llais y sir

Newyddion

Cyngor yn cwblhau gwaith ar brosiect y Pedair Priffordd Fawr

LLun o Arwyddion

Mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith ar brosiect y Pedair Priffordd Fawr yn Llangollen.

Roedd y prosiect yn rhan o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU a sicrhawyd drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer cyn Etholaeth De Clwyd, a welodd £3.8 miliwn yn cael ei glustnodi i Sir Ddinbych ei fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llandysilio yn Iâl, Corwen a’r cyffiniau.

Bwriad y gwaith oedd hyrwyddo a gwella Pedair Priffordd Fawr Llangollen, drwy wneud gwaith tirwedd a pheirianneg a fyddai’n gwella hygyrchedd a gwelededd atyniadau o fewn y dref gyda gwell arwyddion a chyfeirbyst.

Cwblhawyd y prosiect hwn gan OBR Construction, a oedd hefyd yn gyfrifol am gwblhau prosiect arall a ariannwyd gan Lywodraeth y DU yng Ngwarchodfa Natur Wenffrwd.

Meddai Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd ac Trafnidiaeth:

“Rwy’n falch iawn o glywed bod y gwaith ar brosiect y Pedair Priffordd Fawr bellach wedi’i gwblhau. Gobeithio y bydd y gwelliannau hyn i hygyrchedd, dehongliad ac arwyddion yn helpu hyrwyddo safleoedd hanesyddol Llangollen ac yn annog mwy o drigolion ac ymwelwyr i dreulio mwy o amser yno.”

Cynnal digwyddiad yng Nghorwen i ddathlu cwblhau gwaith adfywio

Llun o partneriaid tu allan o Llys Owen, Corwen

Mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Llys Owain yng Nghorwen croesawyd ystod o bartneriaid i ddathlu cwblhau nifer o brosiectau adfywio canol y dref ar stryd fawr Corwen a’r ardal gyfagos.

Roedd y prosiectau hyn yn rhan o fuddsoddiad £13 miliwn ar draws Dyffryn Dyfrdwy a ariannwyd gan Lywodraeth y DU. Mae’r cyllid, a sicrhawyd yn 2021 drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Glandŵr Cymru, yn ceisio gwneud y mwyaf o botensial yr economi ymwelwyr yn dilyn COVID-19 a hynny yn Nyffryn Dyfrdwy a’r ardal o amgylch.

Cafodd £3.8M o’r cyllid hwn ei ddyrannu ar gyfer buddsoddi mewn 9 prosiect yng nghymunedau Corwen, Llangollen a Llandysilio yn Sir Dinbych a’r ardaloedd o amgylch.

Agorwyd y digwyddiad gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Scott, a rhoddodd gyfle i’r partneriaid i fyfyrio ar yr ystod o brosiectau sydd wedi eu cyflawni’n llwyddiannus yn nhref Corwen.

Cafodd cyfanswm o 4 prosiect yng Nghorwen eu cwblhau dros gyfnod o ychydig o dan dair blynedd a oedd yn anelu i gefnogi twf yr economi’n lleol, creu swyddi a chefnogi’r synnwyr o falchder lleol.

Roedd y rhain yn cynnwys cyllid ar gyfer Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen i gwblhau’r Rheilffordd Dreftadaeth newydd i’r dref, cyllid ar gyfer y fenter gymdeithasol Cadwyn Adfywio i gwblhau gwaith adnewyddu allanol ar adeilad Canolfan Llys Owain ac yn fwy diweddar fe wnaed ystod o welliannau parth cyhoeddus i’r stryd fawr a’r maes parcio yng Nghorwen.

Roedd y newidiadau’n cynnwys adfer a disodli dodrefn stryd, lloches fws newydd, gosod deg o fannau gwefru cerbydau trydan newydd ac adnewyddu’r bloc toiledau ym maes parcio Lôn Las sydd nawr o dan reolaeth Cyngor Tref Corwen.

Cafodd golau awyr dywyll ynghyd â blychau adar ac ystlumod hefyd eu hymgorffori fel rhan o’r gwaith adnewyddu i gefnogi ymrwymiad y Cyngor i’w strategaeth Hinsawdd a Natur ymhellach.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd Jason McLellan:

“Mae wedi bod yn bleser gweld hyn a gwaith adfywio arall yn cael ei gwblhau, gydag ystod o bartneriaid yn dod ynghyd dros y tair blynedd ddiwethaf i ddod â gwelliannau cyffrous i’r ardal leol.

“Mae ychwanegu’r orsaf reilffordd dreftadaeth newydd eisoes wedi arwain at gynnydd o 21% yn nifer yr ymwelwyr ar y stryd fawr mewn cymhariaeth â’r llynedd. Rydym yn gobeithio fod y gwaith adfer hwn wedi dangos y potensial sydd gan Gorwen i’w gynnig, yn ogystal â’r cyfleoedd gwych y gall eu cynnig i fusnesau posibl sy’n chwilio am leoliad ar y stryd fawr yn ne Sir Ddinbych.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid