Paratoadau ar y gweill i greu gwarchodfa natur newydd yn Llanelwy.

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno caniatâd cynllunio ar gyfer creu gwarchodfa natur o 40 erw yn Green Gates, Lôn Cwttir, Llanelwy.

Mae'r datblygiad hwn yn un cam o’r gwaith ar y tir sydd â’r bwriad, yn y pen draw i dyfu'n warchodfa natur 70 erw.

Cyhoeddwyd Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2019 ac mae datblygiad gwarchodfa natur Llanelwy yn rhan o’r ymateb i warchod ac adfer cynefinoedd natur lleol i gyfrannu at ein nod adfer natur. Bydd y cynnydd mewn gwrychoedd a gorchudd coed hefyd yn cyfrannu at ein nod carbon sero net drwy gynyddu amsugniad carbon.

Mae cynlluniau eisoes wedi eu cytuno ar gyfer datblygu rhan o warchodfa natur 30 erw ar y safle. Mae’r ardal gyfan hefyd yn cynnwys meithrinfa goed o darddiad lleol sefydledig y Cyngor sy’n anelu at gynhyrchu tua 5,000 o goed a 5,000 o flodau gwyllt y flwyddyn i helpu i hybu cynefinoedd natur lleol.

Cytunodd y pwyllgor cynllunio i ddymchwel yr adeiladau presennol a newid defnydd y 40 erw o dir amaethyddol i warchodfa natur newydd.

Bydd creu cynefinoedd yn yr ardal hon yn cynnwys adfer y pyllau presennol, creu pyllau newydd, creu ardal wlyptir gerllaw dau gwrs dŵr bach a chreu ardaloedd coetir a chynefin glaswelltir.

Caiff deunyddiau gwastraff o’r adeiladau sydd wedi’u dymchwel eu defnyddio i greu safle tir llwyd newydd, sy’n Gynefin â Blaenoriaeth ac a fydd yn helpu i gynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt prin a phwysig – fel pryfed a blodau gwyllt. Mae’r safle hefyd wedi’i nodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig posibl ar gyfer madfallod dŵr cribog.

Bydd gwaith hefyd yn gweld adeiladu llwybr caniataol a gwaith peirianyddol i greu man gwylio uwch ynghyd â gwaith cysylltiedig.

Dywedodd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae hwn yn ddarn pwysig yn y gwaith o ddatblygu gwarchodfa natur 70 erw a fydd yn dod yn ased cryf i’r sir wrth gefnogi ein bywyd gwyllt, planhigion a choed lleol, yn ogystal â lles cymunedol, addysg a hamdden.

“Rydym eisoes wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae’r feithrinfa goed, sydd wedi’i lleoli ar y safle hwn, yn ei chael ar warchod a chefnogi natur leol ac adferiad.

“Bydd y datblygiad hwn o’r tir o amgylch y feithrinfa yn adfer cynefinoedd sy’n cynnal bywyd gwyllt prin a phwysig. Mae disodli glaswelltir sy’n brin o rywogaethau yn laswelltiroedd, gwlyptiroedd, coetir a chynefinoedd prysgwydd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau yn gam hanfodol i gyflawni ein nod parhaus o gynyddu bioamrywiaeth a gwella dal a storio carbon.”

Mae’r gwaith yma wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur fel rhan o waith y Cyngor gyda’r Bartneriaeth Natur Lleol. Darparwyd arian ychwanegol hefyd gan Raglen Adfer Hinsawdd a Natur Sir Ddinbych.