llais y sir

Gwanwyn 2018

Y flwyddyn olaf i brosiect Ewropeaidd adar y môr

Yn anffodus, yr haf hwn fydd diwedd Prosiect Adfer Môr-wenoliaid Bach LIFE+ Nature yr UE. Roedd y prosiect 5 mlynedd, gyda’r RSPB fel yr aelod arweiniol, yn cynnwys 11 o bartneriaid ac yn gweithredu dros 20 safle bridio allweddol ar draws y DU. Mae wedi caniatáu i wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych wneud gwelliannau sylweddol i'r nythfa o Fôr-wenoliaid Bach yng Ngronant ac fe gyfrannodd y cyllid at brynu cyfarpar a darparu aelod ychwanegol o staff. Mae’r prosiect wedi darparu llwyfan i rannu syniadau ar draws y sir ac wedi annog arloesi wrth oresgyn problemau sy'n effeithio ar yr aderyn môr prin hwn. Dros gyfnod y cynllun, mae’r duedd o ddirywiad sydyn ym mhoblogaeth y DU o Fôr-wenoliaid Bach wedi sefydlogi, o leiaf, ond mae llawer o waith dal angen ei wneud i'w hadfer.

Little Tern

Credyd llun:  Michael Steciuk

Yn ffodus, mae Sir Ddinbych wedi dod yn un o’r lleoedd gorau i weld yr aderyn môr prin yn agos. Daeth Gronant i fod â’r nythfa fwyaf o Fôr-wenoliaid Bach ym Mhrydain ac Iwerddon am y tro cyntaf yn 2017. Mae’r cyfanswm o 161 o barau bridio yn cyfrannu at dros 10% o boblogaeth y DU ac mae gennym ni gyfraddau llwyddo da o ran oedolion yn magu cywion. Mae hyn i raddau helaeth wedi bod oherwydd ymdrechion staff Cefn Gwlad, sefydliadau eraill a gwirfoddolwyr dros y blynyddoedd. Rydyn ni wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu ein hymdrechion i sicrhau bod y Fôr-wennol Fach i'w gweld yn y dyfodol. Cysylltwch â swyddfa Pwll Brickfields ar 01824 708313 i gael gwybod mwy. Gallwch hyd yn oed ymuno â Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru – grŵp o wirfoddolwyr sy'n rhoi cefnogaeth sylweddol i'n gwaith yng Ngronant.

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...