Mae aelodau o Gymuned Dinbych sydd wedi ennill gwobrau wedi cynorthwyo i ddatblygu dôl o flodau gwyllt yn lleol.
Yn syth ar ôl ennill gwobr aur tref Cymru yn ei Blodau 2023 a Gwobr Cefnogwr Cymuned ar gyfer gwirfoddolwr y grŵp, Judy Huxley, bu gwirfoddolwyr Dinbych yn ei Blodau yn gweithio gyda thîm Bioamrywiaeth y Cyngor i ychwanegu mwy o liw ac amrywiaeth i gylchfan ATS.
Mae'r tîm yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a grwpiau ledled y sir i blannu plygiau blodau mewn naw o ddolydd.
Bydd plannu mwy o blygiau blodau mewn nifer o safleoedd, a gaiff eu tyfu ym mhlanhigfa goed y Cyngor, yn helpu i greu dolydd mwy lliwgar ac amrywiol a chefnogi mwy ar fioamrywiaeth ein natur a’n cymunedau lleol.
Mae blodau gwyllt yn nolydd y sir yn darparu bwyd i’r gwenyn a pheillwyr eraill drwy gydol y flwyddyn, ac mae hyn yn cefnogi ein cadwyn fwyd. Mae diddymu’r cynefin hwn yn lleihau’r gefnogaeth ar gyfer peillwyr byd natur, gan effeithio ar ein cadwyn fwyd gan eu bod yn cefnogi twf y rhan fwyaf o’n ffrwythau a’n llysiau.
Mae gwirfoddolwyr Dinbych yn ei Blodau, sydd wedi ennill gwobr Aur a’r Dref Orau yng Nghymru am y pedwerydd tro’n olynol, wedi cefnogi twf rhywogaethau ar gylchfan ATS ac wedi gosod swp coed a gwesty i drychfilod ar y safle i gefnogi’r trychfilod. Gan weithio gyda’r tîm Bioamrywiaeth, maent wedi cyflwyno buddion ‘peidio â thorri gwair’ i gefnogi twf blodau gwyllt.
Meddai Lyndsey Tasker, Cadeirydd Dinbych yn ei Blodau: “Roedd gwirfoddolwyr Dinbych yn ei Blodau yn falch o ymuno â thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych heddiw i weithio ar y cynllun plannu. Rydym yn llwyr gefnogi cynlluniau fel y rhain i greu ardaloedd o fewn ein tref sy’n ceisio denu amrywiaeth ehangach o drychfilod a bywyd gwyllt.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae Dinbych yn ei Blodau eisoes wedi gwneud gwaith gwych ar gylchfan ATS gyda’r hyn y maent wedi’i gyflawni. Rwy’n ddiolchgar iddynt am weithio gyda’n tîm Bioamrywiaeth i gyflawni’r gwelliant hwn a fydd yn gymorth i fynd i’r afael â’r argyfwng natur ac annog mwy o natur yn ôl i’r trefi i breswylwyr ei fwynhau.