llais y sir

Sir Ddinbych yn Gweithio

Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig amser gyda ffrindiau bach blewog

Mewn ymdrech i hyrwyddo lles meddyliol ac emosiynol ar siwrnai pobl tuag at gyflogaeth, mae’r Prosiect 'Barod' o fewn Sir Ddinbych yn Gweithio yn lawnsio menter newydd - Taith Gerdded Lles ‘Cŵn a Chysur’, gyda phresenoldeb cŵn therapi cysurus.

Wedi’i ddylunio i ddarparu amgylchedd tawel ar gyfer preswylwyr di-waith Sir Ddinbych sy’n chwilio am egwyl o heriau bywyd bob dydd, mae Taith Gerdded Lles “Cŵn a Chysur” yn cyfuno buddion therapiwtig o gerdded gyda chysur a chwmnïaeth cŵn therapi ardystiedig.

Bydd y teithiau cerdded yn cael eu harwain gan Hyfforddwyr Lles a Gwytnwch Barod a bydd cerddwyr yn cael cwmni cŵn therapi wedi’i ddarparu gan Therapy Dogs Nationwide gyda’r gobaith i wella iechyd meddwl a lles.

Mae gan gŵn therapi’r gallu eithriadol i godi ysbryd pobl ac i roi cefnogaeth emosiynol. Mae eu presenoldeb tawel yn gallu lleihau teimladau o unigrwydd a gorbryder, gan eu gwneud yn gyfeillion perffaith ar gyfer y rhai sy’n ceisio gwella eu lles meddyliol ac emosiynol.

Meddai Tina Foulkes, Rheolwr Sir Ddinbych Yn Gweithio: “Mae bod yn ddi-waith yn gallu cael effaith negyddol ar les unigolyn felly mae’r prosiect ‘Barod’ yn cynnal gweithgareddau i gefnogi unigolion sy’n teimlo’r pwysau hynny.

"Bydd y prosiect yn cynnal amryw o weithgareddau lles trwy gydol y flwyddyn, gyda’r nod hirdymor o baratoi pobl ar gyfer cyflogaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’n wych bod y prosiect hwn wedi ehangu i gynnwys taith gerdded gyda chŵn therapi, gan fod cerdded yn yr awyr agored a rhyngweithio â chŵn ill dau yn cael eu cydnabod fel pethau sy’n gallu gwella iechyd meddwl.

"Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ateb y meini prawf i gofrestru ac i roi cynnig ar y fenter hon sy’n rhad ac am ddim”.

Bydd teithiau cerdded yn cael eu cynnal rhwng 1pm a 2pm bob dydd Llun yn y Rhyl, Dinbych, Llangollen, Prestatyn a Rhuthun hyd at 18 Rhagfyr. Ewch i https://www.denjobs.org/ er mwyn dod o hyd i’r digwyddiad sydd agosaf i chi.

Mae'r Teithiau Cerdded Lles “Cŵn a Chysur” yn rhad ac am ddim ac ar gael i unigolion o fewn ardal Sir Ddinbych, sydd dros 16 oed, yn ddi-waith a ddim mewn addysg. Croesawir pob lefel ffitrwydd.

Rhaid archebu lle a gallwch wneud hyn drwy anfon e-bost i cerian.phoenix@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 07824300769.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

         

Llwyddiant i Ffair Yrfaoedd Sir Ddinbych yn Gweithio

Wedi’i gynnal ym Mwyty a Bar 1891 yn Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl, daeth dros 230 o bobl trwy’r drysau ffair swyddi ddiweddaraf Sir Ddinbych yn Gweithio.

Yn digwydd ar 27 Medi, roedd dros 43 o fusnesau, yn cynnwys 28 o gyflogwyr, 9 sefydliad cymorth a 6 cwmni hyfforddiant yn arddangos yn y lleoliad glan môr.

Roedd y rhai oedd yn bresennol yn amrywio o sefydliadau lleol a chenedlaethol gan gynnwys enwau a adnabyddir yn genedlaethol megis Heddlu Gogledd Cymru, y Lluoedd Arfog, Balfour Beatty a Betsi Cadwaladr.

Hon oedd y pedwerydd Ffair Swyddi eleni, a'r olaf i'w chynnal yn 2023. Mae cynlluniau ar gyfer ffair swyddi mis Ionawr 2024 bellach ar y gweill.

Nod gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio Cyngor Sir Ddinbych yw cydlynu’r math o gymorth sy’n helpu pobl i mewn i waith drwy chwalu rhwystrau. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych i gael gwaith a/neu i uwchsgilio gyda hyfforddiant am ddim.

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol: “Rydym yn falch iawn o gael adborth mor gadarnhaol o’r Ffair Swyddi ddiweddaraf.

"Mae’n bwysig iawn ein bod yn parhau i drefnu’r digwyddiadau hyn i gefnogi trigolion Sir Ddinbych i chwilio am swyddi a helpu busnesau i gysylltu â nifer fawr o ymgeiswyr posibl wyneb yn wyneb a recriwtio pobl sy’n addas ar gyfer eu sefydliad.

"Rydym eisoes yn cynllunio digwyddiadau cyflogadwyedd a gynhelir yn y flwyddyn newydd, felly sicrhewch eich bod yn edrych ar ein calendr digwyddiadau.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’n wych gweld fod Ffair Swyddi olaf y flwyddyn yn gymaint o lwyddiant.

"Cynhelir y Ffeiriau Swyddi hyn i helpu pobl Sir Ddinbych i ffynnu, ac i roi cefnogaeth gyflogaeth bwysig i’r sir gyfan.

"Mae’r tîm Sir Ddinbych yn Gweithio wedi gweithio’n galed iawn eleni i gynnal nifer o Ffeiriau Swyddi llwyddiannus, a hoffwn ddiolch iddynt am eu hymdrech”.

Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ac i ddysgu mwy am Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i'n gwefan neu i gael cefnogaeth cyflogaeth, cliciwch yma.  

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

                                                                                

Mae'n rhaid iddi fod y swydd iawn: y cynllun cyflogaeth sydd wedi'i deilwra i anghenion lleol

Fe wnaeth y Cynghorwyr Jason McLellan a Gill German dywys Aelodd y Senedd San Steffan, Alison McGovern, i weld Sir Ddinbych yn Gweithio yn Llyfrgell y Rhyl fis Medi i siarad am y ffordd y mae’r gwasanaeth yn helpu trigolion Sir Ddinbych i gael gwaith.

Alison McGovern AS gyda Sediq Shamal mewn ymweliad â Sir Ddinbych yn Gweithio

Alison McGovern yn ymweld â Sir Ddinbych yn Gweithio yn y Rhyl. (Ffotograff: Christopher Thomond/The Guardian)


Siaradodd cyn-gyfranogwyr ac aelodau amrywiol o’r tîm, yn cynnwys cyfranogwyr sydd bellach yn gweithio i’r gwasanaeth o ganlyniad i’r cynllun, am effaith gadarnhaol Sir Ddinbych yn Gweithio ar y sir a sut mae’n parhau i gefnogi trigolion i gael gwaith drwy ddarparu hyfforddiant, gweithgareddau lles, cymorth i chwilio am waith ac ysgrifennu CV a llawer iawn mwy.

Siaradodd Sediq Shamal, Luke Jones a Brandon Nellist am eu profiadau personol gyda Sir Ddinbych yn Gweithio ac yn dilyn yr ymweliad ysgrifennodd y Guardian erthygl lawn am y cynllun.

Sediq Shamal yn eistedd i lawr ger y traeth yn y Rhyl

Sediq Shamal yn y Rhyl. Bu iddo adael Afghanistan ar ôl i’r Taliban ddychwelyd yn 2021. (Ffotograff: Christopher Thomond/The Guardian)

Luke Jones yng nghaffi Tu Mundo ym Mhrestatyn
Luke Jones yng nghaffi Tu Mundo ym Mhrestatyn. (Ffotograff: Christopher Thomond/The Guardian)

I ddarllen yr erthygl ewch i The Guardian

          

Amserlen Barod ar gyfer Mis Tachwedd

Ar y ffordd gyda Sir Ddinbych yn Gweithio

Digwyddiad Cefnogaeth yn y Gwaith: 7 Tachwedd yng Nghanolfan Optics Technology, Llanelwy (9am - 12.30pm)

Mae Cyngor Sir Ddinbych, mewn partneriaeth gydag Adran Gwaith a Phensiynau yn gwahodd cyflogwyr sydd wedi’u lleoli yn Sir Ddinbych i fynychu digwyddiad llawn gwybodaeth sy’n canolbwyntio ar sut y gallwn ni gyda’n gilydd, gefnogi preswylwyr lleol i ddatblygu eu gyrfaoedd a ffynnu yn y gweithle. 

Mae’r digwyddiad yma’n gyfle unigryw i edrych ar gefnogaeth ac adnoddau lleol sydd ar gael i wella sgiliau eich gweithlu.  Mae’n helpu i ddarparu swyddi o ansawdd, sefydlogrwydd a photensial enillion gwell i nifer o bobl leol yn rhan o uchelgais i ddatblygu economi leol gref a gweithlu bywiog.

Os hoffech fynychu, e-bostiwch RHYL.EPTEAM@DWP.GOV.UK.

Digwyddiad Lles ar gyfer Gwaith: 24 Tachwedd yn Llyfrgell y Rhyl (11.30am - 1.30pm)

Mae’r digwyddiad 'galw heibio' yma’n canolbwyntio ar gefnogi lles unigolion sy’n dymuno newid gyrfa neu’n chwilio am waith.

Mae’r digwyddiad am ddim yma wedi cael ei drefnu i gysylltu preswylwyr gyda darparwyr gwasanaeth, i alluogi iddynt gael gafael ar gefnogaeth berthnasol a gwybodaeth werthfawr sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth.

          

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid