NEWYDDION

Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno cais cynllunio i ddiwallu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr

Ddydd Mawrth, 20 Hydref, cymerodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych y penderfyniad i gytuno cyflwyno dau gais cynllunio ym Mhrestatyn, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer darparu safle parhaol i Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar Ffordd Marine.

Mae'r penderfyniad yn cefnogi dyletswydd statudol y cyngor o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i ddiwallu'r anghenion llety a nodwyd yn ei Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA), a gynhelir bob pum mlynedd.

Nododd yr asesiad fod angen 12 safle preswyl parhaol ledled Sir Ddinbych. Mae wyth safle eisoes wedi'u darparu ar dir preifat, gan adael angen am bedwar safle ar gyfer un teulu. Yn dilyn asesiad manwl o leoliadau posibl, cafodd safle Ffordd Marine ei nodi fel yr opsiwn mwyaf addas, gan alluogi'r teulu, sydd wedi byw ym Mhrestatyn ers 13 mlynedd, i aros yn agos at eu cymuned, eu rhwydweithiau cymorth a gwasanaethau lleol, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Cymeradwyodd y Cabinet hefyd gyflwyno cais cynllunio ar gyfer ffordd fynediad newydd i'r ardal barcio ddynodedig sy'n gwasanaethu fflatiau cyfagos Ffordd Caradog.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams, Aelod Arweiniol Tai, Cynllun Datblygu Lleol a Chymunedau: "Mae'r penderfyniad hwn yn galluogi'r cyngor i wneud cynnydd gyda'i ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu llety addas ar gyfer y teulu a nodwyd drwy ein Hasesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr.

"Mae asesiad trylwyr o safleoedd posibl wedi'i gynnal, a bydd y broses gynllunio nawr yn rhoi cyfle i bob ystyriaeth berthnasol gael ei hasesu'n llawn, gyda thrigolion lleol yn gallu cyflwyno eu barn fel rhan o'r broses honno."

Os bydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi, bydd y cyngor yn ceisio sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad y safle.

Gwaith adnewyddu labordai Gwyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd Dinbych wedi’i gwblhau

Mae dau labordy gwyddoniaeth, yn ogystal ag ystafell baratoi gwyddoniaeth, wedi’u cael eu hadnewyddu’n llwyr yn Ysgol Uwchradd Dinbych, gan gynrychioli buddsoddiad o tua £230,000.

Ysgol Uwchradd Dinbych

Dechreuodd y gwaith adnewyddu ym mis Mehefin eleni, ac fe gafodd ei gwblhau’r mis hwn. Dyma’r ail gam yn rhaglen Adnewyddu Labordai Gwyddoniaeth yr ysgol, gyda’r cam cyntaf yn cael ei gwblhau yn 2024.

Yn y cam hwn cafodd Labordai Gwyddoniaeth 3 a 4, ynghyd â’r Ystafell Baratoi Gwyddoniaeth, eu hadnewyddu’n llwyr gan gynnwys tynnu’r holl ffitiadau a dodrefn gosodedig, nenfydau, lloriau a gosodiadau mecanyddol a thrydanol.

Yn ystod y gwaith, cafodd yr holl ddodrefn gosodedig eu newid am unedau pwrpasol modern yn ogystal ag offer labordy newydd.

Ystafell ddosbarth labordy wedi'i diweddaru

Mae offer mecanyddol a thrydanol hefyd wedi’u gosod, gan gynnwys gwaith ar y systemau awyru, goleuo, gwresogi a synwyryddion tân.

Mae’r gwaith ailaddurno mewnol llawn wedi cynnwys gorffeniadau newydd ar y waliau mewnol, gorffeniadau sy’n hawdd i’w cynnal a’u cadw ar y lloriau a gosod byrddau sgertin.

Ystafell ddosbarth labordy arall wedi'i diweddaru

Mae nenfydau newydd gyda goleuadau integredig hefyd wedi’u gosod.

Gwnaethpwyd y gwaith gan gwmni B & W Builders and Decorators Ltd a chafodd y prosiect ei arwain a’i reoli gan Dîm Cynnal a Chadw Adeiladau’r Cyngor.

Cafodd y prosiect hwn ei ariannu drwy Raglen Cynnal a Chadw Cyfalaf Ysgolion.

Unedau pwrpasol modern

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Teuluoedd, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae gwaith bellach wedi’i gwblhau ar y prosiect cyffrous hwn yn Ysgol Uwchradd Dinbych, gan gynrychioli buddsoddiad o tua £230,000.

Mae’r cylch diweddaraf hwn o waith yn cynrychioli’r ail gam yn rhaglen adnewyddu labordai gwyddoniaeth yr ysgol, wedi i’r cam cyntaf gael ei gwblhau yn ôl yn 2024.

Gydag offer a dodrefn newydd a gwell, mae’r gwaith adnewyddu hwn yn hynod fuddiol i brofiadau dysgu ac addysgu yn yr ystafelloedd dosbarth hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Young, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Uwchradd Dinbych:

"Rwyf wrth fy modd yn gweld y buddsoddiad pellach hwn o £230,000 yn Ysgol Uwchradd Dinbych.

Bydd y cyfleusterau gwyddoniaeth newydd gwych hyn o fudd i ddisgyblion a staff, gan ddarparu amgylchedd dysgu modern ac ysbrydoli ein pobl ifanc am flynyddoedd i ddod.

Diolch i bawb a fu’n rhan o wireddu hyn."

Gwaith arloesol i wella cysylltedd digidol ar draws y sir yn datblygu

Mae gwaith arloesol i wella rhwydweithiau ffonau symudol ar draws Sir Ddinbych wedi cyrraedd y garreg filltir gyntaf

Mae gwaith arloesol i wella rhwydweithiau ffonau symudol ar draws Sir Ddinbych wedi cyrraedd y garreg filltir gyntaf.

Mae tîm Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) Cyngor Sir Ddinbych wedi gweithio ar brosiect i wneud defnydd da o asedau’r awdurdod lleol i roi hwb i rwydweithiau ffonau symudol ar draws y sir.

Mae’r Cytundeb Mynediad Agored hwn yn caniatáu i’r Cyngor wneud asedau penodol, polion goleuadau stryd yn bennaf, ar gael ar gyfer gosod technoleg symudol cell fach i wella signal.

Mae’r celloedd bach yn helpu â chynyddu capasiti heb fod angen isadeiledd mawr. Ar ôl eu gosod mae ganddynt y capasiti i wella cysylltedd digidol ar gyfer preswylwyr a busnesau, gan gynnig mynediad gwell i’r rhyngrwyd.

Ar ôl llofnodi cytundeb, bydd gweithredwr rhwydwaith ffonau symudol yn penderfynu a fyddai gosod eu celloedd bach ar asedau’r cyngor yn rhoi hwb i’w rhwydwaith.

Mae cytundeb cyntaf y broses hon bellach wedi’i lofnodi gan Ontix, sydd eisoes wedi gosod pedwar o safleoedd cell fach ar draws Sir y Fflint i roi hwb i gysylltedd.

Bydd y Cyngor yn cadw rheolaeth lawn dros yr asedau y gellid eu defnyddio ar gyfer gosod celloedd bach i sicrhau bod y gwaith gosod yn cyrraedd yr holl safonau technegol, diogelwch a gweithredol.

Mae unrhyw ddatblygiad o dechnoleg cell fach yn niwtral o ran cost i’r Cyngor, bydd gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol yn talu ffi flynyddol a gytunwyd arni am osod y celloedd bach ar asedau.

Bydd pob Cytundeb Mynediad Agored yn gweithredu am gyfnod cychwynnol o 15 mlynedd, gan roi sefydlogrwydd i weithredwyr sy’n ystyried buddsoddi a chynnig eglurder hirdymor i’r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae llofnodi ein Cytundeb Mynediad Agored Cyntaf gydag Ontix yn garreg filltir bwysig o ran y gwaith arloesol hwn i wella cysylltedd digidol ar gyfer preswylwyr a busnesau ar draws Sir Ddinbych. Mae’n darparu sylfaen gref i weithredwyr symudol ystyried defnyddio asedau addas y Cyngor i wella eu rhwydweithiau, tra ein bod ni’n cadw rheolaeth lawn i sicrhau fod y gwaith gosod yn cyrraedd yr holl safonau technegol, diogelwch a gweithredol.

“Wrth i gytundebau pellach ddatblygu, fe allai’r potensial i ddefnyddio celloedd bach helpu busnesau presennol i gysylltu’n fwy effeithiol, annog buddsoddiad a gwella mynediad at gyfer cymunedau, yn cynnwys preswylwyr mewn ardaloedd gwledig sydd wedi profi cysylltedd cyfyngedig yn y gorffennol. Bydd hyn yn cefnogi ein huchelgais i ddatblygu safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol ar draws y sir.”

 

 

Cyngor yn ehangu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion Blwyddyn 7 ac 8

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn mynd i ehangu prydau ysgol am ddim, a bydd disgyblion cymwys ym Mlynyddoedd 7 ac 8 yn gallu cael y gefnogaeth o 2 Tachwedd 2026

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn mynd i ehangu prydau ysgol am ddim, a bydd disgyblion cymwys ym Mlynyddoedd 7 ac 8 yn gallu cael y gefnogaeth o 2 Tachwedd 2026.

Fe gyflwynwyd y newid hwn gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu y bydd  disgyblion Blwyddyn 7 ac 8 sy’n byw mewn aelwyd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn gallu cael prydau ysgol am ddim o’r dyddiad cychwyn ym mis Tachwedd.

Caiff rhieni a gofalwyr eu hannog i ymgeisio cyn 2 Tachwedd 2026 er mwyn i’w cais gael ei asesu, a bod cefnogaeth ar waith erbyn pan fydd yr ehangiad yn dechrau.

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais, nid oes angen cyflwyno cais arall.

Gall rhieni a gofalwyr hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eu plentyn os ydynt yn derbyn unrhyw un o’r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail Incwm
  • Elfen Credyd Pensiwn y Credyd Gwarant
  • Cymorth dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Credyd Cynhwysol, pan mae’r plentyn yn yr ysgol gynradd ac enillion net blynyddol yn ddim mwy na £7,400
  • Credyd Cynhwysol, pan mae’r plentyn ym Mlwyddyn 7 neu 8 yn yr ysgol uwchradd, o 2 Tachwedd 2026

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu ehangu prydau ysgol am ddim yn Sir Ddinbych.   Gall prydau ysgol am ddim wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd, gan helpu i leddfu pwysau ar gyllidebau aelwydydd tra’n sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad at bryd bwyd maethlon yn ystod y diwrnod ysgol.

“Rydw i wir yn annog pob rhiant a gofalwr cymwys i fanteisio ar y gefnogaeth hon ac ymgeisio cyn 2 Tachwedd.  Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais, nid oes angen cyflwyno cais arall.”

Gall rhieni a gofalwyr sydd â phlant sy’n mynychu ysgol yn Sir Ddinbych wneud cais ar-lein am brydau ysgol am ddim yma 

 

Cyngor i lwyfannu siecbwynt rali unigryw

Fe fydd y Rhyl yn llwyfannu siecbwynt ar gyfer rali arbennig gyda rhinweddau gwyrdd

Fe fydd y Rhyl yn llwyfannu siecbwynt ar gyfer rali arbennig gyda rhinweddau gwyrdd. 

Wedi’i gefnogi gan Drafnidiaeth Cymru, bydd trydydd EV Rally Cymru yn galw heibio canolbwynt gwefru Cerbydau Trydan Gorllewin Cinmel, yn y Rhyl, bore 22 Hydref (rhwng 12:00 – 13:30)

Mae’r Rali, sy’n cychwyn y diwrnod cynt yng Nghaerdydd ac yn gorffen yng Nglannau Dyfrdwy, wedi’i ddylunio i ddangos bod newid i gerbydau trydan yn bosibl i yrwyr pob mathau o gerbyd a bod yr isadeiledd gwefru yno i helpu’r math yma deithio ar draws Cymru.

Eleni, mae’r digwyddiad yn canolbwyntio ar Gerbydau Nwyddau Trwm Trydan, a bydd nifer o’r cerbydau yma yn rhan o 25 sy’n dod i ganolbwynt gwefru Gorllewin Cinmel, cyn symud ymlaen i Wrecsam. 

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r cyhoedd i newid i gerbydau trydan, mae’r canolbwynt gwefru yn cynnig cymysgedd o unedau gwefru cyflym iawn 50kW a chyflym 7kW i ddefnyddwyr lleol sydd heb fynediad i barcio oddi ar y stryd mewn 36 o lefydd parcio.  Mae tri o’r mannau parcio ac unedau gwefru wedi’u clustnodi’n benodol ar gyfer defnyddwyr anabl.

Fe fydd gan y Cyngor hefyd ei fflyd ei hun o gerbydau trydan yn y canolbwynt gwefru i groesawu’r Rali i’r siecbwynt.

Fe fydd aelodau’r cyhoedd yn dal i allu defnyddio ardal talu ac arddangos y maes parcio a gallant weld cerbydau’r Rali tra’u bod yno. 

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu EV Rally Cymru i ganolbwynt gwefru Gorllewin Cinmel. Mae’n gyfle gwych i ddangos y cyfleusterau sydd ar gael yma yn y Rhyl a dangos sut y gall cerbydau trydan gefnogi dyfodol mwy glân a chynaliadwy ar gyfer cludiant ar draws Cymru.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Ers datgan argyfwng hinsawdd a natur yn 2019, mae’r Cyngor wedi parhau i leihau ei effaith amgylcheddol, yn cynnwys newid ei fflyd i gerbydau mwy gwyrdd lle bynnag y bo hynny’n weithredol bosibl. Mae bod â phedwar o’n cerbydau trydan yn y canolbwynt i groesawu’r rali yn adlewyrchu’r cynnydd ymarferol sy’n cael ei wneud.

“Rydym ni hefyd yn cydnabod bod preswylwyr angen opsiynau gwefru cyfleus a dibynadwy er mwyn iddyn nhw deimlo’n hyderus yn newid i gerbydau trydan.  Dyna pam ein bod wedi creu rhwydwaith cyhoeddus o gyfleusterau gwefru ar draws y Sir, gan helpu i wneud teithio ag allyriadau is yn ddewis realistig i fwy o bobl.”

I gael mwy o wybodaeth am EV Rally Cymru ewch i – wefan  https://www.ev-rally.co.uk/cymru

Hashnodau craidd eleni yw - #EvRally #Cymru #Cydweithio

Linkedin - @EVRALLY @Transport for Wales @GREENFLEET @Denbighshire County Council

 

Planhigfa’n plannu’r hedyn ar gyfer pyllau sy’n ffynnu

Mae prosiect peilot yn helpu i roi cefnogaeth i flodau o natur ddyfrol yn Sir Ddinbych

Mae prosiect peilot yn helpu i roi cefnogaeth i flodau o natur ddyfrol yn Sir Ddinbych.

Mae staff ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy yn tyfu dau fath o flodau gwyllt dyfrol i helpu natur i ffynnu o gwmpas pyllau.

Mae planhigfa goed y Cyngor wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae staff y blanhigfa a gwirfoddolwyr yn gweithio i gynyddu niferoedd rhywogaethau o goed, yn cynnwys poplys du, cerddin gwyllt a deri trwy gasglu hadau o’r ardal leol i’w tyfu.

Maen nhw hefyd yn defnyddio dull tebyg i dyfu amrywiaethau o flodau gwyllt ar y safle trwy ddefnyddio hadau o ddolydd Sir Ddinbych.

Mae hadau wedi’u casglu o byllau lleol i dyfu glas y gors a chreulys y dŵr mewn fframiau prifiant i helpu i gynyddu bioamrywiaeth mewn ardaloedd ar ochr pyllau ar draws y sir.

Mae glas y gors yn creu clwstwr o flodau glas yr awyr dros yr haf.

Eglurodd Sam Brown, Cynorthwy-ydd y Blanhigfa Goed:  “Mae’n dda iawn ar gyfer Madfallod Dŵr Cribog, mae ganddo ddail mawr lle gallant ddodwy eu hwyau a phlygu’r ddeilen drosodd i’w hamddiffyn.

“Caiff ei alw’n ddist hefyd, mae’n tyfu’r gwreiddiau i ymylon y pwll ac yna mae’n tyfu ar draws arwyneb y dŵr. Mae madfallod yn ei hoffi oherwydd mae’n golygu y gallant fyw yn y golofn ddŵr gyfan yno heb orfod poeni am reibwyr yn eu dal. Felly mae’n lloches dda ac mae peillwyr wrth eu boddau hefyd.”

Mae’r planhigyn yn un lluosflwydd a phan fydd yn barod, gellir plannu’r plygiau trwy greu hollt bach yn y clai o gwmpas pwll a’i osod yno.

Mae staff y blanhigfa goed hefyd yn ceisio tyfu mwy o greulys y dŵr sy’n ddefnyddiol ar gyfer darparu lloches i benbyliaid a chrethyll ac mae’n annog gweision y neidr.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae staff a gwirfoddolwyr y blanhigfa yn edrych ymlaen at dyfu’r prosiect peilot hwn i ddarparu blodau gwyllt dyfrol i helpu i gefnogi bioamrywiaeth pyllau yn lleol.

Trwy eu meithrin yn y blanhigfa cyn eu plannu, bydd y tîm yn dysgu pa ddulliau sy’n gweithio orau i annog twf ac ychwanegu at yr amryw blanhigion a choed y mae’r blanhigfa yn eu darparu i roi hwb i natur yn ein cymunedau lleol.”

 

Gwaith hanfodol i wella’r A543 trwy Ddinbych ar fin dechrau’r mis hwn

Fe fydd Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud gwaith ailwynebu sylweddol ar ran Stryd Fawr o’r A543 rhwng 25 Hydref a 1 Tachwedd. 

Ar ôl cwblhau’r rhan yma o’r gwaith, fe fydd gwaith ailwynebu’n dechrau ar Stryd y Dyffryn rhwng 1 Tachwedd a 17 Tachwedd.  

Fe fydd y traffig yn cael ei reoli trwy gyfuniad o fyrddau Stop/Go neu oleuadau traffig dros dro.  Fe fydd ffyrdd yn cael eu cau a dargyfeiriadau ar waith yn achlysurol tra bod y gwaith yn cael ei wneud.  Dylai preswylwyr a defnyddwyr y ffordd adael amser ychwanegol ar gyfer eu siwrneiau gan fod oedi’n debygol ond bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl ar y rhai sy’n defnyddio’r llwybr.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Fe fydd y gwaith hanfodol yma’n gwella’r llwybr pwysig yma i breswylwyr a busnesau lleol Dinbych.  Fe hoffai’r Cyngor ddiolch i breswylwyr a pherchnogion busnesau sy’n byw ac yn gweithio’n agos at y ffordd am eu cefnogaeth a gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybr am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig hwn.”

“Fe wnawn ni bob ymdrech i gwblhau’r gwaith mor gyflym ac effeithlon ag y gallwn ni, gan darfu cyn lleied ag sy’n bosib ar ein preswylwyr.”

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiheuro am unrhyw drafferth ac yn diolch i’r gymuned leol am eu dealltwriaeth.

Mae gwaith gwelliannau i gerddwyr ym Mhwll y Grwys fod i ddechrau ganol mis Tachwedd hefyd, a bydd rhagor o fanylion yn cael ei ddarparu drwy sianeli’r Cyngor pan yn briodol. 

 

Hwyl hanner tymor arswydus a phrofiadau ‘Ar ôl iddi Dywyllu’ yng Ngharchar Rhuthun

Mae Carchar Rhuthun yn agor ei ddrysau hanesyddol unwaith eto dros wyliau hanner tymor mis Hydref am hwyl arswydus

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y digwyddiad Calan Gaeaf a gynhaliwyd y llynedd, mae Carchar Rhuthun yn agor ei ddrysau hanesyddol unwaith eto dros wyliau hanner tymor mis Hydref am hwyl arswydus ac anturiaethau ‘Ar ôl iddi Dywyllu’ ar gyfer ymwelwyr o bob oedran.

Gall ymwelwyr ddisgwyl llwybr bwganllyd wrth olau ffagl a gweithgareddau crefft arswydus newydd, a hynny am y tâl mynediad arferol, yn ogystal â chyfle i grwydro’r Carchar ar ôl iddi dywyllu ar rai nosweithiau penodol.

O ddydd Sadwrn 24 Hydref tan ddydd Mercher 28 Hydref, bydd Carchar Rhuthun ar agor o 10.30am tan 4.30pm. Ond o ddydd Iau 29 Hydref tan ddydd Sadwrn 31 Hydref, bydd y Carchar yn aros ar agor tan 8pm, a gall ymwelwyr grwydro o amgylch y celloedd llawn awyrgylch ar ôl iddi nosi!

Pa bynnag amser o’r dydd y bydd pobl yn dewis ymweld, bydd hwn yn ddigwyddiad teuluol ac ni fydd unrhyw beth i godi braw arnoch nac actorion. Bydd ymwelwyr yn rhydd i grwydro o gwmpas ar eu cyflymder eu hunain.

Er mwyn creu awyrgylch arswydus, bydd y goleuadau yn yr islawr yn llai llachar na’r arfer, felly anogir ymwelwyr  i ddod â thortsh gyda nhw os oes ganddyn nhw un - a fydd hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer y llwybr i deuluoedd hefyd!

Mae ein gweithgareddau a’n llwybrau arswyd yn berffaith ar gyfer diwrnod allan i’r teulu dros hanner tymor, ac efallai y bydd plant hŷn, rhai yn eu harddegau ac oedolion yn ffafrio’r wefr ychwanegol o archwilio’r Carchar ar y nosweithiau ‘Ar ôl iddi Dywyllu’.

Meddai Philippa Jones o Garchar Rhuthun:

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â Chalan Gaeaf yn ôl i Garchar Rhuthun, yn enwedig ar ôl ymateb mor gadarnhaol y llynedd. Mae’r adeilad yn berffaith ar gyfer digwyddiadau arswydus, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr newydd a rhai sydd wedi bod o’r blaen i fwynhau’r llwybr arswyd a’r gweithgareddau newydd.”

Bydd Carchar Rhuthun hefyd yn aros ar agor trwy gydol wythnos Calan Gaeaf i ymwelwyr a hoffai archwilio’r atyniad treftadaeth yn ôl yr arfer - er y byddant yn dod ar draws ambell i arddangosiad arswydus ar hyd y ffordd!

Mae Carchar Rhuthun hefyd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ystod hanner tymor, gan hyrwyddo Calan Gaeaf mwy gwyrdd.

Dywedodd Carly Davies, Swyddog Arweiniol Treftadaeth Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych, ac Ymddiriedolwr Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru:

 “Mae darganfod amgueddfa neu oriel leol yn ffordd hyfryd o dreulio amser gyda’ch plant dros hanner tymor mis Hydref, yn enwedig os ydym yn cael hanner tymor traddodiadol wlyb! Mae adnodd y Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau eleni, a fydd ar gael fel rhan o’ch ymweliad â Charchar Rhuthun, yn canolbwyntio ar leihau ein defnydd o gliter a llywio gweithgareddau tuag at ddeunyddiau mwy naturiol yn lle, fel bo teuluoedd yn gallu mwynhau’r tymor arswyd heb y gost amgylcheddol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae Carchar Rhuthun yn atyniad eithriadol o boblogaidd yr ydym yn ddigon ffodus i’w gael ar garreg ein drws yma yn Sir Ddinbych, ac mae’r gweithgareddau a gynlluniwyd ar gyfer Calan Gaeaf yn cynnig profiad gwahanol i ymwelwyr o’r Carchar.

“Yn dilyn llwyddiant y profiad ‘Ar ôl iddi Dywyllu’ y llynedd mae’n wych clywed ei fod yn dychwelyd i’r Carchar eleni, rydym am i bob ymwelydd, waeth beth fo’u hoedran, allu cael profiad o hanes y Carchar a bydd y gweithgareddau Calan Gaeaf yn gyfle gwych i wneud hynny.”

 Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad Calan Gaeaf a gynhelir yng Ngharchar Rhuthun, cysylltwch â Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych ar heritage@denbighshire.gov.uk

Dau ymchwiliad o dipio anghyfreithlon yn arwain at gamau gorfodi

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn delio â digwyddiadau o dipio anghyfreithlon yng nghefn gwlad ac mewn tref yn ddiweddar

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn delio â digwyddiadau o dipio anghyfreithlon yng nghefn gwlad ac mewn tref yn ddiweddar. 

O Landegla wledig i strydoedd Dinbych, mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa darpar dipwyr anghyfreithlon y bydd yna oblygiadau i ollwng gwastraff.

Mae dau ymchwiliad gan Dîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych wedi arwain at enwi’r rhai’n gyfrifol a chyflwyno Rhybuddion Cosb Benodedig iddynt.

Yn Llandegla, bu swyddogion yn ymchwilio i achos o dipio anghyfreithlon a ganfuwyd yn yr ardal, gan gynnal ymholiadau a dilyn y dystiolaeth oedd ar gael er mwyn canfod o ble ddaeth y gwastraff a phwy oedd yn gyfrifol.  Fe arweiniodd yr ymchwiliad at adnabod yr unigolyn ac fe gyflwynwyd Rhybudd Cosb Benodedig iddynt.

Yn y cyfamser yn Ninbych, cafodd preswylydd Rybudd Cosb Benodedig o £250 ar ôl i bentwr o fagiau du gael eu gadael yn y gymuned. Cafodd y gwastraff ei adrodd i’r Cyngor, gan arwain at ymchwiliad a bu modd i swyddogion adnabod yr unigolyn oedd yn gyfrifol.

Mae’r achosion yn dangos y gall ymchwiliadau o dipio anghyfreithlon arwain at weithredoedd gorfodi.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol:

“Yn anffodus i’r rhai sy’n gyfrifol, nid achosion o adael gwastraff na fyddai neb yn sylwi arnynt oedd y rhain.

“Fe ymchwiliodd ein swyddogion i’r ddau achos, dilyn y dystiolaeth a bu modd iddynt ganfod y rhai oedd yn gyfrifol.  O ganlyniad, mae Rhybuddion Cosb Benodedig wedi cael eu cyflwyno.

“Mae tipio anghyfreithlon yn cael effaith gwirioneddol ar ein cymunedau.  Boed hynny’n fagiau du sy’n cael eu gadael ar stryd breswyl neu wastraff sy’n cael ei adael yng nghefn gwlad, mae’n effeithio ar lefydd ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn ymweld.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Ni fydd tipio anghyfreithlon yn cael ei oddef yn unrhyw ran o Sir Ddinbych.  Boed y gwastraff yn cael ei adael yn un o’n trefi, ar stryd breswyl neu yng nghefn gwlad, byddwn yn ymchwilio i’r dystiolaeth sydd ar gael ac yn gweithredu yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol.

“Mae gennym ni gyd rôl i’w chwarae yn amddiffyn ein cymunedau a chadw Sir Ddinbych yn lân. Buaswn yn annog preswylwyr i waredu eu gwastraff yn gyfrifol ac i adrodd achosion o dipio anghyfreithlon er mwyn i’n swyddogion ddilyn y wybodaeth sy’n cael ei darparu.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol ar draws y Sir trwy gyfuniad o atal, addysgu, casglu gwybodaeth, ymgysylltu â’r gymuned a chamau gorfodi.

Fe atgoffir preswylwyr y dylai gwastraff y cartref gael ei gyflwyno i’w gasglu yn unol â threfniadau casglu gwastraff y Cyngor.  Dylai unrhyw wastraff ychwanegol gael ei waredu trwy gyfleusterau neu wasanaethau priodol.

Wedi gweld achos o dipio anghyfreithlon? Helpwch ni i ddilyn y dystiolaeth

Gall aelodau’r cyhoedd chwarae rhan bwysig yn helpu’r Cyngor i adnabod y rhai sy’n gyfrifol am dipio anghyfreithlon.

Os ydych chi’n gweld achos o dipio anghyfreithlon neu os oes gennych wybodaeth am ddigwyddiad, gadewch i Gyngor Sir Ddinbych wybod. Pan fo’n bosibl, nodwch y lleoliad, dyddiad ac amser, disgrifiad o’r unigolyn neu’r cerbyd, a rhif cofrestru’r cerbyd.

 

 

Lleisiau o’r Archif

Mainc Sain Newydd yn Dod â Hanes Lleol yn Fyw ym Mharc Rhuthun

Gall ymwelwyr â Chae Ddol yn Rhuthun nawr wrando ar straeon o hanes Gogledd-Ddwyrain Cymru mewn ffordd unigryw, drwy fainc sain newydd sy’n cael ei phweru gan ynni’r haul, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mainc sainWedi’i lleoli y tu ôl i’r ardal chwarae plant, mae’r fainc newydd yn cynnig cyfle i ddefnyddwyr y parc eistedd, ymlacio a gwrando ar straeon diddorol o gasgliadau Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru. Gyda phanel syml o fotymau a seinyddion wedi’u hymgorffori, mae’r fainc yn galluogi ymwelwyr o bob oed i wrando ar recordiadau a ysbrydolwyd gan ddogfennau hanesyddol go iawn a chyfrifon personol a gedwir yn yr archifau.

Crëwyd y recordiadau mewn partneriaeth â grŵp ysgrifennu Theatr Clwyd, Cwils. Ymwelodd aelodau’r grŵp ag Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru i archwilio’r casgliadau a chael ysbrydoliaeth o’r cofnodion a ddarganfuwyd. Gan ddefnyddio’r deunydd archif yma, datblygwyd cyfres o sgriptiau gwreiddiol yn seiliedig ar bobl a digwyddiadau go iawn o orffennol y rhanbarth.

Mae’r straeon sain yn archwilio themâu cariad a cholled, newid a gwydnwch, gan ddatgelu profiadau pobl gyffredin mewn cyfnodau anghyffredin mewn hanes. Trwy rannu’r lleisiau hyn mewn lleoliad cyhoeddus, mae’r prosiect yn annog trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddarganfod nad yw hanes yn rhywbeth pellennig; mae’n bersonol, yn berthnasol ac yn perthyn i bawb.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae hwn yn enghraifft wych o sut y gallwn ddod â’n treftadaeth leol gyfoethog yn fyw mewn ffordd sy’n hygyrch, yn ddifyr ac yn bleserus i bawb.

“Mae’r fainc sain yn cynnig cyfle unigryw i bobl gymryd saib, ymlacio a gwrando ar straeon wedi’u hysbrydoli gan y bobl, y profiadau a’r digwyddiadau go iawn sydd yng nghasgliadau Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru. Mae’n arbennig o gyffrous gweld ein harchif yn cael eu rhannu mewn ffordd mor arloesol, y tu allan i leoliad archif traddodiadol.

“Mae prosiectau fel hyn yn ein helpu i gysylltu pobl â hanes ein cymunedau ac yn annog cynulleidfaoedd newydd i ddarganfod y straeon sydd wedi siapio ein rhanbarth. Gobeithio y bydd trigolion ac ymwelwyr â Chae Ddol yn manteisio ar y cyfle i aros, gwrando a mwynhau’r lleisiau diddorol hyn o’n gorffennol.”

Mae’r fainc yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Archif Gogledd-Ddwyrain Cymru i wneud treftadaeth y rhanbarth yn fwy hygyrch gan ennyn diddordeb cynulleidfa newydd mewn hanes lleol a sicrhau gellir mwynhau’r  casgliadau y tu hwnt i adeiladau archif traddodiadol.

Anogir ymwelwyr i alw heibio’r fainc sain, cymryd sedd a darganfod y straeon rhyfeddol sy’n cael eu cadw yn Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru.

Ynglŷn ag Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru

Mae Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru yn cadw ac yn darparu mynediad at dreftadaeth ddogfennol y rhanbarth. Mae ei chasgliadau’n ymestyn dros bron i 900 mlynedd o hanes, o gofnodion canoloesol i archifau cyfoes, gan helpu pobl i archwilio’r bywydau, y cymunedau a’r digwyddiadau sydd wedi siapio Gogledd-Ddwyrain Cymru.

Ynglŷn â Cwils

Mae Cwils yn grŵp cymunedol Theatr Clwyd sy’n rhoi cyfle i bobl archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol. O ddramâu i farddoniaeth, straeon byrion i nofelau, mae’n fan lle gallwch ddysgu, datblygu a meithrin cariad at ysgrifennu. Mae ar gyfer y rhai sy’n cychwyn ar eu taith fel awduron, gyda chefnogaeth ac arbenigedd Theatr Clwyd. Mae manylion llawn ar gael ar wefan Theatr Clwyd o dan yr adran “Cymryd Rhan”.

 

Digwyddiadau Calan Gaeaf Hwyliog i’r Teulu i’w cynnal yn Llangollen a Chorwen

Bydd dau ddigwyddiad Calan Gaeaf i’r teulu yn cael eu cynnal yn ne Sir Ddinbych dros wyliau hanner tymor yr hydref.

Bydd y ddau ddigwyddiad ar agor i bob teulu ac fe’u cynhelir gan dîm Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg y cyngor. Byddant yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau Calan Gaeaf a Hydrefol, gan gynnwys celf a chrefft a mwy.

Cynhelir y ddau ddigwyddiad yng nghanolfannau timau Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg priodol yr ardal leol, a byddant yn rhad ac am ddim.

Cynhelir y digwyddiad cyntaf ddydd Mercher 28 Hydref yn Llygadog, Clawdd Poncen, Corwen o 10am tan 12pm.

Bydd yr ail ddigwyddiad yng nghanolfan ieuenctid Llangollen ddydd Gwener 30 Hydref o 10am tan 12pm.

Yn ogystal â gweithgareddau ar themâu Calan Gaeaf a’r Hydref, bydd cyfle i deuluoedd ddod yn agos at amrywiaeth eang o greaduriaid cennog a chreaduriaid bach, gan y bydd Scaly Safari, sy'n cynnig profiadau tawel a moesegol gydag ymlusgiaid, yn bresennol yn y ddau ddigwyddiad.

Meddai llefarydd ar ran tîm Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg y cyngor:

“Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn am gynnal y digwyddiadau hyn yng Nghorwen a Llangollen dros y gwyliau hanner tymor. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiadau fel hyn yn ein canolfannau, a gobeithiwn y bydd teuluoedd yn dod draw i ddathlu gyda ni.

Nid oes angen archebu lle a gall teuluoedd ddod yn eu gwisgoedd dychrynllyd os hoffent!”

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Teuluoedd, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae darparu gweithgareddau am ddim i deuluoedd yn ystod gwyliau ysgol yn hanfodol.

Bydd y ddau ddigwyddiad yma ar agor i bob teulu a bydd yn gyfle iddyn nhw gael adnoddau hwyliog am ddim yn ystod wythnos hanner tymor mis Hydref.”

Ceidwaid ifanc yn dysgu sgiliau pladuro traddodiadol yn Nantclwyd y Dre

Arweiniwyd y ddwy sesiwn gan dimau Cefn Gwlad a Threftadaeth Cyngor Sir Ddinbych.

Mae aelodau o raglen Ceidwaid Ifanc Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn dysgu sgiliau cefn gwlad traddodiadol mewn ymdrech i reoli’r dolydd blodau gwyllt yn Nantclwyd y Dre.

Yn dilyn arolwg ystlumod yn gynharach yn y flwyddyn a drefnwyd gan Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor i fonitro clwyd warchodedig o Ystlumod Lleiaf, Ystlumod Pedol Lleiaf a’r Ystlumod Hirglust yn y tŷ hanesyddol, fe ddychwelodd y Ceidwaid Ifanc i Nantclwyd ar gyfer gweithdy pladuro ymarferol.

Wedi’i arwain gan dimau Cefn Gwlad a Threftadaeth Cyngor Sir Ddinbych, fe gysylltwyd y ddwy sesiwn gan nod cadwraeth gyffredin sef rheoli’r dôl bodau gwyllt er mwyn annog bioamrywiaeth a chefnogi’r pryfetach ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill sy’n ffurfio rhan bwysig o’r fflora a ffawna lleol.

Mae’n debyg bod pladuro yn dyddio nôl i oes y Rhufeiniaid. Mae’n cynnwys defnyddio llafn hir crwm sydd wedi’i leoli ar ongl i’r handlen, er mwyn caniatáu torri gwair â llaw. Y dechneg draddodiadol hon oedd sut byddai gwair yn cael ei gynaeafu o ddolydd a phorfa Sir Ddinbych cyn defnydd eang tractorau.

Mae’r dechneg yn gyfeillgar i’r bywyd gwyllt sy’n byw ar ddolydd, ac mae’n rhoi amser iddynt symud ymlaen, ac mae’r sawl sy’n pladuro’n gwybod i edrych am anifeiliaid neu bryfed. Trwy dorri’r llystyfiant mae’n helpu i gadw lefelau maeth y pridd yn isel, gan greu amodau ffafriol ar gyfer blodau gwyllt ac annog mwy o fioamrywiaeth. 

Mae hyn yn arbennig o werthfawr mewn gardd hanesyddol sydd yn darparu cartref i ystod eang o fywyd gwyllt, yn cynnwys draenogod a rhywogaethau eraill yr ardd, ac mae’n ffurfio rhan o’r dull ehangach o reoli’r gerddi yn Nantclwyd y Dre lle mae cadwraeth a bioamrywiaeth yn ystyriaethau pwysig ynghyd â gofalu am y safle hanesyddol. 

Meddai Kate Thomson, Rheolwr Safle Nantclwyd y Dre:

“Roedd hi’n wych gweld y Ceidwaid Ifanc yn cael profiad ymarferol gyda sgiliau traddodiadol tra’n gwneud cyfraniad gwirioneddol i gadwraeth y gerddi. Mae’r ddwy sesiwn yn dangos sut y gall gofalu am ein safleoedd hanesyddol ac amddiffyn bywyd gwyllt weithio law yn llaw.”

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae ymdrechion cyfun Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth, ynghyd â’r Ceidwaid Ifanc, yn enghraifft wych o sut mae sgiliau traddodiadol yn gallu cefnogi rheolaeth gynaliadwy o fioamrywiaeth leol a gofalu am ein treftadaeth, tra’n rhoi cyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc i ddatblygu sgiliau cefn gwlad a chadwraeth ymarferol.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy treftadaeth@sirddinbych.gov.uk, neu’r Adran Cefn Gwlad drwy Imogen.Hammond@sirddinbych.gov.uk.

Darpariaeth chwarae meddal newydd a gwaith uwchraddio isadeiledd yn Ysgol Tir Morfa

Mae ysgol anghenion dysgu ychwanegol Tir Morfa yn y Rhyl wedi cael buddsoddiad gwerth dros £145,000 i uwchraddio’r isadeiledd a chael darpariaeth chwarae meddal newydd sbon yno.

Fel rhan o waith uwchraddio isadeiledd Ysgol Tir Morfa, gosodwyd 37 o ddrysau tân modern ym mhob rhan o’r ysgol yn lle hen ddrysau pren. Cafodd mesurau uwchraddio diogelwch tân eu gosod uwchben y nenfydau hefyd, gan arwain at wella safonau diogelwch tân yn sylweddol yn yr ysgol.

Mae ffens newydd sbon sy’n cwmpasu dros 370 metr wedi’i gosod o amgylch terfyn allanol yr ysgol hefyd, gan wneud y terfyn allanol yn fwy diogel. 

Ffens newydd sydd wedi’i gosod o amgylch terfyn allanol yr ysgol

Mae system intercom wedi’i gosod wrth y brif fynedfa, gan wella diogelwch yn yr ysgol.

Yn y ddarpariaeth chwarae meddal gosodwyd 18 o elfennau newydd gan gynnwys:

  • Padin wal ddringo.
  • Padin llawr.
  • Grisiau chwarae meddal.
  • Trampolîn chwarae meddal.
  • Mat paru siapiau chwarae meddal.
  • Pwll peli pwrpasol.
  • Set darnau chwarae meddal.
  • Sleid fawr chwarae meddal.

Darpariaeth chwarae meddal newydd

Roedd yr ystafell lle mae’r ddarpariaeth newydd hon wedi’i gosod yn arfer cael ei defnyddio fel ystafell newid, ac mae’r offer chwarae meddal newydd hyn wedi rhoi bywyd newydd i hen ofod.

Mae darpariaethau chwarae meddal yn helpu i gefnogi datblygiad gwybyddol, corfforol ac emosiynol disgyblion ac yn creu noddfa dawel a chyffyrddol sy’n helpu disgyblion niwrowahanol neu ddisgyblion sydd wedi’u gorsymbylu i brosesu eu hemosiynau mewn amgylchedd diogel a thawel.

Darpariaeth chwarae meddal newydd

Mae’r ffens derfyn a’r ddarpariaeth chwarae meddal wedi’u hariannu gan y Grant Cyfalaf Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r drysau tân a’r gwelliannau diogelwch tân newydd wedi’u hariannu drwy’r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf Ysgolion i Gynnal a Chadw Adeiladau.

Cafodd y prosiect diogelwch tân a ffens derfyn ei arwain a’i reoli gan Dîm Cynnal a Chadw Adeiladau’r Cyngor, a chafodd y gwaith ei gwblhau gan gwmni B & W Builders and Decorators Ltd.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae ystod eang o waith gwella wedi’i wneud yn Ysgol Tir Morfa yn ddiweddar. Mae cynlluniau gwaith isadeiledd yn angenrheidiol i sicrhau fod ysgolion yn cael eu huwchraddio i aros yn gyfredol.

Mae’r ddarpariaeth chwarae meddal newydd wedi ychwanegu at ardal chwarae meddal bresennol yr ysgol, gan ddod â 18 o elfennau newydd i’r ystafell hon.

Bydd y gofod chwarae meddal hwn yn helpu i gefnogi datblygiad gwybyddol ac emosiynol ac yn darparu ardal chwarae newydd a hwyliog i ddisgyblion yn Ysgol Tir Morfa.”

Disgyblion Ysgol Pen Barras yn dysgu am bŵer ailgylchu

Cafodd disgyblion Ysgol Pen Barras eu cyflwyno i ddau fasgot newydd sy’n gweithio i helpu i ailgylchu yn y gymuned, yn ystod ymweliad arbennig

Cafodd disgyblion Ysgol Pen Barras eu cyflwyno i ddau fasgot newydd sy’n gweithio i helpu i ailgylchu yn y gymuned, yn ystod ymweliad arbennig.

Daeth Tîm Addysg Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych â’r pwnc yn fyw trwy drafodaethau a gweithgareddau ymarferol wedi’u cynllunio i gynyddu gwybodaeth a hyder disgyblion yn ystod ymweliad deuddydd â’r ysgol.

Bu disgyblion yn dysgu beth sy’n digwydd i ddeunydd y mae modd ei ailgylchu ar ôl iddo gael ei gasglu a buont yn rhannu syniadau am sut gall lleihau gwastraff fod o fudd i aelwydydd, cymunedau lleol a’r amgylchedd ehangach.

Cafodd y masgotiaid ailgylchu, Troli-bob a Cadi groeso cynnes gan y grwpiau blwyddyn, gan helpu disgyblion i nodi eitemau cyfarwydd y cartref a phenderfynu ym mha gynwysyddion ailgylchu y dylent fod.

Roedd digonedd o waith tîm wrth i’r plant gymryd rhan mewn gêm ddidoli ymarferol gyda phapur, caniau, plastigau cymysg, poteli gwydr a jariau. Roedd y gweithgaredd hwn yn dangos sut mae gwahanu eitemau’n ofalus yn golygu bod deunydd gwerthfawr yn dal i gael ei ddefnyddio, gan helpu i leihau gwastraff.

Un o uchafbwyntiau’r ymweliad oedd pan gafodd y disgyblion gyfle i gwrdd ag un o gerbydau’r Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu sydd ag enw, a ddefnyddir i gasglu deunydd i’w ailgylchu o gartrefi ar draws Sir Ddinbych.

Wrth fwynhau gweld y cerbyd yn agos, gwelodd disgyblion sut mae rhannau ar wahân yn cadw deunydd ar wahân yn ystod casgliadau, cyn iddynt fynd i’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff yn Ninbych i’w prosesu.

Yn ystod yr ymweliad, cyflwynwyd system Trolibocs y Cyngor hefyd, sy’n helpu i ddidoli papur, caniau a phlastigau cymysg, a photeli gwydr a jariau ar ymyl y palmant. Cafodd disgyblion gyfle i weld sut mae ailgylchu’n gywir adref yn gwella ansawdd deunydd a gaiff ei gasglu ac yn cefnogi ymdrechion i leihau gwastraff ac allyriadau carbon.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych: “Roedd yn hyfryd gweld y disgyblion yn Ysgol Pen Barras yn gofyn cwestiynau, cefnogi ei gilydd a chymryd rhan ym mhob gweithgaredd. Gobeithio eu bod yn teimlo’n falch o’r hyn wnaethon nhw ei ddysgu a’u bod wedi mynd â’r brwdfrydedd adref, gan wybod bod pob eitem a gaiff ei hailgylchu’n gywir yn gallu gwneud gwahaniaeth.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae ymweliadau fel hyn yn rhoi ffordd gofiadwy i ddisgyblion weld sut mae ailgylchu’n gweithio. Roedd yn wych clywed bod Ysgol Pen Barras wedi croesawu’r sesiwn, a gobeithio y bydd y disgyblion yn rhannu eu gwybodaeth newydd gyda theulu a ffrindiau wrth i ni gydweithio i ailgylchu mwy a gwastraffu llai.”

Hwb i ddiogelwch y ffyrdd a gwytnwch y gaeaf trwy fflyd graeanu newydd

Mae cerbydau fflyd newydd y Cyngor yn paratoi i helpu i gefnogi ffyrdd mwy diogel yn ystod tywydd y gaeaf.

Mae cerbydau fflyd newydd y Cyngor yn paratoi i helpu i gefnogi ffyrdd mwy diogel yn ystod tywydd y gaeaf.

Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor wedi caffael cerbydau graeanu newydd i ddisodli’r cerbydau presennol sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes gwasanaeth ar gyfer y gwaith cynnal a chadw mae’n rhaid iddynt ei wneud dros y gaeaf.

Bydd wyth cerbyd graeanu Volvo Econ Engineering yn disodli fflyd y Cyngor sy’n ddegawd oed, gan gyflwyno dull mwy modern o gefnogi preswylwyr trwy gyfnodau o dywydd gaeafol.

Mae pob cerbyd yn cynnwys panel arddangos greddfol yn y cab, sy’n caniatáu gweithredu’r deunydd dadrewi sydd yn y cerbyd yn gyflym a rhwydd yn ystod teithiau cynnal a chadw ar hyd llwybrau graeanu Sir Ddinbych.

Mae gyrwyr graeanu’r Cyngor wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant ar y cerbydau newydd gan staff Gwasanaethau Fflyd er mwyn ymgyfarwyddo â nhw. Cynhelir prawf i brofi pa mor barod ydynt ar gyfer y gaeaf yng ngogledd a de’r sir ar 15 ac 16 Hydref. Bydd y graeanwyr allan ar y llwybrau graeanu yn yr ardal i sicrhau eu bod yn barod i wynebu tywydd y gaeaf. Bydd gwybodaeth a gasglwyd gan y gyrwyr sy’n cymryd rhan yn helpu i lywio cynlluniau ar gyfer cynnal a chadw dros y gaeaf.

Mae rhwydwaith ffyrdd Sir Ddinbych yn cwmpasu ffyrdd gwledig sy’n cael eu defnyddio’n anaml yn ogystal â’r ffordd Dosbarth A uchaf yng Nghymru. Mae hefyd yn ymestyn i ffyrdd strategol rhanbarthol hanfodol megis yr A55, a thraciau culion i eiddo anghysbell.

Mae’r rhwydwaith graeanu’n cael ei rannu mewn i naw Llwybr Graeanu â Blaenoriaeth: mae pedwar yn ymdrin â gogledd y Sir, mae tri yn ymdrin â chanol y sir a dau yn ymdrin â de y sir.

Mae’r naw llwybr yma’n cwmpasu tua 950km, ac yn trin 605km o gyfanswm rhwydwaith Sir Ddinbych, sydd yn 1416km.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r buddsoddiad hwn i ddisodli ein fflyd graeanu sy’n heneiddio yn bwysig er mwyn cynnal ein cadernid i ddarparu cefnogaeth i gadw ffyrdd ein rhanbarth ar agor ar gyfer traffig hanfodol a phreswylwyr yn ystod cyfnodau o dywydd gwael dros y gaeaf. Mae’r fflyd fodern hon yn darparu cab mwy diogel i’n gyrwyr weithio ynddo am oriau hir, weithiau trwy’r nos pan fo eira a rhew yn taro’r sir.

“Mae’r tîm hwn yn gweithio’n hynod o galed ar draws y sir i gadw ein rhwydwaith ffyrdd ar agor ac yn ddiogel i’w ddefnyddio, ac rydym ni’n ddiolchgar eu bod nhw’n paratoi eto gyda’r cerbydau newydd hyn i gefnogi ein preswylwyr wrth i’r gaeaf agosáu.”

 

 

Croesawu Dinasyddion Newydd Prydeinig i Sir Ddinbych mewn Seremoni Ddinasyddiaeth

Daeth trigolion o saith gwlad gwahanol yn ddinasyddion swyddogol Prydeinig mewn seremoni ddinasyddiaeth a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Ddinbych ar 6 Hydref. Yn ystod y seremoni, croesawyd dinasyddion newydd oedd yn wreiddiol o Fwlgaria, Awstralia, Twrci, Pacistan, Nigeria, Ffrainc a Ghana, gan nodi'r cam olaf yn eu taith i ddod yn ddinasyddion Prydeinig.

Trefnwyd y digwyddiad arbennig gan Wasanaethau Cofrestru Sir Ddinbych, ac yn bresennol roedd Cadeirydd y cyngor, y Cynghorydd Peter Scott; Is-Arglwydd Raglaw Clwyd, Mr Rob Jones; ynghyd â chynghorwyr sir ward a meiri tref. Yn ystod y seremoni, gwnaeth y dinasyddion newydd naill ai lw neu ddatganiad o deyrngarwch i Ei Fawrhydi Brenin Siarl III ac addunedu eu teyrngarwch i'r Deyrnas Unedig, ei gwerthoedd democrataidd, ei hawliau a'i rhyddidau.

Denbighshire\'s new citizens

Croesawyd y dinasyddion newydd gan y Cofrestrydd Arolygol Sharon Evans, oedd yn gweithredu ar ran Swyddfa Gartref y DU a Gwasanaeth Fisâu a Mewnfudo'r DU. Wrth siarad yn ystod y seremoni, atgoffwyd y mynychwyr fod dinasyddiaeth Brydeinig nid yn unig yn dod â hawliau a chyfleoedd, ond hefyd gyfrifoldebau, gan gynnwys parchu eraill, cynnal gwerthoedd democrataidd a chyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas.

Roedd y seremoni hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y doniau, y cefndiroedd a'r profiadau amrywiol y mae dinasyddion newydd yn eu cyfrannu i Sir Ddinbych a'r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Peter Scott:

"Roedd yn bleser croesawu ein dinasyddion Prydeinig mwyaf newydd i Sir Ddinbych. Mae seremonïau dinasyddiaeth bob amser yn achlysuron arbennig, yn dathlu nid yn unig gyflawniad unigol ond hefyd yr amrywiaeth gyfoethog sy'n cryfhau ein cymunedau.

"Rydym wrth ein bodd bod y trigolion hyn wedi dewis gwneud Sir Ddinbych yn gartref iddynt, ac rydym yn estyn croeso cynnes iddynt fel aelodau o'n cymuned leol."

Yn dilyn y seremoni, cyflwynwyd tystysgrifau dinasyddiaeth ac anrheg fach o groeso gan y cyngor i bob un o'r dinasyddion newydd cyn tynnu llun grŵp gyda'r gwesteion swyddogol.

Daeth y seremoni i ben gyda llongyfarchiadau i bawb a dderbyniodd ddinasyddiaeth a chroeso cynnes i'r gymuned leol.

Noswaith o gerddoriaeth gitâr clasurol yn Nantclwyd y Dre yn llwyddiant ysgubol

Roedd noson o gerddoriaeth gitâr clasurol yn safle hanesyddol Nantclwyd y Dre yn llwyddiant ysgubol, gyda phob un tocyn i’r perfformiad wedi’i werthu.

Roedd noson o gerddoriaeth gitâr clasurol yn safle hanesyddol Nantclwyd y Dre yn llwyddiant ysgubol, gyda phob un tocyn i’r perfformiad wedi’i werthu.

Perfformiodd y gitarydd poblogaidd Jonathan Richards i dŷ llawn yn Nantclwyd y Dre, gan gyflwyno rhaglen ddifyr ac amrywiol a oedd yn cyfuno gwaith o gyfnod y dadeni a gwaith traddodiadol gan y meistri o Sbaen, Isaac Albéniz ac Enrique Granados, a detholiad o gyfansoddiadau gwreiddiol Jonathan ei hun.

Croesawodd y gynulleidfa berfformiad mynegiannol Jonathan, a lwyddodd i greu awyrgylch clyd a dangos amrywiaeth y gitâr clasurol.

Roedd y cyngerdd yn rhan o gyfres o berfformiadau clasurol Nantclwyd y Dre a’r rhaglen ddigwyddiadau ehangach, sydd â’r nod o barhau â thraddodiad y tŷ fel lle i ddathlu’r celfyddydau.

Meddai Kate Thomson, Rheolwr Safle Nantclwyd y Dre:

“Roeddem yn falch iawn o groesawu Jonathan Richards i Nantclwyd y Dre a gweld y tŷ yn llawn o bobl yn mwynhau’r perfformiad. Cafodd groeso cynnes iawn, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn dychwelyd i Nantclwyd y Dre y flwyddyn nesaf am noson arall o gerddoriaeth gitâr clasurol.”

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae Nantclwyd y Dre yn sefydliad sydd â gwerth hanesyddol sylweddol, ac mae’n bwysig ein bod yn cofio ac yn dathlu’r hanes sydd ar garreg ein drws. Mae digwyddiadau fel y rhain yn cynnig ffordd amgen i fwynhau’r tŷ, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl eraill i ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”

Yn dilyn llwyddiant cyngerdd eleni, bydd Jonathan Richards yn dychwelyd i Nantclwyd y Dre y flwyddyn nesaf, gan roi cyfle arall i gynulleidfaoedd brofi ei berfformiad yn amgylchedd unigryw y tŷ hanesyddol.

Caiff rhagor o fanylion am berfformiad y flwyddyn nesaf eu cyhoeddi maes o law. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy treftadaeth@sirddinbych.gov.uk.

Môr-wenoliaid bach yn ffynnu yng Ngronant diolch i ymdrechion cadwraeth

Mae nythfa adar enwog yn Sir Ddinbych wedi dathlu ei hail dymor ar hugain drwy gefnogi tymor bridio gwell dros yr haf ac ystod amrywiol o adar yn ymweld â’r safle.

Llun gan Michael Steciuk

Mae nythfa adar enwog yn Sir Ddinbych wedi dathlu ei hail dymor ar hugain drwy gefnogi tymor bridio gwell dros yr haf ac ystod amrywiol o adar yn ymweld â’r safle.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych unwaith eto wedi croesawu’r Môr-wenoliaid bach yn ôl i’r nythfa yng Ngronant ar gyfer tymor yr haf.

Yr ardal hon yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru. Mae Twyni Gronant adnabyddus ledled y byd ac yn cyfrannu at dros 10% o gyfanswm y niferoedd bridio yn y DU, ac yn cefnogi nythfeydd eraill.

Mae môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf yn Affrica ac yn cyrraedd y twyni tywod ym mis Mai i fridio ar y traeth cerrig mân ar safle gwarchodedig sydd wedi’i baratoi ym mis Ebrill gan staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr ac yn hedfan yn ôl tua’r de ddiwedd mis Awst. Dim ond crafiad yn y tywod yw eu nythod, lle bydd parau, bob yn ail, yn deori rhwng 1 a 3 wy. Mae’r adar yn byw ar ddeiet o lymrïaid yn unig, drwy bysgota amdanynt ar y môr.

Codwyd corlannau ffensys trydan a ffens strap ar hyd ochr y nythfa tua’r tir i warchod y môr-wenoliaid bach sy’n bridio.

Gosodwyd ffens hefyd i atal y cyhoedd rhag mynd at y nythfa a tharfu arni. Fodd bynnag gallai’r cyhoedd alw heibio canolfan wylio dros dro yng nghanolfan y môr-wenoliaid a chuddfan adar i ddod i wybod mwy a gweld yr adar o bell.

Helpodd wardeiniaid y safle i gadw golwg am ysglyfaethwyr o’r awyr ac ar y tir, yn ogystal â siarad gyda’r nifer o ymwelwyr sy’n dod i dwyni Gronant bob blwyddyn.

Yn ystod tymor 2026, cofnodwyd 133 o barau bridio, ynghyd ag o leiaf 153 o gywion bach, cynnydd ar y tymor diwethaf.

Cyfrifwyd bod cynhyrchiant y nythfa oddeutu 1.15 cyw bach fesul pob pâr bridio, gan ragori ar y targed o 0.7 cyw bach i bob pâr, fel yr awgrymwyd gan Cook a Robinson (2010) ar gyfer cynnal poblogaeth gynaliadwy o Fôr-wenoliaid bach.  Roedd hyn unwaith eto’n gynnydd ar dymor 2025.

Roedd y safle ehangach hefyd yn cefnogi cymuned o adar bridio amrywiol. Llwyddodd Cwtiad Torchog a Phïod y Môr i nythu a magu cywion yma, ac fe gafodd dau bâr o Gambigau nytheidiau o bedwar a thri chyw bach.

Fe wnaeth Bodaod y Gwerni hefyd fridio’n llwyddiannus mewn corsle cyfagos, ac fe arsylwyd cyw bach newydd yn ystod mis Gorffennaf. Fe wnaeth amrywiaeth o adar dŵr, adar hirgoes ac adar golfanaidd fridio’n llwyddiannus ar draws y twyni, y lagwnau, y morfa heli a’r corsleoedd.

Fe wnaeth Tîm Modrwyo Adar Gogledd Cymru a Mersey Ringing Group fodrwyo nifer o adar dan drwyddedau Atodlen 1 ac yn unol â phrotocolau Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO). Derbyniodd 135 o gywion Môr-wenoliaid bach fodrwyau metel BTO, ac fe gafodd 48 ohonynt fodrwy lliw hefyd.

Drwy arsylwi’r Môr-wenoliaid bach yn y Nythfa, gwelwyd hefyd bod adar o nythfeydd bridio yn Iwerddon, gogledd ddwyrain Lloegr ac Ynys Manaw yn parhau i ymweld â Thwyni Gronant yn 2026, gan ategu pwysigrwydd y nythfa o fewn y rhwydwaith ehangach o safleoedd Môr-wenoliaid bach o amgylch môr Iwerddon.

Bu i oddeutu 500 o bobl ymweld â Chanolfan y Môr-wenoliaid yn ystod y tymor. Ymwelodd wyth grŵp trefnedig â’r nythfa, yn cynnwys grwpiau bywyd gwyllt a gwylio adar o Swydd Gaer, Gogledd Cymru a Swydd Amwythig, grwpiau cymunedol lleol, a chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Parhaodd y gwirfoddolwyr i chwarae rhan hanfodol yn y prosiect, gan ddarparu 229 awr o gefnogaeth.

Mae’r staff Cefn Gwlad yn gweithredu polisi ‘gadael dim ar ôl’ ar safle’r nythfa ac felly mae’r holl gyfarpar yn cael ei symud a’i gadw’n ddiogel tan y gwanwyn.

Dywedodd Garry Davies, Swyddog Cefn Gwlad a Rheolwr Rhandiroedd Sirol:  “Rydym ni bartneriaid a gwirfoddolwyr yn falch iawn o fod wedi ymwneud â’r prosiect hwn sydd wedi datblygu’n llawer mwy na diogelu aderyn môr hynod o brin. Mae cyfranogiad gwirfoddolwyr yn y nythfa yn parhau i fod yn uwch nac unrhyw weithgaredd arall a gynigir gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad ac mae wedi bod yn wych unwaith eto i weld grwpiau lleol yn ymweld â’r nythfa.

“Mae wedi bod yn dymor gwell fyth i’r adar eleni, sy’n wych ar gyfer y rhywogaeth hon. Mae’r cynnydd yng nghyfartaledd y cywion bach fesul pâr bridio unwaith eto eleni yn dangos mor bwysig yw’r nythfa hon i ddyfodol y Môr-wenoliaid bach. Mae hefyd wedi bod yn braf gweld adar amrywiol eraill o amgylch y nythfa, sydd wir yn dangos mor bwysig yw’r gwaith hwn bob blwyddyn.

“Bu i Bobby Feeley, a oedd yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar y pryd, ymweld â Nythfa’r Môr-wenoliaid bach ac fe wnaeth cryfder a brwdfrydedd y staff wneud argraff arbennig arno. Er eu bod yn gweithio oriau anghymdeithasol ac ym mhob tywydd, roeddent yn cyflawni eu dyletswyddau gyda brwdfrydedd a balchder. Yr ymrwymiad hwn oedd yn sicrhau bod yr adar arbennig a phrin yma yn cael tymor bridio llwyddiannus.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gwarchod Nythfa’r Môr-wenoliaid Bach yn Nhwyni Gronant yn bwysig iawn ar gyfer goroesiad yr adar hyn sydd dan fygythiad. Mae’n galonogol clywed bod tymor 2026 wedi bod yn well fyth ar gyfer y Môr-wenoliaid bach a gall ein timau cefn gwlad, grwpiau partner a gwirfoddolwyr fod yn falch o’r gwaith y maent wedi’i wneud i gefnogi’r nythfa unwaith eto.”

 

 

 

 

Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr 2026

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio i gynhyrchu asesiad cyfredol o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio i gynhyrchu asesiad cyfredol o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Ddinbych.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i gynnal Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) newydd bob pum mlynedd, yn unol â’r Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (Rhan 3, Adran 101). Nod yr asesiad hwn yw darganfod anghenion llety. Nid yw’r asesiad yn ymwneud â dod o hyd i safleoedd addas yn y sir.

Gan weithio ochr yn ochr ag arc4, y cwmni a gomisiynwyd i gyflawni'r gwaith asesu, bydd y gwaith hwn yn helpu'r Cyngor i nodi anghenion llety presennol a dyfodol cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Bydd y canfyddiadau'n llywio polisïau tai a chynllunio yn y dyfodol ac yn cynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams, Aelod Arweiniol Tai, Cynllun Datblygu Lleol a Chymunedau:

"Mae'n bwysig ein bod yn meddu ar ddealltwriaeth gywir a chyfredol o anghenion llety cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Ddinbych.

"Bydd yr asesiad hwn yn rhoi cyfle i deuluoedd ac unigolion rannu eu profiadau a'u barn, gan ein helpu i ddeall anghenion llety presennol ac i’r dyfodol. Rydym am sicrhau bod y broses yn barchus ac yn gynhwysol, ac yn rhoi cyfle i aelodau'r gymuned cael eu lleisiau wedi eu clywed.

"Bydd y wybodaeth a gesglir yn helpu i lywio ein polisïau tai a chynllunio yn y dyfodol ac yn ein cynorthwyo i gyflawni ein dyletswyddau statudol. Byddwn yn annog aelodau o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Ddinbych i gymryd rhan os y gallant."

Bydd y broses yn cynnwys arc4 yn siarad â theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr a bydd yn parhau tan 26 Hydref 2026.

Os ydych yn Sipsi neu'n Deithiwr ac yn byw yn Sir Ddinbych, neu os ydych yn adnabod aelodau o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, boed yn deulu neu'n ffrindiau, a hoffai gymryd rhan yn yr arolwg hwn, gofynnwch iddynt gysylltu ag arc4 drwy ffonio'r rhif ffôn rhad ac am ddim 0800 612 9133 neu anfon e-bost at michael.bullock@arc4.co.uk.

 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â GRTliaisonofficer@denbighshire.gov.uk

 

 

 

 

 

 

Cychwyn gwaith ar wella ffordd yn Llanelwy

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu cyflawni gwaith hanfodol i roi wyneb newydd ar yr A525 yn Llanelwy

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu cyflawni gwaith hanfodol i roi wyneb newydd ar yr A525 yn Llanelwy.

Bydd y gwaith ar yr A525 yn y Ro yn cychwyn ar 11 Hydref, ac mae disgwyl iddo gymryd tuag wythnos i’w gwblhau.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros nos, rhwng 7pm a 6am bob diwrnod, nes y bydd wedi’i gwblhau. Yn ystod yr oriau hyn, bydd y ffordd ddeuol tua’r de o Ruddlan tuag at Lanelwy ar gau am resymau diogelwch. Bydd gwyriadau ar waith.

Dylai trigolion a defnyddwyr y ffordd ganiatáu amser ychwanegol i deithio, gan y gallai fod rhywfaint o oedi a tharfu.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Hoffem ddiolch i’r trigolion sy’n byw ger y lleoliad hwn am eu cefnogaeth, ac i’r gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybr am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig hwn. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn gwella’r llwybr i bawb sy’n ei ddefnyddio.”

“Fe wnawn ni bob ymdrech i gwblhau’r gwaith mor gyflym ac effeithlon ag y gallwn ni, gan darfu cyn lleied ag sy’n bosib ar bawb.”

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiheuro am unrhyw drafferth a achosir, ac yn diolch i’r gymuned leol am eu dealltwriaeth.

 

Gwaith yn datblygu’n dda ar brosiect £2.7 miliwn ar gyfer hwb cymunedol ac estyniad i Ysgol Bro Elwern

Mae gwaith adeiladu ar brosiect estyniad a hwb cymunedol yn Ysgol Bro Elwern yng Ngwyddelwern yn datblygu’n dda, gyda disgwyl trosglwyddiad o’r safle yn niwedd hydref.

Prosiect estyniad a hwb cymunedol yn Ysgol Bro Elwern

Unwaith y caiff ei gwblhau, bydd y hwb Cymunedol yn darparu gofod hyblyg ar gyfer preswylwyr lleol, grwpiau cymunedol a sefydliadau. Bydd y cyfleuster yn cynnig ystafelloedd cyfarfod a gofod neuadd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, hamdden a chymunedol, gan greu cyfleoedd i sefydliadau allanol logi’r lleoliad.

Bydd y hwb yn cael ei oruchwylio gan Bwyllgor Rheoli dynodedig yn cynnwys cynrychiolwyr cymunedol lleol.

Caiff y prosiect gwerth £2.7 miliwn ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru trwy ei grant Cyfalaf yr Iaith Gymraeg a Phrydau Ysgol am Ddim i ddarparu ystafell ddosbarth newydd a chegin o'r radd flaenaf ar gyfer yr ysgol gynradd, ac mae'r hwb cymunedol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU fel rhan o gyllid grant ar gyfer 10 o brosiectau cyfalaf sydd â'r nod o ddiogelu treftadaeth unigryw, lles a chymunedau gwledig Rhuthun.

Mae cyfran sylweddol o waith adeiladu’r hwb Cymunedol wedi cael ei gwblhau, gyda’r gwaith i osod yr ardaloedd mewnol yn mynd rhagddo.

Y tu mewn i'r ganolfan gymunedol

Mae gwaith diweddar wedi cynnwys gosod y gegin gymunedol. Roedd y gwaith gosod yn cynnwys gosod unedau cypyrddau ac oergell a rhewgell cyfun. Bydd y gwaith gosod popty, ffan echdynnu a’r ystafell gyfleustodau yn cael ei gwblhau’n fuan.

Bydd yr estyniad i’r dosbarth yn darparu gwelliant sylweddol i’r gofod addysgu ac yn rhoi gofod ategol i’r ysgol.

Tu mewn y dosbarth newydd

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Teuluoedd, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae gwaith yn datblygu’n dda ar y prosiect hwn, gyda disgwyl i’r trosglwyddiad ddigwydd yn niwedd Hydref.

Mae disgwyl mawr wedi bod am y prosiect yma, a bydd yn darparu gofod gwerthfawr, nid yn unig i’r ysgol, ond y gymuned ehangach hefyd.

Bydd y buddsoddiad yn y cyfleuster newydd hwn yn galluogi preswylwyr a disgyblion i ffynnu, gyda chegin gymunedol fodern, ystafelloedd cyfarfod a neuadd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, hamdden a chymunedol.

Mae cegin gelf o’r radd flaenaf ar gyfer yr ysgol gynradd, yn ogystal â dosbarth newydd hefyd yn cael eu gosod fel rhan o’r prosiect hwn.”

Dywedodd Catrin Phillips, Pennaeth Ysgol Bro Elwern:

“Mae hi wedi bod yn wych gweld y prosiect hwb cymunedol a’r estyniad yn Ysgol Bro Elwern yn datblygu cystal.

Unwaith y caiff ei gwblhau, bydd yn nodi pennod newydd i’n hysgol, ac rydym wrth ein boddau gyda’r cyfleoedd y bydd hyn yn ei ddarparu i’n disgyblion a’r gymuned ysgol ehangach. Fel ysgol, hoffem ddiolch i bawb sydd wedi gwneud y prosiect yn bosibl.”

Planhigfa yn rhoi amddiffyniad o’r newydd i hen warchodwr pobl

Mae hen warchodwr pobl naturiol  yn cael amddiffyniad o’r newydd yn Sir Ddinbych

Mae hen warchodwr pobl naturiol  yn cael amddiffyniad o’r newydd yn Sir Ddinbych.

Mae staff ym Mhlanhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych yng Ngwarchodfa Natur Green Gates yn gweithio i roi hwb i niferoedd y griafolen yn y sir diolch i help gan hen goeden sy’n gwarchod dros Langollen.

Mae planhigfa goed y Cyngor wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae staff y blanhigfa a gwirfoddolwyr yn gweithio i gynyddu niferoedd rhywogaethau o goed, yn cynnwys poplys du, cerddin gwyllt a deri trwy gasglu hadau o’r ardal leol i’w tyfu.

Yn ddiweddar, aeth y staff i Ddinas Bran yn Llangollen i gasglu euron o hen griafolen sydd uwch ben y dref. 

Mae dros 1.5kg o euron yn cael eu prosesu i helpu i sicrhau hadau criafolen hyfyw i’w plannu yn y blanhigfa. Mae’r broses yn cynnwys stwnshio’r euron mewn dŵr a’u rinsio mewn gogr i gael gwared ar y cnawd er mwyn cael at yr hadau. 

Fel arfer, gwelir y griafolen ar fynyddoedd a rhostir ac fe’i gelwir hefyd yn ‘gerddinen’. Yn y gorffennol, fe’i cysylltwyd â llên gwerin a byddai pobl yn rhoi pren y goeden ar ddrysau i warchod eu cartrefi rhag ‘ysbrydion drwg’.  

Mewn chwedlau Celtaidd, gelwid y goeden yn ‘goeden y teithiwr’ oherwydd y gred y byddai cario brigyn y griafolen yn atal ac yn gwarchod pobl rhag mynd ar goll wrth deithio. 

Mae blodau’r gwanwyn ar y goeden yn hoff ffynhonnell bwyd i wenyn, gloÿnnod byw a gwyfynod ac yn y gwanwyn mae’r euron yn denu adenydd cwyr, y coch dan adain a bronfreithod eraill. 

Meddai Keegan Blazey, Swyddog yn y Blanhigfa Goed: “Mae’r griafolen wedi cael blwyddyn eithriadol o gynhyrchu euron, mae’n bosibl oherwydd y tywydd poeth yn ystod yr haf. Rydym hefyd wedi sylwi mai ychydig iawn o hadau mae’r dderwen wedi’u cynhyrchu oherwydd cylch mes naturiol y goeden i ddrysu ysglyfaethwyr a chadw poblogaeth mewn trefn.  Bydd y ffyniant hwn yn euron y griafolen yn ein helpu i lenwi’r bwlch i gynhyrchu coed lleol er lles ein bioamrywiaeth.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae tarddiad lleol yn allweddol i’r hyn mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn ei wneud yn y blanhigfa, felly mae’n wych gallu parhau â thras yr hen griafolen hon sy’n edrych dros Langollen ar hyd a lled ein sir yn y dyfodol.

“Trwy ofalu am hadau’r griafolen a’u tyfu yn y blanhigfa cyn eu plannu, bydd y tîm yn helpu i wella eu cyfraddau goroesi wrth gefnogi rhywogaeth frodorol sy’n cynnig gwerth gwirioneddol o ran bioamrywiaeth, o wenyn a pheillwyr eraill i wyfynod, adar a llawer o rywogaethau eraill.”

 

 

Ceisiadau am leoedd ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ar agor

Mae bellach yn bosibl i rieni a gwarcheidwaid wneud cais am leoedd mewn dosbarth Meithrin, Derbyn neu mewn ysgol Iau ar gyfer 2027 yn Sir Ddinbych.

Gall rhieni a gwarcheidwaid wneud cais am le mewn dosbarth Meithrin ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2023 a 31 Awst 2024. Mae modd gwneud cais tan 15 Chwefror.

Mae modd gwneud cais am le mewn dosbarth Derbyn hyd at 15 Ionawr ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023.

Gall rhieni a gwarcheidwaid gofrestru eu plentyn mewn dosbarth Derbyn ym mis Medi yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn bedair oed.

Mae modd gwneud cais am le mewn ysgol Iau hyd at 15 Ionawr ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2019 a 31 Awst 2020.

I wneud cais am le, bydd angen i rieni a gwarcheidwaid greu cyfrif Hunanwasanaeth Addysg i wneud cais yn uniongyrchol. Gellir creu cyfrif unrhyw bryd yn ystod tymor yr ysgol neu ar ôl i'r tymor ddod i ben.

Bydd unrhyw geisiadau y tu allan i'r cyfnod hwn yn cael eu trin fel rhai hwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Teuluoedd, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

"Rydym yn falch o gyhoeddi ei bod bellach yn bosibl gwneud cais am leoedd mewn dosbarthiadau Meithrin, Derbyn neu mewn ysgolion Iau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae dechrau'r ysgol bob amser yn gyfnod cyffrous i deuluoedd, ac rydym yn gobeithio bod y cyfnodau hyn ar gyfer gwneud cais yn rhoi digon o amser i rieni a gwarcheidwaid ddewis yr ysgolion y maent yn eu ffafrio.

Hoffwn annog rhieni i gyflwyno eu ceisiadau o fewn y cyfnodau penodedig, gan fod hyn yn sicrhau y gellir prosesu'r cais ar amser."

Mae’r ddolen i’w gweld isod:

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac-ysgolion/derbyn-i-ysgol/derbyn-i-ysgol.aspx

Gwaith i ddechrau ar symud compownd arfordirol y Rhyl

Bydd gwaith yn cychwyn cyn bo hir i gael gwared â’r compownd safle a osodwyd ac a ddefnyddiwyd yn ystod y cynllun amddiffyn arfordirol ym Marine Drive, y Rhyl.

Bydd gwaith yn cychwyn cyn bo hir i gael gwared â’r compownd safle a osodwyd ac a ddefnyddiwyd yn ystod y cynllun amddiffyn arfordirol ym Marine Drive, y Rhyl.

Bwriedir cychwyn y gwaith adeiladu ar 26 Hydref 2026 a disgwylir y bydd wedi’i gwblhau erbyn dydd Gwener 13 Tachwedd 2026, yn amodol ar y tywydd ac unrhyw amgylchiadau annisgwyl.

Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared â’r llawr caled yn y compownd ac adfer y safle i’w gyflwr blaenorol.

Bydd y palisau a’r ffensys yn aros yn eu lle dros dro, er mwyn diogelu’r safle tra bydd y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo. Ar ôl ei gwblhau, bydd y safle’n cael ei ailagor i’r cyhoedd ei ddefnyddio er dibenion hamdden.

Bydd prif elfennau’r gwaith sy’n cael ei wneud yn cynnwys:

  • Clirio’r safle’n gyffredinol.
  • Cael gwared â’r llawr caled presennol gan ddefnyddio peiriant plaenio ffyrdd.
  • Llenwi’r safle gyda’r gweddillion.
  • Cloddio’r isbridd sydd eisoes wedi’i bentyrru.
  • Llenwi’r safle gyda’r isbridd presennol.
  • Cael gwared â’r fynedfa gerbydau bresennol oddi ar Marine Drive ac adfer y droedffordd.
  • Codi ffensys.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydym yn falch o allu dechrau gwaith i adfer y compownd hwn i’w gyflwr blaenorol cyn y gwaith ar amddiffynfeydd llifogydd arfordirol. Rwy’n gwybod bod preswylwyr lleol wedi bod yn awyddus i weld hyn yn digwydd a bydd y gwaith hwn yn galluogi’r cyhoedd i ddefnyddio’r ardal unwaith eto.

“Bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i gwblhau’r gwaith mor gyflym ac effeithlon ag y gallwn ni, gan darfu cyn lleied ag sy’n bosib ar bawb yn yr ardal gyfagos.”

 

Ffair Swyddi lwyddiannus arall gan Sir Ddinbych yn Gweithio

Daeth trigolion o bob rhan o Sir Ddinbych ynghyd ym Marchnad y Frenhines, y Rhyl, ar 30 Medi ar gyfer Ffair Swyddi lwyddiannus a gysylltodd geiswyr gwaith â chyflogwyr lleol, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau cymorth a oedd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd.

Croesawodd y digwyddiad dros 500 o fynychwyr drwy gydol y dydd, gan ddarparu cyfle gwerthfawr i bobl o bob oedran a chefndir archwilio swyddi gwag cyfredol, darganfod llwybrau hyfforddi, cael cyngor gyrfaoedd a siarad yn uniongyrchol â sefydliadau oedd yn recriwtio.

Roedd cyflogwyr a sefydliadau cymorth o amrywiaeth o sectorau yn bresennol, gan greu amgylchedd bywiog a deniadol lle gallai ymwelwyr ddysgu mwy am gyfleoedd lleol, gofyn cwestiynau, cyflwyno ceisiadau a meithrin cysylltiadau gwerthfawr. Manteisiodd llawer o’r mynychwyr ar y cyfle i siarad wyneb yn wyneb â recriwtwyr, tra cafodd eraill arweiniad a chymorth i’w helpu i gymryd y camau cadarnhaol nesaf tuag at gyflogaeth.

Cafodd y Ffair Swyddi ei chynnal drwy ymdrech gydweithredol rhwng cyflogwyr lleol, gwasanaethau cyflogadwyedd, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau cymunedol, gyda phawb yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi trigolion i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, addysg a hyfforddiant.

Chwaraeodd Sir Ddinbych yn Gweithio ran allweddol wrth gydlynu’r digwyddiad a darparu cymorth ar y diwrnod. Roedd cynghorwyr ar gael drwy gydol y digwyddiad i gynnig arweiniad cyflogaeth personol, cymorth gyda CV, gwybodaeth am raglenni hyfforddi lleol a chyngor ar oresgyn rhwystrau i waith.

Dywedodd Peter Cadmore, Rheolwr Ymyrraeth Gynnar yn Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Dangosodd y Ffair Swyddi faint o gyfleoedd sydd ar gael yn ein hardal leol a thynnodd sylw at gryfder gweithio mewn partneriaeth. Roedd yn wych gweld cynifer o drigolion yn ymgysylltu â chyflogwyr, yn darganfod posibiliadau newydd ac yn cymryd camau cadarnhaol tuag at gyflawni eu nodau cyflogaeth.

Hoffem ddiolch i’r holl sefydliadau a fynychodd ac a gyfrannodd at wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant. Mae eu hymrwymiad i gefnogi pobl leol yn amhrisiadwy ac yn helpu i greu cymunedau cryfach a mwy gwydn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd:

“Mae creu cyfleoedd i bobl leol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor, ac mae digwyddiadau fel hwn yn darparu llwyfan pwysig i drigolion gysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr a gwasanaethau cymorth.

“Roedd yn galonogol gweld lefel mor uchel o ymgysylltu drwy gydol y dydd, gan ddangos uchelgais ein trigolion a pharodrwydd cyflogwyr a phartneriaid i fuddsoddi mewn talent leol.”

Amlygodd adborth gan fynychwyr awyrgylch cadarnhaol y digwyddiad, gyda llawer yn gwerthfawrogi’r cyfle i gwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb, dysgu am lwybrau gyrfa a chael mynediad at wasanaethau cymorth i gyd o dan yr un to.

Mae’r Ffair Swyddi yn rhan o ymdrechion parhaus i gefnogi twf economaidd ledled Sir Ddinbych drwy helpu trigolion i ddatblygu sgiliau, magu hyder a chael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy.

Am wybodaeth am ddigwyddiadau cyflogadwyedd yn y dyfodol, cyfleoedd hyfforddi a’r cymorth sydd ar gael drwy Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i wefan Sir Ddinbych yn Gweithio.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol drwy raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi pobl sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth i gael mynediad at yr help, yr arweiniad a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i symud yn nes at waith.

 

Disgyblion yn helpu ymgyrch clirio sbwriel ar draeth Prestatyn

Mae digwyddiad partneriaeth wedi dychwelyd i draeth Barkby i helpu i fynd i’r afael â sbwriel

Mae digwyddiad partneriaeth wedi dychwelyd i draeth Barkby i helpu i fynd i’r afael â sbwriel.

Yn ddiweddar, daeth Tîm Risg Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych, mewn partneriaeth â TYFU Prestatyn ac ymgyrch Glanhau Traethau Prydain Fawr gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol, gydag offer gan Cadwch Gymru'n Daclus, yn ôl i draeth Barkby i barhau i fynd i’r afael â sbwriel morol.  

Gyda chefnogaeth tîm o 38 o wirfoddolwyr, yn cynnwys disgyblion o Ysgol Uwchradd Prestatyn, trefnwyd y digwyddiad i barhau â’r gwaith o leihau effaith sbwriel morol yn yr ardal, sy’n gallu rhwystro dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif dŵr ac arwain at fwy o risg o lifogydd lleol yn uwch i fyny’r afon.  

Casglodd y tîm partneriaeth 15 bag o sbwriel o ardal arfordir Prestatyn, oedd yn pwyso 24kg.

Ymhlith y pethau anarferol a gasglwyd gan y tîm oedd cyrn beic, cadair gwersylla, peipiau, padelli ffrio, barcud a hyd yn oed esgid Crocs binc.

Meddai Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Roedd yn wych bod disgyblion Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi ymuno â ni y tro hwn. Fe weithiodd y disgyblion yn galed gyda phob un ohonom i ymdrin ag effaith sbwriel o’r môr yn ardal Prestatyn, sy’n gallu rhwystro dyfrffyrdd a draeniau, atal llif y dŵr a chreu mwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

“Mae eu hymdrech i gael gwared â’r sbwriel o’r traeth hefyd yn helpu amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd rhag y môr yn well.

Ychwanegodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r bartneriaeth hon, dan arweiniad tîm Risg Llifogydd y Cyngor wedi dod yn bwysig i leihau effaith sbwriel morol ar ein harfordir o’r Rhyl i Brestatyn. Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith parhaus i gefnogi’r amgylchedd, yn enwedig y disgyblion a ymunodd y tro hwn, gan y gallant fod yn falch o’u hymdrechion i amddiffyn y cynefin hwn i breswylwyr lleol a natur.”

Gwelliannau wedi'u cynllunio ar gyfer maes parcio Traeth Barkby yn Prestatyn

Mae cynlluniau wedi'u datblygu i wella maes parcio Traeth Barkby ym mhen dwyreiniol arfordir Prestatyn, gan greu cyfleuster parcio sy'n haws i’w gyrraedd, yn fwy gwydn ac sydd â gwell system ddraenio.

Mae cynlluniau wedi'u datblygu i wella maes parcio Traeth Barkby ym mhen dwyreiniol arfordir Prestatyn, gan greu cyfleuster parcio sy'n haws i’w gyrraedd, yn fwy gwydn ac sydd â gwell system ddraenio.

Caiff y maes parcio, a ddefnyddir yn bennaf fel cyfleuster ychwanegol pan fydd y galw ar ei uchaf, ei uwchraddio i wella draeniad, hygyrchedd a'i gyflwr cyffredinol, gan ddarparu seilwaith i gefnogi gwelliannau yn y dyfodol.

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar 5 Hydref 2026 a'i fod wedi'i gwblhau i raddau helaeth yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 7 Rhagfyr 2026, yn amodol ar y tywydd ac unrhyw gyfyngiadau gweithredol annisgwyl.

Bydd y prosiect yn cynnwys ail-wynebu'r maes parcio presennol gan ddefnyddio system grid graean athraidd ac adeiladu llwybr mynediad newydd i gerbydau.

Gyda'i gilydd, bwriad y mesurau hyn yw gwella'r ffordd y rheolir dŵr arwynebol, gwella hygyrchedd a darparu cyfleuster parcio mwy gwydn.

Mae prif elfennau'r gwaith yn cynnwys:

  • Clirio’r safle’n gyffredinol.
  • Chwalu’r is-sylfaen a’r uwchbridd presennol sydd wedi’u cywasgu.
  • Adeiladu troedffordd newydd.
  • Adeiladu dwy groesfan fotymog heb reolaeth i gerddwyr.
  • Gwaith gosod cwrbin.
  • Gosod marciau ffordd newydd.
  • Adeiladu lôn gerbydau.
  • Gosod wyneb grid graean athraidd.

Dywedodd y Cynghorydd James Elson, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant: "Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud maes parcio Traeth Barkby yn haws ei gyrchu, yn fwy gwydn ac yn well o ran rheoli dŵr wyneb. Bydd yn darparu cyfleuster mwy gwydn i drigolion ac ymwelwyr â'r ardal yn ystod cyfnodau prysur, gan gefnogi gwelliannau yn y dyfodol ar y safle hefyd."

 

 

 

Cyfleusterau dosbarth newydd yn dechrau siapio yn Ysgol y Castell

Mae’r gwaith ymestyn ac ailwampio yn Ysgol y Castell wedi gwneud cynnydd da iawn dros wyliau’r haf. 

Dechreuodd y prosiect, sy'n cynrychioli buddsoddiad o dros £1.7 miliwn, yn ystod haf 2025, a bydd yn darparu gofod ychwanegol ym mhedair o’r dosbarthiadau presennol.

Estyniad Ysgol y Castell

Bydd yr estyniadau’n darparu 16 metr sgwâr o ofod ychwanegol i bedair ystafell ddosbarth, gan greu estyniad o 64 metr sgwâr at ddefnydd disgyblion, a byddwn yn gweld cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu ar yr un pryd.

Mae’r cynnydd a wnaed dros yr haf yn golygu bod bob un o’r dosbarthiadau newydd bellach yn cael eu defnyddio.  Mae gwaith rendro a phaentio allanol hefyd wedi’i gwblhau ar yr estyniad newydd, a disgwylir y bydd pibellau dŵr yn cael eu gosod a’r iard yn cael ei pheintio dros yr wythnosau nesaf.

Gosodwyd drysau newydd drwy adeilad yr ysgol ac mae gwaith yn mynd rhagddo i uwchraddio mesurau diogelwch tân a gwella cadernid a diogelwch safle’r ysgol. 

Bydd angen cwblhau gwaith addurno pellach mewn cysylltiad â’r drysau newydd, a bydd gwaith i fynd i’r afael â mân broblemau a diogelwch tân yn cael eu cwblhau yn ystod hanner tymor yr hydref.

Mae’r prosiect ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau yn unol â’r rhaglen wreiddiol, a disgwylir y bydd y gwaith wedi gorffen erbyn y gaeaf eleni.

Darperir y prosiect gan BrynBuild Ltd ac fe’i hariannir gan Lywodraeth Cymru, drwy ei Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, cyfraniadau datblygwyr a ddarparwyd gan ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan, a Chyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Disgwylir i’r prosiect ymestyn ac ailwampio Ysgol y Castell, Rhuddlan gan ddarparu gofod a chyfleusterau dysgu gwell a newydd a chreu cyfanswm o 64 metr sgwâr o ofod ychwanegol unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.

Rwy’n hapus iawn â’r cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas â’r prosiect hwn, ac rydym yn falch iawn o weld y disgyblion a’r athrawon yn manteisio ar y gofod ychwanegol a’r gwelliannau. Mae’r prosiect ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, yn unol â’r rhaglen waith wreiddiol.

Mae’r buddsoddiad hwn yn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu addysg o ansawdd uchel ar draws y sir a sicrhau fod disgyblion Ysgol y Castell yn elwa o’r cyfleusterau newydd a gwell hyn nawr ac am flynyddoedd i ddod.”

Gwaith ffordd hanfodol i ddechrau ar yr A525 yn Llandegla

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cwblhau gwaith ail-wynebu hanfodol ar yr A525 yn Llandegla'r mis hwn

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cwblhau gwaith ail-wynebu hanfodol ar yr A525 yn Llandegla'r mis hwn.

Bydd y gwaith yn dechrau ar 8 Hydref a disgwylir iddo bara ychydig dros dair wythnos. Bydd yn cael ei wneud ar groesffordd y Crown Inn ar yr A525.

Bydd system confoi yn rheoli traffig yn ystod y dydd er mwyn i’r gwaith gael ei wneud yn ddiogel ac i gadw’r tarfu ar drigolion lleol a gyrwyr mor isel â phosibl. Dylai trigolion a defnyddwyr y ffordd ganiatáu mwy o amser ar gyfer eu teithiau gan ei bod yn debygol y bydd oedi.

Bydd rhywfaint o’r gwaith hwn hefyd yn cael ei wneud dros nos er mwyn helpu i gynnal diogelwch a lleihau’r tarfu yn yr ardal i drigolion. Yn ystod y gwaith dros nos, bydd y ffyrdd llai oddi ar yr A525 ar gau dros dro ar 20 a 21 Hydref. Bydd arwyddion dargyfeirio mewn lle pan fo angen.

Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y gwaith hanfodol hwn yn gwella’r ffordd hwn i’r modurwyr sy’n ei ddefnyddio. Hoffai’r Cyngor estyn diolch i’r trigolion sy’n byw gerllaw am eu cefnogaeth ac i’r gyrwyr sy’n defnyddio’r ffordd hwn am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig hwn.”

“Byddwn yn gwneud pob ymdrech i gwblhau’r gwaith mor gyflym ac effeithlon â phosibl er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein trigolion.”

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ac yn diolch i’r gymuned leol am ei dealltwriaeth.

 

 

Gwahodd trigolion i fforwm cymunedol Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Gwahoddir trigolion i leisio eu barn yn Fforwm Cymunedol nesaf Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ym Mrymbo.

Gwahoddir trigolion i leisio eu barn yn Fforwm Cymunedol nesaf Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ym Mrymbo.

Bydd y fforwm cymunedol, a gynhelir ar 1 Hydref, yn gyfle i glywed am y gwaith sy’n cael ei wneud ledled Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Bydd y rhai sy’n mynychu’r fforwm yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion tîm y Dirwedd Genedlaethol i gefnogi adferiad poblogaethau’r gylfinir, ac yn dysgu rhagor am y gwaith sy’n cael ei wneud i helpu i atal tanau rhostir ac i ddiogelu’r dirwedd, bywyd gwyllt a chynefinoedd pwysig.

Yn ogystal â chlywed am brosiectau cyfredol, mae’r fforwm wedi’i gynllunio i fod yn sgwrs ddwyffordd. Gall trigolion, Cynghorau Tref a Chymuned, yn ogystal â grwpiau lleol, rannu eu prosiectau a’u syniadau eu hunain, trafod materion lleol a chael rhagor o wybodaeth am gymorth ymarferol, offer cynllunio cymunedol a chyfleoedd ariannu posibl sydd ar gael iddynt.

Dywedodd y Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol dros Gynllunio, y Cefn Gwlad a Chymunedau Mwy Diogel:

“Mae fforymau fel hyn yn cynnig cyfle gwych i’r gymuned leol ddeall y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud ledled Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

“Maent hefyd yn darparu lle diogel i’r gymuned gwrdd â’r tîm a thrafod eu syniadau, gofyn cwestiynau a chodi unrhyw faterion sydd ganddynt. Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y Dirwedd Genedlaethol i ddod i’r fforwm cymunedol nesaf ym Mrymbo.”

Cynhelir y fforwm ddydd Iau 1 Hydref rhwng 7pm ac 8:30pm yn Ystafell Charles Darby, Stori Brymbo, New High Street, Brymbo, Wrecsam, LL15 5AX.

I archebu eich lle, cliciwch yma. Fel arall, gallwch anfon e-bost at loggerheads.countrypark@denbighshire.gov.uk neu ffonio 01824 712757.

Cyngor yn erfyn ar drigolion i helpu i gadw ardaloedd cymunedol yn lân

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog trigolion ac ymwelwyr i waredu eu gwastraff yn gyfrifol, fel rhan o waith parhaus i fynd i'r afael â sbwriel ar draws cymunedau.

Meddylia cyn tafluMae taflu sbwriel yn drosedd amgylcheddol, a gellir rhoi Rhybudd Cosb Benodedig i unrhyw un a ddelir yn taflu sbwriel os ceir digon o dystiolaeth.

Mae Tîm Troseddau Amgylcheddol y Cyngor eisoes wedi cyhoeddi nifer o Rybuddion Cosb Benodedig ar draws y sir, i gefnogi ymdrechion ehangach i atal troseddau amgylcheddol a gwella glendid ac ymddangosiad cymunedau Sir Ddinbych.

Gall taflu sbwriel gael effaith sylweddol ar gymunedau lleol, yr amgylchedd a bywyd gwyllt. Gall ddifetha golwg strydoedd a mannau cyhoeddus, arwain at gostau glanhau ychwanegol ac annog mwy o sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gall sbwriel sy'n cael ei daflu'n ddi-hid hefyd beri risg ddifrifol i fywyd gwyllt, wrth i anifeiliaid gael eu hanafu neu lyncu eitemau sydd wedi'u gadael ar ôl.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych, "Rydym yn erfyn ar bobl i chwarae eu rhan wrth gadw Sir Ddinbych yn lân ac yn groesawus. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud y peth iawn, ac rydym yn ddiolchgar i drigolion ac ymwelwyr sy'n mynd â'u sbwriel adref neu'n defnyddio'r biniau a ddarperir." 

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  Rydym yn gweithio'n galed i leihau troseddau amgylcheddol ar draws Sir Ddinbych ac yn parhau i gymryd camau yn erbyn y rhai sy'n dewis gadael sbwriel yn ein cymunedau, gan fod hynny'n cael effaith wirioneddol ar ein strydoedd, ein mannau agored, ein bywyd gwyllt a'n cymunedau lleol. Pan fydd pobl yn dewis taflu sbwriel a bod tystiolaeth o hynny, gellir cymryd camau gorfodi, gan gynnwys rhoi Rhybuddion Cosb Benodedig."

Mae dull gweithredu'r Cyngor yn canolbwyntio ar addysgu, atal a newid ymddygiad, ochr yn ochr â chymryd camau gorfodi priodol lle bo angen. Mae swyddogion yn gweithio gyda thrigolion, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol i annog pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu gwastraff a helpu i gadw Sir Ddinbych yn lân.

Anogir aelodau o'r cyhoedd hefyd i roi gwybod am faterion amgylcheddol a darparu gwybodaeth a allai gynorthwyo gydag ymchwiliadau.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i fonitro ardaloedd ar draws y sir ac yn cymryd camau gorfodi priodol lle nodir troseddau amgylcheddol a lle mae tystiolaeth yn profi hynny.

Gwahodd preswylwyr i ddweud eu dweud am ddyheadau ailgylchu y Sir

Mae preswylwyr yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud am ddatblygu cynllun pum mlynedd newydd ar gyfer ailgylchu a gwastraff yn Sir Ddinbych.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn llunio dogfen a fydd yn nodi sut maen bwriadu rheoli ailgylchu a gwastraff yn y Sir dros y pum mlynedd nesaf.

Mae newidiadau sydd i ddod i ganllawiau cenedlaethol ar gyfer ailgylchu yn golygu ei bod hi’n hanfodol fod y Cyngor yn blaengynllunio ac yn sicrhau bod y gwasanaethau ailgylchu sy’n cael eu cynnig yn ddibynadwy, yn addas at y dyfodol ac yn cynnig gwerth da am arian i drethdalwyr.

Mae’r Cyngor wedi gosod set o brif flaenoriaethau o amgylch y meysydd canlynol:

  • Atal a lleihau gwastraff: mae’r Cyngor angen sicrhau ei fod yn helpu preswylwyr i wneud dewisiadau sydd yn atal gwastraff rhag cael ei greu yn y lle cyntaf
  • Ailddefnyddio a thrwsio: mae’r Cyngor angen ystyried ffyrdd y gall helpu preswylwyr i wneud y defnydd gorau o eitemau maen nhw eisoes yn berchen arnynt
  • Ailgylchu: mae’r Cyngor angen cyrraedd targed ailgylchu o 70% cyn gynted â phosibl

 

Er mwyn helpu i lywio’r cynllun, mae’r Cyngor wedi lansio ymgynghoriad sydd yn canolbwyntio ar ddau beth:

  • Gofyn i breswylwyr edrych ar fersiwn ddrafft o gynllun gweithredu ar gyfer pob un o’r meysydd blaenoriaeth a nodi a ydynt yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynigion
  • Bydd y Cyngor yn gofyn cwestiynau i breswylwyr am eu harferion ailgylchu personol i geisio deall beth sy’n ysgogi pobl i ailgylchu, a beth allai atal pobl rhag ailgylchu

Mae’r ymgynghoriad ar agor i holl breswylwyr Sir Ddinbych tan ddydd Sul 18 Hydref 2026.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Ailgylchu a Gwastraff yw un o’r gwasanaethau mwyaf gweladwy y mae’r Cyngor yn ei ddarparu ac mae’n effeithio ar bob aelwyd yn y Sir.  Rydym wedi gwneud newidiadau mawr i’n casgliadau ailgylchu a gwastraff dros y blynyddoedd diwethaf i fod o flaen y ddeddfwriaeth, ac rydym ni’n parhau i wneud mwy. Rydym ni newydd lansio cyfnod prawf o gasgliadau plastig meddal o tua 4,500 o gartrefi yn Sir Ddinbych. Unwaith y bydd y cyfnod prawf yma’n dod i ben, byddwn yn ystyried yr opsiynau o ran casgliadau yn y dyfodol, cyn ei gyflwyno ar hyd a lled y Sir.

“Mae’r gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y mae’r Cyngor yn ei ddarparu angen bod yn flaengar ac yn barod ar gyfer newidiadau yn y dyfodol. Mae gofyn i breswylwyr ein helpu i siapio ein cynllun pum mlynedd yn hollbwysig a buaswn yn annog pawb sydd â diddordeb i sicrhau eu bod nhw’n cymryd rhan.”

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gall preswylwyr fynd i www.sirddinbych.gov.uk/ymgynghoriadau neu gallant ymweld ag unrhyw Lyfrgell Cyngor Sir Ddinbych a Siop Un Alwad i ofyn am fersiwn papur o’r pecyn ymgynghori.

Gwaith ailwynebu hanfodol i gael ei gynnal ar Ffordd Tynewydd, Y Rhyl

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal gwaith ailwynebu hanfodol ar Ffordd Tynewydd, Y Rhyl, o ddydd Llun 5 Hydref 2026.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal gwaith ailwynebu hanfodol ar Ffordd Tynewydd, Y Rhyl, o ddydd Llun 5 Hydref 2026.

Disgwylir i'r gwaith gymryd tua phythefnos i'w gwblhau a bydd yn cael ei gynnal rhwng cyffordd Ffordd y Glannau a chyffordd Ffordd Bridgegate.

Er mwyn helpu i sicrhau y gellir cyflawni'r gwaith yn ddiogel a chyda chyn lleied o aflonyddwch â phosibl yn ystod y dydd, bydd y ffordd ar gau i draffig rhwng 6pm ac 1am drwy gydol cyfnod y gwaith.

Bydd mynediad yn cael ei gynnal, ond dylai preswylwyr a defnyddwyr y ffordd ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau gan y gallent brofi rhywfaint o oedi ac aflonyddwch. Bydd llwybr dargyfeirio wedi'i arwyddo yn ystod y gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:

“Rydym yn gwybod y gall gwaith ffordd achosi anghyfleustra i drigolion lleol ac i'r rhai sy'n teithio drwy'r ardal, ond mae'r gwaith hwn yn bwysig er mwyn helpu i wella cyflwr y ffordd.

“Hoffem ddiolch i drigolion, busnesau a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd a'u cydweithrediad tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei gyflawni. Gwneir pob ymdrech i gwblhau'r gwaith mor gyflym ac effeithlon â phosibl a lleihau aflonyddwch.”

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir ac yn diolch i'r gymuned leol am eu dealltwriaeth.

Ymateb Cyngor Sir Ddinbych i'r dyfarniadau yn yr achos camfanteisio rhywiol ar blant

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn meddwl am, ac yn cydymdeimlo gyda’r merched ifanc sydd wrth wraidd yr achos ymal, a dymunwn gydnabod y dewrder a’r gwroldeb a ddangoswyd ganddynt wrth siarad allan i sicrhau cyfiawnder mewn amgylchiadau hynod o anodd.

Bellach, gan fod y rhai sy'n gyfrifol am y cam-drin a ddioddefwyd gan y bobl ifanc wedi cael eu dwyn o flaen eu gwell, bydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru (NWSB) yn bwrw ymlaen â'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR), a gynhelir yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Nid yw'r SUSR yn rhan o'r broses droseddol; ei nod yw archwilio sut y bu i asiantaethau ymwneud â'r bobl ifanc a nodi pa wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithredu'n llawn ac yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd, Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill fel rhan o'r broses hon.

Mae dedfrydiadau heddiw yn dod â phennod hynod anodd ac emosiynol i ben i'n cymuned. Rydym yn deall bod yr achos hwn wedi bod yn heriol ac wedi codi teimladau cryf. Gofynnwn i bawb barchu'r broses gyfreithiol a'i gilydd wrth i ni ymdopi â'r canlyniad hwn.

Cerdded, sgwrsio a gwella llesiant, un cam ar y tro gyda Sir Ddinbych yn Gweithio

Mae pobl ifanc yn Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymuno â theithiau cerdded llesiant wythnosol Sir Ddinbych yn Gweithio, sydd wedi bod yn helpu cyfranogwyr i gysylltu ag eraill, mynd allan i’r awyr agored a gwella eu llesiant ers dros flwyddyn.

Yn cael eu cyflwyno gan dîm Barod yn Sir Ddinbych yn Gweithio mewn partneriaeth â Ramblers Cymru, mae’r teithiau cerdded yn cynnig amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed fwynhau manteision natur, magu hyder a chwrdd â phobl newydd wrth archwilio rhai o lwybrau cerdded harddaf Gogledd Cymru.

Mae’r sesiynau’n cael eu cefnogi’n llawn gan staff Barod a Ramblers Cymru, gyda’r llwybrau’n cael eu dewis gan y grŵp. Mae cyfranogwyr wedi archwilio amrywiaeth o lwybrau lleol a rhanbarthol tra’n datblygu sgiliau awyr agored ymarferol megis llywio a chynllunio llwybrau.

Mae’r teithiau cerdded yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth leihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, gan ddarparu amgylchedd croesawgar lle gall pobl ifanc gymdeithasu, rhannu profiadau a mwynhau amser yn yr awyr agored gyda’i gilydd.

Yn agored i drigolion Sir Ddinbych rhwng 18 a 25 oed, mae’r teithiau cerdded yn croesawu pobl o bob lefel ffitrwydd a gallu. Nid oes pwysau i drafod cyflogaeth na chynlluniau ar gyfer y dyfodol, ond gall yr amgylchedd cefnogol helpu cyfranogwyr i feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd a theimlo’n fwy parod i gymryd eu camau nesaf pan fyddant yn barod.

Dywedodd Paul Dunham, sy’n mynychu’r sesiynau Cerdded a Sgwrsio yn rheolaidd:

“Mae mynd allan i’r awyr agored a chwrdd â phobl newydd wedi helpu i feithrin fy hyder yn fawr. Doeddwn i erioed wedi bod i Moel Famau o’r blaen, felly roedd ymweld â rhywle newydd a gosod yr her i ni ein hunain o gyrraedd y copa yn gyffrous iawn. Rhoddodd hynny deimlad gwirioneddol o gyflawniad ac ysbryd tîm i mi.

"Roeddwn i’n mwynhau siarad â phobl wahanol ar hyd y daith, a helpodd hynny fi i deimlo’n rhan o’r grŵp. Mae’r profiad wedi fy ysbrydoli i wneud mwy o gerdded a pharhau i feithrin fy hyder a’m gwytnwch.

"Rwy’n hapus i barhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda Barod a Sir Ddinbych yn Gweithio oherwydd eu bod yn dod â phobl ynghyd sydd i gyd ar eu taith eu hunain ac yn helpu i greu gwir ymdeimlad o berthyn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd

“Gall mynd allan i’r awyr agored a bod yn egnïol gael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol, ac mae’n galonogol gweld y bartneriaeth hon yn parhau i gefnogi pobl ifanc ledled Sir Ddinbych mewn ffordd mor ymarferol a chynhwysol. Byddwn yn annog unrhyw un a allai elwa o gymryd rhan i ddod draw a rhoi cynnig arni.”

Dywedodd Olivia Evans o Ramblers Cymru:

“Mae ein partneriaeth â rhaglen Barod Sir Ddinbych yn Gweithio wedi bod yn gyfle gwych i bobl Sir Ddinbych. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cyflawni llawer iawn, o’n teithiau cerdded wythnosol sydd wedi helpu pobl i gysylltu â’i gilydd, i ddiwrnodau yn y bryniau, cyrsiau llywio a llawer mwy.

“Wrth i ni barhau, byddwn yn datblygu cyfleoedd megis cynllun mentora i helpu cyfranogwyr i ennill y sgiliau a’r hyder i ddechrau arwain teithiau cerdded eu hunain gyda’n cefnogaeth ni. Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda’n gilydd a thynnu’r dillad glaw allan eto wrth i ni fynd i mewn i’r tymor sydd o’n blaenau!”

Mae’r teithiau cerdded llesiant yn cael eu cynnal bob dydd Iau am 3pm, gan gyfarfod yn Llyfrgell Y Rhyl, gyda chymorth trafnidiaeth ac offer ar gael lle bo angen. Wrth i’r dyddiau fynd yn fyrrach dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf, efallai y bydd yr amseroedd cychwyn yn cael eu haddasu ychydig. Anogir cyfranogwyr i ddilyn sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Ddinbych yn Gweithio am y wybodaeth ddiweddaraf a manylion y teithiau cerdded.

Nid oes angen archebu lle, ac anogir cyfranogwyr i wisgo dillad addas ar gyfer y tywydd. Mae croeso hefyd i ffrindiau ymuno.

Am ragor o wybodaeth, gall trigolion ffonio 01745 331438 neu ymweld â gwefan Sir Ddinbych yn Gweithio.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU a nifer o raglenni, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer Cymru-DU sy’n targedu anweithgarwch economaidd, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF), a Cysylltu â Gwaith.

Cyngor yn lansio cefnogaeth deithio wyrddach i staff

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio cynllun gwyrddach i helpu i leihau costau teithio busnes ar gyfer staff

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio cynllun gwyrddach i helpu i leihau costau teithio busnes ar gyfer staff.

Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor yn treialu system ceir y cyngor newydd i helpu i leihau allyriadau carbon yn ogystal â chostau teithio busnes ar draws y sir.

Bu i Gyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn 2019 ac ers hynny mae wedi symud i ddefnyddio cerbydau di-allyriadau yn ei fflyd. Mae dros 20% o’r cerbydau yn ei fflyd yn gerbydau di-allyriadau.

Wrth i gerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil gyrraedd diwedd eu hoes, mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor wedi bod yn cyflwyno cerbydau trydan lle y bo’n berthnasol, gyda chefnogaeth sylweddol gan adrannau Llywodraethau Cymru a’r DU. Mae hyn yn helpu i leihau allyriadau, yn lleihau costau hirdymor sy'n gysylltiedig â milltiroedd a gwaith cynnal a chadw ar draws yr holl wasanaethau, ac yn lleihau'r ddibyniaeth ar beiriannau petrol a disel.

Mae staff hefyd yn cymryd rhan mewn pecyn hyfforddi gan yr Adran Fflyd, sy’n cynnwys sut i ddefnyddio isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn ddiogel ac yn effeithlon, gwneud defnydd o systemau brecio atgynhyrchiol, a phryd i ddewis ‘dull gyrru’ yn seiliedig ar yr amodau neu lwythi.

Bellach, gall staff sydd wedi cael yr hyfforddiant gymryd rhan mewn system archebu ceir trydan y cyngor sy'n weithredol ar draws y sir, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus ar raddfa lai a gynhaliwyd gan yr Adran Fflyd.

Gyda chefnogaeth faniau Toyota Proace EV a Citroen Ec3, gall staff bellach archebu un o'r cerbydau hyn ar-lein a'i gasglu o leoliadau yn Ninbych, Llanelwy, Prestatyn a Llangollen ar gyfer teithiau gwaith.

Mae defnyddio'r system hon – sy'n cael ei chefnogi gan ddarllenwyr RFID ar ddangosfyrddau'r cerbydau – yn helpu i leihau'r ddibyniaeth ar gerbydau traddodiadol sy'n rhedeg ar danwydd ffosil ar gyfer teithiau gwaith.

Eglurodd Martin Griffiths, Swyddog Arweiniol Symudedd y Fflyd, Cyngor Sir Ddinbych: “Fel rhan o strategaeth Newid Hinsawdd ac Adfer Natur y Cyngor, rydym wedi ymrwymo i barhau i leihau allyriadau carbon ar draws yr awdurdod lleol, sy’n cynnwys ein Fflyd.

“Rydym yn ymwybodol fel cyngor bod rhai aelodau o’r staff yn defnyddio eu cerbydau eu hunain ar gyfer milltiroedd gwaith, ac mae’n debygol mai cerbydau sy’n cael eu pweru gan danwydd ffosil yw’r rhain. Mae'r cynllun newydd hwn wir yn cynnig y gorau o'r ddau fyd; cyn belled â'u bod yn cwblhau'r hyfforddiant ar gerbydau trydan, gall staff archebu un o'r cerbydau hyn i osgoi traul ar eu ceir eu hunain ac i arbed costau teithio. Fel cyngor, rydym hefyd yn helpu i sicrhau bod y ffyrdd yn wyrddach ac felly yn cyfrannu at y nod o leihau ôl-troed carbon y sir.

Ychwanegodd Martin: “Rydym hefyd yn parhau i rannu ein harferion da a’n profiadau gyda Chynghorau a Chyrff Sector Cyhoeddus eraill Cymru er mwyn eu helpu hwythau i drosglwyddo i ddefnyddio cerbydau heb allyriadau. Mae cynnal hyfforddiant mewnol ar gerbydau trydan a gweithredu'r system ceir Cyngor newydd hon yn ein galluogi i ddysgu o brofiadau ein staff wrth ddefnyddio'r cerbydau trydan; mae hyn yn fantais fawr i’n helpu i drefnu ein fflyd er mwyn mynd i'r afael ag allyriadau carbon yn y dyfodol.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: Mae cyflwyno system ceir y Cyngor yn gam pwysig wrth sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'i adnoddau. Drwy roi mynediad i staff at gerbydau ar gyfer teithio busnes, gallwn leihau'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat, helpu i reoli costau teithio busnes a sicrhau bod trethdalwyr yn cael gwell gwerth am arian. Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi ymrwymiad ehangach y Cyngor i leihau effaith amgylcheddol ei weithrediadau.”

 

 

'Coeden de’ hanesyddol yn cael bywyd newydd drwy brosiect tyfu Sir Ddinbych

Mae coeden brin a oedd yn enwog am ddarparu diod yn lle te yn ystod yr ail ryfel byd yn cael bywyd newydd.

Mae staff ym Mhlanhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych yng Ngwarchodfa Natur Green Gates wedi ymgymryd â phrosiect i gynyddu nifer y coed pisgwydd gyda dail bach yn y sir.

LimeMae planhigfa goed y Cyngor wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae staff y blanhigfa a gwirfoddolwyr yn gweithio i gynyddu niferoedd rhywogaethau o goed, yn cynnwys poplys du, cerddin gwyllt a deri trwy gasglu hadau o’r ardal leol i’w tyfu.

Roedd coed pisgwydd gyda dail bach yn arfer bod yn amlwg mewn coetir ond oherwydd colli cynefin a newidiadau, maent wedi dod yn fwy prin dros amser. Mae canfod un o’r coed hyn yn aml yn arwydd o ardal goetir hynafol.

Yn dilyn cynaeafu hadau yn lleol, mae staff y blanhigfa wedi sicrhau 110 gram o hadau rhywogaeth a fydd yn cynnig cyfle i dyfu bron i 800 o goed ar y safle.

Dangosodd y coed pisgwydd gyda dail bach eu gwir werth yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd y cyfyngiadau ar de du.  Defnyddiwyd y blodau sych a’r dail i greu diod a oedd yn debyg i de.

Roedd y blodau ar y coed hefyd yn cael eu gwerthfawrogi oherwydd eu diben meddyginiaethol ac roeddent yn arfer cael eu defnyddio ar gyfer trin cur pen a diffyg cwsg.

Mae’r goeden hefyd yn ffynhonnell wych o ran bioamrywiaeth, mae’r dail yn cael eu bwyta gan sawl math o lindys, maent yn denu llyslau, gan ddarparu ffynhonnell fwyd ar gyfer eu hysglyfaethwyr, yn cynnwys gwybed hofran, buchod coch cwta a nifer o rywogaethau o adar. Mae blodau’r goeden hefyd yn darparu neithdar a phaill ar gyfer pryfed, yn enwedig gwenyn, sydd hefyd yn yfed melwlith llyslau o’r dail.

Roedd y blodau ar y coed hefyd yn cael eu gwerthfawrogi oherwydd eu diben meddyginiaethol ac yn cael eu hystyried yn driniaeth effeithiol ar gyfer diffyg cwsg, cur pen, ac anhwylderau ‘nerfus’ eraill.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae staff y blanhigfa a gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen at dyfu’r coed pisgwydd gyda dail bach o’r hadau a gasglwyd yn lleol a rhoi’r cyfle gorau posibl iddynt ffynnu. Trwy ofalu amdanynt yn y blanhigfa cyn eu plannu, bydd y tîm yn helpu i wella eu cyfraddau goroesi wrth gefnogi rhywogaeth frodorol sy’n cynnig gwerth gwirioneddol o ran bioamrywiaeth, o wenyn a pheillwyr eraill i wyfynod, adar a llawer o rywogaethau eraill.

Tree nursery
Planhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych

ERTHYGLAU

Rhowch gyfle i'ch ailgylchu gael gyrfa ar y brig

Mae Cymru eisoes yn un o wledydd gorau'r byd am ailgylchu. Rydym yn falch iawn o fod yn yr 2il safle. Ond a ninnau mor agos at y brig, dim ond un lle sydd ar ôl i fynd.

Yr Wythnos Ailgylchu hon (14–20 Medi), mae  Cyngor Sir Ddinbych yn cefnogi Ymgyrch Wych Cymru yn Ailgylchu i helpu Cymru i gyrraedd y brig, gan roi cyfle i rai o'r pethau bob dydd rydyn ni'n eu defnyddio yn y gwaith gael gyrfa ddisglair hefyd.

Oherwydd pan fyddwch chi'n rhoi eitem yn y bin cywir, rydych chi'n helpu i roi swydd arall iddi. Ac mae gan rai o'r deunyddiau ailgylchadwy hyn ragolygon ardderchog.

  1. Mae gan y can botensial mawr

Efallai bod y can diod gwag acw neu'r darn o ffoil brechdan wedi'i grychu yn edrych fel ei fod wedi gorffen am y diwrnod, ond mae ganddo lawer mwy o waith o'i flaen.

Gellir ailgylchu metel dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio. Ac mae ailgylchu dim ond un can yn arbed digon o ynni i bweru teledu am tua phedair awr.

Felly rhowch ef yn y bin cywir a'i anfon ymlaen i'w rôl fawr nesaf.

  1. Y bag te sy’n pweru'r rownd nesaf

Yn ôl i'r gwaith ar ôl gwyliau'r haf, mae tegell y swyddfa ar ddechrau ei dymor prysuraf. Y newyddion da yw bod gan eich bag te fwy i'w gynnig na'ch cynnal chi o un cyfarfod i’r llall.

Ailgylchwch chwe bag te a gellir cynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i ferwi tegell ar gyfer disgled arall. Nawr dyna beth yw tynnu eich pwysau.

Ac nid bagiau te yw'r unig wastraff bwyd sydd â dyfodol disglair. Gellir trawsnewid croen ffrwythau a gwastraff bwyd anfwytadwy arall yn ynni adnewyddadwy a gwrtaith llawn maetholion hefyd.

Felly, tra byddwch chi'n cymryd egwyl ginio haeddiannol, gallai eich gwastraff bwyd fod yn paratoi ar gyfer ei brosiect mawr nesaf.

  1. Y botel blastig gyda gyrfa newydd sbon o'i blaen

Wedi gorffen eich diod? Efallai bod diwrnod gwaith y botel drosodd, ond gallai ei gyrfa fod ond megis dechrau.

Mae ailgylchu un botel blastig yn arbed digon o ynni i wefru gliniadur bron yn llawn. Dyna ofalu am alwadau Teams yr wythnos hon.

Poteli plastig, potiau iogwrt, tybiau bargen ar bryd a thybiau plastig… rinsiwch nhw’n sydyn a'u rhoi yn y bin cywir fel y gellir eu prosesu a'u trawsnewid yn gynhyrchion a phecynwaith newydd.

O danwydd i chi wrth y ddesg, i'w rôl fawr nesaf.

O weithle yng Nghymru i uchelderau’r byd

Mae'r ailgylchu rydych chi'n ei roi yn y bin cywir yn cychwyn ar ei daith nesaf. A dydy’r daith honno ddim yn bell o gartref. Mae mwy na 90% o’r ailgylchu a gesglir yng Nghymru yn cael ei brosesu o fewn y Deyrnas Unedig, ac mae mwy na’i hanner aros yma yng Nghymru.

Ar ôl eu casglu, caiff deunyddiau eu sortio a’u prosesu cyn cael eu troi’n rhywbeth newydd. Mae gwastraff bwyd yn mynd ar drywydd gwahanol, gan helpu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy i bweru Cymru… a phweru eich diwrnod gwaith.

Lle bynnag rydych chi'n gweithio, ailgylchwch yno

P'un a ydych chi yn y swyddfa, yn gweithio o gartref, yn teithio i'r gwaith, yn cael tamaid i ginio neu'n mynd allan o amgylch y fro, does dim angen i ailgylchu fod yn rhywbeth ychwanegol ar eich rhestr tasgau. Ailgylchwch fel rhan o’ch diwrnod. Dewch o hyd i'r bin cywir a rhoi ei rôl nesaf i'ch ailgylchu.

 Oherwydd mae pob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir yn helpu i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a mynd â Chymru un cam yn nes at y brig.

Rydyn ni eisoes yn Rif 2 yn y byd. Mae’n bryd i Gymru gael dyrchafiad haeddiannol. Amdani i Rif 1.

Dysgwch fwy am eich taith ailgylchu gyda Cymru yn Ailgylchu

Stori Mary

Mae Mary yn byw yng ngogledd Sir Ddinbych, ger Rhuallt, ac mae’n dioddef o fath ymosodol o glefyd Parkinson o'r enw Dirywiad Corticobasalaidd (Corticobasal Degeneration); mae hyn yn golygu bod angen iddi ddefnyddio amrywiaeth o offer yn ei chartref er mwyn byw mor gyfforddus â phosibl. Mae hi'n byw gyda'i gŵr Allan, ei phrif ofalwr, aelodau o'i theulu, a'i chi, Blaze.

Mary, Allan a Blaze y ci.

Er gwaethaf ei diagnosis, mae Mary yn llawn egni ac mae ganddi synnwyr digrifwch gwych. Mae hi wedi parhau i ymgymryd â nifer o’r diddordebau oedd ganddi cyn iddi gael y diagnosis, gan gynnwys gwneud celf a chrefft. Roedd Mary yn hyfforddwr cŵn llwyddiannus iawn yn y gorffennol, ac mae ei rhosetiau yn dal i hongian ar y wal. Cyn ymddeol, roedd Mary yn gweithio fel ffisiotherapydd yn ei hardal leol.

Mae Mary wedi bod yn byw gyda'r cyflwr hwn ers chwe blynedd, ac mae hi wedi dechrau derbyn cymorth gan Therapydd Galwedigaethol a chynrychiolwyr o'r Tîm Offer Cymunedol (CESI) yn ystod y blynyddoedd diwethaf, unwaith i'w diagnosis ddod yn gliriach ac i'w chyflwr waethygu.

Mae CESI yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB), sy'n darparu offer i bobl o bob oed i'w helpu i fyw eu bywydau i'r eithaf ac i gynnal eu hiechyd a'u hannibyniaeth. Mae hyn yn amrywio o gymhorthion syml ar gyfer bywyd bob dydd i gyfarpar mwy cymhleth sy'n helpu pobl i aros yn eu cartrefi yn hirach.

Drwy ddefnyddio'r offer hyn, nid oes angen i Alan a Mary ddibynnu ar ofalwyr ffurfiol sy'n ymweld bob dydd, gan eu galluogi i fyw mor gyfforddus â phosibl yn eu cartref.

Roedd gwely wedi'i addasu, a elwir yn 'wely annibyniaeth', yn un o'r darnau cyntaf o offer a osodwyd yn ei chartref, ac mae gan Mary hefyd declyn codi i'w helpu i fynd i mewn ac allan yn haws. Mae'r gwely hefyd yn symud yn fecanyddol, gan alluogi Mary i eistedd i fyny ac addasu'r uchder pan fo angen.

Gyda chymorth Therapydd Galwedigaethol, ac yn dilyn asesiad, cyflwynwyd cynfasau llithro arbennig sy'n helpu i symud a throsglwyddo.

Wrth siarad am y gwely Annibyniaeth, dywedodd Allan:

“Mae’r gwely wedi bod yn fendith wirioneddol o’r cychwyn cyntaf; mae’r ffaith ei fod yn gallu gostwng yr holl ffordd i lawr wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o ran symudedd a’i gwneud yn haws i ‘w ddefnyddio.”

Gyda chymorth darn o offer o'r enw Standaid, gall Mary fynd i mewn ac allan o gadeiriau. Mae'r Standaid hefyd yn helpu gyda symudiadau i mewn ac allan o'i chadair olwyn.

Gosodwyd dyfeisiau mecanyddol i godi sedd y toiled, sy'n helpu Mary i symud i mewn ac allan o'r gadair olwyn a gwneud pethau'n haws iddi.

Wrth sôn am ei phrofiad gyda'r CESI, dywedodd Mary:

“Mae'r technegwyr yn wych, ac yn glên iawn bob amser pan fyddan nhw'n dod i gynorthwyo gyda'r offer. Maen nhw'n barod iawn i helpu.

Mae'r holl wasanaethau wedi bod yn dda iawn gyda ni, ac mae cydlyniant da iawn wedi bod rhwng y gwahanol adrannau.

Mae'r offer yno i helpu i gadw Mary mor annibynnol â phosibl, gan ei helpu i wneud pethau y gall eu gwneud ar y dyddiau pan mae hi'n teimlo'n well, a lliniaru effaith y dyddiau pan mae pethau’n teimlo’n anoddach.

Aeth Mary ymlaen i ddweud:

“Rwyf yn dal i wneud celf a chrefft; rwy’n gwneud math o wehyddu i greu patrymau ar gyfer modrwyau allweddi. Rwyf wedi gwneud rhai gyda grŵp crefftau Sant Cyndeyrn. Rwyf wedi bod yn gwneud crefftau gydol fy oes, ac rwy’n falch fod gennyf fodd o barhau i wneud hynny.”

Dywedodd Becky, Therapydd Galwedigaethol sydd wedi helpu Mary:

“Rydym yn gweithio ar y cyd â storfeydd CESI fel tîm, ac ni allem wneud ein gwaith heb eu harbenigedd a'u cefnogaeth. Maen nhw wastad mor barod i helpu ac yn gymwynasgar, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn amdanyn nhw.”

O bermaddiwylliant i gadwraeth: gyrfa â’i gwreiddiau mewn natur

Mae Llais y Sir yn sgwrsio â Keegan i ddarganfod sut mae natur wedi bod gydag ef bob amser trwy ei fywyd gweithio.

Trwy lawer o’i fywyd gweithio, nid yw’r llwybr gyrfa wedi bod yn syml i Keegan Blazey. Mae ei fywyd wedi symud trwy stiwdios celf, ffermydd organig, ystafelloedd dosbarth, dylunio gemau, labordai prifysgolion ac, yn y pen draw, i waith ymarferol, mwdlyd, cadwraeth. Ond wrth edrych yn ôl, i’r Swyddog Planhigfa Goed ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy, mae’r llinyn sy’n rhedeg trwy’r cyfan yn glir: awydd i ddeall y byd naturiol a gwneud rhywbeth defnyddiol ynddo. Mae Llais y Sir yn sgwrsio â Keegan i ddarganfod sut mae natur wedi bod gydag ef bob amser trwy ei fywyd gweithio.

Dechreuodd ei ddiddordeb yn ei ugeiniau, pan ddechreuodd ymwneud â phermaddiwylliant – ffordd o feddwl am fwyd, tir a chymuned sy’n mynd y tu hwnt i amaethyddiaeth gynaliadwy. I Keegan, fe’i helpodd i gysylltu â syniadau ehangach am ddiwylliant, ysbrydolrwydd, ymwybyddiaeth ofalgar a hunanddigonedd.

Eglurodd: “Mae gen i ddiddordeb mawr mewn bod yn gynaliadwy a hunangynhaliol. Rydych chi’n dysgu sut i dyfu eich bwyd eich hunain oherwydd mae’n eich cadw chi’n iach. Roedd Bwdhaeth, ymwybyddiaeth ofalgar a’r holl bethau tebyg yn rhan o’r hyn wnaeth ennyn fy niddordeb.”

Fe wnaeth tyfu i fyny yn Ne Affrica helpu i lunio ei feddwl hefyd. Oherwydd bryd hynny, roedd prinder dŵr, sychder a thywyllwch treigl yn rhan o fywyd bob dydd. Eglura Keegan fod Permaddiwylliant yn cynnig atebion ymarferol gan gynnwys casglu dŵr glaw, defnyddio dŵr mewn ffordd gynaliadwy a chynllunio systemau sy’n dibynnu llai ar brif gyflenwadau.

Ar ôl symud i’r DU, bu Keegan yn gweithio’n bennaf fel athro Saesneg wrth barhau i wirfoddoli ar brosiectau’n ymwneud â’r tir. Yn y pen draw, arweiniodd hynny at rôl fel rheolwr gardd organig, lle bu’n rhedeg gardd farchnad a oedd yn cyflenwi safle gwely a brecwast, rheoli tua 6 o wirfoddolwyr, addysgu Saesneg i wirfoddolwyr rhyngwladol o Ewrop a helpu i greu system dyfu fwy cylchol, oedd yn gyfeillgar i fywyd gwyllt.

Roedd y gwaith yn cynnwys pyllau, gwlyptiroedd, hwyaid, compostio a thyfu mewn dolen gaeedig. Daeth â sawl rhan o’i gefndir at ei gilydd: addysgu, garddio ymarferol, cynaliadwyedd a rheoli pobl.

Yn ddiweddarach, newidiodd llwybr ei yrfa eto. Daeth celf, a oedd wedi mynd law yn llaw â’i ddiddordebau amgylcheddol, yn broffesiwn iddo. Symudodd Keegan at gelf cysyniad digidol, gan weithio’n bennaf ym maes gemau am bum neu chwe blynedd. Yn ystod pandemig Covid, tyfodd y diwydiant gemau’n gyflym ac roedd y gwaith yno – ond roedd rhywbeth nad oedd yn teimlo’n iawn iddo bellach.

Dywedodd Keegan: “Roeddwn i’n eistedd yn paentio arfwisg ganoloesol ar gyfer gemau tra’r oedd y byd yn dioddef, doedd o ddim yn teimlo’n iawn.”

Fe wnaeth y sylweddoliad hwnnw ei wthio i brofi ei hun trwy Radd gwyddor yr amgylchedd ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n cyfaddef iddo chwilio am rôl lle gallai ei sgiliau gyfrannu at ddatrysiadau, ac roedd y llwybr hwn yn rhoi’r sylfaen dechnegol iddo symud i faes ymchwil. Roedd gwyddor yr amgylchedd yn helpu i roi golwg ehangach iddo, gan ei fod yn canolbwyntio nid yn unig ar amddiffyn natur, ond ar sut gall pobl a’r amgylchedd weithio gyda’i gilydd.

Roedd lleoliad ym maes ymchwil coedwigaeth yn drobwynt mawr i Keegan. Bu’n gweithio fel technegydd ymchwil ar arbrofion newid hinsawdd gyda Birmingham Institute of Forest Research, gan helpu i gasglu a phrosesu data maes a labordy. Eglurodd fod y gwaith yn ‘fanwl’ iawn, roedd profion pridd, profion dŵr, mesur coed a gwreiddiau, casglu a dadansoddi data i gyd yn ei gadw’n brysur.

“Ar un adeg, treuliais fisoedd yn golchi pridd oddi ar wreiddiau derw, eu gwahanu gyda llaw, eu sganio a throsglwyddo'r canlyniadau i’w dadansoddi”, meddai gyda gwên.

Ond darparodd hyn sylfaen gadarn iddo mewn gwaith maes, data a phrosesau arbrofol, sydd wedi helpu gyda’i rôl bresennol fel Swyddog Planhigfa Goed.

Yn ystod ei radd, eglurodd Keegan ei fod wedi canolbwyntio ar wyddorau pridd hefyd a chwblhaodd draethawd hir ar ficroblastigau, gan ddefnyddio safleoedd dolydd blodau gwyllt lleol Sir Ddinbych ei hun fel rhan o’i ymchwil.

Roedd y prosiect yn edrych ar symudiad microblastigau mewn pridd, ochr yn ochr â charbon, lleithder a chywasgiad, mesurau a ddefnyddir i ddeall iechyd pridd a rheoli tir.

Wrth sgwrsio gyda Llais y Sir, mae Keegan yn cyfaddef ei fod yn dal i obeithio cwblhau PhD sy’n canolbwyntio ar ymchwil un diwrnod, ond am rŵan, mae’n credu mai profiad ymarferol yw’r cam nesaf gorau.

Wrth eistedd yn un o dwneli’r blanhigfa, mae’n amlwg bod cefndir gwyddonol Keegan yn helpu i wthio nod y safle i amddiffyn bioamrywiaeth leol, gyda chanlyniadau cadarnhaol ei arbrawf tyfu Aspen wrth ei ochr wrth i’r sgwrs barhau, gyda chelyn y môr yn tyfu yn y cefndir, a gwelyau blodau gwyllt newydd yn ail-lenwi stoc hadau ar stepen drws y blanhigfa.

“Mae wedi bod yn broses ddysgu enfawr,” meddai. “Ond rwyf wedi cael profiad o’r sgiliau oedd eu hangen arnaf. Mae’r manylion yn bwysig mewn ymchwil, ond rwyf hefyd wedi dysgu pa lefel o ddata sydd ei angen arnom yma mewn gwirionedd. Rwyf wedi fy amgylchynu gan dîm gwych sy'n fy arwain ac yn fy nghefnogi ar hyd y ffordd, ac ni fyddwn wedi gallu ymdopi hebddynt."

Cyn i Lais y Sir gloi’r sgwrs, gofynnwn sut mae’n teimlo am rôl y Swyddog Planhigfa Goed a gymerodd yn 2025, a daw gwên arall: “Hon yw’r swydd orau i mi ei chael erioed.  Mae’r rhagolygon o ran beth ydym ni’n ei wneud a beth ydym ni’n ceisio ei gyflawni yn y blanhigfa yn anhygoel. Mae pawb ydw i’n siarad gyda nhw yn genfigennus o’r hyn ydw i’n ei wneud.”

Nid yw mynd i’r afael ag effaith materion newid hinsawdd ar y tir yn lleol yn dod heb ei heriau, ond i Keegan, mae hynny’n rhan o’r pwynt.

Meddai: “Mae’r rhan fwyaf o waith newid hinsawdd a gwella natur yn teimlo’n amhosibl…Ond mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi cynnig arni.”

Mae’r hyn a ddechreuodd gyda phermaddiwylliant a chwilio am hunanddigonedd wedi tyfu’n yrfa i Keegan, wedi’i adeiladu o gwmpas adferiad, gwytnwch a’r gred bod ceisio cwblhau gwaith amgylcheddol anodd hyd yn oed yn werth ei wneud, ac mae hyn i’w weld yn yr egin gwyrdd cynnydd niferus sy’n ymddangos yn y Blanhigfa Goed.

Prosiectau’r adain eiddo yn cefnogi cymunedau ar draws Sir Ddinbych

Dros y 12 mis diwethaf, mae adain Eiddo Cyngor Sir Ddinbych wedi parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi gwasanaethau, cymunedau a phreswylwyr ar draws y sir.

Dros y 12 mis diwethaf, mae adain Eiddo Cyngor Sir Ddinbych wedi parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi gwasanaethau, cymunedau a phreswylwyr ar draws y sir.

O wneud gwaith gwella a chynnal a chadw adeiladau cyhoeddus, i gefnogi prosiectau mawr a sicrhau bod asedau’r Cyngor yn ddiogel, effeithlon ac addas i’r diben, mae’r timau yn yr adain wedi bod yn rhan o amrywiaeth eang o waith pwysig.

Mae Llais y Sir yn edrych yn ôl ar rai o’r prosiectau allweddol a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn, gan amlygu’r ymroddiad, yr arbenigedd a’r cydweithio a fu rhwng y gwahanol dimau sy’n helpu i reoli a gwella ystâd eiddo Sir Ddinbych.

Ers y llynedd, mae’r tîm Cynnal a Chadw Adeiladau wedi cefnogi gwaith gwella mawr yn Ysgol Dewi Sant, y Rhyl, gan helpu i foderneiddio a thrawsnewid ardal neuadd yr ysgol.

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys ailadeiladu’r to, gwella inswleiddiad, gosod ffenestri gwydr dwbl perfformiad uchel, uwchraddio trefniadau mynediad a moderneiddio’r cyntedd a’r fynedfa, gan gynnwys gosod lifft i wella hygyrchedd.

Fe wnaeth y gwaith helpu i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau ôl-troed carbon yr ysgol a chreu lle mwy diogel, mwy hygyrch a mwy modern i ddisgyblion, staff a’r gymuned ehangach.

Buont yn ymateb i ddifrod storm ym Mharc Dŵr SC2 hefyd, gan sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel cyn rheoli gwaith disodli’r to a oedd yn beryglus.

Gan nad oedd y cyflenwr gwreiddiol yn masnachu bellach, cafodd to newydd ei ddylunio’n arbennig a’i wirio’n annibynnol gan ddefnyddio modelu llwyth gwynt sy’n benodol i’r safle.

Roedd angen datrysiad sgaffaldiau pwrpasol ar gyfer y prosiect oherwydd bod gwaith amddiffyn rhag llifogydd gerllaw yn atal mynediad traddodiadol, ac roedd cyflymder y gwynt yn cael ei fonitro bob dydd i gadw gweithwyr yn ddiogel.

Cafodd dalenni to crwm wedi’u creu’n bwrpasol, rhai’n fwy na 24 metr o hyd, eu cludo i’r safle dan drwyddedau llwyth anarferol. Bu gweithwyr cynnal a chadw yn cydlynu’r prosiect cymhleth gyda’r tenant, yswirwyr, ymgynghorwyr, peirianwyr, syrfewyr, addaswyr colled a thimau’r Cyngor sy’n rheoli’r gwaith amddiffynfeydd môr.

Y tîm cynnal a chadw fu’n rheoli’r prosiect, gan gysylltu â’n Tenant, ymgynghorwyr arbenigol, peirianwyr, yswirwyr, syrfewyr fforensig ac addaswyr colled, yn ogystal â chydweithwyr yn y Cyngor, gan gynnwys rhai sy’n rheoli’r gwaith amddiffynfeydd môr.

Dros y 12 mis diwethaf, mae’r tîm Dylunio ac Adeiladu wedi darparu a chefnogi amrywiaeth eang o brosiectau proffil uchel ar draws y sir, gan helpu i wella tai, darpariaeth addysg, hygyrchedd ac adfywio.

Mae cyflawniadau allweddol yn cynnwys cwblhau 22 o dai Cyngor newydd effeithlon o ran ynni yn Llwyn Eirin yn Ninbych, a adeiladwyd i safon Passivhaus ac sydd â phaneli solar a phympiau gwres o’r ddaear er mwyn helpu i leihau costau ynni’r cartref ac allyriadau carbon.

Mae’r tîm wedi dylunio a datblygu’r pwll hydrotherapi cyntaf o’i fath yn Sir Ddinbych hefyd, yn Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl. Mae’n cefnogi datblygiad corfforol a lles disgyblion trwy gyfleuster newydd arbenigol sydd ar dir yr ysgol.

Ynghyd â hyn, mae’r tîm wedi cefnogi cam nesaf y gwaith ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, lle mae gwaith adfer a dymchwel yn helpu i ddatgloi cyfle i adfywio’r safle 53 erw yn y dyfodol ar gyfer tai, gofod masnachol ac ardaloedd cymunedol gwyrdd.

Mae gwaith yr adain wedi’i gydnabod trwy gynlluniau tai arobryn hefyd, gan gynnwys Llys Elizabeth yn y Rhyl, a enillodd wobr Datblygiad Tai Cymdeithasol Bach Gorau yng Ngwobrau LABC Cymru am ei gartrefi o ansawdd uchel, sy’n effeithlon o ran ynni, i breswylwyr 55 oed a hŷn.

Ers yr haf diwethaf, mae’r Tîm Ynni wedi parhau i arwain prosiectau sy’n gwella effeithlonrwydd o ran ynni, lleihau costau rhedeg a lleihau allyriadau carbon ar draws adeiladau a gwasanaethau’r Cyngor.

Yng nghartref gofal Cysgod y Gaer yng Nghorwen, mae’r tîm wedi gosod system storio ynni batri 40kWh ynghyd ag arae solar 21.36kWp, gan adeiladu ar waith blaenorol i ychwanegu paneli ffotofoltäig, goleuadau LED a gwelliannau i’r system wresogi.

Mae’r gwaith cyfun hwn wedi helpu i leihau defnydd nwy a thrydan yn sylweddol, lleihau allyriadau carbon a chefnogi gwefru dau gerbyd trydan sy’n gweithredu o’r safle er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned leol.

Mae’r tîm wedi darparu prosiect storio batris arloesol yng ngorsaf Gwastraff ac Ailgylchu Dinbych hefyd, gan osod 600kWh o gapasiti batri i wneud defnydd gwell o ynni solar a gynhyrchir ar y safle a chefnogi cerbydau gwastraff ac ailgylchu trydan.

Mae canlyniadau cynnar yn dangos bod defnydd ynni o’r grid yn y safle wedi gostwng fwy na hanner, a disgwylir i’r system arbed mwy na 76,000kWh y flwyddyn, lleihau costau o tua £16,000 a lleihau allyriadau carbon o tua 22 tunnell y flwyddyn.

Mae enghraifft arall o’r dull cydweithredol hwn i’w gweld yn Ysgol y Santes Ffraid, lle mae timau wedi bod yn cydweithio yn ystod ail hanner 2025 i wella effeithlonrwydd a pherfformiad prif adeilad y safle.

Daeth y prosiect â chefnogaeth at ei gilydd o’r rhaglen Hinsawdd a Natur, Cynnal a Chadw Adeiladau a’r Tîm Ynni, i ddarparu pecyn o welliannau o ran gwresogi, rheolyddion, goleuadau ac inswleiddiad.

Roedd gwaith yn cynnwys tynnu hen foeleri aneffeithlon wedi’u tanio ag olew a’u disodli â boeleri modern wedi’u tanio â LPG ar draws y ddwy brif ystafell beiriannau, gyda phum boeler wedi’u disodli a’r hen danc olew wedi’i symud.

Gosodwyd rheolyddion rheoli adeiladau modern hefyd, gan greu pum ardal ar wahân ar gyfer y prif adeilad a helpu’r safle i weithredu’n fwy effeithlon.

Yn ogystal, gosodwyd mwy na 140 o osodiadau golau LED, y disgwylir iddynt arbed tua 24,260kWh o drydan a thua £5,579 y flwyddyn.

Ychwanegwyd tua 240 metr sgwâr o inswleiddiad 300mm hefyd, gan gefnogi gwaith ehangach y Cyngor ymhellach o ran lleihau defnydd ynni, lleihau allyriadau a gwella cynaliadwyedd hirdymor ei adeiladau.

Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol:  “Mae’r gwaith a wnaed gan ein timau Eiddo dros y 12 mis diwethaf yn dangos y rôl bwysig maen nhw’n ei chwarae wrth gefnogi preswylwyr, cymunedau a gwasanaethau’r Cyngor ar draws Sir Ddinbych. O wella ysgolion a lleoliadau gofal i ddarparu cartrefi effeithlon o ran ynni, lleihau allyriadau carbon a chefnogi prosiectau adfywio mawr, mae eu gwaith yn cael effaith uniongyrchol a pharhaus ar fywydau bob dydd pobl.

“Hoffwn ddiolch i’r holl dimau am eu hymroddiad, eu harbenigedd a’u hymrwymiad. Mae eu hymdrechion yn helpu i wneud ein hadeiladau’n fwy diogel, mwy hygyrch, mwy cynaliadwy a mwy parod i ddiwallu anghenion preswylwyr rŵan ac yn y dyfodol.”

Ydych chi wedi cwrdd â'n Tîm Dechrau Da ni?

Maen nhw'n cynnal sesiynau wythnosol rhigwm dwyieithog sydd am ddim i fabanod a phlant bach ym mhob un o'n llyfrgelloedd. Nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau a rhigwm gyda'ch babi ac fe welwch chi ddetholiad gwych o lyfrau i bob oed yn ein llyfrgelloedd.

Mae ein llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim i ymuno, mae llyfrau am ddim i'w benthyca ac nid oes unrhyw ffioedd hwyr!

Mae'r amser rhigwm Dechrau Da yn ffordd wych o feithrin eich hyder wrth rannu llyfrau a rhigymau gyda rhai bach, a hefyd yn ffordd wych o gwrdd â rhieni newydd eraill.

Archebwch eich lle amser rhigwm am ddim yma. 

Adfer y Gorffennol, Adeiladu'r Dyfodol: Nantclwyd y Dre

Mae gan Nantclwyd y Dre bron i 600 mlynedd o hanes ac mae'n un o'r tai tref ffrâm bren hynaf yng Nghymru.

Mae Rhuthun yn dref sy’n gyforiog o hanes. Llosgwyd hi i’r llawr gan Owain Glyndŵr yn y flwyddyn 1400 ac mae llawer o naws hanesyddol y dref fel rydym ni’n ei hadnabod hi heddiw yn dod o’r bensaernïaeth ffrâm goed a oedd yn gyffredin yn yr ardal yn ystod cyfnod ei hailadeiladu.

Ymysg y strydoedd hyfryd a’r adeiladau hanesyddol mae darn pwysig iawn o dreftadaeth adeiledig Rhuthun, sef Nantclwyd y Dre. Cafodd ei adeiladu yn wreiddiol fel tŷ neuadd i wehydd, felly mae bron i 600 mlynedd o hanes lleol yn perthyn iddo ac mae’n un o’r tai tref ffrâm goed hynaf yng Nghymru sydd ar agor i’r cyhoedd.

Mae bellach yn cael ei reoli gan Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych a gall rhai sy’n ymweld â thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre ail-fyw ei orffennol difyr drwy ymgolli mewn profiadau sain ac arddangosfeydd a gweld ei du mewn sydd oll yn rhoi cipolwg cyfareddol ar fywydau’r teuluoedd a fu’n byw yno.

Yn 2023, cafwyd cyllid i adfer rhannau o’r safle pan gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio gwarchod treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

Cafodd y cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus hynny yng Ngorllewin Clwyd ac nid oes modd ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Fel un o’r prosiectau llwyddiannus, dyfarnwyd £667,000 i ailddatblygu rhannau o’r tŷ sy’n segur ar hyn o bryd ac sydd angen rhywfaint o waith atgyweirio i warchod y darn pwysig hwn o dreftadaeth leol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, creu cyfleoedd newydd ar gyfer yr atyniad i wella ei gynaliadwyedd at y dyfodol ac ychwanegu ambell beth cyffrous ar gyfer profiad yr ymwelwyr.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Hydref, yn canolbwyntio ar roi bywyd newydd i asgell orllewinol segur yr adeilad. Bydd y darn hwn o’r tŷ’n cael ei droi’n llety gwyliau, wedi’i ddylunio a’i ddodrefnu gan gadw at natur hanesyddol yr adeilad, a bydd yn darparu gwell cyfleusterau ar y llawr cyntaf gyda lle penodol ar gyfer y gwirfoddolwyr wythnosol sy’n rhan hollbwysig a gwerthfawr o’r gwaith beunyddiol yn Nantclwyd.

Fodd bynnag, cyn gallu dechrau ar y gwaith, roedd angen rhoi ystyriaeth i un set o drigolion sydd yno ers tro byd. Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ymgynghori ag ecolegwyr i sicrhau na fyddai’r datblygiadau sydd ar y gweill yn tarfu ar fan clwydo ystlumod gwarchodedig, sy’n cynnwys cyfran bwysig o boblogaeth Cymru o Ystlumod Lleiaf ac Ystlumod Pedol Lleiaf. Rhoddwyd hyfforddiant arbenigol i’r contractwyr, a gosodwyd lloches ystlumod fawr yn yr ardd, i roi mwy o le i’r creaduriaid bach yma ffynnu.

Bydd y gwelliannau sydd i ddod hefyd yn gwneud ardal y gegin yn fwy addas i arlwyo ar gyfer digwyddiadau, a bydd yr hafdy’n cael ei adfer i’w hen ogoniant i ymwelwyr ei fwynhau yn ystod misoedd yr haf. Bydd hwn yn lle ychwanegol ar gyfer seremonïau sy’n cael eu cynnal yn y tŷ hanesyddol, fel priodasau a seremonïau partneriaeth sifil.

Mae’r prosiect yn cael ei wneud gan B&W Builders & Decorators ynghyd â TACP Architects ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2026. Mae dull mwy cynaliadwy wedi’i ddefnyddio i wneud y gwaith gwella hefyd, drwy ddefnyddio gwlân i inswleiddio’r adeilad yn hytrach na’r deunydd inswleiddio mwy cyffredin sy’n cael ei wneud o olew, sy’n creu mwy o allyriadau carbon a ddim yn adnewyddadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae dechrau ar y gwaith gwella yma yn Nantclwyd y Dre’n garreg filltir fawr i ddiogelu dyfodol safle hanesyddol mor amlwg yng nghanol tref Rhuthun. 

“Mae Nantclwyd yn atyniad gwych i ymwelwyr ac yn ganolbwynt cymunedol i’n gwirfoddolwyr ymroddgar, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr ardaloedd newydd yn cael eu defnyddio a’u mwynhau gan ymwelwyr.

“Bydd lles yr ystlumod sydd yno’n parhau i fod yn flaenoriaeth wrth wneud y gwaith a byddwn mewn cyswllt cyson gyda’r ecolegwyr trwy gydol y cyfnod.”

Ydych chi erioed wedi ystyried ble mae eich treth cyngor yn mynd?

Mae llawer yn meddwl bod treth cyngor yn talu am bopeth y mae awdurdod lleol yn ei gynnig, fodd bynnag, dim ond 26% o gyfanswm gwariant y Cyngor yw'r arian a gesglir gan drigolion yn flynyddol.

Ariannu\'r cyngorMae mwyafrif y cyllid (62%) yn dod ar ffurf 'Grant Cymorth Refeniw' gan Lywodraeth Cymru, tra bod y 12% sy'n weddill yn dod o drethi busnes, sef treth eiddo y mae busnesau'n ei dalu i helpu tuag at ariannu gwasanaethau lleol. Gallwch ddysgu mwy am sut mae'r Cyngor yn cael ei ariannu ar ein gwefan.

Felly ble mae’r treth cyngor yn mynd? Rydym wedi cynhyrchu infograffig yn seiliedig ar dreth cyngor eiddo Band D i geisio rhoi esboniad clir o sut mae taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i ariannu ystod o wasanaethau i drigolion yn y sir. Er bod yr infograffig hwn yn rhoi darlun o sut mae'r arian yn cael ei rannu rhwng gwahanol wasanaethau, mae deall beth mae trigolion yn ei gael am yr arian hwnnw’n bwysig. (Gellir gweld yr infograffig ar ddiwedd yr erthygl.)

Fel y gwelwch, mae mwyafrif gwariant treth cyngor yn mynd tuag at amddiffyn y rhai mwyaf bregus ac agored i niwed yn ein cymdeithas, gyda 66% yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg a gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.

Ysgolion ac addysgGydag Addysg yn cyfrif am 36.7% o’r gwariant, golyga hyn y gall Sir Ddinbych addysgu tua 16,500 o ddisgyblion mewn 44 ysgol gynradd, 2 ysgol pob oed, 2 ysgol arbennig, 6 ysgol uwchradd ac 1 uned cyfeirio disgyblion ar draws y sir, gyda thua 780 o athrawon yn darparu'r addysg.

Yn y maes addysg o hyd, mae cludiant ysgol yn cyfrif am 2.9% ac mae'r Cyngor yn cludo tua 2,871 o ddysgwyr yn ddiogel i ysgolion ledled y sir. Caiff 650 o deithiau bws ysgol a thacsi eu gwneud bob diwrnod ysgol.

Gofal cymdeithasol i oedolion a phlant infographicYn y cyfamser, mae gofal cymdeithasol oedolion a phlant yn cyfrif am 29.8% o wariant treth y Cyngor. Yn 2024-2025 cafodd oddeutu 668 aelod o staff dros 25,000 o gysylltiadau gyda'r plant a'r oedolion mwyaf agored i niwed gan ddarparu pecyn o ofal a chymorth lle bo’n briodol sy’n rhoi cyfle i'r trigolion hyn gael dewis, mynegi barn, a chael rheolaeth dros eu bywydau.

Mewn meysydd gwasanaeth eraill, mae 1.9% yn mynd tuag at ddiogelu'r cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd ac mae timau'r Cyngor yn archwilio tua 720 o fwytai, caffis a lleoedd tecawê bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn ddiogel ar gyfer trigolion Sir Ddinbych.

Mae gwagio biniau ac ailgylchu yn cyfrif am 1.8% o'ch bil treth cyngor, sy'n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D). Mae hynny'n cynnwys casglu tua 73,000 o gynwysyddion o dros 47,000 o gartrefi bob wythnos ledled y sir.

Am 1.8% o'r dreth cyngor rydym yn cynnal 1,419km o ffyrdd (ac eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a chelfertau, 302 o waliau a 26,000 o gwlïau. Ac am 0.8%, rydym yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a bolardiau wedi'u goleuo ledled y sir.

Cefn gwlad a mannau agoredHwyrach bod rhai gwasanaethau nad yw trigolion yn ymwybodol eu bod dan reolaeth cyngor, er enghraifft Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth. Gydag 1.1% o dreth cyngor yn mynd i'r gwasanaeth cefn gwlad, mae'r timau'n rheoli dros 80 o safleoedd a mwy na 1,200 hectar o ardaloedd gwyrdd cyhoeddus ar gyfer hamdden a chadwraeth. Mae'r rhain yn amrywio o Barciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau, meithrinfa goed y sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Ffordd Dyserth Prestatyn, Llain Llantysilio yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o fannau cymunedol a mwynder llai ar draws y sir.

Mae’r gwasanaeth treftadaeth yn cyfrif am 0.9% o wariant treth y cyngor, ac am hyn, mae'r gwasanaeth yn cynnal a hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (sydd yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr. Mae'r gwaith hwn yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.

Cynllunio a datblygu economaiddMae cynllunio a datblygu economaidd yn cyfrif am 0.7% o wariant y treth cyngor ac am hynny mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn prosesu tua 1,000 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn ochr yn ochr â 10-20 o apeliadau a 50-100 o ymholiadau cyn-ymgeisio. Rydym hefyd yn ymateb i dros 500 o achosion cydymffurfio cynllunio.

Llyfrgelloedd infographicMae’r llyfrgelloedd yn cyfrif am 0.5% o’r gwariant ac yn 24-25, cynhaliodd  y llyfrgelloedd 514 o sesiynau Dechrau Da i bron i 6,500 o blant. Hefyd cafodd 2,869 o lyfrau sain eu benthyg i 1,028 o aelodau drwy Borrowbox (rhan o'r Cynnig Digidol) ac argraffwyd dros 56,000 o dudalennau ar argraffyddion mynediad cyhoeddus.

Nid yw'r holl dreth cyngor a gesglir yn talu am wasanaethau'r cyngor yn unig, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân i gyfrannu at ariannu amddiffyniad ac atal tân ledled y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol dros Gyllid yng Nghyngor Sir Dinbych, “Rwy’n falch o weld yr infograffig yma’n cael ei chynhyrchu a’i rhyddhau. Gobeithio y bydd yn rhoi’r cyd-destun sydd ei angen ar drigolion i ddeall sut mae eu taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i gefnogi’r amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

 “Mewn hinsawdd ariannol sy’n parhau i fod yn heriol barhaus, mae’n bwysig bod yn agored a thryloyw ynglŷn â’r costau a’r pwysau. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio bod llawer o agweddau’r gwariant, yn hollol briodol, wedi’u hanelu at y gofyniad cyfreithiol i ddarparu Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant, ac Addysg ac ati. Dyma’r meysydd sy’n cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.”

Gwario\'r treth cyngor

Taith Josh

Wedi i’w berthynas chwalu fe aeth Josh, sy’n 34 oed, i chwilio am gymorth gan dîm digartrefedd y Cyngor blwyddyn dwethaf. Ym mis Chwefror 2025, rhoddwyd Josh mewn llety dros dro a chafodd ymarferydd cefnogi atal digartrefedd ei ddynodi ar ei gyfer.

Josh

“Roeddwn yn ddigartref ddechrau’r flwyddyn dwythaf. Roeddwn wedi bod yn ddigartref o’r blaen a chefais fy rhoi mewn llety dros dro yn flaenorol, ond nid oeddwn yn y meddylfryd iawn yn flaenorol i geisio datrys fy sefyllfa yn ehangach.

Dim ond am gyfnod byr yr oeddwn i yno’r tro hwn. Roeddwn yn gofyn i bawb, yn ceisio dod o hyd i fy fflat fy hun. Yn y diwedd mi ddes o hyd i un a symud allan o’r llety dros dro yn weddol gyflym.”

Fis yn ddiweddarach roedd Josh yn rhentu llety yn breifat er mwyn byw ynddo ac roedd yn awyddus i ysgrifennu’r bennod yn ei stori.

“Tra roeddwn yn y llety dros dro, fe soniodd fy ymarferydd cefnogi atal digartrefedd wrtha i am gyrsiau Intuitive Thinking Skills.

Roeddwn ychydig yn amheus am wneud y cyrsiau i ddechrau, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli tan i fi fynd arnynt nad oedd gen i mewn gwirionedd ddim byd i’w golli a phopeth i’w ennill o roi cyfle i’r cyrsiau.

Fe ddechreuais y cyrsiau ym mis Ebrill a mis Mawrth o 2025. Fe wnes i’r cwrs sgiliau ar gyfer bywyd gyntaf ac fe wnes i fwynhau yn fawr a dysgu llawer ohono.

Mae’n eich dysgu chi sut i ymdrin â’ch meddylfryd eich hun a sut rydych chi’n meddwl am broblemau. Roeddwn i’n arfer cael trafferth mawr gyda fy hyder ac yn amau fy hun drwy’r amser.

Gofynnwyd i mi ar ddechrau’r cwrs beth fyddwn i’n hoffi ei wella, ac felly fe nodais waith gyda fy hyder.”

Aeth Josh wedyn ymlaen i gymryd y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, gan ddysgu llawer mwy.

“Fe es ymlaen i wneud y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a ddysgodd fwy o agweddau technegol i mi. Fe fyddwn yn cael fy rhoi yn esgidiau pobl eraill ac fe ddysgais sut i helpu’r rhai hynny a allai fod yn fwy diamddiffyn.

Fe ddysgais sut i helpu eraill a allai fod yn wynebu amgylchiadau fel digartrefedd neu efallai yn cael trafferth gyda chamddefnyddio sylweddau.

Erbyn dechrau’r haf, cafodd Josh gynnig lleoliad fel llysgennad gyda’r tîm Intuitive Thinking gyda’r gobaith y byddai’r cynllun wedyn yn arwain at swydd barhaol o fewn y tîm ei hun.

“Roeddwn wir yn llawn cyffro gan mai hwnnw oedd y lleoliad roeddwn i ei eisiau fwyaf o’r rhai a gafodd eu cynnig i mi. Fe ddysgais i roi areithiau a gweinyddu hyfforddiant drwy gysgodi aelodau o’r tîm. Fe helpodd hynny fy hyder gymaint, sefyll i fyny a siarad o flaen pobl. Roeddwn yn ofnus iawn ar y dechrau, ond fe ddaeth yn haws ac yn haws dros amser.

Roeddwn rhyw ddeufis i mewn yn fy lleoliad gyda’r tîm pan ges gynnig swydd yn y sector ynni ac roeddwn yn teimlo na allwn wrthod y swydd.

Roedd y sgiliau roeddwn wedi eu dysgu yn ystod y cyrsiau roeddwn wedi eu cymryd, a fy lleoliad wedi rhoi gymaint o hyder i mi yn fy rôl newydd. Mae’r swydd hon mor wahanol i’r hyn rydw i wedi ei wneud o’r blaen, ac mae’r sgiliau newydd hyn wedi rhoi’r hyder i mi i fynd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Dyma beth rydw i wedi elwa fwyaf ohono.

Roeddwn wedi arfer parhau i wneud y pethau yr oeddwn yn gyfforddus â nhw cyn i mi wneud y cyrsiau hyn. Roeddwn yn gwneud yr hyn yr oeddwn i wastad wedi ei wneud, ond yn y pen draw roeddwn yn cael yr un canlyniadau. Roeddwn yn teimlo fel mod i wedi treulio blynyddoedd yn llonydd i ddweud y gwir.

Ers i mi fynd ar y cyrsiau hyn dydw i erioed wedi teimlo cystal yn fy mywyd. Mae’n swnio’n wallgof i ddweud y gall cwrs newid hynny, ond fe ddysgais pam rwy’n meddwl am bethau a sut i fynd i’r afael â’r meddyliau hynny.”

Mae Josh wedi dewis ffyrdd mwy cadarnhaol o dreulio’r amser.

“Rydw i wedi gwneud dewisiadau iachach yn fy mywyd nawr, roeddwn yn ei chael yn anodd gyda diflastod pan ddes i’n sobr tua phedair blynedd yn ôl, roeddwn i angen elfennau eraill.

Fe ddechreuais i chwarae golff a mynd i’r gampfa. Rydw i nawr yn aelod o Glwb Golff Y Rhyl.”

Mae Josh nawr wedi graddio o’r cyrsiau Intuitive Thinking gyda nifer o dystysgrifau, ac mae’n mwynhau ei rôl newydd yn y sector ynni.

“Dwi’n credu y byddai’r cyrsiau hyn o fudd i bawb; does dim rhaid i chi fod mewn sefyllfa wael i fynd arnynt. Wnewch chi ddim colli dim o ddysgu o’r cwrs hwn, cyn belled â’ch bod yn buddsoddi ynddo rydych yn mynd i elwa ohono.

Mae pobl wedi dweud eu bod yn gallu gweld newid yn fy hyder. O lle roeddwn i fis Chwefror i lle rydw i nawr, mae’n teimlo fel dau unigolyn gwahanol. Roeddwn i’n teimlo ar goll a doedd gen i ddim gobaith i ddweud y gwir. Fe ddysgodd fi i feddwl yn wahanol a meddwl yn rhesymegol am sefyllfaoedd. Mae wedi fy helpu i gael y ffocws a’r cymhelliant i gael yr hyn rydw i ei eisiau.

Roedd fel effaith pelen eira, cyn gynted ag y penderfynais i ddechrau helpu fy hun, fe ddaeth pethau’n well yn raddol.”

"Mae’n teimlo fel cartref i mi o’r diwedd” – Stori Steve

Mae Steve Purse, sy’n byw yn y Rhyl, yn ymgyrchydd brwd, ac mae wedi bod i Senedd y DU i ymgyrchu ar sawl achlysur er mwyn cael cydnabyddiaeth o effaith profion niwclear ar deuluoedd personél.

Ac yntau’n fyr o gorffolaeth ac yn ddioddef o fethiant y system anadlol math dau, nid oedd ei gartref blaenorol yn caniatáu iddo fyw’n annibynnol, ac nid oedd yn gallu defnyddio ei gadair olwyn fodur yn y cartref.

Steve

Ymunodd Steve a’i deulu â’r Gofrestr Tai Arbenigol ym mis Ionawr 2021. Bu Steve a’i deulu’n gweithio’n agos â Rheolwr Cofrestr Tai Arbenigol y Cyngor a Therapyddion Galwedigaethol i symud i eiddo mwy priodol gydag addasiadau. Golygodd hyn waith ymchwil helaeth i sicrhau eu bod yn addas i ddiwallu anghenion Steve, ond bod y teulu cyfan hefyd yn gallu eu defnyddio.

Mae’r addasiadau hyn wedi galluogi Steve i fyw’n fwy annibynnol a gwella ansawdd bywyd i’w deulu ac iddo ef ei hun.

Cownter ergonomig yn y gegin

Defnyddiwyd adnoddau mewnol i gwblhau asesiad ar gyfer Steve er mwyn deall ei ofynion o fewn amgylchedd cegin.

Defnyddiwyd yr ystafell ailalluogi yng Nghanolfan Ddydd Hafan Deg yn y Rhyl gan Steve a’i deulu i brofi a mesur yr amrywiaeth o elfennau pwrpasol a oedd eu hangen yn eu cartref newydd.

Amcan yr ystafell yn Hafan Deg yw copïo cartref, ac mae’n cynnwys cownter ergonomig y gellwch ei addasu a phopty hawdd mynd ato, sy’n caniatáu mesuriadau a rhyngweithio hawdd lle bo’r angen. Nodwyd y byddai’n rhaid ystyried addasiadau nad oedd wedi eu gwneud eisoes, er mwyn i Steve allu cyrraedd pethau.

Drwy’r Gofrestr Tai Arbenigol, caiff cartrefi fel un Steve eu caffael drwy Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig; gellir gwneud addasiadau yn y cartrefi hyn yn bwrpasol ar gyfer yr unigolyn, gan alluogi preswylwyr i fyw bywydau llawn ac annibynnol.

Wrth siarad am ei brofiad, dywedodd Steve:

“Roedd y cartref lle’r oeddem yn byw cyn hyn yn hollol anaddas – nid oeddwn yn gallu cael fy nghadair olwyn i’r tŷ, hyd yn oed. Roedd y drysau’n gul a doeddwn i ddim yn gallu cyrraedd unrhyw beth. Doedd o ddim yn gartref teuluol i ddweud y gwir.

Cawsom alwad ffôn i ddweud bod yr eiddo hwn ar gael; pan welsom ni o, roeddem yn meddwl ei fod yn edrych yn hyfryd. Fe allaf i gael fy nghadair olwyn yn syth i’r tŷ o’r dreif rŵan. Mae’n siŵr bod rhai pobl yn cymryd hynny’n ganiataol, ond, i mi, roedd hynny’n beth newydd ac yn rhywbeth mawr.”

Gan gydweithio â chyflenwr arbenigol lleol, dyluniwyd ystafell ymolchi gyda thoiled a basn ymolchi pwrpasol, y gellir eu symud i fyny ac i lawr, i alluogi Steve i ymgymryd â’i ofal personol ei hun, a hwyluso trosglwyddiadau diogel ac annibyniaeth. Cafwyd datrysiad i gyfyngiadau o ran dyluniad yr eitemau, sef gosod y toiled a’r basn ymolchi yn sownd yn llawr concrit yr ystafell ymolchi er mwyn sicrhau’r uchder isaf ar gyfer gofynion Steve.

Toiled sy’n codi a gostwng

Wrth siarad am yr addasiadau yn ei gartref, dywedodd Steve:

“Mae’r toiled sy’n codi a gostwng yn newid byd i mi. Mae’r offer technolegol hyn yn soffistigedig. Dyna, i mi, ydy’r rhan fwyaf o’m hannibyniaeth, sef y toiled.”

Yn ogystal â thoiled sy’n codi a gostwng, mae yna freichiau pwrpasol yn yr ystafell ymolchi a chawod bwrpasol y gall y teulu cyfan ei defnyddio.

Cafodd y gegin yng nghartref Steve ei hailddatblygu hefyd. Mae’n cynnwys hob a sinc sy’n codi a gostwng, a phopty pwrpasol. Mae tapiau’r sinc wedi eu gosod mewn lle sy’n galluogi Steve i wneud diod iddo’i hun a chyrraedd cyfleusterau i olchi ei ddwylo a golchi llestri – tasg nad oedd Steve yn gallu ei gwneud ynghynt.

Meddai Steve:

“Mae’r sinc yn codi a gostwng, ac mae’r tapiau wedi cael eu haddasu fel fy mod yn gallu eu defnyddio nhw a golchi’r llestri.

Mae’r hob hefyd yn codi a gostwng, ac mae’r rheolyddion o fewn cyrraedd, felly gallaf goginio; ac mae drws y popty yn un ‘llithro a chuddio’, sy’n golygu fy mod yn gallu ei ddefnyddio’n iawn ac yn ddiogel. Rydw i’n gallu mynd at y bwrdd bwyd gyda fy nghadair olwyn hefyd.”

Nid yn unig bod yr eiddo wedi helpu Steve, ond mae wedi dod â’r teulu cyfan at ei gilydd a lleihau dibyniaeth Steve ar eraill ar gyfer tasgau pob dydd.

“Mae’r toiled yn anhygoel – mae’n codi a gostwng a gellir ei osod ar uchder pwrpasol i’r holl deulu ei ddefnyddio.

Gan fod tu mewn yr eiddo wedi ei addasu rŵan, mae popeth o fewn cyrraedd.

Mae’n teimlo fel cartref i mi o’r diwedd bellach.”

CIPOLWG

♻️ Cymorth ailgylchu yn eich llyfrgell leol yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd 📚💚

Bydd ein cynghorwyr ailgylchu yn ymweld â llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd.

Bydd ein cynghorwyr ailgylchu yn ymweld â llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd.

Galwch heibio am awgrymiadau ailgylchu defnyddiol, cyngor ymarferol a digon o wybodaeth i'ch helpu i ailgylchu mwy a gwastraffu llai. 🙌♻️

📍 Dewch o hyd iddyn nhw yn:

  • 🗓️ 21 Hydref — Llyfrgell Llanelwy, 10am–1pm
  • 🗓️ 22 Hydref — Llyfrgell y Rhyl, 10am–1pm
  • 🗓️ 23 Hydref — Llyfrgell Rhuddlan, 10am–1pm
  • 🗓️ 26 Hydref — Llyfrgell Rhuthun yn y bore a Llyfrgell Dinbych yn y prynhawn
  • 🗓️ 27 Hydref — Llyfrgell Prestatyn, 10am–1pm
  • 🗓️ 28 Hydref — Llyfrgell Corwen yn y bore a Llyfrgell Llangollen yn y prynhawn

Dewch draw i ddweud helo — mae'r tîm yn edrych ymlaen at helpu trigolion gydag awgrymiadau, cyngor ac arweiniad ar ailgylchu. 👋✨
#WythnosLlyfrgelloeddGwyrdd #AilgylchuMwy #GwastraffuLlai #LlyfrgelloeddSirDdinbych

Profi’r cerbydau graeanu i baratoi ar gyfer y gaeaf

Mae timau’r Cyngor yn paratoi ar gyfer tymor Cynnal a Chadw’r Gaeaf sydd ar ei ffordd i Sir Ddinbych.

Mae timau’r Cyngor yn paratoi ar gyfer tymor Cynnal a Chadw’r Gaeaf sydd ar ei ffordd i Sir Ddinbych.

Fel rhan o’r paratoadau hyn, bydd cerbydau graeanu’r Cyngor yn mynd allan ar draws gogledd a de Sir Ddinbych ar 15 ac 16 Hydref ar gyfer taith brawf. Bydd y gyrwyr yn dilyn y llwybrau graeanu arferol i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer y gaeaf, a bydd eu hadborth yn helpu i lywio cynlluniau cynnal a chadw’r Cyngor.

Mae rhwydwaith ffyrdd amrywiol Sir Ddinbych yn ymestyn o ffyrdd gwledig tawelach a lonydd cul sy’n gwasanaethu eiddo anghysbell i’r ffordd ddosbarth A uchaf yng Nghymru a llwybrau rhanbarthol allweddol fel yr A55.

I gael rhagor o wybodaeth am lwybrau graeanu’r Cyngor, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/parcio-ffyrdd-a-theithio/graeanu-yn-y-gaeaf.aspx

Llyr Gruffydd AS yn dysgu am waith rheoli llifogydd naturiol Sir Ddinbych yn Llysfasi

Llyr Gruffydd ASBu’r Gweinidog Cabinet y Senedd dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd AS, yn ymweld â Choleg Cambria Llysfasi ddydd Iau, 8 Hydref, i ddysgu mwy am y gwaith arloesol o reoli llifogydd naturiol sy’n cael ei gyflawni ledled dalgylch Clwyd gan Gyngor Sir Ddinbych.

Yn ystod yr ymweliad, clywodd y Gweinidog sut mae’r Cyngor wedi datblygu rhaglen uchelgeisiol o fwy na 15 o brosiectau rheoli llifogydd naturiol drwy gyllid Llywodraeth Cymru, gyda chwe chynllun eisoes wedi’u cwblhau. Mae’r ymyriadau wedi’u cynllunio i arafu llif dŵr a’i gadw yn y dirwedd am gyfnod hirach, gan helpu i leihau’r risg o lifogydd i gymunedau i lawr yr afon, tra hefyd yn gwella ansawdd dŵr, creu cynefinoedd a chryfhau gwydnwch amgylcheddol.

Roedd yr ymweliad yn arddangos y cynllun yn Llysfasi, sydd wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â staff Coleg Cambria, ac sy’n dangos sut y gall rheoli tir cynaliadwy gyfrannu at wydnwch rhag llifogydd wrth gefnogi ffermio cynhyrchiol. Mae’r prosiect hefyd yn darparu cyfleoedd dysgu gwerthfawr i fyfyrwyr, gan helpu i arfogi ffermwyr a rheolwyr tir y dyfodol â’r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau cydbwysedd wrth gynhyrchu bwyd, gwella’r amgylchedd a chryfhau gwydnwch cymunedol.

Cathryn HughesDywedodd Cathryn Hughes, Swyddog Lliniaru Llifogydd yn Sir Ddinbych: “Mae gweithio’n agos gyda ffermwyr, tirfeddianwyr, sefydliadau addysgol a Llywodraeth Cymru yn hanfodol os ydym am ddatblygu atebion ymarferol a chynaliadwy i’r risgiau llifogydd cynyddol sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd. Mae ymweliadau fel hyn yn gyfle ardderchog i ddangos sut mae rheoli llifogydd naturiol yn dod yn rhan bwysig o’n dull ehangach o leihau’r risg o lifogydd ar draws Sir Ddinbych a dalgylch Clwyd, gan hefyd sicrhau manteision i’r amgylchedd a chymunedau lleol.”

Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol Sir Ddinbych dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Rydym yn croesawu’r cyfle gwych hwn i dynnu sylw at y gwaith lliniaru llifogydd sy’n cael ei gyflawni drwy gyllid Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) Llywodraeth Cymru. Mae safleoedd Rheoli Llifogydd Naturiol, fel yr un yn Llysfasi, wedi bod yn rhan allweddol o uchelgais Sir Ddinbych ar gyfer rheoli risg llifogydd. Maent yn cynnig amddiffyniad i gymunedau a gwydnwch yn erbyn mwy o lifogydd, tra hefyd yn helpu’r Cyngor i gyflawni ei nodau ar gyfer Sir Ddinbych fwy Gwyrdd.”

Cafodd y cynllun rheoli llifogydd naturiol ei ddylunio gan WaterCo, a oedd hefyd yn cefnogi swyddogion Sir Ddinbych yn ystod yr ymweliad.

Ymweliad Llysfasi

Codi dros £500 i elusen Maggie's yng Ngwasanaeth Dinesig y Cadeirydd

Ddydd Sul, 20 Medi, cynhaliwyd Gwasanaeth Dinesig Sir Ddinbych yn Eglwys Sant Pedr, Rhuthun.

Gwasanaeth Dinesig

Dan arweiniad Cadeirydd y Cyngor ar y pryd, y Cynghorydd Bobby Feeley, roedd y gwasanaeth yn cynnwys cyfraniadau gan y Parchedig Luke Bristowe, Caplan y Cadeirydd, Lady Sue Hudson, a Mr David Jones OBE, Uchel Siryf Clwyd, yn ogystal â pherfformiad gan Gôr Cymunedol Rhuthun sy'n Gyfeillgar i Dementia.

Gwasanaeth Dinesig 2

Gwasanaeth Dinesig 2

Cododd y gynulleidfa swm gwych o £510.25 ar gyfer elusen ddewisol y Cynghorydd Feeley, Maggie’s, sy'n darparu cymorth canser o'i chanolfan yng Ngogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Dywedodd y Cynghorydd Feeley (gydag Emma Shuttleworth o Maggie's, isod): “Diolch i bawb a ddaeth draw, a gefnogodd Maggie’s ac a helpodd i wneud y Gwasanaeth Dinesig mor arbennig. Gwerthfawrogir eich haelioni a'ch cyfraniadau yn fawr.”

Maggie\'s

Ers y gwasanaeth, mae'r Cynghorydd Feeley wedi camu i lawr o'i rôl fel Cadeirydd yn dilyn ei phenodiad i Gabinet Cyngor Sir Ddinbych. Bydd Is-gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Scott, bellach yn ei olynu fel Cadeirydd.

 

Cwrs SKITTLES yr Haf yn helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau

Cymerodd grŵp o 10 o bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol ledled Sir Ddinbych ran mewn cwrs datblygiad personol SKITTLES yr Haf, a ddarparwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych.

Roedd y cwrs yn llawn hwyl a gweithgareddau, gan roi cyfle i’r bobl ifanc ddatblygu sgiliau newydd, ennill cymwysterau a rhoi cynnig ar brofiadau newydd.

Fel rhan o’r cwrs, enillodd y 10 person ifanc gymwysterau mewn Hylendid Bwyd, Cymorth Cyntaf a chwrs Agored Phoenix. Cafodd y cwrs ei ddarparu mewn partneriaeth â Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Ngogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ambiwlans Sant Ioan a Sir Ddinbych yn Gweithio.

Cymerodd y bobl ifanc ran mewn arhosiad preswyl ym Mryn Tysilio yn Llangollen, yn ogystal â chwblhau prosiect gardd gymunedol yng Ngorsaf VIBE yn y Rhyl. Bydd y gymuned ehangach yn gallu mwynhau a chael budd o’r lle cymunedol.

Mae’r cwrs wedi helpu pob un o’r bobl ifanc i fagu hyder, datblygu eu sgiliau a chael profiad gwerthfawr i’w helpu gyda chyfleoedd cyflogaeth neu goleg yn y dyfodol.

Gall pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn cyrsiau yn y dyfodol gysylltu â James Salisbury drwy james.salisbury@sirddinbych.gov.uk.

Sut ydych chi'n cofio'r Frenhines Elizabeth?

Gwahoddir pobl ledled y DU, y Gymanwlad a thu hwnt i fapio eu hatgofion o'r frenhines a deyrnasodd hiraf ar Brydain.

Rhannwch eich atgofion amdani a dod yn rhan o archif hanes byw. Cyflwynwch eich rhai chi yn www.queenelizabeth.com/cy

Credydau'r holl luniau: PA Images

Buchod wedi dychwelyd i Foel Famau

Mae’r gweithwyr cadwraeth cynefinoedd gorau yn y busnes yn ôl ar frig brysuraf y Bryniau Clwyd.

Nid oes gan y gwartheg gwych yma gradd Gwyddoniaeth Amgylcheddol ond yr hyn sydd ar goll o ran addysg maen nhw’n wneud iawn amdano gyda brwdfrydedd bywiog amdan gadwraeth ein cynefin rhostir. 

Mae’r buchod yma yn rhan o’r gwaith partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Dirwedd Genedlaethol, yn defnyddio dulliau traddodiadol i reoli’r dirwedd rydym yn gofalu amdano.

I ddarllen fwy am y prosiect, cliciwch y ddolen isod:

https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/cy/buchod-wedi-dychwelyd-i-foel-famau/ 

Galw ar drigolion Sir Ddinbych helpu dod o hyd i gyn-filwyr sydd â hawl i gyfiawnder

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cefnogi ymgyrch #BattleForLostVeterans2026  sy’n cael ei redeg gan Ymladd gyda Balchder (Fighting with Pride) ac yn annog trigolion lleol, grwpiau cyn-filwyr a sefydliadau cymunedol i helpu i gyrraedd pobl gafodd eu heffeithio gan y gwaharddiad hanesyddol ar bersonél LGBTQ+ oedd yn gwasanaethu'n agored yn y Lluoedd Arfog cyn 2000.

Ymladd gyda BalchderCafodd miloedd eu diswyddo, eu rhyddhau neu eu gorfodi i guddio eu hunaniaeth yn ystod eu gyrfaoedd milwrol. Erbyn hyn, gall cyn-filwyr cymwys fod â hawl i iawndal ariannol o hyd at £70,000, yn ogystal â mesurau adferol eraill.

Er bod llawer o gyn-filwyr eisoes wedi dod ymlaen, mae Ymladd Gyda Balchder yn amcangyfrif bod tua 1,000 o gyn-filwyr cymwys yn dal i fod yn anymwybodol o'r cynllun, neu heb wneud cais amdano eto. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Rhagfyr 2026.

Mae'r cyngor yn annog unrhyw un allai fod yn gymwys, neu sy'n adnabod rhywun a allai gael ei effeithio, i rannu gwybodaeth am yr ymgyrch a helpu i sicrhau bod cyn-filwyr yn derbyn y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth y maent yn ei haeddu.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd y cyngor, a Chefnogwr y Lluoedd Arfog dros Sir Ddinbych, "Mae cyn-filwyr wedi aberthu’n sylweddol wrth wasanaethu eu gwlad ac mae'n bwysig bod y rhai a wynebodd driniaeth annheg oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth yn cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.

"Rydym yn annog trigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau cyn-filwyr ledled Sir Ddinbych i helpu i ledaenu ymwybyddiaeth o'r ymgyrch hon. Drwy rannu'r wybodaeth, gallwn helpu i sicrhau bod unrhyw un a allai fod yn gymwys i gael iawndal yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt cyn y dyddiad cau."

Efallai nad yw rhai unigolion bellach yn uniaethu fel LGBTQ+, efallai nad ydynt yn ystyried eu hunain yn rhan o'r gymuned cyn-filwyr, neu efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd ailymweld â'u profiadau. Felly mae ymwybyddiaeth gymunedol yn hanfodol wrth helpu i gyrraedd y rhai allai fod yn gymwys am iawndal.

Am ragor o wybodaeth a chefnogaeth, ewch i dudalen we iawndal Ymladd Gyda Balchder - https://www.fightingwithpride.org.uk/reparations/

Neu, i wneud cais ewch i www.gov.uk/lgbt-veterans

Annog trigolion ac ymwelwyr i leihau'r risg o danau gwyllt yng nghefn gwlad

Mae ymwelwyr â chefn gwlad Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymddwyn yn gyfrifol yr haf hwn er mwyn helpu i leihau'r risg o danau gwyllt.

Mae Cyngor Sir Ddinbych a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rhannu’r cyngor hwn yn dilyn tywydd poeth a sych ac achosion diweddar o danau gwyllt ar draws Gogledd Cymru.

Mae Ceidwaid Cefn Gwlad yn barod i ymateb i adroddiadau am danau gwyllt, a gofynnir i ymwelwyr ddilyn cyngor ar atal tanau mewn gwarchodfeydd natur, parciau gwledig ac ardaloedd cyhoeddus agored eraill:

  • Peidiwch â chynnau tanau na barbeciw; dewch â phicnic yn lle
  • Diffoddwch sigaréts yn llwyr
  • Os gwelwch dân gwyllt neu os ydych yn arogli mwg trwm, ewch i le diogel ar unwaith.
  • Ffoniwch 999 a gofynnwch am y gwasanaeth tân. Byddwch yn barod i roi lleoliad manwl gywir neu nodwedd amlwg yn yr ardal.

Anogir ymwelwyr hefyd i ddefnyddio safleoedd gwersylla sefydledig sydd â chyfleusterau, er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar y timau sy'n monitro safleoedd poblogaidd cefn gwlad.

BBQ

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, yr Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Lleol a Chynllunio yng Nghyngor Sir Ddinbych: "Gyda'r tywydd sych hirfaith, rydym yn arbennig o bryderus ynghylch y risgiau o danau gwyllt sy'n gysylltiedig â gwersylla mewn ardaloedd anghysbell.

"Gall tanau mewn glaswellt, rhedyn a grug ledaenu'n gyflym mewn amodau sych a gwyntog. Os gwelwch yn dda, ceisiwch osgoi tanau agored a diffodd deunyddiau ysmygu yn llwyr."

"Rydym yn annog pobl i ddefnyddio safleoedd gwersylla swyddogol a dilyn rheolau'r safle. Bydd ymddwyn yn synhwyrol yn ystod y tywydd poeth hwn yn helpu i gadw ymwelwyr yn ddiogel, cefnogi ein timau a lleihau'r pwysau ar adnoddau.

Ychwanegodd, "Mae'n arbennig o bwysig ein bod oll yn dilyn y canllawiau hyn o ystyried y pwysau presennol ar Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, sy'n delio â thanau gwyllt ar draws y rhanbarth ar hyn o bryd."

2026 Dyddiadau ar gyfer gwiriad pwysau carafanau am ddim a chyngor ar ddiogelwch

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych a Chonwy yn cynnig sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau a faniau gwersylla.

Gall preswylwyr sy’n mynd ar wyliau mewn carafán neu fan wersylla wneud yn siŵr nad ydynt yn gorlwytho eu carafán a rhoi eu hunain mewn perygl.

Mae’r sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau ar gael i drigolion Sir Ddinbych a Chonwy, ac i’r rheini mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill os gallant deithio i’r lleoliad.

Sesiwn gyngor yw hwn, ac ni chymerir unrhyw gamau os canfyddir gorlwytho neu faterion eraill, ond byddwn yn gweithio gyda chi i leihau'r llwyth. Bydd swyddogion y cyngor yng nghwmni swyddog o adran Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru a fydd yn rhoi cyngor diogelwch ymarferol i gadw'ch car a'ch carafan yn ddiogel.

Bydd y gwiriadau pwysau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal ar y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:

  • Dydd Gwener 17/07 – 10am-3pm
  • Dydd Gwener 28/08 – 10am-3pm

Nid oes angen apwyntiad ar gyfer y sesiynau yma ac mae croeso i breswylwyr fynychu unrhyw un o’r sesiynau a restrir a darganfod a ydynt o fewn y pwysau cyfreithlon ar gyfer eu cerbydau.

Gellir dod o hyd i'r bont bwyso ar ffordd yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy, tua thri chwarter milltir o Ruddlan, a leolir yn y gilfan, bydd arwyddion yn nodi bod y bont bwyso ar waith.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr uchod, cysylltwch ag adran Safonau Masnach Sir Ddinbych ar tradingstandards@denbighshire.gov.uk ewch i'w tudalen Facebook, yn yr un modd cysylltwch â Safonau Masnach Conwy ar trading.standards@conwy.gov.uk

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n uchel ei berfformiad

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych yn dysgu ac yn tyfu

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych wyrddach

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalgar

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych ffyniannus

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Tai o ansawdd sy'n bodloni anghenion pobl

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Cymorth ariannol tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim

Mae cymorth ariannol ar gael tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch a ydych chi'n gymwys ar gael ar y poster isod.

I wneud cais ewch i www.sirddinbych.gov.uk/budd-daliadau neu sganiwch y cod QR.

Newidiadau i brawf traffig Prestatyn

O ddydd Sadwrn 15 Awst, mae trefniant newydd yn cael ei gyflwyno.

Caiff trefniant newydd ei gyflwyno i brawf traffig Prestatyn fel rhan o ymdrechion parhaus y cyngor i wella llif y traffig a lleihau tagfeydd yng nghanol y dref.

O ddydd Sadwrn 15 Awst, bydd cerbydau yn gallu troi i'r dde o'r B5120 Ffordd Pendyffryn, Prestatyn (wrth deithio o gyfeiriad yr orsaf fysiau/Lidl) i lawr Ffordd y Bont tuag at y gylchfan fach, er mwyn cyrraedd busnesau ar waelod y Stryd Fawr a Pharc Manwerthu Parc Prestatyn.

Bwriad y drofa ychwanegol i’r dde yw lleihau nifer y cerbydau sy'n teithio drwy Barc Manwerthu Parc Prestatyn i gyrraedd busnesau ar ben isaf y Stryd Fawr. Drwy ddarparu llwybr mwy uniongyrchol i yrwyr, mae'r cyngor yn gobeithio gallu lleddfu'r pwysau ar ffyrdd lleol a gwella mynediad i drigolion, ymwelwyr a busnesau.

Awgrymodd gwaith modelu traffig blaenorol ar gyfer yr ardal na fyddai troi i'r dde yn y lleoliad yma yn bosib oherwydd lled y ffordd a chyfyngiadau cysylltiedig y briffordd. Fodd bynnag, yn dilyn gwaith manwl ac adolygiad o'r gofod sydd ar gael ar y ffyrdd, nodwyd datrysiad sy'n caniatáu i'r drofa i’r dde ddigwydd yn ddiogel.

Anogir modurwyr i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio drwy'r ardal wrth i ddefnyddwyr y ffyrdd ymgyfarwyddo â'r trefniant newydd. Bydd arwyddion priodol mewn lle i gyfeirio gyrwyr.

Bydd y cyngor yn monitro symudiadau traffig a lefelau tagfeydd yn ystod y cyfnod prawf er mwyn asesu effeithiolrwydd y newidiadau a phenderfynu unrhyw welliannau yn y dyfodol a allai fod eu hangen.

Darganfod Sir Ddinbych...

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Beth am gael ysbrydoliaeth o'n mapiau cerdded a beicio am syniadau newydd o leoedd i ymweld â nhw.

Am fwy o ysbrydoliaeth ar weithgareddau yn Sir Ddinbych a'r cyffiniau ewch i - https://www.northeastwales.wales/cy/ 

Cofrestru Llety Ymwelwyr yng Nghymru

Deddf newydd i gofrestru llety ymwelwyr yng Nghymru: Cyhoeddi gweminarau i helpu darparwyr i baratoi

Cofrestru llety i ymwelwyr - posterBydd gofyn i unrhyw un sy'n derbyn archebion ar gyfer llety dros nos yng Nghymru — o westeion achlysurol i weithredwyr gwestai mawr — gofrestru eu llety gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) pan fydd y gofrestr yn lansio'r hydref hwn.

Mae deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn golygu y bydd angen i bob darparwr sy'n cynnig llety i ymwelwyr, boed yn ystafell sbâr sengl, bwthyn gwyliau, gwely a brecwast, neu westy gwasanaeth llawn, gwblhau proses gofrestru ffurfiol. Mae'r gofyniad yn berthnasol p'un a yw gwesteion yn aros am un noson neu sawl wythnos.

Bydd y cynllun cofrestru llety ymwelwyr newydd yn lansio yn hydref 2026. Cyn hyn, mae'r ACC yn annog gwesteiwyr a busnesau i gofrestru am ddiweddariadau fel y gallant dderbyn nodyn atgoffa, canllawiau, a'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r dyddiad cofrestru agosáu. Mae’r broses gofrestru’n rhad ac am ddim ac mae’n orfodol i bob darparwr llety gofrestru hyd yn oed os na chaiff yr Ardoll Ymwelwyr ei chyflwyno yn y pen draw yn y sir. Gallai gall darparwyr sy'n methu â chofrestru wynebu cosbau.

Gweminarau i Gefnogi Gwesteiwyr a Llwyfannau Archebu

Er mwyn helpu i baratoi'r sector, mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cynnig cyfres o weminarau am ddim wedi'u hanelu at ddarparwyr llety ymwelwyr, llwyfannau archebu a chyrff twristiaeth. Bydd y sesiynau hyn yn darparu diweddariadau diweddaraf ar y gofynion cofrestru newydd a chanllawiau clir, ymarferol ar sut y gall darparwyr llety gydymffurfio. Bydd hefyd sesiwn holi ac ateb gydag arbenigwyr ACC.

Dyddiadau'r Gweminarau

Sesiynau Saesneg:

  • Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026, 11am–12pm
  • Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026, 6pm–7pm

Sesiwn Cymraeg:

  • Dydd Iau 26 Mawrth 2026, 11am–12pm

Sut i Gofrestru ar gyfer Gweminar

Gallwch gofrestru ar gyfer gweminar ar y ddolen ganlynol - https://www.llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru/hyfforddiant-digwyddiadau

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer hysbysiadau am y cynllun cofrestru newydd, ewch i https://registervisitoraccommodation.service.gov.wales/email-signup

 

Awydd dod yn Lysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych?

Mae’r cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych, yn gwrs hyfforddiant ar-lein am ddim i wella eich gwybodaeth am y sector twristiaeth yn Sir Ddinbych.

Mae 14 modiwl i ddewis ohonynt ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys cerdded, becio. bwyd, celfyddydau, arfordir, hanes a thwristiaeth gynaliadwy.

Gwyliwch ein ffilm fer sy’n sôn am y cwrs.

Ewch i www.llysgennad.cymru a chychwyn arni heddiw.

 

Planhigfa’n meithrin gwely newydd i gefnogi blodau gwyllt

Mae gwely newydd yn llawn cefnogaeth i flodau gwyllt lleol yn dod yn ei flaen yn ein Planhigfa Goed yn Llanelwy.

Mae gwely newydd yn llawn cefnogaeth i flodau gwyllt lleol yn dod yn ei flaen yn ein Planhigfa Goed yn Llanelwy.

Diolch i gymuned o wirfoddolwyr y Blanhigfa Goed, mae lle newydd wedi'i greu y tu allan i'r twneli tyfu i helpu gyda gwaith coed brodorol y safle.

Mae gwirfoddolwyr wedi plannu planhigion dros ben sydd wedi'u tyfu o hadau a gasglwyd ar hyd a lled Sir Ddinbych mewn gwely newydd ei baratoi.

Unwaith y bydd y planhigion yn hadu, bydd yr hadau'n cael eu casglu a'u storio'n briodol yn barod i'w plannu'r tymor canlynol.

Dywedodd Keegan Blazey, Swyddog yn y Blanhigfa Goed: “Mae gennym gymuned wych o wirfoddolwyr yma yn y blanhigfa goed, mae’n wych eu helpu i ddysgu sgiliau newydd ac rydym hefyd yn dysgu drwyddyn nhw diolch i’r profiadau bywyd gwahanol maen nhw’n eu cynnig bob wythnos.

“Bu Francesca, un o’n myfyrwyr sy’n gwirfoddoli, yn ymdrechu’n galed i helpu i greu’r gwely hwn a fydd yn rhoi ffynhonnell hadau wych i ni ar y safle i’n helpu i barhau i ddiogelu a meithrin ein natur leol yn y dyfodol.”

A WYDDOCH CHI?

Cael problemau gyda’ch rhyngrwyd? Efallai y gallwn helpu!

Ydy unrhyw un o’r rhain yn broblem i chi? 

🔹 Mae eich rhyngrwyd yn araf neu’n annibynadwy

🔹 Rydych chi’n pendroni pryd y byddwch yn cael Ffibr Llawn

🔹 Nid ydych yn siŵr pa opsiynau eraill sydd ar gael, megis band eang 4G, 5G neu loeren

🔹 Rydych chi’n pendroni a allech chi elwa o gynllun band eang neu gysylltedd gan y llywodraeth

🔹 Rydych chi’n poeni am newidiadau i’r rhwydwaith ffôn copr traddodiadol

🔹 Rydych chi’n poeni am sut y bydd eich llinell dir yn gweithio yn ystod toriad pŵer

Oeddech chi’n gwybod bod gan Sir Ddinbych Swyddog Digidol a all helpu? 💻

Gall ein Swyddog Digidol, Philip Burrows, gynnig cyngor ac arweiniad, eich helpu i ddeall eich opsiynau cysylltedd, rhoi gwybod i chi am gynlluniau y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer a’ch diweddaru am unrhyw gyllid neu gymorth a allai fod ar gael yn eich ardal.

Os oes gennych gwestiwn neu bryder am eich rhyngrwyd neu gysylltedd digidol, cysylltwch â philip.burrows@sirddinbych.gov.uk

Rydyn ni yma i’ch helpu i gadw mewn cysylltiad! 🌐

 

A wyddoch chi y gallwch wylio cyfarfodydd y Cyngor arlein?

Gallwch weld gweddarllediadau byw ac wedi eu recordio o gyfarfodydd pwyllgorau’r Cyngor ar unrhyw adeg.

Mae'r holl bapurau hefyd i'w gweld gan gynnwys yr agenda a phenderfyniadau.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am beth syn digwydd yn y Cyngor, edrychwch ar y calendr cyfarfodydd i weld beth sy’n mynd ymlaen.

A wyddoch chi sut i rhoi eich enw i lawr ar gyfer y Gofrestr Tai?

Ydych chi'n gwybod beth mae SARTH yn ei olygu? Mae SARTH yn sefyll am ‘Single Access Route to Housing’ sef 'Llwybr Mynediad Sengl i Dai’. Dyma lle, os ydych chi am gael eich cynnwys ar y Gofrestr Tai, dim ond un cais y bydd yn rhaid i chi ei wneud. Yn lle gwneud cais i wahanol gymdeithasau tai ar wahân, rydych chi'n cwblhau un cais sy'n cael ei rannu ar draws yr holl landlordiaid hynny sy'n rhan o'r cynllun. Mae ‘Llwybr Mynediad Sengl i Dai’ (SARTH) yn cael ei rannu gan bob darparwr tai cymdeithasol yn Sir Ddinbych. Ar ôl i chi wneud cais i fynd ar y Gofrestr Tai, yna caiff eich angen chi am dy gael ei asesu a'ch bod chi'n cael eich rhoi mewn band blaenoriaeth, gan helpu i sicrhau bod tai'n cael eu dyrannu mewn ffordd deg a thryloyw i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Mae'r holl wybodaeth sydd angen i chi ei gwybod am y cynllun, a sut i wneud cais, ar ein gwefan.

Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn agored i bawb 11 i 25 oed. Mae nhw yn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd cymdeithasol i ddatblygu diddordebau yn ogystal â helpu a chefnogi unrhyw un sydd ei angen. I ddod o hyd i glwb ieuenctid lleol neu i gael cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc, ewch i’n gwefan.

Prydau ysgol am ddim

Mae pob plentyn oed cynradd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy'r cynllun Prydau Ysgol Cynradd Cynradd Cyffredinol. Mae hon yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i sefydlu i helpu gyda'r costau byw cynyddol. Gallwch ddarganfod rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor.

Llawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, papurau newydd ac yn y blaen

Gallwch chi lawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, cylchgronau digidol a phapurau newydd am ddim gan ddefnyddio ap Borrowbox? Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN. Ddim yn aelod o'r llyfrgell? Mae ymuno ar-lein am ddim www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd.  

A wyddoch chi mai 0.9% o wariant Treth y Cyngor sy'n mynd ar Wasanaeth Treftadaeth y sir?

Mae Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych yn cyfrif am 0.9% o wariant Treth y Cyngor.

Am hyn, mae'n cadw ac yn hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (wedi'i lleoli yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr.

Drwy ddiogelu'r rhain mae'r gwasanaeth yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.

Trwy ein hatyniadau, digwyddiadau a rhaglenni dysgu, rydym yn cefnogi balchder lleol, twristiaeth ddiwylliannol a'r economi wrth amddiffyn treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd.

Bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd. Mae’n egluro beth allwch chi ei ddisgwyl wrth wneud cais am drwyddedau, yn ystod archwiliadau a gorfodi, a sut i gysylltu neu roi adborth. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan.

Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant yn wythnosol

Fod Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant wythnosol am ddim ledled y sir – gan gynnwys galwadau heibio, teithiau cerdded llesiant, cefnogaeth i bobl ifanc, a gweithgareddau i hybu hyder. Maen nhw ar agor i holl drigolion Sir Ddinbych 16+ oed, ac yn hollol rhad ac am ddim! Edrychwch ar yr amserlen a’r digwyddiadau diweddaraf yma. 

A wyddoch chi fod 1.1% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y gwasanaeth Cefn Gwlad?

Mae 1.1% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Cefn Gwlad sy'n rheoli dros 80 o safleoedd cefn gwlad, dros 1,200 hectar o fannau gwyrdd ar gyfer hamdden a chadwraeth.

Mae'r rhain yn amrywio o Barc Gwledig Loggerheads a Moel Fammau, Planhigfa Goed y Sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Prestatyn Dyserth Way, Llantysilio Green yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o safleoedd cymunedol llai ar draws y Sir.

Mae gan y Gwasanaeth dîm arbenigol yn y maes Ecoleg a Choed ledled y Sir,  y dynodiad Tirwedd Genedlaethol, hamdden a hawliau tramwy, sy'n trefnu teithiau cerdded natur ar gyfer iechyd ac yn rheoli'r Ganolfan Cefn Gwlad yn Loggerheads ac arlwyo ym Mhlas Newydd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

Mae Treth y Cyngor yn cynrychioli dim ond 25% o arian y Cyngor

Mae Treth y Cyngor ond yn cyfrif am 25% o gyfanswm cyllid y Cyngor. Pan fyddwch yn talu eich bil Treth y Cyngor blynyddol, mae 1.8% o hwnnw’n talu am gasgliadau gwastraff ac ailgylchu – sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar dreth gyngor eiddo Band D o £1,799.48 y flwyddyn). Mae'r rhan fwyaf o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas - ysgolion ac addysg yw'r gwariant mwyaf sy'n cyfrif am 36.7% tra bod gofal oedolion a gofal cymdeithasol yn cyfrif am 29.8%. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan.

A wyddoch chi bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?

Oeddech chi'n gwybod bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?

Nid yw'r holl Dreth Cyngor a gesglir yn talu am ddim ond gwasanaethau'r cyngor, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân. I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

A wyddoch chi bod 64% o gyllideb y Cyngor yn mynd ar addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol?

Mae 64% o gyllideb y Cyngor yn mynd ar addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol? Mae 14% arall wedi'i neilltuo i bethau fel cynllun cenedlaethol Cymru gyfan ar gyfer budd-dal y Dreth Gyngor a'r ardoll y mae'n rhaid i ni ei thalu i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, sydd wedyn ond yn gadael 22% ar ôl ar gyfer holl wasanaethau eraill y Cyngor gan gynnwys gwagio biniau ac ailgylchu, cynllunio a diogelu'r cyhoedd, diogelu atyniadau treftadaeth, cludo disgyblion i'r ysgol.

Gallwch ddysgu mwy am ble mae'r gyllideb yn mynd ar y tudalennau newyddion.

A wyddoch chi?

Mae 36.7% o'ch Treth Cyngor yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg, a 29.8% yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol, sy'n golygu bod dros 66% o'ch Treth Cyngor yn mynd ar amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

A wyddoch chi fod gan Sir Ddinbych yn Gweithio tudalennau ar ein gwefan?

Mae gan Sir Ddinbych yn Gweithio dudalennau ar wefan y Cyngor.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yma i helpu preswylwyr 16 oed a hŷn a allai fod yn ei chael yn anodd neu sy’n poeni am arian. P’un ai a ydych chi’n chwilio am waith neu angen cefnogaeth i godi eich hun yn ôl ar eich traed, mae nhw yma i’ch arwain chi tuag at ddyfodol gwell. Ewch i'n gwefan i gael gweld beth sydd gennyn nhw i gynnig.

A wyddoch chi fod 1.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd?

Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd.

O fewn hyn mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am 1,419km o briffyrdd (ag eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a cheuffosydd, 302 o waliau cynnal a 26,000 o geunentydd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi bod 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion?

Mae 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion.

A gyda 36.7% yn mynd i ysgolion ac addysg, mae hyn yn golygu bod dros 66% o’ch Treth Cyngor yn mynd i warchod y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

A wyddoch chi bod 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol?

Mae 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol.

Am hyn, mae'r Cyngor yn cludo oddeutu 2,871 o ddisgyblion yn ddiogel i 75 ysgol ledled y sir.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi fod 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd?

Mae 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd.

Am hyn, mae’r Cyngor yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a physt wedi’u goleuo

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

Wyddoch chi mai 1.8% o wariant Treth Cyngor sy’n mynd ar wagu biniau ac ailgylchu?

Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd ar wagio biniau ac ailgylchu sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D).

Am hyn, mae’r Cyngor yn casglu oddeutu 73,000 o finiau o fwy na 47,000 o gartrefi bob wythnos ar draws y sir.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi fod 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd?

Mae 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd ac fel rhan o hyn, mae'r Cyngor yn archwilio oddeutu 720 o fwytai, caffis a lleoliadau pryd ar glud bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ar gyfer trigolioin Sir Ddinbych.

Yn ogystal, mae'r Cyngor yn ymateb i dros 1,200 o geisiadau bob blwyddyn sy'n berthnasol i dai a llygredd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

FIDEOS

Gwenoliaid Duon

Wyddoch chi fod ein tîm Bioamrywiaeth hefyd yn gweithio i gefnogi gwenoliaid duon sy'n mudo i Sir Ddinbych yn ystod yr haf?

Wyddoch chi fod ein tîm Bioamrywiaeth hefyd yn gweithio i gefnogi gwenoliaid duon sy'n mudo i Sir Ddinbych yn ystod yr haf? Mae'r adar hyn ar Restr Goch yr DU o Adar sy'n Peri Pryder Cadwraethol. Dysgwch beth rydym yn ei wneud yn y sir a sut gallwch chi helpu drwy wylio'r clip hwn.

Grŵp Casglu Sbwriel Morol

Mae Tîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr wedi dod at ei gilydd i gasglu dros 30 bag o sbwriel ar hyd arfordir Prestatyn. 

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynnal eleni i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol yn yr ardal a all greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

Gall cael gwared ar y sbwriel oddi ar y traeth hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr yn well.

Gwyliwch y clip yma am fwy o wybodaeth.

Cofrestru Llety Ymwelwyr yng Nghymru

Bydd gofyn i unrhyw un sy'n derbyn archebion ar gyfer llety dros nos yng Nghymru — o westeion achlysurol i weithredwyr gwestai mawr — gofrestru eu llety gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) pan fydd y gofrestr yn lansio'r hydref hwn.

Bydd y cynllun cofrestru llety ymwelwyr newydd yn lansio yn hydref 2026. Cyn hyn, mae'r ACC yn annog gwesteiwyr a busnesau i gofrestru am ddiweddariadau fel y gallant dderbyn nodyn atgoffa, canllawiau, a'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r dyddiad cofrestru agosáu.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer hysbysiadau am y cynllun cofrestru newydd, ewch i wefan Awdurdod Cyllid Cymru.

Cnwysyddion Nwy

Yn cynllunio barbeciw yr haf hwn? Pan fydd y nwy yn dod i ben, gwnewch yn siŵr bod y silindr yn mynd i'r lle cywir. Ni ddylid byth roi poteli a silindrau nwy yn eich bin ailgylchu cartref na'ch bin gwastraff cyffredinol. Gwyliwch ein fideo byr i gael cyngor syml ar sut i gael gwared arnynt yn ddiogel.

Beth ddylwn i ei wneud â phapur brown?

Mae papur brown (sy’n cael ei ddefnyddio yn aml ar gyfer pecynnau danfon, bagiau bwyd i fynd neu i bacio o amgylch eitemau mewn bocsys) yn cynnwys ffeibrau fel cardfwrdd nad oes posib’ eu hailgylchu gyda phapur arall. Gwyliwch isod.

Ymweliadau i ysgolion gan y tîm Gwastraff ac Ailgylchu

Dydi hi byth rhy gynnar i ddysgu am ailgylchu! 🧃📦 Mae Tîm Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych yn ymweld ag ysgolion i helpu plant i ddeall beth ellir ei ailgylchu, i ble mae ailgylchu’n mynd, a sut gall pawb wneud eu rhan. ♻️ Gwyliwch ein fideo i ddarganfod mwy. 🎥

BE SY' MLAEN

Glanhau Traeth y Rhyl ym mis Hydref

Mae sesiwn glanhau’r traeth wedi’i drefnu ar draeth y Rhyl, o faes parcio Theatr y Pafiliwn, LL18 3AQ ar Hydref 26 o 3pm tan 4pm.

Mae sesiwn glanhau’r traeth wedi’i drefnu ar draeth y Rhyl, o faes parcio Theatr y Pafiliwn, LL18 3AQ ar Hydref 26 o 3pm tan 4pm.

Mae croeso i wirfoddolwyr ymuno â’r digwyddiad sydd wedi ei drefnu gan dîm Risg Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych gydag offer yn cael ei ddarparu gan Gadwch Gymru’n Daclus.

Mae’r bartneriaeth yn gweithio i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol yn yr ardal a all greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr, ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

Gall cael gwared ar y sbwriel oddi ar y traeth hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr yn well. Mae'r sesiwn casglu sbwriel, sydd wedi dod yn ddigwyddiad misol, hefyd yn helpu i wella'r amgylchedd i drigolion lleol ac ymwelwyr.

I gael mwy o wybodaeth am ymuno â’r digwyddiad, cysylltwch â floodrisk@denbighshire.gov.uk / 01824 708399am fwy o fanylion.

Camu’n ôl mewn amser i glywed straeon am Rhuthun mewn digwyddiad treftadaeth yr hanner tymor hwn

Cynhelir digwyddiad rhad ac am ddim dan ofal Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (sydd wedi’u lleoli yn Amgueddfa Carchar Rhuthun) ar 27 Hydref, fydd yn cynnwys ffilm, gweithgareddau creadigol a chyfleoedd i archwilio hanes lleol fel rhan o Ddiwrnod Treftadaeth Clyweledol y Byd 2026.

FfenestrWedi’i ysbrydoli gan thema eleni, sef “Eich Ffenestr ar y Byd”, bydd y digwyddiad yn dangos sut y gall archifau helpu pobl i ddarganfod safbwyntiau newydd am eu cymuned a’i hanes.

Bydd cyfle i ymwelwyr wylio ffilm arbennig wedi’i churadu sy’n olrhain hanes Rhuthun dros y degawdau, creu cardiau post wedi’u hysbrydoli gan archifau, ac archwilio arddangosfa o ffotograffau hanesyddol, gan gynnwys portreadau Fictoraidd Carte de Visite.

Caiff ffilm fer newydd ei dangos am y tro cyntaf yn ystod y prynhawn, sef ffim a gomisiynwyd gan Archifau Cymru, sy’n tynnu sylw at y straeon a’r trysorau sy’n aros i gael eu darganfod mewn archifau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, “Mae archifau’n helpu i ddod â’n hanes yn fyw, gan ein cysylltu â’r bobl, y lleoedd a’r straeon sydd wedi siapio ein cymunedau. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i drigolion ac ymwelwyr o bob oed archwilio treftadaeth Rhuthun, darganfod cofnodion hynod ddiddorol o’r gorffennol a hyd yn oed greu cysylltiadau â hanes lleol. Rwy’n annog pawb i ddod draw i weld trysorau ein harchifau.”

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, yn addas i deuluoedd ac yn agored i bawb.

Manylion y digwyddiad

Beth: Diwrnod Treftadaeth Clyweledol y Byd 2026
Pryd: Dydd Mawrth, 27 Hydref, 1.30pm – 4.30pm
Ble: Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn Amgueddfa Carchar Rhuthun, Stryd Clwyd, Rhuthun, LL15 1HP

Gwahodd Busnesau Gogledd Cymru i Ddigwyddiad Sgiliau

Mae busnesau ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i fynychu Sgiliau Gogledd Cymru: Cynllun Newydd, Atebion Ymarferol, digwyddiad rhanbarthol sydd wedi’i gynllunio i helpu cyflogwyr i fynd i’r afael â heriau’r gweithlu a chael mynediad at gymorth ymarferol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Venue Cymru, Llandudno, ddydd Iau 12 Tachwedd 2026 (9yb i 1.30yp), a bydd yn dod â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau cymorth ynghyd i lansio Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth newydd Gogledd Cymru.

Invitation

Bydd y digwyddiad yn cynnig cyngor ac arweiniad i fusnesau ar recriwtio, cadw staff, datblygu sgiliau a chynllunio’r gweithlu, yn ogystal ag amlygu’r ystod o gyfleoedd cymorth, cyllid a hyfforddiant sydd ar gael ledled y rhanbarth.

Mae ffigurau o Gynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru yn amlygu maint yr her sy’n wynebu cyflogwyr, gyda 53% o fusnesau yn nodi recriwtio fel eu prif her a 56% yn adrodd eu bod yn wynebu prinder sgiliau yn eu gweithlu.

Bydd mynychwyr yn cael cyfle i gysylltu’n uniongyrchol â sefydliadau sy’n gallu cefnogi eu busnes, dysgu mwy am y ddarpariaeth sgiliau a hyfforddiant gyfredol, a chael atebion ymarferol i heriau datblygu’r gweithlu.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, sy’n gweithio gydag cyflogwyr, darparwyr addysg a phartneriaid yn y sector cyhoeddus i sicrhau bod y ddarpariaeth sgiliau yn diwallu anghenion economi’r rhanbarth.

Manylion y Digwyddiad

  • Sgiliau Gogledd Cymru: Cynllun Newydd, Atebion Ymarferol
  • Venue Cymru, Llandudno
  • Dydd Iau 12 Tachwedd 2026
  • 9yb i 1.30yp

Gall busnesau gofrestru am le am ddim drwy Eventbrite.

Am ragor o wybodaeth am gymorth sgiliau a chyflogaeth yng Ngogledd Cymru, ewch i wefan Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

Sesiynau galw heibio i helpu gyda'ch biliau dŵr

Dŵr Cymru Welsh Water - Resource Centre | Esri UK

Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru i helpu i wneud eich biliau dŵr yn fwy fforddiadwy. Mae gan Dŵr Cymru amrywiaeth o gynlluniau cymorth a thariffau ar gael, gyda rhai cwsmeriaid yn arbed hyd at £300 y flwyddyn. Mae cymorth hefyd ar gael i gwsmeriaid sy'n cael trafferth gydag ôl-ddyledion, ynghyd â chymorth ymarferol drwy'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth i'r rhai a allai fod angen help ychwanegol oherwydd oedran, salwch, anabledd neu amgylchiadau eraill.

Dewch i un o'r sesiynau galw heibio i gael gwybod pa gymorth allai fod ar gael i chi a derbyn help gyda cheisiadau.

Mae’r sesiynau am ddim ac nid oes angen apwyntiad.

  • 29 Medi: Llyfrgell a Siop Un Alwad, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl LL18 3AA (2pm - 4pm)
  • 14 Hydref: Gorsaf VIBE, 40 Stryd Bodfor, Y Rhyl LL18 1AT (1pm - 4pm)
  • 16 Hydref: Llyfrgell Prestatyn, 21 King's Avenue, Prestatyn LL19 9AA (10am - 1pm)
  • 21 Hydref: HWB Dinbych, Ffordd Smithfield, Dinbych LL16 3RG (1pm - 2.30pm)
  • 26 Hydref: Llyfrgell Prestatyn, 21 King's Avenue, Prestatyn LL19 9AA (10am - 1pm)
  • 28 Hydref: Gorsaf VIBE, 40 Stryd Bodfor, Y Rhyl LL18 1AT (10am - 2pm)
  • 30 Hydref: Llyfrgell a Siop Un Alwad, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl LL18 3AA (11am - 2pm)
  • 30 Hydref: Ystafell Siambr y Cyngor Tref, 7 Ffordd Nant Hall, Prestatyn LL19 9LR (3pm - 4.30pm)
  • 3 Tachwedd: Ystafell Siambr y Cyngor Tref, 7 Ffordd Nant Hall, Prestatyn LL19 9LR (9am - 11.30am)
  • 3 Tachwedd: Llyfrgell a Siop Un Alwad, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl LL18 3AA (1pm - 4pm)
  • 9 Tachwedd: HWB Dinbych, Ffordd Smithfield, Dinbych LL16 3RG (9.30am - 11am)
  • 11 Tachwedd: Gorsaf VIBE, 40 Stryd Bodfor, Y Rhyl LL18 1AT (11am - 2pm)
  • 12 Tachwedd: Canolfan ASK, 9 Stryd Water, Y Rhyl LL18 1SP (10.30am - 1.30pm)
  • 20 Tachwedd: Llyfrgell Dinbych, Y Sgwâr, Dinbych LL16 3NU (12pm - 4pm)
  • 23 Tachwedd: HWB Dinbych, Ffordd Smithfield, Dinbych LL16 3RG (10.30am - 12pm)
  • 9 Rhagfyr: Gorsaf VIBE, 40 Stryd Bodfor, Y Rhyl LL18 1AT (11am - 2pm)

Mae gan Dŵr Cymru ardaloedd ffocws lle gallant gynnal gwaith allgymorth ychwanegol. Mae'r Rhyl, Prestatyn a Dinbych yn ardaloedd lle mae nhw yn canolbwyntio arnynt ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae nhw yn edrych ar gynnal sesiynau ychwanegol yn Rhuddlan, Llanelwy a de Sir Ddinbych yn y flwyddyn newydd.

Fforwm Dwristiaeth i gefnogi busnesau lleol yn Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gwahodd busnesau twristiaeth lleol i fynychu ei Fforwm Twristiaeth nesaf, a gynhelir yng Ngwesty The Beaches, Prestatyn, ddydd Mercher 21 Hydref 2026 o 10am.

Bydd y digwyddiad yn dod â busnesau twristiaeth, grwpiau cymunedol a phartneriaid y sector o bob rhan o’r sir ynghyd ar gyfer bore o ddiweddariadau, trafodaeth a rhwydweithio.

Bydd y rhai sy’n mynychu yn cael cyfle i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr ar bynciau sy’n berthnasol i’r economi ymwelwyr. Bydd Sheila Gilmore, Prif Weithredwr VisitArran a The Arran Trust, yn cyflwyno ar reoli cyrchfannau ymwelwyr poblogaidd. Bydd Fiona Argyle yn cyflwyno ar ddatblygiadau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â Llwybr Clawdd Offa, a bydd Claire Roberts o Awdurdod Cyllid Cymru yn egluro’r angen am gofrestru llety ymwelwyr. Bydd y Fforwm hefyd yn cynnwys amser ar gyfer lluniaeth a rhwydweithio, gan roi cyfle i fusnesau gyfarfod â gweithredwyr lleol eraill, rhannu syniadau a thrafod cyfleoedd i gydweithio i gryfhau cynnig twristiaeth Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol dros Dwristiaeth: “Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi leol Sir Ddinbych, ac mae ein Fforwm Twristiaeth yn gyfle gwerthfawr i fusnesau ddod ynghyd, clywed diweddariadau defnyddiol a sefydlu cysylltiadau newydd. Byddem yn annog busnesau lleol sydd â diddordeb yn yr economi ymwelwyr i fynychu.”

EIN HYSGOLION

Disgyblion Ysgol Gymraeg Henllan yn rhannu neges bwysig am bresenoldeb yn yr ysgol

Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Henllan wedi rhoi cynnig ar fod yn gyflwynwyr newyddion er mwyn helpu i ledaenu neges bwysig am werth dod i’r ysgol bob dydd.

Cyn gwyliau’r haf, bu Miss Glover yn gweithio gyda disgyblion Blwyddyn 6 i greu fideo ar ffurf rhaglen newyddion, gan atgoffa disgyblion a theuluoedd o bwysigrwydd mynychu’r ysgol yn rheolaidd, cyrraedd ar amser ac, lle bo modd, osgoi mynd ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol.

Gwnaeth y disgyblion waith gwych ac mae’r ysgol yn hynod falch o’r fideo gorffenedig – ac o’r neges bwysig y maent wedi’i rhannu.

Yn Ysgol Gymraeg Henllan, mae presenoldeb da yn flaenoriaeth allweddol. Mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn rhoi cyfle i blant ddysgu, datblygu cyfeillgarwch, magu hyder a chymryd rhan yn y llu o weithgareddau a phrofiadau sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn ysgol.

Mae gwella presenoldeb hefyd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, gyda’r ysgolion a’r partneriaid yn cydweithio i gefnogi plant a theuluoedd a helpu i sicrhau bod gan bob plentyn y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo.

Mae’r ysgol yn deall bod gwyliau teuluol yn gyfle pwysig i dreulio amser gyda’n gilydd a chreu atgofion. Fodd bynnag, gall mynd ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol olygu bod plant yn colli dysgu gwerthfawr a gall amharu ar eu trefn ddyddiol.

Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn bwysig, ac mae’r ysgol yn annog teuluoedd i wneud y gorau o gyfnodau gwyliau’r ysgol lle bo modd, yn hytrach na gofyn am ganiatâd i gymryd gwyliau yn ystod tymor yr ysgol.

Diolch yn fawr i’r holl ddisgyblion, staff a rhieni a fu’n rhan o’r gwaith o greu’r fideo – rydyn ni’n meddwl eu bod wedi gwneud gwaith AMAZING!

Dywedodd Lynne Jones, Pennaeth Ysgol Gymraeg Henllan:

“Mae presenoldeb rheolaidd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn hynod falch o’n disgyblion Blwyddyn 6 am yr ymdrech y maent wedi’i rhoi i greu’r fideo hwn ac am rannu neges mor bwysig gyda’n cymuned ysgol.

“Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau ei wylio gymaint ag y gwnaethom ni ei fwynhau wrth ei greu!”

Gallwch wylio'r fideo drwy glicio ar y ddolen yma, a fydd yn mynd a chi i dudalen Facebook yr ysgol.

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw