Carchar Rhuthun yn cynnig profiad Awstralaidd unigryw
Sut mae taith i Awstralia’n swnio? Swnio’n wych dydi? Wel, doedd hynny ddim yn newyddion da os oeddech chi’n garcharor yng Ngharchar Rhuthun!
Mae Amgueddfa Carchar Rhuthun yn cynnig profiad gwirioneddol unigryw ar 2 Tachwedd - i gael eich ‘cludo’ yn ôl mewn amser. Dyma gyfle unigryw i weld a chlywed hanesion y troseddwyr a gludwyd i Awstralia o Garchar Rhuthun ar ddiwedd y 1800au.
Gall y mynychwyr ddysgu sut fywyd oedd ar y llongau cludo a gallant glywed hanesion am dynged nifer o’r carcharorion.
Fe fydd y teithiau am 11am a 2pm a bydd modd i’r mynychwyr ddilyn y cymeriadau o amgylch y carchar i glywed eu straeon. Dyma daith hwyliog sydd yn llawn gwybodaeth sy’n addas i bob oedran a bydd ffioedd mynediad arferol yn berthnasol.
Dywedodd Philippa Jones, Rheolwr Gweithredu a Datblygu Safle Treftadaeth: “Mae tîm y Carchar yn edrych ymlaen at gyflwyno ein Diwrnod Cludo unwaith eto. Rydym ni wedi dysgu llawer mwy am y carcharorion a gafodd eu cludo i Awstralia yn ddiweddar, ac fe fydd y diwrnod yma’n ffordd wych o gyflwyno hyn i’n hymwelwyr.”
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ddysgu am daith hir rhai o’r carcharorion o’n cornel ni ar y blaned, yr holl ffordd i Awstralia. Dyma gell newydd a gafodd ei hagor eleni, buaswn yn annog unrhyw un sy’n hoffi hanes i ddod draw i’w brofi.”
I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook y Carchar.