Mae gwaith wedi dechrau gan dîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych, i greu hafan gefnogol ar gyfer natur a chymunedau ar Fryniau Clwyd.
Mae bron i 18,000 o goed collddail wedi cael eu plannu ym Moel y Plâs, ger Llanarmon yn Iâl, gan geidwaid a gwirfoddolwyr o’r cymunedau cyfagos i helpu i greu cynefinoedd amrywiol newydd sydd yn frith o rywogaethau, ac mae gwaith wedi dechrau i adfer rhostir, gwella ffridd, creu cynefinoedd gwlypdir a chynnal coetiroedd (yn cynnwys coetir o goed collddail, a derw brodorol a choedlan wlyb).
Mae’r datblygiad yma’n rhan o waith y Cyngor i fynd i’r afael â’r Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol a ddatganwyd yn 2019 a’i fwriad i fod yn Ddi-garbon Net ac yn awdurdod lleol Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.
Mae colli a darnio cynefinoedd yn fygythiadau mawr i fioamrywiaeth, ac mae newid hinsawdd yn gwaethygu hyn drwy gyfyngu ar allu rhywogaethau i gael mynediad at gynefinoedd mwy ffafriol.
Ar gyfer y prosiect yma, fe grëwyd coetir a gwrychoedd i wella cysylltedd rhwng cynefinoedd cyfagos sydd eisoes yn bodoli fel coridorau bywyd gwyllt.
Mae’r prosiect creu coetir wedi cael cyllid allan o grant o £800,000 a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU.
Ynghyd â’r sefyllfa bresennol ac arwain digwyddiadau gwirfoddoli, fe fydd tîm ceidwaid Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn parhau i reoli’r safle yn yr hirdymor yn rhan o’i rôl yn sicrhau bod amgylchedd yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn cael ei wella a’i amddiffyn a bod y tir yn cael ei wneud yn fwy hygyrch.
Er mwyn cefnogi manteision lles i ymwelwyr, bydd ceidwaid yn cynnal hygyrchedd ar hyd Hawliau Tramwy i gynorthwyo cerddwyr sy’n defnyddio Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a llwybrau troed lleol sydd yn mynd drwy’r safle.
Mae camfeydd yn cael eu huwchraddio i giatiau mochyn gyda chlicedi mynediad hawdd a bocsys mwy yn unol ag amcanion Tirwedd Cenedlaethol i wneud yr awyr agored yn fwy cynhwysol a hygyrch i wella lles cymunedol a phrofiad ymwelwyr.
Mae ffensys ffiniol wedi cael eu hailosod er mwyn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer tymor pori da byw ar y safle.
Fe fydd arwyddion newydd yn sicrhau bod llwybrau yn hawdd i’w dilyn a bydd paneli gwybodaeth yn helpu ymwelwyr i ddeall gwerth y dirwedd o’u hamgylch.
Lle y bo’n bosibl, mae contractwyr a deunyddiau wedi cael eu canfod yn lleol i gefnogi busnesau lleol a lleihau ôl-troed carbon y prosiect.
Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Fe fydd y gwaith o amgylch Moel y Plâs yn helpu ein Sir i adeiladu gwytnwch cryfach yn erbyn effeithiau newid hinsawdd yn erbyn ein natur wrth i ni symud tua’r dyfodol. Mae hi’n bwysig ein bod ni’n manteisio ar yr hyn sydd gennym ni i geisio gwrthdroi colli cynefinoedd naturiol dros y blynyddoedd i sicrhau bod gan ein natur lleol gyfle hollbwysig i oroesi a ffynnu yn y pendraw wrth symud ymlaen.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Dyma ardal ffantastig ar Fryniau Clwyd sydd yn llawn hanes ac a fydd yn darparu cartref gwell i’r byd natur sydd i’w ganfod ar y bryniau.
“Mae’r ceidwaid a gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith gwych yn gwneud y safle’n hygyrch i gerddwyr sydd yn ymweld â’r ardal leol i’w helpu i fwynhau manteision y tir ac rydw i’n edrych ymlaen at weld y canlyniadau gorffenedig.”