Newyddion
Teyrnged i'r Cynghorydd Pete Prendergast
Ar 22 Medi, roedd y Cyngor Sir wedi tristau o glywed am farwolaeth sydyn ein Cadeirydd, sef y Cynghorydd Pete Prendergast.
Bu’r Cynghorydd Prendergast yn Gadeirydd ar y Cyngor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017 - 2018 a chafodd ei ail-ethol yn Gadeirydd ym mis Mai eleni. Bu’n Is-gadeirydd y flwyddyn flaenorol ac roedd wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Sir, yn cynrychioli De Orllewin y Rhyl, ers mis Mawrth 2015.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor: “Rydym wedi ein syfrdanu ac yn drist iawn o glywed am farwolaeth Pete. Roedd yn aelod mor garedig ac uchel ei barch o'r Cyngor ac roedd pawb oedd yn ei adnabod ac a weithiodd ochr yn ochr ag ef yn meddwl yn uchel iawn ohono.
“Rwy’n gwybod bod Pete wrth ei fodd yn cefnogi ei gymuned leol i helpu lle gallai yn ei rôl fel Cynghorydd, roedd bob amser yn helpu gyda charedigrwydd, tosturi a gofal. Rhoddodd Pete gefnogaeth mor gadarnhaol i drigolion y Rhyl yn ei rôl, gan gefnogi llawer o grwpiau cymunedol a gwn ei fod wedi mwynhau gwneud mwy i grwpiau ar draws y sir pan ddaeth yn Gadeirydd i ni yn gynharach eleni.
“Ar ran y Cyngor a chydweithwyr Pete, byddwn yn gweld ei eisiau’n fawr a hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu a’i ffrindiau ar yr adeg drist hon.”
Gwobr ‘Trysor Cudd’ i dŷ a gerddi hanesyddol yn Rhuthun
Mae Nantclwyd y Dre wedi’i gadarnhau’n “Atyniad i Ymwelwyr â Sicrwydd Ansawdd” ac ennill statws Trysor Cudd yn sgil asesiad gan Croeso Cymru.
Mae’r tŷ hanesyddol yn cynnig cyfle unigryw i gloddio i fwy na phum can mlynedd o hanes o’r Canol Oesoedd i’r ugeinfed ganrif. Y tu ôl i’r muriau mae gerddi helaeth “fel pin mewn papur, gyda gwelyau o flodau hardd a lleiniau ble mae ffrwythau a llysiau’n tyfu”, sy’n lle tawel i ymlacio ynghanol tref Rhuthun".
Mae Nantclwyd y Dre hefyd yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld yr ystlumod pedol lleiaf ar y glwyd fagu yn nho’r tŷ, diolch i’r ‘BatCam’!
Mae’r tŷ eisoes wedi ennill y wobr Trysor Cudd gan Croeso Cymru yn 2017, 2018 a 2022. Dywedodd yr asesydd eleni bod yr atyniad yn “rhoi croeso ardderchog ac mae’r gofal i gwsmeriaid a’r wybodaeth a gynigir o’r radd flaenaf” a’i fod “yn llawn haeddu ennill y wobr eto eleni”.
Meddai Kate Thomson, Rheolwr Nantclwyd y Dre: “Rydyn ni’n arbennig o falch o gael yr achrediad ac ennill y wobr Trysor Cudd gan Croeso Cymru. Mae ein staff yn gweithio’n ddiwyd dros ben i fod o gymorth i bobl sy’n ymweld â’r tŷ ac mae’n braf bod Croeso Cymru wedi cydnabod hynny yn yr asesiad.
“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth gan bobl Rhuthun, sy’n ein hysbrydoli i rannu’r tŷ bendigedig hwn a’i holl hanes â phobl o bob oed sy’n dod drwy’r drws.”
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth Sir Ddinbych: “Mae hyn yn newyddion ardderchog i Nantclwyd y Dre, mae’n atyniad arbennig i ymwelwyr yn Rhuthun ac mae’r tîm o staff a gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed iawn. Mae’n drysor cudd rydym oll yn falch ohono, ac eisiau annog pawb i groesi’r trothwy a chael profiad o’i hanes cyfoethog.”
Adroddiad natur allweddol y DU yn amlygu’r prosiect môr-wenoliaid bach
Credyd llun: Michael Steciuk
Mae gwaith i ddiogelu cytref o adar yn Sir Ddinbych yn haeddiannol o arwyddocâd rhyngwladol, yn ôl Adroddiad Blynyddol pwysig ar natur yn y DU.
Mae prosiect Môr-wenoliaid bach Gronant gan Wasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor wedi cael ei restru fel enghraifft gadarnhaol ar gyfer diogelu bywyd gwyllt yn yr Adroddiad ar Gyflwr Natur diweddaraf.
Mae’r Adroddiad ar Gyflwr Natur 2023 wedi’i rannu i wledydd unigol y DU, ac mae’n cael ei lunio drwy gydweithio gyda dros 60 partner grŵp sy’n ymwneud â bioamrywiaeth a natur.
Mae’r rhywogaeth a astudiwyd yn y cydweithrediad wedi gostwng o 19 y cant ar gyfartaledd ers cychwyn monitro yn 1970. Mae’r dirywiad llawer mwy ar gyfer rhai grwpiau, gan gynnwys adar a nodwyd i fod yn golled o 43 y cant.
Serch hynny, mae’r Adroddiad ar Gyflwr Natur yn amlygu Prosiect y Môr-wenoliaid Bach fel darn cadarnhaol o waith cadwraeth o ‘arwyddocâd rhyngwladol’.
Mae timau Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr lleol wedi rhoi bron i ugain mlynedd o’u hamser yn amddiffyn ac yn rheoli nythfa’r môr-wenoliaid bach yn Nhwyni Tywod Gronant.
Dyma’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru; mae’n cyfrannu at dros 10 y cant o’r boblogaeth fagu yn y DU yn ogystal ag ategu heidiau eraill.
Mae môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf yn Affrica ac yn cyrraedd y twyni tywod ym mis Mai i fridio ar y traeth cerrig mân ar safle gwarchodedig sydd wedi’i baratoi ym mis Ebrill gan staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwr. Maen nhw’n dechrau hedfan yn ôl tua’r de ddiwedd mis Awst. Cofnodwyd 155 o adar ifanc ar y safle yn 2022, a monitrwyd 211 o barau bridio.
Mae’r adroddiad yn cydnabod gwaith y staff a’r gwirfoddolwyr sy’n diogelu’r safle drwy amlygu bod twf y nythfa yn debygol o gael ei yrru gan lefelau uchel o lwyddiant wrth fridio yn hytrach na recriwtio adar sy’n oedolion o nythfeydd eraill yn y DU.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: "Mae staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Cefn Gwlad yn gweithio’n ddiflino drwy gydol y tymor i warchod a chefnogi’r nythfa bwysig hon yn Sir Ddinbych. Mae’n wych gweld eu hymdrechion yn cael eu cydnabod fel cam cadarnhaol ymlaen wrth wrthdroi dirywiad poblogaethau ein hadar ar draws y DU."
Sut mae’r Cyngor yn perfformio?
Mae hi’n amser i chi ddweud eich dweud! Mae Arolwg Budd-ddeiliad y Cyngor ar gyfer 2023 - 2034 wedi cael ei lansio. Rydym eisiau gwybod beth mae preswylwyr, busnesau, staff, aelodau etholedig a phartneriaid Sir Ddinbych yn ei feddwl am y gwaith rydym ni’n ei wneud yma yn y Cyngor.
Mae’r arolwg yn gyfle gwych i’r Cyngor ddeall a dysgu gan farn pobl eraill, felly gobeithio y gallwch chi ein helpu ni drwy ateb ychydig o gwestiynau.
Mae hefyd yn ffordd wych i chi ddysgu mwy am y themâu sydd yn rhan o Gynllun Corfforaethol presennol y Cyngor. I gymryd rhan ac i ddweud eich dweud, llenwch yr arolwg drwy fynd i Sgwrs y Sir - Arolwg Budd-ddeiliad
Arweinydd y Cyngor yn talu teyrnged i ysbryd cymunedol yn ystod Storm Babet
Mae Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych wedi canmol gwydnwch ac ymdrechion y gymuned yn dilyn y glaw trwm a darodd y Sir yn ystod Storm Babet ar 20 Hydref.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, “Fe wnaeth llawer o drigolion Sir Ddinbych wynebu cyfnod anodd iawn dros y penwythnos hwnnw, gyda rhai pobl wedi gorfod gadael eu cartrefi, ac eraill wedi gorfod amddiffyn eu cartrefi yn dilyn glaw digynsail mewn cyfnod byr o amser.
"Effeithiodd Storm Babet ar drigolion, ysgolion, a busnesau. Eto i gyd, gwelwyd ysbryd cymunedol ein sir gyda phobl yn helpu ei gilydd."
Profodd y Cyngor alw aruthrol ar wasanaethau yn ystod Storm Babet gan ddelio â dros 600 o alwadau ddydd Gwener a thros y penwythnos. Cymerodd y Ganolfan Gyswllt Cwsmer dros 500 o alwadau ar y dydd Gwener yn unig a chofnododd 195 o ddigwyddiadau. O 5pm ar y dydd Gwener tan 8.30am ar y dydd Llun, deliodd llinell y tu allan i oriau Sir Ddinbych â 118 o alwadau ychwanegol a chofnododd 63 o ddigwyddiadau. Roedd y rhain yn cynnwys llifogydd ar y ffyrdd a chau ffyrdd, llifogydd mewn eiddo, llifogydd afonydd, a difrod i eiddo.
Bu timau'r Cyngor yn gweithio drwy'r nos ar y dydd Gwener a thros y penwythnos i ddatrys amrywiaeth o faterion. Mae timau wedi parhau i weithio gydag unigolion sydd wedi'u heffeithio'n uniongyrchol gan lifogydd ac wedi gweithio i glirio malurion wnaeth effeithio ar lawer o ffyrdd gwledig y sir a cheuffosydd critigol.
Aeth y Cynghorydd McLellan ymlaen i ddweud, "Hoffwn hefyd ddiolch i waith diflino Swyddogion y Cyngor, rhai ohonynt a weithiodd drwy'r nos ac i mewn i'r penwythnos i ddelio â chanlyniadau Storm Babet."
Mae gwybodaeth am beth ddylech ei wneud os bydd llifogydd ar gael ar wefan y Cyngor:
https://www.denbighshire.gov.uk/cy/argyfyngau/llifogydd.aspx
Gallwch ddarganfod sut i baratoi ar gyfer llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru:
https://naturalresources.wales/flooding/what-to-do-in-a-flood/?lang=cy
Cyhoeddi enillwyr y gystadleuaeth enwi cerbydau ailgylchu!
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhyddhau enwau buddugol eu cerbydau ailgylchu newydd sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac y bydd ar ein ffyrdd yn 2024.
Cyflwynwyd dros 100 o geisiadau gan ddisgyblion ysgolion Sir Ddinbych fis Medi. Criwiau gwastraff y Cyngor – fydd yn gyrru’r cerbydau newydd - oedd yn gyfrifol am y gwaith beirniadu cychwynnol, gyda’r penderfyniad terfynol wedi ei gymryd gan Arweinydd y Cyngor, y Prif Weithredwr a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth.
Bydd yr enwau buddugol yn cael eu hargraffu ar y lorïau newydd. Cyn bo hir, bydd trigolion Sir Ddinbych yn gweld Tyrbo, Terbinator, Lord of the Bins a Trash Gordon, ymhlith eraill, yn casglu eu hailgylchu.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, “Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a da iawn i’r holl ysgolion a gymerodd ran. Mae wedi bod yn wych gweld ceisiadau mor frwdfrydig a chreadigol gan blant ysgol y Sir.
“Bydd y cerbydau newydd hyn yn cymryd lle'r fflyd presennol sydd bellach yn hen. Mae’r cerbydau newydd, tri ohonynt yn gerbydau trydan, wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r ymrwymiad i wella lefelau ailgylchu yng Nghymru. Bydd y cerbydau’n fwy cost-effeithiol ac yn fwy ecogyfeillgar, gan arwain at arbedion cost yn y tymor hir.”
Mae rhestr yr ysgolion buddugol ar gael ar wefan y Cyngor, ac mae enwau buddugol y lorïau isod:
- Terbinator
- Stig of the Dump Truck
- Recyclops
- Lord of the Bins
- Trashformer
- Trash Gordon
- Recyclosaurus Rex
- Binny McBinface
- Bindarela
- Tyrbo
- Binnie
- Ailgylchugeitor
- Draig Daear Dragon
- ArBINnig
- Rubbish Sucker Bob
- Benny the Bin Lorry
- Dusty McBinlid
- Binbych
- Mr Eco
- Dilys
- Stitch
|
|
Ymweliad y Gweinidog â Thŷ Pride yn y Rhyl
Ymwelodd y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, â Thŷ Pride yn y Rhyl ar ddydd Iau 19 Hydref.
Mae Tŷ Pride yn brosiect arloesol sy’n ymroddedig i gefnogi pobl ifanc LHDTC+ sydd naill ai’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref. Mae’r prosiect hwn, a sefydlwyd trwy gydweithrediad arloesol rhwng Cyngor Sir Ddinbych, yr elusen ddigartref Llamau, a thîm Viva LHDTC+ Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl, yn sefyll fel unig fenter byw â chymorth penodol LHDTC+ Cymru.
Ers ei lansio yn haf 2019, mae Tŷ Pride wedi mynd i’r afael â mater dybryd digartrefedd ieuenctid LHDTC+. Fe wnaeth yr adroddiad ‘Out on the Streets’ gan End Youth Homelessness amlygu ymchwil brawychus am y gwendidau cynyddol a wynebir gan bobl ifanc LHDTC+ yng Nghymru, megis gwrthodiad teuluol, cam-drin, teulu'n chwalu, a gwarth. Mae'r ffactorau hyn yn cyfrannu'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at eu risg o brofi digartrefedd a dioddef o iechyd meddwl gwael.
Dywedodd Sam Austin, y Dirprwy Brif Weithredwr, “Dyma’r ddarpariaeth gyntaf o’i bath yng Nghymru. Wrth inni fynd i mewn i gylch arall o gyllid a chyllidebau cyfyngedig, mae'n hanfodol ein bod yn diogelu gwasanaethau fel hyn. Ers i’r prosiect agor gyntaf, mae partneriaeth Tŷ Pride wedi gallu cefnogi deg o bobl ifanc gyda chanlyniadau gwych i bawb.”
Dywedodd Emma Evans, Pennaeth Cynorthwyol Cyflenwi Gwasanaethau a Sicrhau Ansawdd yn Nhŷ Pride, “Mae Tŷ Pride yn darparu gofod diogel, anfeirniadol a chynhwysol i unigolion ifanc LHDTC+ sy’n wynebu digartrefedd. Mae preswylwyr yn cwblhau rhaglen o sgiliau bywyd o fewn cymuned o gyfoedion cefnogol sy'n deall yr heriau, y stigma, a'r gwahaniaethu y maent wedi'u hwynebu. Gyda bron i 50 o bobl ifanc wedi'u cyfeirio at Tŷ Pride o bob rhan o Gymru, mae'r galw am y gwasanaeth hwn yn amlwg."
Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Plant, a Theuluoedd, “Roedd yn bleser rhannu gyda’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, sut mae Tŷ Pride yn arwain y ffordd o ran cefnogi pobl ifanc LHDTC+ sy’n agored i niwed yn y sir diolch i waith partneriaeth rhagorol, gan gynnwys gyda Llywodraeth Cymru. Mae’r effaith gadarnhaol a wneir ar gynifer o fywydau yn ysbrydoledig, ac rydym yn falch o gael y prosiect hwn yn Sir Ddinbych.”
Pwysleisiodd Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg Cyngor Sir Ddinbych aliniad y prosiect â nod allweddol y Cyngor o leihau anghydraddoldebau. Dywedodd, “Mae cael cyfleuster pwrpasol sy’n ymgysylltu â phobl ifanc i adeiladu dyfodol gwell yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i sicrhau Sir Ddinbych sy'n deg, yn ddiogel ac yn fwy cyfartal. Gallwn weld yn y ffordd y mae unigolion ifanc LHDTC+ yn cael eu cefnogi ac yn ffynnu yn Nhŷ Pride fod yr ymrwymiad hwn yn rhoi canlyniadau cadarnhaol.”
Ers ei sefydlu, mae partneriaeth Tŷ Pride wedi cefnogi deg o bobl ifanc, gyda phedwar bellach yn byw’n annibynnol, gan ffynnu yn eu cartrefi newydd. Mae tri o drigolion yn aros yn Nhŷ Pride, ac mae tri wedi dychwelyd yn llwyddiannus i fyw gyda’u teuluoedd.
Mae ymweliad Rebecca Evans AS yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynwysoldeb a chefnogaeth i unigolion LHDTC+ sy’n wynebu digartrefedd. Saif Tŷ Pride fel symbol o obaith, gan ddangos sut y gall cydweithredu ac arloesi greu newid cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc agored i niwed.
Prosiectau Ffyniant Bro De Clwyd yn datblygu
Yn yr wythnosau diwethaf mae rhaglen Ffyniant Bro De Clwyd y Cyngor wedi bod yn gwneud cynnydd gwych tuag at gwblhau rhai o’i brosiectau.
Mae rhaglen Ffyniant Bro De Clwyd yn fuddsoddiad gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a sicrhawyd drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd. Cafodd y cais ei gefnogi gan Simon Baynes AS. Cafodd £3.8 miliwn ei ddyrannu i Sir Ddinbych i fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.
Mae dau gynllun yn Llangollen wedi bod yn ennill momentwm. Mae ein prosiect Plas Newydd wedi gwneud cynnydd gwych gyda gwaith i ledu'r llwybr, gosod rheilen newydd i lawr i’r Dell a gwelliannau i ardal olygfa’r safle wedi’i gwblhau.
Nod ein prosiect Wenffrwd yw gwella cysylltiadau tref i ac o Warchodfa Natur Wenffrwd a’r Ganolfan Iechyd a chamlas. Mae’r gwaith wedi dechrau i gysylltu’r llwybr camlas a’r warchodfa natur a disgwylir iddynt gael eu cwblhau yn niwedd Hydref 2023. Mae digwyddiad ‘park run’ wythnosol wedi ei sefydlu, gan ddefnyddio’r llwybr sy’n cysylltu’r Ganolfan Iechyd a Wenffrwd, sydd wedi profi i fod yn boblogaidd iawn!
Rydym hefyd yn falch o weld bod ein prosiectau yng Nghorwen wedi gwneud cynnydd sylweddol, gan ddechrau gyda chanopi platfform rheilffordd Corwen. Mae’r prosiect hwn, a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, bellach wedi’i gwblhau ac rydym yn falch o weld y rheilffordd ar agor i’r cyhoedd, gan dderbyn dros 20,000 o deithwyr yn y 3 mis cyntaf!
Mae gwaith adnewyddu allanol i ddiogelu adeilad treftadaeth allweddol, Canolfan Llys Owain (hen fanc HSBC), wedi dechrau fel rhan o brosiect i wella isadeiledd canol tref Corwen. Mae’r rhan hon o’r prosiect yn cael ei ddarparu gan Gadwyn Adfywio a disgwylir ei gwblhau erbyn gaeaf 2023.
Mae gwaith dechreuol hefyd wedi dechrau ar y stryd fawr a Maes Parcio Lôn Las yng Nghorwen, gyda disgwyl i’r rhain ail-ddechrau ddiwedd mis Hydref 2023.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiectau hyn, ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych: https://www.sirddinbych.gov/cronfa-ffyniant-bro
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am brosiectau Ffyniant Bro De Clwyd, gallwch gysylltu â ffyniantbro@sirddinbych.gov.uk.
Rhaglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd yn lansio cylchlythyr
Mae rhaglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd Cyngor Sir Ddinbych yn falch o gyhoeddi ei fod wedi lansio cylchlythyr i roi diweddariadau ar y prosiectau sy’n cael eu cynnal yn Rhuthun a’r ardaloedd cyfagos.
Ar y 19eg o Ionawr roed Cyngor Sir Ddinbych yn falch iawn o dderbyn cadarnhad eu bod wedi sicrhau £10.95m o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd i gefnogi datblygiad 10 prosiect gyda’r nod o warchod treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun. Cafodd y cynigion eu cefnogi gan yr AS etholaeth David Jones ac aelodau etholedig lleol.
Mae 'na 2 brif linyn i’r rhaglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd. Bydd y cyntaf yn ffocysu ar amddiffyn treftadaeth unigryw a lles Rhuthun trwy welliannau i dir cyhoeddus ac adfywio adeiladau hanesyddol a thirnodau i gefnogi hunaniaeth leol, hyrwyddo balchder a hybu delwedd y dref.
Bydd yr ail yn ffocysu ar amddiffyn cymunedau gwledig a lles Rhuthun trwy welliannau i’r safleoedd AHNE Loggerheads a Moel Famau a’r hybiau cymunedol newydd ym mhentrefi gwledig cyfagos Bryneglwys a Gwyddelwern.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am gyflawni 8 o’r prosiectau, a bydd Cenhadaeth Dyffryn Clwyd a Chymdeithas Canolfan Iâl Bryneglwys yn cyflawni’r 2 brosiect olaf.
Mae rhagor o wybodaeth am brosiectau Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd ar gael ar wefan Cyngor Sir Ddinbych: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/datblygu-cymunedol/cronfa-ffyniant-bro/rownd-2-cronfa-ffyniant-bro-cynigion-prosiect-llwyddiannus.aspx
Nod y cylchlythyr digidol newydd yw hysbysu pobl a busnesau lleol am raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd a chynlluniau prosiect unigol, gan gynnwys amserlenni ar gyfer dyddiadau cwblhau disgwyliedig, wrth iddynt ddatblygu.
Cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr trwy e-bost yma: www.denbighshire.gov.uk/cffb-rhestr-bostio
Dysgwch fwy am brosiectau Sir Ddinbych a ariennir gan Gronfa Ffyniant Cyffredin!
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch iawn o fod wedi gallu dyfarnu cyllid o Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU i 36 o brosiectau Sir Ddinbych ac aml-Awdurdod Lleol, tan 31 Rhagfyr 2024.
Mae’r prosiectau llwyddiannus wedi’u dewis yn seiliedig ar eu dyheadau i gyflawni nifer o ymyriadau allweddol sydd wedi’u categoreiddio’n 8 thema. Y themâu yw:
- Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
- Cefnogaeth Busnes Ar draws y Sir
- Iachach, Hapusach, Gofalgar: Meithrin Gallu Cymunedol
- Diwylliant a'r Iaith Gymraeg: Diwylliant, Chwaraeon a Chreadigrwydd
- Gwell Cysylltiedig: Cynhwysiant Digidol
- Tecach, Diogel a Mwy Cyfartal: Diogelwch Cymunedol
- Gwyrddach: Seilwaith Cymunedol
- Dysgu a Thyfu: Pobl a Sgiliau
Mae’r themâu hyn yn cyd-fynd â’r amcanion allweddol a amlinellir yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor 2022 i 2027 a fydd yn helpu i sicrhau llesiant preswylwyr nawr ac yn y dyfodol.
Mae Tîm y Gronfa Ffyniant Cyffredin wedi diweddaru gwefan Cyngor Sir Ddinbych yn ddiweddar i gynnwys gwybodaeth am yr holl brosiectau llwyddiannus sy’n derbyn cyllid ac yn falch iawn o allu rhannu’r wybodaeth hon â’r cyhoedd.
Darllenwch am y prosiectau cyffrous a ariannwyd gennym trwy ddyraniad Sir Ddinbych o Gyllid Ffyniant Cyffredin yma: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du/prosiectau/prosiectau.aspx
Edrychwn ymlaen at weld yr holl brosiectau hyn yn datblygu ac rydym yn gyffrous i weld yr hyn y maent yn ei gyflawni er lles trigolion lleol a chymunedau ar draws y sir am flynyddoedd i ddod!
Sir Ddinbych yn Gweithio
Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig amser gyda ffrindiau bach blewog
Mewn ymdrech i hyrwyddo lles meddyliol ac emosiynol ar siwrnai pobl tuag at gyflogaeth, mae’r Prosiect 'Barod' o fewn Sir Ddinbych yn Gweithio yn lawnsio menter newydd - Taith Gerdded Lles ‘Cŵn a Chysur’, gyda phresenoldeb cŵn therapi cysurus.
Wedi’i ddylunio i ddarparu amgylchedd tawel ar gyfer preswylwyr di-waith Sir Ddinbych sy’n chwilio am egwyl o heriau bywyd bob dydd, mae Taith Gerdded Lles “Cŵn a Chysur” yn cyfuno buddion therapiwtig o gerdded gyda chysur a chwmnïaeth cŵn therapi ardystiedig.
Bydd y teithiau cerdded yn cael eu harwain gan Hyfforddwyr Lles a Gwytnwch Barod a bydd cerddwyr yn cael cwmni cŵn therapi wedi’i ddarparu gan Therapy Dogs Nationwide gyda’r gobaith i wella iechyd meddwl a lles.
Mae gan gŵn therapi’r gallu eithriadol i godi ysbryd pobl ac i roi cefnogaeth emosiynol. Mae eu presenoldeb tawel yn gallu lleihau teimladau o unigrwydd a gorbryder, gan eu gwneud yn gyfeillion perffaith ar gyfer y rhai sy’n ceisio gwella eu lles meddyliol ac emosiynol.
Meddai Tina Foulkes, Rheolwr Sir Ddinbych Yn Gweithio: “Mae bod yn ddi-waith yn gallu cael effaith negyddol ar les unigolyn felly mae’r prosiect ‘Barod’ yn cynnal gweithgareddau i gefnogi unigolion sy’n teimlo’r pwysau hynny.
"Bydd y prosiect yn cynnal amryw o weithgareddau lles trwy gydol y flwyddyn, gyda’r nod hirdymor o baratoi pobl ar gyfer cyflogaeth.”
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’n wych bod y prosiect hwn wedi ehangu i gynnwys taith gerdded gyda chŵn therapi, gan fod cerdded yn yr awyr agored a rhyngweithio â chŵn ill dau yn cael eu cydnabod fel pethau sy’n gallu gwella iechyd meddwl.
"Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ateb y meini prawf i gofrestru ac i roi cynnig ar y fenter hon sy’n rhad ac am ddim”.
Bydd teithiau cerdded yn cael eu cynnal rhwng 1pm a 2pm bob dydd Llun yn y Rhyl, Dinbych, Llangollen, Prestatyn a Rhuthun hyd at 18 Rhagfyr. Ewch i https://www.denjobs.org/ er mwyn dod o hyd i’r digwyddiad sydd agosaf i chi.
Mae'r Teithiau Cerdded Lles “Cŵn a Chysur” yn rhad ac am ddim ac ar gael i unigolion o fewn ardal Sir Ddinbych, sydd dros 16 oed, yn ddi-waith a ddim mewn addysg. Croesawir pob lefel ffitrwydd.
Rhaid archebu lle a gallwch wneud hyn drwy anfon e-bost i cerian.phoenix@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 07824300769.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Llwyddiant i Ffair Yrfaoedd Sir Ddinbych yn Gweithio
Wedi’i gynnal ym Mwyty a Bar 1891 yn Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl, daeth dros 230 o bobl trwy’r drysau ffair swyddi ddiweddaraf Sir Ddinbych yn Gweithio.
Yn digwydd ar 27 Medi, roedd dros 43 o fusnesau, yn cynnwys 28 o gyflogwyr, 9 sefydliad cymorth a 6 cwmni hyfforddiant yn arddangos yn y lleoliad glan môr.
Roedd y rhai oedd yn bresennol yn amrywio o sefydliadau lleol a chenedlaethol gan gynnwys enwau a adnabyddir yn genedlaethol megis Heddlu Gogledd Cymru, y Lluoedd Arfog, Balfour Beatty a Betsi Cadwaladr.
Hon oedd y pedwerydd Ffair Swyddi eleni, a'r olaf i'w chynnal yn 2023. Mae cynlluniau ar gyfer ffair swyddi mis Ionawr 2024 bellach ar y gweill.
Nod gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio Cyngor Sir Ddinbych yw cydlynu’r math o gymorth sy’n helpu pobl i mewn i waith drwy chwalu rhwystrau. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych i gael gwaith a/neu i uwchsgilio gyda hyfforddiant am ddim.
Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol: “Rydym yn falch iawn o gael adborth mor gadarnhaol o’r Ffair Swyddi ddiweddaraf.
"Mae’n bwysig iawn ein bod yn parhau i drefnu’r digwyddiadau hyn i gefnogi trigolion Sir Ddinbych i chwilio am swyddi a helpu busnesau i gysylltu â nifer fawr o ymgeiswyr posibl wyneb yn wyneb a recriwtio pobl sy’n addas ar gyfer eu sefydliad.
"Rydym eisoes yn cynllunio digwyddiadau cyflogadwyedd a gynhelir yn y flwyddyn newydd, felly sicrhewch eich bod yn edrych ar ein calendr digwyddiadau.”
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’n wych gweld fod Ffair Swyddi olaf y flwyddyn yn gymaint o lwyddiant.
"Cynhelir y Ffeiriau Swyddi hyn i helpu pobl Sir Ddinbych i ffynnu, ac i roi cefnogaeth gyflogaeth bwysig i’r sir gyfan.
