Prosiectau Ffyniant Bro De Clwyd yn datblygu
Yn yr wythnosau diwethaf mae rhaglen Ffyniant Bro De Clwyd y Cyngor wedi bod yn gwneud cynnydd gwych tuag at gwblhau rhai o’i brosiectau.
Mae rhaglen Ffyniant Bro De Clwyd yn fuddsoddiad gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a sicrhawyd drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd. Cafodd y cais ei gefnogi gan Simon Baynes AS. Cafodd £3.8 miliwn ei ddyrannu i Sir Ddinbych i fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.
Mae dau gynllun yn Llangollen wedi bod yn ennill momentwm. Mae ein prosiect Plas Newydd wedi gwneud cynnydd gwych gyda gwaith i ledu'r llwybr, gosod rheilen newydd i lawr i’r Dell a gwelliannau i ardal olygfa’r safle wedi’i gwblhau.
Nod ein prosiect Wenffrwd yw gwella cysylltiadau tref i ac o Warchodfa Natur Wenffrwd a’r Ganolfan Iechyd a chamlas. Mae’r gwaith wedi dechrau i gysylltu’r llwybr camlas a’r warchodfa natur a disgwylir iddynt gael eu cwblhau yn niwedd Hydref 2023. Mae digwyddiad ‘park run’ wythnosol wedi ei sefydlu, gan ddefnyddio’r llwybr sy’n cysylltu’r Ganolfan Iechyd a Wenffrwd, sydd wedi profi i fod yn boblogaidd iawn!
Rydym hefyd yn falch o weld bod ein prosiectau yng Nghorwen wedi gwneud cynnydd sylweddol, gan ddechrau gyda chanopi platfform rheilffordd Corwen. Mae’r prosiect hwn, a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, bellach wedi’i gwblhau ac rydym yn falch o weld y rheilffordd ar agor i’r cyhoedd, gan dderbyn dros 20,000 o deithwyr yn y 3 mis cyntaf!
Mae gwaith adnewyddu allanol i ddiogelu adeilad treftadaeth allweddol, Canolfan Llys Owain (hen fanc HSBC), wedi dechrau fel rhan o brosiect i wella isadeiledd canol tref Corwen. Mae’r rhan hon o’r prosiect yn cael ei ddarparu gan Gadwyn Adfywio a disgwylir ei gwblhau erbyn gaeaf 2023.
Mae gwaith dechreuol hefyd wedi dechrau ar y stryd fawr a Maes Parcio Lôn Las yng Nghorwen, gyda disgwyl i’r rhain ail-ddechrau ddiwedd mis Hydref 2023.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiectau hyn, ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych: https://www.sirddinbych.gov/cronfa-ffyniant-bro
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am brosiectau Ffyniant Bro De Clwyd, gallwch gysylltu â ffyniantbro@sirddinbych.gov.uk.