Mewn ymateb i’r pandemig a’r angen i gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain, roedd Gwasanaethau Cymorth Cymunedol Sir Ddinbych wedi sefydlu gwasanaeth gwirfoddoli i helpu i dynnu’r pwysau oddi ar wasanaethau traddodiadol. Mae’r tîm ‘Ar Ymyl Gofal’ yn helpu pobl ar draws y sir.

Mae Jackie yn wirfoddolwr Ar Ymyl Gofal ac mae ganddi ffrind arbennig sy’n mynd gyda hi ar ei hymweliadau â chartrefi, ei chi annwyl, Maisie.

Maisie yw’r gwirfoddolwr ieuengaf yn y tîm ac mae hi bron yn 3 oed (mewn blynyddoedd dynol). Mae hi yn llai na 2 droedfedd o uchder, ond mae’n rhyddhau straen aruthrol ac yn helpu’r dinasyddion mae’n ymweld â nhw yn wythnosol.

Mae’r Labradwdl Awstralaidd yn ymddwyn yn arbennig o dda ac wrth ei bodd yn derbyn danteithion a sylw. Tra’n ymweld â chartrefi, mae Jackie yn cael paned o de gyda’r dinasyddion ac yn sgwrsio am eu diwrnod ac unrhyw anghenion sydd ganddynt, tra mae Maisie yn derbyn danteithion cwbl haeddiannol.

Tra'n sgwrsio am Maisie, roedd Jackie y gwirfoddolwr a'i pherchennog yn egluro sut roedd am gael ei hailgartrefu o ganlyniad i amgylchiadau'r teulu a sut daeth Maisie yn rhan o'i theulu hi: "Roeddem wedi ei hachub hi ac mewn gwirionedd mae hi wedi fy achub i hefyd. Mae hi gennyf ers bron i ddwy flynedd erbyn hyn.

“Nid yw Maisie byth yn colli ei hymweliadau a gwnaethom hyd yn oed ymweld â dinesydd ar ddydd Nadolig, fel eu bod yn gallu treulio amser gyda hi.

“Mae hi’n gi tawel iawn a dyna pam ei bod yn wych pan mae hi’n dod gyda mi”.

Mae Maisie wedi dod yn ffrindiau gorau yn gyflym iawn gydag aelodau’r gwasanaeth a’r dinasyddion mae’n eu cefnogi. Maent bob amser yn edrych ymlaen at ymweliadau wythnosol Jackie a Maisie.

Dywedodd un o ddinasyddion Prestatyn, sy’n derbyn ymweliadau rheolaidd iawn gan Jackie a Maisie: “Rwy’n falch iawn ei bod hi’n dod yma, rwy’n teimlo ein bod ni wedi achub ein gilydd mewn ffordd. Mae Maisie wedi fy helpu gyda fy hyder ac rwy’n mynd allan o’r tŷ mwy erbyn hyn.

“Mae Maisie wedi trawsnewid fy mywyd. Roeddwn yn colli’r cyswllt ci, gan fy mod wedi cael ci erioed. Roeddwn yn teimlo’n unig iawn a byddwn yn rhoi 10/10 i Jackie a’r ci bach.

“Rwyf bob amser yn falch o weld Maisie ac rwy’n teimlo ei bod wedi cael gwared â llawer o’r boen.

“Mae gennyf lun o Maisie a fi gyda’n gilydd ac mae pawb yn gwneud sylw pan maent yn ei weld. Cyn belled â’ch bod yn caru cŵn, byddai unrhyw un wrth ei fodd yng nghwmni Maisie".

Mae Jackie, Maisie a’r dinesydd yma yn cynllunio ar gyfer yr haf ac yn edrych ymlaen at fynd am dro unwaith y bydd y tywydd wedi gwella.

Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth Ar Ymyl Gofal cliciwch yma.