"Mae’r tîm Sir Ddinbych yn Gweithio wedi gweithio’n galed iawn eleni i gynnal nifer o Ffeiriau Swyddi llwyddiannus, a hoffwn ddiolch iddynt am eu hymdrech”.
Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ac i ddysgu mwy am Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i'n gwefan neu i gael cefnogaeth cyflogaeth, cliciwch yma.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae'n rhaid iddi fod y swydd iawn: y cynllun cyflogaeth sydd wedi'i deilwra i anghenion lleol
Fe wnaeth y Cynghorwyr Jason McLellan a Gill German dywys Aelodd y Senedd San Steffan, Alison McGovern, i weld Sir Ddinbych yn Gweithio yn Llyfrgell y Rhyl fis Medi i siarad am y ffordd y mae’r gwasanaeth yn helpu trigolion Sir Ddinbych i gael gwaith.
Alison McGovern yn ymweld â Sir Ddinbych yn Gweithio yn y Rhyl. (Ffotograff: Christopher Thomond/The Guardian)
Siaradodd cyn-gyfranogwyr ac aelodau amrywiol o’r tîm, yn cynnwys cyfranogwyr sydd bellach yn gweithio i’r gwasanaeth o ganlyniad i’r cynllun, am effaith gadarnhaol Sir Ddinbych yn Gweithio ar y sir a sut mae’n parhau i gefnogi trigolion i gael gwaith drwy ddarparu hyfforddiant, gweithgareddau lles, cymorth i chwilio am waith ac ysgrifennu CV a llawer iawn mwy.
Siaradodd Sediq Shamal, Luke Jones a Brandon Nellist am eu profiadau personol gyda Sir Ddinbych yn Gweithio ac yn dilyn yr ymweliad ysgrifennodd y Guardian erthygl lawn am y cynllun.
Sediq Shamal yn y Rhyl. Bu iddo adael Afghanistan ar ôl i’r Taliban ddychwelyd yn 2021. (Ffotograff: Christopher Thomond/The Guardian)
Luke Jones yng nghaffi Tu Mundo ym Mhrestatyn. (Ffotograff: Christopher Thomond/The Guardian)
I ddarllen yr erthygl ewch i The Guardian
Amserlen Barod ar gyfer Mis Tachwedd
Ar y ffordd gyda Sir Ddinbych yn Gweithio
Digwyddiad Cefnogaeth yn y Gwaith: 7 Tachwedd yng Nghanolfan Optics Technology, Llanelwy (9am - 12.30pm)
Mae Cyngor Sir Ddinbych, mewn partneriaeth gydag Adran Gwaith a Phensiynau yn gwahodd cyflogwyr sydd wedi’u lleoli yn Sir Ddinbych i fynychu digwyddiad llawn gwybodaeth sy’n canolbwyntio ar sut y gallwn ni gyda’n gilydd, gefnogi preswylwyr lleol i ddatblygu eu gyrfaoedd a ffynnu yn y gweithle.
Mae’r digwyddiad yma’n gyfle unigryw i edrych ar gefnogaeth ac adnoddau lleol sydd ar gael i wella sgiliau eich gweithlu. Mae’n helpu i ddarparu swyddi o ansawdd, sefydlogrwydd a photensial enillion gwell i nifer o bobl leol yn rhan o uchelgais i ddatblygu economi leol gref a gweithlu bywiog.
Os hoffech fynychu, e-bostiwch RHYL.EPTEAM@DWP.GOV.UK.
Digwyddiad Lles ar gyfer Gwaith: 24 Tachwedd yn Llyfrgell y Rhyl (11.30am - 1.30pm)
Mae’r digwyddiad 'galw heibio' yma’n canolbwyntio ar gefnogi lles unigolion sy’n dymuno newid gyrfa neu’n chwilio am waith.
Mae’r digwyddiad am ddim yma wedi cael ei drefnu i gysylltu preswylwyr gyda darparwyr gwasanaeth, i alluogi iddynt gael gafael ar gefnogaeth berthnasol a gwybodaeth werthfawr sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth.
Gwasanaethau Cefn Gwlad
Sgiliau rheoli glaswellt traddodiadol yn tacluso coetir cymunedol
Mae ychydig o waith rheoli dolydd traddodiadol wedi helpu i warchod hafan gymunedol i natur yn Rhuthun.
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor wedi defnyddio hen dechneg sy’n dda i’r hinsawdd i reoli tir yng nghoetir cymunedol Stryd Llanrhydd sy’n cyd-fynd â’r gwaith o’i greu i helpu i atal newid hinsawdd.
Plannwyd 800 o goed ar yr hen gae ysgol yn gynharach eleni fel rhan o ymdrech barhaus i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth.
Ynghyd â’r coed, datblygwyd dôl blodau gwyllt, gwrychoedd cynhenid, pwll dŵr i fywyd gwyllt, dosbarth awyr agored a man hamdden i gefnogi’r amgylchedd a darparu lle cymunedol i drigolion lleol fwynhau natur.
Gan roi ystyriaeth i newid hinsawdd, fe wnaeth y Ceidwaid Cefn Gwlad drefnu diwrnod o bladuro gyda gwirfoddolwyr yn ddiweddar i helpu i gynnal a chadw’r ardal ar gyfer y gymuned leol a’r bywyd gwyllt sydd yno.
Mae pladuro wedi’i olrhain yn ôl i oes y Rhufeiniaid. Mae’r dechneg yn cynnwys defnyddio llafn crwm hir sydd wedi’i osod ar ongl i’r handlen, er mwyn gallu torri gwair â llaw. Byddai’r dull hwn wedi helpu i gynaeafu gwair o gaeau a dolydd Sir Ddinbych cyn i bobl ddechrau defnyddio mwy a mwy ar beiriannau mecanyddol.
Mae’n gyfeillgar i anifeiliaid a phryfetach sy’n byw ar ddolydd gan ei fod yn rhoi amser iddynt symud ymlaen, a chyfle i’r rhai sy’n gweithio weld unrhyw fywyd gwyllt.
Mae pladuro hefyd yn ffordd fwy gwyrdd o reoli glaswelltir oherwydd ei bod yn dechneg heb danwydd, ac mae’n well i’r corff gan fod peiriannau modern yn achosi mwy o ddirgrynu i ddwylo pobl.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Braf iawn ydy gweld yr hen dechneg yn cael ei defnyddio gan ein Tîm Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr ar y safle cymunedol yma gan fod osgoi defnyddio tanwydd ffosil a phladuro’n cyd-fynd yn dda iawn efo’r ardal yma ac yn cyfrannu at atal newid hinsawdd ar ran y gymuned leol a natur.”
Crefft draddodiadol yn gwella cynefinoedd mewn ystafell ddosbarth fyw
Mae crefft draddodiadol yn helpu hafan natur ysgol i barhau i gefnogi bywyd gwyllt lleol.
Mae staff a gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, gyda chymorth Natur er Budd Iechyd wedi defnyddio techneg hynafol i helpu i greu cynefinoedd cryfach ar gyfer natur ar dir yng Nglasdir, Rhuthun.
Dros y blynyddoedd mae timau cefn gwlad wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Stryd y Rhos i greu a rheoli ystafell dosbarth awyr agored brysur i ddisgyblion ei mwynhau a dysgu ohoni.
Ar y safle mae cuddfan adar, dolydd bywyd gwyllt, perllannau, blwch gwenyn, trapiau camera a phwll corstir i helpu plant i ddysgu am natur a sut i’w chefnogi eu hunain.
Rŵan mae staff cefn gwlad Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr wedi creu amddiffyniad ychwanegol i fyd natur drwy osod gwrychoedd ar y safle.
Crefft draddodiadol yw hon lle caiff coesau rhes o wrychoedd eu torri’n rhannol a’u gosod ar ongl er mwyn annog tyfiant o’r gwaelod fel bod y gwrychoedd yn plethu a’i gilydd ac yn tewychu gan greu cynefin trwchus i fioamrywiaeth.
Mae’n dechneg a ddefnyddiwyd gan y rhan fwyaf o ffermwyr a thirfeddianwyr am ganrifoedd fel rhan o reoli eu ffiniau cyn i dechnegau rheoli gwrychoedd mecanyddol gymryd drosodd. Fodd bynnag mae astudiaethau wedi dangos bod yr hen ddull traddodiadol yn llawer mwy effeithiol o ran adfywio gwrychoedd er budd natur leol.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae hon yn bartneriaeth wych rhwng Ysgol Stryd y Rhos a’n timau cefn gwlad sy’n caniatáu i’r disgyblion ddysgu am, gwerthfawrogi a chynnig eu syniadau eu hunain am sut i gefnogi natur leol, sydd mor bwysig ar hyn o bryd.
“Mae’n wych fod y grefft draddodiadol hon wedi’i defnyddio yn ystafell ddosbarth fyw Glasdir gan y bydd yn rhoi mwy o gefnogaeth fyth i natur ar y safle ac yn gyfle i’r disgyblion wylio a dysgu wrth i’r gwrychoedd ddatblygu’n gynefinoedd cyfoethog dros amser."
Partneriaeth natur gymunedol yn cael gwobr genedlaethol
Mae partneriaeth gymunedol sy’n helpu natur i ffynnu mewn lleoliad poblogaidd yn Rhuddlan wedi cael gwobr genedlaethol.
Mae staff Cefn Gwlad y Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan i ddatblygu cynefin natur prysur yng Ngwarchodfa Natur Rhuddlan.
Mae staff y gwasanaethau cefn gwlad wedi bod yn helpu i reoli’r safle ers ei agor yn 2011 ar ran y Grŵp, i roi bywyd newydd i nifer o fentrau natur a mentrau’r gymuned leol.
Mae’r warchodfa natur wedi ehangu dros y blynyddoedd gyda chyflwyno mentrau sy’n cynnwys dwy ddôl o flodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 medr o wrychoedd, lleiniau blodau gwyllt, plannu 6,000 o goed, perllan rhywogaethau treftadaeth, dau fan picnic a llwyfan rhwydo pyllau.
Ychwanegiad unigryw i’r warchodfa natur yw’r Ardd Synhwyraidd sydd wedi cynnwys y Grŵp Dementia lleol a grŵp y warchodfa natur yn gweithio gyda staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad.
Y llynedd, cafodd y bartneriaeth ei hanrhydeddu am ei hymrwymiad i natur a’r gymuned trwy ennill gwobr Cymru yn ei Blodau ‘Overall It’s Your Neighbourhood 2022 for Wales’ , a Thystysgrif Rhagoriaeth Cenedlaethol y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol.
Ar gyfer 2023, mae’r timau sy’n gofalu am y safle yn dathlu eto ar ôl ennill gwobr ‘Outstanding It’s Your Neighbourhood’ a Thystysgrif Rhagoriaeth Cenedlaethol y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol eto.
Dywedodd Anita Fagan, Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan: “Fel gwraig Raymond Fagan, a oedd yn allweddol wrth greu’r safle hyfryd hwn ar y cyd â thîm Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych, mae’n anrhydedd cadeirio Grŵp Ymgynghorol Rheoli’r Warchodfa Natur.
“Mae gan y Pwyllgor bartneriaeth gefnogol, ac mae'n dysgu’n barhaus sut i annog bioamrywiaeth orau er budd iechyd yr ardal, ar y cyd â chysylltu â’r gymuned leol ac ymwelwyr trwy deithiau cerdded addysgol a helfeydd antur bywyd gwyllt er mwyn hyrwyddo diddordeb a mwynhau Byd Natur.
“Hoffwn ddiolch yn arbennig i Garry Davies, Jim Kilpatrick a Bradley Shackleton, y tîm gwasanaethau cefn gwlad, am feithrin a rheoli’r adnodd hyfryd hwn ar gyfer Rhuddlan mewn modd cyson a rhagorol.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae tîm mor wych o’r gymuned a’n Gwasanaeth Cefn Gwlad yn rheoli a gwella’r safle gwych hwn er mwyn i natur leol ffynnu ac er mwyn i breswylwyr lleol ei fwynhau pan fyddant yn ymweld ag ef.
“Mae’r cydweithio hwn wedi dangos llawer o angerdd dros wella’r cynefinoedd ar y safle a rhoi rhywbeth i’r gymuned leol fod yn falch ohono ac rwy’n falch bod eu gwaith caled wedi’i gydnabod unwaith eto.”
Gwelliannau i Gilfach Plymog
Fel rhan o ymdrechion Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i reoli nifer cynyddol yr ymwelwyr dydd i rai o’n safleoedd mwyaf poblogaidd, mae’r tîm yn ymgymryd â chyfres o welliannau hawliau tramwy fel y nodwyd yn y Cynllun Hamdden a gomisiynwyd yn ddiweddar. Nododd y cynllun gyfleoedd i ddatblygu parth cyfforddusrwydd yng nghanol ardal Bryniau Clwyd, gan ddarparu llwybrau y gellir eu dilyn yn hawdd o safleoedd heblaw meysydd parcio Moel Famau a Pharciau Gwledig Loggerheads.
Bydd taith gylchol Bryn Alyn yn mynd â phobl o Blymog (ar yr A494) ar daith gylchol heibio i galchbalmant eiconig Bryn Alyn. Mae giatiau mochyn Llarwydd neu giatiau cerddwyr yn cael eu gosod yn lle camfeydd pan fo’n bosibl i wella mynediad.
Gwelliant oedd wir ei angen oedd y man croesi dros y nant, a elwir yn lleol yn Seven Springs. Yn garedig iawn, rhoddodd Heidelberg Materials Aggregates yn Chwarel Cefn Mawr y creigiau calchfaen mawr i greu rhyd gerrig newydd a gwell. Nid yn unig mae hyn wedi gwella diogelwch y man croesi, ond mae hefyd wedi gwella gwerth darluniadwy’r ardal hon.
Newyddion gan ein partneriaid
Lawnsio cronfa grantiau yn ardal Rhuthun
Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi lawnsio cronfa gwerth £18,000 ar gyfer gweithgareddau i wella cymunedau yn ardal Rhuthun.
Mae’r grantiau – o hyd at £1000 yr un - ar gael i grwpiau gwirfoddol a chymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth a gwelliant yn eu hardal leol. Daw’r grantiau fel rhan o ail-ddatblygu Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun.
Mae bellach yn arferol bod cytundeb adeiladu mawr o’r math yma yn cynnwys buddsoddiad y tu hwnt i’r safle adeiladu, ac yn y gymuned leol yn ogystal.
Cwmni lleol, Read Construction, yw’r cwmni adeiladu sy’n ail-ddatblygu’r safle, ac felly yn hynod addas bod y buddsoddiad cymunedol hwn yn cael ei roi i ardal lle daw llawer o’u gweithwyr a chyflenwyr. Mae datblygu Llys Awelon yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.
“Mae’r prosiect newydd yma yn golygu 35 fflat ychwanegol i’r 21 fflat bresennol â chyfleusterau newydd sbon ar gyfer pobol hŷn yr ardal,” meddai Arwyn Evans, Pennaeth Datblygu Grŵp Cynefin. “Mae’n braf felly, yn ogystal a gallu darparu adnodd fel hyn i ardal, sy’n naturiol yn dod a swyddi a gwariant lleol, bod y gymuned hefyd yn manteisio’n ehangach trwy grantiau fel hyn.”
Bydd y grantiau o hyd at £1,000 yn cael eu cynnig i grwpiau sy’n gweithredu yn Rhuthun a’r cyffiniau, o fewn cod post LL15.
“Rydyn ni wir eisiau i grwpiau o bob math wneud ceisiadau am yr arian,” meddai Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin. “Os allan nhw helpu unrhyw weithgaredd sy’n gwneud bywyd yn well, yn dod a phobl at ei gilydd ac yn lles i’r gymuned a’r amgylchedd, ewch amdani! Maen nhw’n grantiau cymharol fechan ond mae mil o bunnoedd i fenter fach yn gallu gwneud y byd o wahaniaeth.”
Mi all gweithgareddau’r grwpiau fod yn amrywiol ac yn gwneud rhai o’r isod.
- Hybu naws cymunedol yr ardal
- Cynnwys yr holl gymuned (e.e. pobl o bob oedran a galluoedd)
- Annog plant a phobl ifanc i fod yn rhan o’r prosiect
- Trefnu digwyddiad(au) i ddod â’r gymuned at ei gilydd
- Cefnogi prosiect parhaol (cymdeithasol neu hobi)
- Darparu cyfleoedd chwarae a hamdden i blant a phobl ifanc
- Gwella’r amgylchedd lleol (e.e. dyddiau casglu sbwriel, creu lle ar gyfer bywyd gwyllt)
- Helpu pobl deimlo’n fwy saff a diogel
- Gwella lles y gymuned trwy annog ffordd o fyw iach
- Hybu’r iaith Gymraeg
- Ymateb i heriau'r argyfwng costau byw
Mae’r gronfa yn agor ddydd Mercher, 1 Tachwedd 2023 ac yn aros ar agor i geisiadau tan 31 Ionawr 2024. Gall grwpiau ymgeisio am y grantiau ar-lein ar wefan Grŵp Cynefin neu gysylltu i gael copi caled yn y post.
Adran Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin sy’n gweinyddu’r grantiau felly os hoffech drafod, gweld os ydi’ch menter neu eich prosiect chi yn gymwys neu gael help gydag ymgeisio, cysylltwch gyda thîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin ar 0300 111 2122 neu e-bostiwch mentraucymunedol@grwpcynefin.org. Mae mwy o wybodaeth ar wefan grwpcynefin.org
Os am drefnu cyfweliad neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin ar mari.williams@grwpcynefin.org neu 07970 142 305