NEWYDDION

Plannu coed yn dod â bywyd newydd i ddau fan awyr agored yn y Rhyl

Mae gwaith wedi digwydd i wella dau ardal awyr agored gyhoeddus yn y Rhyl er budd trigolion lleol a natur

Mae gwaith wedi digwydd i wella dau ardal awyr agored gyhoeddus yn y Rhyl er budd trigolion lleol a natur.

Mae tîm Newid Hinsawdd, Gwasanaethau Cefn Gwlad a Gwasabnaethau Stryd Sir Ddinbych wedi dod ynghyd i blannu dros 600 o goed mewn mannau gwyrdd mynediad cyhoeddus yn Walnut Crescent yn Ystâd Park View a'r ffordd i Barc Violet Grove yn Ystâd Trellewelyn.

Mae’r gwaith wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin 2025/26 sydd wedi rhoi £278,600 i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith adfer natur ledled y sir.

Ymysg y gwaith plannu bydd cymysgedd o wrychoedd a choed safonol yn datblygu yn y ddau safle i ddarparu cynefinoedd newydd i gefnogi natur leol.

Mae'r rhywogaethau a blannwyd yn cynnwys coed bedw arian, celyn, coed cyll, aethnen, masarn bach, criafolen, bedwen gyffredin, rhosod gwyllt, gwifwrnwydden y gors, draenen wen, derwen mes di-goes, ceirios gwyllt ac oestrwydden.

Plannwyd saith coeden o faint safonol a chrëwyd gwrych yn Walnut Crescent. Bydd blychau nythu ar gyfer adar, ystlumod a draenogod hefyd yn cael eu gosod ar y safle hwn.

Plannwyd gwrych hirach yn Violet Grove ochr yn ochr â 10 coeden ffrwythau, ynghyd â saith coeden collddail.  Bydd ardal ar y safle hefyd yn cael ei rheoli fel dôl blodau gwyllt i gynnal peillwyr fel gloÿnnod byw a gwenyn.

Bydd y coed ychwanegol yn y ddwy ardal yn dod â buddion i'r gymuned leol. Yn ogystal â dal carbon, a darparu cynefin i bryfed a bwyd i adar ac ystlumod, gall y coed hidlo llygryddion niweidiol o'r awyr, gweithredu fel cyflyrwyr aer naturiol, gan leihau tymereddau trefol, a darparu ardaloedd o gysgod. 

Mae’r coed ffrwythau oll yn rhywogaethau lleol Cymreig, fel afal Rhyl Beauty ac eirin Dinbych, i helpu i warchod y rhywogaethau lleol a phrin yma yn eu tarddle, er budd ein diwylliant a’n bioamrywiaeth.    Ac, ymhen amser, bydd y coed hyn yn darparu byrbrydau maethlon am ddim i drigolion. 

Gall gwreiddiau a dail coed hefyd ddal gwlybaniaeth glaw trwm, gan leihau faint o ddŵr sy'n mynd i mewn i systemau draenio a helpu i atal llifogydd lleol.

Mae cerdded ymhlith coed hefyd wedi'i brofi i fod yn fuddiol i iechyd a lles pobl.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn ddiolchgar am y gwaith partneriaeth rhwng y gwahanol wasanaethau sydd wedi helpu i roi bywyd newydd i’r ddwy ardal awyr agored mynediad cyhoeddus yn y Rhyl. Bydd y gwaith hwn yn rhoi hwb mawr i natur ar yr ystadau hyn a hefyd yn darparu budd gwirioneddol i les y cymunedau yn yr ardal.”

 

 

 

Caban cymunedol bron â chael ei gwblhau yn Ysgol Cefn Meiriadog

Mae’r caban cymunedol yn Ysgol Cefn Meiriadog bron â chael ei gwblhau, ac mae’r prif strwythur bellach yn ei le ac mae insiwleiddiad yn y waliau wedi’i osod.

Caban o'r tu allan

Wedi’i ariannu drwy fenter Ysgolion Bro gan Lywodraeth Cymru, dechreuodd y gwaith o adeiladu’r caban yn gynharach yn y flwyddyn, ac ers hynny mae’r ffrâm, to, ffenestri a drysau wedi cael eu gosod. 

Fe fydd gan y caban, sydd ag ôl-troed 60 metr sgwâr ardal gegin a thoiled hygyrch, yn ogystal â’r prif ofod. Fe fydd y gofod y tu allan i’r caban hefyd yn cael ei ailwampio a bydd modd i ddisgyblion ei ddefnyddio.

Mae’r adeilad yn creu gofod sydd yn cefnogi ymgysylltu â theuluoedd, cydweithio gyda gwasanaethau eraill ac anghenion cymuned yr ysgol.

Fe fydd cladin yn cael ei ychwanegu at y to yn rhan o gamau nesaf y prosiect, yn ogystal â’r gwaith o gysylltu a gosod y cyflenwad dŵr a thrydan.

Tu fewn y caban

Yn ogystal â’r caban, bydd paneli solar yn cael eu gosod ar do prif adeilad yr ysgol gan leihau effaith carbon y prosiect hwn. 

Fe fydd y prosiect yn cael ei orffen yn y gwanwyn.

Meddai Laura Martin, Pennaeth Ysgol Cefn Meiriadog:

“Rydym ni wrth ein boddau gyda’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyn yn hyn ac allwn ni ddim aros i’r gwaith gael ei gwblhau.  Fe fydd yr adeilad yma’n ased gwych i Ysgol Cefn Meiriadog, gan sicrhau y gall yr ysgol a’r gymuned ei ddefnyddio am sawl blwyddyn i ddod.

Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Gyngor Sir Ddinbych am eu cefnogaeth barhaus gyda’r prosiect yma.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Fe fydd y prosiect yma yn Ysgol Cefn Meiriadog yn ased enfawr i’r ysgol a’r gymuned fel ei gilydd.

Gan ddisodli adeilad hŷn, fe fydd y caban newydd yma’n cael ei gwblhau yn y gwanwyn ac fe fydd yn cael ei ddefnyddio gan yr ysgol y flwyddyn academaidd hon.”

Gwella croesffyrdd yr A541 i Bont y Cambwll, Trefnant

Bydd Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud gwaith cynnal a chadw o groesffyrdd yr A541 i Bont y Cambwll Trefnant.

Bydd Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud gwaith cynnal a chadw o groesffyrdd yr A541 i Bont y Cambwll Trefnant.

Byddwn yn rhoi wyneb newydd ar y ffordd rhwng 2 Mawrth a 22 Mawrth.

Mae'r gwaith yn rhan o raglen cynnal a chadw ffyrdd barhaus y Cyngor i wella cyflwr y rhwydwaith ffyrdd i drigolion ac ymwelwyr y sir.

Yn ystod y gwaith, bydd y ffordd ar gau a bydd arwyddion i ddangos y llwybr amgen.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn ymwybodol fod cyflwr rhwydwaith ffyrdd Sir Ddinbych yn destun trafod rheolaidd ymhlith ein preswylwyr. Mae’r Cyngor yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â chyflwr ein ffyrdd ledled y sir er budd y rhai sy'n defnyddio'r llwybrau hyn.

“Hoffaf ddiolch i’r trigolion sy’n byw yn yr ardal hon a’r gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybr hwn am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig yma.”

Mae rhagor o wybodaeth am waith Priffyrdd ar gael ar ein gwefan: www.sirddinbych.gov.uk/ffyrdd.

 

Ffair swyddi lwyddiannus yn cysylltu cannoedd o bobl â chyfleoedd cyflogaeth cyffrous

Mae ffair swyddi ddiweddaraf Sir Ddinbych yn Gweithio wedi cael ei chanmol yn llwyddiant ysgubol, gan ddod â thrigolion, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau cymunedol ynghyd am ddiwrnod egnïol o gyfleoedd a chysylltiadau.

Wedi'i gynnal yn 1891 yn Y Rhyl ddydd Mercher, 25 Chwefror, denodd y digwyddiad dros 500 o bobl yn edrych am waith yn awyddus i archwilio llwybrau gyrfa newydd, cwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb, a chael mynediad at gymorth ar unwaith i symud yn agosach at waith.

Cymerodd mwy na 50 o gyflogwyr ran, yn cynrychioli ystod eang o sectorau gan gynnwys lletygarwch, manwerthu, adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol, diwydiannau gwyrdd, a gwasanaethau digidol. Adroddodd llawer o gyflogwyr ddiddordeb cryf gan y mynychwyr, gyda nifer yn sicrhau cyfweliadau ar y diwrnod ac yn symud ymgeiswyr ymlaen i swyddi gwag byw.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn adnabyddus am y dull o weithio sy'n canolbwyntio ar gael gwared ar rhwystrau i drigolion, ac fe chwaraeodd ran flaenllaw wrth drefnu a chyflwyno'r digwyddiad. Roedd cynghorwyr wrth law i gynnig canllawiau personol, cyngor ar CV, a gwybodaeth am hyfforddiant lleol, gwirfoddoli, a rhaglenni cymorth a ariennir. Sicrhaodd eu presenoldeb fod ceiswyr gwaith nid yn unig yn derbyn mynediad at gyflogwyr ond hefyd y gefnogaeth cyfan oedd ei hangen i gymryd y camau nesaf yn hyderus.

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr, Cyflogaeth Strategol:

“Rydym wrth ein bodd gyda’r nifer a ddaeth a’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan drigolion a chyflogwyr. Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos cryfder ein cymuned a’n hymrwymiad cyffredin i helpu pobl i symud i gyflogaeth ystyrlon a chynaliadwy. Rydym yn falch o gefnogi trigolion ym mhob cam o’u taith ac yr un mor falch o helpu busnesau lleol i gysylltu â’r dalent sydd ei hangen arnynt i dyfu.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:

“Mae’r nifer o bobl a ddaeth yno yn dangos pa mor ymroddedig yw ein trigolion i adeiladu eu gyrfaoedd a pha mor ymroddedig yw ein cyflogwyr lleol i’w cefnogi. Mae digwyddiadau fel hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gryfhau economi Sir Ddinbych a helpu ein cymunedau i ffynnu.

Rydym yn falch o barhau i weithio ochr yn ochr â phartneriaid a chyflogwyr i greu cyfleoedd cynhwysol i bobl ledled Sir Ddinbych.”

Canmolodd y mynychwyr y digwyddiad am ei awyrgylch croesawgar a’i gefnogaeth ymarferol, gan dynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer ceisiadau ar unwaith, atgyfeiriadau hyfforddi, a sgyrsiau uniongyrchol gyda chyflogwyr sy’n recriwtio.

Mae'r Ffair Swyddi yn rhan o ymdrech ehangach Sir Ddinbych i hybu sgiliau, hyder a chyflogaeth ledled y sir. Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn parhau i gefnogi trigolion drwy gydol y flwyddyn gydag amrywiaeth o wasanaethau o hyfforddiant un i un i raglenni cyflogadwyedd wedi'u teilwra gan sicrhau bod gan bawb gyfle i ffynnu, beth bynnag fo'u hamgylchiadau.

I gael gwybod am ddigwyddiadau sydd ar ddod, cyfleoedd hyfforddi a chefnogaeth sydd ar gael, gallwch ymweld â’n gwefan.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau dros Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r rhai mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael cyflogaeth.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU.

Arian i Gyngor Sir Ddinbych i ddatblygu a gwireddu ecwiti iechyd ledled y sir

Bydd pecyn cenedlaethol o gymorth i ddatblygu a gweithredu systemau tegwch iechyd.

Mae Sir Ddinbych yn un o dri ardal awdurdod lleol i gael cyllid i ddod yn arloeswr ar gyfer uchelgais ‘Cenedl Marmot’, a gyhoeddwyd mewn Uwchgynhadledd Tegwch Iechyd yng Nghaerdydd (dydd Mawrth 24 Chwefror).

Caiff pecyn cenedlaethol o gymorth ei ddarparu i gynghorau Sir Ddinbych, Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot am ddwy flynedd o fis Ebrill ymlaen. Bydd y cyllid yn datblygu ac yn gweithredu systemau tegwch iechyd yn y tair ardal ac yn lledaenu arferion da yn ehangach ledled Cymru

Ym mis Mehefin 2025, daeth Cymru'n 'Genedl Marmot' gyntaf y byd, gan fabwysiadu wyth egwyddor Syr Michael Marmot i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, “Yng Nghymru, mae anghydraddoldebau iechyd dwfn wedi arwain at ganlyniadau gwaeth o ran ansawdd bywyd, cyflyrau iechyd hirdymor, a disgwyliad oes a hynny oherwydd lle mae rhywun yn cael ei eni a lle mae'n tyfu i fyny.

“Mae'r dull cenedlaethol hwn yn dangos ein bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chau'r bwlch fel y gall pobl mewn cymunedau cyfagos dyfu i fyny gyda'r un cyfleoedd bywyd a'r un disgwyliad oes.”

Mae Cymru eisoes mewn sefyllfa dda ar gyfer y gwaith hwn drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 10 oed yn ddiweddar.

Helen White, Prof Marmott - Summit
Yn y llun o'r chwith i'r dde: Helen White, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Syr Michael Marmot, ac Emily Mc Gill a Daniel Evans o Gyngor Sir Ddinbych

Dywedodd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Dinbych, “Rydym yn falch iawn bod Sir Ddinbych wedi cael ei chymeradwyo fel arloeswr Cenedl Marmot. Mae sawl ffactor yn cyfrannu at iechyd da, fel addysg, cyflogaeth a thai, ac rydym yn cydnabod bod plant sy’n cael eu geni yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o wynebu anghydraddoldebau iechyd.

“Rydym yn benderfynol o gymryd camau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ledled y sir er mwyn sicrhau nad yw iechyd da yn cael ei bennu’n unig ar ble rydych chi’n digwydd byw.

“Rydym yn falch o’r gwaith sydd eisoes ar y gweill sy’n ymgorffori llawer o egwyddorion Marmot. Er enghraifft, mae Sir Ddinbych yn Gweithio, sy’n un o ddim ond tri phrosiect yng Nghymru i dderbyn cyllid ‘Trailblazer’ Llywodraeth Cymru, eisoes yn helpu trigolion i wella eu hiechyd, eu sgiliau a’u hyder i symud i mewn i waith. Trwy’r bartneriaeth ddiweddar ‘Y Tu Hwnt i’r Rhwystrau’ gyda RCS, rydym yn darparu mynediad cyflym at gefnogaeth therapiwtig i bobl sy’n wynebu heriau iechyd sy’n eu hatal rhag gweithio, gan eu helpu i feithrin gwydnwch a symud yn agosach at gyflogaeth gynaliadwy.

“Rydym yn parhau i flaenoriaethu gwaith ymatal, gan gynnig cyngor a chefnogaeth gynnar cyn i broblemau waethygu ac mae ein gwaith ar ail-alluogi, atal digartrefedd ac atal trais eisoes yn dwyn ffrwyth. Mae ein model ailgartrefu cyflym wedi haneru’r defnydd o lety brys, ac mae ein buddsoddiad mewn cartrefi fforddiadwy, cynnes a hygyrch wedi’i gydnabod.

“Bydd y cyllid a gadarnhawyd heddiw yn mireinio ein ffocws dros y ddwy flynedd nesaf, yn cryfhau gweithio ar draws gwasanaethau, ac yn gwella sut rydym yn gwerthuso effaith ein gwaith. Dyma gyfle cyffrous i’r Cyngor ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Sefydliad dros Ecwiti Iechyd i wella ein darpariaeth er budd ein trigolion.”

Cyfarfu Prif Weithredwr Sir Ddinbych, Helen White ynghyd â chydweithwyr o’r Cyngor â Syr Michael Marmot yn yr Uwchgynhadledd Ecwiti Iechyd a dywedodd, “Roedd yn wych cael clywed yn uniongyrchol gan Sir Michael am sut gall ymgorffori’r dull Cenedl Marmot arwain at waredu anghydraddoldeb iechyd er mwyn sicrhau gwell canlyniadau ar draws cymunedau. Edrychwn ymlaen at ddysgu gan eraill wrth i ni ddatblygu’r maes pwysig yma o waith.”

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, “Mae lefel yr anghydraddoldeb sy'n bodoli yng Nghymru heddiw yn annerbyniol. Mae'n niweidio bywydau, yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn byrhau disgwyliad oes. Os na fyddwn yn gweithredu nawr, ni fydd y niwed a'r costau hyn ond yn cyflymu.

“Dyna pam y gwnes i alw, yn Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol, ar i Gymru ddod yn genedl Marmot. Mae'r dull Marmot yn adlewyrchu uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol drwy fynd i'r afael ag achosion sylfaenol iechyd gwael — sef tlodi, tai ansicr, mynediad anghyfartal i addysg, a mynediad cyfyngedig at natur. Mae hyn yn ymwneud ag atal, tegwch, a gwydnwch hirdymor.

Yr wyth egwyddor Marmot yw:
1. Rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn
2. Galluogi pob plentyn, person ifanc ac oedolyn i wneud y gorau o'u galluoedd a chael rheolaeth dros eu bywydau
3. Creu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb
4. Sicrhau safon byw iach i bawb
5. Creu a datblygu lleoedd a chymunedau iach a chynaliadwy
6. Cryfhau rôl ac effaith atal afiechyd
7. Mynd i'r afael â hiliaeth, gwahaniaethu a'u canlyniadau
8. Dilyn cynaliadwyedd amgylcheddol a chydraddoldeb iechyd gyda'n gilydd

Rhoi wyneb newydd ar ffordd Pont H y Rhyl

Fis Mawrth bydd gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar Bont H yn y Rhyl.

Fis Mawrth bydd gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar Bont H yn y Rhyl.

Byddwn yn rhoi wyneb newydd ar y ffordd rhwng 3 Mawrth a 25 Mawrth. 

Mae’r gwaith yma wedi’i ariannu drwy Fenter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.

Clustnododd y Cyngor 57 o leoliadau yn Sir Ddinbych i fanteisio ar y rhaglen ddwy flynedd hon. Nod y rhaglen (sydd wedi rhoi £4.780 miliwn ar gyfer 2025/26-2026/27) yw gwella cyflwr rhwydwaith ffyrdd y sir.

Yn ystod y gwaith, bydd y ffordd ar gau a bydd arwyddion i ddangos y llwybr amgen.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae Pont H wedi bod yn destun trafod i nifer o breswylwyr oherwydd cyflwr y ffordd, ond bydd y gwaith yma’n gwella’r llwybr teithio er budd defnyddwyr y ffordd.  

“Hoffaf ddiolch i’r trigolion lleol a’r gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybr hwn am eu cefnogaeth a’u hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig yma.”

Mae rhagor o wybodaeth am waith Priffyrdd ar gael ar ein gwefan: www.sirddinbych.gov.uk/ffyrdd

 

 

Disgyblion Prestatyn yn plannu cefnogaeth ar gyfer natur

Mae disgyblion Ysgol y Llys wedi bod wrthi’n helpu natur ar dir eu hysgol trwy greu cynefinoedd newydd.

Mae disgyblion Ysgol y Llys wedi bod wrthi’n helpu natur ar dir eu hysgol trwy greu cynefinoedd newydd.

Mae disgyblion wedi ymuno gydag aelodau tîm Bioamrywiaeth a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych i blannu dros 600 o goed amrywiol yn yr ysgol.

Mae’r gwaith wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025/26 sydd wedi rhoi £278,600 i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith adfer natur ledled y sir.

Mae disgyblion wedi bod yn brysur yn creu cynefin newydd ar gyfer natur ar dir yr ysgol, gan gynnwys gwrychoedd, coed safonol, a pherllan.

Mae’r coed maint safonol a blannwyd yn cynnwys gwern, coed criafol, coed cyll, masarn bach, ceirios duon, corswigen a gwifwrnwydd.

Bu’r plant yn plannu bedwen arian hefyd a fydd yn helpu i ddarparu bwyd a chynefin i lawer o rywogaethau pryfaid gan gynnwys pryfed gleision. Mae’r dail yn darparu bwyd hanfodol i lindys llawer o wyfynod gan gynnwys gwyfynod llenni crychlyd, blaenau brigau a bachadenydd graeanog.

Bydd coed llai, gwahanol a blannwyd yn Ysgol y Llys hefyd yn helpu i greu gwrychoedd a fydd yn helpu disgyblion i ddysgu mwy am sut mae’r math o gynefin yn darparu cefnogaeth i natur leol wrth iddynt ddatblygu ac aeddfedu.

Roedd y coed a blannwyd i greu’r ardaloedd hyn yn cynnwys afalau surion sy’n rhoi ffynhonnell hanfodol o baill a neithdar i wenyn. Mae adar duon, brain a bronfreithod i gyd yn bwyta’r ffrwythau hefyd. Gall llygod, llygod cwta a llwynogod fwyta ffrwythau’r goeden hefyd.

Yn ogystal â bod yn gyfle i’r plant ddysgu mwy am fyd natur lleol bydd y cynefinoedd newydd a grëwyd yn yr ysgol hefyd yn cyfrannu at amsugno allyriadau carbon yn lleol, diolch i’r coed ychwanegol sydd wedi’u plannu.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn ddiolchgar iawn i holl ddisgyblion Ysgol y Llys am eu gwaith gwych wrth greu’r ardal newydd hon i gefnogi natur leol ac i elwa lles a dysgeidiaeth yr holl ddisgyblion presennol ac yn y dyfodol.”

 

 

Gwaith diogelwch ffyrdd ar fin dechrau ym Mhrestatyn

Mae'r gwaith i wella diogelwch ffyrdd mewn cyffordd ym Mhrestatyn i ddechrau'n fuan.

Nodwyd yr angen am y cynllun gan Gyngor Sir Ddinbych a Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â'r patrwm pryderus o wrthdrawiadau wrth gyffordd Bastion Road, Bridge Road, Station Road a Sandy Lane ym Mhrestatyn.

Sicrhaodd Cyngor Sir Ddinbych £120,000 o gyllid grant o grant cyfalaf diogelwch ffyrdd Llywodraeth Cymru i gwblhau'r gwaith.  Mae'r cyllid grant hwn wedi'i glustnodi ac ni ellir ei ddefnyddio ar brosiectau eraill.

Bydd y cynllun yn edrych i gyflwyno gwelliannau i'r groesfan sebra bresennol, llwybrau troed gwell a symleiddio cynllun y gyffordd a bydd yn cael ei wneud gan y contractwyr lleol KM Construction.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Simon Barrasford o Wasanaethau Cefnogaeth Weithredol Heddlu Gogledd Cymru:

 "Mae cyflwyno'r gwelliannau diogelwch hyn ym Mhrestatyn yn nodi cam pwysig wrth fynd i'r afael â phryderon yn dilyn gwrthdrawiadau yn yr ardal.

 "Diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth, a lle mae patrymau o ddigwyddiadau yn dod i'r amlwg, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i gymryd camau pendant. 

 "Mae'r mesurau hyn wedi'u cynllunio i leihau risg, annog ymddygiadau gyrru mwy diogel, ac amddiffyn pawb sy'n defnyddio'r ffyrdd hyn yn well.  Rydym yn cefnogi'r cynllun yn llawn ac yn parhau i fod wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein cymunedau'n ddiogel."

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

"Mae'n galonogol gweld bod Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud cyffordd mor brysur ym Mhrestatyn yn fwy diogel i yrwyr a cherddwyr sy'n defnyddio'r ffordd.

"Diogelwch trigolion yw ein prif bryder ac mae'n bwysig, pan fydd patrymau pryderus fel y rhain yn dod i'r amlwg, eu bod yn cael eu nodi a'u trin yn briodol mewn modd amserol".

Cynlluniau gwella ffyrdd mis Mawrth

Fis Mawrth, bydd Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi wyneb newydd ar nifer o ffyrdd y sir,

Fis Mawrth, bydd Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi wyneb newydd ar nifer o ffyrdd y sir, gan barhau i wella llwybrau teithio ar hyd a lled y sir.

Bydd y gwaith yn cynnwys sawl cynllun sydd wedi’i ariannu drwy Fenter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.

Clustnododd y Cyngor 57 o leoliadau yn Sir Ddinbych i fanteisio ar y rhaglen ddwy flynedd hon. Nod y cyllid (£4.780 miliwn ar gyfer 2025/26-2026/27) yw gwella cyflwr rhwydwaith ffyrdd y sir.

Mae cynlluniau eraill mis Mawrth wedi’u hariannu drwy gronfa gyfalaf y Cyngor, i wella profiadau gyrru preswylwyr ac ymwelwyr y sir.

Dyma’r cynlluniau sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru:

  • Ffordd Wigfair, Llanelwy: 02/03 – 13/03
  • Pont ‘H’, y Rhyl: 02/03 – 25/03  
  • Llys y Delyn i gyffordd Bryn Mawr, Rhuallt: 21/03 – 25/03
  • Ffordd Las, y Rhyl: 30/03 – 19/04  

Dyma gynlluniau cyfalaf Cyngor Sir Ddinbych:

  • Maes y Coed, Dinbych: 02/03 – 06/03
  • B5105 Clawddnewydd: 16/03 – 30/03
  • Fforddisa, Prestatyn: 19/03 – 20/03
  • Green Dinbych i’r A541: 23/03 – 19/04    
  • A542 Bwlch yr Oernant: 24/03 – 02/04
  • Lôn yr Ysgol, Eryrys: 25/03 – 02/04
  • A5104 Bryneglwys: 16/03 – 02/04  

 

Bydd rhagor o wybodaeth am rai o’r cynlluniau hyn yn cael ei chyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni’n ymwybodol iawn o’r trafodaethau parhaus a gynhelir am gyflwr ein ffyrdd yma yn Sir Ddinbych. Bydd llawer o waith caled yn cael ei wneud fis Mawrth i fynd i’r afal â rhan fawr o’n rhwydwaith er budd y rheiny sy’n defnyddio ein ffyrdd.

“Hoffwn ddiolch i’r holl drigolion sy’n byw yn yr ardaloedd dan sylw ac i’r gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybrau hyn am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig yma fis Mawrth.”

Mae rhagor o wybodaeth am waith Priffyrdd ar gael ar ein gwefan: www.sirddinbych.gov.uk

 

 

Y gymuned yn dod at ei gilydd mewn digwyddiad ‘Cwrdd â’ch Cymdogion’ yn Ninbych

Daeth preswylwyr Llwyn Eirin at ei gilydd yn HWB Dinbych yn ddiweddar ar gyfer digwyddiad cymunedol llwyddiannus ‘Cwrdd â’ch Cymdogion’.

Wedi’i drefnu gan Wasanaeth Tai a Chymunedau’r Cyngor, daeth y digwyddiad â phreswylwyr Llwyn Eirin, sydd wedi symud i’w cartrefi newydd yn ddiweddar, ynghyd â sefydliadau partner er mwyn cryfhau cysylltiadau cymunedol, cwrdd â chymdogion ac i dynnu sylw at yr ystod eang o gymorth sydd ar gael iddynt yn Ninbych.

Cafodd trigolion Llwyn Eirin gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o Dechrau'n Deg / Teuluoedd yn Gyntaf, Tai Sir Ddinbych, a Sir Ddinbych yn Gweithio yn HWB Dinbych. Roeddent hefyd yn gallu cymryd rhan mewn crefftau gyda'r artist lleol Jude Wood (trwy DLL Cyf) a helpodd lluniaeth ysgafn i greu awyrgylch hamddenol a chroesawgar i helpu i gefnogi'r trigolion newydd, gyda'r teuluoedd yn mynychu drwy gydol y prynhawn.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas:
“Roedd yn wych gweld cymaint o breswylwyr yn dod i’r digwyddiad ac yn cymryd y cyfle i gysylltu â’i gilydd ac â’r gwasanaethau sydd ar gael yn lleol.

“Mae dod â phartneriaid at ei gilydd o dan un to yn ei gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad at gyngor a chymorth, tra hefyd yn helpu i adeiladu perthnasoedd cryfach o fewn y gymuned.

“Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos cryfder yr ysbryd cymunedol sydd gennym yma yn Ninbych, ac rydym yn ddiolchgar i bawb a fynychodd ac a gyfrannodd at brynhawn mor gadarnhaol.”

Hoffai’r Cyngor ddiolch i’r holl bartneriaid a phreswylwyr a gefnogodd y digwyddiad ac a helpodd i’w wneud yn llwyddiant, ac rydym yn gobeithio y bydd preswylwyr Llwyn Eirin yn hapus iawn yn eu cartrefi newydd.

Cefnogwyd y datblygiad gan gyllid Llywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Tai Arloesol, gan alluogi Cyngor Sir Ddinbych i weithio gyda Chwmni Buddiant Cymunedol Creu Menter o’r Rhyl i gydosod cydrannau oddi ar y safle ar gyfer y dull modern hwn o adeiladu tai.

Mae datblygiad Llwyn Eirin yn rhan o Raglen Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Ddinbych, sy’n darparu cartrefi cyngor newydd ledled y sir i ddiwallu angen lleol.

NODYN
Mae cartrefi Llwyn Eirin wedi’u hadeiladu i safon Passivhaus, gan gynnig inswleiddio rhagorol a llai o ddefnydd o ynni. Mae gan yr eiddo bympiau gwres ffynhonnell ddaear, gan olygu nad oes angen cyflenwad nwy, ac mae paneli solar wedi’u gosod. Bydd hyn yn helpu i leihau allyriadau carbon ac yn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Grŵp yn mynd i'r afael â sbwriel môr ar draeth Barkby

Mae grŵp wedi dod ynghyd i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol ar dywod traeth Barkby a'r cyffiniau.

Mae grŵp wedi dod ynghyd i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol ar dywod traeth Barkby a'r cyffiniau.

Wedi'i drefnu gan Dîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Dinbych, llwyddodd 14 o wirfoddolwyr i gasglu 14 bag o sbwriel o'r traeth a'r cyffiniau ar y diwrnod. Darparodd Cadwch Gymru’n Daclus rhywfaint o’r offer casglu sbwriel a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad a gynhaliwyd yr wythnos hon hefyd.

Ymhlith yr eitemau a dynnwyd oddi ar y traeth roedd stôf wersylla, fflasg thermos a gwialen bysgota.

Trefnwyd y digwyddiad ar 16 Chwefror i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol yn yr ardal a all greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr, ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

Gall cael gwared ar y sbwriel oddi ar y traeth hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr yn well.

Oherwydd cefnogaeth gwirfoddolwyr fis diwethaf, cafodd 22 o fagiau o sbwriel morol hefyd eu casglu o’r tywod ac ardaloedd o amgylch y Nova ym mis Ionawr.

Meddai Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Rydym wedi cael ymateb mor anhygoel eto gan wirfoddolwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwych i’r amgylchedd lleol hwn. Drwy ymdrechion pawb, bydd llai o berygl o lifogydd lleol a difrod i'r amgylchedd a bywyd gwyllt hefyd ar ôl casglu’r sbwriel.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Priffyrdd a’r Amgylchedd:  “Mae angen i ni barhau i reoli’r perygl o lifogydd lleol oherwydd sbwriel morol yn golchi i fyny ar ein traethau sy’n gwanhau’r amddiffyniad rhag llifogydd.”

 

Bwa byw yn yr awyr agored yn hwb i natur mewn ysgol

Mae ardal newydd o wyrddni byw wedi’i chreu yn yr awyr agored mewn ysgol gynradd i helpu natur yn lleol

Mae ardal newydd o wyrddni byw wedi’i chreu yn yr awyr agored mewn ysgol gynradd i helpu natur yn lleol.

Mae timau Bioamrywiaeth a Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych, am y tro cyntaf, gyda chefnogaeth disgyblion Ysgol y Faenol, wedi adeiladu bwa helyg byw yn yr ysgol i helpu cynefinoedd natur ar y safle.

Yn ddiweddar, fe ymunodd y disgyblion â chynrychiolwyr o’r ddau dîm i blannu dros 1,000 o goed ar dir yr ysgol er mwyn rhoi hwb i natur lleol a chreu cyfleoedd dysgu iddyn nhw eu hunain a dosbarthiadau’r dyfodol yn Ysgol y Faenol.

Mae’r gwaith wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin 2025/26 sydd wedi rhoi £278,600 i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith adfer natur ledled y sir.

Ymunodd y disgyblion â staff y Cyngor i adeiladu’r bwa helyg fel rhan olaf y gwaith i greu cynefin newydd ar y safle.

Bydd y bwa byw’n darparu strwythur cynaliadwy a fydd yn adnodd defnyddiol ar gyfer gweithgareddau gwaith coed gwyrdd pellach gyda'r myfyrwyr, a hefyd cynefin i bryfed ac adar, ac ardal naturiol i annog dysgu am natur yn yr ysgol.

Mae amser chwarae hefyd yn bwysig ar gyfer ymgysylltu plant â natur, a mi fydd y twneli a bwa byw hyn yn darparu adnodd i gefnogi hyn hefyd.

Bydd hefyd yn darparu ffynhonnell fwyd i lindys nifer o rywogaethau o wyfynod, a fyddai'n ffynhonnell fwyd i adar hefyd.

Bydd gwreiddiau’r helyg hefyd yn sefydlogi’r pridd a tir dyfrlawn , a gall dail sydd wedi disgyn gynnig maeth i’r tir a gwella ardaloedd gwlyb a chorsiog. Bydd hefyd yn ffynhonnell gynnar, bwysig o neithdar i wenyn a phryfed eraill wrth i’r gwanwyn gyrraedd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae hwn yn ychwanegiad gwerth chweil i’r ysgol i helpu natur yn lleol a chefnogi disgyblion Ysgol y Faenol i ddysgu am ein cynefinoedd naturiol.”

 

Gofal Dechrau'n Deg yn Sir Ddinbych i ddathlu carreg filltir 20 mlynedd gyda sesiwn galw heibio yn y Rhyl

Bydd tîm Dechrau'n Deg y Cyngor yn cynnal sesiwn galw heibio am ddim ym mwyty 1891 yn y Rhyl, fel rhan o ddathliadau 20 mlynedd Gwasanaeth Dechrau'n Deg yn Sir Ddinbych. Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 4ydd o Fawrth, 10:00am – 2:00pm.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i deuluoedd lleol gwrdd â’r gwasanaethau lleol sy’n cefnogi teuluoedd â babanod a phlant ifanc.

Yn ogystal â chwrdd â darparwyr gwasanaeth, gall teuluoedd gael cyngor a gwybodaeth gan dîm Dechrau'n Deg y Cyngor a gwasanaethau eraill. Bydd cyfleoedd i ganfod pa gefnogaeth sydd ar gael a’r gweithgareddau cyfeillgar i blant sy’n cael eu cynnal yn lleol.

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg Sir Ddinbych, ar gyfer plant o’u geni hyd at eu 4ydd pen-blwydd, ynghyd â’u rhieni/gofalwyr, sy’n byw mewn ardaloedd cod post penodol.

Nod y rhaglen yw helpu plant i gael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd er mwyn eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Dyma gyfle gwych i deuluoedd lleol ddod i weld pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Dylai teuluoedd â phlant dan bedair oed wirio a ydynt yn gymwys er mwyn gweld a oes cefnogaeth ychwanegol ar gael iddynt.

Yn ogystal â darparu cefnogaeth, bydd ein tîm yn cyfeirio pobl at weithgareddau lleol sy’n addas i blant.”

Safle Cyngor Sir Ddinbych i ddarparu cartrefi fforddiadwy newydd yn Y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau partner datblygu i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd sbon ar safle hen fflatiau pobl hŷn ym Maes Emlyn, Y Rhyl.

Bydd gwerthu’r safle i Tai Wales & West yn paratoi’r ffordd ar gyfer adeiladu cartrefi ynni-effeithlon ar gyfer rhent cymdeithasol.

Roedd safle Maes Emlyn gynt yn lleoliad ar gyfer llety i bobl hŷn a oedd yn eiddo i’r Cyngor.

Byddai wedi dod yn fwyfwy heriol i gadw’r fflatiau o safon dderbyniol ac o ganlyniad cafodd y preswylwyr blaenorol eu hadleoli i gartrefi mwy addas mewn mannau eraill yn ardal Y Rhyl.

Mae ymgynghoriad cyn-ymgeisio ar y gweill ar hyn o bryd, sy'n rhoi cyfle i breswylwyr weld a rhoi sylwadau ar gynigion Tai Wales & West cyn i’r cais cynllunio terfynol gael ei gyflwyno yng ngwanwyn 2026. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Iau, 12 Mawrth 2026 a gellir dod o hyd iddo ar gwefan Wales & West

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Cabinet Cyngor Sir Ddinbych dros Dai a Chymunedau:

“Mae hwn yn safle rydym wedi bod eisiau ei weld yn cael ei ddefnyddio eto ers cryn amser, felly rwy’n falch iawn bod yna obaith o ddarparu cartrefi newydd o ansawdd uchel yma drwy weithio gyda Tai Wales & West.”

Dywedodd Emma Hancock, Rheolwr Tir a Phartneriaethau yng Ngogledd Cymru ar gyfer Tai Wales & West: “Rydym yn falch o gael gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych i ailddatblygu safle Maes Emlyn. Bydd cais cynllunio ar gyfer adeiladu datblygiad newydd o gartrefi fforddiadwy yn cael ei gyflwyno’r gwanwyn hwn.”

Gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar y gweill ger y Llyn Morol

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi gwybod i drigolion bod gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar y gweill ger y Llyn Morol yn y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi gwybod i drigolion bod gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar y gweill ger y Llyn Morol yn y Rhyl. 

Er mwyn gwneud y gwaith, bydd y llyn yn cael ei ddraenio’n rhannol gan ddechrau ddydd Gwener 27 Chwefror am tua phythefnos tra bod archwiliadau perthnasol a gwaith cynnal a chadw cyffredinol blynyddol yn digwydd ar y safle. 

Bydd y gwaith draenio rhannol yn galluogi mynediad at y waliau cynnal a gwaith clirio eitemau mwy o amgylch yr ymylon, tra’n sicrhau bod yna ddigon o ddŵr yno i’r elyrch allu parhau ar y llyn yn ddiogel. Fe fydd y llyn yn cael ei ail-lenwi unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau. 

Mae Swyddfa'r Harbwr, sydd yn rheoli’r Llyn Morol, wedi bod yn gweithio gyda swyddogion o Wasanaeth Cefn Gwlad i sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl i’r elyrch a bywyd gwyllt arall ar y safle. Mae’r gwaith yma wedi cael ei gynllunio i gael ei wneud y tu allan i dymor nythu bywyd gwyllt a defnyddwyr tymor yr haf.

Mae bioamrywiaeth y llyn, yn ogystal â’r gweithgareddau ar y llyn, yr un mor bwysig i ddyfodol y safle, a rhoddir ystyriaeth lawn i’r llyn at ei gilydd wrth wneud unrhyw waith a phenderfyniadau.

 

 

Mwy na dim ond cerddoriaeth

Eleni i ddathlu Dydd Miwsig Cymru, gwnaeth Swyddog Iaith Gymraeg y sir greu rhestr chwarae o ganeuon traddodiadol Cymreig ynghyd â phecyn geiriau i’w defnyddio yng nghartrefi gofal y Sir.

Dydd Miwsig Cymru dyddiadMeddai Gerallt Lyall, “Fel arfer, mae Dydd Miwsig Cymru yn cael ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o’r sin gerddoriaeth gyfoes, fywiog sy’n wych ond roeddem ni am greu rhywbeth ychydig yn wahanol.

Mae caneuon traddodiadol yn rhan greiddiol o’n hanes a'n diwylliant. Maent yn adrodd straeon am ein cymunedau, ein hanes a’n ffordd o fyw. Yn aml, mae’r caneuon hyn yn gyfarwydd hyd yn oed i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg ac ar bwrpas fe wnaethom gynnwys rhai caneuon sydd wedi datblygu geiriau Saesneg i’r ‘run diwn fel  Cwm Rhondda (Guide Me O Thou Great Redeemer) a Gwŷr Harlech (Men of Harlech).

“Rydym hefyd wedi cynnwys Anfonaf Angel sydd wedi eu hysgrifennu gan Robat Arwyn ac sy’n cael ei chanu gan Rhys Meirion – dau o gerddorion mwyaf blaenllaw Sir Ddinbych, sy’n dod â chynnwys lleol i’r rhestr chwarae.”

Mae llawer o ymchwil wedi’i wneud yn cysylltu effeithiau positif canu a cherddoriaeth yn gyffredinol ar y meddwl ac ar les. Yn ogystal, mae cerddoriaeth yn cael ei gydnabod fel therapi hynod effeithiol i’r sawl sydd â dementia gan helpu gyda’r cof, lleihau straen a gofid gan hefyd ysgogi cyfathrebu ac ymgysylltu ag eraill.

Y gobaith yw y bydd clywed y caneuon traddodiadol yma yn mynd a’r gwrandäwr yn nol mewn amser gan greu cymysgedd o hiraeth, balchder am Gymru a mwynhad.

Mae strategaeth gan Lywodraeth Cymru o'r enw 'Mwy na Geiriau', sy'n ceisio sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn ac wedi’i gwreiddio mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, fel bod unigolion yn cael gofal sy’n diwallu eu hanghenion ieithyddol heb orfod gofyn amdano. Mae'r rhestr chwarae yma yn ffordd gwahanol o sicrhau bod rhai o'n trigolion yn cael mynediad at y Gymraeg mewn dull hwyliog.

Er bod y pecyn hwn wedi i greu ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, gall y rhestr gael ei chwarae unrhyw bryd e.e. i ddathlu Gŵyl Dewi neu mewn slot rheolaidd mewn cartrefi gofal e.e. bob pnawn Sul am hanner awr o sesiwn gwrando a chanu.

Ychwanegodd Gerallt, “Ein gweledigaeth ni yw i’r adnodd cael ei ddefnyddio i roi’r teimlad i’r gwrandäwr ei bod mewn cyngerdd a’i bod yn gallu canu gyda’r gerddoriaeth.”

Mae’r rhestr chwarae ar YouTube yn agored i bawb a gallwch gysylltu gyda cymraeg@sirddinbych.gov.uk os ydych eisiau'r pecyn geiriau i fynd gyda’r caneuon.

Dydd Miwsig Cymru

 

Gwaith gwella ym maes parcio Llangollen

Bwriedir cynnal gwaith er mwyn gwella’r isadeiledd ym maes parcio Heol y Felin yn Llangollen

Bwriedir cynnal gwaith er mwyn gwella’r isadeiledd ym maes parcio Heol y Felin yn Llangollen. 

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau cyllid i gynnal y gwaith y bwriedir ei gwblhau o 2 Mawrth yn y maes parcio, a fydd yn mynd i’r afael â’r diffygion presennol ar y safle. 

Bydd y gwaith yn cynnwys disodli’r palmant bloc sydd ar goll ac wedi torri, atgyweirio’r ffens bresennol rhwng adran uchaf y maes parcio a’r A539 ac ail-osod llinellau’r baeau parcio.

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae’n bwysig cwblhau gwaith gwella yn y maes parcio hwn er mwyn mynd i’r afael â diffygion isadeiledd gan sicrhau fod yr ardal yn addas i’r diben, yn ddiogel, ac yn gyfleuster croesawgar a fydd yn rhoi hwb i’r economi leol.”

 

Disgwylir i gam cyntaf y gwaith gwella ddechrau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 2 Mawrth, yn amodol ar y tywydd ac argaeledd contractwyr.

Gwella dulliau archwilio a sicrwydd mewn ysgol yn Y Rhyl

Yn ôl yr adroddiad archwilio diweddaraf ar gyfer Ysgol Crist y Gair yn y Rhyl, mae lefel y gweithredu yn sgil archwiliadau a’r sicrwydd wedi gwella yn ystod y tair blynedd diwethaf ac mae’r ysgol wedi esgyn o lefel ‘Isel’ i ‘Ganolig’.

Rhoes Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, fesurau arbennig ar waith yn Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl yn 2022 gan nodi materion allweddol a meysydd i’w gwella.

Ers hynny, bu Adran Addysg y Cyngor yn cydweithio â’r Adran Archwilio wrth graffu’n fanwl ar y prif broblemau yn yr ysgol ac fe luniwyd y cynlluniau gwella ar sail hynny.

Cyhoeddwyd tri o adroddiadau archwilio ers 2022.

Yn yr adroddiad archwilio cyntaf yn 2022, rhoddwyd lefel sicrwydd ‘Isel’ ond yn yr un diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2025, roedd hynny wedi gwella i ‘Ganolig’, sydd lefel islaw’r un uchaf posib.

Cychwynnodd yr archwiliad cyntaf ym mis Rhagfyr 2022, tua phum mis wedi i Estyn roi mesurau arbennig ar waith yn yr ysgol. Amlygwyd pump o broblemau yn yr adroddiad gyda phedwar ohonynt yn y categori ‘Mawr’ ac un yn ‘Gymedrol’.

Rhoddwyd lefel sicrwydd ‘Isel’ i’r ysgol yn 2022, sydd lefel uwchlaw’r un isaf, ac amlygodd yr archwiliad bedair o risgiau ‘Mawr’:

  • Trefniadau llywodraethu gwan.
  • Angen cryfhau trefniadau ariannol.
  • Dim rheolaeth ar Wrthdaro Buddiannau.
  • Heb sefydlu cyfrif cronfa’r ysgol.

Amlygodd yr archwiliad broblemau â hyfforddi staff hefyd, a nodwyd yn risg ‘Gymedrol’, sef y categori isaf, ac ni amlygwyd unrhyw risgiau ar y lefel uchaf, ‘difrifol’.

Pennwyd cynllun gweithredu pendant yn ystod archwiliad 2022 a gellir gweld fod pethau wedi gwell gan bwyll yn y ddau o’r archwiliadau ers hynny.

Yn yr ail archwiliad a gwblhawyd ym mis Ionawr 2024, dangoswyd cynnydd mewn amryw feysydd ac yn ôl yr archwilydd, bu “gwelliant clir yn y trefniadau llywodraethu.” Hefyd, amlygwyd “gwelliannau arwyddocaol ers yr adolygiad diwethaf”, yn enwedig mewn rheolaeth ariannol ac ymdrin â gwrthdaro buddiannau ac nid oedd y meysydd hynny’n peri pryder mwyach.

Cadarnhaodd yr archwilydd hefyd fod y swyddogion diogelu a chymorth cyntaf wedi derbyn yr hyfforddiant priodol a bod pawb yn yr ysgol yn gwybod pwy oeddent.

Gyda’r gwelliannau hynny, cododd lefel sicrwydd cyffredinol yr ysgol o ‘Isel’ i ‘Ganolig’ gan nad oedd ond mân wendidau ar ôl yng nghyswllt rheoli risgiau, ond nid oedd unrhyw risgiau i gyflawni’r amcanion.

Hanerodd nifer y problemau ‘Mawr’ o bedwar i ddau a dim ond un broblem ‘Gymedrol’ a nodwyd. Roedd pryderon ynglŷn â llywodraethu a phroblemau’n deillio o hen gyfrifon yr ysgol (yn sgil uno Ysgol Mair ac Ysgol y Bendigaid Edward Jones ar ffurf Ysgol Crist y Gair) yn dal yn y categori ‘Mawr’. Nodwyd fod hyfforddiant gorfodol yn ‘risg gymedrol’ ym mis Ionawr 2024.

Yn yr archwiliad diweddaraf a gwblhawyd ym mis Hydref 2025, cadwodd yr ysgol ei lefel sicrwydd ‘Canolig’. Ni nodwyd unrhyw risgiau ‘Difrifol’ na ‘Mawr’. 

Rhoddwyd pedwar o risgiau yn y categori ‘Cymedrol’, y categori isaf, gan gynnwys seddi gwag yn y corff llywodraethu, hyfforddiant llywodraethwyr, ymrwymiadau cyllid (a oedd a wnelo’n bennaf â hen archebion prynu na cafodd eu dirwyn i ben) a pheidio â datrys problemau â hyfforddiant gorfodol.

Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, fod problemau â seddi gwag yn y corff llywodraethu, hyfforddiant llywodraethwyr a hyfforddiant staff yn gyffredin mewn ysgolion uwchradd eraill yn y sir a gafodd eu hadolygu yn yr un cyfnod, ac nid yn bethau sy’n neilltuol i Ysgol Crist y Gair.

Dywedodd yr archwilydd bod yr adolygiad wedi amlygu “trefniadau llywodraethu da” a bod “enghreifftiau’n cynnwys cyfarfodydd rheolaidd o’r corff llywodraethu a dogfennau ategol fel rhaglenni a chofnodion manwl er mwyn annog her briodol.”

Dywedir hefyd, “adolygir yr holl bolisïau statudol yn rheolaidd ac maent ar gael i’r staff a llywodraethwyr.”

Nid oedd unrhyw broblemau mwyach â diogelu a dywedodd yr archwilydd, “mae’r polisi diogelu ar gael ar y wefan ac mae’r holl staff wedi cael hyfforddiant mewnol ychwanegol” ac “mae’r swyddogion diogelu a chymorth cyntaf wedi cael hyfforddiant priodol ac mae posteri’n amlwg o amgylch yr ysgol i ddweud pwy ydynt.”

Nodir hefyd, “mae’r trefniadau iechyd a diogelwch yn effeithiol, cynhelir ymarferion tân a phrofion diogelwch yn rheolaidd ac mae’r asesiadau risg ar gyfer tân yn gyfoes. Ceir camerâu Teledu Cylch Cyfyng ar y safle a pholisi cyfoes ar eu cyfer. Mae’r holl staff wedi cwblhau gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.”

Dywedodd Geraint Davies, Pennaeth Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych:

“Hoffwn ddiolch i’r adran archwilio am eu gwaith caled ar y tri o’r adroddiadau archwilio hyd yma.

Mae’r adroddiadau hyn wedi helpu’r ysgol i fynd i’r afael ag amryw ddiffygion a rhoi sylw i feysydd allweddol, a medru darparu llawer gwell amgylchedd i’r disgyblion ddysgu ac i’r staff weithio.

Gwyddom fod angen dal ati i wella, fel y nodwyd yn yr adroddiad archwilio diweddaraf, ond mae’n amlwg fod yr ysgol, yr esgobaeth, yr adran addysg a phartneriaid allweddol yn gweithio’n ddiwyd i gyflawni’r gwelliannau hynny, fel y gwelir yn yr adroddiad archwilio hen sy’n llawer gwell na’r rhai blaenorol. Byddwn yn dal i weithio i gyflawni argymhellion Estyn yn y flwyddyn i ddod.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’n amlwg fod pethau wedi gwella wrth gymharu’r tri o adroddiadau archwilio â’i gilydd. Mae lefel sicrwydd yr ysgol wedi codi o ‘Isel’ i ‘Ganolig’ ac yn yr archwiliad diweddaraf, ni nid yw’r archwilydd wedi nodi unrhyw broblemau ‘Mawr’ bellach.

Mae’n amlwg y bu’r staff yn gweithio’n galed iawn a hoffwn ddiolch iddynt am gyfrannu at welliant cyson yn yr ysgol.

Mae digon o waith ar ôl i’w wneud a phroblemau i’w datrys, ond mae’n galonogol gweld y gwelliant hyd yma, fel y nodir yn yr adroddiad archwilio diweddaraf.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Esgobaeth:

“Mae’r Esgobaeth yn gweithio gyda’r Cyngor i hyrwyddo’r gwelliannau a argymhellwyd gan Estyn a’r archwiliadau.

Rydym wedi ein calonogi gan y gwelliannau a nodwyd, ond yn sylweddoli bod gwaith pellach i’w wneud.”

Cyngor Sir Ddinbych yn cymeradwyo cyllideb ar gyfer 2026–2027

Heddiw (Dydd Iau, 12 Chwefror) mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo'r gyllideb a gosod lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2026–27.

Fel cynghorau ledled y DU, mae Sir Ddinbych yn parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol. Mae’r galw am wasanaethau’n cynyddu wrth i anghenion ddod yn fwy cymhleth, yn enwedig yn ein hysgolion a chan y rhai sydd angen gofal cymdeithasol. Y flwyddyn nesaf, rhagwelir y bydd costau sydd y tu hwnt i reolaeth y cyngor yn uwch na £20 miliwn am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Mae'r mwyafrif o gostau dyddiol y cyngor i ddarparu gwasanaethau’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda'r 25% sy'n weddill o'r cyllid yn dod o'r Dreth Gyngor. Er ein bod yn croesawu’r cynnydd diweddar mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru, nid yw’n mynd i’r afael â’r pwysau ariannol yn llawn, gan wneud cynnydd yn y Dreth Gyngor yn anochel.

Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol dros Gyllid: “Gyda 64% o’n cyllideb yn cael ei wario ar ysgolion, gofal cymdeithasol a digartrefedd, a 14% wedi’i ymrwymo i bethau fel cynlluniau cenedlaethol Cymru gyfan ar gyfer budd-dal y Dreth Gyngor a’r ardoll y mae’n rhaid i ni ei thalu i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, dim ond 22% sydd ar ôl ar gyfer holl wasanaethau eraill y Cyngor.

Cyllideb - slideshow“Rydym yn gwybod bod y gwasanaethau hyn yn bwysig iawn i drigolion, ond mae’r galw cynyddol am wasanaethau statudol yn golygu bod cyllidebau’n cael eu gwasgu’n barhaus. Mae’n holl bwysig mai’n blaenoriaeth ni yw amddiffyn ein trigolion mwyaf agored i niwed.

“Wrth osod cyllideb eleni, rydym wedi gweithio’n galed i gadw cynnydd yn y Dreth Gyngor mor isel â phosibl, gan osgoi toriadau i wasanaethau, wrth barhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol y mae pobl yn dibynnu arnynt.”

Mae’r Dreth Gyngor a gymeradwywyd ar gyfer 2026–27 yn 4.76% ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor, ynghyd â’r 0.46% ychwanegol y mae’n rhaid ei dalu i ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, gan roi cyfanswm o 5.22%.

Mae gwasanaethau hanfodol fel addysg, gofal i oedolion, cefnogaeth i blant ac atal digartrefedd yn cyfrif am 64% o gyfanswm cyllideb y Cyngor. Mae'r gweddill yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau bob dydd gan gynnwys:

  • Archwilio tua 720 o fusnesau bwyd bob blwyddyn
  • Casglu tua 73,000 o finiau a chynwysyddion ailgylchu yn wythnosol o bron i 49,000 o gartrefi
  • Cynnal a chadw safleoedd cefn gwlad fel Loggerheads, Moel Famau a Pharc Bodelwyddan
  • Diogelu atyniadau treftadaeth gan gynnwys Carchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre a Phlas Newydd
  • Darparu, ar gyfartaledd, 12,000 pryd ysgol bob dydd
  • Cludo tua 2,870 o ddysgwyr yn ddiogel i'r ysgol
  • Cynnal a chadw 11,763 o oleuadau stryd a 1,419 km o ffyrdd sirol

Ychwanegodd y Cynghorydd Jones: “Rwy'n falch nad yw'r gyllideb hon yn gofyn am ostyngiadau i ddarpariaeth gwasanaethau. Yn lle hynny, rydym wedi canolbwyntio ar effeithlonrwydd, cynhyrchu incwm a thrawsnewid sut mae gwasanaethau'n gweithredu.”

I'r trigolion hynny sy'n poeni am dalu eu Treth Gyngor, gall y rhai ar incwm isel fod yn gymwys i gael cymorth trwy'r Cynllun Gostyngiadau Treth Gyngor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Sir Dinbych.

Cabinet yn cymeradwyo cynnydd prosiectau i wella Sir Ddinbych

Mae cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo datblygiad pum prosiect a fydd yn dod ag amrywiaeth o fuddion ledled Sir Ddinbych.

Mae cabinet Cyngor Sir Dinbych wedi cymeradwyo'r datblygiad o bum prosiect a fydd yn dod ag amrywiaeth o fuddion ledled Sir Dinbych.

Ym mis Medi 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £1.5M o gyllid cyfalaf ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru drwy Gronfa Effaith Balchder yn ei Le (GEBL).

Nod y gronfa hon yw cyflawni gwelliannau gweladwy i strydoedd mawr a gwella lleoedd ac asedau cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd nad ydynt yn elwa o'r Gronfa Balchder yn ei Lle (GBL) ar wahân, sydd werth £20M.

Yn dilyn penderfyniad y cabinet i gymeradwyo'r broses ddethol, bydd y prosiectau nawr yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyllid GEBL i Lywodraeth y DU a'u cyflawni erbyn mis Mawrth 2027.

Canolbwyntiodd y dull ar alinio cyllid â phrosiectau a oedd eisoes â chefnogaeth gorfforaethol ond heb gyllid wedi'i nodi, a oedd yn bodloni meini prawf GEBL, a oedd yn fforddiadwy, ac yn gyfiawnadwy erbyn mis Mawrth 2027.

Cynllun adnewyddu ar gyfer Toiledau Cyhoeddus blaenoriaeth mewn Trefi Allweddol –

Bydd y prosiect yn edrych ar adnewyddu'r cyfleusterau cyhoeddus ledled y sir fel y nodwyd yn strategaeth y cyfleusterau cyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys gosod taliad digyswllt ac adnewyddu i adlewyrchu adolygiadau cyflwr unigol. Bydd y gwaith adnewyddu hwn yn cynnwys y cyfleusterau cyhoeddus yn y Rhyl, Prestatyn, Llanelwy, Rhuddlan, Llangollen a Rhuthun.

Cynllun Grant Datblygu Eiddo Canol Tref –

Bydd y cynllun grant yma yn ceisio mynd i'r afael ag eiddo sy'n ddolurus ar y stryd fawr, ac wedi bod yn llwyddiannus yn flaenorol drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU sydd am ddod i ben ym mis Mawrth. Bydd y prosiect yn dod i rym ledled y sir.

Cynllun Chwarae Hygyrch: Offer chwarae hygyrch ychwanegol a mynediad i gymunedau gwledig –

Mae hwn yn brosiect a fydd yn ceisio gwella'r cynnig chwarae hygyrch mewn lleoliadau gwledig amrywiol o fewn y Sir gan ddefnyddio offer hygyrch a ffyrdd mynediad/allanfa. Bydd y cynnig chwarae hygyrch yn ehangu i'r Wern, Llandrillo, Maes yr Ysgol, Corwen, Nant-y-Pandy, Glyndyfrdwy, Coed Afon, Llangollen a Maes-Y-Dre, Rhuthun.

Cyfleusterau Toiledau Bodelwyddan –

Yn dilyn y gwelliannau sylweddol a wnaed i Barc Gwledig Bodelwyddan a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU i ddarparu dros 19000m2 o ofod gwyrdd hygyrch a 2km o lwybrau troed, mae'r prosiect hwn yn bwriadu darparu toiledau cwsmeriaid ar gyfer y parc gwledig sydd wedi'i ailagor er mwyn sicrhau hygyrchedd i bawb.

Darpariaeth ‘Ardal’ Cartrefi Modur –

Nod y prosiect peilot hwn fydd uwchraddio un o'r meysydd parcio yn nhraeth Barkby fel darpariaeth ardal Cartrefi Modur i ddarparu dewis arall i ymwelwyr â Chartrefi Modur i'r ardal trwy ddarparu seilwaith mwy addas. Mae cynlluniau tebyg yn cael eu cyflwyno ar draws Gogledd Cymru a'r DU ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd a Mynd i’r Afael ag Amddifadedd:

“Mae’r penderfyniad y mae’r cabinet wedi’i wneud yn tynnu sylw at ymrwymiad Cyngor Sir Dinbych i sicrhau cyllid allanol i gyflawni prosiectau a fydd yn dod ag amrywiaeth o fuddion ledled Sir Dinbych.

“Bydd y pum prosiect yma yn dod â manteision i’r gymuned leol a dewiswyd yn benodol gan eu bod eisoes yn bodloni meini prawf GEBL, o fewn y gyllideb a gellir eu cyflawni erbyn y dyddiad cau.”

Canmoliaeth i Wasanaeth Cymorth Cartref y Cyngor mewn adroddiad arolwg AGC

Cafodd Gwasanaeth Cymorth Cartref Cyngor Sir Ddinbych ei ganmol yn ei arolwg Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) mwyaf diweddar, a gyflawnwyd ddiwedd mis Awst y llynedd. Digwyddodd yr arolwg blaenorol yn 2023.

Roedd crynodeb o ganfyddiadau’r adroddiad yn canmol dull personol y Cyngor, gan ddweud fod pobl “yn cael canlyniadau llesiant rhagorol” a bod “staff cymorth yn darparu gofal a chymorth da iawn sy'n hybu ailsefydlu, annibyniaeth, cysylltiadau cymdeithasol, ac ymgysylltu â'r gymuned.”

Wrth arolygu, roedd AGC yn ystyried tair thema, Llesiant, Gofal a Chymorth, ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth, a gafodd eu sgorio yn ‘rhagorol’, ‘da’ a ‘da’ yn eu trefn.

Roedd crynodeb o’r adroddiad yn cydnabod fod pobl “yn defnyddio gwasanaethau i gefnogi pob agwedd ar eu hiechyd a'u llesiant” yn ogystal ag amlygu dull arweinyddiaeth a rheoli’r gwasanaeth, gan nodi bod “arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth yn dda”. Aeth ymlaen i ddweud bod “pob aelod o'r tîm yn cydweithio'n fewnol a gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn gwella llesiant y bobl y maent yn eu cefnogi.”

Mewn perthynas â lles, cafodd y gwasanaeth sgôr “rhagorol”, gyda’r adroddiad yn nodi bod pobl yn derbyn cymorth sydd “wedi'i bersonoli'n fawr” a bod gan “bobl lais cryf iawn ac yn arwain y cymorth y maent am ei gael a sut mae angen darparu hwn bob dydd er mwyn cyflawni eu canlyniadau a'u nodau personol.”

Roedd yr adroddiad yn canmol cymorth wedi’i bersonoli gan y gwasanaeth, gan nodi bod staff yr Arolygiaeth yn gweld “fod y staff gofal yn mynd gam ymhellach i wella bywydau'r bobl y maent yn eu cefnogi” sy’n “cyfrannu at y bobl yn cael canlyniadau llesiant cadarnhaol yn gyson.”

Roedd yn amlygu ymhellach fod pobl “yn siarad yn gadarnhaol am y gwasanaeth ac maent yn canmol y staff gofal sy'n eu cefnogi'n fawr iawn.”

Mewn perthynas â gofal a chymorth, wrth ystyried dull y gwasanaeth i gynlluniau gofal personol roedd yn nodi bod cofnodion o’r gofal “wedi'u hysgrifennu'n broffesiynol ac yn adlewyrchu'r cymorth a nodwyd yn y cynlluniau personol.”

Roedd yr adroddiad yn canmol gwybodaeth diogelu’r gwasanaeth a chydweithrediad gyda gwasanaethau eraill, gan ddweud bod y “darparwr yn cydweithio â'r gweithwyr iechyd proffesiynol, y gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol a'r darparwyr tai i gefnogi'r bobl gyda phob agwedd ar eu bywydau bob dydd. Roedd y gweithwyr proffesiynol y gwnaethom siarad â nhw yn gadarnhaol am y cydberthnasau gwaith gyda'r darparwr.”

Roedd hefyd yn nodi bod y “staff gofal yn siarad yn gadarnhaol am y gwaith y maent yn ei wneud, gan fod yn fodlon iawn ar helpu'r bobl i gyflawni eu nodau.”

Y thema olaf oedd arweinyddiaeth a rheolaeth, ac roedd yr adroddiad yn canmol gwaith y staff rheoli, gan nodi bod “uwch-aelodau o'r staff a'r dirprwy reolwyr yn goruchwylio pob un o'r timau cymorth, gan sicrhau bod digon o staff gofal ar gael, bod cymorth yn cael ei drefnu'n briodol a bod pwyntiau cyswllt i gael arweiniad.”

Adroddodd yr arolygiaeth “dywedodd y staff gofal wrthym fod y staffio yn ddigonol, felly nad ydynt yn gorfod rhuthro wrth gefnogi'r bobl.”

Cafodd dull datblygu’r gwasanaeth ei amlygu hefyd, wrth ddweud “mae'r darparwr yn ymrwymedig i ddatblygu'r gwasanaeth gan archwilio meysydd fel cydraddoldeb ac amrywiaeth, technoleg gynorthwyol, ac arferion gorau sy'n dod i'r amlwg.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae’n wych gweld ein tîm cymorth cartref yn cael ei gydnabod gan AGC am fynd tu hwnt i’r galw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau bob dydd preswylwyr Sir Ddinbych.

Nod y gwasanaeth yw cefnogi pobl i fyw’n dda, aros yn annibynnol a pharhau i gysylltu â’u cymunedau. Mae’r adroddiad arolwg hwn yn gadarnhaol iawn, ac yn glod i sgil ac ymroddiad ein staff sy’n darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gydag urddas a pharch bob dydd.”

Gweler yr adroddiad yn llawn: https://digidol.arolygiaethgofal.cymru/cyfeiriadur/gwasanaeth/SIN-00009249-RFGK

Sir Ddinbych yn Gweithio a RCS yn uno i gefnogi ceiswyr gwaith lleol

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn edrych ymlaen i bartneru â RCS (Strategaeth Dinas Y Rhyl gynt) trwy'r fenter 'Tu Hwnt i'r Rhwystrau' i ddarparu mynediad cyflym at gefnogaeth therapiwtig i drigolion ledled Sir Ddinbych sy'n wynebu heriau sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n eu hatal rhag mynd i mewn i waith.

Mae'r cydweithrediad hwn, a lansiwyd fel rhan o brosiect ‘Trailblazer’ Sir Ddinbych, yn dwyn ynghyd arbenigedd lleol i fynd i'r afael â rhwystrau fel cyflyrau iechyd meddwl, poen cronig, a hyder isel, gan helpu pobl i feithrin gwydnwch a symud yn agosach at gyflogaeth gynaliadwy.

Mae rhaglen Trailblazer - a ariennir gan Lywodraeth y DU ac a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru - yn targedu pobl o oedran gweithio sy'n anweithredol yn economaidd sy'n anabl a/neu sydd â chyflyrau iechyd, neu gyfrifoldebau gofalu trwy ddarparu ymyriadau wedi'u teilwra gan gynnwys mentora un-i-un, gwasanaethau cwnsela, darpariaeth lles, a chymorth arbenigol i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig hyd at wyth sesiwn o therapi, gan gynnwys cwnsela, CBT, ffisiotherapi, a chefnogaeth arbenigol ar gyfer materion fel straen, pryder, profedigaeth, a chyflyrau iechyd cronig. Mae'r bartneriaeth hon yn darparu cefnogaeth hyblyg, ddwyieithog sy'n grymuso unigolion i oresgyn rhwystrau a chreu dyfodol cadarnhaol.

Mae'r cydweithrediad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad cyffredin Sir Ddinbych yn Gweithio i ymateb i anghenion lleol, cysylltu pobl â'r gefnogaeth gywir, a chreu dyfodol cadarnhaol i unigolion a chymunedau. Gall chwilio am swydd a dechrau gweithio fod yn llawn straen, yn enwedig i'r rhai sy'n rheoli cyflyrau iechyd. Drwy gynnig cefnogaeth therapiwtig wedi'i theilwra, mae'r fenter yn helpu unigolion i feithrin gwydnwch emosiynol, gwella hyder, a datblygu strategaethau ymdopi sy'n gwneud y newid i waith yn fwy sefydlog.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:

“Mae’r bartneriaeth hon yn gam hanfodol wrth fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd yn Sir Ddinbych. Drwy weithio gyda RCS, gallwn sicrhau bod pobl sy’n wynebu heriau iechyd yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i symud yn agosach at gyflogaeth. Mae’r bartneriaeth hon yn creu cyfleoedd ac yn gwella lles ein cymunedau.”

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant:

“Mae mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd yn golygu deall y rhwystrau gwirioneddol y mae pobl yn eu hwynebu. Mae’r bartneriaeth hon yn cydnabod y gall heriau iechyd wneud y daith i waith yn anoddach i lawer. Drwy ddarparu cefnogaeth therapiwtig hyblyg a dwyieithog, mae Tu Hwnt i’r Rhwystrau - gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru - yn helpu trigolion Sir Ddinbych i feithrin yr hyder a’r gwydnwch sydd eu hangen arnynt i lwyddo.”

Ychwanegodd Alison Thomas, Prif Weithredwr RCS:

“Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o brosiect Tu Hwnt i’r Rhwystrau ac o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Sir Ddinbych yn Gweithio. Fel cwmni lles yn y gweithle a sefydlwyd yn y Rhyl, mae’n arbennig o ystyrlon i ni fod yn darparu’r gefnogaeth hon ledled Sir Ddinbych ac yn rhoi yn ôl i’r cymunedau y cawsom ein sefydlu ynddynt.

Drwy gydlynu gwasanaethau therapiwtig a ffisiotherapi, rydym yn falch o rannu ein harbenigedd, cefnogi pobl i wella eu hiechyd a’u lles, a helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol wrth iddynt symud yn agosach at gyflogaeth.”

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cynhwysol neu gyfleoedd cyflogaeth, gall trigolion ffonio 01745 331438 / 07342 070635 neu ymweld â gwefan Sir Ddinbych yn Gweithio: www.sirddinbych.gov.uk/sirddinbych-gweithio.

Ynglŷn â Sir Ddinbych yn Gweithio:

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau dros Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r rhai mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael cyflogaeth.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU.

Casglu sbwriel ar draeth Barkby

Mae digwyddiad casglu sbwriel yn gobeithio mynd i’r afael â sbwriel morol ar ran poblogaidd o arfordir Prestatyn y mis hwn

Mae digwyddiad casglu sbwriel yn gobeithio mynd i’r afael â sbwriel morol ar ran poblogaidd o arfordir Prestatyn y mis hwn.

Ar ôl ymdrin â’r traethau ger y maes parcio Dwyrain Nova fis diwethaf, mae Tîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych yn trefnu ail ddigwyddiad ar gyfer ardaloedd o faes parcio Traeth Barkby.

Bydd hyn yn digwydd ar 16 Chwefror o 3pm tan 4pm. Mae croeso i rai sydd eisiau cefnogi i godi sbwriel morol ymuno â ni ym maes parcio uchaf Barkby erbyn 3pm.

Oherwydd cefnogaeth gwirfoddolwyr fis diwethaf, cafodd 22 o fagiau o sbwriel morol ei gasglu o’r tywod ac ardaloedd o amgylch y Nova ym mis Ionawr. Cafodd y digwyddiad ei gefnogi hefyd gan Cadwch Gymru’n Daclus a bu iddynt ddarparu rhywfaint o’r offer casglu sbwriel.

Gall sbwriel morol greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr, ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

Gall casglu sbwriel morol o’r traethau hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol gan y gall traethliniau, twyni a dolydd morwellt gynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr.

Meddai Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Bu i’r gwirfoddolwyr a ymunodd â ni fis diwethaf wneud gwaith gwych yn casglu’r sbwriel morol o ardaloedd ger y Nova. Y tro hwn rydym eisiau canolbwyntio ar y darn o faes parcio Traeth Barkby gan ein bod yn gwybod bod mwy o sbwriel yn tueddu i ddod i’r golwg yn y fan hon sy’n gallu cyfrannu at lifogydd lleol a difrodi’r amgylchedd a bywyd gwyllt hefyd.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Priffyrdd a’r Amgylchedd:  “Mae rheoli’r perygl o lifogydd yn lleol oherwydd effaith sbwriel morol ar ein traethau yn hynod o bwysig i amddiffyn eiddo rhag llifogydd. Mae hefyd yn well i les ein preswylwyr a’r rhai hynny sy’n ymweld â’r ardaloedd hyn, a’r bywyd gwyllt a ganfyddir ar y traethau, a byddaf yn annog unrhyw un sy’n teimlo y gallant wneud gwahaniaeth i ymuno â ni.”

Am fwy o fanylion, cysylltwch â claudia.smith@sirddinbych.gov.uk/07785517398

Agoriad swyddogol Canolfan Asesu Plant Bwthyn y Ddôl gan Dawn Bowden AS

Mae Bwthyn y Ddôl yn bartneriaeth sy'n darparu cefnogaeth i blant ag anghenion cymhleth a'u teuluoedd. 

Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS yn dadorchuddio plac i nodi agoriad swyddogol Canolfan Asesu Plant Bwthyn y Ddôl

Bwthyn y Ddôl

Mae Bwthyn y Ddôl yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), sy'n darparu cefnogaeth i blant ag anghenion cymhleth a'u teuluoedd.  Mae’r cyfleuster yn cynnwys uned asesu bwrpasol i gynnal ymyrraeth a therapi, ynghyd â llety i’r plant gael aros yno.

Croesawyd y Gweinidog gan gynrychiolwyr o'r sefydliadau partner ac ymunodd â thîm ehangach y prosiect yng Nghoed Pella i ddysgu mwy am y datblygiad.

Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: “Roedd yn bleser gen i agor Bwthyn y Ddôl yn swyddogol heddiw. Mae'n enghraifft wych o sut rydyn ni am drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru, gan gadw plant o fewn eu cymunedau ac yn agos at eu rhwydweithiau cefnogi.”

“Mae'n ysbrydoledig gweld sut y bu partneriaid o Gonwy, Sir Ddinbych a'r Bwrdd Iechyd yn cydweithio, ochr yn ochr â gwasanaethau lleol, i greu rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a'u teuluoedd."

Dywedodd y Cyng Kay Redhead, Aelod Cabinet Plant a Diogelu Conwy, “Roeddwn i wrth fy modd yn cael croesawu’r Gweinidog heddiw. Rydym yn falch iawn o'r gwaith sy'n digwydd ym Mwthyn y Ddôl i gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Ni ellir tanamcangyfrif y fantais o gael cyfleuster pwrpasol ar gyfer y gwasanaethau hyn, ac rwy'n falch bod model mor arloesol, gan weithio gyda phartneriaid o Sir Ddinbych ac Iechyd, yn mynd o nerth i nerth. 

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd gyda Chyngor Sir Ddinbych, “Rwyf mor falch o weld y cyfleuster gwerthfawr hwn ar agor. Bydd yn cael effaith mor gadarnhaol yn yr ardal ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r plant a’r teuluoedd hynny sy’n dibynnu ar gymorth cymhleth. Datblygwyd y model gofal hwn i ganolbwyntio ar anghenion penodol plant a phobl ifanc gan ddefnyddio arbenigedd tîm amlddisgyblaethol ac mae’n enghraifft ardderchog o’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredu BIPBC, Tehmeena Ajmal: “Rwyf wrth fy modd bod y Gweinidog wedi agor yr adnodd angenrheidiol hwn yn swyddogol ar gyfer plant a theuluoedd yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Mae'n enghraifft arall o'n hymrwymiad i gydweithio â'n partneriaid awdurdod lleol ac eraill er budd ein cymunedau.

“Rydym ym mawr obeithio y bydd y gwaith rydym yn rhan ohono ym Mwthyn y Ddôl yn rhoi’r cyfleoedd gorau i deuluoedd aros gyda’i gilydd ac yn sicrhau bod plant diamddiffyn yn cael eu cefnogi’n llawn, yn agosach at adref a’u rhwydweithiau cefnogaeth.”

Cafodd y prosiect ei ariannu drwy Gronfa Gofal Integredig a Chronfa Tai â Gofal Llywodraeth Cymru.

Wynne Construction Limited o Fodelwyddan oedd y contractwr.

Agorodd Bwthyn y Ddôl ei ddrysau i ddefnyddwyr gwasanaeth ym mis Rhagfyr 2024 a dyma’r cyfleuster cyntaf o'i fath yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

 

Cyllideb arfaethedig Sir Ddinbych ar gyfer 2026-2027

Cabinet Sir Ddinbych yn cyflwyno cynigion ar gyfer gosod cyllideb 2026-27.

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflwyno cynigion ar gyfer gosod y gyllideb ar gyfer 2026-27.

Mae'n ofynnol i bob Cyngor osod cyllideb gytbwys a chyflawnadwy a gosod lefel y Dreth Gyngor bob blwyddyn.

Mae cynghorau ledled y DU yn wynebu pwysau sylweddol. Mae'r galw am wasanaethau yn ein cymunedau yn parhau i gynyddu, ac mae cymhlethdod anghenion wedi cynyddu, yn enwedig mewn Addysg, Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd. Mae cost darparu'r gwasanaethau statudol hyn wedi cynyddu ymhell uwchlaw chwyddiant, gan gynyddu'r gofyn cyffredinol am wariant o ddydd i ddydd.

Ar gyfer 2026/27, rhagwelir y bydd pwysau costau Cyngor Sir Dinbych yn fwy na £20m am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Er bod y cyngor yn derbyn y rhan fwyaf o'i gyllid gan Lywodraeth Cymru, wedi'i ategu gan y Dreth Gyngor, nid yw’r cynnydd diweddar yng nghyllid Llywodraeth Cymru - er yn cael ei groesawu - yn mynd i’r afael â’r pwysau hyn yn gyfan gwbl, gan wneud cynnydd yn y Dreth Gyngor yn anochel.

Eleni, y cynnig a gyflwynir yw cynnydd o 4.76% yn y Dreth Gyngor ar gyfer gwasanaethau'r cyngor ynghyd â 0.46% ychwanegol i fodloni'r ardoll uwch gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, gan arwain at gynnydd arfaethedig o 5.22%.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynghorydd Delyth Jones, “Wrth osod cyllideb eleni rydym wedi ceisio cadw cynnydd y Dreth Gyngor mor isel â phosibl tra'n dal i allu darparu'r gwasanaethau hanfodol y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt.

“Mae'r rhan fwyaf o'n cyllideb yn mynd tuag at ysgolion, addysg, a chefnogi oedolion sydd angen gofal. Rydym hefyd yn buddsoddi'n sylweddol mewn gwasanaethau i blant ac i bobl sy'n profi digartrefedd. Mae'r gwasanaethau hyn yn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Gyda'i gilydd, mae'r gwasanaethau hanfodol hyn yn cyfrif am 65% o gyfanswm cyllideb y Cyngor.

“Mae hynny’n gadael 35% ar ôl ar gyfer popeth arall a wnawn – o archwilio tua 720 o fusnesau bwyd bob blwyddyn, i gasglu tua 73,000 o finiau a chynwysyddion ailgylchu o bron i 49,000 o gartrefi bob wythnos.

“Rydym hefyd yn cynnal safleoedd cefn gwlad fel Loggerheads, Moel Famau a Pharc Bodelwyddan; yn amddiffyn safleoedd treftadaeth fel Carchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre a Phlas Newydd; yn darparu dros 12 miliwn o brydau ysgol yn flynyddol; yn cludo tua 2,870 o ddysgwyr i’r ysgol yn ddiogel; ac yn cynnal a chadw 11,763 o oleuadau stryd a 1,419 km o ffyrdd ar draws y sir.”

Bydd rhai pobl yn cael eu hamddiffyn rhag y cynnydd drwy gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor sy’n helpu’r rhai sydd ar incwm isel neu’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau. Gall trigolion ddysgu mwy am hyn ar wefan y sir ar y dudalen cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor.

Mae’r Cabinet yn cyfarfod am 10am ddydd Mawrth, 10 Chwefror a bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu drwy’r we-ddarllediad ar ein gwefan.

 

 

Lleisiwch eich barn i ddylanwadu ar ddyfodol y sir

Anogir pobl leol i leisio’u barn yn yr arolwg “Dewch i siarad: Byw yn Sir Ddinbych”.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal yr arolwg gyda’r nod o glywed barn a safbwyntiau pobl ynglŷn â byw yn eu cymunedau lleol a defnyddio gwasanaethau.

Mae’r arolwg yn gyfle i bobl rannu’r hyn sy’n bwysicaf iddynt yn eu bröydd.

Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cydraddoldeb, Polisi a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Mae’r arolwg yn gyfle go iawn i bobl wneud gwahaniaeth yn eu hardaloedd lleol. Bydd eich llais yn ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a beth ddylwn ni ei wella.

“Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, po fwyaf manwl fydd y darlun a gawn ni o beth sy’n bwysig i gymunedau yn y sir a sut y gallwn ddatblygu gwasanaethau i’r dyfodol yn Sir Ddinbych.

Anogir pobl i gymryd rhan yn yr arolwg a’i rannu â theulu, ffrindiau a chymdogion i sicrhau ein bod yn clywed cymaint o leisiau â phosib.

Mae’r arolwg ar gael i bawb sy’n byw yn Sir Ddinbych ac mae modd ei gwblhau ar-lein yma.

Gellir cael copi ar bapur hefyd o unrhyw lyfrgell yn y sir.

Oeddech chi'n gwybod bod ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym eisiau gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych, a gellir gweld uchafbwyntiau'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni yma.

Gofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych i dderbyn gostyngiadau treth y Cyngor fel rhan o becyn maethu

Bydd gofalwyr maeth sy’n penderfynu maethu drwy’r awdurdod lleol yn cael cynnig hyd at 100% o ostyngiad ar dreth y Cyngor fel rhan o becyn maethu Sir Ddinbych.

Bydd gofalwyr maeth llawn amser sy’n cael eu derbyn drwy gynllun Maethu Cymru’n dechrau derbyn y gostyngiad hwn o fis Ebrill eleni fel rhan o fenter trawsnewid y Cyngor, sydd yn ceisio cynyddu niferoedd gofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych, gan alluogi plant i dderbyn gofal yn agosach at eu cymunedau a chyflawni canlyniadau gwell. 

Gyda hyn, mae gofalwyr maeth sy’n maethu gyda’r awdurdod lleol yn cael cynnig pecyn o bolisïau cynorthwyol, a fydd yn cael eu cyflwyno o mis Ebrill. 

Mae Cyngor Sir Ddinbych hefyd wedi cymeradwyo polisi cefnogi maethu ar gyfer staff sy’n maethu gyda’r awdurdod lleol, sy’n gymwys i dderbyn 5 diwrnod ychwanegol o absenoldeb arbennig.

Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:

“Mae ein gofalwyr maeth yn cael effaith enfawr ar fywydau plant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych. Rydym yn chwilio am fwy o ofalwyr maeth i ddod a gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn neu berson ifanc, sy’n gallu darparu cartref diogel a hapus iddynt.

Rydym yn gobeithio y bydd y polisïau sy’n cael eu gweithredu’n pwysleisio ein hymrwymiad i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniad gwerth chweil i Faethu ar gyfer Sir Ddinbych.

Dim ond un o’r polisïau cynorthwyol y byddwn ni’n eu cyflwyno i bobl sy’n penderfynu maethu drwy’r Awdurdod Lleol ydi hwn, gyda rhai eisoes wedi’u cyhoeddi, a bydd mwy’n cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Gall maethu wneud gwir wahaniaeth i fywyd plentyn, a gall maethu’n lleol yn Sir Ddinbych newid bywydau plant a phobl ifanc yn ein cymunedau lleol yma yn Sir Ddinbych.

Rydym yn gobeithio y bydd y newid polisi yn helpu darpar ofalwyr maeth i gymryd y cam nesaf, a dod yn ofalwyr maeth lleol, llawn amser gyda’r awdurdod lleol”.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i:

https://sirddinbych.maethucymru.llyw.cymru/

Parc chwarae Prestatyn yn agor gyda thema glan y môr

Mae parc chwarae’r Traeth Canol wedi ailagor yr wythnos hon ar ôl cyfnod o waith ailddatblygu gan Gyngor Sir Ddinbych.

Mae parc chwarae’r Traeth Canol wedi ailagor yr wythnos hon ar ôl cyfnod o waith ailddatblygu gan Gyngor Sir Ddinbych.

Bu adran Gwasanaethau Stryd y Cyngor yn rheoli’r prosiect ar ôl cael cyllid grant gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Yn rhan o’r gwaith, cyflwynwyd thema glan y môr newydd i’r safle sydd gerllaw traeth Prestatyn, a gosodwyd cyfarpar chwarae hygyrch a synhwyraidd yno hefyd er mwyn caniatáu i blant o bob gallu chwarae ynghyd.

Mae’r maes chwarae ar ei newydd wedd wedi’i ddylunio i fod yn fodern gyda chyfleoedd chwarae deinamig, cyffrous ac amrywiol. Mae’n cynnig mathau corfforol a gwybyddol o chwarae, a digon o amrywiaeth er mwyn sicrhau bod plant yn dysgu a thyfu, ac yn arbrofi gyda gwahanol fathau o chwarae corfforol.

KOMPAN fu’n gyfrifol am wneud y gwaith o ailddatblygu’r ardal chwarae ar ôl cael eu briffio gan swyddogion y Cyngor a oedd yn awyddus i gydnabod lleoliad glan môr y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Gwych ydi gweld yr ardal chwarae yma ar agor unwaith eto i blant ei mwynhau ac fe fyddwn i’n annog teuluoedd lleol ac ymwelwyr i alw heibio a mwynhau’r safle newydd, anhygoel yma ar thema glan y môr sydd mor agos at draeth Prestatyn.”

Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn dod i Rhyl

Gwahoddir ceiswyr gwaith ledled Sir Ddinbych i ymuno â Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio ddydd Mercher, 25 Chwefror, o 10am i 2pm yn Bar a Bwyty 1891, Pafiliwn y Rhyl.

Wedi'i gynnal mewn partneriaeth â Chanolfan Byd Gwaith, bydd y digwyddiad am ddim hwn yn dod â chymysgedd amrywiol o gyflogwyr lleol a chenedlaethol ynghyd sy'n recriwtio'n weithredol ar gyfer ystod eang o rolau ar draws nifer o sectorau.

Gan adeiladu ar lwyddiant ffeiriau blaenorol - sydd wedi croesawu dros 40-50 o gyflogwyr ac wedi denu cannoedd o fynychwyr - mae digwyddiad hygyrch mis Chwefror hwn yn parhau ag ymrwymiad Sir Ddinbych yn Gweithio i chwalu rhwystrau i gyflogaeth a chysylltu pobl â chyfleoedd go iawn yn agos at adref.

Gall y rhai sy'n mynychu ddisgwyl cwrdd â chyflogwyr sy'n cynrychioli sectorau fel lletygarwch a hamdden, iechyd a gofal cymdeithasol, y lluoedd arfog, gweithgynhyrchu a mwy, gan adlewyrchu'r anghenion amrywiol o ran y gweithlu ar draws y rhanbarth. Bydd sefydliadau fel y Llynges Frenhinol, Heddlu Gogledd Cymru, Haven, a chymysgedd eang o gyflogwyr lleol sy'n cynnig llwybrau gyrfa lefel mynediad a phrofiadol yn bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:

“Mae ein Ffair Swyddi i gyd yn ymwneud â chreu mynediad at gyfleoedd i bobl leol.

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu amrywiaeth o gyflogwyr sy'n chwilio'n weithredol am ymgeiswyr, ac rydym yn annog trigolion i ddod draw, archwilio beth sydd ar gael, a sgwrsio'n uniongyrchol â sefydliadau sy'n barod i gyflogi.”

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr, Cyflogaeth Strategol:

“Mae ein ffair swyddi yn gyfle gwych i drigolion gwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb a darganfod beth sy'n digwydd ar draws sectorau allweddol yn Sir Ddinbych. Mae'n rhoi'r cyfle iddynt sbarduno sgyrsiau sy'n newid y dyfodol, meithrin eu hyder, a dangos i bobl yr amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael yma yn ein sir.”

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, gan gynnwys ceiswyr gwaith, newidwyr gyrfa, pobl ifanc sy'n archwilio opsiynau, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn hyfforddiant neu gymorth cyflogaeth sydd ar gael trwy Sir Ddinbych yn Gweithio.

Am ragor o wybodaeth a diweddariadau, ewch i sirddinbychyngweithio.sirddinbych.gov.uk neu dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi'i ariannu'n rhannol trwy Raglen Cymunedau dros Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r rhai mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael cyflogaeth.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU.

Disgyblion yn plannu gobaith ar gyfer natur leol

Mae disgyblion yn Ysgol y Faenol ym Modelwyddan wedi rhoi ymdrech fawr i ddarparu cynefinoedd newydd ar gyfer natur leol ar dir yr ysgol.

Mae disgyblion yn Ysgol y Faenol ym Modelwyddan wedi rhoi ymdrech fawr i ddarparu cynefinoedd newydd ar gyfer natur leol ar dir yr ysgol.

Mae disgyblion wedi ymuno gyda thîm Bioamrywiaeth a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych i blannu dros 1,000 o goed amrywiol yn yr ysgol.

Cafodd y gwaith ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025/26 sydd wedi rhoi £278,600 i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith adfer natur ledled y sir.

Mae’r disgyblion wedi torchi eu llewys ac wedi bod yn brysur yn plannu gwrychoedd a choed yn Ysgol y Faenol.

Mae’r coed a blannwyd yn cynnwys gwern, derw mes di-goes, criafol, cyll, bedw, ceirios yr adar, gwifwrnwydden y gors ac ysgawen.

Mae’r plant hefyd wedi plannu coed Gwifwrnwydd, sydd â hanes diddorol i’r disgyblion ei ddysgu ynghyd â ffeithiau am y rhywogaethau eraill. Cafodd coed Gwifwrnwydd eu henwi yn y 1500au ar ôl cael eu gweld ar lwybrau rhwng Wiltshire a Llundain. Os welwch goeden Gwifwrnwydden, mae’n debyg eich bod ar neu ger llwybr.

Bydd dros 1,100 o goed llai gwahanol a blannwyd yn yr ysgol hefyd yn creu gwrychoedd a choetir a fydd yn helpu disgyblion i ddysgu mwy am fuddion cynefinoedd i natur leol wrth iddynt ddatblygu ac aeddfedu.

Roedd y coed a blannwyd i greu’r ardaloedd hyn yn cynnwys Gellyg Gwyllt a fydd yn darparu ffynhonnell bwyd i adar a mamaliaid a bydd ei flodau yn hafan ar gyfer peillwyr lleol. Hefyd fe blannodd y disgyblion goed gwyros, a bydd y dail yn cael eu bwyta gan lindys gwyfynod.

Yn ogystal â bod yn gyfle i’r plant ddysgu am fyd natur lleol mae’r cynefin a grëwyd yn Ysgol y Faenol hefyd yn cyfrannu at amsugno allyriadau carbon yn lleol, diolch i’r holl goed ychwanegol sydd wedi’u plannu.

 

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn ddiolchgar iawn i holl ddisgyblion Ysgol y Faenol am eu cymorth gwych tuag at siapio’r ardal newydd hon i gefnogi natur leol ac i elwa lles a dysgeidiaeth holl ddisgyblion presennol ac yn y dyfodol.”

 

Sesiynau sgwrs a chwmni i’w cynnal ar y cyd â’r Pwyntiau Siarad

Bydd tair o lyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cynnal cyfres o sesiynau 'Sgwrs a Chwmni' ar y cyd â’r gwasanaeth Pwyntiau Siarad.

Bydd y sesiynau yma’n cael eu cynnig am ddim yn llyfrgelloedd Corwen, y Rhyl a Rhuthun drwy gydol mis Chwefror a Mawrth, ynghyd â sesiynau rheolaidd y Pwyntiau Siarad sy’n cael eu cynnal mewn gwahanol lyfrgell yn Sir Ddinbych bob dydd o’r wythnos. Mae’r sesiynau’n cael eu hwyluso gan Making Sense.

Yn ogystal â chynnig cyngor, gwybodaeth ac arweiniad, bydd y sesiynau Pwyntiau Siarad arbennig yma’n cynnig cyfle i drigolion hel atgofion gyda’i gilydd ac yn darparu ‘bocsys atgofion’ i’w mwynhau.

Casgliad yw’r rhain o focsys a sachau atgofion, sy’n cynnwys eitemau y gall preswylwyr eu defnyddio i hel atgofion am y dyddiau a fu. Mae’r rhan fwyaf o’r eitemau yn bethau o’r 1950au.

Eitemau y bocsys atgofion (Lluniau gan, Making Sense)

Ynghyd â’r bocsys, bydd paned a chacen ar gael, a chyfle i greu gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau celf a chrefft.

Celf a chrefft (Lluniau gan, Making Sense)

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn:

  • Llyfrgell y Rhyl – 10, 17 Chwefror a 10, 24 Mawrth.
  • Llyfrgell Corwen – 18, 25 Chwefror a 4, 11, 18 Mawrth.
  • Llyfrgell Rhuthun – 10, 17 Chwefror a 3, 10, 17 Mawrth.

Bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal rhwng 10am a 12pm.

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae’r sesiynau yma’n gyfle gwych i drigolion alw draw i’r llyfrgell, cael sgwrs, mwynhau paned o de a hel ambell i atgof am y gorffennol hefyd.

“Maen nhw’n greadigol ac yn llawn hwyl, ac rydw i’n gwybod y byddan nhw’n rhoi boddhad mawr i bawb sy’n cymryd rhan. Fe hoffwn i ddiolch i’r partneriaid sydd ynghlwm â nhw, gan gynnwys ein Gwasanaeth Llyfrgelloedd, am gynnal y sesiynau a chreu cyfleoedd croesawgar i ddod â phobl yn ein cymunedau at ei gilydd i fwynhau.”

Tenantiaid yn symud i mewn i gartrefi newydd, ynni-effeithlon yn Ninbych

Mae tenantiaid bellach wedi symud i mewn i’w cartrefi newydd yn natblygiad Llwyn Eirin yn Ninbych, yn dilyn cwblhau 22 o dai cyngor modern ac ynni-effeithlon o ansawdd uchel.

Mae pob un o'r cartrefi wedi cael eu dyrannu'n llwyddiannus, gyda phwyslais cryf ar gefnogi pobl leol, gan helpu i sicrhau bod tai fforddiadwy yn cael eu darparu ar gyfer cymunedau lleol.

Mae tenantiaid newydd wedi canmol y cartrefi a'r gefnogaeth a gawsant yn ystod y broses ddyrannu.

Dywedodd un preswylydd: “Mae’r swyddog tai wedi bod yn hynod gefnogol wrth ein helpu. Mae’r eiddo hyn yn anhygoel ac yn brydferth y tu mewn.”

Ychwanegodd un arall: “Diolch am ein cartref newydd. Byddwn ni’n elwa cymaint. Mae wedi bod yn werth yr aros ac wedi bod yn help mawr cael gwybod am beth oedd yn digwydd ar hyd yr amser hefyd.”

Mae digwyddiad cymunedol ar y gweill i roi cyfle i’r trigolion newydd gwrdd â’i gilydd a dechrau meithrin cysylltiadau.

Mae cartrefi Llwyn Eirin wedi’u hadeiladu i safon Passivhaus hynod ynni-effeithlon, gan ddarparu lefelau uchel o inswleiddio a defnydd ynni isel. Mae paneli solar ar doeau’r tai a phympiau gwres ffynhonnell ddaear wedi’u gosod, sy’n golygu nad oes angen cyflenwad nwy. Bydd hyn yn helpu i leihau biliau ynni cartrefi, lleihau allyriadau carbon a chefnogi ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Cafodd y datblygiad ei gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Tai Arloesol, gan alluogi Cyngor Sir Ddinbych i weithio gyda Creating Enterprise ar y dull cynaliadwy a modern hwn o adeiladu tai.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau:

“Mae’n wych gweld tenantiaid yn symud i mewn i’r cartrefi newydd hyn yn Llwyn Eirin. Mae’r datblygiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol, tra hefyd yn sicrhau bod y cartrefi’n addas ar gyfer y dyfodol. Bydd y tai ynni-effeithlon hyn yn helpu trigolion i gadw costau ynni i lawr ac yn cefnogi ein huchelgeisiau amgylcheddol ehangach.”

Mae datblygiad Llwyn Eirin yn rhan o Raglen Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Ddinbych, sy’n parhau i ddarparu cartrefi cyngor newydd ledled y sir i ddiwallu anghenion lleol.

Contractwyr wedi’u penodi ar gyfer prosiectau Rhuthun

Mae'r cyngor wedi penodi contractwr ar gyfer gwaith gwella’r parth cyhoeddus sydd ar droed yn nhref Rhuthun.

Mae'r cyngor wedi penodi contractwr ar gyfer gwaith gwella’r parth cyhoeddus sydd ar droed yn nhref Rhuthun.

Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yng Ngorllewin Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei wneud gan OBR Construction ar Sgwâr Sant Pedr a Chae Ddôl a bydd yn ceisio ehangu’r posibiliadau ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, gan hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref ar yr un pryd.

Bwriedir i waith gwella parth cyhoeddus Sgwâr Sant Pedr ddechrau ar y safle o ganol fis Mawrth 2026 a chaiff ei wneud fesul cam. Bydd oedi ym mis Gorffennaf er mwyn i Ŵyl Rhuthun gael ei chynnal yn ddiogel a heb amhariad.

Bydd yr holl waith adeiladu yn dod i stop dros gyfnod yr ŵyl a bydd y safle yn ddiogel trwy gydol y cyfnod. Ar ôl i’r ŵyl ddod i ben, bydd gwaith adeiladu yn ailddechrau yn ôl y bwriad.

Bydd gwaith yng Nghae Ddôl i greu llwybr teithio llesol a thrac pwmpio yn dechrau ar ddyddiad diweddarach ar ôl i’r tymor rygbi ddod i ben ym mis Ebrill, er mwyn lleihau amhariad i rai sy’n defnyddio’r tir yn rheolaidd.

Fel rhan o’r cytundeb, bydd OBR Construction yn darparu swyddog cyswllt busnes i gefnogi busnesau gydag unrhyw wasanaethau cludiant fydd eu hangen yn ystod y prosiect.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:  

“Tra bod y prosiect yn ddatblygiad cyffrous yn Rhuthun, a fydd yn adfywio’r sgwâr a Chae Ddôl, rydym ni’n sylweddoli y bydd y gwaith yn effeithio ar breswylwyr a busnesau.

“Trwy gydol y ddau brosiect, bydd OBR Construction a’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r gymuned, yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd a rhoi gwybod am unrhyw effaith dros dro. Bydd hysbysiadau yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw i sicrhau bod preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn ymwybodol o newidiadau dros dro i fynediad a dulliau rheoli traffig yn ystod y cam adeiladu.

“Wrth i ni baratoi ar gyfer y gwaith yn yr ardal, rydym yn gofyn i bob busnes a phreswylydd nad ydynt wedi llenwi Arolwg Anghenion Mynediad i wneud hynny. Mae ymatebion yn hanfodol i’n helpu i ddeall pa fynediad fydd ei angen ar fusnesau a phreswylwyr pan fydd y gwaith yn dechrau.

“Trwy lenwi’r arolwg, byddwch yn ein helpu i sicrhau bod mynediad yn cael ei gynnal i eiddo a thir, gan ganiatáu i ni gynllunio a chefnogi llwybrau priodol a lleihau amhariad yn ystod y gwaith adeiladu.”

Os nad ydych chi wedi llenwi’r arolwg eto neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cynlluniau cysylltwch â thîm y prosiect: swyddfarhaglencorfforaethol@sirddinbych.gov.uk

Seremoni torri’r dywarchen yn nodi dechrau gwaith ar ganolfan gymunedol newydd

Cynhaliwyd seremoni torri’r dywarchen yn ddiweddar i nodi dechrau'r gwaith yn Ysgol Bro Elwern.

Cynhaliwyd seremoni torri’r dywarchen yn ddiweddar er mwyn nodi dechrau’r gwaith o adeiladu canolbwynt cymunedol newydd ac estyniad yn Ysgol Bro Elwern.

Caiff y prosiect gwerth £2.7 miliwn ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru trwy ei grant Cyfalaf yr Iaith Gymraeg a Phrydau Ysgol am Ddim i ddarparu ystafell ddosbarth newydd a chegin o'r radd flaenaf ar gyfer yr ysgol gynradd, ac mae'r canolbwynt cymunedol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU fel rhan o gyllid grant ar gyfer 10 o brosiectau cyfalaf sydd â'r nod o ddiogelu treftadaeth unigryw, lles a chymunedau gwledig Rhuthun. 

Roedd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych, disgyblion a staff o Ysgol Bro Elwern, aelodau lleol a chynrychiolwyr o’r Cyngor Cymuned, yn ogystal â staff o SWG Construction sy’n gwneud y gwaith, yn bresennol yn y seremoni. 

Budd y prosiect o fudd i ddisgyblion Ysgol Bro Elwern gan y bydd yn darparu ystafell ddosbarth, cegin a mannau ategol newydd, yn ogystal â mynediad at neuadd ar y safle.

Bydd y canolbwynt cymunedol ei hun yn cynnwys neuadd fawr a lle cyfarfod i ddarparu cyfleusterau gwell ar gyfer ymgysylltiadau cymdeithasol i’r gymuned leol, a bydd yn cael ei reoli gan y Cyngor Cymuned. Bydd y Cylch Meithrin yn cael ei symud i’r Canolbwynt Cymunedol. Defnyddir y cyfleuster hefyd gan yr ysgol, grwpiau cymunedol lleol a Swyddfa’r Post.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’r seremoni torri’r dywarchen yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer prosiect pwysig a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddisgyblion Ysgol Bro Elwern, yn ogystal â’r gymuned yng Ngwyddelwern. Bydd y prosiect nid yn unig yn darparu cyfleusterau newydd o’r radd flaenaf ar gyfer un o’n hysgolion, ond bydd hefyd yn darparu canolbwynt cymunedol hanfodol i’r gymuned. 

“Hoffwn ddiolch i’r aelod lleol, y Cynghorydd Hugh Evans a’r Cyngor Cymuned am eu hymrwymiad drwy gydol y broses hon ac mae Cyngor Sir Dinbych yn gyffrous i gefnogi’r prosiect wrth iddo fynd rhagddo”.

Cychwyn gwaith datblygu Parc Glan yr Afon

Bydd gwaith yn dechrau i hybu datblygu iechyd a llesiant ar hyd Parc Glan yr Afon yn Llangollen.

Bydd gwaith yn dechrau i hybu datblygu iechyd a llesiant ar hyd Parc Glan yr Afon yn Llangollen.

Gan ddefnyddio arian cyfnod trosiannol Y Gronfa Ffyniant Cyffredin bydd y gwaith sy’n dechrau dydd Llun, 2il o Chwefror, yn cael ei gydlynu gan adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych.

Mae datblygu’r ardal yn dilyn gwaith gwelliannau blaenorol yn y parc dros y blynyddoedd diwethaf a oedd yn cynnwys creu cwrs golff bach 9 twll ac adnoddau chwarae newydd.

Mae’r Adran Gwasanaethau Stryd yn gweithio i wella’r parc ymhellach er mwyn i drigolion lleol ac ymwelwyr fwynhau’r lle.

Bydd y prosiect yn cynnwys disodli’r ramp presennol o Barc Aldi i ardal y Parc Sglefrio er mwyn gwella hygyrchedd yr ardal hon i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl eraill sydd ag anghenion hygyrchedd. Hefyd bydd dau lwybr ramp arall i wella hygyrchedd ar draws y parc yn cael eu gosod.

Bydd ffens yn cael ei godi wrth ymyl yr hen ardal chwarae plant er mwyn gwneud yr ardal hon yn fwy diogel, a bydd giât mynediad ychwanegol ar ochr afon y parc.

Bydd gampfa awyr agored hefyd, a bydd yn cynnwys saith eitem o offer er mwyn galluogi defnyddwyr i ymarfer wrth fwynhau golygfa dros yr afon. Yn ogystal â hyn, gosodir dwy fainc picnic hygyrch a fydd yn galluogi mynediad hawdd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Amgylchedd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Barry Mellor:
“Rydym yn falch o allu parhau i wneud gwelliannau ar hyd yr ardal wych hon yn Llangollen drwy’r arian hwn y mae Gwasanaethau Stryd wedi gallu ei gael. Bydd y gwaith hwn yn gwella’r ardaloedd eraill sydd eisoes wedi’u gwella ym Mharc Glan yr Afon ac yn codi proffil y rhan bwysig hon o’r dref, er mwyn gwella profiad trigolion lleol a’r rhai sy’n ymweld â Llangollen.”

Cyngor Sir Ddinbych yn cytuno ar estyniad i'r Cynllun Corfforaethol

Heddiw (dydd Mawrth, 27 Ionawr) cytunodd y Cyngor llawn ar y cynnig i ymestyn y Cynllun Corfforaethol presennol, Y Sir Ddinbych a Garem, am flwyddyn bellach hyd 2028.

Bydd y newid hwn yn rhoi cyfle i'r Cabinet a'r Cyngor etholedig nesaf, yn dilyn etholiadau llywodraeth leol mis Mai 2027, ddatblygu eu Cynllun Corfforaethol pum mlynedd eu hunain ar gyfer y cyfnod 2028–2033.

Mae'r Cyngor wedi gwneud hyn i gryfhau gallu'r Cyngor newydd i lunio cynllun sy'n adlewyrchu ei flaenoriaethau a'i weledigaeth, gan gryfhau perchnogaeth cynghorwyr o'r Cynllun Corfforaethol a'u gallu i’w gyflawni.

Mae'r Cynllun Corfforaethol yn ddogfen strategol allweddol sy'n galluogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf Cydraddoldeb 2010.

Mae'r newid y cytunwyd arno heddiw yn cael ei gefnogi gan y gwaith parhaus i gyflawni strategaethau manwl gan gynnwys y Strategaeth Hinsawdd a Natur, y Strategaeth Ddigidol, y Strategaeth Economaidd, a'r Strategaeth Gweithlu.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi, Cydraddoldeb ac Asedau Strategol, “Mae’r cynnig hwn yn rhoi amser a chyfle i’r Cabinet a’r Cyngor nesaf ddatblygu Cynllun Corfforaethol sydd wir yn adlewyrchu eu blaenoriaethau, gan sicrhau parhad a sefydlogrwydd i’n trigolion.”

Adnewyddu tanysgrifiad gardd yn mynd yn fyw

Gall garddwyr Sir Ddinbych sy’n defnyddio’r gwasanaeth tanysgrifiad gwastraff gardd adnewyddu eu casgliad o heddiw ymlaen (Ionawr 12).

Gall garddwyr Sir Ddinbych sy’n defnyddio’r gwasanaeth tanysgrifiad gwastraff gardd adnewyddu eu casgliad o heddiw ymlaen (Ionawr 12).

Mae’r cyfnod adnewyddu ar gyfer 2026 i 2027 ar agor i wneud yn siŵr bod digon o amser i bawb gofrestru cyn y bydd cyfnod newydd y gwasanaeth yn dechrau o 1 Ebrill.

Mae’r Cyngor yn annog preswylwyr sy’n cofrestru am y tro cyntaf i fanteisio ar y cyfnod cofrestru hwn o heddiw (1 Ebrill) fel eu bod yn cael budd llawn o’r gwasanaeth 12 mis.

Anogir preswylwyr i adnewyddu eu gwasanaeth casglu ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen isod.

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/biniau-ac-ailgylchu/gwastraff-gardd.aspx 

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd dwywaith yr wythnos yn cynnig dull hwylus, a chost effeithiol o fynd i’r afael â’u gwastraff gardd, ac yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddiwallu’r targedau ailgylchu statudol.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Gallwch adnewyddu neu gofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd 12 mis o heddiw ymlaen. Byddaf yn annog preswylwyr i wneud hyn cyn gynted â phosib er mwyn cyfri amser darparu’r cynwysyddion newydd, ac er mwyn cymryd mantais o’r gwasanaeth yn llawn am 12 mis.

Gall preswylwyr wirio a oes ganddynt danysgrifiad cyfredol ar dudalen dyddiadau casglu biniau’r wefan, neu gallwch ddysgu mwy am y gwasanaeth yma 

Mae ceisiadau am symiau cymudol bellach ar agor

Mae ceisiadau bellach ar agor am gyllid i helpu i wella mannau agored a mannau chwarae ledled Sir Ddinbych.

Mae cyfanswm o £101,064.42 ar gael i gefnogi prosiectau lleol.

Daw'r cyllid o Symiau Cymudol, sef taliadau a wneir gan ddatblygwyr pan nad yw'n bosibl darparu mannau agored yn yr awyr agored fel rhan o ddatblygiad newydd. Mae'r cronfeydd hyn wedi'u neilltuo i wella parciau, mannau chwarae a mannau agored eraill, fel arfer o fewn yr un dref neu gymuned lle digwyddodd y datblygiad. Mewn rhai achosion, gellir defnyddio'r arian hefyd er budd cymunedau cyfagos yn Sir Ddinbych.

Gall amrywiaeth o sefydliadau wneud cais am gyllid, gan gynnwys:

  • Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
  • Grwpiau gwirfoddol a chymunedol
  • Elusennau
  • Sefydliadau sector cyhoeddus
  • Clybiau chwaraeon amatur
  • Cyngor Sir Ddinbych

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau:

“Mae cyllid symiau cymudol yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddiogelu a gwella mannau agored a mannau chwarae ledled Sir Ddinbych. Mae'r buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau bod cymunedau lleol yn parhau i elwa o fannau diogel, croesawgar a chynaliadwy sy'n cefnogi lles, chwarae a bywyd cymunedol. Byddwn yn annog sefydliadau sy’n gymwys i ystyried gwneud cais ac i fanteisio ar y cyfle hwn i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu hardal leol.”

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 20 Ebrill 2026. Mae rhagor o wybodaeth a ffurflenni cais ar gael ar-lein yma: www.sirddinbych.gov.uk/symiau-cymudol

Mae’r cyllid sydd ar gael, ac ym mha ardal yn cael eu rhestru isod:

Ardal

Swm sydd ar gael

Ardal Cyngor Cymuned Llangynhafal

£12,529.85

Ardal Cyngor Cymuned Llanynys

£4,025.03

Ardal Cyngor Tref Dinbych

£1,362.39

Ardal Cyngor Cymuned Cyffylliog

£2,694.19

Ardal Cyngor Cymuned Clocaenog

£1,432.80

Ardal Cyngor Tref Y Rhyl

£25,746.74

Ardal Cyngor Tref Prestatyn

£22,986.49

Ardal Cyngor Tref Llangollen

£3,603.18

Ardal Cyngor Cymuned Llandyrnog

£1,434.50

Ardal Cyngor Cymuned Llanarmon yn Iâl

£1,298.40

Ardal Cyngor Tref Rhuddlan

£1,298.40

Ardal Cyngor Dinas Llanelwy

£22,652.45

 

Adnewyddu tanysgrifiad gardd yn fyw

Gall garddwyr Sir Ddinbych sy’n defnyddio’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd adnewyddu eu tanysgrifiad yn awr.

Mae’r cyfnod adnewyddu ar gyfer 2026 i 2027 ar agor i wneud yn siŵr bod digon o amser i bawb gofrestru cyn y bydd cyfnod newydd y gwasanaeth yn dechrau o 1 Ebrill.

Mae’r Cyngor yn annog preswylwyr sy’n cofrestru am y tro cyntaf i fanteisio ar y cyfnod cofrestru hwn fel eu bod yn cael budd llawn o’r gwasanaeth 12 mis.

Anogir preswylwyr i adnewyddu eu gwasanaeth casglu ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen isod.

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/biniau-ac-ailgylchu/gwastraff-gardd.aspx 

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd dwywaith yr wythnos yn cynnig dull hwylus, a chost effeithiol o fynd i’r afael â’u gwastraff gardd, ac yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddiwallu’r targedau ailgylchu statudol.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Gallwch adnewyddu neu gofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd 12 mis o heddiw ymlaen. Byddaf yn annog preswylwyr i wneud hyn cyn gynted â phosib er mwyn cyfri amser darparu’r cynwysyddion newydd, ac er mwyn cymryd mantais o’r gwasanaeth yn llawn am 12 mis.

Gall preswylwyr wirio a oes ganddynt danysgrifiad cyfredol ar dudalen dyddiadau casglu biniau’r wefan, neu gallwch ddysgu mwy am y gwasanaeth yma 

ERTHYGLAU

Pencampwr o'r Rhyl yn hau gobaith i'r byd naturiol

Mae un o gefnogwyr ifanc brwd byd natur wedi ennill gwobr am roi help llaw i dyfu gwell dyfodol i blanhigion a choed yn Sir Ddinbych.

Mae Ellie Hughes o’r Rhyl yn un o blith nifer cynyddol o bobl sy’n ymuno â’r gymuned o wirfoddolwyr ym mhlanhigfa coed cynhenid y Cyngor yn Llanelwy.

Ei brwdfrydedd am bopeth ym myd natur sy’n ysgogi Ellie, sydd i’w gweld yn aml yng ngwarchodfeydd natur gogledd y sir, yn torchi ei llewys wrth helpu ceidwaid cefn gwlad gyda gorchwylion tymhorol.

Y brwdfrydedd hwnnw a ddenodd Ellie i gymuned y blanhigfa goed, ac yn ddiweddar fe enillodd wobr Person Ifanc y Flwyddyn yng ngwobrau Bionet (Partneriaeth Natur Gogledd Ddwyrain Cymru) 2025 am ei hymroddiad i hybu natur yn lleol.

Cafodd Llais y Sir sgwrs ag Ellie pan oedd hi’n gwirfoddoli yn y blanhigfa goed, i gael clywed rhywfaint am ei hymgyrch benigamp i gynnal byd natur ar garreg ei drws.

Bu Ellie’n fyfyriwr yng Ngholeg Cambria Llaneurgain a Choleg Llysfasi ac fe ymunodd â chymuned gwirfoddolwyr y blanhigfa goed ym mis Mawrth y llynedd, gan ddod bob wythnos yn selog ers hynny, yn ogystal â gwirfoddoli drwy’r cynllun Natur Er Budd Iechyd i helpu ar safleoedd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.

Wrth gofio’r tro cyntaf y daeth hi o hyd i’r blanhigfa, dywedodd Ellie: “Roedd o’n agos at adref ac roeddwn i’n mynd i’r coleg ar y pryd, yn cael dydd Mercher i ffwrdd, a fy nhad wnaeth awgrymu mod i’n mynd i wirfoddoli yno.”

Mae’r blanhigfa’n tyfu coed a blodau gwyllt cynhenid gyda hadau a gesglir ledled y sir ac mae’n rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a dysgu mwy am fyd natur yng ngwarchodfa natur helaeth Green Gates, sy’n ymestyn dros 70 o erwau o dir.

Meddai Ellie: “Dwi wrth fy modd yn bod allan yn yr awyr agored yn helpu byd natur ac mae’n gwneud lles i iechyd rhywun hefyd.  Dwi’n hoff o gwrdd efo’r gwirfoddolwyr eraill a rhoi help llaw yn y warchodfa natur a gweithio yn y twneli plastig, a chael trin a thrafod y coed drwy’r amser. “Mi welais i robin goch yn dod i mewn i’r twneli; mi welais i wiwer lwyd y tu allan y diwrnod o’r blaen hefyd.”

Diolch i gymorth y staff ar y safle a’r gymuned o wirfoddolwyr, mae Ellie’n dweud fod dod i’r blanhigfa goed wedi ei helpu i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.

Meddai:  “Dwi wedi dysgu cymaint o bethau, fel sut i hau hadau, pethau i helpu planhigion i dyfu… plannu coed yn y caeau, dwi’n meddwl mod i wedi helpu i blannu tua mil ohonyn nhw. Mi ges i ddod i adnabod pobl, cael gwybod beth maen nhw’n ei wneud, beth ydi eu gwaith nhw, mae o’n dda.  Dwi’n cael dysgu sgiliau ganddyn nhw hefyd wrth iddyn nhw roi help imi.”

Pa gyngor sydd ganddi i rywun sydd efallai â diddordeb mewn rhoi cynnig ar ddysgu pethau newydd yn y blanhigfa goed?

Mae’n dweud:  “Ewch amdani; mae’n gyfle gwych i ddysgu sgiliau gwych ac efallai cael gwaith yn y maes yn y dyfodol. Mae’r ddau o’r staff yn hyfryd, yn wych i sgwrsio efo nhw ac maen nhw’n dangos sgiliau newydd imi a rhoi help imi ddeall mwy am beth maen nhw’n ei wneud yma.”

Dywedodd Sam Brown, Cynorthwyydd y Blanhigfa Goed: “Mae’n fendigedig i gael Ellie yma ac rydyn ni’n syfrdanu bob wythnos mor ymroddgar ydi hi wrth helpu, dysgu sgiliau newydd a datblygu ei gwybodaeth am fyd natur yn Sir Ddinbych.

“Mae hi’n rhan bwysig o gymuned wych o wirfoddolwyr yn y blanhigfa goed ac rydym yn eithriadol o falch ohoni am ennill gwobr Person Ifanc Bionet; mae ei brwdfrydedd dros helpu i warchod beth sydd gennym yn yr awyr agored yn ysbrydoliaeth enfawr inni.”

Os hoffech chi wirfoddoli yn y blanhigfa goed, e-bostiwch eich manylion i: biodiversity@denbighshire.gov.uk

Taith Josh

Wedi i’w berthynas chwalu fe aeth Josh, sy’n 34 oed, i chwilio am gymorth gan dîm digartrefedd y Cyngor blwyddyn dwethaf. Ym mis Chwefror 2025, rhoddwyd Josh mewn llety dros dro a chafodd ymarferydd cefnogi atal digartrefedd ei ddynodi ar ei gyfer.

Josh

“Roeddwn yn ddigartref ddechrau’r flwyddyn dwythaf. Roeddwn wedi bod yn ddigartref o’r blaen a chefais fy rhoi mewn llety dros dro yn flaenorol, ond nid oeddwn yn y meddylfryd iawn yn flaenorol i geisio datrys fy sefyllfa yn ehangach.

Dim ond am gyfnod byr yr oeddwn i yno’r tro hwn. Roeddwn yn gofyn i bawb, yn ceisio dod o hyd i fy fflat fy hun. Yn y diwedd mi ddes o hyd i un a symud allan o’r llety dros dro yn weddol gyflym.”

Fis yn ddiweddarach roedd Josh yn rhentu llety yn breifat er mwyn byw ynddo ac roedd yn awyddus i ysgrifennu’r bennod yn ei stori.

“Tra roeddwn yn y llety dros dro, fe soniodd fy ymarferydd cefnogi atal digartrefedd wrtha i am gyrsiau Intuitive Thinking Skills.

Roeddwn ychydig yn amheus am wneud y cyrsiau i ddechrau, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli tan i fi fynd arnynt nad oedd gen i mewn gwirionedd ddim byd i’w golli a phopeth i’w ennill o roi cyfle i’r cyrsiau.

Fe ddechreuais y cyrsiau ym mis Ebrill a mis Mawrth o 2025. Fe wnes i’r cwrs sgiliau ar gyfer bywyd gyntaf ac fe wnes i fwynhau yn fawr a dysgu llawer ohono.

Mae’n eich dysgu chi sut i ymdrin â’ch meddylfryd eich hun a sut rydych chi’n meddwl am broblemau. Roeddwn i’n arfer cael trafferth mawr gyda fy hyder ac yn amau fy hun drwy’r amser.

Gofynnwyd i mi ar ddechrau’r cwrs beth fyddwn i’n hoffi ei wella, ac felly fe nodais waith gyda fy hyder.”

Aeth Josh wedyn ymlaen i gymryd y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, gan ddysgu llawer mwy.

“Fe es ymlaen i wneud y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a ddysgodd fwy o agweddau technegol i mi. Fe fyddwn yn cael fy rhoi yn esgidiau pobl eraill ac fe ddysgais sut i helpu’r rhai hynny a allai fod yn fwy diamddiffyn.

Fe ddysgais sut i helpu eraill a allai fod yn wynebu amgylchiadau fel digartrefedd neu efallai yn cael trafferth gyda chamddefnyddio sylweddau.

Erbyn dechrau’r haf, cafodd Josh gynnig lleoliad fel llysgennad gyda’r tîm Intuitive Thinking gyda’r gobaith y byddai’r cynllun wedyn yn arwain at swydd barhaol o fewn y tîm ei hun.

“Roeddwn wir yn llawn cyffro gan mai hwnnw oedd y lleoliad roeddwn i ei eisiau fwyaf o’r rhai a gafodd eu cynnig i mi. Fe ddysgais i roi areithiau a gweinyddu hyfforddiant drwy gysgodi aelodau o’r tîm. Fe helpodd hynny fy hyder gymaint, sefyll i fyny a siarad o flaen pobl. Roeddwn yn ofnus iawn ar y dechrau, ond fe ddaeth yn haws ac yn haws dros amser.

Roeddwn rhyw ddeufis i mewn yn fy lleoliad gyda’r tîm pan ges gynnig swydd yn y sector ynni ac roeddwn yn teimlo na allwn wrthod y swydd.

Roedd y sgiliau roeddwn wedi eu dysgu yn ystod y cyrsiau roeddwn wedi eu cymryd, a fy lleoliad wedi rhoi gymaint o hyder i mi yn fy rôl newydd. Mae’r swydd hon mor wahanol i’r hyn rydw i wedi ei wneud o’r blaen, ac mae’r sgiliau newydd hyn wedi rhoi’r hyder i mi i fynd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Dyma beth rydw i wedi elwa fwyaf ohono.

Roeddwn wedi arfer parhau i wneud y pethau yr oeddwn yn gyfforddus â nhw cyn i mi wneud y cyrsiau hyn. Roeddwn yn gwneud yr hyn yr oeddwn i wastad wedi ei wneud, ond yn y pen draw roeddwn yn cael yr un canlyniadau. Roeddwn yn teimlo fel mod i wedi treulio blynyddoedd yn llonydd i ddweud y gwir.

Ers i mi fynd ar y cyrsiau hyn dydw i erioed wedi teimlo cystal yn fy mywyd. Mae’n swnio’n wallgof i ddweud y gall cwrs newid hynny, ond fe ddysgais pam rwy’n meddwl am bethau a sut i fynd i’r afael â’r meddyliau hynny.”

Mae Josh wedi dewis ffyrdd mwy cadarnhaol o dreulio’r amser.

“Rydw i wedi gwneud dewisiadau iachach yn fy mywyd nawr, roeddwn yn ei chael yn anodd gyda diflastod pan ddes i’n sobr tua phedair blynedd yn ôl, roeddwn i angen elfennau eraill.

Fe ddechreuais i chwarae golff a mynd i’r gampfa. Rydw i nawr yn aelod o Glwb Golff Y Rhyl.”

Mae Josh nawr wedi graddio o’r cyrsiau Intuitive Thinking gyda nifer o dystysgrifau, ac mae’n mwynhau ei rôl newydd yn y sector ynni.

“Dwi’n credu y byddai’r cyrsiau hyn o fudd i bawb; does dim rhaid i chi fod mewn sefyllfa wael i fynd arnynt. Wnewch chi ddim colli dim o ddysgu o’r cwrs hwn, cyn belled â’ch bod yn buddsoddi ynddo rydych yn mynd i elwa ohono.

Mae pobl wedi dweud eu bod yn gallu gweld newid yn fy hyder. O lle roeddwn i fis Chwefror i lle rydw i nawr, mae’n teimlo fel dau unigolyn gwahanol. Roeddwn i’n teimlo ar goll a doedd gen i ddim gobaith i ddweud y gwir. Fe ddysgodd fi i feddwl yn wahanol a meddwl yn rhesymegol am sefyllfaoedd. Mae wedi fy helpu i gael y ffocws a’r cymhelliant i gael yr hyn rydw i ei eisiau.

Roedd fel effaith pelen eira, cyn gynted ag y penderfynais i ddechrau helpu fy hun, fe ddaeth pethau’n well yn raddol.”

Planhigfa’n meithrin gwybodaeth newydd i wirfoddolwr o Brestatyn

Mae criw cynyddol o wirfoddolwyr cymunedol yn gweld eu gwybodaeth am natur yn blodeuo drwy gefnogi prosiect sydd wedi’i fwriadu i helpu bioamrywiaeth lleol

Mae criw cynyddol o wirfoddolwyr cymunedol yn gweld eu gwybodaeth am natur yn blodeuo drwy gefnogi prosiect sydd wedi’i fwriadu i helpu bioamrywiaeth lleol.

Mae planhigfa coed lleol y Cyngor yn Llanelwy yn tyfu coed a phlanhigion brodorol sydd i’w gweld ar hyd a lled Sir Ddinbych, a hefyd yn meithrin cymuned gref o wirfoddolwyr sy’n magu sgiliau a gwybodaeth newydd drwy ddod i’r safle.

Fe wnaeth Janet Davidson o Brestatyn ymuno â’r gymuned ym mis Mehefin y llynedd oherwydd yr elfen gref o les cymdeithasol a hyblygrwydd mae gwirfoddoli yn y blanhigfa goed yn ei ganiatáu.

Dywedodd:  “Roeddwn i’n newydd yn yr ardal ac roeddwn i’n chwilio am waith gwirfoddol oedd yn cyd-fynd efo fy mhersonoliaeth i, gan nad ydw i’n berson pobl mawr iawn. Rydw i bob amser wedi bod â diddordeb mewn garddwriaeth ac felly roedd hwn yn gweddu i’r dim. Roedd yr amseroedd sydd ar gael i wirfoddolwyr yn gweddu i f’anghenion i, felly roeddwn i ar fy ennill ym mhob ffordd, a dweud y gwir.

 “Mae o mor hyblyg hefyd, felly os nad ydych chi’n gallu dod ryw wythnos, maen nhw’n hawddgar iawn, iawn. Rydych chi’n cael gwneud amrywiaeth o bethau, sy’n wych i mi.”

Mae dod yn aelod o gymuned o wirfoddolwyr mewn planhigfa wedi agor y drws i sgiliau a gwybodaeth newydd i Janet, sy’n dod o gefndir gweithgynhyrchu bwyd.

“Mae rhywun yn dysgu pa goed sy’n ddefnyddiol mewn gwahanol leoedd, y mathau, yr holl amrywiaeth. Er enghraifft, doeddwn i ddim yn sylweddoli mor wahanol yw’r mathau o dir mae’r ddwy dderwen frodorol eu hangen. Mae cyfleoedd i ni ddysgu bob wythnos yma. Mae ’na bob amser rywbeth fel dysgu am yr aethnenni duon, yr heriau mae’r tîm yn eu cael wrth dracio a sicrhau bod modd olrhain pob dim… mae hynny’n arbennig o ddifyr.”

Mae’r gymuned o wirfoddolwyr yn y blanhigfa hefyd yn dod â’u sgiliau gyrfa eu hunain i’r safle, sy’n rhoi cyfle i staff weithio gyda nhw i ddylanwadu go iawn ar ddyfodol y blanhigfa, eglurodd Janet.

“Mae posib’ trosglwyddo rhai elfennau o wahanol ddiwydiannau. Felly olrhain a monitro rhwng bwyd a choed – mae cyfran helaeth o’r wybodaeth yn berthnasol. Mae’n adnodd arall i’r tîm allu casglu a datblygu syniadau.”

Wrth droi at y ffrindiau newydd roedd Janet wedi’u gwneud yn y blanhigfa goed er mis Mehefin, ychwanegodd Janet: “Maen nhw’n griw cyfeillgar iawn yma ac rydych chi’n teimlo bod pwrpas i’r cyfan a bod gwerth i’r gwaith.

“Fel arfer, mae ’na griw gwahanol gan nad ydy pawb yn gallu dod bob wythnos. Dydych chi byth yn gwybod pwy sydd am fod yma, ond rydych chi’n ’nabod pawb a allai fod. Mae hynny’n beth da iawn o safbwynt cymdeithasol.  Mae criw da iawn ac amrywiol iawn yn dod yma ac rydw i’n meddwl ei fod o’n well o ganlyniad.”

Ers egino, mae’r gymuned o wirfoddolwyr wedi dod yn nodwedd gyfarwydd yn y blanhigfa ac maen nhw i gyd yn mwynhau torchi llewys gyda’r staff i wneud gwahaniaeth i fioamrywiaeth lleol, eglurodd Janet.

“Mae pob dim yma’n digwydd fel gwaith tîm. Nid yr unigolion sy’n bwysig, ond dal ati’n ddyfal, yn rhoi pethau i mewn i’r potiau neu eu tynnu allan o’r potiau, ac mae dipyn o waith cynnal a chadw mae angen i chi fod yn barod i’w wneud os byddwch chi yma hefyd.

 

“Allwch chi ddim disgwyl bod yn plannu coed derw bob wythnos, ond pan mae rhywun yn gwneud hynny, mae’n fraint ac yn rhoi boddhad i rywun. Mae’n braf cael dod yma. Bydd y tîm yn ein rhoi ni ar ben ffordd o ran gweithgareddau’r wythnos a mynd ati sydd angen wedyn, ac mae’n anffurfiol hefyd, sy’n beth braf i mi.”

Ychwanegodd Janet: “Rydych chi’n teimlo’n well o ddod yma. Dw i’n ei argymell o, a dweud y gwir. ’Does na ddim amodau na lol, felly mi allwch chi ddod yma, gwneud eich gwaith a chael amser braf iawn, mynd adref a dod eto’r wythnos nesaf heb orfod cario unrhyw straen.”

 

Os hoffech chi wirfoddoli yn y blanhigfa goed, anfonwch neges e-bost gyda’ch manylion at: bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk

 

Adfer y Gorffennol, Adeiladu'r Dyfodol: Nantclwyd y Dre

Mae gan Nantclwyd y Dre bron i 600 mlynedd o hanes ac mae'n un o'r tai tref ffrâm bren hynaf yng Nghymru.

Mae Rhuthun yn dref sy’n gyforiog o hanes. Llosgwyd hi i’r llawr gan Owain Glyndŵr yn y flwyddyn 1400 ac mae llawer o naws hanesyddol y dref fel rydym ni’n ei hadnabod hi heddiw yn dod o’r bensaernïaeth ffrâm goed a oedd yn gyffredin yn yr ardal yn ystod cyfnod ei hailadeiladu.

Ymysg y strydoedd hyfryd a’r adeiladau hanesyddol mae darn pwysig iawn o dreftadaeth adeiledig Rhuthun, sef Nantclwyd y Dre. Cafodd ei adeiladu yn wreiddiol fel tŷ neuadd i wehydd, felly mae bron i 600 mlynedd o hanes lleol yn perthyn iddo ac mae’n un o’r tai tref ffrâm goed hynaf yng Nghymru sydd ar agor i’r cyhoedd.

Mae bellach yn cael ei reoli gan Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych a gall rhai sy’n ymweld â thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre ail-fyw ei orffennol difyr drwy ymgolli mewn profiadau sain ac arddangosfeydd a gweld ei du mewn sydd oll yn rhoi cipolwg cyfareddol ar fywydau’r teuluoedd a fu’n byw yno.

Yn 2023, cafwyd cyllid i adfer rhannau o’r safle pan gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio gwarchod treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

Cafodd y cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus hynny yng Ngorllewin Clwyd ac nid oes modd ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Fel un o’r prosiectau llwyddiannus, dyfarnwyd £667,000 i ailddatblygu rhannau o’r tŷ sy’n segur ar hyn o bryd ac sydd angen rhywfaint o waith atgyweirio i warchod y darn pwysig hwn o dreftadaeth leol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, creu cyfleoedd newydd ar gyfer yr atyniad i wella ei gynaliadwyedd at y dyfodol ac ychwanegu ambell beth cyffrous ar gyfer profiad yr ymwelwyr.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Hydref, yn canolbwyntio ar roi bywyd newydd i asgell orllewinol segur yr adeilad. Bydd y darn hwn o’r tŷ’n cael ei droi’n llety gwyliau, wedi’i ddylunio a’i ddodrefnu gan gadw at natur hanesyddol yr adeilad, a bydd yn darparu gwell cyfleusterau ar y llawr cyntaf gyda lle penodol ar gyfer y gwirfoddolwyr wythnosol sy’n rhan hollbwysig a gwerthfawr o’r gwaith beunyddiol yn Nantclwyd.

Fodd bynnag, cyn gallu dechrau ar y gwaith, roedd angen rhoi ystyriaeth i un set o drigolion sydd yno ers tro byd. Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ymgynghori ag ecolegwyr i sicrhau na fyddai’r datblygiadau sydd ar y gweill yn tarfu ar fan clwydo ystlumod gwarchodedig, sy’n cynnwys cyfran bwysig o boblogaeth Cymru o Ystlumod Lleiaf ac Ystlumod Pedol Lleiaf. Rhoddwyd hyfforddiant arbenigol i’r contractwyr, a gosodwyd lloches ystlumod fawr yn yr ardd, i roi mwy o le i’r creaduriaid bach yma ffynnu.

Bydd y gwelliannau sydd i ddod hefyd yn gwneud ardal y gegin yn fwy addas i arlwyo ar gyfer digwyddiadau, a bydd yr hafdy’n cael ei adfer i’w hen ogoniant i ymwelwyr ei fwynhau yn ystod misoedd yr haf. Bydd hwn yn lle ychwanegol ar gyfer seremonïau sy’n cael eu cynnal yn y tŷ hanesyddol, fel priodasau a seremonïau partneriaeth sifil.

Mae’r prosiect yn cael ei wneud gan B&W Builders & Decorators ynghyd â TACP Architects ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2026. Mae dull mwy cynaliadwy wedi’i ddefnyddio i wneud y gwaith gwella hefyd, drwy ddefnyddio gwlân i inswleiddio’r adeilad yn hytrach na’r deunydd inswleiddio mwy cyffredin sy’n cael ei wneud o olew, sy’n creu mwy o allyriadau carbon a ddim yn adnewyddadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae dechrau ar y gwaith gwella yma yn Nantclwyd y Dre’n garreg filltir fawr i ddiogelu dyfodol safle hanesyddol mor amlwg yng nghanol tref Rhuthun. 

“Mae Nantclwyd yn atyniad gwych i ymwelwyr ac yn ganolbwynt cymunedol i’n gwirfoddolwyr ymroddgar, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr ardaloedd newydd yn cael eu defnyddio a’u mwynhau gan ymwelwyr.

“Bydd lles yr ystlumod sydd yno’n parhau i fod yn flaenoriaeth wrth wneud y gwaith a byddwn mewn cyswllt cyson gyda’r ecolegwyr trwy gydol y cyfnod.”

Dyn o Lanelwy yn newid gyrfa i helpu i feithrin cefnogaeth barhaus i wasanaeth rheng flaen

Mae newid gyrfa gyda chymorth cynllun y Cyngor wedi ysbrydoli dyn o Lanelwy i gamu ymlaen i helpu i wneud gwahaniaeth i gymunedau lleol Sir Ddinbych ac amgylchedd y sir.

Mae newid gyrfa gyda chymorth cynllun y Cyngor wedi ysbrydoli dyn o Lanelwy i gamu ymlaen i helpu i wneud gwahaniaeth i gymunedau lleol Sir Ddinbych ac amgylchedd y sir.

Bu Llais y Sir yn holi Owen Lokier, Arweinydd Tîm Wrth Gefn Gwastraff ac Ailgylchu i ddeall sut mae penderfyniad i newid gyrfa wedi helpu i gasglu gwybodaeth a phrofiad yn y gwasanaeth ar lefel broffesiynol a phersonol.

Meddai Owen: “Peiriannydd oeddwn i’n wreiddiol; roeddwn yn gweithio yn y diwydiant dur fel gwneuthurwr a weldiwr ac roeddwn awydd newid gyrfa.

“Ym mis Ionawr 2022, gwelais hysbyseb yn y cynllun Sir Ddinbych yn Gweithio am weithwyr casglu sbwriel, felly penderfynais fynd amdani.  Dechreuais y gwaith ym mis Ionawr, roedd yn gynllun tri mis yn gweithio o Ruthun, ac yn dilyn hynny cefais gontract llawn amser gyda’r Cyngor fel gweithiwr llwytho sbwriel.  Roedd y cynllun Sir Ddinbych yn Gweithio yn bendant yn ddylanwad cadarnhaol.”

Wedi gweithio fel gweithiwr llwytho am 12 mis, daeth cyfle i Owen ehangu ei sgiliau yn y gwasanaeth.

“Rhoddodd fy rheolwr atebol gyfle i mi yrru ein cerbydau cawell llai ddau ddiwrnod yr wythnos.  Roedd hyn yn cynnwys gyrru i fyny i ffermydd yn bennaf, mewn ardaloedd gwledig.  Roedd y swydd yn y de, o Drefnant yr holl ffordd i lawr i Langollen a rhoddodd syniad i mi o ochr yrru’r gwasanaeth.”

Ond ni wnaeth olwynion y gwasanaeth stopio troi yno i Owen, gan fod gyrru’r cerbydau llai wedi ei ysgogi i wneud ei drwydded LGV ail ddosbarth drwy gynllun gan Lywodraeth Cymru.

“Rhoddodd hyn gyfle i mi symud ymlaen i swydd gyrrwr llawn amser a ddaeth yn rhydd.  Felly, roeddwn wedi gweithio fy ffordd i fyny gyda chymorth Sir Ddinbych yn Gweithio i lwythwr ail radd, i’r bedwaredd radd yn gyrru cerbyd cawell llai ac yna gyda fy nhrwydded LGV roeddwn ar y bumed radd. 

“Dyna ble’r oeddwn wedi cyrraedd nes i ni ddod i Ddinbych ym mis Mehefin 2024. Roeddwn yn gallu neidio o un peth i’r llall ar y safle, yn cyflenwi dros fechgyn oedd i ffwrdd yn sâl ac un o’r manteision oedd fy mod yn dysgu llawer o rowndiau gwahanol ar hyd a lled y sir, a dysgais lawer iawn.

“Ond roedd heriau hefyd gan y byddech yn gwneud un peth un diwrnod a rhywbeth hollol wahanol y diwrnod canlynol, ond roeddwn yn mwynhau’r amrywiaeth a gweithio gyda thimau gwahanol.”

Roedd cyfarfod llawer o weithlu’r gwasanaeth o fudd i Owen gan ei fod yn gallu defnyddio ei brofiad i gefnogi’r gwasanaeth hyd yn oed yn fwy. Oherwydd ym mis Tachwedd 2024, bu Owen a chydweithiwr arall yn llwyddiannus wrth ymgeisio am ddwy swydd arweinwyr tîm wrth gefn oedd yn helpu i gyflenwi dros absenoldebau salwch a rheoli gwyliau o’r swyddfa.

Mae staff Gwastraff ac Ailgylchu hefyd yn gallu manteisio ar gyfleoedd hyfforddi, ac wrth wneud ei swydd bresennol, mae Owen yn gweithio tuag at fwy o gymwysterau gyda chefnogaeth Hyfforddiant Cambrian.

Eglurodd: “Mi wnes i gofrestru ar gwrs Diploma Lefel 3 mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy ac rydw i’n astudio ar ei gyfer ar hyn o bryd. Rydw i’n gobeithio symud ymlaen o hyn i NVQ Lefel 4 i barhau i weithio fy ffordd i fyny.

“Mae Bev o Cambrian wedi bod yn gymorth mawr, mae’n deall bod gan ddysgwyr ffyrdd gwahanol o ddysgu. Rwy’n hoffi cael ychydig o ryddid i wneud y gwaith cwrs, rydym yn cyfarfod unwaith y mis a byddaf yn ceisio gwneud llawer ohono yn fy amser fy hun.”

Mae newid gyrfa i wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd lleol drwy helpu preswylwyr gyda’u hailgylchu a gwastraff hefyd yn golygu llawer mwy o amser i ymgysylltu â chymunedau yn y sir yn ôl Owen.

Dywedodd: “Rwy’n mwynhau gweithio yn yr awyr agored a chysylltu â’r cyhoedd, sy’n beth mawr oherwydd rydych yn cael sylwadau cadarnhaol a rhai negyddol hefyd, ond rwyf bob amser yn ceisio troi’r pethau negyddol yn gadarnhaol.

“Rwyf wedi dweud erioed bod gweithwyr casglu sbwriel yn rhan o’r Cyngor y mae pawb yn eu gweld bob wythnos o’u bywydau.

“Os oes gan rywun broblem gyda’r palmentydd neu’r ffyrdd, byddwn yn clywed am hynny ac yn ceisio ei droi’n rhywbeth cadarnhaol bob amser. Rydym hefyd yn clywed llawer o bethau cadarnhaol yn enwedig dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd pan fyddwch yn edrych ar y bechgyn ac yn gweld mor ddiolchgar yw’r cyhoedd eu bod allan ym mhob tywydd 52 wythnos y flwyddyn.

“Hefyd, i bobl hŷn, mae’n bosib mai’r gweithwyr casglu sbwriel yw’r unig bobl heblaw’r postmon maen nhw’n ei weld mewn wythnos, felly pan oeddwn ar y rownd, byddwn yn ceisio treulio munud neu ddau yn dweud helo, sut ydach chi.  Mae hynny’n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw hefyd.”

Ychwanegodd: “Yn gyffredinol, fel gyrfa mae’n wych, rydych yn cael gweithio yn yr awyr agored, ac mae’n dda i’r amgylchedd hefyd.”

A beth yw cyngor Owen i rywun sy’n ystyried newid gyrfa a symud i’r gwasanaeth?

Dywedodd: “Mae’r Cyngor yn awdurdod gwych i weithio iddo. Rhaid i chi fod yn barod i gael yr hyn rydych yn rhoi i mewn iddo allan ohono.  Felly, os byddwch yn dangos eich bod yn frwdfrydig, yn hyblyg ac yn barod i helpu eraill, mae hynny’n help mawr.  Mae gwaith tîm yn bwysig iawn yn y gwaith hwn … peidiwch â stopio, dangoswch eich bod yn barod i ddysgu a pharhau i osod targedau i chi eich hun.”

 

Adar yn tyrru i Brickfield, y Rhyl

Mae gwarchodfa natur yn y Rhyl yn darparu noddfa i bob math o adar, yn ôl gwyliwr adar lleol profiadol.

Ers llawer mwy na degawd, mae Alex Humphreys Jones, sy’n wreiddiol o Lanelwy, wedi bod yn olrhain rhywogaethau adar yng Ngwarchodfa Natur Pwll Brickfield. Mae’r safle’n cael ei reoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, a gwelodd Alex ei fod yn noddfa i fwy na 100 o wahanol rywogaethau yn ystod ei ymweliadau â’r warchodfa.

Bu Llais y Sir yn sgwrsio gydag Alex i glywed am ei ymweliadau â Brickfield a sut mae gwaith gan geidwaid cefn gwlad a gwirfoddolwyr wedi helpu i greu amgylchedd gwych ar gyfer adar nodedig.

Ydi gwylio adar yn un o’ch hobïau chi, os felly, beth ydych chi’n ei fwynhau amdano?

Mae gwylio adar o ddiddordeb mawr i mi ac mae’n chwarae rhan yn fy mywyd bob dydd. Rwy’n mwynhau gwylio adar ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang. Mae'n hobi sydd wedi mynd â fi ar draws y wlad ac o gwmpas y byd. Mae amryw lefelau o anhawster wrth wylio adar, o adnabod rhywogaeth i ganfod eich rhywogaethau prin eich hunain ac rwy’n mwynhau pob agwedd.  

Ers sawl blwyddyn ydych chi wedi bod yn dod i Bwll Brickfield a pha mor aml ydych chi’n dod yma?

Rwyf wedi bod yn dod i lawr i Bwll Brickfield ers 2013 ar ôl gweld bod y safle yn ardal brysur ar gyfer adar a bywyd gwyllt. Mae’n hawdd cael mynediad i’r safle hefyd ac mae’n ffitio’n dda gydag ymrwymiadau gwaith. Rwy’n gallu dod yma a cherdded o gwmpas mewn 30 munud. Rwy’n ceisio dod yma o leiaf ddwywaith yr wythnos, ond mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar y tymor. 

Ydych chi wedi sylwi ar gynnydd o ran niferoedd rhywogaethau? Os felly, ers pryd?

Rwy’n defnyddio ap cofnodi adar ar-lein o’r enw BirdTrack. Mae’n blatfform am ddim i wylwyr adar ym Mhrydain gofnodi pa adar maen nhw wedi’u gweld. Mae BirdTrack yn helpu i greu rhestr ac mae’n creu tablau a graffiau gyda’r data am adar. Ers dod i Bwll Brickfield, rwyf wedi cofnodi 112 o wahanol rywogaethau o adar, a gwelwyd 4 rhywogaeth newydd yn 2025 (y rhywogaethau newydd cyntaf i mi ers 2022).

Faint ydych chi wedi’u cofnodi ar gyfer 2025 a beth yw’r rhai mwyaf nodedig ydych chi wedi’u gweld ar y safle?

Eleni (2025), rwyf wedi cofnodi 78 o rywogaethau ym Mhwll Brickfield. Mae Gosog, Cyffylog, Gwybedog Mannog a Barcud Coch wedi’u gweld ar y safle. Yn ôl ym mis Mehefin, gwelwyd Crëyr y Nos Penddu ar safle Pwll Brickfield, a dyma’r cofnod cyntaf o’r rhywogaeth hon yng ngogledd Cymru ers 1993. 

Mae Pwll Brickfield yn hanfodol ar gyfer llawer o rywogaethau adar y dŵr, fel Gwyach Fawr Gopog, Glas y Dorlan, Hwyaden Ddanheddog a Hwyaden Gopog, ond mae’r un mor bwysig ar gyfer adar ymfudol ar eu taith. Mae’n adnabyddus fel un o’r safleoedd cyntaf i gofnodi Gwennol y Glennydd yng ngogledd Cymru yn y gwanwyn ac yn arbennig am nodi 4 Telor Aelfelyn (crwydryn prin yng ngogledd Cymru) o Siberia dros y 10 mlynedd diwethaf yn yr hydref. Roedd Telor Cetti yn arfer bod yn absennol o ogledd Cymru, ond Pwll Brickfield oedd un o’r safleoedd cyntaf i gofnodi un yn Sir Ddinbych, ac yn y blynyddoedd diweddar, credir eu bod wedi nythu a bridio. 

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi canfod cofnodion nodedig yn lleol fel Dryw Penfflamgoch (Rhagfyr 2015), Adenydd Cwyr (Rhagfyr 2016), Gwyach Gorniog (Tachwedd 2018), 3 Thelor Aelfelyn (2016, 2018, 2019) a Gwylan Ynys yr Iâ a arhosodd am gyfnod hir (Ionawr - Ebrill 2021). 

Yn olaf – beth yw eich hoff rywogaeth adar?

Mae hwn yn gwestiwn anodd iawn oherwydd bod cynifer o rywogaethau i ddewis ohonynt, ond rwy’n arbennig o hoff o grŵp o adar sef ‘hirundines’/gwenoliaid duon. Ym Mhrydain, fe’u gelwir yn Wenoliaid, Gwenoliaid y Bondo a Gwenoliaid Duon - i gyd yn adnabyddus am ymfudo’n eang a’u hediad pwerus, acrobataidd. 

 

Dywedodd y ceidwad cefn gwlad Vitor Evora, sy’n helpu i reoli safle Pwll Brickfield: “Mae’n wych gwybod bod pobl fel Alex yn cael cymaint o fwynhad o’r warchodfa a hyd yn oed gwell, gweld bod y safle yn rhoi help go iawn i bob math o rywogaethau adar trwy’r tymhorau.

“Rydym wedi gweithio’n galed i ddatblygu’r safle i ymwelwyr a bywyd gwyllt, ac rydym yn gobeithio y bydd niferoedd adar yn parhau i fod yn gadarnhaol, gan ddarparu lle gwych i wylwyr adar, hen ac ifanc, ymweld ag ef.”

 

Ydych chi erioed wedi ystyried ble mae eich treth cyngor yn mynd?

Mae llawer yn meddwl bod treth cyngor yn talu am bopeth y mae awdurdod lleol yn ei gynnig, fodd bynnag, dim ond 26% o gyfanswm gwariant y Cyngor yw'r arian a gesglir gan drigolion yn flynyddol.

Ariannu\'r cyngorMae mwyafrif y cyllid (62%) yn dod ar ffurf 'Grant Cymorth Refeniw' gan Lywodraeth Cymru, tra bod y 12% sy'n weddill yn dod o drethi busnes, sef treth eiddo y mae busnesau'n ei dalu i helpu tuag at ariannu gwasanaethau lleol. Gallwch ddysgu mwy am sut mae'r Cyngor yn cael ei ariannu ar ein gwefan.

Felly ble mae’r treth cyngor yn mynd? Rydym wedi cynhyrchu infograffig yn seiliedig ar dreth cyngor eiddo Band D i geisio rhoi esboniad clir o sut mae taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i ariannu ystod o wasanaethau i drigolion yn y sir. Er bod yr infograffig hwn yn rhoi darlun o sut mae'r arian yn cael ei rannu rhwng gwahanol wasanaethau, mae deall beth mae trigolion yn ei gael am yr arian hwnnw’n bwysig. (Gellir gweld yr infograffig ar ddiwedd yr erthygl.)

Fel y gwelwch, mae mwyafrif gwariant treth cyngor yn mynd tuag at amddiffyn y rhai mwyaf bregus ac agored i niwed yn ein cymdeithas, gyda 66% yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg a gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.

Ysgolion ac addysgGydag Addysg yn cyfrif am 36.7% o’r gwariant, golyga hyn y gall Sir Ddinbych addysgu tua 16,500 o ddisgyblion mewn 44 ysgol gynradd, 2 ysgol pob oed, 2 ysgol arbennig, 6 ysgol uwchradd ac 1 uned cyfeirio disgyblion ar draws y sir, gyda thua 780 o athrawon yn darparu'r addysg.

Yn y maes addysg o hyd, mae cludiant ysgol yn cyfrif am 2.9% ac mae'r Cyngor yn cludo tua 2,871 o ddysgwyr yn ddiogel i ysgolion ledled y sir. Caiff 650 o deithiau bws ysgol a thacsi eu gwneud bob diwrnod ysgol.

Gofal cymdeithasol i oedolion a phlant infographicYn y cyfamser, mae gofal cymdeithasol oedolion a phlant yn cyfrif am 29.8% o wariant treth y Cyngor. Yn 2024-2025 cafodd oddeutu 668 aelod o staff dros 25,000 o gysylltiadau gyda'r plant a'r oedolion mwyaf agored i niwed gan ddarparu pecyn o ofal a chymorth lle bo’n briodol sy’n rhoi cyfle i'r trigolion hyn gael dewis, mynegi barn, a chael rheolaeth dros eu bywydau.

Mewn meysydd gwasanaeth eraill, mae 1.9% yn mynd tuag at ddiogelu'r cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd ac mae timau'r Cyngor yn archwilio tua 720 o fwytai, caffis a lleoedd tecawê bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn ddiogel ar gyfer trigolion Sir Ddinbych.

Mae gwagio biniau ac ailgylchu yn cyfrif am 1.8% o'ch bil treth cyngor, sy'n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D). Mae hynny'n cynnwys casglu tua 73,000 o gynwysyddion o dros 47,000 o gartrefi bob wythnos ledled y sir.

Am 1.8% o'r dreth cyngor rydym yn cynnal 1,419km o ffyrdd (ac eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a chelfertau, 302 o waliau a 26,000 o gwlïau. Ac am 0.8%, rydym yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a bolardiau wedi'u goleuo ledled y sir.

Cefn gwlad a mannau agoredHwyrach bod rhai gwasanaethau nad yw trigolion yn ymwybodol eu bod dan reolaeth cyngor, er enghraifft Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth. Gydag 1.1% o dreth cyngor yn mynd i'r gwasanaeth cefn gwlad, mae'r timau'n rheoli dros 80 o safleoedd a mwy na 1,200 hectar o ardaloedd gwyrdd cyhoeddus ar gyfer hamdden a chadwraeth. Mae'r rhain yn amrywio o Barciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau, meithrinfa goed y sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Ffordd Dyserth Prestatyn, Llain Llantysilio yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o fannau cymunedol a mwynder llai ar draws y sir.

Mae’r gwasanaeth treftadaeth yn cyfrif am 0.9% o wariant treth y cyngor, ac am hyn, mae'r gwasanaeth yn cynnal a hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (sydd yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr. Mae'r gwaith hwn yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.

Cynllunio a datblygu economaiddMae cynllunio a datblygu economaidd yn cyfrif am 0.7% o wariant y treth cyngor ac am hynny mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn prosesu tua 1,000 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn ochr yn ochr â 10-20 o apeliadau a 50-100 o ymholiadau cyn-ymgeisio. Rydym hefyd yn ymateb i dros 500 o achosion cydymffurfio cynllunio.

Llyfrgelloedd infographicMae’r llyfrgelloedd yn cyfrif am 0.5% o’r gwariant ac yn 24-25, cynhaliodd  y llyfrgelloedd 514 o sesiynau Dechrau Da i bron i 6,500 o blant. Hefyd cafodd 2,869 o lyfrau sain eu benthyg i 1,028 o aelodau drwy Borrowbox (rhan o'r Cynnig Digidol) ac argraffwyd dros 56,000 o dudalennau ar argraffyddion mynediad cyhoeddus.

Nid yw'r holl dreth cyngor a gesglir yn talu am wasanaethau'r cyngor yn unig, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân i gyfrannu at ariannu amddiffyniad ac atal tân ledled y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol dros Gyllid yng Nghyngor Sir Dinbych, “Rwy’n falch o weld yr infograffig yma’n cael ei chynhyrchu a’i rhyddhau. Gobeithio y bydd yn rhoi’r cyd-destun sydd ei angen ar drigolion i ddeall sut mae eu taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i gefnogi’r amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

 “Mewn hinsawdd ariannol sy’n parhau i fod yn heriol barhaus, mae’n bwysig bod yn agored a thryloyw ynglŷn â’r costau a’r pwysau. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio bod llawer o agweddau’r gwariant, yn hollol briodol, wedi’u hanelu at y gofyniad cyfreithiol i ddarparu Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant, ac Addysg ac ati. Dyma’r meysydd sy’n cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.”

Gwario\'r treth cyngor

Cyngor i breswylwyr - beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa preswylwyr i fod yn wyliadwrus a chymryd camau ymarferol i amddiffyn eu hunain, eu cartrefi a’u cymunedau os bydd llifogydd yn ystod y gaeaf. 

Mae Llais y Sir wedi paratoi cyngor i gynorthwyo preswylwyr i fod ar y droed flaen yn erbyn effaith unrhyw lifogydd ar draws Sir Ddinbych. 

Llanrhaeadr Flooding

Wrth i fwy o stormydd daro’r sir, gall llifogydd ddigwydd yn gyflym a heb fawr o rybudd.  Mae bod yn barod cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ddiogelwch ac adferiad ar ôl llifogydd. 

Er mwyn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o lifogydd gallwch: 

  • Wirio eich risg llifogydd: Edrychwch ar fapiau risg llifogydd hirdymor Cyfoeth Naturiol Cymru i weld os yw eich eiddo mewn ardal risg llifogydd.
  • Cofrestru i dderbyn rhybudd: Os ydych chi mewn perygl, cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd awtomatig i dderbyn rhybudd cyn gynted â phosibl.
  • Adolygu eich yswiriant:  Sicrhewch fod eich yswiriant tŷ ac yswiriant cynnwys yn cynnwys yswiriant llifogydd.  Mae menter y Llywodraeth ac yswirwyr Flood Re yn gallu cynorthwyo i sicrhau bod yswiriant llifogydd yn fwy fforddiadwy.
  • Creu cynllun llifogydd personol:  Dylech gynnwys manylion cyswllt allweddol, gwybodaeth yswiriant, a rhestr wirio o gamau brys.  Dylid ei storio’n ddiogel mewn ffolder sy’n dal dŵr.
  • Paratoi pecyn llifogydd:  Dylech gynnwys dillad cynnes sy’n dal dŵr, meddyginiaeth, tortsh, dogfennau pwysig, a chyflenwadau hanfodol rhag ofn bod rhaid i chi adael.
  • Ystyried cynnyrch amddiffyn:  Prynu bagiau tywod neu fyrddau llifogydd i rwystro drysau a brics aer.

LlifogyddOs oes llifogydd yn dilyn tywydd garw a bod ffordd sydd wedi’i effeithio gan lifogydd neu ffos wedi’i rhwystro yn eich ardal, rhowch wybod i’r Cyngor a byddwn yn cymryd camau priodol i reoli’r broblem. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am faterion sy’n ymwneud ag arfordiroedd a phrif afonydd.  Mae Dŵr Cymru’n gyfrifol am garthffosydd.  Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain.

Ar gyfer materion sy’n effeithio ar y prif afonydd, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000. Gweler y ddolen hon i weld manylion y prif afonydd.

Ar gyfer llifogydd sy’n effeithio ar garthffosydd,  gan gynnwys carthffosydd dŵr budr a dŵr wyneb cyfunol, cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 085 3968 neu ar gyfer llifogydd mewn eiddo neu ar briffordd, cysylltwch â Chyngor Sir Ddinbych ar 01824 706000.

Mae modd cysylltu â Floodline ar 0345 988 1188 i rannu pryderon am lifogydd yn eich ardal. 

Os ydych yn byw mewn ardal â pherygl o lifogydd ac yn teimlo yr hoffech gadw ambell fag tywod yn eich cartref fel rhagofal i’w ddefnyddio os bydd llifogydd, gallwch brynu bagiau tywod o siopau nwyddau neu siopau DIY.  Mae systemau unigryw eraill ar gael i amddiffyn drysau a brics aer. Nid yw’r Cyngor yn darparu bagiau tywod i eiddo unigol pan fydd llifogydd.  Yn hytrach, rydym yn defnyddio bagiau tywod yn bennaf i amddiffyn grwpiau o breswylwyr, er enghraifft trwy ddargyfeirio llif y dŵr, a’i gyfeirio tuag at gwteri a thyllau archwilio.  Mae hyn yn ein galluogi i amddiffyn strydoedd cyfan, lle y byddai rhoi bagiau tywod i aelwydydd unigol ar stryd yn ddefnydd llai effeithiol o adnoddau.

Gall cymunedau gydweithio i gynorthwyo preswylwyr lleol i fod yn fwy gwydn i lifogydd. Sefydlwyd Grŵp Cymunedol ‘Dyserth Flood Support’ ar ôl llifogydd hanesyddol ar Ffordd y Rhaeadr.  Darparodd y Cyngor rwystrau llifogydd drwy gymorth grant Llywodraeth Cymru, gyda’r meini prawf yn nodi y gellir eu darparu i grŵp cymunedol yn unig.  Darparodd Cyngor Sir Ddinbych rwystrau ychwanegol yn 2025.

Mae cyngor ar gael i sefydlu grŵp gweithredu ar lifogydd cymunedol lleol gan Y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol neu mae modd cysylltu â Paul Owen ar 01824 706872 / paul.owen@denbighshire.gov.uk.

Pan fydd llifogydd peidiwch â cheisio gyrru na cherdded trwy’r dŵr.  Gall chwe modfedd o ddŵr sy'n llifo'n gyflym eich taflu oddi ar eich traed, a bydd dwy droedfedd o ddŵr yn gwneud i’ch car arnofio. Mae nifer o bethau ymarferol y gallwch eu gwneud i helpu i rwystro difrod i'ch cartref, gan gynnwys:

  • Diffodd eich cyflenwadau nwy, trydan a dŵr
  • Plygio sinciau a rhoi pethau trwm arnynt i’w cadw i fewn; plygio pibelli dŵr gyda thywelion neu gadachau, a datgysylltu unrhyw offer sy’n defnyddio dŵr, fel eich peiriant golchi dillad.  Mi fydd y camau hyn yn helpu i rwystro dŵr rhag dod i fewn i’r eiddo.
  • Ceisiwch osgoi dod i gyswllt â’r llifogydd lle bo modd, gan ei bod yn bosib’ y bydd wedi'i halogi
  • Peidiwch â gadael eich cartref na mynd i mewn i’r dŵr oni bai bod aelod o’r gwasanaethau brys yn dweud wrthych am wneud hynny

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Priffyrdd a’r Amgylchedd:  “Byddwn yn gweithio’n agos iawn gyda’n hasiantaethau partner bob tro er mwyn gwneud popeth y gallwn i leihau effaith unrhyw ddigwyddiadau llifogydd sy’n digwydd ar draws y sir.  Rydym eisiau sicrhau bod ein preswylwyr yn aros yn ddiogel a byddwn yn gofyn iddynt ddilyn y cyngor pwysig hwn i baratoi ar gyfer llifogydd posibl, ac os bydd llifogydd yn eich ardal dilynwch unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhannu gennym ni, Cyfoeth Naturiol Cymru, neu’r gwasanaethau brys a gofynnwn i bobl gadw golwg ar y rhagolygon tywydd, y cyfryngau, a’r cyfryngau cymdeithasol i dderbyn y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf.”

Oak Lane flooding

Mae modd ein dilyn ar Facebook i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf pan fydd llifogydd. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen we cyngor llifogydd. 

CIPOLWG

Dydd Gŵyl Dewi Hapus🌻

Cadeirydd y cyngor Arwel Roberts gyda'r Is-gadeirydd Bobby Feeley

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi sydd ar Fawrth 1, ymunodd Is-gadeirydd Bobby Feeley â Chadeirydd y Cyngor Arwel Roberts i godi baner Dewi Sant yn Neuadd y Sir.

Gwaith cynnal a chadw i ddigwydd ar Bont Foryd

Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yn digwydd ar Bont Foryd fis Mawrth.

Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yn digwydd ar Bont Foryd fis Mawrth.

Bydd y gwaith yn dechrau ar y bont ar Fawrth 2 a bydd yn para am ddwy noson.

Bydd y gwaith cynnal a chadw ar y bont yn digwydd o 9pm tan 5am bob nos ac yn ystod yr amser hwn bydd y bont ar gau, a bydd arwyddion ar lwybrau dargyfeirio.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion a busnesau ger y lleoliad hwn am eu cefnogaeth ac i yrwyr sy'n defnyddio'r llwybr hwn am eu hamynedd tra bod y gwaith yn cael ei wneud. Mae rhagor o wybodaeth am waith Priffyrdd ar gael ar ein gwefan.

www.sirddinbych.gov.uk/ffyrdd.

Tîm Safonau Masnach i gynnal sesiwn i brofi blancedi trydan

Bydd tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal sesiwn am ddim i brofi blancedi trydan yn Llyfrgell Llangollen ar 26 Chwefror.

Bydd y Tîm Safonau Masnach yn profi unrhyw flanced drydan dwbl neu sengl cyn belled â bod yr holl geblau, rheolyddion a phlygiau sy'n gysylltiedig â'r blancedi trydan yn cael eu dwyn gyda nhw i'w profi.

Nid oes angen apwyntiad, a chynhelir y sesiwn alw heibio o 10:00 i 13:00. Os bydd blanced drydan yn methu’r prawf diogelwch, darperir un newydd am ddim (yn dibynnu ar argaeledd). Bydd unrhyw flancedi sy’n hŷn na 10 oed yn methu’n awtomatig.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Mae blancedi trydan wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd wrth i’r tywydd oeri. Er eu bod yn bethau gwych i’n cadw’n gynnes, mae’n bwysig eu bod yn cael eu cynnal yn gywir i sicrhau eu bod yn ddiogel.

“Byddwn yn annog preswylwyr Sir Ddinbych i bicio i un o’r sesiynau galw heibio i ddysgu mwy am y blancedi.”

I gael rhagor o wybodaeth am Dîm Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych, cliciwch yma

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn, cysylltwch â 01824 706057.

Gwaith gan wasanaethau stryd y Cyngor

Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.’

Rhoddwyd hwb i dwristiaeth yn y sir dros dymor yr haf 2025 drwy help gan Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Llwyddodd gwasanaethau stryd Cyngor Sir Ddinbych i sicrhau'r cyllid hwn o'r DU yn ystod tymor yr haf i alluogi'r tîm i ddarparu gwasanaethau glanhau strydoedd gwell drwy gydol y misoedd prysur sy’n denu twristiaid i’r sir.

Galluogodd y cyllid i’r gwasanaeth glirio a pharatoi ardaloedd cyhoeddus glân a chroesawgar yn ein prif drefi twristiaeth drwy gydol tymor yr haf.

Isod mae enghreifftiau o waith cyn ac ar ôl gan y tîm yn ystod tymor yr haf 2025.

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus/bd1a92ce-8acd-46b9-947c-45cb2e76d863

 

 

Gwelliannau i Barth Cyhoeddus Sgwâr San Pedr Rhuthun

Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i deg o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

Bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei wneud gan OBR Construction ar Sgwâr Sant Pedr a bydd yn ceisio ehangu’r posibiliadau ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, gan hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref ar yr un pryd.

Bydd y Contractwr yn dechrau trwy sefydlu eu compownd safle o 9 Chwefror 2026. Yna bydd y gwaith yn dechrau gyda mân waith ac arolygon o 23 Chwefror, a bydd paratoadau'n cael eu gwneud ar gyfer yr ardal waith cyn i'r deunyddiau gael eu danfon ym mis Mawrth. Er mwyn helpu’r Contractwr i sefydlu’r safle yn rhwydd ac i osgoi unrhyw oedi neu ddifrod i gerbydau, gofynnwn yn garedig bod yr ardal o’r maes parcio cyhoeddus at Ffordd y Parc (a amlygwyd yn y ddelwedd isod fel Compownd y Contractwr) yn cael ei gadw’n glir o gerbydau cyn y 9fed Chwefror.

Cedwir mynediad i gerddwyr ar draws yr holl hawliau tramwy cyhoeddus bob amser, a bydd hanner y maes parcio sydd agosaf at orsaf betrol Texaco yn dal i fod ar gael ar gyfer preswylwyr a'r cyhoedd.

Rydym yn deall y gall gwaith yng nghanol y dref fod yn anghyfleus, a bydd y Contractwr yn sicrhau bod yr aflonyddwch yn cael ei gadw i'r lleiafswm bob amser. Bydd y gwaith yn cael ei wneud fesul fel mai dim ond ardaloedd bach sy'n cael eu heffeithio ar unrhyw un adeg. Bydd manylion pob cyfnod yn cael eu cadarnhau cyn gynted â phosibl, a rhoddir rhybudd i bob preswylydd a busnes yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt wythnos cyn i'r gwaith ddechrau.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 8:00yb a 6:00yp o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes angen gwaith y tu allan i'r oriau hyn, byddwn yn rhoi rhybudd ymlaen llaw eto.

Drwy gydol y prosiect, bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei reoli, bydd rampiau dros dro yn cael eu darparu ar gyfer hygyrchedd, bydd arwyddion clir a rhwystrau diogel yn eu lle. Bydd mynediad i eiddo a busnesau yn cael ei reoli, gyda chymorth ar gael os oes angen.

Bydd Swyddog Cyswllt y Busnes/Cyhoedd pwrpasol ar gael drwy gydol y gwaith i gynorthwyo gydag ymholiadau a threfniadau mynediad, a gellir cysylltu â nhw drwy e-bost: RuthinEnquiries@OBRConstruction.com

Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth tra bod y gwelliannau hyn yn cael eu cyflawni. Edrychwn ymlaen at gyflwyno cynllun gorffenedig a bydd o fudd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â Rhuthun. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni: RuthinEnquiries@OBRConstruction.com neu swyddfarhaglencorfforaethol@sirddinbych.gov.uk      

Cymorth ariannol tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim

Mae cymorth ariannol ar gael tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch a ydych chi'n gymwys ar gael ar y poster isod.

I wneud cais ewch i www.sirddinbych.gov.uk/budd-daliadau neu sganiwch y cod QR.

Diweddariad mis Chwefror – Cynnal a chadw ffyrdd

Mae ein tîm Priffyrdd wrthi’n cwblhau gwaith cynnal a chadw ar draws y sir.

Rydym yn gyfrifol am gynnal a chadw 1,400 cilomedr o ffyrdd yn Sir Ddinbych. Mae ein timoedd yn cwblhau rhaglen waith rheolaidd i gynnal a gwella ein ffyrdd, sy’n amrywio o drwsio tyllau yn y ffyrdd i brosiectau ail wynebu ffyrdd.

Mae’n bosibl y bydd angen cau ffyrdd er mwyn cwblhau gwaith trwsio, draenio a gwaith cefnogol arall.

Isod mae rhestr o waith Priffyrdd ar gyfer mis Chwefror:

Lleoliad

Math o waith

Rheolaeth traffig dros dro neu gau’r ffordd

Dyddiad i fod i ddechrau

Dyddiad i fod i orffen

Rhyl – Stryd Gamlin

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

02.02.2026

06.02.2026

Rhuthun – Ffordd yr Ysgol

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

05.02.2026

06.02.2026

Rhuthun – Ffordd Wynnstay

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau:** Gwaith yn gydol y nos a dydd Mawrth yn unig **

06.02.2026

14.02.2026

Rhyl – Derwen Drive

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

09.02.2026

13.02.2026

Llandegla – A542 Dafarn Dywyrch i Ponderosa

Gwaith ail arwynebu

Gwaith hebrwng

11.02.2026

27.02.2026

Dinbych – Lon Llewelyn (cyffordd A543 i gyffordd B5382)

Gwaith ail arwynebu

Gwaith hebrwng

13.02.2026

22.02.2026

Llanrhaeadr – Bythynnod Talyrnau i gyffordd A525

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

13.02.2026

24.02.2026

Dyserth – Rhodfa Thomas

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

16.02.2026

22.02.2026

Llangollen – Heol y Dderwen

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

22.02.2026

Dydd Sul yn unig

01.03.2026

Dydd Sul yn unig

all dyddiadau gwaith newid oherwydd y tywydd neu ffactorau allanol eraill.

Am yr holl wybodaeth am waith ar draws ffyrdd Sir Ddinbych, gan gynnwys gwasanaethau eraill y Cyngor a chwmnïau cyfleustodau, ewch i'r ddolen hon am ragor o wybodaeth.

Diweddariad am Gyfleuster Ystafell Newid Gerddi’r Coroni

Diweddariad am Gyfleuster Ystafell Newid Gerddi’r Coroni

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn chwilio am sefydliad partner i reoli a gweithredu y cyfleuster Ystafell Newid yng Ngerddi’r Coroni Rhyl.

Bydd y cyfleuster o reidrwydd ar gael i bob sefydliad chwaraeon sy’n defnyddio safle'r Gerddi.

Bydd y partner llwyddiannus sydd â diddordeb yn gyfrifol yn llwyr am gynnal a chadw'r adeilad, agor a chau'r cyfleuster yn ogystal â chymryd archebion mewn modd addas dros y ffôn neu drwy e-bost.

Rhagwelir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymo i drefniant prydles gyda’r Cyngor fel y landlord sydd â chyfrifoldebau diffiniedig dros atgyweirio ynghyd â rhwymedigaethau rheoli.

Dylai unrhyw un sydd  â diddordeb anfon e-bost at property.services@denbighshire.gov.uk gyda’r teitl “Cyfleusterau Newid Gerddi’r Coroni” yn glir ar yr e-bost erbyn 24 Rhagfyr.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025: Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n uchel ei berfformiad

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025:Sir Ddinbych wyrddach

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025: Sir Ddinbych sy'n dysgu a thyfu

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025: Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalgar

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025: Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sy'n bodloni anghenion pobl

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Diweddariad ar Ffliw Adar gan Gyngor Sir Dinbych

Mae'r cyngor yn cynghori perchnogion dofednod ac adar hela i fod yn ymwybodol o'r risgiau.

Mae Cyngor Sir Dinbych yn cynghori perchnogion dofednod ac adar hela i fod yn ymwybodol o'r risg bosibl o ffliw adar.

Mae'r risg o firws ffliw adar yn cynyddu yn ystod y gaeaf oherwydd mudo adar dŵr a gwylanod ac mae'n firws heintus iawn sy'n cael ei drosglwyddo o aderyn i aderyn neu drwy'r amgylchedd.

Gall y clefyd effeithio ar system resbiradol, dreulio neu nerfol llawer o rywogaethau o adar, ac mae arwyddion cyffredin yn cynnwys colli archwaeth, pennau chwyddedig a phroblemau anadlu a all arwain at farwolaeth.

Yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion a gofnodwyd yng Nghymru, o heddiw (ddydd Iau Tachwedd 13), bydd yn ofyniad cyfreithiol i bob ceidwad 50 neu fwy o adar o unrhyw rywogaeth eu cadw o dan do i leihau'r lledaeniad ac atal y firws.

Bydd y mesurau yn berthnasol i heidiau o lai na 50 o adar o unrhyw rywogaeth os caiff wyau neu gynhyrchion dofednod eu gwerthu neu eu rhoi i ffwrdd hefyd. Mae hyn oherwydd y risg uwch o drosglwyddo clefydau sy'n gysylltiedig â masnachu neu roi cynhyrchion dofednod i ffwrdd.

Bydd y mesurau tai gorfodol newydd yn cael eu hymgorffori yn y Parth Atal Ffliw Adar Cymru (AIPZ) presennol a gyflwynwyd ym mis Ionawr.

Hoffai Cyngor Sir Dinbych atgoffa unrhyw un sy'n cadw dofednod neu adar hela, gan gynnwys y rhai sydd â llai na 50 o adar, ei bod yn ofynnol i ddarparu manylion eu heidiau i'r Gofrestr Dofednod.

Bydd hyn yn sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith os bydd achos o glefyd adar fel y gallant gymryd camau i amddiffyn eu hadar cyn gynted â phosibl.

Dylai ceidwaid dofednod archwilio eu hadar yn rheolaidd am arwyddion o'r clefyd a gwahanu adar sy'n dangos arwyddion eu bod wedi'u heffeithio. Dylid rhoi gwybod ar unwaith i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am unrhyw achosion a amheuir o ffliw adar.

I roi gwybod am adar marw a chael gwared arnynt, ffoniwch DEFRA ar 03459 335577 neu i gofrestru eich dofednod cliciwch yma neu ffoniwch Linell Gymorth Cofrestr Dofednod Prydain Fawr, ar 0800 634 1112.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r ddolen isod:

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/trwyddedau-hawlenni-a-safonau-masnach/safonau-masnach/y-feirws-ffliw-adar-hpai.aspx

Annog pobl ifanc i hawlio eu cynilion

Gallai nifer o oedolion ifanc yn Sir Ddinbych fod â chyfartaledd o £2,200 yn aros amdanynt yn eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio.

Child Trust FundCyflwynwyd Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant gan Lywodraeth y DU yn 2005. Agorwyd cyfrifon ar gyfer bron 6 miliwn o blant a anwyd yn y DU rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011.

Mae bron hanner nifer y Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yng Nghymru heb eu hawlio o hyd. Yn ôl y Share Foundation, mae oddeutu 1240 o gyfrifon heb eu hawlio o hyd yn Sir Ddinbych.

Gall pobl ifanc 16 oed neu’n hŷn gymryd rheolaeth o’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eu hunain, er na ellir tynnu’r arian o’r gronfa tan fyddant yn 18 oed. Gall teuluoedd barhau i dalu hyd at £9,000 y flwyddyn yn ddi-dreth i’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant tan fydd y cyfrif yn aeddfedu.  Mae’r arian yn aros yn y cyfrif tan fydd y plentyn yn ei dynnu allan neu yn ei ail-fuddsoddi i mewn i gyfrif arall. Os nad oedd rhiant neu warcheidwad wedi gallu agor cyfrif i’w plentyn, bu i’r llywodraeth agor cyfrif cynilo ar ran y plentyn.

Bydd pob unigolyn 16 oed yn cael gwybodaeth am sut i ddod o hyd i’w Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi gyda’u llythyr Yswiriant Gwladol.  Os oes unrhyw un yn ansicr am eu sefyllfa, yna dylent wirio gyda’u banc neu gymdeithas adeiladu. Fel arall, gall oedolion ifanc a rhieni chwilio ar www.gov.uk/child-trust-funds i ddod o hyd i ble mae eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cael ei gadw.

Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol:

“Hoffwn annog yr holl bobl ifanc sy’n gymwys i wirio eu cyfrifon a hawlio yr hyn sy’n eiddo iddynt. Gellir symud y buddsoddiad i ISA oedolyn neu ei ddefnyddio ar gyfer eu haddysg, tai neu wersi gyrru.

Byddwn yn annog pobl ifanc i ddefnyddio’r adnodd ar-lein i’w olrhain, neu i rieni plant yn eu harddegau i siarad â nhw i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Gallai hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w cynlluniau ar gyfer eu dyfodol yn enwedig mewn cyfnod pan fo arian yn dynn.”

Bu i’r cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gau ym mis Ionawr 2011 a bu i Gyfrifon Cynilo Unigol (ISA) Plant gymryd eu lle.

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, ewch i www.gov.uk/child-trust-funds. Fel arall, ewch i https://www.meiccymru.org/do-you-have-money-hiding-in-a-child-trust-fund, anfonwch neges destun at 07943 114449 neu ffoniwch 080880 23456.

Darganfod Sir Ddinbych...

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Beth am gael ysbrydoliaeth o'n mapiau cerdded a beicio am syniadau newydd o leoedd i ymweld â nhw.

Am fwy o ysbrydoliaeth ar weithgareddau yn Sir Ddinbych a'r cyffiniau ewch i - https://www.northeastwales.wales/cy/ 

Awydd dysgu rhywbeth newydd?

Mae’r cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych, yn gwrs hyfforddiant ar-lein am ddim i wella eich gwybodaeth am y sector twristiaeth yn Sir Ddinbych.

Mae 14 modiwl i ddewis ohonynt ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys cerdded, becio. bwyd, celfyddydau, arfordir, hanes a thwristiaeth gynaliadwy.

Gwyliwch ein ffilm fer sy’n sôn am y cwrs.

Ewch i www.llysgennad.cymru a chychwyn arni heddiw.

 

Mwy o ardaloedd i dderbyn cymorth Dechrau’n Deg yn Sir Ddinbych

Mae mwy o ardaloedd yn Sir Ddinbych am dderbyn cymorth drwy gynllun gofal plant Dechrau’n Deg.

Mae’r ardaloedd ychwanegol yn cynnwys y Rhyl, Prestatyn, Gallt Melyd, Rhuddlan, Dyserth, Dinbych, Corwen, Llangollen, Llandrillo a Llanfair DC, ac mae’n berthnasol i deuluoedd sydd â phlentyn a gafodd ei ben-blwydd yn 2 oed rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025.

Mae ehangu’r cynllun yn golygu y bydd teuluoedd yn yr ardaloedd newydd yn gymwys am 12 awr a hanner o ofal plant wedi’i ariannu yn ystod tymor yr ysgol. Gyda mwy o leoliadau yn cynnig Gofal Plant Dechrau'n Deg wedi'i ariannu, a chodau post newydd yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd, anogir teuluoedd i wirio eu cod post gan ddefnyddio'r gwiriwr cod post ar y wefan.

Mae Dechrau’n Deg Sir Ddinbych yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw helpu plant i gael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd er mwyn eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Bydd yr ehangiad diweddaraf hwn i gynllun Dechrau’n Deg yn golygu y bydd mwy o deuluoedd Sir Dinbych bellach yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth gofal plant am ddim. Mae’r cymorth hwn o fudd mawr i rieni a theuluoedd.

Gall preswylwyr yn yr ardaloedd newydd wirio a yw eu cod post yn gymwys gyda’r gwiriwr cod post.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/gofal-plant-a-rhianta/teuluoedd-yn-gyntaf-a-dechraun-deg/dechraun-deg.aspx

Spotolau ar ein prif drefi

Mae ein Tîm Twristiaeth wedi bod yn tynnu sylw at bob un o'n prif drefi yn eu blog Gogledd-ddwyrain Cymru.

Mae mwy o wybodaeth yn eu blog

Mwynhau Tirwedd Naturiol Sir Ddinbych yn ddiogel

Cyngor ar sut i fwynhau Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Pharc Gwledig Loggerheads yn ddiogel mewn tywydd garw

Cyngor ar sut i fwynhau Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Pharc Gwledig Loggerheads yn ddiogel

Mae wythnos gyntaf mis Ionawr wedi bod yn arbennig o brysur ar Moelfamau ac ym Mharc Gwledig Loggerheads, ac wrth i ni wynebu rhybudd tywydd arall, mae’r cyngor yn gofyn i bawb sy’n bwriadu ymweld i gymryd gofal ychwanegol.

Eira - Loggerheads

Mae’r Tîm Priffyrdd a’r Ceidwaid Cefn Gwlad yn gweithio’n hynod o galed i sicrhau bod ffyrdd, meysydd parcio a llwybrau’n ddiogel yn ogystal â gofalu am y bywyd natur a’r tirwedd rydym oll yn ei fwynhau – maen nhw allan ym mhob tywydd i sicrhau bob popeth yn rhedeg mor esmwyth â phosibl i ymwelwyr fwynhau.

Snow - MoelfamauDyma ambell beth i’w ystyried i sicrhau ymweliad diogel:

⚠️ Glynwch at lwybrau agored a dilynwch bob arwydd diogelwch.

🚧 Talwch sylw manwl i arwyddion sy’n dangos ffyrdd wedi’u cau – maen nhw yno i’ch diogelu chi.

❄️ Ystyriwch yr amodau tywydd – mae eira a rhew yn gwneud arwynebau a llwybrau’n llithrig.

🧥 Gwisgwch ddillad addas a pharatowch ar gyfer eich ymweliad, yn enwedig mewn tywydd garw.

🚗 Byddwch yn ystyrlon wrth barcio os ydych yn ymweld yn eich car. Dylech osgoi rhwystro mynedfa trigolion lleol i’w tai neu barcio mewn ffordd sy’n culhau’r ffordd i’r gwasanaethau brys a thraffig arall.

🐾 Cadwch eich cŵn dan reolaeth.

Cyngor ar sut i ymdopi â thywydd garw

Mae ystod o wybodaeth a chyngor ar wefan Cyngor Sir Ddinbych. Mae manylion am ba ffyrdd sy’n cael eu graeanu, ble gallwch ddarganfod eich bin halen agosaf yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am yrru mewn amodau gaeafol a sut i wneud eich cartref yn ddiogel mewn tywydd oer. Ac am wybodaeth bellach am rybuddion tywydd, ewch i wefan Swyddfa’r Met.

Rydym am i bawb fwynhau harddwch ein hamgylchedd naturiol – yn ddiogel, yn gyfrifol a chyda parch. 💚

Diolch am wneud eich rhan! 👋

A WYDDOCH CHI?

A wyddoch chi bod 64% o gyllideb y Cyngor yn mynd ar addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol?

Mae 64% o gyllideb y Cyngor yn mynd ar addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol? Mae 14% arall wedi'i neilltuo i bethau fel cynllun cenedlaethol Cymru gyfan ar gyfer budd-dal y Dreth Gyngor a'r ardoll y mae'n rhaid i ni ei thalu i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, sydd wedyn ond yn gadael 22% ar ôl ar gyfer holl wasanaethau eraill y Cyngor gan gynnwys gwagio biniau ac ailgylchu, cynllunio a diogelu'r cyhoedd, diogelu atyniadau treftadaeth, cludo disgyblion i'r ysgol.

Gallwch ddysgu mwy am ble mae'r gyllideb yn mynd ar y tudalennau newyddion.

A wyddoch chi fod 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd?

Mae 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd ac fel rhan o hyn, mae'r Cyngor yn archwilio oddeutu 720 o fwytai, caffis a lleoliadau pryd ar glud bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ar gyfer trigolioin Sir Ddinbych.

Yn ogystal, mae'r Cyngor yn ymateb i dros 1,200 o geisiadau bob blwyddyn sy'n berthnasol i dai a llygredd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi bod 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion?

Mae 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion.

A gyda 36.7% yn mynd i ysgolion ac addysg, mae hyn yn golygu bod dros 66% o’ch Treth Cyngor yn mynd i warchod y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

A wyddoch chi fod 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd?

Mae 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd.

Am hyn, mae’r Cyngor yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a physt wedi’u goleuo

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi bod 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol?

Mae 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol.

Am hyn, mae'r Cyngor yn cludo oddeutu 2,871 o ddisgyblion yn ddiogel i 75 ysgol ledled y sir.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi mai 0.9% o wariant Treth y Cyngor sy'n mynd ar Wasanaeth Treftadaeth y sir?

Mae Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych yn cyfrif am 0.9% o wariant Treth y Cyngor.

Am hyn, mae'n cadw ac yn hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (wedi'i lleoli yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr.

Drwy ddiogelu'r rhain mae'r gwasanaeth yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.

Trwy ein hatyniadau, digwyddiadau a rhaglenni dysgu, rydym yn cefnogi balchder lleol, twristiaeth ddiwylliannol a'r economi wrth amddiffyn treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd.

Bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd. Mae’n egluro beth allwch chi ei ddisgwyl wrth wneud cais am drwyddedau, yn ystod archwiliadau a gorfodi, a sut i gysylltu neu roi adborth. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan.

Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant yn wythnosol

Fod Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant wythnosol am ddim ledled y sir – gan gynnwys galwadau heibio, teithiau cerdded llesiant, cefnogaeth i bobl ifanc, a gweithgareddau i hybu hyder. Maen nhw ar agor i holl drigolion Sir Ddinbych 16+ oed, ac yn hollol rhad ac am ddim! Edrychwch ar yr amserlen a’r digwyddiadau diweddaraf yma

Llawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, papurau newydd ac yn y blaen

Gallwch chi lawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, cylchgronau digidol a phapurau newydd am ddim gan ddefnyddio ap Borrowbox? Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN. Ddim yn aelod o'r llyfrgell? Mae ymuno ar-lein am ddim www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd.  

A wyddoch chi fod 1.1% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y gwasanaeth Cefn Gwlad?

Mae 1.1% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Cefn Gwlad sy'n rheoli dros 80 o safleoedd cefn gwlad, dros 1,200 hectar o fannau gwyrdd ar gyfer hamdden a chadwraeth.

Mae'r rhain yn amrywio o Barc Gwledig Loggerheads a Moel Fammau, Planhigfa Goed y Sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Prestatyn Dyserth Way, Llantysilio Green yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o safleoedd cymunedol llai ar draws y Sir.

Mae gan y Gwasanaeth dîm arbenigol yn y maes Ecoleg a Choed ledled y Sir,  y dynodiad Tirwedd Genedlaethol, hamdden a hawliau tramwy, sy'n trefnu teithiau cerdded natur ar gyfer iechyd ac yn rheoli'r Ganolfan Cefn Gwlad yn Loggerheads ac arlwyo ym Mhlas Newydd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

Mae Treth y Cyngor yn cynrychioli dim ond 25% o arian y Cyngor

Mae Treth y Cyngor ond yn cyfrif am 25% o gyfanswm cyllid y Cyngor. Pan fyddwch yn talu eich bil Treth y Cyngor blynyddol, mae 1.8% o hwnnw’n talu am gasgliadau gwastraff ac ailgylchu – sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar dreth gyngor eiddo Band D o £1,799.48 y flwyddyn). Mae'r rhan fwyaf o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas - ysgolion ac addysg yw'r gwariant mwyaf sy'n cyfrif am 36.7% tra bod gofal oedolion a gofal cymdeithasol yn cyfrif am 29.8%. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan.

Prydau ysgol am ddim

Mae pob plentyn oed cynradd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy'r cynllun Prydau Ysgol Cynradd Cynradd Cyffredinol. Mae hon yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i sefydlu i helpu gyda'r costau byw cynyddol. Gallwch ddarganfod rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor.

A wyddoch chi bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?

Oeddech chi'n gwybod bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?

Nid yw'r holl Dreth Cyngor a gesglir yn talu am ddim ond gwasanaethau'r cyngor, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân. I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

A wyddoch chi?

Mae 36.7% o'ch Treth Cyngor yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg, a 29.8% yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol, sy'n golygu bod dros 66% o'ch Treth Cyngor yn mynd ar amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

A wyddoch chi fod gan Sir Ddinbych yn Gweithio tudalennau ar ein gwefan?

Mae gan Sir Ddinbych yn Gweithio dudalennau ar wefan y Cyngor.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yma i helpu preswylwyr 16 oed a hŷn a allai fod yn ei chael yn anodd neu sy’n poeni am arian. P’un ai a ydych chi’n chwilio am waith neu angen cefnogaeth i godi eich hun yn ôl ar eich traed, mae nhw yma i’ch arwain chi tuag at ddyfodol gwell. Ewch i'n gwefan i gael gweld beth sydd gennyn nhw i gynnig.

A wyddoch chi fod 1.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd?

Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd.

O fewn hyn mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am 1,419km o briffyrdd (ag eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a cheuffosydd, 302 o waliau cynnal a 26,000 o geunentydd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn agored i bawb 11 i 25 oed. Mae nhw yn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd cymdeithasol i ddatblygu diddordebau yn ogystal â helpu a chefnogi unrhyw un sydd ei angen. I ddod o hyd i glwb ieuenctid lleol neu i gael cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc, ewch i’n gwefan.

Wyddoch chi mai 1.8% o wariant Treth Cyngor sy’n mynd ar wagu biniau ac ailgylchu?

Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd ar wagio biniau ac ailgylchu sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D).

Am hyn, mae’r Cyngor yn casglu oddeutu 73,000 o finiau o fwy na 47,000 o gartrefi bob wythnos ar draws y sir.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi y gallwch wylio cyfarfodydd y Cyngor arlein?

Gallwch weld gweddarllediadau byw ac wedi eu recordio o gyfarfodydd pwyllgorau’r Cyngor ar unrhyw adeg.

Mae'r holl bapurau hefyd i'w gweld gan gynnwys yr agenda a phenderfyniadau.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am beth syn digwydd yn y Cyngor, edrychwch ar y calendr cyfarfodydd i weld beth sy’n mynd ymlaen.

FIDEOS

Preswylwyr Llwyn Eirin yn cyfarfod â'u cymdogion

Daeth preswylwyr Llwyn Eirin at ei gilydd yn HWB Dinbych yn ddiweddar ar gyfer digwyddiad cymunedol llwyddiannus ‘Cwrdd â’ch Cymdogion’.

Wedi’i drefnu gan Wasanaeth Tai a Chymunedau’r Cyngor, daeth y digwyddiad â phreswylwyr Llwyn Eirin, sydd wedi symud i’w cartrefi newydd yn ddiweddar, ynghyd â sefydliadau partner er mwyn cryfhau cysylltiadau cymunedol, cwrdd â chymdogion ac i dynnu sylw at yr ystod eang o gymorth sydd ar gael iddynt yn Ninbych.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw