NEWYDDION

Y Cyngor yn llongyfarch disgyblion ar ganlyniadau TGAU

Mae Cyngor Sir Dinbych yn llongyfarch disgyblion Sir Ddinbych sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw (Dydd Iau, 20fed Awst).

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Ar ran y Cyngor, hoffwn ddymuno llongyfarchiadau mawr i'r rhai sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw.

Bydd eu canlyniadau heddiw yn helpu i lunio a phenderfynu ar eu camau nesaf o ran addysg.

Hoffwn hefyd estyn fy niolch i'r staff rhagorol yn ein holl ysgolion y mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad i addysgu meddyliau ifanc yn gwneud diwrnodau fel hyn yn bosibl.

Llongyfarchiadau i bob disgybl ar eu cyflawniadau heddiw, dymunaf y gorau iddynt yn eu camau nesaf.”

Cynigion Heol y Felin wedi’u dylunio i gefnogi economi ymwelwyr Llangollen

Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno ar gyfer cyfleuster cartrefi modur arhosiad byr newydd ym Maes Parcio Heol y Felin yn Llangollen fel rhan o brosiect ehangach i gefnogi twristiaeth, gwella isadeiledd ymwelwyr a rhoi budd i fusnesau lleol.

Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno ar gyfer cyfleuster cartrefi modur arhosiad byr newydd ym Maes Parcio Heol y Felin yn Llangollen fel rhan o brosiect ehangach i gefnogi twristiaeth, gwella isadeiledd ymwelwyr a rhoi budd i fusnesau lleol.

Mae’r cynnig yn cynnwys chwe bae dros nos ar gyfer cartrefi modur ac isadeiledd cysylltiedig, gan annog ymwelwyr i aros am gyfnod hirach yn y dref a gwario mewn siopau, caffis, bwytai ac atyniadau lleol.

Mae’r cais cynllunio yn dilyn gwaith gwella a wnaed eisoes ym Maes Parcio Heol y Felin, sydd wedi helpu i sicrhau bod y safle’n fwy diogel, mwy deniadol a mwy croesawgar i breswylwyr, ymwelwyr a busnesau.

Mae’r gwelliannau’n cynnwys disodli pafinau bloc sydd ar goll ac sydd wedi torri, trwsio ffensys rhwng rhan uchaf y maes parcio a’r A539, ailbeintio llinellau baeau parcio, gosod seddi newydd, rheiliau a dodrefn stryd newydd, uwchraddio’r goleuadau a gosod mannau newydd i groesi’r llwybr troed.

Bwriedir i’r gwelliannau hyn, a ariennir gan grant, ategu’r ddarpariaeth arfaethedig ar gyfer Lleoedd Parcio Dros Nos i Gartrefi Modur, yn amodol ar ganiatâd cynllunio, trwy greu porth ymwelwyr o ansawdd uwch ger canol tref Llangollen.

Ni fydd y prosiect yn golygu colli 29 o ofodau parcio yn ystod y dydd ar y safle. Bydd yr ardal yn dal i fod ar gael fel ardal aml-ddefnydd yn ystod y dydd a bydd modd i geir barcio rhwng y baeau cartrefi modur. Gyda’r nos, mae angen mwy o le rhwng cartrefi modur er mwyn bodloni gofynion diogelwch tân. Dyna pam mae’r trefniadau dros nos yn wahanol i’r defnydd parcio yn ystod y dydd.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r cynnig hwn yn cefnogi economi ymwelwyr Llangollen mewn modd cyfrifol a reolir. Trwy ddarparu cyfleusterau dynodedig arhosiad byr dros nos ar gyfer defnyddwyr cartrefi modur, gallwn annog ymwelwyr i dreulio mwy o amser yn y dref a chefnogi busnesau lleol, wrth helpu i leihau effaith achosion o aros dros nos heb awdurdod. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn glir na fyddai’r cynllun yn cael gwared ar 29 o ofodau parcio yn ystod y dydd. Byddai’r maes parcio yn dal i fod ar gael i’w ddefnyddio yn ystod y dydd a byddai’r gosodiad dros nos yn adlewyrchu’r lle ychwanegol sydd ei angen er mwyn bodloni gofynion diogelwch cartrefi modur.

Mae’r cynnig ym maes parcio Heol y Felin yn ffurfio rhan o brosiect cyffredinol Lleoedd Parcio Dros Nos i Gartrefi Modur Sir Ddinbych. Ei nod yw mynd i’r afael ag achosion pan fo perchnogion cartrefi modur yn aros dros nos heb awdurdod mewn lleoliadau ar draws y sir lle nad oes hawl gyfreithiol i gysgu dros nos mewn cerbyd.

Mae’r cynllun wedi’i greu i helpu i atal problemau amgylcheddol a chymdeithasol a achosir gan wersylla anghyfreithlon, a darparu gwell cyfleusterau ar gyfer y rheiny sydd am aros dros nos am gyfnod byr mewn cartrefi modur a faniau gwersylla.

Ar draws Sir Ddinbych, bydd y prosiect yn cyflwyno cynigion ar gyfer ardaloedd dynodedig i gartrefi modur a faniau gwersylla aros dros nos mewn pum lleoliad, gan ganolbwyntio ar leoedd sydd eisoes yn boblogaidd gydag ymwelwyr ac sy’n agos at fusnesau lleol a allai elwa o fwy o ymwelwyr.

Bydd ceisiadau cynllunio’n cael eu cyflwyno ar gyfer pob safle i alluogi gosod yr isadeiledd perthnasol. Ariennir y gwaith arfaethedig gan gyllid y Pethau Pwysig, Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi gwelliannau i isadeiledd hanfodol i ymwelwyr, a Chronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU.

Mae’r safleoedd, gan gynnwys Heol y Felin, wedi’u dewis oherwydd eu bod yn fannau problemus ar gyfer achosion o aros dros nos heb awdurdod, maen nhw’n boblogaidd gyda thwristiaid ac mae busnesau gerllaw a allai elwa o ymwelwyr yn defnyddio cyfleusterau dynodedig.

Byddai’r cyfleusterau yn darparu mannau parcio arhosiad byr dros nos i gartrefi modur am uchafswm o ddwy noson mewn meysydd parcio cyhoeddus neu ardaloedd sy’n eiddo i’r Cyngor sy’n agos at drefi ac amwynderau presennol.

Ym mhob safle, bydd y canolbwynt ar ddarparu mannau parcio dros nos diogel, wedi’u cefnogi gan gyfleusterau sylfaenol i wagio dŵr gwastraff a dŵr budr ac ail-lenwi cartrefi modur gyda dŵr ffres. Bydd y lleoedd parcio yn rhai llawr caled i aros am gyfnodau byr yn unig. Ni chaniateir barbeciwiau, tanau, adlenni na phebyll.

Bwriedir galluogi defnyddwyr cartrefi modur sy’n aros ar safleoedd Cyngor Sir Ddinbych i dalu am aros yno trwy dariff newydd ar yr ap parcio ceir presennol ar eu ffôn symudol neu beiriannau talu ar y safle.

Os caiff caniatâd cynllunio ei roi, bydd gwaith ar Heol y Felin yn cynnwys mesurau i atal parcio heb awdurdod a chefnogi gwell rheolaeth ar aros dros nos.

Gwaith uwchraddio toeau yn mynd rhagddo mewn dwy ysgol yn y Rhyl

Mae gwaith uwchraddio i doeau dwy ysgol gynradd yn y Rhyl yn mynd rhagddo yn rhan o raglen barhaus o foderneiddio adeiladau.

Mae'r ddau brosiect yn rhan o raglen waith cynnal a chadw hirdymor fesul cam i wella'r toeau. Mae'r prosiect yn Ysgol Emmanuel yn ei bedwerydd cam, a’r prosiect yn Ysgol Christchurch yn y chweched cam a'r cam olaf.

Yn ysgol Christchurch, mae'r gwaith yn canolbwyntio ar do gwastad yr ysgol ac yn cynnwys gosod to ffelt newydd a gwydn ynghyd â gwella inswleiddio thermol yn sylweddol.

Gwaith ar y to gwastad Ysgol Christchurch

Bydd y gwaith uwchraddio hefyd yn cynnwys gosod 47 o ffenestri to newydd yn lle'r hen rai, a fydd yn cyd-fynd â'r ffenestri mwy newydd sydd eisoes wedi'u gosod yn yr ysgol. Bydd y ffenestri to hefyd yn cael eu disodli a'u moderneiddio ar yr un pryd.

Gwaith ar y ffenestri, Ysgol Christchruch

Ar hyn o bryd mae gwaith yn cael ei wneud ar ran o do ar oledd yn Ysgol Emmanuel, sydd uwchben dwy ystafell ddosbarth tuag at flaen yr adeilad.

To ar oledd Ysgol Emmanuel

Mae'r hen deils clai wedi cael eu tynnu, ac mae’r gwaith o osod y deunydd inswleiddio 120mm yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Deunydd inswleiddio newydd ar to Ysgol Emmanuel

Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, bydd y to ar oleddf wedi'i wneud o fetel, gan ddisodli'r hen deils, a bydd yn cyd-fynd â'r toeau eraill a gwblhawyd yn ddiweddar ar yr adeilad.

Mae'r gwaith uwchraddio hwn i'r ddau safle yn cyflwyno manteision effeithlonrwydd ynni a manteision strwythurol, gan foderneiddio agweddau allweddol a lleihau rhwymedigaethau cynnal a chadw yn y dyfodol a sicrhau bod y ddwy ysgol yn parhau i fod yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae’r ddau brosiect yn cael eu harwain a’u rheoli gan Dîm Cynnal a Chadw Adeiladau’r Cyngor.

Disgwylir i'r gwaith ar y ddau safle ddod i ben yn yr hydref.

Mae'r gwaith hwn yn cael ei ariannu drwy Raglen Cynnal a Chadw Cyfalaf Ysgolion.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae'r gwaith hwn yn rhan o'n rhaglen barhaus i wella safleoedd ein hysgolion, gan wella eu heffeithlonrwydd a diogelu cyfanrwydd toeau'r ysgolion ar gyfer y dyfodol ar yr un pryd.

Bydd y gwaith hwn yn dod i ben yn y ddwy ysgol yn yr hydref.”

Cyflwyno prydau ysgol iachach cyn y daw rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru i rym

Mae’r gwaith yn parhau i hybu bwyta’n iach mewn ysgolion er budd iechyd a lles y disgyblion

Mae’r gwaith yn parhau i hybu bwyta’n iach mewn ysgolion er budd iechyd a lles y disgyblion. 

Bu Gwasanaeth Arlwyo Cyngor Sir Ddinbych yn newid bwydlenni ysgol yn raddol yn ystod y deunaw mis diwethaf. Gwnaed hynny gan fod Llywodraeth Cymru wedi diwygio’r Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (2025) a bod y newidiadau’n dod i rym ar Hydref 31 eleni.

Yn unol â’r Canllaw Bwyta’n Iach, bydd y gofynion statudol newydd yn effeithio ar y bwyd a ddarperir gydol y diwrnod ysgol.

I gynorthwyo disgyblion a staff arlwyo i bontio’n esmwyth i’r drefn newydd, mae’r Gwasanaeth Arlwyo wedi addasu’r bwydlenni’n raddol i fodloni gofynion y rheoliadau newydd.

Mae ein bwydlen faethlon fesul tair wythnos eisoes yn bodloni’r safonau newydd, gan gynnwys:

  •  Gwell Dewisiadau o Bwdin: Darperir iogwrt Llaeth y Llan a phwdinau â ffrwythau deirgwaith yr wythnos bellach, a phwdinau pob â ffrwythau ddwywaith yr wythnos.
  •  Mwy o Lysiau: Mae’r staff arlwyo wedi ehangu’r dewis o lysiau bob dydd i sicrhau y gall pob disgybl gael o leiaf dau lysieuyn bob dydd.
  •  Maint Platiau:  Dechreuir gweini prydau o wahanol faint i Fabanod a Phlant Iau ym mis Hydref. Cyflwynir hyn yn raddol gyda’r nod o gydymffurfio’n llwyr yn syth ar ôl hanner tymor mis Hydref.
  •  Dietau Arbennig: I fodloni anghenion dietegol myfyrwyr yn ddiogel, mae’n rhaid i rieni bellach ddarparu tystiolaeth feddygol ffurfiol i’r gwasanaeth arlwyo fel y gall staff ddarparu prydau addas.

Ddechrau’r tymor ym mis Medi, bydd bwydlenni ysgol yn symud yn nes at gydymffurfio’n llwyr â’r ddeddfwriaeth drwy ddarparu bara gwenith cyflawn hanner a hanner yn unig. Ni fyddwn ond yn rhoi caws, tiwna mayonnaise ac wy mayonnaise mewn brechdanau ac ni fyddwn yn darparu ham mwyach, gan fod y rheoliadau newydd yn cyfyngu ar gig wedi’i brosesu.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:  “Wrth wella bwydlenni ysgol yn raddol i gydymffurfio â’r rheoliadau newydd, rydym wedi helpu disgyblion i ddod yn gyfarwydd â dewisiadau iachach mewn ffordd gadarnhaol a phwyllog. Mae hynny hefyd wedi sicrhau bod ein hysgolion yn gwbl barod am y rheoliadau newydd.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’n staff arlwyo ymroddgar am eu gofal, proffesiynoldeb a’u hymrwymiad cyson i addasu bwydlenni, cefnogi ein disgyblion a rhoi’r newidiadau hyn ar waith yn ein holl ysgolion. Mae’r newidiadau’n gam pwysig ymlaen wrth hybu iechyd a lles ein plant a phobl ifanc.”

Cau Ffyrdd Fesul Cam ar gyfer Cam 3 Taith Prydain yn Sir Ddinbych

Cynghorir defnyddwyr ffyrdd i gynllunio ymlaen llaw ar ddydd Gwener, 21 Awst 2026, gan y bydd cau ffyrdd fesul cam dros dro ar waith ar draws rhannau o’r sir i hwyluso Cam 3 o ras feicio Taith Prydain Lloyds.

Seiclo ffordd

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro er mwyn cynnal y ras yn ddiogel drwy'r sir rhwng 10am a 12pm.

Bydd y gorchymyn yn cyflwyno cau ffyrdd fesul cam, clirffyrdd, ac atal cyfyngiadau cyflymder dros dro ar rannau o'r llwybr tra bod y ras yn mynd heibio.

Yn ystod y digwyddiad:

  • Bydd ffyrdd ar hyd y llwybr ar gau dros dro wrth i'r ras agosáu ac yn ailagor cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.
  • Bydd cyfyngiadau clirffyrdd mewn grym, sy'n golygu na ddylai cerbydau stopio na pharcio ar rannau o'r ffordd yr effeithir arnynt.
  • Tra bydd ffyrdd ar gau, bydd y Terfyn Cyflymder Cenedlaethol yn berthnasol i gerbydau awdurdodedig sy'n ymwneud â’r ras. Bydd mynediad i gerddwyr drwy gydol y digwyddiad.

Ffyrdd yr effeithir arnynt

Bydd y ffyrdd canlynol yn cau fesul cam a bydd cyfyngiadau cysylltiedig rhwng 10am a 12pm ar 21 Awst:

  • A541, Troeon Rose Garden Bodfari hyd at ffin y sir
  • A541, o B5429 Llandyrnog hyd at droeon Rose Garden Bodfari
  • A541, Cornel Blue Hand Bodfari at gyffordd B5429 Llandyrnog
  • Ffordd Bodfari, Trefnant
  • B5428, o groesffyrdd Pen Cae Du at oleuadau traffig Trefnant
  • B5428, cyffordd Lon Jack Ffrwn at groesffyrdd Pen Cae Du, Trefnant
  • B5428, o gyffordd Ffordd Bryn y Garn at gyffordd Lon Jack Ffrwn, Henllan
  • Lôn Garn, Henllan
  • Stryd Tŷ Coch, Henllan
  • Stryd Llindir, Henllan
  • B5382 Ffordd Henllan at ffin y Sir, Henllan

Yn ogystal â’r darn hwnnw o’ A525 goleuadau traffig Trefnant at Fferm Tŷ Newydd, Trefnant sy’n ymestyn i gyfeiriad y gogledd o’i chyffordd â’r A541 at ei chyffordd â’r B5429.

Anogir defnyddwyr ffyrdd i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau ac ystyried llwybrau amgen lle bo modd yn ystod cyfnod y digwyddiad.

Taith Prydain yw prif ras feicio broffesiynol y DU ac mae'n denu beicwyr elitaidd o bob cwr o'r byd. Mae Sir Ddinbych yn falch o groesawu'r digwyddiad ac arddangos cymunedau a thirweddau'r sir i gynulleidfa genedlaethol.

 

 Llun: Pexels

Croesawu Dinasyddion Prydeinig Newydd i Sir Ddinbych mewn Seremoni Ddinasyddiaeth

Daeth trigolion o wyth gwlad gwahanol yn ddinasyddion swyddogol Prydeinig mewn seremoni ddinasyddiaeth a gynhaliwyd yng Nghyngor Sir Ddinbych ar 28 Gorffennaf. Yn ystod o seremoni, croesawyd dinasyddion newydd oedd yn wreiddiol o'r Philipinau, Unol Daleithiau America, Bangladesh, Colombia, Uganda, Nepal, India a Sri Lanka, gan nodi'r cam olaf yn eu taith i ddod yn ddinasyddion Prydeinig.

Seremoni dinasyddiaeth

Trefnwyd y digwyddiad arbennig gan Wasanaethau Cofrestru Sir Ddinbych, ac yn bresennol roedd Cadeirydd y cyngor, y Cynghorydd Bobby Feeley; y Cynghorydd Joan Butterfield sydd hefyd yn Faer y Rhyl; Is-Arglwydd Raglaw Clwyd, Rob Jones; ac Uchel Siryf Clwyd, David Jones.

Yn ystod y seremoni, gwnaeth y dinasyddion newydd naill ai lw neu gadarnhad o deyrngarwch i'w Fawrhydi Brenin Siarl III a gaddo eu teyrngarwch i'r Deyrnas Unedig, ei gwerthoedd democrataidd, ei hawliau a'i rhyddid.

Croesawyd y dinasyddion newydd gan y Cofrestrydd Arolygol Sharon Evans, oedd yn gweithredu ar ran Swyddfa Gartref y DU a Gwasanaeth Fisâu a Mewnfudo'r DU. Wrth siarad yn ystod y seremoni, atgoffwyd y mynychwyr fod dinasyddiaeth Brydeinig nid yn unig yn dod â hawliau a chyfleoedd, ond hefyd gyfrifoldebau, gan gynnwys parchu eraill, cynnal gwerthoedd democrataidd a chyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas.

Roedd y seremoni hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y doniau, y cefndiroedd a'r profiadau amrywiol y mae dinasyddion newydd yn eu dwyn i Sir Ddinbych a'r DU.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Bobby Feeley: "Roedd yn bleser croesawu ein dinasyddion Prydeinig mwyaf newydd i Sir Ddinbych. Mae seremonïau dinasyddiaeth bob amser yn achlysuron arbennig, gan ddathlu nid yn unig gyflawniad unigol ond hefyd yr amrywiaeth gyfoethog sy'n cryfhau ein cymunedau.

"Rydym wrth ein bodd bod y trigolion hyn wedi dewis gwneud Sir Ddinbych yn gartref iddynt ac yn estyn croeso cynnes iddynt fel aelodau o'n cymunedau."

Yn dilyn y seremoni, cyflwynwyd tystysgrifau dinasyddiaeth a rhodd bach o groeso gan y cyngor i bob dinesydd newydd cyn tynnu llun grŵp.

Daeth y seremoni i ben gyda llongyfarchiadau i bawb a dderbyniodd ddinasyddiaeth a chroeso cynnes i'r gymuned leol.

Dirwyo tipiwr anghyfreithlon a ollyngodd sbwriel wrth ymyl bin yn Rhuallt

Mae rhywun a ollyngodd wastraff o’r cartref yn anghyfreithlon wrth ymyl bin ar Ffordd Treffynnon yn Rhuallt wedi cael dirwy o £250 yn sgil ymchwiliad gan Dîm Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych.

Mae rhywun a ollyngodd wastraff o’r cartref yn anghyfreithlon wrth ymyl bin ar Ffordd Treffynnon yn Rhuallt wedi cael dirwy o £250 yn sgil ymchwiliad gan Dîm Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych.

Wedi derbyn adroddiad o dipio anghyfreithlon, aeth swyddogion yno a chanfod nifer o sachau o wastraff domestig wedi’u gollwng wrth ymyl bin y Cyngor.

Chwiliodd y swyddogion drwy’r gwastraff a dod o hyd i dystiolaeth o bwy oedd yn gyfrifol.

Wedi ymchwilio ymhellach, daethpwyd o hyd i’r troseddwr a chafodd Rhybudd Cosb Benodedig o £250.

Mae’r achos hwn yn dangos nad yw’n dderbyniol i bobl ollwng gwastraff wrth ymyl biniau sbwriel. Darperir biniau i bobl rhoi darnau bach o sbwriel ynddynt, ac nid gwastraff masnachol neu ddomestig.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein neges yn glir: nid ydym yn goddef tipio anghyfreithlon a gwaredu gwastraff yn anghyfrifol yn Sir Ddinbych. Byddwn yn dal i gymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy’n cyfrannu at droseddau amgylcheddol ac yn gweithio i gadw ein Sir yn lân ac yn ddiogel i bawb.”

 

 

Timau’r Cyngor yn dod at ei gilydd ar gyfer Sioe Dinbych a Fflint

Mae timau Cyngor Sir Ddinbych wrthi’n gwneud y paratoadau terfynol i ddod ag ystod o feysydd gwasanaeth i Sioe Dinbych a Fflint eleni,

Mae timau Cyngor Sir Ddinbych wrthi’n gwneud y paratoadau terfynol i ddod ag ystod o feysydd gwasanaeth i Sioe Dinbych a Fflint eleni, a fydd yn cael ei chynnal yn Y Green, Dinbych, ddydd Iau 20 Awst 2026.

Bydd cyfle i’r rhai sy’n ymweld â stondin y Cyngor gyfarfod staff o sawl tîm a dysgu mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y sir i gefnogi cymunedau, diogelu’r amgylchedd lleol a helpu Sir Ddinbych i ymateb i heriau newid hinsawdd.

Bydd Gwasanaethau Fflyd yn arddangos detholiad o gerbydau trydan, yn cynnwys cerbydau fflyd y Cyngor a cherbydau trydan wedi’u darparu gan werthwyr, i amlygu sut mae’r dechnoleg hon yn helpu i ddarparu cludiant glanach a lleihau allyriadau. Bydd staff ar gael i sgwrsio gydag ymwelwyr a dangos y rôl y gall cerbydau trydan ei chwarae wrth leihau allyriadau, gwella ansawdd yr aer a chefnogi cludiant cyhoeddus a phreifat sy’n fwy cynaliadwy.

Bydd tîm Hinsawdd y Cyngor hefyd wrth law i drafod eu rhaglen waith yn gysylltiedig â mynd i’r afael â newid hinsawdd a chefnogi uchelgeisiau ehangach y Cyngor i leihau allyriadau carbon a diogelu bioamrywiaeth. Bydd cyfle i ymwelwyr ddysgu mwy am y camau ymarferol sy’n cael eu cymryd ar draws gwasanaethau’r Cyngor, a sut y gall unigolion, busnesau a chymunedau gymryd rhan hefyd.

Bydd aelodau o’r tîm Risg Llifogydd ar gael i egluro’r gwaith pwysig y maent yn ei wneud i reoli a lleihau risg llifogydd ar draws Sir Ddinbych, yn cynnwys sut maent yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau partner i wella dealltwriaeth, parodrwydd a gwytnwch.

Bydd yr Ymgynghorwyr Ailgylchu o Wasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn y sioe, i siarad gydag ymwelwyr am ailgylchu, lleihau gwastraff a sut y gallwn gefnogi aelwydydd i ailgylchu’n fwy effeithiol. Bydd y tîm yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol, cyngor a gweithgareddau hwyliog i helpu trigolion i ddeall beth y gellir ei ailgylchu, sut i ailgylchu’n gywir a sut y gall newidiadau bach yn y cartref wneud gwahaniaeth mawr.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Mae Sioe Dinbych a Fflint yn gyfle gwych i’n preswylwyr ac ymwelwyr siarad yn uniongyrchol gyda’n timau a darganfod mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws Sir Ddinbych. O gerbydau trydan a gweithredu ar newid hinsawdd i risg llifogydd ac ailgylchu, bydd ein staff yno i ateb cwestiynau, rhannu cyngor ac egluro sut mae’r gwasanaethau hyn yn cefnogi cymunedau ar draws y sir.”

Mae’r Cyngor yn annog unrhyw un a fydd yn mynychu’r sioe i alw heibio’r stondin, cwrdd â’r timau a dysgu mwy am y gwasanaethau sy’n helpu i greu Sir Ddinbych sy’n fwy gwyrdd, diogel a chynaliadwy.

 

Gwaith adnewyddu sylweddol ar floc Ysgol Uwchradd Prestatyn bron a gorffen

Mae gwaith adnewyddu ar floc llawn yn ysgol fwyaf Sir Ddinbych bron a gorffen.

Bloc 2 Ysgol Uwchradd Prestatyn

Dechreuodd y gwaith ar Floc 2 yn Ysgol Uwchradd Prestatyn ym mis Mehefin a chafodd y bloc cyfan ei ail-fodelu’n llwyr.

Mae’r gwaith bron a gorffen o ran ailweirio, ail-sgimio ac ailosod tri dosbarth TG, dau ddosbarth economeg y cartref, dwy swyddfa, ystafell staff, a phum dosbarth arall.

Gwaith moderneiddio dosbarth TG

Bydd y gwaith, a wneir gan Bryn Build Ltd, yn golygu moderneiddio 12 ystafell.

Mae’r prosiectau’n cael eu harwain a’u rheoli gan Dîm Cynnal a Chadw Adeiladau y Cyngor.

Yn ogystal â moderneiddio’r ystafelloedd, mae’r offer a’r dechnoleg yn cael eu huwchraddio.

Gwaith moderneiddio dosbarth economeg y cartref

Mae’r gwaith adnewyddu wedi ei ddylunio ar y cyd ag athrawon yn yr ysgol, i sicrhau bod y dyluniad yn cyd-fynd â gweithrediadau o ddydd i ddydd y dosbarthiadau.

Mae’r cynllun newydd hefyd wedi ei ddylunio o amgylch dau lifft a osodwyd yn flaenorol, gan eu hintegreiddio yn well i’r adeilad a llif y dosbarthiadau.

Yn ogystal â’r gwaith adnewyddu’r bloc, mae’r dosbarth drama, sydd uwch ben neuadd yr ysgol, hefyd yn cael ei ailfodelu, gyda bloc lifft newydd sbon, wedi ei adeiladu a’i ychwanegu i sicrhau mynediad hygyrch i’r dosbarth a adnewyddwyd.

Bydd y prosiectau hyn yn cael eu trosglwyddo ym mis Medi, cyn i’r tymor ddechrau.

Mae’r prosiectau’n cael eu hariannu trwy Raglen Cynnal a Chadw Cyfalaf Ysgolion ynghyd â chefnogaeth gan Foderneiddio Addysg, gyda dros £600,000 yn cael ei fuddsoddi yn yr ysgol trwy’r prosiectau hyn.

Gwaith moderneiddio

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’r prosiect enfawr hwn wedi ei glustnodi ac yna ei weithredu i foderneiddio bloc arall yn Ysgol Uwchradd Prestatyn.

Mae’r gwaith wedi bod yn helaeth, gydag ailweirio ac ail-ddylunio cyfan yn digwydd, gan olygu edrychiad newydd ffres a chyfleusterau o ansawdd uwch i floc prysur iawn yn yr ysgol.

Edrychaf ymlaen at weld y bloc yn agor ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd, ac i’r disgyblion a’r staff gael ei ddefnyddio.”

Etifeddiaeth coeden dderwen hanesyddol wedi'i diogelu am flynyddoedd i ddod

Credir bod yr hen goeden dderwen wedi bod yn sefyll yng Nghae Ddôl ers dros 500 mlynedd.

Mae gwaith i ddiogelu etifeddiaeth coeden dderwen hanesyddol yn Rhuthun wedi'i gwblhau'n ddiweddar.

Credir bod yr hen goeden dderwen wedi bod yn sefyll yng Nghae Ddôl ers dros 500 mlynedd, ac yr oedd yn cael ei hedmygu'n fawr gan ymwelwyr â'r parc am genedlaethau cyn iddi ddod i lawr yn ystod Storm Darragh yn 2024.

Fodd bynnag, ar ôl cwblhau prosiect diweddar a oedd yn ceisio diogelu etifeddiaeth y goeden, gall trigolion ac ymwelwyr edmygu'r goeden dderwen unwaith eto yn ei ffurf newydd yn y parc.

Ar ôl iddi syrthio yn ystod Storm Darragh, comisiynodd tîm coed y Cyngor y gweithiwr coed lleol, Stephen Faherty, i gerflunio'r boncyff i greu sedd lle gall pobl sy'n mynd heibio edmygu ei faint a'i statws, tra cafodd ei ganghennau mawr eu cerflunio’n i greu meinciau unigryw i greu man eistedd newydd.

Dywedodd Stephen Faherty:

“Roedd yn bleser cael fy ngwahodd gan Gyngor Sir Ddinbych i weithio ar y prosiect hwn. Rwyf wedi byw yn yr ardal ac felly rwy’n deall pa mor bwysig yw'r goeden i gymuned Rhuthun.

“O ran y prosiect hwn, yr oedd hi'n bwysig creu rhywbeth a fyddai'n dod â'r gymuned at ei gilydd a thalu teyrnged i'r goeden hanesyddol a safai yno unwaith.

“Cafwyd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect o'r ffordd yr oedd y goeden dderwen wedi cwympo yn dilyn y storm, wrth i’r meinciau o amgylch y boncyff bwysleisio maint y goeden.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Rydym ni’n deall pa mor arwyddocaol oedd yr hen goeden dderwen i Gae Ddôl, ac yr ydym ni’n falch o'r ffordd y mae'r prosiect wedi diogelu ei hetifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym ni’n gobeithio trwy ddefnyddio pren yr hen goeden dderwen i greu ardal ar yr un safle, y bydd yn caniatáu i ymwelwyr gadw cysylltiad â’r hen goeden.

“Hoffwn ddiolch i dîm coed y Cyngor ac i Stephen am eu gwaith caled wrth gwblhau'r prosiect hwn, ac rwy'n gobeithio y gall cymuned Rhuthun yn awr ddechrau creu atgofion newydd yn y man cymunedol newydd hwn.”

Tipiwr anghyfreithlon yn cael Rhybudd Cosb Benodedig o £250 yn dilyn ymchwiliad yn y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig o £250 i breswylydd ar ôl canfod eu bod yn gyfrifol am dipio gwastraff y cartref yn anghyfreithlon ar Elwy Street yn ochr gorllewinol y Rhyl.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig o £250 i breswylydd ar ôl canfod eu bod yn gyfrifol am dipio gwastraff y cartref yn anghyfreithlon ar Elwy Street yn ochr gorllewinol y Rhyl.

Cafodd yr achos o dipio anghyfreithlon, oedd yn cynnwys sawl bag du o wastraff domestig, ei adrodd i Dîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor. 

Gan weithio’n agos gyda phreswylwyr lleol ac adolygu fideo teledu cylch caeëdig o’r ardal, bu modd i Swyddogion gasglu tystiolaeth a arweiniodd at adnabod yr unigolyn oedd yn gyfrifol.  Yn dilyn ymchwiliad, cyflwynwyd Rhybudd Cosb Benodedig o £250.

Yn hytrach na’u herlyn drwy’r llysoedd, cyflwynodd y Cyngor Rybudd Cosb Benodedig fel dull arall o ddelio â’r drosedd.

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd sydd yn difetha cymunedau lleol, yn niweidio’r amgylchedd ac yn rhoi byrdwn ariannol diangen ar drethdalwyr drwy’r gost o glirio gwastraff sydd wedi’i adael yn anghyfreithlon.  Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i gymryd camau gweithredu cadarn yn erbyn y rhai sy’n dewis gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych:

Mae tipio anghyfreithlon yn gwbl annerbyniol ac rydym wedi ymrwymo i weithredu yn erbyn y rhai sy’n difetha ein cymunedau drwy waredu eu gwastraff yn anghyfreithlon.

"Mae’r achos yma’n dangos pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gyda’n cymunedau. Gyda’r wybodaeth a ddarparwyd gan breswylwyr lleol, ynghyd â thystiolaeth teledu cylch caeëdig ac ymchwiliad trylwyr gan ein Swyddogion, bu modd i ni adnabod y troseddwr a chymryd gweithred gorfodi priodol.

“Rydym eisiau diolch i’r preswylwyr a gyflwynodd wybodaeth. Mae eu cefnogaeth yn chwarae rôl hollbwysig yn ein helpu i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol. Byddem yn annog unrhyw un sy’n dyst i dipio anghyfreithlon neu droseddau amgylcheddol eraill i roi gwybod i ni amdanynt, gan fod pob darn o dystiolaeth yn gallu ein helpu i adnabod y rhai sy’n gyfrifol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein neges yn glir – wnawn ni ddim goddef tipio anghyfreithlon yn Sir Ddinbych. Os ydych chi’n dewis gadael gwastraff yn anghyfreithlon, fe allech chi gael Rhybudd Cosb Benodedig neu gael eich erlyn."

Fe atgoffir preswylwyr y dylai gwastraff y cartref gael ei waredu drwy wasanaethau casglu awdurdodedig, Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu drwy ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig.  Os ydych chi’n talu rhywun i waredu eich gwastraff, gwiriwch eu bod wedi cofrestru i wneud hynny.

Os oes gennych chi wybodaeth am dipio anghyfreithlon neu unrhyw droseddau amgylcheddol eraill, adroddwch amdano drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych neu cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor ar 01824 706000. Drwy adrodd am droseddau amgylcheddol, gallwch helpu i amddiffyn ein cymunedau a chadw Sir Ddinbych yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar ar gyfer pawb.

 

Y Cyngor yn llongyfarch disgyblion ar ganlyniadau Lefel A

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn llongyfarch disgyblion ledled y sir sy'n derbyn eu canlyniadau Lefel A / Uwch Gyfrannol heddiw (Dydd Iau, 13eg Awst).

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Ar ran y Cyngor, hoffwn longyfarch disgyblion Sir Ddinbych sy'n derbyn eu canlyniadau Lefel A ac UG heddiw. Mae'r canlyniadau hyn yn gamp enfawr sy'n helpu i lunio y camau nesaf yn eu bywydau.

Mae'n cymryd llawer o waith caled ac ymroddiad i gyrraedd yma, felly hoffwn eu llongyfarch i gyd ar y gamp hon.

Hoffwn hefyd dynnu sylw at y gwaith partneriaeth pwysig sy'n digwydd yn ein hysgolion bob dydd sy'n sicrhau bod gan ein myfyrwyr addysg o'r ansawdd uchaf ac yn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl.

Rwy'n dymuno'r gorau i bob dysgwr yn eu camau nesaf, mae'r drws ar agor iddynt.”

Diwrnod Tedis yn Dychwelyd i Dŷ a Gerddi Hanesyddol Nantclwyd y Dre

Mae Nantclwyd y Dre yn falch iawn o gynnal y digwyddiad unwaith eto ddydd Iau 20 Awst.

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ei Ddiwrnod Tedis cyntaf erioed yn gynharach yr haf hwn, mae Nantclwyd y Dre yn falch iawn o gynnal y digwyddiad unwaith eto ddydd Iau 20 Awst, gan roi cyfle arall i deuluoedd fwynhau antur hanesyddol ar thema tedis cyn i’r tymor ysgol newydd ddechrau.

Bydd y Diwrnod Tedis yn cael ei gynnal rhwng 10:30am a 4:30pm (mynediad olaf am 3:30pm) yng ngerddi hardd y tŷ hanesyddol. Mae wedi'i gynnwys yn y pris mynediad arferol, ac mae mynediad am ddim i blant dan bump oed.

Gwahoddir ymwelwyr i ddod â'u tedis mwyaf anturus gyda nhw i archwilio'r gerddi hyfryd a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl, yn cynnwys crefftau ar thema tedis, gemau lawnt traddodiadol a'r wifren sip tedis poblogaidd, a fu'n llwyddiant ysgubol yn y digwyddiad cyntaf.

Dywedodd Kate Thomson, Rheolwr Safle Nantclwyd y Dre:

“Roeddem ni wrth ein bodd gyda’r ymateb i’n Diwrnod Tedis cyntaf, ac yn falch o weld cymaint o ymwelwyr yn mwynhau’r gweithgareddau yr oeddem ni wedi’u paratoi ar eu cyfer nhw a’u tedis. Dywedodd nifer fawr o deuluoedd eu bod nhw wedi mwynhau’r diwrnod yn arw ac y bydden wrth eu bodd yn ei weld yn dychwelyd, felly roeddem ni’n gwybod bod rhaid i ni ei gynnal eto!”

Caiff teuluoedd eu hannog i ddod â'u hoff dedis ac i fwynhau diwedd gwyliau'r haf mewn ffordd gofiadwy yn amgylchedd unigryw Nantclwyd y Dre. Ni fydd angen archebu lle ymlaen llaw.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae ein tîm Treftadaeth wedi bod yn gweithio’n galed i drefnu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau dros wyliau’r haf i’r teulu eu mwynhau. Roedd y Diwrnod Tedis cyntaf yn Nantclwyd y Dre yn llwyddiant ysgubol, ac mae'r tîm yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu hyd yn oed mwy o deuluoedd i'r digwyddiad nesaf.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych yn treftadaeth@sirddinbych.gov.uk 

Pobl ifanc yn trawsnewid GORSAF VIBE gyda gwaith celf newydd

Mae pobl ifanc yn y Rhyl wedi helpu i drawsnewid GORSAF VIBE gyda gwaith celf newydd a lliwgar, gan rannu eu syniadau am lesiant a’r hyn y mae’r gofod yn ei olygu iddynt cyn gweithio ochr yn ochr â’r artist DIME i wireddu eu gweledigaeth.

Cafodd y prosiect, a gyflwynwyd drwy wasanaeth llesiant Sir Ddinbych yn Gweithio, Barod, ei gynllunio i roi cyfle i bobl ifanc chwarae rhan weithredol yn y gwaith o lunio amgylchedd GORSAF VIBE. Cawsant eu gwahodd i ystyried beth mae llesiant yn ei olygu iddynt a rhannu eu meddyliau a’u syniadau, a helpodd i lunio themâu’r gwaith celf.

Gall celf gynnig ffordd amgen i bobl fynegi teimladau, cyfathrebu ac archwilio syniadau, yn enwedig pan all fod yn anodd rhoi meddyliau mewn geiriau. Drwy ddefnyddio creadigrwydd fel rhan o’r prosiect, roedd y bobl ifanc yn gallu cyfrannu mewn ffordd wahanol, gan ddatblygu mwy o ymdeimlad o berchnogaeth dros y gofod ar yr un pryd.

Mae’r gwaith celf gorffenedig, a grëwyd drwy greadigrwydd, cynllunio a gwaith tîm, yn dathlu GORSAF VIBE a’r bobl a’r gymuned y mae’n eu cefnogi.

Cyn

Ar ôl

Dywedodd Jen Dutton, Arweinydd Llesiant a Gwydnwch (Barod):

“Mae’r gwaith celf yn adlewyrchiad o’r hyn y mae GORSAF VIBE yn ei gynrychioli. Wedi’i greu drwy greadigrwydd, cynllunio a gwaith tîm, mae’r neges ‘Dewch o hyd i'ch llwybr’ yn cyfleu ein hymrwymiad i helpu trigolion Sir Ddinbych i ddarganfod eu cryfderau, magu hyder a dod o hyd i’r llwybr sy’n iawn iddynt.

“Rydym yn hynod falch o’r hyn y mae’r bobl ifanc wedi’i gyflawni ac o’r egni a’r lliw y maent wedi’u hychwanegu at GORSAF VIBE.”

Dywedodd yr artist DIME, a fu’n gweithio gyda’r bobl ifanc yn ystod y prosiect:

“Cefais ddiwrnod gwych yn gweithio gyda’r tîm a’r bobl ifanc yng NGORSAF VIBE. Roedd yn wych eu gweld yn greadigol ac yn cymryd rhan.”

Mae’r prosiect yn amlygu sut y gall gweithgareddau creadigol gefnogi llesiant, gan roi cyfle i bobl ifanc gyfrannu at y mannau o’u cwmpas a gweld eu syniadau’n troi’n rhywbeth pendant.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, neu i drefnu atgyfeiriad, cysylltwch â thîm Working Denbighshire ar 01745 331438 neu drwy e-bostio sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk.

Mae manylion sesiynau sydd ar ddod a gwybodaeth am archebu lle hefyd ar gael drwy Eventbrite.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU a thrwy nifer o raglenni, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, Menter ‘Trailblazer’ y DU a Chymru, y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF), a Cysylltu â Gwaith.

 

Cyngor yn cefnogi prosiect i drawsnewid stryd gefn gymunedol yn y Rhyl

Mae Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn cydweithio â grwpiau cymunedol lleol a sefydliadau partner i helpu i draws newid stryd gefn yn y Rhyl.

Mae Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn cydweithio â grwpiau cymunedol lleol a sefydliadau partner i helpu i draws newid stryd gefn yn y Rhyl.

Mae hyn yn rhan o fenter barhaus i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a gwella’r amgylchedd lleol.

Trwy’r prosiect cydweithio yma, daeth timau Troseddau Amgylcheddol a Gwasanaethau Stryd y Cyngor, Dyfodol Disglair a Chadwch Gymru'n Daclus ynghyd i glirio gwastraff oedd wedi’i dipio’n anghyfreithlon a dechrau adnewyddu’r stryd gefn oedd wedi’i hesgeuluso.

Er bod cael gwared ar wastraff sydd wedi’i adael yn anghyfreithlon yn gam cyntaf pwysig, nod y prosiect yw creu mannau cymunedol mwy glân, mwy gwyrdd a mwy croesawgar y gall y preswylwyr ymfalchïo ynddynt.

Trwy weithio mewn partneriaeth gyda phobl leol, mae’r fenter yn annog newid ymddygiad cadarnhaol tra’n gwella ymddangosiad a bioamrywiaeth yr ardal.

Yn rhan o’r fenter, mae preswylwyr sydd yn byw yn yr ardaloedd cyfagos wedi cael cyngor a gwybodaeth am eu cyfrifoldebau i waredu gwastraff yn gywir ac effeithiau tipio anghyfreithlon.

Trwy gyfuno addysg, ymgysylltu a gwelliannau amgylcheddol, mae’r Cyngor yn gobeithio y gall preswylwyr gymryd mwy o falchder yn eu cymdogaeth a helpu i’w gadw’n lân.

Fe hoffai Cyngor Sir Ddinbych hefyd atgoffa preswylwyr bod tipio anghyfreithlon yn drosedd. Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i unrhyw un sy’n cael ei adnabod sy’n gyfrifol am waredu gwastraff yn anghyfreithlon, ac os oes digon o dystiolaeth, fe gymerir camau gorfodi priodol. Fe allai hyn gynnwys cyflwyno Rhybuddion Cosb Benodedig neu erledigaeth pan fo hynny’n briodol.

Dros yr wythnosau nesaf, fe fydd y stryd gefn yn parhau i gael ei thrawsnewid gyda photiau plannu lliwgar, planhigion newydd a nodweddion bywyd gwyllt. Fe fydd camerâu hefyd yn cael eu gosod i fonitro bywyd gwyllt lleol yn dilyn adroddiadau fod draenogod yn ymweld â’r ardal yn aml. Fe fydd plant a phobl ifanc leol yn cael cyfle i helpu i greu cynefinoedd i fywyd gwyllt, gan gryfhau perchenogaeth gymunedol o’r ardal.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Mae prosiectau fel hyn yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y mae gweithio mewn partneriaeth yn gallu ei gael. Trwy ddod â phreswylwyr lleol, grwpiau cymunedol, Cadwch Gymru'n Daclus a gwasanaethau’r Cyngor ynghyd, nid yn unig ydym ni’n cael gwared ar dipio anghyfreithlon, ond rydym yn creu ardaloedd y gall pobl eu mwynhau a theimlo’n falch ohonynt. Mae annog preswylwyr i gymryd perchenogaeth o’u hamgylchedd lleol yn rhan bwysig o atal troseddau amgylcheddol a chreu cymunedau cryfach, glanach.

“Byddwn yn parhau i gefnogi cymunedau drwy addysg ac ymgysylltu, ond pan fydd unigolion yn dewis tipio’n anghyfreithlon, ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gweithredu priodol.”

 

 

Diwrnod Chwarae Blynyddol y Rhyl yn gweld 3800 yn bresennol

Cynhaliwyd 11eg digwyddiad blynyddol Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar 5 Awst yng Nghaeau Chwarae Christchurch yn y Rhyl, gyda 3,800 o bobl yn bresennol.

Wedi'i drefnu gan wasanaeth Ceidwaid Chwarae Cyngor Sir Dinbych i helpu plant i fwynhau eu gwyliau haf, roedd y digwyddiad am ddim ac yn cynnwys llu o weithgareddau gan gynnwys sgiliau syrcas, cestyll neidio, gwneud blychau adar, celf a chrefft, gemau enfawr a mwy.

Yn dilyn digwyddiad hynod lwyddiannus y llynedd, canolbwyntiodd thema eleni ar bwysigrwydd creu cyfleoedd i blant chwarae lle bynnag y maent.

Dywedodd Dawn Anderson, Rheolwr Gofal Plant a Datblygu Chwarae Sir Dinbych:

“Roeddem wrth ein bodd yn gwahodd teuluoedd lleol i'n 11eg digwyddiad Diwrnod Chwarae blynyddol.

Cawsom nifer wych o bobl yno unwaith eto eleni, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am helpu i wneud y digwyddiad poblogaidd hwn yn gymaint o lwyddiant.

Bob blwyddyn, mae'r digwyddiad hwn yn mynd o nerth i nerth, ac mae bellach yn ffefryn cadarn yn ystod gwyliau'r haf i deuluoedd lleol.”

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Unwaith eto, rydym wedi cael presenoldeb gwych yn y digwyddiad poblogaidd iawn hwn, a wnaed yn bosibl diolch i’n Gwasanaeth Ceidwaid Chwarae a’r teuluoedd sy’n mynychu bob blwyddyn.

Roedd yn wych bod yn bresennol a gweld teuluoedd lleol yn mwynhau eu gwyliau haf gyda’i gilydd.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant eto eleni.”

Bws Mini Trydan Newydd yn Pweru Bws Fflecsi Prestatyn

Fe fydd cynllun cludiant cyhoeddus sy’n ymateb i alw ym Mhrestatyn yn cael ei yrru gan gerbyd hygyrch a gwyrddach

Fe fydd cynllun cludiant cyhoeddus sy’n ymateb i alw ym Mhrestatyn yn cael ei yrru gan gerbyd hygyrch a gwyrddach.   

Mae Tîm Cludiant Teithwyr Sir Ddinbych a Thrafnidiaeth Cymru wedi cydweithio i ddarparu cerbyd trydan ar gyfer cynllun Fflecsi Prestatyn ar ôl i gontract y darparwr presennol ddod i ben. 

Mae Fflecsi Prestatyn yn cynnig gwasanaeth i breswylwyr sy’n ymateb i alw i’w cefnogi i wneud teithiau byr mewn i ganol y dref o ardaloedd preswyl ac yn ôl eto. 

Mae Gwasanaeth Fflyd Cyngor Sir Ddinbych eisoes yn gweithredu dau fws mini trydan sy’n cefnogi cynlluniau Fflecsi tebyg yn Rhuthun a Dinbych.

Bu i’r Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn 2019 ac ers hynny mae wedi symud i ddefnyddio cerbydau di-allyriadau yn ei fflyd. Ar hyn o bryd, mae dros 20% o’r cerbydau yn ei fflyd yn gerbydau di-allyriadau.

Wrth i’r cerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil gyrraedd diwedd eu hoes, mae Gwasanaeth Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn cyflwyno rhai trydan, gyda chefnogaeth sylweddol gan adrannau Llywodraethau Cymru a’r DU, er mwyn helpu i gwtogi ar yr allyriadau a gynhyrchir a lleihau costau hirdymor o ran milltiroedd a chynnal a chadw ar draws yr holl wasanaethau y mae ein fflyd yn eu cyflenwi ac i leihau’r ddibyniaeth ar gerbydau gydag injan disel neu betrol.

I gefnogi Fflecsi Prestatyn yn y dyfodol, fe fydd bws mini Ford E Transit, a all deithio hyd at 250 milltir, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cynllun. Fe fydd wyth o seddi yn y bws mini, ac fe fydd yn gwbl hygyrch ac fe fydd yna fynediad i gadeiriau olwyn hefyd.

Fe fydd y cerbyd newydd yn gweithredu Gwasanaeth Fflecsi Prestatyn, sydd bellach yn cael ei alw’n 44 ers 6 Gorffennaf. Fe fydd y gwasanaeth yn dal i fod yn weithredol yr un amser, rhwng 9.30am a 2.30pm.

Os bydd unrhyw un yn holi ynghylch archebu gwasanaeth Fflecsi Prestatyn, gallant ddefnyddio’r rhif ffôn 0300 234 0300 neu archebu drwy ap Trafnidiaeth Cymru sydd i’w weld yma: https://trc.cymru/fflecsi/lleoliadau/prestatyn

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae ein gwasanaeth fflyd yn gweithio’n galed  lle y bo’n briodol i ddisodli cerbydau sy’n cael eu gyrru gan danwydd ffosil gyda rhai mwy gwyrdd er mwyn helpu i ostwng allyriadau carbon yn y Sir, ac i gefnogi costau rhedeg a chynnal a chadw hirdymor is. 

“Rydym yn falch o gael y cyfle i ddarparu’r cerbyd ein hunain ar gyfer Fflecsi Prestatyn, fel yr ydym ar gyfer Rhuthun a Dinbych, ac i helpu i gefnogi dull o deithio sydd yn fwy modern a gwyrdd i breswylwyr lleol ei ddefnyddio a’i fwynhau.”

 

Pobl yn dod ynghyd yn Rhuthun i drafod argyfwng yr hinsawdd a natur

Dydd Iau, 30 Gorffennaf, cynhaliodd Cyngor Sir Ddinbych ddau ddangosiad o’r ffilm ‘The People's Emergency Briefing’, ac yna bu trafodaethau am beth mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn ei olygu i gymunedau lleol.

Roedd y dangosiadau’n rhan o raglen ehangach o ddigwyddiadau ledled y DU i helpu cymunedau i ymgysylltu â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae’r naturiaethwr Chris Packham wedi cefnogi’r fenter ac mae wedi dweud, “Byddwn yn annog pobl ym mhobman i fynychu dangosiad o 'The People's Emergency Briefing'. Mae'r ffilm newydd hon yn arwain at y mathau o sgyrsiau gonest sydd ei hangen arnom ar frys nawr, yn ymwneud â'r bygythiad o ddadfeiliad yr hinsawdd a natur, ond hefyd ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud, gyda'n gwleidyddion, i adeiladu dyfodol gwell.”  

NEB County HallCynhaliwyd y dangosiad cyntaf yn Neuadd y Sir yn Rhuthun ar gyfer cynghorwyr sir ac uwch swyddogion gyda gwahoddiadau wedi eu gyrru hefyd i Aelodau’r Senedd yng Nghaerdydd a San Steffan sy’n cynrychioli etholaethau Sir Ddinbych.  Mynychodd Becky Gittins, AS Dwyrain Clwyd, y digwyddiad gan gymryd rhan yn y drafodaeth oedd yn canolbwyntio'n benodol ar rolau'r ddwy lefel o lywodraeth; y Cynllun Datblygu Lleol; a’r gefnogaeth sydd ei angen ar fusnesau ac ysgolion lleol.

Cynhaliwyd ail ddangosiad cyhoeddus yn yr Ystafell Ymgynnull yn Neuadd y Dref Rhuthun a wnaeth ddenu dros 50 o bobl. Ymysg y materion dan drafodaeth oedd deunyddiau i ysgolion, gwydnwch amaethyddol a bwyd, bioamrywiaeth, cyfleoedd i fusnesau, a sut gall cymunedau barhau â'r sgwrs ac ymgysylltu â chynrychiolwyr etholedig.

NEB The Assembly Room

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Roedden ni'n teimlo ei bod yn bwysig bod cynrychiolwyr lleol yn cael y cyfle i glywed y drafodaeth sy'n digwydd yn yr ystafell.  Un o'r teimladau cryfaf yn yr ystafell oedd rhyddhad — bod materion roedd llawer o bobl wedi bod yn poeni'n dawel amdanynt ers amser maith o'r diwedd yn cael eu trafod yn agored, yn glir ac ar y cyd.  Yr hyn oedd yn sefyll allan oedd pa mor gyflym y symudodd y drafodaeth o bryder i gwestiynau ymarferol ynglŷn â beth y gallai'r bobl yma ei wneud gyda'i gilydd nesaf”

Ychwanegodd Jane Hodgson, Rheolwr Newid Hinsawdd Cyngor Sir Dinbych: “Roedden ni’n falch iawn o ba mor barod oedd pobl i aros, siarad, a gwrando ar ei gilydd wedyn. Dangosodd y trafodaethau fod llawer o bobl yn gwerthfawrogi cael lle i archwilio’r materion hyn. Yr hyn a safodd allan oedd yr egni sy’n dod pan fydd pobl yn gallu wynebu gwybodaeth anodd a gweithio gyda’i gilydd, yn hytrach na theimlo eu bod nhw’n cario’r baich ar eu pennau eu hunain.”

Dymuna’r cyngor ddiolch i'r cynulleidfaoedd a gymerodd ran yn y trafodaethau a'r hwyluswyr gwirfoddol o Hinsawdd Cymru, Cyfeillion y Ddaear a'r Gynghrair Seicoleg Hinsawdd a roddodd o'u hamser yn hael.

Gallwch weld ble mae ‘r ffilm yn cael ei dangos ar y ddolen ganlynol - https://www.nebriefing.org/screening-map

 

 

Codi sbwriel yn yr haf yn creu naws Nadoligaidd wrth ddod o hyd i rywbeth hynod ar y traeth

Cafodd criw o gasglwyr sbwriel yr haf hwn flas ar ysbryd y Nadolig wedi dod o hyd i ddarn syfrdanol o sbwriel

Cafodd criw o gasglwyr sbwriel yr haf hwn flas ar ysbryd y Nadolig wedi dod o hyd i ddarn syfrdanol o sbwriel.

Bu Tîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych a Chwmni Buddiant cymunedol Tyfu Prestatyn wrthi’n codi sbwriel ar Draeth Barkby ym Mhrestatyn yn ddiweddar. Darparwyd cyfarpar gan Cadw Cymru’n Daclus a’r Gymdeithas Gadwraeth Forol.

Llwyddodd criw o 14, gan gynnwys gwirfoddolwyr, i gasglu 11 o sachau o sbwriel o’r traeth, a oedd yn pwyso 18.5 cilogram yn ei grynswth.

Ymysg y pethau anarferol y daeth y grŵp ar eu traws oedd goleuadau Nadolig oedd yn dal yn gweithio, a sosban.

Meddai Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Diolch i bawb a ymunodd â ni i godi sbwriel y tro hwn. Rydym oll yn gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael ag effaith sbwriel o’r môr yn yr ardal, yn enwedig yn ystod yr haf, gan y gall rwystro dyfrffyrdd a draeniau, atal llif y dŵr a chreu mwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

Gall tynnu sbwriel o’r traeth hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd rhag y môr yn well. Mae digwyddiadau codi sbwriel fel hyn hefyd yn gwella’r amgylchedd i bobl leol ac ymwelwyr.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Priffyrdd a’r Amgylchedd:  “Dyma enghraifft fendigedig o’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau eraill a’r gwirfoddolwyr gwych yn lleol. At ei gilydd, mae hyn yn cyfrannu’n helaeth at reoli perygl llifogydd yn lleol oherwydd sbwriel o’r môr, gwarchod yr amgylchedd a gwneud lleoedd fel Traeth Barkby yn gymaint brafiach i bobl ddod yma a mwynhau.”

 

 

 

Ymateb Cyngor Sir Ddinbych i'r dyfarniadau yn yr achos camfanteisio rhywiol ar blant

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn meddwl am, ac yn cydymdeimlo gyda’r merched ifanc sydd wrth wraidd yr achos camfanteisio rhywiol ar blant yn y Rhyl, ac hoffem gydnabod y dewrder a’r gwroldeb a ddangoswyd ganddynt wrth siarad allan i sicrhau cyfiawnder mewn amgylchiadau hynod o anodd.

Nawr bod y rhai sy'n gyfrifol am y cam-drin a ddioddefodd y bobl ifanc yma wedi cael eu dwyn o flaen eu gwell, bydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn bwrw ymlaen â’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS), a gynhelir yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Nid yw’r ADUS yn rhan o’r broses droseddol – ei nod yw archwilio sut mae’r asiantaethau wedi ymdrin â’r bobl ifanc a nodi pa wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio’n agos gyda’r Bwrdd fel rhan o’r broses hon.

Mae dyfarniad heddiw yn dod â phennod hynod anodd ac emosiynol i ben i’r gymuned leol yn y Rhyl. Rydym yn deall bod yr achos hwn wedi bod yn heriol ac wedi codi teimladau cryf. Gofynnwn i bawb barchu’r broses gyfreithiol wrth i ni ymdopi â’r canlyniad hwn.

Gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gael i bob plentyn dwy oed yn Sir Ddinbych o fis Medi

Mae gofal plant a ariennir ar gyfer plant dwy oed i fod ar gael ledled Sir Ddinbych gyfan o fis Medi.

Bydd plant yn derbyn deuddeg awr a hanner o ofal plant a ariennir yn ystod tymor yr ysgol mewn lleoliad cofrestredig.

Gellir defnyddio'r ddarpariaeth gofal plant hon o'r tymor ysgol ar ôl ail ben-blwydd plentyn, tan y tymor ysgol ar ôl eu trydydd pen-blwydd.

Mae'r ffenestr ymgeisio ar agor ar hyn o bryd ac mae'n cau ar 10 Awst.

Ar ôl eu cyflwyno, bydd ceisiadau'n cael eu hasesu ar ôl y dyddiad cau, gyda rhieni'n cael gwybod am y canlyniadau o 11 Medi.

Gellir gwneud ceisiadau ar y dudalen ar y ddolen ganlynol: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/gofal-plant-a-rhianta/teuluoedd-yn-gyntaf-a-dechraun-deg/gofal-plant-dechraun-deg.aspx

Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn cynnwys rhan fwyaf o'r sir, gyda Chorwen, Dinbych, Dyserth, Henllan, Llangollen, Gallt Melyd, Prestatyn, Rhuddlan a'r Rhyl yn y dalgylch presennol. Bydd y cyflwyniad diweddaraf hwn yn sicrhau bod pobman yn y sir  wedi'i chynnwys yn y cynllun hwn. Mae'r ehangu'n bosibl yn dilyn cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yng nghyllideb atodol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran tîm Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf:

“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y rhaglen gofal plant hon ar gael ledled Sir Ddinbych o fis Medi ymlaen.

Gan ddarparu adnodd amhrisiadwy i deuluoedd ledled y sir, bydd ein holl blant dwy oed yn cael cynnig deuddeg awr a hanner o ofal plant wedi'i ariannu yn ystod tymor yr ysgol mewn lleoliad cofrestredig, gyda mwy o leoliadau bellach yn cael eu cynnig o ganlyniad i'r cyflwyniad diweddaraf hwn.

Hoffwn annog trigolion yn yr ardaloedd cymwys newydd i wneud cais trwy'r dudalen ar wefan y cyngor.”

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Bydd yr ehangu hwn ar ddarpariaeth gofal plant yn golygu bod pob ardal yn Sir Ddinbych bellach wedi'i chynnwys.

Gall teuluoedd ledled y sir wneud cais nawr i gael mynediad at y ddarpariaeth gofal plant am ddim i blant 2 oed, sy'n gymorth enfawr i rieni a theuluoedd, gan ddarparu darpariaeth gofal plant hanfodol yn ystod y tymor.”

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ofal plant, Sioned Williams:

"Mae hyn yn newyddion ardderchog ac yn dangos sut rydym yn cyflymu ein hymrwymiadau i ddarparu mwy o gefnogaeth i deuluoedd. Costau gofal plant yng Nghymru yw'r uchaf yn y DU ac rwy'n benderfynol o helpu i ostwng costau i deuluoedd ym mhob rhan o Gymru, gan sicrhau hefyd y gall plant gael y dechrau gorau mewn bywyd, i gefnogi eu datblygiad. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru i sicrhau y gall pob teulu elwa o ofal plant mwy fforddiadwy a hygyrch."

Byddwch yn anturus yr haf hwn: Archwilio'r tu allan a helpu eich teulu i ffynnu

Mae teuluoedd yng Ngogledd Cymru yn cael eu hannog i fanteisio ar yr awyr agored yr haf hwn er mwyn darganfod y cyfoeth o anturiaethau sydd ar gael wrth garreg eu drws am ddim neu am gost isel trwy'r fenter Archwilio'r Tu Allan!.

Yr haf hwn, gall teuluoedd wneud y mwyaf o'u gwyliau’r haf hwn drwy archwilio parciau, traethau, coedwigoedd, meysydd chwarae a mannau gwyrdd lleol ar draws y rhanbarth. Mae treulio amser yn yr awyr agored yn hybu iechyd emosiynol, lles a datblygiad plant yn ogystal â'u diddanu.

Archwilio\'r tu allan

Mae ymchwil yn dangos yn gyson bod cysylltu â natur yn gallu gwella iechyd meddwl a lles. Mae chwarae yn yr awyr agored yn annog plant a phobl ifanc i fod yn actif, defnyddio eu dychymyg, datrys problemau, cymryd risgiau y gellir eu rheoli a meithrin hyder ac annibyniaeth. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i deuluoedd dreulio amser gyda'i gilydd a chryfhau eu cysylltiad â'r cymunedau y maen nhw’n byw ynddyn nhw.

Mae Archwilio'r Tu Allan! yn gyfeiriadur ar-lein sy'n helpu teuluoedd i ddarganfod lleoedd awyr agored i'w harchwilio, eu mwynhau a chwarae ynddyn nhw ledled Gogledd Cymru. Wedi'i ddatblygu gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Plant Gogledd Cymru mae'n cynnwys ystod eang o leoliadau i'w hymweld am ddim neu am gost isel, gan ei gwneud hi'n haws nag erioed i deuluoedd ddatgelu trysorau cudd, rhoi cynnig ar anturiaethau newydd a manteisio i'r eithaf ar wyliau'r haf gyda'i gilydd.

Gall teuluoedd ddefnyddio Archwilio'r Tu Allan! i ddod o hyd i:

  • Meysydd chwarae a mannau chwarae antur
  • Parciau a mannau gwyrdd
  • Traethau a llwybrau cerdded arfordirol
  • Llwybrau mewn coedwigoedd a safleoedd natur
  • Mannau agored ar gyfer gemau i'r teulu a phicnic
  • Trysorau cudd mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru

Mae pob antur awyr agored yn cynnig cyfle i blant ddatblygu sgiliau newydd, meithrin gwydnwch, magu hyder a chreu atgofion parhaol gyda theulu a ffrindiau.

Awgrymiadau Ardderchog ar gyfer Anturiaethau Awyr Agored yr Haf

  • Gadewch i blant arwain y ffordd – Anogwch blant i ddewis ble i fynd a beth i'w archwilio er mwyn meithrin hyder, chwilfrydedd ac annibyniaeth.
  • Dechreuwch yn agos at gartref – Gall parciau, traethau, coedwigoedd a llwybrau lleol fod yn anturiaethau cyffrous heb orfod teithio’n bell.
  • Meddyliwch am heriau – Chwiliwch am fywyd gwyllt, casglwch ddail diddorol, adnabyddwch adar neu crëwch helfa drysor syml i gadw plant yn brysur.
  • Cymerwch amser i gysylltu – Mae anturiaethau awyr agored yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer sgyrsiau i'r teulu i gyd oddi wrth sgriniau a phethau sy'n tynnu eich sylw bob dydd.
  • Darganfyddwch rywle newydd – Mae ymweld â lleoedd anghyfarwydd yn helpu plant i ddysgu addasu, magu hyder a dealltwriaeth gryfach o'r byd o'u cwmpas.
  • Triniwch Ogledd Cymru gyda pharch – Dilynwch y Cod Cefn Gwlad trwy fynd â sbwriel adref, parcio’n gyfrifol, parchu bywyd gwyllt a da byw, a chan adael dim olion o’ch ymweliad ar eich ôl. Yn ystod tywydd sych, dylech osgoi gweithgareddau a allai ddechrau tanau gwyllt a helpwch i amddiffyn amgylchedd naturiol Gogledd Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Archwilio'r Tu Allan! yn rhan o Fframwaith Iechyd Lles a Gwytnwch Emosiynol Gogledd Cymru sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws y rhanbarth drwy annog ffyrdd iach o fyw a chysylltiadau cadarnhaol â natur a chymunedau lleol.

Anogir teuluoedd i ddechrau cynllunio eu hantur awyr agored nesaf drwy ymweld â gwefan Archwilio'r Tu Allan! i ddarganfod yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael ledled Gogledd Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r gwefannau isod:

Y Cyngor yn Amlinellu'r Camau Nesaf yn dilyn Pryderon am y Bagiau Ailgylchu Glas

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cydnabod ac yn deall pryderon a godwyd gan drigolion ac aelodau lleol ynghylch y bagiau ailgylchu cardbord glas, ac rydym am roi sicrwydd i bobl bod y tîm Gwastraff ac Ailgylchu wedi gwrando ar farn trigolion ac wedi ymrwymo i edrych ar y mater hwn yn ofalus.

Mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ym mis Mai eleni, trafododd cynghorwyr hysbysiad o gynnig a oedd ar yr agenda ynghylch adolygu a diwygio'r Polisi Casglu Ailgylchu a Gwastraff na ellir ei Ailgylchu.

Yn dilyn yr Hysbysiad o Gynnig, dechreuwyd ar waith i baratoi adroddiad llawn a fydd yn amlinellu'r opsiynau ynghylch cynwysyddion ailgylchu trigolion, gan gynnwys y bag cardbord glas.

Rhaid i'r Cyngor ddilyn y broses briodol, a bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Medi. Yn dilyn argymhellion y pwyllgor, bydd yn mynd gerbron y Cabinet yn yr hydref, lle gwneir penderfyniad ynghylch unrhyw newidiadau arfaethedig i'r Polisi Casglu Ailgylchu a Gwastraff na ellir ei Ailgylchu.

Tra bod y broses hon ar y gweill, rydym yn annog trigolion i barhau i ddefnyddio unrhyw fagiau glas sy'n parhau i fod mewn cyflwr da, ar yr amod y gellir eu casglu'n ddiogel gan ein timau a'u gwagio i'r cerbyd casglu. Gall trigolion sydd â bagiau sydd wedi'u difrodi ac na ellir eu defnyddio mwyach archebu un newydd drwy wefan y Cyngor. Dylid bagiau newydd gyrraedd o fewn 4 wythnos.

Yn y cyfamser, gall trigolion gyflwyno eu cardbord i'w gasglu mewn bag addas arall o faint tebyg i'r bag ailgylchu cardbord glas a ddarperir gan y Cyngor. Bydd ein timau yn casglu'r rhain.

Hoffem ddiolch yn ddiffuant i drigolion am eu hymdrechion parhaus i ailgylchu ac am y gefnogaeth y maent yn ei dangos i'n timau casglu. Mae eu hymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan ein helpu i ddiogelu amgylchedd lleol Sir Ddinbych ac adeiladu sir lanach a mwy cynaliadwy ar gyfer cymunedau nawr ac yn y dyfodol.

Y Cyngor yn rhoi diweddariad am brosiect Cae Ddôl

Mae'r parc yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa trigolion ac ymwelwyr fod parc Cae Ddôl yn dal ar agor i’r cyhoedd, er bod gwaith gwella wedi dechrau yno.

Efallai fod trigolion wedi sylwi bod gwaith uwchraddio wedi dechrau’n ddiweddar yng Nghae Ddôl er mwyn gwella profiadau a chyfleusterau i ymwelwyr a chefnogi swyddogaeth y parc fel ased cymunedol gwerthfawr.

Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

Cafodd y cyllid hwn, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall.

Fel rhan o’r gwelliannau i ymwelwyr ar y safle, bydd y prosiect yn creu llwybr teithio llesol 480 metr o hyd a fydd yn ymdroelli drwy’r parc er mwyn gwneud y lleoliad yn fwy hygyrch i gerddwyr a beicwyr. Bydd pont newydd yn cael ei hadeiladu yn lle yr hen bont ganolog a bydd trac pwmpio newydd yn cael ei osod yn y parc hefyd.

Tra bo’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo mewn rhai rhannau o’r parc, gwneir pob ymdrech i amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar ddefnyddwyr y parc a sicrhau bod y parc yn dal i fod ar gael i bobl ei fwynhau dros fisoedd yr haf.

Gan y bydd angen gosod cyfyngiadau dros dro mewn rhai rhannau o’r parc wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo, gofynnwn i ymwelwyr ddilyn yr holl arwyddion a chanllawiau ar y safle.

Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys adnewyddu'r toiledau cyhoeddus, a fydd yn cael eu trosglwyddo i Gyngor Tref Rhuthun ar ôl eu cwblhau. Tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, mae cyfleuster dros dro wedi'i osod yn y parc ac mae ar gael i'r cyhoedd ei ddefnyddio am ddim.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r gyfres hon o welliannau yng Nghae Ddôl yn dilyn ymlaen o waith gwella eithriadol o boblogaidd a gwblhawyd yn y parc chwarae ychydig flynyddoedd yn ôl. 

"Hoffem sicrhau trigolion ac ymwelwyr fod parc Cae Ddôl yn parhau ar agor tra bo’r gwaith gwella pwysig hwn yn cael ei wneud a gwerthfawrogwn amynedd y cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn.

“Disgwylir i’r prosiect hwn gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2027 ac edrychwn ymlaen at ddarparu gofod o ansawdd uchel y bydd y gymuned yn elwa ohono am flynyddoedd i ddod. Mae ymwelwyr y parc yn cael eu hannog i barhau i fwynhau’r parc a dilyn unrhyw arwyddion dros dro a allai fod mewn lle i sicrhau diogelwch y cyhoedd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect yng Nghae Ddôl ewch i’n gwefan.

Buddsoddiad mawr i ddod â mwy o gartrefi fforddiadwy a chyfleoedd busnes newydd i ganol tref y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cymryd cam sylweddol arall ymlaen wrth adfywio canol tref y Rhyl, gyda chynlluniau’n mynd rhagddynt i drawsnewid dau eiddo amlwg ar y Stryd Fawr yn gartrefi fforddiadwy ac unedau masnachol wedi’u hadnewyddu.

Mae’r Cyngor yn paratoi i benodi contractwr i gyflawni’r gwaith ailddatblygu yn 64 Stryd Fawr a 2–4 Ffordd Wellington, gan ddod â’r lloriau uchaf gwag yn ôl i ddefnydd fel cartrefi fforddiadwy modern ac ynni-effeithlon, tra hefyd yn adnewyddu’r unedau manwerthu ar y llawr gwaelod ar gyfer busnesau’r dyfodol.

Mae’r prosiect yn rhan o weledigaeth hirdymor y Cyngor i roi bywyd newydd i ganol tref y Rhyl drwy gynyddu nifer y bobl sy’n byw yng nghanol y dref, cefnogi busnesau lleol a chreu cymuned fwy bywiog a chynaliadwy.

Yn ogystal â darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen, bydd yr ailddatblygiad yn creu mannau masnachol deniadol ar gyfer busnesau bach, gan helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi’r economi gyda’r nos a chryfhau dyfodol hirdymor canol y dref. Bydd y cynllun hefyd yn darparu cartrefi ynni-effeithlon sy’n helpu i leihau allyriadau carbon wrth wneud defnydd o adeiladau presennol.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau:

“Mae’r datblygiad hwn yn un rhan yn unig o strategaeth y Cyngor i geisio adfywio canol trefi yn Sir Ddinbych ac mae’n garreg filltir gyffrous arall yn ein buddsoddiad parhaus yng nghanol tref y Rhyl. Trwy ddod â’r adeiladau amlwg hyn yn ôl i ddefnydd, rydym yn creu cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen tra hefyd yn darparu mannau masnachol modern a fydd yn helpu i gefnogi busnesau lleol a denu mwy o bobl i ganol y dref.

“Mae prosiectau fel hyn yn dangos ein hymrwymiad i adfywio’r Rhyl mewn ffordd sy’n dod â budd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd. Bydd cael mwy o bobl yn byw yng nghanol y dref yn helpu i greu cymuned fywiog a llewyrchus, gan wneud y defnydd gorau posibl o adeiladau presennol er budd cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae’r datblygiad yn cefnogi Strategaeth Tai a Digartrefedd Cyngor Sir Ddinbych drwy gynyddu’r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ac yn cyfrannu at Gynllun Corfforaethol y Cyngor drwy helpu i sicrhau bod digon o gartrefi o ansawdd da i ddiwallu anghenion lleol.

Disgwylir hefyd i’r cynllun ddarparu manteision ehangach i’r gymuned, gan gynnwys cefnogi cadwyni cyflenwi lleol yn ystod y gwaith adeiladu, gwella bioamrywiaeth, annog teithio llesol a gwella ymddangosiad y rhan bwysig hon o ganol tref y Rhyl.

Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn ddiweddarach eleni ar ôl cwblhau’r broses gaffael.

Cyngor yn mynd i’r afael â gwastraff anghyfreithlon ar lôn gefn yn y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi dirwy o £300 i rywun o’r Rhyl wedi i ymchwiliad ganfod eu bod wedi methu â chyflawni eu Dyletswydd Gofal gyfreithiol ynghylch Gwastraff Domestig

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi dirwy o £300 i rywun o’r Rhyl wedi i ymchwiliad ganfod eu bod wedi methu â chyflawni eu Dyletswydd Gofal gyfreithiol ynghylch Gwastraff Domestig.

Cymerwyd camau gorfodi wedi dod o hyd i swm o wastraff domestig oedd wedi’i ollwng ar lôn gefn rhwng Stryd y Baddon a Heol Gwynfa yn y Rhyl. Gweithredodd y Cyngor fel rhan o’i ymdrechion parhaus i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a gwella’r amgylchedd lleol.

Wedi dod o hyd i’r gwastraff, aeth swyddogion Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor ati i bori drwy’r gwastraff a daethant o hyd i dystiolaeth o’r sawl a oedd yn gyfrifol am daflu’r gwastraff.

Ymchwiliwyd ymhellach i ganfod bod y preswylydd dan sylw wedi trefnu i rywun arall fynd â gwastraff o’u cartref ac wedi methu â chymryd camau rhesymol i sicrhau y câi ei waredu’n gyfreithlon. Yn sgil hynny, gollyngwyd y gwastraff yn anghyfreithlon ar lôn gefn.

Yn hytrach nag erlyn yr unigolyn gerbron llys, cyflwynodd y Cyngor Rybudd Cosb Benodedig o £300 am fethu â chyflawni’r Ddyletswydd Gofal ynghylch Gwastraff Domestig.

Dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, mae gan breswylwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau nad ydynt ond yn trosglwyddo eu gwastraff i rywun â’r awdurdod i’w dderbyn neu gludwr gwastraff cofrestredig. Dylai unrhyw un sy’n trefnu i gael gwared â gwastraff ofyn bob amser am weld prawf dilys o fod yn Gludwr Gwastraff Cofrestredig a chadw cofnod o bwy bynnag a gasglodd eu gwastraff. Gall methu â gwneud hynny arwain at gamau gorfodi os canfyddir yn nes ymlaen bod y gwastraff wedi’i ollwng yn anghyfreithlon.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych: “Mae tipio anghyfreithlon yn dal yn cael effaith fawr ar ein cymunedau ni, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae’n digwydd dro ar ôl tro ac yn boendod i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr. Mae llawer o bobl yn tybio bod eu cyfrifoldeb am eu gwastraff yn dod i ben ar ôl talu rhywun i gael gwared arno, ond mae’r gyfraith yn dweud yn bendant fod gan breswylwyr Ddyletswydd Gofal i sicrhau eu bod yn trosglwyddo’r gwastraff i rywun â’r awdurdod i’w gludo.

Bydd ein swyddogion yn dal i ymchwilio’n drylwyr i achosion o dipio anghyfreithlon ac yn cymryd camau priodol os canfyddir troseddau.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydyn ni’n benderfynol o wella’r amgylchedd ledled Sir Ddinbych a mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ble bynnag y mae’n digwydd. Mae gorfodi’n rhan bwysig o’r gwaith hwnnw, ond rydym hefyd yn awyddus i annog pobl i gymryd ychydig o gamau syml cyn cael gwared â’u gwastraff. Os ydi pobl yn gwneud yn siŵr fod pwy bynnag sy’n cael gwared â’u gwastraff wedi cofrestru, gyda’n gilydd mi fedrwn ni atal tipio anghyfreithlon ac amddiffyn ein cymunedau lleol.”

Mae modd i bobl gadarnhau a yw unigolyn neu fusnes wedi cofrestru’n gyfreithiol i gludo gwastraff drwy fwrw golwg ar Gofrestr Cludwyr Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru cyn cael gwared â’u gwastraff. Os yw rhywun yn dyst i achos o dipio anghyfreithlon neu’n dymuno rhoi gwybod am ddigwyddiad, dylent gysylltu â Chyngor Sir Ddinbych ar unwaith.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf ar ei hanterth

Ydych yn chwilio am weithgareddau hwyliog am ddim dros yr haf i blant? Cofrestrwch ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf yn eich llyfrgell leol! Thema Her eleni yw 'Cyfrolau’n Canu’, sy'n annog plant i barhau i ddarllen dros wyliau'r haf wrth ddarganfod llawenydd mewn cerddoriaeth a straeon.

Bydd llyfrgelloedd hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog am ddim, gan gynnwys sesiynau crefft, amseroedd stori, ymweliadau gan awduron a gweithdai cerddoriaeth. Cysylltwch â'ch llyfrgell leol i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd gweithdai rap a bît-bocsio am ddim i helpu i feithrin hyder gyda Mr Phormula, pencampwr technegau ‘loopio’ byw presennol Cymru, yn addas ar gyfer plant rhwng 6 a 12 oed.

Bydd y Welsh Whisperer, perfformiwr ac awdur, yn sôn am ei lyfr 'Llyfr Peiriannau'r Fferm' ac yn canu rhai caneuon.

Bydd yr awdur lleol Oliver Sykes yn cyflwyno ei sioe un dyn newydd sbon, 'Diesel and Me', dathliad doniol, bywiog a theimladwy o gymuned a'r teulu rydym yn ei greu o'n cwmpas, ar gyfer plant (5 oed a throsodd) a'r oedolion sy'n dod gyda nhw.

Mae ymuno â'r llyfrgell yn RHAD AC AM DDIM, ac mae benthyg llyfrau hefyd yn RHAD AC AM DDIM. Does dim angen poeni am ddirwyon am lyfrau hwyr chwaith. Ewch i'ch llyfrgell leol i gofrestru a dechrau antur ddarllen eich plentyn!

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

"Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig llawer mwy na benthyg llyfrau – maent yn lleoedd croesawgar lle gall plant a theuluoedd ddysgu, creu a chael hwyl gyda'i gilydd. Mae Her Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o gadw plant yn darllen dros y gwyliau, ac mae thema eleni, 'Ddarllen i'r Curiad', yn dod â cherddoriaeth a straeon ynghyd mewn ffordd hwyliog ac ysbrydoledig. Rwy'n annog teuluoedd ledled Sir Ddinbych i fanteisio ar y rhaglen wych o weithgareddau sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd yr haf hwn."

DIGWYDDIADAU

Mr Phormula

  • Dydd Llun, 3 Awst (10.30am – 12.00pm) – Llyfrgell Rhuthun (archebwch ymlaen llaw)
  • Dydd Llun, 3 Awst (1.30pm – 3.00pm) – Llyfrgell Dinbych (archebwch ymlaen llaw)

 

Y Welsh Whisperer

  • Dydd Llun, 17 Awst (11.00am) – Llyfrgell Rhuthun (archebwch ymlaen llaw)
  • Dydd Llun, 17 Awst (2.00pm) – Llyfrgell Dinbych (archebwch ymlaen llaw)

 

Oliver Sykes

  • Dydd Mawrth, 25 Awst (11.00am) – Llyfrgell Prestatyn (archebwch ymlaen llaw)
  • Dydd Mercher, 26 Awst (11.00am) – Llyfrgell Llanelwy (archebwch ymlaen llaw)
  • Dydd Mercher, 26 Awst (2.00pm) – Llyfrgell y Rhyl (archebwch ymlaen llaw)

Clwb Book Beats – galwch heibio am straeon, crefftau a hwyl!

  • Dydd Llun a dydd Gwener drwy gydol mis Awst (10.00am – 12.00pm) – Llyfrgell Prestatyn
  • Dydd Mawrth a dydd Iau drwy gydol mis Awst (10.00am – 12.00pm) – Llyfrgell y Rhyl

Crefftau'r Haf

  • Bob dydd Gwener (11.00am – 12.00pm) – Llyfrgell Llangollen (archebwch ymlaen llaw)

Ewch i'ch llyfrgell leol i gofrestru a dechrau antur ddarllen eich plentyn! I weld lle mae'r llyfrgelloedd yn Sir Ddinbych, ewch i'n gwefan

Archifau’n gweithio gydag Ysgol Rhuthun i warchod hanes

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn gweithio ochr yn ochr â gweinyddwyr Ysgol Rhuthun, FRP Advisory, i ddiogelu treftadaeth ddogfennol yr ysgol, gan sicrhau bod yr hanes yn cael ei gadw ac yn hygyrch am genedlaethau i ddod.

Gyda dros 700 mlynedd o hanes, mae Ysgol Rhuthun wedi chwarae rhan arwyddocaol yn y gymuned leol, nid yn unig fel canolfan addysg ond fel cyflogwr hefyd. Er bod yr ysgol bellach wedi cau ei drysau, mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod ei chofnodion hanesyddol yn cael eu cadw yn hytrach na’u colli.

Ar yr un pryd, mae Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio i gefnogi plant a’u rhieni neu ofalwyr sy’n cael eu heffeithio gan gau’r ysgol.  Anogir teuluoedd i gysylltu â’r Cyngor os oes arnynt angen cyngor neu gymorth gyda sicrhau lle mewn ysgol. Mae gwybodaeth am dderbyniadau ysgol ar gael ar wefan y Cyngor.

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru eisoes yn gofalu am ystod eang o gasgliadau ysgol ar draws y rhanbarth, yn cynnwys Ysgol Howell yn Ninbych ac Ysgol Grove Park yn Wrecsam. Mae’r gwasanaeth archifau wedi ymrwymo i gadw unrhyw gofnodion sydd wedi goroesi o Ysgol Rhuthun i’r un safon uchel, gan sicrhau eu bod ar gael i gefnogi ymchwil, hanes teuluol, addysg a threftadaeth gymunedol.

Meddai’r Archifydd, Sarah Roberts: “Mae archifau ysgol yn fwy na chasgliadau o ddogfennau gweinyddol. Maent yn adrodd hanes disgyblion, staff a chymunedau lleol, gan gofnodi bywyd bob dydd ochr yn ochr â cherrig milltir a chyflawniadau arwyddocaol.  Mae cadw’r cofnodion hyn yn helpu i warchod hunaniaeth unigryw’r ysgol tra’n creu adnoddau parhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae cau Ysgol Rhuthun yn newyddion trist iawn i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol a’r gymuned ehangach. Ein blaenoriaeth yw cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd drwy’r cyfnod anodd hwn, mae ein Gwasanaeth Addysg ar gael i roi cyngor ac arweiniad i helpu rhieni a gofalwyr i sicrhau lleoedd ysgol priodol ar gyfer eu plant.”

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth Cyngor Sir Ddinbych: “Mae Ysgol Rhuthun wedi bod yn rhan bwysig o hanes yr ardal ers canrifoedd. Er bod y bennod hon wedi dod i ben, mae’n bwysig nad yw hanes nodedig yr ysgol yn cael ei golli. Drwy weithio gyda gweinyddwyr i gadw ei chofnodion, gallwn helpu i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu deall a gwerthfawrogi cyfraniad yr ysgol i addysg ac i fywyd ein cymuned.”

Mae gan y Gwasanaeth Archifau ddiddordeb hefyd mewn unrhyw gofnodion gan unrhyw gyn-ddisgyblion neu aelodau o’r gymuned, yn cynnwys lluniau o’r ysgol, newyddlenni neu brosbectysau. Gall unrhyw un sydd â deunyddiau yr hoffent eu cynnig i’r Gwasanaeth Archifau, gysylltu drwy anfon neges e-bost at  archives@newa.wales neu drwy ymweld â gwefan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru am fwy o wybodaeth.

 

Cyngor yn annog masnachwyr i wirio diogelwch teganau poblogaidd

  Anogir manwerthwyr i sicrhau bod eu nwyddau’n cydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

 

Anogir manwerthwyr i sicrhau bod eu nwyddau’n cydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

Wedi’r ymgyrch yn ddiweddar i fynd i’r afael â nwyddau ffug yn y sir, pan feddiannwyd mwy na 600 o eitemau, mae tîm Safonau Masnach y Cyngor yn atgoffa siopwyr a’u cwsmeriaid i fod yn wyliadwrus wrth i’r ffasiwn ddiweddaraf ar gyfryngau cymdeithasol gyrraedd y silffoedd.

Mae ‘Squishy Dumplings’ a ‘NeeDoh’ ymysg y teganau mwyaf newydd sydd wedi dod yn boblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol ac wrth i’r galw amdanynt gynyddu, mae swyddogion wedi sylwi hefyd fod yno fwy o fersiynau ffug ar werth ledled y sir.

Wrth ymrwymo i fynd i’r afael â nwyddau ffug, mae’r tîm Safonau Masnach yn annog manwerthwyr i sicrhau bod eu stoc yn cydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig ac yn atgoffa pobl o’r arwyddion cyffredin i gadw golwg amdanynt er mwyn adnabod nwyddau ffug.

 Ymysg yr arwyddion bod nwyddau’n ffug mae: 

  • Enw a chyfeiriad y gwneuthurwr. Os yw’r gwneuthurwr y tu allan i’r Deyrnas Unedig, dylai nwyddau ddangos enw a chyfeiriad y gwneuthurwr yn ogystal â’r mewnforiwr.
  •  Math, swp, rhif model neu rif cyfres.
  •  Marc CE a/neu UKCS – mae’r marciau hyn yn fodd i’r gwneuthurwr ddatgan bod y tegan yn ddiogel, ac mae’n rhaid i’r marc fod ar y tegan ei hun neu’r deunydd pecynnu, a bod yn barhaol a hawdd ei ddarllen.

 Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Rydyn ni wedi sylwi fod ffasiynau ar gyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar dwf mewn gwerthu nwyddau ffug. Wrth i’r teganau ‘squishy’ ddod yn fwy poblogaidd, mae’r galw amdanynt yn cynyddu a throseddwyr yn ceisio gwneud elw drwy wneud fersiynau ffug yn rhad.

“Mae’r nwyddau go iawn wedi bod drwy gyfres o brofion diogelwch llym ac efallai’n wir na fydd y rhai ffug yn bodloni’r un safon, sy’n creu perygl i ddefnyddwyr, a phlant yn enwedig, gan fod y rhai ffug yn debygol o fod â’r labeli anghywir neu ddim o gwbl, ac wedi’u gwneud o ddefnyddiau anaddas.

“Mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i fynd i’r afael â gwerthu nwyddau ffug drwy addysgu siopwyr a’u cwsmeriaid a chynnal ymweliadau ag amryw safleoedd ledled y sir. Buont yn ymweld â nifer o fannau yn ddiweddar, ac fe feddiannon nhw symiau mawr o nwyddau ffug a rhai a fedrai fod yn beryglus.”

Os oes rhywun wedi prynu tegan neu unrhyw beth arall y maent yn amau ei fod yn ffug, dylent roi gwybod i wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 0808 223 1144 (llinell Saesneg: 0808 223 1133 neu fynd i’w gwefan - https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Defnyddwyr/get-more-help/if-you-need-more-help/

Gall busnesau gysylltu â Thîm Safonau Masnach Sir Ddinbych i gael cyngor ar nwyddau ffug drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych.

Cynaeafu hadau blodau gwyllt i helpu natur ffynnu ledled Sir Ddinbych

Mae gwaith yn mynd rhagddo i hybu dyfodol blodau gwyllt cynhenid Sir Ddinbych

Mae gwaith yn mynd rhagddo i hybu dyfodol blodau gwyllt cynhenid Sir Ddinbych.

Mae timoedd Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio i gynhyrchu cymysgedd hadau lleol cynhenid i Sir Ddinbych er mwyn cefnogi’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor.

Mae’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yn cynnal ac amddiffyn byd natur yn lleol ac yn cefnogi lles cymunedau ledled y sir.  Mae’n cael ei ariannu hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae gwaith cynaeafu hadau yn digwydd yn nolydd blodau gwyllt y sir sydd yn gyfoethog o ran rhywogaethau.

Gan ddefnyddio cynaeafwr brwsh wedi’i dynnu gan ATV, mae hadau cynhenid penodol i safle yn cael eu casglu drwy ddull effaith isel, gan na fydd y peiriant yn torri na difrodi’r llystyfiant yn ddifrifol.

Unwaith iddynt gael eu casglu, bydd y cymysgedd o hadau o’r safleoedd a ddewiswyd ar gyfer cynaeafu, yn cael eu defnyddio i helpu rhai o’r dolydd llai amrywiol, drwy hadu yn ystod cyfnod yr hydref.

Casglwyd hadau o ddolydd lleol y sir y llynedd gan eu hadu ar safle yn Ffordd Colomendy Dinbych nad oedd yn ffynnu. Mae’r tîm Bioamrywiaeth wedi nodi atgyfodiad y blodau gwyllt yn ystod arolwg yno'r tymor hwn.

Meddai Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth:  “Gall y safleoedd dolydd blodau gwyllt sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau, a grëwyd trwy ddod a glaswelltir amwynder a lleiniau trefol i reolaeth blodau gwyllt trwy dorri a chasglu tymhorol, helpu i wella ein dolydd llai amrywiol. Rydym yn cynaeafu hadau o ystod amrywiol o blanhigion, ac unwaith cânt eu hadu ar y safleoedd dewisol, gobeithio bydd trigolion yn gweld mwy o amrywiaeth y flwyddyn nesaf. Gan helpu i ddarparu adnodd cefnogi cryfach i beillwyr a bywyd gwyllt lleol hefyd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn brosiect pwysig ar gyfer adfer cynefinoedd sydd wedi’u difrodi’n ddifrifol ers y 1930au. Rwy’n gwybod bod y tîm Bioamrywiaeth, ynghyd â’n gweithwyr gwasanaethau stryd, wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i reoli a datblygu ein dolydd. Mae defnyddio safleoedd aeddfed i roi help llaw i safleoedd llai amrywiol, trwy’r gwaith hadu hwn yn dangos gwerth yr amser ac ymdrech mae pawb wedi ei roi i warchod natur trwy gydol y prosiect hwn.”

Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth Ddigidol newydd

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo Strategaeth Ddigidol 2026-2031 newydd, gan nodi sut y bydd technoleg yn helpu i wella gwasanaethau i breswylwyr

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo Strategaeth Ddigidol 2026-2031 newydd, gan nodi sut y bydd technoleg yn helpu i wella gwasanaethau i breswylwyr.

Trafodwyd y strategaeth hon mewn cyfarfod diweddar o’r Cabinet, ac mae’n nodi’r dull pum mlynedd i ddefnyddio adnoddau digidol er mwyn cefnogi gwasanaethau gwell sydd yn fwy effeithlon.

Ei weledigaeth yw creu Cyngor sydd yn hyderus yn ddigidol, yn darparu gwasanaethau cynhwysol, diogel sydd yn hawdd i’w defnyddio ac i fodloni anghenion preswylwyr.

Fe fydd y strategaeth yn arwain gwelliannau digidol ar draws y Cyngor, a helpu staff, preswylwyr ac Aelodau Etholedig i elwa o wasanaethau symlach a chydgysylltiedig.

Mae’n cynnwys pedwar o egwyddorion arweiniol a naw amcan i siapio penderfyniadau digidol, buddsoddiadau a chyflawniadau dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r strategaeth wedi cael ei siapio gan adborth gan staff ac Aelodau, trafodaethau gydag uwch arweinwyr, meincnodi gyda sefydliadau eraill, ac adolygu systemau a galluoedd digidol presennol y Cyngor.

Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Bydd y strategaeth hon yn helpu i ni wneud defnydd gwell o dechnoleg ddigidol i ddarparu gwasanaethau sydd yn fwy cynhwysol, yn fwy diogel ac wedi’u dylunio o amgylch anghenion preswylwyr.  Mae’n rhoi fframwaith clir i ni ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod ac mae’n cefnogi ein huchelgais o groesawu cyfleoedd digidol yn y dyfodol.”

I gael mwy o wybodaeth am y Strategaeth Ddigidol ewch i yma 

 

 

ERTHYGLAU

Prosiectau’r adain eiddo yn cefnogi cymunedau ar draws Sir Ddinbych

Dros y 12 mis diwethaf, mae adain Eiddo Cyngor Sir Ddinbych wedi parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi gwasanaethau, cymunedau a phreswylwyr ar draws y sir.

Dros y 12 mis diwethaf, mae adain Eiddo Cyngor Sir Ddinbych wedi parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi gwasanaethau, cymunedau a phreswylwyr ar draws y sir.

O wneud gwaith gwella a chynnal a chadw adeiladau cyhoeddus, i gefnogi prosiectau mawr a sicrhau bod asedau’r Cyngor yn ddiogel, effeithlon ac addas i’r diben, mae’r timau yn yr adain wedi bod yn rhan o amrywiaeth eang o waith pwysig.

Mae Llais y Sir yn edrych yn ôl ar rai o’r prosiectau allweddol a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn, gan amlygu’r ymroddiad, yr arbenigedd a’r cydweithio a fu rhwng y gwahanol dimau sy’n helpu i reoli a gwella ystâd eiddo Sir Ddinbych.

Ers y llynedd, mae’r tîm Cynnal a Chadw Adeiladau wedi cefnogi gwaith gwella mawr yn Ysgol Dewi Sant, y Rhyl, gan helpu i foderneiddio a thrawsnewid ardal neuadd yr ysgol.

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys ailadeiladu’r to, gwella inswleiddiad, gosod ffenestri gwydr dwbl perfformiad uchel, uwchraddio trefniadau mynediad a moderneiddio’r cyntedd a’r fynedfa, gan gynnwys gosod lifft i wella hygyrchedd.

Fe wnaeth y gwaith helpu i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau ôl-troed carbon yr ysgol a chreu lle mwy diogel, mwy hygyrch a mwy modern i ddisgyblion, staff a’r gymuned ehangach.

Buont yn ymateb i ddifrod storm ym Mharc Dŵr SC2 hefyd, gan sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel cyn rheoli gwaith disodli’r to a oedd yn beryglus.

Gan nad oedd y cyflenwr gwreiddiol yn masnachu bellach, cafodd to newydd ei ddylunio’n arbennig a’i wirio’n annibynnol gan ddefnyddio modelu llwyth gwynt sy’n benodol i’r safle.

Roedd angen datrysiad sgaffaldiau pwrpasol ar gyfer y prosiect oherwydd bod gwaith amddiffyn rhag llifogydd gerllaw yn atal mynediad traddodiadol, ac roedd cyflymder y gwynt yn cael ei fonitro bob dydd i gadw gweithwyr yn ddiogel.

Cafodd dalenni to crwm wedi’u creu’n bwrpasol, rhai’n fwy na 24 metr o hyd, eu cludo i’r safle dan drwyddedau llwyth anarferol. Bu gweithwyr cynnal a chadw yn cydlynu’r prosiect cymhleth gyda’r tenant, yswirwyr, ymgynghorwyr, peirianwyr, syrfewyr, addaswyr colled a thimau’r Cyngor sy’n rheoli’r gwaith amddiffynfeydd môr.

Y tîm cynnal a chadw fu’n rheoli’r prosiect, gan gysylltu â’n Tenant, ymgynghorwyr arbenigol, peirianwyr, yswirwyr, syrfewyr fforensig ac addaswyr colled, yn ogystal â chydweithwyr yn y Cyngor, gan gynnwys rhai sy’n rheoli’r gwaith amddiffynfeydd môr.

Dros y 12 mis diwethaf, mae’r tîm Dylunio ac Adeiladu wedi darparu a chefnogi amrywiaeth eang o brosiectau proffil uchel ar draws y sir, gan helpu i wella tai, darpariaeth addysg, hygyrchedd ac adfywio.

Mae cyflawniadau allweddol yn cynnwys cwblhau 22 o dai Cyngor newydd effeithlon o ran ynni yn Llwyn Eirin yn Ninbych, a adeiladwyd i safon Passivhaus ac sydd â phaneli solar a phympiau gwres o’r ddaear er mwyn helpu i leihau costau ynni’r cartref ac allyriadau carbon.

Mae’r tîm wedi dylunio a datblygu’r pwll hydrotherapi cyntaf o’i fath yn Sir Ddinbych hefyd, yn Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl. Mae’n cefnogi datblygiad corfforol a lles disgyblion trwy gyfleuster newydd arbenigol sydd ar dir yr ysgol.

Ynghyd â hyn, mae’r tîm wedi cefnogi cam nesaf y gwaith ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, lle mae gwaith adfer a dymchwel yn helpu i ddatgloi cyfle i adfywio’r safle 53 erw yn y dyfodol ar gyfer tai, gofod masnachol ac ardaloedd cymunedol gwyrdd.

Mae gwaith yr adain wedi’i gydnabod trwy gynlluniau tai arobryn hefyd, gan gynnwys Llys Elizabeth yn y Rhyl, a enillodd wobr Datblygiad Tai Cymdeithasol Bach Gorau yng Ngwobrau LABC Cymru am ei gartrefi o ansawdd uchel, sy’n effeithlon o ran ynni, i breswylwyr 55 oed a hŷn.

Ers yr haf diwethaf, mae’r Tîm Ynni wedi parhau i arwain prosiectau sy’n gwella effeithlonrwydd o ran ynni, lleihau costau rhedeg a lleihau allyriadau carbon ar draws adeiladau a gwasanaethau’r Cyngor.

Yng nghartref gofal Cysgod y Gaer yng Nghorwen, mae’r tîm wedi gosod system storio ynni batri 40kWh ynghyd ag arae solar 21.36kWp, gan adeiladu ar waith blaenorol i ychwanegu paneli ffotofoltäig, goleuadau LED a gwelliannau i’r system wresogi.

Mae’r gwaith cyfun hwn wedi helpu i leihau defnydd nwy a thrydan yn sylweddol, lleihau allyriadau carbon a chefnogi gwefru dau gerbyd trydan sy’n gweithredu o’r safle er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned leol.

Mae’r tîm wedi darparu prosiect storio batris arloesol yng ngorsaf Gwastraff ac Ailgylchu Dinbych hefyd, gan osod 600kWh o gapasiti batri i wneud defnydd gwell o ynni solar a gynhyrchir ar y safle a chefnogi cerbydau gwastraff ac ailgylchu trydan.

Mae canlyniadau cynnar yn dangos bod defnydd ynni o’r grid yn y safle wedi gostwng fwy na hanner, a disgwylir i’r system arbed mwy na 76,000kWh y flwyddyn, lleihau costau o tua £16,000 a lleihau allyriadau carbon o tua 22 tunnell y flwyddyn.

Mae enghraifft arall o’r dull cydweithredol hwn i’w gweld yn Ysgol y Santes Ffraid, lle mae timau wedi bod yn cydweithio yn ystod ail hanner 2025 i wella effeithlonrwydd a pherfformiad prif adeilad y safle.

Daeth y prosiect â chefnogaeth at ei gilydd o’r rhaglen Hinsawdd a Natur, Cynnal a Chadw Adeiladau a’r Tîm Ynni, i ddarparu pecyn o welliannau o ran gwresogi, rheolyddion, goleuadau ac inswleiddiad.

Roedd gwaith yn cynnwys tynnu hen foeleri aneffeithlon wedi’u tanio ag olew a’u disodli â boeleri modern wedi’u tanio â LPG ar draws y ddwy brif ystafell beiriannau, gyda phum boeler wedi’u disodli a’r hen danc olew wedi’i symud.

Gosodwyd rheolyddion rheoli adeiladau modern hefyd, gan greu pum ardal ar wahân ar gyfer y prif adeilad a helpu’r safle i weithredu’n fwy effeithlon.

Yn ogystal, gosodwyd mwy na 140 o osodiadau golau LED, y disgwylir iddynt arbed tua 24,260kWh o drydan a thua £5,579 y flwyddyn.

Ychwanegwyd tua 240 metr sgwâr o inswleiddiad 300mm hefyd, gan gefnogi gwaith ehangach y Cyngor ymhellach o ran lleihau defnydd ynni, lleihau allyriadau a gwella cynaliadwyedd hirdymor ei adeiladau.

Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol:  “Mae’r gwaith a wnaed gan ein timau Eiddo dros y 12 mis diwethaf yn dangos y rôl bwysig maen nhw’n ei chwarae wrth gefnogi preswylwyr, cymunedau a gwasanaethau’r Cyngor ar draws Sir Ddinbych. O wella ysgolion a lleoliadau gofal i ddarparu cartrefi effeithlon o ran ynni, lleihau allyriadau carbon a chefnogi prosiectau adfywio mawr, mae eu gwaith yn cael effaith uniongyrchol a pharhaus ar fywydau bob dydd pobl.

“Hoffwn ddiolch i’r holl dimau am eu hymroddiad, eu harbenigedd a’u hymrwymiad. Mae eu hymdrechion yn helpu i wneud ein hadeiladau’n fwy diogel, mwy hygyrch, mwy cynaliadwy a mwy parod i ddiwallu anghenion preswylwyr rŵan ac yn y dyfodol.”

Dewch i Ddarganfod Sir Ddinbych â’ch Cerbyd Trydan!

Mae hi’n dymor yr haf, ac felly mae mwy o olau dydd yn creu cyfle perffaith i grwydro a gweld y gorau sydd gan Sir Ddinbych i’w gynnig.

Wrth deithio mewn cerbyd yn yr oes fodern, gallech fod yn defnyddio injan hybrid neu fodur trydan i’ch helpu i gyrraedd llefydd gyda llai o effaith ar ein hinsawdd drwy ddarparu rhagor o filltiroedd am bris llai. 

Ers i bwyntiau gwefru cyhoeddus cyntaf y Cyngor ar gyfer cerbydau trydan gael eu gosod yn haf 2022, mae dros 4.5 miliwn o filltiroedd o deithio wedi’u darparu drwy fwy na 63,000 o sesiynau gwefru.

Ar gyfer perchnogion cerbydau trydan Sir Ddinbych a’r rhai sy’n byw y tu allan i’r sir, mae Llais y Sir yn mynd â chi ar wibdaith o amgylch pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus y Cyngor i’ch helpu i gynllunio eich taith o amgylch yr ardal i fwynhau golygfeydd Sir Ddinbych.

Mae ein rhwydwaith gwefru cerbydau trydan yn cynnig cyfle ardderchog i deithio o amgylch Sir Ddinbych a mwynhau’r holl atyniadau sydd gan y sir i’w cynnig wrth wefru eich cerbyd ar un o’r safleoedd.

A yw Rheilffordd Llangollen ar frig eich rhestr o atyniadau i ymweld â hwy yn Sir Ddinbych?  Gallwch ddechrau eich profiad ym Maes Parcio Lôn Las Corwen ger gorsaf y dref, sydd â phump o bwyntiau gwefru y gallwch eu defnyddio i bweru eich cerbyd trydan.  Beth am gamu’n ôl i’r gorffennol drwy deithio ar hyd llinell y rheilffordd tra mae eich dull cludiant modern yn gwefru?

Os ydych chi’n dechrau ar ochr Llangollen y rheilffordd, mae pwyntiau gwefru ar gael ym maes parcio Heol y Farchnad a hefyd ym maes parcio’r Pafiliwn. Bydd y lleoliadau gwych hyn hefyd yn rhoi amser i chi weld atyniadau fel Glanfa Llangollen, dringo’r llwybr i Gastell Dinas Brân neu fwynhau’r golygfeydd o Afon Dyfrdwy’n llifo trwy Langollen. 

Wrth neidio i’r car a gyrru draw i Ruthun, fe ddewch o hyd i bwyntiau gwefru ym maes parcio Cae Ddôl, sy’n eich rhoi chi o fewn tafliad carreg i ddysgu am Garchar Rhuthun. Os nad yw hynny’n ddigon o hanes i chi, gyda rhyw bum munud o gerdded, gallwch gyrraedd tŷ hanesyddol Nantclwyd y Dre.

Diddordeb mewn celf a chrefft? Mae cyfleusterau gwefru hefyd ar gael yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, er mwyn i chi gael amser i bori drwy bopeth mae’r ganolfan yn ei gynnig wrth bweru’r car at y daith nesaf yn Sir Ddinbych.

Wrth fynd yn eich blaenau tua Dinbych, mae mannau gwefru trydan ar Lôn y Post yn y dref, sy’n rhoi cyfle perffaith i chi ddringo i bwynt uchaf y dref i weld adfeilion Castell Dinbych a muriau’r dref. 

Heb fod ymhell, yn Llanelwy, mae maes parcio’r Lawnt Fowlio yn y ddinas, sydd â chyfleusterau gwefru ac yn fan cychwyn gwych i fwynhau taith gerdded hardd ar hyd Afon Elwy neu i fynd i ryfeddu at bensaernïaeth hyfryd yr Eglwys Gadeiriol.

Os ewch chi yn eich blaenau i’r arfordir, mae’r Rhyl yn lleoliad perffaith i fwynhau seibiant a gwefru eich cerbyd.  Mae gan faes parcio Gorllewin Cinmel nifer o fannau gwefru, gan gynnwys cyfleusterau gwefru cyflym os ydych chi ar frys.  Os byddwch yn dewis gwefru eich cerbyd yn fan hyn, gallwch fynd am dro drwy ganol y dref tuag at yr arfordir i fwynhau traethau euraidd a phromenâd hyfryd y Rhyl, crwydro ardal yr harbwr, neu beth am gamu’n ôl i’r gorffennol drwy neidio ar Reilffordd Fach y Rhyl sy’n cylchu’r Llyn Morol.  Mae cyfleusterau gwefru hefyd ar gael ym maes parcio Ffordd Morley.

Ac yn olaf, wrth deithio i dref arfordirol gyfagos Prestatyn, fe welwch chi bwyntiau gwefru (gan gynnwys rhai cyflym) ym meysydd parcio Rhodfa Rhedyn a Rhodfa’r Brenin, sy’n rhoi amser i chi fwynhau canol tref Prestatyn neu, os ydych chi’n teimlo’n ddewr, fynd am dro i lawr at lan y môr i fwynhau’r atyniadau sydd yno.

Mae’r rhwydwaith cyhoeddus gwefru cerbydau trydan yn rhan o gamau gweithredu cyffredinol y Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 drwy leihau ôl-troed carbon y sir.

I gael rhagor o wybodaeth am y lleoliadau hyn, ymwelwch â’n gwefan.

"Mae’n teimlo fel cartref i mi o’r diwedd” – Stori Steve

Mae Steve Purse, sy’n byw yn y Rhyl, yn ymgyrchydd brwd, ac mae wedi bod i Senedd y DU i ymgyrchu ar sawl achlysur er mwyn cael cydnabyddiaeth o effaith profion niwclear ar deuluoedd personél.

Ac yntau’n fyr o gorffolaeth ac yn ddioddef o fethiant y system anadlol math dau, nid oedd ei gartref blaenorol yn caniatáu iddo fyw’n annibynnol, ac nid oedd yn gallu defnyddio ei gadair olwyn fodur yn y cartref.

Steve

Ymunodd Steve a’i deulu â’r Gofrestr Tai Arbenigol ym mis Ionawr 2021. Bu Steve a’i deulu’n gweithio’n agos â Rheolwr Cofrestr Tai Arbenigol y Cyngor a Therapyddion Galwedigaethol i symud i eiddo mwy priodol gydag addasiadau. Golygodd hyn waith ymchwil helaeth i sicrhau eu bod yn addas i ddiwallu anghenion Steve, ond bod y teulu cyfan hefyd yn gallu eu defnyddio.

Mae’r addasiadau hyn wedi galluogi Steve i fyw’n fwy annibynnol a gwella ansawdd bywyd i’w deulu ac iddo ef ei hun.

Cownter ergonomig yn y gegin

Defnyddiwyd adnoddau mewnol i gwblhau asesiad ar gyfer Steve er mwyn deall ei ofynion o fewn amgylchedd cegin.

Defnyddiwyd yr ystafell ailalluogi yng Nghanolfan Ddydd Hafan Deg yn y Rhyl gan Steve a’i deulu i brofi a mesur yr amrywiaeth o elfennau pwrpasol a oedd eu hangen yn eu cartref newydd.

Amcan yr ystafell yn Hafan Deg yw copïo cartref, ac mae’n cynnwys cownter ergonomig y gellwch ei addasu a phopty hawdd mynd ato, sy’n caniatáu mesuriadau a rhyngweithio hawdd lle bo’r angen. Nodwyd y byddai’n rhaid ystyried addasiadau nad oedd wedi eu gwneud eisoes, er mwyn i Steve allu cyrraedd pethau.

Drwy’r Gofrestr Tai Arbenigol, caiff cartrefi fel un Steve eu caffael drwy Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig; gellir gwneud addasiadau yn y cartrefi hyn yn bwrpasol ar gyfer yr unigolyn, gan alluogi preswylwyr i fyw bywydau llawn ac annibynnol.

Wrth siarad am ei brofiad, dywedodd Steve:

“Roedd y cartref lle’r oeddem yn byw cyn hyn yn hollol anaddas – nid oeddwn yn gallu cael fy nghadair olwyn i’r tŷ, hyd yn oed. Roedd y drysau’n gul a doeddwn i ddim yn gallu cyrraedd unrhyw beth. Doedd o ddim yn gartref teuluol i ddweud y gwir.

Cawsom alwad ffôn i ddweud bod yr eiddo hwn ar gael; pan welsom ni o, roeddem yn meddwl ei fod yn edrych yn hyfryd. Fe allaf i gael fy nghadair olwyn yn syth i’r tŷ o’r dreif rŵan. Mae’n siŵr bod rhai pobl yn cymryd hynny’n ganiataol, ond, i mi, roedd hynny’n beth newydd ac yn rhywbeth mawr.”

Gan gydweithio â chyflenwr arbenigol lleol, dyluniwyd ystafell ymolchi gyda thoiled a basn ymolchi pwrpasol, y gellir eu symud i fyny ac i lawr, i alluogi Steve i ymgymryd â’i ofal personol ei hun, a hwyluso trosglwyddiadau diogel ac annibyniaeth. Cafwyd datrysiad i gyfyngiadau o ran dyluniad yr eitemau, sef gosod y toiled a’r basn ymolchi yn sownd yn llawr concrit yr ystafell ymolchi er mwyn sicrhau’r uchder isaf ar gyfer gofynion Steve.

Toiled sy’n codi a gostwng

Wrth siarad am yr addasiadau yn ei gartref, dywedodd Steve:

“Mae’r toiled sy’n codi a gostwng yn newid byd i mi. Mae’r offer technolegol hyn yn soffistigedig. Dyna, i mi, ydy’r rhan fwyaf o’m hannibyniaeth, sef y toiled.”

Yn ogystal â thoiled sy’n codi a gostwng, mae yna freichiau pwrpasol yn yr ystafell ymolchi a chawod bwrpasol y gall y teulu cyfan ei defnyddio.

Cafodd y gegin yng nghartref Steve ei hailddatblygu hefyd. Mae’n cynnwys hob a sinc sy’n codi a gostwng, a phopty pwrpasol. Mae tapiau’r sinc wedi eu gosod mewn lle sy’n galluogi Steve i wneud diod iddo’i hun a chyrraedd cyfleusterau i olchi ei ddwylo a golchi llestri – tasg nad oedd Steve yn gallu ei gwneud ynghynt.

Meddai Steve:

“Mae’r sinc yn codi a gostwng, ac mae’r tapiau wedi cael eu haddasu fel fy mod yn gallu eu defnyddio nhw a golchi’r llestri.

Mae’r hob hefyd yn codi a gostwng, ac mae’r rheolyddion o fewn cyrraedd, felly gallaf goginio; ac mae drws y popty yn un ‘llithro a chuddio’, sy’n golygu fy mod yn gallu ei ddefnyddio’n iawn ac yn ddiogel. Rydw i’n gallu mynd at y bwrdd bwyd gyda fy nghadair olwyn hefyd.”

Nid yn unig bod yr eiddo wedi helpu Steve, ond mae wedi dod â’r teulu cyfan at ei gilydd a lleihau dibyniaeth Steve ar eraill ar gyfer tasgau pob dydd.

“Mae’r toiled yn anhygoel – mae’n codi a gostwng a gellir ei osod ar uchder pwrpasol i’r holl deulu ei ddefnyddio.

Gan fod tu mewn yr eiddo wedi ei addasu rŵan, mae popeth o fewn cyrraedd.

Mae’n teimlo fel cartref i mi o’r diwedd bellach.”

Digwyddiad Ymgynghori ar Bentref Plant y Rhyl

Gwahoddir trigolion, busnesau ac ymwelwyr â'r Rhyl i fynychu digwyddiad ymgynghori i weld y cynigion diweddaraf i wella Pentref y Plant.

Delwedd gan Balfour Beatty.

Gwahoddir trigolion, busnesau ac ymwelwyr â'r Rhyl i fynychu digwyddiad ymgynghori i weld y cynigion diweddaraf i wella Pentref y Plant, sydd wedi'u llunio yn sgil adborth o ymgynghoriadau a digwyddiadau ymgysylltu blaenorol.

📅 Dydd Mercher 12 Awst

📍 Marchnad y Frenhines

⏰ 14:00 – 19:00

7 o hanfodion ar gyfer antur yng Nghymru sy'n barod am eu siwrne nesaf

Mae Cymru eisoes yn un o ailgylchwyr gorau'r byd, a dweud y gwir, rydyn ni’n ail yn y siartiau byd-eang ar hyn o bryd. Ond mae pob antur wych eisiau cyrraedd Rhif 1.

Yr haf hwn, rydyn ni’n cefnogi ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu i helpu i wireddu hynny, un botel, can a chroen banana ar y tro.

Mae gan bob peth ailgylchadwy stori i'w hadrodd sy’n parhau ar ôl i chi orffen gydag ef.

Rhowch ef yn y bin cywir i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad am flynyddoedd i ddod, boed yn cael ei droi’n rhywbeth newydd neu’n helpu i bweru Cymru, fel ein gwastraff bwyd.

Dyma saith o hanfodion antur sy'n barod am eu pennod nesaf.

  1. Y botel ddiod sy'n barod ar gyfer ei hantur nesaf yng Nghymru
    Ar ôl eich cadw’n ddisyched ar lwybr arfordirol, llwybr castell neu gopa mynydd, mae gan eich potel ddiod blastig ddigon ar ôl yn y tanc.

Mae ailgylchu dim ond un botel blastig yn arbed digon o ynni i bweru ffôn clyfar 14 gwaith! Mae hynny’n eitha’ da am rywbeth a dreuliodd y rhan fwyaf o'r dydd yn rholio o gwmpas mewn sach gefn.

Mae ei hantur nesaf yn dechrau gyda'r bin cywir.

  1. Y can sydd eisoes yn cynllunio ei gopa nesaf
    Mae caniau diodydd alwminiwm yn un o wir arwyr ailgylchu.

Gellir eu hailgylchu dro ar ôl tro heb ddirywiad mewn ansawdd, sy’n eu gwneud yn un o’r deunyddiau mwyaf anhygoel yn y byd ailgylchu.

Rhowch ef yn y bin cywir a gallai fod yn ôl ar y silffoedd ac allan ar y llwybrau ymhell cyn yr haf nesaf.

  1. Y botel wydr gyda milltiroedd i fynd o hyd
    Mae gwydr yn ddeunydd sy'n dwli ar bennod arall. Gellir ei ailgylchu’n ddiddiwedd a’i drawsnewid yn boteli a jariau newydd dro ar ôl tro.

Yn well fyth, mae ailgylchu un botel wydr yn arbed digon o ynni i bweru bwlb golau am oriau. Un dewis syml a wnaed ar lethrau bryn yng Nghymru, yn mynd y filltir ychwanegol.

  1. Y botel eli haul sy'n cadw'r amseroedd da’n llifo
    Mae eli haul yn hanfodol yn yr haf yng Nghymru, p'un a ydych chi'n crwydro arfordir Sir Benfro neu'n mwynhau'r golygfeydd o gopa’r Wyddfa. Ond ’dyw ei gwaith heb ei orffen pan mae’r botel yn wag.

Pan gaiff ei ailgylchu, gellir troi’r plastig yn nwyddau newydd, gan helpu deunyddiau gwerthfawr i aros yn ddefnyddiol yn hirach. Mae'r un peth yn wir am lawer o'r hanfodion bob dydd rydyn ni'n eu pacio ar gyfer diwrnod allan, o bethau ymolchi i lanweithydd dwylo i erosolau. Rhowch nhw yn y bin cywir.

Diogelu ’chydig ar eich croen. Diogelu ’chydig ar y blaned hefyd.

  1. Y ffoil sydd wedi bod ar bicnic eithriadol
    Boed yn lapio’ch brechdan ar ben clogwyn, eich byrbrydau ar lwybr coedwig neu eich picnic ar y traeth, mae gan ffoil un o'r gyrfaoedd hiraf mewn ailgylchu.

Mae cynhyrchu nwyddau o alwminiwm wedi'i ailgylchu yn defnyddio tua 95% yn llai o ynni na'u gwneud o ddeunyddiau crai. Mae hynny’n golygu y gallai'r belen fach yna o ffoil fod yn gwneud gwahaniaeth ymhell ar ôl i’ch lliw haul bylu a’ch esgidiau sychu.

  1. Y pot iogwrt sy’n barod ar gyfer antur Gymreig arall
    O frecwast ar y traeth i fyrbryd oddi cartref, mae potiau a thybiau yn rhan gyfarwydd o unrhyw ddiwrnod allan yng Nghymru.

Peidiwch â gadael i'r hwyl stopio ar ôl bwyta. Pan gânt eu hailgylchu'n gywir, gellir troi potiau a thybiau plastig yn nwyddau a deunydd pacio newydd, gan helpu i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad yn hirach.

Gallai pot iogwrt heddiw fod yn dwb hwmws fory. Dyna drawsnewidiad go iawn!

  1. Y croen banana gyda phŵer rhyfeddol
    Mae rhai o'r perfformwyr mwyaf trawiadol yn llechu mewn lleoedd syfrdanol o amlwg.

Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd sy’n cael ei gasglu i'w ailgylchu yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy a gwrtaith llawn maetholion.

A dweud y gwir, gall dim ond un croen banana wedi'i ailgylchu gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i wefru ffôn clyfar yn llawn. Dyna fwy o luniau o olygfeydd godidog Cymru, mwy o fideos o adegau cofiadwy, a rhagor o gyfleoedd i gipio hud yr haf yng Nghymru.

Felly pan fyddwch chi'n mwynhau Cymru'r haf hwn gwnewch yn siŵr bod eich holl wastraff bwyd, o greiddiau afalau a chrwyn na ellir eu bwyta, i fagiau te, plisgyn wyau a bwyd dros ben, oll yn mynd i’r cadi gwastraff bwyd.

Mae pob antur wych yn haeddu pennod arall

O boteli a chaniau i botiau iogwrt a chrwyn banana, mae gan bob eitem ailgylchadwy'r potensial i wneud rhywbeth anhygoel ar ôl i chi orffen ag ef.

Ac mae pob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir yn helpu Cymru i symud un cam yn nes at y brig.

Felly pan fyddwch chi allan yn crwydro cestyll, arfordiroedd, mynyddoedd a phopeth rhyngddynt yr haf hwn, rhowch yr anrheg haeddiannol i’ch ailgylchu. Dewiswch y bin cywir.

Eisiau gweld ble maen nhw'n mynd nesaf? Ewch i Cymru yn Ailgylchu i ddarganfod y daith mae eich ailgylchu'n mynd arni ar ôl ichi ei daflu i’r bin.

7 o ffefrynnau’r ŵyl sy’n barod am barti yn bell ar ôl y gân olaf

Mae Cymru eisoes yn un o wledydd gorau'r byd am ailgylchu. A dweud y gwir, rydyn ni’n agos iawn at frig y siartiau byd-eang. Ond mae pob act wych eisiau cyrraedd Rhif 1.

Yr haf hwn, rydyn ni’n cefnogi Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu i helpu i wireddu hynny, un botel, can a chroen banana ar y tro.

Mae gan bob peth ailgylchadwy stori i'w hadrodd sy’n parhau ar ôl iti orffen gydag ef.

Rho fe yn y bin cywir i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad am flynyddoedd i ddod, boed yn cael ei droi’n rhywbeth newydd neu’n helpu i bweru Cymru, fel ein gwastraff bwyd.

Dyma saith o ffefrynnau’r ŵyl sy’n barod am eu perfformiad nesaf.

  1. Y botel ddiod sy'n barod am ei brif set nesaf

Ar ôl torri dy syched am ddiwrnod o ddawnsio, mae gan y botel ddiod blastig ddigon ar ôl yn y tanc.

Mae ailgylchu dim ond tair potel blastig yn arbed digon o ynni i bweru deciau DJ am tua dwy awr. Mae hynny’n eitha’ da i rywbeth a dreuliodd y rhan fwyaf o'r dydd yn rholio o gwmpas mewn sach gefn.

Mae cyfle nesaf y botel i serennu’n dechrau gyda'r bin cywir.

  1. Y can sy’n cynllunio ei ddychweliad yn barod

Mae caniau diod alwminiwm yn un o sêr y byd ailgylchu.

Gellir eu hailgylchu dro ar ôl tro heb ddirywiad mewn ansawdd, sy’n eu gwneud yn un o sêr anfarwol y byd ailgylchu.

Rho’r can yn y bin cywir a gallai fod yn ôl ar y llwyfan ymhell cyn y tymor gwyliau nesaf.

  1. Y botel wydr sy’n gofyn am un gân arall

Mae gwydr yn ddeunydd arall sy'n hoffi encôr. Gellir ei ailgylchu’n ddiddiwedd a’i drawsnewid yn boteli a jariau newydd dro ar ôl tro.

Yn well fyth, mae ailgylchu un botel wydr yn arbed digon o ynni i bweru amp gitâr am tua chwe awr. Un dewis syml, llond gwlad o egni encôr.

  1. Y botel eli haul sy’n helpu i gadw'r amseroedd da’n llifo

Mae eli haul yn un o hanfodion yr haf. Ond ’dyw’r gwaith ddim yn dod i ben pan mae’r botel yn wag.

Pan gaiff ei ailgylchu, gellir troi’r plastig yn nwyddau newydd, gan helpu deunyddiau gwerthfawr i aros yn ddefnyddiol yn hirach. Mae'r un peth yn wir am lawer o'r hanfodion bob dydd rydyn ni'n eu cludo gyda ni, o bethau ymolchi i lanweithydd dwylo i erosolau. Rho nhw yn y bin cywir.

Diogelu ’chydig ar dy groen. Diogelu ’chydig ar y blaned hefyd.

  1. Y ffoil sy'n gwrthod gadael y dawnslawr

P’un a lapio'r frechdan, rôl frecwast neu dy hoff fyrbryd gŵyl oedd e, ffoil sydd ag un o'r gyrfaoedd ailgylchu hiraf.

Mae cynhyrchu nwyddau o alwminiwm wedi'i ailgylchu yn defnyddio tua 95% yn llai o ynni na'u gwneud o ddeunyddiau crai. Sy'n golygu y gallai'r belen fach yna o ffoil fod yn gwneud gwahaniaeth ymhell ar ôl iti dynnu band arddwrn yr ŵyl.

  1. Y pot iogwrt sy’n barod am rownd arall o hwyl

O frecwast i fyrbrydau oddi cartref, mae potiau a thybiau yn rhan annatod o bicnic.

Paid â gadael i'r hwyl stopio ar ôl bwyta. Pan gânt eu hailgylchu'n gywir, gellir troi potiau a thybiau plastig yn nwyddau a deunydd pacio newydd, gan helpu i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad yn hirach.

Gallai pot iogwrt heddiw fod yn dwb hwmws fory. Sôn am weddnewidiad!

  1. Y croen banana gydag addewid annisgwyl

Mae rhai o'r perfformwyr mwyaf trawiadol yn gwbl ddiymhongar.

Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd sy’n cael ei gasglu i'w ailgylchu yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy a gwrtaith llawn maetholion.

A dweud y gwir, gall dau groen banana wedi'u hailgylchu gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i wefru ffôn clyfar yn llawn. Mae hynny’n golygu mwy o fideos. Mwy o luniau. A mwy o gyfleoedd i gofnodi dy hoff atgofion o’r ŵyl.

Felly pan fyddi di'n mwynhau Cymru'r haf hwn gwna’n siŵr bod dy holl wastraff bwyd – o greiddiau afalau a chrwyn na ellir eu bwyta, i fagiau te, plisgyn wyau ac esgyrn – yn mynd i’r bin gwastraff bwyd.

Mae pob act wych yn haeddu encôr

O boteli a chaniau i botiau iogwrt a chrwyn bananas, mae gan bob eitem ailgylchadwy'r potensial i wneud rhywbeth anhygoel ar ôl i ti orffen â hi.

Ac mae pob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir yn helpu Cymru i symud un cam yn nes at y brig.

Felly pan fyddi di allan yn mwynhau gwyliau, digwyddiadau a diwrnodau allan ledled Cymru'r haf hwn, rho’r encôr haeddiannol i dy ailgylchu. Dewisa’r bin cywir.

Eisiau gweld ble maen nhw'n mynd nesaf? Dos i Cymru yn Ailgylchu i ddarganfod y daith mae dy ailgylchu'n mynd arni ar ôl iti ei ailgylchu https://www.walesrecycles.org.uk/cy 

Ydych chi erioed wedi ystyried ble mae eich treth cyngor yn mynd?

Mae llawer yn meddwl bod treth cyngor yn talu am bopeth y mae awdurdod lleol yn ei gynnig, fodd bynnag, dim ond 26% o gyfanswm gwariant y Cyngor yw'r arian a gesglir gan drigolion yn flynyddol.

Ariannu\'r cyngorMae mwyafrif y cyllid (62%) yn dod ar ffurf 'Grant Cymorth Refeniw' gan Lywodraeth Cymru, tra bod y 12% sy'n weddill yn dod o drethi busnes, sef treth eiddo y mae busnesau'n ei dalu i helpu tuag at ariannu gwasanaethau lleol. Gallwch ddysgu mwy am sut mae'r Cyngor yn cael ei ariannu ar ein gwefan.

Felly ble mae’r treth cyngor yn mynd? Rydym wedi cynhyrchu infograffig yn seiliedig ar dreth cyngor eiddo Band D i geisio rhoi esboniad clir o sut mae taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i ariannu ystod o wasanaethau i drigolion yn y sir. Er bod yr infograffig hwn yn rhoi darlun o sut mae'r arian yn cael ei rannu rhwng gwahanol wasanaethau, mae deall beth mae trigolion yn ei gael am yr arian hwnnw’n bwysig. (Gellir gweld yr infograffig ar ddiwedd yr erthygl.)

Fel y gwelwch, mae mwyafrif gwariant treth cyngor yn mynd tuag at amddiffyn y rhai mwyaf bregus ac agored i niwed yn ein cymdeithas, gyda 66% yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg a gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.

Ysgolion ac addysgGydag Addysg yn cyfrif am 36.7% o’r gwariant, golyga hyn y gall Sir Ddinbych addysgu tua 16,500 o ddisgyblion mewn 44 ysgol gynradd, 2 ysgol pob oed, 2 ysgol arbennig, 6 ysgol uwchradd ac 1 uned cyfeirio disgyblion ar draws y sir, gyda thua 780 o athrawon yn darparu'r addysg.

Yn y maes addysg o hyd, mae cludiant ysgol yn cyfrif am 2.9% ac mae'r Cyngor yn cludo tua 2,871 o ddysgwyr yn ddiogel i ysgolion ledled y sir. Caiff 650 o deithiau bws ysgol a thacsi eu gwneud bob diwrnod ysgol.

Gofal cymdeithasol i oedolion a phlant infographicYn y cyfamser, mae gofal cymdeithasol oedolion a phlant yn cyfrif am 29.8% o wariant treth y Cyngor. Yn 2024-2025 cafodd oddeutu 668 aelod o staff dros 25,000 o gysylltiadau gyda'r plant a'r oedolion mwyaf agored i niwed gan ddarparu pecyn o ofal a chymorth lle bo’n briodol sy’n rhoi cyfle i'r trigolion hyn gael dewis, mynegi barn, a chael rheolaeth dros eu bywydau.

Mewn meysydd gwasanaeth eraill, mae 1.9% yn mynd tuag at ddiogelu'r cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd ac mae timau'r Cyngor yn archwilio tua 720 o fwytai, caffis a lleoedd tecawê bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn ddiogel ar gyfer trigolion Sir Ddinbych.

Mae gwagio biniau ac ailgylchu yn cyfrif am 1.8% o'ch bil treth cyngor, sy'n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D). Mae hynny'n cynnwys casglu tua 73,000 o gynwysyddion o dros 47,000 o gartrefi bob wythnos ledled y sir.

Am 1.8% o'r dreth cyngor rydym yn cynnal 1,419km o ffyrdd (ac eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a chelfertau, 302 o waliau a 26,000 o gwlïau. Ac am 0.8%, rydym yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a bolardiau wedi'u goleuo ledled y sir.

Cefn gwlad a mannau agoredHwyrach bod rhai gwasanaethau nad yw trigolion yn ymwybodol eu bod dan reolaeth cyngor, er enghraifft Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth. Gydag 1.1% o dreth cyngor yn mynd i'r gwasanaeth cefn gwlad, mae'r timau'n rheoli dros 80 o safleoedd a mwy na 1,200 hectar o ardaloedd gwyrdd cyhoeddus ar gyfer hamdden a chadwraeth. Mae'r rhain yn amrywio o Barciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau, meithrinfa goed y sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Ffordd Dyserth Prestatyn, Llain Llantysilio yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o fannau cymunedol a mwynder llai ar draws y sir.

Mae’r gwasanaeth treftadaeth yn cyfrif am 0.9% o wariant treth y cyngor, ac am hyn, mae'r gwasanaeth yn cynnal a hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (sydd yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr. Mae'r gwaith hwn yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.

Cynllunio a datblygu economaiddMae cynllunio a datblygu economaidd yn cyfrif am 0.7% o wariant y treth cyngor ac am hynny mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn prosesu tua 1,000 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn ochr yn ochr â 10-20 o apeliadau a 50-100 o ymholiadau cyn-ymgeisio. Rydym hefyd yn ymateb i dros 500 o achosion cydymffurfio cynllunio.

Llyfrgelloedd infographicMae’r llyfrgelloedd yn cyfrif am 0.5% o’r gwariant ac yn 24-25, cynhaliodd  y llyfrgelloedd 514 o sesiynau Dechrau Da i bron i 6,500 o blant. Hefyd cafodd 2,869 o lyfrau sain eu benthyg i 1,028 o aelodau drwy Borrowbox (rhan o'r Cynnig Digidol) ac argraffwyd dros 56,000 o dudalennau ar argraffyddion mynediad cyhoeddus.

Nid yw'r holl dreth cyngor a gesglir yn talu am wasanaethau'r cyngor yn unig, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân i gyfrannu at ariannu amddiffyniad ac atal tân ledled y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol dros Gyllid yng Nghyngor Sir Dinbych, “Rwy’n falch o weld yr infograffig yma’n cael ei chynhyrchu a’i rhyddhau. Gobeithio y bydd yn rhoi’r cyd-destun sydd ei angen ar drigolion i ddeall sut mae eu taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i gefnogi’r amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

 “Mewn hinsawdd ariannol sy’n parhau i fod yn heriol barhaus, mae’n bwysig bod yn agored a thryloyw ynglŷn â’r costau a’r pwysau. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio bod llawer o agweddau’r gwariant, yn hollol briodol, wedi’u hanelu at y gofyniad cyfreithiol i ddarparu Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant, ac Addysg ac ati. Dyma’r meysydd sy’n cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.”

Gwario\'r treth cyngor

Ydych chi wedi cwrdd â'n Tîm Dechrau Da ni?

Maen nhw'n cynnal sesiynau wythnosol rhigwm dwyieithog sydd am ddim i fabanod a phlant bach ym mhob un o'n llyfrgelloedd. Nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau a rhigwm gyda'ch babi ac fe welwch chi ddetholiad gwych o lyfrau i bob oed yn ein llyfrgelloedd.

Mae ein llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim i ymuno, mae llyfrau am ddim i'w benthyca ac nid oes unrhyw ffioedd hwyr!

Mae'r amser rhigwm Dechrau Da yn ffordd wych o feithrin eich hyder wrth rannu llyfrau a rhigymau gyda rhai bach, a hefyd yn ffordd wych o gwrdd â rhieni newydd eraill.

Archebwch eich lle amser rhigwm am ddim yma

Taith Josh

Wedi i’w berthynas chwalu fe aeth Josh, sy’n 34 oed, i chwilio am gymorth gan dîm digartrefedd y Cyngor blwyddyn dwethaf. Ym mis Chwefror 2025, rhoddwyd Josh mewn llety dros dro a chafodd ymarferydd cefnogi atal digartrefedd ei ddynodi ar ei gyfer.

Josh

“Roeddwn yn ddigartref ddechrau’r flwyddyn dwythaf. Roeddwn wedi bod yn ddigartref o’r blaen a chefais fy rhoi mewn llety dros dro yn flaenorol, ond nid oeddwn yn y meddylfryd iawn yn flaenorol i geisio datrys fy sefyllfa yn ehangach.

Dim ond am gyfnod byr yr oeddwn i yno’r tro hwn. Roeddwn yn gofyn i bawb, yn ceisio dod o hyd i fy fflat fy hun. Yn y diwedd mi ddes o hyd i un a symud allan o’r llety dros dro yn weddol gyflym.”

Fis yn ddiweddarach roedd Josh yn rhentu llety yn breifat er mwyn byw ynddo ac roedd yn awyddus i ysgrifennu’r bennod yn ei stori.

“Tra roeddwn yn y llety dros dro, fe soniodd fy ymarferydd cefnogi atal digartrefedd wrtha i am gyrsiau Intuitive Thinking Skills.

Roeddwn ychydig yn amheus am wneud y cyrsiau i ddechrau, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli tan i fi fynd arnynt nad oedd gen i mewn gwirionedd ddim byd i’w golli a phopeth i’w ennill o roi cyfle i’r cyrsiau.

Fe ddechreuais y cyrsiau ym mis Ebrill a mis Mawrth o 2025. Fe wnes i’r cwrs sgiliau ar gyfer bywyd gyntaf ac fe wnes i fwynhau yn fawr a dysgu llawer ohono.

Mae’n eich dysgu chi sut i ymdrin â’ch meddylfryd eich hun a sut rydych chi’n meddwl am broblemau. Roeddwn i’n arfer cael trafferth mawr gyda fy hyder ac yn amau fy hun drwy’r amser.

Gofynnwyd i mi ar ddechrau’r cwrs beth fyddwn i’n hoffi ei wella, ac felly fe nodais waith gyda fy hyder.”

Aeth Josh wedyn ymlaen i gymryd y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, gan ddysgu llawer mwy.

“Fe es ymlaen i wneud y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a ddysgodd fwy o agweddau technegol i mi. Fe fyddwn yn cael fy rhoi yn esgidiau pobl eraill ac fe ddysgais sut i helpu’r rhai hynny a allai fod yn fwy diamddiffyn.

Fe ddysgais sut i helpu eraill a allai fod yn wynebu amgylchiadau fel digartrefedd neu efallai yn cael trafferth gyda chamddefnyddio sylweddau.

Erbyn dechrau’r haf, cafodd Josh gynnig lleoliad fel llysgennad gyda’r tîm Intuitive Thinking gyda’r gobaith y byddai’r cynllun wedyn yn arwain at swydd barhaol o fewn y tîm ei hun.

“Roeddwn wir yn llawn cyffro gan mai hwnnw oedd y lleoliad roeddwn i ei eisiau fwyaf o’r rhai a gafodd eu cynnig i mi. Fe ddysgais i roi areithiau a gweinyddu hyfforddiant drwy gysgodi aelodau o’r tîm. Fe helpodd hynny fy hyder gymaint, sefyll i fyny a siarad o flaen pobl. Roeddwn yn ofnus iawn ar y dechrau, ond fe ddaeth yn haws ac yn haws dros amser.

Roeddwn rhyw ddeufis i mewn yn fy lleoliad gyda’r tîm pan ges gynnig swydd yn y sector ynni ac roeddwn yn teimlo na allwn wrthod y swydd.

Roedd y sgiliau roeddwn wedi eu dysgu yn ystod y cyrsiau roeddwn wedi eu cymryd, a fy lleoliad wedi rhoi gymaint o hyder i mi yn fy rôl newydd. Mae’r swydd hon mor wahanol i’r hyn rydw i wedi ei wneud o’r blaen, ac mae’r sgiliau newydd hyn wedi rhoi’r hyder i mi i fynd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Dyma beth rydw i wedi elwa fwyaf ohono.

Roeddwn wedi arfer parhau i wneud y pethau yr oeddwn yn gyfforddus â nhw cyn i mi wneud y cyrsiau hyn. Roeddwn yn gwneud yr hyn yr oeddwn i wastad wedi ei wneud, ond yn y pen draw roeddwn yn cael yr un canlyniadau. Roeddwn yn teimlo fel mod i wedi treulio blynyddoedd yn llonydd i ddweud y gwir.

Ers i mi fynd ar y cyrsiau hyn dydw i erioed wedi teimlo cystal yn fy mywyd. Mae’n swnio’n wallgof i ddweud y gall cwrs newid hynny, ond fe ddysgais pam rwy’n meddwl am bethau a sut i fynd i’r afael â’r meddyliau hynny.”

Mae Josh wedi dewis ffyrdd mwy cadarnhaol o dreulio’r amser.

“Rydw i wedi gwneud dewisiadau iachach yn fy mywyd nawr, roeddwn yn ei chael yn anodd gyda diflastod pan ddes i’n sobr tua phedair blynedd yn ôl, roeddwn i angen elfennau eraill.

Fe ddechreuais i chwarae golff a mynd i’r gampfa. Rydw i nawr yn aelod o Glwb Golff Y Rhyl.”

Mae Josh nawr wedi graddio o’r cyrsiau Intuitive Thinking gyda nifer o dystysgrifau, ac mae’n mwynhau ei rôl newydd yn y sector ynni.

“Dwi’n credu y byddai’r cyrsiau hyn o fudd i bawb; does dim rhaid i chi fod mewn sefyllfa wael i fynd arnynt. Wnewch chi ddim colli dim o ddysgu o’r cwrs hwn, cyn belled â’ch bod yn buddsoddi ynddo rydych yn mynd i elwa ohono.

Mae pobl wedi dweud eu bod yn gallu gweld newid yn fy hyder. O lle roeddwn i fis Chwefror i lle rydw i nawr, mae’n teimlo fel dau unigolyn gwahanol. Roeddwn i’n teimlo ar goll a doedd gen i ddim gobaith i ddweud y gwir. Fe ddysgodd fi i feddwl yn wahanol a meddwl yn rhesymegol am sefyllfaoedd. Mae wedi fy helpu i gael y ffocws a’r cymhelliant i gael yr hyn rydw i ei eisiau.

Roedd fel effaith pelen eira, cyn gynted ag y penderfynais i ddechrau helpu fy hun, fe ddaeth pethau’n well yn raddol.”

Adfer y Gorffennol, Adeiladu'r Dyfodol: Nantclwyd y Dre

Mae gan Nantclwyd y Dre bron i 600 mlynedd o hanes ac mae'n un o'r tai tref ffrâm bren hynaf yng Nghymru.

Mae Rhuthun yn dref sy’n gyforiog o hanes. Llosgwyd hi i’r llawr gan Owain Glyndŵr yn y flwyddyn 1400 ac mae llawer o naws hanesyddol y dref fel rydym ni’n ei hadnabod hi heddiw yn dod o’r bensaernïaeth ffrâm goed a oedd yn gyffredin yn yr ardal yn ystod cyfnod ei hailadeiladu.

Ymysg y strydoedd hyfryd a’r adeiladau hanesyddol mae darn pwysig iawn o dreftadaeth adeiledig Rhuthun, sef Nantclwyd y Dre. Cafodd ei adeiladu yn wreiddiol fel tŷ neuadd i wehydd, felly mae bron i 600 mlynedd o hanes lleol yn perthyn iddo ac mae’n un o’r tai tref ffrâm goed hynaf yng Nghymru sydd ar agor i’r cyhoedd.

Mae bellach yn cael ei reoli gan Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych a gall rhai sy’n ymweld â thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre ail-fyw ei orffennol difyr drwy ymgolli mewn profiadau sain ac arddangosfeydd a gweld ei du mewn sydd oll yn rhoi cipolwg cyfareddol ar fywydau’r teuluoedd a fu’n byw yno.

Yn 2023, cafwyd cyllid i adfer rhannau o’r safle pan gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio gwarchod treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

Cafodd y cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus hynny yng Ngorllewin Clwyd ac nid oes modd ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Fel un o’r prosiectau llwyddiannus, dyfarnwyd £667,000 i ailddatblygu rhannau o’r tŷ sy’n segur ar hyn o bryd ac sydd angen rhywfaint o waith atgyweirio i warchod y darn pwysig hwn o dreftadaeth leol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, creu cyfleoedd newydd ar gyfer yr atyniad i wella ei gynaliadwyedd at y dyfodol ac ychwanegu ambell beth cyffrous ar gyfer profiad yr ymwelwyr.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Hydref, yn canolbwyntio ar roi bywyd newydd i asgell orllewinol segur yr adeilad. Bydd y darn hwn o’r tŷ’n cael ei droi’n llety gwyliau, wedi’i ddylunio a’i ddodrefnu gan gadw at natur hanesyddol yr adeilad, a bydd yn darparu gwell cyfleusterau ar y llawr cyntaf gyda lle penodol ar gyfer y gwirfoddolwyr wythnosol sy’n rhan hollbwysig a gwerthfawr o’r gwaith beunyddiol yn Nantclwyd.

Fodd bynnag, cyn gallu dechrau ar y gwaith, roedd angen rhoi ystyriaeth i un set o drigolion sydd yno ers tro byd. Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ymgynghori ag ecolegwyr i sicrhau na fyddai’r datblygiadau sydd ar y gweill yn tarfu ar fan clwydo ystlumod gwarchodedig, sy’n cynnwys cyfran bwysig o boblogaeth Cymru o Ystlumod Lleiaf ac Ystlumod Pedol Lleiaf. Rhoddwyd hyfforddiant arbenigol i’r contractwyr, a gosodwyd lloches ystlumod fawr yn yr ardd, i roi mwy o le i’r creaduriaid bach yma ffynnu.

Bydd y gwelliannau sydd i ddod hefyd yn gwneud ardal y gegin yn fwy addas i arlwyo ar gyfer digwyddiadau, a bydd yr hafdy’n cael ei adfer i’w hen ogoniant i ymwelwyr ei fwynhau yn ystod misoedd yr haf. Bydd hwn yn lle ychwanegol ar gyfer seremonïau sy’n cael eu cynnal yn y tŷ hanesyddol, fel priodasau a seremonïau partneriaeth sifil.

Mae’r prosiect yn cael ei wneud gan B&W Builders & Decorators ynghyd â TACP Architects ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2026. Mae dull mwy cynaliadwy wedi’i ddefnyddio i wneud y gwaith gwella hefyd, drwy ddefnyddio gwlân i inswleiddio’r adeilad yn hytrach na’r deunydd inswleiddio mwy cyffredin sy’n cael ei wneud o olew, sy’n creu mwy o allyriadau carbon a ddim yn adnewyddadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae dechrau ar y gwaith gwella yma yn Nantclwyd y Dre’n garreg filltir fawr i ddiogelu dyfodol safle hanesyddol mor amlwg yng nghanol tref Rhuthun. 

“Mae Nantclwyd yn atyniad gwych i ymwelwyr ac yn ganolbwynt cymunedol i’n gwirfoddolwyr ymroddgar, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr ardaloedd newydd yn cael eu defnyddio a’u mwynhau gan ymwelwyr.

“Bydd lles yr ystlumod sydd yno’n parhau i fod yn flaenoriaeth wrth wneud y gwaith a byddwn mewn cyswllt cyson gyda’r ecolegwyr trwy gydol y cyfnod.”

Fedrwch chi ddod o hyd i’r blodau gwyllt yma yn Sir Ddinbych?

Gyda’r tywydd yn cynhesu, mae dolydd blodau gwyllt ein sir yn dechrau bywiogi.

Yn 2019, gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng hinsawdd a natur a’r nod oedd mynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Un o'r camau cyntaf oedd dechrau rheoli rhywfaint o laswelltir y Cyngor i greu dolydd blodau gwyllt ledled y sir. Nod y prosiect yw adfer ac ehangu’r cynefinoedd sydd ar gael yn y sir i bryfed peillio a bywyd gwyllt.

Mae gan y prosiect hwn lawer o fanteision neu ‘wasanaethau ecosystem’ i drigolion y sir hefyd, fel llai o lifogydd, gwell ansawdd aer, ac oeri’r aer mewn gwres mawr.

Dyma ganllaw yn dangos y math o flodau y gallech eu gweld yn rhai o’n dolydd ledled Sir Ddinbych Cadwch olwg am yr arwyddion Caru Gwenyn.

Blodau gwyllt mis Mai

Pys y Ceirw

Os ewch i weld ein dolydd blodau gwyllt ym mis Mai, fe welwch bys y ceirw yn eu blodau. Mae gwenyn a phryfed peillio eraill wrth eu boddau â nhw gan eu bod yn llawn paill a dyma ffynhonnell fwyd larfa rhai o’n hoff loÿnnod byw – y Glesyn Cyffredin, y Gwibiwr Llwyd a’r Frithribin Werdd.

Meillionen Goch

Ydych chi wedi gweld meillion cochion yn ein dolydd blodau gwyllt yn ystod mis Mai? Mae’r blodyn gwyllt bach hyfryd hwn yn llawn paill ac mae’n ffynhonnell fwyd hanfodol i wenyn – yn y gorffennol, roedd yn cael ei alw’n “fara gwenyn”. Nid pryfed peillio yn unig sy’n mwynhau’r blodyn bach hwn, mae gwartheg wrth eu boddau ag o hefyd!

Blodyn Neidr

Mae blodau neidr i’w gweld ar draws ein dolydd blodau gwyllt yn ystod mis Mai. Gall y blodyn coetir hwn dyfu bron i 1m o uchder ac mae’n denu gwenyn a gloÿnnod byw at ei flodau pinc llachar trwy agor y petalau yn ystod y dydd. Ble i ddod o hyd iddo: mannau cysgodol fel cloddiau, coetiroedd, ar gyrion coetiroedd a ffyrdd gwledig.

Blodau gwyllt mis Mehefin

Tegeirian Gwenynog (Ophrys apifera)

Ydych chi wedi gweld tegeirian gwenynog yn unrhyw un o'n dolydd blodau gwyllt y mis yma? Mae'r tegeirianau bach yma'n feistri ar dwyllo! Mae'r blodyn yn edrych fel gwenynen yn gorffwyso ac mae hefyd ychydig yn flewog a hyd yn oed yn cynhyrchu arogl sy'n debyg i wenynen fenywaidd er mwyn denu sylw'r gwenyn gwrywaidd sy'n hedfan heibio.

Cribell Felen (Rhinanthus minor)

Mae’r gribell felen yn rheoli uchder ein dolydd blodau gwyllt yn y mis hwn. Mae’r blodyn gwyllt bychan yma’n wych ar gyfer dolydd blodau gwyllt. Fel planhigyn lled-barasitig, mae’n gwanhau twf gwahanol fathau o laswellt drwy fwyta’r maeth sydd yn eu gwreiddiau. Trwy wanhau’r glaswellt cryfaf, mae’r blodau gwyllt mwy eiddil yn cael cyfle i ymsefydlu.

Bysedd y Cŵn (Digitalis purpurea)

Mae bysedd y cŵn yn blodeuo yn ein dolydd ym mis Mehefin. Dyma un o’n blodau gwyllt mwyaf cyfarwydd sy’n rhoi fflach o liw ar gyrion coetir a ffyrdd gwledig gyda blodau siâp cloch sy’n lliw pinc llachar. Yn ôl ‘Plantlife’, gall un ‘bys’ gynhyrchu miliwn o hadau!

Bloda gwyllt mis Gorffennaf

Clafrllys (Knautia arvensis)

Mae blodau piwslas y clafrllys yn wych i ddenu gwenyn, gwyfynod a gloÿnnod byw brodorol. Mae hefyd yn ffynhonnell fwyd hollbwysig i rai o’n rhywogaethau mwyaf prin fel y gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul a glöyn byw brith y gors.

Y Bengaled (Centaurea nigra)

Ym mis Gorffennaf mae blodau pengaled yn blodeuo ar draws ein dolydd. Dyma flodyn gwyllt trawiadol, a’i flodau pinc llachar yn debyg i ysgall. Y bengaled yw un o’r blodau gorau i bryfed peillio. Mae’n ffynhonnell wych o neithdar maethlon i wenyn, gloÿnnod byw a chwilod. Yn nes ymlaen yn y tymor, mae ei hadau’n ffynhonnell bwysig o fwyd i amrywiaeth o’n rhywogaethau brodorol o adar.

Pig-yr-aran y weirglodd (Geranium pratense)

Pig-yr-aran y weirglodd yw’r blodyn gwyllt mwyaf toreithiog o’r genws Geranium. Mae’r rhain yn rhoi fflach o las/fioled yn gynnar yn yr haf ac yn gallu para am fisoedd yn ein dolydd blodau gwyllt. Maent yn parhau i ddenu’r llygad yn ystod misoedd yr hydref hefyd, wrth i’r dail newid o wyrdd i goch trawiadol – does dim rhyfedd ei fod yn ffefryn yng ngerddi nifer o gartrefi!

Llygad Llo Mawr (Leucanthemum vulgare)

Dyma flodyn gwydn sydd i’w weld yn ein dolydd blodau gwyllt. Mae’r llygad llo mawr yn ei flodau o fis Mai i fis Medi.

CIPOLWG

Glanhau Traeth y Rhyl

Mae sesiwn glanhau’r traeth wedi’i drefnu ar draeth y Rhyl, o faes parcio Theatr y Pafiliwn, LL18 3AQ ar Awst 26 o 3pm tan 4pm.

Mae sesiwn glanhau’r traeth wedi’i drefnu ar draeth y Rhyl, o faes parcio Theatr y Pafiliwn, LL18 3AQ ar Awst 26 o 3pm tan 4pm.

Mae croeso i wirfoddolwyr ymuno â’r digwyddiad sydd wedi ei drefnu gan dîm Risg Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych gydag offer yn cael ei ddarparu gan Gadwch Gymru’n Daclus.

Mae’r bartneriaeth yn gweithio i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol yn yr ardal a all greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr, ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

Gall cael gwared ar y sbwriel oddi ar y traeth hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr yn well. Mae'r sesiwn casglu sbwriel, sydd wedi dod yn ddigwyddiad misol, hefyd yn helpu i wella'r amgylchedd i drigolion lleol ac ymwelwyr.

I gael mwy o wybodaeth am ymuno â’r digwyddiad, cysylltwch â claudia.smith@denbighshire.gov.uk / 07785517398 am fwy o fanylion.

Sesiynau galw heibio ar gyfer gweithredwyr sydd â diddordeb i drafod y Broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar gyfer Neuadd y Dref, Dinbych

Gwahoddir partïon sydd â diddordeb i fynychu sesiynau galw heibio i ddysgu mwy am y broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol arfaethedig ar gyfer Neuadd y Dref, Dinbych.

Bydd y sesiynau yn gyfle i grwpiau cymunedol, sefydliadau a phartïon eraill sydd â diddordeb drafod y posibilrwydd o drosglwyddo Neuadd y Dref a gofyn cwestiynau am y broses.

Cynhelir y sesiynau galw heibio yn Llyfrgell Dinbych (Sgwâr y Neuadd, Dinbych, LL16 3NU):

Ddydd Mawrth, 11 Awst 2026 – rhwng 9.00am ac 1.00pm

Dydd Mercher, 12 Awst 2026 – rhwng 1.00pm a 5.00pm

Nid oes angen i chi wneud apwyntiad.  Mae croeso i bartïon sydd â diddordeb fynychu ar unrhyw adeg yn ystod y sesiynau.

Diben y sesiynau yw darparu rhagor o wybodaeth a chyfle i drafod fel rhan o'r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar gyfer Neuadd y Dref, Dinbych.

Cysylltwch gydag assetmanagement@Denbighshire.gov.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau

 

Mae dros 1,100 o blant eisoes yn mwynhau Sialens Ddarllen yr Haf yn Llyfrgelloedd Sir Ddinbych!

Mae dros 1,100 o blant eisoes wedi cofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf eleni yn Llyfrgelloedd Sir Ddinbych – ac mae digon o amser o hyd i ymuno â'r hwyl!

Ydych chi'n chwilio am weithgareddau am ddim i ddiddanu'r plant dros wyliau'r haf? Yn gweld eisiau ffrindiau a chyd-ddisgyblion? Mae gan eich llyfrgell leol bopeth sydd ei angen arnoch.

Mae cofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf yn gwbl RHAD AC AM DDIM, ac mae'n ffordd wych o annog plant i barhau i ddarllen drwy gydol gwyliau'r haf. Cofrestrwch a dewch i'r llyfrgell dair gwaith i fenthyg a dychwelyd llyfrau er mwyn ennill medal a thystysgrif. Mae'r Sialens yn rhedeg tan ddiwedd mis Medi, felly mae digon o amser o hyd i gymryd rhan.

Yn ogystal â'r Sialens Ddarllen, mae llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau am ddim i gadw plant yn brysur ac yn cael hwyl drwy gydol y gwyliau.

Peidiwch â cholli'r cyfle i gwrdd â'r awdur lleol, sydd wedi ennill gwobrau, Oliver Sykes, a fydd yn ymweld â llyfrgelloedd y Rhyl, Prestatyn a Llanelwy gyda'i sioe un dyn newydd sbon, Diesel and Me. Yn seiliedig ar ei blentyndod ei hun, mae'r sioe'n ddathliad doniol, bywiog a chynnes o gymuned a'r teulu rydym yn ei greu o'n cwmpas, ac mae'n addas ar gyfer plant pump oed a throsodd a'r oedolion sy'n dod gyda nhw.

Bydd plant sy'n cofrestru ar gyfer Her Ddarllen yr Haf hefyd yn cael eu cynnwys mewn tyniad gwobr i ennill £50 o docynnau sinema, drwy garedigrwydd Cyngor Llyfrau Cymru.

Thema Sialens Ddarllen yr Haf 2026 yw ‘Cyfrolau’n Canu’, a gyflwynir gan The Reading Agency mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus ac gyda chefnogaeth Universal Music Group UK. Mae'r thema'n annog plant i archwilio'r cysylltiad rhwng straeon a chaneuon, gan ddarganfod sut y gall darllen a cherddoriaeth ysbrydoli dychymyg a chreadigrwydd.

I ddod o hyd i'ch llyfrgell agosaf a gweld beth sy'n digwydd yr haf hwn, ewch i'n gwefan.

 

 

Cadeirydd y Cyngor yn ymweld â Llyfrgell Rhuthun

Ymwelodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Bobby Feeley, â Llyfrgell Rhuthun yn ddiweddar i ddysgu mwy am yr ystod eang o wasanaethau, gweithgareddau a chymorth sydd ar gael i drigolion lleol.

Helen White, Heidi McDougall, Cyng. Bobby Feeley, Vanessa Hill

Ymunodd y Prif Weithredwr, Helen White, Pennaeth Tai a Chymunedau, Heidi McDougall, y Prif Lyfrgellydd, Debbie Owen, a Rheolwr Llyfrgell Rhuthun, Vanessa Hill, â'r Cynghorydd Feeley yn ystod yr ymweliad.

Cafodd y Cynghorydd Feeley gyfle i gwrdd â staff y llyfrgell a gweld drosti ei hun sut mae'r llyfrgell wedi datblygu i fod yn llawer mwy na lle i fenthyg llyfrau. Yn ogystal â'i chasgliad helaeth o lyfrau, mae'r llyfrgell yn cynnig mynediad am ddim at dechnoleg a chymorth digidol, clybiau swyddi, sesiynau Dechrau Da ac Amser Rhigwm i blant ifanc a theuluoedd, grwpiau crefft a darllen, yn ogystal â darparu lle croesawgar lle gall pobl gael mynediad at gyngor a chymorth gan amrywiaeth o wasanaethau.

Gyda Her Ddarllen yr Haf – Cyfrolau’n Canu yn cael ei chynnal ar hyn o bryd mewn llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych, roedd yr ymweliad hefyd yn tynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan lyfrgelloedd wrth annog plant i ddatblygu cariad gydol oes at ddarllen. Mae'r Her yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ac am ddim drwy gydol gwyliau'r haf, gan helpu plant i barhau i ddarllen wrth fwynhau llyfrau, cerddoriaeth a chreadigrwydd.

Un o uchafbwyntiau'r ymweliad oedd gweld gwasanaeth Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych sydd wedi'i leoli yn y llyfrgell, lle mae cynghorwyr cyfeillgar a gwybodus wrth law i helpu pobl gydag ystod eang o broblemau, boed yn fawr neu'n fach.

Aeth y grŵp hefyd i archwilio archif y llyfrgell yn yr islawr, sy'n gartref i gasgliad gwerthfawr o gyhoeddiadau hanesyddol sy'n adrodd hanes cyfoethog Rhuthun a'i phobl.

Daeth yr ymweliad â llawer o atgofion yn ôl i'r Cynghorydd Feeley hefyd. Cofiodd ymweld â'r adeilad am y tro cyntaf yn 1986 fel Cynghorydd newydd ar Gyngor Dosbarth Glyndŵr, pan oedd yr adeilad yn Siambr y Cyngor, cyn iddo gael ei drawsnewid yn y llyfrgell boblogaidd sydd wedi gwasanaethu'r gymuned ers dechrau'r 1990au.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley:

"Roedd hi'n bleser mawr ymweld â Llyfrgell Rhuthun a gweld yr amrywiaeth anhygoel o wasanaethau sydd ar gael yno. Mae llyfrgelloedd heddiw yn llawer mwy na mannau i fenthyg llyfrau – maen nhw'n ganolfannau cymunedol croesawgar lle gall pobl o bob oed ddysgu, cwrdd ag eraill, cael cymorth a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

"Roedd yn hyfryd gweld Her Ddarllen yr Haf ar waith, yn ysbrydoli plant a theuluoedd i fwynhau darllen gyda'i gilydd dros wyliau'r haf. Roedd hefyd yn arbennig iawn cael ailymweld ag adeilad sydd â chymaint o atgofion personol i mi a gweld sut mae wedi esblygu i fod yn adnodd mor bwysig i'r gymuned. Hoffwn ddiolch i'r staff am y croeso cynnes ac am bopeth maen nhw'n ei wneud i gefnogi trigolion bob dydd."

I ddod o hyd i leoliad eich llyfrgell agosaf, ewch i'n gwefan.

 

Digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus OBR yn Rhuthun

Mae Adeiladwaith OBR yn cynnal digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus i drafod y gwaith sy'n mynd rhagddo i Sgwâr San Pedr a Chae Ddôl.

Mae Adeiladwaith OBR yn cynnal digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus i drafod y gwaith sy'n mynd rhagddo i Sgwâr San Pedr a Chae Ddôl.

Gall mynychwyr drafod datblygiad y gwaith gyda thîm y safle a gweld amserlenni'r prosiect. Bydd OBR hefyd yn rhannu eu gweithgareddau arfaethedig er budd y gymuned yn y digwyddiad.

📅 18 Awst

📍 Clwb Rygbi Rhuthun

⏰ 16:00 – 19:30

Newidiadau i brawf traffig Prestatyn

O ddydd Sadwrn 15 Awst, mae trefniant newydd yn cael ei gyflwyno.

Caiff trefniant newydd ei gyflwyno i brawf traffig Prestatyn fel rhan o ymdrechion parhaus y cyngor i wella llif y traffig a lleihau tagfeydd yng nghanol y dref.

O ddydd Sadwrn 15 Awst, bydd cerbydau yn gallu troi i'r dde o'r B5120 Ffordd Pendyffryn, Prestatyn (wrth deithio o gyfeiriad yr orsaf fysiau/Lidl) i lawr Ffordd y Bont tuag at y gylchfan fach, er mwyn cyrraedd busnesau ar waelod y Stryd Fawr a Pharc Manwerthu Parc Prestatyn.

Bwriad y drofa ychwanegol i’r dde yw lleihau nifer y cerbydau sy'n teithio drwy Barc Manwerthu Parc Prestatyn i gyrraedd busnesau ar ben isaf y Stryd Fawr. Drwy ddarparu llwybr mwy uniongyrchol i yrwyr, mae'r cyngor yn gobeithio gallu lleddfu'r pwysau ar ffyrdd lleol a gwella mynediad i drigolion, ymwelwyr a busnesau.

Awgrymodd gwaith modelu traffig blaenorol ar gyfer yr ardal na fyddai troi i'r dde yn y lleoliad yma yn bosib oherwydd lled y ffordd a chyfyngiadau cysylltiedig y briffordd. Fodd bynnag, yn dilyn gwaith manwl ac adolygiad o'r gofod sydd ar gael ar y ffyrdd, nodwyd datrysiad sy'n caniatáu i'r drofa i’r dde ddigwydd yn ddiogel.

Anogir modurwyr i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio drwy'r ardal wrth i ddefnyddwyr y ffyrdd ymgyfarwyddo â'r trefniant newydd. Bydd arwyddion priodol mewn lle i gyfeirio gyrwyr.

Bydd y cyngor yn monitro symudiadau traffig a lefelau tagfeydd yn ystod y cyfnod prawf er mwyn asesu effeithiolrwydd y newidiadau a phenderfynu unrhyw welliannau yn y dyfodol a allai fod eu hangen.

Digwyddiadau Cymunedol

Yn chwilio am rywbeth i'w wneud dros yr haf?☀️

Yn chwilio am rywbeth i'w wneud dros yr haf?☀️

Beth am ddod draw i un o'r digwyddiadau cymunedol, a gynhelir o'r 4ydd hyd at yr 17eg o Awst.

Annog trigolion ac ymwelwyr i leihau'r risg o danau gwyllt yng nghefn gwlad

Mae ymwelwyr â chefn gwlad Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymddwyn yn gyfrifol yr haf hwn er mwyn helpu i leihau'r risg o danau gwyllt.

Mae Cyngor Sir Ddinbych a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rhannu’r cyngor hwn yn dilyn tywydd poeth a sych ac achosion diweddar o danau gwyllt ar draws Gogledd Cymru.

Mae Ceidwaid Cefn Gwlad yn barod i ymateb i adroddiadau am danau gwyllt, a gofynnir i ymwelwyr ddilyn cyngor ar atal tanau mewn gwarchodfeydd natur, parciau gwledig ac ardaloedd cyhoeddus agored eraill:

  • Peidiwch â chynnau tanau na barbeciw; dewch â phicnic yn lle
  • Diffoddwch sigaréts yn llwyr
  • Os gwelwch dân gwyllt neu os ydych yn arogli mwg trwm, ewch i le diogel ar unwaith.
  • Ffoniwch 999 a gofynnwch am y gwasanaeth tân. Byddwch yn barod i roi lleoliad manwl gywir neu nodwedd amlwg yn yr ardal.

Anogir ymwelwyr hefyd i ddefnyddio safleoedd gwersylla sefydledig sydd â chyfleusterau, er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar y timau sy'n monitro safleoedd poblogaidd cefn gwlad.

BBQ

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, yr Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Lleol a Chynllunio yng Nghyngor Sir Ddinbych: "Gyda'r tywydd sych hirfaith, rydym yn arbennig o bryderus ynghylch y risgiau o danau gwyllt sy'n gysylltiedig â gwersylla mewn ardaloedd anghysbell.

"Gall tanau mewn glaswellt, rhedyn a grug ledaenu'n gyflym mewn amodau sych a gwyntog. Os gwelwch yn dda, ceisiwch osgoi tanau agored a diffodd deunyddiau ysmygu yn llwyr."

"Rydym yn annog pobl i ddefnyddio safleoedd gwersylla swyddogol a dilyn rheolau'r safle. Bydd ymddwyn yn synhwyrol yn ystod y tywydd poeth hwn yn helpu i gadw ymwelwyr yn ddiogel, cefnogi ein timau a lleihau'r pwysau ar adnoddau.

Ychwanegodd, "Mae'n arbennig o bwysig ein bod oll yn dilyn y canllawiau hyn o ystyried y pwysau presennol ar Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, sy'n delio â thanau gwyllt ar draws y rhanbarth ar hyn o bryd."

2026 Dyddiadau ar gyfer gwiriad pwysau carafanau am ddim a chyngor ar ddiogelwch

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych a Chonwy yn cynnig sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau a faniau gwersylla.

Gall preswylwyr sy’n mynd ar wyliau mewn carafán neu fan wersylla wneud yn siŵr nad ydynt yn gorlwytho eu carafán a rhoi eu hunain mewn perygl.

Mae’r sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau ar gael i drigolion Sir Ddinbych a Chonwy, ac i’r rheini mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill os gallant deithio i’r lleoliad.

Sesiwn gyngor yw hwn, ac ni chymerir unrhyw gamau os canfyddir gorlwytho neu faterion eraill, ond byddwn yn gweithio gyda chi i leihau'r llwyth. Bydd swyddogion y cyngor yng nghwmni swyddog o adran Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru a fydd yn rhoi cyngor diogelwch ymarferol i gadw'ch car a'ch carafan yn ddiogel.

Bydd y gwiriadau pwysau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal ar y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:

  • Dydd Gwener 17/07 – 10am-3pm
  • Dydd Gwener 28/08 – 10am-3pm

Nid oes angen apwyntiad ar gyfer y sesiynau yma ac mae croeso i breswylwyr fynychu unrhyw un o’r sesiynau a restrir a darganfod a ydynt o fewn y pwysau cyfreithlon ar gyfer eu cerbydau.

Gellir dod o hyd i'r bont bwyso ar ffordd yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy, tua thri chwarter milltir o Ruddlan, a leolir yn y gilfan, bydd arwyddion yn nodi bod y bont bwyso ar waith.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr uchod, cysylltwch ag adran Safonau Masnach Sir Ddinbych ar tradingstandards@denbighshire.gov.uk ewch i'w tudalen Facebook, yn yr un modd cysylltwch â Safonau Masnach Conwy ar trading.standards@conwy.gov.uk

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n uchel ei berfformiad

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych yn dysgu ac yn tyfu

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych wyrddach

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalgar

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych ffyniannus

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Tai o ansawdd sy'n bodloni anghenion pobl

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Cymorth ariannol tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim

Mae cymorth ariannol ar gael tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch a ydych chi'n gymwys ar gael ar y poster isod.

I wneud cais ewch i www.sirddinbych.gov.uk/budd-daliadau neu sganiwch y cod QR.

Darganfod Sir Ddinbych...

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Beth am gael ysbrydoliaeth o'n mapiau cerdded a beicio am syniadau newydd o leoedd i ymweld â nhw.

Am fwy o ysbrydoliaeth ar weithgareddau yn Sir Ddinbych a'r cyffiniau ewch i - https://www.northeastwales.wales/cy/ 

Awydd dod yn Lysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych?

Mae’r cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych, yn gwrs hyfforddiant ar-lein am ddim i wella eich gwybodaeth am y sector twristiaeth yn Sir Ddinbych.

Mae 14 modiwl i ddewis ohonynt ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys cerdded, becio. bwyd, celfyddydau, arfordir, hanes a thwristiaeth gynaliadwy.

Gwyliwch ein ffilm fer sy’n sôn am y cwrs.

Ewch i www.llysgennad.cymru a chychwyn arni heddiw.

 

Cofrestru Llety Ymwelwyr yng Nghymru

Deddf newydd i gofrestru llety ymwelwyr yng Nghymru: Cyhoeddi gweminarau i helpu darparwyr i baratoi

Cofrestru llety i ymwelwyr - posterBydd gofyn i unrhyw un sy'n derbyn archebion ar gyfer llety dros nos yng Nghymru — o westeion achlysurol i weithredwyr gwestai mawr — gofrestru eu llety gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) pan fydd y gofrestr yn lansio'r hydref hwn.

Mae deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn golygu y bydd angen i bob darparwr sy'n cynnig llety i ymwelwyr, boed yn ystafell sbâr sengl, bwthyn gwyliau, gwely a brecwast, neu westy gwasanaeth llawn, gwblhau proses gofrestru ffurfiol. Mae'r gofyniad yn berthnasol p'un a yw gwesteion yn aros am un noson neu sawl wythnos.

Bydd y cynllun cofrestru llety ymwelwyr newydd yn lansio yn hydref 2026. Cyn hyn, mae'r ACC yn annog gwesteiwyr a busnesau i gofrestru am ddiweddariadau fel y gallant dderbyn nodyn atgoffa, canllawiau, a'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r dyddiad cofrestru agosáu. Mae’r broses gofrestru’n rhad ac am ddim ac mae’n orfodol i bob darparwr llety gofrestru hyd yn oed os na chaiff yr Ardoll Ymwelwyr ei chyflwyno yn y pen draw yn y sir. Gallai gall darparwyr sy'n methu â chofrestru wynebu cosbau.

Gweminarau i Gefnogi Gwesteiwyr a Llwyfannau Archebu

Er mwyn helpu i baratoi'r sector, mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cynnig cyfres o weminarau am ddim wedi'u hanelu at ddarparwyr llety ymwelwyr, llwyfannau archebu a chyrff twristiaeth. Bydd y sesiynau hyn yn darparu diweddariadau diweddaraf ar y gofynion cofrestru newydd a chanllawiau clir, ymarferol ar sut y gall darparwyr llety gydymffurfio. Bydd hefyd sesiwn holi ac ateb gydag arbenigwyr ACC.

Dyddiadau'r Gweminarau

Sesiynau Saesneg:

  • Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026, 11am–12pm
  • Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026, 6pm–7pm

Sesiwn Cymraeg:

  • Dydd Iau 26 Mawrth 2026, 11am–12pm

Sut i Gofrestru ar gyfer Gweminar

Gallwch gofrestru ar gyfer gweminar ar y ddolen ganlynol - https://www.llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru/hyfforddiant-digwyddiadau

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer hysbysiadau am y cynllun cofrestru newydd, ewch i https://registervisitoraccommodation.service.gov.wales/email-signup

 

Planhigfa’n meithrin gwely newydd i gefnogi blodau gwyllt

Mae gwely newydd yn llawn cefnogaeth i flodau gwyllt lleol yn dod yn ei flaen yn ein Planhigfa Goed yn Llanelwy.

Mae gwely newydd yn llawn cefnogaeth i flodau gwyllt lleol yn dod yn ei flaen yn ein Planhigfa Goed yn Llanelwy.

Diolch i gymuned o wirfoddolwyr y Blanhigfa Goed, mae lle newydd wedi'i greu y tu allan i'r twneli tyfu i helpu gyda gwaith coed brodorol y safle.

Mae gwirfoddolwyr wedi plannu planhigion dros ben sydd wedi'u tyfu o hadau a gasglwyd ar hyd a lled Sir Ddinbych mewn gwely newydd ei baratoi.

Unwaith y bydd y planhigion yn hadu, bydd yr hadau'n cael eu casglu a'u storio'n briodol yn barod i'w plannu'r tymor canlynol.

Dywedodd Keegan Blazey, Swyddog yn y Blanhigfa Goed: “Mae gennym gymuned wych o wirfoddolwyr yma yn y blanhigfa goed, mae’n wych eu helpu i ddysgu sgiliau newydd ac rydym hefyd yn dysgu drwyddyn nhw diolch i’r profiadau bywyd gwahanol maen nhw’n eu cynnig bob wythnos.

“Bu Francesca, un o’n myfyrwyr sy’n gwirfoddoli, yn ymdrechu’n galed i helpu i greu’r gwely hwn a fydd yn rhoi ffynhonnell hadau wych i ni ar y safle i’n helpu i barhau i ddiogelu a meithrin ein natur leol yn y dyfodol.”

Gorsaf trosglwyddo gwastraff yn croesawu ymweliad y Cabinet

Yn ddiweddar, croesawodd staff yng Ngorsaf Trosglwyddo Gwastraff y Cyngor yn Ninbych aelodau’r Cabinet i gael taith o gwmpas y cyfleuster.

Roedd yr ymweliad yn gyfle defnyddiol i weld yn uniongyrchol sut mae’r broses ailgylchu yn gweithio a sut caiff deunyddiau eu trin pan fyddant yn cyrraedd y safle.

Dangoswyd y gwahanol gamau sy’n rhan o’r broses o drin gwastraff y cartref ac eitemau i’w hailgylchu, gan eu helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r gwaith a wneir gan y staff bob dydd.

Yn yr orsaf trosglwyddo gwastraff, caiff deunydd i’w ailgylchu a gesglir gan breswylwyr Sir Ddinbych eu didoli’n ofalus fel bod modd rhoi’r papur, cardfwrdd, plastigau, gwydr, metalau, eitemau trydanol a deunyddiau eraill a dderbynnir, yn y ffrydiau ailgylchu cywir.

Dangosodd y staff bwysigrwydd gwasanaethau ailgylchu effeithlon i’r staff, o ran diogelu’r amgylchedd, gwella cynaliadwyedd a gwneud y defnydd gorau o adnoddau ar draws Sir Ddinbych.

Trwy weld sut mae’r orsaf yn gweithio, roedd aelodau’r Cabinet yn gallu gweld heriau ymarferol a buddion systemau ailgylchu modern a’r rôl maen nhw’n ei chwarae, gyda chefnogaeth preswylwyr, er mwyn cefnogi dyfodol cynaliadwy cryfach ac amgylchedd glanach.

 

A WYDDOCH CHI?

A wyddoch chi y gallwch wylio cyfarfodydd y Cyngor arlein?

Gallwch weld gweddarllediadau byw ac wedi eu recordio o gyfarfodydd pwyllgorau’r Cyngor ar unrhyw adeg.

Mae'r holl bapurau hefyd i'w gweld gan gynnwys yr agenda a phenderfyniadau.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am beth syn digwydd yn y Cyngor, edrychwch ar y calendr cyfarfodydd i weld beth sy’n mynd ymlaen.

A wyddoch chi mai 0.9% o wariant Treth y Cyngor sy'n mynd ar Wasanaeth Treftadaeth y sir?

Mae Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych yn cyfrif am 0.9% o wariant Treth y Cyngor.

Am hyn, mae'n cadw ac yn hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (wedi'i lleoli yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr.

Drwy ddiogelu'r rhain mae'r gwasanaeth yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.

Trwy ein hatyniadau, digwyddiadau a rhaglenni dysgu, rydym yn cefnogi balchder lleol, twristiaeth ddiwylliannol a'r economi wrth amddiffyn treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd.

Bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd. Mae’n egluro beth allwch chi ei ddisgwyl wrth wneud cais am drwyddedau, yn ystod archwiliadau a gorfodi, a sut i gysylltu neu roi adborth. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan.

Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant yn wythnosol

Fod Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant wythnosol am ddim ledled y sir – gan gynnwys galwadau heibio, teithiau cerdded llesiant, cefnogaeth i bobl ifanc, a gweithgareddau i hybu hyder. Maen nhw ar agor i holl drigolion Sir Ddinbych 16+ oed, ac yn hollol rhad ac am ddim! Edrychwch ar yr amserlen a’r digwyddiadau diweddaraf yma

Llawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, papurau newydd ac yn y blaen

Gallwch chi lawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, cylchgronau digidol a phapurau newydd am ddim gan ddefnyddio ap Borrowbox? Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN. Ddim yn aelod o'r llyfrgell? Mae ymuno ar-lein am ddim www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd.  

A wyddoch chi fod 1.1% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y gwasanaeth Cefn Gwlad?

Mae 1.1% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Cefn Gwlad sy'n rheoli dros 80 o safleoedd cefn gwlad, dros 1,200 hectar o fannau gwyrdd ar gyfer hamdden a chadwraeth.

Mae'r rhain yn amrywio o Barc Gwledig Loggerheads a Moel Fammau, Planhigfa Goed y Sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Prestatyn Dyserth Way, Llantysilio Green yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o safleoedd cymunedol llai ar draws y Sir.

Mae gan y Gwasanaeth dîm arbenigol yn y maes Ecoleg a Choed ledled y Sir,  y dynodiad Tirwedd Genedlaethol, hamdden a hawliau tramwy, sy'n trefnu teithiau cerdded natur ar gyfer iechyd ac yn rheoli'r Ganolfan Cefn Gwlad yn Loggerheads ac arlwyo ym Mhlas Newydd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

Mae Treth y Cyngor yn cynrychioli dim ond 25% o arian y Cyngor

Mae Treth y Cyngor ond yn cyfrif am 25% o gyfanswm cyllid y Cyngor. Pan fyddwch yn talu eich bil Treth y Cyngor blynyddol, mae 1.8% o hwnnw’n talu am gasgliadau gwastraff ac ailgylchu – sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar dreth gyngor eiddo Band D o £1,799.48 y flwyddyn). Mae'r rhan fwyaf o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas - ysgolion ac addysg yw'r gwariant mwyaf sy'n cyfrif am 36.7% tra bod gofal oedolion a gofal cymdeithasol yn cyfrif am 29.8%. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan.

Prydau ysgol am ddim

Mae pob plentyn oed cynradd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy'r cynllun Prydau Ysgol Cynradd Cynradd Cyffredinol. Mae hon yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i sefydlu i helpu gyda'r costau byw cynyddol. Gallwch ddarganfod rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor.

A wyddoch chi bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?

Oeddech chi'n gwybod bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?

Nid yw'r holl Dreth Cyngor a gesglir yn talu am ddim ond gwasanaethau'r cyngor, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân. I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

A wyddoch chi bod 64% o gyllideb y Cyngor yn mynd ar addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol?

Mae 64% o gyllideb y Cyngor yn mynd ar addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol? Mae 14% arall wedi'i neilltuo i bethau fel cynllun cenedlaethol Cymru gyfan ar gyfer budd-dal y Dreth Gyngor a'r ardoll y mae'n rhaid i ni ei thalu i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, sydd wedyn ond yn gadael 22% ar ôl ar gyfer holl wasanaethau eraill y Cyngor gan gynnwys gwagio biniau ac ailgylchu, cynllunio a diogelu'r cyhoedd, diogelu atyniadau treftadaeth, cludo disgyblion i'r ysgol.

Gallwch ddysgu mwy am ble mae'r gyllideb yn mynd ar y tudalennau newyddion.

A wyddoch chi?

Mae 36.7% o'ch Treth Cyngor yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg, a 29.8% yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol, sy'n golygu bod dros 66% o'ch Treth Cyngor yn mynd ar amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

A wyddoch chi fod gan Sir Ddinbych yn Gweithio tudalennau ar ein gwefan?

Mae gan Sir Ddinbych yn Gweithio dudalennau ar wefan y Cyngor.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yma i helpu preswylwyr 16 oed a hŷn a allai fod yn ei chael yn anodd neu sy’n poeni am arian. P’un ai a ydych chi’n chwilio am waith neu angen cefnogaeth i godi eich hun yn ôl ar eich traed, mae nhw yma i’ch arwain chi tuag at ddyfodol gwell. Ewch i'n gwefan i gael gweld beth sydd gennyn nhw i gynnig.

A wyddoch chi fod 1.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd?

Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd.

O fewn hyn mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am 1,419km o briffyrdd (ag eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a cheuffosydd, 302 o waliau cynnal a 26,000 o geunentydd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi bod 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion?

Mae 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion.

A gyda 36.7% yn mynd i ysgolion ac addysg, mae hyn yn golygu bod dros 66% o’ch Treth Cyngor yn mynd i warchod y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn agored i bawb 11 i 25 oed. Mae nhw yn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd cymdeithasol i ddatblygu diddordebau yn ogystal â helpu a chefnogi unrhyw un sydd ei angen. I ddod o hyd i glwb ieuenctid lleol neu i gael cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc, ewch i’n gwefan.

A wyddoch chi bod 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol?

Mae 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol.

Am hyn, mae'r Cyngor yn cludo oddeutu 2,871 o ddisgyblion yn ddiogel i 75 ysgol ledled y sir.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi fod 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd?

Mae 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd.

Am hyn, mae’r Cyngor yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a physt wedi’u goleuo

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

Wyddoch chi mai 1.8% o wariant Treth Cyngor sy’n mynd ar wagu biniau ac ailgylchu?

Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd ar wagio biniau ac ailgylchu sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D).

Am hyn, mae’r Cyngor yn casglu oddeutu 73,000 o finiau o fwy na 47,000 o gartrefi bob wythnos ar draws y sir.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi fod 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd?

Mae 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd ac fel rhan o hyn, mae'r Cyngor yn archwilio oddeutu 720 o fwytai, caffis a lleoliadau pryd ar glud bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ar gyfer trigolioin Sir Ddinbych.

Yn ogystal, mae'r Cyngor yn ymateb i dros 1,200 o geisiadau bob blwyddyn sy'n berthnasol i dai a llygredd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi sut i rhoi eich enw i lawr ar gyfer y Gofrestr Tai?

Ydych chi'n gwybod beth mae SARTH yn ei olygu? Mae SARTH yn sefyll am ‘Single Access Route to Housing’ sef 'Llwybr Mynediad Sengl i Dai’. Dyma lle, os ydych chi am gael eich cynnwys ar y Gofrestr Tai, dim ond un cais y bydd yn rhaid i chi ei wneud. Yn lle gwneud cais i wahanol gymdeithasau tai ar wahân, rydych chi'n cwblhau un cais sy'n cael ei rannu ar draws yr holl landlordiaid hynny sy'n rhan o'r cynllun. Mae ‘Llwybr Mynediad Sengl i Dai’ (SARTH) yn cael ei rannu gan bob darparwr tai cymdeithasol yn Sir Ddinbych. Ar ôl i chi wneud cais i fynd ar y Gofrestr Tai, yna caiff eich angen chi am dy gael ei asesu a'ch bod chi'n cael eich rhoi mewn band blaenoriaeth, gan helpu i sicrhau bod tai'n cael eu dyrannu mewn ffordd deg a thryloyw i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Mae'r holl wybodaeth sydd angen i chi ei gwybod am y cynllun, a sut i wneud cais, ar ein gwefan.

FIDEOS

Beth ddylwn i ei wneud â phapur brown?

Mae papur brown (sy’n cael ei ddefnyddio yn aml ar gyfer pecynnau danfon, bagiau bwyd i fynd neu i bacio o amgylch eitemau mewn bocsys) yn cynnwys ffeibrau fel cardfwrdd nad oes posib’ eu hailgylchu gyda phapur arall. Gwyliwch isod.

Cnwysyddion Nwy

Yn cynllunio barbeciw yr haf hwn? Pan fydd y nwy yn dod i ben, gwnewch yn siŵr bod y silindr yn mynd i'r lle cywir. Ni ddylid byth roi poteli a silindrau nwy yn eich bin ailgylchu cartref na'ch bin gwastraff cyffredinol. Gwyliwch ein fideo byr i gael cyngor syml ar sut i gael gwared arnynt yn ddiogel.

Cofrestru Llety Ymwelwyr yng Nghymru

Bydd gofyn i unrhyw un sy'n derbyn archebion ar gyfer llety dros nos yng Nghymru — o westeion achlysurol i weithredwyr gwestai mawr — gofrestru eu llety gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) pan fydd y gofrestr yn lansio'r hydref hwn.

Bydd y cynllun cofrestru llety ymwelwyr newydd yn lansio yn hydref 2026. Cyn hyn, mae'r ACC yn annog gwesteiwyr a busnesau i gofrestru am ddiweddariadau fel y gallant dderbyn nodyn atgoffa, canllawiau, a'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r dyddiad cofrestru agosáu.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer hysbysiadau am y cynllun cofrestru newydd, ewch i wefan Awdurdod Cyllid Cymru.

Grŵp Casglu Sbwriel Morol

Mae Tîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr wedi dod at ei gilydd i gasglu dros 30 bag o sbwriel ar hyd arfordir Prestatyn. 

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynnal eleni i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol yn yr ardal a all greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

Gall cael gwared ar y sbwriel oddi ar y traeth hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr yn well.

Gwyliwch y clip yma am fwy o wybodaeth.

Gwenoliaid Duon

Wyddoch chi fod ein tîm Bioamrywiaeth hefyd yn gweithio i gefnogi gwenoliaid duon sy'n mudo i Sir Ddinbych yn ystod yr haf?

Wyddoch chi fod ein tîm Bioamrywiaeth hefyd yn gweithio i gefnogi gwenoliaid duon sy'n mudo i Sir Ddinbych yn ystod yr haf? Mae'r adar hyn ar Restr Goch yr DU o Adar sy'n Peri Pryder Cadwraethol. Dysgwch beth rydym yn ei wneud yn y sir a sut gallwch chi helpu drwy wylio'r clip hwn.

BE SY' MLAEN

Gweithgareddau i'r teulu cyfan i fwynhau yn Llygadog, Corwen

Gweithgareddau i'r teulu cyfan i fwynhau yng Nghanolfan Ieuenctid, Llangollen

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw