Llwyddiant i Ffair Yrfaoedd Sir Ddinbych yn Gweithio
Wedi’i gynnal ym Mwyty a Bar 1891 yn Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl, daeth dros 230 o bobl trwy’r drysau ffair swyddi ddiweddaraf Sir Ddinbych yn Gweithio.
Yn digwydd ar 27 Medi, roedd dros 43 o fusnesau, yn cynnwys 28 o gyflogwyr, 9 sefydliad cymorth a 6 cwmni hyfforddiant yn arddangos yn y lleoliad glan môr.
Roedd y rhai oedd yn bresennol yn amrywio o sefydliadau lleol a chenedlaethol gan gynnwys enwau a adnabyddir yn genedlaethol megis Heddlu Gogledd Cymru, y Lluoedd Arfog, Balfour Beatty a Betsi Cadwaladr.
Hon oedd y pedwerydd Ffair Swyddi eleni, a'r olaf i'w chynnal yn 2023. Mae cynlluniau ar gyfer ffair swyddi mis Ionawr 2024 bellach ar y gweill.
Nod gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio Cyngor Sir Ddinbych yw cydlynu’r math o gymorth sy’n helpu pobl i mewn i waith drwy chwalu rhwystrau. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych i gael gwaith a/neu i uwchsgilio gyda hyfforddiant am ddim.
Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol: “Rydym yn falch iawn o gael adborth mor gadarnhaol o’r Ffair Swyddi ddiweddaraf.
"Mae’n bwysig iawn ein bod yn parhau i drefnu’r digwyddiadau hyn i gefnogi trigolion Sir Ddinbych i chwilio am swyddi a helpu busnesau i gysylltu â nifer fawr o ymgeiswyr posibl wyneb yn wyneb a recriwtio pobl sy’n addas ar gyfer eu sefydliad.
"Rydym eisoes yn cynllunio digwyddiadau cyflogadwyedd a gynhelir yn y flwyddyn newydd, felly sicrhewch eich bod yn edrych ar ein calendr digwyddiadau.”
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’n wych gweld fod Ffair Swyddi olaf y flwyddyn yn gymaint o lwyddiant.
"Cynhelir y Ffeiriau Swyddi hyn i helpu pobl Sir Ddinbych i ffynnu, ac i roi cefnogaeth gyflogaeth bwysig i’r sir gyfan.
"Mae’r tîm Sir Ddinbych yn Gweithio wedi gweithio’n galed iawn eleni i gynnal nifer o Ffeiriau Swyddi llwyddiannus, a hoffwn ddiolch iddynt am eu hymdrech”.
Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ac i ddysgu mwy am Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i'n gwefan neu i gael cefnogaeth cyflogaeth, cliciwch yma.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.