llais y sir

Newyddion

Cyngor yn cwblhau gwaith ar brosiect y Pedair Priffordd Fawr

LLun o Arwyddion

Mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith ar brosiect y Pedair Priffordd Fawr yn Llangollen.

Roedd y prosiect yn rhan o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU a sicrhawyd drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer cyn Etholaeth De Clwyd, a welodd £3.8 miliwn yn cael ei glustnodi i Sir Ddinbych ei fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llandysilio yn Iâl, Corwen a’r cyffiniau.

Bwriad y gwaith oedd hyrwyddo a gwella Pedair Priffordd Fawr Llangollen, drwy wneud gwaith tirwedd a pheirianneg a fyddai’n gwella hygyrchedd a gwelededd atyniadau o fewn y dref gyda gwell arwyddion a chyfeirbyst.

Cwblhawyd y prosiect hwn gan OBR Construction, a oedd hefyd yn gyfrifol am gwblhau prosiect arall a ariannwyd gan Lywodraeth y DU yng Ngwarchodfa Natur Wenffrwd.

Meddai Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd ac Trafnidiaeth:

“Rwy’n falch iawn o glywed bod y gwaith ar brosiect y Pedair Priffordd Fawr bellach wedi’i gwblhau. Gobeithio y bydd y gwelliannau hyn i hygyrchedd, dehongliad ac arwyddion yn helpu hyrwyddo safleoedd hanesyddol Llangollen ac yn annog mwy o drigolion ac ymwelwyr i dreulio mwy o amser yno.”

Cynnal digwyddiad yng Nghorwen i ddathlu cwblhau gwaith adfywio

Llun o partneriaid tu allan o Llys Owen, Corwen

Mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Llys Owain yng Nghorwen croesawyd ystod o bartneriaid i ddathlu cwblhau nifer o brosiectau adfywio canol y dref ar stryd fawr Corwen a’r ardal gyfagos.

Roedd y prosiectau hyn yn rhan o fuddsoddiad £13 miliwn ar draws Dyffryn Dyfrdwy a ariannwyd gan Lywodraeth y DU. Mae’r cyllid, a sicrhawyd yn 2021 drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Glandŵr Cymru, yn ceisio gwneud y mwyaf o botensial yr economi ymwelwyr yn dilyn COVID-19 a hynny yn Nyffryn Dyfrdwy a’r ardal o amgylch.

Cafodd £3.8M o’r cyllid hwn ei ddyrannu ar gyfer buddsoddi mewn 9 prosiect yng nghymunedau Corwen, Llangollen a Llandysilio yn Sir Dinbych a’r ardaloedd o amgylch.

Agorwyd y digwyddiad gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Scott, a rhoddodd gyfle i’r partneriaid i fyfyrio ar yr ystod o brosiectau sydd wedi eu cyflawni’n llwyddiannus yn nhref Corwen.

Cafodd cyfanswm o 4 prosiect yng Nghorwen eu cwblhau dros gyfnod o ychydig o dan dair blynedd a oedd yn anelu i gefnogi twf yr economi’n lleol, creu swyddi a chefnogi’r synnwyr o falchder lleol.

Roedd y rhain yn cynnwys cyllid ar gyfer Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen i gwblhau’r Rheilffordd Dreftadaeth newydd i’r dref, cyllid ar gyfer y fenter gymdeithasol Cadwyn Adfywio i gwblhau gwaith adnewyddu allanol ar adeilad Canolfan Llys Owain ac yn fwy diweddar fe wnaed ystod o welliannau parth cyhoeddus i’r stryd fawr a’r maes parcio yng Nghorwen.

Roedd y newidiadau’n cynnwys adfer a disodli dodrefn stryd, lloches fws newydd, gosod deg o fannau gwefru cerbydau trydan newydd ac adnewyddu’r bloc toiledau ym maes parcio Lôn Las sydd nawr o dan reolaeth Cyngor Tref Corwen.

Cafodd golau awyr dywyll ynghyd â blychau adar ac ystlumod hefyd eu hymgorffori fel rhan o’r gwaith adnewyddu i gefnogi ymrwymiad y Cyngor i’w strategaeth Hinsawdd a Natur ymhellach.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd Jason McLellan:

“Mae wedi bod yn bleser gweld hyn a gwaith adfywio arall yn cael ei gwblhau, gydag ystod o bartneriaid yn dod ynghyd dros y tair blynedd ddiwethaf i ddod â gwelliannau cyffrous i’r ardal leol.

“Mae ychwanegu’r orsaf reilffordd dreftadaeth newydd eisoes wedi arwain at gynnydd o 21% yn nifer yr ymwelwyr ar y stryd fawr mewn cymhariaeth â’r llynedd. Rydym yn gobeithio fod y gwaith adfer hwn wedi dangos y potensial sydd gan Gorwen i’w gynnig, yn ogystal â’r cyfleoedd gwych y gall eu cynnig i fusnesau posibl sy’n chwilio am leoliad ar y stryd fawr yn ne Sir Ddinbych.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan.

Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Arwain y ffordd yng Nghlwb Rygbi Rhuthun

Chlwb Rygbi Rhuthun

Lleoliadau chwaraeon Rhuthun yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael ag effaith llygredd golau fin nos.

Mae tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn gweithio gyda Chlwb Rygbi Rhuthun a Chanolfan Gymunedol Llanfwrog i gyflwyno goleuadau mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar ar eu caeau, cyrtiau tennis a maes ymarfer golff i leihau llygredd golau a gwella’r cyfleusterau i ddefnyddwyr a natur. Y goleuadau arloesol newydd sydd wedi’u gosod yn y ganolfan tennis, y clwb rygbi a’r maes ymarfer golff ydi’r cyntaf yng Nghymru i fod yn gyfeillgar i’r awyr dywyll ac yn ecogyfeillgar gan arwain y ffordd i arddangos arfer gorau.

Yn rhan o raglen ehangach o waith wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, mae Tirweddau Dynodedig ar draws Cymru yn cydweithio fel Tirweddau Cymru i helpu i ddatgloi potensial y tirweddau i ddarparu ar gyfer natur, hinsawdd a chymunedau. Mae hyn wedi cynnwys prosiect cydweithredol dan arweiniad staff o Dirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i hyrwyddo pwysigrwydd awyr dywyll ar gyfer natur ac phobl.

Fe weithiodd tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyda’r holl feysydd a chlybiau chwaraeon yn y rhan yma o Ruthun, yn cynnwys y clwb rygbi, y clwb tennis a’r maes ymarfer golff i feddwl am ddatrysiadau all ddarparu goleuadau chwaraeon effeithiol sydd yn cyrraedd safonau chwaraeon proffesiynol mewn modd ecogyfeillgar.

Mae’r goleuadau newydd yn cynnwys cyflau sydd yn atal unrhyw olau sydd yn cyrraedd ardaloedd diangen ac i gyfeirio’r holl olau ar y caeau, ac nid yw’n caniatáu i olau gyrraedd y tu hwnt i’r cae chwarae. Mae hyn yn golygu bod llai o olau’n cael ei wastraffu yn ogystal â llai o effaith ecolegol.

Mae hyn yn golygu y gall y clwb rygbi oleuo eu caeau’n fwy effeithiol gyda 45% o ostyngiad yn yr ynni maen nhw’n ei ddefnyddio, gan arwain at arbediad ariannol sylweddol i’r clwb.

Mae’r clwb tennis wedi gweld gostyngiad o 61% yn yr ynni maen nhw’n ei ddefnyddio ac mae’r cyrtiau’n cael eu goleuo’n llawer gwell ac mae hi’n haws chwarae arnyn nhw.

Mae system reoli goleuadau newydd wedi cael ei gynnwys gan olygu bod modd rheoli’r goleuadau newydd oddi ar ap ffôn, sy’n golygu mai dim ond cyrtiau neu gaeau sy’n cael eu defnyddio sy’n cael eu goleuo. Gellir pylu’r goleuadau pan maen nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant yn hytrach na gemau, gan arwain at ragor o arbedion ynni.

Yn hollbwysig mae gan y goleuadau LED newydd liw tymheredd cynhesach, 2700 kelvin, sydd yn llawer llai niweidiol i fywyd gwyllt yn hytrach na goleuadau LED glas/gwyn safonol.

Gall golau allanol sydd heb ei reoli gael effaith negyddol enfawr ar greaduriaid y nos yn ogystal ag ar iechyd corfforol a meddyliol pobl. Mae tua 60% o fioamrywiaeth yn dibynnu ar dywyllwch i oroesi felly gall llygredd golau fod yn niweidiol tu hwnt. Yn rhan o’r prosiect mae’r Tirwedd Cenedlaethol yn monitro dwysedd gwyfynod ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill yn yr ardal.

Meddai Gwenno Jones, Swyddog Awyr Dywyll Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: “Dydi hi heb fod yn hawdd meddwl am ddatrysiad, ond drwy weithio gydag ymgynghorwyr goleuadau awyr dywyll arbenigol, Dark Source, a chwmni goleuadau EcoClub, rydym wedi llwyddo i ddangos ei bod hi’n bosibl darparu goleuadau o safon well sydd yn fwy effeithiol sydd hefyd yn fwy ecogyfeillgar, ac yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol ac yn economaidd.”

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Bydd y goleuadau newydd ar draws y meysydd chwaraeon yma yn arwain at welliant enfawr i breswylwyr yn y rhan yma o Ruthun, gydag ychydig iawn neu ddim golau ymwthiol yn yr ardal neu’r dirwedd. Mae’n arfer gorau am gymaint o resymau ac rydym ni’n gobeithio y gellir ailadrodd y safon yma o olau ar draws Cymru.”

Roedd y meysydd chwaraeon yma’n ffynhonnell fawr o olau ymwthiol oedd yn cyfrannu at lygredd golau oedd yn effeithio ar breswylwyr lleol ac roedd modd eu gweld o filltiroedd i ffwrdd.

Mae’r cynlluniau goleuadau newydd wedi cael eu cefnogi gan raglen gyllid Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy, sy’n cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru a Thirweddau Cymru, ac fe gafodd gyllid gan Fferm Wynt Brenig a Chlocaenog, Chwaraeon Cymru a Hamdden Sir Ddinbych.

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Gŵyl Ffuglen Llyfrgelloedd Sir Ddinbych

Bydd Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cynnal cyfres o ymweliadau awduron i fywiogi'r gaeaf. Mae’r ŵyl yn dechrau gydag enillydd medal YOTO Carnegie 2023 yr awdur Manon Steffan Ros yn Llyfrgell Dinbych ddydd Llun Tachwedd 18fed am 2yp. Mae Manon wedi ysgrifennu dros 23 o lyfrau Cymraeg i oedolion a phlant, wedi ennill Llyfr y Flwyddyn, gwobr Llyfrau Plant Tir na n’Og bedair gwaith yn ogystal â gwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd Llyfrgell Prestatyn yn croesawu Kate Ellis ar ddydd Mercher, 20 Tachwedd am 2pm. Mae Kate wedi ysgrifennu 28 o nofelau, yn bennaf trosedd gyda thro goruwchnaturiol, mae hi hefyd wedi ysgrifennu trioleg wedi'i gosod yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf ‘Coffin Island’ yn Awst 2024.

Bydd Llyfrgell y Rhyl yn cynnal rhaglen ddwbl gyda’r nofelydd rhamant Trisha Ashley a Juliet Greenwodd ar ddydd Iau, 28 Tachwedd am 2pm. Mae Trisha yn werthwr gorau ar restr y Sunday Times sydd wedi ysgrifennu dros 27 o nofelau, straeon byrion a barddoniaeth. Enillodd ei nofel ddiweddaraf ‘The Wedding Dress Repair Shop’ Wobr RoNA am Ffuglen Boblogaidd 2024. Nofelydd hanesyddol yw Juliet Greenwood gyda’i nofel ddiweddaraf wedi ei seilio ar brofiadau ei mam yn yr Ail Ryfel Byd a fu’n werthwr gorau ar kindle yn yr UDA a Phrydain.

Bydd yr awdur a’r darlledwr Myfanwy Alexander yn ymweld â Llyfrgell Rhuthun ddydd Iau, 21 Tachwedd am 2pm i siarad am ei chyfres o nofelau trosedd sy’n cynnwys y Ditectif Arolygydd Daf Dafis.

Bydd noson ddirgelwch llofruddiaeth a gynhelir gan dîm y llyfrgell yn Llyfrgell Rhuddlan, nos Iau, 21 Tachwedd am 7pm yn seiliedig ar ‘The Darkest Evening’ gan Ann Cleeves.

Mae’r awdur poblogaidd Simon McCleave, yn Llyfrgell Llanelwy ddydd Gwener, 22 Tachwedd am 2pm.  Dechreuodd ei gyfres o lyfrau gyda’r nofel ‘Snowdonia Killings’, ac maent yn cynnwys ‘Denbigh Asylum Killings’ a’r ‘Llangollen Killings’. Yn ddiweddar mae wedi ysgrifennu nofel gyffro annibynnol o’r enw ‘The Last Night at Villa Lucia’.

Bydd yr awdur plant lleol Pat Sumner yn ymweld â Llyfrgell Rhuthun ddydd Sadwrn, 23 Tachwedd am 11am i sgwrsio am ei nofel newydd i blant 8-12 oed, ‘The Globbatrotter’

Bydd yr awdur o Wrecsam David Ebsworth yn Llyfrgell Llangollen ddydd Mawrth, 3 Rhagfyr am 2pm yn siarad am ei ddirgelion Fictoraidd yn Wrecsam a Chaer.

Dywedodd Deborah Owen, Prif Lyfrgellydd: “Rydyn ni’n gobeithio bod rhywbeth at ddant pawb gyda’r ymweliadau hyn gan awduron. P’un a yw’n well gennych drosedd, rhamant neu ffuglen hanesyddol, hoffwn wahodd pawb i ymuno â ni.

"Cysylltwch â’ch llyfrgell leol i gael rhagor o wybodaeth am ymweliad awdur penodol neu i gadw lle.”

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae’r ymweliadau hyn yn gyfle i bobl Sir Ddinbych gael cipolwg ar nifer o awduron poblogaidd, yn ogystal â’u pynciau cyhoeddedig. Mae yna ymweliadau ar draws y sir, sy’n ymdrin â llawer o wahanol bynciau a themâu i drigolion eu mwynhau.”

Ariennir y digwyddiadau hyn yn rhannol gan Hamdden Sir Ddinbych a Llywodraeth y DU.

Twristiaeth

Staff Rheilffordd Llangollen a Chorwen yn dod yn Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych

Cyn Wythnos Llysgennad Cymru eleni, a gynhelir rhwng 18-22 Tachwedd, mae staff a gwirfoddolwyr Rheilffordd Llangollen a Chorwen wedi dod yn Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych.

Mae Cwrs Llysgenhadon Sir Ddinbych yn darparu cyfleoedd hyfforddiant ar-lein i ddysgu a gwella eich gwybodaeth am nodweddion unigryw’r Sir ac yn rhan o’r Cynllun Llysgennad Cymru ehangach, sy’n rhoi gwybodaeth a hyfforddiant ar-lein am ddim ar nodweddion arbennig ardaloedd eraill ar draws Cymru.

Cynigir cyrsiau tebyg ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir y Fflint, Wrecsam, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ceredigion a Sir Gâr.

Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi’u trefnu trwy gydol yr wythnos ar gyfer Wythnos Llysgennad Cymru, gyda’r bwriad o dynnu sylw at yr amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn llysgennad trwy’r Cynllun Llysgennad Cymru. 

Mae’r cynllun ei hun ar agor i bawb ac yn cynnig ffordd unigryw o ddysgu mwy am Gymru trwy gyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu.  Gyda’r bwriad o lansio ym mis Tachwedd, bydd aelodau yn gallu cael mynediad at y modiwl llwybrau’r arfordir a llwybrau cenedlaethol newydd, lle gallant ddysgu mwy am Arfordir Cymru gyda phwyslais penodol ar Lwybr Clawdd Offa sy’n rhedeg drwy Sir Ddinbych, Llwybr yr Arfordir Sir Benfro a Llwybr Glyndŵr.

Ar hyn o bryd mae dros 4,850 o bobl wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Llysgennad Cymru gyda dros 3,660 o bobl eisoes ar y lefel efydd.  Mae dros 8,750 o fathodynnau efydd, arian ac aur wedi’u dyfarnu hyd yma, gyda dros hanner y rhai sydd wedi cael y wobr efydd yn datblygu trwy’r modiwlau i gyrraedd y safon aur. 

Dywedodd Nicola Reincke, Rheolwr Ansawdd a Hyfforddiant Rheilffordd Llangollen: 

“Penderfynom gyflwyno Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych fel cwrs gwirfoddol ar gyfer ein gwirfoddolwyr a staff sy’n wynebu cwsmeriaid gan ein bod yn teimlo y byddai’n gwella’r profiad i gwsmeriaid y gallwn ni ei roi i’n hymwelwyr yn y rheilffordd.  Mewn pythefnos, llwyddodd 10 o bobl i gyflawni’r safon aur ac mae llawer mwy ar y daith honno hefyd. 

“Mae’r nifer sydd wedi manteisio ar y cynllun a’r adborth wedi bod yn wych.  Er fy mod wedi byw a gweithio’n agos ar hyd fy oes, bellach mae angen i mi ailymweld â’r holl drefi yn Sir Ddinbych i archwilio’r hyn rwyf wedi’i ddysgu ar y cynllun.  Mae’n gwrs diddorol i’w wneud ac yn rhoi dealltwriaeth drylwyr a chyfoethog o’n cymunedau a’n hanes yn Sir Ddinbych”.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: 

“Mae’n galonogol iawn gweld unigolion o fewn y diwydiant twristiaeth yn y Sir yn elwa o’r cynllun llysgennad hwn.  Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i reoli’r cynllun a pharhau i weithio gyda’n partneriaid i archwilio cyfleoedd newydd, i wella’r profiad y mae twristiaid yn ei gael pan fyddant yn ymweld â Sir Ddinbych.  Mae cyflwyno’r modiwl llwybr yr arfordir a llwybrau cerdded newydd yn enghraifft wych o hyn.”

Am fwy o wybodaeth am ddod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych, ewch i dudalen benodol Sir Ddinbych ar wefan Llysgennad Cymru neu, i glywed mwy am yr hyn sydd gan y llysgenhadon eu hunain i’w ddweud, ewch i’w tudalen

Bydd nifer o weithgareddau yn cael eu trefnu yn ystod Wythnos Llysgennad Cymru, am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llysgennad Cymru.

Staff a gwirfoddolwyr Rheilffordd Llangollen gyda'u Tystysgrifau Aur ar gyfer Cynllun Llysgenhadon Sir Ddinbych

Nantclwyd y Dre

Gweithdy plu eira gwydr ymdoddedig

Gwneud torchau Nadoligaidd

Nadolig Drwy'r Oesoedd

Cefnogaeth i drigolion

Cymorth Costau Byw

Mae adran newydd ar dudalen 'Cymorth Costau Byw' ar wefan y Cyngor ac rydych bellach yn gallu gwneud chwiliad yn seiliedig ar eich amgylchiadau.

Y categorïau yw: 

  • Lluoedd arfog/cyn-filwyr
  • Gofalwyr
  • Pobl anabl
  • Teuluoedd
  • Pensiynwyr
  • Pobl nad ydynt yn gweithio
  • Pobl sydd wedi colli anwyliaid
  • Myfyrwyr

    Gweithio mewn partneriaeth gyda Dŵr Cymru

    Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda Dŵr Cymru er mwyn tynnu sylw at gynlluniau a allai gwneud eich biliau dŵr yn fwy fforddiadwy. 

    Mae tariff HelpU Dŵr Cymru yn helpu aelwydydd drwy roi terfyn ar y swm y mae’n rhaid iddynt ei dalu am eu dŵr er mwyn lleihau taliadau yn y dyfodol. Anogir pobl i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y tariff HelpU, sydd ar gyfartaledd yn werth £200 fesul aelwyd y flwyddyn.

    Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau i gyd ac i wneud cais ar-lein, ewch i www.dwrcymru.com/costaubywsirddinbych. Am gymorth gyda cheisiadau ac i wirio a ydych yn gymwys, cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 052 0145 neu Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar 0808 278 7933.

    Dŵr Cymru – Taflen Ffeithiau Tariff HelpU

    Beth yw tariff HelpU?

    Mae Dŵr Cymru yn cynnig sawl cynllun i sicrhau bod biliau dŵr yn fwy fforddiadwy. Mae tariff HelpU yn helpu aelwydydd drwy roi terfyn ar y swm y mae’n rhaid i chi ei dalu am eich dŵr er mwyn lleihau taliadau yn y dyfodol.

    Faint yw ei werth?

    Os ydych chi’n gymwys am dariff HelpU, fe fydd Dŵr Cymru yn rhoi terfyn ar eich bil dŵr, felly ni fydd yn rhaid i chi dalu dros swm penodol am y flwyddyn.  Y ffi flynyddol ar gyfer HelpU am y flwyddyn ariannol eleni yw £290.03 (£116.52 ar gyfer dŵr, £173.51 ar gyfer carthffosiaeth).

    Pwy sy’n gymwys ar gyfer tariff HelpU?

    I fod yn gymwys ar gyfer y tariff: 

    • rhaid i’r cyflenwad dŵr i’r aelwyd fod at ddefnydd domestig yn unig
    • mae’n rhaid bod rhywun ar yr aelwyd yn derbyn o leiaf un budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd megis Credyd Cynhwysol neu Bensiwn Credyd*
    • mae’n rhaid i incwm cyfunol blynyddol yr aelwyd fod ar y trothwy neu o dan y trothwy ar gyfer maint yr aelwyd a ddangosir yn y tabl isod*
    Maint yr aelwyd Trothwy Incwm
    Cyfanswm faint o bobl (yn cynnwys plant) sy'n byw yn eich aelwyd Mae'n rhaid i chi gynnwys yr holl incwm y mae eich aelwyd yn ei gael gan feddianwyr 16 oed a hŷn
    1 £11,600
    2 £17,400
    3+ £18,800

    Sut mae modd hawlio?

    • Ymgeisiwch ar-lein www.dwrcymru.com/costaubywsirddinbych
    • Os ydych yn ansicr o ran eich cymhwysedd, neu os hoffech help a chymorth gyda’ch cais, cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 052 0145 neu Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar 0808 278 7933.

    Os ydych chi’n cael anhawster talu neu’n poeni am rai o’ch biliau - o gyfleustodau megis dŵr ac ynni, neu ddyledion eraill - cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i gael cyngor cyfrinachol a chefnogaeth am ddim www.CADenbighshire.co.uk, neu ffoniwch 0808 278 7933. Fel arall, gwiriwch beth allech chi fod â hawl iddo gyda’r cyfrifiannell budd-daliadau - http://www.gov.uk/cyfrifiannell-budd-daliadau.

    Oeddech chi’n gwybod? 

    • Mae’r tariff HelpU eisoes yn gwneud gwahaniaeth i dros 3200 o bobl yn Sir Ddinbych.
    • Yr arbediad cyfartalog yw hyd at £200 fesul aelwyd y flwyddyn.
    • Mae cynlluniau eraill ar gael allai helpu os ydych chi’n derbyn budd-daliadau neu os ydych chi ar incwm isel:

    *Dyma restr o fathau o fudd-daliadau prawf modd y mae’n rhaid i rywun yn yr aelwyd fod yn derbyn o leiaf un ohonynt:   Credyd Cynhwysol, Lwfans Cymorth Cyflogaeth sy’n gysylltiedig ag Incwm,  Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar Incwm, Cymhorthdal Incwm, Pensiwn Credyd, Credyd Treth Plant (heblaw teuluoedd sy’n cael yr elfen deuluol yn unig), Credyd Treth Gwaith, Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth y Cyngor (yn seiliedig ar incwm, nid Gostyngiad Person Sengl yn unig).

    * Mae rhai mathau o incwm o gyfrifiad incwm cyfunol blynyddol yr aelwyd wedi’u heithrio: Budd-dal Tai neu Elfen Dai y Credyd Cynhwysol, Gostyngiad/Cefnogaeth Treth y Cyngor, Grŵp Cymorth/Gweithgaredd Grŵp sy’n Gysylltiedig â Gwaith a Phremiymau Anabledd a Gofalwr ar ESA, Premiymau Anabledd ar Gredyd Treth Gwaith/Plant, Premiymau Anabledd/Gofalwr ar Bensiwn Credyd/JSA a Chymhorthdal Incwm, Plentyn Anabl a Galluoedd Cyfyngedig ar gyfer Elfennau Gweithio o Gredyd Cynhwysol, Lwfans Gweini, Lwfans Byw i Bobl Anabl, Taliad Annibyniaeth Bersonol, Lwfans gofalwyr neu Elfen Ofalu’r Credyd Cynhwysol.

    Sir Ddinbych yn Gweithio

    Digwyddiadau i ddod

    Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig digwyddiadau misol yn rhad ac am ddim wedi'u cynllunio i gefnogi trigolion 16 oed a hŷn i wella eu sgiliau, gwella eu lles, a symud yn nes at gyflogaeth. Mae'r digwyddiadau hyn yn darparu amgylchedd croesawgar i ddysgu pethau newydd, cysylltu ag eraill, a chynyddu eich hyder. P'un a ydych am archwilio cyfleoedd am swydd newydd, datblygu eich sgiliau proffesiynol, neu roi hwb i'ch lles personol, mae ein digwyddiadau yma i helpu. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fuddsoddi yn eich dyfodol - cofrestrwch heddiw!

    Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol @SirDdinbychynGweithio / @WorkingDenbighshire

    Lleoliadau Gwaith a Hyfforddiant

    Ffair swyddi lwyddiannus wedi’i chynnal gan Sir Ddinbych yn Gweithio

    Ar 25 Medi, mynychodd mwy na 400 o bobl ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl.

    Cafwyd arddangosfa gan fwy na 50 o fusnesau ac yn eu plith roedd enwau sy’n adnabyddus yn genedlaethol megis Clwyd Alyn, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Asda, Alpine Travel, Cyfreithwyr Gamlins a Balfour Beatty.

    Roedd y digwyddiad rhad ac am ddim yn gyfle i bobl ddi-waith a phobl sy’n ystyried newid gyrfa weld pa gyfleoedd amrywiol o ran cyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau sydd ar gael yn lleol ac y gellir gwneud cais amdanynt.

    Trefnodd y tîm awr dawel yn ystod y digwyddiad ar gyfer pobl a fyddai o bosibl yn gwerthfawrogi awyrgylch tawelach.

    Nod gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio Cyngor Sir Ddinbych yw cydlynu cymorth sy’n helpu pobl i ganfod gwaith drwy gael gwared ar rwystrau. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych i gael gwaith a/neu i ddatblygu eu sgiliau gyda hyfforddiant am ddim.

    Meddai Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol:

    “Roeddem yn hynod falch o weld niferoedd uchel unwaith eto yn ein Ffair Swyddi ddiweddaraf. Mae’n dyst i waith caled ein tîm ac ymrwymiad busnesau a gwasanaethau lleol i gefnogi ein cymuned.

    “Mae digwyddiadau o’r fath yn cysylltu pobl sy’n chwilio am waith gyda chyflogwyr posibl, yn ogystal â galluogi unigolion i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd.”

    Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

    “Mae llwyddiant y Ffair Swyddi yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio rhwng sefydliadau lleol a’r Cyngor. Drwy roi llwyfan i gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth o ansawdd uchel, rydym yn helpu i gael gwared ar rwystrau a chreu dyfodol mwy disglair ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.”

    I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ac i ddysgu mwy am Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i'n gwefan.

    Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

    Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

    Edrychwch ar ein fideo o'r digwyddiad! https://youtu.be/qs5PPrWpDS0

    Taith Andrew at Annibyniaeth gyda Chymorth Sir Ddinbych yn Gweithio

    Mae Andrew, un o breswylwyr Sir Ddinbych, wedi cyflawni rhywbeth sy’n newid ei fywyd, sef symud o wirfoddoli i waith cyflogedig, a hynny o ganlyniad i’w benderfynoldeb a chymorth Sir Ddinbych yn Gweithio.

    Mae ei stori yn taflu goleuni ar sut y gall gwasanaethau cyflogadwyedd helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau ar ôl wynebu heriau mawr.

    Yn 2021 fe ddioddefodd Andrew anaf i’r ymennydd mewn damwain car a adawodd ef yn ddibynnol ar ei deulu.

    Ym Mawrth 2023 ceisiwyd cymorth gan Sir Ddinbych yn Gweithio a chafodd Andrew ei baru gyda Jen sy’n fentor a ddatblygodd gynllun personol i gefnogi ei daith tuag at annibyniaeth.

    Roedd cynllun Andrew yn canolbwyntio ar sicrhau rôl wirfoddoli fel cam tuag at waith cyflogedig. Roedd yn cynnwys:

    • Dod o hyd i rôl wirfoddoli a oedd yn addas i’w alluoedd
    • Gwella cyfathrebu a hyder
    • Llunio CV wedi ei deilwra
    • Cefnogi ei les a’i annibyniaeth

    Gyda chymorth y cydlynydd cyflogaeth, aeth Jen ati i olrhain cynnydd Andrew i sicrhau ei fod yn parhau ar y trywydd iawn.

    Ym Mai 2023 fe ddechreuodd Andrew wirfoddoli ym Mhlas Newydd yn Llangollen, gan ddatblygu ei hyder yn raddol a hyd yn oed dal y bws yn annibynnol am y tro cyntaf ers ei ddamwain. Erbyn mis Awst roedd wedi ymgymryd â heriau newydd, gan gynnwys gwirfoddoli yn Eisteddfod Llangollen, a oedd yn hybu ei annibyniaeth a gwneud ei deulu’n falch ohono.

    Ym mis Ebrill 2024 fe ehangodd Andrew ei brofiad gwirfoddoli i Reilffordd Llangollen, lle datblygodd sgiliau newydd. Erbyn mis Awst roedd ei waith caled wedi dwyn ffrwyth a chafodd waith cyflogedig drwy’r Cynllun Dechrau Gweithio, a dechreuodd weithio ym mis Medi.

    Mae taith Andrew o ddibynnu ar gefnogaeth ei deulu i gael cyflogaeth yn dangos y gwahaniaeth y gall ymagwedd wedi ei theilwra Sir Ddinbych yn Gweithio ei chael.

    Dywedodd Andrew, Cyfranogwr Sir Ddinbych yn Gweithio: “Fe ges i a fy nheulu gefnogaeth wych gan Sir Ddinbych yn Gweithio, yn arbennig gan Jen a oedd bob amser ar gael ar ben arall y ffôn.

    “Fe arweiniodd eu cymorth at dynnu pwysau enfawr oddi ar ysgwyddau fy ngwraig, ac ar un pwynt roeddwn yn credu y byddai dychwelyd i’r gwaith yn amhosibl ond gyda’u cymorth nhw rwyf nawr wedi cael gwaith cyflogedig.”

    Mae taith Andrew yn dangos ei wytnwch a’r grym sydd gan wasanaethau cyflogadwyedd i drawsnewid bywydau.

    Dywedodd Jen, Mentor Cyflogaeth a Sgiliau Sir Ddinbych yn Gweithio: “Rwy’n hynod o falch o bopeth mae Andrew wedi’i gyflawni. Roedd ef a’i wraig yn gwerthfawrogi cael pwynt cyswllt dibynadwy ar gyfer cefnogaeth ac rwy’n ei theimlo’n fraint mod i wedi bod yn rhan o’r daith hon.”

    Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae stori Andrew yn dangos pa mor bwysig yw hi i roi’r gefnogaeth gywir i bobl ar yr amser cywir.

    “Mae ei lwyddiant yn enghraifft wych o’r hyn ellir ei gyflawni pan fo penderfynoldeb rhywun yn cael ei baru gydag arweiniad wedi’i thargedu. Rydym mor falch o bopeth mae wedi ei gyflawni.”

    Mae stori Andrew yn dangos sut y gall gwasanaethau cyflogadwyedd newid bywydau drwy helpu unigolion i adennill eu hannibyniaeth a’u hyder.

    I gael rhagor o wybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio a’r gefnogaeth mae’n ei chynnig ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/swyddi-a-gweithwyr/sir-ddinbych-yn-gweithio/sir-ddinbych-yn-gweithio.aspx

    Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

    Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

    Ymunwch â ni am ddigwyddiad pwerus i 'Daclo ag Iechyd Meddwl' yng nghlwb Pêl-droed Prestatyn fis Tachwedd yma

    I ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn falch i gyhoeddi bod eu digwyddiad "Taclo Iechyd Meddwl" yn dychwelyd!

    Yn dilyn llwyddiant digwyddiad mis Awst yn Ninbych, bydd y fenter effeithiol hon yn digwydd yng Nghlwb Pêl-droed Prestatyn ganol mis Tachwedd.

    Bydd Sir Ddinbych yn Gweithio, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Prestatyn, yn cynnal y digwyddiad rhad ac am ddim hwn sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag iechyd meddwl a hybu lles ddydd Mercher, 13 Tachwedd, o 12:30yp tan 3:30yp.

    Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau diddorol ar thema Rygbi a gynlluniwyd i roi hwb i'ch hwyliau tra'n darparu awgrymiadau gwerthfawr ar iechyd meddwl a lles.

    Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

    ‘’Rydym yn falch o gefnogi’r fenter bwysig hon, gan ddod â’n cymuned ynghyd i fynd i’r afael ag iechyd meddwl a hybu lles.

    Drwy gydweithio â Chyngor Tref Prestatyn, gallwn greu amgylchedd cadarnhaol lle mae trigolion yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i gymryd camau tuag at hybu eu hiechyd meddwl a’u lles. ''

    Mae croeso i unrhyw un sy’n byw yn Sir Ddinbych sy’n 16 oed a throsodd fynychu’r digwyddiad i wella eu hiechyd meddwl a chael mynediad at adnoddau gwerthfawr iddyn nhw eu hunain neu’r rhai sy’n agos atynt.

    Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol:

    ‘Rydym yn gwybod pa mor heriol y gall fod i gymryd y cam cyntaf hwnnw tuag at geisio cymorth, ac rydym am i’r digwyddiad hwn fod yn fan lle mae unigolion yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny.

    Drwy gyfuno gweithgareddau difyr â hybu lles, ein nod yw darparu offer i drigolion lleol y gallant eu defnyddio ymhell ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben.  Mae’n gyfle gwych i’r gymuned ddod at ei gilydd, cysylltu, a chefnogi ei gilydd.’’

    I sicrhau eich lle, tecstiwch 07795 051793 neu e-bostiwch barod@sirddinbych.gov.uk heddiw.

    Rhaglen Bontio Lwyddiannus yn ystod yr Haf yn Cefnogi’r Rhai sy’n Gadael Blwyddyn 11 yn Sir Ddinbych

    Yn gynharach eleni, lansiodd Sir Ddinbych yn Gweithio, mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych a’r Gwasanaethau Fframwaith Ymgysylltu ac Ailsefydlu Ieuenctid, a Raglen Bontio’r Haf i gefnogi’r rhai sy’n gadael Blwyddyn 11 a symud i addysg bellach.

    Roedd y fenter yn darparu arweiniad wedi’i dargedu ac adnoddau hanfodol i bobl ifanc sy’n wynebu heriau megis bwlio, problemau iechyd meddwl a datgysylltu o’u haddysg.

    Cofrestrodd 26 o unigolion ar y rhaglen, unigolion oedd mewn perygl o beidio â symud ymlaen oherwydd rhwystrau personol ac ariannol. Roedd sesiynau wythnosol yn canolbwyntio ar eu helpu i bontio’n llyfn i’r cam nesaf drwy gynnig cefnogaeth iechyd meddwl, cynllunio pontio ac arweiniad ar sicrhau pethau hanfodol fel offer ar gyfer y coleg ac agor cyfrifon banc.

    Roedd gan Dîm Lles Sir Ddinbych yn Gweithio (Barod) rôl hanfodol i ymdrin â rhwystrau ariannol, gan sicrhau bod gan y myfyrwyr bopeth yr oeddent eu hangen ar gyfer eu cyrsiau.  O’r 26 a gymerodd ran, cafodd 23 gymorth ariannol i gael deunyddiau ar gyfer cyrsiau, a chafodd 21 ohonynt liniaduron a chlustffonau i gefnogi eu hastudiaethau o ganlyniad i gydweithio gyda Chwmpas.

    Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

    “Rwyf yn falch iawn o weld yr effaith gadarnhaol y mae Rhaglen Bontio’r Haf wedi ei chael ar ein pobl ifanc. Mae sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth gywir i bontio’n llyfn i addysg bellach yn hanfodol, yn enwedig i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau. 

    Mae’r fenter yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio greu newid gwirioneddol, parhaol yn ein cymuned. 

    Rwyf yn hynod falch o bawb sy’n rhan o’r gwaith ac yn dymuno pob llwyddiant i’r rhai a gymerodd ran ar gyfer eu haddysg a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.”

    Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol yng Nghyngor Sir Ddinbych:

    “Rwyf yn hynod falch o’r gefnogaeth mae gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio wedi gallu ei darparu.  

    Gweithio mewn partneriaeth yw conglfaen ein dull o weithio ac mae’r canlyniadau rhyfeddol hyn yn dangos mor bwerus yw cydweithio er lles ein pobl ifanc.  

    Bydd effaith y gefnogaeth hon yn gadael gwaddol am flynyddoedd, nid dim ond i’r rhai a gefnogwyd, ond hefyd eu ffrindiau a theulu o ystyried y wybodaeth a’r profiad y byddant yn eu rhannu.  

    Gan ddymuno’r gorau iddynt yn eu haddysg yn y dyfodol, rwy’n gobeithio y byddant yn gwneud y gorau o’r hyn sydd ar gael iddynt rŵan a phan fyddant yn cwblhau eu hastudiaethau. Mae ein drws bob amser ar agor i’w helpu i symud ymlaen i’w gyrfaoedd perffaith!”

    Un o uchafbwyntiau’r rhaglen oedd y synnwyr o gymuned a chefnogaeth a gafodd ei feithrin ymhlith y bobol ifanc. Roedd llawer ohonynt wedi cael eu hynysu ac wedi bod allan o’r ysgol am gyfnodau hir, ond helpodd y sesiynau nhw i ffurfio cyfeillgarwch a meithrin hyder mewn lle diogel a chefnogol.

    Mae llwyddiant y rhaglen wedi’i adlewyrchu yn ymrwymiad y cyfranogwyr i addysg bellach.  Roedd presenoldeb 35% o’r myfyrwyr yn 100%, sy’n wych, ac roedd presenoldeb 78% ohonynt dros 80%, sy’n dangos mor hanfodol oedd y gefnogaeth yn ystod yr haf i gadw eu diddordeb a’u brwdfrydedd.

    Dywedodd Sian Morgan, Rheolwr Ymgysylltu a Chynnydd:

    “Mae Rhaglen Bontio’r Haf i’r rhai sy’n gadael Blwyddyn 11 wedi bod yn llwyddiant ysgubol.  Mae’n wych gweld y bartneriaeth rhwng y Gwasanaethau Addysg, y Gwasanaethau Ieuenctid a Barod yn gweithio i gefnogi dysgwyr ar eu taith i addysg bellach. Rydym yn edrych ymlaen yn barod at adeiladu ar y llwyddiant hwn y flwyddyn nesaf gydag ymyrraeth gynharach a chefnogaeth bontio am fwy o amser.”

    Mae’r rhaglen hon yn fodel pwerus ar gyfer ymdrechion yn y dyfodol sydd â’r nod o gefnogi pobl ifanc diamddiffyn i barhau â’u haddysg.

    Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

    Caiff Gweithio Sir Ddinbych ei ariannu'n rhannol gan lywodraeth y DU.

    Fideos Sir Ddinbych yn Gweithio

    Gwyliwch y fideos hyn, a wnaed gan gyfranogwyr Sir Ddinbych yn Gweithio a chyfranogwyr sy’n datblygu eu sgiliau i allu cael mynediad i’r diwydiant Ffilm a Theledu.  Mae’r fideos yn dod â’r uchelgais sydd gennym yn y gwasanaeth yn fyw i weithio gyda phobl a busnesau ar hyd a lled y Sir i’w helpu i ffynnu.   

    CEFNOGAETH UN I UN

    Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu cefnogaeth Un i Un am ddim i unrhyw un yn Sir Ddinbych sydd am gael gwaith. Gallwch wneud cais heddiw drwy fynd i'n gwefan

    CEFNOGAETH PROSIECT BAROD (LLES)

    Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu lles am ddim i bobl yn Sir Ddinbych. Llenwch ein ffurflen gyswllt os byddech chi'n elwa o'r gefnogaeth hon. 

    CYFLEOEDD HYFFORDDI WEDI'U HARIANNU'N LLAWN YN SIR DDINBYCH

    Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu hyfforddiant am ddim i bobl yn Sir Ddinbych. Llenwch ein ffurflen gyswllt i gofrestru ar un o’n cyrsiau.

    CYFLEOEDD LLEOLIAD DECHRAU GWAITH

    Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu cyfleoedd lleoliad i bobl sy'n byw yn Sir Ddinbych. Llenwch ein ffurflen gyswllt, i gael mwy o fanylion am y cyfleoedd sydd ar gael. 

    PROFIAD DAMIEN GYDA SIR DDINBYCH YN GWEITHIO

    Cafodd Damien gefnogaeth gan Sir Ddinbych yn Gweithio, gan ei helpu i gael swydd fel Mecanydd dan Hyfforddiant! Gall Sir Ddinbych yn Gweithio gynnig amrywiaeth o gefnogaeth bersonol i unrhyw un sy'n byw yn y Sir sy'n ei chael hi'n anodd cael gwaith o'u dewis. I gofrestru ar gyfer cefnogaeth, ewch i'n gwefan

       

      Gofal Maeth

      Oes gennych chi ddiddordeb mewn maethu?

      Ymunwch â'n sesiynau gwybodaeth un i un ar-lein, lle byddwn yn trafod y broses o fynnu bod yn ofalwr maeth cymeradwy a'r buddion y byddwch yn eu cael wrth faethu gyda ni.
      I archebu, cysylltwch â ni fosterwales@sirddinbych.gov.uk.

      Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

      Planhigfa goed yn tyfu erwau o goetir

      Mae gan Blanhigfa Goed Tarddiad Lleol Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy

      Mae miloedd o goed sydd wedi’u tyfu’n lleol yn paratoi i roi hwb i fioamrywiaeth Sir Ddinbych.

      Mae gan Blanhigfa Goed Tarddiad Lleol Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy oddeutu 24 math gwahanol o goed yn tyfu ar y safle hwn.

      Mae bron i 40,000 o goed yn y blanhigfa ar hyn o bryd sydd ar wahanol gamau twf. Os bydd pob un o’r coed hyn yn llwyddo i dyfu, fe allai hynny arwain at bron i 70 erw o goetir diolch i waith tîm Bioamrywiaeth y Cyngor a gwirfoddolwyr y blanhigfa.

      Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW) Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

      Mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn defnyddio dull planhigfa goed i dyfu coed o hadau sydd wedi tarddu o fewn y sir yn y blanhigfa nes byddant yn barod i gael eu plannu ar dir lleol.

      Mae’r gwaith yn y blanhigfa i gefnogi tyfiant coed yn cynnwys cymysgedd o gynnal a chefnogi coed craidd megis coed derw a hefyd yn cynnig help llaw ar gyfer cynnal coed prin megis y gerddinen wyllt.

      Mae’r coed eraill ar y safle’n cynnwys derwen goesynnog, derwen ddigoes, castanwydden felys, bedwen arian, gwernen, llwyfen lydanddail a helygen grynddail fwyaf.

      Bydd rhywfaint o’r coed sy’n barod i’w plannu’n helpu i ffurfio ardal goetir newydd yng Ngwarchodfa Natur Green Gates y mae’r blanhigfa goed yn rhan ohoni.

      Mae gwaith y blanhigfa’n rhan o ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol a ddatganwyd yn 2019, drwy helpu i gynyddu’r gorchudd canopi coed sirol i leihau allyriadau carbon a chefnogi natur leol.

      Mae bron i 16,000 o flodau gwyllt hefyd wedi cael eu cynhyrchu o hadau sirol yn y blanhigfa goed a bydd y rhain yn parhau i gefnogi’r dolydd blodau gwyllt presennol yn Sir Ddinbych drwy blannu plygiau.

      Mae llawer o’r blodau gwylltion hyn yn cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt. Er enghraifft, gall y feillionen hopysaidd ddarparu bwyd i 160 o rywogaethau o bryfaid, gan annog llŷg a chornchwiglod i ymweld â’r planhigyn, gan wella gwytnwch natur mewn cymunedau lleol.

      Unwaith y byddant wedi cael eu plannu, byddant yn ychwanegu mwy o amrywiaeth at ddolydd fel bod cymunedau lleol yn gallu mwynhau a dysgu, a helpu i gynnal a gwella bioamrywiaeth.

      Mae cael mwy o flodau gwyllt yn y dolydd hefyd yn helpu peillwyr sy’n bwysig i’r gadwyn fwyd ddynol.

      Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae tyfu coed yn cymryd amser a’n tîm Bioamrywiaeth a gwirfoddolwyr y blanhigfa goed sy’n haeddu’r clod am sicrhau fod gennym bellach 24 o rywogaethau coed ar y safle a fydd, yn y pen draw, yn mynd i’r afael ag effaith newid hinsawdd ar breswylwyr a natur leol.

      “Mae’n wych meddwl bod gennym erwau o goetir posibl yn y blanhigfa ac mae’r gwaith caled yn parhau i gasglu hadau'r tymor hwn o goetiroedd lleol presennol i helpu i barhau i gynyddu’r niferoedd sydd gennym ar y safle.”

      Tyfu Coeden Dderwen

      Mae ein planhigfa goed yn Llanelwy yn cynnig help llaw i hen goeden ddoeth er mwyn rhoi hwb iddi i’r dyfodol, gwyliwch y fideo hwn i ddarganfod pam fod y dderwen yn goeden mor arbennig ar gyfer bioamrywiaeth!

      #wythnoshinsawddcymru

       

      Planhigfa goed yn cefnogi glöyn byw prin

      Llwyfenni Llydanddail

      Mae gwaith yn mynd rhagddo i helpu glöyn byw prin i ffynnu yn Sir Ddinbych.

      Mae Planhigfa Goed Tarddiad Lleol Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy yn cynnig help llaw i goeden sydd dan fygythiad ac yn darparu bwyd hanfodol i löyn byw prin.

      Mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor wedi casglu hadau gan Lwyfenni Llydanddail sy’n tyfu ym Mharc Gweledig Loggerheads yn ddiweddar i’w tyfu yn y blanhigfa goed. Bydd y rhain yn cael eu plannu yn natblygiad Gwarchodfa Natur Green Gates ger y blanhigfa goed yn y pen draw.

      Ariennir y gwaith hwn a phrosiectau eraill ar y safle i ddiogelu rhywogaethau coed a blodau gwyllt lleol gan Lywodraeth Cymru drwy’r grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur fel rhan o waith y Cyngor â’r Bartneriaeth Natur Leol.

      Mae Llwyfenni Llydanddail dan fygythiad yn sgil clefyd llwyfen yr Isalmaen, a bu’n rhaid torri nifer o goed yn sgil effaith y clefyd hwn, sydd wedi lleihau twf a lledaeniad coed iau.

      Mae’r goeden hon yn blanhigyn bwyd larfaol i’r Brithribin Gwyn, a gofnodwyd yn Loggerheads ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond mae bellach yn brin iawn yn y sir.

      Mae’r glöyn byw hwn yn ddibynnol ar flagur blodau’r Llwyfenni Llydanddail fel bwyd i oroesi.

      Eglurodd Sam Brown, Cynorthwyydd y Blanhigfa Goed: “Mae’r Llwyfenni Llydanddail yr ydym wedi’u plannu yn y blanhigfa wedi tyfu’n dda iawn. Mae eu niferoedd wedi gostwng dros y blynyddoedd yn sgil clefyd llwyfen yr Isalmaen a’r amharodrwydd i ailblannu’r goeden.

      “Fodd bynnag, mae’r Llwyfenni Llydanddail yn ffynhonnell fwyd hollbwysig i’r Brithribin Gwyn, a byddai’r glöyn byw’n diflannu hebddynt. Nid yw pobl yn plannu Llwyfenni mwyach gan fod clefyd llwyfen yr Isalmaen yn eu lladd cyn iddynt aeddfedu. Nid oes ar y glöyn byw angen Llwyfenni aeddfed, mae’r coed ifanc yn ddigon hen i ddarparu bwyd ar eu cyfer.

      “Gallwn ddefnyddio’r coed yr ydym wedi’u tyfu yma i’w hychwanegu at wrychoedd er mwyn cynnal eu huchder, lleihau effaith clefyd llwyfen yr Isalmaen a’u hannog i flodeuo am flynyddoedd cyn aeddfedu.

      “Mae’r goeden hon yn esiampl berffaith o’r pwysigrwydd o geisio gwarchod coed a phlanhigion lleol gan fod bob un ohonynt yn cyfrannu at ddarparu ffynonellau bwyd hanfodol i bryfaid ac anifeiliaid, a’r lleiaf ohonynt sy’n tyfu o amgylch y sir, y mwyaf yw’r risg i’n natur leol.”

      Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae ein tîm Bioamrywiaeth yn gweithio’n galed i ddiogelu nifer o rywogaethau sydd bellach yn brin.

      “Bydd yr ymdrech wych hon yn helpu’r Brithribin Gwyn i adfer ar draws y sir, yn ogystal â rhoi blas ar natur y gorffennol i’w fwynhau gan genedlaethau’r dyfodol yn yr awyr agored.”

      Paratoadau ar y gweill i greu gwarchodfa natur newydd yn Llanelwy

      Map o warchodfa natur Green Gates

      Paratoadau ar y gweill i greu gwarchodfa natur newydd yn Llanelwy.

      Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno caniatâd cynllunio ar gyfer creu gwarchodfa natur o 40 erw yn Green Gates, Lôn Cwttir, Llanelwy.

      Mae'r datblygiad hwn yn un cam o’r gwaith ar y tir sydd â’r bwriad, yn y pen draw i dyfu'n warchodfa natur 70 erw.

      Cyhoeddwyd Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2019 ac mae datblygiad gwarchodfa natur Llanelwy yn rhan o’r ymateb i warchod ac adfer cynefinoedd natur lleol i gyfrannu at ein nod adfer natur. Bydd y cynnydd mewn gwrychoedd a gorchudd coed hefyd yn cyfrannu at ein nod carbon sero net drwy gynyddu amsugniad carbon.

      Mae cynlluniau eisoes wedi eu cytuno ar gyfer datblygu rhan o warchodfa natur 30 erw ar y safle. Mae’r ardal gyfan hefyd yn cynnwys meithrinfa goed o darddiad lleol sefydledig y Cyngor sy’n anelu at gynhyrchu tua 5,000 o goed a 5,000 o flodau gwyllt y flwyddyn i helpu i hybu cynefinoedd natur lleol.

      Cytunodd y pwyllgor cynllunio i ddymchwel yr adeiladau presennol a newid defnydd y 40 erw o dir amaethyddol i warchodfa natur newydd.

      Bydd creu cynefinoedd yn yr ardal hon yn cynnwys adfer y pyllau presennol, creu pyllau newydd, creu ardal wlyptir gerllaw dau gwrs dŵr bach a chreu ardaloedd coetir a chynefin glaswelltir.

      Caiff deunyddiau gwastraff o’r adeiladau sydd wedi’u dymchwel eu defnyddio i greu safle tir llwyd newydd, sy’n Gynefin â Blaenoriaeth ac a fydd yn helpu i gynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt prin a phwysig – fel pryfed a blodau gwyllt. Mae’r safle hefyd wedi’i nodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig posibl ar gyfer madfallod dŵr cribog.

      Bydd gwaith hefyd yn gweld adeiladu llwybr caniataol a gwaith peirianyddol i greu man gwylio uwch ynghyd â gwaith cysylltiedig.

      Dywedodd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae hwn yn ddarn pwysig yn y gwaith o ddatblygu gwarchodfa natur 70 erw a fydd yn dod yn ased cryf i’r sir wrth gefnogi ein bywyd gwyllt, planhigion a choed lleol, yn ogystal â lles cymunedol, addysg a hamdden.

      “Rydym eisoes wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae’r feithrinfa goed, sydd wedi’i lleoli ar y safle hwn, yn ei chael ar warchod a chefnogi natur leol ac adferiad.

      “Bydd y datblygiad hwn o’r tir o amgylch y feithrinfa yn adfer cynefinoedd sy’n cynnal bywyd gwyllt prin a phwysig. Mae disodli glaswelltir sy’n brin o rywogaethau yn laswelltiroedd, gwlyptiroedd, coetir a chynefinoedd prysgwydd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau yn gam hanfodol i gyflawni ein nod parhaus o gynyddu bioamrywiaeth a gwella dal a storio carbon.”

      Mae’r gwaith yma wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur fel rhan o waith y Cyngor gyda’r Bartneriaeth Natur Lleol. Darparwyd arian ychwanegol hefyd gan Raglen Adfer Hinsawdd a Natur Sir Ddinbych.

      Gwasanaethau Cefn Gwlad

      Oriau cau Loggerheads

      Bydd meysydd parcio yn Loggerheads yn cau am 6pm (oriau'r gaeaf) un hytrach na 9pm. Bydd y ganolfan ymwelwyr hefyd yn cau am 4pm yn hytrach na 5pm.

      Gwobrwyo partneriaeth natur gymunedol Rhuddlan

      Gwarchodfa Natur Rhuddlan

      Mae partneriaeth gymunedol wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei gwaith parhaus i helpu natur ar safle poblogaidd yn Rhuddlan.

      Gwobrwywyd Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2024 yn ddiweddar yn y Fenni.

      Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio’n agos â Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan ers 2011 i reoli’r safle, er mwyn helpu natur i ffynnu a darparu lle gwych o ran lles cymunedol.

      Drwy weledigaeth y grŵp a sgiliau’r ceidwaid cefn gwlad, mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan wedi ehangu a datblygu dros y blynyddoedd ac wedi cyflwyno mentrau sy’n cynnwys dwy ddôl o flodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 metr o wrychoedd, lleiniau blodau gwyllt, plannu 6,000 o goed, perllan rhywogaethau treftadaeth, dwy ardal bicnic a llwyfan rhwydo pyllau.

      Gan weithio gyda’r grŵp Dementia lleol, mae’r bartneriaeth hefyd wedi creu gofod sy’n gyfeillgar i Ddementia ar y safle, gyda nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwyllt a thirwedd hanesyddol megis waliau cerrig sych a gwrychoedd wedi plygu a seddi coed derw Cymreig traddodiadol.

      Mae datblygu’r warchodfa sydd wedi’i chynllunio’n arbennig gan fywyd gwyllt lleol wedi mynd y tu hwnt i’r holl ddisgwyliadau ac mae hynny’n cynnwys rhywogaethau eiconig megis dyfrgwn a llygod pengrwn y dŵr, sy’n digwydd bod yn rhai o’r mamaliaid sy’n prinhau’n gynt yn y DU.

      Dyfarnwyd Gwobr Amgylcheddol John Woods i Rhuddlan gan Cymru yn ei Blodau, yn ogystal â Chategori ‘Eithriadol’ It’s Your Neighbourhood, sef cynllun i grwpiau garddio gwirfoddol, cymunedol sy’n canolbwyntio ar lanhau a glasu eu hardal leol.

      Yn ogystal, dyfarnwyd Gwobr Cefnogwr Cymuned i Anita Fagan, Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan am ei gwaith i gefnogi Gwarchodfa Natur Rhuddlan.

      Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i holl aelodau’r pwyllgor am eu gwaith cadarnhaol a rhagweithiol ar gyfer y warchodfa. Mae holl aelodau’r pwyllgor yn mynd ‘y filltir ychwanegol’.

      “Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych a’u tîm o geidwaid a gefnogir gan wirfoddolwyr gwych yn haeddu clod arbennig iawn, a diolch am eu hymroddiad i gynnal y warchodfa wrth ymdopi â’u holl ymrwymiadau gwarchodfa natur eraill yng Ngogledd Sir Ddinbych.”

      Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Dyma gydweithio gwych gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad ac mae wedi sicrhau digonedd o gefnogaeth ar gyfer natur leol a’r gymuned, sy’n dod draw i fwynhau’r safle hwn yn rheolaidd.

      “Mae’n wych gweld y gwaith hwn yn cael ei gydnabod gan bawb ac rwy’n edrych ymlaen at weld y safle cymunedol pwysig hwn yn parhau i ffynnu yn y dyfodol.”

      Nadroedd arswydus yn cael eu creu i ddathlu tymor Calan Gaeaf

      Fe arweiniodd Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych sesiwn grefftau dan y thema Calan Gaeaf i wirfoddolwyr Natur er Budd Iechyd yng Nghoed y Morfa.

      Mae nadroedd arswydus wedi ymlusgo mewn i lecyn natur ym Mhrestatyn, diolch i dechneg crefft draddodiadol.

      Fe arweiniodd Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor sesiwn grefftau dan y thema Calan Gaeaf i wirfoddolwyr Natur er Budd Iechyd yng Nghoed y Morfa.

      Er mwyn creu’r creaduriaid i anrhydeddu Noswyl yr Holl Saint, defnyddiwyd coed oedd yn weddill ar ôl gwaith bôn-docio yn lleol gan Geidwaid Cefn Gwlad i greu detholiad o nadroedd.

      Dull traddodiadol o reoli coetir yw bôn-docio, mae’n ddull o dorri coed neu lwyni drosodd a throsodd yn y bôn, gan greu stôl a gadael digon o’r goeden ar ôl iddi allu ail-dyfu a darparu cyflenwad cynaliadwy o goed.

      Gellir defnyddio’r toriadau at ddibenion crefft neu i greu pentyrrau cynefin newydd i gefnogi bywyd gwyllt lleol drwy ddarparu deunydd nythu i anifeiliaid a chynefinoedd i ymlusgiaid.

      Mae bôn-docio hefyd yn dynwared proses lle mae coed mawr yn disgyn yn sgil oed neu wyntoedd cryfion, gan alluogi i olau gyrraedd llawr y coetir a rhoi cyfle i rywogaethau eraill ffynnu. Gall hyn gychwyn adwaith gadwynol sydd yn cynyddu’r amrywiaeth o blanhigion a bywyd gwyllt yn ardal y coetir.

      Meddai Sasha Taylor, Ceidwad Cefn Gwlad: “Mae bôn-docio yn ddull traddodiadol gwych o gynnal a chadw coetiroedd ac i greu cyflenwad cynaliadwy o bren at ddibenion eraill. Mae wedi bod yn wych cyfuno hyn gyda chrefftau pren a’r gwirfoddolwyr i greu dathliad ymlusgol arswydus i groesawu Calan Gaeaf!”

      Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae ein Ceidwaid Cefn Gwlad wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth y gwirfoddolwyr sydd yn eu helpu drwy Natur er Budd Iechyd i edrych ar ôl ein hardaloedd natur lleol. Mae hi’n wych eu gweld nhw’n cyfuno sgiliau rheoli coetir ar gyfer dathlu Noswyl yr Holl Saint.”

      Ein Tirlun Darluniadwy

      Adnoddau Digidol newydd ysgolion cynradd er canfod Dyffryn Dyfrdwy

      Mae adnoddau addysgol am ddim nawr ar gael i gefnogi ysgolion wrth ddysgu am hanes Dyffryn Dyfrdwy.

      Mae ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ yn brosiect wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, sydd wedi bod yn gweithio yn nhirlun Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte ers 2018. Dros y chwe blynedd, mae’r prosiect wedi darparu 28 prosiect ysgol, ac wedi ymgysylltu gyda dros 2,400 o ddisgyblion gyda threftadaeth ac amgylchedd y lle arbennig hwn.

      Fel rhan o waddol y prosiect, mae tîm Ein Tirwedd Darluniadwy wedi datblygu cyfres newydd gyffrous o adnoddau addysg digidol sydd am ddim i ysgolion ofyn amdanynt o Dirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

      Datblygwyd yr adnoddau addysgol newydd hyn drwy weithio ar y cyd gydag artistiaid, awduron a haneswyr, yn ogystal ag athrawon a disgyblion o’r sesiynau a ddarparodd y tîm prosiect mewn ysgolion dros y blynyddoedd. Mae’r adnoddau fwyaf addas ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, ac maent wedi’u cysylltu â fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn yn galluogi pobl ifanc i ddarganfod treftadaeth y tirlun a hanesion y cymeriadau a’r digwyddiadau dylanwadol sydd wedi siapio’r ardal dros y 400 mlynedd diwethaf. Gan gefnogi athrawon i arwain sesiynau a chyfleoedd awyr agored yn hyderus er mwyn canfod Dyffryn Dyfrdwy mewn ystod o ffyrdd, gan gynnwys drwy gyfrwng dawns, celf, ysgrifennu creadigol, hanes naturiol, gwyddoniaeth ac addysg gorfforol. Wedi’u cynnwys mae ffilmiau cyffrous, realiti rhithwir, gêm fwrdd er mwyn dysgu am gynefin a ddiystyrir sy’n brinnach na choedwig law, a gêm Top Trumps newydd er mwyn darganfod y bobl sydd wedi siapio’r ardal, ddoe a heddiw.

      Gall unrhyw addysgwr neu staff ysgol sydd â diddordeb yn yr adnoddau anfon neges e-bost at ein.tirlun.darluniadwy@denbighshire.gov.uk.

      Meddai Sallyanne Hall, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned Ein Tirlun Darluniadwy: “Er bydd diwedd ein prosiect Ein Tirlun Darluniadwy ym mis Tachwedd yn golygu na fydd y tîm ar gael i fynd i ysgolion ac arwain ar weithgareddau mwyach, rydym yn gobeithio y bydd yr adnoddau newydd cyffrous hyn yn cefnogi athrawon i ddarparu cyfleoedd dysgu awyr agored o safon, ac yn galluogi disgyblion i barhau i ddarganfod hanesion hynod ddiddorol Dyffryn Dyfrdwy yn y dyfodol.”

      Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet y Cyngor: “Mae’r adnoddau hyn yn wych ar gyfer helpu disgyblion i ddysgu am yr hanes cyfoethog sydd gan Ddyffryn Dyfrdwy i’w gynnig, ac er mwyn cadw’r straeon am yr ardal yn fyw am genedlaethau i ddod.”

      Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid