Newyddion
Teyrnged i'r Cynghorydd Pete Prendergast
Ar 22 Medi, roedd y Cyngor Sir wedi tristau o glywed am farwolaeth sydyn ein Cadeirydd, sef y Cynghorydd Pete Prendergast.

Bu’r Cynghorydd Prendergast yn Gadeirydd ar y Cyngor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017 - 2018 a chafodd ei ail-ethol yn Gadeirydd ym mis Mai eleni. Bu’n Is-gadeirydd y flwyddyn flaenorol ac roedd wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Sir, yn cynrychioli De Orllewin y Rhyl, ers mis Mawrth 2015.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor: “Rydym wedi ein syfrdanu ac yn drist iawn o glywed am farwolaeth Pete. Roedd yn aelod mor garedig ac uchel ei barch o'r Cyngor ac roedd pawb oedd yn ei adnabod ac a weithiodd ochr yn ochr ag ef yn meddwl yn uchel iawn ohono.
“Rwy’n gwybod bod Pete wrth ei fodd yn cefnogi ei gymuned leol i helpu lle gallai yn ei rôl fel Cynghorydd, roedd bob amser yn helpu gyda charedigrwydd, tosturi a gofal. Rhoddodd Pete gefnogaeth mor gadarnhaol i drigolion y Rhyl yn ei rôl, gan gefnogi llawer o grwpiau cymunedol a gwn ei fod wedi mwynhau gwneud mwy i grwpiau ar draws y sir pan ddaeth yn Gadeirydd i ni yn gynharach eleni.
“Ar ran y Cyngor a chydweithwyr Pete, byddwn yn gweld ei eisiau’n fawr a hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu a’i ffrindiau ar yr adeg drist hon.”
Gwobr ‘Trysor Cudd’ i dŷ a gerddi hanesyddol yn Rhuthun
Mae Nantclwyd y Dre wedi’i gadarnhau’n “Atyniad i Ymwelwyr â Sicrwydd Ansawdd” ac ennill statws Trysor Cudd yn sgil asesiad gan Croeso Cymru.

Mae’r tŷ hanesyddol yn cynnig cyfle unigryw i gloddio i fwy na phum can mlynedd o hanes o’r Canol Oesoedd i’r ugeinfed ganrif. Y tu ôl i’r muriau mae gerddi helaeth “fel pin mewn papur, gyda gwelyau o flodau hardd a lleiniau ble mae ffrwythau a llysiau’n tyfu”, sy’n lle tawel i ymlacio ynghanol tref Rhuthun".
Mae Nantclwyd y Dre hefyd yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld yr ystlumod pedol lleiaf ar y glwyd fagu yn nho’r tŷ, diolch i’r ‘BatCam’!
Mae’r tŷ eisoes wedi ennill y wobr Trysor Cudd gan Croeso Cymru yn 2017, 2018 a 2022. Dywedodd yr asesydd eleni bod yr atyniad yn “rhoi croeso ardderchog ac mae’r gofal i gwsmeriaid a’r wybodaeth a gynigir o’r radd flaenaf” a’i fod “yn llawn haeddu ennill y wobr eto eleni”.
Meddai Kate Thomson, Rheolwr Nantclwyd y Dre: “Rydyn ni’n arbennig o falch o gael yr achrediad ac ennill y wobr Trysor Cudd gan Croeso Cymru. Mae ein staff yn gweithio’n ddiwyd dros ben i fod o gymorth i bobl sy’n ymweld â’r tŷ ac mae’n braf bod Croeso Cymru wedi cydnabod hynny yn yr asesiad.
“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth gan bobl Rhuthun, sy’n ein hysbrydoli i rannu’r tŷ bendigedig hwn a’i holl hanes â phobl o bob oed sy’n dod drwy’r drws.”
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth Sir Ddinbych: “Mae hyn yn newyddion ardderchog i Nantclwyd y Dre, mae’n atyniad arbennig i ymwelwyr yn Rhuthun ac mae’r tîm o staff a gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed iawn. Mae’n drysor cudd rydym oll yn falch ohono, ac eisiau annog pawb i groesi’r trothwy a chael profiad o’i hanes cyfoethog.”
Adroddiad natur allweddol y DU yn amlygu’r prosiect môr-wenoliaid bach
Credyd llun: Michael Steciuk
Mae gwaith i ddiogelu cytref o adar yn Sir Ddinbych yn haeddiannol o arwyddocâd rhyngwladol, yn ôl Adroddiad Blynyddol pwysig ar natur yn y DU.
Mae prosiect Môr-wenoliaid bach Gronant gan Wasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor wedi cael ei restru fel enghraifft gadarnhaol ar gyfer diogelu bywyd gwyllt yn yr Adroddiad ar Gyflwr Natur diweddaraf.
Mae’r Adroddiad ar Gyflwr Natur 2023 wedi’i rannu i wledydd unigol y DU, ac mae’n cael ei lunio drwy gydweithio gyda dros 60 partner grŵp sy’n ymwneud â bioamrywiaeth a natur.
Mae’r rhywogaeth a astudiwyd yn y cydweithrediad wedi gostwng o 19 y cant ar gyfartaledd ers cychwyn monitro yn 1970. Mae’r dirywiad llawer mwy ar gyfer rhai grwpiau, gan gynnwys adar a nodwyd i fod yn golled o 43 y cant.
Serch hynny, mae’r Adroddiad ar Gyflwr Natur yn amlygu Prosiect y Môr-wenoliaid Bach fel darn cadarnhaol o waith cadwraeth o ‘arwyddocâd rhyngwladol’.
Mae timau Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr lleol wedi rhoi bron i ugain mlynedd o’u hamser yn amddiffyn ac yn rheoli nythfa’r môr-wenoliaid bach yn Nhwyni Tywod Gronant.
Dyma’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru; mae’n cyfrannu at dros 10 y cant o’r boblogaeth fagu yn y DU yn ogystal ag ategu heidiau eraill.
Mae môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf yn Affrica ac yn cyrraedd y twyni tywod ym mis Mai i fridio ar y traeth cerrig mân ar safle gwarchodedig sydd wedi’i baratoi ym mis Ebrill gan staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwr. Maen nhw’n dechrau hedfan yn ôl tua’r de ddiwedd mis Awst. Cofnodwyd 155 o adar ifanc ar y safle yn 2022, a monitrwyd 211 o barau bridio.
Mae’r adroddiad yn cydnabod gwaith y staff a’r gwirfoddolwyr sy’n diogelu’r safle drwy amlygu bod twf y nythfa yn debygol o gael ei yrru gan lefelau uchel o lwyddiant wrth fridio yn hytrach na recriwtio adar sy’n oedolion o nythfeydd eraill yn y DU.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: "Mae staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Cefn Gwlad yn gweithio’n ddiflino drwy gydol y tymor i warchod a chefnogi’r nythfa bwysig hon yn Sir Ddinbych. Mae’n wych gweld eu hymdrechion yn cael eu cydnabod fel cam cadarnhaol ymlaen wrth wrthdroi dirywiad poblogaethau ein hadar ar draws y DU."
Sut mae’r Cyngor yn perfformio?
Mae hi’n amser i chi ddweud eich dweud! Mae Arolwg Budd-ddeiliad y Cyngor ar gyfer 2023 - 2034 wedi cael ei lansio. Rydym eisiau gwybod beth mae preswylwyr, busnesau, staff, aelodau etholedig a phartneriaid Sir Ddinbych yn ei feddwl am y gwaith rydym ni’n ei wneud yma yn y Cyngor.

Mae’r arolwg yn gyfle gwych i’r Cyngor ddeall a dysgu gan farn pobl eraill, felly gobeithio y gallwch chi ein helpu ni drwy ateb ychydig o gwestiynau.
Mae hefyd yn ffordd wych i chi ddysgu mwy am y themâu sydd yn rhan o Gynllun Corfforaethol presennol y Cyngor. I gymryd rhan ac i ddweud eich dweud, llenwch yr arolwg drwy fynd i Sgwrs y Sir - Arolwg Budd-ddeiliad
Arweinydd y Cyngor yn talu teyrnged i ysbryd cymunedol yn ystod Storm Babet
Mae Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych wedi canmol gwydnwch ac ymdrechion y gymuned yn dilyn y glaw trwm a darodd y Sir yn ystod Storm Babet ar 20 Hydref.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, “Fe wnaeth llawer o drigolion Sir Ddinbych wynebu cyfnod anodd iawn dros y penwythnos hwnnw, gyda rhai pobl wedi gorfod gadael eu cartrefi, ac eraill wedi gorfod amddiffyn eu cartrefi yn dilyn glaw digynsail mewn cyfnod byr o amser.
"Effeithiodd Storm Babet ar drigolion, ysgolion, a busnesau. Eto i gyd, gwelwyd ysbryd cymunedol ein sir gyda phobl yn helpu ei gilydd."
Profodd y Cyngor alw aruthrol ar wasanaethau yn ystod Storm Babet gan ddelio â dros 600 o alwadau ddydd Gwener a thros y penwythnos. Cymerodd y Ganolfan Gyswllt Cwsmer dros 500 o alwadau ar y dydd Gwener yn unig a chofnododd 195 o ddigwyddiadau. O 5pm ar y dydd Gwener tan 8.30am ar y dydd Llun, deliodd llinell y tu allan i oriau Sir Ddinbych â 118 o alwadau ychwanegol a chofnododd 63 o ddigwyddiadau. Roedd y rhain yn cynnwys llifogydd ar y ffyrdd a chau ffyrdd, llifogydd mewn eiddo, llifogydd afonydd, a difrod i eiddo.
Bu timau'r Cyngor yn gweithio drwy'r nos ar y dydd Gwener a thros y penwythnos i ddatrys amrywiaeth o faterion. Mae timau wedi parhau i weithio gydag unigolion sydd wedi'u heffeithio'n uniongyrchol gan lifogydd ac wedi gweithio i glirio malurion wnaeth effeithio ar lawer o ffyrdd gwledig y sir a cheuffosydd critigol.
Aeth y Cynghorydd McLellan ymlaen i ddweud, "Hoffwn hefyd ddiolch i waith diflino Swyddogion y Cyngor, rhai ohonynt a weithiodd drwy'r nos ac i mewn i'r penwythnos i ddelio â chanlyniadau Storm Babet."
Mae gwybodaeth am beth ddylech ei wneud os bydd llifogydd ar gael ar wefan y Cyngor:
https://www.denbighshire.gov.uk/cy/argyfyngau/llifogydd.aspx
Gallwch ddarganfod sut i baratoi ar gyfer llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru:
https://naturalresources.wales/flooding/what-to-do-in-a-flood/?lang=cy
Cyhoeddi enillwyr y gystadleuaeth enwi cerbydau ailgylchu!
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhyddhau enwau buddugol eu cerbydau ailgylchu newydd sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac y bydd ar ein ffyrdd yn 2024.
Cyflwynwyd dros 100 o geisiadau gan ddisgyblion ysgolion Sir Ddinbych fis Medi. Criwiau gwastraff y Cyngor – fydd yn gyrru’r cerbydau newydd - oedd yn gyfrifol am y gwaith beirniadu cychwynnol, gyda’r penderfyniad terfynol wedi ei gymryd gan Arweinydd y Cyngor, y Prif Weithredwr a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth.
Bydd yr enwau buddugol yn cael eu hargraffu ar y lorïau newydd. Cyn bo hir, bydd trigolion Sir Ddinbych yn gweld Tyrbo, Terbinator, Lord of the Bins a Trash Gordon, ymhlith eraill, yn casglu eu hailgylchu.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, “Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a da iawn i’r holl ysgolion a gymerodd ran. Mae wedi bod yn wych gweld ceisiadau mor frwdfrydig a chreadigol gan blant ysgol y Sir.
“Bydd y cerbydau newydd hyn yn cymryd lle'r fflyd presennol sydd bellach yn hen. Mae’r cerbydau newydd, tri ohonynt yn gerbydau trydan, wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r ymrwymiad i wella lefelau ailgylchu yng Nghymru. Bydd y cerbydau’n fwy cost-effeithiol ac yn fwy ecogyfeillgar, gan arwain at arbedion cost yn y tymor hir.”
Mae rhestr yr ysgolion buddugol ar gael ar wefan y Cyngor, ac mae enwau buddugol y lorïau isod:
- Terbinator
- Stig of the Dump Truck
- Recyclops
- Lord of the Bins
- Trashformer
- Trash Gordon
- Recyclosaurus Rex
- Binny McBinface
- Bindarela
- Tyrbo
- Binnie
- Ailgylchugeitor
- Draig Daear Dragon
- ArBINnig
- Rubbish Sucker Bob
- Benny the Bin Lorry
- Dusty McBinlid
- Binbych
- Mr Eco
- Dilys
- Stitch
|
 |
Ymweliad y Gweinidog â Thŷ Pride yn y Rhyl
Ymwelodd y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, â Thŷ Pride yn y Rhyl ar ddydd Iau 19 Hydref.

Mae Tŷ Pride yn brosiect arloesol sy’n ymroddedig i gefnogi pobl ifanc LHDTC+ sydd naill ai’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref. Mae’r prosiect hwn, a sefydlwyd trwy gydweithrediad arloesol rhwng Cyngor Sir Ddinbych, yr elusen ddigartref Llamau, a thîm Viva LHDTC+ Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl, yn sefyll fel unig fenter byw â chymorth penodol LHDTC+ Cymru.
Ers ei lansio yn haf 2019, mae Tŷ Pride wedi mynd i’r afael â mater dybryd digartrefedd ieuenctid LHDTC+. Fe wnaeth yr adroddiad ‘Out on the Streets’ gan End Youth Homelessness amlygu ymchwil brawychus am y gwendidau cynyddol a wynebir gan bobl ifanc LHDTC+ yng Nghymru, megis gwrthodiad teuluol, cam-drin, teulu'n chwalu, a gwarth. Mae'r ffactorau hyn yn cyfrannu'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at eu risg o brofi digartrefedd a dioddef o iechyd meddwl gwael.
Dywedodd Sam Austin, y Dirprwy Brif Weithredwr, “Dyma’r ddarpariaeth gyntaf o’i bath yng Nghymru. Wrth inni fynd i mewn i gylch arall o gyllid a chyllidebau cyfyngedig, mae'n hanfodol ein bod yn diogelu gwasanaethau fel hyn. Ers i’r prosiect agor gyntaf, mae partneriaeth Tŷ Pride wedi gallu cefnogi deg o bobl ifanc gyda chanlyniadau gwych i bawb.”
Dywedodd Emma Evans, Pennaeth Cynorthwyol Cyflenwi Gwasanaethau a Sicrhau Ansawdd yn Nhŷ Pride, “Mae Tŷ Pride yn darparu gofod diogel, anfeirniadol a chynhwysol i unigolion ifanc LHDTC+ sy’n wynebu digartrefedd. Mae preswylwyr yn cwblhau rhaglen o sgiliau bywyd o fewn cymuned o gyfoedion cefnogol sy'n deall yr heriau, y stigma, a'r gwahaniaethu y maent wedi'u hwynebu. Gyda bron i 50 o bobl ifanc wedi'u cyfeirio at Tŷ Pride o bob rhan o Gymru, mae'r galw am y gwasanaeth hwn yn amlwg."
Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Plant, a Theuluoedd, “Roedd yn bleser rhannu gyda’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, sut mae Tŷ Pride yn arwain y ffordd o ran cefnogi pobl ifanc LHDTC+ sy’n agored i niwed yn y sir diolch i waith partneriaeth rhagorol, gan gynnwys gyda Llywodraeth Cymru. Mae’r effaith gadarnhaol a wneir ar gynifer o fywydau yn ysbrydoledig, ac rydym yn falch o gael y prosiect hwn yn Sir Ddinbych.”
Pwysleisiodd Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg Cyngor Sir Ddinbych aliniad y prosiect â nod allweddol y Cyngor o leihau anghydraddoldebau. Dywedodd, “Mae cael cyfleuster pwrpasol sy’n ymgysylltu â phobl ifanc i adeiladu dyfodol gwell yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i sicrhau Sir Ddinbych sy'n deg, yn ddiogel ac yn fwy cyfartal. Gallwn weld yn y ffordd y mae unigolion ifanc LHDTC+ yn cael eu cefnogi ac yn ffynnu yn Nhŷ Pride fod yr ymrwymiad hwn yn rhoi canlyniadau cadarnhaol.”
Ers ei sefydlu, mae partneriaeth Tŷ Pride wedi cefnogi deg o bobl ifanc, gyda phedwar bellach yn byw’n annibynnol, gan ffynnu yn eu cartrefi newydd. Mae tri o drigolion yn aros yn Nhŷ Pride, ac mae tri wedi dychwelyd yn llwyddiannus i fyw gyda’u teuluoedd.
Mae ymweliad Rebecca Evans AS yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynwysoldeb a chefnogaeth i unigolion LHDTC+ sy’n wynebu digartrefedd. Saif Tŷ Pride fel symbol o obaith, gan ddangos sut y gall cydweithredu ac arloesi greu newid cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc agored i niwed.
Prosiectau Ffyniant Bro De Clwyd yn datblygu

Yn yr wythnosau diwethaf mae rhaglen Ffyniant Bro De Clwyd y Cyngor wedi bod yn gwneud cynnydd gwych tuag at gwblhau rhai o’i brosiectau.
Mae rhaglen Ffyniant Bro De Clwyd yn fuddsoddiad gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a sicrhawyd drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd. Cafodd y cais ei gefnogi gan Simon Baynes AS. Cafodd £3.8 miliwn ei ddyrannu i Sir Ddinbych i fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.
Mae dau gynllun yn Llangollen wedi bod yn ennill momentwm. Mae ein prosiect Plas Newydd wedi gwneud cynnydd gwych gyda gwaith i ledu'r llwybr, gosod rheilen newydd i lawr i’r Dell a gwelliannau i ardal olygfa’r safle wedi’i gwblhau.

Nod ein prosiect Wenffrwd yw gwella cysylltiadau tref i ac o Warchodfa Natur Wenffrwd a’r Ganolfan Iechyd a chamlas. Mae’r gwaith wedi dechrau i gysylltu’r llwybr camlas a’r warchodfa natur a disgwylir iddynt gael eu cwblhau yn niwedd Hydref 2023. Mae digwyddiad ‘park run’ wythnosol wedi ei sefydlu, gan ddefnyddio’r llwybr sy’n cysylltu’r Ganolfan Iechyd a Wenffrwd, sydd wedi profi i fod yn boblogaidd iawn!

Rydym hefyd yn falch o weld bod ein prosiectau yng Nghorwen wedi gwneud cynnydd sylweddol, gan ddechrau gyda chanopi platfform rheilffordd Corwen. Mae’r prosiect hwn, a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, bellach wedi’i gwblhau ac rydym yn falch o weld y rheilffordd ar agor i’r cyhoedd, gan dderbyn dros 20,000 o deithwyr yn y 3 mis cyntaf!

Mae gwaith adnewyddu allanol i ddiogelu adeilad treftadaeth allweddol, Canolfan Llys Owain (hen fanc HSBC), wedi dechrau fel rhan o brosiect i wella isadeiledd canol tref Corwen. Mae’r rhan hon o’r prosiect yn cael ei ddarparu gan Gadwyn Adfywio a disgwylir ei gwblhau erbyn gaeaf 2023.
Mae gwaith dechreuol hefyd wedi dechrau ar y stryd fawr a Maes Parcio Lôn Las yng Nghorwen, gyda disgwyl i’r rhain ail-ddechrau ddiwedd mis Hydref 2023.

I gael mwy o wybodaeth am y prosiectau hyn, ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych: https://www.sirddinbych.gov/cronfa-ffyniant-bro
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am brosiectau Ffyniant Bro De Clwyd, gallwch gysylltu â ffyniantbro@sirddinbych.gov.uk.

Rhaglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd yn lansio cylchlythyr

Mae rhaglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd Cyngor Sir Ddinbych yn falch o gyhoeddi ei fod wedi lansio cylchlythyr i roi diweddariadau ar y prosiectau sy’n cael eu cynnal yn Rhuthun a’r ardaloedd cyfagos.
Ar y 19eg o Ionawr roed Cyngor Sir Ddinbych yn falch iawn o dderbyn cadarnhad eu bod wedi sicrhau £10.95m o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd i gefnogi datblygiad 10 prosiect gyda’r nod o warchod treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun. Cafodd y cynigion eu cefnogi gan yr AS etholaeth David Jones ac aelodau etholedig lleol.
Mae 'na 2 brif linyn i’r rhaglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd. Bydd y cyntaf yn ffocysu ar amddiffyn treftadaeth unigryw a lles Rhuthun trwy welliannau i dir cyhoeddus ac adfywio adeiladau hanesyddol a thirnodau i gefnogi hunaniaeth leol, hyrwyddo balchder a hybu delwedd y dref.
Bydd yr ail yn ffocysu ar amddiffyn cymunedau gwledig a lles Rhuthun trwy welliannau i’r safleoedd AHNE Loggerheads a Moel Famau a’r hybiau cymunedol newydd ym mhentrefi gwledig cyfagos Bryneglwys a Gwyddelwern.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am gyflawni 8 o’r prosiectau, a bydd Cenhadaeth Dyffryn Clwyd a Chymdeithas Canolfan Iâl Bryneglwys yn cyflawni’r 2 brosiect olaf.
Mae rhagor o wybodaeth am brosiectau Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd ar gael ar wefan Cyngor Sir Ddinbych: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/datblygu-cymunedol/cronfa-ffyniant-bro/rownd-2-cronfa-ffyniant-bro-cynigion-prosiect-llwyddiannus.aspx
Nod y cylchlythyr digidol newydd yw hysbysu pobl a busnesau lleol am raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd a chynlluniau prosiect unigol, gan gynnwys amserlenni ar gyfer dyddiadau cwblhau disgwyliedig, wrth iddynt ddatblygu.
Cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr trwy e-bost yma: www.denbighshire.gov.uk/cffb-rhestr-bostio

Dysgwch fwy am brosiectau Sir Ddinbych a ariennir gan Gronfa Ffyniant Cyffredin!

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch iawn o fod wedi gallu dyfarnu cyllid o Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU i 36 o brosiectau Sir Ddinbych ac aml-Awdurdod Lleol, tan 31 Rhagfyr 2024.
Mae’r prosiectau llwyddiannus wedi’u dewis yn seiliedig ar eu dyheadau i gyflawni nifer o ymyriadau allweddol sydd wedi’u categoreiddio’n 8 thema. Y themâu yw:
- Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
- Cefnogaeth Busnes Ar draws y Sir
- Iachach, Hapusach, Gofalgar: Meithrin Gallu Cymunedol
- Diwylliant a'r Iaith Gymraeg: Diwylliant, Chwaraeon a Chreadigrwydd
- Gwell Cysylltiedig: Cynhwysiant Digidol
- Tecach, Diogel a Mwy Cyfartal: Diogelwch Cymunedol
- Gwyrddach: Seilwaith Cymunedol
- Dysgu a Thyfu: Pobl a Sgiliau
Mae’r themâu hyn yn cyd-fynd â’r amcanion allweddol a amlinellir yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor 2022 i 2027 a fydd yn helpu i sicrhau llesiant preswylwyr nawr ac yn y dyfodol.
Mae Tîm y Gronfa Ffyniant Cyffredin wedi diweddaru gwefan Cyngor Sir Ddinbych yn ddiweddar i gynnwys gwybodaeth am yr holl brosiectau llwyddiannus sy’n derbyn cyllid ac yn falch iawn o allu rhannu’r wybodaeth hon â’r cyhoedd.
Darllenwch am y prosiectau cyffrous a ariannwyd gennym trwy ddyraniad Sir Ddinbych o Gyllid Ffyniant Cyffredin yma: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du/prosiectau/prosiectau.aspx
Edrychwn ymlaen at weld yr holl brosiectau hyn yn datblygu ac rydym yn gyffrous i weld yr hyn y maent yn ei gyflawni er lles trigolion lleol a chymunedau ar draws y sir am flynyddoedd i ddod!
