Gwaith y tîm ynni yn gwella effeithlonrwydd cartref gofal
Mae ail gam y gwaith i wella effeithlonrwydd ynni cartref gofal yng Nghorwen wedi lleihau’r defnydd dyddiol ymhellach.
Mae Tîm Ynni y Cyngor wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nefnydd ynni Cysgod y Gaer, Corwen ar ôl cwblhau ail gam y gwaith i wella effeithlonrwydd a lleihau allyriadau ynni’r adeilad.
Mae’r Cyngor yn gweithio i leihau ôl-troed carbon ei adeiladau, sy’n gyfrifol am dros 60 y cant o allyriadau uniongyrchol.
Cafodd cam cyntaf y gwaith yn y cartref gofal ei ariannu gan Gronfa Adferiad Gwyrdd Llywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys gosod paneli PV 10.2kw ar y to i gynhyrchu trydan i bweru’r adeilad.
Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys gosod system oleuadau LED ac addasu’r system wresogi a rheoli, sydd wedi arwain at ostyngiad o 2.80 tunnell o allyriadau carbon y flwyddyn.
Mae’r tîm bellach wedi addasu system wresogi dŵr yr adeilad, sydd wedi arwain at ostyngiad mawr arall yn nefnydd ynni’r cartref gofal.
Mae’r ddau hen silindr dŵr, a oedd yn cael eu gwresogi gan y prif foeleri gwresogi, wedi’u newid am system sy’n galluogi dŵr poeth yn ôl y galw yn hytrach na system dŵr poeth sydd ymlaen drwy’r dydd.
Mae hyn wedi arwain at ddefnyddio llai na thri chwarter o’r ynni a ddefnyddiwyd yn y gorffennol. Yn ogystal ag effaith y gwaith blaenorol, mae’r defnydd o nwy wedi lleihau o gyfartaledd o 750kwh i 200kwh y dydd. Mae hyn yn ostyngiad pellach o 5 i 6 thunnell o allyriadau carbon y flwyddyn. Mae cyfanswm allyriadau’r cartref gofal ar ôl yr holl waith lleihau carbon yn oddeutu 10 tunnell y flwyddyn yn llai nag oedd.
Meddai Robert Jones, y Prif Reolwr Ynni: “Rydym ni’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth preswylwyr a staff Cysgod y Gaer i’n helpu ni i wneud y gwaith yma yn yr adeilad er mwyn darparu cartref mwy ynni-effeithlon iddyn nhw.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon a’n defnydd o ynni ymhob adeilad, a dw i’n falch iawn o weld effaith ardderchog y gwaith diweddaraf yng Nghysgod y Gaer.”