Gorsaf trosglwyddo gwastraff ac ailgylchu arfaethedig

Cynhaliwyd ymgynghoriad yn ddiweddar ar gynlluniau i gael cyfleuster trosglwyddo gwastraff ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych.
Mae gan y Cyngor ddau ddepo gwastraff ac ailgylchu ar hyn o bryd yn Rhuthun a Pharc Cinmel ym Modelwyddan, ond mae’r ddau gyfleuster yn hen ac mae angen llawer o fuddsoddiad a gwaith gwella mawr.
Erbyn hyn, rydym eisiau darparu lleoliad canolog i’r Cyngor gasglu gwastraff ac ailgylchu a fydd yn galluogi i ni ddidoli eitemau ailgylchadwy.
Mae’r datblygiad yn ffurfio rhan o ddatblygiad mwy ar yr ystâd ddiwydiannol sy’n cael ei gynnig gan gonsortiwm sydd yn cynnwys y Cyngor, Yard Space Wales Ltd, Henllan Bread, Lock Stock ac Emyr Evans. Dan y cynnig byddai’r cwmnïau yma’n ymestyn eu busnesau ar yr ystâd ac yn darparu unedau ychwanegol i gefnogi busnesau presennol a rhai newydd. Bydd y ddatblygiad yn fuddsoddiad sylweddol yn yr Ystâd ac mae’n cynnig posibilrwydd o greu nifer fawr o swyddi.
Yn amodol ar gymeradwyaeth, rydym yn disgwyl cychwyn gweithio ar y safle yn gynnar yn haf 2020 gyda’r bwriad o fod â depo gweithredol erbyn mis Medi 2021.
Mae’r cyfleuster arfaethedig yn ffurfio rhan fawr o’r modd y mae’r Cyngor yn bwriadu darparu a rheoli newidiadau sylweddol i’w gasgliadau gwastraff ac ailgylchu ar draws y Sir. Disgwylir y bydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno yn y sir mewn dwy flynedd.
Trwy sefydlu cyfleuster trosglwyddo gwastraff, bydd modd i ni foderneiddio’r gwasanaeth a sicrhau ailgylchu o ansawdd gwell a fydd yn helpu i dalu am gasglu gwastraff gan breswylwyr yn y dyfodol. Mae’n golygu y gallwn wneud y gwaith o wahanu’r ailgylchu a beilio deunyddiau ein hunain heb orfod talu am gwmni allanol i wneud y gwaith.
Byddwn hefyd yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i gael trwydded ar gyfer y cyfleuster. Byddem yn sicrhau fod y cyfleuster wedi’i reoli’n dda, yn cael ei gadw’n lân ac yn cadw’r arogl o fewn y cyfleuster.