Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2024
Cynhaliwyd Gwobrau Twristiaeth Go North Wales ddydd Iau 21 Tachwedd yn Venue Cymru, Llandudno i ddathlu a chydnabod rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Bearded Men Adventures o Llangollen ymhlith yr enillwyr. Enillodd Bearded Men Adventures sydd yn cynnal gweithgareddau 'adrenalin' yn cynnwys rafftio dŵr, canŵio ar draws Pontcysyllte, a thaflu bwyeill, ddwy wobr.
Gallwch ddarganfod mwy am yr enillwyr i gyd ar wefan Go North Wales.
Mae 2025 yn nodi Blwyddyn Croeso – yng Nghymru
Bydd Croeso 25 yn lansio ym mis Ionawr 2025 ac yn nodi’r nesaf mewn cyfres lwyddiannus o flynyddoedd thema dan arweiniad Croeso Cymru.
Rydym ni yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn bwriadu defnyddio’r flwyddyn thematig hon i ddathlu ein croeso Cymreig. Ei nod yw rhannu’r profiad Cymreig unigryw a’r ‘hwyl’ gyda’r byd.. Darllenwch y blog yma.
Mwy o wybodaeth gan Croeso Cymru Croeso 25: Sut i gymryd rhan - adnoddau ac asedau nawr ar gael yma
Hoffech chi ddysgu mwy am Lwybr Arfordir Cymru a'r Llwybrau Cenedlaethol?
Mae tîm Twristiaeth Sir Ddinbych yn falch o gyhoeddi modiwl 'Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol' newydd i gynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych sydd bellach yn fyw. Mae’r modiwl hwn wedi’i ariannu gan Lwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol.
Mae'r modiwl yn cynnwys:
- Cyflwyniad i Lwybr Arfordir Cymru a'r Llwybrau Cenedlaethol
- Llwybr Arfordir Cymru
- Mwynhau Llwybr Arfordir Cymru
- Llwybr Arfordir Sir Benfro
- Mwynhau Llwybr Arfordir Sir Benfro
- Llwybr Clawdd Offa
- Mwynhau Llwybr Clawdd Offa
- Llwybr Glyndŵr
- Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol yn Sir Ddinbych
Cadwch mewn cysylltiad ar newyddion twristiaeth!
I gadw llygad ar y newyddion diweddaraf, fe allwch gofrestru i dderbyn ein cylchlythyrau rheolaidd yma.
Gallwch hefyd ddilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn ‘North East Wales’ ar Facebook ac Instagram neu gallwch fynd i'n gwefan >>> https://www.northeastwales.wales/cy/.