llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 5

Cynllun prawf o ficro-sglodynnu ar waith ar draws y Sir

Mae dros 650 eiddo yn y Sir wedi bod yn rhan o gynllun treialu lle gosodwyd microsgoldion ar gadis gwastraff bwyd.

Bob wythnos, mae’r Cyngor yn casglu gwastraff bwyd trwy’r system casglu cadi oren.  Mae’r gwastraff bwyd y mae Sir Ddinbych yn ei gasglu yn cael ei ddanfon i gyfleuster compostio anaerobig ger Llanelwy ac yn cael ei droi i wrteithiwr pridd defnyddiol i ffermwyr gogledd Cymru.  Mae’r broses hefyd yn cynhyrchu ynni gwyrdd i tua 2000 o gartrefi.

Mae’r cynllun treialu ar waith mewn pedair cymuned (mewn rhannau o Gorwen, Rhuthun, Prestatyn a’r Rhyl) ac mae’n rhan o ymgyrch y Cyngor i wella cyfraddau ailgylchu, cyn i newidiadau mawr i wasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y Sir ddod i rym yn 2021.

Trwy’r wybodaeth a gesglir bydd modd i’r Cyngor gael gwybod pa eiddo sydd wedi rhoi eu cadi allan neu beidio.   Bydd yn helpu’r Cyngor i gasglu data monitro yn gyflym ac yn effeithlon, ac yn eu galluogi i ymweld â phobl nad ydynt yn defnyddio’r system cadi oren dros gyfnod hir a chynnig cymorth i’w hannog i ailgylchu.  Mae’r Cyngor eisoes yn casglu’r wybodaeth hon â llaw ond mae’n cymryd amser a thrwy ryddhau’r amser yma, gallai staff siarad gyda phobl sydd angen rhagor o gefnogaeth i ailgylchu. Gall yr wybodaeth rydym yn ei chael â llaw fod yn anghywir gan nad yw hi’n bosibl bob tro i wybod i ba eiddo y mae’r cadi’n perthyn.

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda chwmni o’r enw Schaefer sydd wedi datblygu’r feddalwedd ac sydd wedi cynnig y cyfnod prawf yn rhad ac am ddim er mwyn i’r Cyngor archwilio manteision y system newydd a chael dealltwriaeth o’r adborth gan breswylwyr, yn ogystal â gweld pa mor dda yw’r feddalwedd. 

Os bydd y system yn ein helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu, bydd y Cyngor yn ystyried ymestyn yr ardaloedd treialu ym mis Ionawr.

Dywedodd Tony Ward, Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol Sir Ddinbych: “Er bod Sir Ddinbych ymhlith yr uchaf o ran yr ailgylchwyr gorau yn y DU, gwastraff bwyd yw chwarter y gwastraff a deflir yn ein biniau du.  Er mwyn cyrraedd ein targedau ailgylchu sydd wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn ailgylchu’r gwastraff bwyd, nid ei daflu.

“Dros y 6 mis nesaf rydym yn lansio amrywiaeth o brosiectau er mwyn cael pobl i ailgylchu gwastraff bwyd am y tro cyntaf, yn ogystal ag annog rhai sydd eisoes yn ailgylchu i ailgylchu mwy.

“Bydd y prosiect yma yn torri tir newydd a byddwn yn dilyn canlyniadau’r fenter hon yn frwd, er mwyn gweld os bydd yn gwneud gwahaniaeth i gyfraddau ailgylchu ac ymateb y cyhoedd i’r cynllun”. 

Bydd tîm ailgylchu’r Cyngor i’w gweld yn y cymunedau dros yr wythnosau nesaf er mwyn siarad â phreswylwyr. Bydd y preswylwyr sydd yn byw yn yr ardaloedd treialu wedi derbyn llythyr yn eu hysbysu pryd fydd y tîm ailgylchu ar gael.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...