Ymweliad y Gweinidog â Thŷ Pride yn y Rhyl
Ymwelodd y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, â Thŷ Pride yn y Rhyl ar ddydd Iau 19 Hydref.
Mae Tŷ Pride yn brosiect arloesol sy’n ymroddedig i gefnogi pobl ifanc LHDTC+ sydd naill ai’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref. Mae’r prosiect hwn, a sefydlwyd trwy gydweithrediad arloesol rhwng Cyngor Sir Ddinbych, yr elusen ddigartref Llamau, a thîm Viva LHDTC+ Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl, yn sefyll fel unig fenter byw â chymorth penodol LHDTC+ Cymru.
Ers ei lansio yn haf 2019, mae Tŷ Pride wedi mynd i’r afael â mater dybryd digartrefedd ieuenctid LHDTC+. Fe wnaeth yr adroddiad ‘Out on the Streets’ gan End Youth Homelessness amlygu ymchwil brawychus am y gwendidau cynyddol a wynebir gan bobl ifanc LHDTC+ yng Nghymru, megis gwrthodiad teuluol, cam-drin, teulu'n chwalu, a gwarth. Mae'r ffactorau hyn yn cyfrannu'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at eu risg o brofi digartrefedd a dioddef o iechyd meddwl gwael.
Dywedodd Sam Austin, y Dirprwy Brif Weithredwr, “Dyma’r ddarpariaeth gyntaf o’i bath yng Nghymru. Wrth inni fynd i mewn i gylch arall o gyllid a chyllidebau cyfyngedig, mae'n hanfodol ein bod yn diogelu gwasanaethau fel hyn. Ers i’r prosiect agor gyntaf, mae partneriaeth Tŷ Pride wedi gallu cefnogi deg o bobl ifanc gyda chanlyniadau gwych i bawb.”
Dywedodd Emma Evans, Pennaeth Cynorthwyol Cyflenwi Gwasanaethau a Sicrhau Ansawdd yn Nhŷ Pride, “Mae Tŷ Pride yn darparu gofod diogel, anfeirniadol a chynhwysol i unigolion ifanc LHDTC+ sy’n wynebu digartrefedd. Mae preswylwyr yn cwblhau rhaglen o sgiliau bywyd o fewn cymuned o gyfoedion cefnogol sy'n deall yr heriau, y stigma, a'r gwahaniaethu y maent wedi'u hwynebu. Gyda bron i 50 o bobl ifanc wedi'u cyfeirio at Tŷ Pride o bob rhan o Gymru, mae'r galw am y gwasanaeth hwn yn amlwg."
Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Plant, a Theuluoedd, “Roedd yn bleser rhannu gyda’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, sut mae Tŷ Pride yn arwain y ffordd o ran cefnogi pobl ifanc LHDTC+ sy’n agored i niwed yn y sir diolch i waith partneriaeth rhagorol, gan gynnwys gyda Llywodraeth Cymru. Mae’r effaith gadarnhaol a wneir ar gynifer o fywydau yn ysbrydoledig, ac rydym yn falch o gael y prosiect hwn yn Sir Ddinbych.”
Pwysleisiodd Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg Cyngor Sir Ddinbych aliniad y prosiect â nod allweddol y Cyngor o leihau anghydraddoldebau. Dywedodd, “Mae cael cyfleuster pwrpasol sy’n ymgysylltu â phobl ifanc i adeiladu dyfodol gwell yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i sicrhau Sir Ddinbych sy'n deg, yn ddiogel ac yn fwy cyfartal. Gallwn weld yn y ffordd y mae unigolion ifanc LHDTC+ yn cael eu cefnogi ac yn ffynnu yn Nhŷ Pride fod yr ymrwymiad hwn yn rhoi canlyniadau cadarnhaol.”
Ers ei sefydlu, mae partneriaeth Tŷ Pride wedi cefnogi deg o bobl ifanc, gyda phedwar bellach yn byw’n annibynnol, gan ffynnu yn eu cartrefi newydd. Mae tri o drigolion yn aros yn Nhŷ Pride, ac mae tri wedi dychwelyd yn llwyddiannus i fyw gyda’u teuluoedd.
Mae ymweliad Rebecca Evans AS yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynwysoldeb a chefnogaeth i unigolion LHDTC+ sy’n wynebu digartrefedd. Saif Tŷ Pride fel symbol o obaith, gan ddangos sut y gall cydweithredu ac arloesi greu newid cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc agored i niwed.