llais y sir

Gwanwyn 2018

Synau o Ewrop i’w clywed ar ymweliad â Llangollen

Dyfodol ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop oedd y pwnc trafod ar gyfer 25 o fyfyrwyr o Ewrop yn ystod eu hymweliad wythnos o hyd yn Sir Ddinbych.

Cynhaliwyd yr ymweliad â Llangollen gan Ysgol Dinas Bran fel rhan o Brosiect Erasmus, a sefydlwyd i ddeall pwysigrwydd ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop.  

Mae Dinas Bran wedi bod yn rhan o'r prosiect ers dwy flynedd, ac mae cynrychiolwyr wedi ymweld â nifer o wledydd Ewropeaidd.   Y mis hwn, tro'r ysgol oedd cynnal ymweliad wythnos o hyd ar gyfer disgyblion o Wlad Pwyl, Yr Eidal, Swistir, Yr Almaen a’r Alban. 

Arhosodd myfyrwyr gyda theuluoedd yn Nyffryn Dyfrdwy fel rhan o’r ymweliad cyfnewid.

Meddai Ifor Phillips, Pennaeth y Gymraeg yn Ysgol Dinas Bran: “Mae’r ysgol wedi bod yn ffodus iawn i gael bod yn rhan o brosiect mor bwysig. Mae myfyrwyr o bob rhan o Ewrop wedi cael cyfleoedd i ddysgu am yr ieithoedd lleiafrifol ac i glywed pa gamau sy'n cael eu cymryd i hyrwyddo a diogelu eu dyfodol.

“Yn ystod yr wythnos, gwnaethom gynnig blas iawn ar Iaith a diwylliant Cymru i’r myfyrwyr Ewropeaidd. Cawsant fynd i Noson Lawen a gig Cymraeg go iawn. Cawson nhw hefyd weld safleoedd yn Llangollen a Sir Ddinbych, yn ogystal ag ymweliad ag Eryri a Llanberis.

“Mae wedi bod yn fenter hynod o fuddiol ac mae wedi bod yn bleser hyrwyddo Iaith a diwylliant Cymru drwy ein gweithgareddau yn ystod yr wythnos”.

Ysgol Dinas Bran

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...