanol rywogaethau coed brodorol i bartïon amrywiol, gan gynnwys Cyngor Cymuned Llanarmon Yn Iâl.

    Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein Tîm Coed wedi canolbwyntio ar ardaloedd ar draws y sir lle gallai coed ynn heintiedig o bosibl achosi risg i bobl a choed ynn eraill yn y cyffiniau. Ar ôl torri'r coed, gellir defnyddio'r coed ynn ar gyfer cynefinoedd natur lle tyfodd y coed neu eu hadennill at ddibenion eraill.

    “Mae’r prosiect After Ash yn caniatáu i ni fynd i’r afael â cholli coed tirnod amlwg ar draws Sir Ddinbych sydd wedi’u colli i’r clefyd hwn a darparu coed newydd a fydd yn tyfu yn y lleoliadau hyn i ddod yn dirnodau yn y dyfodol i genedlaethau eu mwynhau.

    I gael rhagor o wybodaeth am glefyd coed ynn, ewch i wefan y Cyngor.

    Gwastraff ac Ailgylchu

    Edrych yn ôl ar chwe mis cyntaf y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd

    Mae Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaeth: Priffyrdd ac Amgylcheddol, yn edrych nôl ar y chwe mis diwethaf ers cyflwyno’r gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd. Mae hefyd yn asesu’r sefyllfa bresennol ac yn egluro sut mae’r gwasanaeth yn ymdrechu i wneud gwelliannau wrth symud ymlaen.

    Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth berthnasol am y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu ar wefan y Cyngor ar www.sirddinbych.gov.uk/ailgylchu.

     

    Dyddiadau Casglu Gwastraff dros y Nadolig

    Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd eleni gwneir y newidiadau canlynol i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu:

    Casgliadau gwastraff cartref (ailgylchu, bwyd, NHA, gwastraff na ellir ei ailgylchu, gwastraff gardd) 

    • Caiff casgliadau gwastraff cartref dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024 eu casglu ddydd Sadwrn 28 Rhagfyr 2024
    • Caiff  casgliadau gwastraff cartref dydd Mercher 1 Ionawr 2025 eu casglu ddydd Sadwrn 4 Ionawr 2025
    • Byddwn yn parhau i gasglu ar ddydd Iau, 26 Rhagfyr, a bydd yr holl gasgliadau gwastraff cartref eraill yn digwydd fel arfer. Gofynnir yn garedig i drigolion sicrhau bod cynwysyddion allan erbyn 6.30am ar y diwrnod casglu.

    Casgliadau gwastraff ac ailgylchu masnachol 

    • Bydd casgliadau gwastraff masnachol ar gyfer dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024 yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 28 Rhagfyr 2024
    • Bydd casgliadau gwastraff masnachol ar gyfer dydd Mercher 1 Ionawr 2025 yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 4 Ionawr 2025
    • Bydd pob casgliad gwastraff masnachol arall yn dilyn y patrwm arferol

    Casgliadau eitemau swmpus

    Gan fod CAD, y cwmni sy’n gweithredu’r gwasanaeth casgliadau eitemau swmpus ar ran y Cyngor, yn cau dros gyfnod y Nadolig, ni fydd unrhyw gasgliadau eitemau swmpus rhwng dydd Gwener 20 Rhagfyr a dydd Llun 6 Ionawr. Bydd trigolion yn dal i allu neilltuo slot casglu yn ystod yr amser hwn a bydd casgliadau yn ailddechrau o 6 Ionawr.

    Yn ystod y cyfnod hwn, gall trigolion neilltuo lle i ymweld â’n parciau gwastraff ac ailgylchu. Mae manylion am yr hyn a dderbynnir yn ein parciau gwastraff ac ailgylchu ar gael ar ein gwefan.

    Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant:  “Gall cyfnod y Nadolig olygu llawer o wastraff ac ailgylchu gan ei fod yn amser i ni i gyd ddathlu. O bapur lapio i boteli, mae llawer o eitemau ychwanegol y mae ein timau gwastraff ardderchog yn eu casglu dros gyfnod y Nadolig. Rydym yn ddiolchgar i breswylwyr am ddeall y newidiadau hyn, a diolch am eu cydweithrediad.”

    Mae gwybodaeth fanwl am drefniadau dros y Nadolig a’r Flwyddyn newydd ar wefan y Cyngor ar ein gwefan

    Hefyd, gall drigolion wirio sut i ailgylchu ystod eang o eitemau ar y canllaw ailgylchu A-Y arlein ar ein gwefan.

    Sut i ailgylchu dros y Nadolig

    Gyda’r Nadolig yn agosáu, fe fydd nifer o aelwydydd yn Sir Ddinbych yn brysur yn lapio anrhegion ac yn addurno’r tŷ.

    Wrth gynllunio i brynu nwyddau hanfodol y Nadolig hwn, mae’n bwysig ystyried a oes modd eu hailgylchu neu beidio. Dyma restr o eitemau allweddol a’r cyfarwyddiadau ar sut i’w ailgylchu:

    Papur swigod plastig

    • Nid oes posib’ ailgylchu papur swigod plastig. Rhowch o yn y bin gwastraff cyffredinol neu ei ailddefnyddio i lapio pethau gwerthfawr sy’n cael eu storio neu eu postio.

    Tâp

    • Nid oes modd ailgylchu tap du/llwyd, tap trydanol, selotep, tap masgio na thâp parseli. Rhowch nhw yn y bin gwastraff cyffredinol.

    Addurniadau Nadolig

    • Gall addurniadau Nadolig gael eu defnyddio droeon neu eu rhoi i siopau elusen lleol neu ysgolion ar gyfer sesiynau crefft. Dylai unrhyw addurniadau sy’n anaddas i’w hailddefnyddio gael eu rhoi yn y bin gwastraff cyffredinol.

    Papur lapio

    • Nid oes posib’ ailgylchu papur lapio sydd â gliter a phlastig arno. Mae’n rhaid iddo fynd i’r bin gwastraff cyffredinol.
    • Ailgylchwch bapur lapio plaen ym mlwch uchaf eich Trolibocs neu’r bag ailgylchu ar gyfer papur, unwaith y bydd y tâp wedi'i dynnu.

    Deunydd Pecynnu Plastig

    • Gellir ailgylchu deunydd pecynnu plastig gan ddefnyddio blwch canol y Trolibocs neu'r bag ailgylchu coch.

    Caniau Alwminiwm

    • Ailgylchwch ganiau alwminiwm gwag yn adran ym mlwch canol y Trolibocs, yn y bag ailgylchu coch neu yn y Ganolfan Ailgylchu a Gwastraff agosaf.

    Poteli

    • Gellir ailgylchu unrhyw boteli a jariau gwydr diangen ym mlwch gwaelod y Trolibocs neu yn y bag ailgylchu gwyrddlas ar gyfer gwydr. Cofiwch dynnu unrhyw gaeadau plastig neu fetel oddi ar boteli gwydr a'u rhoi yn y blwch canol neu'r bag coch.
    • Gellir ailgylchu poteli plastig gan ddefnyddio blwch canol y Trolibocs neu'r bag ailgylchu gwyrddlas ar gyfer plastig.

    Bwyd

    • Rhaid rhoi’r holl wastraff bwyd yn y cadi bwyd oren ac nid yn y cynwysyddion gwastraff cyffredinol.

     Tecstiliau

    Mae gan pob Siop Un Alwad yn y sir bellach fagiau ar gyfer ailgylchu tecstiliau sy’n barod i drigolion eu casglu. O ganlyniad i amgylchiadau tu hwnt i’n rheolaeth, doedd y bagiau ddim ar gael i’w dosbarthu gyda’r Trolibocs neu’r bagiau ailgylchu, ac ymddiheurwn am hyn.

    Gellir ailgylchu dillad ac esgidiau diangen gyda’r gwasanaeth casglu yma sy’n rhad ac am ddim. Mae rhestr lawn o’r hyn a dderbynir arlein ar y canllaw A-Y ar y ddolen islaw.

    Dylid trefnu casgliadau’n uniongyrchol gyda Co-Options (mae’r manylion cyswllt ar y bagiau), neu gellir eu cymryd i un o’u banciau dillad yn y lleoliadau canlynol:

    • Mae parcio Tŷ Nant, Prestatyn, LL19 7LE
    • Maes parcio Stryd Fawr Isaf, Prestatyn, LL19 8RP
    • Ysgol y Llys, Prestatyn, LL19 9LG
    • Llyfrgell Rhuddlan, LL18 2UE
    • Llyfrgell Llanelwy, LL17 0LU
    • Neuadd Pentref Trefnant, LL16 5UG
    • Maes parcio Ffordd y Parc, Rhuthun, LL15 1NB
    • Maes parcio Corwen, LL21 0DN

    Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

    “Gall amser y Nadolig fod yn amser prysur iawn i’n timau gwastraff, felly mae gwneud y dewis gwastraff cywir dros gyfnod yr Ŵyl fod yn gymorth mawr iddynt wrth iddynt wneud eu gwaith.

    Hoffem ddiolch i drigolion am ddefnyddio’r dulliau cywir o ailgylchu a gwaredu yn ystod cyfnod yr ŵyl.”

    I gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cysylltu-a-ni/gwybodaeth-am-y-nadolig-ar-flwyddyn-newydd.aspx

    Os nad ydych yn siŵr beth sy’n mynd ble, gallwch wirio’r canllawiau ailgylchu o A i Y ar y wefan - https://www.denbighshire.gov.uk/cy/biniau-ac-ailgylchu/a-i-y/batris-cartref.aspx

    Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

    Gŵyl Ffuglen Llyfrgelloedd Sir Ddinbych

    Roedd yn bleser cael dechrau’r Ŵyl yn Llyfrgell Dinbych hefo’r awdur poblogaidd Manon Steffan Ros.

    Yn enillydd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2005 a 2006 ynghyd a’r Fedal Ryddiaith yn 2018 ac enillydd Gwobr Tir na n-Og ar fwy nag un achlysur, mae Manon yn nofelydd, dramodydd a sgriptiwr dawnus sydd wedi ysgrifennu nifer o nofelau i blant ac oedolion. Difyr iawn oedd gwrando ar sut i ddigwyddiadau trist bywyd ddylanwadu ar ei gwaith, a sut mae hi’n mynd ati i ysgrifennu, a’r broses o gyfieithu ei nofelau.

    Manon Steffan Ros yn trafod ei gwaith yn Llyfrgell Dinbych

    Cafwyd gyfarfod bywiog yn Llyfrgell Llanelwy gyda Diwrnod Awduron Lleol yn cynnal sesiwn cyfarfod awdur. Cafodd y gynulleidfa gyfle i sgwrsio gyda pedwar awdur am eu gwaith a dysgu am eu proses unigryw o ysgrifennu.

    Croesawodd Llyfrgell Prestatyn yr awdur arobryn Kate Ellis. Cafodd y digwyddiad dderbyniad gwych, mae straeon Kate wedi hedfan oddi ar silffoedd y llyfrgell ers hynny! Diolch yn fawr i Kate am ddigwyddiad hynod lwyddiannus arall.

    Er gwaethaf y tywydd stormus, roedd Noson Ddirgelwch Llofruddiaeth Llyfrgell Rhuddlan, yn seiliedig ar waith yr awdur Anne Cleeves ‘The Darkest Evening’ yn llwyddiant gwefreiddiol! Diolch yn fawr iawn i dîm y llyfrgell, y Cynghorydd Tref Mike Kermode, a phawb a ddaeth i'r afael â'r elfennau am noson hwyliog a chyffrous yn datrys dirgelwch y llofruddiaeth

    Croesawodd Llyfrgell Llanelwy'r awdur hynod boblogaidd Simon McCleave ar gyfer ymweliad diddorol lle bu’n trafod ei nofelau trosedd. Roedd cynulleidfa niferus yno yn mwynhau'r drafodaeth a chael cyfle i holi’r awdur. Diolch yn fawr iawn I Simon am rannu ei weledigaeth i’w nofelau.

    Daeth yr awdur plant lleol Pat Sumner i Lyfrgell Rhuthun i sôn am ei nofel ffantasi newydd ‘Globbatrotter’ ar gyfer plant 8-12 oed. Darllenodd yr awdur ddetholiad o’i nofel gan ddod a’r Globbatrotter yn fyw. Cafwyd cyfle i drafod a holi’r awdur a chael arwyddo copi o’i llyfr.

    Trisha Ashley a Juliet Greenwood fu’n cynnal sesiwn cwrdd â’r awduron yn Llyfrgell y Rhyl yn ddiweddar. Mwynhaodd y gynulleidfa sgwrs ddiddorol gan y ddwy am eu llyfrau rhamant a hanesyddol.

    Cafwyd Gŵyl hynod lwyddiannus gydag awduron o fri yn ymweld â’n llyfrgelloedd, roedd rhywbeth at ddant pawb o drosedd i ramant. Diolch i’r rhai a gefnogodd y digwyddiadau ac am gymorth ariannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a weinyddir gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

    Crefftau Nadolig

    Cafwyd hwyl yn creu gweithgareddau Nadoligaidd yn Llyfrgell Dinbych pnawn Gwener Tachwedd 29 i gyd fynd â rhoi goleuadau Nadolig y dref ymlaen a’r noson siopa hwyr. Diolch i staff y Llyfrgell am drefnu’r sesiwn.

    Bydd nifer o lyfrgelloedd yn creu helfa drysor nadoligaidd i’r plant iau, galwch mewn i ymuno’n yr hwyl.

     

    Trefniadau’r Nadolig

    Bydd ein llyfrgelloedd yn cau am 1.00pm ar Noswyl Nadolig ac yn ail agor ar Ionawr yr 2il yn y flwyddyn newydd.

    Cofiwch am y dewis ardderchog o elyfrau, elyfrau sain, cylchgronau a phapurau newydd sydd ar gael 24/7 ar Borrowbox a PressReader, oll sydd ei angen yw eich cerdyn llyfrgell a rhif PIN.

    Dymunwn Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd dda i bawb, edrychwn ymlaen at eich gweld yn 2025 gyda’n Sialens 25 Llyfr!

    Twristiaeth

    Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2024

    Cynhaliwyd Gwobrau Twristiaeth Go North Wales ddydd Iau 21 Tachwedd yn Venue Cymru, Llandudno i ddathlu a chydnabod rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth.

    Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Bearded Men Adventures o Llangollen ymhlith yr enillwyr. Enillodd Bearded Men Adventures sydd yn cynnal gweithgareddau 'adrenalin' yn cynnwys rafftio dŵr, canŵio ar draws Pontcysyllte, a thaflu bwyeill, ddwy wobr.

    Gallwch ddarganfod mwy am yr enillwyr i gyd ar wefan Go North Wales

    Mae 2025 yn nodi Blwyddyn Croeso – yng Nghymru

    Bydd Croeso 25 yn lansio ym mis Ionawr 2025 ac yn nodi’r nesaf mewn cyfres lwyddiannus o flynyddoedd thema dan arweiniad Croeso Cymru.

    Rydym ni yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn bwriadu defnyddio’r flwyddyn thematig hon i ddathlu ein croeso Cymreig. Ei nod yw rhannu’r profiad Cymreig unigryw a’r ‘hwyl’ gyda’r byd.. Darllenwch y blog yma.

    Mwy o wybodaeth gan Croeso Cymru Croeso 25: Sut i gymryd rhan - adnoddau ac asedau nawr ar gael yma

     

    Hoffech chi ddysgu mwy am Lwybr Arfordir Cymru a'r Llwybrau Cenedlaethol?

    Mae tîm Twristiaeth Sir Ddinbych yn falch o gyhoeddi modiwl 'Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol' newydd i gynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych sydd bellach yn fyw. Mae’r modiwl hwn wedi’i ariannu gan Lwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol.

    Mae'r modiwl yn cynnwys:

    • Cyflwyniad i Lwybr Arfordir Cymru a'r Llwybrau Cenedlaethol
    • Llwybr Arfordir Cymru
    • Mwynhau Llwybr Arfordir Cymru
    • Llwybr Arfordir Sir Benfro
    • Mwynhau Llwybr Arfordir Sir Benfro
    • Llwybr Clawdd Offa
    • Mwynhau Llwybr Clawdd Offa
    • Llwybr Glyndŵr
    • Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol yn Sir Ddinbych

    Cadwch mewn cysylltiad ar newyddion twristiaeth!

    I gadw llygad ar y newyddion diweddaraf, fe allwch gofrestru i dderbyn ein cylchlythyrau rheolaidd yma.

    Gallwch hefyd ddilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn ‘North East Wales’ ar Facebook ac Instagram neu gallwch fynd i'n gwefan >>> https://www.northeastwales.wales/cy/.

    Cefnogaeth i drigolion

    Taliad Tanwydd Gaeaf

    Os ydych chi’n gymwys i gael Credyd Pensiwn, ac os byddwch chi’n cyflwyno cais erbyn 21 Rhagfyr, gallech fod yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf eleni hefyd. Gall Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych eich helpu i wirio os ydych yn gymwys i gael Credyd Pensiwn. Rhif ffôn yw 01745 346775 neu https://www.cadenbighshire.co.uk/cysylltu.

    Cefnogi preswylwyr i gael mynediad at £712,000 mewn ymgyrch fudd-daliadau benodol

    Mae pensiynwyr ar draws Sir Ddinbych wedi ennill dros £712,000 mewn budd-daliadau heb eu hawlio yn ystod 2024.  Mae'r Cyngor wedi bod yn cynnal ymgyrch i annog pensiynwyr i gael gwybod am y Credyd Pensiwn y gallent fod yn colli allan arno, gyda phreswylwyr yn cael eu cefnogi gan Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i helpu gyda cheisiadau a chynnal gwiriadau uchafu incwm.

    Hyd yn hyn, mae 98 o drigolion wedi elwa, gyda £152,741 o hawliadau Credyd Pensiwn, fodd bynnag, mae budd-daliadau eraill gan gynnwys Lwfans Gweini, Gostyngiad Treth y Cyngor, Pensiwn y Wladwriaeth, Budd-dal Tai, Cyngor Ynni, a Taliad Annibyniaeth Bersonol, hefyd wedi'u nodi o ganlyniad i wiriadau budd-daliadau llawn.

    Mae pensiynwyr ar incwm isel yn cael eu hannog i wneud cais am Gredyd Pensiwn cyn y dyddiad cau ar 21 Rhagfyr i dderbyn y Taliad Tanwydd y Gaeaf.  Gwerth y Taliad Tanwydd Gaeaf yw £200 ar gyfer pobl a anwyd rhwng 23 Medi 1944 a 22 Medi 1958, a £300 ar gyfer y rhai a anwyd cyn 23 Medi 1944 yn ogystal ag unrhyw ôl-ddyledion Credyd Pensiwn sydd wedi'u hôl-ddyddio lle bo'n berthnasol.

    Mae Credyd Pensiwn yn darparu cymorth hanfodol i bobl hŷn ar incwm isel, gan ychwanegu at eu hincwm i isafswm o £218.15 yr wythnos i bobl sengl neu £332.95 i gyplau. Mae mwy o bobl yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y budd-dal, sy’n werth ar gyfartaledd, £3,900 y flwyddyn ac yn datgloi cymorth ychwanegol gan gynnwys Treth y Cyngor, gofal iechyd ac os ydych yn 75 oed neu’n hŷn, trwydded deledu am ddim. Amcangyfrifir bod tua £117m mewn Credyd Pensiwn yn unig yn mynd heb ei hawlio bob blwyddyn yng Nghymru.

    Mae dau lythyr eisoes wedi’u hanfon at bensiynwyr lleol gan Gyngor Sir Ddinbych i amlygu’r cymorth sydd ar gael ac annog ceisiadau yn ogystal â galwadau ffôn dilynol ac ymgysylltu â phartneriaethau.

    Dywedodd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y Cyngor:

    “Rwy’n falch iawn bod yr ymgyrch wedi arwain at nodi miloedd o bunnoedd o fudd-daliadau heb eu hawlio i helpu pensiynwyr yn Sir Ddinbych. Trwy ddata rhagweithiol ac ymgyrchoedd, rydym yn helpu mwy o bobl i gael mynediad at yr arian y mae ganddynt hawl iddo, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i aelwydydd.

    Mae hawlio Credyd Pensiwn yn bwysig oherwydd ei fod yn gweithredu fel porth i hawliau eraill. Efallai mai ychydig o bunnoedd yn unig y gall rhai pobl ei hawlio mewn Credyd Pensiwn, felly gall deimlo nad yw’n werth ei hawlio, ond dylent ystyried y darlun ehangach gan ei fod yn agor y drws i lawer mwy o gymorth gan gynnwys y Taliad Tanwydd y Gaeaf.

    Dywedodd Julie Pierce, Prif Swyddog Dros Dro Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych:

    “Rydym yn falch iawn bod yr ymgyrch wedi helpu cymaint o bensiynwyr ar draws y sir.  Mae llawer o bobl yn poeni’n fawr am eu biliau gwresogi yr adeg hon o’r flwyddyn, felly byddwn yn annog pensiynwyr i gysylltu â Chyngor ar Bopeth i ofyn am gymorth cyn 21 Rhagfyr.

    Mae’r ymgyrch wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sefydlogrwydd ariannol pobl, gan arwain at welliannau mewn iechyd a lles meddwl.  Ymwelodd un preswylydd â'n swyddfa i weld a allai fod yn gymwys i gael unrhyw gymorth ychwanegol.  Dangosodd gwiriad budd-daliadau y gallai fod â hawl i Gredyd Pensiwn, Budd-dal Tai, a Gostyngiad Treth y Cyngor. Galwodd Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych linell hawlio Credyd Pensiwn a helpu gyda'i gais. Fodd bynnag, yn ystod y gwiriad cymhwyster, darganfuwyd bod ganddo bensiwn preifat heb ei hawlio nad oedd yn ymwybodol ohono.  Darganfu fod ganddo gyfandaliad pensiwn preifat o ychydig o dan £60k a phensiwn blynyddol o £11k. Yn amlwg roedd hyn yn golygu nad oedd bellach yn gymwys ar gyfer unrhyw fudd-daliadau prawf modd, ond roedd wrth ei fodd gyda’r canlyniad.”

    Gallwch ddarganfod a ydych yn gymwys am Gredyd Pensiwn a’r swm y gallech ei hawlio gan ddefnyddio’r cyfrifiannell pensiwn - www.gov.uk/cyfrifiannell-credyd-pensiwn. Os ydych yn ansicr o ran eich cymhwysedd, neu os hoffech help a chymorth gyda’ch cais, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar 01745 346 775 neu www.cadenbighshire.co.uk/hafan. Fel arall, gellir gwneud hawliadau ar-lein ar www.gov.uk/credyd-pensiwn neu drwy ffonio llinell hawlio Rhadffôn Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234.

    Cyngor gan ein Swyddog Digidol

    Ydych chi'n dioddef o gynadleddau fideo sy’n araf a rhyngrwyd araf tra yn gweithio gartref?

    Mae ein Swyddog Digidol ar gael i gynnig cyngor diduedd am ddim ar eich cysylltiad rhyngrwyd cartref, datrysiadau uwchraddio posibl a phroblemau Wi-Fi cartref.

    Cysylltwch gyda Philip Burrows - philip burrows@sirddinbych.gov.uk

    Cymorth costau byw

    Mae adran newydd ar dudalen 'Cymorth Costau Byw' ar wefan y Cyngor ac rydych bellach yn gallu gwneud chwiliad yn seiliedig ar eich amgylchiadau.

    Y categorïau yw: 

    • Lluoedd arfog/cyn-filwyr
    • Gofalwyr
    • Pobl anabl
    • Teuluoedd
    • Pensiynwyr
    • Pobl nad ydynt yn gweithio
    • Pobl sydd wedi colli anwyliaid
    • Myfyrwyr

    Sir Ddinbych yn Gweithio

    Digwyddiadau am ddim i gefnogi trigolion

    Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig digwyddiadau misol yn rhad ac am ddim wedi'u cynllunio i gefnogi trigolion 16 oed a hŷn i wella eu sgiliau, gwella eu lles, a symud yn nes at gyflogaeth. Mae'r digwyddiadau hyn yn darparu amgylchedd croesawgar i ddysgu pethau newydd, cysylltu ag eraill, a chynyddu eich hyder. P'un a ydych am archwilio cyfleoedd am swydd newydd, datblygu eich sgiliau proffesiynol, neu roi hwb i'ch lles personol, mae ein digwyddiadau yma i helpu. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fuddsoddi yn eich dyfodol - cofrestrwch heddiw!

    Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol @SirDdinbychynGweithio / @WorkingDenbighshire

    • Sesiwn galw i fewn yn Llyfrgell Y Rhyl:
      • Dydd Mawrth 17 Rhagfyr rhwng 2pm – 4pm
      • Dydd Iau 19 Rhagfyr rhwng 10am – 12pm
    • Sesiwn galw i fewn yn Llyfrgell Corwen:
      • Dydd Mercher 4 Rhagfyr rhwng 10am – 12pm WEDI BOD
    • Sesiwn galw i fewn yn Llyfrgell Llangollen:
      • Dydd Mercher 18 Rhagfyr rhwng 2pm – 4pm
    • Sesiwn galw i fewn yn Hwb Dinbych:
      • Dydd Iau 19 Rhagfyr rhwng 10am – 12pm
    • Sesiwn galw i fewn yn Llyfrgell Rhuthun:
      • Dydd Iau 12 Rhagfyr rhwng 1pm – 3pm WEDI BOD
    • Sesiwn galw i fewn yn Llyfrgell Prestatyn:
      • Dydd Gwener 20 Rhagfyr rhwng 10am – 12.30pm

    Amserlen Sesiynau Barod ar gyfer mis Rhagfyr

    Digwyddiadau gwybodaeth a lansiwyd i gefnogi ceiswyr gwaith

    Mae cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth rhad ac am ddim wedi’u lansio, gyda’r bwriad o helpu preswylwyr Sir Ddinbych i archwilio dewisiadau gyrfa ar draws diwydiannau gwahanol. Mae’r sesiynau hyn, a gynhelir o ddiwedd mis Tachwedd a thrwy fis Rhagfyr, yn gyfle i ddysgu mwy am swyddi, datblygiad gyrfa, sgiliau, hyfforddiant, cyflog a’r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano yn y sectorau allweddol.

    Dyma amserlen y digwyddiadau:

    Gweithio ym Maes Gofal Cymdeithasol

    • Diwrnod Gwybodaeth: 10 Ionawr, 10am – 11am, Swyddfa Sir Ddinbych yn Gweithio, Llyfrgell y Rhyl, Stryd yr Eglwys, y Rhyl, LL18 3AA

    Gweithio yn y Sector Lletygarwch

      • Diwrnod Gwybodaeth: 17 Rhagfyr, 1pm – 2:30pm: Swyddfa Sir Ddinbych yn Gweithio, Llyfrgell y Rhyl, Stryd yr Eglwys, y Rhyl, LL18 3AA gyda Sophie, Siaradwr Gwadd o Hamdden Sir Ddinbych.

      Yn dilyn y diwrnodau gwybodaeth, bydd rhai o’r sectorau hyn hefyd yn cynnig sesiynau blasu ymarferol, gan roi cyfle i’r sawl a fynychodd gael syniad o’r amgylchedd gwaith ym mhob sector. Cynhelir sesiwn flasu’r sector Coedwigaeth a Chadwraeth ar 5 Rhagfyr rhwng 12:30pm a 4pm, a bydd sesiynau tebyg i ddilyn.

      Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

      “Mae digwyddiadau sector Sir Ddinbych yn Gweithio yn enghraifft wych o sut yr ydym yn helpu preswylwyr i ddod o hyd i yrfaoedd gwerth chweil. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi mynediad uniongyrchol i bobl at wybodaeth a chipolwg ar ddiwydiannau, sy’n ffordd wych o roi hwb i gyflogaeth leol a chryfhau ein cymuned.”

      Meddai Rachael Sumner-Lewis, Rheolwr Perthnasoedd Cyflogwyr a Hyfforddiant, Sir Ddinbych yn Gweithio:

      “Nod ein digwyddiadau gwybodaeth am sectorau yw pontio’r bwlch rhwng ceiswyr gwaith a diwydiannau lleol. Drwy edrych yn fanwl ar bob sector, rydym yn eu cefnogi i ddatblygu sgiliau, ailhyfforddi neu hyd yn oed cael cipolwg ar y farchnad swyddi.”

      I gael rhagor o wybodaeth ac er mwyn archebu eich lle, ewch i gwefan Eventbrite.

      I gael rhagor o wybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio a’r gefnogaeth sy’n cael ei chynnig drwy’r gwasanaeth, ewch i’r wefan.

      Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

      Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

      Preswylydd o Sir Ddinbych yn cyflawni rôl wrth frwydro yn erbyn heriau meddygol

      Swydd ddelfrydol Emily o Sir Ddinbych oedd gweithio ym myd addysg. Mae hi wedi brwydro i oresgyn rhwystrau personol a phroffesiynol a sicrhau lleoliad dechrau gweithio fel Cymhorthydd Addysgu yn Ysgol Frongoch, er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n wynebu heriau meddygol.

      Roedd Epilepsi bob amser am ddylanwadu ar daith Emily at gyflogaeth. Mae’n gyflwr meddygol sydd wedi effeithio'n sylweddol ar ei hyder a’i phrofiadau bywyd. Ers cael diagnosis, mae Emily wedi wynebu amryw heriau, o lywio bywyd ysgol i oresgyn canfyddiadau cymdeithas.

      Mae Emily yn gweld ei Hepilepsi fel cyflwr meddygol, ond mae’n cydnabod y bydd pobl eraill ag Epilepsi yn gweld pethau’n wahanol. Cafodd hyn effaith fawr ar ei bywyd, yn enwedig yn ystod yr ysgol uwchradd, pan oedd angen cymorth arni fel cadeiriau arbenigol a chymorth un i un, gan wneud iddi deimlo’n hunan-ymwybodol o flaen ei chyfoedion. Soniodd am fethu allan ar brofi cerrig milltir allweddol yn ei harddegau, fel mynd allan gyda ffrindiau, dysgu sut i yrru, a chanfod swydd ddiogel.

      Roedd Emily’n benderfynol o wneud newid cadarnhaol a helpu pobl ifanc eraill a chysylltodd â Sir Ddinbych yn Gweithio ar ôl dysgu am y gwasanaeth trwy ei gweithiwr cymdeithasol. Soniodd Emily am ei dymuniad i weithio gyda phlant ac roedd am gynyddu ei phrofiad trwy weithio mewn ysgol.

      Yna cafodd Emily ei pharu â Mentor, Byron, a ddaeth o hyd i leoliadau perthnasol a chysylltu ag Ysgol Frongoch, i drafod y posibilrwydd o drefnu lleoliad di-dâl, trwy gynllun Dechrau Gweithio Sir Ddinbych yn Gweithio. Gan weld potensial Emily, cefnogodd y Pennaeth Dylan Thomas y fenter a sicrhau bod swydd ar gael iddi wneud cais amdani.

      Gyda chefnogaeth ei mentor, cymerodd Emily ran mewn hyfforddiant arbenigol trwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, gan gynnwys cyrsiau mewn Cynllunio Gwersi i Gymorthyddion Addysgu, Rheoli Ymddygiad yn yr Ystafell Ddosbarth, Tystysgrif Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 a Diogelu Myfyrwyr, er mwyn rhoi hwb i’w hyder a gwella sgiliau eraill oedd eu hangen ar gyfer y lleoliad hwn.

      Ar ôl cwblhau cyrsiau angenrheidiol, trefnodd Byron gyfweliad cyn sgrinio yn yr ysgol i Emily. Roedd ei hymroddiad yn ystod ei lleoliad cyntaf wedi creu argraff barhaus, a chynigiwyd lleoliad fel Cymhorthydd Addysgu i Emily. Bydd hyn yn rhoi profiad perthnasol iddi a chyfle i gael swydd gyflogedig.

      Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
      “Mae stori Emily yn enghraifft ysbrydoledig o sut gall penderfyniad, cefnogaeth wedi’i theilwra a chyfleoedd cynhwysol drawsnewid bywydau. Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i rymuso unigolion i oresgyn rhwystrau a chyflawni eu dyheadau. Mae’r llwyddiant hwn yn amlygu pwysigrwydd creu gweithleoedd sy’n croesawu a chefnogi unigolion dawnus â chyflyrau meddygol, gan sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ffynnu.”

      Trwy gydol y broses, bu Sir Ddinbych yn Gweithio yn gweithio’n agos gydag Ysgol Frongoch i sicrhau bod anghenion meddygol Emily yn cael eu cefnogi’n llawn. Mae’r bartneriaeth hon yn dangos pwysigrwydd recriwtio unigolion dawnus â chyflyrau meddygol ac mae’n amlygu’r gwerth y gall ymgeiswyr posibl ei rhoi i’r gweithle, gyda chefnogaeth effeithiol.

      Ychwanegodd Dylan Thomas, Pennaeth Ysgol Frongoch:

      ‘’Cafodd Emily y cyfle i weithio yn Frongoch ac mae hi wedi goresgyn nifer o rwystrau i sicrhau ei bod hi’n barod i ddechrau ei hamser yn y gweithle. Gobeithir mai dyma’r cyntaf o nifer o gyfleoedd i Emily yn y gweithle.’’

      Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn ymrwymedig i hyrwyddo cyfle cyfartal a dangos sut gall arferion cynhwysol fod o fudd i gyflogwyr a gweithwyr.

      Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, dywedodd Emily: 

      ‘’Roedd cael y cyfle i weithio yn Ysgol Frongoch ar ôl gorffen fy arholiadau lefel A yn gyfle anhygoel i mi. Gwnaeth Sir Ddinbych yn Gweithio helpu i ddatblygu fy sgiliau cyfweliad, adeiladu fy hyder ac ehangu fy newis o swyddi. Dwi’n ddiolchgar iawn am hynny. Mae’r cyfle hwn wedi dangos bod unrhyw beth yn bosib gyda’r gefnogaeth briodol.’’

      Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

      Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

      Digwyddiad Nadolig Lles

      Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i’n gweld ni yn y Digwyddiad Nadolig Llesiant yn y Rhyl ar yr 28ain o Dachwedd!

      Cafodd ein Tîm Barod ddiwrnod gwych yn cyfarfod cynifer ohonoch, yn sgwrsio am y gefnogaeth y gallwn ei chynnig, ac yn mwynhau’r gweithgareddau Nadoligaidd

      Diolch arbennig i’r trefnwyr am gynnal digwyddiad mor gynnes a chroesawgar – rydyn ni eisoes yn edrych ymlaen at y nesaf!

      Natur er Budd Iechyd

      Dathlu gwirfoddolwyr ‘anhygoel’ am feithrin natur ar ddiwrnod arbennig

      Mae criw o wirfoddolwyr yn Sir Ddinbych

      Mae criw o wirfoddolwyr yn Sir Ddinbych wedi eu cydnabod am eu hymrwymiad i helpu natur lleol yn ystod digwyddiad rhyngwladol.

      Mae heddiw’n nodi Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr, diwrnod i ddathlu a diolch i bobl o amgylch y byd sy’n rhoi eu hamser prin a’u hymdrechion i wasanaeth gwirfoddol.

      Mae gwirfoddolwyr wedi ymdrechu i gefnogi nifer o brosiectau cadwraeth, bioamrywiaeth a natur ledled y sir.

      Trwy’r Prosiect Natur er budd Iechyd, a ariennir gan Lywodraeth y DU, sy’n gweithio gydag unigolion a chymunedau i amlygu sut y gall cael mynediad at natur wella iechyd a lles, mae gwirfoddolwyr wedi helpu ceidwaid cefn gwlad gyda nifer o brosiectau.

      Maent wedi sefyll ochr yn ochr â’r ceidwaid i weithio ar warchodfeydd natur y sir i ddatblygu cynefinoedd ac wedi helpu gyda phrosiectau tymhorol penodol gan gynnwys cartref enwog Môr-wenoliaid Twyni Gronant.

      Mae gwirfoddolwyr eraill wedi camu ymlaen i helpu i greu ardaloedd coetir newydd yn y sir i gymunedau lleol a natur eu mwynhau ac wedi creu grŵp gwirfoddoli bywiog ym mhlanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy, gan helpu i dyfu coed a blodau gwyllt lleol o hadau a gafwyd yn lleol.

      Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae hwn y diwrnod perffaith i gydnabod ymrwymiad gwych gwirfoddolwyr wrth helpu gyda phrosiectau cefn gwlad ledled y sir. Mae eu brwdfrydedd tuag at siapio ardaloedd a fydd o fudd i natur a chyd-drigolion yn rhywbeth y dylent wir fod yn falch ohono, a diolchaf iddynt am eu cymorth a’u cefnogaeth barhaus.

      Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein gwirfoddolwyr yn y blanhigfa goed yn hollol wych, mae’r gymuned maent wedi ei chreu yno wedi dod yn rhan mor allweddol o’r blanhigfa. Rwy’n gwybod bod ein swyddogion wir yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau cwmni’r gwirfoddolwyr pan fyddant ar y safle ac maent yn ddiolchgar iawn am y cymorth anhygoel a ddarparant i amddiffyn ein natur leol.

      Mae’r prosiect planhigfa goed wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy brosiect Partneriaethau Natur lleol Cymru ENRaW a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

      Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu os oes arnoch eisiau rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk.

      Maethu Cymru Sir Ddinbych

      Annog mwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth

      Mae ymchwil newydd yn tynnu sylw at yr arbenigedd a’r cymorth a ddarperir gan weithwyr cymdeithasol yn Sir Ddinbych, er mwyn ceisio annog mwy o bobl i faethu. Gyda dros 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ledled Cymru – 198 ohonynt yma yn Sir Ddinbych – mae’r angen am fwy o Ofalwyr Maeth yn fwyfwy pwysig. 

      Ym mis Ionawr, lansiodd y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, Maethu Cymru, ymgyrch i recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026. Ymunodd Maethu Cymru Sir Ddinbych â’r ymgyrch, ‘gall pawb gynnig rhywbeth’ i rannu profiadau realistig y gymuned faethu ac ymateb i rwystrau cyffredin sy’n atal pobl rhag gwneud ymholiad. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys diffyg hyder, camsyniadau ynghylch meini prawf, a chred nad yw maethu’n cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.

      I ddarllen mwy am yr ymgyrch 'Gall Pawb Gynnig Rhywbeth' a hefyd sut y gallech ddod yn ofalwr maeth, ewch i wefan Maethu Cymru Sir Ddinbych.

      Gofal Cymdeithasol

      Beth ydych chi'n meddwl sy'n gwneud gofalwr da?

      Ada Davies yn egluro beth mae gofalwr da yn ei olygu iddi

      Ydych chi'n chwilio am swydd, her neu newid gyrfa newydd? Gall gweithio mewn gofal fod yn berffaith i chi.
      Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y proffesiwn gofalu.

      Gwasanaethau Cefn Gwlad

      Golygfeydd y dyffryn yn gefndir i gystadleuaeth dymhorol arbennig

      ystadleuaeth plygu gwrych Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych

      Mae cystadleuaeth cefn gwlad wedi nodi diweddglo i 2024 gyda golygfeydd Dyffryn Clwyd yn gefndir i’r cyfan.

      Eleni cynhaliwyd cystadleuaeth plygu gwrych Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ar Fryniau Clwyd uwch ben Rhuthun.

      Cymerodd bron i 40 o bobl, yn cynnwys gwirfoddolwyr, ran yn y gystadleuaeth, a gynhaliwyd ar dir o dan faes parcio Pen Barras sy’n edrych allan dros Ruthun.

      Yn ychwanegol i gyfranogiad y gwirfoddolwyr, yr oedd hefyd gategori staff a oedd yn cynnwys cynigion gan Gadwch Gymru'n Daclus, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint, a Gwirfoddolwyr Cadwraeth y Wirral yn ogystal â thimau o wahanol ardaloedd gwledig yn Sir Ddinbych, a gyda’i gilydd fe wnaethant blygu 104 metr o wrych.

      Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, ynghyd â gwirfoddolwyr, yn plygu gwrychoedd yn rheolaidd ar draws y sir i gefnogi natur leol.

      Mae ceidwaid a gwirfoddolwyr yn plygu gwrychoedd i adfer y gwrychoedd trwy dorri rhywfaint o goesau a’u gosod ar ongl i annog ail dwf a llenwi bylchau yn y gwrych.

      Yn draddodiadol, mae’r sgil hon yn dechneg gyffredin a ddefnyddiwyd gan ffermwyr a thirfeddianwyr dros y gaeaf i reoli eu ffiniau. Daeth dulliau mecanyddol o gynnal a chadw gwrychoedd yn fwy cyffredin, ond mae astudiaethau wedi dangos bellach bod y dull hŷn hwn yn llawer mwy effeithiol ar gyfer aildyfiant gwrychoedd sydd fawr ei angen.

      Wrth i’r gwrychoedd ddod yn fwy ffres ac iau yn eu hymddangosiad, mae’r dechneg hefyd yn galluogi i waelod y gwrych i dewychu gan roi cynefin fwy dwys er mwyn i fioamrywiaeth ffynnu.

      Mae’r canlyniadau wedi’u cynnwys isod:

      Gwirfoddolwyr:

      • 1af Ed a Huw (Gwirfoddolwyr Sir Ddinbych)
      • 2il Roger a Tery (Gwirfoddolwyr Sir Ddinbych)
      • 3ydd Pete a Peter (WCV)

      Staff:

      • 1af Sasha a Rich (CSDd)
      • 2il Adrian a Gwyl (CSFf a CCD)
      • 3rd Vitor a Matt (CSDd) ar y cyd â Phil Lewis (Smithy farm)

      Meddai’r Uwch Geidwad, Jim Kilpatrick: “Dyma leoliad gwych i ddathlu ein degfed digwyddiad plygu gwrych, mae pawb a fynychodd wedi gwneud gwaith gwych yn ystod diwrnod cystadleuol a hwyliog. Mae’r canlyniadau’n wych ac fe fydd yn helpu i wella bioamrywiaeth yn y rhan yma o Fryniau Clwyd.

      “Mae’r digwyddiad yn ogystal â’r Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi cael ei grynhoi’n grêt gan y tlysau a gafodd eu cyflwyno i’n henillwyr ar y diwrnod.

      “Cafodd y rhain eu creu gan un o’n gwirfoddolwyr mwyaf ymroddedig. Nid yn unig y mae Steve yn dod i dri neu bedwar o ddigwyddiadau gwirfoddoli bob wythnos yn ddi-ffael, ond fe dreuliodd ei amser sbâr yn defnyddio pren a dorrwyd o safle yn ystod gweithgareddau gwirfoddoli a gwnïo menig gwrychoedd â llaw a’u gosod nhw drws nesaf i’r bilwg bychan ar gyfer y cystadleuwyr oedd yn ddigon ffodus o’u hennill nhw.

      “Gyda’r holl brosiectau ar raddfa fawr yr ydym ni’n ymwneud â nhw, rhai o elfennau mwyaf calonogol y swydd yw gweld aelod o’r gymuned leol yn rhoi cymaint ond hefyd yn elwa’n aruthrol o’r hyn mae’r gwasanaeth yn ei gynnig.”

      Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae gwrychoedd yn gynefinoedd hanfodol i’n bywyd gwyllt lleol, ac mae canlyniadau y gystadleuaeth wych hon mewn lleoliad arbennig yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r rôl sydd gan y safle wrth gefnogi natur. Da iawn i’r holl enillwyr ac i bawb a gymerodd ran am helpu i gadw hen sgil cefn gwlad wych yn fyw gan arwain at fanteision enfawr i’r tir a bioamrywiaeth.”

       

      Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid