Nantclwyd y Dre yn ailagor
Bydd Nantclwyd y Dre yn ailagor ar 7fed Ebrill ar gyfer tymor 2018. Rydym yn edrych ymlaen unwaith eto at groesawu ymwelwyr i fynd i archwilio tŷ tref pren hynaf Cymru a phrofi bywyd i’r bobl a fu’n byw uno dros y blynyddoedd, o'r cyfnod Canoloesol hyd at yr Ail Ryfel Byd.
Waeth beth oedd y tywydd, mae gwaith wedi parhau dros fisoedd y gaeaf yng ngerddi Nantclwyd gyda’n gwirfoddolwyr gwych yn cynorthwyo i gynnal a datblygu’r gerddi!
Yn ôl Garddwraig Nantclwyd, Hayley Proudfoot, gall ymwelwyr weld 24 math gwahanol o diwlipau, cennin pedr, clychau’r gog a blodau ar ein coed ffrwythau ar hyd a lled yr ardd y gwanwyn hwn. Bydd dros 40 math gwahanol o rosod yn blodeuo a bydd yr ardd lysiau yn ffynnu gydag amrywogaethau traddodiadol, gan gynnwys moron Ffrengig, moron amryliw, tatws 'pink fir apple' a ffa.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Nantclwyd y Dre wedi ennill Gwobr Trysor Cudd 2018 unwaith eto ar gyfer ‘atyniadau sydd yn darparu profiad arbennig a chofiadwy i ymwelwyr'!
Mae gwybodaeth am ddiwrnodau agored, amseroedd agor a phrisiau i’w gweld ar ein gwefan.
Mae gennym ddigwyddiadau cyffrous ar y gweill yn Nantclwyd y Dre ar gyfer Gwanwyn 2018:
Helfa Trychfilod! - Dydd Llun, 28 Mai
11am tan 2pm
Helfa natur dywysedig o amgylch Gardd yr Arglwydd er mwyn gweld a dysgu am y trychfilod diddorol sy'n byw yma. Addas i bob oedran. Rhaid i bob plentyn ddod yng nghwmni oedolyn.
Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad.
Diwrnod Natur yn Nantclwyd y Dre – Dydd Sadwrn 9 Mehefin
10am tan 5pm
Dewch i archwilio Gerddi Nantclwyd a’n helpu ni gyda’n Blits Bioamrywiaeth. Siaradwch â’r arbenigwyr a dysgwch fwy am y creaduriaid a'r planhigion sydd yn Nantclwyd a sut y gallwch chi helpu bywyd gwyllt yn eich gardd. Beth wnewch chi ei weld yma?
Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad.
Cwrdd â’r Garddwyr - Dydd Llun 25 Mehefin
2pm tan 3pm
Beth fyddai gardd heb ei garddwyr? Dewch i gyfarfod y rhai sy’n gweithio’n galed i gadw gerddi Nantclwyd y Dre’n iach ac yn ffynnu. Gofynnwch gwestiynau a cheisiwch gyngor ac ysbrydoliaeth gan ein tîm ymroddgar a chyfeillgar. Bydd y pnawn yn cynnwys cerdded o amgylch y safle a sesiwn holi ac ateb i ddilyn yng Ngardd y Gegin.
Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad.
I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Facebook/Twitter/Instagram @nantclwydydre