NEWYDDION

Bwrw iddi gyda chynlluniau natur ysgol gyda chyllid gan Network Rail

Mae cyllid ar y trywydd iawn i helpu i gynllunio ar gyfer gwaith natur mewn ysgol yn Sir Ddinbych

Mae cyllid ar y trywydd iawn i helpu i gynllunio ar gyfer gwaith natur mewn ysgol yn Sir Ddinbych. 

Yn ôl y Cyngor Coed, mae cefnogaeth ariannol o Gronfa Plannu Coed Cymunedol Network Rail ar y trywydd iawn i gyrraedd Cyngor Sir Ddinbych i  helpu â gwaith hinsawdd a natur yn Ysgol Gynradd Hiraddug yn Nyserth.

Mae’r prosiect yn bosibl yn sgil cefnogaeth grant gan y Cyngor Coed a Chronfa Plannu Coed Cymunedol Network Rail.

Mae tîm bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych wedi creu cynlluniau amlinellol ar gyfer nodweddion newydd ar dir yr ysgol i helpu natur a chynyddu gwytnwch yn erbyn bygythiadau newid hinsawdd, ac mae arolygon a gwaith dylunio manwl bellach wedi dechrau.  

Bydd cynefinoedd newydd yn cynnwys gwrychoedd, coed safonol, coed ffrwythau, pyllau, dolydd blodau gwyllt a strwythurau helyg byw ar gyfer chwarae antur.  Bydd dros 1,500 o goed o rywogaethau gwahanol yn cael eu plannu yn yr ysgol.

Bydd y grant o £7,832 a ddyfarnwyd yn talu am gostau’r coed ac amrywiol bethau cysylltiedig megis pyst, amddiffynwyr, gwiail a thomwellt. Dyma’r grant mwyaf a ddyfarnwyd o’r Gronfa yn y rhanbarth a’r grant mwyaf a ddyfarnwyd yn genedlaethol ar gyfer prosiect ysgol.

Fe fydd disgyblion o Ysgol Hiraddug yn ymuno â staff ceidwaid bioamrywiaeth a chefn gwlad y Cyngor i helpu i greu’r nodweddion newydd yn y tymor plannu coed sydd newydd gychwyn, ac sy’n cael ei ddathlu’r wythnos hon yn rhan o Wythnos Genedlaethol y Coed 2026.

Thema Wythnos Genedlaethol y Coed eleni yw - ‘coed cyfagos’ - ac mae’n ymwneud â dathlu’r coed sy’n rhan o’n bywydau bob dydd. O goed ar diroedd ysgolion, mewn cymunedau a gofodau gwyrdd lleol, i’r rhai ar hyd ein strydoedd ac yn ein parciau, mae’r coed hyn yn gwneud gwir wahaniaeth i’r lle rydym yn byw.  

Maent yn darparu cartref i fywyd gwyllt, gwella ein lles a helpu i greu gofodau gwyrddach, iachach.   Mae Wythnos Genedlaethol y Coed yn gyfle i sylwi, gwerthfawrogi a gweithredu ar gyfer y coed ar ein stepen drws.

Dywedodd Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Fe wyddom o wneud gwaith tebyg mewn ysgolion eraill yn Sir Ddinbych y bydd y diwrnodau plannu yn hwyliog ac yn addysgiadol, gan helpu i gefnogi cwricwlwm addysg amgylcheddol a gweithgareddau ysgol goedwig a rhoi ymdeimlad o berchenogaeth a balchder i blant yn eu hamgylchedd wrth i’r nodweddion dyfu ac esblygu a gadael gwaddol cymunedol parhaus.

"Rwyf wedi gweithio gyda disgyblion Ysgol Hiraddug o'r blaen i blannu dol blodau gwyllt er mwyn helpu natur o amgylch eu hysgol, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld eto i blannu coed – gan greu cymysgedd gwych o gynefinoedd i'r plant ar gyfer dysgu yn yr awyr agored."

Dywedodd Rheolwr Prosiect Creu Coetir, Keith Bennett o Dîm Newid Hinsawdd y Cyngor: “Fe fydd y coed yn helpu i amsugno nwyon tŷ gwydr, darparu cynefin ychwanegol i fywyd gwyllt, a helpu i wella ansawdd yr aer.  Pan fyddant wedi aeddfedu, byddant yn cynnig cysgod: manteision addasu pwysig i wneud yr ysgol yn fwy gwydn i ymdopi â thywydd eithafol tebygol yn y dyfodol yn sgil cynhesu byd eang.”

Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ar ddeall fod y Gronfa wedi cael nifer o geisiadau eleni, felly rydym yn falch iawn fod y prosiect hwn yn bosibl yn sgil cefnogaeth y Cyngor Coed a Chronfa Plannu Coed Cymunedol Network Rail.   Bydd y gwelliannau yn cefnogi adferiad natur yn lleol a bydd o fudd i les a dysg disgyblion presennol a disgyblion y dyfodol.”

Disgyblion yn rhoi gobaith i natur yn yr ysgol

Mae disgyblion Ysgol Plas Cefndy wedi rhoi help llaw i natur ar dir yr ysgol

Mae disgyblion Ysgol Plas Cefndy wedi rhoi help llaw i natur ar dir yr ysgol.

Gweithiodd y disgyblion yn ddiweddar gyda thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych i greu dôl blodau gwylltion newydd a fydd yn darparu bwyd a lloches i ystod o fywyd gwyllt lleol o amgylch yr ysgol.

Yn ystod y sesiwn dan arweiniad y tîm Bioamrywiaeth, chwaraeodd y disgyblion rôl ymarferol, gan baratoi'r tir, plannu'r blodau gwyllt a dysgu sut mae dolydd yn bwysig i natur leol oroesi a ffynnu.

Gyda’r tîm, plannodd y disgyblion 110 o blanhigion blodau gwyllt i greu dwy ardal flodau gwyllt lai, un ym mlaen ac un yng nghefn eu hysgol.

Bydd eu gwaith o gymorth i drawsnewid rhan o dir yr ysgol yn ardal allanol liwgar ar gyfer natur a dysgu.

Mae’r blodau gwylltion a blannwyd gan y disgyblion yn cynnwys clafrllys, lluglys gwyn, meillionen hopysaidd, clust y gath, blodau pengaled, crafanc brân y gweunydd, ytbysen y ddôl, llygad llo mawr, gludlys coch, meillion coch, amranwen, y feddyges las, cribau’r pannwr, moronen y meysydd a milddail.

Wrth i’w dôl newydd ddatblygu, bydd yn helpu i gynnal peillwyr fel gwenyn, gan roi ardal ychwanegol i’r disgyblion ysgol yn yr awyr agored lle gallant arsylwi ar fywyd gwyllt a dysgu am bwysigrwydd cynefinoedd iach.

Cyflenwyd yr holl flodau gwylltion gan blanhigfa goed Cyngor Sir Ddinbych, sydd gerllaw Llanelwy.

Meddai Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Fe wnes i fwynhau gweithio gyda’r disgyblion i’w helpu i greu eu dôl newydd. Daethant â llawer o frwdfrydedd i’r gwaith plannu, ac rydym yn awyddus i ganfod sut y bydd y blodau gwylltion a dyfwyd yn ein planhigfa goed o fudd i fywyd gwyllt lleol a’r gymuned ehangach o amgylch eu hysgol.

“Gallant oll fod yn falch iawn o’r cynefinoedd y maent wedi ei greu ar gyfer y planhigion, peillwyr a mathau eraill o fywyd gwyllt ar dir eu hysgol.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffwn ddiolch i ddisgyblion a staff Ysgol Plas Cefndy am weithio’n galed i greu’r ddôl newydd hon ar dir eu hysgol ac am groesawu ein tîm Bioamrywiaeth i’w helpu i ddatblygu’r cynefin pwysig hwn.

“Bydd eu gwaith yn cefnogi bywyd gwyllt ar dir yr ysgol a natur leol, a bydd yn rhoi lle gwych iddyn nhw ddysgu am bwysigrwydd helpu ein bioamrywiaeth i ffynnu.”

Cynllun ‘Am Ddim ar ôl Tri’ y Cyngor yn dychwelyd dros gyfnod y Nadolig

Bydd menter ‘Am Ddim ar ôl Tri’ Cyngor Sir Ddinbych yn dychwelyd eto eleni. 

Bydd menter ‘Am Ddim ar ôl Tri’ Cyngor Sir Ddinbych yn dychwelyd eto eleni. 

O heddiw, 23 Tachwedd tan 31 Rhagfyr 2026, bydd meysydd parcio’r Cyngor yng nghanol trefi ar draws Sir Ddinbych am ddim ar ôl 3pm, i annog mwy o bobl i ddefnyddio eu stryd fawr leol i siopa yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Bydd y cynllun ‘Am Ddim ar ôl Tri’ ar gael yn y meysydd parcio canlynol:

Corwen: Maes parcio Lôn Las.

Dinbych: Maes parcio Lôn Ffynnon Barcer, maes parcio Lôn Crown, Ward y Ffatri, Lôn y Post, Stryd y Dyffryn.

Llangollen: Brook Street, Stryd y Dwyrain, Stryd y Neuadd, Heol y Farchnad, Heol y Felin.

Prestatyn: Rhodfa Rhedyn, Rhodfa’r Brenin, Stryd Fawr Isaf, Ffordd Llys Nant, Gorsaf Reilffordd Prestatyn.

Rhuddlan: Stryd y Senedd.

Y Rhyl: Ffordd Morley, Heol y Frenhines, Llyfrgell y Rhyl (gofodau parcio i bobl anabl yn unig), gorsaf reilffordd y Rhyl, maes parcio Tŵr Awyr y Rhyl, Neuadd y Dref, y Rhyl, Gorllewin Stryd Cinmel.

*Nid yw maes parcio preifat Neuadd y Morfa, y Rhyl, yn rhan o’r fenter.

Rhuthun: Crispin Yard (Cae Ddol), Lôn Dogfael, Stryd y Farchnad, Ffordd y Parc, Stryd y Rhos, Troed y Rhiw

Llanelwy: Lawnt Fowlio

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

"Mae ein menter “Am Ddim ar ôl 3” yn annog mwy o bobl i ddefnyddio eu stryd fawr leol i siopa yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. 

“Mae’r cynllun wedi bod yn boblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf gan ei fod yn gynllun gwych sydd yn galluogi preswylwyr i gefnogi eu cymunedau lleol.

“Mae’r Cyngor hefyd wedi clustnodi pum diwrnod o barcio am ddim y flwyddyn i gynghorau dinas a thref. Ni fydd angen i gynghorau dinas a thref ddefnyddio’r diwrnodau sydd wedi’u clustnodi ar eu cyfer dros gyfnod y Nadolig a gallant benderfynu eu defnyddio ar adegau eraill. 

“Gobeithiwn y bydd pawb yn cefnogi eu stryd fawr a’u busnesau lleol, yn arbennig yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, ac yn cymryd mantais o’r cynllun gan ddefnyddio meysydd parcio canol trefi’r sir yn rhad ac am ddim.”

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Coeden gynhenid brin yn cael hwb ar gyfer y dyfodol gan dîm y blanhigfa

Mae coeden brin sydd wedi rhoi ysbrydoliaeth ar gyfer enw llawer o dafarndai’r DU yn mynd i gael hwb yn Sir Ddinbych y dilyn haf poeth

Mae coeden brin sydd wedi rhoi ysbrydoliaeth ar gyfer enw llawer o dafarndai’r DU yn mynd i gael hwb yn Sir Ddinbych y dilyn haf poeth.

Mae Planhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy wedi cael gafael ar aeron o’r cerddin gwylltion sydd ar ôl yn y sir i alluogi’r tîm i dyfu mwy o’r coed cynhenid prin hyn.

Mae’r blanhigfa goed yn Green Gates Farm, Llanelwy, yn cynhyrchu planhigion blodau gwylltion cynhenid a choed cynhenid. Bydd coed a phlanhigion a dyfir yn y blanhigfa yn y pen draw yn mynd yn ôl i gefn gwlad i hybu bioamrywiaeth.

Dim ond mewn ychydig o leoliadau anghysbell ledled Sir Ddinbych y mae’r gerddinen i’w gweld. Yn hanesyddol fe’i gelwir hefyd yn goeden ‘chequers’ yn Saesneg oherwydd ffrwythau’r goeden y dywedir eu bod yn blasu’n debyg i ddatys ac a roddid i blant yn y gorffennol fel fferins.

Yn draddodiadol gwneid diod feddwol debyg i gwrw wedi ei eplesu o ffrwythau’r goeden, a chredir bod hyn wedi ysbrydoli pobl i roi’r enw ‘Chequers’ ar nifer o dafarndai ledled Prydain.

Mae’r haf poeth wedi helpu’r cerddin gwylltion i gynhyrchu mwy o hadau, sy’n rhoi’r cyfle i’r blanhigfa coed cynhenid fwrw ymlaen gyda thyfu mwy o goed ar ôl dau dymor o brinder hadau yn 2024 a 2025.

Meddai Keegan Blazey, Swyddog yn y Blanhigfa Goed: “Yma yn y blanhigfa fe lwyddasom dros ddwy flynedd yn ôl i gynhyrchu dros 200 o goed cerddin gwylltion ar ôl cynaeafu’r aeron o’r lleoliadau yn y sir i gael yr hadau pwysig hyn.

“Yn dilyn hyn, mae yna brinder wedi bod yn niferoedd aeron y coed, ond mae tywydd poeth eleni wedi bod o gymorth mawr i gynhyrchu cnwd da o aeron. Casglwyd rhai o’r rhain a byddant yn mynd drwy’r broses yma yn y blanhigfa er mwyn plannu gyda’r gobaith o gynyddu niferoedd y goeden brin hanesyddol hon.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r tîm yn y blanhigfa’n gweithio’n galed er budd dyfodol coed cynhenid lleol ac mae’r gwaith hwn yn bwysig er mwyn diogelu’r gerddinen wyllt. Drwy’r ymdrech hon gallwn helpu i roi hwb i niferoedd y goeden brin hon ar diroedd lleol er mwyn ei chynorthwyo i ffynnu unwaith eto.”

 

Llyfrgell y Rhyl yn mynd i ysbryd yr ŵyl gyda Ffair Lyfrau Nadoligaidd

Mae Llyfrgell y Rhyl yn mynd i ysbryd y Nadolig gyda Ffair Lyfrau Nadoligaidd sy’n dathlu rhai o awduron lleol gwych yr ardal.

Bydd cyfle i ymwelwyr gwrdd â’r awduron, sgwrsio am eu llyfrau a phrynu copïau wedi’u harwyddo – cyfle gwych i ddod o hyd i anrheg Nadolig ychydig yn wahanol!

Mae rhywbeth at ddant pawb, o ffuglen hanesyddol a straeon adeg rhyfel i nofelau cyffro, hunangofiannau, dirgelion a rhamant.

Ymhlith yr awduron fydd yn bresennol mae Patricia Wilson, Sharon Tyers, Graham Roberts, Eilir Rhys, Eleri Thomas, Daniel Pike ac Eryl Jones.

Dewch draw i gael croeso cynnes, sgwrs am lyfrau, a mwynhau diodydd poeth a mins peis am ddim!

Cynhelir y Ffair Lyfrau Nadoligaidd ddydd Mawrth, 1 Rhagfyr, rhwng 10.30am a 12pm yn Llyfrgell y Rhyl. Croeso cynnes i bawb.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae’n ffordd hyfryd o ddathlu ein hawduron lleol a rhoi cyfle i bobl ddarganfod llyfrau gwych wrth fynd i ysbryd y Nadolig.

“P’un a ydych chi’n chwilio am lyfr newydd i’w fwynhau eich hun neu anrheg Nadolig arbennig, mae’n siŵr y bydd rhywbeth at eich dant. A gyda diodydd a mins peis am ddim, beth am alw heibio ac ymuno â ni!”

I gael gwybod am oriau agor eich llyfrgell leol, ewch i’n gwefan.

Dyddiadau casglu gwastraff ac ailgylchu dros y Nadolig

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynghori trigolion i fod yn ymwybodol o newidiadau dros dro i ddyddiau casglu Ailgylchu, Gwastraff Gweddilliol, Gwastraff Gardd a Chynnyrch Hylendid Amsugnol dros wyliau’r Nadolig.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynghori trigolion i fod yn ymwybodol o newidiadau dros dro i ddyddiau casglu Ailgylchu, Gwastraff Gweddilliol, Gwastraff Gardd a Chynnyrch Hylendid Amsugnol dros wyliau’r Nadolig.

 Sylwch y bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn symud un diwrnod dros gyfnod y Nadolig. Er mwyn hwyluso’r newidiadau hyn, bydd casgliadau ychwanegol ddydd Sadwrn 19 Rhagfyr 2026 a dydd Sadwrn 2 Ionawr 2027.

Dyma’r trefniadau casglu dros dro:

Casgliadau dros y Nadolig

  • Dydd Llun 21 Rhagfyr – casgliad yn digwydd ddydd Sadwrn 19 Rhagfyr.
  • Dydd Mawrth 22 Rhagfyr – casgliad yn digwydd ddydd Llun 21 Rhagfyr.
  • Dydd Mercher 23 Rhagfyr – casgliad yn digwydd ddydd Mawrth 22 Rhagfyr.
  • Dydd Iau 24 Rhagfyr – casgliad yn digwydd ddydd Mercher 23 Rhagfyr.
  • Dydd Gwener 25 Rhagfyr – casgliad yn digwydd ddydd Iau 24 Rhagfyr.

Ni fydd casgliadau ddydd Gwener 25 Rhagfyr 2026.

Rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Bydd casgliadau yn digwydd ar eu diwrnodau arferol:

  • Dydd Llun 28 Rhagfyr – Diwrnod casglu arferol.
  • Dydd Mawrth 29 Rhagfyr – Diwrnod casglu arferol.
  • Dydd Mercher 30 Rhagfyr – Diwrnod casglu arferol.
  • Dydd Iau 31 Rhagfyr – Diwrnod casglu arferol.

Casgliadau dros y Flwyddyn Newydd

  • Dydd Gwener 1 Ionawr 2027 – Casgliad yn digwydd ddydd Sadwrn 2 Ionawr 2027.

Ni fydd casgliadau ddydd Gwener 1 Ionawr 2027.

Gofynnir i breswylwyr sicrhau bod eu gwastraff a’u hailgylchu yn cael eu rhoi allan i’w casglu ar y dyddiadau uchod.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae dathliadau’r Nadolig yn aml yn golygu mwy o wastraff ac ailgylchu, o bapur lapio i boteli. Mae ein criwiau ailgylchu a gwastraff gwych yn gweithio’n galed i gasglu’r eitemau ychwanegol hyn trwy gydol cyfnod y Nadolig. Rydym yn hynod o ddiolchgar i breswylwyr am eu dealltwriaeth o ran y newidiadau dros dro i ddiwrnodau casglu ac am eu cydweithrediad dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.”

Mae’r wybodaeth i gyd am gyfnod y  Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ar wefan y Cyngor. 

Gall preswylwyr wirio sut i ailgylchu eitemau ar ganllaw ailgylchu A i Y y Cyngor ar-lein. 

 

Cyngor Sir Ddinbych a Hamdden Sir Ddinbych yn dangos eu cefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn

Bydd adeiladau ledled Sir Ddinbych yn cael eu goleuo’n wyn wrth i’r Cyngor a Hamdden Sir Ddinbych ddangos eu cefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Mercher, 25 Tachwedd.

Bydd yr ymgyrch yn gweld adeiladau Hamdden Sir Ddinbych yn cael eu goleuo’n wyn er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch a dangos ymrwymiad ar y cyd i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Bydd baner y Rhuban Gwyn hefyd yn cael ei chodi yn Neuadd y Sir, Rhuthun, i nodi'r diwrnod.

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn gyfle blynyddol i dynnu sylw at bwysigrwydd atal trais yn erbyn menywod a merched ac annog newidiadau cadarnhaol mewn agweddau ac ymddygiad.

Thema Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni yw ‘Mae angen pob un ohonom’, gan dynnu sylw at y ffaith bod gan bawb rôl i’w chwarae wrth herio rhywiaeth, casineb at fenywod ac ymddygiad niweidiol, a helpu i greu cymdeithas lle mae menywod a merched yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu.

Mae’r ymgyrch hefyd yn annog dynion a bechgyn i fod yn gynghreiriaid gweithredol drwy herio agweddau ac ymddygiad annerbyniol, codi llais pan fyddant yn gweld rhywiaeth neu gasineb at fenywod, a helpu i hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol sy’n seiliedig ar gydraddoldeb a pharch.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych:

“Mae goleuo ein hadeiladau’n wyn yn ffordd weladwy i Hamdden Sir Ddinbych ddangos ein cefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn a helpu i godi ymwybyddiaeth o fater sy’n effeithio ar fenywod a merched ledled ein cymunedau.

“Mae gan bawb gyfrifoldeb i helpu i greu amgylcheddau diogel a chroesawgar, boed hynny yn ein gweithleoedd, ein cyfleusterau hamdden neu ein cymunedau ehangach. Rydym am annog sgyrsiau, herio ymddygiad annerbyniol a’i gwneud yn glir na ddylid byth oddef trais yn erbyn menywod a merched.

“Rydym yn falch o gefnogi’r ymgyrch hon a chwarae ein rhan i helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.”

Dywedodd y Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol Cynllunio, Cefn Gwlad a Chymunedau Mwy Diogel:

“Ni ddylid byth dderbyn nac anwybyddu trais yn erbyn menywod a merched. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth herio’r agweddau a’r ymddygiadau sy’n cyfrannu ato, ac wrth greu cymunedau lle mae menywod a merched yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.

“Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn gyfle pwysig i ddangos ein cefnogaeth, codi ymwybyddiaeth ac atgoffa pobl bod newid ystyrlon yn dechrau gyda gweithredoedd bob dydd. Boed hynny’n herio sylwadau amhriodol, codi llais yn erbyn rhywiaeth neu gefnogi rhywun sydd angen cymorth, mae pob gweithred yn cyfrif.

“Rwy’n falch o weld y Cyngor a Hamdden Sir Ddinbych yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi’r ymgyrch hon ac atgyfnerthu ein hymrwymiad i greu Sir Ddinbych sy’n fwy diogel ac yn fwy parchus.”

I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Rhuban Gwyn a sut i gymryd rhan, ewch i www.whiteribbon.org.uk.

Sut i gael cymorth:

  • Os ydych chi, eich plentyn neu unrhyw un yn eich teulu mewn perygl uniongyrchol o niwed, dylech gysylltu â’r heddlu ar frys - ffoniwch 999
  • Os ydych chi’n ddioddefwr cam-drin domestig, gallwch ffonio Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 nawr neu ewch i’r wefan https://llyw.cymru/byw-heb-ofn.
  • Mae cymorth ar gael 24/7

#DiwrnodYRhubanGwyn #GwnewchYrAddewid #DimEsgusAmGam-drin

Sir Ddinbych yn galw ar berchnogion tai gwag i fanteisio ar wasanaeth paru eiddo am ddim

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog perchnogion eiddo gwag ledled y sir i fanteisio ar ei Wasanaeth Paru Tai Gwag am ddim, a allai eu helpu i ddod o hyd i brynwr a dod â’u heiddo yn ôl i ddefnydd.

Mae’r gwasanaeth wedi bod yn gweithredu ers chwe blynedd ac mae’n helpu i gysylltu perchnogion tai gwag â darpar brynwyr a buddsoddwyr sydd â diddordeb mewn prynu eiddo yn Sir Ddinbych.

Mae nifer o fuddsoddwyr posibl eisoes wedi cofrestru gyda’r cynllun, ond mae’r Cyngor yn awyddus i annog mwy o berchnogion tai gwag i gysylltu er mwyn creu rhagor o gyfleoedd i baru prynwyr ag eiddo a dod â mwy o dai yn ôl i ddefnydd.

Er na all y gwasanaeth warantu y bydd eiddo’n cael ei werthu, mae’n cynnig cyfle i berchnogion gysylltu â phrynwyr sydd â diddordeb ac yn cynyddu’r posibilrwydd o drafod bargen lwyddiannus.

Mae dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd yn rhan bwysig o ymrwymiad y Cyngor i dai drwy ei Gynllun Corfforaethol – Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sy'n bodloni anghenion pobl – gan helpu i wneud gwell defnydd o eiddo presennol a chynnig mwy o gyfleoedd i bobl ddod o hyd i gartrefi addas.

Mae’r cynllun eisoes wedi helpu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i werthwyr a phrynwyr.

Un enghraifft yn ymwneud ag eiddo pedair ystafell wely wedi’i addasu a ddaeth yn wag ar ôl i’w berchennog fethu â byw’n annibynnol mwyach a bod angen gofal ychwanegol arno. Prynwyd yr eiddo gan gymdeithas dai ac yna fe’i darparwyd i deulu ag aelod anabl. Roedd y teulu wedi bod mewn perygl o fod yn ddigartref ar ôl i’w tenantiaeth rhentu preifat ddod i ben, ac nid oedd eu llety presennol yn diwallu eu hanghenion. Arweiniodd y paru at ganlyniad cadarnhaol i’r ddwy ochr, gan alluogi’r cyn-berchennog i werthu ei eiddo a rhoi cyfle i’r teulu gael cartref addas a oedd yn diwallu eu hanghenion yn well.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams, Aelod Arweiniol dros Dai, Cynllun Datblygu Lleol a Chymunedau:

“Mae dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd yn rhan bwysig o’n gwaith i fynd i’r afael ag anghenion tai ledled Sir Ddinbych.

“Mae ein Gwasanaeth Paru Tai Gwag am ddim yn cynnig ffordd syml i berchnogion gysylltu â darpar brynwyr sy’n chwilio’n weithredol am eiddo yn y sir.

“Mae gennym nifer o fuddsoddwyr â diddordeb eisoes wedi cofrestru gyda’r cynllun, ond mae angen i fwy o berchnogion eiddo gwag gysylltu â ni er mwyn i ni allu creu rhagor o gyfleoedd.

“Os ydych yn berchen ar eiddo gwag yn Sir Ddinbych ac yn ystyried ei werthu, byddwn yn eich annog i gysylltu â ni i ganfod sut y gallai’r gwasanaeth eich helpu.”

Gall perchnogion eiddo gwag yn Sir Ddinbych sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth paru am ddim gysylltu â thîm Tai Strategol y Cyngor drwy e-bostio taistrategol@sirddinbych.gov.uk.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ar gael ar ein gwefan. 

Diwrnod Agored Recriwtio Gofal Cymdeithasol i gael ei gynnal yn Rhuthun

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn chwilio am bobl frwdfrydig a fyddai’n hoffi gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned.

P’un a ydyn nhw’n cymryd y camau cyntaf yn eu gyrfa, neu’n chwilio am her newydd, mae’r Cyngor yn gwahodd y rheiny fyddai â diddordeb i’w Diwrnod Agored recriwtio gofal cymdeithasol diweddaraf.

Mae tîm Gofal Cymdeithasol y Cyngor yn cynnal diwrnod agored recriwtio gofal cymdeithasol yn Neuadd y Sir yn Rhuthun, ddydd Mawrth 26 Tachwedd, rhwng 9am a 12pm. 

Gall unrhyw un sy’n meddwl am yrfa ym maes Gofal Cymdeithasol alw draw ar unrhyw adeg sy’n gweddu iddyn nhw rhwng 9am a 12pm, i gyfarfod y tîm cyfeillgar a fydd yno i’w croesawu.

Wrth ddod i’r digwyddiad, gall ymgeiswyr ddisgwyl:

  • Gweld yr amrywiaeth o rolau sydd ym maes gofal cymdeithasol, a’r rheiny’n rhoi boddhad mawr.
  • Sgwrsio gyda’r staff, rheolwyr a’r tîm recriwtio cyfeillgar.
  • Dysgu am y manteision gwych o weithio i Gyngor Sir Ddinbych.
  • Cael awgrymiadau am y broses ymgeisio a’r hyn mae’r tîm yn chwilio amdano.
  • Cymorth i lenwi’r ffurflen gais, os oes angen.
  • Darganfod sut mae modd iddyn nhw wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ar draws Sir Ddinbych.

Meddai’r Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chymunedau:

“Mae swydd ym maes gofal cymdeithasol yn rhoi cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl leol o fewn ein cymunedau yma yn Sir Ddinbych.

P’un ai ydych chi’n cymryd eich camau cyntaf mewn i waith neu’n ystyried newid gyrfa, mae ein diwrnod agored recriwtio yn gyfle i weld y swyddi sydd ar gael a darganfod beth y gallai gweithio ym maes gofal cymdeithasol ei olygu i chi. 

Dewch draw i gwrdd â’r tîm a holi cwestiynau am y cyfleoedd a’r gefnogaeth sydd ar gael.”

Mae’n rhaid archebu eich lle trwy Eventbrite – sicrhewch eich lle yma.

Cerbydau trydan yn pweru patrolau parcio mwy gwyrdd yn Sir Ddinbych

Bydd gwasanaeth y Cyngor yn rhedeg fflyd fwy gwyrdd i helpu i leihau ei ôl-troed carbon yn ystod oriau gwaith.

Bydd gwasanaeth y Cyngor yn rhedeg fflyd fwy gwyrdd i helpu i leihau ei ôl-troed carbon yn ystod oriau gwaith.

Mae Tîm Gorfodi Parcio Cyngor Sir Ddinbych wedi cael dau gerbyd trydan Toyota Urban Cruiser i gefnogi’r gwaith maen nhw’n ei wneud o ddydd i ddydd.

Mae’r cerbydau newydd hyn yn rhan o waith parhaus Gwasanaethau Fflyd y Cyngor i symud at lai o ddibyniaeth ar gerbydau sy’n llosgi tanwydd lle y bo’n briodol i helpu i dorri lawr ar gostau rhedeg a chynnal a chadw a llai o allyriadau carbon cyffredinol.

Ar ôl i’r Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn 2019, mae’r Gwasanaethau Fflyd wedi symud i ddefnyddio cerbydau di-allyriadau yn ei fflyd. Ar hyn o bryd, mae dros 20% o’r cerbydau yn ei fflyd yn gerbydau di-allyriadau.

Mae staff hefyd yn cymryd rhan mewn pecyn hyfforddi gan yr Adran Fflyd, sy’n cynnwys sut i ddefnyddio isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn ddiogel ac yn effeithlon, defnyddio systemau brecio atgynhyrchiol, a phryd i ddewis ‘dull gyrru’ yn seiliedig ar yr amodau neu lwythi.

Bydd y cerbydau, sy’n gallu teithio hyd at 260 milltir cyn bod angen eu gwefru, yn cefnogi’r tîm gorfodi wrth batrolio strydoedd a meysydd parcio’r Cyngor er mwyn gorfodi cyfyngiadau parcio, helpu i gadw llif traffig yn symud a sicrhau bod gofodau parcio yn hygyrch.

Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y cerbydau hyn yn helpu staff gorfodi â’r gwasanaeth y mae angen iddynt ei ddarparu wrth ddarparu milltiroedd mwy gwyrdd i’r tîm, gan leihau costau hirdymor o ran milltiroedd a gwaith cynnal a chadw rheolaidd.”

Cabinet yn cytuno ar gynllun amnewid cynwysyddion ailgylchu

Bydd trigolion Sir Ddinbych yn gallu casglu bag glas cardfwrdd a chadi bwyd newydd am ddim yn dilyn cytundeb y Cabinet i wneud newidiadau i daliadau am gynwysyddion gwastraff ac ailgylchu ar 17 Tachwedd.

Bydd trigolion Sir Ddinbych yn gallu casglu bag glas cardfwrdd a chadi bwyd newydd am ddim yn dilyn cytundeb y Cabinet i wneud newidiadau i daliadau am gynwysyddion gwastraff ac ailgylchu ar 17 Tachwedd.

Cytunodd y Cabinet i:

  • Ganiatáu i drigolion gasglu bag glas cardfwrdd a chadi bwyd newydd am ddim i gymryd lle rhai sydd wedi’u difrodi o leoliadau penodol (Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref i ddechrau) o 1 Rhagfyr ymlaen, drwy archebu slot casglu ar-lein neu drwy ganolfan gyswllt y Cyngor.
  • Mae’r newidiadau hefyd yn darparu cymorth ychwanegol i aelwydydd sy’n derbyn Cynllun Gostyngiad yn y Dreth Gyngor.

Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Rydym wedi gwrando ar y pryderon a godwyd gan ein trigolion ynghylch gwydnwch y bagiau ailgylchu cardfwrdd glas a’r cadïau bwyd.

“Mae trigolion ledled Sir Ddinbych yn gwneud eu gorau i gefnogi ymdrechion ailgylchu’r sir, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny’n fawr. Rydym am sicrhau bod ganddynt gynwysyddion addas fel eu bod yn gallu parhau i wneud eu rhan. Mae’r polisi amnewid am ddim hwn yn cael ei gyflwyno mewn ymateb i angen gwirioneddol.

“Fel Cyngor, rydym yn parhau i helpu a chefnogi ein trigolion i wella cyfraddau ailgylchu er mwyn cyflawni’r targed o 70% a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Dylid canmol trigolion am eu hymdrechion, sydd wedi ein helpu i wella ein cyfraddau ailgylchu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers dechrau’r gwasanaeth casglu presennol yn 2024.

“Hoffem hefyd ddiolch i aelodau’r Cabinet blaenorol am eu gwaith caled a’u cefnogaeth wrth helpu i ddatblygu’r gwasanaeth i’r safon y mae’n gweithredu arni heddiw.

“Mae’r gwasanaeth wedi bod yn gweithio’n galed i leihau nifer y casgliadau a fethwyd drwy gyfuniad o gofnodi data’n well ac ymateb yn gyflym i adroddiadau gan drigolion. Mae hyn wedi golygu ein bod bellach yn cyflawni cyfraddau casglu o 99.9%. Hoffwn ddiolch i’r timau casglu am eu rhan yn y gwelliant hwn.

“Bydd y polisi amnewid newydd yn dechrau ar 1 Rhagfyr, a bydd modd neilltuo lle i gasglu cynwysyddion o’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Bydd y Cyngor yn darparu rhagor o wybodaeth am y broses hon drwy’r sianeli cyfathrebu sydd ar gael.”

Bydd yr opsiwn i dalu am gynwysyddion newydd neu gynwysyddion amnewid i gael eu dosbarthu i gartrefi yn parhau i fod ar gael i drigolion, fel yr oedd dan y trefniadau blaenorol.

Bydd y Cyngor yn lansio system archebu ar-lein i ddarparu slot casglu i’r rhai sydd angen casglu eu cynhwysydd dewisol o’u canolfan ailgylchu. Bydd y Cyngor rhannu gwybodaeth am sut i ddefnyddio’r system hon mewn da bryd cyn i’r newid polisi hwn ddod i rym ar 1 Rhagfyr.

 

Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’i ddewis i arwain Hwb Cyflogaeth Ieuenctid newydd yn Sir Ddinbych

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dewis Sir Ddinbych yn Gweithio i arwain Hwb Ieuenctid newydd yn y Rhyl, gan ddod ag ystod o wasanaethau, cymorth a chyfleoedd ynghyd i helpu pobl ifanc ledled Sir Ddinbych i symud ymlaen i gyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Mae’r Hwbiau Ieuenctid yn rhan ganolog o ymdrech ‘unwaith mewn cenhedlaeth’ Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc, gyda buddsoddiad o £2.5 biliwn yn sail i’r gwaith.

Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi Sir Ddinbych yn Gweithio i ehangu ei gyrhaeddiad a sicrhau bod mwy o bobl ifanc ledled y sir yn gallu cael mynediad at gymorth wedi’i deilwra, yn eu cymunedau, ni waeth ble maent yn byw. Drwy’r Hwb Ieuenctid newydd a gweithgareddau allgymorth ledled Sir Ddinbych, bydd pobl ifanc yn gallu cael mynediad at ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys cymorth cyflogadwyedd, cyngor gyrfaoedd, cyfleoedd addysg a hyfforddiant, cyngor ar lesiant, a chysylltiadau uniongyrchol â chyflogwyr lleol sy’n cynnig swyddi gwag, profiad gwaith a phrentisiaethau.

Drwy ddod â phartneriaid ynghyd mewn un lle, bydd yr Hwb yn creu llwybrau cliriach at gyflogaeth, addysg a hyfforddiant, gan helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial llawn.

Bydd Hwb Ieuenctid newydd Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’i leoli yng Ngorsaf VIBE yn y Rhyl, a bydd yn cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.

Mae Gorsaf VIBE eisoes yn gartref i ystod wych o wasanaethau, gweithgareddau a chyfleoedd. Mae’n lle i bobl ddod ynghyd, cymryd rhan, magu hyder a darganfod beth sy’n bosibl. Bydd ein Hwb Ieuenctid newydd yn ychwanegu elfen arall o gymorth at yr hyn sydd eisoes ar gael, gan ddod â chymorth cyflogaeth, sgiliau a datblygiad ynghyd mewn amgylchedd croesawgar sy’n addas i bobl ifanc.

Nod yr Hwb Ieuenctid yw helpu pobl ifanc i weld sut y gallai eu dyfodol edrych a theimlo bod ganddynt gefnogaeth i gymryd y cam nesaf tuag ato. P’un a ydynt yn archwilio opsiynau gyrfa, yn ystyried addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, neu’n wynebu heriau personol sy’n ei gwneud yn anodd symud ymlaen, bydd yr Hwb yn darparu mynediad at gymorth wedi’i deilwra mewn amgylchedd croesawgar, modern ac ysbrydoledig.

Drwy ddod â Sir Ddinbych yn Gweithio, Hyfforddwyr Gwaith Jobcentre Plus ac ystod o bartneriaid lleol ynghyd, bydd pobl ifanc yn gallu cael gafael ar y cyngor, y cyfleoedd a’r anogaeth sydd eu hangen arnynt i fagu hyder, goresgyn rhwystrau a symud ymlaen tuag at ddyfodol cadarnhaol.

Bydd Sir Ddinbych yn Gweithio yn gweithio ochr yn ochr â Hyfforddwyr Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau a sefydliadau partner i gynnig cymorth personol a chydgysylltiedig. Gallai hyn gynnwys cymorth i chwilio am swyddi, paratoi CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau, datblygu sgiliau digidol a chyflogadwyedd, cael mynediad at hyfforddiant a chael profiad gwerthfawr.

Bydd y cymorth hefyd yn cydnabod y gall llesiant a heriau eraill y tu allan i waith effeithio ar daith person ifanc, gan eu helpu i gysylltu â’r gwasanaethau cywir lle bo angen.

Bydd cyfleoedd hefyd i gysylltu â chyflogwyr lleol a dysgu am swyddi gwag, prentisiaethau a llwybrau eraill i gyflogaeth. Drwy ddod â chymorth a chyfleoedd yn agosach at ei gilydd, nod yr Hwb yw helpu pobl ifanc i adeiladu ar eu cryfderau, goresgyn rhwystrau a gwneud cynnydd tuag at eu nodau eu hunain.

Dechreuodd y gwasanaeth ar 6 Tachwedd 2026, ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau yng Ngorsaf VIBE. Bydd Hyfforddwyr Gwaith yn trefnu apwyntiadau ymlaen llaw. Yn ogystal â chynnig cymorth wyneb yn wyneb yn y Rhyl, bydd y rhaglen hefyd yn cyrraedd pobl ifanc mewn rhannau eraill o Sir Ddinbych lle bo angen.

Dywedodd Pat McFadden, Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau:

“Mae’r Hwb Ieuenctid newydd hwn yn gam mawr ymlaen i bobl ifanc yn Sir Ddinbych, gan ddarparu cymorth a chyfleoedd ymarferol yma yn eu cymuned.

“Rydym yn benderfynol o ddod â chyfleoedd i bob rhan o’r wlad, oherwydd ni waeth ble rydych yn cael eich magu, rydych yn haeddu’r cyfle i ennill bywoliaeth, i ddysgu ac i symud ymlaen mewn bywyd.”

Dywedodd Melanie Evans, Rheolwr Gwasanaeth Cyflogaeth Strategol Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Mae Hwb Ieuenctid Sir Ddinbych yn Gweithio yn adlewyrchu ein hymrwymiad hirsefydlog i symleiddio mynediad at gymorth a chreu llwybrau clir i bobl ifanc symud ymlaen.

“Drwy ddod ag arbenigedd Sir Ddinbych yn Gweithio a’r Adran Gwaith a Phensiynau ynghyd, bydd yr Hwb Ieuenctid yn darparu dull mwy cydgysylltiedig o gefnogi pobl ifanc, gan sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y cyfleoedd a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial.”

Dros gyfnod y rhaglen o 12 mis, nod yr Hwb yw cefnogi dros 160 o bobl ifanc, gan eu helpu i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Mae’r cynnig yn rhan o Gynnig Ieuenctid yr Adran Gwaith a Phensiynau ac mae wedi’i gynllunio i ategu’r cymorth sydd eisoes ar gael, gan weithio mewn partneriaeth i helpu pobl ifanc i gael mynediad at y cyfleoedd a’r arweiniad sydd eu hangen arnynt.

Gyda’r Hwb Cyflogaeth Ieuenctid yn ymuno â’r ystod eang o gymorth sydd eisoes ar gael yng Ngorsaf VIBE, bydd gan bobl ifanc le dibynadwy arall i droi ato am arweiniad, anogaeth a chymorth ymarferol wrth iddynt ystyried eu camau nesaf.

P’un a ydynt yn chwilio am waith, yn ystyried addysg bellach neu hyfforddiant, neu angen cymorth i oresgyn rhwystrau a allai fod yn eu dal yn ôl, bydd yr Hwb yn darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol lle gallant gael gafael ar y cyngor, y cyfleoedd a’r cysylltiadau sydd eu hangen i symud ymlaen gyda hyder.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol dros Dyfiant Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd:

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl ifanc ledled Sir Ddinbych. Rydym am i bob person ifanc deimlo’n obeithiol am eu dyfodol a gwybod bod cymorth ar gael i’w helpu i gyflawni eu huchelgeisiau.

“Bob dydd, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn helpu bobl i gymryd camau cadarnhaol tuag at eu nodau, ac rydym wrth ein bodd yn gallu cynnig yr arbenigedd a’r cymorth hwnnw i hyd yn oed mwy o bobl ifanc drwy’r Hwb Cyflogaeth Ieuenctid newydd.

“Bydd yr Hwb yn cysylltu pobl ifanc â chyfleoedd, sgiliau, arweiniad ac anogaeth, gan eu helpu i oresgyn rhwystrau a chymryd camau hyderus tuag at gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.

“Drwy fuddsoddi yn ein pobl ifanc, rydym yn buddsoddi yn nyfodol Sir Ddinbych ac yn helpu i greu cymunedau cryfach, gwell rhagolygon a dyfodol cadarnhaol ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU a nifer o raglenni, gan gynnwys rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer Cymru Llywodraeth y DU sy’n targedu anweithgarwch economaidd, y Gronfa Twf Lleol i Gymru, a Cysylltu â Gwaith.

Tîm y Cyngor yn dathlu cydnabyddiaeth am gydweithio cymunedol

Mae tîm yn y Cyngor wedi cael cydnabyddiaeth am chwarae ei ran yn cefnogi menter gymunedol yn y Rhyl sydd wedi ennill gwobrau

Mae tîm yn y Cyngor wedi cael cydnabyddiaeth am chwarae ei ran yn cefnogi menter gymunedol yn y Rhyl sydd wedi ennill gwobrau.

Derbyniodd Tîm A Dyfodol Mwy Disglair Dystysgrif Cefnogwyr Cymunedol yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026 am eu menter i lanhau’r amgylchedd yn y Rhyl gyda chefnogaeth sefydliadau eraill. 

Er mwyn dathlu’r cyflawniad, cynhaliwyd cinio gwobrwyo yn y Rhyl ac fe wahoddwyd Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych i anrhydeddu eu cefnogaeth yn helpu i fwrw ymlaen â’r fenter hon ar draws y Rhyl. 

Mae’r bartneriaeth wedi bod yn helpu i drawsnewid lleoliadau megis strydoedd cefn y Rhyl yn rhan o’r fenter i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a gwella’r amgylchedd lleol. Cefnogwyd y gwaith gan Cadwch Gymru'n Daclus.

Nod y fenter yw creu mannau cymunedol sydd yn fwy glân, yn fwy gwyrdd ac yn fwy croesawgar y gall preswylwyr ymfalchïo ynddynt.  Trwy weithio mewn partneriaeth gyda phobl leol, mae’r fenter yn annog newid ymddygiad cadarnhaol tra’n gwella ymddangosiad a bioamrywiaeth yr ardal.

Yn rhan o’r fenter, mae tîm y Cyngor wedi rhoi cyngor a gwybodaeth i breswylwyr sydd yn byw yn yr ardaloedd cyfagos am eu cyfrifoldebau i waredu gwastraff yn gywir ac effeithiau tipio anghyfreithlon.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol: “Rydym ni’n falch iawn y gofynnwyd i ni fod yn rhan o’r cinio gwobrwyo yma i ddathlu cydnabyddiaeth y cydweithio a grëwyd gan Dyfodol Mwy Disglair.

“Mae hi wedi bod yn anrhydedd gweithio gyda nhw a Chadwch Gymru'n Daclus i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ac adfer ardaloedd o amgylch y Rhyl i’w cyflwr gwreiddiol i wella’r amgylchedd lleol a bioamrywiaeth. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio mwy gyda nhw i helpu cymuned y Rhyl. 

Ychwanegodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r cydweithio rhwng Dyfodol Mwy Disglair, Cadwch Gymru'n Daclus a’n Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn rhannau o’r Rhyl.  Rydw i’n falch bod y grŵp wedi cydnabod cefnogaeth ein tîm i’w helpu i fwrw ymlaen â’r gwaith er budd y gymuned.”

 

Rhowch eich barn ar Lyfrgelloedd Sir Ddinbych wrth iddynt ddathlu blwyddyn o ddarllen

Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cloi blwyddyn brysur a llwyddiannus o ddathlu darllen, dod â chymunedau ynghyd a chynnig gweithgareddau i bobl o bob oedran fel rhan o Flwyddyn Genedlaethol Darllen.

Drwy gydol y flwyddyn, mae llyfrgelloedd ledled y sir wedi cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau, gan gynnwys ymweliadau gan awduron, ymweliadau ag ysgolion, sesiynau i deuluoedd a heriau darllen, gyda'r nod o annog pobl i ddarganfod pleser darllen.

Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn oedd yr Sialens Ddarllen yr Haf, gyda chynnydd yn nifer y plant yn y Rhyl a Phrestatyn a gwblhaodd yr her o gymharu â'r llynedd, fel rhan o Raglen Allgymorth Ysgolion lwyddiannus, a ariannwyd drwy Grant Blaenoriaethau Diwylliant Llywodraeth Cymru.

Roedd thema'r her eleni, ‘Cyfrolau’n Canu’, yn cyfuno cerddoriaeth a darllen, gyda'r artist beatbocsio ac arloeswr dolennu llais, Mr Phormula, yn cynnal gweithdai dwyieithog difyr mewn llyfrgelloedd ledled y sir.

Artist beatbocsio ac arloeswr dolennu llais, Mr Phormula

Cafodd y plant hefyd gyfle i fwynhau ymweliadau gan y Welsh Whisperer a'r awdur lleol Oliver Sykes, gan helpu i ddod â straeon a darllen yn fyw.

Y Welsh Whisperer

Mae annog plant i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau'r haf yn arbennig o bwysig er mwyn eu helpu i gynnal eu sgiliau darllen a'u hyder, gan sicrhau eu bod yn barod am ddechrau cadarnhaol i'r flwyddyn ysgol newydd. Mae ymchwil yn dangos nad yw un o bob pedwar plentyn yn gallu darllen yn dda erbyn eu bod yn 11 oed, a gall hyn gael effaith sylweddol ar eu cyfleoedd a'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae'n wych gweld ein llyfrgelloedd yn parhau i chwarae rhan mor bwysig wrth feithrin cariad at ddarllen a dod â phobl ynghyd.

“Mae nifer y plant a gwblhaodd Sialens Ddarllen yr Haf eleni yn gamp wirioneddol ac yn dangos brwdfrydedd pobl ifanc dros lyfrau a darllen pan fyddant yn cael cyfleoedd cyffrous i gymryd rhan.

“Mae llyfrgelloedd yn cynnig llawer mwy na mynediad at lyfrau. Maent yn fannau cymunedol croesawgar lle gall pobl o bob oed ddysgu, cymdeithasu, datblygu sgiliau newydd a mwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau. Byddwn yn annog pawb i fanteisio ar eu llyfrgell leol a'r cyfleoedd sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn.”

Bu nifer o uchafbwyntiau eraill ar draws y Gwasanaeth Llyfrgelloedd hefyd, gan gynnwys Sialens Ddarllen i Oedolion, datblygu gardd gymunedol yn Llyfrgell Llanelwy a gosod Cwt y Synhwyrau yn Llyfrgell y Rhyl.

Gardd cymunedol Llyfrgell Llanelwy

Cwt y Synhwyrau yn Llyfrgell Y Rhyl

Bu ymwelwyr â Llyfrgell Rhuthun hefyd yn mwynhau ymweliad difyr gan yr awdur P. L. Handley, tra bo tîm Dechrau Da wedi parhau i gefnogi teuluoedd drwy ei sesiynau poblogaidd Chrwydro a Rhigwm, sy'n cael eu cynnal yn ogystal â rhaglen reolaidd y llyfrgell o weithgareddau.

Sesiynau Crwydro a Rhigwm

Wrth i'r tywydd oerach gyrraedd, bydd llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych hefyd yn cynnig Croeso Cynnes, gan ddarparu diodydd poeth am ddim a gweithgareddau cymdeithasol er mwyn rhoi cyfle i bobl fwynhau man cynnes a chyfeillgar yn eu cymuned leol.

Dweud eich dweud am Lyfrgelloedd Sir Ddinbych

I gloi'r flwyddyn, mae'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn gwahodd trigolion i gymryd rhan mewn arolwg cwsmeriaid a rhannu eu barn am eu llyfrgell leol.

Mae'n ofynnol i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru gynnal arolwg cwsmeriaid bob tair blynedd fel rhan o Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r adborth a gesglir drwy'r arolwg yn helpu'r gwasanaeth i adrodd ar ei berfformiad ac, yn bwysig, yn cyfrannu at gynllunio datblygiadau yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod llyfrgelloedd yn parhau i ddiwallu anghenion eu cymunedau.

Bydd yr arolwg yn rhedeg tan ddydd Llun, 30 Tachwedd a gellir ei gwblhau ar-lein neu wyneb yn wyneb yn unrhyw un o lyfrgelloedd Sir Ddinbych.

Anogir trigolion i dreulio ychydig funudau yn rhannu eu barn a helpu i lunio dyfodol eu llyfrgell leol.

Mae’n Wythnos Llysgennad Cymru 2026

Mae Wythnos Llysgennad Cymru yn cael ei chynnal rhwng 16-22 Tachwedd 2026.

Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn cynnig cyrsiau ar-lein sy'n ymdrin ag amrywiol bynciau, fel yr iaith Gymraeg, diwylliant, hanes, tirweddau a thwristiaeth gynaliadwy.

Gall busnesau ac unigolion gael mynediad at y cwrs ar-lein rhad ac am ddim hwn sy'n darparu gwybodaeth fanwl am yr ardal i'r rhai sy'n rhyngweithio ag ymwelwyr; i wella gwasanaeth cwsmeriaid a chyfoethogi profiad cyffredinol yr ymwelwyr.

Mae 3 lefel o wobrau – Efydd, Arian ac Aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau a gwblhawyd.

Cynigir y cyrsiau yn Sir Ddinbych , Parc Cenedlaethol Eryri, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir y Fflint, Wrecsam, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Blaenau Gwent.

Nod Wythnos Llysgennad Cymru yw tynnu sylw at y cynllun drwy ddathlu ein Llysgenhadon presennol ac annog mwy o bobl i ddod yn Llysgenhadon.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun Llysgennad Twristiaeth yn Sir Ddinbych ewch i gwefan Llysgennad Cymru.

Gwaith cynnal a chadw hanfodol ar ffyrdd Sir Ddinbych

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol mewn lleoliadau ar hyd a lled y Sir, mae’r gwaith cyntaf fod i ddechrau ar 23 Tachwedd 2026

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol mewn lleoliadau ar hyd a lled y Sir, mae’r gwaith cyntaf fod i ddechrau ar 23 Tachwedd 2026.

Bydd y gwaith yma’n cynnwys gwagio gylïau, ysgubo a chynnal a chadw arwyddion.  Bydd traffig yn cael ei reoli drwy ddefnyddio byrddau Stop/Go ac mae’n bosibl y bydd rhywfaint o oedi ac amhariad.

Mae’r gwaith sydd wedi’i drefnu yn dibynnu ar amodau’r tywydd ac fe allai gael ei ohirio ar fyr rybudd os bydd y tywydd yn wael. 

Y gwaith sydd wedi’i drefnu yw:

  • A539 Ffordd Llangollen at ffin y Sir yn dechrau 23.11.26 am hyd at 5 diwrnod
  • A525 Ffordd Uchaf Dinbych at gylchfan Tŷ Coch yn dechrau 07.12.26 am hyd at 5 diwrnod
  • A5104 o gylchfan Tafarn Dywyrch i’w chyffordd gyda A494 yn dechrau 14.12.26 am hyd at 5 diwrnod

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Fe fydd y gyfres o waith hanfodol yma’n gwella’r llwybrau yma i breswylwyr a busnesau lleol.  Fe hoffem ddiolch i bawb sy’n defnyddio’r ffyrdd yma am eu cefnogaeth a’u hamynedd tra’n bod yn gwneud y gwaith pwysig yma.”

“Fe wnawn ni bob ymdrech i orffen y gwaith sydd wedi’i gynllunio mor gyflym ac effeithlon ag y gallwn ni, gan darfu cyn lleied ag sy’n bosib ar ein preswylwyr.”

Gwaith atgyweirio hanfodol ar bont Stryd Fawr Llanelwy


Bydd Pont Afon Elwy ar waelod Stryd Fawr Llanelwy, ar gau rhwng 9am ar 21 Tachwedd tan 5pm ar 22 Tachwedd 2026 ar gyfer gwaith atgyweirio strwythurol hanfodol.

Mae angen gwneud y gwaith yn dilyn gwrthdrawiad traffig ar 22 Hydref 2026.

Yn dilyn archwiliad ac asesiad o’r difrod, fe nodwyd fod angen gwaith atgyweirio i gynnal diogelwch a chadernid y bont. Fe fydd angen cau’r ffordd yn llwyr er mwyn i’r gwaith gael ei wneud yn ddiogel ac yn effeithlon.

Bydd mesurau rheoli traffig a llwybrau dargyfeirio gydag arwyddion ar waith trwy gydol y gwaith. Bydd mesurau rheoli traffig yn cael eu goruchwylio drwy’r dydd. Bydd y bont yn cael ei hailagor ar ôl i’r gwaith atgyweirio gael ei gwblhau.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae angen y gwaith hanfodol yn dilyn y digwyddiad ar y bont a byddwn yn gwneud pob ymdrech i gwblhau’r gwaith yma mor gyflym ac effeithlon â phosibl gan amharu cyn lleied â phosibl ar breswylwyr a busnesau. Cyn gynted â bod y gwaith atgyweirio wedi’i gwblhau, bydd y bont yn ailagor.

"Fe hoffem ddiolch i bawb sy’n defnyddio’r ffyrdd yma am eu cefnogaeth a’u hamynedd tra’n bod yn gwneud y gwaith pwysig ar y llwybr yma.”

Cydnabyddiaeth gan wobr genedlaethol i Wasanaethau Arlwyo

Mae Gwasanaeth Arlwyo Cyngor Sir Ddinbych ar y rhestr fer ar gyfer “Perfformiwr Gorau” a’r “Gwasanaeth Arlwyo Addysg sydd wedi Gwella Fwyaf” drwy raglen meincnodi Rhwydweithiau Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n tynnu sylw at waith rhagorol timau arlwyo ysgolion ledled y sir.

Cyflwynir y gwobrau hyn drwy Rwydweithiau Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus, un o wasanaethau meincnodi llywodraeth leol arweiniol y DU.

Mae Rhwydweithiau Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus yn galluogi cynghorau i gymharu ansawdd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau rheng flaen yn erbyn awdurdodau lleol eraill ledled y DU, gan ddarparu asesiad annibynnol o berfformiad a gwelliant parhaus.

Mae’r ddwy gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu’r cynnydd sylweddol gan Wasanaethau Arlwyo Sir Ddinbych i ddarparu prydau ysgol maethlon o safon uchel wrth gynnal safonau gwasanaeth rhagorol a chyflawni perfformiad cryf yn erbyn meincnodau cenedlaethol.

Meddai Hayley Jones, Prif Reolwr y Gwasanaethau Arlwyo a Glanhau: “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn gyflawniad anferthol sy’n adlewyrchu ymroddiad ac ymrwymiad ein timau arlwyo sy’n gweithio mewn ysgolion bob dydd. Mae cael ein cydnabod fel y Perfformiwr Gorau a’r Gwasanaeth Arlwyo Addysg sydd wedi Gwella Fwyaf yn y categorïau hyn yn arwydd o’n pwyslais ar welliant parhaus wrth ddarparu prydau maethlon o ansawdd uchel sy’n cefnogi iechyd a lles disgyblion.”

Mae Gwasanaeth Arlwyo Sir Ddinbych yn darparu miloedd o brydau i ddisgyblion bob dydd ac mae wedi parhau i arloesi ac addasu i fodloni galwadau sy’n newid. Mae’r gwasanaeth wedi canolbwyntio ar wella ansawdd prydau, sicrhau bod mwy yn cymryd prydau ysgol, cefnogi menter Bwyta'n Iach mewn Ysgolion gan Lywodraeth Cymru, hyrwyddo bwyta’n iach a sicrhau gwerth am arian i ysgolion, disgyblion a theuluoedd.

Mae llwyddiant y gwasanaeth wedi cael ei lywio gan ymroddiad y tîm rheoli arlwyo, Cogyddion a Chynorthwywyr Arlwyo ledled y sir, wedi’i gefnogi gan gydweithio agos gydag ysgolion a phenderfynoldeb ar y cyd i ddarparu’r profiad gorau bosibl i ddisgyblion Sir Ddinbych.

Mae cydnabyddiaeth Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydnabod perfformiad cyffredinol cryf y gwasanaeth ond hefyd y gwelliannau sylweddol a gyflawnwyd dros y blynyddoedd diweddar, sy’n arwydd o ymroddiad Sir Ddinbych i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol.

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Teuluoedd, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Hoffwn longyfarch pawb sy’n rhan o’r gwasanaeth am y gydnabyddiaeth hon. Mae cael eu cydnabod yn genedlaethol yng nghategorïau'r  Perfformiwr Gorau a’r Gwasanaeth Arlwyo Addysg sydd wedi Gwella Fwyaf yn arwydd o waith caled ein timau arlwyo a’u heffaith bositif ar ysgolion ledled Sir Ddinbych bob dydd.”

 

 

 

Ailgylchu’n dod yn fyw i ddisgyblion yn Ysgol Pant Pastynog

Mae disgyblion Ysgol Pant Pastynog wedi cael eu helpu i ddod yn gefnogwyr ailgylchu cryfach diolch i ymweliad arbennig â’r ysgol

Mae disgyblion Ysgol Pant Pastynog wedi cael eu helpu i ddod yn gefnogwyr ailgylchu cryfach diolch i ymweliad arbennig â’r ysgol.

Aeth Tîm Addysg Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych i’r ysgol am fore o weithgareddau ymarferol a thrafodaethau, i helpu disgyblion ddeall beth sy’n digwydd i’w hailgylchu a pham ei bod yn bwysig ei ddidoli’n gywir.

Dilynodd y sesiwn ddeunyddiau y mae modd eu hailgylchu ar ôl iddynt gael eu casglu i ddangos y daith ac arferion ailgylchu da i’r disgyblion.

Ymunodd y ddau fasgot ailgylchu newydd, Troli-bob a Cadi â’r ymweliad i helpu disgyblion roi eitemau cyfarwydd o’r cartref yn y cynwysyddion ailgylchu cywir. 

Er mwyn dod â’r gwersi’n ôl i fywyd bob dydd, cyflwynwyd y tîm system Trolibocs y Cyngor, sy’n helpu i ddidoli papur, caniau a phlastigau cymysg, a photeli gwydr a jariau ar ymyl y palmant. Dangosodd y gweithgareddau sut mae didoli ailgylchu'n gywir yn y cartref yn gwella ansawdd y deunyddiau a gesglir a chefnogi ymdrechion i leihau gwastraff ac allyriadau carbon.

Cafodd y disgyblion weld un o gerbydau Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu’r Cyngor hefyd, sy’n casglu deunyddiau y mae modd eu hailgylchu o gartrefi ym mhob cwr o’r sir.

Gwelodd disgyblion sut mae rhannau ar wahân yn cadw deunydd ar wahân yn ystod casgliadau, cyn iddynt fynd i’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff yn Ninbych i’w prosesu.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych: “Roedd yn hyfryd gweld y disgyblion yn Ysgol Pant Pastynog yn gofyn cwestiynau, cefnogi ei gilydd a chymryd rhan ym mhob gweithgaredd. Gobeithio eu bod yn teimlo’n falch o’r hyn wnaethon nhw ei ddysgu a’u bod wedi mynd â’r brwdfrydedd adref, gan wybod bod pob eitem a gaiff ei hailgylchu’n gywir yn gallu gwneud gwahaniaeth i’w cymuned.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ymweliadau fel hyn yn rhoi ffordd gofiadwy i ddisgyblion weld sut mae ailgylchu’n gweithio. Roedd yn wych clywed bod Ysgol Pastynog wedi croesawu’r sesiwn yn frwd, a gobeithio y bydd y disgyblion yn rhannu eu gwybodaeth newydd gyda theulu a ffrindiau wrth i ni gydweithio i ailgylchu mwy a gwastraffu llai yn Sir Ddinbych.”

Gwaith ail-wynebu ar fin dechrau ar Sgwâr Sant Pedr

Mae gwaith ail-wynebu ar fin dechrau wrth i brosiect Sgwâr St Pedr symud yn ei flaen.

Mae gwaith ail-wynebu ar fin dechrau wrth i brosiect Sgwâr St Pedr symud yn ei flaen.

Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yng Ngorllewin Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Bydd gwaith ail-wynebu yn cael ei wneud ar Sgwâr Sant Pedr a Stryd y Ffynnon o ddydd Mercher 18 Tachwedd i ddydd Sadwrn 21 Tachwedd, yn ystod y nos rhwng 6:30yh a 5:00yb.

Bydd Cwmni Adeiladwaith OBR yn gwneud y gwaith yn ystod y nos, pan fydd lefelau traffig ar eu hisaf, er mwyn lleihau'r tarfu ar ddefnyddwyr ffyrdd. Yn y cyfamser, bydd mesurau rheoli traffig dros dro, cau ffyrdd a chyfyngiadau ar barcio ar y stryd yn weithredol tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo.

Rhaid cwblhau'r gwaith ail-wynebu er mwyn i'r contractwr allu gorffen y gwaith a gadael y safle cyn cyfnod y Nadolig, fel y cytunwyd ar ddechrau'r rhaglen. Bydd y gwaith yn ailddechrau ar 4 Ionawr, a disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2027.

Gall preswylwyr siarad â Swyddog Cyswllt y Cyhoedd OBR yn yr Hen Lys  bob dydd Mawrth, neu gysylltu drwy e-bost, i drafod pryderon, cael diweddariadau am waith sydd ar y gweill, a cheisio cymorth gydag unrhyw faterion lle bo hynny'n bosibl.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Threchu Amddifadedd:

“Mae Sgwâr Sant Pedr yng nghalon Rhuthun, ac mae’r prosiect hwn yn gyfle i wella’r amgylchedd a chefnogi bywiogrwydd hirdymor y dref. Mae’r gwaith ail-wynebu yn gam hanfodol tuag at gwblhau’r gwelliannau, a bydd cynnal y gwaith dros nos yn helpu i leihau’r tarfu.

“Rydym yn cydnabod y bydd y gwaith yn achosi rhywfaint o anghyfleustra, ac rydym yn diolch i fusnesau lleol, preswylwyr ac ymwelwyr am eu hamynedd. Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y prosiect yn helpu i greu canol tref sy’n fwy croesawgar, gan annog pobl i dreulio amser yn y sgwâr, archwilio siopau a busnesau lletygarwch Rhuthun, a mwynhau popeth sydd gan y dref i’w gynnig”.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, cliciwch yma. Gellir cyfeirio unrhyw faterion at y Swyddog Cyswllt â'r Cyhoedd RuthinEnquiries@obrconstruction.com  neu at Dîm y Prosiect swyddfarhaglencorfforaethol@sirddinbych.gov.uk . Bydd OBR yn dosbarthu llythyrau i'r holl drigolion yr effeithir arnynt.

Nodi Diwrnod y Cofio gyda seremonïau yn Neuadd y Sir a Chofeb Ryfel Rhuthun

Daeth pobl o bob rhan o Sir Ddinbych ynghyd heddiw i nodi Diwrnod y Cofio mewn seremonïau yn Rhuthun, gan anrhydeddu’r rhai sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd.

Dechreuodd y digwyddiadau coffáu gyda seremoni codi’r faner y tu allan i Neuadd y Sir, lle ymgasglodd mynychwyr i fyfyrio a chofio’r rhai a wnaeth yr aberth eithaf wrth wasanaethu eu gwlad.

Llun grwp - dydd y cofio

Yn dilyn y seremoni yn Neuadd y Sir, parhaodd y coffáu wrth Gofeb Ryfel Rhuthun, lle cynhaliwyd seremoni gyda nifer yn mynychu. Yn ystod y seremoni, cafwyd areithiau gan arweinwyr dinesig, canwyd y Post Olaf a bu dwy funud o dawelwch, gan roi cyfle i’r rhai oedd yn bresennol dalu teyrnged i aelodau’r lluoedd arfog, o’r gorffennol a’r presennol.

Dywedodd Is-gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Peter Scott: “Roedd yn galonogol gweld cynifer o bobl yn dod ynghyd heddiw i dalu teyrnged. Mae Diwrnod y Cofio yn rhoi cyfle pwysig inni fyfyrio ar yr aberth a wnaed gan ddynion a merched y lluoedd arfog, a sicrhau na chaiff eu hetifeddiaeth ei hanghofio byth.”

Ychwanegodd Dirprwy Faeres Rhuthun, y Cynghorydd Anne Roberts: “Roedd yn wych gweld nifer dda yn coffáu heddiw a oedd yn deyrnged addas i’r rhai sydd wedi gwasanaethu ac aberthu. Diolch i bawb a fynychodd ac a helpodd i wneud y digwyddiad yn achlysur mor urddasol ac ystyrlon.”

Cofeb Ryfel Rhuthun

Wrth i gymunedau ledled y sir oedi i gofio, bu’r rhai a oedd yn bresennol yn myfyrio ar ddewrder, gwasanaeth ac aberth cenedlaethau o bersonél y lluoedd arfog a’u teuluoedd. Roedd y seremonïau yn rhan o raglen flynyddol Sir Ddinbych i nodi Diwrnod y Cofio, gan sicrhau bod eu cyfraniad yn parhau i gael ei anrhydeddu a’i gofio.

 

Cyngor yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Stryd Fawr Prestatyn

Gall y Cyngor gadarnhau bod dyluniad wedi cael ei greu ar gyfer cynllun gwella parth cyhoeddus Stryd Fawr Prestatyn. 

Gall y Cyngor gadarnhau bod dyluniad wedi cael ei greu ar gyfer cynllun gwella parth cyhoeddus Stryd Fawr Prestatyn. 

Yn 2025, cadarnhaodd Llywodraeth y DU eu bwriad i ddarparu bron i £20 miliwn o gyllid grant ar gyfer saith prosiect cyfalaf i wella balchder bro a’r amgylchedd naturiol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.

Cafodd y cyllid hwn, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall.

Cafodd y cynigion eu siapio drwy ymgysylltu ac ymgynghori helaeth gyda phreswylwyr, busnesau, aelodau etholedig a budd-ddeiliaid eraill ers mis Ebrill 2025.

Cyflwynodd Bennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych, ynghyd ag aelodau o’r tîm prosiect a thîm dylunio y dyluniadau arfaethedig diweddaraf i Gynghorwyr ac aelodau Cabinet Cyngor Sir Ddinbych mewn cyfarfod diweddar. 

Gan weithio’n agos gyda budd-ddeiliaid lleol, mae’r dyluniad terfynol wedi cael ei lunio gan ymateb i bryderon a fynegwyd ynglŷn â mynediad a pharcio ar y Stryd Fawr, ac o ganlyniad, mae yna gynnydd net yn y mannau parcio ar draws ardal y cynllun yn y dyluniad terfynol.

Yn dilyn pryderon a fynegwyd gan breswylwyr a budd-ddeiliaid ynglŷn â diogelwch cerddwyr a hygyrchedd ar hyd Stryd Fawr Prestatyn, mae’r trefniadau croesi arfaethedig ar Ffordd Penisardre a Ffordd y Bont hefyd wedi cael eu hadolygu a’u newid i ddarparu llwybrau diogel a chyfleus i gerddwyr.  Mae’r newidiadau yma hefyd yn mynd i’r afael ag elfennau o osodiad y Stryd Fawr bresennol nad ydynt yn cwrdd â safonau hygyrchedd a dyluniad stryd fawr presennol, gan sicrhau bod y cynllun yn cyd-fynd â gofynion Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd ac arferion gorau presennol.

Yn rhan o’r gwelliannau i barth cyhoeddus, mae cynigion plannu yn cael eu datblygu, ac mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer planhigion lluosflwydd newydd drwy botiau plannu a phlanhigion ychwanegol ar gyfer y potiau plannu dwy haen sy’n cael eu rheoli gan Gyngor Tref Prestatyn ar y Stryd Fawr ar hyn o bryd. 

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Threchu Amddifadedd:

“Fe hoffem ddiolch i bawb sydd wedi treulio amser yn ymgysylltu â’r prosiect hyd yn hyn ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’r gymuned wrth i’r cynllun symud i gam nesaf y datblygiad. Tra ein bod yn cydnabod pryderon rhai preswylwyr ynglŷn â’r cynllun, rydym wedi gweithio’n galed i greu dyluniad sydd yn delio â’u pryderon.

“Mae’r adborth a gafwyd trwy gydol y broses hon wedi chwarae rôl hollbwysig wrth ddatblygu’r dyluniad a thrwy sicrhau bod barn leol wedi cael ei ystyried ym mhob cam. Mae’r dyluniadau diweddaraf yn adlewyrchu’r sgyrsiau rydym ni’n eu cael gyda phreswylwyr ac mae hynny wedi golygu bod y ddarpariaeth parcio sy’n gysylltiedig â’r cynllun bellach wedi cynyddu.

“Rydym ni hefyd wedi cynnal trafodaethau cadarnhaol gyda phartïon eraill sydd â diddordeb megis trefnwyr y carnifal a sioe geir er mwyn sicrhau y gall eu digwyddiadau barhau o dan y cynllun newydd.

“Mae ein ffocws yn parhau ar gyflwyno cynllun sydd yn gwella ymddangosiad, hygyrchedd a safon gyffredinol Stryd Fawr Prestatyn, gan greu canol y dref sydd yn fwy deniadol, croesawgar a bywiog i breswylwyr busnesau ac ymwelwyr”.

I weld y dyluniadau diweddaraf, cliciwch yma neu i gael mwy o wybodaeth am brosiect parth cyhoeddus Stryd Fawr Prestatyn, cliciwch yma. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r dyluniad terfynol, e-bostiwch corporateprogrammeoffice@denbighshire.gov.uk.

Cabinet i ystyried newidiadau i daliadau am gynwysyddion Gwastraff ac Ailgylchu

Ar 17 Tachwedd, bydd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn trafod cynnig i newid y polisi ar gynwysyddion gwastraff ac ailgylchu. Mae’r cynnig yn cynnwys:

  • Caniatáu i bob preswylydd gyfnewid bag cardfwrdd glas a chadi bwyd oren o leoliadau dethol (Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref i ddechrau); a
  • Chaniatáu i aelwydydd ar y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor archebu un cynhwysydd ailgylchu am ddim y flwyddyn. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw gynhwysydd ailgylchu, nid bagiau cardfwrdd glas a chadis bwyd oren yn unig.

Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:

"Rwyf wedi clywed pryderon preswylwyr ynghylch y bagiau ailgylchu cardfwrdd glas, ac rwy’n cydnabod eu rhwystredigaeth pan godir tâl am fag newydd. Rwy’n gwybod bod pobl ledled Sir Ddinbych eisiau cefnogi ymdrechion ailgylchu ein sir, felly rwyf am eu helpu drwy edrych ar opsiynau ymarferol sy’n ei gwneud yn haws ac yn rhatach i aelwydydd barhau i wneud eu rhan."

I weld papurau perthnasol y Cabinet am daliadau cynwysyddion Gwastraff ac Ailgylchu, ewch yma .

Gwaith i ddechrau ar do newydd ar gyfer Sinema’r Strand, y Rhyl

Mae gwaith am ddechrau ar do newydd ar gyfer Sinema’r Strand yn y Rhyl, a fydd yn sicrhau dyfodol un o leoliadau hamdden mwyaf adnabyddus y dref.

Mae gwaith am ddechrau ar do newydd ar gyfer Sinema’r Strand yn y Rhyl, a fydd yn sicrhau dyfodol un o leoliadau hamdden mwyaf adnabyddus y dref.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Twf Lleol, gydag arian cyfatebol gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae’r adeilad yn eiddo i’r Cyngor, ac mae’n cael ei brydlesu i Merlin Cinemas, a bydd tîm Cynnal a Chadw Adeiladau yn rheoli’r prosiect.

Mae’r gorchudd to presennol wedi cyrraedd diwedd ei oes a bu’n rhaid ei atgyweirio sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd contractwr o ogledd Cymru, BrynBuild, yn newid y gorchudd presennol am system alwminiwm asiad sefyll modern. Bydd y to newydd yn gwella perfformiad thermol yr adeilad ac mae’n dod gyda gwarant hirdymor y gwneuthurwr.

Penodwyd BrynBuild drwy Fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru; bydd y gwaith yn dechrau’n fuan mewn partneriaeth â Frame Four a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn nechrau 2027.

Bydd y sinema’n dal i fod yn agored yn ôl yr arfer drwy gydol yr amser pan wneir y gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Cyllid, Asedau a’r Economi Leol: “Mae’r Strand yn rhan o lan môr y Rhyl ac yn fan i deuluoedd lleol ac ymwelwyr fwynhau. Mae’r buddsoddiad hwn, a wnaed yn bosibl drwy’r Gronfa Twf Lleol, yn golygu y bydd yr adeilad yn cael ei ddiogelu am flynyddoedd i ddod, a gall y sinema barhau i fasnachu tra mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am eu cefnogaeth, ac i Merlin Cinemas am weithio gyda ni ar y prosiect.”

Dywedodd Chris Wilkes o Merlin Cinemas: “Rydym wrth ein boddau gyda’r gefnogaeth frwdfrydig a dderbyniwyd ers ailagor y Strand – gan bobl yn y Rhyl ac ymwelwyr i lan y môr. Mae to newydd yn fuddsoddiad mawr yn nyfodol y sinema, ac rydym yn ddiolchgar i Gyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am wneud i hyn ddigwydd. Cynlluniwyd y gwaith hwn fel y gall y sinema aros yn agored yn ôl yr arfer drwy gydol cyfnod y gwaith, ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb am flynyddoedd i ddod.”

 

 

Y Cyngor yn cynnal sesiynau ymgysylltu ar gyfer Map Rhwydwaith Teithio Llesol

Mae'r cyngor yn adolygu Map Rhwydwaith Teithio Llesol y sir, ac mae preswylwyr yn cael eu gwahodd i leisio eu barn.

Mae'r cyngor yn adolygu Map Rhwydwaith Teithio Llesol y sir, ac mae preswylwyr yn cael eu gwahodd i leisio eu barn.

O dan Ddeddf Teithio Lesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu a gwella eu llwybrau cerdded, olwyno a beicio yn rheolaidd. Cymeradwywyd mapiau presennol Sir Ddinbych gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022, ac maent i fod i gael eu diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau a'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud dros y tair blynedd ddiwethaf.

Teithio Llesol yw'r enw a roddir ar siwrneiau beunyddiol, pellter byr, y mae pobl yn eu gwneud ar droed neu ar feic, fel mynd i'r gwaith, i’r ysgol, i’r coleg neu i gyrraedd y siopau a chyfleusterau eraill.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi adolygu'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol i gynnwys llwybrau presennol sy'n bodloni safonau Llywodraeth Cymru, yn ogystal â llwybrau’r dyfodol a allai fod angen gwelliannau er mwyn bodloni'r safonau gofynnol.

Mae'r mapiau wedi'u paratoi ar gyfer ymgynghoriad, ac mae preswylwyr yn cael eu gwahodd i leisio eu barn cyn y dyddiad cau ddydd Gwener 27 Tachwedd 2026. Yna, anfonir y mapiau diwygiedig at Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2026.

Mae digwyddiadau ymgysylltu hefyd wedi'u trefnu er mwyn i drigolion allu gweld y Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol, gyda sesiynau wedi'u trefnu ledled y sir. Mae manylion y sesiynau hyn i'w gweld isod:

  • Llyfrgell Llangollen:- 13 Tachwedd 2026 - 10am tan 12pm
  • Llyfrgell Dinbych:- 16 Tachwedd 2026 - 10am tan 12pm
  • Llyfrgell y Rhyl:- 18 Tachwedd 2026 - 12pm tan 2pm
  • Llyfrgell Rhuthun:- 19 Tachwedd 2026 - 1pm tan 3pm
  • Llyfrgell Prestatyn:- 24 Tachwedd 2026 - 10am tan 12pm

Dywedodd y Cynghorydd James Elson, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:

“Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Lesol (Cymru) yn wreiddiol yn 2013, gwnaeth y ddeddfwriaeth hon ofyniad cyfreithiol i Gynghorau yng Nghymru hyrwyddo a datblygu rhwydwaith o lwybrau Teithio Llesol yn eu hardal. Ers hynny, mae'r Cyngor wedi adeiladu seilwaith newydd, wedi gwella llwybrau Teithio Llesol presennol ac wedi darparu cyfleusterau newydd er budd cerddwyr, pobl sy’n olwyno a beicwyr.

“Rydym am ddarparu rhwydwaith i Sir Ddinbych sy'n caniatáu i gerdded, olwyno a beicio dod y ffordd fwyaf naturiol a normal o deithio o le i le ar gyfer siwrneiau lleol. A thrwy wneud hynny, hyrwyddo iechyd a lles pawb a gwneud ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd brafiach i fyw ynddynt”.

I roi eich barn ar ddiweddariad Map Rhwydwaith Teithio Llesol Sir Ddinbych, cliciwch yma.

Cydnabyddiaeth Genedlaethol ‘Ragorol’ i bartneriaeth Gwarchodfa Natur Rhuddlan

Mae partneriaeth sy’n helpu bywyd gwyllt i ffynnu ac sy’n dod â phobl yn agosach at natur yng Ngwarchodfa Natur Rhuddlan wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol gyda gwobr Lefel 5 ‘Rhagorol’.

Mae partneriaeth sy’n helpu bywyd gwyllt i ffynnu ac sy’n dod â phobl yn agosach at natur yng Ngwarchodfa Natur Rhuddlan wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol gyda gwobr Lefel 5 ‘Rhagorol’.

Cafodd y warchodfa ei hanrhydeddu’n ddiweddar yn y categori Eich Cymdogaeth Chi yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2026 yn Nhalgarth, Powys.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan wedi bod yn rheoli’r safle ar y cyd ers 2011, gan gydweithio i greu noddfa i natur a man croesawgar sy’n cefnogi lles y gymuned.

Dros y blynyddoedd, mae’r gwelliannau wedi cynnwys dwy ddôl blodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 metr o wrychoedd, hadu blodau gwyllt ar ymylon ffyrdd a phlannu 6,000 o goed. Mae perllan â rhywogaethau treftadaeth, dwy ardal bicnic a llwyfan rhwydo mewn pyllau hefyd wedi’u cyflwyno.

Mae gofod sy’n gyfeillgar i ddementia hefyd wedi’i greu, sy’n dod â nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwyllt a thirwedd hanesyddol ynghyd, gan gynnwys waliau cerrig sych a gwrychoedd wedi’u plygu, ochr yn ochr â seddi coed derw Cymreig traddodiadol.

Mae bywyd gwyllt yn ffynnu yn y warchodfa, gyda dyfrgwn a llygod pengrwn y dŵr ymysg y rhywogaethau a welwyd. Mae’r rhain ymhlith y mamaliaid sy’n dirywio gyflymaf yn y DU.

Mae cynllun ‘Eich Cymdogaeth Chi’ yn cydnabod grwpiau garddio cymunedol a arweinir gan wirfoddolwyr sy’n canolbwyntio ar lanhau a glasu eu hardal. Dyfarnodd Cymru yn ei Blodau Lefel 5 ‘Rhagorol’ i bartneriaeth Rhuddlan i gydnabod ei gwaith.

Dywedodd Anita Fagan, Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan: “Hoffwn ddiolch o galon i bob aelod o’r pwyllgor am yr egni a’r ymrwymiad y maent yn ei gyfrannu at y warchodfa. Mae eu hagwedd gadarnhaol a rhagweithiol yn gwneud gwahaniaeth go iawn, a chredaf eu bod yn mynd y tu hwnt i’r hyn a ofynnir ohonynt yn gyson.

“Hoffwn ddiolch i Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, ei warcheidwaid a’r gwirfoddolwyr gwych sy’n eu cefnogi. Mae eu hymroddiad i ofalu am y warchodfa, ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau mewn gwarchodfeydd natur eraill ledled gogledd Sir Ddinbych, yn haeddu cydnabyddiaeth go iawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol dros Gynllunio, Cefn Gwlad a Chymunedau Mwy Diogel: “Mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn dangos beth all cydweithio ei gyflawni i fywyd gwyllt a’r gymuned leol. Mae ymgysylltiad y Gwasanaethau Cefn Gwlad â’r bartneriaeth hon wedi helpu i gefnogi natur gan greu lle y gall pobl ddychwelyd iddo a’i fwynhau yn rheolaidd ar yr un pryd.

“Mae’r gydnabyddiaeth genedlaethol hon yn dathlu’r gwaith sy’n digwydd ar y cyd y tu ôl i’r warchodfa. Edrychaf ymlaen at weld y gofod cymunedol pwysig hwn yn parhau i ffynnu a datblygu mewn blynyddoedd i ddod.”

Nodiadau i Olygyddion:

Mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn gwbl hygyrch i bawb.  Mae’r safle wedi’i drawsnewid yn lleoliad i fywyd gwyllt ffynnu ac i bobl leol ac ymwelwyr ei fwynhau.

Mae llwybr byr yn tywys ymwelwyr o amgylch y pyllau, lle mae adar yn nythu bob blwyddyn a’r dolydd sydd wedi’u gwella’n ddiweddar mewn partneriaeth â’r gymuned leol ac ysgolion.

Ceir rhagor o wybodaeth am gystadlu yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau, ‘Eich Cymdogaeth Chi’, trwy edrych ar https://www.walesinbloom.org/neighbourhood.html

 

Ysgol Frongoch yn trawsnewid tir yr ysgol gyda dôl blodau gwylltion newydd

Mae disgyblion yn Ysgol Frongoch wedi torchi eu llewys i greu cynefin newydd i fyd natur yn eu hysgol

Mae disgyblion yn Ysgol Frongoch wedi torchi eu llewys i greu cynefin newydd i fyd natur yn eu hysgol.

Drwy gydweithio â thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych, bu’r plant yn plannu dôl blodau gwylltion newydd a fydd yn darparu bwyd a lloches i ystod o fywyd gwyllt lleol.

Mae'r disgyblion wedi cymryd rhan ymarferol drwy gydol y prosiect – paratoi'r tir, plannu dros 200 o flodau gwyllt, a dysgu sut mae dolydd yn cefnogi bioamrywiaeth. Bydd eu gwaith yn helpu i drawsnewid rhan o dir yr ysgol yn ofod awyr agored lliwgar ar gyfer natur a dysgu.

Mae’r blodau gwylltion a blannwyd gan y disgyblion yn cynnwys moronen y maes, llygad llo mawr, melynydd, blodyn neidr, y feddyges las, y bengaled, blodyn menyn, pysen y ceirw, gludlys gwyn, ytbysen y ddôl, a’r feillionen goch.

Wrth i’r ddôl newydd dyfu, bydd yn helpu i gynnal peillwyr fel gwenyn, gan roi ystafell ddosbarth ychwanegol i’r disgyblion yn yr awyr agored lle gallant arsylwi ar fywyd gwyllt a dysgu am bwysigrwydd cynefinoedd iach.

Cyflenwyd y blodau gwylltion gan blanhigfa goed Cyngor Sir Ddinbych, sydd gerllaw Llanelwy.

Dywedodd Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Roedd yn bleser helpu’r plant i greu eu dôl newydd. Daethant ag egni a brwdfrydedd i’r gwaith plannu, ac rydym yn awyddus i ganfod sut y bydd y blodau gwylltion a dyfwyd yn ein planhigfa goed o fudd i fywyd gwyllt lleol a’r gymuned ehangach.

“Gall y disgyblion fod yn falch o’r cynefin y maent wedi ei greu ar gyfer planhigion, peillwyr a mathau eraill o fywyd gwyllt ar dir eu hysgol.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffwn ddiolch i ddisgyblion a staff Ysgol Frongoch am eu hegni ardderchog a’u gofal wrth greu’r ddôl hon, ac am groesawu ein tîm Bioamrywiaeth i’w helpu i greu’r cynefin gwerthfawr hwn.

“Bydd gwaith caled y plant yn rhoi cymorth i fywyd gwyllt ar dir yr ysgol, yn cynnal natur leol ledled Sir Ddinbych ac yn rhoi lle arbennig i ddisgyblion y dyfodol gael dysgu yn yr awyr agored.”

Seremoni i ddadorchuddio cerfluniau wedi’u hailwampio ym Mhrestatyn

Cafodd dau gerflun maint llawn wedi’u hailwampio eu dadorchuddio mewn seremoni’n ddiweddar.

Cafodd dau gerflun maint llawn wedi’u hailwampio eu dadorchuddio mewn seremoni’n ddiweddar.

Cynhaliwyd y seremoni ddydd Iau 29 Hydref, i groesawu’r cerfluniau yn ôl i Erddi’r Bryniau ger Gwaenysgor ar ôl iddynt gael eu fandaleiddio yn 2024.

Wedi’u comisiynu’n wreiddiol gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE), cawsant eu creu gan gerflunydd llif gadwyn o Yr Orsedd, Simon O’Rourke.

Wedi’u gosod yn ôl 2017, mae’r ddau ffigur sy’n edrych allan tua’r môr, yn cyfleu cerddwr modern sy’n cynrychioli Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a cherddwr o’r 1920au, yn symboleiddio’r cyfnod yr adeiladwyd y lloches.  

Serch hynny, cawsant eu symud ym mis Awst 2024 ar ôl i fandaliaid eu cnocio oddi ar eu platfform a’u symud â llaw. 

Ar ôl i Mr O’Rourke eu hadfer yn ofalus, mae’r cerfluniau bellach yn barod i ddychwelyd i Brestatyn. 

Dywedodd Simon O'Rourke:

“Pan gefais fy nghomisiynu gyntaf i wneud y ddau gerflun, roeddwn i’n gyffrous i greu rhywbeth a fyddai’n gadael etifeddiaeth barhaol mewn lleoliad hardd.  Dros y blynyddoedd, mae nifer o bobl wedi cymryd lluniau o’r cerfluniau a’u mwynhau, ac maent wedi dod yn rhan o’r gymuned. Roedd hi’n bechod mawr clywed eu bod wedi cael eu fandaleiddio, ond roedd hi’n hyfryd clywed bod cymaint o bobl wedi cydweithio i roi cyfle i mi eu hadfer.

Meddai’r Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol Cynllunio, Cefn Gwlad a Chymunedau Mwy Diogel:

“Mae hi’n hyfryd gweld y bydd y cerfluniau yma unwaith eto’n eistedd yn falch yng Ngerddi’r Bryniau yn dilyn y siom eu bod wedi cael eu fandaleiddio ychydig flynyddoedd yn ôl. Fe hoffwn i ddiolch i Wasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor, Simon O’Rourke, Cyngor Tref Prestatyn a’r aelodau lleol am eu dyfalbarhad a’u hymdrechion yn dychwelyd y cerfluniau yma sydd yn golygu cymaint i’r gymuned yn ôl ble maent yn perthyn.”

Planhigfa Goed yn agor ei drysau ar gyfer Wythnos Genedlaethol y Coed

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod sut mae coed yn cael eu tyfu o hadau yn ystod taith dywys o amgylch y blanhigfa goed ar 26 Tachwedd, o 11am tan 1pm, i ddathlu Wythnos Genedlaethol y Coed.

Cynhelir y daith ym Mhlanhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych, Fferm Greengates, Cwttir Lane, Llanelwy, LL17 0LF, yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed, a gynhelir o 21 i 29 Tachwedd.

Bydd ymwelwyr yn dysgu am wahanol ofynion coed fel derwen a draenen wen, a sut y defnyddir technegau fel hidlo ac arnofio i brosesu hadau.

Mae’r blanhigfa gymunedol yn arbenigo mewn hadau coed a geir yn lleol a thyfu coed hyd at aeddfedrwydd.  Bydd y daith dywys yn cynnig golwg tu ôl i’r llen ar y casgliad o hadau a’r technegau lluosogi.

Yn cael ei gynnal gan dîm Bioamrywiaeth ac Ecoleg y Cyngor, mae’r blanhigfa’n tyfu 35,000 o goed bob blwyddyn ac mae capasiti ar gyfer 80,000.  Mae eu gwaith yn cefnogi’r ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r blanhigfa’n tyfu rhywogaethau prin ac mewn perygl gan gynnwys poplysen ddu, aethnen, y gerddinen wyllt a phisgwydden deilen fach.  Mae mwyafrif y coed yn cael eu plannu yn y warchodfa natur gyfagos, sydd hefyd yn cynnwys tir caeedig i afancod, gydag afancod yn cyrraedd yn fuan.

Bydd y daith yn dangos sut mae’r tîm a’r gwirfoddolwyr yn casglu a lluosogi coed o hadau, gan greu cyfleoedd i fioamrywiaeth sefydlu a ffynnu.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Byddwn yn annog pobl i ddod yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed a darganfod y gwaith sy’n cael ei gyflawni yn ein planhigfa goed.  Mae’r daith yn gyfle i weld sut mae hadau a gesglir yn lleol yn cael eu tyfu yn goed a dysgu mwy am eu gofal.

“Mae gwaith y blanhigfa’n bwysig i gefnogi bioamrywiaeth.  Trwy dyfu coed a geir yn lleol, gan gynnwys rhywogaethau prin, mae’r tîm a’r gwirfoddolwyr yn helpu i greu cyfleoedd i natur ffynnu. 

Er mwyn mynychu’r daith defnyddiwch y ddolen  

Ychwanegiad newydd i’r fflyd yn pweru gwasanaeth

Mae ychwanegiad newydd i Fflyd Cyngor Sir Ddinbych yn helpu i yrru’r gwasanaeth yn ei flaen

Mae ychwanegiad newydd i Fflyd Cyngor Sir Ddinbych yn helpu i yrru’r gwasanaeth yn ei flaen.

Mae swyddogion fflyd y Cyngor wedi caffael fan trydan Kia PV5 a fydd yn rhan annatod o leihau allyriadau carbon yn Nepo Fflyd Bodelwyddan.

Bydd y fan (wedi’i ariannu gyda chymorth o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru) ac sy’n gallu teithio am bellter o 258 milltir, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithrediadau cefnogi’r fflyd o ddydd i ddydd. Serch hynny, pan na fydd yn cael ei ddefnyddio, bydd gan y Kia PV5 rôl wahanol yn cefnogi’r gwasanaeth. 

Ar ôl cael ei barcio yn y depo, bydd y cerbyd sy’n cael ei bweru gan fatri trydan yn cael ei gysylltu i bwynt gwefru ‘Vehicle 2 Volume Energy Yield’ y depo, prosiect a arweiniwyd gan gwmni peirianneg Hangar19 mewn partneriaeth gyda CrowdCharge a DriveElectric.

Mae’r peiriant gwefru yn defnyddio cerrynt eiledol, yn hytrach na cherrynt uniongyrchol arferol. Mae hyn yn cyflwyno gwefru dau-gyfeiriad, gan alluogi i gerbydau trydan megis y Kia PV5 gymryd pŵer o’r grid trydan ac anfon pŵer yn ôl iddo.

Bydd cysylltu’r ychwanegiad newydd y fflyd i’r peiriant gwefru arloesol yma’n helpu i gefnogi defnyddio llai o bŵer a chreu arbedion gan arwain at ôl-troed carbon is ar gyfer y safle. 

Eglurodd Martin Griffiths, Swyddog Arweiniol Symudedd y Fflyd yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Mae hi’n wych cynnwys y Kia PV5 a gafodd ei gaffael yn rhan o’n hymrwymiadau i leihau’r nifer o gerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil, yn rhan o’r system gwefru cerbyd i’r grid.

“Mae’r fenter hon, sy’n gysylltiedig â’r paneli solar a batris storio a osodwyd yn ddiweddar yn nepo’r fflyd, yn rhoi’r potensial i ni leihau dibyniaeth ar y system grid hyd yn oed ymhellach.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Yn rhan o’n Hargyfwng Hinsawdd a ddatganwyd yn 2019, rydym yn parhau’n ymroddedig i leihau’r nifer o gerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil ar draws ein fflyd, a’u disodli gyda cherbydau trydan pan yn briodol drwy gyllid grant neu pan maent yn dod i ddiwedd eu hoes.

“Mae hyn yn galluogi i ni leihau ein costau rhedeg a chynnal a chadw hirdymor, lleihau ein hôl-troed carbon ac yn bwysicach lleihau dibyniaeth ar gyflenwadau petrol a disel.  Mae cyflwyno fan Kia PV5 i gysylltu â’r system gwefru clyfar yn galluogi i ni fwrw ymlaen â’r ymrwymiad hwn yn y Gwasanaethau Fflyd.”

Achos o dipio anghyfreithlon yn cael ei recordio gan un o gamerâu’r Cyngor

Mae achos o dipio anghyfreithlon wedi cael ei recordio gan un o gamerâu troseddau amgylcheddol y Cyngor ac wedi arwain at adnabod y troseddwr a rhoi Rhybudd Cosb Benodedig iddo

Mae achos o dipio anghyfreithlon wedi cael ei recordio gan un o gamerâu troseddau amgylcheddol y Cyngor ac wedi arwain at adnabod y troseddwr a rhoi Rhybudd Cosb Benodedig iddo.

Cafodd y digwyddiad ei recordio gan un o gamerâu cudd y Cyngor, a ddefnyddir mewn lleoliadau lle mae achosion ailadroddus o droseddau amgylcheddol.

Yn dilyn y digwyddiad, cynhaliodd Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych ymchwiliad trylwyr, gan adolygu’r lluniau a oedd ar gael a chasglu gwybodaeth bellach i ganfod pwy oedd yn gyfrifol.

Llwyddodd yr ymchwiliad i adnabod yr unigolyn dan sylw, a rhoddwyd Rhybudd Cosb Benodedig iddo am y drosedd tipio anghyfreithlon.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol:

“Dyma enghraifft wych o’r ffordd y gall ein camerâu troseddau amgylcheddol wneud gwahaniaeth go iawn.

“Dim ond un rhan o’r broses yw gosod camera. Ar ôl hynny mae’r gwaith pwysig yn digwydd, sef adolygu’r lluniau, casglu gwybodaeth, adnabod y rheiny sy’n gyfrifol a chreu sylfaen tystiolaeth sy’n caniatáu i ni gymryd camau priodol.

“Yn yr achos hwn, cynhaliodd ein tîm ymchwiliad trylwyr a llwyddwyd i adnabod yr unigolyn a oedd yn gyfrifol, gan arwain at roi Rhybudd Cosb Benodedig iddo.

“Rydym am i’n cymunedau fod yn lân, yn ddiogel ac yn lleoedd y mae preswylwyr yn falch o fyw ynddyn nhw. Byddwn yn parhau i gyfuno atal ac addysg gyda gorfodaeth gymesur i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol ledled y sir.”

Mae gan Gyngor Sir Ddinbych nifer o gamerâu cylch cyfyng cudd mewn lleoliadau lle mae tipio anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol eraill wedi cael eu nodi fel problemau parhaus.

Mae Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor yn defnyddio cyfuniad o addysg, mesurau atal, gwybodaeth, gwaith partneriaeth a gorfodaeth i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a gwella amgylcheddau lleol.

Wedi gweld achos o dipio anghyfreithlon? Rhowch wybod amdano!

Os oes gennych wybodaeth am achos o dipio anghyfreithlon, rhowch wybod i’r Cyngor. Pan fo’n bosibl, nodwch y lleoliad, dyddiad ac amser, disgrifiad o’r unigolyn neu’r cerbyd dan sylw ac unrhyw rifau cofrestru cerbydau.

Gall y wybodaeth hon helpu swyddogion i ymchwilio i ddigwyddiadau ac adnabod y rheiny sy’n gyfrifol.

 

Prosiect Cyflogwyr Cynhwysol yn helpu cyflogwyr lleol gyda’u recriwtio

Mae busnesau yn Sir Ddinbych yn elwa ar gymorth AD arbenigol wedi’i ariannu’n llawn i’w helpu i ddenu, recriwtio a chadw staff.

Mae’r Prosiect Cyflogwyr Cynhwysol yn cael ei gyflawni gan Sir Ddinbych yn Gweithio ar ran cynllun Peilot Arloesi Llywodraeth Cymru. Nod y prosiect yw cefnogi 20 o fusnesau lleol i drawsnewid eu dulliau recriwtio er mwyn eu gwneud yn fwy cynhwysol a sicrhau eu bod yn hygyrch i ystod ehangach o bobl sy’n chwilio am waith.

Mae rhedeg busnes yn golygu bod angen cydbwyso blaenoriaethau a delio â phwysau ariannol. Mae’r Prosiect wedi bod yn helpu busnesau i ganolbwyntio ar wneud newidiadau ymarferol sy’n addas i’w busnes, er mwyn iddynt allu denu, recriwtio a chadw staff. Mae hyn nid yn unig yn arbed amser ac arian iddynt, ond hefyd yn eu galluogi i ddatblygu dull recriwtio mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd:

“Mae agor cyfleoedd gwaith i ystod ehangach o bobl sy’n chwilio am waith, yn enwedig pobl sydd am ddychwelyd i’r gwaith ar ôl bod yn sâl neu ar ôl cyfnod hir yn gofalu am rywun, neu bobl sydd â nam, yn golygu bod ein busnesau nid yn unig yn gallu dod o hyd i dalent leol y gallent fod wedi’i cholli fel arall, ond eu bod hefyd yn cyrraedd pobl sy’n aml yn cael eu hanwybyddu ac sy’n ei chael hi’n anodd gwella eu cyfleoedd mewn bywyd.”

Os ydych yn fusnes yn Sir Ddinbych ac yn awyddus i recriwtio ar hyn o bryd, ond y gallai rhywfaint o gymorth fod o fudd i chi, cysylltwch â ni – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Cysylltwch â dawn.johnson@sirddinbych.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Disgyblion Ysgol Pen Barras yn dysgu am bŵer ailgylchu

Cafodd disgyblion Ysgol Pen Barras eu cyflwyno i ddau fasgot newydd sy’n gweithio i helpu i ailgylchu yn y gymuned, yn ystod ymweliad arbennig

Cafodd disgyblion Ysgol Pen Barras eu cyflwyno i ddau fasgot newydd sy’n gweithio i helpu i ailgylchu yn y gymuned, yn ystod ymweliad arbennig.

Daeth Tîm Addysg Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych â’r pwnc yn fyw trwy drafodaethau a gweithgareddau ymarferol wedi’u cynllunio i gynyddu gwybodaeth a hyder disgyblion yn ystod ymweliad deuddydd â’r ysgol.

Bu disgyblion yn dysgu beth sy’n digwydd i ddeunydd y mae modd ei ailgylchu ar ôl iddo gael ei gasglu a buont yn rhannu syniadau am sut gall lleihau gwastraff fod o fudd i aelwydydd, cymunedau lleol a’r amgylchedd ehangach.

Cafodd y masgotiaid ailgylchu, Troli-bob a Cadi groeso cynnes gan y grwpiau blwyddyn, gan helpu disgyblion i nodi eitemau cyfarwydd y cartref a phenderfynu ym mha gynwysyddion ailgylchu y dylent fod.

Roedd digonedd o waith tîm wrth i’r plant gymryd rhan mewn gêm ddidoli ymarferol gyda phapur, caniau, plastigau cymysg, poteli gwydr a jariau. Roedd y gweithgaredd hwn yn dangos sut mae gwahanu eitemau’n ofalus yn golygu bod deunydd gwerthfawr yn dal i gael ei ddefnyddio, gan helpu i leihau gwastraff.

Un o uchafbwyntiau’r ymweliad oedd pan gafodd y disgyblion gyfle i gwrdd ag un o gerbydau’r Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu sydd ag enw, a ddefnyddir i gasglu deunydd i’w ailgylchu o gartrefi ar draws Sir Ddinbych.

Wrth fwynhau gweld y cerbyd yn agos, gwelodd disgyblion sut mae rhannau ar wahân yn cadw deunydd ar wahân yn ystod casgliadau, cyn iddynt fynd i’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff yn Ninbych i’w prosesu.

Yn ystod yr ymweliad, cyflwynwyd system Trolibocs y Cyngor hefyd, sy’n helpu i ddidoli papur, caniau a phlastigau cymysg, a photeli gwydr a jariau ar ymyl y palmant. Cafodd disgyblion gyfle i weld sut mae ailgylchu’n gywir adref yn gwella ansawdd deunydd a gaiff ei gasglu ac yn cefnogi ymdrechion i leihau gwastraff ac allyriadau carbon.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych: “Roedd yn hyfryd gweld y disgyblion yn Ysgol Pen Barras yn gofyn cwestiynau, cefnogi ei gilydd a chymryd rhan ym mhob gweithgaredd. Gobeithio eu bod yn teimlo’n falch o’r hyn wnaethon nhw ei ddysgu a’u bod wedi mynd â’r brwdfrydedd adref, gan wybod bod pob eitem a gaiff ei hailgylchu’n gywir yn gallu gwneud gwahaniaeth.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae ymweliadau fel hyn yn rhoi ffordd gofiadwy i ddisgyblion weld sut mae ailgylchu’n gweithio. Roedd yn wych clywed bod Ysgol Pen Barras wedi croesawu’r sesiwn, a gobeithio y bydd y disgyblion yn rhannu eu gwybodaeth newydd gyda theulu a ffrindiau wrth i ni gydweithio i ailgylchu mwy a gwastraffu llai.”

Gwaith cynnal a chadw hanfodol wedi’i gynllunio ar ffyrdd Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi trefnu gwaith cynnal a chadw hanfodol mewn lleoliadau ar hyd a lled y Sir, a bydd y gwaith yn dechrau ar 2 Tachwedd 2026

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi trefnu gwaith cynnal a chadw hanfodol mewn lleoliadau ar hyd a lled y Sir, a bydd y gwaith yn dechrau ar 2 Tachwedd 2026.

Bydd y gwaith yn cynnwys gwagio gylïau, ysgubo a chynnal a chadw arwyddion.  Bydd traffig yn cael ei reoli drwy ddefnyddio byrddau Stop/Go ac mae’n bosibl y bydd rhywfaint o oedi ac amhariad.

Mae’r holl waith yn dibynnu ar amodau’r tywydd ac fe allai gael ei ohirio yn fyr rybudd os bydd y tywydd yn wael. 

Y gwaith sydd wedi’i drefnu yw

  • A525 Ffordd Dinbych Uchaf, Llanelwy: O gyffordd Bryn Polyn i fynedfa Tweedmill. Bydd gwaith yn dechrau ar 2 Tachwedd 2026 ac yn para am ddau ddiwrnod.
  • A543 Ffordd Groes, Dinbych: At ffin y sir. Bydd gwaith yn dechrau ar 2 Tachwedd 2026 ac yn para am hyd at bump diwrnod.
  • A542 Bwlch yr Oernant: O gylchfan Tafarn Dywyrch i fynedfa’r Eisteddfod. Bydd gwaith yn dechrau ar 16 Tachwedd 2026 ac yn para am hyd at bump diwrnod.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Fe fydd y gwaith hanfodol yma’n gwella’r llwybrau yma i breswylwyr a busnesau lleol.  Fe hoffem ddiolch i bawb sy’n defnyddio’r ffyrdd yma am eu cefnogaeth a’u hamynedd tra’n bod yn gwneud y gwaith pwysig yma.”

“Fe wnawn ni bob ymdrech i gwblhau’r gwaith mor gyflym ac effeithlon ag y gallwn ni, gan darfu cyn lleied ag sy’n bosib ar ein preswylwyr.”

 

Prosiect newydd ‘Bywydau Egnïol’ yn helpu trigolion i gysylltu, bod yn egnïol a theimlo’n rhan o’u cymuned

Mae prosiect newydd dan arweiniad y gymuned yn cyfuno gweithgareddau awyr agored, cymorth lleol a chyfleoedd i feithrin cysylltiadau ystyrlon, gan helpu trigolion i gymryd rhan mewn ffyrdd sy’n addas iddyn nhw.

Mae trigolion ledled Sir Ddinbych yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, o brosiectau cadwraeth a gweithgareddau awyr agored i sesiynau galw heibio anffurfiol yn y gymuned, diolch i fenter newydd sydd wedi’i chynllunio i helpu pobl i fod yn fwy egnïol, i feithrin cysylltiadau ac i gymryd mwy o ran mewn bywyd lleol.

Wedi’i lansio ym mis Awst 2026, mae prosiect Arloesi Bywydau Egnïol yn dod â dwy raglen lwyddiannus, Cymunedau Actif a Natur er Budd Iechyd, ynghyd i greu cynnig ledled y sir sydd wedi’i lunio gan bobl leol a’u cymunedau.

Yn hytrach na darparu rhaglen sy’n ceisio cynnig yr un peth i bawb, mae Bywydau Egnïol yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar le, gan weithio gyda thrigolion i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw a datblygu cyfleoedd sy’n adlewyrchu diddordebau, cryfderau a dyheadau lleol.

Mae’r prosiect yn cael ei ddarparu gan Wasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych a chanolfan gymunedol Grŵp Cynefin, HWB Dinbych, gyda chefnogaeth gydlynu gan Dîm Cydnerthedd Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych.

Yn HWB Dinbych Grŵp Cynefin yn Ninbych, mae Swyddog Actif, Meg Moores, yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl leol i ddeall eu hamgylchiadau, nodi’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan a’u cysylltu â chyfleoedd a all eu helpu i gymryd mwy o ran ym mywyd y gymuned.

Mae sesiynau Galw Heibio Te a Choffi wythnosol, sy’n cael eu cynnal bob dydd Iau, yn darparu lle croesawgar lle gall pobl gwrdd ag eraill, cael gafael ar gymorth a darganfod gweithgareddau mewn awyrgylch hamddenol ac anffurfiol.

Mae’r prosiect eisoes yn ymateb i adborth gan y gymuned, gyda gweithgareddau fel sesiynau ymarfer corff o gadair freichiau yn cael eu cyflwyno yn seiliedig ar yr hyn y mae cyfranogwyr wedi dweud yr hoffent ei weld.

Mae’r dull hyblyg hwn yn sicrhau bod pobl leol yn helpu i lunio’r prosiect o’r cychwyn cyntaf, gan greu gweithgareddau sy’n adlewyrchu anghenion y gymuned mewn gwirionedd.

Meddai Elain Lloyd, Cydlynydd yn HWB Dinbych:

“Yn HWB Dinbych, rydym yn gweld bob dydd pa mor bwysig yw hi i bobl wybod bod cymorth ar gael pan fydd ei angen arnyn nhw. Mae Bywydau Egnïol yn ymwneud â chreu cyfleoedd croesawgar i bobl gymryd rhan mewn ffyrdd sy’n addas iddyn nhw. Drwy wrando ar bobl leol ac ymateb i’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw, rydym yn helpu i feithrin hyder, cryfhau cysylltiadau cymunedol a chefnogi llesiant ledled Sir Ddinbych.”

Mae Bywydau Egnïol hefyd yn cynnig cyfleoedd i bobl ymgysylltu â’u cymunedau drwy’r amgylchedd naturiol. Mae sesiynau rheolaidd dan arweiniad ceidwaid cefn gwlad, a ddarperir gan dîm Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, yn cynnig ffordd groesawgar o ddysgu sgiliau newydd, gwella llesiant a threulio amser yn yr awyr agored.

O reoli coetiroedd a gwella cynefinoedd i gynnal a chadw llwybrau a gwaith cadwraeth ymarferol, gall cyfranogwyr chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ofalu am fannau gwyrdd lleol, gan feithrin hyder, gwneud cysylltiadau a phrofi manteision byd natur ar yr un pryd.

Yn bwysig, mae Bywydau Egnïol yn cydnabod nad yw gwasanaethau cymorth traddodiadol yn addas i bawb. Gall trigolion alw heibio HWB Dinbych i gael sgwrs dros baned, neu ymuno â sesiwn ymarferol yn yr awyr agored gyda Cheidwad Cefn Gwlad, gan sicrhau bod y prosiect yn cynnig ffordd anffurfiol a di-bwysau i bobl archwilio diddordebau newydd, cwrdd ag eraill a chymryd mwy o ran yn eu cymuned.

Mae’r pwyslais ar sgyrsiau ystyrlon, meithrin perthnasoedd a helpu pobl i deimlo eu bod yn gysylltiedig, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhan o’u cymunedau lleol.

Meddai Tina Foulkes, Rheolwr Rhaglen Arloesi Anweithgarwch Economaidd yn Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Mae prosiect Arloesi Bywydau Egnïol yn ymwneud â chreu cyfleoedd sy’n adlewyrchu anghenion pobl leol mewn gwirionedd. Drwy ein partneriaeth â HWB Dinbych a Gwasanaethau Cefn Gwlad, rydym yn helpu trigolion i wella eu llesiant, meithrin hyder, datblygu cysylltiadau newydd a chymryd mwy o ran yn eu cymunedau. Yr hyn sy’n gwneud y prosiect hwn yn arbennig yw ei fod yn dechrau drwy wrando. Mae’r gweithgareddau’n cael eu llunio gan y bobl sy’n cymryd rhan, gan helpu i sicrhau bod y cymorth yn hygyrch, yn groesawgar ac yn ystyrlon i bawb.”

Dywedodd y Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol dros Gynllunio, Cefn Gwlad a Chymunedau Mwy Diogel:

“Mae prosiect Bywydau Egnïol yn cynnig cyfle i drigolion gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw mewn amgylchedd gwahanol i leoliadau mwy traddodiadol, gan ddysgu sgiliau ymarferol a gwneud gwahaniaeth gweladwy i’w cymunedau lleol ar yr un pryd.

“Drwy’r bartneriaeth hon, y gobaith yw y gall trigolion gael y cymorth maen nhw’n chwilio amdano, wrth archwilio diddordebau newydd, cwrdd â phobl newydd a chwarae rhan yn y gwaith o ofalu am fannau gwyrdd Sir Ddinbych.”

Ymunwch â mudiad Bywydau Egnïol

Gall trigolion alw heibio i sesiynau Te a Choffi wythnosol HWB Dinbych bob dydd Iau neu ymuno ag un o’r gweithgareddau awyr agored sy’n cael eu cynnal ledled y sir.

Mae’r sesiynau sydd ar y gweill yn cynnwys rheoli coetiroedd, gwella cynefinoedd, cynnal a chadw llwybrau a phrosiectau amgylcheddol mewn lleoliadau gan gynnwys y Rhyl, Dinbych, Corwen a Llangollen.

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Alice.Cousens@sirddinbych.gov.uk / 07385 491616

HWB Dinbych

hwb@hwbdinbych.org / 01745 818485

P’un a ydych chi’n awyddus i gwrdd â phobl newydd, treulio mwy o amser yn yr awyr agored, dysgu sgiliau newydd neu roi cynnig ar rywbeth gwahanol, mae Bywydau Egnïol yn cynnig ffordd groesawgar o gymryd rhan yn eich cymuned.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU a nifer o raglenni, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Arloesi Cymru a’r DU sy’n targedu anweithgarwch economaidd, y Gronfa Twf Lleol i Gymru (LGF), a Cysylltu â Gwaith.

Gwaith uwchraddio wedi ei gynllunio ar gyfer meysydd chwarae’r sir

Mae deg o feysydd chwarae’r sir yn mynd i gael eu hadnewyddu

Mae deg o feysydd chwarae’r sir yn mynd i gael eu hadnewyddu.

Mae Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau cyllid o Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU i alluogi gwaith adnewyddu i feysydd chwarae ledled y sir.

Dewiswyd y meysydd chwarae hyn o ganlyniad i broffil oedran yr offer a phryderon iechyd a diogelwch a amlygwyd mewn perthynas â’r offer eu hunain neu’r arwynebau chwarae.

Dyma’r deg safle a ddewiswyd ar gyfer gwaith uwchraddio:

  • Cae Canol, Trefnant
  • Clos Deganwy, Bodelwyddan
  • Maes-y-Dre, Rhuthun
  • Y Wern, Llandrillo
  • Cae’r Ysgol, Carrog
  • Nant-y-Pandy, Glyndyfrdwy
  • Coed Afon, Llangollen
  • Gerddi’r Coroni, Prestatyn
  • Gerddi Coffa, Gallt Melyd
  • Ffordd Penrhwylfa, Prestatyn.

Mae’r contract ar gyfer cyflawni’r gwaith hwn wedi ei osod ar dendr, a disgwylir i’r gwaith ddechrau rhywdro ym mis Tachwedd, pan fo’r contractwr ar gael a’r tywydd yn caniatáu.

Bydd yr amser a gymerir i gwblhau pob safle’n amrywio, gan fod angen gwaith mwy cymhleth ar rai meysydd chwarae nag eraill.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein meysydd chwarae yn fannau lle gall plant chwarae, lle gall teuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd a lle gall gymdogion gyfarfod. Bydd y gwaith uwchraddio hwn yn darparu lleoedd chwarae modern a diogel sy’n angenrheidiol i gymunedau, gyda mwy o offer cynhwysol a hygyrch i blant sydd ag anghenion ychwanegol. Edrychwn ymlaen at groesawu teuluoedd lleol yn ôl pan fo’r gwaith wedi ei gwblhau, fel y gallant fwynhau’r gwelliannau gyda’i gilydd.”

Newidiadau i wasanaethau ffôn - Cymorth ar gael i drigolion Sir Ddinbych

Mae trigolion Sir Ddinbych, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, yn cael eu hannog i ofyn am gyngor os ydynt yn ansicr ynghylch newidiadau i’w gwasanaethau ffôn wrth i’r DU symud o linellau ffôn traddodiadol i systemau ffôn digidol sy’n defnyddio’r rhyngrwyd.

Mae’r newidiadau’n golygu bod gwasanaethau ffôn traddodiadol sy’n defnyddio ceblau copr yn cael eu diffodd, a bod darparwyr yn symud cwsmeriaid i wasanaethau ffôn digidol sy’n defnyddio cysylltiad rhyngrwyd i wneud a derbyn galwadau.

I lawer o gartrefi, yn enwedig y rhai sydd â chysylltiad band eang ffibr cyflym, dylai’r newid fod yn un syml. Fodd bynnag, gall trigolion sydd â chysylltiad rhyngrwyd araf neu annibynadwy gael gwybodaeth ddryslyd neu wybodaeth sy’n gwrth-ddweud ei gilydd gan eu darparwyr gwasanaethau ffôn a rhyngrwyd ynghylch beth mae’r newidiadau’n ei olygu iddynt.

O dan reolau Ofcom, rhaid i ddarparwyr ddilyn gofynion penodol wrth symud cwsmeriaid i wasanaethau ffôn digidol. Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu gadael heb wasanaeth ffôn, rhoi amddiffyniad ychwanegol i bobl sy’n cael eu hystyried yn agored i niwed, a sicrhau bod tariffau cymdeithasol yn parhau i fod ar gael i gwsmeriaid cymwys sydd ar incwm isel neu sy’n derbyn budd-daliadau penodol, fel Credyd Cynhwysol.

Peth pwysig arall i’w ystyried yw beth sy’n digwydd yn ystod toriad pŵer. Yn gyffredinol, mae llinellau ffôn traddodiadol yn cael eu pweru drwy’r rhwydwaith ffôn, ond mae gwasanaethau ffôn digidol yn dibynnu ar drydan i bweru’r llwybrydd a’r offer cysylltiedig. Mae hyn yn golygu, heb gyflenwad pŵer wrth gefn addas, efallai na fydd ffôn digidol yn gweithio yn ystod toriad pŵer.

Anogir trigolion sy’n poeni am eu gwasanaeth ffôn, sydd wedi derbyn gwybodaeth ddryslyd gan eu darparwr neu nad ydynt yn siŵr a yw eu cysylltiad rhyngrwyd yn addas ar gyfer y newid i ofyn am gyngor.

Mae Philip Burrows, Swyddog Digidol a Thechnolegau Newydd Cyngor Sir Ddinbych, ar gael i helpu trigolion i ddeall y newidiadau, ystyried eu dewisiadau a dod o hyd i wybodaeth bellach.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Rydym yn deall y gall newidiadau i wasanaethau ffôn fod yn ddryslyd, yn enwedig i bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig lle nad yw cysylltiadau rhyngrwyd bob amser yn ddibynadwy.

“Mae’n bwysig bod trigolion yn deall beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu iddynt ac yn gwybod ble i droi os oes ganddynt bryderon. Er y bydd y newid i wasanaethau ffôn digidol yn syml i lawer o gartrefi, mae’n bwysig bod pobl a allai gael eu heffeithio gan gysylltedd gwael, toriadau pŵer neu broblemau eraill yn cael y cyngor a’r cymorth cywir.

“Os nad ydych yn siŵr am unrhyw wybodaeth rydych wedi’i chael gan eich darparwr ffôn neu rhyngrwyd, neu os hoffech ddeall eich dewisiadau yn well, cysylltwch â’n Swyddog Digidol a Thechnolegau Newydd, Philip Burrows, a fydd yn hapus i helpu.”

Gall trigolion gysylltu â Philip drwy e-bostio philip.burrows@sirddinbych.gov.uk.

Canolfan gofal plant yn derbyn cludiant gwyrdd

Mae canolfan gofal plant yn y Rhyl wedi croesawu dull gwyrdd o deithio er mwyn cynorthwyo â’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu

Mae canolfan gofal plant yn y Rhyl wedi croesawu dull gwyrdd o deithio er mwyn cynorthwyo â’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu. 

Mae Gwasanaethau Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi trosglwyddo Bws Mini Toyota ProAce Verso 9 Sedd trydan i Ganolfan y Dderwen. 

Mae’r cerbyd hwn yn rhan o waith parhaus Gwasanaethau Fflyd y Cyngor i symud at lai o ddibyniaeth ar gerbydau sy’n llosgi tanwydd lle y bo’n briodol i helpu i dorri lawr ar gostau rhedeg a chynnal a chadw a llai o allyriadau carbon cyffredinol. 

Ar ôl i’r Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn 2019, mae’r Gwasanaethau Fflyd wedi symud i ddefnyddio cerbydau di-allyriadau yn ei fflyd. Ar hyn o bryd, mae dros 20% o’r cerbydau yn ei fflyd yn gerbydau di-allyriadau.

Mae staff hefyd yn cymryd rhan mewn pecyn hyfforddi gan yr Adran Fflyd, sy’n cynnwys sut i ddefnyddio isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn ddiogel ac yn effeithlon, gwneud defnydd o systemau brecio atgynhyrchiol, a phryd i ddewis ‘dull gyrru’ yn seiliedig ar yr amodau neu lwythi.

Bydd y bws mini trydan, sy’n gallu teithio am dros 200 milltir, yn cefnogi’r ganolfan sy’n darparu gwasanaeth gofal plant Little Acorns, gwasanaeth Ceidwaid Chwarae, ac mae hefyd yn cynorthwyo â darpariaeth gwybodaeth i deuluoedd. Mae’r cerbyd wedi’i gefnogi’n rhannol gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Mae’r ychwanegiad yma’n golygu bod gan Ganolfan y Dderwen fflyd o 5 cerbyd trydan.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y bws mini yn helpu staff Canolfan y Dderwen i gynnal eu darpariaeth o wasanaethau i blant a’u teuluoedd yn y Rhyl a’r dalgylch, tra’n darparu milltiredd gwyrddach i’r ganolfan gofal plant, lleihau costau hirdymor ar gyfer milltiroedd a chynnal a chadw rheolaidd.”

 

 

 

Gwaith gwella i ddolydd y sir yr hydref hwn

Bydd nifer o ddolydd blodau gwyllt Sir Ddinbych yn cael hwb gan safleoedd eraill yn y sir

Bydd nifer o ddolydd blodau gwyllt Sir Ddinbych yn cael hwb gan safleoedd eraill yn y sir. 

Timau Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd y Cyngor sydd wedi cynllunio’r gwaith er mwyn annog blodau gwyllt i ymwreiddio ar rai o ddolydd y sir yr hydref hwn a hybu amrywiaeth ynddynt.

Wedi’i sefydlu yn 2019 mae’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt bellach yn cynnwys bron i 70 erw o gynefinoedd blodau gwyllt brodorol, gan gefnogi natur, gwella bioamrywiaeth a chyfrannu at les cymunedol.

Mae’r gwaith wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Bydd gwaith yn digwydd ar saith o’r dolydd yn y sir yr hydref hwn gyda chymorth hadau o safleoedd eraill y prosiect. 

Mae’r gwaith o dorri a chasglu’r glaswellt ar y dolydd wedi digwydd yn ystod ail gyfnod torri tymor y prosiect er mwyn tynnu’r maetholion o’r safle fel bod mwy o rywogaethau o flodau gwyllt yn gallu ymwreiddio. 

Mae’r toriadau wedi cael eu prosesu ym Mhlanhigfa Goed y sir a bydd yr hadau sydd wedi’u casglu ohonynt yn cael eu plannu yn y dolydd sy’n cael eu dewis gan y tîm Bioamrywiaeth i hybu amrywiaeth a’u hannog i flodeuo'r flwyddyn nesaf.  

Bydd y gwaith yn cynnwys creithio neu gribinio’r gwair i ddinoethi’r pridd a chreu lle i hadau blodau gwyllt egino a magu gwreiddiau. Mae hynny’n helpu i atal y gwair rhag mynd yn drech na’r blodau, yn annog yr hadau i egino ac yn hybu bioamrywiaeth drwy greu cymysgedd fwy helaeth o flodau gwyllt.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi gweithio i wneud yn siŵr ein bod yn casglu’r glaswellt oddi ar ein dolydd mwyaf amrywiol i ddarparu cymysgedd cryf o hadau ‘Sir Ddinbych’ y gallwn eu hau ar y safleoedd rydym wedi’u dewis i’w gwella.  Mae gennym gymysgedd dda o blanhigion fydd yn dod ag amrywiaeth i’r safleoedd hyn a chefnogaeth gryfach i natur yn lleol. 

“Mae gwella’r dolydd yn fuddiol i bawb, nid byd natur yn unig, a bydd cymunedau’n elwa ar aer glanach, trefi llai poeth, a chael mannau difyr ar gyfer addysg a chwarae er budd eu lles corfforol a meddyliol.”

 

 

Adnoddau ar-lein ar gael i rieni a gofalwyr Sir Ddinbych

Mae rhieni a gofalwyr ar draws Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa y gallant gael mynediad at amrywiaeth eang o adnoddau ar-lein i gefnogi perthnasoedd teuluol, magu plant a lles emosiynol, wedi’u hariannu trwy’r Cyngor.

Mae’r adnoddau hyn ar sail tystiolaeth yn rhoi cefnogaeth hyblyg i rieni, gofalwyr a theuluoedd Sir Ddinbych trwy gydol eu taith magu plant.

Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio ar gyfer rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau ac maen nhw’n canolbwyntio ar iechyd a lles emosiynol plant. Maen nhw’n cwmpasu perthnasoedd sensitif, cefnogaeth blynyddoedd cynnar a datblygiad yr ymennydd, gan helpu teuluoedd i feithrin plant caredig, sy’n ymwybodol o’u hemosiynau wrth iddynt dyfu.

Mae’r cwrs, sef ‘Togetherness online’ wedi’i gynnwys trwy bob agwedd ar ddysgu ac mae wedi’i ategu gan syniadau cadarn wedi’u hymchwilio’n dda a ddatblygwyd gan dîm o seicolegwyr clinigol ac amrywiaeth o ymarferwyr proffesiynol.  

Mae mwy na 4,700 o rieni a gwarcheidwaid yn Sir Ddinbych eisoes wedi’u cofrestru fel dysgwyr ar-lein.

Mae adnoddau ar gael mewn nifer o ieithoedd ac maen nhw’n cynnwys:

  • Cyrsiau cynenedigol ac ôl-enedigol ar-lein (gan gynnwys cefnogaeth arbenigol ar gyfer rhieni sydd â phlant mewn uned gofal dwys i’r newydd-anedig).
  • Deall eich plentyn, o fod yn blentyn bach i’r arddegau, gyda chwrs wedi’i deilwra ar gyfer anghenion arbennig.
  • Cyrsiau Deall Llecyndod (i rieni a phobl ifanc).
  • Cyrsiau sy’n cefnogi lles emosiynol rhieni a pherthnasoedd.

Gellir cael mynediad at adnoddau ar-lein ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le. Gellir dilyn y cyrsiau ar gyflymder unigol, maen nhw’n breifat a phersonol i bob dysgwr.

Gall teuluoedd Sir Ddinbych gael mynediad at yr adnoddau am ddim trwy ddilyn y broses gofrestru a mewnbynnu’r cod mynediad am ddim neu trwy nodi eu cod post Sir Ddinbych yn yr adnodd gwirio i weld a ydynt mewn ardal am ddim i gael mynediad am ddim: www.togetherness.co.uk/learn.

Gall trigolion Sir Ddinbych ddefnyddio'r cod Mynediad Am Ddim: NWSOL

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Teuluoedd, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Gall teuluoedd ddewis dysgu sy’n gweddu i bob cam o’r broses magu plant, o feichiogrwydd i lecyndod.

Gall y cyrsiau hyn helpu rhieni a gofalwyr i ddeall datblygiad ac ymddygiad plant.

Mae’r bartneriaeth hon yn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i gefnogi Sir Ddinbych sy'n dysgu a thyfu ac i greu cymunedau mwy hapus, iach a chryf.”

Rhowch fywyd gwyrdd i’ch pwmpen ar ôl Noson Calan Gaeaf

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa trigolion i ailgylchu eu heitemau Calan Gaeaf eleni.

Bydd nifer o aelwydydd yn cerfio pwmpenni cyn bo hir yn barod at Noson Calan Gaeaf.

Ar ôl Noson Calan Gaeaf, rhowch eich pwmpen yn eich cadi gwastraff bwyd, ac nid y bin gwastraff cyffredinol. Tynnwch unrhyw ganhwyllau ac addurniadau’n gyntaf. Peidiwch â gadael pwmpenni yn yr ardd neu du allan ar ôl 31 Hydref, oherwydd gallant fod yn niweidiol i anifeiliaid megis draenogod.

Ailddefnyddiwch eich addurniadau Calan Gaeaf bob blwyddyn er mwyn arbed arian a deunyddiau. Os nad oes arnoch eu hangen mwyach, rhowch nhw i siop elusen leol.

Os nad oes modd ailddefnyddio’r addurniadau, rhowch nhw yn y cynhwysydd cywir gartref, neu cymerwch nhw i Ganolfan Ailgylchu a Gwastraff.

Ailddefnyddiwch wisgoedd Calan Gaeaf bob blwyddyn. Os nad oes arnoch eu hangen mwyach, rhowch nhw i siop elusen leol.

Cofiwch nid oes posib’ ailgylchu papurau siocled, fferins a melysion.

Gellir ailgylchu batris a ddefnyddir mewn addurniadau yn y cynhwysydd cywir ar gyfer eich gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff. Defnyddiwch fatris ailwefru lle bo modd.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae Noson Calan Gaeaf yn amser cyffrous i breswylwyr o bob oedran. Mae sawl cartref a digwyddiadau yn arddangos gwisgoedd ac addurniadau. Cofiwch ailgylchu yn gywir. Gall ein gwasanaeth ailgylchu helpu pawb i fwynhau Calan Gaeaf ofnus a gwyrddach.”

Am gymorth gydag ailgylchu, ewch i ganllaw A i Z Ailgylchu y Cyngor.

Prosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd yn dechrau’r gwaith o gael gwared ar rywogaeth anfrodorol ymledol

Mae’r gwaith o fynd i’r afael â rhywogaeth anfrodorol ymledol o greigafal o Lechweddau Prestatyn, Graig Fawr a Moel Hiraddug wedi symud ymlaen i’r cam nesaf.

Mae’r gwaith o fynd i’r afael â rhywogaeth anfrodorol ymledol o greigafal o Lechweddau Prestatyn, Graig Fawr a Moel Hiraddug wedi symud ymlaen i’r cam nesaf.

Yn dilyn gwaith arolygu a mapio yn gynharach eleni, mae’r gwaith wedi dechrau i gael gwared ar y rhywogaeth anfrodorol ymledol o greigafal mewn tri Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) penodol yn Sir Ddinbych.

Er bod creigafal yn blanhigyn poblogaidd ar gyfer yr ardd, wrth i’r blodau ddenu gwenyn ac wrth i’r aeron ddenu’r adar, mae'n hynod niweidiol i'n hardaloedd gwyllt, yn enwedig cynefinoedd prin fel glaswelltiroedd calchfaen oherwydd ei fod yn tyfu mor gyflym, a gall ddominyddu llechweddau cyfan yn gyflym iawn. 

Mae’n tyfu mewn lleoedd sy’n anodd eu cyrraedd yn aml, felly bydd y rhywogaeth anfrodorol yn cael ei dynnu’n ofalus a’i reoli gan dimau mynediad arbenigol BODDACC ar Lechweddau Prestatyn a Moel Hiraddug a chan Ground Works ar Graig Fawr, wrth osgoi niweidio cynefinoedd a rhywogaethau eraill. 

Mae Prosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd wedi'i ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur sy'n cael ei chyflwyno gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru a'i nod yw gwella gwytnwch a chyflwr pum safle glaswelltir a choetir calchfaen SoDdGA yn Sir Ddinbych.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a pherchnogion tir preifat, mae'r prosiect yn ceisio hwyluso rheolaeth a fydd yn gwella amrywiaeth nodweddion arbennig yn y safleoedd, cynyddu maint y cynefinoedd glaswelltir calchfaen a gwella cyflwr y cymunedau o blanhigion a'r ffawna cysylltiedig.

Meddai Shannon Garside, ceidwad rhwydweithiau natur y prosiect:

“Rydym yn ddiolchgar i’n perchnogion tir preifat a’n partneriaid ar y prosiect, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, am roi mynediad i ni at eu safleoedd ar gyfer y gwaith pwysig hwn. Mae hadau creigafal yn gallu lledaenu ar draws ardaloedd eang felly mae’n bwysig iawn cydweithio”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Mae cefnogi a gwella ein bioamrywiaeth leol yn hanfodol bwysig ac yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Bydd y prosiect yn gwella cysylltedd cynefinoedd o fewn a rhwng y safleoedd gwarchodedig drwy reoli coridorau natur drwy greu ac adfer cynefinoedd sy’n eu cysylltu nhw a chyfyngu ar yr effeithiau y mae’r rhywogaethau ymledol hyn yn eu cael”.

Symiau mawr o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu mewn ymgyrch ar y cyd

Yn ddiweddar bu tîm Safonau Masnach y Cyngor yn parhau â’u hymdrechion i fynd i’r afael â gwerthu sigaréts anghyfreithlon yn y Rhyl.

Yn ddiweddar bu tîm Safonau Masnach y Cyngor yn parhau â’u hymdrechion i fynd i’r afael â gwerthu sigaréts anghyfreithlon yn y Rhyl.

Gan weithio mewn partneriaeth gyda Thîm Tybaco Safonau Masnach Cymru Gyfan, fe ymwelwyd â dau eiddo yn y Rhyl yn yr ymgyrch ar y cyd, ar ôl cynnal dau brawf prynu yn y ddau leoliad. 

Ar ôl cynnal y profion prynu, fe aeth swyddogion yn ôl i’r ddau leoliad ac atafaelu swm sylweddol o sigaréts a thybaco anghyfreithlon o’r eiddo cyntaf, a chanfod cyfres o gypyrddau cudd oedd yn cael eu defnyddio i guddio nwyddau anghyfreithlon yn yr ail leoliad.  

Meddai’r Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol Cynllunio, Cefn Gwlad a Chymunedau Mwy Diogel:

“Mae'r ymgyrch yn ffurfio rhan o waith parhaus y cyngor i fynd i'r afael â gwerthu tybaco anghyfreithlon a chynnyrch fêpio anghyfreithlon, amddiffyn busnesau cyfreithlon a helpu i leihau argaeledd y cynnyrch yma ar strydoedd mawr y Sir.

“Dyma enghraifft arall o’r gwaith gwych mae ein swyddogion Safonau Masnach yn ei wneud i dynnu cynnyrch anghyfreithlon fel y rhain oddi ar ein silffoedd. Roedd yr eitemau a atafaelwyd yn rhai ffug a allai fod yn beryglus i iechyd a diogelwch y bobl hynny fyddai’n eu prynu a’u defnyddio.

“Mae ein preswylwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth amlygu ardaloedd neu unigolion o ddiddordeb, sy’n helpu ein swyddogion Safonau Masnach i ymchwilio a chael gwared ar dybaco, fêps a chynnyrch anghyfreithlon eraill yn ein cymuned.”

Gall busnesau gysylltu â Thîm Safonau Masnach Sir Ddinbych i gael cyngor ar sigaréts, tybaco a chynnyrch fêpio anghyfreithlon drwy wefan Sir Ddinbych.

Lleisiau o’r Archif

Mainc Sain Newydd yn Dod â Hanes Lleol yn Fyw ym Mharc Rhuthun

Gall ymwelwyr â Chae Ddol yn Rhuthun nawr wrando ar straeon o hanes Gogledd-Ddwyrain Cymru mewn ffordd unigryw, drwy fainc sain newydd sy’n cael ei phweru gan ynni’r haul, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mainc sainWedi’i lleoli y tu ôl i’r ardal chwarae plant, mae’r fainc newydd yn cynnig cyfle i ddefnyddwyr y parc eistedd, ymlacio a gwrando ar straeon diddorol o gasgliadau Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru. Gyda phanel syml o fotymau a seinyddion wedi’u hymgorffori, mae’r fainc yn galluogi ymwelwyr o bob oed i wrando ar recordiadau a ysbrydolwyd gan ddogfennau hanesyddol go iawn a chyfrifon personol a gedwir yn yr archifau.

Crëwyd y recordiadau mewn partneriaeth â grŵp ysgrifennu Theatr Clwyd, Cwils. Ymwelodd aelodau’r grŵp ag Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru i archwilio’r casgliadau a chael ysbrydoliaeth o’r cofnodion a ddarganfuwyd. Gan ddefnyddio’r deunydd archif yma, datblygwyd cyfres o sgriptiau gwreiddiol yn seiliedig ar bobl a digwyddiadau go iawn o orffennol y rhanbarth.

Mae’r straeon sain yn archwilio themâu cariad a cholled, newid a gwydnwch, gan ddatgelu profiadau pobl gyffredin mewn cyfnodau anghyffredin mewn hanes. Trwy rannu’r lleisiau hyn mewn lleoliad cyhoeddus, mae’r prosiect yn annog trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddarganfod nad yw hanes yn rhywbeth pellennig; mae’n bersonol, yn berthnasol ac yn perthyn i bawb.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae hwn yn enghraifft wych o sut y gallwn ddod â’n treftadaeth leol gyfoethog yn fyw mewn ffordd sy’n hygyrch, yn ddifyr ac yn bleserus i bawb.

“Mae’r fainc sain yn cynnig cyfle unigryw i bobl gymryd saib, ymlacio a gwrando ar straeon wedi’u hysbrydoli gan y bobl, y profiadau a’r digwyddiadau go iawn sydd yng nghasgliadau Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru. Mae’n arbennig o gyffrous gweld ein harchif yn cael eu rhannu mewn ffordd mor arloesol, y tu allan i leoliad archif traddodiadol.

“Mae prosiectau fel hyn yn ein helpu i gysylltu pobl â hanes ein cymunedau ac yn annog cynulleidfaoedd newydd i ddarganfod y straeon sydd wedi siapio ein rhanbarth. Gobeithio y bydd trigolion ac ymwelwyr â Chae Ddol yn manteisio ar y cyfle i aros, gwrando a mwynhau’r lleisiau diddorol hyn o’n gorffennol.”

Mae’r fainc yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Archif Gogledd-Ddwyrain Cymru i wneud treftadaeth y rhanbarth yn fwy hygyrch gan ennyn diddordeb cynulleidfa newydd mewn hanes lleol a sicrhau gellir mwynhau’r  casgliadau y tu hwnt i adeiladau archif traddodiadol.

Anogir ymwelwyr i alw heibio’r fainc sain, cymryd sedd a darganfod y straeon rhyfeddol sy’n cael eu cadw yn Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru.

Ynglŷn ag Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru

Mae Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru yn cadw ac yn darparu mynediad at dreftadaeth ddogfennol y rhanbarth. Mae ei chasgliadau’n ymestyn dros bron i 900 mlynedd o hanes, o gofnodion canoloesol i archifau cyfoes, gan helpu pobl i archwilio’r bywydau, y cymunedau a’r digwyddiadau sydd wedi siapio Gogledd-Ddwyrain Cymru.

Ynglŷn â Cwils

Mae Cwils yn grŵp cymunedol Theatr Clwyd sy’n rhoi cyfle i bobl archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol. O ddramâu i farddoniaeth, straeon byrion i nofelau, mae’n fan lle gallwch ddysgu, datblygu a meithrin cariad at ysgrifennu. Mae ar gyfer y rhai sy’n cychwyn ar eu taith fel awduron, gyda chefnogaeth ac arbenigedd Theatr Clwyd. Mae manylion llawn ar gael ar wefan Theatr Clwyd o dan yr adran “Cymryd Rhan”.

ERTHYGLAU

O hadau lleol i ddyfodol gwyrddach: Planhigfa Goed Llanelwy

 

Er mwyn nodi Wythnos Genedlaethol y Coed, mae Keegan Blazey, Swyddog Planhigfa Goed yn ysgrifennu yn Llais y Sir i sôn am rôl planhigfa goed Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy. Mae o’n sôn sut mae tyfu coed brodorol o hadau a gasglwyd yn lleol yn gallu cefnogi bioamrywiaeth, dal carbon a helpu i greu dyfodol gwyrddach i’r Sir.

Mae Planhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych yn casglu hadau sy’n tarddu’n lleol o Sir Ddinbych ac yn eu tyfu gyda’r bwriad o roi hwb i fioamrywiaeth a dal carbon yn ein hamgylchedd. I ddathlu Wythnos Genedlaethol y Coed, rydym wedi llunio’r erthygl yma i nodi beth mae ein planhigfa yn gallu ei gyflawni. 

Yn flynyddol gallwn dyfu tua 4000 o goed brodorol wedi’u dewis â llaw o werth cadwraeth uchel, sydd wedi addasu’n enetig i’n hardal leol dros filoedd o flynyddoedd. 

Yn gyffredinol mae gan goed nifer o systemau ecosystem, rhai sy’n cael eu crybwyll gan Gyfoeth Naturiol Cymru yw: 

  • helpu i amddiffyn safon cyflenwadau dŵr yfed (rheoleiddio)
  • helpu i reoli digwyddiadau llifogydd (rheoleiddio)
  • yn dal llygryddion niweidiol a gwella safon yr aer (rheoleiddio)
  • ddarparu cysgod, lloches, rheoli tymheredd ac yn amsugno sain (darparu)
  • sefydlogi pridd, lleihau erydu a thirlithriadau (rheoleiddio)

Heb goed yn darparu’r gwasanaethau ecosystem gwerthfawr yma, byddem yn cael ein gorfodi i’w darparu’n artiffisial ein hunain, er enghraifft amddiffynfeydd llifogydd. Yn ystod y cyfnodau o dywydd poeth eithriadol y llynedd, dwi ddim yn meddwl y byddai neb yn cwestiynu gwerth coed trefol yn darparu cysgod, neu lwyn o goed derw yn gadael i aer oer lifo mewn i’ch cartref. Felly rydym angen i’n cynefinoedd a bioamrywiaeth naturiol aros yn gyfan, neu fel arall pwy fydd yn glanhau a rheoleiddio ein haer, dŵr a phridd? 

Yn ogystal â’r gwasanaethau ymarferol yma mae’r gwasanaethau yn eu darparu, maent hefyd yn darparu gwerth bioamrywiol, er enghraifft, cynefin i famaliaid, adar, anifeiliaid di-asgwrn cefn a phlanhigion. Yn eu tro, mae’r holl greaduriaid rhyfeddol yma’n darparu eu gwasanaeth ecosystem ymarferol i ni, er enghraifft mae ystlumod yn ardderchog yn cadw lefel gwybed mân ar lefel y gellir ei reoli. Heb y coed, ychydig o opsiynau fyddai gan y creaduriaid yma o ran ble i fyw. 

Gan mai dim ond coed brodorol lleol yr ydym ni’n eu tyfu, mae rhywogaethau anifeiliaid di-asgwrn cefn, mamaliaid ac adar y gellir eu cefnogi gan ein coed yn llawer mwy na choed nad ydynt yn frodorol. Er enghraifft, mae’r goeden dderw yn cefnogi 2300 o rywogaethau pan mae’n aeddfed, o gymharu â choed castan sydd yn goeden anfrodorol wedi’i naturoli a dim ond yn cefnogi 11 o rywogaethau. 

Dim ond hanner y frwydr yw tyfu coed, y rhan nesaf yw eu plannu yn rhywle ystyrlon.

Caiff darn o dir ei ystyried yn goetir yn swyddogol os yw’n cyrraedd 20% o orchudd canopi, sydd tua 100 coeden fesul hectar. Mae hyn yn golygu y gall ein planhigfa lenwi 400 hectar (40,000 wedi’i rannu gan 100) y flwyddyn. O roi hyn mewn i gyd-destun, nid yw 20% o orchudd canopi yn goetir trwchus, amcangyfrifir bod gan Lundain 19.6% o orchudd canopi (https://www.london.gov.uk/who-we-are/what-london-assembly-does/london-assembly-research-unit-publications/tree-canopy-cover-london) a dyma’r gorchudd canopi isaf a argymhellir yn y DU. 

Trwy blannu coedwig o 100 coeden fesul hectar (20%) gyda gorchudd canopi gan ddefnyddio’r cymysgedd o goed rydym ni’n eu tyfu yn ein planhigfa (Derw, Bedw, Helyg, Gwern, Aethnen, Afalau Surion, Cerddin, Cyll,  Draenen Wen), rydym yn amcangyfrif ein bod yn gwneud y canlynol:

  • Cefnogi dros 2300 o rywogaethau gwahanol o bryfetach, mamaliaid, adar, planhigion, cennau, ffwng. Dydi bioamrywiaeth ddim yn pentyrru i gamu i’r adwy, ond bydd y coed sy’n cefnogi’r goeden dderw yn darparu gwytnwch rhag ofn y bydd yna afiechyd neu aflonyddwch sy’n lladd y goeden dderw. Maent hefyd yn darparu ffynonellau o fwyd a chynefin strwythurol ar wahanol lefelau ac ar adegau gwahanol o’r flwyddyn ar gyfer bioamrywiaeth.
  • Mae coed yn rhyng-gipio dŵr glaw yn eu gorchuddion (gan leihau faint sy’n cyrraedd y ddaear o hyd at 45%), ac mae eu systemau gwreiddiau yn cynyddu ymdreiddiad i’r pridd, gan leihau dŵr ffo o 99% o’i gymharu â tharmac neu concrid.
  • Yn arbed tua 78.8 tunnell o CO2 dros 100 mlynedd ar hyn o bryd.
  • Mae coed llydanddail brodorol yn dal deunydd gronynnol ac yn amsugno nwyon niweidiol megis nitrogen deuocsid (o geir), yn atal salwch anadlol ac yn lleihau’r galw ar y GIG.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn anelu i blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030 i gynorthwyo â nodau carbon sero net. Eleni, dim ond 680 hectar o goetir newydd a grëwyd.  Mae hyn y llai na 10% o’r targed. Mae hi’n dasg anodd dod o hyd i le i goed yn y DU, er gwaetha’r buddion niferus mae hi yr un mor galed sefydlu coed ar ôl eu plannu. Dyma lle y gall planhigfeydd cymunedol gamu i mewn a dechrau gwneud gwahaniaeth bychan tuag at y nodau yma ar lefel gymunedol. 

Pa orchudd canopi sydd gan eich tref neu bentref?  Oes yna unrhyw lefydd allai dderbyn coed?

Ydych chi’n adnabod rhywun yn rhywle sydd angen 20% o orchudd canopi.

Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r erthygl yma sy’n ceisio cyfleu gwerth coed, cofiwch mai damcaniaethol yw hyn, ac mewn gwirionedd, nid yw plannu coed mor hawdd ag y mae’n swnio. 

 

Gradd, gyrfa a lle i’w alw’n gartref: Hanes prentisiaeth Alfie

Deuddydd ar ôl gorffen ei draethawd hir, symudodd Alfie Jones mewn i’w gartref ei hun. Roedd hi’n garreg filltir bersonol oedd yn bosibl meddai o, yn dilyn penderfyniad ar ôl ei Lefel A: i weithio tuag at radd tra’n ennill cyflog trwy brentisiaeth mewn maes newydd sy’n tyfu.

Eisteddodd Llais y Sir i lawr gydag Alfie i ddysgu am ei lwybr gyrfaol a gafodd hwb drwy ei swydd gyda Thîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych.

Ar ôl tyfu i fyny yng Nghefn-mawr, fe aeth Alfie i’r ysgol yn Rhiwabon cyn astudio ei Lefel A yng Ngholeg Cambria. Roedd o’n gwybod ei fod eisiau gradd, ond doedd y llwybr prifysgol traddodiadol ddim yn teimlo’n iawn iddo fo. Tra bod rhai o’i gyfeillion eisoes yn dechrau prentisiaethau, fe ddechreuodd chwilio am ei gyfle ei hun.

Cafodd gyfle yng Nghyngor Sir y Fflint trwy brentisiaeth datblygu tai, lle cafodd gyflwyniad i broffesiwn nad oedd yn gwybod fawr amdano cyn hynny.

Ynghyd â’r swydd, fe aeth i Brifysgol Wrecsam unwaith yr wythnos, gan astudio ynni adnewyddadwy mewn datblygiadau tai newydd a mesurau i wella effeithlonrwydd ynni.

Deunaw mis ar ôl cychwyn y brentisiaeth, roedd swydd Swyddog Ynni yng Nghyngor Sir Ddinbych yn gyfle i ddod â’i astudiaethau a’i waith o ddydd i ddydd yn nes at ei gilydd.  Bu’n drobwynt.

Fe eglurodd Alfie fod y swydd yn llawer agosach at ei waith yn y brifysgol.  “Fe ddechreuodd pethau glicio a bu gwelliant mawr yn fy ngraddau.”

Roedd y manteision yn ymestyn y tu hwnt i waith cwrs. Roedd ennill cyflog tra’n astudio yn gymorth iddo allu dod yn berchen ar gartref, gan roi arwyddocâd y tu hwnt i’r cymhwyster ei hun i’w ddewis o lwybr gyrfaol.

“Yn y pendraw y brentisiaeth gradd yw’r hyn a alluogodd i mi brynu fy nghartref fy hun oherwydd petawn i wedi dilyn y llwybr traddodiadol, fyddwn i heb fod yn ennill dim.

O fewn Tîm Ynni Sir Ddinbych, daeth ei astudiaethau yn rhan o’r wythnos weithio yn hytrach na rhywbeth ar wahân iddo. Roedd ei reolwr mewn cysylltiad â darlithwyr ac arweinwyr cwrs, tra bod Swyddog arall yn astudio’r un cwrs flwyddyn o danodd ac mae o bellach yn ei drydedd flwyddyn.

Wrth i bob modiwl ddechrau, edrychodd y tîm ar y briff aseiniad a chwilio am gyfleoedd i Alfie gael profiad perthnasol ar y safle. Roedd y cysylltiad yn help iddo roi’r hyn yr oedd wedi’i ddysgu ar waith a gwella ei farciau.

“Bob tro y byddai modiwl yn dod i fyny, byddem yn gofyn am gael gweld y briff aseiniad neu beth yw’r asesiad, a byddai’n ceisio fy anfon allan i safle i wneud pethau fyddai’n fy ngalluogi i gael marciau gwell, a dyna ddigwyddodd yn y pendraw.”

Ar gyfer aseiniadau oedd yn cynnwys adroddiadau ymgynghori, roedd hynny’n golygu archwilio defnydd ynni adeilad ac ystyried y gwahaniaeth y gallai mesurau megis paneli solar, ffenestri newydd a goleuadau LED eu gwneud. Cafwyd sail ymarferol i’r adroddiadau yma trwy fynediad i safleoedd y Cyngor, data ynni a gwybodaeth ymarferol.

“Yr hyn a alluogodd i mi gael graddau gwell yn y Brifysgol oedd fy mod wedi cael mynediad at y data a’r safleoedd yma,” meddai.

Mae o’n parhau i ddysgu yn ei rôl fel Swyddog Ynni. Mae ei gyfrifoldebau o ddydd i ddydd yn cynnwys cynhyrchu tystysgrifau arddangos ynni y Cyngor, gosodiadau mesuryddion newydd a chadw trac ar filiau papur. Ynghyd â’r tasgau hynny, mae prosiectau llai wedi rhoi cyfleoedd iddo gael profiad.

Mae un prosiect yn benodol yn sefyll allan: gwaith yn Ysgol Bro Dyfrdwy ar ôl i’w system rheoli adeilad fethu.  Fe ymwelodd Alfie â’r ysgol, ymchwilio i’r broblem a chysylltu â’r contractwr, gan helpu iddo drefnu system newydd.

Gan weithio gyda phlymwr yn Ninbych, cafodd hefyd brofiad yn gwella system wresogi’r ysgol, yn cynnwys ei phedwar parth gwresogi, i helpu i reoli defnydd ynni’n fwy effeithiol. Cafwyd gwres ychwanegol yn yr ardal sy’n cael ei ddefnyddio gan y gymuned yn sgil ymestyn capasiti’r system wresogi.

Pan ofynnwyd am ei uchafbwynt hyd yn hyn, fe soniodd Alfie am y cyfle cynnar i ymgymryd â phrosiect hyd at y diwedd.

“Ysgol Bro Dyfrdwy mae’n siŵr. Wnes i wir fwynhau hynny,” meddai. “O fewn y 10 mis cyntaf, fe wnes i lawer o brosiectau.”

Mae o hefyd wedi gwneud gwaith yn y Rhyl, lle cafodd brofiad yn gwella darpariaeth gwresogi llyfrgell y dref. Mae o hefyd yn gweithio gyda’r tîm ar gynnig i wahanu’r mesurydd nwy yng Nghanolfan Hamdden y Rhyl ac Ysgol Uwchradd y Rhyl, gan eu bod nhw’n rhannu mesurydd ar hyn o bryd.

“Rydym ni’n ystyried gosod is-fesurydd er mwyn i ni fesur beth mae pob safle yn ei ddefnyddio er mwyn gallu cael biliau mwy cywir,” eglurodd.

Mae gwaith ehangach y tîm yn cynnwys prosiectau PV solar ar adeiladau’r Cyngor i leihau dibyniaeth ar drydan o’r grid a lleihau costau hirdymor. Trwy brosiectau pyrth ceir solar yn Neuadd y Sir a Thŷ Russell, mae Alfie wedi gallu dysgu gan gydweithwyr a chyfrannu ei farn.

Mae’r cyflwyniad graddol hwnnw i waith prosiect wedi rhoi amser iddo ddatblygu heb orfod gwneud popeth ar unwaith.  “Mae hi’n wych fy mod yn cael prosiectau yn raddol,” meddai, gan ddisgrifio manteision rheoli llwyth gwaith.

Ac yntau bellach wedi gorffen ei radd, mae Alfie yn edrych tua’r dyfodol. Fe hoffai symud ymlaen i swydd Swyddog Lleihau Carbon, er fe allai’r cyfle nesaf ddibynnu ar ydi’r tîm yn ehangu ai peidio. I Alfie, mae gwybod bod yna lwybr ymlaen yn bwysig.

“Yr hyn dwi’n ei hoffi am ‘fama yw’r llwybr gyrfaol amlwg. Mae’r graddau gyrfaol yn cael eu strwythuro ar brofiad a chymhwyster. Mae yna strwythur clir.”

Gan edrych yn ôl ar ddiwedd ei Lefel A, mae o’n cofio cyn lleied yr oedd yn ei wybod am y diwydiant y byddai’n ymuno ag o. Trwy hap a damwain y daeth o hyd i brentisiaeth yn Sir y Fflint meddai, ond mae o’n credu bod cyfleoedd o’r fath yn dod yn fwy pwysig.

Ei gyngor o i bobl eraill sy’n ystyried eu cam nesaf yw cadw llygad am brentisiaethau gradd a chydnabod nad oes rhaid i radd olygu dewis rhwng astudio ac ennill cyflog.

I Alfie, fe arweiniodd y dewis hwnnw at gymhwyster, gyrfa mae o eisiau ei ddatblygu a’i gartref ei hun.

“Rydych chi’n dysgu tra’ch bod yn ennill cyflog, felly mae’r dewis yn amlwg.”

Stori Mary

Mae Mary yn byw yng ngogledd Sir Ddinbych, ger Rhuallt, ac mae’n dioddef o fath ymosodol o glefyd Parkinson o'r enw Dirywiad Corticobasalaidd (Corticobasal Degeneration); mae hyn yn golygu bod angen iddi ddefnyddio amrywiaeth o offer yn ei chartref er mwyn byw mor gyfforddus â phosibl. Mae hi'n byw gyda'i gŵr Allan, ei phrif ofalwr, aelodau o'i theulu, a'i chi, Blaze.

Mary, Allan a Blaze y ci.

Er gwaethaf ei diagnosis, mae Mary yn llawn egni ac mae ganddi synnwyr digrifwch gwych. Mae hi wedi parhau i ymgymryd â nifer o’r diddordebau oedd ganddi cyn iddi gael y diagnosis, gan gynnwys gwneud celf a chrefft. Roedd Mary yn hyfforddwr cŵn llwyddiannus iawn yn y gorffennol, ac mae ei rhosetiau yn dal i hongian ar y wal. Cyn ymddeol, roedd Mary yn gweithio fel ffisiotherapydd yn ei hardal leol.

Mae Mary wedi bod yn byw gyda'r cyflwr hwn ers chwe blynedd, ac mae hi wedi dechrau derbyn cymorth gan Therapydd Galwedigaethol a chynrychiolwyr o'r Tîm Offer Cymunedol (CESI) yn ystod y blynyddoedd diwethaf, unwaith i'w diagnosis ddod yn gliriach ac i'w chyflwr waethygu.

Mae CESI yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB), sy'n darparu offer i bobl o bob oed i'w helpu i fyw eu bywydau i'r eithaf ac i gynnal eu hiechyd a'u hannibyniaeth. Mae hyn yn amrywio o gymhorthion syml ar gyfer bywyd bob dydd i gyfarpar mwy cymhleth sy'n helpu pobl i aros yn eu cartrefi yn hirach.

Drwy ddefnyddio'r offer hyn, nid oes angen i Alan a Mary ddibynnu ar ofalwyr ffurfiol sy'n ymweld bob dydd, gan eu galluogi i fyw mor gyfforddus â phosibl yn eu cartref.

Roedd gwely wedi'i addasu, a elwir yn 'wely annibyniaeth', yn un o'r darnau cyntaf o offer a osodwyd yn ei chartref, ac mae gan Mary hefyd declyn codi i'w helpu i fynd i mewn ac allan yn haws. Mae'r gwely hefyd yn symud yn fecanyddol, gan alluogi Mary i eistedd i fyny ac addasu'r uchder pan fo angen.

Gyda chymorth Therapydd Galwedigaethol, ac yn dilyn asesiad, cyflwynwyd cynfasau llithro arbennig sy'n helpu i symud a throsglwyddo.

Wrth siarad am y gwely Annibyniaeth, dywedodd Allan:

“Mae’r gwely wedi bod yn fendith wirioneddol o’r cychwyn cyntaf; mae’r ffaith ei fod yn gallu gostwng yr holl ffordd i lawr wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o ran symudedd a’i gwneud yn haws i ‘w ddefnyddio.”

Gyda chymorth darn o offer o'r enw Standaid, gall Mary fynd i mewn ac allan o gadeiriau. Mae'r Standaid hefyd yn helpu gyda symudiadau i mewn ac allan o'i chadair olwyn.

Gosodwyd dyfeisiau mecanyddol i godi sedd y toiled, sy'n helpu Mary i symud i mewn ac allan o'r gadair olwyn a gwneud pethau'n haws iddi.

Wrth sôn am ei phrofiad gyda'r CESI, dywedodd Mary:

“Mae'r technegwyr yn wych, ac yn glên iawn bob amser pan fyddan nhw'n dod i gynorthwyo gyda'r offer. Maen nhw'n barod iawn i helpu.

Mae'r holl wasanaethau wedi bod yn dda iawn gyda ni, ac mae cydlyniant da iawn wedi bod rhwng y gwahanol adrannau.

Mae'r offer yno i helpu i gadw Mary mor annibynnol â phosibl, gan ei helpu i wneud pethau y gall eu gwneud ar y dyddiau pan mae hi'n teimlo'n well, a lliniaru effaith y dyddiau pan mae pethau’n teimlo’n anoddach.

Aeth Mary ymlaen i ddweud:

“Rwyf yn dal i wneud celf a chrefft; rwy’n gwneud math o wehyddu i greu patrymau ar gyfer modrwyau allweddi. Rwyf wedi gwneud rhai gyda grŵp crefftau Sant Cyndeyrn. Rwyf wedi bod yn gwneud crefftau gydol fy oes, ac rwy’n falch fod gennyf fodd o barhau i wneud hynny.”

Dywedodd Becky, Therapydd Galwedigaethol sydd wedi helpu Mary:

“Rydym yn gweithio ar y cyd â storfeydd CESI fel tîm, ac ni allem wneud ein gwaith heb eu harbenigedd a'u cefnogaeth. Maen nhw wastad mor barod i helpu ac yn gymwynasgar, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn amdanyn nhw.”

O bermaddiwylliant i gadwraeth: gyrfa â’i gwreiddiau mewn natur

Mae Llais y Sir yn sgwrsio â Keegan i ddarganfod sut mae natur wedi bod gydag ef bob amser trwy ei fywyd gweithio.

Trwy lawer o’i fywyd gweithio, nid yw’r llwybr gyrfa wedi bod yn syml i Keegan Blazey. Mae ei fywyd wedi symud trwy stiwdios celf, ffermydd organig, ystafelloedd dosbarth, dylunio gemau, labordai prifysgolion ac, yn y pen draw, i waith ymarferol, mwdlyd, cadwraeth. Ond wrth edrych yn ôl, i’r Swyddog Planhigfa Goed ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy, mae’r llinyn sy’n rhedeg trwy’r cyfan yn glir: awydd i ddeall y byd naturiol a gwneud rhywbeth defnyddiol ynddo. Mae Llais y Sir yn sgwrsio â Keegan i ddarganfod sut mae natur wedi bod gydag ef bob amser trwy ei fywyd gweithio.

Dechreuodd ei ddiddordeb yn ei ugeiniau, pan ddechreuodd ymwneud â phermaddiwylliant – ffordd o feddwl am fwyd, tir a chymuned sy’n mynd y tu hwnt i amaethyddiaeth gynaliadwy. I Keegan, fe’i helpodd i gysylltu â syniadau ehangach am ddiwylliant, ysbrydolrwydd, ymwybyddiaeth ofalgar a hunanddigonedd.

Eglurodd: “Mae gen i ddiddordeb mawr mewn bod yn gynaliadwy a hunangynhaliol. Rydych chi’n dysgu sut i dyfu eich bwyd eich hunain oherwydd mae’n eich cadw chi’n iach. Roedd Bwdhaeth, ymwybyddiaeth ofalgar a’r holl bethau tebyg yn rhan o’r hyn wnaeth ennyn fy niddordeb.”

Fe wnaeth tyfu i fyny yn Ne Affrica helpu i lunio ei feddwl hefyd. Oherwydd bryd hynny, roedd prinder dŵr, sychder a thywyllwch treigl yn rhan o fywyd bob dydd. Eglura Keegan fod Permaddiwylliant yn cynnig atebion ymarferol gan gynnwys casglu dŵr glaw, defnyddio dŵr mewn ffordd gynaliadwy a chynllunio systemau sy’n dibynnu llai ar brif gyflenwadau.

Ar ôl symud i’r DU, bu Keegan yn gweithio’n bennaf fel athro Saesneg wrth barhau i wirfoddoli ar brosiectau’n ymwneud â’r tir. Yn y pen draw, arweiniodd hynny at rôl fel rheolwr gardd organig, lle bu’n rhedeg gardd farchnad a oedd yn cyflenwi safle gwely a brecwast, rheoli tua 6 o wirfoddolwyr, addysgu Saesneg i wirfoddolwyr rhyngwladol o Ewrop a helpu i greu system dyfu fwy cylchol, oedd yn gyfeillgar i fywyd gwyllt.

Roedd y gwaith yn cynnwys pyllau, gwlyptiroedd, hwyaid, compostio a thyfu mewn dolen gaeedig. Daeth â sawl rhan o’i gefndir at ei gilydd: addysgu, garddio ymarferol, cynaliadwyedd a rheoli pobl.

Yn ddiweddarach, newidiodd llwybr ei yrfa eto. Daeth celf, a oedd wedi mynd law yn llaw â’i ddiddordebau amgylcheddol, yn broffesiwn iddo. Symudodd Keegan at gelf cysyniad digidol, gan weithio’n bennaf ym maes gemau am bum neu chwe blynedd. Yn ystod pandemig Covid, tyfodd y diwydiant gemau’n gyflym ac roedd y gwaith yno – ond roedd rhywbeth nad oedd yn teimlo’n iawn iddo bellach.

Dywedodd Keegan: “Roeddwn i’n eistedd yn paentio arfwisg ganoloesol ar gyfer gemau tra’r oedd y byd yn dioddef, doedd o ddim yn teimlo’n iawn.”

Fe wnaeth y sylweddoliad hwnnw ei wthio i brofi ei hun trwy Radd gwyddor yr amgylchedd ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n cyfaddef iddo chwilio am rôl lle gallai ei sgiliau gyfrannu at ddatrysiadau, ac roedd y llwybr hwn yn rhoi’r sylfaen dechnegol iddo symud i faes ymchwil. Roedd gwyddor yr amgylchedd yn helpu i roi golwg ehangach iddo, gan ei fod yn canolbwyntio nid yn unig ar amddiffyn natur, ond ar sut gall pobl a’r amgylchedd weithio gyda’i gilydd.

Roedd lleoliad ym maes ymchwil coedwigaeth yn drobwynt mawr i Keegan. Bu’n gweithio fel technegydd ymchwil ar arbrofion newid hinsawdd gyda Birmingham Institute of Forest Research, gan helpu i gasglu a phrosesu data maes a labordy. Eglurodd fod y gwaith yn ‘fanwl’ iawn, roedd profion pridd, profion dŵr, mesur coed a gwreiddiau, casglu a dadansoddi data i gyd yn ei gadw’n brysur.

“Ar un adeg, treuliais fisoedd yn golchi pridd oddi ar wreiddiau derw, eu gwahanu gyda llaw, eu sganio a throsglwyddo'r canlyniadau i’w dadansoddi”, meddai gyda gwên.

Ond darparodd hyn sylfaen gadarn iddo mewn gwaith maes, data a phrosesau arbrofol, sydd wedi helpu gyda’i rôl bresennol fel Swyddog Planhigfa Goed.

Yn ystod ei radd, eglurodd Keegan ei fod wedi canolbwyntio ar wyddorau pridd hefyd a chwblhaodd draethawd hir ar ficroblastigau, gan ddefnyddio safleoedd dolydd blodau gwyllt lleol Sir Ddinbych ei hun fel rhan o’i ymchwil.

Roedd y prosiect yn edrych ar symudiad microblastigau mewn pridd, ochr yn ochr â charbon, lleithder a chywasgiad, mesurau a ddefnyddir i ddeall iechyd pridd a rheoli tir.

Wrth sgwrsio gyda Llais y Sir, mae Keegan yn cyfaddef ei fod yn dal i obeithio cwblhau PhD sy’n canolbwyntio ar ymchwil un diwrnod, ond am rŵan, mae’n credu mai profiad ymarferol yw’r cam nesaf gorau.

Wrth eistedd yn un o dwneli’r blanhigfa, mae’n amlwg bod cefndir gwyddonol Keegan yn helpu i wthio nod y safle i amddiffyn bioamrywiaeth leol, gyda chanlyniadau cadarnhaol ei arbrawf tyfu Aspen wrth ei ochr wrth i’r sgwrs barhau, gyda chelyn y môr yn tyfu yn y cefndir, a gwelyau blodau gwyllt newydd yn ail-lenwi stoc hadau ar stepen drws y blanhigfa.

“Mae wedi bod yn broses ddysgu enfawr,” meddai. “Ond rwyf wedi cael profiad o’r sgiliau oedd eu hangen arnaf. Mae’r manylion yn bwysig mewn ymchwil, ond rwyf hefyd wedi dysgu pa lefel o ddata sydd ei angen arnom yma mewn gwirionedd. Rwyf wedi fy amgylchynu gan dîm gwych sy'n fy arwain ac yn fy nghefnogi ar hyd y ffordd, ac ni fyddwn wedi gallu ymdopi hebddynt."

Cyn i Lais y Sir gloi’r sgwrs, gofynnwn sut mae’n teimlo am rôl y Swyddog Planhigfa Goed a gymerodd yn 2025, a daw gwên arall: “Hon yw’r swydd orau i mi ei chael erioed.  Mae’r rhagolygon o ran beth ydym ni’n ei wneud a beth ydym ni’n ceisio ei gyflawni yn y blanhigfa yn anhygoel. Mae pawb ydw i’n siarad gyda nhw yn genfigennus o’r hyn ydw i’n ei wneud.”

Nid yw mynd i’r afael ag effaith materion newid hinsawdd ar y tir yn lleol yn dod heb ei heriau, ond i Keegan, mae hynny’n rhan o’r pwynt.

Meddai: “Mae’r rhan fwyaf o waith newid hinsawdd a gwella natur yn teimlo’n amhosibl…Ond mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi cynnig arni.”

Mae’r hyn a ddechreuodd gyda phermaddiwylliant a chwilio am hunanddigonedd wedi tyfu’n yrfa i Keegan, wedi’i adeiladu o gwmpas adferiad, gwytnwch a’r gred bod ceisio cwblhau gwaith amgylcheddol anodd hyd yn oed yn werth ei wneud, ac mae hyn i’w weld yn yr egin gwyrdd cynnydd niferus sy’n ymddangos yn y Blanhigfa Goed.

Prosiectau’r adain eiddo yn cefnogi cymunedau ar draws Sir Ddinbych

Dros y 12 mis diwethaf, mae adain Eiddo Cyngor Sir Ddinbych wedi parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi gwasanaethau, cymunedau a phreswylwyr ar draws y sir.

Dros y 12 mis diwethaf, mae adain Eiddo Cyngor Sir Ddinbych wedi parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi gwasanaethau, cymunedau a phreswylwyr ar draws y sir.

O wneud gwaith gwella a chynnal a chadw adeiladau cyhoeddus, i gefnogi prosiectau mawr a sicrhau bod asedau’r Cyngor yn ddiogel, effeithlon ac addas i’r diben, mae’r timau yn yr adain wedi bod yn rhan o amrywiaeth eang o waith pwysig.

Mae Llais y Sir yn edrych yn ôl ar rai o’r prosiectau allweddol a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn, gan amlygu’r ymroddiad, yr arbenigedd a’r cydweithio a fu rhwng y gwahanol dimau sy’n helpu i reoli a gwella ystâd eiddo Sir Ddinbych.

Ers y llynedd, mae’r tîm Cynnal a Chadw Adeiladau wedi cefnogi gwaith gwella mawr yn Ysgol Dewi Sant, y Rhyl, gan helpu i foderneiddio a thrawsnewid ardal neuadd yr ysgol.

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys ailadeiladu’r to, gwella inswleiddiad, gosod ffenestri gwydr dwbl perfformiad uchel, uwchraddio trefniadau mynediad a moderneiddio’r cyntedd a’r fynedfa, gan gynnwys gosod lifft i wella hygyrchedd.

Fe wnaeth y gwaith helpu i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau ôl-troed carbon yr ysgol a chreu lle mwy diogel, mwy hygyrch a mwy modern i ddisgyblion, staff a’r gymuned ehangach.

Buont yn ymateb i ddifrod storm ym Mharc Dŵr SC2 hefyd, gan sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel cyn rheoli gwaith disodli’r to a oedd yn beryglus.

Gan nad oedd y cyflenwr gwreiddiol yn masnachu bellach, cafodd to newydd ei ddylunio’n arbennig a’i wirio’n annibynnol gan ddefnyddio modelu llwyth gwynt sy’n benodol i’r safle.

Roedd angen datrysiad sgaffaldiau pwrpasol ar gyfer y prosiect oherwydd bod gwaith amddiffyn rhag llifogydd gerllaw yn atal mynediad traddodiadol, ac roedd cyflymder y gwynt yn cael ei fonitro bob dydd i gadw gweithwyr yn ddiogel.

Cafodd dalenni to crwm wedi’u creu’n bwrpasol, rhai’n fwy na 24 metr o hyd, eu cludo i’r safle dan drwyddedau llwyth anarferol. Bu gweithwyr cynnal a chadw yn cydlynu’r prosiect cymhleth gyda’r tenant, yswirwyr, ymgynghorwyr, peirianwyr, syrfewyr, addaswyr colled a thimau’r Cyngor sy’n rheoli’r gwaith amddiffynfeydd môr.

Y tîm cynnal a chadw fu’n rheoli’r prosiect, gan gysylltu â’n Tenant, ymgynghorwyr arbenigol, peirianwyr, yswirwyr, syrfewyr fforensig ac addaswyr colled, yn ogystal â chydweithwyr yn y Cyngor, gan gynnwys rhai sy’n rheoli’r gwaith amddiffynfeydd môr.

Dros y 12 mis diwethaf, mae’r tîm Dylunio ac Adeiladu wedi darparu a chefnogi amrywiaeth eang o brosiectau proffil uchel ar draws y sir, gan helpu i wella tai, darpariaeth addysg, hygyrchedd ac adfywio.

Mae cyflawniadau allweddol yn cynnwys cwblhau 22 o dai Cyngor newydd effeithlon o ran ynni yn Llwyn Eirin yn Ninbych, a adeiladwyd i safon Passivhaus ac sydd â phaneli solar a phympiau gwres o’r ddaear er mwyn helpu i leihau costau ynni’r cartref ac allyriadau carbon.

Mae’r tîm wedi dylunio a datblygu’r pwll hydrotherapi cyntaf o’i fath yn Sir Ddinbych hefyd, yn Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl. Mae’n cefnogi datblygiad corfforol a lles disgyblion trwy gyfleuster newydd arbenigol sydd ar dir yr ysgol.

Ynghyd â hyn, mae’r tîm wedi cefnogi cam nesaf y gwaith ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, lle mae gwaith adfer a dymchwel yn helpu i ddatgloi cyfle i adfywio’r safle 53 erw yn y dyfodol ar gyfer tai, gofod masnachol ac ardaloedd cymunedol gwyrdd.

Mae gwaith yr adain wedi’i gydnabod trwy gynlluniau tai arobryn hefyd, gan gynnwys Llys Elizabeth yn y Rhyl, a enillodd wobr Datblygiad Tai Cymdeithasol Bach Gorau yng Ngwobrau LABC Cymru am ei gartrefi o ansawdd uchel, sy’n effeithlon o ran ynni, i breswylwyr 55 oed a hŷn.

Ers yr haf diwethaf, mae’r Tîm Ynni wedi parhau i arwain prosiectau sy’n gwella effeithlonrwydd o ran ynni, lleihau costau rhedeg a lleihau allyriadau carbon ar draws adeiladau a gwasanaethau’r Cyngor.

Yng nghartref gofal Cysgod y Gaer yng Nghorwen, mae’r tîm wedi gosod system storio ynni batri 40kWh ynghyd ag arae solar 21.36kWp, gan adeiladu ar waith blaenorol i ychwanegu paneli ffotofoltäig, goleuadau LED a gwelliannau i’r system wresogi.

Mae’r gwaith cyfun hwn wedi helpu i leihau defnydd nwy a thrydan yn sylweddol, lleihau allyriadau carbon a chefnogi gwefru dau gerbyd trydan sy’n gweithredu o’r safle er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned leol.

Mae’r tîm wedi darparu prosiect storio batris arloesol yng ngorsaf Gwastraff ac Ailgylchu Dinbych hefyd, gan osod 600kWh o gapasiti batri i wneud defnydd gwell o ynni solar a gynhyrchir ar y safle a chefnogi cerbydau gwastraff ac ailgylchu trydan.

Mae canlyniadau cynnar yn dangos bod defnydd ynni o’r grid yn y safle wedi gostwng fwy na hanner, a disgwylir i’r system arbed mwy na 76,000kWh y flwyddyn, lleihau costau o tua £16,000 a lleihau allyriadau carbon o tua 22 tunnell y flwyddyn.

Mae enghraifft arall o’r dull cydweithredol hwn i’w gweld yn Ysgol y Santes Ffraid, lle mae timau wedi bod yn cydweithio yn ystod ail hanner 2025 i wella effeithlonrwydd a pherfformiad prif adeilad y safle.

Daeth y prosiect â chefnogaeth at ei gilydd o’r rhaglen Hinsawdd a Natur, Cynnal a Chadw Adeiladau a’r Tîm Ynni, i ddarparu pecyn o welliannau o ran gwresogi, rheolyddion, goleuadau ac inswleiddiad.

Roedd gwaith yn cynnwys tynnu hen foeleri aneffeithlon wedi’u tanio ag olew a’u disodli â boeleri modern wedi’u tanio â LPG ar draws y ddwy brif ystafell beiriannau, gyda phum boeler wedi’u disodli a’r hen danc olew wedi’i symud.

Gosodwyd rheolyddion rheoli adeiladau modern hefyd, gan greu pum ardal ar wahân ar gyfer y prif adeilad a helpu’r safle i weithredu’n fwy effeithlon.

Yn ogystal, gosodwyd mwy na 140 o osodiadau golau LED, y disgwylir iddynt arbed tua 24,260kWh o drydan a thua £5,579 y flwyddyn.

Ychwanegwyd tua 240 metr sgwâr o inswleiddiad 300mm hefyd, gan gefnogi gwaith ehangach y Cyngor ymhellach o ran lleihau defnydd ynni, lleihau allyriadau a gwella cynaliadwyedd hirdymor ei adeiladau.

Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol:  “Mae’r gwaith a wnaed gan ein timau Eiddo dros y 12 mis diwethaf yn dangos y rôl bwysig maen nhw’n ei chwarae wrth gefnogi preswylwyr, cymunedau a gwasanaethau’r Cyngor ar draws Sir Ddinbych. O wella ysgolion a lleoliadau gofal i ddarparu cartrefi effeithlon o ran ynni, lleihau allyriadau carbon a chefnogi prosiectau adfywio mawr, mae eu gwaith yn cael effaith uniongyrchol a pharhaus ar fywydau bob dydd pobl.

“Hoffwn ddiolch i’r holl dimau am eu hymroddiad, eu harbenigedd a’u hymrwymiad. Mae eu hymdrechion yn helpu i wneud ein hadeiladau’n fwy diogel, mwy hygyrch, mwy cynaliadwy a mwy parod i ddiwallu anghenion preswylwyr rŵan ac yn y dyfodol.”

CIPOLWG

Creu Cannoedd o Babïau ar gyfer Llwybr Coffa Dydd y Cofio yn y Rhyl

Mae tua 800 o babïau a wnaed â llaw wedi trawsnewid Gerddi Botaneg y Rhyl yn fan o gofio a myfyrio ar gyfer coffáu Diwrnod y Cofio eleni.

Poppy trail 1Crëwyd Llwybr Pabi’r Cofio drwy bartneriaeth rhwng y Gerddi Botaneg, ysgolion lleol a grwpiau cymunedol. Ymhlith y cyfranogwyr roedd disgyblion o Achieve, sef uned anghenion dysgu ychwanegol Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Bryn Hedydd, Ysgol Emmanuel, gofalwyr sy’n cael cymorth gan Credu, a gwirfoddolwyr y Gerddi Botaneg.

Creodd Uned Achieve dros 220 o babïau a thorch goffa wedi’i gwneud o boteli plastig wedi’u hailgylchu. Cyfrannodd disgyblion Blwyddyn 4 Ysgol Bryn Hedydd tua 120 o babïau, tra bod gofalwyr sy’n cael cymorth gan Credu wedi gwneud tua 100. Creodd gwirfoddolwyr y Gerddi Botaneg oddeutu 300 o babïau.

Mae’r llwybr, sy’n dechrau gyda silwetau Tommy a baneri coffa, wedi derbyn ymateb cadarnhaol gan ymwelwyr, gyda’r trefnwyr yn gobeithio ehangu’r arddangosfa dros y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae’r creadigrwydd a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan y disgyblion sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn yn ysbrydoledig. Yn ogystal â chreu teyrnged hardd, maen nhw wedi dysgu am bwysigrwydd cofio a’r aberth a wnaed gan eraill. Diolch i bawb sydd wedi dod ynghyd i wireddu’r llwybr hwn.”

Diolchodd y trefnwyr i’r holl gyfranwyr am eu hamser a’u creadigrwydd, yn ogystal â thîm Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych am helpu i gydosod a gosod yr arddangosfa.

Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae’r llwybr hwn yn enghraifft wych o ysgolion, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn dod ynghyd i greu rhywbeth ystyrlon. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’n tîm Gwasanaethau Stryd am helpu i baratoi’r safle a gosod yr arddangosfa.”

Dywedodd Clare Probert o Ysgol Bryn Hedydd: “Mwynhaodd y plant greu’r pabïau a dysgu pam mae Diwrnod y Cofio yn bwysig. Roedd yn braf eu gweld yn ymgysylltu â’r prosiect a deall yr ystyr sydd y tu ôl iddo.”

Dywedodd llefarydd ar ran darpariaeth Achieve Ysgol Uwchradd y Rhyl: “Bu’r myfyrwyr yn gweithio’n hynod o galed ochr yn ochr â Mrs Price a Miss Randles i greu casgliad hyfryd o arddangosfeydd pabi, a gafodd eu harddangos yn y Gerddi Botaneg ar gyfer Diwrnod y Cofio. Cafodd y pabïau eu dylunio a’u creu’n ofalus gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailddefnyddio. Rhoddodd hyn gyfle gwerthfawr i’r myfyrwyr archwilio cynaliadwyedd a deall sut y gellir trawsnewid deunyddiau bob dydd yn rhywbeth newydd, ystyrlon a hardd.

“Mwynhaodd ein myfyrwyr yn fawr iawn gymryd rhan yn y digwyddiad cymunedol arbennig hwn, gan weithio ochr yn ochr ag ysgolion lleol eraill a rhannu eu creadigaethau. Roedd yn gyfle gwych i ddathlu eu creadigrwydd, dangos eu doniau ac, yn bwysicaf oll, teimlo eu bod yn rhan werthfawr o’n cymuned leol. Rydym yn hynod falch o’u gwaith caled, eu brwdfrydedd a’u cyfraniad i achlysur mor ystyrlon. Hoffem ddiolch yn fawr i Will Price am wneud hyn yn bosibl.”

Dywedodd Ceri Pritchard o Ysgol Emmanuel: “Roedd y disgyblion wrth eu boddau yn cael cymryd rhan yn yr arddangosfa, gan greu pabïau o boteli plastig wedi’u hailgylchu cyn eu gosod yn y gerddi ar Ddiwrnod y Cofio. Roedd yn gyfle gwerthfawr i gyfrannu at brosiect cymunedol ystyrlon.”

Poppy Trail

 

♻️ Cymorth ailgylchu yn eich llyfrgell leol yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd 📚💚

Bydd ein cynghorwyr ailgylchu yn ymweld â llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd.

Bydd ein cynghorwyr ailgylchu yn ymweld â llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd.

Galwch heibio am awgrymiadau ailgylchu defnyddiol, cyngor ymarferol a digon o wybodaeth i'ch helpu i ailgylchu mwy a gwastraffu llai. 🙌♻️

📍 Dewch o hyd iddyn nhw yn:

  • 🗓️ 21 Hydref — Llyfrgell Llanelwy, 10am–1pm
  • 🗓️ 22 Hydref — Llyfrgell y Rhyl, 10am–1pm
  • 🗓️ 23 Hydref — Llyfrgell Rhuddlan, 10am–1pm
  • 🗓️ 26 Hydref — Llyfrgell Rhuthun yn y bore a Llyfrgell Dinbych yn y prynhawn
  • 🗓️ 27 Hydref — Llyfrgell Prestatyn, 10am–1pm
  • 🗓️ 28 Hydref — Llyfrgell Corwen yn y bore a Llyfrgell Llangollen yn y prynhawn

Dewch draw i ddweud helo — mae'r tîm yn edrych ymlaen at helpu trigolion gydag awgrymiadau, cyngor ac arweiniad ar ailgylchu. 👋✨
#WythnosLlyfrgelloeddGwyrdd #AilgylchuMwy #GwastraffuLlai #LlyfrgelloeddSirDdinbych

Profi’r cerbydau graeanu i baratoi ar gyfer y gaeaf

Mae timau’r Cyngor yn paratoi ar gyfer tymor Cynnal a Chadw’r Gaeaf sydd ar ei ffordd i Sir Ddinbych.

Mae timau’r Cyngor yn paratoi ar gyfer tymor Cynnal a Chadw’r Gaeaf sydd ar ei ffordd i Sir Ddinbych.

Fel rhan o’r paratoadau hyn, bydd cerbydau graeanu’r Cyngor yn mynd allan ar draws gogledd a de Sir Ddinbych ar 15 ac 16 Hydref ar gyfer taith brawf. Bydd y gyrwyr yn dilyn y llwybrau graeanu arferol i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer y gaeaf, a bydd eu hadborth yn helpu i lywio cynlluniau cynnal a chadw’r Cyngor.

Mae rhwydwaith ffyrdd amrywiol Sir Ddinbych yn ymestyn o ffyrdd gwledig tawelach a lonydd cul sy’n gwasanaethu eiddo anghysbell i’r ffordd ddosbarth A uchaf yng Nghymru a llwybrau rhanbarthol allweddol fel yr A55.

I gael rhagor o wybodaeth am lwybrau graeanu’r Cyngor, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/parcio-ffyrdd-a-theithio/graeanu-yn-y-gaeaf.aspx

Llyr Gruffydd AS yn dysgu am waith rheoli llifogydd naturiol Sir Ddinbych yn Llysfasi

Llyr Gruffydd ASBu’r Gweinidog Cabinet y Senedd dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd AS, yn ymweld â Choleg Cambria Llysfasi ddydd Iau, 8 Hydref, i ddysgu mwy am y gwaith arloesol o reoli llifogydd naturiol sy’n cael ei gyflawni ledled dalgylch Clwyd gan Gyngor Sir Ddinbych.

Yn ystod yr ymweliad, clywodd y Gweinidog sut mae’r Cyngor wedi datblygu rhaglen uchelgeisiol o fwy na 15 o brosiectau rheoli llifogydd naturiol drwy gyllid Llywodraeth Cymru, gyda chwe chynllun eisoes wedi’u cwblhau. Mae’r ymyriadau wedi’u cynllunio i arafu llif dŵr a’i gadw yn y dirwedd am gyfnod hirach, gan helpu i leihau’r risg o lifogydd i gymunedau i lawr yr afon, tra hefyd yn gwella ansawdd dŵr, creu cynefinoedd a chryfhau gwydnwch amgylcheddol.

Roedd yr ymweliad yn arddangos y cynllun yn Llysfasi, sydd wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â staff Coleg Cambria, ac sy’n dangos sut y gall rheoli tir cynaliadwy gyfrannu at wydnwch rhag llifogydd wrth gefnogi ffermio cynhyrchiol. Mae’r prosiect hefyd yn darparu cyfleoedd dysgu gwerthfawr i fyfyrwyr, gan helpu i arfogi ffermwyr a rheolwyr tir y dyfodol â’r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau cydbwysedd wrth gynhyrchu bwyd, gwella’r amgylchedd a chryfhau gwydnwch cymunedol.

Cathryn HughesDywedodd Cathryn Hughes, Swyddog Lliniaru Llifogydd yn Sir Ddinbych: “Mae gweithio’n agos gyda ffermwyr, tirfeddianwyr, sefydliadau addysgol a Llywodraeth Cymru yn hanfodol os ydym am ddatblygu atebion ymarferol a chynaliadwy i’r risgiau llifogydd cynyddol sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd. Mae ymweliadau fel hyn yn gyfle ardderchog i ddangos sut mae rheoli llifogydd naturiol yn dod yn rhan bwysig o’n dull ehangach o leihau’r risg o lifogydd ar draws Sir Ddinbych a dalgylch Clwyd, gan hefyd sicrhau manteision i’r amgylchedd a chymunedau lleol.”

Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol Sir Ddinbych dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Rydym yn croesawu’r cyfle gwych hwn i dynnu sylw at y gwaith lliniaru llifogydd sy’n cael ei gyflawni drwy gyllid Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) Llywodraeth Cymru. Mae safleoedd Rheoli Llifogydd Naturiol, fel yr un yn Llysfasi, wedi bod yn rhan allweddol o uchelgais Sir Ddinbych ar gyfer rheoli risg llifogydd. Maent yn cynnig amddiffyniad i gymunedau a gwydnwch yn erbyn mwy o lifogydd, tra hefyd yn helpu’r Cyngor i gyflawni ei nodau ar gyfer Sir Ddinbych fwy Gwyrdd.”

Cafodd y cynllun rheoli llifogydd naturiol ei ddylunio gan WaterCo, a oedd hefyd yn cefnogi swyddogion Sir Ddinbych yn ystod yr ymweliad.

Ymweliad Llysfasi

Codi dros £500 i elusen Maggie's yng Ngwasanaeth Dinesig y Cadeirydd

Ddydd Sul, 20 Medi, cynhaliwyd Gwasanaeth Dinesig Sir Ddinbych yn Eglwys Sant Pedr, Rhuthun.

Gwasanaeth Dinesig

Dan arweiniad Cadeirydd y Cyngor ar y pryd, y Cynghorydd Bobby Feeley, roedd y gwasanaeth yn cynnwys cyfraniadau gan y Parchedig Luke Bristowe, Caplan y Cadeirydd, Lady Sue Hudson, a Mr David Jones OBE, Uchel Siryf Clwyd, yn ogystal â pherfformiad gan Gôr Cymunedol Rhuthun sy'n Gyfeillgar i Dementia.

Gwasanaeth Dinesig 2

Gwasanaeth Dinesig 2

Cododd y gynulleidfa swm gwych o £510.25 ar gyfer elusen ddewisol y Cynghorydd Feeley, Maggie’s, sy'n darparu cymorth canser o'i chanolfan yng Ngogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Dywedodd y Cynghorydd Feeley (gydag Emma Shuttleworth o Maggie's, isod): “Diolch i bawb a ddaeth draw, a gefnogodd Maggie’s ac a helpodd i wneud y Gwasanaeth Dinesig mor arbennig. Gwerthfawrogir eich haelioni a'ch cyfraniadau yn fawr.”

Maggie\'s

Ers y gwasanaeth, mae'r Cynghorydd Feeley wedi camu i lawr o'i rôl fel Cadeirydd yn dilyn ei phenodiad i Gabinet Cyngor Sir Ddinbych. Bydd Is-gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Scott, bellach yn ei olynu fel Cadeirydd.

 

Cwrs SKITTLES yr Haf yn helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau

Cymerodd grŵp o 10 o bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol ledled Sir Ddinbych ran mewn cwrs datblygiad personol SKITTLES yr Haf, a ddarparwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych.

Roedd y cwrs yn llawn hwyl a gweithgareddau, gan roi cyfle i’r bobl ifanc ddatblygu sgiliau newydd, ennill cymwysterau a rhoi cynnig ar brofiadau newydd.

Fel rhan o’r cwrs, enillodd y 10 person ifanc gymwysterau mewn Hylendid Bwyd, Cymorth Cyntaf a chwrs Agored Phoenix. Cafodd y cwrs ei ddarparu mewn partneriaeth â Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Ngogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ambiwlans Sant Ioan a Sir Ddinbych yn Gweithio.

Cymerodd y bobl ifanc ran mewn arhosiad preswyl ym Mryn Tysilio yn Llangollen, yn ogystal â chwblhau prosiect gardd gymunedol yng Ngorsaf VIBE yn y Rhyl. Bydd y gymuned ehangach yn gallu mwynhau a chael budd o’r lle cymunedol.

Mae’r cwrs wedi helpu pob un o’r bobl ifanc i fagu hyder, datblygu eu sgiliau a chael profiad gwerthfawr i’w helpu gyda chyfleoedd cyflogaeth neu goleg yn y dyfodol.

Gall pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn cyrsiau yn y dyfodol gysylltu â James Salisbury drwy james.salisbury@sirddinbych.gov.uk.

Planhigfa’n meithrin gwely newydd i gefnogi blodau gwyllt

Mae gwely newydd yn llawn cefnogaeth i flodau gwyllt lleol yn dod yn ei flaen yn ein Planhigfa Goed yn Llanelwy.

Mae gwely newydd yn llawn cefnogaeth i flodau gwyllt lleol yn dod yn ei flaen yn ein Planhigfa Goed yn Llanelwy.

Diolch i gymuned o wirfoddolwyr y Blanhigfa Goed, mae lle newydd wedi'i greu y tu allan i'r twneli tyfu i helpu gyda gwaith coed brodorol y safle.

Mae gwirfoddolwyr wedi plannu planhigion dros ben sydd wedi'u tyfu o hadau a gasglwyd ar hyd a lled Sir Ddinbych mewn gwely newydd ei baratoi.

Unwaith y bydd y planhigion yn hadu, bydd yr hadau'n cael eu casglu a'u storio'n briodol yn barod i'w plannu'r tymor canlynol.

Dywedodd Keegan Blazey, Swyddog yn y Blanhigfa Goed: “Mae gennym gymuned wych o wirfoddolwyr yma yn y blanhigfa goed, mae’n wych eu helpu i ddysgu sgiliau newydd ac rydym hefyd yn dysgu drwyddyn nhw diolch i’r profiadau bywyd gwahanol maen nhw’n eu cynnig bob wythnos.

“Bu Francesca, un o’n myfyrwyr sy’n gwirfoddoli, yn ymdrechu’n galed i helpu i greu’r gwely hwn a fydd yn rhoi ffynhonnell hadau wych i ni ar y safle i’n helpu i barhau i ddiogelu a meithrin ein natur leol yn y dyfodol.”

Awydd dod yn Lysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych?

Mae’r cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych, yn gwrs hyfforddiant ar-lein am ddim i wella eich gwybodaeth am y sector twristiaeth yn Sir Ddinbych.

Mae 14 modiwl i ddewis ohonynt ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys cerdded, becio. bwyd, celfyddydau, arfordir, hanes a thwristiaeth gynaliadwy.

Gwyliwch ein ffilm fer sy’n sôn am y cwrs.

Ewch i www.llysgennad.cymru a chychwyn arni heddiw.

 

Cofrestru Llety Ymwelwyr yng Nghymru

Deddf newydd i gofrestru llety ymwelwyr yng Nghymru: Cyhoeddi gweminarau i helpu darparwyr i baratoi

Cofrestru llety i ymwelwyr - posterBydd gofyn i unrhyw un sy'n derbyn archebion ar gyfer llety dros nos yng Nghymru — o westeion achlysurol i weithredwyr gwestai mawr — gofrestru eu llety gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) pan fydd y gofrestr yn lansio'r hydref hwn.

Mae deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn golygu y bydd angen i bob darparwr sy'n cynnig llety i ymwelwyr, boed yn ystafell sbâr sengl, bwthyn gwyliau, gwely a brecwast, neu westy gwasanaeth llawn, gwblhau proses gofrestru ffurfiol. Mae'r gofyniad yn berthnasol p'un a yw gwesteion yn aros am un noson neu sawl wythnos.

Bydd y cynllun cofrestru llety ymwelwyr newydd yn lansio yn hydref 2026. Cyn hyn, mae'r ACC yn annog gwesteiwyr a busnesau i gofrestru am ddiweddariadau fel y gallant dderbyn nodyn atgoffa, canllawiau, a'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r dyddiad cofrestru agosáu. Mae’r broses gofrestru’n rhad ac am ddim ac mae’n orfodol i bob darparwr llety gofrestru hyd yn oed os na chaiff yr Ardoll Ymwelwyr ei chyflwyno yn y pen draw yn y sir. Gallai gall darparwyr sy'n methu â chofrestru wynebu cosbau.

Gweminarau i Gefnogi Gwesteiwyr a Llwyfannau Archebu

Er mwyn helpu i baratoi'r sector, mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cynnig cyfres o weminarau am ddim wedi'u hanelu at ddarparwyr llety ymwelwyr, llwyfannau archebu a chyrff twristiaeth. Bydd y sesiynau hyn yn darparu diweddariadau diweddaraf ar y gofynion cofrestru newydd a chanllawiau clir, ymarferol ar sut y gall darparwyr llety gydymffurfio. Bydd hefyd sesiwn holi ac ateb gydag arbenigwyr ACC.

Dyddiadau'r Gweminarau

Sesiynau Saesneg:

  • Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026, 11am–12pm
  • Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026, 6pm–7pm

Sesiwn Cymraeg:

  • Dydd Iau 26 Mawrth 2026, 11am–12pm

Sut i Gofrestru ar gyfer Gweminar

Gallwch gofrestru ar gyfer gweminar ar y ddolen ganlynol - https://www.llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru/hyfforddiant-digwyddiadau

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer hysbysiadau am y cynllun cofrestru newydd, ewch i https://registervisitoraccommodation.service.gov.wales/email-signup

 

Darganfod Sir Ddinbych...

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Beth am gael ysbrydoliaeth o'n mapiau cerdded a beicio am syniadau newydd o leoedd i ymweld â nhw.

Am fwy o ysbrydoliaeth ar weithgareddau yn Sir Ddinbych a'r cyffiniau ewch i - https://www.northeastwales.wales/cy/ 

Newidiadau i brawf traffig Prestatyn

O ddydd Sadwrn 15 Awst, mae trefniant newydd yn cael ei gyflwyno.

Caiff trefniant newydd ei gyflwyno i brawf traffig Prestatyn fel rhan o ymdrechion parhaus y cyngor i wella llif y traffig a lleihau tagfeydd yng nghanol y dref.

O ddydd Sadwrn 15 Awst, bydd cerbydau yn gallu troi i'r dde o'r B5120 Ffordd Pendyffryn, Prestatyn (wrth deithio o gyfeiriad yr orsaf fysiau/Lidl) i lawr Ffordd y Bont tuag at y gylchfan fach, er mwyn cyrraedd busnesau ar waelod y Stryd Fawr a Pharc Manwerthu Parc Prestatyn.

Bwriad y drofa ychwanegol i’r dde yw lleihau nifer y cerbydau sy'n teithio drwy Barc Manwerthu Parc Prestatyn i gyrraedd busnesau ar ben isaf y Stryd Fawr. Drwy ddarparu llwybr mwy uniongyrchol i yrwyr, mae'r cyngor yn gobeithio gallu lleddfu'r pwysau ar ffyrdd lleol a gwella mynediad i drigolion, ymwelwyr a busnesau.

Awgrymodd gwaith modelu traffig blaenorol ar gyfer yr ardal na fyddai troi i'r dde yn y lleoliad yma yn bosib oherwydd lled y ffordd a chyfyngiadau cysylltiedig y briffordd. Fodd bynnag, yn dilyn gwaith manwl ac adolygiad o'r gofod sydd ar gael ar y ffyrdd, nodwyd datrysiad sy'n caniatáu i'r drofa i’r dde ddigwydd yn ddiogel.

Anogir modurwyr i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio drwy'r ardal wrth i ddefnyddwyr y ffyrdd ymgyfarwyddo â'r trefniant newydd. Bydd arwyddion priodol mewn lle i gyfeirio gyrwyr.

Bydd y cyngor yn monitro symudiadau traffig a lefelau tagfeydd yn ystod y cyfnod prawf er mwyn asesu effeithiolrwydd y newidiadau a phenderfynu unrhyw welliannau yn y dyfodol a allai fod eu hangen.

Cymorth ariannol tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim

Mae cymorth ariannol ar gael tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch a ydych chi'n gymwys ar gael ar y poster isod.

I wneud cais ewch i www.sirddinbych.gov.uk/budd-daliadau neu sganiwch y cod QR.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Tai o ansawdd sy'n bodloni anghenion pobl

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych ffyniannus

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalgar

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych wyrddach

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych yn dysgu ac yn tyfu

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n uchel ei berfformiad

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

2026 Dyddiadau ar gyfer gwiriad pwysau carafanau am ddim a chyngor ar ddiogelwch

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych a Chonwy yn cynnig sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau a faniau gwersylla.

Gall preswylwyr sy’n mynd ar wyliau mewn carafán neu fan wersylla wneud yn siŵr nad ydynt yn gorlwytho eu carafán a rhoi eu hunain mewn perygl.

Mae’r sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau ar gael i drigolion Sir Ddinbych a Chonwy, ac i’r rheini mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill os gallant deithio i’r lleoliad.

Sesiwn gyngor yw hwn, ac ni chymerir unrhyw gamau os canfyddir gorlwytho neu faterion eraill, ond byddwn yn gweithio gyda chi i leihau'r llwyth. Bydd swyddogion y cyngor yng nghwmni swyddog o adran Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru a fydd yn rhoi cyngor diogelwch ymarferol i gadw'ch car a'ch carafan yn ddiogel.

Bydd y gwiriadau pwysau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal ar y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:

  • Dydd Gwener 17/07 – 10am-3pm
  • Dydd Gwener 28/08 – 10am-3pm

Nid oes angen apwyntiad ar gyfer y sesiynau yma ac mae croeso i breswylwyr fynychu unrhyw un o’r sesiynau a restrir a darganfod a ydynt o fewn y pwysau cyfreithlon ar gyfer eu cerbydau.

Gellir dod o hyd i'r bont bwyso ar ffordd yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy, tua thri chwarter milltir o Ruddlan, a leolir yn y gilfan, bydd arwyddion yn nodi bod y bont bwyso ar waith.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr uchod, cysylltwch ag adran Safonau Masnach Sir Ddinbych ar tradingstandards@denbighshire.gov.uk ewch i'w tudalen Facebook, yn yr un modd cysylltwch â Safonau Masnach Conwy ar trading.standards@conwy.gov.uk

Annog trigolion ac ymwelwyr i leihau'r risg o danau gwyllt yng nghefn gwlad

Mae ymwelwyr â chefn gwlad Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymddwyn yn gyfrifol yr haf hwn er mwyn helpu i leihau'r risg o danau gwyllt.

Mae Cyngor Sir Ddinbych a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rhannu’r cyngor hwn yn dilyn tywydd poeth a sych ac achosion diweddar o danau gwyllt ar draws Gogledd Cymru.

Mae Ceidwaid Cefn Gwlad yn barod i ymateb i adroddiadau am danau gwyllt, a gofynnir i ymwelwyr ddilyn cyngor ar atal tanau mewn gwarchodfeydd natur, parciau gwledig ac ardaloedd cyhoeddus agored eraill:

  • Peidiwch â chynnau tanau na barbeciw; dewch â phicnic yn lle
  • Diffoddwch sigaréts yn llwyr
  • Os gwelwch dân gwyllt neu os ydych yn arogli mwg trwm, ewch i le diogel ar unwaith.
  • Ffoniwch 999 a gofynnwch am y gwasanaeth tân. Byddwch yn barod i roi lleoliad manwl gywir neu nodwedd amlwg yn yr ardal.

Anogir ymwelwyr hefyd i ddefnyddio safleoedd gwersylla sefydledig sydd â chyfleusterau, er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar y timau sy'n monitro safleoedd poblogaidd cefn gwlad.

BBQ

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, yr Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Lleol a Chynllunio yng Nghyngor Sir Ddinbych: "Gyda'r tywydd sych hirfaith, rydym yn arbennig o bryderus ynghylch y risgiau o danau gwyllt sy'n gysylltiedig â gwersylla mewn ardaloedd anghysbell.

"Gall tanau mewn glaswellt, rhedyn a grug ledaenu'n gyflym mewn amodau sych a gwyntog. Os gwelwch yn dda, ceisiwch osgoi tanau agored a diffodd deunyddiau ysmygu yn llwyr."

"Rydym yn annog pobl i ddefnyddio safleoedd gwersylla swyddogol a dilyn rheolau'r safle. Bydd ymddwyn yn synhwyrol yn ystod y tywydd poeth hwn yn helpu i gadw ymwelwyr yn ddiogel, cefnogi ein timau a lleihau'r pwysau ar adnoddau.

Ychwanegodd, "Mae'n arbennig o bwysig ein bod oll yn dilyn y canllawiau hyn o ystyried y pwysau presennol ar Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, sy'n delio â thanau gwyllt ar draws y rhanbarth ar hyn o bryd."

Galw ar drigolion Sir Ddinbych helpu dod o hyd i gyn-filwyr sydd â hawl i gyfiawnder

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cefnogi ymgyrch #BattleForLostVeterans2026  sy’n cael ei redeg gan Ymladd gyda Balchder (Fighting with Pride) ac yn annog trigolion lleol, grwpiau cyn-filwyr a sefydliadau cymunedol i helpu i gyrraedd pobl gafodd eu heffeithio gan y gwaharddiad hanesyddol ar bersonél LGBTQ+ oedd yn gwasanaethu'n agored yn y Lluoedd Arfog cyn 2000.

Ymladd gyda BalchderCafodd miloedd eu diswyddo, eu rhyddhau neu eu gorfodi i guddio eu hunaniaeth yn ystod eu gyrfaoedd milwrol. Erbyn hyn, gall cyn-filwyr cymwys fod â hawl i iawndal ariannol o hyd at £70,000, yn ogystal â mesurau adferol eraill.

Er bod llawer o gyn-filwyr eisoes wedi dod ymlaen, mae Ymladd Gyda Balchder yn amcangyfrif bod tua 1,000 o gyn-filwyr cymwys yn dal i fod yn anymwybodol o'r cynllun, neu heb wneud cais amdano eto. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Rhagfyr 2026.

Mae'r cyngor yn annog unrhyw un allai fod yn gymwys, neu sy'n adnabod rhywun a allai gael ei effeithio, i rannu gwybodaeth am yr ymgyrch a helpu i sicrhau bod cyn-filwyr yn derbyn y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth y maent yn ei haeddu.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd y cyngor, a Chefnogwr y Lluoedd Arfog dros Sir Ddinbych, "Mae cyn-filwyr wedi aberthu’n sylweddol wrth wasanaethu eu gwlad ac mae'n bwysig bod y rhai a wynebodd driniaeth annheg oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth yn cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.

"Rydym yn annog trigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau cyn-filwyr ledled Sir Ddinbych i helpu i ledaenu ymwybyddiaeth o'r ymgyrch hon. Drwy rannu'r wybodaeth, gallwn helpu i sicrhau bod unrhyw un a allai fod yn gymwys i gael iawndal yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt cyn y dyddiad cau."

Efallai nad yw rhai unigolion bellach yn uniaethu fel LGBTQ+, efallai nad ydynt yn ystyried eu hunain yn rhan o'r gymuned cyn-filwyr, neu efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd ailymweld â'u profiadau. Felly mae ymwybyddiaeth gymunedol yn hanfodol wrth helpu i gyrraedd y rhai allai fod yn gymwys am iawndal.

Am ragor o wybodaeth a chefnogaeth, ewch i dudalen we iawndal Ymladd Gyda Balchder - https://www.fightingwithpride.org.uk/reparations/

Neu, i wneud cais ewch i www.gov.uk/lgbt-veterans

Buchod wedi dychwelyd i Foel Famau

Mae’r gweithwyr cadwraeth cynefinoedd gorau yn y busnes yn ôl ar frig brysuraf y Bryniau Clwyd.

Nid oes gan y gwartheg gwych yma gradd Gwyddoniaeth Amgylcheddol ond yr hyn sydd ar goll o ran addysg maen nhw’n wneud iawn amdano gyda brwdfrydedd bywiog amdan gadwraeth ein cynefin rhostir. 

Mae’r buchod yma yn rhan o’r gwaith partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Dirwedd Genedlaethol, yn defnyddio dulliau traddodiadol i reoli’r dirwedd rydym yn gofalu amdano.

I ddarllen fwy am y prosiect, cliciwch y ddolen isod:

https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/cy/buchod-wedi-dychwelyd-i-foel-famau/ 

Sut ydych chi'n cofio'r Frenhines Elizabeth?

Gwahoddir pobl ledled y DU, y Gymanwlad a thu hwnt i fapio eu hatgofion o'r frenhines a deyrnasodd hiraf ar Brydain.

Rhannwch eich atgofion amdani a dod yn rhan o archif hanes byw. Cyflwynwch eich rhai chi yn www.queenelizabeth.com/cy

Credydau'r holl luniau: PA Images

A WYDDOCH CHI?

Cael problemau gyda’ch rhyngrwyd? Efallai y gallwn helpu!

Ydy unrhyw un o’r rhain yn broblem i chi? 

🔹 Mae eich rhyngrwyd yn araf neu’n annibynadwy

🔹 Rydych chi’n pendroni pryd y byddwch yn cael Ffibr Llawn

🔹 Nid ydych yn siŵr pa opsiynau eraill sydd ar gael, megis band eang 4G, 5G neu loeren

🔹 Rydych chi’n pendroni a allech chi elwa o gynllun band eang neu gysylltedd gan y llywodraeth

🔹 Rydych chi’n poeni am newidiadau i’r rhwydwaith ffôn copr traddodiadol

🔹 Rydych chi’n poeni am sut y bydd eich llinell dir yn gweithio yn ystod toriad pŵer

Oeddech chi’n gwybod bod gan Sir Ddinbych Swyddog Digidol a all helpu? 💻

Gall ein Swyddog Digidol, Philip Burrows, gynnig cyngor ac arweiniad, eich helpu i ddeall eich opsiynau cysylltedd, rhoi gwybod i chi am gynlluniau y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer a’ch diweddaru am unrhyw gyllid neu gymorth a allai fod ar gael yn eich ardal.

Os oes gennych gwestiwn neu bryder am eich rhyngrwyd neu gysylltedd digidol, cysylltwch â philip.burrows@sirddinbych.gov.uk

Rydyn ni yma i’ch helpu i gadw mewn cysylltiad! 🌐

 

A wyddoch chi y gallwch wylio cyfarfodydd y Cyngor arlein?

Gallwch weld gweddarllediadau byw ac wedi eu recordio o gyfarfodydd pwyllgorau’r Cyngor ar unrhyw adeg.

Mae'r holl bapurau hefyd i'w gweld gan gynnwys yr agenda a phenderfyniadau.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am beth syn digwydd yn y Cyngor, edrychwch ar y calendr cyfarfodydd i weld beth sy’n mynd ymlaen.

A wyddoch chi sut i rhoi eich enw i lawr ar gyfer y Gofrestr Tai?

Ydych chi'n gwybod beth mae SARTH yn ei olygu? Mae SARTH yn sefyll am ‘Single Access Route to Housing’ sef 'Llwybr Mynediad Sengl i Dai’. Dyma lle, os ydych chi am gael eich cynnwys ar y Gofrestr Tai, dim ond un cais y bydd yn rhaid i chi ei wneud. Yn lle gwneud cais i wahanol gymdeithasau tai ar wahân, rydych chi'n cwblhau un cais sy'n cael ei rannu ar draws yr holl landlordiaid hynny sy'n rhan o'r cynllun. Mae ‘Llwybr Mynediad Sengl i Dai’ (SARTH) yn cael ei rannu gan bob darparwr tai cymdeithasol yn Sir Ddinbych. Ar ôl i chi wneud cais i fynd ar y Gofrestr Tai, yna caiff eich angen chi am dy gael ei asesu a'ch bod chi'n cael eich rhoi mewn band blaenoriaeth, gan helpu i sicrhau bod tai'n cael eu dyrannu mewn ffordd deg a thryloyw i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Mae'r holl wybodaeth sydd angen i chi ei gwybod am y cynllun, a sut i wneud cais, ar ein gwefan.

Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn agored i bawb 11 i 25 oed. Mae nhw yn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd cymdeithasol i ddatblygu diddordebau yn ogystal â helpu a chefnogi unrhyw un sydd ei angen. I ddod o hyd i glwb ieuenctid lleol neu i gael cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc, ewch i’n gwefan.

Prydau ysgol am ddim

Mae pob plentyn oed cynradd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy'r cynllun Prydau Ysgol Cynradd Cynradd Cyffredinol. Mae hon yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i sefydlu i helpu gyda'r costau byw cynyddol. Gallwch ddarganfod rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor.

A wyddoch chi fod 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd?

Mae 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd ac fel rhan o hyn, mae'r Cyngor yn archwilio oddeutu 720 o fwytai, caffis a lleoliadau pryd ar glud bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ar gyfer trigolioin Sir Ddinbych.

Yn ogystal, mae'r Cyngor yn ymateb i dros 1,200 o geisiadau bob blwyddyn sy'n berthnasol i dai a llygredd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

Wyddoch chi mai 1.8% o wariant Treth Cyngor sy’n mynd ar wagu biniau ac ailgylchu?

Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd ar wagio biniau ac ailgylchu sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D).

Am hyn, mae’r Cyngor yn casglu oddeutu 73,000 o finiau o fwy na 47,000 o gartrefi bob wythnos ar draws y sir.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi fod 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd?

Mae 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd.

Am hyn, mae’r Cyngor yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a physt wedi’u goleuo

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi bod 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol?

Mae 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol.

Am hyn, mae'r Cyngor yn cludo oddeutu 2,871 o ddisgyblion yn ddiogel i 75 ysgol ledled y sir.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi bod 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion?

Mae 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion.

A gyda 36.7% yn mynd i ysgolion ac addysg, mae hyn yn golygu bod dros 66% o’ch Treth Cyngor yn mynd i warchod y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

A wyddoch chi fod 1.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd?

Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd.

O fewn hyn mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am 1,419km o briffyrdd (ag eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a cheuffosydd, 302 o waliau cynnal a 26,000 o geunentydd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi fod gan Sir Ddinbych yn Gweithio tudalennau ar ein gwefan?

Mae gan Sir Ddinbych yn Gweithio dudalennau ar wefan y Cyngor.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yma i helpu preswylwyr 16 oed a hŷn a allai fod yn ei chael yn anodd neu sy’n poeni am arian. P’un ai a ydych chi’n chwilio am waith neu angen cefnogaeth i godi eich hun yn ôl ar eich traed, mae nhw yma i’ch arwain chi tuag at ddyfodol gwell. Ewch i'n gwefan i gael gweld beth sydd gennyn nhw i gynnig.

A wyddoch chi?

Mae 36.7% o'ch Treth Cyngor yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg, a 29.8% yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol, sy'n golygu bod dros 66% o'ch Treth Cyngor yn mynd ar amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

A wyddoch chi bod 64% o gyllideb y Cyngor yn mynd ar addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol?

Mae 64% o gyllideb y Cyngor yn mynd ar addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol? Mae 14% arall wedi'i neilltuo i bethau fel cynllun cenedlaethol Cymru gyfan ar gyfer budd-dal y Dreth Gyngor a'r ardoll y mae'n rhaid i ni ei thalu i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, sydd wedyn ond yn gadael 22% ar ôl ar gyfer holl wasanaethau eraill y Cyngor gan gynnwys gwagio biniau ac ailgylchu, cynllunio a diogelu'r cyhoedd, diogelu atyniadau treftadaeth, cludo disgyblion i'r ysgol.

Gallwch ddysgu mwy am ble mae'r gyllideb yn mynd ar y tudalennau newyddion.

A wyddoch chi bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?

Oeddech chi'n gwybod bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?

Nid yw'r holl Dreth Cyngor a gesglir yn talu am ddim ond gwasanaethau'r cyngor, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân. I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

Mae Treth y Cyngor yn cynrychioli dim ond 25% o arian y Cyngor

Mae Treth y Cyngor ond yn cyfrif am 25% o gyfanswm cyllid y Cyngor. Pan fyddwch yn talu eich bil Treth y Cyngor blynyddol, mae 1.8% o hwnnw’n talu am gasgliadau gwastraff ac ailgylchu – sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar dreth gyngor eiddo Band D o £1,799.48 y flwyddyn). Mae'r rhan fwyaf o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas - ysgolion ac addysg yw'r gwariant mwyaf sy'n cyfrif am 36.7% tra bod gofal oedolion a gofal cymdeithasol yn cyfrif am 29.8%. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan.

A wyddoch chi fod 1.1% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y gwasanaeth Cefn Gwlad?

Mae 1.1% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Cefn Gwlad sy'n rheoli dros 80 o safleoedd cefn gwlad, dros 1,200 hectar o fannau gwyrdd ar gyfer hamdden a chadwraeth.

Mae'r rhain yn amrywio o Barc Gwledig Loggerheads a Moel Fammau, Planhigfa Goed y Sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Prestatyn Dyserth Way, Llantysilio Green yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o safleoedd cymunedol llai ar draws y Sir.

Mae gan y Gwasanaeth dîm arbenigol yn y maes Ecoleg a Choed ledled y Sir,  y dynodiad Tirwedd Genedlaethol, hamdden a hawliau tramwy, sy'n trefnu teithiau cerdded natur ar gyfer iechyd ac yn rheoli'r Ganolfan Cefn Gwlad yn Loggerheads ac arlwyo ym Mhlas Newydd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant yn wythnosol

Fod Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant wythnosol am ddim ledled y sir – gan gynnwys galwadau heibio, teithiau cerdded llesiant, cefnogaeth i bobl ifanc, a gweithgareddau i hybu hyder. Maen nhw ar agor i holl drigolion Sir Ddinbych 16+ oed, ac yn hollol rhad ac am ddim! Edrychwch ar yr amserlen a’r digwyddiadau diweddaraf yma. 

A wyddoch chi bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd.

Bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd. Mae’n egluro beth allwch chi ei ddisgwyl wrth wneud cais am drwyddedau, yn ystod archwiliadau a gorfodi, a sut i gysylltu neu roi adborth. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan.

A wyddoch chi mai 0.9% o wariant Treth y Cyngor sy'n mynd ar Wasanaeth Treftadaeth y sir?

Mae Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych yn cyfrif am 0.9% o wariant Treth y Cyngor.

Am hyn, mae'n cadw ac yn hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (wedi'i lleoli yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr.

Drwy ddiogelu'r rhain mae'r gwasanaeth yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.

Trwy ein hatyniadau, digwyddiadau a rhaglenni dysgu, rydym yn cefnogi balchder lleol, twristiaeth ddiwylliannol a'r economi wrth amddiffyn treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

Llawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, papurau newydd ac yn y blaen

Gallwch chi lawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, cylchgronau digidol a phapurau newydd am ddim gan ddefnyddio ap Borrowbox? Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN. Ddim yn aelod o'r llyfrgell? Mae ymuno ar-lein am ddim www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd.  

FIDEOS

Gwenoliaid Duon

Wyddoch chi fod ein tîm Bioamrywiaeth hefyd yn gweithio i gefnogi gwenoliaid duon sy'n mudo i Sir Ddinbych yn ystod yr haf?

Wyddoch chi fod ein tîm Bioamrywiaeth hefyd yn gweithio i gefnogi gwenoliaid duon sy'n mudo i Sir Ddinbych yn ystod yr haf? Mae'r adar hyn ar Restr Goch yr DU o Adar sy'n Peri Pryder Cadwraethol. Dysgwch beth rydym yn ei wneud yn y sir a sut gallwch chi helpu drwy wylio'r clip hwn.

Grŵp Casglu Sbwriel Morol

Mae Tîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr wedi dod at ei gilydd i gasglu dros 30 bag o sbwriel ar hyd arfordir Prestatyn. 

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynnal eleni i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol yn yr ardal a all greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

Gall cael gwared ar y sbwriel oddi ar y traeth hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr yn well.

Gwyliwch y clip yma am fwy o wybodaeth.

Cofrestru Llety Ymwelwyr yng Nghymru

Bydd gofyn i unrhyw un sy'n derbyn archebion ar gyfer llety dros nos yng Nghymru — o westeion achlysurol i weithredwyr gwestai mawr — gofrestru eu llety gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) pan fydd y gofrestr yn lansio'r hydref hwn.

Bydd y cynllun cofrestru llety ymwelwyr newydd yn lansio yn hydref 2026. Cyn hyn, mae'r ACC yn annog gwesteiwyr a busnesau i gofrestru am ddiweddariadau fel y gallant dderbyn nodyn atgoffa, canllawiau, a'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r dyddiad cofrestru agosáu.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer hysbysiadau am y cynllun cofrestru newydd, ewch i wefan Awdurdod Cyllid Cymru.

Cnwysyddion Nwy

Yn cynllunio barbeciw yr haf hwn? Pan fydd y nwy yn dod i ben, gwnewch yn siŵr bod y silindr yn mynd i'r lle cywir. Ni ddylid byth roi poteli a silindrau nwy yn eich bin ailgylchu cartref na'ch bin gwastraff cyffredinol. Gwyliwch ein fideo byr i gael cyngor syml ar sut i gael gwared arnynt yn ddiogel.

Beth ddylwn i ei wneud â phapur brown?

Mae papur brown (sy’n cael ei ddefnyddio yn aml ar gyfer pecynnau danfon, bagiau bwyd i fynd neu i bacio o amgylch eitemau mewn bocsys) yn cynnwys ffeibrau fel cardfwrdd nad oes posib’ eu hailgylchu gyda phapur arall. Gwyliwch isod.

Ymweliadau i ysgolion gan y tîm Gwastraff ac Ailgylchu

Dydi hi byth rhy gynnar i ddysgu am ailgylchu! 🧃📦 Mae Tîm Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych yn ymweld ag ysgolion i helpu plant i ddeall beth ellir ei ailgylchu, i ble mae ailgylchu’n mynd, a sut gall pawb wneud eu rhan. ♻️ Gwyliwch ein fideo i ddarganfod mwy. 🎥

BE SY' MLAEN

Glanhau traeth Prestatyn

Mae sesiwn glanhau traeth wedi’i threfnu ar draeth Prestatyn, gan ddechrau o faes parcio Canolfan East Nova – wrth ymyl arwydd Clawdd Offa (LL19 7EY) – ar y 23ain o Dachwedd, rhwng 2yp a 3yp.

Mae sesiwn glanhau traeth wedi’i threfnu ar draeth Prestatyn, gan ddechrau o faes parcio Canolfan East Nova – wrth ymyl arwydd Clawdd Offa (LL19 7EY) – ar y 23ain o Dachwedd, rhwng 2yp a 3yp.

Mae croeso i wirfoddolwyr ymuno â’r digwyddiad sydd wedi ei drefnu gan dîm Risg Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych gydag offer yn cael ei ddarparu gan Gadwch Gymru’n Daclus.

Mae’r bartneriaeth yn gweithio i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol yn yr ardal a all greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr, ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

Gall cael gwared ar y sbwriel oddi ar y traeth hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr yn well. Mae'r sesiwn casglu sbwriel, sydd wedi dod yn ddigwyddiad misol, hefyd yn helpu i wella'r amgylchedd i drigolion lleol ac ymwelwyr.

I gael mwy o wybodaeth am ymuno â’r digwyddiad, cysylltwch â floodrisk@denbighshire.gov.uk /  01824 708399 am fwy o fanylion.

Sesiynau galw heibio i helpu gyda'ch biliau dŵr

Dŵr Cymru Welsh Water - Resource Centre | Esri UK

Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru i helpu i wneud eich biliau dŵr yn fwy fforddiadwy. Mae gan Dŵr Cymru amrywiaeth o gynlluniau cymorth a thariffau ar gael, gyda rhai cwsmeriaid yn arbed hyd at £300 y flwyddyn. Mae cymorth hefyd ar gael i gwsmeriaid sy'n cael trafferth gydag ôl-ddyledion, ynghyd â chymorth ymarferol drwy'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth i'r rhai a allai fod angen help ychwanegol oherwydd oedran, salwch, anabledd neu amgylchiadau eraill.

Dewch i un o'r sesiynau galw heibio i gael gwybod pa gymorth allai fod ar gael i chi a derbyn help gyda cheisiadau.

Mae’r sesiynau am ddim ac nid oes angen apwyntiad.

  • 29 Medi: Llyfrgell a Siop Un Alwad, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl LL18 3AA (2pm - 4pm)
  • 14 Hydref: Gorsaf VIBE, 40 Stryd Bodfor, Y Rhyl LL18 1AT (1pm - 4pm)
  • 16 Hydref: Llyfrgell Prestatyn, 21 King's Avenue, Prestatyn LL19 9AA (10am - 1pm)
  • 21 Hydref: HWB Dinbych, Ffordd Smithfield, Dinbych LL16 3RG (1pm - 2.30pm)
  • 26 Hydref: Llyfrgell Prestatyn, 21 King's Avenue, Prestatyn LL19 9AA (10am - 1pm)
  • 28 Hydref: Gorsaf VIBE, 40 Stryd Bodfor, Y Rhyl LL18 1AT (10am - 2pm)
  • 30 Hydref: Llyfrgell a Siop Un Alwad, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl LL18 3AA (11am - 2pm)
  • 30 Hydref: Ystafell Siambr y Cyngor Tref, 7 Ffordd Nant Hall, Prestatyn LL19 9LR (3pm - 4.30pm)
  • 3 Tachwedd: Ystafell Siambr y Cyngor Tref, 7 Ffordd Nant Hall, Prestatyn LL19 9LR (9am - 11.30am)
  • 3 Tachwedd: Llyfrgell a Siop Un Alwad, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl LL18 3AA (1pm - 4pm)
  • 9 Tachwedd: HWB Dinbych, Ffordd Smithfield, Dinbych LL16 3RG (9.30am - 11am)
  • 11 Tachwedd: Gorsaf VIBE, 40 Stryd Bodfor, Y Rhyl LL18 1AT (11am - 2pm)
  • 12 Tachwedd: Canolfan ASK, 9 Stryd Water, Y Rhyl LL18 1SP (10.30am - 1.30pm)
  • 20 Tachwedd: Llyfrgell Dinbych, Y Sgwâr, Dinbych LL16 3NU (12pm - 4pm)
  • 23 Tachwedd: HWB Dinbych, Ffordd Smithfield, Dinbych LL16 3RG (10.30am - 12pm)
  • 9 Rhagfyr: Gorsaf VIBE, 40 Stryd Bodfor, Y Rhyl LL18 1AT (11am - 2pm)

Mae gan Dŵr Cymru ardaloedd ffocws lle gallant gynnal gwaith allgymorth ychwanegol. Mae'r Rhyl, Prestatyn a Dinbych yn ardaloedd lle mae nhw yn canolbwyntio arnynt ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae nhw yn edrych ar gynnal sesiynau ychwanegol yn Rhuddlan, Llanelwy a de Sir Ddinbych yn y flwyddyn newydd.

Gwahodd Busnesau Gogledd Cymru i Ddigwyddiad Sgiliau

Mae busnesau ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i fynychu Sgiliau Gogledd Cymru: Cynllun Newydd, Atebion Ymarferol, digwyddiad rhanbarthol sydd wedi’i gynllunio i helpu cyflogwyr i fynd i’r afael â heriau’r gweithlu a chael mynediad at gymorth ymarferol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Venue Cymru, Llandudno, ddydd Iau 12 Tachwedd 2026 (9yb i 1.30yp), a bydd yn dod â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau cymorth ynghyd i lansio Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth newydd Gogledd Cymru.

Invitation

Bydd y digwyddiad yn cynnig cyngor ac arweiniad i fusnesau ar recriwtio, cadw staff, datblygu sgiliau a chynllunio’r gweithlu, yn ogystal ag amlygu’r ystod o gyfleoedd cymorth, cyllid a hyfforddiant sydd ar gael ledled y rhanbarth.

Mae ffigurau o Gynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru yn amlygu maint yr her sy’n wynebu cyflogwyr, gyda 53% o fusnesau yn nodi recriwtio fel eu prif her a 56% yn adrodd eu bod yn wynebu prinder sgiliau yn eu gweithlu.

Bydd mynychwyr yn cael cyfle i gysylltu’n uniongyrchol â sefydliadau sy’n gallu cefnogi eu busnes, dysgu mwy am y ddarpariaeth sgiliau a hyfforddiant gyfredol, a chael atebion ymarferol i heriau datblygu’r gweithlu.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, sy’n gweithio gydag cyflogwyr, darparwyr addysg a phartneriaid yn y sector cyhoeddus i sicrhau bod y ddarpariaeth sgiliau yn diwallu anghenion economi’r rhanbarth.

Manylion y Digwyddiad

  • Sgiliau Gogledd Cymru: Cynllun Newydd, Atebion Ymarferol
  • Venue Cymru, Llandudno
  • Dydd Iau 12 Tachwedd 2026
  • 9yb i 1.30yp

Gall busnesau gofrestru am le am ddim drwy Eventbrite.

Am ragor o wybodaeth am gymorth sgiliau a chyflogaeth yng Ngogledd Cymru, ewch i wefan Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

Camu’n ôl mewn amser i glywed straeon am Rhuthun mewn digwyddiad treftadaeth yr hanner tymor hwn

Cynhelir digwyddiad rhad ac am ddim dan ofal Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (sydd wedi’u lleoli yn Amgueddfa Carchar Rhuthun) ar 27 Hydref, fydd yn cynnwys ffilm, gweithgareddau creadigol a chyfleoedd i archwilio hanes lleol fel rhan o Ddiwrnod Treftadaeth Clyweledol y Byd 2026.

FfenestrWedi’i ysbrydoli gan thema eleni, sef “Eich Ffenestr ar y Byd”, bydd y digwyddiad yn dangos sut y gall archifau helpu pobl i ddarganfod safbwyntiau newydd am eu cymuned a’i hanes.

Bydd cyfle i ymwelwyr wylio ffilm arbennig wedi’i churadu sy’n olrhain hanes Rhuthun dros y degawdau, creu cardiau post wedi’u hysbrydoli gan archifau, ac archwilio arddangosfa o ffotograffau hanesyddol, gan gynnwys portreadau Fictoraidd Carte de Visite.

Caiff ffilm fer newydd ei dangos am y tro cyntaf yn ystod y prynhawn, sef ffim a gomisiynwyd gan Archifau Cymru, sy’n tynnu sylw at y straeon a’r trysorau sy’n aros i gael eu darganfod mewn archifau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, “Mae archifau’n helpu i ddod â’n hanes yn fyw, gan ein cysylltu â’r bobl, y lleoedd a’r straeon sydd wedi siapio ein cymunedau. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i drigolion ac ymwelwyr o bob oed archwilio treftadaeth Rhuthun, darganfod cofnodion hynod ddiddorol o’r gorffennol a hyd yn oed greu cysylltiadau â hanes lleol. Rwy’n annog pawb i ddod draw i weld trysorau ein harchifau.”

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, yn addas i deuluoedd ac yn agored i bawb.

Manylion y digwyddiad

Beth: Diwrnod Treftadaeth Clyweledol y Byd 2026
Pryd: Dydd Mawrth, 27 Hydref, 1.30pm – 4.30pm
Ble: Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn Amgueddfa Carchar Rhuthun, Stryd Clwyd, Rhuthun, LL15 1HP

EIN HYSGOLION

Mwy na 1,000 o blant Sir Ddinbych yn cymryd rhan yng nghynllun Bwyd a Hwyl

Bu dros 1,000 o blant lleol yn cymryd rhan yng nghynllun Bwyd a Hwyl eleni, rhaglen 12 diwrnod o hyd a gynhaliwyd gan Ysgolion Iach Sir Ddinbych.

Cafodd y cynllun, sy’n addysgu plant am fwyta’n iach ac yn darparu gweithgareddau diddorol i bobl ifanc ar draws y Sir, ei gynnal yn ystod gwyliau’r haf, a bu plant o ysgolion cynradd ac uwchradd Sir Ddinbych yn cymryd rhan.

Fe amrywiodd y gweithgareddau o ddrymio a sesiynau cerddoriaeth i ysgol y goedwig a sgiliau syrcas. Rhoddodd y sesiynau bwyta’n iach y cyfle i blant ddysgu am ddiet cytbwys, trio bwydydd newydd a datblygu sgiliau coginio mewn ffordd hwyliog a diddorol, tra’n datblygu eu gwybodaeth am faeth, ffyrdd o fyw iach a phwysigrwydd cadw’n heini.

Wedi’i lansio yn wreiddiol yng Nghymru yn 2015, cafodd Bwyd a Hwyl ei ddatblygu i fynd i’r afael â phryderon am blant llwglyd dros y gwyliau, arwahanrwydd cymdeithasol a llai o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau corfforol yn ystod gwyliau haf ysgolion.

Ers hynny, mae’r rhaglen wedi cefnogi miloedd o blant ar hyd a lled Cymru trwy ddarparu prydau maethlon, gweithgareddau cyfoethogi a phrofiadau cadarnhaol mewn amgylchedd ysgol diogel a chyfarwydd. Pan gynhaliwyd sesiynau mewn ysgolion uwchradd, bu modd i blant ddod yn gyfarwydd ag amgylchedd yr ysgol, helpu i leddfu pryderon a chefnogi cyfnod pontio cadarnhaol o addysg gynradd i uwchradd.

Dywedodd cynrychiolydd o dîm Ysgolion Iach Sir Ddinbych:

“Mae hi wedi bod yn wych gweld cymaint o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn rhaglen Bwyd a Hwyl eleni. O ddysgu sgiliau coginio newydd a thrio bwydydd iach i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau cyffrous, mae’r plant a phobl ifanc wedi croesawu pob cyfle. 

Nid yn unig mae’r rhaglen wedi cefnogi eu hiechyd a’u lles, ond mae wedi helpu iddynt fagu hyder, gwneud ffrindiau newydd a chreu atgofion dros wyliau’r haf.  Rydym yn ddiolchgar iawn i’n cydlynwyr a staff ysgol, partneriaid a gwirfoddolwyr a fu’n helpu i wneud y rhaglen yn gymaint o lwyddiant.”

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Teuluoedd, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae cynlluniau fel hyn yn helpu plant i ddysgu a deall pwysigrwydd ffordd o fyw iach a phwysigrwydd cadw’n heini.

Cymerodd mwy na 1,000 o blant ran eleni, ac fe hoffwn ddiolch i dîm Ysgolion Iach Sir Ddinbych am eu gwaith caled yn cynnal y sesiynau yma ar hyd a lled ein Sir.”

Wal derfyn well yn Ysgol Pentrecelyn

Mae wal derfyn newydd sbon wedi cael ei gosod mewn ysgol yn ne Sir Dinbych, gan roi edrychiad newydd i flaen yr ysgol.

Yn dilyn archwiliad a ddaeth i’r casgliad bod rhannau o’r strwythur gwreiddiol yn anniogel, tynnwyd y wal wreiddiol at Ysgol Pentrecelyn i lawr, tra bod y gwaith o adeiladu wal newydd yn digwydd.

Fe adeiladwyd y wal newydd yn defnyddio calchfaen a defnyddiwyd tua 50 tunnell o garreg.

Trefnwyd y gwaith ailadeiladu llawn er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar yr ysgol, ac roedd angen cau’r ffordd yn llwyr tra bod y gwaith yn cael ei wneud.  

Yn ystod y gwaith, tynnwyd rhan arall o’r wal i lawr, a gosodwyd tarmac yn yr ardal i ehangu’r maes parcio.

Meddai Andrew Evans, Pennaeth Ysgol Pentrecelyn:

“Mae’n bleser gennym weld y wal derfyn newydd yma wedi’i gorffen, ac mae wedi gwella ymddangosiad yr ysgol ac wedi cryfhau’r croeso rydym yn ei roi i ddisgyblion, teuluoedd ac ymwelwyr. Mae’r prosiect yn sicrhau bod y safle’n parhau’n ddiogel tra’n cadw cymeriad ein hysgol a’i lleoliad gwledig trwy ddefnyddio calchfaen traddodiadol.

Fe hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Ddinbych a phawb sydd wedi bod yn rhan o gyflawni’r prosiect, yn enwedig am drefnu’r prif waith adeiladu yn ystod gwyliau’r haf i amharu cyn lleied â phosibl ar ein disgyblion a’r gymuned. Fe fydd y gwelliannau, yn cynnwys y ddarpariaeth parcio ychwanegol, o fudd enfawr i’r ysgol am sawl blwyddyn i ddod. Mae’r wal derfyn newydd wedi trawsnewid y fynedfa i Ysgol Pentrecelyn ac mae’n ased gwirioneddol i’n hysgol.”

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae’n wych gweld y gwelliant pwysig yma wedi’i gwblhau yn Ysgol Pentrecelyn. Mae’r prosiect newydd yma wedi gwneud y safle’n fwy diogel, wedi gwella’r fynedfa i’r ysgol a chadw cymeriad ei lleoliad gwledig. 

Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o gyflawni prosiect o safon uchel a fydd o fudd i’r ysgol am nifer o flynyddoedd i ddod.”

Rysáit ar gyfer gwaith tîm yn Ysgol Dinas Brân!

Yn ddiweddar, cafodd disgyblion TGAU Bwyd a Maeth Ysgol Dinas Brân, Llangollen her goginio gyffrous gan Dîm Cogyddion y Corfflu Logisteg Brenhinol!

Rhoddodd y sesiwn ryngweithiol eu sgiliau ar brawf wrth iddynt gydweithio dan bwysau, heb unrhyw gynhwysion ffres wrth law. Roedd yr her yn ymwneud â llawer mwy na choginio yn unig – roedd angen i’r disgyblion gyfathrebu, dangos sgiliau arwain, datrys problemau a meddwl yn greadigol, gan addasu i sefyllfaoedd oedd yn newid, mewn awyrgylch hwyliog a chystadleuol.

Aeth y ddau ddosbarth ati i wynebu’r her yn wych, gan ddangos gwaith tîm, gwydnwch a chreadigrwydd arbennig wrth baratoi eu seigiau yn erbyn y cloc.

Dywedodd Miss King, Pennaeth Bwyd a Maeth yr ysgol: “Roedd gwaith tîm a phroffesiynoldeb y disgyblion, yn ogystal ag ansawdd y seigiau y llwyddon nhw i’w creu dan bwysau amser a heb gynhwysion ffres, wedi creu argraff fawr arnaf. Roedd yn ddiwrnod gwych!”

Roedd y profiad yn gyfle gwych i’n disgyblion roi eu sgiliau ar waith, magu hyder a datblygu sgiliau bywyd gwerthfawr a fydd yn eu helpu yn eu hastudiaethau yn y dyfodol – wrth gael llawer o hwyl ar yr un pryd!

                                         

Disgyblion Ysgol Gymraeg Henllan yn rhannu neges bwysig am bresenoldeb yn yr ysgol

Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Henllan wedi rhoi cynnig ar fod yn gyflwynwyr newyddion er mwyn helpu i ledaenu neges bwysig am werth dod i’r ysgol bob dydd.

Cyn gwyliau’r haf, bu Miss Glover yn gweithio gyda disgyblion Blwyddyn 6 i greu fideo ar ffurf rhaglen newyddion, gan atgoffa disgyblion a theuluoedd o bwysigrwydd mynychu’r ysgol yn rheolaidd, cyrraedd ar amser ac, lle bo modd, osgoi mynd ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol.

Gwnaeth y disgyblion waith gwych ac mae’r ysgol yn hynod falch o’r fideo gorffenedig – ac o’r neges bwysig y maent wedi’i rhannu.

Yn Ysgol Gymraeg Henllan, mae presenoldeb da yn flaenoriaeth allweddol. Mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn rhoi cyfle i blant ddysgu, datblygu cyfeillgarwch, magu hyder a chymryd rhan yn y llu o weithgareddau a phrofiadau sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn ysgol.

Mae gwella presenoldeb hefyd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, gyda’r ysgolion a’r partneriaid yn cydweithio i gefnogi plant a theuluoedd a helpu i sicrhau bod gan bob plentyn y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo.

Mae’r ysgol yn deall bod gwyliau teuluol yn gyfle pwysig i dreulio amser gyda’n gilydd a chreu atgofion. Fodd bynnag, gall mynd ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol olygu bod plant yn colli dysgu gwerthfawr a gall amharu ar eu trefn ddyddiol.

Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn bwysig, ac mae’r ysgol yn annog teuluoedd i wneud y gorau o gyfnodau gwyliau’r ysgol lle bo modd, yn hytrach na gofyn am ganiatâd i gymryd gwyliau yn ystod tymor yr ysgol.

Diolch yn fawr i’r holl ddisgyblion, staff a rhieni a fu’n rhan o’r gwaith o greu’r fideo – rydyn ni’n meddwl eu bod wedi gwneud gwaith AMAZING!

Dywedodd Lynne Jones, Pennaeth Ysgol Gymraeg Henllan:

“Mae presenoldeb rheolaidd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn hynod falch o’n disgyblion Blwyddyn 6 am yr ymdrech y maent wedi’i rhoi i greu’r fideo hwn ac am rannu neges mor bwysig gyda’n cymuned ysgol.

“Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau ei wylio gymaint ag y gwnaethom ni ei fwynhau wrth ei greu!”

Gallwch wylio'r fideo drwy glicio ar y ddolen yma, a fydd yn mynd a chi i dudalen Facebook yr ysgol.

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw