Taith Andrew at Annibyniaeth gyda Chymorth Sir Ddinbych yn Gweithio
Mae Andrew, un o breswylwyr Sir Ddinbych, wedi cyflawni rhywbeth sy’n newid ei fywyd, sef symud o wirfoddoli i waith cyflogedig, a hynny o ganlyniad i’w benderfynoldeb a chymorth Sir Ddinbych yn Gweithio.
Mae ei stori yn taflu goleuni ar sut y gall gwasanaethau cyflogadwyedd helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau ar ôl wynebu heriau mawr.
Yn 2021 fe ddioddefodd Andrew anaf i’r ymennydd mewn damwain car a adawodd ef yn ddibynnol ar ei deulu.
Ym Mawrth 2023 ceisiwyd cymorth gan Sir Ddinbych yn Gweithio a chafodd Andrew ei baru gyda Jen sy’n fentor a ddatblygodd gynllun personol i gefnogi ei daith tuag at annibyniaeth.
Roedd cynllun Andrew yn canolbwyntio ar sicrhau rôl wirfoddoli fel cam tuag at waith cyflogedig. Roedd yn cynnwys:
- Dod o hyd i rôl wirfoddoli a oedd yn addas i’w alluoedd
- Gwella cyfathrebu a hyder
- Llunio CV wedi ei deilwra
- Cefnogi ei les a’i annibyniaeth
Gyda chymorth y cydlynydd cyflogaeth, aeth Jen ati i olrhain cynnydd Andrew i sicrhau ei fod yn parhau ar y trywydd iawn.
Ym Mai 2023 fe ddechreuodd Andrew wirfoddoli ym Mhlas Newydd yn Llangollen, gan ddatblygu ei hyder yn raddol a hyd yn oed dal y bws yn annibynnol am y tro cyntaf ers ei ddamwain. Erbyn mis Awst roedd wedi ymgymryd â heriau newydd, gan gynnwys gwirfoddoli yn Eisteddfod Llangollen, a oedd yn hybu ei annibyniaeth a gwneud ei deulu’n falch ohono.
Ym mis Ebrill 2024 fe ehangodd Andrew ei brofiad gwirfoddoli i Reilffordd Llangollen, lle datblygodd sgiliau newydd. Erbyn mis Awst roedd ei waith caled wedi dwyn ffrwyth a chafodd waith cyflogedig drwy’r Cynllun Dechrau Gweithio, a dechreuodd weithio ym mis Medi.
Mae taith Andrew o ddibynnu ar gefnogaeth ei deulu i gael cyflogaeth yn dangos y gwahaniaeth y gall ymagwedd wedi ei theilwra Sir Ddinbych yn Gweithio ei chael.
Dywedodd Andrew, Cyfranogwr Sir Ddinbych yn Gweithio: “Fe ges i a fy nheulu gefnogaeth wych gan Sir Ddinbych yn Gweithio, yn arbennig gan Jen a oedd bob amser ar gael ar ben arall y ffôn.
“Fe arweiniodd eu cymorth at dynnu pwysau enfawr oddi ar ysgwyddau fy ngwraig, ac ar un pwynt roeddwn yn credu y byddai dychwelyd i’r gwaith yn amhosibl ond gyda’u cymorth nhw rwyf nawr wedi cael gwaith cyflogedig.”
Mae taith Andrew yn dangos ei wytnwch a’r grym sydd gan wasanaethau cyflogadwyedd i drawsnewid bywydau.
Dywedodd Jen, Mentor Cyflogaeth a Sgiliau Sir Ddinbych yn Gweithio: “Rwy’n hynod o falch o bopeth mae Andrew wedi’i gyflawni. Roedd ef a’i wraig yn gwerthfawrogi cael pwynt cyswllt dibynadwy ar gyfer cefnogaeth ac rwy’n ei theimlo’n fraint mod i wedi bod yn rhan o’r daith hon.”
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae stori Andrew yn dangos pa mor bwysig yw hi i roi’r gefnogaeth gywir i bobl ar yr amser cywir.
“Mae ei lwyddiant yn enghraifft wych o’r hyn ellir ei gyflawni pan fo penderfynoldeb rhywun yn cael ei baru gydag arweiniad wedi’i thargedu. Rydym mor falch o bopeth mae wedi ei gyflawni.”
Mae stori Andrew yn dangos sut y gall gwasanaethau cyflogadwyedd newid bywydau drwy helpu unigolion i adennill eu hannibyniaeth a’u hyder.
I gael rhagor o wybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio a’r gefnogaeth mae’n ei chynnig ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/swyddi-a-gweithwyr/sir-ddinbych-yn-gweithio/sir-ddinbych-yn-gweithio.aspx
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.