NEWYDDION

Y Cyngor yn rhoi diweddariad am brosiect Cae Ddôl

Mae'r parc yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa trigolion ac ymwelwyr fod parc Cae Ddôl yn dal ar agor i’r cyhoedd, er bod gwaith gwella wedi dechrau yno.

Efallai fod trigolion wedi sylwi bod gwaith uwchraddio wedi dechrau’n ddiweddar yng Nghae Ddôl er mwyn gwella profiadau a chyfleusterau i ymwelwyr a chefnogi swyddogaeth y parc fel ased cymunedol gwerthfawr.

Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

Cafodd y cyllid hwn, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall.

Fel rhan o’r gwelliannau i ymwelwyr ar y safle, bydd y prosiect yn creu llwybr teithio llesol 480 metr o hyd a fydd yn ymdroelli drwy’r parc er mwyn gwneud y lleoliad yn fwy hygyrch i gerddwyr a beicwyr. Bydd pont newydd yn cael ei hadeiladu yn lle yr hen bont ganolog a bydd trac pwmpio newydd yn cael ei osod yn y parc hefyd.

Tra bo’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo mewn rhai rhannau o’r parc, gwneir pob ymdrech i amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar ddefnyddwyr y parc a sicrhau bod y parc yn dal i fod ar gael i bobl ei fwynhau dros fisoedd yr haf.

Gan y bydd angen gosod cyfyngiadau dros dro mewn rhai rhannau o’r parc wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo, gofynnwn i ymwelwyr ddilyn yr holl arwyddion a chanllawiau ar y safle.

Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys adnewyddu'r toiledau cyhoeddus, a fydd yn cael eu trosglwyddo i Gyngor Tref Rhuthun ar ôl eu cwblhau. Tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, mae cyfleuster dros dro wedi'i osod yn y parc ac mae ar gael i'r cyhoedd ei ddefnyddio am ddim.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r gyfres hon o welliannau yng Nghae Ddôl yn dilyn ymlaen o waith gwella eithriadol o boblogaidd a gwblhawyd yn y parc chwarae ychydig flynyddoedd yn ôl. 

"Hoffem sicrhau trigolion ac ymwelwyr fod parc Cae Ddôl yn parhau ar agor tra bo’r gwaith gwella pwysig hwn yn cael ei wneud a gwerthfawrogwn amynedd y cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn.

“Disgwylir i’r prosiect hwn gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2027 ac edrychwn ymlaen at ddarparu gofod o ansawdd uchel y bydd y gymuned yn elwa ohono am flynyddoedd i ddod. Mae ymwelwyr y parc yn cael eu hannog i barhau i fwynhau’r parc a dilyn unrhyw arwyddion dros dro a allai fod mewn lle i sicrhau diogelwch y cyhoedd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect yng Nghae Ddôl ewch i’n gwefan.

Buddsoddiad mawr i ddod â mwy o gartrefi fforddiadwy a chyfleoedd busnes newydd i ganol tref y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cymryd cam sylweddol arall ymlaen wrth adfywio canol tref y Rhyl, gyda chynlluniau’n mynd rhagddynt i drawsnewid dau eiddo amlwg ar y Stryd Fawr yn gartrefi fforddiadwy ac unedau masnachol wedi’u hadnewyddu.

Mae’r Cyngor yn paratoi i benodi contractwr i gyflawni’r gwaith ailddatblygu yn 64 Stryd Fawr a 2–4 Ffordd Wellington, gan ddod â’r lloriau uchaf gwag yn ôl i ddefnydd fel cartrefi fforddiadwy modern ac ynni-effeithlon, tra hefyd yn adnewyddu’r unedau manwerthu ar y llawr gwaelod ar gyfer busnesau’r dyfodol.

Mae’r prosiect yn rhan o weledigaeth hirdymor y Cyngor i roi bywyd newydd i ganol tref y Rhyl drwy gynyddu nifer y bobl sy’n byw yng nghanol y dref, cefnogi busnesau lleol a chreu cymuned fwy bywiog a chynaliadwy.

Yn ogystal â darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen, bydd yr ailddatblygiad yn creu mannau masnachol deniadol ar gyfer busnesau bach, gan helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi’r economi gyda’r nos a chryfhau dyfodol hirdymor canol y dref. Bydd y cynllun hefyd yn darparu cartrefi ynni-effeithlon sy’n helpu i leihau allyriadau carbon wrth wneud defnydd o adeiladau presennol.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau:

“Mae’r datblygiad hwn yn un rhan yn unig o strategaeth y Cyngor i geisio adfywio canol trefi yn Sir Ddinbych ac mae’n garreg filltir gyffrous arall yn ein buddsoddiad parhaus yng nghanol tref y Rhyl. Trwy ddod â’r adeiladau amlwg hyn yn ôl i ddefnydd, rydym yn creu cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen tra hefyd yn darparu mannau masnachol modern a fydd yn helpu i gefnogi busnesau lleol a denu mwy o bobl i ganol y dref.

“Mae prosiectau fel hyn yn dangos ein hymrwymiad i adfywio’r Rhyl mewn ffordd sy’n dod â budd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd. Bydd cael mwy o bobl yn byw yng nghanol y dref yn helpu i greu cymuned fywiog a llewyrchus, gan wneud y defnydd gorau posibl o adeiladau presennol er budd cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae’r datblygiad yn cefnogi Strategaeth Tai a Digartrefedd Cyngor Sir Ddinbych drwy gynyddu’r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ac yn cyfrannu at Gynllun Corfforaethol y Cyngor drwy helpu i sicrhau bod digon o gartrefi o ansawdd da i ddiwallu anghenion lleol.

Disgwylir hefyd i’r cynllun ddarparu manteision ehangach i’r gymuned, gan gynnwys cefnogi cadwyni cyflenwi lleol yn ystod y gwaith adeiladu, gwella bioamrywiaeth, annog teithio llesol a gwella ymddangosiad y rhan bwysig hon o ganol tref y Rhyl.

Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn ddiweddarach eleni ar ôl cwblhau’r broses gaffael.

Cyngor yn mynd i’r afael â gwastraff anghyfreithlon ar lôn gefn yn y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi dirwy o £300 i rywun o’r Rhyl wedi i ymchwiliad ganfod eu bod wedi methu â chyflawni eu Dyletswydd Gofal gyfreithiol ynghylch Gwastraff Domestig

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi dirwy o £300 i rywun o’r Rhyl wedi i ymchwiliad ganfod eu bod wedi methu â chyflawni eu Dyletswydd Gofal gyfreithiol ynghylch Gwastraff Domestig.

Cymerwyd camau gorfodi wedi dod o hyd i swm o wastraff domestig oedd wedi’i ollwng ar lôn gefn rhwng Stryd y Baddon a Heol Gwynfa yn y Rhyl. Gweithredodd y Cyngor fel rhan o’i ymdrechion parhaus i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a gwella’r amgylchedd lleol.

Wedi dod o hyd i’r gwastraff, aeth swyddogion Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor ati i bori drwy’r gwastraff a daethant o hyd i dystiolaeth o’r sawl a oedd yn gyfrifol am daflu’r gwastraff.

Ymchwiliwyd ymhellach i ganfod bod y preswylydd dan sylw wedi trefnu i rywun arall fynd â gwastraff o’u cartref ac wedi methu â chymryd camau rhesymol i sicrhau y câi ei waredu’n gyfreithlon. Yn sgil hynny, gollyngwyd y gwastraff yn anghyfreithlon ar lôn gefn.

Yn hytrach nag erlyn yr unigolyn gerbron llys, cyflwynodd y Cyngor Rybudd Cosb Benodedig o £300 am fethu â chyflawni’r Ddyletswydd Gofal ynghylch Gwastraff Domestig.

Dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, mae gan breswylwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau nad ydynt ond yn trosglwyddo eu gwastraff i rywun â’r awdurdod i’w dderbyn neu gludwr gwastraff cofrestredig. Dylai unrhyw un sy’n trefnu i gael gwared â gwastraff ofyn bob amser am weld prawf dilys o fod yn Gludwr Gwastraff Cofrestredig a chadw cofnod o bwy bynnag a gasglodd eu gwastraff. Gall methu â gwneud hynny arwain at gamau gorfodi os canfyddir yn nes ymlaen bod y gwastraff wedi’i ollwng yn anghyfreithlon.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych: “Mae tipio anghyfreithlon yn dal yn cael effaith fawr ar ein cymunedau ni, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae’n digwydd dro ar ôl tro ac yn boendod i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr. Mae llawer o bobl yn tybio bod eu cyfrifoldeb am eu gwastraff yn dod i ben ar ôl talu rhywun i gael gwared arno, ond mae’r gyfraith yn dweud yn bendant fod gan breswylwyr Ddyletswydd Gofal i sicrhau eu bod yn trosglwyddo’r gwastraff i rywun â’r awdurdod i’w gludo.

Bydd ein swyddogion yn dal i ymchwilio’n drylwyr i achosion o dipio anghyfreithlon ac yn cymryd camau priodol os canfyddir troseddau.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydyn ni’n benderfynol o wella’r amgylchedd ledled Sir Ddinbych a mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ble bynnag y mae’n digwydd. Mae gorfodi’n rhan bwysig o’r gwaith hwnnw, ond rydym hefyd yn awyddus i annog pobl i gymryd ychydig o gamau syml cyn cael gwared â’u gwastraff. Os ydi pobl yn gwneud yn siŵr fod pwy bynnag sy’n cael gwared â’u gwastraff wedi cofrestru, gyda’n gilydd mi fedrwn ni atal tipio anghyfreithlon ac amddiffyn ein cymunedau lleol.”

Mae modd i bobl gadarnhau a yw unigolyn neu fusnes wedi cofrestru’n gyfreithiol i gludo gwastraff drwy fwrw golwg ar Gofrestr Cludwyr Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru cyn cael gwared â’u gwastraff. Os yw rhywun yn dyst i achos o dipio anghyfreithlon neu’n dymuno rhoi gwybod am ddigwyddiad, dylent gysylltu â Chyngor Sir Ddinbych ar unwaith.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf ar ei hanterth

Ydych yn chwilio am weithgareddau hwyliog am ddim dros yr haf i blant? Cofrestrwch ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf yn eich llyfrgell leol! Thema Her eleni yw 'Cyfrolau’n Canu’, sy'n annog plant i barhau i ddarllen dros wyliau'r haf wrth ddarganfod llawenydd mewn cerddoriaeth a straeon.

Bydd llyfrgelloedd hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog am ddim, gan gynnwys sesiynau crefft, amseroedd stori, ymweliadau gan awduron a gweithdai cerddoriaeth. Cysylltwch â'ch llyfrgell leol i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd gweithdai rap a bît-bocsio am ddim i helpu i feithrin hyder gyda Mr Phormula, pencampwr technegau ‘loopio’ byw presennol Cymru, yn addas ar gyfer plant rhwng 6 a 12 oed.

Bydd y Welsh Whisperer, perfformiwr ac awdur, yn sôn am ei lyfr 'Llyfr Peiriannau'r Fferm' ac yn canu rhai caneuon.

Bydd yr awdur lleol Oliver Sykes yn cyflwyno ei sioe un dyn newydd sbon, 'Diesel and Me', dathliad doniol, bywiog a theimladwy o gymuned a'r teulu rydym yn ei greu o'n cwmpas, ar gyfer plant (5 oed a throsodd) a'r oedolion sy'n dod gyda nhw.

Mae ymuno â'r llyfrgell yn RHAD AC AM DDIM, ac mae benthyg llyfrau hefyd yn RHAD AC AM DDIM. Does dim angen poeni am ddirwyon am lyfrau hwyr chwaith. Ewch i'ch llyfrgell leol i gofrestru a dechrau antur ddarllen eich plentyn!

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

"Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig llawer mwy na benthyg llyfrau – maent yn lleoedd croesawgar lle gall plant a theuluoedd ddysgu, creu a chael hwyl gyda'i gilydd. Mae Her Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o gadw plant yn darllen dros y gwyliau, ac mae thema eleni, 'Ddarllen i'r Curiad', yn dod â cherddoriaeth a straeon ynghyd mewn ffordd hwyliog ac ysbrydoledig. Rwy'n annog teuluoedd ledled Sir Ddinbych i fanteisio ar y rhaglen wych o weithgareddau sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd yr haf hwn."

DIGWYDDIADAU

Mr Phormula

  • Dydd Llun, 3 Awst (10.30am – 12.00pm) – Llyfrgell Rhuthun (archebwch ymlaen llaw)
  • Dydd Llun, 3 Awst (1.30pm – 3.00pm) – Llyfrgell Dinbych (archebwch ymlaen llaw)

 

Y Welsh Whisperer

  • Dydd Llun, 17 Awst (11.00am) – Llyfrgell Rhuthun (archebwch ymlaen llaw)
  • Dydd Llun, 17 Awst (2.00pm) – Llyfrgell Dinbych (archebwch ymlaen llaw)

 

Oliver Sykes

  • Dydd Mawrth, 25 Awst (11.00am) – Llyfrgell Prestatyn (archebwch ymlaen llaw)
  • Dydd Mercher, 26 Awst (11.00am) – Llyfrgell Llanelwy (archebwch ymlaen llaw)
  • Dydd Mercher, 26 Awst (2.00pm) – Llyfrgell y Rhyl (archebwch ymlaen llaw)

Clwb Book Beats – galwch heibio am straeon, crefftau a hwyl!

  • Dydd Llun a dydd Gwener drwy gydol mis Awst (10.00am – 12.00pm) – Llyfrgell Prestatyn
  • Dydd Mawrth a dydd Iau drwy gydol mis Awst (10.00am – 12.00pm) – Llyfrgell y Rhyl

Crefftau'r Haf

  • Bob dydd Gwener (11.00am – 12.00pm) – Llyfrgell Llangollen (archebwch ymlaen llaw)

Ewch i'ch llyfrgell leol i gofrestru a dechrau antur ddarllen eich plentyn! I weld lle mae'r llyfrgelloedd yn Sir Ddinbych, ewch i'n gwefan

Archifau’n gweithio gydag Ysgol Rhuthun i warchod hanes

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn gweithio ochr yn ochr â gweinyddwyr Ysgol Rhuthun, FRP Advisory, i ddiogelu treftadaeth ddogfennol yr ysgol, gan sicrhau bod yr hanes yn cael ei gadw ac yn hygyrch am genedlaethau i ddod.

Gyda dros 700 mlynedd o hanes, mae Ysgol Rhuthun wedi chwarae rhan arwyddocaol yn y gymuned leol, nid yn unig fel canolfan addysg ond fel cyflogwr hefyd. Er bod yr ysgol bellach wedi cau ei drysau, mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod ei chofnodion hanesyddol yn cael eu cadw yn hytrach na’u colli.

Ar yr un pryd, mae Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio i gefnogi plant a’u rhieni neu ofalwyr sy’n cael eu heffeithio gan gau’r ysgol.  Anogir teuluoedd i gysylltu â’r Cyngor os oes arnynt angen cyngor neu gymorth gyda sicrhau lle mewn ysgol. Mae gwybodaeth am dderbyniadau ysgol ar gael ar wefan y Cyngor.

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru eisoes yn gofalu am ystod eang o gasgliadau ysgol ar draws y rhanbarth, yn cynnwys Ysgol Howell yn Ninbych ac Ysgol Grove Park yn Wrecsam. Mae’r gwasanaeth archifau wedi ymrwymo i gadw unrhyw gofnodion sydd wedi goroesi o Ysgol Rhuthun i’r un safon uchel, gan sicrhau eu bod ar gael i gefnogi ymchwil, hanes teuluol, addysg a threftadaeth gymunedol.

Meddai’r Archifydd, Sarah Roberts: “Mae archifau ysgol yn fwy na chasgliadau o ddogfennau gweinyddol. Maent yn adrodd hanes disgyblion, staff a chymunedau lleol, gan gofnodi bywyd bob dydd ochr yn ochr â cherrig milltir a chyflawniadau arwyddocaol.  Mae cadw’r cofnodion hyn yn helpu i warchod hunaniaeth unigryw’r ysgol tra’n creu adnoddau parhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae cau Ysgol Rhuthun yn newyddion trist iawn i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol a’r gymuned ehangach. Ein blaenoriaeth yw cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd drwy’r cyfnod anodd hwn, mae ein Gwasanaeth Addysg ar gael i roi cyngor ac arweiniad i helpu rhieni a gofalwyr i sicrhau lleoedd ysgol priodol ar gyfer eu plant.”

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth Cyngor Sir Ddinbych: “Mae Ysgol Rhuthun wedi bod yn rhan bwysig o hanes yr ardal ers canrifoedd. Er bod y bennod hon wedi dod i ben, mae’n bwysig nad yw hanes nodedig yr ysgol yn cael ei golli. Drwy weithio gyda gweinyddwyr i gadw ei chofnodion, gallwn helpu i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu deall a gwerthfawrogi cyfraniad yr ysgol i addysg ac i fywyd ein cymuned.”

Mae gan y Gwasanaeth Archifau ddiddordeb hefyd mewn unrhyw gofnodion gan unrhyw gyn-ddisgyblion neu aelodau o’r gymuned, yn cynnwys lluniau o’r ysgol, newyddlenni neu brosbectysau. Gall unrhyw un sydd â deunyddiau yr hoffent eu cynnig i’r Gwasanaeth Archifau, gysylltu drwy anfon neges e-bost at  archives@newa.wales neu drwy ymweld â gwefan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru am fwy o wybodaeth.

 

Cyngor yn annog masnachwyr i wirio diogelwch teganau poblogaidd

  Anogir manwerthwyr i sicrhau bod eu nwyddau’n cydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

 

Anogir manwerthwyr i sicrhau bod eu nwyddau’n cydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

Wedi’r ymgyrch yn ddiweddar i fynd i’r afael â nwyddau ffug yn y sir, pan feddiannwyd mwy na 600 o eitemau, mae tîm Safonau Masnach y Cyngor yn atgoffa siopwyr a’u cwsmeriaid i fod yn wyliadwrus wrth i’r ffasiwn ddiweddaraf ar gyfryngau cymdeithasol gyrraedd y silffoedd.

Mae ‘Squishy Dumplings’ a ‘NeeDoh’ ymysg y teganau mwyaf newydd sydd wedi dod yn boblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol ac wrth i’r galw amdanynt gynyddu, mae swyddogion wedi sylwi hefyd fod yno fwy o fersiynau ffug ar werth ledled y sir.

Wrth ymrwymo i fynd i’r afael â nwyddau ffug, mae’r tîm Safonau Masnach yn annog manwerthwyr i sicrhau bod eu stoc yn cydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig ac yn atgoffa pobl o’r arwyddion cyffredin i gadw golwg amdanynt er mwyn adnabod nwyddau ffug.

 Ymysg yr arwyddion bod nwyddau’n ffug mae: 

  • Enw a chyfeiriad y gwneuthurwr. Os yw’r gwneuthurwr y tu allan i’r Deyrnas Unedig, dylai nwyddau ddangos enw a chyfeiriad y gwneuthurwr yn ogystal â’r mewnforiwr.
  •  Math, swp, rhif model neu rif cyfres.
  •  Marc CE a/neu UKCS – mae’r marciau hyn yn fodd i’r gwneuthurwr ddatgan bod y tegan yn ddiogel, ac mae’n rhaid i’r marc fod ar y tegan ei hun neu’r deunydd pecynnu, a bod yn barhaol a hawdd ei ddarllen.

 Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Rydyn ni wedi sylwi fod ffasiynau ar gyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar dwf mewn gwerthu nwyddau ffug. Wrth i’r teganau ‘squishy’ ddod yn fwy poblogaidd, mae’r galw amdanynt yn cynyddu a throseddwyr yn ceisio gwneud elw drwy wneud fersiynau ffug yn rhad.

“Mae’r nwyddau go iawn wedi bod drwy gyfres o brofion diogelwch llym ac efallai’n wir na fydd y rhai ffug yn bodloni’r un safon, sy’n creu perygl i ddefnyddwyr, a phlant yn enwedig, gan fod y rhai ffug yn debygol o fod â’r labeli anghywir neu ddim o gwbl, ac wedi’u gwneud o ddefnyddiau anaddas.

“Mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i fynd i’r afael â gwerthu nwyddau ffug drwy addysgu siopwyr a’u cwsmeriaid a chynnal ymweliadau ag amryw safleoedd ledled y sir. Buont yn ymweld â nifer o fannau yn ddiweddar, ac fe feddiannon nhw symiau mawr o nwyddau ffug a rhai a fedrai fod yn beryglus.”

Os oes rhywun wedi prynu tegan neu unrhyw beth arall y maent yn amau ei fod yn ffug, dylent roi gwybod i wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 0808 223 1144 (llinell Saesneg: 0808 223 1133 neu fynd i’w gwefan - https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Defnyddwyr/get-more-help/if-you-need-more-help/

Gall busnesau gysylltu â Thîm Safonau Masnach Sir Ddinbych i gael cyngor ar nwyddau ffug drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych.

Cynaeafu hadau blodau gwyllt i helpu natur ffynnu ledled Sir Ddinbych

Mae gwaith yn mynd rhagddo i hybu dyfodol blodau gwyllt cynhenid Sir Ddinbych

Mae gwaith yn mynd rhagddo i hybu dyfodol blodau gwyllt cynhenid Sir Ddinbych.

Mae timoedd Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio i gynhyrchu cymysgedd hadau lleol cynhenid i Sir Ddinbych er mwyn cefnogi’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor.

Mae’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yn cynnal ac amddiffyn byd natur yn lleol ac yn cefnogi lles cymunedau ledled y sir.  Mae’n cael ei ariannu hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae gwaith cynaeafu hadau yn digwydd yn nolydd blodau gwyllt y sir sydd yn gyfoethog o ran rhywogaethau.

Gan ddefnyddio cynaeafwr brwsh wedi’i dynnu gan ATV, mae hadau cynhenid penodol i safle yn cael eu casglu drwy ddull effaith isel, gan na fydd y peiriant yn torri na difrodi’r llystyfiant yn ddifrifol.

Unwaith iddynt gael eu casglu, bydd y cymysgedd o hadau o’r safleoedd a ddewiswyd ar gyfer cynaeafu, yn cael eu defnyddio i helpu rhai o’r dolydd llai amrywiol, drwy hadu yn ystod cyfnod yr hydref.

Casglwyd hadau o ddolydd lleol y sir y llynedd gan eu hadu ar safle yn Ffordd Colomendy Dinbych nad oedd yn ffynnu. Mae’r tîm Bioamrywiaeth wedi nodi atgyfodiad y blodau gwyllt yn ystod arolwg yno'r tymor hwn.

Meddai Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth:  “Gall y safleoedd dolydd blodau gwyllt sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau, a grëwyd trwy ddod a glaswelltir amwynder a lleiniau trefol i reolaeth blodau gwyllt trwy dorri a chasglu tymhorol, helpu i wella ein dolydd llai amrywiol. Rydym yn cynaeafu hadau o ystod amrywiol o blanhigion, ac unwaith cânt eu hadu ar y safleoedd dewisol, gobeithio bydd trigolion yn gweld mwy o amrywiaeth y flwyddyn nesaf. Gan helpu i ddarparu adnodd cefnogi cryfach i beillwyr a bywyd gwyllt lleol hefyd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn brosiect pwysig ar gyfer adfer cynefinoedd sydd wedi’u difrodi’n ddifrifol ers y 1930au. Rwy’n gwybod bod y tîm Bioamrywiaeth, ynghyd â’n gweithwyr gwasanaethau stryd, wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i reoli a datblygu ein dolydd. Mae defnyddio safleoedd aeddfed i roi help llaw i safleoedd llai amrywiol, trwy’r gwaith hadu hwn yn dangos gwerth yr amser ac ymdrech mae pawb wedi ei roi i warchod natur trwy gydol y prosiect hwn.”

Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth Ddigidol newydd

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo Strategaeth Ddigidol 2026-2031 newydd, gan nodi sut y bydd technoleg yn helpu i wella gwasanaethau i breswylwyr

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo Strategaeth Ddigidol 2026-2031 newydd, gan nodi sut y bydd technoleg yn helpu i wella gwasanaethau i breswylwyr.

Trafodwyd y strategaeth hon mewn cyfarfod diweddar o’r Cabinet, ac mae’n nodi’r dull pum mlynedd i ddefnyddio adnoddau digidol er mwyn cefnogi gwasanaethau gwell sydd yn fwy effeithlon.

Ei weledigaeth yw creu Cyngor sydd yn hyderus yn ddigidol, yn darparu gwasanaethau cynhwysol, diogel sydd yn hawdd i’w defnyddio ac i fodloni anghenion preswylwyr.

Fe fydd y strategaeth yn arwain gwelliannau digidol ar draws y Cyngor, a helpu staff, preswylwyr ac Aelodau Etholedig i elwa o wasanaethau symlach a chydgysylltiedig.

Mae’n cynnwys pedwar o egwyddorion arweiniol a naw amcan i siapio penderfyniadau digidol, buddsoddiadau a chyflawniadau dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r strategaeth wedi cael ei siapio gan adborth gan staff ac Aelodau, trafodaethau gydag uwch arweinwyr, meincnodi gyda sefydliadau eraill, ac adolygu systemau a galluoedd digidol presennol y Cyngor.

Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Bydd y strategaeth hon yn helpu i ni wneud defnydd gwell o dechnoleg ddigidol i ddarparu gwasanaethau sydd yn fwy cynhwysol, yn fwy diogel ac wedi’u dylunio o amgylch anghenion preswylwyr.  Mae’n rhoi fframwaith clir i ni ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod ac mae’n cefnogi ein huchelgais o groesawu cyfleoedd digidol yn y dyfodol.”

I gael mwy o wybodaeth am y Strategaeth Ddigidol ewch i yma 

 

 

Adnodd ar-lein newydd wedi’i lansio ar gyfer llifddorau arfordirol Sir Ddinbych

Mae adnodd ar-lein newydd wedi’i lansio i ddarparu gwybodaeth am system llifddorau arfordirol Sir Ddinbych

Mae adnodd ar-lein newydd wedi’i lansio i ddarparu gwybodaeth am system llifddorau arfordirol Sir Ddinbych.

Mae tîm Risg Llifogydd a thîm Gwe y Cyngor wedi creu adnodd ar-lein newydd i helpu preswylwyr ac ymwelwyr i ddeall sut mae’r system llifddorau yn gweithredu o’r Rhyl i Brestatyn.

Mae’r ardal hon wedi’i datblygu i helpu rhai sy’n cael mynediad at y promenâd i gerdded ac i wneud ymarfer corff rhwng y ddwy dref, i ganiatáu iddynt ganfod pryd fydd rhai llifddorau wedi cau o bosibl.

Mae’r adnodd ar-lein yn darparu gwybodaeth am rôl y llifddorau, sut cânt eu gweithredu, pryd fydd rhai ar gau oherwydd y tywydd a risg stormydd a map o leoliadau pob un.

Mae’r llifddorau arfordirol ar hyd cynllun amddiffynfeydd Prestatyn a’r Rhyl yn cael eu defnyddio i selio ardaloedd o amddiffynfeydd y môr sydd yn is er mwyn galluogi mynediad cyhoeddus i’n traethau.

Maen nhw’n gweithredu fel gorchuddion dros dro y gellir eu symud sydd wedi’u dylunio i atal llif dŵr o ymchwyddiadau stormydd, llanw uchel a llifogydd rhag effeithio ar gartrefi, busnesau a seilwaith arfordirol diamddiffyn sydd y tu ôl i’r amddiffynfeydd llifogydd ehangach.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Bydd yr adnodd ar-lein newydd hwn yn helpu pobl i ddeall yn well sut mae ein system llifddorau arfordirol yn gweithio a pham fod angen eu cau yn ystod cyfnodau o dywydd difrifol neu pan fo risg uwch o lifogydd o bosibl. Mae’n dod â gwybodaeth allweddol at ei gilydd mewn un lle, i gefnogi ein preswylwyr a’n hymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer cerdded ar hyd yr ardal hon wrth ein helpu i barhau i ddiogelu cymunedau arfordirol.”

Ewch i'r adnodd ar-lein newydd yma https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/amddifyn-yr-arfordir/giatiau-llifogydd-arfordirol.aspx

Mae arwyddion newydd yn mynd i gael eu gosod er mwyn tynnu sylw’n well at system llifddorau arfordirol y Cyngor hefyd.

 

Swyddogion Troseddau Amgylcheddol newydd yn cynnal patrolau ar y cyd ym Mharc Cae Hywel

Mae Swyddogion Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad newydd Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn cynnal patrolau amlwg ym Mharc Cae Hywel yn Ninbych yn rhan o ymdrechion parhaus i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel.

Mae Swyddogion Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad newydd Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn cynnal patrolau amlwg ym Mharc Cae Hywel yn Ninbych yn rhan o ymdrechion parhaus i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel.

Mae’r patrolau yn ffurfio rhan o ymrwymiad y Cyngor i greu mannau cyhoeddus mwy glân a mwy diogel, gan sicrhau y gall preswylwyr fwynhau parciau lleol heb unrhyw drosedd amgylcheddol ac ymddygiad niwsans.

Daeth yr ymweld â Pauline Edwards, Cynghorydd Aelod Lleol, Swyddogion Cymorth Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru a Swyddogion Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych ynghyd, gan ddangos dull partneriaeth gref i fynd i’r afael â phryderon lleol a rhoi sicrwydd i’r gymuned.

Bu’r Tîm Troseddau Amgylcheddol yn siarad gyda defnyddwyr y parc, yn rhoi cyngor iddynt am waredu gwastraff yn gyfrifol a thynnu sylw at ymrwymiad y Cyngor i weithredu ar droseddau amgylcheddol.  Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i adnabod unrhyw broblemau o fewn y parc a thrafod mesurau pellach i wella’r ardal.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae ein Swyddogion Troseddau Amgylcheddol newydd yn cael effaith cadarnhaol yn barod drwy gynnal patrolau rheolaidd mewn cymunedau ar hyd a lled Sir Ddinbych.  Trwy weithio gyda’n partneriaid, yn cynnwys Heddlu Gogledd Cymru ac aelodau etholedig lleol, gallwn ymateb i bryderon lleol, ymgysylltu â phreswylwyr a mynd i’r afael â throseddau amgylcheddol ble maent yn digwydd.

“Mae patrolau amlwg yn rhoi sicrwydd i’r gymuned ac atal y rhai sy’n cyflawni troseddau amgylcheddol. Rydym eisiau i bawb fwynhau ein parciau a’n mananau agored, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon ble bynnag y mae’n digwydd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym eisiau atgoffa pawb yn y Sir bod ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu’n gywir. Gall tipio anghyfreithlon a gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon gael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd a gall hefyd arwain at ddirwyon sylweddol i’r rhai sy’n gyfrifol.”

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i gynnal patrolau rheolaidd ym Mharc Cae Hywel a lleoliadau eraill ar hyd a lled y Sir. Gall unrhyw un sy’n cael ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon, yn taflu sbwriel neu’n cyflawni troseddau amgylcheddol eraill wynebu camau gorfodi, yn cynnwys Rhybudd Cosb Benodedig neu gael eu herlyn pan fo’n briodol.

Anogir trigolion i roi gwybod am unrhyw achosion o dipio anghyfreithlon, taflu sbwriel neu ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych neu drwy gysylltu â thîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor ar 01824 706000. Drwy gydweithio, gallwn helpu i sicrhau bod Sir Ddinbych yn lle glân, diogel a chroesawgar i bawb.

 

Cynnydd ar brosiect estyniad Ysgol y Castell

Mae gwaith coed wedi’i gwblhau ar y to, y goruwchadeilad wedi’i gwblhau a’r sgaffaldiau wedi’u tynnu bellach, fel rhan o brosiect estyniad Ysgol y Castell yn Rhuddlan.

Bydd gwaith yn parhau ar y ddwy ystafell ddosbarth olaf dros yr haf, a chaiff y rendr allanol a’r ardal chwarae tu allan eu cwblhau hefyd. 

Caiff drysau newydd eu gosod a bydd goleuadau newydd yn cael eu gosod ar lwyfan y neuadd. Bydd paneli solar yn cael ei osod yn ystod y rownd hwn o waith hefyd.

Cafodd estyniadau cyntaf Ysgol y Castell eu cwblhau ar amser yn gynharach yn y flwyddyn.

Ar ôl iddynt gael eu cwblhau, bydd yr estyniadau’n darparu 16 metr sgwâr o ofod ychwanegol i bedair ystafell ddosbarth, gan greu estyniad o 64 metr sgwâr at ddefnydd disgyblion, a byddwn yn gweld cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu ar yr un pryd.

Bydd y gwaith i gyd wedi’i gwblhau erbyn gaeaf 2026.

Mae’r gwaith adeiladu yn cael ei wneud gan BrynBuild Ltd gyda chyllid cyfatebol o 65% gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae 35% o’r cyllid sy’n weddill wedi dod yn bennaf o gyfraniad datblygwr a ddarparwyd gan ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Rwy’n falch o weld cynnydd ar y prosiect hwn, sy’n fuddsoddiad yn y gymuned ehangach am ddegawdau i ddod.

Mae’r lle ychwanegol a ddarperir gan y prosiect hwn yn caniatáu uwchraddio’r ysgol, gan ddarparu cyfleusterau modern wedi’u diweddaru ar gyfer y disgyblion a’r athrawon.

Mae disgyblion yn defnyddio’r ddwy ystafell ddosbarth gyntaf eisoes, a chaiff gweddill y prosiect hwn ei gwblhau yn y gaeaf.”

Diwrnod o hwyl i’r teulu i gael ei gynnal yn Llangollen

Mae diwrnod hwyl rhyngweithiol i'r teulu wedi'i drefnu i gael ei gynnal ym Maes Hamdden Llangollen, sydd wedi'i gysylltu â safle Ysgol Dinas Brân, yn Llangollen.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 11am a 2pm dydd Mercher 12 Awst, fe fydd y sesiwn yn cynnwys adran chwarae meddal am ddim a sesiynau blasu gan glybiau chwaraeon lleol. 

Fe fydd y diwrnod o hwyl hefyd yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol hwyliog, yn cynnwys gemau, crefftau, disgo tawel a mwy. 

Fe fydd gweithwyr ieuenctid, tîm Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf y Cyngor hefyd yn bresennol, yn ogystal â chynrychiolwyr o Credu/Gofalwyr Ifanc WCD a Menter Iaith. 

Mae’r digwyddiad ar agor i blant o bob oedran, ac fe fydd yna amrywiaeth o wasanaethau ar gael i deuluoedd ar y diwrnod i gael mwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn lleol.

Meddai Cheryl Hughes, Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol yng Nghyngor Sir Ddinbych:

“Dyma enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan mae ysgolion a phartneriaid cymunedol yn cydweithio. Mae Ysgolion Bro yn golygu creu cyfleoedd sy’n ymestyn y tu hwnt i ddiwrnod ysgol, gan gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i ffynnu. 

Mae’r diwrnod o hwyl i deuluoedd yn dathlu’r cryfderau yn ein cymuned ac yn tynnu sylw at yr ystod eang o wasanaethau cefnogi sydd ar gael i deuluoedd lleol. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu teuluoedd o’r ardal ar gyfer diwrnod o hwyl, dysgu ac ysbryd cymunedol.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’r digwyddiad yma’n un o nifer sy’n cael eu cynnal o amgylch y sir ym mis Awst, gan ddarparu adnodd hwyliog, llawn gwybodaeth ac am ddim i deuluoedd Sir Ddinbych.

Yn ogystal â nifer o opsiynau chwarae i blant, fe fydd gwasanaethau ar gael i’r teuluoedd sydd yn bresennol.”

Tipiwr anghyfreithlon yn cael dirwy o £250 ar ôl adroddiad gan aelod o’r cyhoedd o dipio anghyfreithlon ger llyfrgell leol

Mae preswylydd a adawodd gwastraff domestig yn anghyfreithlon ger Llyfrgell Rhuddlan wedi cael dirwy o £250 yn dilyn ymchwiliad gan Dîm Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych.

Mae preswylydd a adawodd gwastraff domestig yn anghyfreithlon ger Llyfrgell Rhuddlan wedi cael dirwy o £250 yn dilyn ymchwiliad gan Dîm Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych.

Cafodd yr achos o dipio anghyfreithlon ei adrodd i’r Cyngor gan aelod o’r cyhoedd drwy dudalen adrodd ar-lein y Cyngor.

Yn dilyn ymchwiliad gan Dîm Troseddau Amgylcheddol y Cyngor – a gynhaliodd nifer o ymholiadau a chasglu tystiolaeth o leoliad y tipio anghyfreithlon – bu modd i Swyddogion adnabod y troseddwr a chyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig o £250 iddynt.

Mae hyn yn dangos sut mae gwybodaeth gan breswylwyr yn gallu arwain yn uniongyrchol at weithredu yn erbyn y rhai sy’n difetha amgylchedd Sir Ddinbych.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein neges yn glir: ni fydd tipio anghyfreithlon a gwaredu gwastraff yn anghyfrifol yn cael ei oddef yn Sir Ddinbych. Byddwn yn parhau i gymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy’n cyfrannu at droseddau amgylcheddol ac yn gweithio i gadw ein Sir yn lân ac yn ddiogel i bawb."

Os oes gennych chi wybodaeth am dipio anghyfreithlon neu unrhyw droseddau amgylcheddol eraill, adroddwch amdano drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych neu cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor ar 01824 706000. Drwy adrodd am droseddau amgylcheddol, gallwch helpu i amddiffyn ein cymunedau a chadw Sir Ddinbych yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar ar gyfer pawb.

Diwrnod chwarae am ddim yn dychwelyd i gaeau chwarae’r Rhyl i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

Yn dilyn digwyddiad hynod lwyddiannus y llynedd, gwahoddir plant a theuluoedd o bob cwr o Sir Ddinbych i gymryd rhan unwaith eto mewn diwrnod o chwarae am ddim sydd i’w gynnal ar Gaeau Chwarae Christchurch, y Rhyl. 

Diwrnod chwarae 2025

Eleni, Canolfan y Dderwen, y Rhyl fydd yn cynnal digwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol Sir Ddinbych, ar 5 Awst, rhwng 11am a 3pm.

Wedi’i drefnu gan wasanaeth Ceidwad Chwarae Cyngor Sir Ddinbych i helpu plant i fwynhau gwyliau’r haf, bydd y digwyddiad am ddim yn cynnwys llu o weithgareddau yn cynnwys sgiliau syrcas, cestyll neidio, gwneud blwch adar, celf a chrefft, gemau enfawr a llawer mwy.

Dyma fydd yr unfed tro ar ddeg y bydd y digwyddiad hynod boblogaidd yma’n cael ei gynnal i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol.

Meddai Dawn Anderson, Rheolwr Gofal Plant a Datblygu Chwarae Sir Ddinbych:

“Rydym ni’n gyffrous i fod yn cynnal Diwrnod Chwarae Cenedlaethol hynod boblogaidd eto yn y Rhyl am y 11eg flwyddyn. 

Mae thema eleni’n tynnu sylw at bwysigrwydd creu cyfleoedd i blant chwarae ble bynnag maen nhw. 

Mae chwarae’n digwydd yma, fan draw ac ym mhobman, o ystafelloedd byw, i giatiau’r ysgol, i strydoedd, parciau a chymdogaethau.  Mae’n rhan o fywyd dyddiol plant, ac mae’n cael effaith enfawr ar eu hapusrwydd, eu hiechyd a’u lles.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Dwi wrth fy modd yn gweld bod y diwrnod chwarae blynyddol yma’n dychwelyd am yr unfed tro ar ddeg!

Fe wnaethom groesawu bron i 3,500 o bobl y llynedd a ymunodd â ni eto i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yng Nghaeau Chwarae Christchurch yn y Rhyl.

Fe hoffwn i groesawu pawb yn ôl atom ni eto eleni, mae’n siŵr o fod yn ddiwrnod llawn hwyl i bawb.”

Coeden ‘siaradus’ yn cael bywyd newydd yn Sir Ddinbych

Mae gwaith ar y gweill i ddarparu cnwd o goed ‘siaradus’ er mwyn helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd ar dirwedd Sir Ddinbych.

Mae gwaith ar y gweill i ddarparu cnwd o goed ‘siaradus’ er mwyn helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd ar dirwedd Sir Ddinbych.

Mae planhigfa coed lleol Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy wedi lansio prosiect i warchod coed aethnen.

Caiff planhigfa goed y Cyngor ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae staff y blanhigfa’n gweithio i gynyddu niferoedd rhywogaethau o goed, yn cynnwys poplys du, cerddin gwyllt a deri trwy gasglu hadau o’r ardal leol i’w tyfu.

Rŵan, maen nhw’n troi eu golygon at dyfu aethnenni – coed sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n helpu i secwestru carbon a hefyd yn creu canopïau trwchus i oeri’r tir o’u hamgylch.

Yn llên gwerin yr Alban, mae’r coed wedi ennill yr enw ‘tafodau’r merched’ gan eu bod yn ‘siaradus’ iawn oherwydd sŵn siffrwd eu dail. Roedd cred hefyd fod plannu un yn agos at eich cartref yn eich gwarchod rhag lladron.

Mae aethnenni’n rhywogaeth arloesi hollbwysig sydd wrth fodd afancod, a bydd coed sydd wedi’u tyfu yn y blanhigfa’n cefnogi Prosiect Afancod Sir Ddinbych ar y Warchodfa Natur ger Green Gates.

Mae’r coed hefyd yn cynnal amrywiaeth eang o fioamrywiaeth fel coed ynn a derw ac maent yn gallu goroesi am filoedd o flynyddoedd. Mae’r gwreiddiau a dail sydd wedi syrthio hefyd yn gallu gwella pridd anffrwythlon a sefydlogi glannau afonydd, sy’n helpu i reoli llifogydd.

Er mwyn cynyddu nifer y coed, mae’r tîm yn defnyddio dull lluosogi llystyfol gan glonio o’r un system wreiddiau, sy’n ddull sydd wedi’i seilio ar ymchwil, gan fod y coed wedi dod i gynhyrchu llai a llai o hadau dros amser o ganlyniad i dywydd gwlypach ym Mhrydain. Mae angen i fisoedd y gwanwyn a’r haf fod yn boeth a sych er mwyn iddynt hadu.

Mae toriadau o’r coed yn cael eu plannu mewn bocsys; mae’r rhain wedyn yn cael eu cadw dan babell luosogi ar dymheredd a lleithder penodol. Mae’r twf yn cael ei fonitro nes mae’r coed yn ddigon mawr i’w symud i botiau.

Eglurodd Keegan Blazey, Swyddog yn y Blanhigfa Goed: “Mi ges i a fy nghydweithiwr, Sam Brown, hyfforddiant gan Dr Jenny Wong ar luosogi a chadwraeth aethnenni ym Mhrydain. Fe wnaethom ni’r toriadau o’r gwreiddiau ym mis Mawrth heb fawr ddim cyfarpar, gan obeithio y byddai’r tywydd o’n plaid ni.

“Yn ffodus iawn, mae wedi bod yn ddigon cynnes i allu tyfu’r toriadau, er ein bod wedi colli rhai yn sgil pyliau o wres mawr dros y penwythnos ac oherwydd clefydau ffyngol, i raddau helaeth oherwydd gormod o awyr iach neu ddim digon.

“Er hynny, ar ôl mireinio ambell beth, rydyn ni wedi llwyddo i gael tua 90 o doriadau, sydd bellach wedi tyfu i fod rhwng 20–60cm, a tua 25 o eginblanhigion (20–40cm). Amser yw’r prif ffactor i ni, ond rydyn ni’n eitha’ dygn ac fe fyddwn ni’n dal ati.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydyn ni’n falch iawn o’n tîm yn y Blanhigfa Goed am roi bywyd newydd i’r prosiect yma i hybu coed aethnen yn y sir. Bydd cynyddu eu niferoedd nhw’n ein helpu i frwydro yn erbyn elfennau o newid hinsawdd a hefyd yn rhoi cyfle i’r goeden ffynnu yn Sir Ddinbych unwaith eto.”

 

 

 

 

 

Partneriaeth yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi preswylwyr

Mae’r bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor ar Bopeth wedi mynd o nerth i nerth ers iddi ddechrau fwy na degawd yn ôl, gan helpu preswylwyr i drin cost barhaus pwysau byw a gwella eu lles ariannol.

Mae lleihau tlodi a chefnogi lles preswylwyr Sir Ddinbych yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor. Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gyflawni’r nod hwn, gan greu enillion ariannol sylweddol i breswylwyr wrth helpu i atal digartrefedd, lleihau tlodi tanwydd a chryfhau gwytnwch ariannol ar draws y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol Cyllid ac Archwilio:

“Rydym yn gwybod bod costau byw cynyddol yn parhau i roi pwysau sylweddol ar nifer o’n preswylwyr. Mae ein partneriaeth barhaus gyda Chyngor ar Bopeth yn fwy o lawer na helpu pobl i reoli argyfyngau uniongyrchol; mae’n golygu creu cymuned gryfach a mwy gwydn.

Trwy gydweithio, gallwn ddarparu cefnogaeth ymyrraeth gynnar ddi-dor a chyngor cyfannol sy’n mynd i’r afael ag achosion gwaelodol caledi ariannol. Mae’r bartneriaeth yn cyfuno adnoddau’r Cyngor gydag arbenigedd Cyngor ar Bopeth ac mae’n ein galluogi i ddarparu cefnogaeth ragweithiol i breswylwyr, darparu cyngor ar ddyledion a budd-daliadau a chyfrannu’n uniongyrchol at ein blaenoriaeth gorfforaethol o greu Sir Ddinbych fwy teg, diogel a chyfartal.”

Dywedodd Julie Pierce, Prif Swyddog Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych:

“Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad a rennir i wella canlyniadau i bobl ar draws Sir Ddinbych. Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol a diduedd am ddim, ac rydym yn chwarae rôl hanfodol o ran ymyrraeth ac atal cynnar, gan helpu pobl i fynd i’r afael â phroblemau cyn cyrraedd pwynt argyfwng.

Yn ystod 2025-26, fe wnaethom sicrhau £10.26 miliwn mewn incwm ychwanegol i breswylwyr lleol a chefnogi pobl gyda mwy nag £11.2 miliwn o broblemau dyledion. Fe wnaethom hefyd gyflawni bron £347,000 mewn arbedion ynni a darparu cyngor am ynni i 729 o aelwydydd.

Mae’r canlyniadau hyn yn dangos y gwerth cymdeithasol ac economaidd sylweddol mae’r bartneriaeth hon yn ei roi i’n cymunedau. Ni fyddai hyn yn bosibl heb ein staff a’n gwirfoddolwyr ymroddedig, a hoffwn ddiolch yn bersonol i bob un ohonynt am eu hymrwymiad parhaus a’u gwaith caled.”

I gael rhagor o wybodaeth am Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, ffoniwch 01745 346775 neu ewch i www.cadenbighshire.co.uk.

 

Gwaith cynnal a chadw’n dechrau ar ddolydd blodau gwyllt

Mae’r gwaith o dorri a chasglu gwair wedi dechrau ar draws dolydd blodau gwyllt Sir Ddinbych yn dilyn cyfnod hir o dywydd sych y tymor hwn.

Mae’r gwaith o dorri a chasglu gwair wedi dechrau ar draws dolydd blodau gwyllt Sir Ddinbych yn dilyn cyfnod hir o dywydd sych y tymor hwn.

Mae tîm Bioamrywiaeth, tîm Gwasanaethau Stryd a gweithwyr Adfer Natur y Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio i dorri safleoedd penodol yn gynt na’r arfer, gan helpu i gynnal a chefnogi cynefinoedd y dolydd.

Wedi’i sefydlu yn 2019, nod Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yw adfer cynefinoedd blodau gwyllt cynhenid, creu mannau gwyrdd cysylltiedig a chefnogi lles cymunedol ym mhob rhan o’r Sir.

Mae’r prosiect wedi’i gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru trwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Mae sawl rhywogaeth o flodau gwyllt wedi hadu’n gynharach eleni oherwydd y tywydd sych, felly fe fydd safleoedd penodol yn cael eu torri a’u casglu’n gynnar.  Fe fydd ardaloedd sydd â rhywogaethau sy’n blodeuo’n hwyrach yn cael eu gadael er mwyn iddynt flodeuo a byddant yn cael eu torri, fel yr arfer, o 1 Awst ymlaen.

Mae cael gwared ar doriadau yn lleihau’r maethynnau yn y pridd, sy’n helpu blodau gwyllt cynhenid i dyfu’n gryfach a hau ar gyfer y tymor nesaf.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn dechrau’r gwaith torri a chasglu rŵan gan fod nifer o flodau eisoes wedi’u hadu oherwydd y tywydd sych, a bydd hyn yn helpu’r rhywogaethau yma i ffynnu a thyfu eto - gan ein helpu i gynnal a gwella’r cynefinoedd ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Mae’r gwaith yma’n bwysig i gryfhau’r cynefin hwn er mwyn cefnogi natur yn ogystal â’n lles, a hynny ar ôl colli bron i 97% o’n dolydd yn ystod y can mlynedd ddiwethaf.

“Wrth i fwy o flodau gwyllt ddychwelyd, byddant yn cynyddu bioamrywiaeth a lliw fel y gall cymunedau fwynhau’r ardal ac er mwyn cefnogi pryfed peillio sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.

“Mae ein dolydd blodau gwyllt ar gyfer preswylwyr a bywyd gwyllt i’w mwynhau rŵan ac i genedlaethau o breswylwyr Sir Ddinbych yn y dyfodol.”

 

 

Lansio Sesiynau Misol ‘Cysylltu â Sgwrsio’ yng Ngorsaf VIBE Y Rhyl

Gwahoddir trigolion Sir Ddinbych i fynychu sesiwn ‘Cysylltu â Sgwrsio’ am ddim yng Ngorsaf VIBE yn Y Rhyl, sydd newydd agor. Nod y sesiwn yw helpu pobl i baratoi ar gyfer costau ynni ac aelwydydd sy'n codi cyn i'r biliau gynyddu yn ystod y gaeaf.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 23 Gorffennaf, a gall pobl alw heibio rhwng 2pm a 4pm yng Ngorsaf VIBE. ‘Cadw’n Gynnes, Gwario Llai’ yw’r cyntaf mewn rhaglen newydd o sesiynau misol, a gynhelir ar ddydd Mercher olaf pob mis.

Bydd y sesiynau hyn yn dod â sefydliadau lleol a gwasanaethau cymorth ynghyd i gynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chyfleoedd i drigolion gael cymorth mewn awyrgylch hamddenol a chroesawgar.

Mae’r sesiwn gyntaf hon yn canolbwyntio ar helpu pobl i gynllunio ar gyfer costau ynni sy'n codi, gan roi cyfle i’r rhai sy'n mynychu cymryd camau syml nawr i leihau effaith biliau uwch yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Bydd y rhai sy'n mynychu yn gallu arbed arian ar eu biliau, dod o hyd i fargeinion gwell, cael cyngor syml, a dysgu pa gymorth sydd ar gael iddynt.

Mae’r sefydliadau sydd wedi cadarnhau eu bod yn mynychu yn cynnwys Dŵr Cymru, Cyngor ar Bopeth a Cymru Gynnes, gyda disgwyl i wasanaethau lleol ychwanegol fod yn bresennol hefyd.

Mae’r digwyddiad yn agored i bawb a bydd yn cael ei gynnal fel sesiwn galw heibio am ddim; nid oes angen apwyntiad.

Dywedodd llefarydd ar ran VIBE:

“Mae’r digwyddiad hwn yn ymwneud â helpu pobl i gymryd camau ymarferol a chynnar i reoli costau bywyd sy'n codi. Drwy ddod â sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt ynghyd mewn un lle, rydym yn ei gwneud hi’n haws i drigolion gael cymorth a theimlo’n fwy parod ar gyfer misoedd y gaeaf.

“Mae lansio’r sesiynau misol hyn yn golygu y bydd y cymorth hwn yn parhau trwy gydol y flwyddyn, gyda chyfres o bynciau wedi’u cynllunio i ymateb i anghenion y gymuned leol.”

Cynhelir sesiynau yn y dyfodol ar ddydd Mercher olaf pob mis, gan gynnig mynediad parhaus at gymorth, cyngor a chyfleoedd sydd wedi'u teilwra i anghenion lleol.

Anogir preswylwyr i alw heibio a chael cymorth yn gynnar; bydd hyn yn eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a rheoli costau'r dyfodol yn well. Gall partneriaid sydd â diddordeb mewn cynnal sesiynau yn y dyfodol gael rhagor o wybodaeth drwy wefan Sir Ddinbych yn Gweithio.

Gwybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio:

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi'r rhai mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu â Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i'n gwefan.

Prosiect arloesol ynni solar ar gyfer gorsaf Gwastraff ac Ailgylchu

Mae cynllun effeithlonrwydd ynni yn lleihau defnydd a chostau yng ngorsaf Gwastraff ac Ailgylchu'r Cyngor

Mae cynllun effeithlonrwydd ynni yn lleihau defnydd a chostau yng ngorsaf Gwastraff ac Ailgylchu'r Cyngor.

Mae timau Ynni a Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi cwblhau prosiect i osod system storio ynni mewn batris (BESS) ar y safle yn Ninbych yn ddiweddar i helpu i ddal yr ynni sy’n cael ei gynhyrchu gan baneli ffotofoltäig niferus yr adeilad.

Mae tîm Ynni’r Cyngor wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau'r Cyngor i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau a lleihau allyriadau yn rhan o ymgyrch y Cyngor i leihau ei ôl troed carbon ar ôl datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur yn ystod 2019.

Gosodwyd batris 600kWh (3x200 kWh) yn y safle yn Ninbych yn gynharach eleni, drwy gymorth ariannol gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn rhan o Grant EVCI a ZEV 25-26 (oedd yn ariannu 90% o’r gost).

Mae’r batris hyn yn storio trydan dros ben sy’n cael ei gynhyrchu gan baneli ffotofoltäig ar do'r orsaf yn ystod y dydd er mwyn ei ddefnyddio pan nad yw’r paneli’n cynhyrchu ynni er mwyn gallu gwefru’r fflyd gwastraff ac ailgylchu. Gellir defnyddio'r ynni sydd wedi'i storio min nos neu ar ddyddiau cymylog iawn pan nad yw paneli solar yn cynhyrchu digon o drydan i gynnal yr adeilad, sy’n helpu i gynnal costau defnyddio ynni hirdymor is a lleihau allyriadau carbon.

Mae'r tîm Ynni wedi cymharu data o fis Ebrill i fis Gorffennaf eleni ar y safle â'r un cyfnod yn 2025, sydd eisoes yn dangos bod y system yn cyflawni ei nod.

Mae cyfanswm y defnydd o ynni a gyflenwir gan y grid wedi gostwng yn sylweddol - defnyddiwyd 15,282 kWh o ynni yn 2025 o'i gymharu â dim ond 5,395 kWh yn 2026.

Mae'r defnydd o ynni dyddiol cyfartalog ar safle Dinbych hefyd wedi gostwng yn sylweddol - defnyddiwyd 166.1 kWh yn 2025 a dim ond 58.6 kWh yn 2026.

Mae cerbydau Gwastraff ac Ailgylchu i gyd wedi'u lleoli ar safle Dinbych ac yn cychwyn ac yn gorffen eu llwybrau gweithredol o'r orsaf. Mae gwastraff y gellir ei ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei gasglu gan y cerbydau ac yn cael ei gludo i’r safle yn Ninbych i gael ei ddidoli a’i brosesu. 

Mae'r newid hwn mewn effeithlonrwydd eisoes o fudd i 15 y cant o'r fflyd sy'n cael ei bweru gan drydan (cerbydau trydan) ac yn cael eu gwefru ar y safle ar ddiwedd pob diwrnod o gasglu gwastraff ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu ar gyfer eu didoli a’u prosesu.

Mae yna 12 pwynt gwefru wedi’u gosod ar y safle sydd yn gwefru hyd at 16 cerbyd ar yr un pryd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae’r gwaith arloesol hwn ar y safle eisoes yn ein helpu i leihau allyriadau carbon a lleihau dibyniaeth ar ynni a gyflenwir gan y rhwydwaith, gan leihau ein costau yn yr orsaf trosglwyddo gwastraff. 

“Mae’n wych gweld y prosiect effeithlonrwydd hwn yn cael ei gynnal, gan fod ein tîm Gwastraff ac Ailgylchu wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon ar gyfer Sir Ddinbych gyfan. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n hadrannau Ynni a Fflyd am eu helpu i arwain y ffordd i gyflawni'r canlyniad hwn ar safle Dinbych.”

Mae disgwyl i’r gwaith arloesol hwn ar safle Dinbych arbed 76,731kWh ychwanegol y flwyddyn a chynyddu faint o ynni sy’n cael ei gynhyrchu ar y safle i tua 73 y cant, a fydd yn arbed tua £16,113 a 22 tunnell of CO2 y flwyddyn a lleihau faint o ynni dros ben gwerth isel sy’n cael ei anfon i’r grid.

 

 

Disgyblion yn cael cipolwg cyntaf ar estyniad a hwb cymunedol newydd Ysgol Bro Elwern

Mae disgyblion Ysgol Bro Elwern wedi cael cipolwg cyffrous ar ddyfodol eu hysgol, gan brofi taith o amgylch yr estyniad a'r hwb cymunedol newydd sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd ar safle'r ysgol.

Ysgol Bro Elwern

Dan arweiniad y partner adeiladu SWG, tywyswyd y disgyblion drwy'r datblygiad i ddysgu mwy am y broses adeiladu a chael cipolwg ar yr hyn y bydd y cyfleusterau gorffenedig yn ei gynnig. Rhoddodd yr ymweliad gyfle gwerthfawr i'r disgyblion archwilio rhannau allweddol o'r adeilad newydd, gan gynnwys y cyntedd cymunedol, y neuadd ac un o'r ystafelloedd dosbarth.

Ysgol Bro Elwern 2Mae'r gwaith adeiladu yn parhau i symud yn ei flaen yn dda gyda’r brif strwythur bellach yn ei le ac mae disgwyl i'r gwaith o osod y ffenestri gael ei gwblhau yn fuan.

Caiff y prosiect gwerth £2.7 miliwn ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru trwy ei grant Cyfalaf yr Iaith Gymraeg a Phrydau Ysgol am Ddim i ddarparu ystafell ddosbarth newydd a chegin o'r radd flaenaf ar gyfer yr ysgol gynradd, ac mae'r canolbwynt cymunedol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU fel rhan o gyllid grant ar gyfer 10 o brosiectau cyfalaf sydd â'r nod o ddiogelu treftadaeth unigryw, lles a chymunedau gwledig Rhuthun. 

Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd yr hwb cymunedol yn cynnig gofod amlbwrpas ar gyfer trigolion lleol, grwpiau cymunedol a sefydliadau. Bydd y cyfleuster yn cynnig ystafelloedd cyfarfod a neuadd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, hamdden a chymunedol, gan greu cyfleoedd hefyd i sefydliadau allanol logi'r lleoliad. Bydd yr hwb yn cael ei oruchwylio gan Bwyllgor Rheoli ymroddedig sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r gymuned leol.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Addysg, Plant a Theuluoedd: "Mae'n wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar y prosiect pwysig hwn, a fydd yn darparu buddion parhaol i'r ysgol a'r gymuned ehangach. Mae gweld y disgyblion yn mynd ar daith o amgylch y safle ac yn deall sut mae eu estyniad a'r hwb cymunedol yn cael eu hadeiladu wedi bod yn brofiad amhrisiadwy iddynt. Edrychaf ymlaen at weld yr adeilad gorffenedig yn yr hydref."

