llais y sir

Gwanwyn 2018

Ysbrydion Corwen

Mae 2018 yn flwyddyn darganfod Croeso Cymru felly mae plant Ysgol Caer Drewyn, Corwen wedi creu ffilm fer sy’n dathlu eu tirwedd a’u chwedlau lleol.Ghosts of Corwen

Rhoddwyd y prosiect ynghyd gan Wasanaeth Celfyddydau, Cefn Gwlad a Threftadaeth Sir Ddinbych ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a gyflogodd yr artist Rob Spaull i weithio gyda'r plant.

Yn dilyn trafodaethau ynglŷn â ble mae eu hardaloedd arbennig, datblygodd y plant fwrdd stori eu hunain cyn troi eu llaw at fod yn gyfarwyddwyr ffilm, criw camera ac actorion. Mae’r ffilm yn sôn am gysylltiadau Celtaidd yr ardal a Bryngaer hynod Caer Drewyn o Oes yr Haearn a choetir Pen y Pigyn a'i gysylltiad ag Owain Glyndŵr.

Dywedodd Charlotte Davies, athrawes yn Ysgol Caer Drewyn, ‘Mae’r plant wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn, maen nhw wedi dysgu am eu hardal leol, meithrin sgiliau newydd ac wedi cael eu hysbrydoli gan y prosiect'.

Dywedodd disgyblion blwyddyn 3 a 4 eu bod wedi mwynhau’n arbennig dysgu am onglau camera, mynd ar y trên stem, defnyddio’r feddalwedd olygu ar y cyfrifiadur a chreu’r effeithiau arbennig.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Cadeirydd Cyd-bwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: "Mae Corwen mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sy’n cydnabod yr ardal fel un â thirwedd o bwysigrwydd rhyngwladol, fel y ‘Great Barrier Reef’. Mae’n ysbrydoledig gweld plant lleol yn ymgysylltu â’u tirwedd ac yn llawn brwdfrydedd amdani."

I wylio’r ffilm fer cliciwch yma, neu yn well fyth beth am ymweld â Chorwen ar y trên yr haf hwn a mynd i weld Caer Drewyn a Phenypigyn. Gellir lawrlwytho teithiau cerdded i’r safleoedd hyn ar y gwefan.

Hoffai’r prosiect ddiolch i Jude Wood a Claire Sandland am eu cyfraniadau i’r ffilm hon a Rheilffordd Dreftadaeth Llangollen, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru am eu cefnogaeth.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...