llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 5

Tai fforddiadwy yn cynyddu yn Sir Ddinbych

Roedd traean y tai a ddarparwyd yn Sir Ddinbych dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dai fforddiadwy.

Ers 2017 mae 30% o'r tai sydd wedi eu darparu yn y sir wedi eu dosbarthu fel rhai fforddiadwy ac maent yn cynnwys tai newydd, tai gwag sydd wedi dod yn ôl i ddefnydd a chyn dai cyngor sydd wedi eu hail brynu, sy'n gyfanswm o 154 o dai fforddiadwy.

Mae'r Cyngor wedi addo cefnogi datblygu 1000 o dai newydd yn Sir Ddinbych rhwng 2017 a 2022 gyda 260 o’r rhain wedi eu dynodi fel tai fforddiadwy a 170 fel tai cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Roedd y cyngor yn gweld angen i sicrhau fod tai ar gael i ddiwallu anghenion preswylwyr Sir Ddinbych. Fe wnaethom ni dai yn flaenoriaeth yn ein Cynllun Corfforaethol ac rydym yn cyflawni ein haddewid i ddarparu ystod eang o lety i weddu i anghenion gwahanol ac mae tai fforddiadwy yn rhan bwysig o hyn.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda datblygwyr ac mewn partneriaeth gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau fod y galw yn y sir yn cael ei ddiwallu.

“Drwy adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi digwydd rydym yn disgwyl cynnydd yn lefel y tai fforddiadwy sy’n cael eu cwblhau dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae darparu mwy o dai a mwy o dai fforddiadwy yn benodol ar draws ein cymunedau yn rhan o’n gwaith i sicrhau ein bod yn cadw mwy o bobl ifanc yn y sir.

“Mae hyn hefyd yn rhan o’n hymdrechion i atal digartrefedd a darparu mwy o opsiynau i sicrhau llety hirdymor, cynaliadwy i’r rhai sy’n anffodus wedi canfod eu hunain yn ddigartref.”

Yn ogystal ag eiddo sydd wedi eu hadeiladu yn barod, mae yna 60 o unedau tai fforddiadwy ar hyn o bryd ar safleoedd cymysg sydd yn y broses o gael eu hadeiladu yn Rhewl, Rhuddlan, Llangollen, Rhyl, Llanfair DC a Dyserth.

Mae disgwyl i 156 o unedau eraill ar safleoedd lle mae’r cyfanswm o dai fforddiadwy yn 100% i gael eu cwblhau erbyn 2020, gan gynnwys safleoedd yn Nhrefnant a’r Rhyl.

Ymhlith y safleoedd gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer tai cyngor newydd mae safle cyn Ysgol Bodnant, Prestatyn a The Dell, Prestatyn ac mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno ar gyfer 22 o dai newydd ger Tan y Sgubor, Dinbych Uchaf.

Mae’r holl dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu i'r safon uchaf o ran effeithlonrwydd ynni.

Hefyd, mae eiddo ar Ffordd Brighton, Y Rhyl wedi ei adnewyddu gan y Cyngor i greu tri rhandy newydd.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...