Bron i 2500 yn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf yn Llyfrgelloedd Sir Ddinbych
Eleni cymerodd 2,478 o blant ran yn Sialens Ddarllen yr Haf yn Llyfrgelloedd Sir Ddinbych, yn cynnwys dros 460 o aelodau newydd a ymunodd â’r llyfrgell er mwyn cymryd rhan.
Roedd y thema eleni yn ymwneud â phŵer chwarae, chwaraeon, gemau a gweithgarwch corfforol, dan y teitl ‘Ar Eich Marciau, Barod, Darllenwch!’ ac roedd yn rhad ac am ddim.
Drwy gymryd rhan yn y sialens yn eu llyfrgelloedd lleol, roedd pobl ifanc yn cael cyfle i edrych ar ddeunydd darllen newydd, datblygu sgiliau a darganfod diddordebau newydd.
Sefydlwyd Sialens Ddarllen yr Haf yn 1999 ac mae’n helpu i wella sgiliau a hyder darllen plant dros wyliau’r haf, gan wneud yn siŵr eu bod yn barod i fynd yn ôl i’r ysgol fis Medi. Mae’n annog plant i ddarllen er mwynhad ac i fynd i’r llyfrgell yn rheolaidd. Mae’n hygyrch i bawb ac yn weithgaredd rhad ac am ddim a llawn hwyl i blant.
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae’n braf gweld fod cymaint o bobl ifanc Sir Ddinbych wedi cymryd rhan yn y sialens ddarllen eto eleni.
"Mae’r sialens yn helpu pobl ifanc i fwynhau darllen, darganfod awduron a llyfrau newydd, a hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r sialens yn gyfle i bobl ifanc ymarfer eu sgiliau darllen yn ystod y gwyliau.”