llais y sir

Cyllideb

Rhybudd Cyngor am heriau difrifol i'r gyllideb.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rhybuddio bod cyfnod heriol o'i flaen wrth iddo wynebu pwysau parhaus ar y gyllideb o ganlyniad i gostau cynyddol a’r galw am wasanaethau.

Amcangyfrifir y bydd darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd – gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, casglu gwastraff ac ysgolion, yn costio £26m yn ychwanegol oherwydd cynnydd mewn prisiau, chwyddiant, a phwysau ar alw.

Er gwaethaf cynnydd disgwyliedig mewn cyllid o £5.6m (3%) gan Lywodraeth Cymru, mae hyn yn dal i adael bwlch ariannu o £20.4m. Fel Awdurdodau Lleol ledled Cymru, mae'n rhaid i'r Cyngor ddod o hyd i arian ychwanegol drwy arbedion ac effeithlonrwydd, taliadau am wasanaethau, cynnydd yn Nhreth y Cyngor neu drwy leihau neu dorri gwasanaethau.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol y Cabinet dros Dwf Economaidd ac Ymdrin ag Amddifadaeth, “Fel pob Cyngor ar draws Cymru a Lloegr rydym yn wynebu cyfnod hynod o heriol. Mae dros ddegawd o doriadau llym cyson gan Lywodraeth y DU wedi effeithio ar awdurdodau lleol ac o ganlyniad mae’n rhaid inni wneud penderfyniadau anodd iawn.

“Rydym eisoes wedi bod yn edrych ar bob un o swyddogaethau'r Cyngor i ganfod arbedion cyllidebol. Rydym wedi gofyn i staff yn fewnol gynnig syniadau; rydym yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud yn wahanol, yr hyn y gallwn ei leihau a beth y gallwn ei atal. Ar sail yr ystyriaethau hyn, rydym yn gweithio i lunio rhestr o arbedion posibl ar draws popeth a wnawn. Mae’r sefyllfa ariannol bresennol yn hynod heriol ac o ganlyniad, mae’r angen am arbedion sylweddol yn y gyllideb yn ddigynsail.”

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, “Prif flaenoriaeth y Cabinet ar hyn o bryd yw sicrhau bod y Cyngor yn gallu mantoli’r cyfrifon. Mae Sir Ddinbych eisiau osgoi sefyllfa lle mae Comisiynwyr allanol yn cael eu hanfon i mewn gan y llywodraeth i leihau gwariant gydag ychydig neu ddim cyfeiriad at yr Aelodau etholedig neu'r cymunedau lleol. Dyma realiti’r hyn a allai ddigwydd pe baem yn methu â mantoli’r cyfrifon.

“Dyna pam mae’n rhaid i ni ddechrau gwneud penderfyniadau anodd nawr. Mae angen i ni allu cytuno i weithredu arbedion sylweddol dros y misoedd nesaf er mwyn ein galluogi i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25. Gwyddom hefyd ei bod yn debygol y bydd heriau tebyg yn ein hwynebu ar gyfer 2025/26.”

Bydd y cynigion a gyflwynir i gyd yn mynd trwy'r broses briodol gyda rhai penderfyniadau'n cael eu gwneud gan y Cabinet tra bydd eraill yn cael eu cymryd trwy benderfyniad dirprwyedig naill ai gan yr Aelod Arweiniol neu'r Pennaeth Gwasanaeth. Bydd pob penderfyniad sy'n cael effaith sylweddol ar ein cymunedau yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

Gallwch weld gwybodaeth am y sefyllfa bresennol ynghyd â chynigion sy’n cael eu hystyried ar wefan y Cyngor ar: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/eich-cyngor/cyllidebau-a-chyllid/ein-cyllideb.aspx

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid