Sir Ddinbych yn Gweithio
Digwyddiadau i ddod
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig digwyddiadau misol yn rhad ac am ddim wedi'u cynllunio i gefnogi trigolion 16 oed a hŷn i wella eu sgiliau, gwella eu lles, a symud yn nes at gyflogaeth. Mae'r digwyddiadau hyn yn darparu amgylchedd croesawgar i ddysgu pethau newydd, cysylltu ag eraill, a chynyddu eich hyder. P'un a ydych am archwilio cyfleoedd am swydd newydd, datblygu eich sgiliau proffesiynol, neu roi hwb i'ch lles personol, mae ein digwyddiadau yma i helpu. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fuddsoddi yn eich dyfodol - cofrestrwch heddiw!
Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol @SirDdinbychynGweithio / @WorkingDenbighshire
Lleoliadau Gwaith a Hyfforddiant
Ffair swyddi lwyddiannus wedi’i chynnal gan Sir Ddinbych yn Gweithio
Ar 25 Medi, mynychodd mwy na 400 o bobl ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl.
Cafwyd arddangosfa gan fwy na 50 o fusnesau ac yn eu plith roedd enwau sy’n adnabyddus yn genedlaethol megis Clwyd Alyn, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Asda, Alpine Travel, Cyfreithwyr Gamlins a Balfour Beatty.
Roedd y digwyddiad rhad ac am ddim yn gyfle i bobl ddi-waith a phobl sy’n ystyried newid gyrfa weld pa gyfleoedd amrywiol o ran cyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau sydd ar gael yn lleol ac y gellir gwneud cais amdanynt.
Trefnodd y tîm awr dawel yn ystod y digwyddiad ar gyfer pobl a fyddai o bosibl yn gwerthfawrogi awyrgylch tawelach.
Nod gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio Cyngor Sir Ddinbych yw cydlynu cymorth sy’n helpu pobl i ganfod gwaith drwy gael gwared ar rwystrau. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych i gael gwaith a/neu i ddatblygu eu sgiliau gyda hyfforddiant am ddim.
Meddai Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol:
“Roeddem yn hynod falch o weld niferoedd uchel unwaith eto yn ein Ffair Swyddi ddiweddaraf. Mae’n dyst i waith caled ein tîm ac ymrwymiad busnesau a gwasanaethau lleol i gefnogi ein cymuned.
“Mae digwyddiadau o’r fath yn cysylltu pobl sy’n chwilio am waith gyda chyflogwyr posibl, yn ogystal â galluogi unigolion i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd.”
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae llwyddiant y Ffair Swyddi yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio rhwng sefydliadau lleol a’r Cyngor. Drwy roi llwyfan i gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth o ansawdd uchel, rydym yn helpu i gael gwared ar rwystrau a chreu dyfodol mwy disglair ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.”
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ac i ddysgu mwy am Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i'n gwefan.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Edrychwch ar ein fideo o'r digwyddiad! https://youtu.be/qs5PPrWpDS0
Taith Andrew at Annibyniaeth gyda Chymorth Sir Ddinbych yn Gweithio
Mae Andrew, un o breswylwyr Sir Ddinbych, wedi cyflawni rhywbeth sy’n newid ei fywyd, sef symud o wirfoddoli i waith cyflogedig, a hynny o ganlyniad i’w benderfynoldeb a chymorth Sir Ddinbych yn Gweithio.
Mae ei stori yn taflu goleuni ar sut y gall gwasanaethau cyflogadwyedd helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau ar ôl wynebu heriau mawr.
Yn 2021 fe ddioddefodd Andrew anaf i’r ymennydd mewn damwain car a adawodd ef yn ddibynnol ar ei deulu.
Ym Mawrth 2023 ceisiwyd cymorth gan Sir Ddinbych yn Gweithio a chafodd Andrew ei baru gyda Jen sy’n fentor a ddatblygodd gynllun personol i gefnogi ei daith tuag at annibyniaeth.
Roedd cynllun Andrew yn canolbwyntio ar sicrhau rôl wirfoddoli fel cam tuag at waith cyflogedig. Roedd yn cynnwys:
- Dod o hyd i rôl wirfoddoli a oedd yn addas i’w alluoedd
- Gwella cyfathrebu a hyder
- Llunio CV wedi ei deilwra
- Cefnogi ei les a’i annibyniaeth
Gyda chymorth y cydlynydd cyflogaeth, aeth Jen ati i olrhain cynnydd Andrew i sicrhau ei fod yn parhau ar y trywydd iawn.
Ym Mai 2023 fe ddechreuodd Andrew wirfoddoli ym Mhlas Newydd yn Llangollen, gan ddatblygu ei hyder yn raddol a hyd yn oed dal y bws yn annibynnol am y tro cyntaf ers ei ddamwain. Erbyn mis Awst roedd wedi ymgymryd â heriau newydd, gan gynnwys gwirfoddoli yn Eisteddfod Llangollen, a oedd yn hybu ei annibyniaeth a gwneud ei deulu’n falch ohono.
Ym mis Ebrill 2024 fe ehangodd Andrew ei brofiad gwirfoddoli i Reilffordd Llangollen, lle datblygodd sgiliau newydd. Erbyn mis Awst roedd ei waith caled wedi dwyn ffrwyth a chafodd waith cyflogedig drwy’r Cynllun Dechrau Gweithio, a dechreuodd weithio ym mis Medi.
Mae taith Andrew o ddibynnu ar gefnogaeth ei deulu i gael cyflogaeth yn dangos y gwahaniaeth y gall ymagwedd wedi ei theilwra Sir Ddinbych yn Gweithio ei chael.
Dywedodd Andrew, Cyfranogwr Sir Ddinbych yn Gweithio: “Fe ges i a fy nheulu gefnogaeth wych gan Sir Ddinbych yn Gweithio, yn arbennig gan Jen a oedd bob amser ar gael ar ben arall y ffôn.
“Fe arweiniodd eu cymorth at dynnu pwysau enfawr oddi ar ysgwyddau fy ngwraig, ac ar un pwynt roeddwn yn credu y byddai dychwelyd i’r gwaith yn amhosibl ond gyda’u cymorth nhw rwyf nawr wedi cael gwaith cyflogedig.”
Mae taith Andrew yn dangos ei wytnwch a’r grym sydd gan wasanaethau cyflogadwyedd i drawsnewid bywydau.
Dywedodd Jen, Mentor Cyflogaeth a Sgiliau Sir Ddinbych yn Gweithio: “Rwy’n hynod o falch o bopeth mae Andrew wedi’i gyflawni. Roedd ef a’i wraig yn gwerthfawrogi cael pwynt cyswllt dibynadwy ar gyfer cefnogaeth ac rwy’n ei theimlo’n fraint mod i wedi bod yn rhan o’r daith hon.”
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae stori Andrew yn dangos pa mor bwysig yw hi i roi’r gefnogaeth gywir i bobl ar yr amser cywir.
“Mae ei lwyddiant yn enghraifft wych o’r hyn ellir ei gyflawni pan fo penderfynoldeb rhywun yn cael ei baru gydag arweiniad wedi’i thargedu. Rydym mor falch o bopeth mae wedi ei gyflawni.”
Mae stori Andrew yn dangos sut y gall gwasanaethau cyflogadwyedd newid bywydau drwy helpu unigolion i adennill eu hannibyniaeth a’u hyder.
I gael rhagor o wybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio a’r gefnogaeth mae’n ei chynnig ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/swyddi-a-gweithwyr/sir-ddinbych-yn-gweithio/sir-ddinbych-yn-gweithio.aspx
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.
Ymunwch â ni am ddigwyddiad pwerus i 'Daclo ag Iechyd Meddwl' yng nghlwb Pêl-droed Prestatyn fis Tachwedd yma
I ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn falch i gyhoeddi bod eu digwyddiad "Taclo Iechyd Meddwl" yn dychwelyd!
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad mis Awst yn Ninbych, bydd y fenter effeithiol hon yn digwydd yng Nghlwb Pêl-droed Prestatyn ganol mis Tachwedd.
Bydd Sir Ddinbych yn Gweithio, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Prestatyn, yn cynnal y digwyddiad rhad ac am ddim hwn sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag iechyd meddwl a hybu lles ddydd Mercher, 13 Tachwedd, o 12:30yp tan 3:30yp.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau diddorol ar thema Rygbi a gynlluniwyd i roi hwb i'ch hwyliau tra'n darparu awgrymiadau gwerthfawr ar iechyd meddwl a lles.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
‘’Rydym yn falch o gefnogi’r fenter bwysig hon, gan ddod â’n cymuned ynghyd i fynd i’r afael ag iechyd meddwl a hybu lles.
Drwy gydweithio â Chyngor Tref Prestatyn, gallwn greu amgylchedd cadarnhaol lle mae trigolion yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i gymryd camau tuag at hybu eu hiechyd meddwl a’u lles. ''
Mae croeso i unrhyw un sy’n byw yn Sir Ddinbych sy’n 16 oed a throsodd fynychu’r digwyddiad i wella eu hiechyd meddwl a chael mynediad at adnoddau gwerthfawr iddyn nhw eu hunain neu’r rhai sy’n agos atynt.
Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol:
‘Rydym yn gwybod pa mor heriol y gall fod i gymryd y cam cyntaf hwnnw tuag at geisio cymorth, ac rydym am i’r digwyddiad hwn fod yn fan lle mae unigolion yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny.
Drwy gyfuno gweithgareddau difyr â hybu lles, ein nod yw darparu offer i drigolion lleol y gallant eu defnyddio ymhell ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben. Mae’n gyfle gwych i’r gymuned ddod at ei gilydd, cysylltu, a chefnogi ei gilydd.’’
I sicrhau eich lle, tecstiwch 07795 051793 neu e-bostiwch barod@sirddinbych.gov.uk heddiw.
Rhaglen Bontio Lwyddiannus yn ystod yr Haf yn Cefnogi’r Rhai sy’n Gadael Blwyddyn 11 yn Sir Ddinbych
Yn gynharach eleni, lansiodd Sir Ddinbych yn Gweithio, mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych a’r Gwasanaethau Fframwaith Ymgysylltu ac Ailsefydlu Ieuenctid, a Raglen Bontio’r Haf i gefnogi’r rhai sy’n gadael Blwyddyn 11 a symud i addysg bellach.
Roedd y fenter yn darparu arweiniad wedi’i dargedu ac adnoddau hanfodol i bobl ifanc sy’n wynebu heriau megis bwlio, problemau iechyd meddwl a datgysylltu o’u haddysg.
Cofrestrodd 26 o unigolion ar y rhaglen, unigolion oedd mewn perygl o beidio â symud ymlaen oherwydd rhwystrau personol ac ariannol. Roedd sesiynau wythnosol yn canolbwyntio ar eu helpu i bontio’n llyfn i’r cam nesaf drwy gynnig cefnogaeth iechyd meddwl, cynllunio pontio ac arweiniad ar sicrhau pethau hanfodol fel offer ar gyfer y coleg ac agor cyfrifon banc.
Roedd gan Dîm Lles Sir Ddinbych yn Gweithio (Barod) rôl hanfodol i ymdrin â rhwystrau ariannol, gan sicrhau bod gan y myfyrwyr bopeth yr oeddent eu hangen ar gyfer eu cyrsiau. O’r 26 a gymerodd ran, cafodd 23 gymorth ariannol i gael deunyddiau ar gyfer cyrsiau, a chafodd 21 ohonynt liniaduron a chlustffonau i gefnogi eu hastudiaethau o ganlyniad i gydweithio gyda Chwmpas.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Rwyf yn falch iawn o weld yr effaith gadarnhaol y mae Rhaglen Bontio’r Haf wedi ei chael ar ein pobl ifanc. Mae sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth gywir i bontio’n llyfn i addysg bellach yn hanfodol, yn enwedig i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau.
Mae’r fenter yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio greu newid gwirioneddol, parhaol yn ein cymuned.
Rwyf yn hynod falch o bawb sy’n rhan o’r gwaith ac yn dymuno pob llwyddiant i’r rhai a gymerodd ran ar gyfer eu haddysg a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.”
Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol yng Nghyngor Sir Ddinbych:
“Rwyf yn hynod falch o’r gefnogaeth mae gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio wedi gallu ei darparu.
Gweithio mewn partneriaeth yw conglfaen ein dull o weithio ac mae’r canlyniadau rhyfeddol hyn yn dangos mor bwerus yw cydweithio er lles ein pobl ifanc.
Bydd effaith y gefnogaeth hon yn gadael gwaddol am flynyddoedd, nid dim ond i’r rhai a gefnogwyd, ond hefyd eu ffrindiau a theulu o ystyried y wybodaeth a’r profiad y byddant yn eu rhannu.
Gan ddymuno’r gorau iddynt yn eu haddysg yn y dyfodol, rwy’n gobeithio y byddant yn gwneud y gorau o’r hyn sydd ar gael iddynt rŵan a phan fyddant yn cwblhau eu hastudiaethau. Mae ein drws bob amser ar agor i’w helpu i symud ymlaen i’w gyrfaoedd perffaith!”
Un o uchafbwyntiau’r rhaglen oedd y synnwyr o gymuned a chefnogaeth a gafodd ei feithrin ymhlith y bobol ifanc. Roedd llawer ohonynt wedi cael eu hynysu ac wedi bod allan o’r ysgol am gyfnodau hir, ond helpodd y sesiynau nhw i ffurfio cyfeillgarwch a meithrin hyder mewn lle diogel a chefnogol.
Mae llwyddiant y rhaglen wedi’i adlewyrchu yn ymrwymiad y cyfranogwyr i addysg bellach. Roedd presenoldeb 35% o’r myfyrwyr yn 100%, sy’n wych, ac roedd presenoldeb 78% ohonynt dros 80%, sy’n dangos mor hanfodol oedd y gefnogaeth yn ystod yr haf i gadw eu diddordeb a’u brwdfrydedd.
Dywedodd Sian Morgan, Rheolwr Ymgysylltu a Chynnydd:
“Mae Rhaglen Bontio’r Haf i’r rhai sy’n gadael Blwyddyn 11 wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae’n wych gweld y bartneriaeth rhwng y Gwasanaethau Addysg, y Gwasanaethau Ieuenctid a Barod yn gweithio i gefnogi dysgwyr ar eu taith i addysg bellach. Rydym yn edrych ymlaen yn barod at adeiladu ar y llwyddiant hwn y flwyddyn nesaf gydag ymyrraeth gynharach a chefnogaeth bontio am fwy o amser.”
Mae’r rhaglen hon yn fodel pwerus ar gyfer ymdrechion yn y dyfodol sydd â’r nod o gefnogi pobl ifanc diamddiffyn i barhau â’u haddysg.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Caiff Gweithio Sir Ddinbych ei ariannu'n rhannol gan lywodraeth y DU.
Fideos Sir Ddinbych yn Gweithio
Gwyliwch y fideos hyn, a wnaed gan gyfranogwyr Sir Ddinbych yn Gweithio a chyfranogwyr sy’n datblygu eu sgiliau i allu cael mynediad i’r diwydiant Ffilm a Theledu. Mae’r fideos yn dod â’r uchelgais sydd gennym yn y gwasanaeth yn fyw i weithio gyda phobl a busnesau ar hyd a lled y Sir i’w helpu i ffynnu.
CEFNOGAETH UN I UN
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu cefnogaeth Un i Un am ddim i unrhyw un yn Sir Ddinbych sydd am gael gwaith. Gallwch wneud cais heddiw drwy fynd i'n gwefan.
CEFNOGAETH PROSIECT BAROD (LLES)
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu lles am ddim i bobl yn Sir Ddinbych. Llenwch ein ffurflen gyswllt os byddech chi'n elwa o'r gefnogaeth hon.
CYFLEOEDD HYFFORDDI WEDI'U HARIANNU'N LLAWN YN SIR DDINBYCH
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu hyfforddiant am ddim i bobl yn Sir Ddinbych. Llenwch ein ffurflen gyswllt i gofrestru ar un o’n cyrsiau.
CYFLEOEDD LLEOLIAD DECHRAU GWAITH
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu cyfleoedd lleoliad i bobl sy'n byw yn Sir Ddinbych. Llenwch ein ffurflen gyswllt, i gael mwy o fanylion am y cyfleoedd sydd ar gael.
PROFIAD DAMIEN GYDA SIR DDINBYCH YN GWEITHIO
Cafodd Damien gefnogaeth gan Sir Ddinbych yn Gweithio, gan ei helpu i gael swydd fel Mecanydd dan Hyfforddiant! Gall Sir Ddinbych yn Gweithio gynnig amrywiaeth o gefnogaeth bersonol i unrhyw un sy'n byw yn y Sir sy'n ei chael hi'n anodd cael gwaith o'u dewis. I gofrestru ar gyfer cefnogaeth, ewch i'n gwefan.