12/02/2026
Cyngor Sir Ddinbych yn cymeradwyo cyllideb ar gyfer 2026–2027
Heddiw (Dydd Iau, 12 Chwefror) mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo'r gyllideb a gosod lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2026–27.
Fel cynghorau ledled y DU, mae Sir Ddinbych yn parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol. Mae’r galw am wasanaethau’n cynyddu wrth i anghenion ddod yn fwy cymhleth, yn enwedig yn ein hysgolion a chan y rhai sydd angen gofal cymdeithasol. Y flwyddyn nesaf, rhagwelir y bydd costau sydd y tu hwnt i reolaeth y cyngor yn uwch na £20 miliwn am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Mae'r mwyafrif o gostau dyddiol y cyngor i ddarparu gwasanaethau’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda'r 25% sy'n weddill o'r cyllid yn dod o'r Dreth Gyngor. Er ein bod yn croesawu’r cynnydd diweddar mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru, nid yw’n mynd i’r afael â’r pwysau ariannol yn llawn, gan wneud cynnydd yn y Dreth Gyngor yn anochel.
Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol dros Gyllid: “Gyda 64% o’n cyllideb yn cael ei wario ar ysgolion, gofal cymdeithasol a digartrefedd, a 14% wedi’i ymrwymo i bethau fel cynlluniau cenedlaethol Cymru gyfan ar gyfer budd-dal y Dreth Gyngor a’r ardoll y mae’n rhaid i ni ei thalu i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, dim ond 22% sydd ar ôl ar gyfer holl wasanaethau eraill y Cyngor.
“Rydym yn gwybod bod y gwasanaethau hyn yn bwysig iawn i drigolion, ond mae’r galw cynyddol am wasanaethau statudol yn golygu bod cyllidebau’n cael eu gwasgu’n barhaus. Mae’n holl bwysig mai’n blaenoriaeth ni yw amddiffyn ein trigolion mwyaf agored i niwed.
“Wrth osod cyllideb eleni, rydym wedi gweithio’n galed i gadw cynnydd yn y Dreth Gyngor mor isel â phosibl, gan osgoi toriadau i wasanaethau, wrth barhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol y mae pobl yn dibynnu arnynt.”
Mae’r Dreth Gyngor a gymeradwywyd ar gyfer 2026–27 yn 4.76% ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor, ynghyd â’r 0.46% ychwanegol y mae’n rhaid ei dalu i ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, gan roi cyfanswm o 5.22%.
Mae gwasanaethau hanfodol fel addysg, gofal i oedolion, cefnogaeth i blant ac atal digartrefedd yn cyfrif am 64% o gyfanswm cyllideb y Cyngor. Mae'r gweddill yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau bob dydd gan gynnwys:
- Archwilio tua 720 o fusnesau bwyd bob blwyddyn
- Casglu tua 73,000 o finiau a chynwysyddion ailgylchu yn wythnosol o bron i 49,000 o gartrefi
- Cynnal a chadw safleoedd cefn gwlad fel Loggerheads, Moel Famau a Pharc Bodelwyddan
- Diogelu atyniadau treftadaeth gan gynnwys Carchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre a Phlas Newydd
- Darparu, ar gyfartaledd, 12,000 pryd ysgol bob dydd
- Cludo tua 2,870 o ddysgwyr yn ddiogel i'r ysgol
- Cynnal a chadw 11,763 o oleuadau stryd a 1,419 km o ffyrdd sirol
Ychwanegodd y Cynghorydd Jones: “Rwy'n falch nad yw'r gyllideb hon yn gofyn am ostyngiadau i ddarpariaeth gwasanaethau. Yn lle hynny, rydym wedi canolbwyntio ar effeithlonrwydd, cynhyrchu incwm a thrawsnewid sut mae gwasanaethau'n gweithredu.”
I'r trigolion hynny sy'n poeni am dalu eu Treth Gyngor, gall y rhai ar incwm isel fod yn gymwys i gael cymorth trwy'r Cynllun Gostyngiadau Treth Gyngor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Sir Dinbych.