Ysgol Bro Elwern 3

Straeon perthnasol eraill:

Seremoni torri’r dywarchen yn nodi dechrau gwaith ar ganolfan gymunedol newydd

Cymeradwyaeth ar gyfer hwb cymunedol newydd yng Ngwyddelwern

Mae tirnod nodedig yn y Rhyl yn dathlu gwobr gymunedol am y pymthegfed flwyddyn yn olynol.

Mae tirnod yn y Rhyl yn dathlu ennill gwobr gymunedol fawreddog am y pymthegfed flwyddyn yn olynol.

Mae tirnod yn y Rhyl yn dathlu ennill gwobr gymunedol fawreddog am y pymthegfed flwyddyn yn olynol.

Mae’r Llyn Morol wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd ar gyfer 2026 gan Cadwch Gymru'n Daclus, sy’n nodi 15 mlynedd o chwifio’r faner yn yr atyniad yn y Rhyl.

Mae'r wobr yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy'n ddiogel, yn groesawgar ac yn cael eu rheoli'n dda, gan osod y safon ar gyfer mannau hamdden awyr agored ledled y byd. Mae parciau'n cael eu hasesu'n annibynnol yn erbyn meini prawf trylwyr, sy’n rhoi sylw i hygyrchedd, gwaith cynnal a chadw, rheoli amgylcheddol, diogelwch, bioamrywiaeth ac ymgysylltu â'r gymuned.

Agorodd y gronfa ddŵr o law dyn yn swyddogol yn 1895 ac mae’n cynnig cartref unigryw i fyd natur yr ardal, llwybr natur a threftadaeth a rheilffordd fach hynaf y DU, sef Rheilffordd Fach y Rhyl.

Mae aelodau'r fforwm a gwirfoddolwyr yn helpu i ofalu am y safle, ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion o dîm Harbwr y Rhyl, Cyngor Sir Ddinbych.

Mae'r fforwm yn helpu i reoli rheolau'r cyfleuster, cydlynu gweithgareddau tymhorol a gofalu am yr ardaloedd bywyd gwyllt sefydledig y gall ymwelwyr ddod ar eu traws wrth gerdded o amgylch ymyl y llyn.

Meddai Betty Smith, o Fforwm Defnyddwyr y Llyn Morol: “ Pan ymwelodd beirniad Cadwch Gymru'n Daclus â’r Llyn ym mis Ebrill, roedd yn llawn canmoliaeth i'r safle ac roedd y gwaith plannu coed newydd a wnaed wedi creu argraff fawr arno, yn ogystal â nifer y gwirfoddolwyr y bu iddo gwrdd â nhw yng ngorsaf y rheilffordd fach, a’u brwdfrydedd.  

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn hynod falch bod y Llyn Morol wedi derbyn cydnabyddiaeth unwaith eto gyda Gwobr y Faner Werdd, yn enwedig gan fod hynny’n nodi 15 mlynedd yn olynol o lwyddiant ar gyfer yr atyniad hynod boblogaidd hwn yn y Rhyl.

“Mae'r wobr yn adlewyrchiad gwirioneddol o'r gofal, y balchder a'r ymrwymiad a ddangosir gan Fforwm Defnyddwyr y Llyn Morol, ac mae'n fraint i swyddogion y Cyngor gefnogi'r fforwm wrth helpu i ofalu am ased cymunedol mor bwysig a'i hyrwyddo.

“Mae’r Llyn Morol yn parhau i chwarae rhan arbennig yn y Rhyl, gan ddarparu lle croesawgar i breswylwyr ac ymwelwyr, cefnogi bywyd gwyllt lleol ac ychwanegu at yr atyniadau unigryw sydd gan y dref i’w cynnig ar yr arfordir.”

 

 

Cyngor Sir Ddinbych yn cychwyn gwaith ar welliannau teithio llesol yn Ninbych Isaf

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cychwyn ar waith i gyflwyno cyfres o welliannau teithio llesol yn Ninbych Isaf.

Mae’r gwaith wedi’i ariannu gan grant o’r Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol a’i nod yw lleihau nifer y teithiau byr a wneir bob dydd mewn cerbydau modur a chynyddu lefelau teithio llesol yn Sir Ddinbych.

Bydd y gwelliannau hyn yn creu llwybrau cerdded a beicio mwy diogel at gyfleusterau lleol allweddol ac yn galluogi pobl i wneud dewisiadau teithio iachach, gwyrddach a rhatach.

Bydd y gwaith i wella Teithio Llesol yn cychwyn ddydd Llun 20 Gorffennaf ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn yr hydref.

Bydd y prosiect yn cynnwys:

  • Gwella diogelwch i gerddwyr ar gyffordd Rhodfa Clwyd a chyffordd Ffordd Ystrad.
  • Uwchraddio’r groesfan bresennol i gerddwyr ar Ffordd Rhuthun i fod yn groesfan twcan ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
  • Lledu’r troedffyrdd ar ffordd Rhuthun rhwng Rhodfa Clwyd a Ffordd Ystrad.
  • Gwella'r fynedfa i faes parcio Hamdden Sir Ddinbych o Ffordd Ystrad, er mwyn creu mynediad sy'n fwy diogel ac yn fwy cyfeillgar i gerddwyr.
  • Sylwch: bydd mynedfa’r maes parcio ar gau am tua phedair wythnos tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn, gan gychwyn ddydd Llun 20 Gorffennaf.
  • Lledu’r droedffordd sy’n arwain at Ysgol y Parc er mwyn gwella diogelwch y plant sy’n teithio i ac o’r ysgol.

    Meddai Pennaeth Ysgol y Parc, Liz Croft: “Yma yn Ysgol Fabanod y Parc, rydym wedi gwirioni gweld y buddsoddiad hwn yn cael ei wneud i wella’r ardal leol a mesurau diogelwch y ffordd o amgylch ein hysgol. Mae’r gwelliannau hyn yn dangos ymrwymiad i greu amgylchedd mwy diogel, iach a hygyrch i’n plant, ein teuluoedd a’r gymuned ehangach.

    “Bydd y gwell cyfleusterau croesi yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ddiogelwch cerddwyr, gan roi mwy o hyder i deuluoedd wrth gerdded i ac o’r ysgol, a bydd culhau Ffordd Rhuthun yn helpu gostegu traffig, gan greu amgylchedd mwy diogel i bawb sy’n teithio drwy’r ardal.

    “Mae’r datblygiadau hyn yn cynnig cefnogaeth gref i weledigaeth Llywodraeth Cymru i gynyddu teithio llesol drwy annog mwy o blant a theuluoedd i gerdded, beicio a sgwtio i’r ysgol. Fel ysgol, rydym yn frwd dros hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a lleihau ein heffaith amgylcheddol, a bydd y gwelliannau hyn yn ein helpu i barhau i wreiddio’r gwerthoedd hyn ym mywyd bob dydd ein hysgol.

    “Mae’r newidiadau hyn hefyd yn cydweddu’n agos â’r Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig o ran helpu ein disgyblion i ddod yn unigolion iach a hyderus sy’n deall pwysigrwydd lles corfforol, diogelwch y ffordd, a gofalu am yr amgylchedd. Edrychwn ymlaen at gael gweld yr effaith gadarnhaol y bydd y gwelliannau hyn yn ei chael ar ein disgyblion, ein teuluoedd a’r gymuned am flynyddoedd lawer i ddod.”

    Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae cyflwyno cyfres o welliannau newydd i deithio llesol yn ychwanegiad gwych i Ddinbych. Mae teithio llesol yn creu llwybrau cerdded mwy diogel i’r defnyddwyr ffyrdd mwyaf agored i niwed – fel pobl hŷn a phlant – ac mae hefyd yn annog trigolion i leihau eu hôl troed carbon drwy ddewis cerdded yn hytrach na gyrru dros bellteroedd byr.

    Mae'r cyngor yn ymddiheuro am unrhyw drafferth y gallai’r gwaith hwn ei achosi, ac yn diolch i drigolion am eu hamynedd wrth gwblhau’r gwelliannau pwysig hyn.

    I ddysgu mwy am deithio llesol, ewch i’r dudalen Teithio Llesol ar ein gwefan.

    Cyngor yn cyflwyno £300 o Rybudd Cosb Benodedig am dorri Dyletswydd Gofal mewn cysylltiad â Gwastraff y Cartref

    Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflwyno £300 o Rybudd Cosb Benodedig i unigolyn am fethu â chydymffurfio gyda’u Dyletswydd Gofal cyfreithiol mewn cysylltiad â gwaredu gwastraff y cartref.

    Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflwyno £300 o Rybudd Cosb Benodedig i unigolyn am fethu â chydymffurfio gyda’u Dyletswydd Gofal cyfreithiol mewn cysylltiad â gwaredu gwastraff y cartref.

    Mae’r cam gweithredu yma’n dangos ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu’n gyfrifol er mwyn amddiffyn yr amgylchedd a chymunedau lleol.

    Daeth yr achos yn sgil ymchwiliad gan Dîm Trosedd Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor ar ôl i achos o dipio anghyfreithlon gael ei ganfod ger ardal chwarae ym Mhrestatyn. 

    Fe archwiliodd y swyddogion y gwastraff a chanfod tystiolaeth a’u harweiniodd i ganfod pwy oedd yr unigolyn oedd yn gyfrifol am y gwarediad, a’u bod nhw’n byw 125 milltir i ffwrdd.

    Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad fod yr unigolyn wedi talu rhywun i gael gwared ar eu gwastraff cartref, ond nad oeddynt wedi gwneud y gwiriadau rhesymol i sicrhau bod yr unigolyn yn gludwr gwastraff cofrestredig.  Yn sgil hynny, cafodd y gwastraff ei dipio yn anghyfreithlon ym Mhrestatyn.

    Yn hytrach nag erlyn yr unigolyn, cyflwynodd y Cyngor £300 o Rybudd Cosb Benodedig am dorri gofynion Dyletswydd Gofal mewn cysylltiad â gwastraff y cartref.

    Mae gan breswylwyr Ddyletswydd Gofal cyfreithiol tra’n gwaredu gwastraff y cartref. Mae hyn yn golygu cymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff yn cael ei basio i unigolyn awdurdodedig neu gludwr gwastraff cofrestredig ac y bydd yn cael ei waredu’n gyfreithiol. 

    Dylai unrhyw un sy’n talu rhywun arall i waredu eu gwastraff ofyn i gael gweld prawf eu bod wedi Cofrestru i Gludo Gwastraff a chadw manylion pwy a’i casglodd.  Gallai methu â gwneud hyn arwain at gamau gorfodi os canfyddir yn nes ymlaen bod y gwastraff wedi cael ei dipio anghyfreithlon.

    Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Trosedd Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych:

    "Rydym eisiau atgoffa pawb fod ganddynt gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eu gwastraff cartref yn cael ei basio i gludwr gwastraff awdurdodedig. Mae tipio anghyfreithlon yn achosi niwed sylweddol i’n hamgylchedd, mae’n costio arian y trethdalwyr i’w glirio ac mae’n effeithio ar safon bywyd yn ein cymunedau.

    “Mae’r achos yma’n dangos does ots lle mae rhywun yn byw, os ydi’r dystiolaeth yn arwain yn ôl at y rhai sy’n gyfrifol am fethu yn eu Dyletswydd Gofal, byddwn yn ymchwilio’n drylwyr ac yn defnyddio’r pwerau gorfodi sydd ar gael i ni.”

    Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein neges yn glir: ni fydd tipio anghyfreithlon a gwaredu gwastraff yn anghyfrifol yn cael ei oddef yn Sir Ddinbych. Byddwn yn parhau i gymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy’n cyfrannu at drosedd amgylcheddol ac yn gweithio i gadw ein Sir yn lân ac yn ddiogel i bawb."

    Er mwyn gwirio a ydi unigolyn neu fusnes wedi cofrestru i gludo gwastraff yn gyfreithiol, ewch i wefan Cofrestr Cludo Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru cyn i chi drosglwyddo eich gwastraff.

    https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/check-for-a-permit-licence-or-exemption/?lang=cy

    Sesiynau chwarae wedi’u trefnu ar draws y sir dros wyliau’r haf

    Mae gwasanaeth Ceidwaid Chwarae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhyddhau amserlen ‘Beth am Chwarae Allan’ yr haf hwn, sy’n cynnwys sesiynau chwarae mewn 20 o leoliadau ar draws y sir.

    Mae’r sesiynau ‘Beth am Chwarae Allan’ yn cynnwys cymysgedd o leoliadau ar draws gogledd a de’r sir. Maen nhw’n cael eu harwain gan blant, sy’n golygu y gall plant ddewis beth maen nhw’n ei wneud neu pa offer maen nhw am ei ddefnyddio’n rhydd.

    Mae’r sesiynau hyn yn darparu chwarae mynediad agored cwbl hygyrch i blant yn eu cymunedau lleol a chynhelir sesiynau bore a phrynhawn trwy gydol gwyliau’r haf.

    Byddan nhw’n rhedeg rhwng 20 Gorffennaf a 28 Awst a bydd sesiynau’r bore yn rhedeg rhwng 10:30am-12:00pm, a sesiynau’r prynhawn yn rhedeg rhwng 2:00pm-3:30pm.

    Sesiynau dros yr haf

    Mae’r sesiynau’n rhai mynediad agored, sy’n golygu bod croeso i blant fynd a dod, ond mae’n rhaid i blant dan chwech oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

    Meddai Dawn Anderson, Rheolwr Gofal Plant a Datblygu Chwarae Sir Ddinbych:

    “Mae nifer dda wedi dod i’r sesiynau ‘Beth am Chwarae Allan’ a gynhaliwyd hyd yma eleni. Rydym wedi cynyddu nifer y lleoliadau eleni o 10 i 20, gan gynnig mwy o gyfleoedd chwarae mewn mwy o leoliadau ar draws y sir.

    Rydw i’n edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl i’n sesiynau unwaith eto dros yr haf.”

    Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

    “Mae’r sesiynau hyn yn rhai hwyliog am ddim ac fe’u cynhelir ar draws y sir yn ystod gwyliau’r haf.

    Mae ‘Beth am Chwarae Allan’ yn cael eu cynnal mewn 20 lleoliad ar draws y sir yn ystod y bore a’r prynhawn, gan gynnig mwy o gyfle i deuluoedd allu mynychu.

    Plant sy’n arwain y sesiynau, a gallant ddewis pa fath o chwarae fyddai’n well ganddyn nhw trwy gydol y sesiwn gyfan.”

    Cymorth recriwtio wedi'i ariannu'n llawn ar gael i gyflogwyr yn Sir Ddinbych

    Cael trafferth recriwtio? Efallai eich bod yn methu cronfa gyfan o ymgeiswyr brwdfrydig.

    Y newyddion gwych yw y gall Sir Ddinbych yn Gweithio helpu.  Rydym wedi partneru ag arbenigwr cyflogi lleol, proffesiynol i ddarparu cefnogaeth wedi'i theilwra i wella eich arferion recriwtio, gan eich helpu i fanteisio'n effeithlon ar gronfa dalent ehangach.

    Gall prosiect Cyflogwyr Cynhwysol Sir Ddinbych yn Gweithio roi'r canlynol i chi:

    • Canllawiau ymarferol, hawdd eu cymhwyso ar arferion recriwtio a sefydlu effeithiol a chynhwysol;
    • Cefnogaeth wedi'i theilwra i wella eich cyflogi;
    • Cyngor ac adnoddau i gefnogi gweithwyr posibl a phresennol ag anableddau, cyflyrau iechyd, neu gyfrifoldebau gofalu

    Mae Wynne Construction eisoes wedi elwa ar y prosiect, ac meddai Rebecca Martin, Rheolwr Adnoddau Dynol Wynne Construction:

    “Roedd ein trafodaeth yn ddefnyddiol iawn ac rwy’n gwerthfawrogi’r cyngor a’r argymhellion. Mae’r hysbysebion newydd wedi gweithio’n wych, ac rwyf wedi gweld gwelliant mawr yn addasrwydd ac amrywiaeth yr ymgeiswyr rydym wedi’u derbyn.”

    Ychwanegodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:

    “Rydym yn falch bod y prosiect arloesol hwn bellach wedi hen sefydlu ac yn cyflawni canlyniadau gwirioneddol – gan gysylltu busnesau â phobl leol sydd wedi cael eu rhwystro gan anabledd, problemau iechyd neu ddyletswyddau gofalu.

    “Mae cyflogwyr yn llenwi swyddi gwag gyda’r staff sydd eu hangen arnynt, ac mae preswylwyr yn cael y cymorth a’r cyfle sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y gwaith; mae hyn yn rhoi’r gorau o’r ddau fyd i Sir Ddinbych.

    “Gall unrhyw gyflogwr yn Sir Ddinbych sydd â’r uchelgais i recriwtio fanteisio ar y cynnig hwn, sy’n cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.”

    Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig; cysylltwch â Dawn Johnson i gofrestru eich diddordeb ar 01824 706 740 neu drwy e-bost ar dawn.johnson@sirddinbych.gov.uk

    Partneriaeth Gymunedol yn Trawsnewid Lleoliad Problemus o ran Tipio Anghyfreithlon yn y Rhyl

    Mae menter gymunedol gydweithredol wedi cael gwared â miloedd o gilogramau o wastraff o leoliad problemus o ran tipio anghyfreithlon mewn tref.

    Mae menter gymunedol gydweithredol wedi cael gwared â miloedd o gilogramau o wastraff o leoliad problemus o ran tipio anghyfreithlon mewn tref.

    Daeth Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad a Thîm Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych ynghyd gyda sefydliadau partner, gwirfoddolwyr a thrigolion lleol i drawsnewid lleoliad problemus o ran tipio anghyfreithlon yn y Rhyl.

    Roedd y fenter yn canolbwyntio ar y stryd gefn rhwng West Kinmel Street a Princes Street, sef ardal sydd wedi gweld llawer iawn o dipio anghyfreithlon a gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon ers peth amser.

    Drwy gydweithio, llwyddodd y fenter i gael gwared â dros 3,000 cilogram o wastraff, gan gynnwys sawl eitem swmpus a nwyddau gwyn, gan wneud y stryd gefn yn fan glanach a mwy diogel i’r gymuned leol unwaith eto.

    Daeth y digwyddiad â chydweithwyr Cyngor Sir Ddinbych ynghyd, gan gynnwys y Tîm Gwasanaethau Stryd, y Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad, y Swyddog Datblygu Cymunedol, Luisa Citra, a’r Rheolwr Prosiect, Helen Johnson, yn ogystal â chynrychiolwyr o ClwydAlyn, Heddlu Gogledd Cymru, Wendy Jones o Cadwch Gymru'n Daclus, gwirfoddolwyr a thrigolion lleol.

    Roedd y fenter lanhau yn golygu llawer mwy na dim ond cael gwared â gwastraff. Roedd yn dangos yr effaith gadarnhaol y gellir ei chael pan fo gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau partner a’r gymuned yn cydweithio gyda’r nod gyffredin o wella cymdogaethau lleol.

    Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych:

    “Mae digwyddiad heddiw’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fo pawb yn dod at ei gilydd gyda nod gyffredin. Er bod cael gwared â dros 3,000kg o wastraff yn gyflawniad anhygoel, y llwyddiant mwyaf oedd gweld sefydliadau, gwirfoddolwyr a thrigolion yn gweithio ochr yn ochr i wneud gwahaniaeth go iawn i’w cymuned.

    “Mae tipio anghyfreithlon yn cael effaith sylweddol ar ein hamgylchedd ac ar y bobl sy’n byw gerllaw. Drwy weithio mewn partneriaeth, addysgu a gorfodi, rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol a chreu mannau glanach a mwy diogel i bawb.

    “Hoffem ddiolch i bob sefydliad, gwirfoddolwr ac unigolyn a roddodd o’u hamser i gefnogi’r fenter lanhau heddiw. Mae eich ymrwymiad a’ch ysbryd cymdogol wedi helpu trawsnewid yr ardal hon, ac wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni wrth i ni i gyd gydweithio.”

    Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dim ond y dechrau ydi’r fenter lanhau. Bydd ein Swyddogion Troseddau Amgylcheddol newydd yn cynnal patrolau rheolaidd yn yr ardal ac yn monitro’r lleoliad drwy TCC.  Bydd unrhyw un a gaiff ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon yn wynebu camau gorfodi cadarn, gan gynnwys Rhybudd Cosb Benodedig neu erlyniad pan fo hynny’n briodol. Mae ein neges yn glir – wnawn ni ddim goddef tipio anghyfreithlon yn Sir Ddinbych.”

    Yn dilyn y fenter lanhau, bydd Tîm Troseddau Amgylcheddol y Cyngor yn parhau i fonitro’r ardal drwy gynnal patrolau rheolaidd a defnyddio TCC i rwystro troseddau pellach ac i ddod o hyd i unrhyw un sy’n gyfrifol am waredu gwastraff yn anghyfreithlon. Mae’r Cyngor yn parhau i fod wedi ymrwymo i gymryd camau cadarn yn erbyn troseddau amgylcheddol, gan gydweithio â’r cymunedau lleol i greu cymdogaethau glanach a mwy diogel.

    Anogir trigolion i gael gwared â’u gwastraff yn gyfrifol ac i roi gwybod am unrhyw achosion o dipio anghyfreithlon neu droseddau amgylcheddol eraill drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych neu drwy gysylltu â thîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor ar 01824 706000.

    Drwy gydweithio, gallwn helpu gwarchod ein cymunedau a sicrhau bod Sir Ddinbych yn lle glân, diogel a chroesawgar i bawb.

     

    Ystafell sy’n efelychu’r cartref yn rhoi hwb i sgiliau gweithredol

    Mae’r cyngor wedi creu ystafell sy’n efelychu’r cartref, i ddarparu amgylchedd domestig realistig i breswylwyr allu ymarfer eu sgiliau ar ôl cyfnodau o ddigartrefedd, a galluogi i’r tîm therapi galwedigaethol gynnal asesiadau manwl.

    Fe agorodd yr ystafell, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Estyn Allan (Reach Out) yn y Rhyl, ond sydd methu cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl, ym mis Mehefin, a bydd yn cael ei defnyddio gan nifer o wasanaethau’r cyngor o fewn y tîm amlddisgyblaeth.

    Cegin

    Mae’n cynnwys ystafell ymolchi, cegin, ystafell fyw ac ystafell wely, a gall yr ystafell sy’n efelychu’r cartref gael ei defnyddio gan Therapyddion Galwedigaethol ar gyfer asesiadau mwy manwl o anghenion trefniadau byw. Mae’r gegin hefyd yn cael ei defnyddio gan dîm atal digartrefedd y cyngor lle mae’n nhw’n addysgu sesiynau coginio wythnosol.

    Ystafell fyw

    Mae tîm teleofal y cyngor hefyd wedi gosod nifer o gymhorthion o fewn yr ystafell sydd yn gallu cynorthwyo asesiadau a gadael i breswylwyr ddod i arfer â’r dyfeisiau mewn amgylchedd un-i-un. Mae’r dechnoleg gynorthwyol yn cynnwys system a chortyn gwddf ‘lifeline’, synhwyrydd epilepsi, amserydd cegin sy’n gallu ‘siarad’ a synhwyrydd mwg.

    Trwy gynnig amgylchedd diogel, taclus a thawel, mae’r ystafell yn cynnig canlyniadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn iddynt ddatblygu’r sgiliau gweithredol sydd eu hangen i fyw’n annibynnol.

    Ystafell ymolchi

    Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd:

    “Mae’r ystafell unigryw hon wedi cael ei datblygu oherwydd y newid ym mhroffil y rhai sy’n cysylltu â thîm atal digartrefedd. Trwy ymarfer sgiliau a gweithio mewn amgylchedd un-i-un, rydym wedi canfod y gallwn helpu’r rhai sydd angen ein cefnogaeth, i sicrhau canlyniadau gwell unwaith y maen nhw’n cael tenantiaeth fwy parhaol. 

    Fe fydd ein tîm atal digartrefedd yn gweithio law yn llaw â’r tîm teleofal a therapyddion galwedigaethol er mwyn defnyddio’r gofod i gynnig asesiadau mwy manwl.

    Mae’r gofod yn galluogi i ni weithio gyda’r rhai sydd â chyflyrau mwy cronig megis epilepsi i ddefnyddio’r dechnoleg gynorthwyol sydd ar gael mewn amgylchedd tawel sy’n cael ei reoli, lle gellir gofyn cwestiynau ar lefel un-i-un a helpu iddynt ddeall yn llawn sut y gall y dechnoleg eu cynorthwyo.

    Meddai’r Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas:

    “Mae’r datblygiad yma wedi cael ei ddylunio i gael ei ddefnyddio gan nifer o wasanaethau’r cyngor o fewn y tîm amlddisgyblaeth.

    Yn adnodd gwerthfawr a agorodd fis diwethaf, fe fydd hwn yn galluogi staff i helpu preswylwyr ennill sgiliau bywyd gwerthfawr a chynnal asesiadau manwl, un-i-un, ac mae nifer o sesiynau eisoes wedi’u cynnal yn y cyfleuster newydd.”

    Gweithio mewn partneriaeth yn helpu preswylwyr i gael at gefnogaeth gydag iechyd a chyflogaeth

    Mae preswylwyr ar hyd a lled Sir Ddinbych yn elwa o ymagwedd gydweithredol sy’n dod â meddygfeydd lleol, gwasanaethau iechyd a chefnogaeth gyda chyflogadwyedd o Sir Ddinbych yn Gweithio ynghyd gan sicrhau y gall pobl gael y cymorth maent ei angen, ble a phryd y maent ei angen.

    Drwy adeiladu ar berthnasoedd sydd wedi eu sefydlu eisoes mae sefydliadau’n cydweithio i gysylltu unigolion sy’n mynychu meddygfeydd a lleoliadau iechyd eraill gyda gwasanaethau cyflogadwyedd sydd wedi eu teilwra. Mae’r ymagwedd hon yn cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng iechyd, lles a mynediad at gyfleoedd i gael gwaith, hyfforddiant a meithrin sgiliau.

    Fel rhan o’r fenter barhaus hon, mae sgriniau digidol wedi eu cyflwyno mewn meddygfeydd ar hyd a lled Sir Ddinbych. Mae’r rhain yn darparu gwybodaeth glir a hygyrch ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, gan ei gwneud yn haws i bobl ddysgu am wasanaethau cyflogadwyedd tra’n cael gofal iechyd.

    Mae partneriaid gofal iechyd ar hyd a lled Sir Ddinbych wedi croesawu’r cyfle i gryfhau’r cysylltiadau rhwng iechyd a chefnogaeth o ran cyflogadwyedd yn frwd, gan helpu i greu llwybrau sydd wedi eu cyd-drefnu’n well ar gyfer preswylwyr. Drwy fwy o gydweithio gall unigolion gael eu cysylltu gyda gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â heriau sy’n gysylltiedig ag iechyd a rhwystrau i waith.

    Mae timau yn parhau i weithio ochr yn ochr â meddygfeydd, gwasanaethau iechyd meddwl a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ehangach i wella llwybrau atgyfeirio a gwella’r profiad ar gyfer unigolion sy’n cael cefnogaeth. Mae hyn yn galluogi pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor i gael arweiniad sy’n adlewyrchu eu lles, dyheadau a’u hamgylchiadau personol.

    Fel rhan o’r gwaith hwn mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cydweithio gyda Therapyddion Galwedigaethol y mae eu sgiliau arbenigol yn eu galluogi i asesu gallu gweithredol, deall gofynion y gweithle a helpu unigolion i oresgyn rhwystrau meddyliol a chymdeithasol tuag at gyflogaeth.  Mae eu harbenigedd yn cefnogi pobl i ganfod datrysiadau ymarferol a all eu helpu i gael at waith ystyrlon, dychwelyd at waith a’i gynnal.

    Gyda’i gilydd mae partneriaid yn rhannu’r un nod o leihau anweithgarwch economaidd drwy gefnogi unigolion gyda chyflyrau iechyd i gael at gyfleoedd sy’n gwella lles a’r posibilrwydd o gyflogaeth.   Fel rhan o raglen Blaengaredd Llywodraeth Cymru, bydd Therapydd Galwedigaethol yn gweithio gyda’r Ganolfan Waith, Sir Ddinbych yn Gweithio a meddygfeydd dethol i ddarparu cymorth integredig i breswylwyr sy’n wynebu rhwystrau sy’n gysylltiedig ag iechyd tuag at waith. Nod y fenter yw meithrin capasiti lleol, cryfhau cydweithio rhwng sefydliadau a phrofi dulliau arloesol o helpu pobl i symud tuag at gyflogaeth gynaliadwy.

    Mae Gorsaf VIBE Sir Ddinbych yn Gweithio sydd newydd agor yn darparu’r amgylchedd delfrydol i’r partneriaethau hyn dyfu, gan ddod â gwasanaethau ynghyd mewn un lleoliad a’i gwneud yn haws i breswylwyr gael at ystod o gefnogaeth. Drwy gysylltu gofal iechyd, cyflogadwyedd a gwasanaethau cymunedol, gall unigolion elwa o arweiniad wedi ei deilwra i’w hanghenion a’u nod unigryw.

    Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

    “Gall cyflogaeth dda drawsnewid bywydau, ond rydym yn gwybod y gall heriau’n ymwneud ag iechyd ei gwneud yn anodd i nifer o bobl gymryd y cam cyntaf hwnnw tuag at waith neu hyfforddiant. Dyma pam mae dod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, Sir Ddinbych yn Gweithio a’n partneriaid ehangach ynghyd mor bwysig.

    “Mae’r ymagwedd gydweithredol hon yn ymwneud â’i gwneud yn haws i gael at gefnogaeth, a gwneud y gefnogaeth honno yn fwy cydlynol gan ganolbwyntio ar yr unigolyn. Drwy gydweithio fe allwn helpu pobl i oresgyn rhwystrau, gwella eu lles a meithrin yr hyder a’r sgiliau maent ei angen i symud tuag at gyflogaeth fwy cynaliadwy.

    “Mae mentrau fel hyn yn dangos gwerth gweithio mewn partneriaeth a’n hymrwymiad a rennir tuag at fynd i’r afael ag amddifadedd, cryfhau ein cymunedau a chreu cyfleoedd i breswylwyr ar hyd a lled Sir Ddinbych i ffynnu.”

    Dywedodd Melanie Evans, Rheolwr Gwasanaeth Cyflogaeth Strategol:

    “Mae hon yn enghraifft wych o’r hyn all gael ei gyflawni pan ddaw gwasanaethau ynghyd gyda diben a rennir. Mae cryfhau ein perthnasoedd gyda meddygfeydd, timau iechyd meddwl a gweithwyr gofal iechyd ehangach yn golygu ein bod yn creu mwy o gyfleoedd i bobl gael at y gefnogaeth maent ei hangen.

    Mae’r ymrwymiad a ddangosir gan ein partneriaid gofal iechyd wedi bod yn eithriadol o galonogol ac mae wedi bod yn allweddol o ran datblygu ein hymagwedd. Mae’n gyfle gwych sydd â’r potensial o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion, teuluoedd a chymunedau ar draws y sir.”

    Ychwanegodd Kate Pierce, Uwch Ymarferydd Therapydd Galwedigaethol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

    “Mae gwaith yn rhan bwysig o iechyd a lles, ac eto mae nifer o bobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor yn wynebu rhwystrau sylweddol i gael at gyflogaeth neu weithgarwch ystyrlon neu ddychwelyd at hynny. Trwy brosiect PrOacTive rydym yn dod ag arbenigedd therapi galwedigaethol yn uniongyrchol i mewn i leoliadau cyflogaeth a gofal sylfaenol, gan helpu pobl i adnabod eu cryfderau, rheoli heriau sy’n gysylltiedig ag iechyd a meithrin hyder tuag at waith ystyrlon. Drwy gydweithio gyda meddygfeydd, Sir Ddinbych yn Gweithio a chydweithwyr yn y Swyddfa Waith, gallwn ddarparu cefnogaeth sy’n fwy cydlynol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn sydd nid yn unig yn gwella canlyniadau o ran cyflogaeth ond hefyd yn gwella iechyd, annibyniaeth ac ansawdd bywyd yn gyffredinol.

    Mae’r ymagwedd gydweithredol hon yn helpu i greu system fwy cysylltiedig ar draws Sir Ddinbych, gan gefnogi preswylwyr i wella eu lles, archwilio cyfleoedd newydd a symud tuag at gyflogaeth gynaliadwy ac ystyrlon.

    Gwybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio:

    Mae cymorth gan Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhad ac am ddim ac ar gael i unrhyw un dros 16 oed sy'n byw yn Sir Ddinbych ac sydd eisiau cymorth i symud ymlaen.

    Gall preswylwyr ddysgu mwy ar ein gwefan.

    Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU a nifer o raglenni, gan gynnwys Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer y DU a Chymru sy'n targedu anweithgarwch economaidd, Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU (SPF), a Chysylltu â Gwaith.

    Cyngor yn Cymryd mwy o Gamau i Fynd i’r Afael â Thipio Anghyfreithlon a Throseddau Amgylcheddol

    Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cryfhau ei ymrwymiad i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol yn ddiweddar drwy fuddsoddi yn ei Dîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad sydd newydd ei sefydlu. 

    Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cryfhau ei ymrwymiad i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol yn ddiweddar drwy fuddsoddi yn ei Dîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad sydd newydd ei sefydlu. 

    Mae’r tîm estynedig yn datblygu gwaith y Tîm Gorfodi presennol ac mae’n ffurfio rhan o fuddsoddiad ehangach y Cyngor i wella glanweithdra ac ymddangosiad cymunedau ar draws y sir.

    Yn yr wythnosau diwethaf, mae swyddogion wedi bod yn cwblhau ymchwiliadau gorfodi a chynnal gweithgareddau addysgol mewn ardaloedd lle mae tipio anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol fwyaf problemus. Roedd hyn yn cynnwys cyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig, llythyron rhybuddio a Rhybuddion Adran 46 i drigolion a busnesau sydd wedi methu â chydymffurfio â gofynion cyflwyno a storio gwastraff.

    Mae'r tîm hefyd wedi cynyddu patrolau mewn ardaloedd problemus, wedi cydlynu gweithrediadau glanhau ac wedi gosod arwyddion a chamerâu teledu cylch caeedig ychwanegol i atal troseddwyr a chasglu tystiolaeth lle mae troseddau'n digwydd.

    Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd sy’n niweidio’r amgylchedd, yn difetha cymunedau lleol ac yn rhoi baich ariannol diangen ar drethdalwyr. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gymryd camau gorfodi cadarn yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol wrth barhau i addysgu trigolion ar eu cyfrifoldebau dros waredu gwastraff yn gywir.

    “Anogir trigolion i waredu eu gwastraff yn gyfrifol, defnyddio gwasanaethau ailgylchu a chasglu gwastraff y Cyngor, ac adrodd am achosion o dipio anghyfreithlon i helpu i ddiogelu amgylchedd Sir Ddinbych i bawb.”

     Os oes gennych chi wybodaeth am dipio anghyfreithlon neu unrhyw droseddau amgylcheddol eraill, adroddwch amdano drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych neu cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706000.

    Drwy adrodd am droseddau amgylcheddol, gallwch ein helpu i gymryd camau yn erbyn troseddwyr a chadw Sir Ddinbych yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar ar gyfer pawb.

     

    Mae yna amser o hyd i chi gael dweud eich dweud a helpu llunio lles ein sir

    Mae trigolion Sir Ddinbych yn cael eu hannog i leisio eu barn cyn i arolwg cyhoeddus sy’n asesu lles ein sir ddod i ben ddydd Gwener 31 Gorffennaf 2026.

    Gan mai dim ond ychydig o amser sydd ar ôl i gymryd rhan, caiff trigolion eu hannog i rannu eu barn a helpu llunio dyfodol eu cymunedau.  Bydd yr adborth a gesglir yn llywio’r Asesiad Lles ar gyfer Sir Ddinbych a Chonwy, sy’n cynnal arolwg tebyg.  Bydd y safbwyntiau a gesglir yn y ddwy Sir yn helpu llywio’r blaenoriaethau y bydd y gwasanaethau cyhoeddus yn canolbwyntio arnynt dros y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys Llywodraeth Leol, Iechyd, Tân ac Achub a Chyfoeth Naturiol Cymru.

    Mae’n gyfle i bobl leol ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau bob dydd, o les y gymuned i gynllunio hirdymor.

    Mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gynllunio ar gyfer y tymor hir ac ystyried anghenion cenedlaethau'r dyfodol, gan wneud hynny ar y cyd o dan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.  Mae Sir Ddinbych yn rhannu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyda Sir Conwy.  I wneud hynny’n effeithiol, mae angen iddynt ddod i ddeall beth sy’n gweithio’n dda rŵan, pa heriau y mae’r cymunedau yn eu hwynebu, a sut fywyd y mae pobl eisiau ei weld yn y Sir yn y dyfodol.

    Bydd pob ymateb a dderbynnir yn helpu creu darlun cliriach o’r blaenoriaethau, y pryderon a’r cyfleoedd a rennir yn Sir Ddinbych a Sir Conwy.

    Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Mae’r ymarfer hwn yn cael ei gynnal bob 5 mlynedd fel rhan o’r gwaith o ddatblygu strategaethau allweddol y Cyngor.  Mae yna amser o hyd i drigolion o bob oedran leisio eu barn, gan fod hwn yn gyfle i chi helpu lles pawb yn y Sir yn y dyfodol.  Mae eich llais chi’n bwysig.

    “Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, y cliriach fydd y darlun a gawn ni o’r hyn sy’n bwysig ar draws y Sir, felly da chi, treuliwch ychydig funudau yn rhannu eich barn.”

    Bydd yn cymryd tua 10 munud i chi lenwi’r arolwg, a bydd yn cau ddydd Gwener 31 Gorffennaf 2026. Anogir y trigolion hynny sydd heb ymateb eto i’w lenwi cyn gynted ag y bo modd.  Gallwch gael gafael ar yr arolwg mewn fformatau eraill drwy anfon neges e-bost i’r Tîm Cynllunio Strategol ar timcynlluniostrategol@sirddinbych.gov.uk.

    I gymryd rhan yn yr arolwg cyn iddo gau, ewch i www.denbighshire.gov.uk/arolwg-sgwrs-y-sir.

    Partneriaeth bwyd lleol yn derbyn cydnabyddiaeth fel enghraifft o arfer da wrth lansio gwefan newydd 

    Mae partneriaeth bwyd lleol sy’n cynorthwyo i greu system fwyd sy’n fwy cynaliadwy, gwydn a theg ar draws Gogledd Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru a Synnwyr Bwyd Cymru fel enghraifft o arfer da.

    Mae Cogog (a enwyd drwy gyfuno Coginio a Gogledd) yn Bartneriaeth Bwyd Lleol yn Sir Ddinbych ac yn rhwydwaith sy’n uno grwpiau bwyd cymunedol, sefydliadau a phartneriaid lleol ledled Sir Ddinbych i gefnogi prosiectau sy’n gwella mynediad at fwyd iach, fforddiadwy a chynaliadwy.  Mae’r aelodau’n cynnwys caffis cymunedol, rhandiroedd, pantrïoedd bwyd, oergelloedd cymunedol, tyfwyr a mentrau bwyd lleol eraill.

    Mae Cogog wedi’u dewis fel astudiaeth achos i nodi effaith gadarnhaol partneriaethau bwyd lleol ar gymunedau, cynhyrchwyr a’r system fwyd ehangach.  Mae’r bartneriaeth hefyd yn ffurfio rhan o astudiaeth achos prosiect cydweithredol ehangach Gogledd Cymru, gan gydnabod cryfder gwaith partneriaeth ar draws y rhanbarth. 

    Fel rhan o’r gydnabyddiaeth, mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi cynhyrchu adroddiadau a ffilmiau byr yn arddangos y gwaith sy’n cael ei gyflawni drwy Cogog a’r cydweithrediad ehangach ar draws Gogledd Cymru.  Mae’r adnoddau’n tynnu sylw at sut y gall cydweithio rhwng sefydliadau, cymunedau a budd-ddeiliaid wella mynediad at fwyd iach, cynaliadwy ac sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol.

    Daw’r gydnabyddiaeth wrth i Cogog ddathlu carreg filltir bwysig arall wrth lansio gwefan newydd, gan ddarparu presenoldeb ar-lein dynodedig ar gyfer y bartneriaeth a’i gwneud yn haws i breswylwyr, sefydliadau, a phartneriaid ddysgu mwy am eu gwaith.

    Dywedodd Nikki Renshaw, Swyddog Datblygu Partneriaethau Cyngor Sir Ddinbych:

    “Ers lansio Cogog ym mis Mawrth 2024, rydym wedi gweithio’n galed i gefnogi sefydliadau lleol sy’n gwneud gwir wahaniaeth yn eu cymunedau.  Drwy’r bartneriaeth, mae dros £380,000 o gyllid grant wedi’i weinyddu i gefnogi ystod eang o fentrau bwyd lleol, gan helpu grwpiau i wella mynediad at fwyd iach, fforddiadwy a chynaliadwy.

    “Rydym yn falch fod gennym dros 80 o grwpiau bwyd cymunedol yn aelodau o rwydwaith Cogog.  Cryfder y bartneriaeth yw ei bod yn dwyn pobl ynghyd, rhannu gwybodaeth a chreu cyfleoedd i gymunedau gael mynediad at gyllid a chefnogaeth.  Mae’n wych gweld effaith y prosiectau hyn ar draws y sir, ac rydym yn edrych ymlaen at ategu at y llwyddiant hwn yn y dyfodol.”

    Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych:

    “Mae derbyn cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru a Synnwyr Bwyd Cymru yn gyflawniad gwych i bawb sy’n ymwneud â Cogog a’r bartneriaeth ehangach yng Ngogledd Cymru.  Mae’n nodi ymrwymiad ac ymroddiad sefydliadau a chymunedau ar draws y rhanbarth sy’n cydweithio i greu system fwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

    “Mae lansio gwefan Cogog yn gam sylweddol ymlaen.  Mae’n darparu platfform gwerthfawr i rannu gwybodaeth, dathlu straeon o lwyddiant ac annog mwy o bobl a sefydliadau i gyfranogi er mwyn cefnogi mentrau bwyd lleol ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.”

    Mae’r adroddiadau a’r ffilmiau’n darparu mewnwelediad i gyflawniadau ac uchelgeisiau’r bartneriaeth ac yn dangos sut mae cydweithio’n helpu i fynd i’r afael â heriau sy’n ymwneud â bwyd wrth gefnogi cymunedau ac economïau lleol.

    I gael rhagor o wybodaeth am Cogog a’u gwaith, ewch i'w gwefan.

    Dolydd Prestatyn yn croesawu preswylydd newydd am y tro cyntaf

    Mae preswylydd newydd wedi dod o hyd i gartref am y tro cyntaf yn nolydd blodau gwyllt Prestatyn. 

    Mae preswylydd newydd wedi dod o hyd i gartref am y tro cyntaf yn nolydd blodau gwyllt Prestatyn. 

    Mae Tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych yn arolygu oddeutu 66 erw o ddolydd sy’n rhan o’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt.

    Mae’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn cynnal ac amddiffyn byd natur yn lleol ac yn cefnogi lles cymunedau ledled y sir.  Mae’n cael ei ariannu hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

    Yn y ddôl yn Bastion Road, canfu’r tîm rhywbeth nas gwelwyd o’r blaen ar y safle, safle a ddatblygwyd gyda chymorth disgyblion Ysgol Bodnant yn 2023 pan fu iddynt blannu bron i 4000 o blanhigion blodau gwyllt a gafodd eu tyfu ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy. 

    Fe wnaethant gofnodi tegeirian bera am y tro cyntaf erioed sy’n dangos bod y safle wedi dechrau aeddfedu ac mae’r dolydd ledled y sir yn gweithredu fel ‘priffyrdd’ ar gyfer planhigion a phryfed i ledaenu a hybu natur yn lleol. 

    Meddai Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth:  “Mae dod o hyd i degeirian bera yn Bastion Road yn dangos, drwy ein rheolaeth a’n datblygiad parhaus o’r safleoedd hyn, eu bod yn awr yn gweithredu fel priffyrdd i blanhigion, pryfed, ac anifeiliaid allu symud rhyngddynt, gan gynyddu bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.”

    “Mae cael tegeirian ar y ddôl benodol hon hefyd yn dangos bod cyflwr y pridd wedi aeddfedu i gefnogi math arbennig o ffwng mycorhisol sy’n helpu hadau tegeirian i egino a’u cefnogi wrth iddynt ddechrau tyfu.  Y gobaith yw y byddwn yn gweld mwy o degeirian bera y tymor nesaf yn lledaenu ar draws y ddôl hon gan ddarparu mwy o gefnogaeth ar gyfer natur yn lleol.  

    Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae dod o hyd i degeirian bera yn y ddôl ym Mhrestatyn yn wych gan ddangos pa mor bwysig yw’r prosiect hwn er mwyn ailsefydlu cynefinoedd sydd wedi’u difetha ers y 1930au.  Diolch i’n tîm Bioamrywiaeth sydd wedi bod yn cydweithio gyda gweithredwyr Gwasanaethau Stryd, rydym yn gweld y cysylltiadau rhwng ein dolydd a’r lleiniau er mwyn cynorthwyo i adfywio’r cynefin hwn sy’n cefnogi natur ledled Sir Ddinbych,”

    Mae modd dysgu mwy am y Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yma 

     

     

    Digwyddiad torri’r dywarchen yn nodi cychwyn gwaith ar safle Hen Ysbyty Gogledd Cymru

    Yn ddiweddar cynhaliwyd digwyddiad torri’r dywarchen i nodi cychwyn cam nesaf y gwaith ar safle Hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych.

    Yn bresennol yn y digwyddiad roedd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych, sy'n arwain y gwaith; Uchelgais Gogledd Cymru, sy'n cefnogi'r prosiect; a Jones Bros, sydd yn gwneud y gwaith adfer a dymchwel.

    Torri\'r dywarchen

    Roedd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych, Uchelgais Gogledd Cymru a staff o Jones Bros sy’n gwneud y gwaith  yn bresennol yn y digwyddiad. 

    Fe fydd y cynllun llawn yn ailddatblygu ac yn adfer y safle adfeiliedig 53 erw o faint, drwy adeiladu tai newydd, unedau masnachol a mannau gwyrdd cymunedol. Y nod yw cefnogi adferiad economaidd, gwella mynediad at gyflogaeth o safon a sicrhau bod twf economaidd yn helpu i leihau anghydraddoldeb a thlodi yn yr ardal.  

    Mae gwaith i gael gwared ar lystyfiant, darparu mynediad gwell i’r adeiladau ar y safle eisoes wedi cael ei gwblhau i baratoi ar gyfer cam yma’r prosiect, ochr yn ochr â gwaith lliniaru bioamrywiaeth ac ecolegol.

    Bydd y gwaith cychwynnol ar ddymchwel ac adfer cychwynnol yn mynd rhagddo rŵan, a bydd disgwyl iddo gymryd hyd at 24 mis.

    Yn 2025, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i ddarparu bron i £20 miliwn o gyllid grant ar gyfer saith prosiect cyfalaf yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych ac fe ddyrannwyd £3 miliwn i brosiect Hen Ysbyty Gogledd Cymru. 

    Yn ogystal â hyn, mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi sicrhau £6.94 miliwn bellach ar gyfer y prosiect yn rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraethau’r DU a Chymru, ac fe ddyrannwyd £3m ar gyfer y cam yma o’r gwaith.

    Hen Ysbyty Gogledd Cymru

    Meddai llefarydd ar ran Jones Bros: “Mae’r safle’n cynnwys adeiladau adfeiliedig ac ansefydlog, ac mae ein tîm wedi gwneud y gwaith galluogi cychwynnol yn ogystal â gwaith lliniaru ecolegol gyda gofal manwl.

    “Rydym ni’n falch bod gwaith ar gam un ar fin dechrau, ac rydym ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r holl bartïon.”

    Meddai Hedd Vaughan-Evans, Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru: “Mae’r newyddion bod y gwaith hwn bellach ar y gweill yn hynod gadarnhaol. Mae’r cam hwn o’r gwaith yn hollbwysig er mwyn galluogi adfywiad y safle yn y dyfodol – bydd y prosiect yn trawsnewid y safle, ac rydym yn falch o allu cefnogi’r gwaith pwysig hwn drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru.”

    Meddai Helen White, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych: “Mae hon yn garreg filltir bwysig arall yn natblygiad prosiect Hen Ysbyty Gogledd Cymru. Er bod y prosiect yn un cymhleth, y bwriad yw adnewyddu tirnod hanesyddol amlwg yn Sir Ddinbych, tra’n cefnogi twf yr economi leol.

    “Mae’r rhan yma o’r gwaith i glirio’r safle yn rhan hanfodol o’r prosiect a fydd yn diogelu cadernid yr adeilad rhestredig Gradd II ac yn gwneud y safle’n fwy diogel ar gyfer gwaith y contractwyr o ddydd i ddydd wrth iddynt symud ymlaen â’r prosiect.

    “Fe hoffem atgoffa pawb bod Hen Ysbyty Gogledd Cymru yn parhau i fod yn safle adeiladu, ac mae mynediad diawdurdod wedi’i wahardd yn sgil y risg iechyd a diogelwch”.

    Gweithiwr gofal a chymorth dynodedig y Cyngor yn ennill gwobr anrhydeddus

    Mae gweithiwr gofal a chymorth yng Nghyngor Sir Ddinbych wedi cael ei chydnabod â gwobr anrhydeddus Gofalwn Cymru am ei hymrwymiad rhagorol i wella bywydau pobl hŷn.

    Cafodd Maxine Carr, sydd wedi gweithio yng Nghartref Gofal Ychwanegol Nant y Môr ers 12 mlynedd, ei henwi yn enillydd yng Ngwobrau Gofalwn Cymru, ar ôl i’r Dirprwy Reolwr Tîm, Rob Gilmour ei henwebu.

    Cafodd Maxine ei chydnabod am yr effaith eithriadol mae wedi’i gael yn creu cyfleoedd i breswylwyr, teuluoedd a’r gymuned ehangach i ddod ynghyd drwy raglen amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.

    O foreau coffi Macmillan a nosweithiau bwyd i fynd â thema, i ddathliadau Calan Gaeaf a phartïon siwmperi Nadolig, mae Maxine wedi bod yn arwain y gwaith o drefnu digwyddiadau sydd yn dod â phobl at ei gilydd ac yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

    Trwy weithio’n agos gyda busnesau lleol ac aelodau’r gymuned, mae hi’n sicrhau rhoddion a chefnogaeth arlwyo er mwyn sicrhau bod pob digwyddiad yn llwyddiant.

    Meddai Rob Gilmour, Dirprwy Reolwr Tîm:

    “Heb ddigwyddiadau Maxine, cyfleoedd cyfyngedig iawn fyddai gan nifer o breswylwyr i ryngweithio’n gymdeithasol.  Nid trefnu digwyddiadau yn unig mae Maxine yn ei wneud, mae hi’n adeiladu pontydd, yn meithrin perthnasoedd ac yn gwella bywydau.”

    Mae manteision gwaith Maxine i’w weld yng nghymuned Nant y Môr, gyda phreswylwyr, teuluoedd, cyfeillion, cymdogion a staff i gyd yn mwynhau’r awyrgylch croesawgar a chynhwysol mae hi wedi’i helpu i greu.

    Dywedodd un preswylydd:

    “Mae’r digwyddiadau wedi gwneud i mi ddod allan o’m cragen ac wedi rhoi hyder i mi gymdeithasu gyda phobl eraill.”

    Tynnwyd sylw hefyd at lwyddiant y gweithgareddau yn ystod arolwg diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru, a roddodd sgôr rhagorol i’r gwasanaeth.  Fe soniodd yr arolygwyr am frwdfrydedd y preswylwyr ar gyfer y rhaglen o ddigwyddiadau, gan nodi:

    “Dywedodd pobl wrthym eu bod yn caru’r noson fwyd Tsieineaidd a’u bod yn edrych ymlaen at y nesaf.”

    Ynghyd â’i gwaith yn trefnu digwyddiadau cymunedol, mae Maxine yn ymrwymedig i’w datblygiad proffesiynol ei hun.  Fe fynychodd hyfforddiant ‘Making Sense: Care and Creativity’ yn ddiweddar ac mae hi wedi bod yn cael profiad mewn meysydd eraill o wasanaeth er mwyn datblygu ei gwybodaeth a’i sgiliau ymhellach i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.

    Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

    “Llongyfarchiadau i Maxine am y cyflawniad gwych hwn. Mae’r effaith gadarnhaol sydd ganddi ar drigolion, cydweithwyr a chymuned ehangach Nant y Môr yn amlwg iawn, ac mae’n wych gweld hyn yn cael ei gydnabod.”

    Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

    “Fe hoffwn i longyfarch Maxine am ennill ei gwobr a diolch iddi am ei hymroddiad parhaus i gefnogi preswylwyr yng Nghartref Gofal Ychwanegol Nant y Môr. 

    Mae Maxine yn ymgorffori gwerthoedd Cyngor Sir Ddinbych ac mae hi’n dangos yr effaith cadarnhaol y mae gweithwyr gofal a chymorth yn ei gael yn ein cymunedau bob dydd. 

    Llongyfarchiadau iddi ar ei chyflawniad ardderchog.”

    Grŵp yn creu amddiffyniad ar gyfer coed newydd eu plannu yn y gymuned

    Mae gwaith pellach wedi cael ei wneud i amddiffyn coed sydd newydd eu plannu mewn ardal gyhoeddus yn yr awyr agored yn y Rhyl.

    Mae gwaith pellach wedi cael ei wneud i amddiffyn coed sydd newydd eu plannu mewn ardal gyhoeddus yn yr awyr agored yn y Rhyl.

    Gyda chefnogaeth i reoli’r prosiect gan y tîm Newid Hinsawdd, fe blannodd Ceidwaid Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych dros 500 o goed yn ddiweddar yn y man gwyrdd cyhoeddus sy’n cael ei reoli gan dîm Gwasanaethau Stryd wrth agosáu at Violet Grove yn Ystâd Trellewelyn  - cymysgedd o wrych a choed safonol.  Mae gwaith ychwanegol bellach wedi cael ei wneud i helpu i gefnogi’r coed sydd newydd eu plannu ar y safle. 

    Mae’r gwaith wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025/26 sydd wedi rhoi £278,600 i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith adfer natur ledled y sir.

    Fe ymunodd grŵp oedd yn cynnwys Ceidwaid Cefn Gwlad, aelodau ward lleol a gwirfoddolwyr ynghyd i ddiogelu coed unigol oedd wedi’u plannu ar y safle. Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth o ddeg o rywogaethau ffrwythau lleol Cymreig, fel afal Rhyl Beauty ac eirin Dinbych, a saith o goed collddail.

    Fe adeiladodd y grŵp amddiffynwyr coed pren o amgylch y coed safonol i atal difrod wrth iddynt dyfu a darparu amddiffyniad ychwanegol i wreiddiau’r coed a’r pridd o amgylch yr ardal sydd wedi’i blannu. 

    Ynghyd â’r gwaith coed, mae’r datblygiad yn Violet Grove yn cynnwys adeiladu rhwystr pren newydd ym mynedfa’r maes parcio at y coed sydd newydd eu plannu er mwyn atal mynediad i gerbydau diawdurdod.

    Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydw i’n ddiolchgar iawn am y gwaith partneriaeth rhwng y gwasanaethau gwahanol a’r gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud y gwaith pwysig yma i amddiffyn y coed newydd yma yn Violet Grove. Fe fydd eu gwaith yn helpu i wella’r ardal newydd yma sydd yn rhoi hwb mor bwysig i natur a’r cymunedau cyfagos a bydd yn helpu addasiad y Cyngor i newid hinsawdd i wneud mannau agored cyhoeddus yn fwy gwydn at y dyfodol.”

     

     

     

    Disgyblion yn cyflwyno eu gwaith ar wrth-hiliaeth mewn cynhadledd yng ngogledd Cymru

    Bu dau o ddisgyblion Ysgol Crist y Gair yn y Rhyl yn cyflwyno eu gwaith ar wrth-hiliaeth yng Nghynhadledd Gwahanol Gyda’n Gilydd a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Venue Cymru, Llandudno.

    Buont yn annerch tua dau gant o bobl, ymysg gweithwyr proffesiynol o bob cwr o ogledd Cymru, a siaradodd y ddau ohonynt yn falch am y gwaith y buont yn ei wneud ar wrth-hiliaeth gan sôn eu bod yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol ac yn cael eu cefnogi a’u cynnwys ynddi.

    Mae Remas, Blwyddyn 9 a Saboor, Blwyddyn 10 yn ddysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol ac yn cymryd rhan yn y prosiect Arweinwyr Heddiw a ddarperir gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.

    Remas a Saboor

    Cefnogwyd y myfyrwyr yn y digwyddiad a Nicola Logan, Dirprwy Bennaeth Ysgol Crist y Gair ac arweinydd Saesneg fel Iaith Ychwanegol.

    Meddai Katharine Roberts, Rheolwr Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol yng Nghyngor Sir Ddinbych:

    “Mae’r ddau o bobl ifanc yma’n llysgenhadon cadarn o blaid gwerthoedd cynhwysiant a gwrth-hiliaeth ac mae eu brwdfrydedd a’u natur hoffus wedi bod yn ysbrydoliaeth i bawb sydd wedi cwrdd â nhw.

    Maent wir yn glod i’w hysgol a’r gymuned.”

    Meddai Geraint Davies, Pennaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych:

    “Mae’n dipyn o gamp i fynd ar lwyfan o flaen cymaint o bobl a rhoi cyflwyniad.

    Hoffwn ganmol y ddau o’r disgyblion am y gwaith pwysig y maen nhw’n ei wneud ac am fod mor ddewr i annerch tua dau gant o bobl. Da iawn i’r ddau ohonoch.”

    Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

    “Llongyfarchiadau i Remas a Saboor am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd. Mae’n cymryd cryn ddewrder i fedru rhoi cyflwyniad i gymaint o bobl mewn cynhadledd fawr.”

    Meddai Lucy Feliciello, Pennaeth Ysgol Crist y Gair:

    “Rwy’n eithriadol o falch o Remas a Saboor am eu gwaith bendigedig. Maen nhw’n ymroddgar ac yn arweinwyr cryf, sy’n gwneud cyfraniad aruthrol i’n gwaith ni i atal gwahaniaethu.

    Maen nhw’n adlewyrchiad gwych o’n hysgol ni, sy’n rhywle lle mae pawb yn bwysig." 

    Wrth fyfyrio ynghylch eu profiadau hyd yn hyn, dywedodd Remas a Saboor:

    “Ni fyddai dim o’r gwaith wedi bod yn bosib heb gefnogaeth ein hysgol ni. Rydyn ni’n arbennig o ffodus i gael athrawon sy’n ymddiried ynddon ni, yn ein hannog ni a’n helpu i fod yn uchelgeisiol. Pe byddai rhywun wedi dweud wrthon ni flwyddyn yn ôl y bydden ni wedi cyflawni cymaint o bethau, go brin y bydden ni wedi’u coelio nhw.

    Rydyn ni’n frwd dros wneud ein hysgol y lle gorau y galla fod i bob myfyriwr. Rydyn ni eisiau i bawb gael croeso a pharch a medru teimlo’n gyfforddus yn bod yn nhw eu hunain. Drwy gydweithio, gallwn wneud safiad yn erbyn gwahaniaethu, dathlu’r pethau sy’n ein gwneud ni’n wahanol a chreu cymuned gryfach, fwy cynhwysol yn yr ysgol.

    Mae pob dim rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma’n dangos beth sy’n gallu digwydd pan mae pobl yn cydweithio at yr un nod. Diolch i gefnogaeth yr ysgol, rydyn ni’n llawn cefnogaeth i wneud gwahaniaeth er gwell a helpu i sicrhau fod pob myfyriwr yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys a’u bod yn falch o bwy ydyn nhw.”

    Cyngor yn tynnu sylw at gynnydd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

    Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi tynnu sylw at flwyddyn o gynnydd wrth hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, fel rhan o Ddatganiad Blynyddol y Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol (SEDG) ar gyfer 2025 i 2026.

    Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi tynnu sylw at flwyddyn o gynnydd wrth hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, fel rhan o Ddatganiad Blynyddol y Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol (SEDG) ar gyfer 2025 i 2026.

    Mae'r adroddiad, a gyflwynir i'r Cyngor llawn ar 7 Gorffennaf 2026, yn nodi'r ymrwymiad parhaus i greu sefydliad teg, cynhwysol a chroesawgar, ac i gefnogi cymunedau diogel a chynhwysol ledled Sir Ddinbych.

    Nodir cyflawniadau allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf yn yr adroddiad, gan gynnwys ennill statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd Lefel 3 ym mis Mawrth 2026, y lefel uchaf o gynllun Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU. Mae'r gydnabyddiaeth yn dangos arweinyddiaeth, tryloywder ac ymrwymiad y cyngor i welliant parhaus yn y ffordd y mae'n recriwtio, cefnogi a datblygu pobl ag anableddau.

    Sefydlwyd SEDG bron i bedair blynedd yn ôl ac mae'n parhau i helpu i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws gwaith y cyngor, gan gefnogi diwylliant lle mae pobl yn cael eu trin ag urddas a pharch a lle nad yw gwahaniaethu, aflonyddu ac ymddygiad sarhaus yn cael eu goddef.

    Yn ystod 2025 i 2026, roedd gwaith y grŵp yn cynnwys goruchwylio amcanion cydraddoldeb o fewn Cynllun Corfforaethol y cyngor, adolygu Asesiadau Effaith Llesiant, cefnogi adnewyddu Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cymru, ystyried adroddiadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau, a chwblhau ymchwil ar fesurau a dangosyddion tlodi plant.

    Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi, Cydraddoldebau ac Asedau: “Rydym yn falch o’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys cyflawni statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd a chryfhau’r ffordd y mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu hystyried ar draws gwaith y cyngor. Mae’r agenda hon yn ganolog i’n gwerthoedd o falchder, undod, parch ac uniondeb, ac i’n huchelgais i gefnogi Sir Ddinbych lle gall pawb gyflawni eu potensial.”

    Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, bydd y grŵp yn parhau i gefnogi gwaith sy’n cyfrannu at genadaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ledled Cymru. Bydd y Cyngor hefyd yn parhau i wella ei ddefnydd o ddata sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb ac yn archwilio ffyrdd o ymhelaethu ar leisiau a safbwyntiau profiad byw.

    Aeth y Cynghorydd Matthews ymlaen i ddweud: “Rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud bob amser, ac rydym yn parhau’n ymrwymedig i gyflawni gwelliant parhaus gyda’r adnoddau sydd ar gael. Drwy wrando, dysgu a gweithio gyda chymunedau a phartneriaid, gallwn barhau i gael gwared ar rwystrau, herio gwahaniaethu a hyrwyddo cynhwysiant ledled Sir Ddinbych.”

    Gallwch weld y papur llawn sy’n mynd i’r cyngor ar 7 Gorffennaf ar y wefan.

     

     

    Maes Chwarae Prestatyn wedi Ailagor ar ôl Cwblhau Gwaith Uwchraddio

    Mae’r gwaith i uwchraddio Maes Chwarae Sea Road ym Mhrestatyn wedi cael ei gwblhau.

    Mae’r gwaith i uwchraddio Maes Chwarae Sea Road ym Mhrestatyn wedi cael ei gwblhau.

    Cafodd y prosiect i uwchraddio’r safle ei reoli gan adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych ar ôl sicrhau cyllid drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru.

    Blaenoriaethwyd y gwaith o uwchraddio safle Sea Road, Prestatyn yn sgil pryderon a godwyd ynglŷn â’r arwyneb yn ogystal ag oedran a chyflwr yr offer chwarae.

    Roedd y cyfnod gwaith yn cynnwys ailosod yr arwyneb diogelwch rwber yn llwyr, ac roedd hefyd yn gyfle i gyflwyno offer chwaraeon hygyrch modern newydd.  Dyfarnwyd y contract ar gyfer y gwaith hwn i Proludic.

    Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Bydd y gwaith uwchraddio yma yn darparu cyfleusterau mwy modern i’r plant yn y lleoliad hwn, a bydd hefyd yn cynnwys offer mwy cynhwysol a hygyrch i blant sydd ag anghenion ychwanegol.”

    Digwyddiadau Cynlluniau Creu Lleoedd llwyddiannus wedi eu cynnal yn Ninbych a Chorwen

    Digwyddiadau Cynlluniau Creu Lleoedd llwyddiannus wedi eu cynnal yn ddiweddar yn Ninbych a Chorwen.

    Digwyddiadau Cynlluniau Creu Lleoedd llwyddiannus wedi eu cynnal yn ddiweddar yn Ninbych a Chorwen.

    Nod Cynlluniau Creu Lleoedd yw gwella lleoliad a sicrhau bod pob agwedd sy’n gwneud lleoliad yn lle gwych i fyw, i weithio ynddo ac ymweld ag ef yn cael eu hystyried.   Mae Cynlluniau Creu Lleoedd llwyddiannus yn cael eu llywio gan wybodaeth pobl leol a sut maent yn byw eu bywydau.

    I gefnogi cyflawniad y Cynlluniau Creu Lleoedd hyn, gwahoddwyd ystod o fudd-ddeiliad i weithdai rhyngweithiol yn Ninbych a Chorwen.

    Roedd y gweithdai yn canolbwyntio ar ystod o bynciau yn ymwneud â chyflwyniad y Cynlluniau Creu Lleoedd a’u blaenoriaethau allweddol, gan anelu i sefydlu grwpiau partneriaeth newydd i’w cyflawni ac i edrych ar gyfleoedd cyllido.

    Roedd staff o Gyngor Sir Ddinbych yn bresennol i gasglu barn pobl am y weledigaeth a’r ymyriadau ar gyfer Corwen a Dinbych.

    Meddai Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

    “Caiff ein trefi eu siapio gan y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw, a bydd eu barn yn helpu i ddiffinio gweledigaeth y cynlluniau hyn ar gyfer y dyfodol yn eu trefi perthnasol.

    “Roedd y sesiynau hyn wedi’u dylunio i gefnogi cydweithio a galluogi partneriaid i ddatblygu prosiectau sydd o flaenoriaeth ac rwyf eisiau diolch i bawb a oedd yn bresennol”.

    Newidiadau i ffioedd parcio a chyfnodau talu ym meysydd parcio’r Cyngor

    Mae'r cyngor yn cyflwyno ffioedd parcio newydd ym meysydd parcio'r cyngor a bydd cyfnodau talu’n newid.

    Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cyflwyno ffioedd parcio newydd ym meysydd parcio'r Cyngor a bydd cyfnodau talu’n newid.

    O ddydd Mercher 8 Gorffennaf, bydd ffioedd parcio mewn meysydd parcio talu ac arddangos a gaiff eu rhedeg gan y Cyngor yn cynyddu am y tro cyntaf mewn mwy na dwy flynedd, oherwydd costau cynyddol a chwyddiant.

    Ar ôl trafodaethau gydag Aelodau Lleol, cytunwyd y bydd y meysydd parcio isod yn dychwelyd i’r cyfnodau talu blaenorol, sef 8am – 5pm. Bydd angen talu tan 11pm ym meysydd parcio eraill y sir oni nodir yn wahanol ar y byrddau perthnasol.

    Y meysydd parcio fydd yn dychwelyd i’r cyfnodau talu blaenorol yw:

    • Lôn Las, Corwen
    • Heol y Farchnad, Llangollen
    • Stryd y Farchnad, Rhuthun
    • Stryd y Senedd, Rhuddlan
    • Rhodfa Brenin, Prestatyn
    • Tŵr Awyr, y Rhyl
    • Lawnt Fowlio, Llanelwy

    Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi symud at fodel ‘ar sail galw’ ar gyfer ei feysydd parcio canol trefi a dinasoedd, sydd wedi arwain at roi meysydd parcio’r sir sy’n eiddo i’r Cyngor mewn ‘bandiau’, yn dibynnu ar alw am lefydd parcio ym mhob maes parcio unigol.

    Mae’r meysydd parcio lle gwelir y galw uchaf yn y sir wedi’u rhoi ym ‘mand A’, ac mae’r meysydd parcio â’r lleiaf o alw wedi’u rhoi ym ‘mand C’.

    Mae manylion categorïau’r meysydd parcio i’w gweld isod:

    Meysydd parcio Band A - 

    • Heol y Farchnad, Llangollen
    • Rhodfa Brenin, Prestatyn
    • Heol y Frenhines, y Rhyl
    • Stryd y Dŵr (Neuadd y Dref), y Rhyl
    • Stryd y Dwyrain, Llangollen
    • Stryd y Dyffryn, Dinbych
    • Stryd y Farchnad, Rhuthun
    • Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun 

    Meysydd parcio Band B - 

    • Llyfrgell y Rhyl, y Rhyl
    • Gorsaf Reilffordd, y Rhyl
    • Lawnt Fowlio, Llanelwy
    • Heol y Felin, Llangollen
    • Hall Street, Llangollen
    • Cae Ddol, Rhuthun
    • Stryd y Senedd, Rhuddlan
    • Gwaelod y Stryd Fawr, Prestatyn
    • Gorllewin Stryd Cinmel, y Rhyl
    • Brook Street, Llangollen
    • Gorsaf Reilffordd, Prestatyn
    • Lôn Dogfael, Rhuthun
    • Fern Avenue, Prestatyn
    • Ffordd Llys Nant, Prestatyn
    • Troed y Rhiw, Rhuthun
    • Ffordd Morley, y Rhyl

    Meysydd parcio Band C - 

    • Lôn y Post, Dinbych
    • Stryd y Rhos, Rhuthun
    • Heol y Parc, Rhuthun
    • Lôn Ffynnon Barcer, Dinbych
    • Lôn Crown, Dinbych
    • Lôn Las, Corwen

    Er bod tariffau’n cynyddu ar gyfer meysydd parcio ym ‘mandiau A a B’, byddant yn aros yr un fath ar gyfer meysydd parcio ym ‘mand C’, a bydd cymhorthdal gan Gynghorau Tref yn dal i fod ar waith.

    Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

    “Fel pob Cyngor, rydym yn wynebu adegau heriol iawn gyda phwysau parhaus ar y gyllideb oherwydd costau a galw cynyddol am wasanaethau. Oherwydd y pwysau hyn, penderfynwyd cynyddu ffioedd parcio am y tro cyntaf yn Sir Ddinbych ers 2024.

    “Er bod y cynnydd hwn wedi’u seilio yn unol â ffioedd presennol gan Awdurdodau Lleol eraill, hoffwn bwysleisio y bydd mentrau parcio presennol fel parcio am ddim ar ôl 3 yn ystod cyfnod y Nadolig a phum diwrnod o barcio am ddim ar gyfer pob Cyngor Tref a Dinas yn parhau.”

    I gael rhagor o wybodaeth am y meysydd parcio talu ac arddangos yn Sir Ddinbych, ewch i’r dudalen parcio ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.

    Cyngor yn codi baner i nodi Diwrnod y GIG, Gofal Cymdeithasol a Gweithwyr Rheng Flaen 2026

    I nodi Diwrnod y GIG, Gofal Cymdeithasol a Staff Rheng Flaen eleni, mae Cyngor Sir Dinbych yn codi baner arbennig yn Neuadd y Sir yn Rhuthun.

    I nodi Diwrnod y GIG, Gofal Cymdeithasol a Staff Rheng Flaen eleni, mae Cyngor Sir Dinbych yn codi baner arbennig yn Neuadd y Sir yn Rhuthun.

    Mewn seremoni codi baner a gynhaliwyd ar y 3ydd o Orffennaf, codwyd baner arbennig i gydnabod cyfraniad staff y GIG, gofal cymdeithasol a rheng flaen.

    Gorffennaf 5ed yw'r diwrnod cenedlaethol i ddathlu a dangos diolchgarwch am waith Gweithwyr y GIG, Gofal Cymdeithasol a Rheng Flaen.

    Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Cadeirydd y Cyngor:

    “Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn talu teyrnged i'r rhai sy'n cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau bob dydd.

    Mae'r bobl ymroddedig hyn yno i'n preswylwyr ddydd a nos, ac mae'n bwysig ein bod yn dangos ein gwerthfawrogiad am eu gwaith anhygoel.”

    Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

    “Rydym yn falch o godi'r faner hon unwaith eto i ddangos ein gwerthfawrogiad a'n parch at y gwaith amhrisiadwy y mae ein staff rheng flaen yn ei wneud yn Sir Ddinbych yn ddyddiol.

    Bob dydd maent yno yn cefnogi trigolion a'u teuluoedd pan fo'u hangen fwyaf ac mae'r faner hon yn ffordd syml o ddweud diolch am bopeth maen nhw'n ei wneud.”

    Prosiect yn anelu at wella gwytnwch safleoedd calchfaen yn Sir Ddinbych

    Mae gwaith wedi dechrau i arolygu a mapio maint y rhywogaethau ymledol anfrodorol ar fryn Graig Fawr.

    Mae gwaith wedi dechrau i arolygu a mapio maint y rhywogaethau ymledol anfrodorol ar fryn Graig Fawr.

    Mae Graig Fawr wedi’i leoli rhwng Gallt Melyd a Dyserth, ac mae wedi’i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) o ganlyniad i’w gymunedau glaswelltir calchfaen ac mae arolwg wedi’i gynnal ar y safle yn ddiweddar gan Brosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd.

    Mae Prosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd wedi'i ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur sy'n cael ei chyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru a'i nod yw gwella gwytnwch a chyflwr pum safle glaswelltir a choetir calchfaen SoDdGA yn Sir Ddinbych.

    Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a pherchnogion tir preifat, mae'r prosiect yn ceisio hwyluso rheolaeth a fydd yn gwella amrywiaeth nodweddion arbennig yn y safleoedd, cynyddu maint y cynefinoedd glaswelltir calchfaen a gwella cyflwr y cymunedau o blanhigion a'r ffawna cysylltiedig.

    Mae llawer o rywogaethau ymledol anfrodorol o greigafal y gellir eu canfod yn y DU, ac mae sawl rhywogaeth o'r rhain yn bryder arbennig i'r safle hwn. Er bod creigafal yn blanhigyn poblogaidd ar gyfer yr ardd, wrth i’r blodau ddenu gwenyn ac wrth i’r aeron ddenu’r adar, mae'n hynod niweidiol i'n hardaloedd gwyllt, yn enwedig cynefinoedd prin fel glaswelltiroedd calchfaen. Mae hyn o ganlyniad i’r ffaith ei fod yn tyfu'n gyflym, a gall ddominyddu bryniau cyfan yn gyflym iawn.

    Mae ecolegwyr gyda chymorth tîm mynediad â rhaff ardystiedig Cymdeithas Masnach y Diwydiant Mynediad â Rhaff (IRATA) wedi dechrau arolygu'r brigiadau calchfaen sy'n edrych dros Lwybr Prestatyn - Dyserth i nodi rhywogaethau a dwysedd creigafalau sy'n bresennol ar Graig Fawr, ynghyd â rhywogaethau ymledol anfrodorol eraill fel y dderwen fythwyrdd (Quercus ilex) a’r driaglog goch (Centranthus ruber).

    Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

    “Mae cefnogi a gwella ein bioamrywiaeth leol yn hanfodol bwysig ac yn flaenoriaeth i’r Cyngor.

    “Bydd y prosiect yn gwella cysylltedd cynefinoedd o fewn a rhwng y safleoedd gwarchodedig drwy reoli coridorau natur drwy greu ac adfer cynefinoedd sy’n eu cysylltu nhw a chyfyngu ar yr effeithiau y mae’r rhywogaethau ymledol hyn yn eu cael”.

    Cynlluniau ar droed i wneud neuadd y dref yn fwy blaenllaw yn y gymuned

    Mae Cyngor Sir Ddinbych yn chwilio am bartner i ddod â bywyd newydd i Neuadd Tref Dinbych a’i gwneud yn gaffaeliad i’r gymuned

    Mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwrw ymlaen â’r drefn Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar gyfer Neuadd Tref Dinbych ac yn chwilio am bartner fel perchennog a rheolwr yr adeilad i’r dyfodol, er budd y gymuned.

     Neuadd Tref Dinbych

    Wedi ymgynghorIad mewnol gyda gwasanaethau’r Cyngor, sydd bellach wedi cau, bydd y broses drosglwyddo yn symud ymlaen i’r cam nesaf drwy w wahodd grwpiau a chyrff nid-er-elw allanol i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb mewn prynu’r adeilad am bris rhatach na’r farchnad.

    Rhoddir ystyriaeth i syniadau a fydd yn creu cyfleoedd i hybu cynaladwyedd yr adeilad yn y tymor hir a chreu’r budd mwyaf posib i’r gymuned.

    Bydd sawl cam i’r broses drosglwyddo, gyda chyfle allanol i grwpiau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, gyda’r disgwyl y bydd hwn yn lansio ar 1 Gorffennaf am gyfnod o wyth wythnos.

    Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn dal i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r broses symud yn ei blaen ac ni fydd dim yn newid i’r sawl y’n defnyddio ac yn llogi’r neuadd ar hyn o bryd.

    Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cydraddoldeb, Polisi a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Hoffai’r Cyngor roi sicrwydd i bawb sy’n defnyddio a llogi’r neuadd ar hyn o bryd y bydd Neuadd y Dref Dinbych yn dal ar agor fel arfer gydol y cyfnod hwn. Ni fydd unrhyw drefniadau sydd wedi’u gwneud yn barod yn newid, a bydd pobl yn medru dod i’r neuadd fel arfer wrth i’r drefn Trosglwyddo Asedau Cymunedol fynd rhagddi.

    “Byddwn yn siarad â grwpiau lleol ac yn hyrwyddo’r cyfle hwn yn eang i godi ymwybyddiaeth ymysg grwpiau a allai fod â diddordeb.”

    Mae mwy o wybodaeth ar wefan y cyngor a dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau am y drefn Trosglwyddo Asedau Cymunedol, trefniadau llogi’r neuadd neu’r trefniadau yn y dyfodol, at Dîm Rheoli Asedau’r Cyngor: assetmanagement@denbighshire.gov.uk

    Dilynir y drefn a bennir ym mholisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor fel y’i mabwysiadwyd, sydd i’w weld yma: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/eich-cyngor/strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/polisiau/trosglwyddo-asedau-cymunedol/polisi-trosglwyddo-asedau-cymunedol.aspx.

    Lleisiau plant yn cael eu clywed mewn sesiynau dau ddiwrnod Fforwm Cynghorau Ysgol

    Wedi eu cynnal dros ddau ddiwrnod ar 30 Mehefin a 1 Gorffennaf, aeth disgyblion o 24 ysgol ledled y sir i ddigwyddiadau, gweithdai ac i Siambr Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Fforymau Cynghorau Ysgol eleni, gan gyflwyno’r gwaith a wnaed gan eu Cyngor Ysgol unigol yn ystod y flwyddyn ysgol ddiwethaf.

    Bu dros 60 o ddisgyblion yn bresennol yn Fforwm Cynghorau Ysgolion Cynradd, a gynhaliwyd yn Ysgol Uwchradd Dinbych eleni. Cyflwynodd cynrychiolwyr Cynghorau Ysgol o Ysgol Esgob Morgan, Ysgol Emmanuel, Ysgol Pant Pastynog ac Ysgol Penmorfa eu gwaith i’r Cynghorau Ysgol eraill a oedd yn bresennol, yn ogystal â Chomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes.

    Fforwm Cynghorau Ysgolion Cynradd

    Cynhaliwyd Fforwm Cynghorau Ysgolion Uwchradd yn Neuadd y Sir, Rhuthun, a chafodd disgyblion o Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Crist y Gair, Ysgol Santes Ffraid, Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Uwchradd Prestatyn, Ysgol Uwchradd Rhyl, Ysgol Dinas Brân a Ysgol Uwchradd Dinbych, gyfle i ymweld â Siambr y Cyngor Sir a chyfarfod a gofyn cwestiynau i’r Cynghorydd Bobby Feeley, Cadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Plant, Cymunedau a Theuluoedd, a Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru.

    Fforwm Cynghorau Ysgolion Uwchradd

    Rhannodd y disgyblion y gwaith pwysig maen nhw wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn ysgol, ac fe gawsant gyfle i ddysgu am brosesau democrataidd y Cyngor, system ficroffonau’r Siambr a’r system bleidleisio electronig.

    Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

    “Mae’n hanfodol bwysig bod pobl ifanc yn ymgysylltu â democratiaeth leol ac yn ei deall, a deall sut y mae’n gweithredu.

    Mae’r ddau ddiwrnod diwethaf wedi bod yn werth chweil – mae gwrando ar syniadau a lleisiau disgyblion o bob cwr i’r sir wedi bod mor braf.

    Hoffwn ddiolch i’r holl ddisgyblion a oedd yn bresennol ac a wnaeth y digwyddiad hwn yn llwyddiannus eto eleni.”

    Meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:

    “Mae wedi bod yn wych gweld disgyblion o gynifer o ysgolion yn dod ynghyd i rannu’r gwaith maent wedi bod yn ei wneud a dysgu mwy am y ffordd y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yn lleol.

    Mae cyfleoedd fel hyn o gymorth i gysylltu’r hyn sy’n digwydd mewn ysgolion gyda’r gymuned yn ehangach, a rhoi hyder i bobl ifanc siarad a chymryd rhan.

    Mae’r fforymau hyn yn dangos pa mor bwysig ydyw i greu lle i wrando ar bobl ifanc a’u cymryd o ddifrif.”

    Digwyddiad agoriadol i ddathlu cwblhau gwaith gwella yn Loggerheads

    Cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu cwblhau’r gwaith gwella ym Mharc Gwledig Loggerheads.

    Cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu cwblhau’r gwaith gwella ym Mharc Gwledig Loggerheads.

    Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth unigryw a lles Rhuthun a’i chymunedau gwledig.

    Mae’r cyllid hwn wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus hyn ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill. 

    Yn dilyn cymeradwyaeth cynllunio yn 2024, mae’r prosiect hwn yn ceisio gwella a chyfoethogi Parc Gwledig Loggerheads, porth i AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac un o’r safleoedd ymwelwyr prysuraf a reolir gan Gyngor Sir Ddinbych, trwy uwchraddio’r prif adeiladau ymwelwyr, creu canopi allanol gyda seddi ychwanegol a gwell mynediad i ymwelwyr, ochr yn ochr â gwaith lliniaru llifogydd y mae mawr ei angen.

    Wedi’i ddarparu gan y contractwyr lleol, MWT, Waterco a Park City, a’i ddylunio gan TACP, cwblhawyd y prosiect yn gynharach eleni.

    Ynghyd â’r gwaith gwella, sicrhaodd tîm y prosiect £149,000 ychwanegol i gryfhau cymwysterau cynaliadwyedd y safle ochr yn ochr â'r gwaith gwella ehangach. Mae'r cyllid wedi cefnogi gosod paneli solar a phlanhigion draenio cynaliadwy sy'n ymgorffori cynefinoedd bywyd gwyllt, tra bod opsiynau pellach ar gyfer cynllun trydan dŵr yn y dyfodol hefyd yn cael eu harchwilio. Ar ôl ei gwblhau, disgwylir i'r safle ddiwallu tua 60–70% o'i anghenion ynni trwy bŵer adnewyddadwy hunangynhyrchiedig.

    Ynghyd â’r gwaith gwella, sicrhawyd cyllid allanol pellach gan y tîm prosiect i wella cynaliadwyedd y safle gan osod paneli solar, systemau draenio cynaliadwy a chynefinoedd bywyd gwyllt ar y safle. 

    Roedd y digwyddiad a chynhaliwyd yn gynharach ym mis Mehefin yn gyfle i arddangos y cynllun lliniaru llifogydd yn ogystal â’r ganolfan ymwelwyr ar ei newydd wedd gyda chaffi, ystafell gyfarfod, ardaloedd awyr agored a thoiledau cyhoeddus.

    Mwynhaodd y rhai a fynychodd y lansiad daith dywys o amgylch y safle a the prynhawn wedi’i ddarparu gan y gweithredwr newydd yng nghaffi Tŷ’r Felin.

    Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

    “Prif nod y gwelliannau hyn oedd cynorthwyo i reoli'r pwysau sy'n gysylltiedig â chynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac ymateb i ddisgwyliadau cynyddol ymwelwyr.

    “Roedd y prosiect ym Mharc Gwledig Loggerheads yn sylweddol ac roedd yn wych gweld y gwaith bellach wedi’i gwblhau ar y safle.

    “Mae’r safleoedd hyn yn ardaloedd Tirwedd Cenedlaethol poblogaidd, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynnal a chadw a datblygu safleoedd fel y rhain wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy poblogaidd i sicrhau bod modd i bawb sy’n ymweld â nhw barhau i’w mwynhau.”

    Ysgol gynradd ym Mhrestatyn yn uwchraddio cyfleusterau allweddol

    Mae Ysgol Clawdd Offa wedi derbyn gwelliannau i ardaloedd allweddol yn yr adeilad, gan roi golwg a chyfleusterau newydd i’r ysgol gynradd ym Mhrestatyn.

    Ar ochr plant iau’r adeilad gwelwyd adnewyddiad yr ystafelloedd newid/cawodydd, gan alluogi ymestyn ystafell anogaeth yr ysgol, a darparu cyfleusterau toiled ychwanegol i gefnogi’r ddarpariaeth cyn-ysgol newydd, ‘Toddler Bach’ a agorodd yn Ebrill.

    Mae’r estyniad hwn yn golygu gwelliant arwyddocaol i’r cynnig blynyddoedd cynnar, gan gynyddu capasiti, ac ychwanegu at yr amgylchedd gofal plant o ansawdd uchel.

    Yn ogystal â hyn, mae darpariaeth ‘Ti a Fi’, ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion cymhleth, wedi cael ei wella yn yr ysgol yn ddiweddar. Mae’r holl adnoddau newydd wedi cael eu darparu ac eisoes yn gwneud gwahaniaeth nodedig i brofiadau’r dysgwyr.

    Mae’r gwelliannau hyn yn cynnwys gosod llawr meddal tu allan, creu amgylchedd mwy diogel, canopi awyr agored newydd gydag offer dringo, gan ddarparu gofod diogel a diddorol i chwarae yn yr awyr agored.

    Mae datblygiadau pellach i’r gofodau dysgu awyr agored yn yr ysgol wedi cael eu cwblhau, gyda chyfanswm o dri chanopi wedi’u gosod. Mae’r tri chanopi newydd wedi cael eu gosod yn y ddarpariaeth Ti a Fi, y Feithrinfa a Toddler Bach.

    Bydd yr ychwanegiadau hyn yn gwella cyfleoedd ar gyfer dysgu a chwarae tu allan, yn arbennig yn ystod cyfnodau o dywydd gwael, gan sicrhau mwy o gysondeb yn y ddarpariaeth.

    Mae tu allan yr adeilad hefyd wedi cael ei adnewyddu, trwy osod cladin pren ar y wal allanol ar ochr plant iau'r adeilad.

    Trwy amnewid y rendr blaenorol oedd wedi dyddio, bydd y cladin cedrwydden newydd, dros amser, yn newid ei liw yn naturiol i lwyd, gan roi golwg naturiol, newydd i ochr yr adeilad.

    Cafodd y gwaith allweddol hwn ei ariannu gan grantiau cyfalaf Llywodraeth Cymru a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ddinbych.

    Dywedodd y Pennaeth, Mr Edwards:

    “Rydym yn hynod o ddiolchgar am yr estyniad a gwelliannau sylweddol i’n darpariaeth. Mae’r gwelliannau hyn yn cynrychioli buddsoddiad mawr yn nyfodol yr ysgol a bydd yn helpu i sicrhau y gallwn ddiwallu anghenion ein holl ddysgwyr, nawr ac yn y dyfodol.

    Trwy gryfhau ein cyfleusterau a’n hamgylchedd dysgu, rydym yn creu mwy o gyfleoedd i bob disgybl ffynnu, cyflawni eu potensial, a mwynhau’r profiad addysgol gorau bosibl.”

    Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

    “Rwy’n falch iawn o weld y gwahaniaeth y mae’r gwaith allweddol hyn eisoes wedi’i wneud yn Ysgol Clawdd Offa.

    Mae’r gwelliannau hyn i’r cynnig cynnar yn rhoi mynediad i ddysg a chwarae o ansawdd uwch i’r rhai sy’n defnyddio’r ddarpariaeth gofal plant a Thi a Fi, ac yn cynyddu capasiti ar yr un pryd.”

    Gwahoddir plant i ‘Gyfrolau’n Canu’ gyda Sialens Ddarllen yr Haf 2026

    Mae plant ledled Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf 2026 eleni, ‘Cyfrolau’n Canu’, sy’n cael ei lansio mewn llyfrgelloedd lleol ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf.

    Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn annog plant rhwng 4 ac 11 oed i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae thema eleni, ‘Cyfrolau’n Canu’, yn dathlu sut y gall straeon, cerddoriaeth a chreadigrwydd ddod â phobl ynghyd, gan ysbrydoli plant i ddarganfod llyfrau newydd, archwilio diwylliannau gwahanol a mynegi eu hunain drwy ddarllen.

    Gall plant sy’n cymryd rhan, fenthyg llyfrau o’u llyfrgell leol, casglu gwobrau wrth iddynt symud ymlaen drwy’r her a derbyn tystysgrif ar ôl ei chwblhau. Mae’r her yn helpu i gynnal sgiliau darllen dros wyliau’r haf tra’n annog cariad gydol oes at lyfrau a dysgu.

    Bydd llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau drwy gydol gwyliau’r haf i gefnogi’r her a darparu cyfleoedd hwyliog i blant a theuluoedd gymryd rhan. Bydd un o’r gweithgareddau hynny’n cynnwys gweithdy bît-bocsio gyda’r artist hip-hop Cymreig, Mr Phormula.

    Dywedodd Debbie Owens, Prif Lyfrgellydd Llyfrgelloedd Sir Ddinbych:

    "Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o gadw plant yn ymddiddori mewn darllen yn ystod gwyliau’r ysgol tra’n cael hwyl ar yr un pryd. Mae thema eleni, ‘Cyfrolau’n Canu’, yn ymwneud â chreadigrwydd, rhythm a mynegiant personol, ac rydym yn edrych ymlaen at weld plant yn darganfod straeon newydd ac yn mwynhau popeth sydd gan ein llyfrgelloedd i’w gynnig.

    "P’un a ydynt yn hoff o straeon antur neu straeon tylwyth teg, mae rhywbeth i bob plentyn yn eu llyfrgell leol. Byddem yn annog teuluoedd i gofrestru ac ymuno â ni ar gyfer haf gwych arall o ddarllen."

    Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

    "Mae cerddoriaeth yn chwarae rhan bwysig yn fy mywyd, a bydd ‘Cyfrolau’n Canu’ eleni yn ffordd hwyliog, gan ddefnyddio dychymug o helpu i ysbrydoli eich plant i wneud y cysylltiad rhwng caneuon a darllen, i godi llyfr, datblygu eu hyder a darganfod diddordebau newydd drwy gydol yr haf.

    "Byddwn yn annog teuluoedd ledled Sir Ddinbych i gymryd rhan a manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau a’r gweithgareddau gwych sydd ar gael drwy ein llyfrgelloedd."

    Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio mewn llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf, ac mae’n rhan hynod boblogaidd o raglen haf y llyfrgelloedd.

    Am ragor o wybodaeth, ewch i’ch llyfrgell leol a siaradwch ag aelod o staff ynghylch sut i gymryd rhan.

    Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am ein llyfrgelloedd, ewch i'n gwefan.  

    Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn foment allweddol yn Flwyddyn Genedlaethol Darllen, sef menter genedlaethol drawsnewidiol a arweinir gan y llywodraeth, a gynlluniwyd i ailgynnau diwylliant o ddarllen er pleser ledled y DU.

    ERTHYGLAU

    7 o hanfodion ar gyfer antur yng Nghymru sy'n barod am eu siwrne nesaf

    Mae Cymru eisoes yn un o ailgylchwyr gorau'r byd, a dweud y gwir, rydyn ni’n ail yn y siartiau byd-eang ar hyn o bryd. Ond mae pob antur wych eisiau cyrraedd Rhif 1.

    Yr haf hwn, rydyn ni’n cefnogi ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu i helpu i wireddu hynny, un botel, can a chroen banana ar y tro.

    Mae gan bob peth ailgylchadwy stori i'w hadrodd sy’n parhau ar ôl i chi orffen gydag ef.

    Rhowch ef yn y bin cywir i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad am flynyddoedd i ddod, boed yn cael ei droi’n rhywbeth newydd neu’n helpu i bweru Cymru, fel ein gwastraff bwyd.

    Dyma saith o hanfodion antur sy'n barod am eu pennod nesaf.

    1. Y botel ddiod sy'n barod ar gyfer ei hantur nesaf yng Nghymru
      Ar ôl eich cadw’n ddisyched ar lwybr arfordirol, llwybr castell neu gopa mynydd, mae gan eich potel ddiod blastig ddigon ar ôl yn y tanc.

    Mae ailgylchu dim ond un botel blastig yn arbed digon o ynni i bweru ffôn clyfar 14 gwaith! Mae hynny’n eitha’ da am rywbeth a dreuliodd y rhan fwyaf o'r dydd yn rholio o gwmpas mewn sach gefn.

    Mae ei hantur nesaf yn dechrau gyda'r bin cywir.

    1. Y can sydd eisoes yn cynllunio ei gopa nesaf
      Mae caniau diodydd alwminiwm yn un o wir arwyr ailgylchu.

    Gellir eu hailgylchu dro ar ôl tro heb ddirywiad mewn ansawdd, sy’n eu gwneud yn un o’r deunyddiau mwyaf anhygoel yn y byd ailgylchu.

    Rhowch ef yn y bin cywir a gallai fod yn ôl ar y silffoedd ac allan ar y llwybrau ymhell cyn yr haf nesaf.

    1. Y botel wydr gyda milltiroedd i fynd o hyd
      Mae gwydr yn ddeunydd sy'n dwli ar bennod arall. Gellir ei ailgylchu’n ddiddiwedd a’i drawsnewid yn boteli a jariau newydd dro ar ôl tro.

    Yn well fyth, mae ailgylchu un botel wydr yn arbed digon o ynni i bweru bwlb golau am oriau. Un dewis syml a wnaed ar lethrau bryn yng Nghymru, yn mynd y filltir ychwanegol.

    1. Y botel eli haul sy'n cadw'r amseroedd da’n llifo
      Mae eli haul yn hanfodol yn yr haf yng Nghymru, p'un a ydych chi'n crwydro arfordir Sir Benfro neu'n mwynhau'r golygfeydd o gopa’r Wyddfa. Ond ’dyw ei gwaith heb ei orffen pan mae’r botel yn wag.

    Pan gaiff ei ailgylchu, gellir troi’r plastig yn nwyddau newydd, gan helpu deunyddiau gwerthfawr i aros yn ddefnyddiol yn hirach. Mae'r un peth yn wir am lawer o'r hanfodion bob dydd rydyn ni'n eu pacio ar gyfer diwrnod allan, o bethau ymolchi i lanweithydd dwylo i erosolau. Rhowch nhw yn y bin cywir.

    Diogelu ’chydig ar eich croen. Diogelu ’chydig ar y blaned hefyd.

    1. Y ffoil sydd wedi bod ar bicnic eithriadol
      Boed yn lapio’ch brechdan ar ben clogwyn, eich byrbrydau ar lwybr coedwig neu eich picnic ar y traeth, mae gan ffoil un o'r gyrfaoedd hiraf mewn ailgylchu.

    Mae cynhyrchu nwyddau o alwminiwm wedi'i ailgylchu yn defnyddio tua 95% yn llai o ynni na'u gwneud o ddeunyddiau crai. Mae hynny’n golygu y gallai'r belen fach yna o ffoil fod yn gwneud gwahaniaeth ymhell ar ôl i’ch lliw haul bylu a’ch esgidiau sychu.

    1. Y pot iogwrt sy’n barod ar gyfer antur Gymreig arall
      O frecwast ar y traeth i fyrbryd oddi cartref, mae potiau a thybiau yn rhan gyfarwydd o unrhyw ddiwrnod allan yng Nghymru.

    Peidiwch â gadael i'r hwyl stopio ar ôl bwyta. Pan gânt eu hailgylchu'n gywir, gellir troi potiau a thybiau plastig yn nwyddau a deunydd pacio newydd, gan helpu i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad yn hirach.

    Gallai pot iogwrt heddiw fod yn dwb hwmws fory. Dyna drawsnewidiad go iawn!

    1. Y croen banana gyda phŵer rhyfeddol
      Mae rhai o'r perfformwyr mwyaf trawiadol yn llechu mewn lleoedd syfrdanol o amlwg.

    Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd sy’n cael ei gasglu i'w ailgylchu yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy a gwrtaith llawn maetholion.

    A dweud y gwir, gall dim ond un croen banana wedi'i ailgylchu gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i wefru ffôn clyfar yn llawn. Dyna fwy o luniau o olygfeydd godidog Cymru, mwy o fideos o adegau cofiadwy, a rhagor o gyfleoedd i gipio hud yr haf yng Nghymru.

    Felly pan fyddwch chi'n mwynhau Cymru'r haf hwn gwnewch yn siŵr bod eich holl wastraff bwyd, o greiddiau afalau a chrwyn na ellir eu bwyta, i fagiau te, plisgyn wyau a bwyd dros ben, oll yn mynd i’r cadi gwastraff bwyd.

    Mae pob antur wych yn haeddu pennod arall

    O boteli a chaniau i botiau iogwrt a chrwyn banana, mae gan bob eitem ailgylchadwy'r potensial i wneud rhywbeth anhygoel ar ôl i chi orffen ag ef.

    Ac mae pob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir yn helpu Cymru i symud un cam yn nes at y brig.

    Felly pan fyddwch chi allan yn crwydro cestyll, arfordiroedd, mynyddoedd a phopeth rhyngddynt yr haf hwn, rhowch yr anrheg haeddiannol i’ch ailgylchu. Dewiswch y bin cywir.

    Eisiau gweld ble maen nhw'n mynd nesaf? Ewch i Cymru yn Ailgylchu i ddarganfod y daith mae eich ailgylchu'n mynd arni ar ôl ichi ei daflu i’r bin.

    Ydych chi erioed wedi ystyried ble mae eich treth cyngor yn mynd?

    Mae llawer yn meddwl bod treth cyngor yn talu am bopeth y mae awdurdod lleol yn ei gynnig, fodd bynnag, dim ond 26% o gyfanswm gwariant y Cyngor yw'r arian a gesglir gan drigolion yn flynyddol.

    Ariannu\'r cyngorMae mwyafrif y cyllid (62%) yn dod ar ffurf 'Grant Cymorth Refeniw' gan Lywodraeth Cymru, tra bod y 12% sy'n weddill yn dod o drethi busnes, sef treth eiddo y mae busnesau'n ei dalu i helpu tuag at ariannu gwasanaethau lleol. Gallwch ddysgu mwy am sut mae'r Cyngor yn cael ei ariannu ar ein gwefan.

    Felly ble mae’r treth cyngor yn mynd? Rydym wedi cynhyrchu infograffig yn seiliedig ar dreth cyngor eiddo Band D i geisio rhoi esboniad clir o sut mae taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i ariannu ystod o wasanaethau i drigolion yn y sir. Er bod yr infograffig hwn yn rhoi darlun o sut mae'r arian yn cael ei rannu rhwng gwahanol wasanaethau, mae deall beth mae trigolion yn ei gael am yr arian hwnnw’n bwysig. (Gellir gweld yr infograffig ar ddiwedd yr erthygl.)

    Fel y gwelwch, mae mwyafrif gwariant treth cyngor yn mynd tuag at amddiffyn y rhai mwyaf bregus ac agored i niwed yn ein cymdeithas, gyda 66% yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg a gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.

    Ysgolion ac addysgGydag Addysg yn cyfrif am 36.7% o’r gwariant, golyga hyn y gall Sir Ddinbych addysgu tua 16,500 o ddisgyblion mewn 44 ysgol gynradd, 2 ysgol pob oed, 2 ysgol arbennig, 6 ysgol uwchradd ac 1 uned cyfeirio disgyblion ar draws y sir, gyda thua 780 o athrawon yn darparu'r addysg.

    Yn y maes addysg o hyd, mae cludiant ysgol yn cyfrif am 2.9% ac mae'r Cyngor yn cludo tua 2,871 o ddysgwyr yn ddiogel i ysgolion ledled y sir. Caiff 650 o deithiau bws ysgol a thacsi eu gwneud bob diwrnod ysgol.

    Gofal cymdeithasol i oedolion a phlant infographicYn y cyfamser, mae gofal cymdeithasol oedolion a phlant yn cyfrif am 29.8% o wariant treth y Cyngor. Yn 2024-2025 cafodd oddeutu 668 aelod o staff dros 25,000 o gysylltiadau gyda'r plant a'r oedolion mwyaf agored i niwed gan ddarparu pecyn o ofal a chymorth lle bo’n briodol sy’n rhoi cyfle i'r trigolion hyn gael dewis, mynegi barn, a chael rheolaeth dros eu bywydau.

    Mewn meysydd gwasanaeth eraill, mae 1.9% yn mynd tuag at ddiogelu'r cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd ac mae timau'r Cyngor yn archwilio tua 720 o fwytai, caffis a lleoedd tecawê bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn ddiogel ar gyfer trigolion Sir Ddinbych.

    Mae gwagio biniau ac ailgylchu yn cyfrif am 1.8% o'ch bil treth cyngor, sy'n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D). Mae hynny'n cynnwys casglu tua 73,000 o gynwysyddion o dros 47,000 o gartrefi bob wythnos ledled y sir.

    Am 1.8% o'r dreth cyngor rydym yn cynnal 1,419km o ffyrdd (ac eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a chelfertau, 302 o waliau a 26,000 o gwlïau. Ac am 0.8%, rydym yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a bolardiau wedi'u goleuo ledled y sir.

    Cefn gwlad a mannau agoredHwyrach bod rhai gwasanaethau nad yw trigolion yn ymwybodol eu bod dan reolaeth cyngor, er enghraifft Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth. Gydag 1.1% o dreth cyngor yn mynd i'r gwasanaeth cefn gwlad, mae'r timau'n rheoli dros 80 o safleoedd a mwy na 1,200 hectar o ardaloedd gwyrdd cyhoeddus ar gyfer hamdden a chadwraeth. Mae'r rhain yn amrywio o Barciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau, meithrinfa goed y sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Ffordd Dyserth Prestatyn, Llain Llantysilio yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o fannau cymunedol a mwynder llai ar draws y sir.

    Mae’r gwasanaeth treftadaeth yn cyfrif am 0.9% o wariant treth y cyngor, ac am hyn, mae'r gwasanaeth yn cynnal a hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (sydd yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr. Mae'r gwaith hwn yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.

    Cynllunio a datblygu economaiddMae cynllunio a datblygu economaidd yn cyfrif am 0.7% o wariant y treth cyngor ac am hynny mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn prosesu tua 1,000 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn ochr yn ochr â 10-20 o apeliadau a 50-100 o ymholiadau cyn-ymgeisio. Rydym hefyd yn ymateb i dros 500 o achosion cydymffurfio cynllunio.

    Llyfrgelloedd infographicMae’r llyfrgelloedd yn cyfrif am 0.5% o’r gwariant ac yn 24-25, cynhaliodd  y llyfrgelloedd 514 o sesiynau Dechrau Da i bron i 6,500 o blant. Hefyd cafodd 2,869 o lyfrau sain eu benthyg i 1,028 o aelodau drwy Borrowbox (rhan o'r Cynnig Digidol) ac argraffwyd dros 56,000 o dudalennau ar argraffyddion mynediad cyhoeddus.

    Nid yw'r holl dreth cyngor a gesglir yn talu am wasanaethau'r cyngor yn unig, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân i gyfrannu at ariannu amddiffyniad ac atal tân ledled y sir.

    Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol dros Gyllid yng Nghyngor Sir Dinbych, “Rwy’n falch o weld yr infograffig yma’n cael ei chynhyrchu a’i rhyddhau. Gobeithio y bydd yn rhoi’r cyd-destun sydd ei angen ar drigolion i ddeall sut mae eu taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i gefnogi’r amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

     “Mewn hinsawdd ariannol sy’n parhau i fod yn heriol barhaus, mae’n bwysig bod yn agored a thryloyw ynglŷn â’r costau a’r pwysau. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio bod llawer o agweddau’r gwariant, yn hollol briodol, wedi’u hanelu at y gofyniad cyfreithiol i ddarparu Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant, ac Addysg ac ati. Dyma’r meysydd sy’n cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.”

    Gwario\'r treth cyngor

    Ydych chi wedi cwrdd â'n Tîm Dechrau Da ni?

    Maen nhw'n cynnal sesiynau wythnosol rhigwm dwyieithog sydd am ddim i fabanod a phlant bach ym mhob un o'n llyfrgelloedd. Nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau a rhigwm gyda'ch babi ac fe welwch chi ddetholiad gwych o lyfrau i bob oed yn ein llyfrgelloedd.

    Mae ein llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim i ymuno, mae llyfrau am ddim i'w benthyca ac nid oes unrhyw ffioedd hwyr!

    Mae'r amser rhigwm Dechrau Da yn ffordd wych o feithrin eich hyder wrth rannu llyfrau a rhigymau gyda rhai bach, a hefyd yn ffordd wych o gwrdd â rhieni newydd eraill.

    Archebwch eich lle amser rhigwm am ddim yma

    Taith Josh

    Wedi i’w berthynas chwalu fe aeth Josh, sy’n 34 oed, i chwilio am gymorth gan dîm digartrefedd y Cyngor blwyddyn dwethaf. Ym mis Chwefror 2025, rhoddwyd Josh mewn llety dros dro a chafodd ymarferydd cefnogi atal digartrefedd ei ddynodi ar ei gyfer.

    Josh

    “Roeddwn yn ddigartref ddechrau’r flwyddyn dwythaf. Roeddwn wedi bod yn ddigartref o’r blaen a chefais fy rhoi mewn llety dros dro yn flaenorol, ond nid oeddwn yn y meddylfryd iawn yn flaenorol i geisio datrys fy sefyllfa yn ehangach.

    Dim ond am gyfnod byr yr oeddwn i yno’r tro hwn. Roeddwn yn gofyn i bawb, yn ceisio dod o hyd i fy fflat fy hun. Yn y diwedd mi ddes o hyd i un a symud allan o’r llety dros dro yn weddol gyflym.”

    Fis yn ddiweddarach roedd Josh yn rhentu llety yn breifat er mwyn byw ynddo ac roedd yn awyddus i ysgrifennu’r bennod yn ei stori.

    “Tra roeddwn yn y llety dros dro, fe soniodd fy ymarferydd cefnogi atal digartrefedd wrtha i am gyrsiau Intuitive Thinking Skills.

    Roeddwn ychydig yn amheus am wneud y cyrsiau i ddechrau, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli tan i fi fynd arnynt nad oedd gen i mewn gwirionedd ddim byd i’w golli a phopeth i’w ennill o roi cyfle i’r cyrsiau.

    Fe ddechreuais y cyrsiau ym mis Ebrill a mis Mawrth o 2025. Fe wnes i’r cwrs sgiliau ar gyfer bywyd gyntaf ac fe wnes i fwynhau yn fawr a dysgu llawer ohono.

    Mae’n eich dysgu chi sut i ymdrin â’ch meddylfryd eich hun a sut rydych chi’n meddwl am broblemau. Roeddwn i’n arfer cael trafferth mawr gyda fy hyder ac yn amau fy hun drwy’r amser.

    Gofynnwyd i mi ar ddechrau’r cwrs beth fyddwn i’n hoffi ei wella, ac felly fe nodais waith gyda fy hyder.”

    Aeth Josh wedyn ymlaen i gymryd y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, gan ddysgu llawer mwy.

    “Fe es ymlaen i wneud y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a ddysgodd fwy o agweddau technegol i mi. Fe fyddwn yn cael fy rhoi yn esgidiau pobl eraill ac fe ddysgais sut i helpu’r rhai hynny a allai fod yn fwy diamddiffyn.

    Fe ddysgais sut i helpu eraill a allai fod yn wynebu amgylchiadau fel digartrefedd neu efallai yn cael trafferth gyda chamddefnyddio sylweddau.

    Erbyn dechrau’r haf, cafodd Josh gynnig lleoliad fel llysgennad gyda’r tîm Intuitive Thinking gyda’r gobaith y byddai’r cynllun wedyn yn arwain at swydd barhaol o fewn y tîm ei hun.

    “Roeddwn wir yn llawn cyffro gan mai hwnnw oedd y lleoliad roeddwn i ei eisiau fwyaf o’r rhai a gafodd eu cynnig i mi. Fe ddysgais i roi areithiau a gweinyddu hyfforddiant drwy gysgodi aelodau o’r tîm. Fe helpodd hynny fy hyder gymaint, sefyll i fyny a siarad o flaen pobl. Roeddwn yn ofnus iawn ar y dechrau, ond fe ddaeth yn haws ac yn haws dros amser.

    Roeddwn rhyw ddeufis i mewn yn fy lleoliad gyda’r tîm pan ges gynnig swydd yn y sector ynni ac roeddwn yn teimlo na allwn wrthod y swydd.

    Roedd y sgiliau roeddwn wedi eu dysgu yn ystod y cyrsiau roeddwn wedi eu cymryd, a fy lleoliad wedi rhoi gymaint o hyder i mi yn fy rôl newydd. Mae’r swydd hon mor wahanol i’r hyn rydw i wedi ei wneud o’r blaen, ac mae’r sgiliau newydd hyn wedi rhoi’r hyder i mi i fynd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Dyma beth rydw i wedi elwa fwyaf ohono.

    Roeddwn wedi arfer parhau i wneud y pethau yr oeddwn yn gyfforddus â nhw cyn i mi wneud y cyrsiau hyn. Roeddwn yn gwneud yr hyn yr oeddwn i wastad wedi ei wneud, ond yn y pen draw roeddwn yn cael yr un canlyniadau. Roeddwn yn teimlo fel mod i wedi treulio blynyddoedd yn llonydd i ddweud y gwir.

    Ers i mi fynd ar y cyrsiau hyn dydw i erioed wedi teimlo cystal yn fy mywyd. Mae’n swnio’n wallgof i ddweud y gall cwrs newid hynny, ond fe ddysgais pam rwy’n meddwl am bethau a sut i fynd i’r afael â’r meddyliau hynny.”

    Mae Josh wedi dewis ffyrdd mwy cadarnhaol o dreulio’r amser.

    “Rydw i wedi gwneud dewisiadau iachach yn fy mywyd nawr, roeddwn yn ei chael yn anodd gyda diflastod pan ddes i’n sobr tua phedair blynedd yn ôl, roeddwn i angen elfennau eraill.

    Fe ddechreuais i chwarae golff a mynd i’r gampfa. Rydw i nawr yn aelod o Glwb Golff Y Rhyl.”

    Mae Josh nawr wedi graddio o’r cyrsiau Intuitive Thinking gyda nifer o dystysgrifau, ac mae’n mwynhau ei rôl newydd yn y sector ynni.

    “Dwi’n credu y byddai’r cyrsiau hyn o fudd i bawb; does dim rhaid i chi fod mewn sefyllfa wael i fynd arnynt. Wnewch chi ddim colli dim o ddysgu o’r cwrs hwn, cyn belled â’ch bod yn buddsoddi ynddo rydych yn mynd i elwa ohono.

    Mae pobl wedi dweud eu bod yn gallu gweld newid yn fy hyder. O lle roeddwn i fis Chwefror i lle rydw i nawr, mae’n teimlo fel dau unigolyn gwahanol. Roeddwn i’n teimlo ar goll a doedd gen i ddim gobaith i ddweud y gwir. Fe ddysgodd fi i feddwl yn wahanol a meddwl yn rhesymegol am sefyllfaoedd. Mae wedi fy helpu i gael y ffocws a’r cymhelliant i gael yr hyn rydw i ei eisiau.

    Roedd fel effaith pelen eira, cyn gynted ag y penderfynais i ddechrau helpu fy hun, fe ddaeth pethau’n well yn raddol.”

    Adfer y Gorffennol, Adeiladu'r Dyfodol: Nantclwyd y Dre

    Mae gan Nantclwyd y Dre bron i 600 mlynedd o hanes ac mae'n un o'r tai tref ffrâm bren hynaf yng Nghymru.

    Mae Rhuthun yn dref sy’n gyforiog o hanes. Llosgwyd hi i’r llawr gan Owain Glyndŵr yn y flwyddyn 1400 ac mae llawer o naws hanesyddol y dref fel rydym ni’n ei hadnabod hi heddiw yn dod o’r bensaernïaeth ffrâm goed a oedd yn gyffredin yn yr ardal yn ystod cyfnod ei hailadeiladu.

    Ymysg y strydoedd hyfryd a’r adeiladau hanesyddol mae darn pwysig iawn o dreftadaeth adeiledig Rhuthun, sef Nantclwyd y Dre. Cafodd ei adeiladu yn wreiddiol fel tŷ neuadd i wehydd, felly mae bron i 600 mlynedd o hanes lleol yn perthyn iddo ac mae’n un o’r tai tref ffrâm goed hynaf yng Nghymru sydd ar agor i’r cyhoedd.

    Mae bellach yn cael ei reoli gan Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych a gall rhai sy’n ymweld â thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre ail-fyw ei orffennol difyr drwy ymgolli mewn profiadau sain ac arddangosfeydd a gweld ei du mewn sydd oll yn rhoi cipolwg cyfareddol ar fywydau’r teuluoedd a fu’n byw yno.

    Yn 2023, cafwyd cyllid i adfer rhannau o’r safle pan gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio gwarchod treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

    Cafodd y cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus hynny yng Ngorllewin Clwyd ac nid oes modd ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

    Fel un o’r prosiectau llwyddiannus, dyfarnwyd £667,000 i ailddatblygu rhannau o’r tŷ sy’n segur ar hyn o bryd ac sydd angen rhywfaint o waith atgyweirio i warchod y darn pwysig hwn o dreftadaeth leol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, creu cyfleoedd newydd ar gyfer yr atyniad i wella ei gynaliadwyedd at y dyfodol ac ychwanegu ambell beth cyffrous ar gyfer profiad yr ymwelwyr.

    Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Hydref, yn canolbwyntio ar roi bywyd newydd i asgell orllewinol segur yr adeilad. Bydd y darn hwn o’r tŷ’n cael ei droi’n llety gwyliau, wedi’i ddylunio a’i ddodrefnu gan gadw at natur hanesyddol yr adeilad, a bydd yn darparu gwell cyfleusterau ar y llawr cyntaf gyda lle penodol ar gyfer y gwirfoddolwyr wythnosol sy’n rhan hollbwysig a gwerthfawr o’r gwaith beunyddiol yn Nantclwyd.

    Fodd bynnag, cyn gallu dechrau ar y gwaith, roedd angen rhoi ystyriaeth i un set o drigolion sydd yno ers tro byd. Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ymgynghori ag ecolegwyr i sicrhau na fyddai’r datblygiadau sydd ar y gweill yn tarfu ar fan clwydo ystlumod gwarchodedig, sy’n cynnwys cyfran bwysig o boblogaeth Cymru o Ystlumod Lleiaf ac Ystlumod Pedol Lleiaf. Rhoddwyd hyfforddiant arbenigol i’r contractwyr, a gosodwyd lloches ystlumod fawr yn yr ardd, i roi mwy o le i’r creaduriaid bach yma ffynnu.

    Bydd y gwelliannau sydd i ddod hefyd yn gwneud ardal y gegin yn fwy addas i arlwyo ar gyfer digwyddiadau, a bydd yr hafdy’n cael ei adfer i’w hen ogoniant i ymwelwyr ei fwynhau yn ystod misoedd yr haf. Bydd hwn yn lle ychwanegol ar gyfer seremonïau sy’n cael eu cynnal yn y tŷ hanesyddol, fel priodasau a seremonïau partneriaeth sifil.

    Mae’r prosiect yn cael ei wneud gan B&W Builders & Decorators ynghyd â TACP Architects ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2026. Mae dull mwy cynaliadwy wedi’i ddefnyddio i wneud y gwaith gwella hefyd, drwy ddefnyddio gwlân i inswleiddio’r adeilad yn hytrach na’r deunydd inswleiddio mwy cyffredin sy’n cael ei wneud o olew, sy’n creu mwy o allyriadau carbon a ddim yn adnewyddadwy.

    Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

    “Mae dechrau ar y gwaith gwella yma yn Nantclwyd y Dre’n garreg filltir fawr i ddiogelu dyfodol safle hanesyddol mor amlwg yng nghanol tref Rhuthun. 

    “Mae Nantclwyd yn atyniad gwych i ymwelwyr ac yn ganolbwynt cymunedol i’n gwirfoddolwyr ymroddgar, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr ardaloedd newydd yn cael eu defnyddio a’u mwynhau gan ymwelwyr.

    “Bydd lles yr ystlumod sydd yno’n parhau i fod yn flaenoriaeth wrth wneud y gwaith a byddwn mewn cyswllt cyson gyda’r ecolegwyr trwy gydol y cyfnod.”

    Fedrwch chi ddod o hyd i’r blodau gwyllt yma yn Sir Ddinbych?

    Gyda’r tywydd yn cynhesu, mae dolydd blodau gwyllt ein sir yn dechrau bywiogi.

    Yn 2019, gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng hinsawdd a natur a’r nod oedd mynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

    Un o'r camau cyntaf oedd dechrau rheoli rhywfaint o laswelltir y Cyngor i greu dolydd blodau gwyllt ledled y sir. Nod y prosiect yw adfer ac ehangu’r cynefinoedd sydd ar gael yn y sir i bryfed peillio a bywyd gwyllt.

    Mae gan y prosiect hwn lawer o fanteision neu ‘wasanaethau ecosystem’ i drigolion y sir hefyd, fel llai o lifogydd, gwell ansawdd aer, ac oeri’r aer mewn gwres mawr.

    Dyma ganllaw yn dangos y math o flodau y gallech eu gweld yn rhai o’n dolydd ledled Sir Ddinbych Cadwch olwg am yr arwyddion Caru Gwenyn.

    Blodau gwyllt mis Mai

    Pys y Ceirw

    Os ewch i weld ein dolydd blodau gwyllt ym mis Mai, fe welwch bys y ceirw yn eu blodau. Mae gwenyn a phryfed peillio eraill wrth eu boddau â nhw gan eu bod yn llawn paill a dyma ffynhonnell fwyd larfa rhai o’n hoff loÿnnod byw – y Glesyn Cyffredin, y Gwibiwr Llwyd a’r Frithribin Werdd.

    Meillionen Goch

    Ydych chi wedi gweld meillion cochion yn ein dolydd blodau gwyllt yn ystod mis Mai? Mae’r blodyn gwyllt bach hyfryd hwn yn llawn paill ac mae’n ffynhonnell fwyd hanfodol i wenyn – yn y gorffennol, roedd yn cael ei alw’n “fara gwenyn”. Nid pryfed peillio yn unig sy’n mwynhau’r blodyn bach hwn, mae gwartheg wrth eu boddau ag o hefyd!

    Blodyn Neidr

    Mae blodau neidr i’w gweld ar draws ein dolydd blodau gwyllt yn ystod mis Mai. Gall y blodyn coetir hwn dyfu bron i 1m o uchder ac mae’n denu gwenyn a gloÿnnod byw at ei flodau pinc llachar trwy agor y petalau yn ystod y dydd. Ble i ddod o hyd iddo: mannau cysgodol fel cloddiau, coetiroedd, ar gyrion coetiroedd a ffyrdd gwledig.

    Blodau gwyllt mis Mehefin

    Tegeirian Gwenynog (Ophrys apifera)

    Ydych chi wedi gweld tegeirian gwenynog yn unrhyw un o'n dolydd blodau gwyllt y mis yma? Mae'r tegeirianau bach yma'n feistri ar dwyllo! Mae'r blodyn yn edrych fel gwenynen yn gorffwyso ac mae hefyd ychydig yn flewog a hyd yn oed yn cynhyrchu arogl sy'n debyg i wenynen fenywaidd er mwyn denu sylw'r gwenyn gwrywaidd sy'n hedfan heibio.

    Cribell Felen (Rhinanthus minor)

    Mae’r gribell felen yn rheoli uchder ein dolydd blodau gwyllt yn y mis hwn. Mae’r blodyn gwyllt bychan yma’n wych ar gyfer dolydd blodau gwyllt. Fel planhigyn lled-barasitig, mae’n gwanhau twf gwahanol fathau o laswellt drwy fwyta’r maeth sydd yn eu gwreiddiau. Trwy wanhau’r glaswellt cryfaf, mae’r blodau gwyllt mwy eiddil yn cael cyfle i ymsefydlu.

    Bysedd y Cŵn (Digitalis purpurea)

    Mae bysedd y cŵn yn blodeuo yn ein dolydd ym mis Mehefin. Dyma un o’n blodau gwyllt mwyaf cyfarwydd sy’n rhoi fflach o liw ar gyrion coetir a ffyrdd gwledig gyda blodau siâp cloch sy’n lliw pinc llachar. Yn ôl ‘Plantlife’, gall un ‘bys’ gynhyrchu miliwn o hadau!

    Bloda gwyllt mis Gorffennaf

    Clafrllys (Knautia arvensis)

    Mae blodau piwslas y clafrllys yn wych i ddenu gwenyn, gwyfynod a gloÿnnod byw brodorol. Mae hefyd yn ffynhonnell fwyd hollbwysig i rai o’n rhywogaethau mwyaf prin fel y gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul a glöyn byw brith y gors.

    Y Bengaled (Centaurea nigra)

    Ym mis Gorffennaf mae blodau pengaled yn blodeuo ar draws ein dolydd. Dyma flodyn gwyllt trawiadol, a’i flodau pinc llachar yn debyg i ysgall. Y bengaled yw un o’r blodau gorau i bryfed peillio. Mae’n ffynhonnell wych o neithdar maethlon i wenyn, gloÿnnod byw a chwilod. Yn nes ymlaen yn y tymor, mae ei hadau’n ffynhonnell bwysig o fwyd i amrywiaeth o’n rhywogaethau brodorol o adar.

    Pig-yr-aran y weirglodd (Geranium pratense)

    Pig-yr-aran y weirglodd yw’r blodyn gwyllt mwyaf toreithiog o’r genws Geranium. Mae’r rhain yn rhoi fflach o las/fioled yn gynnar yn yr haf ac yn gallu para am fisoedd yn ein dolydd blodau gwyllt. Maent yn parhau i ddenu’r llygad yn ystod misoedd yr hydref hefyd, wrth i’r dail newid o wyrdd i goch trawiadol – does dim rhyfedd ei fod yn ffefryn yng ngerddi nifer o gartrefi!

    Llygad Llo Mawr (Leucanthemum vulgare)

    Dyma flodyn gwydn sydd i’w weld yn ein dolydd blodau gwyllt. Mae’r llygad llo mawr yn ei flodau o fis Mai i fis Medi.

    CIPOLWG

    Newidiadau i brawf traffig Prestatyn

    O ddydd Sadwrn 15 Awst, mae trefniant newydd yn cael ei gyflwyno.

    Caiff trefniant newydd ei gyflwyno i brawf traffig Prestatyn fel rhan o ymdrechion parhaus y cyngor i wella llif y traffig a lleihau tagfeydd yng nghanol y dref.

    O ddydd Sadwrn 15 Awst, bydd cerbydau yn gallu troi i'r dde o'r B5120 Ffordd Pendyffryn, Prestatyn (wrth deithio o gyfeiriad yr orsaf fysiau/Lidl) i lawr Ffordd y Bont tuag at y gylchfan fach, er mwyn cyrraedd busnesau ar waelod y Stryd Fawr a Pharc Manwerthu Parc Prestatyn.

    Bwriad y drofa ychwanegol i’r dde yw lleihau nifer y cerbydau sy'n teithio drwy Barc Manwerthu Parc Prestatyn i gyrraedd busnesau ar ben isaf y Stryd Fawr. Drwy ddarparu llwybr mwy uniongyrchol i yrwyr, mae'r cyngor yn gobeithio gallu lleddfu'r pwysau ar ffyrdd lleol a gwella mynediad i drigolion, ymwelwyr a busnesau.

    Awgrymodd gwaith modelu traffig blaenorol ar gyfer yr ardal na fyddai troi i'r dde yn y lleoliad yma yn bosib oherwydd lled y ffordd a chyfyngiadau cysylltiedig y briffordd. Fodd bynnag, yn dilyn gwaith manwl ac adolygiad o'r gofod sydd ar gael ar y ffyrdd, nodwyd datrysiad sy'n caniatáu i'r drofa i’r dde ddigwydd yn ddiogel.

    Anogir modurwyr i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio drwy'r ardal wrth i ddefnyddwyr y ffyrdd ymgyfarwyddo â'r trefniant newydd. Bydd arwyddion priodol mewn lle i gyfeirio gyrwyr.

    Bydd y cyngor yn monitro symudiadau traffig a lefelau tagfeydd yn ystod y cyfnod prawf er mwyn asesu effeithiolrwydd y newidiadau a phenderfynu unrhyw welliannau yn y dyfodol a allai fod eu hangen.

    Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n uchel ei berfformiad

    Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

    Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych wyrddach

    Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

    Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych yn dysgu ac yn tyfu

    Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

    Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalgar

    Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

    Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Sir Ddinbych ffyniannus

    Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

    Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol: Ebrill 2025 i Mawrth 2026: Tai o ansawdd sy'n bodloni anghenion pobl

    Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

    Syllu ar y Sêr⭐

    Dewch i archwilio'r awyr nos, hedfan i blanedau, gweld y Llwybr Llaethog, edrych ar Gytser mewn golau newydd a dysgu am bwysigrwydd amddiffyn ein hawyr dywyll werthfawr a sut y gallwch chi helpu hefyd.

    Ar y 29ain a’r 30ain o Orffennaf, mae Menter Iaith Sir Ddinbych ac Amgueddfa Dinbych yn cynnal diwrnodau hwyl i’r teulu yn Neuadd y Dref, Dinbych, gyda chefnogaeth y Royal Society. Mae tîm Tirwedd Genedlaethol y cyngor yn falch o gefnogi’r digwyddiad drwy ddod â’u Planetariwm, sy’n cael ei adnabod yn annwyl fel y 'Gofod Ofod’.

    Dewch i archwilio'r awyr nos, hedfan i blanedau, gweld y Llwybr Llaethog, edrych ar Gytser mewn golau newydd a dysgu am bwysigrwydd amddiffyn ein hawyr dywyll werthfawr a sut y gallwch chi helpu hefyd.

    Bydd cyfle hefyd i'r rhai sy'n bresennol ddysgu am Isaac Roberts. Ganwyd y seryddwr amatur yn Ninbych, ac fe dynnodd y ffotograff clir cyntaf o Andromeda, sef yr alaeth agosaf at ein Llwybr Llaethog.

    Gwybodaeth Defnyddiol

    • Addas i bob oed.
    • Gellir darparu ar gyfer cadeiriau olwyn a’r rhai sydd angen cadair. Dyma un digwyddiad o bedair sesiwn unfath.
    • Mae sioeau’n para tua 30 munud.
    • Sylwch ar delerau ac amodau system archebu Eventbrite.
    • Mae rhaid clustnodi tocyn ar gyfer pob unigolyn, yn cynnwys plant bach a babis.

    I archebu eich lle, cliciwch yma.

    Digwyddiadau Cymunedol

    Yn chwilio am rywbeth i'w wneud dros yr haf?☀️

    Yn chwilio am rywbeth i'w wneud dros yr haf?☀️

    Beth am ddod draw i un o'r digwyddiadau cymunedol, a gynhelir o'r 4ydd hyd at yr 17eg o Awst.

    Briff Argyfwng Cenedlaethol: Hinsawdd a Natur

    Ymunwch â ni i wylio The People’s Emergency Briefing

    Ymunwch â ni i wylio The People’s Emergency Briefing — ffilm newydd sy’n dod ag arbenigwyr blaenllaw o’r DU ynghyd i egluro beth mae’r wyddoniaeth ddiweddaraf yn ei ddweud wrthym am yr argyfwng hinsawdd a natur, sut mae eisoes yn effeithio ar ein bywydau, a beth y gellwn ei wneud.

    Mae’r ffilm yn cynnig trosolwg cryno, wedi’i seilio ar dystiolaeth, gan arbenigwyr ym meysydd hinsawdd, bwyd, iechyd, economeg, diogelwch cenedlaethol a thywydd eithafol. Nid oes angen unrhyw wybodaeth ymlaen llaw — mae croeso i bawb.

    📍 Lle: Yr Ystafell Ymgynnull, Neuadd y Dref, Town Hall, Rhuthun
    📅 Pryd: Dydd Iau 30 Gorffennaf 2026
    🕡 Amser: 18:30–20:30, drysau’n agor am 18:00

    Bydd hwn yn gyfle i glywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr, myfyrio gyda’n gilydd, a thrafod beth all yr argyfwng hinsawdd a natur ei olygu i’n sefydliad, ein gwaith a’n cymunedau.

    🎟️ Mae tocynnau ar gael drwy Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/1992837213752?aff=oddtdtcreator

    Annog trigolion ac ymwelwyr i leihau'r risg o danau gwyllt yng nghefn gwlad

    Mae ymwelwyr â chefn gwlad Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymddwyn yn gyfrifol yr haf hwn er mwyn helpu i leihau'r risg o danau gwyllt.

    Mae Cyngor Sir Ddinbych a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rhannu’r cyngor hwn yn dilyn tywydd poeth a sych ac achosion diweddar o danau gwyllt ar draws Gogledd Cymru.

    Mae Ceidwaid Cefn Gwlad yn barod i ymateb i adroddiadau am danau gwyllt, a gofynnir i ymwelwyr ddilyn cyngor ar atal tanau mewn gwarchodfeydd natur, parciau gwledig ac ardaloedd cyhoeddus agored eraill:

    • Peidiwch â chynnau tanau na barbeciw; dewch â phicnic yn lle
    • Diffoddwch sigaréts yn llwyr
    • Os gwelwch dân gwyllt neu os ydych yn arogli mwg trwm, ewch i le diogel ar unwaith.
    • Ffoniwch 999 a gofynnwch am y gwasanaeth tân. Byddwch yn barod i roi lleoliad manwl gywir neu nodwedd amlwg yn yr ardal.

    Anogir ymwelwyr hefyd i ddefnyddio safleoedd gwersylla sefydledig sydd â chyfleusterau, er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar y timau sy'n monitro safleoedd poblogaidd cefn gwlad.

    BBQ

    Dywedodd y Cynghorydd Alan James, yr Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Lleol a Chynllunio yng Nghyngor Sir Ddinbych: "Gyda'r tywydd sych hirfaith, rydym yn arbennig o bryderus ynghylch y risgiau o danau gwyllt sy'n gysylltiedig â gwersylla mewn ardaloedd anghysbell.

    "Gall tanau mewn glaswellt, rhedyn a grug ledaenu'n gyflym mewn amodau sych a gwyntog. Os gwelwch yn dda, ceisiwch osgoi tanau agored a diffodd deunyddiau ysmygu yn llwyr."

    "Rydym yn annog pobl i ddefnyddio safleoedd gwersylla swyddogol a dilyn rheolau'r safle. Bydd ymddwyn yn synhwyrol yn ystod y tywydd poeth hwn yn helpu i gadw ymwelwyr yn ddiogel, cefnogi ein timau a lleihau'r pwysau ar adnoddau.

    Ychwanegodd, "Mae'n arbennig o bwysig ein bod oll yn dilyn y canllawiau hyn o ystyried y pwysau presennol ar Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, sy'n delio â thanau gwyllt ar draws y rhanbarth ar hyn o bryd."

    🎉 Dathlu Diwrnod Cenedlaethol Cofrestrwyr! 🎉

    Heddiw (1 Gorffennaf) rydym yn dathlu ein Cofrestrwyr sy'n cefnogi ein trigolion drwy rai o gerrig milltir pwysicaf bywyd - o groesawu babi newydd, dweud "Gwnaf", dod yn ddinesydd Prydeinig, a ffarwelio ag anwyliaid.

    Y llynedd, gwnaeth Cofrestrwyr Sir Ddinbych:

    📜 gynhyrchu 11,072 o dystysgrifau

    👶 Cofrestru 1,750 o enedigaethau

    🕊️ Cofrestru 2,082 o farwolaethau

    💍Cynnal 331 o seremonïau priodas a 5 partneriaeth sifil a

    🇬🇧 Chroesawu 50 o ddinasyddion Prydeinig newydd trwy seremonïau dinasyddiaeth

    Diolch i'n tîm ymroddedig am y trugaredd, y proffesiynoldeb a'r gofal rydych chi'n eu gynnig bob dydd, i gefnogi ein cymunedau o'r crud i'r bedd. 💙

    Dysgwch fwy am wasanaethau cofrestrwyr Sir Ddinbych ar wefan y cyngor 👉 https://bit.ly/4atcri0

    Ail-agoriad swyddogol Canolfan Ieuenctid Llangollen

    ☀️ Am ddiwrnod hyfryd a gawson ni yn ailagoriad Canolfan Ieuenctid Llangollen! ☀️

    Roedd yr haul yn tywynnu, roedd gwên ym mhobman, ac roedd yn wych gweld cymaint o blant, pobl ifanc a theuluoedd yn dod i ddathlu gyda ni.

    Mwynhaodd ymwelwyr ystod eang o weithgareddau drwy gydol y dydd, cyfarfu â gwasanaethau a phartneriaid lleol, a chawsant y cyfle i ddarganfod mwy am yr hyn sydd gan y ganolfan i'w gynnig. Roedd yn hyfryd gweld yr adeilad yn llawn egni, chwerthin ac ysbryd cymunedol.

    Hoffai'r Gwasanaeth Ieuenctid, Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg ddiolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth draw a'u helpu i wneud y diwrnod yn gymaint o lwyddiant, gan gynnwys ein partneriaid, staff a gwirfoddolwyr. Diolch arbennig i'r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd am ailagor y ganolfan yn swyddogol a'n helpu i nodi'r garreg filltir gyffrous hon.

    Rydym yn edrych ymlaen at groesawu hyd yn oed mwy o blant, pobl ifanc a theuluoedd trwy'r drysau yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

    Diolch i chi am ei wneud yn ddiwrnod mor arbennig - allwn ni ddim aros i'ch gweld chi eto'n fuan! 💙

    Diolch i'n holl bartneriaid a busnesau a helpodd i wneud y prynhawn yn un mor arbennig:

    • Gwasanaethau Ieuenctid
    • Teuluoedd yn Gyntaf / Dechrau’n Deg 
    • Hamdden Sir Ddinbych Cyf 
    • Urdd
    • Ceidwaid Chwarae Sir Ddinbych
    • Ffermwyr Ifanc Llangollen 
    • Rhannu Bwyd Llangollen 
    • The Little Learning Company
    • Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych
    • Sir Ddinbych yn Gweithio 
    • Uned Diogelwch Trais Teuluol 
    • Shooting Stars Circus Skills
    • Glitterbugz Body Art
    • Beiciau Drosi Bikes
    • Menter Iaith
    • Planetree
    • Bonni’s pizza

    Galeri o luniau o'r digwyddiad

    Gemau olaf ym Mhencampwriaeth Dan-19 UEFA yng ngogledd Cymru

    Torrwyd record presenoldeb yng Nghlwb Pêl-droed Tref Dinbych ddydd Sadwrn pan ddaeth 1,725 o gefnogwyr i wylio dyfodol pêl-droed Ewropeaidd gyda Sbaen yn herio’r Almaen ym Mharc Canolog, Dinbych.

    Bydd Parc Canolog yn cynnal eu gêm olaf yn y bencampwriaeth ddydd Mercher, 8 Gorffennaf Bachwch eich tocynnau ar wefan Tocynnau Cymdeithas Bêl-Droed Cymru

    UEFA

    Dyma ganlyniadau'r gemau grŵp:

    Dydd Sul, 28 Mehefin

    Cymru 0             Sbaen 7

    Yr Almaen 4        Denmarc 3

    Dydd Llun, 29 Mehefin

    Yr Eidal 2            Serbia 0

    Croatia 1            Wcráin 3

    Dydd Mercher, 1 Gorffennaf

    Denmarc 0         Sbaen 3

    Cymru 0            Yr Almaen 4

    Dydd Iau, 2 Gorffennaf

    Croatia 0            Yr Eidal 0

    Serbia 1             Wcráin 2
    Dydd Sadwrn, 4 Gorffennaf

    Sbaen 4             Yr Almaen 0

    Denmarc 3         Cymru 0

    Dydd Sul, 5 Gorffennaf

    Wcráin 1            Yr Eidal 0

    Serbia 0             Croatia 3

    Gemau nesaf:

    Dydd Mercher, 8 Gorffennaf

    Rownd gyn-derfynol

    Yr Almaen v Wcráin       Y Cae Ras, Wrecsam

    Sbaen v Croatia            Parc Canolog, Dinbych

    Gêm 5ed lle

    Denmarc v Yr Eidal        Stadiwm Dinas Bangor

    Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf

    Ffeinal                          Y Cae Ras, Wrecsam

    Gorsaf trosglwyddo gwastraff yn croesawu ymweliad y Cabinet

    Yn ddiweddar, croesawodd staff yng Ngorsaf Trosglwyddo Gwastraff y Cyngor yn Ninbych aelodau’r Cabinet i gael taith o gwmpas y cyfleuster.

    Roedd yr ymweliad yn gyfle defnyddiol i weld yn uniongyrchol sut mae’r broses ailgylchu yn gweithio a sut caiff deunyddiau eu trin pan fyddant yn cyrraedd y safle.

    Dangoswyd y gwahanol gamau sy’n rhan o’r broses o drin gwastraff y cartref ac eitemau i’w hailgylchu, gan eu helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r gwaith a wneir gan y staff bob dydd.

    Yn yr orsaf trosglwyddo gwastraff, caiff deunydd i’w ailgylchu a gesglir gan breswylwyr Sir Ddinbych eu didoli’n ofalus fel bod modd rhoi’r papur, cardfwrdd, plastigau, gwydr, metalau, eitemau trydanol a deunyddiau eraill a dderbynnir, yn y ffrydiau ailgylchu cywir.

    Dangosodd y staff bwysigrwydd gwasanaethau ailgylchu effeithlon i’r staff, o ran diogelu’r amgylchedd, gwella cynaliadwyedd a gwneud y defnydd gorau o adnoddau ar draws Sir Ddinbych.

    Trwy weld sut mae’r orsaf yn gweithio, roedd aelodau’r Cabinet yn gallu gweld heriau ymarferol a buddion systemau ailgylchu modern a’r rôl maen nhw’n ei chwarae, gyda chefnogaeth preswylwyr, er mwyn cefnogi dyfodol cynaliadwy cryfach ac amgylchedd glanach.

     

    Planhigfa’n meithrin gwely newydd i gefnogi blodau gwyllt

    Mae gwely newydd yn llawn cefnogaeth i flodau gwyllt lleol yn dod yn ei flaen yn ein Planhigfa Goed yn Llanelwy.

    Mae gwely newydd yn llawn cefnogaeth i flodau gwyllt lleol yn dod yn ei flaen yn ein Planhigfa Goed yn Llanelwy.

    Diolch i gymuned o wirfoddolwyr y Blanhigfa Goed, mae lle newydd wedi'i greu y tu allan i'r twneli tyfu i helpu gyda gwaith coed brodorol y safle.

    Mae gwirfoddolwyr wedi plannu planhigion dros ben sydd wedi'u tyfu o hadau a gasglwyd ar hyd a lled Sir Ddinbych mewn gwely newydd ei baratoi.

    Unwaith y bydd y planhigion yn hadu, bydd yr hadau'n cael eu casglu a'u storio'n briodol yn barod i'w plannu'r tymor canlynol.

    Dywedodd Keegan Blazey, Swyddog yn y Blanhigfa Goed: “Mae gennym gymuned wych o wirfoddolwyr yma yn y blanhigfa goed, mae’n wych eu helpu i ddysgu sgiliau newydd ac rydym hefyd yn dysgu drwyddyn nhw diolch i’r profiadau bywyd gwahanol maen nhw’n eu cynnig bob wythnos.

    “Bu Francesca, un o’n myfyrwyr sy’n gwirfoddoli, yn ymdrechu’n galed i helpu i greu’r gwely hwn a fydd yn rhoi ffynhonnell hadau wych i ni ar y safle i’n helpu i barhau i ddiogelu a meithrin ein natur leol yn y dyfodol.”

    2026 Dyddiadau ar gyfer gwiriad pwysau carafanau am ddim a chyngor ar ddiogelwch

    Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych a Chonwy yn cynnig sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau a faniau gwersylla.

    Gall preswylwyr sy’n mynd ar wyliau mewn carafán neu fan wersylla wneud yn siŵr nad ydynt yn gorlwytho eu carafán a rhoi eu hunain mewn perygl.

    Mae’r sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau ar gael i drigolion Sir Ddinbych a Chonwy, ac i’r rheini mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill os gallant deithio i’r lleoliad.

    Sesiwn gyngor yw hwn, ac ni chymerir unrhyw gamau os canfyddir gorlwytho neu faterion eraill, ond byddwn yn gweithio gyda chi i leihau'r llwyth. Bydd swyddogion y cyngor yng nghwmni swyddog o adran Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru a fydd yn rhoi cyngor diogelwch ymarferol i gadw'ch car a'ch carafan yn ddiogel.

    Bydd y gwiriadau pwysau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal ar y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:

    • Dydd Gwener 17/07 – 10am-3pm
    • Dydd Gwener 28/08 – 10am-3pm

    Nid oes angen apwyntiad ar gyfer y sesiynau yma ac mae croeso i breswylwyr fynychu unrhyw un o’r sesiynau a restrir a darganfod a ydynt o fewn y pwysau cyfreithlon ar gyfer eu cerbydau.

    Gellir dod o hyd i'r bont bwyso ar ffordd yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy, tua thri chwarter milltir o Ruddlan, a leolir yn y gilfan, bydd arwyddion yn nodi bod y bont bwyso ar waith.

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr uchod, cysylltwch ag adran Safonau Masnach Sir Ddinbych ar tradingstandards@denbighshire.gov.uk ewch i'w tudalen Facebook, yn yr un modd cysylltwch â Safonau Masnach Conwy ar trading.standards@conwy.gov.uk

    Cofrestru Llety Ymwelwyr yng Nghymru

    Deddf newydd i gofrestru llety ymwelwyr yng Nghymru: Cyhoeddi gweminarau i helpu darparwyr i baratoi

    Cofrestru llety i ymwelwyr - posterBydd gofyn i unrhyw un sy'n derbyn archebion ar gyfer llety dros nos yng Nghymru — o westeion achlysurol i weithredwyr gwestai mawr — gofrestru eu llety gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) pan fydd y gofrestr yn lansio'r hydref hwn.

    Mae deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn golygu y bydd angen i bob darparwr sy'n cynnig llety i ymwelwyr, boed yn ystafell sbâr sengl, bwthyn gwyliau, gwely a brecwast, neu westy gwasanaeth llawn, gwblhau proses gofrestru ffurfiol. Mae'r gofyniad yn berthnasol p'un a yw gwesteion yn aros am un noson neu sawl wythnos.

    Bydd y cynllun cofrestru llety ymwelwyr newydd yn lansio yn hydref 2026. Cyn hyn, mae'r ACC yn annog gwesteiwyr a busnesau i gofrestru am ddiweddariadau fel y gallant dderbyn nodyn atgoffa, canllawiau, a'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r dyddiad cofrestru agosáu. Mae’r broses gofrestru’n rhad ac am ddim ac mae’n orfodol i bob darparwr llety gofrestru hyd yn oed os na chaiff yr Ardoll Ymwelwyr ei chyflwyno yn y pen draw yn y sir. Gallai gall darparwyr sy'n methu â chofrestru wynebu cosbau.

    Gweminarau i Gefnogi Gwesteiwyr a Llwyfannau Archebu

    Er mwyn helpu i baratoi'r sector, mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cynnig cyfres o weminarau am ddim wedi'u hanelu at ddarparwyr llety ymwelwyr, llwyfannau archebu a chyrff twristiaeth. Bydd y sesiynau hyn yn darparu diweddariadau diweddaraf ar y gofynion cofrestru newydd a chanllawiau clir, ymarferol ar sut y gall darparwyr llety gydymffurfio. Bydd hefyd sesiwn holi ac ateb gydag arbenigwyr ACC.

    Dyddiadau'r Gweminarau

    Sesiynau Saesneg:

    • Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026, 11am–12pm
    • Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026, 6pm–7pm

    Sesiwn Cymraeg:

    • Dydd Iau 26 Mawrth 2026, 11am–12pm

    Sut i Gofrestru ar gyfer Gweminar

    Gallwch gofrestru ar gyfer gweminar ar y ddolen ganlynol - https://www.llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru/hyfforddiant-digwyddiadau

    Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer hysbysiadau am y cynllun cofrestru newydd, ewch i https://registervisitoraccommodation.service.gov.wales/email-signup

     

    Awydd dod yn Lysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych?

    Mae’r cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych, yn gwrs hyfforddiant ar-lein am ddim i wella eich gwybodaeth am y sector twristiaeth yn Sir Ddinbych.

    Mae 14 modiwl i ddewis ohonynt ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys cerdded, becio. bwyd, celfyddydau, arfordir, hanes a thwristiaeth gynaliadwy.

    Gwyliwch ein ffilm fer sy’n sôn am y cwrs.

    Ewch i www.llysgennad.cymru a chychwyn arni heddiw.

     

    Darganfod Sir Ddinbych...

    Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

    Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

    Beth am gael ysbrydoliaeth o'n mapiau cerdded a beicio am syniadau newydd o leoedd i ymweld â nhw.

    Am fwy o ysbrydoliaeth ar weithgareddau yn Sir Ddinbych a'r cyffiniau ewch i - https://www.northeastwales.wales/cy/ 

    Cymorth ariannol tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim

    Mae cymorth ariannol ar gael tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim.

    Mae rhagor o wybodaeth ynghylch a ydych chi'n gymwys ar gael ar y poster isod.

    I wneud cais ewch i www.sirddinbych.gov.uk/budd-daliadau neu sganiwch y cod QR.

    A WYDDOCH CHI?

    A wyddoch chi sut i rhoi eich enw i lawr ar gyfer y Gofrestr Tai?

    Ydych chi'n gwybod beth mae SARTH yn ei olygu? Mae SARTH yn sefyll am ‘Single Access Route to Housing’ sef 'Llwybr Mynediad Sengl i Dai’. Dyma lle, os ydych chi am gael eich cynnwys ar y Gofrestr Tai, dim ond un cais y bydd yn rhaid i chi ei wneud. Yn lle gwneud cais i wahanol gymdeithasau tai ar wahân, rydych chi'n cwblhau un cais sy'n cael ei rannu ar draws yr holl landlordiaid hynny sy'n rhan o'r cynllun. Mae ‘Llwybr Mynediad Sengl i Dai’ (SARTH) yn cael ei rannu gan bob darparwr tai cymdeithasol yn Sir Ddinbych. Ar ôl i chi wneud cais i fynd ar y Gofrestr Tai, yna caiff eich angen chi am dy gael ei asesu a'ch bod chi'n cael eich rhoi mewn band blaenoriaeth, gan helpu i sicrhau bod tai'n cael eu dyrannu mewn ffordd deg a thryloyw i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.

    Mae'r holl wybodaeth sydd angen i chi ei gwybod am y cynllun, a sut i wneud cais, ar ein gwefan.

    A wyddoch chi fod 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd?

    Mae 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd ac fel rhan o hyn, mae'r Cyngor yn archwilio oddeutu 720 o fwytai, caffis a lleoliadau pryd ar glud bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ar gyfer trigolioin Sir Ddinbych.

    Yn ogystal, mae'r Cyngor yn ymateb i dros 1,200 o geisiadau bob blwyddyn sy'n berthnasol i dai a llygredd.

    I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

    Wyddoch chi mai 1.8% o wariant Treth Cyngor sy’n mynd ar wagu biniau ac ailgylchu?

    Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd ar wagio biniau ac ailgylchu sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D).

    Am hyn, mae’r Cyngor yn casglu oddeutu 73,000 o finiau o fwy na 47,000 o gartrefi bob wythnos ar draws y sir.

    I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

    A wyddoch chi fod 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd?

    Mae 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd.

    Am hyn, mae’r Cyngor yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a physt wedi’u goleuo

    I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

    A wyddoch chi bod 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol?

    Mae 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol.

    Am hyn, mae'r Cyngor yn cludo oddeutu 2,871 o ddisgyblion yn ddiogel i 75 ysgol ledled y sir.

    I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

    Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych

    Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn agored i bawb 11 i 25 oed. Mae nhw yn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd cymdeithasol i ddatblygu diddordebau yn ogystal â helpu a chefnogi unrhyw un sydd ei angen. I ddod o hyd i glwb ieuenctid lleol neu i gael cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc, ewch i’n gwefan.

    A wyddoch chi bod 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion?

    Mae 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion.

    A gyda 36.7% yn mynd i ysgolion ac addysg, mae hyn yn golygu bod dros 66% o’ch Treth Cyngor yn mynd i warchod y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

    I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

    A wyddoch chi fod 1.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd?

    Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd.

    O fewn hyn mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am 1,419km o briffyrdd (ag eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a cheuffosydd, 302 o waliau cynnal a 26,000 o geunentydd.

    I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

    A wyddoch chi fod gan Sir Ddinbych yn Gweithio tudalennau ar ein gwefan?

    Mae gan Sir Ddinbych yn Gweithio dudalennau ar wefan y Cyngor.

    Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yma i helpu preswylwyr 16 oed a hŷn a allai fod yn ei chael yn anodd neu sy’n poeni am arian. P’un ai a ydych chi’n chwilio am waith neu angen cefnogaeth i godi eich hun yn ôl ar eich traed, mae nhw yma i’ch arwain chi tuag at ddyfodol gwell. Ewch i'n gwefan i gael gweld beth sydd gennyn nhw i gynnig.

    A wyddoch chi?

    Mae 36.7% o'ch Treth Cyngor yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg, a 29.8% yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol, sy'n golygu bod dros 66% o'ch Treth Cyngor yn mynd ar amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

    I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

    A wyddoch chi bod 64% o gyllideb y Cyngor yn mynd ar addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol?

    Mae 64% o gyllideb y Cyngor yn mynd ar addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol? Mae 14% arall wedi'i neilltuo i bethau fel cynllun cenedlaethol Cymru gyfan ar gyfer budd-dal y Dreth Gyngor a'r ardoll y mae'n rhaid i ni ei thalu i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, sydd wedyn ond yn gadael 22% ar ôl ar gyfer holl wasanaethau eraill y Cyngor gan gynnwys gwagio biniau ac ailgylchu, cynllunio a diogelu'r cyhoedd, diogelu atyniadau treftadaeth, cludo disgyblion i'r ysgol.

    Gallwch ddysgu mwy am ble mae'r gyllideb yn mynd ar y tudalennau newyddion.

    A wyddoch chi bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?

    Oeddech chi'n gwybod bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?

    Nid yw'r holl Dreth Cyngor a gesglir yn talu am ddim ond gwasanaethau'r cyngor, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân. I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

    Prydau ysgol am ddim

    Mae pob plentyn oed cynradd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy'r cynllun Prydau Ysgol Cynradd Cynradd Cyffredinol. Mae hon yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i sefydlu i helpu gyda'r costau byw cynyddol. Gallwch ddarganfod rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor.

    Mae Treth y Cyngor yn cynrychioli dim ond 25% o arian y Cyngor

    Mae Treth y Cyngor ond yn cyfrif am 25% o gyfanswm cyllid y Cyngor. Pan fyddwch yn talu eich bil Treth y Cyngor blynyddol, mae 1.8% o hwnnw’n talu am gasgliadau gwastraff ac ailgylchu – sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar dreth gyngor eiddo Band D o £1,799.48 y flwyddyn). Mae'r rhan fwyaf o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas - ysgolion ac addysg yw'r gwariant mwyaf sy'n cyfrif am 36.7% tra bod gofal oedolion a gofal cymdeithasol yn cyfrif am 29.8%. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan.

    A wyddoch chi fod 1.1% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y gwasanaeth Cefn Gwlad?

    Mae 1.1% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Cefn Gwlad sy'n rheoli dros 80 o safleoedd cefn gwlad, dros 1,200 hectar o fannau gwyrdd ar gyfer hamdden a chadwraeth.

    Mae'r rhain yn amrywio o Barc Gwledig Loggerheads a Moel Fammau, Planhigfa Goed y Sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Prestatyn Dyserth Way, Llantysilio Green yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o safleoedd cymunedol llai ar draws y Sir.

    Mae gan y Gwasanaeth dîm arbenigol yn y maes Ecoleg a Choed ledled y Sir,  y dynodiad Tirwedd Genedlaethol, hamdden a hawliau tramwy, sy'n trefnu teithiau cerdded natur ar gyfer iechyd ac yn rheoli'r Ganolfan Cefn Gwlad yn Loggerheads ac arlwyo ym Mhlas Newydd.

    I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

    Llawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, papurau newydd ac yn y blaen

    Gallwch chi lawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, cylchgronau digidol a phapurau newydd am ddim gan ddefnyddio ap Borrowbox? Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN. Ddim yn aelod o'r llyfrgell? Mae ymuno ar-lein am ddim www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd.  

    Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant yn wythnosol

    Fod Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant wythnosol am ddim ledled y sir – gan gynnwys galwadau heibio, teithiau cerdded llesiant, cefnogaeth i bobl ifanc, a gweithgareddau i hybu hyder. Maen nhw ar agor i holl drigolion Sir Ddinbych 16+ oed, ac yn hollol rhad ac am ddim! Edrychwch ar yr amserlen a’r digwyddiadau diweddaraf yma

    A wyddoch chi bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd.

    Bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd. Mae’n egluro beth allwch chi ei ddisgwyl wrth wneud cais am drwyddedau, yn ystod archwiliadau a gorfodi, a sut i gysylltu neu roi adborth. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan.

    A wyddoch chi mai 0.9% o wariant Treth y Cyngor sy'n mynd ar Wasanaeth Treftadaeth y sir?

    Mae Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych yn cyfrif am 0.9% o wariant Treth y Cyngor.

    Am hyn, mae'n cadw ac yn hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (wedi'i lleoli yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr.

    Drwy ddiogelu'r rhain mae'r gwasanaeth yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.

    Trwy ein hatyniadau, digwyddiadau a rhaglenni dysgu, rydym yn cefnogi balchder lleol, twristiaeth ddiwylliannol a'r economi wrth amddiffyn treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

    I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

    A wyddoch chi y gallwch wylio cyfarfodydd y Cyngor arlein?

    Gallwch weld gweddarllediadau byw ac wedi eu recordio o gyfarfodydd pwyllgorau’r Cyngor ar unrhyw adeg.

    Mae'r holl bapurau hefyd i'w gweld gan gynnwys yr agenda a phenderfyniadau.

    Os hoffech chi ddarganfod mwy am beth syn digwydd yn y Cyngor, edrychwch ar y calendr cyfarfodydd i weld beth sy’n mynd ymlaen.

    FIDEOS

    Gwenoliaid Duon

    Wyddoch chi fod ein tîm Bioamrywiaeth hefyd yn gweithio i gefnogi gwenoliaid duon sy'n mudo i Sir Ddinbych yn ystod yr haf?

    Wyddoch chi fod ein tîm Bioamrywiaeth hefyd yn gweithio i gefnogi gwenoliaid duon sy'n mudo i Sir Ddinbych yn ystod yr haf? Mae'r adar hyn ar Restr Goch yr DU o Adar sy'n Peri Pryder Cadwraethol. Dysgwch beth rydym yn ei wneud yn y sir a sut gallwch chi helpu drwy wylio'r clip hwn.

    Clwb Pêl Droed Dinbych yn barod am Ewros dan 19!

    Bydd CPD Tref Dinbych yn  cynnal pedair gêm yng ngemau Pencampwriaeth UEFA 19 rhwng 28 Mehefin ac 11 Gorffennaf.

     Manylion y gemau isod 👇

    Central Park Cymraeg

    ⚽Cymerwch gipolwg ar Barc Canolog – cartref CPD Tref Dinbych. 👇

    🎫I weld dyfodol pêl-droed Ewropeaidd yn Ninbych, bachwch eich tocynnau ar wefan docynnau Cymdeithas Bêl-droed Cymru 👉 https://tinyurl.com/3v6fm7yw

    Grŵp Casglu Sbwriel Morol

    Mae Tîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr wedi dod at ei gilydd i gasglu dros 30 bag o sbwriel ar hyd arfordir Prestatyn. 

    Mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynnal eleni i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol yn yr ardal a all greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

    Gall cael gwared ar y sbwriel oddi ar y traeth hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr yn well.

    Gwyliwch y clip yma am fwy o wybodaeth.

    Cofrestru Llety Ymwelwyr yng Nghymru

    Bydd gofyn i unrhyw un sy'n derbyn archebion ar gyfer llety dros nos yng Nghymru — o westeion achlysurol i weithredwyr gwestai mawr — gofrestru eu llety gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) pan fydd y gofrestr yn lansio'r hydref hwn.

    Bydd y cynllun cofrestru llety ymwelwyr newydd yn lansio yn hydref 2026. Cyn hyn, mae'r ACC yn annog gwesteiwyr a busnesau i gofrestru am ddiweddariadau fel y gallant dderbyn nodyn atgoffa, canllawiau, a'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r dyddiad cofrestru agosáu.

    Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer hysbysiadau am y cynllun cofrestru newydd, ewch i wefan Awdurdod Cyllid Cymru.

    BE SY' MLAEN

    Briffio ar argyfwng cenedlaethol: hinsawdd a natur

    • Lleoliad: Yr Ystafell Ymgynnull, Neuadd y Dref, Rhuthun | Dyddiad: Dydd Iau, 30 Gorffennaf | Amser: 18:30 - 20:30 (drysau’n agor am 18:00)
    • Hoffem ni wahodd ti i ddangosiad o’r ffilm People’s Emergency Briefing - ffilm newydd sy’n dod ag arbenigwyr blaenllaw’r DU ynghyd i egluro, mor glir â phosibl, beth mae’r wyddoniaeth ddiweddaraf yn ei ddweud am yr argyfwng hinsawdd a natur, sut y mae eisoes yn effeithio ar ein bywydau, a beth y gellir ei wneud o hyd. Mae’r ffilm yn rhoi trosolwg cryno, yn seiliedig ar dystiolaeth, gan arbenigwyr o feysydd yn cynnwys hinsawdd, bwyd, iechyd, economeg, diogelwch cenedlaethol a thywydd eithafol. Nid oes angen i chi feddu ar unrhyw wybodaeth flaenorol - p’un a yw materion hinsawdd a natur yn ganolog i’ch gwaith, neu’n rhywbeth nad ydych wedi cael llawer o amser i ymchwilio iddo, mae croeso i bawb. Rydym yn gobeithio y bydd y ffilm yn gyfle defnyddiol i glywed yn uniongyrchol gan yr arbenigwyr, myfyrio gyda’n gilydd, a thrafod beth allai ei olygu ar gyfer ein sefydliad, ein gwaith, a’n cymunedau. I fynychu’r cyfarfod, bydd rhaid i chi archebu tocynnau drwy Eventbrite >>> https://www.eventbrite.co.uk/e/1992837213752?aff=oddtdtcreator

    Gweithgareddau i'r teulu cyfan i fwynhau yng Nghanolfan Ieuenctid, Llangollen

    Gweithgareddau i'r teulu cyfan i fwynhau yn Llygadog, Corwen

    EIN HYSGOLION

    Llwyddiant i Ysgol Pen Barras yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

    Llongyfarchiadau mawr i Gôr Ysgol Pen Barras, Rhuthun, a ddaeth yn fuddugol ddydd Mercher, 8 Gorffennaf, yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

    Daethant i’r brig yn y gystadleuaeth Côr Iau, gan gystadlu yn erbyn wyth o gorau o Gymru ac o bedwar ban byd.

    O ganlyniad i’r llwyddiant hwn, aethant ymlaen yn hwyrach yn y nos i gystadlu yng Nghystadleuaeth Côr Ieuenctid y Byd. Enillwyr y gystadleuaeth honno oedd Côr Iau ABC o Gaerdydd.

    Roedd yn brofiad anhygoel i aelodau’r côr. Arweinydd Côr Ysgol Pen Barras oedd Mrs Sioned Roberts, gyda Mrs Elin Owen yn cyfeilio.

    Yn ogystal â’r llwyddiant hwn, bu plant Ysgol Pen Barras hefyd yn cyflwyno Neges Heddwch yr Ŵyl i’r Byd. Thema’r cyflwyniad oedd “Amddiffyn Ieithoedd Lleiafrifol”, ac roedd yn braf gweld y neges yn derbyn cymeradwyaeth arbennig gan gynulleidfa lawn ddwywaith yn ystod y dydd.

    Bydd y plant yn perfformio’r neges unwaith eto ddydd Sadwrn, 11 Gorffennaf, am 10:30yb. Pob hwyl iddynt.

    Mrs Helen Williams a Miss Elin Parry (athrawon Ysgol Pen Barras) oedd yn gyfrifol am ysgrifennu’r sgript eleni.

    Meddai Dyfan Phillips, Pennaeth Ysgol Pen Barras:

    “Dyma ddiwrnod bythgofiadwy i blant, staff a rhieni Ysgol Pen Barras! Cawsom y fraint anhygoel o gyflwyno’r Neges Ewyllys Da nid unwaith ond ddwywaith, ac yna cael yr anrhydedd o ennill y gystadleuaeth gorawl gynradd.

    “Nid oedd unrhyw gynlluniau gennym i ennill a pherfformio eto, felly bu cryn dipyn o waith ad-drefnu o ganlyniad wrth drefnu i’r plant a’r rhieni ddychwelyd i faes yr Eisteddfod.

    "Diolch yn fawr i bawb fu’n rhan o’r trefniadau ac a’n cefnogodd. Roedd yn brofiad anhygoel i’n pobl ifanc, ac mae’n braf cael mynd â’r Gymraeg ar draws y byd drwy gyfrwng yr Eisteddfod.”

    Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd:

    "Rwyf am longyfarch pawb yn Ysgol Pen Barras ar y gamp arbennig hon. Mae ennill cystadleuaeth y Côr Iau yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn gyflawniad gwych ac yn adlewyrchu gwaith caled, ymroddiad a thalent y disgyblion, y staff a phawb sydd wedi eu cefnogi.

    "Rwyf hefyd yn hynod falch bod y plant wedi cael y fraint o gyflwyno Neges Heddwch y Byd eleni, gan dynnu sylw at bwysigrwydd diogelu ieithoedd lleiafrifol. Fe wnaethant gynrychioli eu hysgol, Rhuthun a Sir Ddinbych gyda balchder mawr, gan ddangos cryfder ein hiaith a'n diwylliant Cymraeg ar lwyfan rhyngwladol. Dylent fod yn eithriadol o falch o'u cyflawniadau, a dymunaf bob llwyddiant iddynt gyda'u perfformiad ddydd Sadwrn."

    Croesawu Luis Gardner yn ôl i Ysgol Dinas Brân cyn Ewros dan 19!

    Luis GardnerRoeddem yn falch iawn o groesawu cyn-ddisgybl Ysgol Dinas Brân, Luis Gardner, yn ôl i’r ysgol ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb arbennig gyda’n timau pêl-droed bechgyn a merched.

    Rhannodd Luis ei daith o’i gyfnod fel disgybl yn YDB i gynrychioli Everton FC ac ennill anrhydeddau rhyngwladol gyda Chymru Dan 19. Cafodd ein myfyrwyr gipolwg gwerthfawr ar yr ymroddiad, y gwaith caled a’r gwydnwch sydd eu hangen i lwyddo ar y lefel uchaf.

    Gyda Phencampwriaethau Ewropeaidd Dan 19 UEFA ar y gorwel, roedd yn wych i’n pêl-droedwyr ifanc glywed am brofiadau Luis a’i uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

    Mae Luis yn wir ysbrydoliaeth i’n myfyrwyr ac i gymuned YDB gyfan. Rydym yn hynod falch o bopeth y mae wedi ei gyflawni hyd yma ac edrychwn ymlaen at ddilyn ei lwyddiant parhaus.

    Diolch yn fawr iawn i Luis am roi o’i amser i siarad gyda’n myfyrwyr ac am ateb eu cwestiynau mor agored a gonest.

    Pob lwc yn yr Ewros, Luis – mae pawb yn YDB yn dy gefnogi di

    Luis Gardner YDB

    Os hoffech chi weld Luis a gweddill tîm Cymru ym mhencampwriaeth Ewros dan 19 UEFA rhwng 28 Mehefin ac 11 Gorffennaf, gallwch brynu tocynnau ar wefan docynnau Cymdeithas Bêl-droed Cymru 👉 https://tinyurl.com/3v6fm7yw

    Gwleidyddiaeth yn Arwain y Sector yn Ysgol Dinas Brân yn 2026

    Yr ydym wedi rhoi gwerth mawr erioed ar lais y dysgwr yn YDB, gyda Chyngor y Disgyblion a’r Cyngor Eco, sydd ill dau wedi ennill sawl gwobr, wrth galon ein hymdrechion i rymuso ein myfyrwyr i ddatblygu’n arweinwyr hyderus ar gyfer y dyfodol. Yr ydym wedi sicrhau bod llais cyngor y myfyrwyr yn cael ei glywed yn glir, gyda myfyrwyr yn gwasanaethu ar ein bwrdd llywodraethwyr yn ogystal â chymryd rhan weithredol mewn fforymau Cyngor Sir Ddinbych.

    Cydnabu Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, gryfder a natur weithgar llais ein dysgwyr drwy ein defnydd effeithiol o holiaduron digidol. Yn dilyn hynny, ymwelodd ag YDB i annerch ein myfyrwyr mewn gwasanaeth arbennig. Yn ystod ei hymweliad, cafodd hefyd gyfle i drafod yn fanwl gyda’n haelodau o’r cyngor myfyrwyr, gan wrando ar eu barn am y materion sy’n wynebu pobl ifanc yng Nghymru, a’u syniadau am yr hyn y gall y llywodraeth ei wneud i’w cefnogi er mwyn eu helpu i gyflawni eu llawn botensial.

    Rocio Cifuentes, Darren Millar

    Ken Skates, Mark Drakeford

    Yn ogystal, rydym wedi gweithio’n agos gyda’r ‘Politics Project’ i ddatblygu rhaglen ragorol sydd wedi rhoi cyfleoedd gwerthfawr i’n myfyrwyr. Cafodd myfyrwyr Blwyddyn 12 gyfle i gymryd rhan mewn sesiwn gwestiynu rhithiol gyda Darren Millar, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, tra bu myfyrwyr Blwyddyn 13 yn cyfweld â Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru a Phrif Weinidog Cymru erbyn hyn.

    Yn ogystal, rydym wedi croesawu ymweliadau gan nifer o wleidyddion blaenllaw, gan gynnwys y cyn Brif Weinidog Mark Drakeford, Llŷr Gruffydd a Ken Skates, i drafod materion pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc, megis trafnidiaeth i bobl ifanc a’r Gymraeg.

    Trefnodd staff a disgyblion YDB ddigwyddiad llwyfan etholiad cyn y Pasg, gydag wyth ymgeisydd yn sefyll yn etholiad y Senedd o ystod o bleidiau gwleidyddol yn cymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb dwy awr ar gyfer ein disgyblion Blwyddyn 11, 12 a 13, gan gynnwys cymorth gyda chofrestru i bleidleisio. Lluniwyd y cwestiynau gan y myfyrwyr, a chynhaliwyd y digwyddiad gan dîm ymroddedig yn cynnwys staff, myfyrwyr Hanes Blwyddyn 12 ac aelodau o gyngor y myfyrwyr.

    Llwyfan etholiad

    Fel rhan o'u prosiect hanes ar rôl y Senedd, mae myfyrwyr blwyddyn 7 wedi cynnal etholiad dosbarth trwy greu eu pleidiau eu hunain gyda logos, enwau a maniffesto ac yna fe wnaethant bleidleisio ac ethol eu rhan o ddewis.

    Year 7 project

    Heb os, mae hi wedi bod yn flwyddyn gyffrous arall i lais y dysgwr yn YDB, gyda llu o gyfleoedd rhagorol a phrofiadau byd go iawn gwerthfawr i’n myfyrwyr. Da iawn YDB!

     

    Prom Ysgol Dinas Brân 2026

    Cynhaliwyd prom blwyddyn 11 Ysgol Dinas Brân yn ddiweddar a thalwyd teyrnged i'r flwyddyn gan Mr Sinclair, Pennaeth Blwyddyn 11, Miss Hughes, Pennaeth Cynorthwyol Blwyddyn 11 a holl staff yr ysgol.

    Prom YDB

    "Cafwyd noson wirioneddol fythgofiadwy i’n myfyrwyr ym Mlwyddyn 11. O’r gwisgoedd godidog i’r awyrgylch anhygoel, yn sicr, cafodd y myfyrwyr noson arbennig iawn i’w chofio.

    "Yr ydym yn hynod falch o’r aeddfedrwydd, y caredigrwydd a’r ysbryd positif a ddangoswyd ganddynt drwy gydol y noson. Wrth iddynt symud ymlaen i’r bennod nesaf, dymunwn bob llwyddiant iddynt - maent yn haeddu'r gorau.

    "Diolch o galon i’r staff, y teuluoedd a thîm y lleoliad a sicrhaodd fod y noson hon yn un mor arbennig".

    Prom YDB 1 Prom YDB 2

    Prom YDB 3

    Gwobr Aur Cymraeg Campus

    Yn ystod tymor y Gwanwyn, dyfarnwyd Gwobr Aur Cymraeg Campus i Ysgol Cefn Meiriadog, gan eu gwneud yr ail ysgol yn unig yn Sir Ddinbych i ennill y wobr.

    Mae gwobr Campws Cymraeg yn fenter iaith Gymraeg a gynlluniwyd ar gyfer ysgolion i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a meithrin ethos Cymreig cryf ym mywyd bob dydd. Mae'r wobr hon yn gyflawniad gwych i Ysgol Cefn Meiriadog ac mae'n dyst i waith caled ac ymrwymiad y staff a'r dysgwyr i hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg ar draws yr ysgol. Yn ystod tymor y Gwanwyn, ymunodd aelodau o'r Corff Llywodraethol a Chyngor Sir Dinbych â'r ysgol ar gyfer gwasanaeth dathlu a gyflwynwyd gan aelodau o'r Criw Cymraeg. Mae Criw Cymraeg yr ysgol yn helpu i arwain ymdrechion yr ysgol trwy drefnu gwasanaethau wythnosol, arwain gemau maes chwarae i gydnabod disgyblion sy'n ymdrechu'n galed i siarad Cymraeg a hyrwyddo'r iaith Gymraeg drwy gydol y diwrnod ysgol.

    Dywedodd y Pennaeth Laura Martin: "Mae'r wobr hon yn dyst i waith caled cymuned gyfan yr ysgol, dan arweiniad Mrs Pitt-Lacey a'n Criw rhagorol.

    "Fel ysgol rydym yn gweithio'n galed iawn i hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg ac rydym wrth ein bodd bod hyn wedi cael ei gydnabod. Rwy'n hynod falch o ymdrech ac ymrwymiad pawb a gymerodd ran ac rwyf wrth fy modd fy mod wedi derbyn aur."

    Dywed Cadeirydd y Llywodraethwyr, Shannon Gage "Ar ran y Corff Llywodraethol cyfan, hoffwn estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf i'r ysgol ar ennill Gwobr Aur Cymraeg Campus. Mae'r wobr hon yn adlewyrchiad o'r ymroddiad a'r gwaith caled a ddangoswyd gan gymuned gyfan ein hysgol ac yn tynnu sylw at ein hymrwymiad diysgog i ddatblygu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn Ysgol Cefn Meiriadog. Rydym yn hynod falch o'r cyflawniad hwn ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn dros y blynyddoedd nesaf."

    Citiau newydd i ddisgyblion Ysgol Bro Dyfrdwy!

    Dyma ddisgyblion Ysgol Bro Dyfrdwy yn edrych yn hynod drwsiadus yn eu citiau pêl droed a rygbi newydd!

    Meddai Mr Arwel Lloyd Owen, Pennaeth Ysgol Bro Dyfrdwy, "Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Coed y Dyffryn Ltd a Thafarn y Llew Glas, Cynwyd am eu cefnogaeth. Mae'r disgyblion wrth eu boddau gyda'r citiau newydd.

    Cit pêl droed

    Cit rygbi

    Da iawn ti Mason o Ysgol Santes Ffraid!

    Cymerodd Mason Green (yn y llun ar y dde isod), disgybl o Ysgol Santes Ffraid, Dinbych, ran yng nghylch cyntaf pencampwriaeth Cymdeithas Tynnu Tractorau Prydain ar y 9fed a’r 10fed o Fai ym Maes Sioe Scorton yn Swydd Gaerhirfryn. Daeth cystadleuwyr o bob rhan o’r DU ynghyd gyda’u tractorau wedi’u haddasu i gymryd rhan yn yr ŵyl gyffrous hon o geffylau pŵer uchel. Mae cystadleuwyr yn cystadlu mewn fformat cynghrair mewn digwyddiadau ledled y DU drwy gydol misoedd yr haf.

    3ydd safle

    Mae’r gystadleuaeth yn defnyddio tractorau wedi’u haddasu i dynnu sled trosglwyddo pwysau ar hyd trac 100m. Roedd Mason yn cystadlu yn Nosbarth Addasedig Gardd 500kg, lle ychwanegodd ef a’i dîm injan beic modur, llawer o bwysau ychwanegol, cewyll diogelwch a gwaith paent anhygoel at beiriant torri gwair safonol i’w droi’n gerbyd cystadlu. Yn ystod y ras, mae Mason yn gyrru’n gyflym i lawr y trac wrth i 500kg gael ei ychwanegu’n raddol at lwyth y tractor nes nad yw’r tractor yn gallu tynnu rhagor. Dywedodd am ei rediad: “Byddwn i wedi mynd ymhellach ar yr ail rediad, ond roeddwn i’n gallu teimlo’r turbo yn ysgwyd a’r peth olaf rwyt ti eisiau pan rwyt ti’n rhoi popeth iddo yw chwythu’r turbo.” Geiriau doeth iawn yn wir.

    Dyfernir pwyntiau yn seiliedig ar y pellter a deithiwyd dros ddau rediad yn erbyn maes o 12 cystadleuydd yn y digwyddiad hwn. Gorffennodd Mason yn y 3ydd safle yn gyffredinol yn y digwyddiad cyntaf hwn o’r flwyddyn, gan gasglu 27 pwynt cynghrair yn y broses. Mae ef a’i dîm wrthi’n gweithio ar gael ychydig mwy o geffylau pŵer allan o’r injan wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad nesaf yn Swydd Aberdeen ym mis Mehefin. Gorffennodd Mason yn yr ail safle yn gyffredinol yng nghystadleuaeth y llynedd, ond mae’n anelu at fynd un yn well eleni. Byddwn ni yma yn Ysgol Santes Ffraid yn cadw llygad barcud ar ei gynnydd.

    500kg garden modified

    Dywedldd penaeth Ysgol Santes Ffraid, Mrs Leah Crimes, “Rydym yn hynod falch o Mason a’i lwyddiannau mewn camp mor heriol ac unigryw. Mae ei ymroddiad, ei waith tîm a’i angerdd yn adlewyrchiad gwych o’r gwerthoedd rydym yn eu dathlu yma yn Ysgol Santes Ffraid. Mae ei weld yn cystadlu ar lefel genedlaethol ac yn sicrhau canlyniad mor drawiadol ar ddechrau’r tymor yn wirioneddol ysbrydoledig. Dymunwn bob llwyddiant i Mason wrth iddo barhau â’i daith bencampwriaeth.”

    Llu Cadetiaid Cyfun Ysgol Santes Ffraid

    Mae'r Llu Cadetiaid Cyfun (Combined Cadet Force - CCF) yn weithgaredd allgyrsiol a ddarperir o fewn yr ysgol sy'n anelu at helpu i ddatblygu unigolion i ddod yn aelodau gwell o gymdeithas pan fydd y myfyrwyr yn gadael yr ysgol yn y pen draw.

    Ysgol Santes Ffraid

    Alannah DaviesMae'r flwyddyn academaidd hon wedi gweld y CCF yn cefnogi sawl digwyddiad proffil uchel. Aeth 12 o gadetiaid a 2 Wirfoddolwr Oedolion y Llu Cadetiaid (CFAVs) i'r Gwasanaeth Gŵyl Goffa yn Neuadd Frenhinol Albert a chafodd Sarjant Hedfan y Cadetiaid Alannah Davies y fraint o gario lumen CCF Genedlaethol. Y bore canlynol gwelwyd y cadetiaid a'r CFAVs yn gorymdeithio ochr yn ochr â phersonél gwasanaeth a chyn-filwyr yn yr orymdaith heibio'r Senotaff yn Llundain o flaen Ei Mawrhydi y Brenin.

    Ym mis Chwefror eleni gwahoddwyd CCF Santes Brigid i ddarparu 12 cadetiaid i gefnogi gwasanaeth Arian Maundy yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy lle cyflwynodd Ei Mawrhydi y brenin Arian Maundy i 154 o dderbynwyr, 77 o ddynion a 77 o fenywod yn cynrychioli oedran y Brenhinoedd. Roedd y cadetiaid fel aelodau o ysgol Santes Brigid a'r CCF yn glod i'r ysgol a'r sefydliad cadetiaid gan ddenu'r sylwadau canlynol gan y Cyrnol Edwyn Launders, Rheolwr, Swyddfa'r Arglwydd Siambrlen i ddiolch i'r cadetiaid am, "Mor wych yn cefnogi'r Gwasanaeth Brenhinol Maundy yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ddydd Iau 2 Ebrill. Ni allem fod wedi gobeithio am grŵp mwy clyfar, mwy proffesiynol ac effeithlon o bobl ifanc i'n helpu i ofalu am yr holl westeion."

    Mae'r CCF yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau bywyd, cynyddu annibyniaeth a magu hyder wrth gymryd rhan mewn pethau fel cynllun Gwobr Dug Caeredin {DofE}, mynd i'r awyr a phrofi hedfan neu gefnogi digwyddiadau fel y rhai a amlygwyd uchod, gan roi cyfleoedd i bobl ifanc na fyddent fel arall wedi'u cael.

    Llwyddiant Ysgol y Gwernant yn y Cwis Siarter Iaith!

    Llongyfarchiadau i ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 ar ddod yn gydradd gyntaf yn rownd derfynol Cwis Siarter Iaith.

    Rydym yn hynod falch o’u llwyddiant a’u hymroddiad i’r Gymraeg.

    Ysgol y Gwernant

    Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw