NEWYDDION
Arweinydd a Chabinet Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiswyddo
Mae arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Jason McLellan a’i gyd aelodau ar y cabinet wedi ymddiswyddo o’u rolau ar y cabinet.
Etholwyd y Cynghorydd McLellan, sy’n cynrychioli ward Gogledd Prestatyn, yn arweinydd fis Mai 2022. Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd “Mae hwn wedi bod yn benderfyniad hynod o anodd i mi gan fod arwain Cyngor Sir Ddinbych dros y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd – yn aml wrth i ni wynebu heriau sylweddol.
“Er gwaetha’r pwysau yma, rwy’n falch iawn o’n hymdrechion i sicrhau ein bod wedi gallu darparu gwasanaethau i’r mwyaf bregus yn ein cymunedau, yn enwedig i’r rheiny mewn addysg a gofal cymdeithasol. Fe fyddaf yn parhau i weithio’n galed i gynrychioli fy ward a chefnogi pobl Prestatyn.”
Bydd pob cyn aelod o’r cabinet yn parhau i wasanaethu fel cynghorydd sir ar gyfer eu wardiau priodol.
Caiff arweinydd newydd i’r cyngor ei ethol yng nghyfarfod llawn y cyngor ar ddydd Mawrth, 8 Medi. Wedi iddynt gael eu hethol, bydd yr arweinydd newydd yn gallu penodi aelodau i’r cabinet.
Er bod y trefniadau gwleidyddol yn newid, bydd swyddogion yn parhau i weithio i ddarparu gwasanaethau i drigolion Sir Ddinbych. Mae prosesau llywodraethu’r cyngor yn caniatáu i fusnes barhau fel arfer tan y caiff cabinet newydd ei ffurfio.
AS Becky Gittins yn ymweld â Gorsaf VIBE i weld effaith cymorth cyflogaeth a chymunedol
Croesawodd Sir Ddinbych yn Gweithio AS Dwyrain Clwyd, Becky Gittins, i'r ‘stafelloedd llesiant a chyflogadwyedd integredig yng Ngorsaf VIBE yn Y Rhyl. Roedd Ms Gittins yn awyddus i gwrdd â'r timau sy'n helpu trigolion lleol i oresgyn rhwystrau, meithrin hyder a chymryd camau cadarnhaol tuag at gyflogaeth, dysgu sgiliau newydd a sicrhau mwy o annibyniaeth.
Yn ystod ei hymweliad â'r gwasanaeth, cyfarfu Ms Gittins â staff o bob rhan o Sir Ddinbych yn Gweithio er mwyn dysgu mwy am yr ystod eang o gymorth sydd ar gael i breswylwyr sy'n wynebu heriau megis digartrefedd, diffyg hyder a chymhelliant, a bylchau mewn sgiliau. Rhoddodd yr ymweliad gyfle i arddangos yr effaith gadarnhaol y mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn ei chael ar gymunedau ledled y sir, gan helpu cannoedd o bobl bob blwyddyn i gael mynediad at gymorth personol sydd wedi'i deilwra i'w hamgylchiadau a'u nodau unigol.
Rhannodd aelodau'r tîm enghreifftiau o sut mae ymyrraeth gynnar, gweithgareddau ymgysylltu, cyfleoedd hyfforddi a chymorth cyflogadwyedd yn helpu trigolion i oresgyn rhwystrau ac i symud ymlaen gyda hyder. Amlygodd y trafodaethau bwysigrwydd darparu cymorth cyn gynted â phosibl, gan sicrhau bod unigolion yn gallu cael mynediad at y cymorth cywir cyn i heriau ddod yn fwy cymhleth.
Yn ystod yr ymweliad, clywodd Ms Gittins gan staff sy'n gweithio ar draws ystod o wasanaethau, gan gynnwys ymyrraeth gynnar gyda'n partneriaid iechyd, hyfforddiant, cyflogadwyedd, cymorth tai, digartrefedd, mentora a mentrau cyflogaeth. Rhannodd aelodau'r tîm sut mae eu gwaith yn helpu trigolion i oresgyn rhwystrau, meithrin hyder, datblygu sgiliau newydd a symud ymlaen tuag at gyflogaeth gynaliadwy.
Rhoddodd yr ymweliad gyfle i Sir Ddinbych yn Gweithio ddangos sut y gall dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn helpu trigolion i fynd i'r afael â sawl rhwystr ar yr un pryd, gan greu llwybrau tuag at gyflogaeth, llesiant gwell a sefydlogrwydd hirdymor.

Dywedodd Becky Gittins, Aelod Seneddol Dwyrain Clwyd:
"Roedd hi'n wych ymweld â Sir Ddinbych yn Gweithio a chwrdd â'r staff ymroddedig sy'n cefnogi trigolion ledled y sir. Mae Gorsaf VIBE yn enghraifft wych o le cynhwysol sy'n gallu helpu pobl i gael gwaith hirdymor a chynaliadwy. Roedd clywed am yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu, a'r cymorth ymarferol sy'n cael ei ddarparu i'w helpu i oresgyn y rhwystrau hynny, yn hynod werthfawr. Mae ymrwymiad ac angerdd y tîm yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."
Dywedodd Melanie Evans, Rheolwr Gwasanaeth, Cyflogaeth Strategol, Sir Ddinbych yn Gweithio:
"Y tu ôl i bob gwasanaeth rydym yn ei ddarparu mae unigolyn gyda'i stori, ei heriau a'i ddyheadau ei hun. Roeddem yn falch o allu dangos i Becky ehangder y cymorth sydd ar gael drwy Sir Ddinbych yn Gweithio a'r effaith wirioneddol y mae'n ei chael ar fywydau pobl. Boed yn helpu rhywun i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, cefnogi'r rhai sy'n wynebu anawsterau tai, neu greu cyfleoedd i bobl ifanc ffynnu, ein ffocws bob amser yw adeiladu hyder, annibyniaeth a gobaith. Roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i rannu nid yn unig yr heriau sy'n wynebu ein cymunedau, ond hefyd y straeon ysbrydoledig am wydnwch a chynnydd sy'n digwydd bob dydd. Rydym yn hynod optimistaidd am y dyfodol a'r cyfleoedd y gallwn barhau i'w creu ar gyfer trigolion lleol."
Atgyfnerthodd yr ymweliad bwysigrwydd ymyrraeth gynnar, cymorth wedi'i deilwra a gweithio mewn partneriaeth gref wrth helpu trigolion i wella eu hamgylchiadau a sicrhau canlyniadau cynaliadwy fel y gallant deimlo'n dda a byw'n well.
Wrth i Sir Ddinbych yn Gweithio barhau i gefnogi cymunedau ledled y sir drwy'r gwasanaethau amlasiantaethol a ddarperir ynn Ngorsaf VIBE a thu hwnt, mae cyfleoedd i arddangos profiadau trigolion ac ymroddiad timau rheng flaen yn parhau'n hanfodol wrth godi ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth y gall gwasanaethau lleol ei wneud.
Caiff Sir Ddinbych yn Gweithio ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU a sawl rhaglen, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer Cymru-DU sy'n targedu anweithgarwch economaidd, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF), a Cysylltu â Gwaith.
Prosiect yn ceisio adfer coetir a gwrychoedd ar fferm yn Sir Ddinbych
Mae prosiect Ffermio Bro wedi mynd i’r afael a rhywogaethau goresgynnol ac wedi adfer gwrychoedd.

Mae prosiect Ffermio Bro wedi mynd i’r afael a rhywogaethau goresgynnol ac wedi adfer gwrychoedd hanfodol rhwng coetiroedd hynafol ar fferm yn Sir Ddinbych.
Wedi’i lansio fis Ebrill 2025, mae’r rhaglen hon gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau ffermio sy’n ceisio gwella natur ac amgylchedd Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol.
Mae pob tîm Tirwedd Genedlaethol yn gyfrifol am osod blaenoriaethau lleol ar gyfer y cynllun, sy’n adlewyrchu anghenion lleol, ac mae ganddynt ymgynghorwyr arbenigol sy’n gweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir i’w cefnogi nhw drwy’r broses ymgeisio.
Mae un fferm yn Sir Ddinbych wedi derbyn cyllid drwy’r prosiect Ffermio Bro i gynnal rhaglen fawr o waith adfer coetir a gwrychoedd, i wella’r cysylltiad rhwng cynefinoedd, mynd i’r afael a rhywogaethau goresgynnol ac adfer iechyd ecolegol coetiroedd hynafol y fferm.
Cyn dechrau’r gwaith rheoli coetir, codwyd 1,200 metr o ffensys newydd er mwyn atal da byw rhag mynd i mewn i’r coetir, cam yr oedd tîm y prosiect yn ei ystyried yn hollbwysig i lwyddiant y cynllun cyfan.
Roedd y gwaith coetir ar fferm Llangwyfan yn canolbwyntio ar adfer cydbwysedd rhywogaethau coetir hynafol y fferm drwy gael gwared ar goed afiach a thocio rhywogaethau dominyddol, fel sycamorwydd, rhododendrons a llawr-geirios, er mwyn i fflora a ffawna brodorol ffynnu.
Yn ogystal ag adfer y coetiroedd hynafol, defnyddiwyd cyfran o’r cyllid Ffermio Bro i adfer 240 metr o wrychoedd i greu coridorau bywyd gwyllt i gysylltu coetiroedd y fferm.
Meddai Julia Hughes, Fferm Llangwyfan:
“Bu i ni ymgeisio a nodi’r gwaith oedd gennym mewn golwg ac roeddem ni wrth ein bodd bod rhywfaint o’n cynigion wedi llwyddo i gael eu hariannu. Roedd arweiniad manwl a chyngor technegol ac ymarferol y tîm Ffermio Bro, cyn ac yn ystod y gwaith, yn werthfawr iawn ac yn rhan hanfodol o’r prosiect cyfan”.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o gydweithio i wella bioamrywiaeth y sir, gan gyfrannu at gynllun corfforaethol y Cyngor.
“Tra bod y prosiect eisoes wedi cyflawni llawer o amcanion, mae ganddo’r potensial i gael budd ecolegol ehangach ar y dirwedd”.
Prosiect adfer natur yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau CLlLC
Mae Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt Sir Ddinbych wedi cyrraedd rhestr fer categori Arwain Arloesedd Gwobrau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 2026.

Mae Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt Sir Ddinbych wedi cyrraedd rhestr fer categori Arwain Arloesedd Gwobrau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 2026.
Mae’r gwobrau, sy’n nodi 30 mlynedd o lywodraeth leol yng Nghymru, yn dathlu gwaith, medrau ac arloesedd cynghorau a’u timau. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 17 Medi 2026.
Mae’r categori Arwain Arloesedd yn rhoi cydnabyddiaeth i dimau a phrosiectau sydd wedi datrys problem leol mewn ffordd arloesol, yn defnyddio dulliau newydd, creadigrwydd neu ddulliau gwahanol o weithio i ddarparu gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy i gymunedau.
Wedi’i sefydlu yn 2019 mae’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt bellach yn cynnwys bron i 70 erw o gynefinoedd blodau gwyllt brodorol, gan gefnogi natur, gwella bioamrywiaeth a chyfrannu at les cymunedol.
Mae Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Stryd, yn cynnwys eu Gweithwyr Adfer Natur, i greu, cynnal a gwella cynefinoedd. Mae hynny’n cynnwys torri a chasglu gwair i leihau maetholion, annog twf blodau gwyllt a chefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau.
Mae’r prosiect hefyd yn defnyddio dull rhywogaethau lleol, gan gasglu hadau o ddolydd y sir cyn tyfu’r planhigion yn y blanhigfa goed yn Llanelwy a’u plannu wedyn ar draws y sir.
Mae’r gwaith wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi yng Nghynhadledd Flynyddol CLlLC yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, ar 17 Medi.
Pwyllgor i glywed y wybodaeth ddiweddaraf am adolygu codi tâl am gynwysyddion gwastraff ac ailgylchu
Fe fydd Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Sir Ddinbych yn trafod adolygiad o godi tâl am Gynwysyddion Gwastraff ac Ailgylchu.

Fe fydd Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Sir Ddinbych yn trafod adolygiad o godi tâl am Gynwysyddion Gwastraff ac Ailgylchu.
Bydd papur yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod ar 3 Medi a fydd yn amlinellu nifer o opsiynau i’w hystyried ac adrodd yn ôl arnynt yn dilyn rhybudd o gynnig a godwyd yn y Cyngor Llawn ym mis Mai eleni.
Mae codi tâl am gynwysyddion gwastraff yn Sir Ddinbych wedi bod ar waith ers 2019. Cytunwyd ar y polisi cyfredol i godi tâl am gynwysyddion gwastraff ac ailgylchu ym Medi 2023 cyn cyflwyno’r model gwastraff newydd yn ffurfiol ym mis Mehefin 2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ddiwedd 2025 gan arwain at Benderfyniad Dirprwyedig Aelod Arweiniol at lacio’r polisi tâl er mwyn caniatáu i’r rhai sy’n derbyn Grant Hanfodion Ysgol neu Gredydau Pensiwn gael un cynhwysydd ailgylchu newydd am ddim bob blwyddyn galendr.
Ym mis Mai, gofynnodd Cynghorwyr am adolygiad o drefniadau presennol o ran darpariaeth cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu ac i roi opsiynau am ddulliau amgen o ddarparu’r eitemau yma.
Mae adolygiad llawn o’r trefniadau a chostau ariannol dilynol ynghylch gwahanol opsiynau yn amrywio o wella’r system bresennol i gyflwyno darpariaeth am ddim i bawb wedi cael ei gynnal, ac mae rhagor o wybodaeth am hyn i’w weld yn y papurau ar gyfer Pwyllgor Craffu Cymunedau ar-lein yma .
Bydd Aelodau’r pwyllgor yn trafod ac yn gwneud argymhellion ar ddiwygio polisi sy’n cynnwys
- Gweithredu proses gyfnewid am ddim i gwsmeriaid yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gyfer bagiau glas a chadis bwyd yn unig
- Cadw’r ffioedd ar gyfer bob eitem os ydi cwsmeriaid angen i’r nwyddau gael eu cludo i’w cartrefi
- Ehangu’r eitem sengl am ddim y flwyddyn ar gyfer unrhyw gynhwysydd ailgylchu ar gyfer y rhai sydd ar y Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor. Er eglurder, mae blychau du gwahanol y trolibocs yn cael eu hystyried yn un eitem.
Yn dilyn argymhellion gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, bydd Cabinet y Cyngor yn gwneud y penderfyniad terfynol ar unrhyw ddewis o ran codi tâl am gynwysyddion.
Bydd ail bapur hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu i’w drafod, ynghylch perfformiad y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu sydd hefyd ar gael ar-lein
Fforwm Dwristiaeth i gefnogi busnesau lleol yn Sir Ddinbych
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gwahodd busnesau twristiaeth lleol i fynychu ei Fforwm Twristiaeth nesaf, a gynhelir yng Ngwesty The Beaches, Prestatyn, ddydd Mercher 21 Hydref 2026 o 10am.

Bydd y digwyddiad yn dod â busnesau twristiaeth, grwpiau cymunedol a phartneriaid y sector o bob rhan o’r sir ynghyd ar gyfer bore o ddiweddariadau, trafodaeth a rhwydweithio.
Bydd y rhai sy’n mynychu yn cael cyfle i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr ar bynciau sy’n berthnasol i’r economi ymwelwyr. Bydd Sheila Gilmore, Prif Weithredwr VisitArran a The Arran Trust, yn cyflwyno ar reoli cyrchfannau ymwelwyr poblogaidd. Bydd Fiona Argyle yn cyflwyno ar ddatblygiadau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â Llwybr Clawdd Offa, a bydd Claire Roberts o Awdurdod Cyllid Cymru yn egluro’r angen am gofrestru llety ymwelwyr. Bydd y Fforwm hefyd yn cynnwys amser ar gyfer lluniaeth a rhwydweithio, gan roi cyfle i fusnesau gyfarfod â gweithredwyr lleol eraill, rhannu syniadau a thrafod cyfleoedd i gydweithio i gryfhau cynnig twristiaeth Sir Ddinbych.
Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol dros Dwristiaeth: “Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi leol Sir Ddinbych, ac mae ein Fforwm Twristiaeth yn gyfle gwerthfawr i fusnesau ddod ynghyd, clywed diweddariadau defnyddiol a sefydlu cysylltiadau newydd. Byddem yn annog busnesau lleol sydd â diddordeb yn yr economi ymwelwyr i fynychu.”
Gellir archebu lleoedd drwi glicio ar y ddolen Eventbrite yma.
Parcio’n ddiogel yng nghefn gwlad Llangollen
Bydd swyddogion y Cyngor yn monitro parcio yn Rhaeadr y Bedol, Llangollen, a’r ardal gyfagos dros y penwythnos gŵyl banc.

Bydd swyddogion y Cyngor yn monitro parcio yn Rhaeadr y Bedol, Llangollen, a’r ardal gyfagos dros y penwythnos gŵyl banc.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog rhai sy’n ymweld â’r gyrchfan boblogaidd i barcio’n gyfrifol dros y penwythnos gŵyl banc ac ystyried cynllunio ymlaen llaw i ymweld ag atyniadau eraill sydd ar gael ar draws Dyffryn Dyfrdwy, os bydd yr ardal hon yn brysur. Atgoffir ymwelwyr bod digon o leoedd parcio yn y dref sy’n bellter cerdded hygyrch a dymunol ar hyd llwybr tynnu’r gamlas i gyrraedd Rhaeadr y Bedol.
Mae cyfyngiadau parcio yn bwysig ar gyfer diogelwch y ffyrdd ac i sicrhau bod trosiant teg o leoedd parcio; mae'r cyngor wedi gosod pyst rhwystr ac arwyddion ymwybyddiaeth ar y safle i annog gyrwyr i barcio'n gyfrifol.
Bydd swyddogion gorfodi sifil hefyd yn monitro’r safle, yn enwedig ar amseroedd prysur, a gall gyrwyr nad ydynt yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau parcio gael Rhybudd Talu Cosb.
Fel Safle Treftadaeth y Byd, mae Rhaeadr y Bedol yn boblogaidd ymysg pobl leol yn ogystal â thwristiaid. Tra bod croeso i ymwelwyr ddod â phicnic gyda nhw, ni chaniateir barbeciws ar y safle. Gofynnwn i’r holl ymwelwyr ddangos parch tuag at y safle, defnyddwyr eraill a’r gymuned leol.
Mae’r cyngor yn cysylltu â phartneriaid hefyd gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru er mwyn monitro unrhyw gynnydd o ran problemau ar y safle.
Dywedodd yr Arolygydd Joseph Dunn, Arolygydd Ardal ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych Wledig:
“Codwyd parcio yn Rhaeadr y Bedol fel gwir bryder i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac yn defnyddio’r llwybr fel rhan o fywyd bob dydd. Mae hefyd gwir bryderon o ran mynediad i’r gwasanaethau brys ar hyd y llwybr. Er mai’r awdurdod lleol sy’n bennaf gyfrifol am orfodi parcio, rwy’n falch y bydd ein swyddogion yn cefnogi ein cydweithwyr yng Nghyngor Sir Ddinbych gyda phatrolau gweladwy, siarad gyda modurwyr a’r gymuned, a chamau gorfodi pan fo angen.
“Bydd Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn parhau i weithio mewn partneriaeth ar fesurau datrys problemau hirdymor ar gyfer y lleoliad, ac ar ymgysylltu a gwydro i atal digwyddiadau blaenorol rhag digwydd eto”.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych:
“Gofynnwn i ymwelwyr fwynhau’r ardal hardd hon yn gyfrifol, mynd â’u sbwriel adref pan fo’n bosib neu ddefnyddio’r biniau sydd ar gael. Mae hefyd yn bwysig bod ymwelwyr yn parchu’r rhai sy’n gweithio ar y safle i sicrhau diogelwch a mwynhad ymwelwyr a thrigolion hefyd.
“Rydym hefyd yn annog ymwelwyr i ddilyn y cyfyngiadau parcio sydd ar waith gan eu bod yn bwysig i ddefnyddwyr y ffordd a sicrhau bod trosiant teg o leoedd parcio. Mae angen i yrwyr fod yn ymwybodol wrth ymweld y gall swyddogion gorfodi sifil roi Rhybudd Talu Cosb i unrhyw un nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau parcio”.
Gwaith i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ger eglwys yn y Rhyl

Yn ddiweddar bu Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad a Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych ar safle Eglwys Sant Tomos yn y Rhyl i helpu i glirio gwastraff a oedd wedi ei adael yn anghyfreithlon a thacluso tir yr eglwys, gan weithio ochr yn ochr â Dyfodol Disglair a Swyddogion Cymorth Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru.
Bu’r holl dimau’n gweithio gyda’i gilydd i gael gwared â’r gwastraff a gwella edrychiad y lle cymunedol pwysig hwn, sydd o bwys diwylliannol a hanesyddol mawr i’r Rhyl.
Mae’r Cyngor yn ymroddedig i weithio gyda chymunedau a phartneriaid i fynd i’r afael â materion amgylcheddol a helpu i gadw trefi a mannau cyhoeddus Sir Ddinbych yn lân, diogel a chroesawgar.
Yn rhan o’r gwaith, rhoddwyd cyngor i breswylwyr yr ardal ynglŷn ag effaith tipio anghyfreithlon, sut y gallant helpu i’w atal a sut i roi gwybod am unrhyw achosion y maent yn eu gweld. Mae ymgysylltu â’r gymuned yn rhan bwysig o ddull y Cyngor o weithredu i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol, a bydd yn cynorthwyo preswylwyr i ddeall sut y gallant gymryd rhan yn y gwaith o gadw eu hardal leol yn lân a rhoi gwybod am broblemau pan fônt yn digwydd.
Hoffai Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor atgoffa preswylwyr fod tipio anghyfreithlon yn drosedd a gall gael effaith wirioneddol ar ein cymunedau. Gall ddifetha ardaloedd lleol, niweidio’r amgylchedd, denu fermin ac mae’n costio arian i ymchwilio a’i glirio.
Os ydych yn gweld achos o dipio anghyfreithlon neu fod gennych wybodaeth a allai helpu i ganfod y rhai sy’n gyfrifol, rhowch wybod i Gyngor Sir Ddinbych dry wefan y Cyngor neu drwy gysylltu â thîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor ar 01824 706000. Gallai eich gwybodaeth ein helpu i weithredu ac atal mwy o dipio anghyfreithlon yn ein cymunedau.
Diolch yn fawr i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o wella tir Eglwys Sant Tomos a gwarchod y lle cymunedol pwysig hwn.
Gwelliannau wedi’u cwblhau ym Mynwent Llangollen
Mae gwelliannau i’r isadeiledd wedi'u cwblhau ym Mynwent Llangollen

Mae gwelliannau i’r isadeiledd wedi'u cwblhau ym Mynwent Llangollen.
Mae Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ynghyd â chyllid cyfalaf i wneud gwaith i wella isadeiledd ar y safle.
Gwnaed gwaith i wella mynediad i gerbydau i’r fynwent. Cyn hyn, roedd angen gyrru drwy ystâd dai gyfagos i gael mynediad, ac roedd y ffordd yn gul ac anodd teithio ar ei hyd.
Ar ôl cwblhau’r gwaith, mae mynediad newydd i gerbydau wedi cael ei greu yng ngwaelod y safle ac mae modd cael mynediad i’r fynwent ar hyd Vicarage Road.
Bydd y gwelliant hwn yn creu gwell mynediad i ymwelwyr a bydd yn galluogi trefnwyr angladdau i gyrraedd y safle heb darfu ar drigolion cyfagos yn ogystal â darparu lle i barcio ger y fynwent.
Yn ogystal â hyn, cafodd tir cyfagos i dde’r safle, sydd wedi ei ddefnyddio ar gyfer pori yn y blynyddoedd diweddar ei glustnodi ar gyfer darpariaeth gladdu yn y dyfodol pan fydd ei angen.

Mae’r gwaith yma wedi cefnogi datblygiad yr isadeiledd ar y darn hwn o dir ar gyfer mwy o le ar gyfer claddedigaethau. Hefyd mae mân waith tirlunio wedi cael ei gwblhau gan gynnwys plannu coed mewn rhai ardaloedd o amgylch y maes parcio i wella ymddangosiad y safle ynghyd â gwelliannau i gefnogi bioamrywiaeth megis gosod blychau ystlumod ac adar.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae cwblhau’r prosiect yma wedi gwella’r isadeiledd ym Mynwent Llangollen yn fawr i ddarparu gwasanaeth mwy urddasol a pharchus i deuluoedd lleol ar gyfer y dyfodol.”
Mae Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio ym mis Medi yn dod â chyfleoedd newydd i drigolion
Gwahoddir trigolion Sir Ddinbych sy'n chwilio am waith, am ddechrau newydd, neu am gyfeiriad newydd yn eu gyrfaoedd i fynychu Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio ym Marchnad y Frenhines, y Rhyl, ddydd Mercher 30 Medi rhwng 10yb a 2yp.
Wedi'i chynnal mewn partneriaeth â Jobcentre Plus, bydd y digwyddiad rhad ac am ddim yn dod ag ystod eang o gyflogwyr o bob rhan o Ogledd Cymru ynghyd sy'n recriwtio'n weithredol ar gyfer swyddi gwag mewn sectorau gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, lletygarwch, manwerthu, gweithgynhyrchu, gwasanaethau cyhoeddus, logisteg a llawer mwy.
Mae'r Ffair Swyddi wedi dod yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr cyflogaeth Sir Ddinbych, gan helpu cannoedd o drigolion i gysylltu'n uniongyrchol â chyflogwyr tra'n cael mynediad at y cymorth ehangach sydd ar gael drwy Sir Ddinbych yn Gweithio.

Yn fwy na digwyddiad recriwtio yn unig, mae'r Ffair Swyddi yn rhoi cyfle i fynychwyr siarad â thîm Sir Ddinbych yn Gweithio, sy'n cynnig arweiniad a chymorth personol. Anogir trigolion i siarad ag aelod o'r tîm ar y diwrnod i archwilio'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Gall y tîm helpu trigolion Sir Ddinbych i gael mynediad at gronfeydd hyfforddi, meithrin hyder, goresgyn rhwystrau i gyflogaeth, a chael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddod yn nes at sicrhau swydd. Drwy gymryd amser i ddeall sgiliau, diddordebau a dyheadau pob unigolyn, gall y tîm hefyd eu cyflwyno i gyflogwyr a chyfleoedd sy'n cyfateb i'r hyn y maent yn chwilio amdano, gan helpu i feithrin hyder a chael gwared ar yr ofn o gymryd y cam nesaf tuag at gyflogaeth.
Dros y blynyddoedd, mae Ffeiriau Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio wedi croesawu miloedd o ymwelwyr ac wedi cefnogi cannoedd o bobl i ymgysylltu â gwasanaethau cyflogaeth, gyda llawer o'r mynychwyr yn mynd ymlaen i sicrhau swyddi, cyfleoedd hyfforddi, cymwysterau a chymorth hirdymor drwy'r rhaglen.
P'un a yw rhywun yn chwilio am ei swydd gyntaf, yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod i ffwrdd, yn ystyried newid gyrfa, yn edrych am gyfleoedd hyfforddi, profiad gwaith neu'n syml yn archwilio'r hyn sy'n bosibl, nod y digwyddiad yw agor drysau a chreu cyfleoedd i bobl ar bob cam o'u taith gyflogaeth.
Dywedodd Melanie Evans, Rheolwr Gwasanaeth, Cyflogaeth Strategol:
"Rydym yn gwybod nad yw dod o hyd i gyflogaeth bob amser yn syml, ac i rai pobl y rhan anoddaf yw gwybod ble i ddechrau. Dyna pam mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn falch o drefnu'r Ffair Swyddi hon. Dro ar ôl tro, rydym wedi gweld y gwahaniaeth y gall y digwyddiadau hyn ei wneud, gyda thrigolion yn sicrhau swyddi, yn cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi, yn ennill cymwysterau ac, mewn rhai achosion, yn trawsnewid eu bywydau. Drwy gymryd amser i ddeall amgylchiadau, sgiliau a dyheadau unigol pob person, gall y tîm helpu trigolion i nodi cyfleoedd sy'n cyfateb i'r hyn y maent yn chwilio amdano, eu cyflwyno i gyflogwyr a darparu'r cymorth sydd ei angen i feithrin hyder a chymryd y cam pwysig nesaf tuag at gyflogaeth."
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i'w fynychu ac yn agored i bawb, gan gynnwys ceiswyr gwaith, pobl ifanc sy'n ystyried eu gyrfaoedd yn y dyfodol, y rhai sy'n dymuno dychwelyd i'r gwaith, ac unrhyw un sy'n chwilio am hyfforddiant, datblygu sgiliau neu gymorth gyda chyflogaeth.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu'n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi'r rhai sydd fwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael cyflogaeth.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd yn cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU.
ERTHYGLAU
Prosiectau’r adain eiddo yn cefnogi cymunedau ar draws Sir Ddinbych
Dros y 12 mis diwethaf, mae adain Eiddo Cyngor Sir Ddinbych wedi parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi gwasanaethau, cymunedau a phreswylwyr ar draws y sir.
Dros y 12 mis diwethaf, mae adain Eiddo Cyngor Sir Ddinbych wedi parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi gwasanaethau, cymunedau a phreswylwyr ar draws y sir.
O wneud gwaith gwella a chynnal a chadw adeiladau cyhoeddus, i gefnogi prosiectau mawr a sicrhau bod asedau’r Cyngor yn ddiogel, effeithlon ac addas i’r diben, mae’r timau yn yr adain wedi bod yn rhan o amrywiaeth eang o waith pwysig.
Mae Llais y Sir yn edrych yn ôl ar rai o’r prosiectau allweddol a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn, gan amlygu’r ymroddiad, yr arbenigedd a’r cydweithio a fu rhwng y gwahanol dimau sy’n helpu i reoli a gwella ystâd eiddo Sir Ddinbych.

Ers y llynedd, mae’r tîm Cynnal a Chadw Adeiladau wedi cefnogi gwaith gwella mawr yn Ysgol Dewi Sant, y Rhyl, gan helpu i foderneiddio a thrawsnewid ardal neuadd yr ysgol.
Roedd y prosiect hwn yn cynnwys ailadeiladu’r to, gwella inswleiddiad, gosod ffenestri gwydr dwbl perfformiad uchel, uwchraddio trefniadau mynediad a moderneiddio’r cyntedd a’r fynedfa, gan gynnwys gosod lifft i wella hygyrchedd.
Fe wnaeth y gwaith helpu i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau ôl-troed carbon yr ysgol a chreu lle mwy diogel, mwy hygyrch a mwy modern i ddisgyblion, staff a’r gymuned ehangach.

Buont yn ymateb i ddifrod storm ym Mharc Dŵr SC2 hefyd, gan sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel cyn rheoli gwaith disodli’r to a oedd yn beryglus.
Gan nad oedd y cyflenwr gwreiddiol yn masnachu bellach, cafodd to newydd ei ddylunio’n arbennig a’i wirio’n annibynnol gan ddefnyddio modelu llwyth gwynt sy’n benodol i’r safle.
Roedd angen datrysiad sgaffaldiau pwrpasol ar gyfer y prosiect oherwydd bod gwaith amddiffyn rhag llifogydd gerllaw yn atal mynediad traddodiadol, ac roedd cyflymder y gwynt yn cael ei fonitro bob dydd i gadw gweithwyr yn ddiogel.
Cafodd dalenni to crwm wedi’u creu’n bwrpasol, rhai’n fwy na 24 metr o hyd, eu cludo i’r safle dan drwyddedau llwyth anarferol. Bu gweithwyr cynnal a chadw yn cydlynu’r prosiect cymhleth gyda’r tenant, yswirwyr, ymgynghorwyr, peirianwyr, syrfewyr, addaswyr colled a thimau’r Cyngor sy’n rheoli’r gwaith amddiffynfeydd môr.
Y tîm cynnal a chadw fu’n rheoli’r prosiect, gan gysylltu â’n Tenant, ymgynghorwyr arbenigol, peirianwyr, yswirwyr, syrfewyr fforensig ac addaswyr colled, yn ogystal â chydweithwyr yn y Cyngor, gan gynnwys rhai sy’n rheoli’r gwaith amddiffynfeydd môr.
Dros y 12 mis diwethaf, mae’r tîm Dylunio ac Adeiladu wedi darparu a chefnogi amrywiaeth eang o brosiectau proffil uchel ar draws y sir, gan helpu i wella tai, darpariaeth addysg, hygyrchedd ac adfywio.

Mae cyflawniadau allweddol yn cynnwys cwblhau 22 o dai Cyngor newydd effeithlon o ran ynni yn Llwyn Eirin yn Ninbych, a adeiladwyd i safon Passivhaus ac sydd â phaneli solar a phympiau gwres o’r ddaear er mwyn helpu i leihau costau ynni’r cartref ac allyriadau carbon.
Mae’r tîm wedi dylunio a datblygu’r pwll hydrotherapi cyntaf o’i fath yn Sir Ddinbych hefyd, yn Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl. Mae’n cefnogi datblygiad corfforol a lles disgyblion trwy gyfleuster newydd arbenigol sydd ar dir yr ysgol.
Ynghyd â hyn, mae’r tîm wedi cefnogi cam nesaf y gwaith ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, lle mae gwaith adfer a dymchwel yn helpu i ddatgloi cyfle i adfywio’r safle 53 erw yn y dyfodol ar gyfer tai, gofod masnachol ac ardaloedd cymunedol gwyrdd.

Mae gwaith yr adain wedi’i gydnabod trwy gynlluniau tai arobryn hefyd, gan gynnwys Llys Elizabeth yn y Rhyl, a enillodd wobr Datblygiad Tai Cymdeithasol Bach Gorau yng Ngwobrau LABC Cymru am ei gartrefi o ansawdd uchel, sy’n effeithlon o ran ynni, i breswylwyr 55 oed a hŷn.
Ers yr haf diwethaf, mae’r Tîm Ynni wedi parhau i arwain prosiectau sy’n gwella effeithlonrwydd o ran ynni, lleihau costau rhedeg a lleihau allyriadau carbon ar draws adeiladau a gwasanaethau’r Cyngor.
Yng nghartref gofal Cysgod y Gaer yng Nghorwen, mae’r tîm wedi gosod system storio ynni batri 40kWh ynghyd ag arae solar 21.36kWp, gan adeiladu ar waith blaenorol i ychwanegu paneli ffotofoltäig, goleuadau LED a gwelliannau i’r system wresogi.
Mae’r gwaith cyfun hwn wedi helpu i leihau defnydd nwy a thrydan yn sylweddol, lleihau allyriadau carbon a chefnogi gwefru dau gerbyd trydan sy’n gweithredu o’r safle er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned leol.

Mae’r tîm wedi darparu prosiect storio batris arloesol yng ngorsaf Gwastraff ac Ailgylchu Dinbych hefyd, gan osod 600kWh o gapasiti batri i wneud defnydd gwell o ynni solar a gynhyrchir ar y safle a chefnogi cerbydau gwastraff ac ailgylchu trydan.
Mae canlyniadau cynnar yn dangos bod defnydd ynni o’r grid yn y safle wedi gostwng fwy na hanner, a disgwylir i’r system arbed mwy na 76,000kWh y flwyddyn, lleihau costau o tua £16,000 a lleihau allyriadau carbon o tua 22 tunnell y flwyddyn.
Mae enghraifft arall o’r dull cydweithredol hwn i’w gweld yn Ysgol y Santes Ffraid, lle mae timau wedi bod yn cydweithio yn ystod ail hanner 2025 i wella effeithlonrwydd a pherfformiad prif adeilad y safle.
Daeth y prosiect â chefnogaeth at ei gilydd o’r rhaglen Hinsawdd a Natur, Cynnal a Chadw Adeiladau a’r Tîm Ynni, i ddarparu pecyn o welliannau o ran gwresogi, rheolyddion, goleuadau ac inswleiddiad.
Roedd gwaith yn cynnwys tynnu hen foeleri aneffeithlon wedi’u tanio ag olew a’u disodli â boeleri modern wedi’u tanio â LPG ar draws y ddwy brif ystafell beiriannau, gyda phum boeler wedi’u disodli a’r hen danc olew wedi’i symud.
Gosodwyd rheolyddion rheoli adeiladau modern hefyd, gan greu pum ardal ar wahân ar gyfer y prif adeilad a helpu’r safle i weithredu’n fwy effeithlon.
Yn ogystal, gosodwyd mwy na 140 o osodiadau golau LED, y disgwylir iddynt arbed tua 24,260kWh o drydan a thua £5,579 y flwyddyn.
Ychwanegwyd tua 240 metr sgwâr o inswleiddiad 300mm hefyd, gan gefnogi gwaith ehangach y Cyngor ymhellach o ran lleihau defnydd ynni, lleihau allyriadau a gwella cynaliadwyedd hirdymor ei adeiladau.
Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Mae’r gwaith a wnaed gan ein timau Eiddo dros y 12 mis diwethaf yn dangos y rôl bwysig maen nhw’n ei chwarae wrth gefnogi preswylwyr, cymunedau a gwasanaethau’r Cyngor ar draws Sir Ddinbych. O wella ysgolion a lleoliadau gofal i ddarparu cartrefi effeithlon o ran ynni, lleihau allyriadau carbon a chefnogi prosiectau adfywio mawr, mae eu gwaith yn cael effaith uniongyrchol a pharhaus ar fywydau bob dydd pobl.
“Hoffwn ddiolch i’r holl dimau am eu hymroddiad, eu harbenigedd a’u hymrwymiad. Mae eu hymdrechion yn helpu i wneud ein hadeiladau’n fwy diogel, mwy hygyrch, mwy cynaliadwy a mwy parod i ddiwallu anghenion preswylwyr rŵan ac yn y dyfodol.”
Dewch i Ddarganfod Sir Ddinbych â’ch Cerbyd Trydan!

Mae hi’n dymor yr haf, ac felly mae mwy o olau dydd yn creu cyfle perffaith i grwydro a gweld y gorau sydd gan Sir Ddinbych i’w gynnig.
Wrth deithio mewn cerbyd yn yr oes fodern, gallech fod yn defnyddio injan hybrid neu fodur trydan i’ch helpu i gyrraedd llefydd gyda llai o effaith ar ein hinsawdd drwy ddarparu rhagor o filltiroedd am bris llai.
Ers i bwyntiau gwefru cyhoeddus cyntaf y Cyngor ar gyfer cerbydau trydan gael eu gosod yn haf 2022, mae dros 4.5 miliwn o filltiroedd o deithio wedi’u darparu drwy fwy na 63,000 o sesiynau gwefru.
Ar gyfer perchnogion cerbydau trydan Sir Ddinbych a’r rhai sy’n byw y tu allan i’r sir, mae Llais y Sir yn mynd â chi ar wibdaith o amgylch pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus y Cyngor i’ch helpu i gynllunio eich taith o amgylch yr ardal i fwynhau golygfeydd Sir Ddinbych.
Mae ein rhwydwaith gwefru cerbydau trydan yn cynnig cyfle ardderchog i deithio o amgylch Sir Ddinbych a mwynhau’r holl atyniadau sydd gan y sir i’w cynnig wrth wefru eich cerbyd ar un o’r safleoedd.
A yw Rheilffordd Llangollen ar frig eich rhestr o atyniadau i ymweld â hwy yn Sir Ddinbych? Gallwch ddechrau eich profiad ym Maes Parcio Lôn Las Corwen ger gorsaf y dref, sydd â phump o bwyntiau gwefru y gallwch eu defnyddio i bweru eich cerbyd trydan. Beth am gamu’n ôl i’r gorffennol drwy deithio ar hyd llinell y rheilffordd tra mae eich dull cludiant modern yn gwefru?
Os ydych chi’n dechrau ar ochr Llangollen y rheilffordd, mae pwyntiau gwefru ar gael ym maes parcio Heol y Farchnad a hefyd ym maes parcio’r Pafiliwn. Bydd y lleoliadau gwych hyn hefyd yn rhoi amser i chi weld atyniadau fel Glanfa Llangollen, dringo’r llwybr i Gastell Dinas Brân neu fwynhau’r golygfeydd o Afon Dyfrdwy’n llifo trwy Langollen.
Wrth neidio i’r car a gyrru draw i Ruthun, fe ddewch o hyd i bwyntiau gwefru ym maes parcio Cae Ddôl, sy’n eich rhoi chi o fewn tafliad carreg i ddysgu am Garchar Rhuthun. Os nad yw hynny’n ddigon o hanes i chi, gyda rhyw bum munud o gerdded, gallwch gyrraedd tŷ hanesyddol Nantclwyd y Dre.

Diddordeb mewn celf a chrefft? Mae cyfleusterau gwefru hefyd ar gael yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, er mwyn i chi gael amser i bori drwy bopeth mae’r ganolfan yn ei gynnig wrth bweru’r car at y daith nesaf yn Sir Ddinbych.
Wrth fynd yn eich blaenau tua Dinbych, mae mannau gwefru trydan ar Lôn y Post yn y dref, sy’n rhoi cyfle perffaith i chi ddringo i bwynt uchaf y dref i weld adfeilion Castell Dinbych a muriau’r dref.
Heb fod ymhell, yn Llanelwy, mae maes parcio’r Lawnt Fowlio yn y ddinas, sydd â chyfleusterau gwefru ac yn fan cychwyn gwych i fwynhau taith gerdded hardd ar hyd Afon Elwy neu i fynd i ryfeddu at bensaernïaeth hyfryd yr Eglwys Gadeiriol.
Os ewch chi yn eich blaenau i’r arfordir, mae’r Rhyl yn lleoliad perffaith i fwynhau seibiant a gwefru eich cerbyd. Mae gan faes parcio Gorllewin Cinmel nifer o fannau gwefru, gan gynnwys cyfleusterau gwefru cyflym os ydych chi ar frys. Os byddwch yn dewis gwefru eich cerbyd yn fan hyn, gallwch fynd am dro drwy ganol y dref tuag at yr arfordir i fwynhau traethau euraidd a phromenâd hyfryd y Rhyl, crwydro ardal yr harbwr, neu beth am gamu’n ôl i’r gorffennol drwy neidio ar Reilffordd Fach y Rhyl sy’n cylchu’r Llyn Morol. Mae cyfleusterau gwefru hefyd ar gael ym maes parcio Ffordd Morley.
Ac yn olaf, wrth deithio i dref arfordirol gyfagos Prestatyn, fe welwch chi bwyntiau gwefru (gan gynnwys rhai cyflym) ym meysydd parcio Rhodfa Rhedyn a Rhodfa’r Brenin, sy’n rhoi amser i chi fwynhau canol tref Prestatyn neu, os ydych chi’n teimlo’n ddewr, fynd am dro i lawr at lan y môr i fwynhau’r atyniadau sydd yno.
Mae’r rhwydwaith cyhoeddus gwefru cerbydau trydan yn rhan o gamau gweithredu cyffredinol y Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 drwy leihau ôl-troed carbon y sir.
I gael rhagor o wybodaeth am y lleoliadau hyn, ymwelwch â’n gwefan.
"Mae’n teimlo fel cartref i mi o’r diwedd” – Stori Steve
Mae Steve Purse, sy’n byw yn y Rhyl, yn ymgyrchydd brwd, ac mae wedi bod i Senedd y DU i ymgyrchu ar sawl achlysur er mwyn cael cydnabyddiaeth o effaith profion niwclear ar deuluoedd personél.
Ac yntau’n fyr o gorffolaeth ac yn ddioddef o fethiant y system anadlol math dau, nid oedd ei gartref blaenorol yn caniatáu iddo fyw’n annibynnol, ac nid oedd yn gallu defnyddio ei gadair olwyn fodur yn y cartref.
Steve
Ymunodd Steve a’i deulu â’r Gofrestr Tai Arbenigol ym mis Ionawr 2021. Bu Steve a’i deulu’n gweithio’n agos â Rheolwr Cofrestr Tai Arbenigol y Cyngor a Therapyddion Galwedigaethol i symud i eiddo mwy priodol gydag addasiadau. Golygodd hyn waith ymchwil helaeth i sicrhau eu bod yn addas i ddiwallu anghenion Steve, ond bod y teulu cyfan hefyd yn gallu eu defnyddio.
Mae’r addasiadau hyn wedi galluogi Steve i fyw’n fwy annibynnol a gwella ansawdd bywyd i’w deulu ac iddo ef ei hun.
Cownter ergonomig yn y gegin
Defnyddiwyd adnoddau mewnol i gwblhau asesiad ar gyfer Steve er mwyn deall ei ofynion o fewn amgylchedd cegin.
Defnyddiwyd yr ystafell ailalluogi yng Nghanolfan Ddydd Hafan Deg yn y Rhyl gan Steve a’i deulu i brofi a mesur yr amrywiaeth o elfennau pwrpasol a oedd eu hangen yn eu cartref newydd.
Amcan yr ystafell yn Hafan Deg yw copïo cartref, ac mae’n cynnwys cownter ergonomig y gellwch ei addasu a phopty hawdd mynd ato, sy’n caniatáu mesuriadau a rhyngweithio hawdd lle bo’r angen. Nodwyd y byddai’n rhaid ystyried addasiadau nad oedd wedi eu gwneud eisoes, er mwyn i Steve allu cyrraedd pethau.
Drwy’r Gofrestr Tai Arbenigol, caiff cartrefi fel un Steve eu caffael drwy Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig; gellir gwneud addasiadau yn y cartrefi hyn yn bwrpasol ar gyfer yr unigolyn, gan alluogi preswylwyr i fyw bywydau llawn ac annibynnol.
Wrth siarad am ei brofiad, dywedodd Steve:
“Roedd y cartref lle’r oeddem yn byw cyn hyn yn hollol anaddas – nid oeddwn yn gallu cael fy nghadair olwyn i’r tŷ, hyd yn oed. Roedd y drysau’n gul a doeddwn i ddim yn gallu cyrraedd unrhyw beth. Doedd o ddim yn gartref teuluol i ddweud y gwir.
Cawsom alwad ffôn i ddweud bod yr eiddo hwn ar gael; pan welsom ni o, roeddem yn meddwl ei fod yn edrych yn hyfryd. Fe allaf i gael fy nghadair olwyn yn syth i’r tŷ o’r dreif rŵan. Mae’n siŵr bod rhai pobl yn cymryd hynny’n ganiataol, ond, i mi, roedd hynny’n beth newydd ac yn rhywbeth mawr.”
Gan gydweithio â chyflenwr arbenigol lleol, dyluniwyd ystafell ymolchi gyda thoiled a basn ymolchi pwrpasol, y gellir eu symud i fyny ac i lawr, i alluogi Steve i ymgymryd â’i ofal personol ei hun, a hwyluso trosglwyddiadau diogel ac annibyniaeth. Cafwyd datrysiad i gyfyngiadau o ran dyluniad yr eitemau, sef gosod y toiled a’r basn ymolchi yn sownd yn llawr concrit yr ystafell ymolchi er mwyn sicrhau’r uchder isaf ar gyfer gofynion Steve.
Toiled sy’n codi a gostwng
Wrth siarad am yr addasiadau yn ei gartref, dywedodd Steve:
“Mae’r toiled sy’n codi a gostwng yn newid byd i mi. Mae’r offer technolegol hyn yn soffistigedig. Dyna, i mi, ydy’r rhan fwyaf o’m hannibyniaeth, sef y toiled.”
Yn ogystal â thoiled sy’n codi a gostwng, mae yna freichiau pwrpasol yn yr ystafell ymolchi a chawod bwrpasol y gall y teulu cyfan ei defnyddio.
Cafodd y gegin yng nghartref Steve ei hailddatblygu hefyd. Mae’n cynnwys hob a sinc sy’n codi a gostwng, a phopty pwrpasol. Mae tapiau’r sinc wedi eu gosod mewn lle sy’n galluogi Steve i wneud diod iddo’i hun a chyrraedd cyfleusterau i olchi ei ddwylo a golchi llestri – tasg nad oedd Steve yn gallu ei gwneud ynghynt.
Meddai Steve:
“Mae’r sinc yn codi a gostwng, ac mae’r tapiau wedi cael eu haddasu fel fy mod yn gallu eu defnyddio nhw a golchi’r llestri.
Mae’r hob hefyd yn codi a gostwng, ac mae’r rheolyddion o fewn cyrraedd, felly gallaf goginio; ac mae drws y popty yn un ‘llithro a chuddio’, sy’n golygu fy mod yn gallu ei ddefnyddio’n iawn ac yn ddiogel. Rydw i’n gallu mynd at y bwrdd bwyd gyda fy nghadair olwyn hefyd.”
Nid yn unig bod yr eiddo wedi helpu Steve, ond mae wedi dod â’r teulu cyfan at ei gilydd a lleihau dibyniaeth Steve ar eraill ar gyfer tasgau pob dydd.
“Mae’r toiled yn anhygoel – mae’n codi a gostwng a gellir ei osod ar uchder pwrpasol i’r holl deulu ei ddefnyddio.
Gan fod tu mewn yr eiddo wedi ei addasu rŵan, mae popeth o fewn cyrraedd.
Mae’n teimlo fel cartref i mi o’r diwedd bellach.”
7 o hanfodion ar gyfer antur yng Nghymru sy'n barod am eu siwrne nesaf

Mae Cymru eisoes yn un o ailgylchwyr gorau'r byd, a dweud y gwir, rydyn ni’n ail yn y siartiau byd-eang ar hyn o bryd. Ond mae pob antur wych eisiau cyrraedd Rhif 1.
Yr haf hwn, rydyn ni’n cefnogi ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu i helpu i wireddu hynny, un botel, can a chroen banana ar y tro.
Mae gan bob peth ailgylchadwy stori i'w hadrodd sy’n parhau ar ôl i chi orffen gydag ef.
Rhowch ef yn y bin cywir i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad am flynyddoedd i ddod, boed yn cael ei droi’n rhywbeth newydd neu’n helpu i bweru Cymru, fel ein gwastraff bwyd.
Dyma saith o hanfodion antur sy'n barod am eu pennod nesaf.
- Y botel ddiod sy'n barod ar gyfer ei hantur nesaf yng Nghymru
Ar ôl eich cadw’n ddisyched ar lwybr arfordirol, llwybr castell neu gopa mynydd, mae gan eich potel ddiod blastig ddigon ar ôl yn y tanc.
Mae ailgylchu dim ond un botel blastig yn arbed digon o ynni i bweru ffôn clyfar 14 gwaith! Mae hynny’n eitha’ da am rywbeth a dreuliodd y rhan fwyaf o'r dydd yn rholio o gwmpas mewn sach gefn.
Mae ei hantur nesaf yn dechrau gyda'r bin cywir.
- Y can sydd eisoes yn cynllunio ei gopa nesaf
Mae caniau diodydd alwminiwm yn un o wir arwyr ailgylchu.
Gellir eu hailgylchu dro ar ôl tro heb ddirywiad mewn ansawdd, sy’n eu gwneud yn un o’r deunyddiau mwyaf anhygoel yn y byd ailgylchu.
Rhowch ef yn y bin cywir a gallai fod yn ôl ar y silffoedd ac allan ar y llwybrau ymhell cyn yr haf nesaf.
- Y botel wydr gyda milltiroedd i fynd o hyd
Mae gwydr yn ddeunydd sy'n dwli ar bennod arall. Gellir ei ailgylchu’n ddiddiwedd a’i drawsnewid yn boteli a jariau newydd dro ar ôl tro.
Yn well fyth, mae ailgylchu un botel wydr yn arbed digon o ynni i bweru bwlb golau am oriau. Un dewis syml a wnaed ar lethrau bryn yng Nghymru, yn mynd y filltir ychwanegol.
- Y botel eli haul sy'n cadw'r amseroedd da’n llifo
Mae eli haul yn hanfodol yn yr haf yng Nghymru, p'un a ydych chi'n crwydro arfordir Sir Benfro neu'n mwynhau'r golygfeydd o gopa’r Wyddfa. Ond ’dyw ei gwaith heb ei orffen pan mae’r botel yn wag.
Pan gaiff ei ailgylchu, gellir troi’r plastig yn nwyddau newydd, gan helpu deunyddiau gwerthfawr i aros yn ddefnyddiol yn hirach. Mae'r un peth yn wir am lawer o'r hanfodion bob dydd rydyn ni'n eu pacio ar gyfer diwrnod allan, o bethau ymolchi i lanweithydd dwylo i erosolau. Rhowch nhw yn y bin cywir.
Diogelu ’chydig ar eich croen. Diogelu ’chydig ar y blaned hefyd.
- Y ffoil sydd wedi bod ar bicnic eithriadol
Boed yn lapio’ch brechdan ar ben clogwyn, eich byrbrydau ar lwybr coedwig neu eich picnic ar y traeth, mae gan ffoil un o'r gyrfaoedd hiraf mewn ailgylchu.
Mae cynhyrchu nwyddau o alwminiwm wedi'i ailgylchu yn defnyddio tua 95% yn llai o ynni na'u gwneud o ddeunyddiau crai. Mae hynny’n golygu y gallai'r belen fach yna o ffoil fod yn gwneud gwahaniaeth ymhell ar ôl i’ch lliw haul bylu a’ch esgidiau sychu.
- Y pot iogwrt sy’n barod ar gyfer antur Gymreig arall
O frecwast ar y traeth i fyrbryd oddi cartref, mae potiau a thybiau yn rhan gyfarwydd o unrhyw ddiwrnod allan yng Nghymru.
Peidiwch â gadael i'r hwyl stopio ar ôl bwyta. Pan gânt eu hailgylchu'n gywir, gellir troi potiau a thybiau plastig yn nwyddau a deunydd pacio newydd, gan helpu i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad yn hirach.
Gallai pot iogwrt heddiw fod yn dwb hwmws fory. Dyna drawsnewidiad go iawn!
- Y croen banana gyda phŵer rhyfeddol
Mae rhai o'r perfformwyr mwyaf trawiadol yn llechu mewn lleoedd syfrdanol o amlwg.
Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd sy’n cael ei gasglu i'w ailgylchu yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy a gwrtaith llawn maetholion.
A dweud y gwir, gall dim ond un croen banana wedi'i ailgylchu gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i wefru ffôn clyfar yn llawn. Dyna fwy o luniau o olygfeydd godidog Cymru, mwy o fideos o adegau cofiadwy, a rhagor o gyfleoedd i gipio hud yr haf yng Nghymru.
Felly pan fyddwch chi'n mwynhau Cymru'r haf hwn gwnewch yn siŵr bod eich holl wastraff bwyd, o greiddiau afalau a chrwyn na ellir eu bwyta, i fagiau te, plisgyn wyau a bwyd dros ben, oll yn mynd i’r cadi gwastraff bwyd.
Mae pob antur wych yn haeddu pennod arall
O boteli a chaniau i botiau iogwrt a chrwyn banana, mae gan bob eitem ailgylchadwy'r potensial i wneud rhywbeth anhygoel ar ôl i chi orffen ag ef.
Ac mae pob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir yn helpu Cymru i symud un cam yn nes at y brig.
Felly pan fyddwch chi allan yn crwydro cestyll, arfordiroedd, mynyddoedd a phopeth rhyngddynt yr haf hwn, rhowch yr anrheg haeddiannol i’ch ailgylchu. Dewiswch y bin cywir.
Eisiau gweld ble maen nhw'n mynd nesaf? Ewch i Cymru yn Ailgylchu i ddarganfod y daith mae eich ailgylchu'n mynd arni ar ôl ichi ei daflu i’r bin.
7 o ffefrynnau’r ŵyl sy’n barod am barti yn bell ar ôl y gân olaf

Mae Cymru eisoes yn un o wledydd gorau'r byd am ailgylchu. A dweud y gwir, rydyn ni’n agos iawn at frig y siartiau byd-eang. Ond mae pob act wych eisiau cyrraedd Rhif 1.
Yr haf hwn, rydyn ni’n cefnogi Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu i helpu i wireddu hynny, un botel, can a chroen banana ar y tro.
Mae gan bob peth ailgylchadwy stori i'w hadrodd sy’n parhau ar ôl iti orffen gydag ef.
Rho fe yn y bin cywir i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad am flynyddoedd i ddod, boed yn cael ei droi’n rhywbeth newydd neu’n helpu i bweru Cymru, fel ein gwastraff bwyd.
Dyma saith o ffefrynnau’r ŵyl sy’n barod am eu perfformiad nesaf.
- Y botel ddiod sy'n barod am ei brif set nesaf
Ar ôl torri dy syched am ddiwrnod o ddawnsio, mae gan y botel ddiod blastig ddigon ar ôl yn y tanc.
Mae ailgylchu dim ond tair potel blastig yn arbed digon o ynni i bweru deciau DJ am tua dwy awr. Mae hynny’n eitha’ da i rywbeth a dreuliodd y rhan fwyaf o'r dydd yn rholio o gwmpas mewn sach gefn.
Mae cyfle nesaf y botel i serennu’n dechrau gyda'r bin cywir.
- Y can sy’n cynllunio ei ddychweliad yn barod
Mae caniau diod alwminiwm yn un o sêr y byd ailgylchu.
Gellir eu hailgylchu dro ar ôl tro heb ddirywiad mewn ansawdd, sy’n eu gwneud yn un o sêr anfarwol y byd ailgylchu.
Rho’r can yn y bin cywir a gallai fod yn ôl ar y llwyfan ymhell cyn y tymor gwyliau nesaf.
- Y botel wydr sy’n gofyn am un gân arall
Mae gwydr yn ddeunydd arall sy'n hoffi encôr. Gellir ei ailgylchu’n ddiddiwedd a’i drawsnewid yn boteli a jariau newydd dro ar ôl tro.
Yn well fyth, mae ailgylchu un botel wydr yn arbed digon o ynni i bweru amp gitâr am tua chwe awr. Un dewis syml, llond gwlad o egni encôr.
- Y botel eli haul sy’n helpu i gadw'r amseroedd da’n llifo
Mae eli haul yn un o hanfodion yr haf. Ond ’dyw’r gwaith ddim yn dod i ben pan mae’r botel yn wag.
Pan gaiff ei ailgylchu, gellir troi’r plastig yn nwyddau newydd, gan helpu deunyddiau gwerthfawr i aros yn ddefnyddiol yn hirach. Mae'r un peth yn wir am lawer o'r hanfodion bob dydd rydyn ni'n eu cludo gyda ni, o bethau ymolchi i lanweithydd dwylo i erosolau. Rho nhw yn y bin cywir.
Diogelu ’chydig ar dy groen. Diogelu ’chydig ar y blaned hefyd.
- Y ffoil sy'n gwrthod gadael y dawnslawr
P’un a lapio'r frechdan, rôl frecwast neu dy hoff fyrbryd gŵyl oedd e, ffoil sydd ag un o'r gyrfaoedd ailgylchu hiraf.
Mae cynhyrchu nwyddau o alwminiwm wedi'i ailgylchu yn defnyddio tua 95% yn llai o ynni na'u gwneud o ddeunyddiau crai. Sy'n golygu y gallai'r belen fach yna o ffoil fod yn gwneud gwahaniaeth ymhell ar ôl iti dynnu band arddwrn yr ŵyl.
- Y pot iogwrt sy’n barod am rownd arall o hwyl
O frecwast i fyrbrydau oddi cartref, mae potiau a thybiau yn rhan annatod o bicnic.
Paid â gadael i'r hwyl stopio ar ôl bwyta. Pan gânt eu hailgylchu'n gywir, gellir troi potiau a thybiau plastig yn nwyddau a deunydd pacio newydd, gan helpu i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad yn hirach.
Gallai pot iogwrt heddiw fod yn dwb hwmws fory. Sôn am weddnewidiad!
- Y croen banana gydag addewid annisgwyl
Mae rhai o'r perfformwyr mwyaf trawiadol yn gwbl ddiymhongar.
Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd sy’n cael ei gasglu i'w ailgylchu yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy a gwrtaith llawn maetholion.
A dweud y gwir, gall dau groen banana wedi'u hailgylchu gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i wefru ffôn clyfar yn llawn. Mae hynny’n golygu mwy o fideos. Mwy o luniau. A mwy o gyfleoedd i gofnodi dy hoff atgofion o’r ŵyl.
Felly pan fyddi di'n mwynhau Cymru'r haf hwn gwna’n siŵr bod dy holl wastraff bwyd – o greiddiau afalau a chrwyn na ellir eu bwyta, i fagiau te, plisgyn wyau ac esgyrn – yn mynd i’r bin gwastraff bwyd.
Mae pob act wych yn haeddu encôr
O boteli a chaniau i botiau iogwrt a chrwyn bananas, mae gan bob eitem ailgylchadwy'r potensial i wneud rhywbeth anhygoel ar ôl i ti orffen â hi.
Ac mae pob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir yn helpu Cymru i symud un cam yn nes at y brig.
Felly pan fyddi di allan yn mwynhau gwyliau, digwyddiadau a diwrnodau allan ledled Cymru'r haf hwn, rho’r encôr haeddiannol i dy ailgylchu. Dewisa’r bin cywir.
Eisiau gweld ble maen nhw'n mynd nesaf? Dos i Cymru yn Ailgylchu i ddarganfod y daith mae dy ailgylchu'n mynd arni ar ôl iti ei ailgylchu https://www.walesrecycles.org.uk/cy
Fedrwch chi ddod o hyd i’r blodau gwyllt yma yn Sir Ddinbych?
Gyda’r tywydd yn cynhesu, mae dolydd blodau gwyllt ein sir yn dechrau bywiogi.
Yn 2019, gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng hinsawdd a natur a’r nod oedd mynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
Un o'r camau cyntaf oedd dechrau rheoli rhywfaint o laswelltir y Cyngor i greu dolydd blodau gwyllt ledled y sir. Nod y prosiect yw adfer ac ehangu’r cynefinoedd sydd ar gael yn y sir i bryfed peillio a bywyd gwyllt.
Mae gan y prosiect hwn lawer o fanteision neu ‘wasanaethau ecosystem’ i drigolion y sir hefyd, fel llai o lifogydd, gwell ansawdd aer, ac oeri’r aer mewn gwres mawr.
Dyma ganllaw yn dangos y math o flodau y gallech eu gweld yn rhai o’n dolydd ledled Sir Ddinbych Cadwch olwg am yr arwyddion Caru Gwenyn.
Blodau gwyllt mis Mai
Pys y Ceirw

Os ewch i weld ein dolydd blodau gwyllt ym mis Mai, fe welwch bys y ceirw yn eu blodau. Mae gwenyn a phryfed peillio eraill wrth eu boddau â nhw gan eu bod yn llawn paill a dyma ffynhonnell fwyd larfa rhai o’n hoff loÿnnod byw – y Glesyn Cyffredin, y Gwibiwr Llwyd a’r Frithribin Werdd.
Meillionen Goch

Ydych chi wedi gweld meillion cochion yn ein dolydd blodau gwyllt yn ystod mis Mai? Mae’r blodyn gwyllt bach hyfryd hwn yn llawn paill ac mae’n ffynhonnell fwyd hanfodol i wenyn – yn y gorffennol, roedd yn cael ei alw’n “fara gwenyn”. Nid pryfed peillio yn unig sy’n mwynhau’r blodyn bach hwn, mae gwartheg wrth eu boddau ag o hefyd!
Blodyn Neidr

Mae blodau neidr i’w gweld ar draws ein dolydd blodau gwyllt yn ystod mis Mai. Gall y blodyn coetir hwn dyfu bron i 1m o uchder ac mae’n denu gwenyn a gloÿnnod byw at ei flodau pinc llachar trwy agor y petalau yn ystod y dydd. Ble i ddod o hyd iddo: mannau cysgodol fel cloddiau, coetiroedd, ar gyrion coetiroedd a ffyrdd gwledig.
Blodau gwyllt mis Mehefin
Tegeirian Gwenynog (Ophrys apifera)

Ydych chi wedi gweld tegeirian gwenynog yn unrhyw un o'n dolydd blodau gwyllt y mis yma? Mae'r tegeirianau bach yma'n feistri ar dwyllo! Mae'r blodyn yn edrych fel gwenynen yn gorffwyso ac mae hefyd ychydig yn flewog a hyd yn oed yn cynhyrchu arogl sy'n debyg i wenynen fenywaidd er mwyn denu sylw'r gwenyn gwrywaidd sy'n hedfan heibio.
Cribell Felen (Rhinanthus minor)

Mae’r gribell felen yn rheoli uchder ein dolydd blodau gwyllt yn y mis hwn. Mae’r blodyn gwyllt bychan yma’n wych ar gyfer dolydd blodau gwyllt. Fel planhigyn lled-barasitig, mae’n gwanhau twf gwahanol fathau o laswellt drwy fwyta’r maeth sydd yn eu gwreiddiau. Trwy wanhau’r glaswellt cryfaf, mae’r blodau gwyllt mwy eiddil yn cael cyfle i ymsefydlu.
Bysedd y Cŵn (Digitalis purpurea)

Mae bysedd y cŵn yn blodeuo yn ein dolydd ym mis Mehefin. Dyma un o’n blodau gwyllt mwyaf cyfarwydd sy’n rhoi fflach o liw ar gyrion coetir a ffyrdd gwledig gyda blodau siâp cloch sy’n lliw pinc llachar. Yn ôl ‘Plantlife’, gall un ‘bys’ gynhyrchu miliwn o hadau!
Bloda gwyllt mis Gorffennaf
Clafrllys (Knautia arvensis)

Mae blodau piwslas y clafrllys yn wych i ddenu gwenyn, gwyfynod a gloÿnnod byw brodorol. Mae hefyd yn ffynhonnell fwyd hollbwysig i rai o’n rhywogaethau mwyaf prin fel y gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul a glöyn byw brith y gors.
Y Bengaled (Centaurea nigra)

Ym mis Gorffennaf mae blodau pengaled yn blodeuo ar draws ein dolydd. Dyma flodyn gwyllt trawiadol, a’i flodau pinc llachar yn debyg i ysgall. Y bengaled yw un o’r blodau gorau i bryfed peillio. Mae’n ffynhonnell wych o neithdar maethlon i wenyn, gloÿnnod byw a chwilod. Yn nes ymlaen yn y tymor, mae ei hadau’n ffynhonnell bwysig o fwyd i amrywiaeth o’n rhywogaethau brodorol o adar.
Pig-yr-aran y weirglodd (Geranium pratense)

Pig-yr-aran y weirglodd yw’r blodyn gwyllt mwyaf toreithiog o’r genws Geranium. Mae’r rhain yn rhoi fflach o las/fioled yn gynnar yn yr haf ac yn gallu para am fisoedd yn ein dolydd blodau gwyllt. Maent yn parhau i ddenu’r llygad yn ystod misoedd yr hydref hefyd, wrth i’r dail newid o wyrdd i goch trawiadol – does dim rhyfedd ei fod yn ffefryn yng ngerddi nifer o gartrefi!
Llygad Llo Mawr (Leucanthemum vulgare)

Dyma flodyn gwydn sydd i’w weld yn ein dolydd blodau gwyllt. Mae’r llygad llo mawr yn ei flodau o fis Mai i fis Medi.
Adfer y Gorffennol, Adeiladu'r Dyfodol: Nantclwyd y Dre
Mae gan Nantclwyd y Dre bron i 600 mlynedd o hanes ac mae'n un o'r tai tref ffrâm bren hynaf yng Nghymru.
Mae Rhuthun yn dref sy’n gyforiog o hanes. Llosgwyd hi i’r llawr gan Owain Glyndŵr yn y flwyddyn 1400 ac mae llawer o naws hanesyddol y dref fel rydym ni’n ei hadnabod hi heddiw yn dod o’r bensaernïaeth ffrâm goed a oedd yn gyffredin yn yr ardal yn ystod cyfnod ei hailadeiladu.

Ymysg y strydoedd hyfryd a’r adeiladau hanesyddol mae darn pwysig iawn o dreftadaeth adeiledig Rhuthun, sef Nantclwyd y Dre. Cafodd ei adeiladu yn wreiddiol fel tŷ neuadd i wehydd, felly mae bron i 600 mlynedd o hanes lleol yn perthyn iddo ac mae’n un o’r tai tref ffrâm goed hynaf yng Nghymru sydd ar agor i’r cyhoedd.
Mae bellach yn cael ei reoli gan Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych a gall rhai sy’n ymweld â thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre ail-fyw ei orffennol difyr drwy ymgolli mewn profiadau sain ac arddangosfeydd a gweld ei du mewn sydd oll yn rhoi cipolwg cyfareddol ar fywydau’r teuluoedd a fu’n byw yno.
Yn 2023, cafwyd cyllid i adfer rhannau o’r safle pan gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio gwarchod treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.
Cafodd y cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus hynny yng Ngorllewin Clwyd ac nid oes modd ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.
Fel un o’r prosiectau llwyddiannus, dyfarnwyd £667,000 i ailddatblygu rhannau o’r tŷ sy’n segur ar hyn o bryd ac sydd angen rhywfaint o waith atgyweirio i warchod y darn pwysig hwn o dreftadaeth leol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, creu cyfleoedd newydd ar gyfer yr atyniad i wella ei gynaliadwyedd at y dyfodol ac ychwanegu ambell beth cyffrous ar gyfer profiad yr ymwelwyr.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Hydref, yn canolbwyntio ar roi bywyd newydd i asgell orllewinol segur yr adeilad. Bydd y darn hwn o’r tŷ’n cael ei droi’n llety gwyliau, wedi’i ddylunio a’i ddodrefnu gan gadw at natur hanesyddol yr adeilad, a bydd yn darparu gwell cyfleusterau ar y llawr cyntaf gyda lle penodol ar gyfer y gwirfoddolwyr wythnosol sy’n rhan hollbwysig a gwerthfawr o’r gwaith beunyddiol yn Nantclwyd.


Fodd bynnag, cyn gallu dechrau ar y gwaith, roedd angen rhoi ystyriaeth i un set o drigolion sydd yno ers tro byd. Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ymgynghori ag ecolegwyr i sicrhau na fyddai’r datblygiadau sydd ar y gweill yn tarfu ar fan clwydo ystlumod gwarchodedig, sy’n cynnwys cyfran bwysig o boblogaeth Cymru o Ystlumod Lleiaf ac Ystlumod Pedol Lleiaf. Rhoddwyd hyfforddiant arbenigol i’r contractwyr, a gosodwyd lloches ystlumod fawr yn yr ardd, i roi mwy o le i’r creaduriaid bach yma ffynnu.
Bydd y gwelliannau sydd i ddod hefyd yn gwneud ardal y gegin yn fwy addas i arlwyo ar gyfer digwyddiadau, a bydd yr hafdy’n cael ei adfer i’w hen ogoniant i ymwelwyr ei fwynhau yn ystod misoedd yr haf. Bydd hwn yn lle ychwanegol ar gyfer seremonïau sy’n cael eu cynnal yn y tŷ hanesyddol, fel priodasau a seremonïau partneriaeth sifil.
Mae’r prosiect yn cael ei wneud gan B&W Builders & Decorators ynghyd â TACP Architects ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2026. Mae dull mwy cynaliadwy wedi’i ddefnyddio i wneud y gwaith gwella hefyd, drwy ddefnyddio gwlân i inswleiddio’r adeilad yn hytrach na’r deunydd inswleiddio mwy cyffredin sy’n cael ei wneud o olew, sy’n creu mwy o allyriadau carbon a ddim yn adnewyddadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae dechrau ar y gwaith gwella yma yn Nantclwyd y Dre’n garreg filltir fawr i ddiogelu dyfodol safle hanesyddol mor amlwg yng nghanol tref Rhuthun.
“Mae Nantclwyd yn atyniad gwych i ymwelwyr ac yn ganolbwynt cymunedol i’n gwirfoddolwyr ymroddgar, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr ardaloedd newydd yn cael eu defnyddio a’u mwynhau gan ymwelwyr.
“Bydd lles yr ystlumod sydd yno’n parhau i fod yn flaenoriaeth wrth wneud y gwaith a byddwn mewn cyswllt cyson gyda’r ecolegwyr trwy gydol y cyfnod.”
Ydych chi erioed wedi ystyried ble mae eich treth cyngor yn mynd?
Mae llawer yn meddwl bod treth cyngor yn talu am bopeth y mae awdurdod lleol yn ei gynnig, fodd bynnag, dim ond 26% o gyfanswm gwariant y Cyngor yw'r arian a gesglir gan drigolion yn flynyddol.
Mae mwyafrif y cyllid (62%) yn dod ar ffurf 'Grant Cymorth Refeniw' gan Lywodraeth Cymru, tra bod y 12% sy'n weddill yn dod o drethi busnes, sef treth eiddo y mae busnesau'n ei dalu i helpu tuag at ariannu gwasanaethau lleol. Gallwch ddysgu mwy am sut mae'r Cyngor yn cael ei ariannu ar ein gwefan.
Felly ble mae’r treth cyngor yn mynd? Rydym wedi cynhyrchu infograffig yn seiliedig ar dreth cyngor eiddo Band D i geisio rhoi esboniad clir o sut mae taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i ariannu ystod o wasanaethau i drigolion yn y sir. Er bod yr infograffig hwn yn rhoi darlun o sut mae'r arian yn cael ei rannu rhwng gwahanol wasanaethau, mae deall beth mae trigolion yn ei gael am yr arian hwnnw’n bwysig. (Gellir gweld yr infograffig ar ddiwedd yr erthygl.)
Fel y gwelwch, mae mwyafrif gwariant treth cyngor yn mynd tuag at amddiffyn y rhai mwyaf bregus ac agored i niwed yn ein cymdeithas, gyda 66% yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg a gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.
Gydag Addysg yn cyfrif am 36.7% o’r gwariant, golyga hyn y gall Sir Ddinbych addysgu tua 16,500 o ddisgyblion mewn 44 ysgol gynradd, 2 ysgol pob oed, 2 ysgol arbennig, 6 ysgol uwchradd ac 1 uned cyfeirio disgyblion ar draws y sir, gyda thua 780 o athrawon yn darparu'r addysg.
Yn y maes addysg o hyd, mae cludiant ysgol yn cyfrif am 2.9% ac mae'r Cyngor yn cludo tua 2,871 o ddysgwyr yn ddiogel i ysgolion ledled y sir. Caiff 650 o deithiau bws ysgol a thacsi eu gwneud bob diwrnod ysgol.
Yn y cyfamser, mae gofal cymdeithasol oedolion a phlant yn cyfrif am 29.8% o wariant treth y Cyngor. Yn 2024-2025 cafodd oddeutu 668 aelod o staff dros 25,000 o gysylltiadau gyda'r plant a'r oedolion mwyaf agored i niwed gan ddarparu pecyn o ofal a chymorth lle bo’n briodol sy’n rhoi cyfle i'r trigolion hyn gael dewis, mynegi barn, a chael rheolaeth dros eu bywydau.
Mewn meysydd gwasanaeth eraill, mae 1.9% yn mynd tuag at ddiogelu'r cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd ac mae timau'r Cyngor yn archwilio tua 720 o fwytai, caffis a lleoedd tecawê bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn ddiogel ar gyfer trigolion Sir Ddinbych.
Mae gwagio biniau ac ailgylchu yn cyfrif am 1.8% o'ch bil treth cyngor, sy'n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D). Mae hynny'n cynnwys casglu tua 73,000 o gynwysyddion o dros 47,000 o gartrefi bob wythnos ledled y sir.
Am 1.8% o'r dreth cyngor rydym yn cynnal 1,419km o ffyrdd (ac eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a chelfertau, 302 o waliau a 26,000 o gwlïau. Ac am 0.8%, rydym yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a bolardiau wedi'u goleuo ledled y sir.
Hwyrach bod rhai gwasanaethau nad yw trigolion yn ymwybodol eu bod dan reolaeth cyngor, er enghraifft Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth. Gydag 1.1% o dreth cyngor yn mynd i'r gwasanaeth cefn gwlad, mae'r timau'n rheoli dros 80 o safleoedd a mwy na 1,200 hectar o ardaloedd gwyrdd cyhoeddus ar gyfer hamdden a chadwraeth. Mae'r rhain yn amrywio o Barciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau, meithrinfa goed y sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Ffordd Dyserth Prestatyn, Llain Llantysilio yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o fannau cymunedol a mwynder llai ar draws y sir.
Mae’r gwasanaeth treftadaeth yn cyfrif am 0.9% o wariant treth y cyngor, ac am hyn, mae'r gwasanaeth yn cynnal a hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (sydd yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr. Mae'r gwaith hwn yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.
Mae cynllunio a datblygu economaidd yn cyfrif am 0.7% o wariant y treth cyngor ac am hynny mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn prosesu tua 1,000 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn ochr yn ochr â 10-20 o apeliadau a 50-100 o ymholiadau cyn-ymgeisio. Rydym hefyd yn ymateb i dros 500 o achosion cydymffurfio cynllunio.
Mae’r llyfrgelloedd yn cyfrif am 0.5% o’r gwariant ac yn 24-25, cynhaliodd y llyfrgelloedd 514 o sesiynau Dechrau Da i bron i 6,500 o blant. Hefyd cafodd 2,869 o lyfrau sain eu benthyg i 1,028 o aelodau drwy Borrowbox (rhan o'r Cynnig Digidol) ac argraffwyd dros 56,000 o dudalennau ar argraffyddion mynediad cyhoeddus.
Nid yw'r holl dreth cyngor a gesglir yn talu am wasanaethau'r cyngor yn unig, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân i gyfrannu at ariannu amddiffyniad ac atal tân ledled y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol dros Gyllid yng Nghyngor Sir Dinbych, “Rwy’n falch o weld yr infograffig yma’n cael ei chynhyrchu a’i rhyddhau. Gobeithio y bydd yn rhoi’r cyd-destun sydd ei angen ar drigolion i ddeall sut mae eu taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i gefnogi’r amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.
“Mewn hinsawdd ariannol sy’n parhau i fod yn heriol barhaus, mae’n bwysig bod yn agored a thryloyw ynglŷn â’r costau a’r pwysau. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio bod llawer o agweddau’r gwariant, yn hollol briodol, wedi’u hanelu at y gofyniad cyfreithiol i ddarparu Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant, ac Addysg ac ati. Dyma’r meysydd sy’n cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.”

Taith Josh
Wedi i’w berthynas chwalu fe aeth Josh, sy’n 34 oed, i chwilio am gymorth gan dîm digartrefedd y Cyngor blwyddyn dwethaf. Ym mis Chwefror 2025, rhoddwyd Josh mewn llety dros dro a chafodd ymarferydd cefnogi atal digartrefedd ei ddynodi ar ei gyfer.
Josh
“Roeddwn yn ddigartref ddechrau’r flwyddyn dwythaf. Roeddwn wedi bod yn ddigartref o’r blaen a chefais fy rhoi mewn llety dros dro yn flaenorol, ond nid oeddwn yn y meddylfryd iawn yn flaenorol i geisio datrys fy sefyllfa yn ehangach.
Dim ond am gyfnod byr yr oeddwn i yno’r tro hwn. Roeddwn yn gofyn i bawb, yn ceisio dod o hyd i fy fflat fy hun. Yn y diwedd mi ddes o hyd i un a symud allan o’r llety dros dro yn weddol gyflym.”
Fis yn ddiweddarach roedd Josh yn rhentu llety yn breifat er mwyn byw ynddo ac roedd yn awyddus i ysgrifennu’r bennod yn ei stori.
“Tra roeddwn yn y llety dros dro, fe soniodd fy ymarferydd cefnogi atal digartrefedd wrtha i am gyrsiau Intuitive Thinking Skills.
Roeddwn ychydig yn amheus am wneud y cyrsiau i ddechrau, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli tan i fi fynd arnynt nad oedd gen i mewn gwirionedd ddim byd i’w golli a phopeth i’w ennill o roi cyfle i’r cyrsiau.
Fe ddechreuais y cyrsiau ym mis Ebrill a mis Mawrth o 2025. Fe wnes i’r cwrs sgiliau ar gyfer bywyd gyntaf ac fe wnes i fwynhau yn fawr a dysgu llawer ohono.
Mae’n eich dysgu chi sut i ymdrin â’ch meddylfryd eich hun a sut rydych chi’n meddwl am broblemau. Roeddwn i’n arfer cael trafferth mawr gyda fy hyder ac yn amau fy hun drwy’r amser.
Gofynnwyd i mi ar ddechrau’r cwrs beth fyddwn i’n hoffi ei wella, ac felly fe nodais waith gyda fy hyder.”
Aeth Josh wedyn ymlaen i gymryd y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, gan ddysgu llawer mwy.
“Fe es ymlaen i wneud y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a ddysgodd fwy o agweddau technegol i mi. Fe fyddwn yn cael fy rhoi yn esgidiau pobl eraill ac fe ddysgais sut i helpu’r rhai hynny a allai fod yn fwy diamddiffyn.
Fe ddysgais sut i helpu eraill a allai fod yn wynebu amgylchiadau fel digartrefedd neu efallai yn cael trafferth gyda chamddefnyddio sylweddau.
Erbyn dechrau’r haf, cafodd Josh gynnig lleoliad fel llysgennad gyda’r tîm Intuitive Thinking gyda’r gobaith y byddai’r cynllun wedyn yn arwain at swydd barhaol o fewn y tîm ei hun.
“Roeddwn wir yn llawn cyffro gan mai hwnnw oedd y lleoliad roeddwn i ei eisiau fwyaf o’r rhai a gafodd eu cynnig i mi. Fe ddysgais i roi areithiau a gweinyddu hyfforddiant drwy gysgodi aelodau o’r tîm. Fe helpodd hynny fy hyder gymaint, sefyll i fyny a siarad o flaen pobl. Roeddwn yn ofnus iawn ar y dechrau, ond fe ddaeth yn haws ac yn haws dros amser.
Roeddwn rhyw ddeufis i mewn yn fy lleoliad gyda’r tîm pan ges gynnig swydd yn y sector ynni ac roeddwn yn teimlo na allwn wrthod y swydd.
Roedd y sgiliau roeddwn wedi eu dysgu yn ystod y cyrsiau roeddwn wedi eu cymryd, a fy lleoliad wedi rhoi gymaint o hyder i mi yn fy rôl newydd. Mae’r swydd hon mor wahanol i’r hyn rydw i wedi ei wneud o’r blaen, ac mae’r sgiliau newydd hyn wedi rhoi’r hyder i mi i fynd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Dyma beth rydw i wedi elwa fwyaf ohono.
Roeddwn wedi arfer parhau i wneud y pethau yr oeddwn yn gyfforddus â nhw cyn i mi wneud y cyrsiau hyn. Roeddwn yn gwneud yr hyn yr oeddwn i wastad wedi ei wneud, ond yn y pen draw roeddwn yn cael yr un canlyniadau. Roeddwn yn teimlo fel mod i wedi treulio blynyddoedd yn llonydd i ddweud y gwir.
Ers i mi fynd ar y cyrsiau hyn dydw i erioed wedi teimlo cystal yn fy mywyd. Mae’n swnio’n wallgof i ddweud y gall cwrs newid hynny, ond fe ddysgais pam rwy’n meddwl am bethau a sut i fynd i’r afael â’r meddyliau hynny.”
Mae Josh wedi dewis ffyrdd mwy cadarnhaol o dreulio’r amser.
“Rydw i wedi gwneud dewisiadau iachach yn fy mywyd nawr, roeddwn yn ei chael yn anodd gyda diflastod pan ddes i’n sobr tua phedair blynedd yn ôl, roeddwn i angen elfennau eraill.
Fe ddechreuais i chwarae golff a mynd i’r gampfa. Rydw i nawr yn aelod o Glwb Golff Y Rhyl.”
Mae Josh nawr wedi graddio o’r cyrsiau Intuitive Thinking gyda nifer o dystysgrifau, ac mae’n mwynhau ei rôl newydd yn y sector ynni.
“Dwi’n credu y byddai’r cyrsiau hyn o fudd i bawb; does dim rhaid i chi fod mewn sefyllfa wael i fynd arnynt. Wnewch chi ddim colli dim o ddysgu o’r cwrs hwn, cyn belled â’ch bod yn buddsoddi ynddo rydych yn mynd i elwa ohono.
Mae pobl wedi dweud eu bod yn gallu gweld newid yn fy hyder. O lle roeddwn i fis Chwefror i lle rydw i nawr, mae’n teimlo fel dau unigolyn gwahanol. Roeddwn i’n teimlo ar goll a doedd gen i ddim gobaith i ddweud y gwir. Fe ddysgodd fi i feddwl yn wahanol a meddwl yn rhesymegol am sefyllfaoedd. Mae wedi fy helpu i gael y ffocws a’r cymhelliant i gael yr hyn rydw i ei eisiau.
Roedd fel effaith pelen eira, cyn gynted ag y penderfynais i ddechrau helpu fy hun, fe ddaeth pethau’n well yn raddol.”
Ydych chi wedi cwrdd â'n Tîm Dechrau Da ni?

Maen nhw'n cynnal sesiynau wythnosol rhigwm dwyieithog sydd am ddim i fabanod a phlant bach ym mhob un o'n llyfrgelloedd. Nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau a rhigwm gyda'ch babi ac fe welwch chi ddetholiad gwych o lyfrau i bob oed yn ein llyfrgelloedd.
Mae ein llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim i ymuno, mae llyfrau am ddim i'w benthyca ac nid oes unrhyw ffioedd hwyr!
Mae'r amser rhigwm Dechrau Da yn ffordd wych o feithrin eich hyder wrth rannu llyfrau a rhigymau gyda rhai bach, a hefyd yn ffordd wych o gwrdd â rhieni newydd eraill.
Archebwch eich lle amser rhigwm am ddim yma.
CIPOLWG
Buchod wedi dychwelyd i Foel Famau

Mae’r gweithwyr cadwraeth cynefinoedd gorau yn y busnes yn ôl ar frig brysuraf y Bryniau Clwyd.
Nid oes gan y gwartheg gwych yma gradd Gwyddoniaeth Amgylcheddol ond yr hyn sydd ar goll o ran addysg maen nhw’n wneud iawn amdano gyda brwdfrydedd bywiog amdan gadwraeth ein cynefin rhostir.
Mae’r buchod yma yn rhan o’r gwaith partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Dirwedd Genedlaethol, yn defnyddio dulliau traddodiadol i reoli’r dirwedd rydym yn gofalu amdano.
I ddarllen fwy am y prosiect, cliciwch y ddolen isod:
https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/cy/buchod-wedi-dychwelyd-i-foel-famau/
Galw ar drigolion Sir Ddinbych helpu dod o hyd i gyn-filwyr sydd â hawl i gyfiawnder
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cefnogi ymgyrch #BattleForLostVeterans2026 sy’n cael ei redeg gan Ymladd gyda Balchder (Fighting with Pride) ac yn annog trigolion lleol, grwpiau cyn-filwyr a sefydliadau cymunedol i helpu i gyrraedd pobl gafodd eu heffeithio gan y gwaharddiad hanesyddol ar bersonél LGBTQ+ oedd yn gwasanaethu'n agored yn y Lluoedd Arfog cyn 2000.
Cafodd miloedd eu diswyddo, eu rhyddhau neu eu gorfodi i guddio eu hunaniaeth yn ystod eu gyrfaoedd milwrol. Erbyn hyn, gall cyn-filwyr cymwys fod â hawl i iawndal ariannol o hyd at £70,000, yn ogystal â mesurau adferol eraill.
Er bod llawer o gyn-filwyr eisoes wedi dod ymlaen, mae Ymladd Gyda Balchder yn amcangyfrif bod tua 1,000 o gyn-filwyr cymwys yn dal i fod yn anymwybodol o'r cynllun, neu heb wneud cais amdano eto. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Rhagfyr 2026.
Mae'r cyngor yn annog unrhyw un allai fod yn gymwys, neu sy'n adnabod rhywun a allai gael ei effeithio, i rannu gwybodaeth am yr ymgyrch a helpu i sicrhau bod cyn-filwyr yn derbyn y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth y maent yn ei haeddu.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd y cyngor, a Chefnogwr y Lluoedd Arfog dros Sir Ddinbych, "Mae cyn-filwyr wedi aberthu’n sylweddol wrth wasanaethu eu gwlad ac mae'n bwysig bod y rhai a wynebodd driniaeth annheg oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth yn cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.
"Rydym yn annog trigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau cyn-filwyr ledled Sir Ddinbych i helpu i ledaenu ymwybyddiaeth o'r ymgyrch hon. Drwy rannu'r wybodaeth, gallwn helpu i sicrhau bod unrhyw un a allai fod yn gymwys i gael iawndal yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt cyn y dyddiad cau."
Efallai nad yw rhai unigolion bellach yn uniaethu fel LGBTQ+, efallai nad ydynt yn ystyried eu hunain yn rhan o'r gymuned cyn-filwyr, neu efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd ailymweld â'u profiadau. Felly mae ymwybyddiaeth gymunedol yn hanfodol wrth helpu i gyrraedd y rhai allai fod yn gymwys am iawndal.
Am ragor o wybodaeth a chefnogaeth, ewch i dudalen we iawndal Ymladd Gyda Balchder - https://www.fightingwithpride.org.uk/reparations/
Neu, i wneud cais ewch i www.gov.uk/lgbt-veterans
Mae dros 1,100 o blant eisoes yn mwynhau Sialens Ddarllen yr Haf yn Llyfrgelloedd Sir Ddinbych!
Mae dros 1,100 o blant eisoes wedi cofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf eleni yn Llyfrgelloedd Sir Ddinbych – ac mae digon o amser o hyd i ymuno â'r hwyl!
Ydych chi'n chwilio am weithgareddau am ddim i ddiddanu'r plant dros wyliau'r haf? Yn gweld eisiau ffrindiau a chyd-ddisgyblion? Mae gan eich llyfrgell leol bopeth sydd ei angen arnoch.
Mae cofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf yn gwbl RHAD AC AM DDIM, ac mae'n ffordd wych o annog plant i barhau i ddarllen drwy gydol gwyliau'r haf. Cofrestrwch a dewch i'r llyfrgell dair gwaith i fenthyg a dychwelyd llyfrau er mwyn ennill medal a thystysgrif. Mae'r Sialens yn rhedeg tan ddiwedd mis Medi, felly mae digon o amser o hyd i gymryd rhan.
Yn ogystal â'r Sialens Ddarllen, mae llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau am ddim i gadw plant yn brysur ac yn cael hwyl drwy gydol y gwyliau.
Peidiwch â cholli'r cyfle i gwrdd â'r awdur lleol, sydd wedi ennill gwobrau, Oliver Sykes, a fydd yn ymweld â llyfrgelloedd y Rhyl, Prestatyn a Llanelwy gyda'i sioe un dyn newydd sbon, Diesel and Me. Yn seiliedig ar ei blentyndod ei hun, mae'r sioe'n ddathliad doniol, bywiog a chynnes o gymuned a'r teulu rydym yn ei greu o'n cwmpas, ac mae'n addas ar gyfer plant pump oed a throsodd a'r oedolion sy'n dod gyda nhw.

Bydd plant sy'n cofrestru ar gyfer Her Ddarllen yr Haf hefyd yn cael eu cynnwys mewn tyniad gwobr i ennill £50 o docynnau sinema, drwy garedigrwydd Cyngor Llyfrau Cymru.
Thema Sialens Ddarllen yr Haf 2026 yw ‘Cyfrolau’n Canu’, a gyflwynir gan The Reading Agency mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus ac gyda chefnogaeth Universal Music Group UK. Mae'r thema'n annog plant i archwilio'r cysylltiad rhwng straeon a chaneuon, gan ddarganfod sut y gall darllen a cherddoriaeth ysbrydoli dychymyg a chreadigrwydd.
I ddod o hyd i'ch llyfrgell agosaf a gweld beth sy'n digwydd yr haf hwn, ewch i'n gwefan.
Cadeirydd y Cyngor yn ymweld â Llyfrgell Rhuthun
Ymwelodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Bobby Feeley, â Llyfrgell Rhuthun yn ddiweddar i ddysgu mwy am yr ystod eang o wasanaethau, gweithgareddau a chymorth sydd ar gael i drigolion lleol.
Helen White, Heidi McDougall, Cyng. Bobby Feeley, Vanessa Hill
Ymunodd y Prif Weithredwr, Helen White, Pennaeth Tai a Chymunedau, Heidi McDougall, y Prif Lyfrgellydd, Debbie Owen, a Rheolwr Llyfrgell Rhuthun, Vanessa Hill, â'r Cynghorydd Feeley yn ystod yr ymweliad.
Cafodd y Cynghorydd Feeley gyfle i gwrdd â staff y llyfrgell a gweld drosti ei hun sut mae'r llyfrgell wedi datblygu i fod yn llawer mwy na lle i fenthyg llyfrau. Yn ogystal â'i chasgliad helaeth o lyfrau, mae'r llyfrgell yn cynnig mynediad am ddim at dechnoleg a chymorth digidol, clybiau swyddi, sesiynau Dechrau Da ac Amser Rhigwm i blant ifanc a theuluoedd, grwpiau crefft a darllen, yn ogystal â darparu lle croesawgar lle gall pobl gael mynediad at gyngor a chymorth gan amrywiaeth o wasanaethau.
Gyda Her Ddarllen yr Haf – Cyfrolau’n Canu yn cael ei chynnal ar hyn o bryd mewn llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych, roedd yr ymweliad hefyd yn tynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan lyfrgelloedd wrth annog plant i ddatblygu cariad gydol oes at ddarllen. Mae'r Her yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ac am ddim drwy gydol gwyliau'r haf, gan helpu plant i barhau i ddarllen wrth fwynhau llyfrau, cerddoriaeth a chreadigrwydd.
Un o uchafbwyntiau'r ymweliad oedd gweld gwasanaeth Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych sydd wedi'i leoli yn y llyfrgell, lle mae cynghorwyr cyfeillgar a gwybodus wrth law i helpu pobl gydag ystod eang o broblemau, boed yn fawr neu'n fach.
Aeth y grŵp hefyd i archwilio archif y llyfrgell yn yr islawr, sy'n gartref i gasgliad gwerthfawr o gyhoeddiadau hanesyddol sy'n adrodd hanes cyfoethog Rhuthun a'i phobl.
Daeth yr ymweliad â llawer o atgofion yn ôl i'r Cynghorydd Feeley hefyd. Cofiodd ymweld â'r adeilad am y tro cyntaf yn 1986 fel Cynghorydd newydd ar Gyngor Dosbarth Glyndŵr, pan oedd yr adeilad yn Siambr y Cyngor, cyn iddo gael ei drawsnewid yn y llyfrgell boblogaidd sydd wedi gwasanaethu'r gymuned ers dechrau'r 1990au.
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley:
"Roedd hi'n bleser mawr ymweld â Llyfrgell Rhuthun a gweld yr amrywiaeth anhygoel o wasanaethau sydd ar gael yno. Mae llyfrgelloedd heddiw yn llawer mwy na mannau i fenthyg llyfrau – maen nhw'n ganolfannau cymunedol croesawgar lle gall pobl o bob oed ddysgu, cwrdd ag eraill, cael cymorth a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
"Roedd yn hyfryd gweld Her Ddarllen yr Haf ar waith, yn ysbrydoli plant a theuluoedd i fwynhau darllen gyda'i gilydd dros wyliau'r haf. Roedd hefyd yn arbennig iawn cael ailymweld ag adeilad sydd â chymaint o atgofion personol i mi a gweld sut mae wedi esblygu i fod yn adnodd mor bwysig i'r gymuned. Hoffwn ddiolch i'r staff am y croeso cynnes ac am bopeth maen nhw'n ei wneud i gefnogi trigolion bob dydd."
I ddod o hyd i leoliad eich llyfrgell agosaf, ewch i'n gwefan.
Planhigfa’n meithrin gwely newydd i gefnogi blodau gwyllt
Mae gwely newydd yn llawn cefnogaeth i flodau gwyllt lleol yn dod yn ei flaen yn ein Planhigfa Goed yn Llanelwy.

Mae gwely newydd yn llawn cefnogaeth i flodau gwyllt lleol yn dod yn ei flaen yn ein Planhigfa Goed yn Llanelwy.
Diolch i gymuned o wirfoddolwyr y Blanhigfa Goed, mae lle newydd wedi'i greu y tu allan i'r twneli tyfu i helpu gyda gwaith coed brodorol y safle.
Mae gwirfoddolwyr wedi plannu planhigion dros ben sydd wedi'u tyfu o hadau a gasglwyd ar hyd a lled Sir Ddinbych mewn gwely newydd ei baratoi.
Unwaith y bydd y planhigion yn hadu, bydd yr hadau'n cael eu casglu a'u storio'n briodol yn barod i'w plannu'r tymor canlynol.

Dywedodd Keegan Blazey, Swyddog yn y Blanhigfa Goed: “Mae gennym gymuned wych o wirfoddolwyr yma yn y blanhigfa goed, mae’n wych eu helpu i ddysgu sgiliau newydd ac rydym hefyd yn dysgu drwyddyn nhw diolch i’r profiadau bywyd gwahanol maen nhw’n eu cynnig bob wythnos.
“Bu Francesca, un o’n myfyrwyr sy’n gwirfoddoli, yn ymdrechu’n galed i helpu i greu’r gwely hwn a fydd yn rhoi ffynhonnell hadau wych i ni ar y safle i’n helpu i barhau i ddiogelu a meithrin ein natur leol yn y dyfodol.”
Awydd dod yn Lysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych?
Mae’r cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych, yn gwrs hyfforddiant ar-lein am ddim i wella eich gwybodaeth am y sector twristiaeth yn Sir Ddinbych.
Mae 14 modiwl i ddewis ohonynt ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys cerdded, becio. bwyd, celfyddydau, arfordir, hanes a thwristiaeth gynaliadwy.
Gwyliwch ein ffilm fer sy’n sôn am y cwrs.
Ewch i www.llysgennad.cymru a chychwyn arni heddiw.
Cofrestru Llety Ymwelwyr yng Nghymru
Deddf newydd i gofrestru llety ymwelwyr yng Nghymru: Cyhoeddi gweminarau i helpu darparwyr i baratoi
Bydd gofyn i unrhyw un sy'n derbyn archebion ar gyfer llety dros nos yng Nghymru — o westeion achlysurol i weithredwyr gwestai mawr — gofrestru eu llety gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) pan fydd y gofrestr yn lansio'r hydref hwn.
Mae deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn golygu y bydd angen i bob darparwr sy'n cynnig llety i ymwelwyr, boed yn ystafell sbâr sengl, bwthyn gwyliau, gwely a brecwast, neu westy gwasanaeth llawn, gwblhau proses gofrestru ffurfiol. Mae'r gofyniad yn berthnasol p'un a yw gwesteion yn aros am un noson neu sawl wythnos.
Bydd y cynllun cofrestru llety ymwelwyr newydd yn lansio yn hydref 2026. Cyn hyn, mae'r ACC yn annog gwesteiwyr a busnesau i gofrestru am ddiweddariadau fel y gallant dderbyn nodyn atgoffa, canllawiau, a'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r dyddiad cofrestru agosáu. Mae’r broses gofrestru’n rhad ac am ddim ac mae’n orfodol i bob darparwr llety gofrestru hyd yn oed os na chaiff yr Ardoll Ymwelwyr ei chyflwyno yn y pen draw yn y sir. Gallai gall darparwyr sy'n methu â chofrestru wynebu cosbau.
Gweminarau i Gefnogi Gwesteiwyr a Llwyfannau Archebu
Er mwyn helpu i baratoi'r sector, mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cynnig cyfres o weminarau am ddim wedi'u hanelu at ddarparwyr llety ymwelwyr, llwyfannau archebu a chyrff twristiaeth. Bydd y sesiynau hyn yn darparu diweddariadau diweddaraf ar y gofynion cofrestru newydd a chanllawiau clir, ymarferol ar sut y gall darparwyr llety gydymffurfio. Bydd hefyd sesiwn holi ac ateb gydag arbenigwyr ACC.
Dyddiadau'r Gweminarau
Sesiynau Saesneg:
- Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026, 11am–12pm
- Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026, 6pm–7pm
Sesiwn Cymraeg:
- Dydd Iau 26 Mawrth 2026, 11am–12pm
Sut i Gofrestru ar gyfer Gweminar
Gallwch gofrestru ar gyfer gweminar ar y ddolen ganlynol - https://www.llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru/hyfforddiant-digwyddiadau
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer hysbysiadau am y cynllun cofrestru newydd, ewch i https://registervisitoraccommodation.service.gov.wales/email-signup
Darganfod Sir Ddinbych...
Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?
Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?
Beth am gael ysbrydoliaeth o'n mapiau cerdded a beicio am syniadau newydd o leoedd i ymweld â nhw.
Am fwy o ysbrydoliaeth ar weithgareddau yn Sir Ddinbych a'r cyffiniau ewch i - https://www.northeastwales.wales/cy/


Newidiadau i brawf traffig Prestatyn
O ddydd Sadwrn 15 Awst, mae trefniant newydd yn cael ei gyflwyno.

Caiff trefniant newydd ei gyflwyno i brawf traffig Prestatyn fel rhan o ymdrechion parhaus y cyngor i wella llif y traffig a lleihau tagfeydd yng nghanol y dref.
O ddydd Sadwrn 15 Awst, bydd cerbydau yn gallu troi i'r dde o'r B5120 Ffordd Pendyffryn, Prestatyn (wrth deithio o gyfeiriad yr orsaf fysiau/Lidl) i lawr Ffordd y Bont tuag at y gylchfan fach, er mwyn cyrraedd busnesau ar waelod y Stryd Fawr a Pharc Manwerthu Parc Prestatyn.
Bwriad y drofa ychwanegol i’r dde yw lleihau nifer y cerbydau sy'n teithio drwy Barc Manwerthu Parc Prestatyn i gyrraedd busnesau ar ben isaf y Stryd Fawr. Drwy ddarparu llwybr mwy uniongyrchol i yrwyr, mae'r cyngor yn gobeithio gallu lleddfu'r pwysau ar ffyrdd lleol a gwella mynediad i drigolion, ymwelwyr a busnesau.
Awgrymodd gwaith modelu traffig blaenorol ar gyfer yr ardal na fyddai troi i'r dde yn y lleoliad yma yn bosib oherwydd lled y ffordd a chyfyngiadau cysylltiedig y briffordd. Fodd bynnag, yn dilyn gwaith manwl ac adolygiad o'r gofod sydd ar gael ar y ffyrdd, nodwyd datrysiad sy'n caniatáu i'r drofa i’r dde ddigwydd yn ddiogel.
Anogir modurwyr i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio drwy'r ardal wrth i ddefnyddwyr y ffyrdd ymgyfarwyddo â'r trefniant newydd. Bydd arwyddion priodol mewn lle i gyfeirio gyrwyr.
Bydd y cyngor yn monitro symudiadau traffig a lefelau tagfeydd yn ystod y cyfnod prawf er mwyn asesu effeithiolrwydd y newidiadau a phenderfynu unrhyw welliannau yn y dyfodol a allai fod eu hangen.
Cymorth ariannol tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim
Mae cymorth ariannol ar gael tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch a ydych chi'n gymwys ar gael ar y poster isod.
I wneud cais ewch i www.sirddinbych.gov.uk/budd-daliadau neu sganiwch y cod QR.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Tai o ansawdd sy'n bodloni anghenion pobl
Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych ffyniannus
Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalgar
Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych wyrddach
Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych yn dysgu ac yn tyfu
Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n uchel ei berfformiad
Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

2026 Dyddiadau ar gyfer gwiriad pwysau carafanau am ddim a chyngor ar ddiogelwch

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych a Chonwy yn cynnig sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau a faniau gwersylla.
Gall preswylwyr sy’n mynd ar wyliau mewn carafán neu fan wersylla wneud yn siŵr nad ydynt yn gorlwytho eu carafán a rhoi eu hunain mewn perygl.
Mae’r sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau ar gael i drigolion Sir Ddinbych a Chonwy, ac i’r rheini mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill os gallant deithio i’r lleoliad.
Sesiwn gyngor yw hwn, ac ni chymerir unrhyw gamau os canfyddir gorlwytho neu faterion eraill, ond byddwn yn gweithio gyda chi i leihau'r llwyth. Bydd swyddogion y cyngor yng nghwmni swyddog o adran Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru a fydd yn rhoi cyngor diogelwch ymarferol i gadw'ch car a'ch carafan yn ddiogel.
Bydd y gwiriadau pwysau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal ar y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:
- Dydd Gwener 17/07 – 10am-3pm
- Dydd Gwener 28/08 – 10am-3pm
Nid oes angen apwyntiad ar gyfer y sesiynau yma ac mae croeso i breswylwyr fynychu unrhyw un o’r sesiynau a restrir a darganfod a ydynt o fewn y pwysau cyfreithlon ar gyfer eu cerbydau.
Gellir dod o hyd i'r bont bwyso ar ffordd yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy, tua thri chwarter milltir o Ruddlan, a leolir yn y gilfan, bydd arwyddion yn nodi bod y bont bwyso ar waith.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr uchod, cysylltwch ag adran Safonau Masnach Sir Ddinbych ar tradingstandards@denbighshire.gov.uk ewch i'w tudalen Facebook, yn yr un modd cysylltwch â Safonau Masnach Conwy ar trading.standards@conwy.gov.uk
Annog trigolion ac ymwelwyr i leihau'r risg o danau gwyllt yng nghefn gwlad
Mae ymwelwyr â chefn gwlad Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymddwyn yn gyfrifol yr haf hwn er mwyn helpu i leihau'r risg o danau gwyllt.
Mae Cyngor Sir Ddinbych a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rhannu’r cyngor hwn yn dilyn tywydd poeth a sych ac achosion diweddar o danau gwyllt ar draws Gogledd Cymru.
Mae Ceidwaid Cefn Gwlad yn barod i ymateb i adroddiadau am danau gwyllt, a gofynnir i ymwelwyr ddilyn cyngor ar atal tanau mewn gwarchodfeydd natur, parciau gwledig ac ardaloedd cyhoeddus agored eraill:
- Peidiwch â chynnau tanau na barbeciw; dewch â phicnic yn lle
- Diffoddwch sigaréts yn llwyr
- Os gwelwch dân gwyllt neu os ydych yn arogli mwg trwm, ewch i le diogel ar unwaith.
- Ffoniwch 999 a gofynnwch am y gwasanaeth tân. Byddwch yn barod i roi lleoliad manwl gywir neu nodwedd amlwg yn yr ardal.
Anogir ymwelwyr hefyd i ddefnyddio safleoedd gwersylla sefydledig sydd â chyfleusterau, er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar y timau sy'n monitro safleoedd poblogaidd cefn gwlad.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, yr Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Lleol a Chynllunio yng Nghyngor Sir Ddinbych: "Gyda'r tywydd sych hirfaith, rydym yn arbennig o bryderus ynghylch y risgiau o danau gwyllt sy'n gysylltiedig â gwersylla mewn ardaloedd anghysbell.
"Gall tanau mewn glaswellt, rhedyn a grug ledaenu'n gyflym mewn amodau sych a gwyntog. Os gwelwch yn dda, ceisiwch osgoi tanau agored a diffodd deunyddiau ysmygu yn llwyr."
"Rydym yn annog pobl i ddefnyddio safleoedd gwersylla swyddogol a dilyn rheolau'r safle. Bydd ymddwyn yn synhwyrol yn ystod y tywydd poeth hwn yn helpu i gadw ymwelwyr yn ddiogel, cefnogi ein timau a lleihau'r pwysau ar adnoddau.
Ychwanegodd, "Mae'n arbennig o bwysig ein bod oll yn dilyn y canllawiau hyn o ystyried y pwysau presennol ar Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, sy'n delio â thanau gwyllt ar draws y rhanbarth ar hyn o bryd."
A WYDDOCH CHI?
A wyddoch chi y gallwch wylio cyfarfodydd y Cyngor arlein?
Gallwch weld gweddarllediadau byw ac wedi eu recordio o gyfarfodydd pwyllgorau’r Cyngor ar unrhyw adeg.
Mae'r holl bapurau hefyd i'w gweld gan gynnwys yr agenda a phenderfyniadau.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am beth syn digwydd yn y Cyngor, edrychwch ar y calendr cyfarfodydd i weld beth sy’n mynd ymlaen.
A wyddoch chi sut i rhoi eich enw i lawr ar gyfer y Gofrestr Tai?
Ydych chi'n gwybod beth mae SARTH yn ei olygu? Mae SARTH yn sefyll am ‘Single Access Route to Housing’ sef 'Llwybr Mynediad Sengl i Dai’. Dyma lle, os ydych chi am gael eich cynnwys ar y Gofrestr Tai, dim ond un cais y bydd yn rhaid i chi ei wneud. Yn lle gwneud cais i wahanol gymdeithasau tai ar wahân, rydych chi'n cwblhau un cais sy'n cael ei rannu ar draws yr holl landlordiaid hynny sy'n rhan o'r cynllun. Mae ‘Llwybr Mynediad Sengl i Dai’ (SARTH) yn cael ei rannu gan bob darparwr tai cymdeithasol yn Sir Ddinbych. Ar ôl i chi wneud cais i fynd ar y Gofrestr Tai, yna caiff eich angen chi am dy gael ei asesu a'ch bod chi'n cael eich rhoi mewn band blaenoriaeth, gan helpu i sicrhau bod tai'n cael eu dyrannu mewn ffordd deg a thryloyw i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.
Mae'r holl wybodaeth sydd angen i chi ei gwybod am y cynllun, a sut i wneud cais, ar ein gwefan.
A wyddoch chi fod 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd?
Mae 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd ac fel rhan o hyn, mae'r Cyngor yn archwilio oddeutu 720 o fwytai, caffis a lleoliadau pryd ar glud bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ar gyfer trigolioin Sir Ddinbych.
Yn ogystal, mae'r Cyngor yn ymateb i dros 1,200 o geisiadau bob blwyddyn sy'n berthnasol i dai a llygredd.
I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan
Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn agored i bawb 11 i 25 oed. Mae nhw yn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd cymdeithasol i ddatblygu diddordebau yn ogystal â helpu a chefnogi unrhyw un sydd ei angen. I ddod o hyd i glwb ieuenctid lleol neu i gael cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc, ewch i’n gwefan.
Wyddoch chi mai 1.8% o wariant Treth Cyngor sy’n mynd ar wagu biniau ac ailgylchu?
Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd ar wagio biniau ac ailgylchu sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D).
Am hyn, mae’r Cyngor yn casglu oddeutu 73,000 o finiau o fwy na 47,000 o gartrefi bob wythnos ar draws y sir.
I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan
A wyddoch chi fod 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd?
Mae 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd.
Am hyn, mae’r Cyngor yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a physt wedi’u goleuo
I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan
A wyddoch chi bod 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol?
Mae 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol.
Am hyn, mae'r Cyngor yn cludo oddeutu 2,871 o ddisgyblion yn ddiogel i 75 ysgol ledled y sir.
I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan
A wyddoch chi bod 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion?
Mae 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion.
A gyda 36.7% yn mynd i ysgolion ac addysg, mae hyn yn golygu bod dros 66% o’ch Treth Cyngor yn mynd i warchod y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.
I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.
A wyddoch chi fod 1.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd?
Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd.
O fewn hyn mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am 1,419km o briffyrdd (ag eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a cheuffosydd, 302 o waliau cynnal a 26,000 o geunentydd.
I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan
A wyddoch chi fod gan Sir Ddinbych yn Gweithio tudalennau ar ein gwefan?
Mae gan Sir Ddinbych yn Gweithio dudalennau ar wefan y Cyngor.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yma i helpu preswylwyr 16 oed a hŷn a allai fod yn ei chael yn anodd neu sy’n poeni am arian. P’un ai a ydych chi’n chwilio am waith neu angen cefnogaeth i godi eich hun yn ôl ar eich traed, mae nhw yma i’ch arwain chi tuag at ddyfodol gwell. Ewch i'n gwefan i gael gweld beth sydd gennyn nhw i gynnig.
A wyddoch chi?
Mae 36.7% o'ch Treth Cyngor yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg, a 29.8% yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol, sy'n golygu bod dros 66% o'ch Treth Cyngor yn mynd ar amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.
I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.
A wyddoch chi bod 64% o gyllideb y Cyngor yn mynd ar addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol?
Mae 64% o gyllideb y Cyngor yn mynd ar addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol? Mae 14% arall wedi'i neilltuo i bethau fel cynllun cenedlaethol Cymru gyfan ar gyfer budd-dal y Dreth Gyngor a'r ardoll y mae'n rhaid i ni ei thalu i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, sydd wedyn ond yn gadael 22% ar ôl ar gyfer holl wasanaethau eraill y Cyngor gan gynnwys gwagio biniau ac ailgylchu, cynllunio a diogelu'r cyhoedd, diogelu atyniadau treftadaeth, cludo disgyblion i'r ysgol.
Gallwch ddysgu mwy am ble mae'r gyllideb yn mynd ar y tudalennau newyddion.
A wyddoch chi bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?
Oeddech chi'n gwybod bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?
Nid yw'r holl Dreth Cyngor a gesglir yn talu am ddim ond gwasanaethau'r cyngor, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân. I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.
Prydau ysgol am ddim
Mae pob plentyn oed cynradd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy'r cynllun Prydau Ysgol Cynradd Cynradd Cyffredinol. Mae hon yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i sefydlu i helpu gyda'r costau byw cynyddol. Gallwch ddarganfod rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor.
Mae Treth y Cyngor yn cynrychioli dim ond 25% o arian y Cyngor
Mae Treth y Cyngor ond yn cyfrif am 25% o gyfanswm cyllid y Cyngor. Pan fyddwch yn talu eich bil Treth y Cyngor blynyddol, mae 1.8% o hwnnw’n talu am gasgliadau gwastraff ac ailgylchu – sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar dreth gyngor eiddo Band D o £1,799.48 y flwyddyn). Mae'r rhan fwyaf o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas - ysgolion ac addysg yw'r gwariant mwyaf sy'n cyfrif am 36.7% tra bod gofal oedolion a gofal cymdeithasol yn cyfrif am 29.8%. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan.
A wyddoch chi fod 1.1% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y gwasanaeth Cefn Gwlad?
Mae 1.1% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Cefn Gwlad sy'n rheoli dros 80 o safleoedd cefn gwlad, dros 1,200 hectar o fannau gwyrdd ar gyfer hamdden a chadwraeth.
Mae'r rhain yn amrywio o Barc Gwledig Loggerheads a Moel Fammau, Planhigfa Goed y Sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Prestatyn Dyserth Way, Llantysilio Green yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o safleoedd cymunedol llai ar draws y Sir.
Mae gan y Gwasanaeth dîm arbenigol yn y maes Ecoleg a Choed ledled y Sir, y dynodiad Tirwedd Genedlaethol, hamdden a hawliau tramwy, sy'n trefnu teithiau cerdded natur ar gyfer iechyd ac yn rheoli'r Ganolfan Cefn Gwlad yn Loggerheads ac arlwyo ym Mhlas Newydd.
I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan
Llawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, papurau newydd ac yn y blaen
Gallwch chi lawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, cylchgronau digidol a phapurau newydd am ddim gan ddefnyddio ap Borrowbox? Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN. Ddim yn aelod o'r llyfrgell? Mae ymuno ar-lein am ddim www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd.
Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant yn wythnosol
Fod Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant wythnosol am ddim ledled y sir – gan gynnwys galwadau heibio, teithiau cerdded llesiant, cefnogaeth i bobl ifanc, a gweithgareddau i hybu hyder. Maen nhw ar agor i holl drigolion Sir Ddinbych 16+ oed, ac yn hollol rhad ac am ddim! Edrychwch ar yr amserlen a’r digwyddiadau diweddaraf yma.
A wyddoch chi bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd.
Bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd. Mae’n egluro beth allwch chi ei ddisgwyl wrth wneud cais am drwyddedau, yn ystod archwiliadau a gorfodi, a sut i gysylltu neu roi adborth. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan.
A wyddoch chi mai 0.9% o wariant Treth y Cyngor sy'n mynd ar Wasanaeth Treftadaeth y sir?
Mae Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych yn cyfrif am 0.9% o wariant Treth y Cyngor.
Am hyn, mae'n cadw ac yn hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (wedi'i lleoli yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr.
Drwy ddiogelu'r rhain mae'r gwasanaeth yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.
Trwy ein hatyniadau, digwyddiadau a rhaglenni dysgu, rydym yn cefnogi balchder lleol, twristiaeth ddiwylliannol a'r economi wrth amddiffyn treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan
EIN HYSGOLION
Llwyddiant i Ysgol Pen Barras yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Llongyfarchiadau mawr i Gôr Ysgol Pen Barras, Rhuthun, a ddaeth yn fuddugol ddydd Mercher, 8 Gorffennaf, yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Daethant i’r brig yn y gystadleuaeth Côr Iau, gan gystadlu yn erbyn wyth o gorau o Gymru ac o bedwar ban byd.

O ganlyniad i’r llwyddiant hwn, aethant ymlaen yn hwyrach yn y nos i gystadlu yng Nghystadleuaeth Côr Ieuenctid y Byd. Enillwyr y gystadleuaeth honno oedd Côr Iau ABC o Gaerdydd.
Roedd yn brofiad anhygoel i aelodau’r côr. Arweinydd Côr Ysgol Pen Barras oedd Mrs Sioned Roberts, gyda Mrs Elin Owen yn cyfeilio.
Yn ogystal â’r llwyddiant hwn, bu plant Ysgol Pen Barras hefyd yn cyflwyno Neges Heddwch yr Ŵyl i’r Byd. Thema’r cyflwyniad oedd “Amddiffyn Ieithoedd Lleiafrifol”, ac roedd yn braf gweld y neges yn derbyn cymeradwyaeth arbennig gan gynulleidfa lawn ddwywaith yn ystod y dydd.
Bydd y plant yn perfformio’r neges unwaith eto ddydd Sadwrn, 11 Gorffennaf, am 10:30yb. Pob hwyl iddynt.

Mrs Helen Williams a Miss Elin Parry (athrawon Ysgol Pen Barras) oedd yn gyfrifol am ysgrifennu’r sgript eleni.
Meddai Dyfan Phillips, Pennaeth Ysgol Pen Barras:
“Dyma ddiwrnod bythgofiadwy i blant, staff a rhieni Ysgol Pen Barras! Cawsom y fraint anhygoel o gyflwyno’r Neges Ewyllys Da nid unwaith ond ddwywaith, ac yna cael yr anrhydedd o ennill y gystadleuaeth gorawl gynradd.
“Nid oedd unrhyw gynlluniau gennym i ennill a pherfformio eto, felly bu cryn dipyn o waith ad-drefnu o ganlyniad wrth drefnu i’r plant a’r rhieni ddychwelyd i faes yr Eisteddfod.
"Diolch yn fawr i bawb fu’n rhan o’r trefniadau ac a’n cefnogodd. Roedd yn brofiad anhygoel i’n pobl ifanc, ac mae’n braf cael mynd â’r Gymraeg ar draws y byd drwy gyfrwng yr Eisteddfod.”
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd:
"Rwyf am longyfarch pawb yn Ysgol Pen Barras ar y gamp arbennig hon. Mae ennill cystadleuaeth y Côr Iau yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn gyflawniad gwych ac yn adlewyrchu gwaith caled, ymroddiad a thalent y disgyblion, y staff a phawb sydd wedi eu cefnogi.
"Rwyf hefyd yn hynod falch bod y plant wedi cael y fraint o gyflwyno Neges Heddwch y Byd eleni, gan dynnu sylw at bwysigrwydd diogelu ieithoedd lleiafrifol. Fe wnaethant gynrychioli eu hysgol, Rhuthun a Sir Ddinbych gyda balchder mawr, gan ddangos cryfder ein hiaith a'n diwylliant Cymraeg ar lwyfan rhyngwladol. Dylent fod yn eithriadol o falch o'u cyflawniadau, a dymunaf bob llwyddiant iddynt gyda'u perfformiad ddydd Sadwrn."

Croesawu Luis Gardner yn ôl i Ysgol Dinas Brân cyn Ewros dan 19!
Roeddem yn falch iawn o groesawu cyn-ddisgybl Ysgol Dinas Brân, Luis Gardner, yn ôl i’r ysgol ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb arbennig gyda’n timau pêl-droed bechgyn a merched.
Rhannodd Luis ei daith o’i gyfnod fel disgybl yn YDB i gynrychioli Everton FC ac ennill anrhydeddau rhyngwladol gyda Chymru Dan 19. Cafodd ein myfyrwyr gipolwg gwerthfawr ar yr ymroddiad, y gwaith caled a’r gwydnwch sydd eu hangen i lwyddo ar y lefel uchaf.
Gyda Phencampwriaethau Ewropeaidd Dan 19 UEFA ar y gorwel, roedd yn wych i’n pêl-droedwyr ifanc glywed am brofiadau Luis a’i uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.
Mae Luis yn wir ysbrydoliaeth i’n myfyrwyr ac i gymuned YDB gyfan. Rydym yn hynod falch o bopeth y mae wedi ei gyflawni hyd yma ac edrychwn ymlaen at ddilyn ei lwyddiant parhaus.
Diolch yn fawr iawn i Luis am roi o’i amser i siarad gyda’n myfyrwyr ac am ateb eu cwestiynau mor agored a gonest.
Pob lwc yn yr Ewros, Luis – mae pawb yn YDB yn dy gefnogi di

Os hoffech chi weld Luis a gweddill tîm Cymru ym mhencampwriaeth Ewros dan 19 UEFA rhwng 28 Mehefin ac 11 Gorffennaf, gallwch brynu tocynnau ar wefan docynnau Cymdeithas Bêl-droed Cymru 👉 https://tinyurl.com/3v6fm7yw
Gwleidyddiaeth yn Arwain y Sector yn Ysgol Dinas Brân yn 2026
Yr ydym wedi rhoi gwerth mawr erioed ar lais y dysgwr yn YDB, gyda Chyngor y Disgyblion a’r Cyngor Eco, sydd ill dau wedi ennill sawl gwobr, wrth galon ein hymdrechion i rymuso ein myfyrwyr i ddatblygu’n arweinwyr hyderus ar gyfer y dyfodol. Yr ydym wedi sicrhau bod llais cyngor y myfyrwyr yn cael ei glywed yn glir, gyda myfyrwyr yn gwasanaethu ar ein bwrdd llywodraethwyr yn ogystal â chymryd rhan weithredol mewn fforymau Cyngor Sir Ddinbych.
Cydnabu Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, gryfder a natur weithgar llais ein dysgwyr drwy ein defnydd effeithiol o holiaduron digidol. Yn dilyn hynny, ymwelodd ag YDB i annerch ein myfyrwyr mewn gwasanaeth arbennig. Yn ystod ei hymweliad, cafodd hefyd gyfle i drafod yn fanwl gyda’n haelodau o’r cyngor myfyrwyr, gan wrando ar eu barn am y materion sy’n wynebu pobl ifanc yng Nghymru, a’u syniadau am yr hyn y gall y llywodraeth ei wneud i’w cefnogi er mwyn eu helpu i gyflawni eu llawn botensial.


Yn ogystal, rydym wedi gweithio’n agos gyda’r ‘Politics Project’ i ddatblygu rhaglen ragorol sydd wedi rhoi cyfleoedd gwerthfawr i’n myfyrwyr. Cafodd myfyrwyr Blwyddyn 12 gyfle i gymryd rhan mewn sesiwn gwestiynu rhithiol gyda Darren Millar, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, tra bu myfyrwyr Blwyddyn 13 yn cyfweld â Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru a Phrif Weinidog Cymru erbyn hyn.
Yn ogystal, rydym wedi croesawu ymweliadau gan nifer o wleidyddion blaenllaw, gan gynnwys y cyn Brif Weinidog Mark Drakeford, Llŷr Gruffydd a Ken Skates, i drafod materion pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc, megis trafnidiaeth i bobl ifanc a’r Gymraeg.
Trefnodd staff a disgyblion YDB ddigwyddiad llwyfan etholiad cyn y Pasg, gydag wyth ymgeisydd yn sefyll yn etholiad y Senedd o ystod o bleidiau gwleidyddol yn cymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb dwy awr ar gyfer ein disgyblion Blwyddyn 11, 12 a 13, gan gynnwys cymorth gyda chofrestru i bleidleisio. Lluniwyd y cwestiynau gan y myfyrwyr, a chynhaliwyd y digwyddiad gan dîm ymroddedig yn cynnwys staff, myfyrwyr Hanes Blwyddyn 12 ac aelodau o gyngor y myfyrwyr.

Fel rhan o'u prosiect hanes ar rôl y Senedd, mae myfyrwyr blwyddyn 7 wedi cynnal etholiad dosbarth trwy greu eu pleidiau eu hunain gyda logos, enwau a maniffesto ac yna fe wnaethant bleidleisio ac ethol eu rhan o ddewis.

Heb os, mae hi wedi bod yn flwyddyn gyffrous arall i lais y dysgwr yn YDB, gyda llu o gyfleoedd rhagorol a phrofiadau byd go iawn gwerthfawr i’n myfyrwyr. Da iawn YDB!
Llwyddiant Ysgol y Gwernant yn y Cwis Siarter Iaith!
Llongyfarchiadau i ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 ar ddod yn gydradd gyntaf yn rownd derfynol Cwis Siarter Iaith.
Rydym yn hynod falch o’u llwyddiant a’u hymroddiad i’r Gymraeg.

Prom Ysgol Dinas Brân 2026
Cynhaliwyd prom blwyddyn 11 Ysgol Dinas Brân yn ddiweddar a thalwyd teyrnged i'r flwyddyn gan Mr Sinclair, Pennaeth Blwyddyn 11, Miss Hughes, Pennaeth Cynorthwyol Blwyddyn 11 a holl staff yr ysgol.

"Cafwyd noson wirioneddol fythgofiadwy i’n myfyrwyr ym Mlwyddyn 11. O’r gwisgoedd godidog i’r awyrgylch anhygoel, yn sicr, cafodd y myfyrwyr noson arbennig iawn i’w chofio.
"Yr ydym yn hynod falch o’r aeddfedrwydd, y caredigrwydd a’r ysbryd positif a ddangoswyd ganddynt drwy gydol y noson. Wrth iddynt symud ymlaen i’r bennod nesaf, dymunwn bob llwyddiant iddynt - maent yn haeddu'r gorau.
"Diolch o galon i’r staff, y teuluoedd a thîm y lleoliad a sicrhaodd fod y noson hon yn un mor arbennig".


Gwobr Aur Cymraeg Campus
Yn ystod tymor y Gwanwyn, dyfarnwyd Gwobr Aur Cymraeg Campus i Ysgol Cefn Meiriadog, gan eu gwneud yr ail ysgol yn unig yn Sir Ddinbych i ennill y wobr.
Mae gwobr Campws Cymraeg yn fenter iaith Gymraeg a gynlluniwyd ar gyfer ysgolion i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a meithrin ethos Cymreig cryf ym mywyd bob dydd. Mae'r wobr hon yn gyflawniad gwych i Ysgol Cefn Meiriadog ac mae'n dyst i waith caled ac ymrwymiad y staff a'r dysgwyr i hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg ar draws yr ysgol. Yn ystod tymor y Gwanwyn, ymunodd aelodau o'r Corff Llywodraethol a Chyngor Sir Dinbych â'r ysgol ar gyfer gwasanaeth dathlu a gyflwynwyd gan aelodau o'r Criw Cymraeg. Mae Criw Cymraeg yr ysgol yn helpu i arwain ymdrechion yr ysgol trwy drefnu gwasanaethau wythnosol, arwain gemau maes chwarae i gydnabod disgyblion sy'n ymdrechu'n galed i siarad Cymraeg a hyrwyddo'r iaith Gymraeg drwy gydol y diwrnod ysgol.
Dywedodd y Pennaeth Laura Martin: "Mae'r wobr hon yn dyst i waith caled cymuned gyfan yr ysgol, dan arweiniad Mrs Pitt-Lacey a'n Criw rhagorol.
"Fel ysgol rydym yn gweithio'n galed iawn i hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg ac rydym wrth ein bodd bod hyn wedi cael ei gydnabod. Rwy'n hynod falch o ymdrech ac ymrwymiad pawb a gymerodd ran ac rwyf wrth fy modd fy mod wedi derbyn aur."
Dywed Cadeirydd y Llywodraethwyr, Shannon Gage "Ar ran y Corff Llywodraethol cyfan, hoffwn estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf i'r ysgol ar ennill Gwobr Aur Cymraeg Campus. Mae'r wobr hon yn adlewyrchiad o'r ymroddiad a'r gwaith caled a ddangoswyd gan gymuned gyfan ein hysgol ac yn tynnu sylw at ein hymrwymiad diysgog i ddatblygu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn Ysgol Cefn Meiriadog. Rydym yn hynod falch o'r cyflawniad hwn ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn dros y blynyddoedd nesaf."
Citiau newydd i ddisgyblion Ysgol Bro Dyfrdwy!
Dyma ddisgyblion Ysgol Bro Dyfrdwy yn edrych yn hynod drwsiadus yn eu citiau pêl droed a rygbi newydd!
Meddai Mr Arwel Lloyd Owen, Pennaeth Ysgol Bro Dyfrdwy, "Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Coed y Dyffryn Ltd a Thafarn y Llew Glas, Cynwyd am eu cefnogaeth. Mae'r disgyblion wrth eu boddau gyda'r citiau newydd.


Da iawn ti Mason o Ysgol Santes Ffraid!
Cymerodd Mason Green (yn y llun ar y dde isod), disgybl o Ysgol Santes Ffraid, Dinbych, ran yng nghylch cyntaf pencampwriaeth Cymdeithas Tynnu Tractorau Prydain ar y 9fed a’r 10fed o Fai ym Maes Sioe Scorton yn Swydd Gaerhirfryn. Daeth cystadleuwyr o bob rhan o’r DU ynghyd gyda’u tractorau wedi’u haddasu i gymryd rhan yn yr ŵyl gyffrous hon o geffylau pŵer uchel. Mae cystadleuwyr yn cystadlu mewn fformat cynghrair mewn digwyddiadau ledled y DU drwy gydol misoedd yr haf.

Mae’r gystadleuaeth yn defnyddio tractorau wedi’u haddasu i dynnu sled trosglwyddo pwysau ar hyd trac 100m. Roedd Mason yn cystadlu yn Nosbarth Addasedig Gardd 500kg, lle ychwanegodd ef a’i dîm injan beic modur, llawer o bwysau ychwanegol, cewyll diogelwch a gwaith paent anhygoel at beiriant torri gwair safonol i’w droi’n gerbyd cystadlu. Yn ystod y ras, mae Mason yn gyrru’n gyflym i lawr y trac wrth i 500kg gael ei ychwanegu’n raddol at lwyth y tractor nes nad yw’r tractor yn gallu tynnu rhagor. Dywedodd am ei rediad: “Byddwn i wedi mynd ymhellach ar yr ail rediad, ond roeddwn i’n gallu teimlo’r turbo yn ysgwyd a’r peth olaf rwyt ti eisiau pan rwyt ti’n rhoi popeth iddo yw chwythu’r turbo.” Geiriau doeth iawn yn wir.
Dyfernir pwyntiau yn seiliedig ar y pellter a deithiwyd dros ddau rediad yn erbyn maes o 12 cystadleuydd yn y digwyddiad hwn. Gorffennodd Mason yn y 3ydd safle yn gyffredinol yn y digwyddiad cyntaf hwn o’r flwyddyn, gan gasglu 27 pwynt cynghrair yn y broses. Mae ef a’i dîm wrthi’n gweithio ar gael ychydig mwy o geffylau pŵer allan o’r injan wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad nesaf yn Swydd Aberdeen ym mis Mehefin. Gorffennodd Mason yn yr ail safle yn gyffredinol yng nghystadleuaeth y llynedd, ond mae’n anelu at fynd un yn well eleni. Byddwn ni yma yn Ysgol Santes Ffraid yn cadw llygad barcud ar ei gynnydd.

Dywedldd penaeth Ysgol Santes Ffraid, Mrs Leah Crimes, “Rydym yn hynod falch o Mason a’i lwyddiannau mewn camp mor heriol ac unigryw. Mae ei ymroddiad, ei waith tîm a’i angerdd yn adlewyrchiad gwych o’r gwerthoedd rydym yn eu dathlu yma yn Ysgol Santes Ffraid. Mae ei weld yn cystadlu ar lefel genedlaethol ac yn sicrhau canlyniad mor drawiadol ar ddechrau’r tymor yn wirioneddol ysbrydoledig. Dymunwn bob llwyddiant i Mason wrth iddo barhau â’i daith bencampwriaeth.”
Llu Cadetiaid Cyfun Ysgol Santes Ffraid
Mae'r Llu Cadetiaid Cyfun (Combined Cadet Force - CCF) yn weithgaredd allgyrsiol a ddarperir o fewn yr ysgol sy'n anelu at helpu i ddatblygu unigolion i ddod yn aelodau gwell o gymdeithas pan fydd y myfyrwyr yn gadael yr ysgol yn y pen draw.

Mae'r flwyddyn academaidd hon wedi gweld y CCF yn cefnogi sawl digwyddiad proffil uchel. Aeth 12 o gadetiaid a 2 Wirfoddolwr Oedolion y Llu Cadetiaid (CFAVs) i'r Gwasanaeth Gŵyl Goffa yn Neuadd Frenhinol Albert a chafodd Sarjant Hedfan y Cadetiaid Alannah Davies y fraint o gario lumen CCF Genedlaethol. Y bore canlynol gwelwyd y cadetiaid a'r CFAVs yn gorymdeithio ochr yn ochr â phersonél gwasanaeth a chyn-filwyr yn yr orymdaith heibio'r Senotaff yn Llundain o flaen Ei Mawrhydi y Brenin.
Ym mis Chwefror eleni gwahoddwyd CCF Santes Brigid i ddarparu 12 cadetiaid i gefnogi gwasanaeth Arian Maundy yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy lle cyflwynodd Ei Mawrhydi y brenin Arian Maundy i 154 o dderbynwyr, 77 o ddynion a 77 o fenywod yn cynrychioli oedran y Brenhinoedd. Roedd y cadetiaid fel aelodau o ysgol Santes Brigid a'r CCF yn glod i'r ysgol a'r sefydliad cadetiaid gan ddenu'r sylwadau canlynol gan y Cyrnol Edwyn Launders, Rheolwr, Swyddfa'r Arglwydd Siambrlen i ddiolch i'r cadetiaid am, "Mor wych yn cefnogi'r Gwasanaeth Brenhinol Maundy yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ddydd Iau 2 Ebrill. Ni allem fod wedi gobeithio am grŵp mwy clyfar, mwy proffesiynol ac effeithlon o bobl ifanc i'n helpu i ofalu am yr holl westeion."
Mae'r CCF yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau bywyd, cynyddu annibyniaeth a magu hyder wrth gymryd rhan mewn pethau fel cynllun Gwobr Dug Caeredin {DofE}, mynd i'r awyr a phrofi hedfan neu gefnogi digwyddiadau fel y rhai a amlygwyd uchod, gan roi cyfleoedd i bobl ifanc na fyddent fel arall wedi'u cael.