llais y sir

Twristiaeth

Twf economaidd mwyaf erioed i sector twristiaeth Sir Ddinbych

Mae ffigurau Monitor Gweithgaredd Economaidd Twristiaeth Scarborough (STEAM) ar gyfer 2022 yn dangos cynnydd sylweddol yn effaith economaidd twristiaeth ar y sir.

Mae ffigurau’n dangos bod twristiaeth wedi cynhyrchu £628 miliwn yn 2022, gan guro’r ffigur o £552 miliwn cyn Covid yn 2019 o bron i 14%.

Cynyddodd nifer yr ymwelwyr a oedd yn aros hefyd o gymharu â 2019, wedi i 1.64 miliwn benderfynu aros yn y sir yn 2022, sy’n gynnydd o 3.1%.

Mae cyfanswm nifer yr ymwelwyr wedi codi 0.6% o’i gymharu â’r niferoedd cyn y pandemig yn 2019, wedi i 6.03 miliwn ymweld â Sir Ddinbych yn 2022.

Mae’r ffigurau’n dangos bod y sector twristiaeth yn adfer yn dda, wedi i nifer yr ymwelwyr sy’n aros godi 56.1% yn 2022, o gymharu â ffigurau 2021.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r ffigurau hyn yn dderbyniol iawn ac yn dangos pwysigrwydd twristiaeth i’r economi leol a gwydnwch y sector hwn mewn cyfnod sydd wedi bod yn heriol i’r diwydiant.”

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Mae ein hatyniadau arfordirol a gwledig ni wedi dangos cynnydd cryf mewn effaith economaidd o gymharu â 2021 gan wella 40% a 50%. Mae hyn yn pwysleisio pa mor gryf yw’r cynnig i dwristiaid ledled y sir.”

Sir Ddinbych ar Fws

Mae'r Tîm Twristiaeth wedi ymgysylltu â blogiwr gwadd.

Julie Brominicks yw awdur The Edge of Cymru ac mae'n gyfrannwr cyson i  gylchgrawn BBC Countryfile.

Mae Julie yn ysgrifennu'n bennaf am dirlun Cymru,  ar droed neu ar drên neu’n fwy aml ar fws.  

Rydym wedi bod yn rhannu anturiaethau Julie yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth iddi archwilio Sir Ddinbych ar fws, gan hyrwyddo teithio cynaliadwy.  

Credyd llun: Billie Elusen yng Ngŵyl y Gelli

I ddarllen blog Julie, ewch i adran Ysbrydoli Fi ar wefan Gogledd Ddwyrain Cymru y mae'r Tîm Twristiaeth yn ei reoli.

Roedd hi hefyd yn siaradwr gwadd yn eu Fforwm Twristiaeth fis diwethaf.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid