Mae miloedd o goed sydd wedi’u tyfu’n lleol yn paratoi i roi hwb i fioamrywiaeth Sir Ddinbych.

Mae gan Blanhigfa Goed Tarddiad Lleol Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy oddeutu 24 math gwahanol o goed yn tyfu ar y safle hwn.

Mae bron i 40,000 o goed yn y blanhigfa ar hyn o bryd sydd ar wahanol gamau twf. Os bydd pob un o’r coed hyn yn llwyddo i dyfu, fe allai hynny arwain at bron i 70 erw o goetir diolch i waith tîm Bioamrywiaeth y Cyngor a gwirfoddolwyr y blanhigfa.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW) Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn defnyddio dull planhigfa goed i dyfu coed o hadau sydd wedi tarddu o fewn y sir yn y blanhigfa nes byddant yn barod i gael eu plannu ar dir lleol.

Mae’r gwaith yn y blanhigfa i gefnogi tyfiant coed yn cynnwys cymysgedd o gynnal a chefnogi coed craidd megis coed derw a hefyd yn cynnig help llaw ar gyfer cynnal coed prin megis y gerddinen wyllt.

Mae’r coed eraill ar y safle’n cynnwys derwen goesynnog, derwen ddigoes, castanwydden felys, bedwen arian, gwernen, llwyfen lydanddail a helygen grynddail fwyaf.

Bydd rhywfaint o’r coed sy’n barod i’w plannu’n helpu i ffurfio ardal goetir newydd yng Ngwarchodfa Natur Green Gates y mae’r blanhigfa goed yn rhan ohoni.

Mae gwaith y blanhigfa’n rhan o ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol a ddatganwyd yn 2019, drwy helpu i gynyddu’r gorchudd canopi coed sirol i leihau allyriadau carbon a chefnogi natur leol.

Mae bron i 16,000 o flodau gwyllt hefyd wedi cael eu cynhyrchu o hadau sirol yn y blanhigfa goed a bydd y rhain yn parhau i gefnogi’r dolydd blodau gwyllt presennol yn Sir Ddinbych drwy blannu plygiau.

Mae llawer o’r blodau gwylltion hyn yn cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt. Er enghraifft, gall y feillionen hopysaidd ddarparu bwyd i 160 o rywogaethau o bryfaid, gan annog llŷg a chornchwiglod i ymweld â’r planhigyn, gan wella gwytnwch natur mewn cymunedau lleol.

Unwaith y byddant wedi cael eu plannu, byddant yn ychwanegu mwy o amrywiaeth at ddolydd fel bod cymunedau lleol yn gallu mwynhau a dysgu, a helpu i gynnal a gwella bioamrywiaeth.

Mae cael mwy o flodau gwyllt yn y dolydd hefyd yn helpu peillwyr sy’n bwysig i’r gadwyn fwyd ddynol.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae tyfu coed yn cymryd amser a’n tîm Bioamrywiaeth a gwirfoddolwyr y blanhigfa goed sy’n haeddu’r clod am sicrhau fod gennym bellach 24 o rywogaethau coed ar y safle a fydd, yn y pen draw, yn mynd i’r afael ag effaith newid hinsawdd ar breswylwyr a natur leol.

“Mae’n wych meddwl bod gennym erwau o goetir posibl yn y blanhigfa ac mae’r gwaith caled yn parhau i gasglu hadau'r tymor hwn o goetiroedd lleol presennol i helpu i barhau i gynyddu’r niferoedd sydd gennym ar y safle.”