Mae partneriaeth gymunedol wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei gwaith parhaus i helpu natur ar safle poblogaidd yn Rhuddlan.
Gwobrwywyd Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2024 yn ddiweddar yn y Fenni.
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio’n agos â Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan ers 2011 i reoli’r safle, er mwyn helpu natur i ffynnu a darparu lle gwych o ran lles cymunedol.
Drwy weledigaeth y grŵp a sgiliau’r ceidwaid cefn gwlad, mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan wedi ehangu a datblygu dros y blynyddoedd ac wedi cyflwyno mentrau sy’n cynnwys dwy ddôl o flodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 metr o wrychoedd, lleiniau blodau gwyllt, plannu 6,000 o goed, perllan rhywogaethau treftadaeth, dwy ardal bicnic a llwyfan rhwydo pyllau.
Gan weithio gyda’r grŵp Dementia lleol, mae’r bartneriaeth hefyd wedi creu gofod sy’n gyfeillgar i Ddementia ar y safle, gyda nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwyllt a thirwedd hanesyddol megis waliau cerrig sych a gwrychoedd wedi plygu a seddi coed derw Cymreig traddodiadol.
Mae datblygu’r warchodfa sydd wedi’i chynllunio’n arbennig gan fywyd gwyllt lleol wedi mynd y tu hwnt i’r holl ddisgwyliadau ac mae hynny’n cynnwys rhywogaethau eiconig megis dyfrgwn a llygod pengrwn y dŵr, sy’n digwydd bod yn rhai o’r mamaliaid sy’n prinhau’n gynt yn y DU.
Dyfarnwyd Gwobr Amgylcheddol John Woods i Rhuddlan gan Cymru yn ei Blodau, yn ogystal â Chategori ‘Eithriadol’ It’s Your Neighbourhood, sef cynllun i grwpiau garddio gwirfoddol, cymunedol sy’n canolbwyntio ar lanhau a glasu eu hardal leol.
Yn ogystal, dyfarnwyd Gwobr Cefnogwr Cymuned i Anita Fagan, Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan am ei gwaith i gefnogi Gwarchodfa Natur Rhuddlan.
Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i holl aelodau’r pwyllgor am eu gwaith cadarnhaol a rhagweithiol ar gyfer y warchodfa. Mae holl aelodau’r pwyllgor yn mynd ‘y filltir ychwanegol’.
“Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych a’u tîm o geidwaid a gefnogir gan wirfoddolwyr gwych yn haeddu clod arbennig iawn, a diolch am eu hymroddiad i gynnal y warchodfa wrth ymdopi â’u holl ymrwymiadau gwarchodfa natur eraill yng Ngogledd Sir Ddinbych.”
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Dyma gydweithio gwych gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad ac mae wedi sicrhau digonedd o gefnogaeth ar gyfer natur leol a’r gymuned, sy’n dod draw i fwynhau’r safle hwn yn rheolaidd.
“Mae’n wych gweld y gwaith hwn yn cael ei gydnabod gan bawb ac rwy’n edrych ymlaen at weld y safle cymunedol pwysig hwn yn parhau i ffynnu yn y dyfodol.”