llais y sir

Llais y Sir: Gorffennaf 2022

Croeso gwell i ymwelwyr yn Rhaeadr y Bedol, Llantysilio

Ar ôl chwe mis o baratoi mae’r ardal o amgylch y tŷ mesur yn Rhaeadr y Bedol wedi cael ei thrawsnewid i greu croeso gwell i ymwelwyr.

Mae cwt y fforddoliwr a’r sied estyll atal wedi cael eu hadfer yn llawn ac mae panel dehongli wedi cael ei osod, mae’r rheiliau a’r pibelli ar y tŷ mesur wedi cael eu rhwbio a’u hail-baentio ynghyd â gosod rheiliau eraill o amgylch yr ardal. Cafodd y gwaith ei gyflawni gan y prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, sy’n gynllun partneriaeth tirwedd wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi’i leoli yn Nyffryn Dyfrdwy a’i gefnogi gan Glandŵr Cymru.

Mae’r gwaith wedi bod yn bosibl gan gronfa gyfalaf y Pethau Pwysig gan Lywodraeth Cymru, sy’n cefnogi awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol i ddarparu gwelliannau a fydd yn elwa cymunedau ac ymwelwyr, gyda phrosiectau cefnogi i helpu lliniaru pwysau mewn ardaloedd sy’n gweld cynnydd yn niferoedd yr ymwelwyr.

Meddai Kate Thomson, Swyddog Partneriaeth Ein Tirlun Darluniadwy: “Diolch i arian gan Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r ardal o amgylch y tŷ mesur wedi ei drawsnewid i greu croeso gwell i ymwelwyr.

Er mwyn dathlu hyn, fe wnaethom agor Cwt y Fforddoliwr i’r cyhoedd yn ffurfiol am y tro cyntaf.  Mae wedi cau ers nifer o flynyddoedd ac ar ôl ei adfer yn llawn, mae wedi cael ei addurno a’i ddodrefnu fel petai’r fforddoliwr a fyddai’n gyfrifol am gynnal a chadw’r rhan honno o’r gamlas, wedi mynd allan i’w waith ac y byddai’n ôl yn fuan!  Gellir dod o hyd i Gwt y Fforddoliwr gyferbyn a’r tŷ mesur ar lwybr tynnu’r gamlas.

Rydym yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr i’w agor, ac wrth symud ymlaen, os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn helpu, cysylltwch â ein.tirlun.darluniadwy@sirddinbych.gov.uk  neu ffoniwch 01824 706163."

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru: “Rydym yn ymwybodol iawn o’r rôl bwysig mae amwynderau twristiaeth lleol yn ei gael ar brofiad cyffredinol rhywun pan maent yn mynd allan am ddiwrnod neu fynd ar wyliau. Yn aml, nid yw pobl yn sylwi ar y cyfleusterau hyn, ond maent yn rhan bwysig o brofiadau pobl pan maent yn ymweld â Chymru, ac maent hefyd yn elwa’r rhai sy’n byw yn yr ardal.”

Wedi’i ddodrefnu fel petai’r fforddoliwr ar ei ffordd yn ôl ar unrhyw foment!

CEFNDIR Y PROSIECT

Mae’r prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ yn canolbwyntio ar dirwedd Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte. Mae’n defnyddio’r thema teithiau ysbrydoledig sydd wedi bod, ac yn parhau i fod, yn nodwedd o'r ardal sy’n cynnwys y Gamlas, Ffordd A5 Telford ac Afon Dyfrdwy. Mae ymwelwyr wedi’u hysbrydoli gan y dyffryn prydferth hwn ar ffurf celf a barddoniaeth ers y 18fed ganrif, ac mae’n parhau i ddenu twristiaid sy'n chwilio am yr aruchel.

Mae’r dirwedd hon o dan bwysau mawr, gyda nifer uchel o ymwelwyr yn cael eu denu at yr hyn sy’n aml yn cynnwys ein safleoedd mwyaf bregus. Mae’r cymunedau ar ei charreg drws, a ddaeth i fod o ganlyniad i’r ymdrechion diwydiannol a’i siapiodd, bellach â llai o gyswllt â'r buddion a gyflwynir gan y dirwedd. Bydd y prosiect pum mlynedd yn buddsoddi yng ngwydnwch safleoedd ymwelwyr allweddol ac yn cynnwys cymunedau yn ei werthfawrogiad a'i reolaeth, wrth ail-ddehongli'r dirwedd gyfoethog hon ar gyfer cenhedlaeth newydd.

Mae prosiectau wedi cael eu datblygu o dan 3 thema – Gwarchod y Tirwedd Darluniadwy, Cael Mynediad at y Tirwedd Darluniadwy, Pobl a’r Tirwedd Darluniadwy.

Caiff y prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy' ei hariannu’n bennaf gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Prosiect partneriaeth yw hwn a ddatblygwyd ar y cyd gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Amwythig, Glandŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadw, Cadwyn Clwyd a Chyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/our-picturesque-landscape-project/

Dilynwch ni ar Facebook @Clwydian Range and Dee Valley  

Dilynwch ni ar Twitter ac Instagram @Clwyd_Dee_AONB a ddefnyddiwch #EinTirlunDarluniadwy

Cysylltwch â ni ar  ein.tirlun.darluniadwy@sirddinbych.gov.uk  

 

YNGHYLCH CRONFA DREFTADAETH Y LOTERI

Gan ddefnyddio’r arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn ysbrydoli, arwain ac yn cyllido treftadaeth y DU i greu newid cadarnhaol a pharhaol ar gyfer pobl a chymunedau, rŵan ac yn y dyfodol. www.HeritageFund.org.uk  

Dilynwch ni ar Twitter, Facebook a Instagram a defnyddiwch hashnodau #CronfaDreftadaethyLoteriGenedlaethol

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...