Digwyddiadau gwybodaeth a lansiwyd i gefnogi ceiswyr gwaith
Mae cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth rhad ac am ddim wedi’u lansio, gyda’r bwriad o helpu preswylwyr Sir Ddinbych i archwilio dewisiadau gyrfa ar draws diwydiannau gwahanol. Mae’r sesiynau hyn, a gynhelir o ddiwedd mis Tachwedd a thrwy fis Rhagfyr, yn gyfle i ddysgu mwy am swyddi, datblygiad gyrfa, sgiliau, hyfforddiant, cyflog a’r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano yn y sectorau allweddol.
Dyma amserlen y digwyddiadau:
Gweithio ym Maes Gofal Cymdeithasol
- Diwrnod Gwybodaeth: 10 Ionawr, 10am – 11am, Swyddfa Sir Ddinbych yn Gweithio, Llyfrgell y Rhyl, Stryd yr Eglwys, y Rhyl, LL18 3AA
Gweithio yn y Sector Lletygarwch
- Diwrnod Gwybodaeth: 17 Rhagfyr, 1pm – 2:30pm: Swyddfa Sir Ddinbych yn Gweithio, Llyfrgell y Rhyl, Stryd yr Eglwys, y Rhyl, LL18 3AA gyda Sophie, Siaradwr Gwadd o Hamdden Sir Ddinbych.
Yn dilyn y diwrnodau gwybodaeth, bydd rhai o’r sectorau hyn hefyd yn cynnig sesiynau blasu ymarferol, gan roi cyfle i’r sawl a fynychodd gael syniad o’r amgylchedd gwaith ym mhob sector. Cynhelir sesiwn flasu’r sector Coedwigaeth a Chadwraeth ar 5 Rhagfyr rhwng 12:30pm a 4pm, a bydd sesiynau tebyg i ddilyn.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae digwyddiadau sector Sir Ddinbych yn Gweithio yn enghraifft wych o sut yr ydym yn helpu preswylwyr i ddod o hyd i yrfaoedd gwerth chweil. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi mynediad uniongyrchol i bobl at wybodaeth a chipolwg ar ddiwydiannau, sy’n ffordd wych o roi hwb i gyflogaeth leol a chryfhau ein cymuned.”
Meddai Rachael Sumner-Lewis, Rheolwr Perthnasoedd Cyflogwyr a Hyfforddiant, Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Nod ein digwyddiadau gwybodaeth am sectorau yw pontio’r bwlch rhwng ceiswyr gwaith a diwydiannau lleol. Drwy edrych yn fanwl ar bob sector, rydym yn eu cefnogi i ddatblygu sgiliau, ailhyfforddi neu hyd yn oed cael cipolwg ar y farchnad swyddi.”
I gael rhagor o wybodaeth ac er mwyn archebu eich lle, ewch i gwefan Eventbrite.
I gael rhagor o wybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio a’r gefnogaeth sy’n cael ei chynnig drwy’r gwasanaeth, ewch i’r wefan.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.